Application of the professional standards for tutors of Welsh for Adults - in Welsh

Page 1

LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 1

Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru Cyfarwyddyd ar y safonau proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i oedolion


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 2

Cynnwys Cyflwyniad

3

Adran 1 Elfennau

7

Adran 2 Elfennau a chanllawiau i fanylder

2

13


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 3

Dysgu gydol oes yn y du

Cyflwyniad Datblygu safonau proffesiynol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru Ym mis Mawrth 2007, rhoddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r dasg o adolygu’r Standards for Teaching and Supporting Learning for Wales and England1 (Further Education National Training Organisation - FENTO) i Ddysgu Gydol Oes y DU. Adolygwyd y safonau ar gyfer cyd-destun Lloegr yn 2006, a chyhoeddwyd safonau newydd ym mis Rhagfyr. Er bod yr angen am drosglwyddoldeb trawsffiniol yn ystyriaeth, mae’r adolygiad ar gyfer Cymru wedi bod yn gyfle i ddatblygu safonau i athrawon sy’n adlewyrchu unigrywiaeth y cyd-destun yng Nghymru. Mewn termau generig, mae’r safonau proffesiynol i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yn disgrifio’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhinweddau y mae eu hangen ar bobl sy’n cyflawni’r amrywiaeth eang o rolau addysgu a hyfforddi a wneir yn y sector gyda dysgwyr a chyflogwyr. Maent yn rhydd o gyd-destun a lefelau, er mwyn cynrychioli pob maes gwaith ac athrawon newydd, athrawon profiadol ac addysgwyr athrawon. Maent yn cynrychioli’r cylch addysgu a dysgu y mae pob athro yn ymgysylltu ag ef: asesu cychwynnol, cynllunio a pharatoi, gwerthuso a gwella ansawdd trwy ymateb i werthuso.

Estynnwyd y broses ymgynghori i Gymru ym mis Mehefin 2007, a’r safonau a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2008 yw canlyniad y broses hon. Dangosodd digwyddiadau ymgynghori a holiadur ar y we fod cefnogaeth gref i ymagwedd enerig y safonau ar gyfer Lloegr, wrth bwysleisio’r angen i’r safonau adlewyrchu anghenion penodol y sector yng Nghymru a chefnogi gweledigaeth Y Wlad sy’n Dysgu. Ymdriniwyd â hyn trwy gynnwys safonau sy’n ymwneud yn benodol â dwyieithrwydd, amrywiaeth ddiwylliannol, datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang, gan alluogi drwy hyn i’r safonau fodloni anghenion Cymru a chaniatáu iddynt gyd-fynd â’r safonau ar gyfer Lloegr. Yn hyn o beth, gellir ymdrin ag ystyriaethau trawsffiniol a throsglwyddoldeb, a hefyd diogelu symudedd y farchnad lafur.

Diwygio hyfforddiant athrawon yng Nghymru Mae datblygu’r safonau yn gam cyntaf hanfodol yn y broses o adeiladu fframwaith newydd o gymwysterau i athrawon yn y system addysg bellach yng Nghymru. Caiff y rhain eu datblygu oddi mewn i Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) a byddant yn cyd-fynd yn llawn â fframweithiau credyd eraill y DU.

Further Education National Training Organisation (FENTO), 1999, Standards for teaching and supporting learning in further education in England and Wales, FENTO

1

3


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 4

Dysgu gydol oes yn y du

Cyflwyniad Pwrpas y ddogfenhon

Trefn y ddogfen

Mae’r safonau proffesiynol newydd i athrawon yn disgrifio perfformiad cyson yn nhermau gwybodaeth, dealltwriaeth ac arfer proffesiynol athrawon. Oherwydd bod y safonau proffesiynol newydd yn ‘drosfwaol’ ac yn berthnasol i bob athro, teimlwyd ei bod yn briodol cynhyrchu cyfarwyddyd ar y safonau hyn ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae’r safonau proffesiynol newydd yn manylu ar wybodaeth, dealltwriaeth ac arfer proffesiynol pob athro mewn unrhyw rôl. Mae’r ddogfen hon yn dilyn yr un trywydd wrth fanylu’n benodol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion ac mae’n disodli Safonau Galwedigaethol ar gyfer addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion FENTO, 20042. Bydd y ddogfen hon, ynghyd â’r safonau trosfwaol newydd, yn cefnogi datblygiad cymwysterau addysgu cychwynnol i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Bydd y ddogfen hefyd o ddefnydd wrth gynllunio cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.

Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru3

Sgiliau iaith personol Mae angen i diwtoriaid Cymraeg i Oedolion feddu ar sgiliau iaith sy’n briodol i’r lefel addysgu. Dylid ystyried lefelau ac anghenion iaith ar ddechrau a thrwy gydol gyrfa yn y sector dysgu gydol oes. Argymhellir bod pob tiwtor Cymraeg i Oedolion yn manteisio ar hyfforddiant a chyfleoedd eraill i ddatblygu a chynnal eu sgiliau iaith personol.

4

Cyhoeddwyd y safonau hyn ym mis Mawrth 2008 a dylid eu defnyddio ochr yn ochr â’r ddogfen hon. Mae dogfen y safonau proffesiynol yn rhestru’r gwerthoedd, gwybodaeth, dealltwriaeth ac arfer proffesiynol a ddisgwylir gan bob athro yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru. Rhestrir y wybodaeth hon mewn parthau. Mae’r parthau’n adlewyrchu swyddogaethau’r rôl. Mae chwe pharth:

Parth A: Gwerthoedd ac arfer proffesiynol Parth B: Dysgu ac addysgu Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu Parth E: Asesu i ddysgu Parth F: Mynediad a chynnydd Cyfarwyddyd ar y safonau Mae’r ddogfen hon yn rhestru gwybodaeth ac arfer ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn erbyn parthau’r safonau proffesiynol. Wrth ddatblygu cyfarwyddyd ar y safonau proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn benodol, roedd yr angen am Barthau B ac C yn ddi-angen yn ôl pob golwg ar y dechrau, gan yr ystyrir dysgu ac addysgu o safbwynt pwnc penodol bob tro ar y rhaglenni hyn. Fodd bynnag darganfuwyd y byddai hyn yn cyfyngu ar y datganiadau manylder. Oherwydd hyn penderfynwyd rhoi arfer dysgu ac addysgu arbenigol, wedi’u seilio ar yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth briodol, ym Mharth B, tra bod yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth arbenigol, ynghyd â sut mae’n berthnasol i arfer proffesiynol, ym Mharth C.

Further Education National Training Organisation (FENTO), 2004, Safonau Galwedigaethol ar gyfer addysgu ym maes Cymraeg i Oedolion / Occupational standards for teaching in the field of Welsh for Adults, FENTO Dysgu Gydol Oes y DU / Lifelong Learning UK (LLUK), 2008, Safonau proffesiynol trosfwaol newydd i athrawon, tiwtoriaid a hyfforddwyr yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru / New overarching professional standards for teachers, tutors and trainers in the lifelong learning sector in Wales, LLUK

2

3


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 5

Dysgu gydol oes yn y du

Mae datganiadau penodol yngl¿n â gwybodaeth neu arfer ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion wedi’u rhestru yn erbyn y datganiadau gwerthfawrogi ac ymrwymo o fewn y parthau. Ni theimlwyd bod angen na phwrpas cynnig cyfarwyddyd ar wybodaeth a dealltwriaeth pob datganiad arfer proffesiynol ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Mae rhai datganiadau gwerthfawrogi ac ymrwymo yn enerig ym mhob ystyr, ac ni ellir ychwanegu llawer atynt wrth eu gwneud yn benodol i bynciau arbennig. Mae gan y datganiadau ymrwymo a gwerthfawrogi god yn ôl llythyren y parth ac C am gwmpas, er enghraifft FC2. Mae pob datganiad gwerthfawrogi ac ymrwymo o’r safonau wedi’u cynnwys yn y ddogfen hon. Fodd bynnag, pan na theimlwyd bod angen ychwanegiad arbenigol, esboniwyd hyn trwy nodi ‘Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig.’

Rhestrir datganiadau yngl¿n â gwybodaeth neu arfer fel elfennau trwy gydol y ddogfen hon. Ceir rhestr gynhwysfawr o’r rhain yn adran un y ddogfen hon. Maent ganddynt god llythyren y parth ac wedyn mewn trefnu rhifau. Mae’r llythrennau CiO, yn dynodi elfen yn y Cyfarwyddyd ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Darperir manylder sy’n awgrymu cynnwys yr elfen a fyddai’n fwyaf defnyddiol i athrawon. Cefnogir defnydd y termau elfen a manylder yn dilyn ymgynghori. Bydd yn ddefnyddiol ystyried canllawiau’r manylder i’r sawl sy’n gyfrifol am ddatblygu a darparu rhaglenni hyfforddi athrawon wrth benderfynu cynnwys mwy neu lai na’r hyn a restrir. Ysgrifennwyd elfennau fel meysydd gwybodaeth ac arfer ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion. Maent yn rhestru’r cyfarwyddyd penodol am unrhyw ddatganiad gwerthfawrogi neu ymrwymo. Mae gan y rhan fwyaf o ddatganiadau gwerthfawrogi un elfen gysylltiedig, mae gan rai lawer o elfennau, ac mae rhai heb yr un.

5


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 6

Dysgu gydol oes yn y du

Dyma enghraifft o Barth B Safon BC 2

Elfen CiO B2.1

Cymhwyso a datblygu eu sgiliau proffesiynol eu hun i ganiatáu i ddysgwyr gyflawni eu nodau

Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i’r dysgwyr a’u defnydd o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis

(Dyma ddatganiad ymrwymo o’r safonau proffesiynol)

(Dyma elfen ofynnol ar gyfer cymwysterau) Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig mewn cyd-destunau dilys a pherthnasol • Defnyddio dulliau sy’n adeiladu ar ddefnydd cyfredol y dysgwyr o’r Gymraeg ac ieithoedd eraill • Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo annibyniaeth a chydweithrediad wrth ddysgu Cymraeg ac yn amlygu cwricwlwm a methodoleg yn dryloyw • Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i feistroli a defnyddio ystod o amrywiaethau a chyweiriau iaith priodol a gwahaniaethu rhyngddynt yn ôl eu dyheadau personol yngl¿n â defnyddio’r Gymraeg • Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain (Dyma ganllawiau ar gyfer manylder. Mae’r eneghraifft benodol hon o fanylder yn ymwneud ag arfer proffesiynol yn unig. Mewn mannau eraill, mae cyfarwyddyd ar fanylder yn ymwneud â gwybodaeth a dealltwriaeth yn ogystal.)

6


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 7

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 1: Elfennau

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yn gwerthfawrogi:

Parth A: Gwerthoedd ac arferion proffesiynol

Safon AC 1

Elfen CiO A1.1

Dysgwyr, eu cynnydd a’u datblygiad, eu nodau a’u dyheadau o ran dysgu a’r profiad y byddant yn dod ag ef i’w dysgu

Ystyried cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr

Safon AC 2

Elfen CiO A2.1

Dysgu, ei botensial i fod o fudd i bobl yn emosiynol, yn ddeallusol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, a’i gyfraniad at ddatblygiad cynaliadwy mewn cyd-destun cymunedol a byd-eang

Cysylltu caffaeliad Cymraeg â datblygiad mewn meysydd eraill

Safon AC 3

Elfen CiO A3.1

Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a dwyieithrwydd mewn perthynas â dysgwyr, y gweithlu a’r gymuned

Ymateb i faterion sy’n codi yn y dosbarth Cymraeg ynghylch amrywiaeth a chynhwysiant

Safon AC 4

Elfen CiO A4.1

Pwyso a mesur a gwerthuso eu harfer proffesiynol eu hunain a’u datblygiad proffesiynol parhaus fel athrawon

Ymgymryd â datblygiad proffesiynol cysylltiedig ag ymchwil ryngwladol, genedlaethol a lleol i gaffael ail iaith

Safon AC 5

Elfen CiO A5.1

Cydweithredu ag unigolion, grwpiau a/neu sefydliadau eraill a chanddynt ddiddordeb dilys yng nghynnydd a datblygiad y dysgwyr

Cydweithio ag eraill i ddatblygu Cymraeg y dysgwyr mewn ystod o gyd-destunau

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon AC 6 Defnyddio codau ymarfer cytunedig a chynnal amgylchedd dysgu diogel

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon A 7 Gwella ansawdd eu harfer

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

7


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 8

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 1: Elfennau

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth B: Dysgu ac addysgu

Safon BC 1 Cynnal amgylchedd dysgu ysgogol, teg, cynhwysol a lle bo’n briodol, dwyieithog

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon BC 2

Elfen CiO B2.1

Defnyddio a datblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu hamcanion

Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i nodau bywyd y dysgwyr a’u defnydd presennol o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Cymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis

Elfen CiO B2.2 Defnyddio dulliau dysgu Cymraeg sy’n ystyried cefndiroedd, hanesion, amcanion dysgu a hoffterau ac arddulliau gwybyddol

Elfen CiO B2.3 Defnyddio dulliau addas o weithio gyda dysgwyr â dysclecsia neu anawsterau gwybyddol, corfforol neu synhwyrol eraill

Elfen CiO B2.4 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o strwythur y Gymraeg

Elfen CiO B2.5 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i weithio’n systemataidd ac yn gyfannol gyda dysgwyr i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg

Elfen CiO B2.6 Galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwrando a darllen beirniadol mewn sefyllfaoedd cyfathrebol dilys

Elfen CiO B2.7 Galluogi dysgwyr i ddatblygu fel siaradwyr ac ysgrifennwyr y Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfathrebu dilys

Elfen CiO B2.8 Manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mewn swydd i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain

8


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 9

Dysgu gydol oes yn y du

Safon BC 3

Elfen CiO B3.1

Cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol gyda dysgwyr i ychwanegu at y dysgu

Deall Cymraeg fel cyfrwng dysgu yn ogystal ag amcan dysgu

Elfen CiO B3.2 Hwyluso rhyngweithiad dysgwr-tiwtor a dysgwr-dysgwr i gefnogi dysgu’r Gymraeg

Safon BC 4 Cydweithio â chydweithwyr i fodloni anghenion dysgwyr

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon BC 5

Elfen CiO B5.1

Defnyddio amrediad o adnoddau dysgu i gefnogi dysgwyr

Defnyddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth arbenigol o anghenion ac amcanion dysgwyr i ddewis, datblygu a defnyddio adnoddau priodol, gan gynnwys adnoddau technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol lle bo’n briodol

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol

Safon CC 1

Elfen CiO C1.1

Deall yr wybodaeth ddiweddaraf am ddysgu ac addysgu mewn perthynas â’u maes arbenigol eu hun

Dadansoddi defnydd dysgwyr o iaith a llythrennedd

Elfen CiO C1.2 Deall y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth gymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol

Elfen CiO C1.3 Deall rôl iaith mewn ffurfio, cynnal a thrawsffurfio perthnasoedd grym

Elfen CiO C1.4 Deall sut mae iaith yn amrywio ac yn newid a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddefnydd o iaith a llythrennedd

Elfen CiO C1.5 Deall ffactorau cymdeithasol, deallusol ac affeithiol all fod yn ddylanwad ar ddysgu iaith

Elfen CiO C1.6 Deall y ffyrdd gwahanol y gellir disgrifio a dadansoddi iaith

Elfen CiO C1.7 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel sgwrs/testun

9


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 10

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 1: Elfennau

Elfen CiO C1.8 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel brawddeg ac ymadrodd

Elfen CiO C1.9 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel gair

Elfen CiO C1.10 Dadansoddi nodweddion ffonolegol iaith

Elfen CiO C1.11 Gwybod y theorïau ac egwyddorion cyfredol ym maes caffael iaith a dwyieithrwydd

Elfen CiO C1.12 Deall cyd-ddibyniaeth y pedair sgil: gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu

Elfen CiO C1.13 Deall goblygiadau cyd-ddibyniaeth y pedair sgil ar gyfer cynllunio, addysgu ac asesu

Elfen CiO C1.14 Dadansoddi’r prosesau cysylltiedig â’r pedair sgil

Elfen CiO C1.15 Gwybod amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil

Safon CC 2

Elfen CiO C2.1

Meithrin brwdfrydedd dysgwyr a’u hysgogi yn eu maes arbenigedd eu hunain

Deall canfyddiadau am yr iaith Gymraeg ac ystyried eu heffaith ar symbyliad dysgwyr

Elfen CiO C2.2 Dangos gwybodaeth arbenigol am strategaethau sy’n codi diddordeb ac yn meithrin brwfrydedd dysgwyr

Safon CC 3 Cyflawni’r cyfrifoldebau statudol cysylltiedig â’u maes addysgu arbenigedd eu hunain

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon CC 4 Datblygu arfer da mewn addysgu yn eu maes arbenigedd eu hunain

10

Gweler Elfen CiO A4.1


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 11

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu

Safon DC 1 Cynllunio i hyrwyddo cydraddoldeb, cefnogi amrywiaeth a bodloni amcanion ac anghenion dysgu’r dysgwyr

Yn adlewyrch’r safonau proffesiynol yn unig

Safon DC 2 Cyfranogiad dysgwyr mewn cynllunio dysgu

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon DC 3 Gwerthuso eu heffeithiolrwydd eu hunain wrth gynllunio dysgu

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth E: Asesu ar gyfer dysgu

Safon EC 1

Elfen CiO E1.1

Dylunio a defnyddio asesu fel offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Defnyddio egwyddorion ac ymagweddau arbenigol at asesu dysgu iaith

Safon EC 2

Elfen CiO E2.1

Asesu gwaith dysgwyr mewn modd teg a chyfiawn

Asesu gwaith dysgwyr y Gymraeg mewn modd teg a chynhwysol

Safon EC 3

Elfen CiO E3.1

Cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb yn y broses asesu

Hwyluso cyfraniad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb mewn asesu dysgu Cymraeg

Safon EC 4

Elfen CiO E4.1

Defnyddio adborth fel offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Defnyddio gwybodaeth arbenigol mewn deialog gyda dysgwyr fel rhan o’r broses asesu

Safon EC 5 Gweithio o fewn systemau a gofynion ansawdd y sefydliad mewn perthynas ag asesu a monitro cynnydd dysgwyr

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

11


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 12

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 1: Elfennau

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth F: Mynediad a chynnydd

Safon FC 1

Elfen CiO F1.1

Annog dysgwyr i chwilio am gyfleodd dysgu cychwynnol a phellach ac i ddefnyddio gwasanaethau o fewn y sefydliad

Cyfeirio dysgwyr y Gymraeg at gyfleodd dysgu a dilyniant ychwanegol

Safon FC 2 Darparu cefnogaeth i’r dysgwyr o fewn ffiniau rôl y tiwtor

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon FC 3 Cynnal eu gwybodaeth broffesiynol eu hunain er mwyn darparu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer ddilyniant yn eu maes arbenigedd eu hunain

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon FC 4

Elfen CiO F4.1

Ymagwedd amlasiantaeth at gefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant y dysgwyr

Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant

Mae’r safonau proffesiynol newydd i athrawon yn disgrifio perfformiad cyson yn nhermau gwybodaeth, dealltwriaeth ac arfer proffesiynol athrawon.

12


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 13

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yn gwerthfawrogi:

Parth A: Gwerthoedd ac arferion proffesiynol

Safon AC 1

Elfen CiO A1.1

Dysgwyr, eu cynnydd a’u datblygiad, eu nodau a’u dyheadau o ran dysgu a’r profiad y byddant yn dod ag ef i’w dysgu

Ystyried cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr Mae tiwtoriaid CiO yn gwybod ac yn deall: • Effaith profiadau dysgu a chyflawniadau blaenorol y dysgwyr, yng nghyd-destun pynciau eraill yn ogystal â’r Gymraeg, ar eu disgwyliadau o lwyddiant a’u gallu i ddysgu’n annibynol • Pwysigrwydd adnabod a gwerthfawrogi cyflawniadau’r dysgwyr y tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol • Sut y gall agweddau dysgwyr tuag at y cymunedau Cymraeg effeithio ar y dysgu • Sut y gall agweddau cymunedau Cymraeg tuag at ddysgwyr effeithio ar y dysgwyr • Sut y gall agweddau cymunedau di-Gymraeg tuag at ddysgwyr effeithio ar y dysgwyr • Ffactorau sy’n deillio o ddysgu mewn cyd-destun penodol fel dysgu yn y gweithle neu ddysgu teuluol • Bod rhai dysgwyr yn dysgu ar eu pennau eu hunain heb gysylltiad â chymunedau Cymraeg • Sut i ddefnyddio cefndiroedd, profiadau, amcanion a dyheadau dysgwyr i gefnogi eu datblygiad fel siaradwyr Cymraeg

Safon AC 2

Elfen CiO A2.1

Dysgu, ei botensial i fod o fudd i bobl yn emosiynol, yn ddeallusol, yn gymdeithasol ac yn economaidd, a’i gyfraniad at ddatblygiad cynaliadwy mewn cyd-destun cymunedol a byd-eang

Cysylltu caffaeliad Cymraeg â datblygiad mewn meysydd eraill Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut i gynyddu ymwybyddiaeth y dysgwyr am rôl y Gymraeg yn eu cymunedau nhw a chymunedau ledled Cymru • Sut i hyrwyddo gwerth y Gymraeg fel cyfrwng byw y tu allan i’r cyfrwng dysgu ffurfiol a meithrin brwdfrydedd y dysgwyr i gymryd rhan mewn cymunedau Cymraeg • Sut i gynyddu ymwybyddiaeth am botensial y Gymraeg i wella mynediad at addysg; cyflogaeth neu yrfa newydd a chyfleoedd cymdeithasol • Sut i gynyddu ymwybyddiaeth am rôl y Gymraeg mewn datblygiad cynaliadwy sy’n cyfrannu at gymunedau cynaliadwy

13


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 14

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Safon AC 3

Elfen CiO A3.1

Cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a dwyieithrwydd mewn perthynas â dysgwyr, y gweithlu a’r gymuned

Ymateb i faterion amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas â dysgwyr Cymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Ooedolion yn gwybod ac yn deall: • Ystod ac amrywiaeth dyheadau’r dysgwyr ynghylch defnyddio’r Gymraeg a sut i gynorthwyo dysgwyr i wireddu’r dyheadau hyn • Ystod y ffactorau personol, cymdeithasol ac economaidd a all effeithio ar gyflawniad a sut i annog dysgwyr i fynd i’r afael â’r ffactorau hyn • Effaith a goblygiadau anableddau corfforol, namau ar y synhwyrau a salwch meddwl ar ddysgwyr y Gymraeg ynghyd â strategaethau cefnogi • Diffiniadau cyfredol o ddyslecsia, dyspracsia ac anawsterau dysgu penodol eraill ynghyd â strategaethau i gefnogi dysgwyr y Gymraeg gyda’r cyflyrau hyn • Amrywiaeth ddiwylliannol yn yr amgylchedd dysgu â’i goblygiadau ar gyfer dysgu ac addysgu

Safon AC 4

Elfen CiO A4.1

Pwyso a mesur a gwerthuso eu harfer proffesiynol eu hunain a’u datblygiad proffesiynol parhaus fel athrawon

Ymgymryd â datblygiad proffesiynol cysylltiedig ag ymchwil ryngwladol, genedlaethol a lleol i gaffael ail iaith Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut y gall ymchwil ym maes caffael ail iaith, ynghyd â chanfyddiadau tiwtoriaid a dysgwyr eu hunain, gyfrannu at ddysgu ac addysgu ac arfer proffesiynol tiwtoriaid • Pwysigrwydd rhannu arfer da â chyd-diwtoriaid mewn sesiynau hyfforddi • Y berthynas rhwng polisïau cenedlaethol Cymraeg i Oedolion, strategaethau lleol/rhanbarthol, ac arfer proffesiynol tiwtoriaid eu hun yn y dosbarth

Safon AC 5

Elfen CiO A5.1

Cydweithredu ag unigolion, grwpiau a/neu sefydliadau eraill a chanddynt ddiddordeb dilys yng nghynnydd a datblygiad y dysgwyr

Cydweithio ag eraill i ddatblygu Cymraeg y dysgwyr mewn ystod o gyd-destunau Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Pwysigrwydd cydweithio â chydweithwyr yn lleol ac yn genedlaethol i gyfrannu at gynllunio, cyflwyno, datblygu, dilysu ac adolygu rhaglenni dysgu • Pwysigrwydd cydweithio ag unigolion, grwpiau a sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n cyfrannu at gynnydd a datblygiad y dysgwyr fel siaradwyr Cymraeg

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Safon AC 6 Defnyddio codau ymarfer cytunedig a chynnal amgylchedd dysgu diogel

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon AC 7 Gwella ansawdd eu harfer

14

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 15

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes wedi ymrwymo i:

Parth B: Dysgu ac addysgu

Safon BC 1 Cynnal amgylchedd dysgu ysgogol, teg, cynhwysol a lle bo’n briodol, dwyieithog

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon BC 2

Elfen CiO B2.1

Defnyddio a datblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain er mwyn galluogi dysgwyr i gyflawni eu hamcanion

Defnyddio gweithgareddau ac adnoddau dysgu sy’n berthnasol i’r dysgwyr a’u defnydd presennol o’r Gymraeg ac sy’n arfogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Cymraeg mewn cyd-destunau o’u dewis Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu Cymraeg llafar ac ysgrifenedig mewn cyd-destunau dilys a pherthnasol • Defnyddio dulliau sy’n adeiladu ar ddefnydd cyfredol y dysgwyr o’r Gymraeg ac ieithoedd eraill • Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo annibyniaeth a chydweithrediad wrth ddysgu Cymraeg ac yn amlygu cwricwlwm a methodoleg yn dryloyw • Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i feistroli a defnyddio ystod o amrywiaethau a chyweiriau iaith priodol er mwyn ddefnyddio’r Gymraeg yn ôl eu dyheadau personol • Gwerthuso eu hymarfer proffesiynol eu hunain

Elfen CiO B2.2 Defnyddio ymagweddau at ddysgu Cymraeg sy’n ystyried cefndiroedd, hanesion, amcanion dysgu a hoffterau ac arddulliau gwybyddol Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Defnyddio amrediad o strategaethau er mwyn cynnig dysgu ac addysgu gwahaniaethol a sicrhau mynediad i’r Gymraeg i ddysgwyr gydag amrywiaeth o sgiliau, profiadau a chefndiroedd ieithyddol ac addysgol • Defnyddio ystod o ddulliau a thechnegau i osgoi gor-ddibyniaeth ar gyfieithu o Gymraeg i Saesneg • Defnyddio ystod o ddulliau a thechnegau rheoli dosbarth er mwyn adeiladu ar gryfderau a chyd-brofiadau dysgwyr • Defnyddio dulliau sy’n hyrwyddo dysgu cydweithredol

15


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 16

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Elfen CiO B2.3 Defnyddio ymagweddau addas at weithio gyda dysgwyr â dysclecsia neu anawsterau gwybyddol, corfforol neu synhwyrol eraill Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Ystyried effaith gwahanol alluoedd a namau gwybyddol, corfforol a synhwyrol ar ddysgu Cymraeg • Defnyddio amrediad o ddulliau dysgu iaith a gweithgareddau ac adnoddau aml-synhwyrol sy’n manteisio ar gryfderau dysgwyr eu hunain • Galluogi dysgwyr i ddefnyddio adnoddau a thechnoleg gynorthwyol arbenigol ar gyfer dysgu iaith lle bo angen

Elfen CiO B2.4 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr o strwythur y Gymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Defnyddio technegau a therminoleg priodol i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o strwythur y Gymraeg yn llafar ac yn ysgrifenedig • Defnyddio dulliau sy’n cynorthwyo dysgwyr i adnabod natur amrywiol a deinamig y Gymraeg • Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i adnabod amrywiaethau ieithyddol mewn gwahanol gyd-destunau lle bo’n briodol

Elfen CiO B2.5 Defnyddio gwybodaeth am systemau iaith i weithio’n systemataidd ac yn gyfannol gyda dysgwyr i ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Dadansoddi yr iaith a ddefnyddir at ddibenion dysgu ac addysgu • Defnyddio terminoleg briodol yn ymwneud â sgwrs, gramadeg, geiriau a phonoleg • Integreiddio datblygiad sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu ar lefelau testun, brawddeg a gair • Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddeall pwysigrwydd pwrpas, cynulleidfa a chyd-destun cymdeithasol • Defnyddio dulliau sy’n meithrin creadigrwydd a hunan-fynegiant ac sy’n galluogi dysgwyr i ddefnyddio iaith berthnasol i gyd-destun • Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddewis dros eu hunain ym mha ffordd maent am ddefnyddio’r Gymraeg • Defnyddio cyrch-ddulliau sy’n galluogi dysgwyr i ddeall sut mae defnydd iaith yn gysylltiedig â haenau cymdeithasol, grym a hunaniaeth

16


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 17

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO B2.6 Galluogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwrando a darllen beirniadol mewn sefyllfaoedd cyfathrebol dilys Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Defnyddio amrediad o ddulliau ac adnoddau i helpu dysgwyr i ddatblygu sgiliau gwrando a darllen beirniadol y dysgwyr mewn amrywiaeth o gyd-destunau dilys, at wahanol ddibenion ac sy’n briodol i’w diddordebau, cyd-destunau ac amcanion • Galluogi dysgwyr i wella eu gallu i ddeall, dehongli ac ymateb i destunau llafar ac ysgrifenedig • Galluogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau gwrando a darllen sy’n manteisio ar y sgiliau sydd ganddynt eisoes yn y Gymraeg a’u gwybodaeth o ieithoedd eraill • Galluogi dysgwyr i wynebu heriau ieithyddol a diwylliannol er mwyn deall a dehongli testunau llafar ac ysgrifenedig • Defnyddio amrediad o ymagweddau at wrando a darllen

Elfen CiO B2.7 Galluogi dysgwyr i ddatblygu fel siaradwyr ac ysgrifennwyr y Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfathrebu dilys Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Defnyddio dulliau, testunau a deunyddiau i ddatblygu gallu’r dysgwyr i gyfathrebu’n effeithiol ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, at wahanol ddibenion ar lefel testun (sgwrs), brawddeg a gair (geirfa) ac yn briodol i’w diddordebau, cyd-destunau ac amcanion • Galluogi dysgwyr i ddatblygu strategaethau sy’n manteisio ar yr wybodaeth a sgiliau sydd ganddynt eisoes yn y Gymraeg ac mewn eithoedd eraill • Defnyddio dulliau sy’n galluogi dysgwyr i wynebu heriau ieithyddol, diwylliannol ac eraill i fynegiant llafar ac ysgrifenedig mewn amrywiaeth o gyd-destunau • Defnyddio amrediad o ymagweddau at ddatblygu Cymraeg lafar ac ysgrifenedig

Elfen CiO B2.8 Manteisio ar gyfleoedd hyfforddiant cychwynnol a hyfforddiant mewn swydd i ddatblygu eu sgiliau proffesiynol eu hunain Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Mynychu datblygiad proffesiynol yn unol â chynllun hyfforddiant a datblygu’r Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol

17


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 18

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Safon BC 3

Elfen CiO B3.1

Cyfathrebu’n effeithiol ac yn briodol â dysgwyr i ychwanegu at y dysgu

Deall Cymraeg fel cyfrwng dysgu yn ogystal ag amcan dysgu Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Defnyddio Cymraeg fel cyfrwng addysgu ar lefel sy’n briodol i gyrhaeddiad ieithyddol y dosbarth • Cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol • Defnyddio terminoleg briodol gyda dysgwyr • Cefnogi dysgwyr i defnyddio terminoleg yn briodol

Elfen CiO B3.2 Hwyluso rhyngweithiad dysgwr-tiwtor a dysgwr-dysgwr i gefnogi dysgu’r Gymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Dangos ymwybyddiaeth o rôl rhyngweithiad mewn datblygiad iaith • Sicrhau eu bod yn defnyddio iaith lafar ac ysgrifenedig ar lefel briodol i’r dysgwyr

Safon BC 4 Cydweithio â chydweithwyr i godloni anghenion dysgwyr

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon BC 5

Elfen CiO B5.1

Defnyddio amrediad o adnoddau dysgu i gefnogi dysgwyr

Defnyddio gwybodaeth ac ymwybyddiaeth arbenigol o anghenion ac amcanion dysgwyr i ddewis, datblygu a defnyddio adnoddau priodol i ddysgwyr y Gymraeg, gan gynnwys adnoddau technoleg gwybodaeth cyfrifiadurol lle bo’n briodol Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Dylunio, addasu neu ddethol adnoddau o ystod briodol sy’n datblygu dealltwriaeth gysyniadol ac yn hwyluso ymarfer iaith • Defnyddio TGC i greu adnoddau dysgu Cymraeg, gan gydnabod problemau cysylltiedig â chyfathrebu am iaith trwy TGC • Dethol a defnyddio offer a realia priodol ar gyfer dysgu ac addysgu’r Gymraeg • Addasu cynnwys ieithyddol adnoddau dysgu ac addysgu at ofynion grwpiau neu unigolion penodol, er enghraifft trwy symleiddio, estyn neu ad-drefnu • Diweddaru deunyddiau ac adnoddau yn aml • Defnyddio TGC ac adnoddau e-ddysgu sy’n cysylltu’n briodol ag amcanion dysgu ac sy’n hybu diddordeb dysgwyr y Gymraeg mewn tasgau a gweithgareddau

18


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 19

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Parth C: Dysgu ac addysgu arbenigol

Safon CC 1

Elfen CiO C1.1

Deall a mynnu’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’u maes arbenigedd eu hunain

Dadansoddi defnydd dysgwyr o iaith a llythrennedd Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Bod disgwyliadau dysgwyr am ddefnydd iaith ar lafar ac yn ysgrifenedig yn amrywio yn ôl ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol • Bod cyd-destun yn effeithio ar ddewisiadau ieithyddol siaradwyr/ysgrifenwyr a hefyd ar ddisgwyliadau gwrandawyr a darllenwyr • Bod dysgwyr yn dymuno defnyddio ystod o arferion iaith a llythrennedd

Elfen CiO C.1.2 Deall y berthynas rhwng iaith a hunaniaeth gymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Y berthynas agos rhwng unigolion neu grwpiau a’r ffurfiau iaith maent yn eu defnyddio a sut y gall hyn gynnal hunaniaeth unigolyn neu grºp • Bod defnydd o iaith lafar ac iaith ysgrifenedig yn adlewyrchu cysylltiadau cymdeithasol a diwylliannol • Bod siaradwyr ac ysgrifenwyr yn dewis mathau o iaith, cyweiriau ac arddulliau yn ôl ystod o ffactorau cymdeithasol a diwylliannol

Elfen CiO C1.3 Deall rôl iaith mewn ffurfio, cynnal a thrawsffurfio perthnasoedd grym Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Hierarchiaethau ac anghydraddoldebau cyfredol yn ymwneud â defnydd o iaith a llythrennedd a’u rôl mewn adlewyrchu a chynnal perthnasau cymdeithasol cyfredol • Cefndir hanesyddol yr iaith Gymraeg a natur newidiol hierarchiaethau mewn defnydd iaith a llythrennedd a’r potensial am newid gan bob defnyddiwr iaith

19


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 20

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Elfen CiO C1.4 Deall sut mae iaith yn amrywio ac yn newid a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddefnydd iaith a llythrennedd Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Bod ieithoedd yn ddeinamig a’u bod yn esblygu’n barhaol a sut mae’r Gymraeg wedi newid ac yn parhau i newid • Bod llawer o amrywiaethau a thafodieithoedd Cymraeg a bod ganddynt ffurfiau llafar ac ysgrifenedig • Statws y Gymraeg, effaith y Gymraeg ar gymunedau a’r defnydd cynyddol o’r Gymraeg ym myd addysg, technoleg, y cyfryngau, masnach a meysydd eraill • Natur newidiol llythrennedd a thestunau, gan gynnwys y newid o dudalen i sgrîn a datblygiad testunau amlcyfrwng

Elfen CiO C1.5 Deall y ffactorau cymdeithasol, deallusol ac affeithiol all fod yn ddylanwad ar ddysgu iaith Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd, ieithyddol a phersonol yn dylanwadu ar y broses dysgu yn achos oedolion sy’n dysgu Cymraeg • Effaith ffactorau gwybyddol ar ddatblygiad ail iaith • Effaith ffactorau affeithiol ar ddatblygiad ail iaith a sut y gall addysgu delio â’r rhain • Sut i gynyddu creadigrwydd, pleser, ymreolaeth a grymuso trwy gaffael y Gymraeg fel iaith ychwanegol

Elfen CiO C1.6 Deall y ffyrdd gwahanol y gellir disgrifio a dadansoddi iaith Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut y gellir disgrifio iaith mewn amrywiaeth o ffyrdd mewn perthynas â nodweddion semantig, morffolegol, gramadegol, ysgrifenedig neu lafar • Sut mae nodweddion iaith yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn gyd-ddibynnol • Sut y gellir disgrifio’r Gymraeg i bwysleisio gwahaniaethau a thebygrwydd i ieithoedd eraill

20


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 21

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.7 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel sgwrs/testun Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut mae ffurf, cywair ac arddull yn gysylltiedig â chyd-destun, diben, cynulleidfa a modd testunau llafar ac ysgrifenedig • Y berthynas rhwng cywirdeb a rhuglder a sut mae pwysigrwydd y ddau’n amrywio mewn gwahanol gyd-destunau • Dyfeisiau sy’n gwneud testunau’n gydlynol ac yn drefnus • Agweddau allweddol ar bragmateg: sut mae siaradwyr neu ysgrifenwyr yn mynegi bwriad • Y gwahaniaethau allweddol rhwng mynegiant llafar a mynegiant ysgrifenedig • Sut i alluogi dysgwyr i adnabod a defnyddio iaith, diwyg a confensiynau sy’n briodol i ffurf a chyd-destun • Sut i alluogi dysgwyr i adnabod a defnyddio trefn, gramadeg, geirfa, ffonoleg neu atalnodi i fynegi’u hunain yn effeithiol • Sut i alluogi dysgwyr i ddefnyddio nodweddion rhyngbersonol a nodweddion nad yw’n ieithyddol wrth siarad • Sut i ddefnyddio testunau ysgrifenedig a llafar sy’n berthnasol i’r dysgwyr

Elfen CiO C1.8 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel brawddeg ac ymadrodd Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Egwyddorion, rheolau a chonfensiynau cystrawen y Gymraeg • Gwahanol ffyrdd o ddisgrifio gramadeg, er enghraifft, gramadeg gyfarwyddol neu ddisgrifiadol • Nodweddion gramadegol yr iaith lafar • Nodweddion gramadegol yr iaith ysgrifenedig, gan gynnwys mathau o frawddegau, mathau o gymalau ac ymadroddion, amser y ferf, treigladau, atalnodi,defnydd acenion ac eraill • Sut i gymharu ffurfiau ysgrifenedig â ffurfiau llafar • Sut i godi ymwybyddiaeth y dysgwyr nad oes modd cyfieithu cysyniadau a ffurfiau gramadegol yn uniongyrchol o un iaith i’r llall

21


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 22

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Elfen CiO C1.9 Dadansoddi cyfathrebu ar lefel gair Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Y prif theorïau sy’n gysylltiedig ag astudiaethau semanteg a geirfa, a’u goblygiadau ar gyfer dysgu Cymraeg, gan gynnwys cadw a dwyn geiriau i gof, y cysylltiad rhwng iaith a meddwl, ac arwyddocâd corpws iaith • Ystyr gwybod gair o safbwynt: ystyr a diffiniad; ynganiad; sillafu; cyd-destun; rhannau ymadrodd a chyfyngiadau cywair a gramadeg • Sut i ddewis geiriau ar sail cyfyngiadau cywair a dull, cyfleoliad, diben a chyd-destun • Budd dysgu a chofnodi geiriau mewn cyfuniadau ystyrlon • Morffoleg y Gymraeg a’i goblygidau ar gyfer adeiladu geiriau • Nodweddion sillafu Cymraeg

Elfen CiO C1.10 Dadansoddi nodweddion ffonolegol y Gymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Rôl pwyslais, rhythm a goslef mewn cyfleu ystyr • Defnydd patrymau goslef i ddynodi ffwythiant • Terminoleg sy’n gysylltiedig â phwyslais, rhythm a goslef • Seiniau’r Gymraeg a rôl lle, ynganiad a llais • Yr amrywiaeth o seiniau yn yr amrediad o dafodieithoedd Cymraeg • Dylanwad iaith/ieithoedd a thafodiaith/tafodieithoedd eraill y dysgwyr ar bob agwedd o ynganiad y Gymraeg

Elfen CiO C1.11 Gwybod y theorïau a’r egwyddorion diweddaraf ym maes caffael iaith a dwyieithrwydd Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Theorïau ac egwyddorion caffael ail iaith • Theorïau ac egwyddorion dwyieithrwydd ac amlieithrwydd • Theorïau ac egwyddorion caffael a datblygu iaith yn ystod plentyndod a sut mae’n rhaid addasu’r rhain ar gyfer dysgu oedolion • Cysylltiadau rhwng theorïau ac egwyddorion caffael iaith a dwyieithrwydd ac ymarfer dosbarth

22


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 23

Dysgu gydol oes yn y du

Elfen CiO C1.12 Deall cyd-ddibyniaeth y pedair sgil: gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Bod gwahanol gyrch-ddulliau dysgu ac addysgu’n adlewyrchu modelau damcaniaethol darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando • Natur aml-foddol cyfryngau newydd • Dylanwad cyfryngau newydd ar brosesau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando

Elfen CiO C1.13 Deall goblygiadau cyd-ddibyniaeth y pedair sgil ar gyfer cynllunio, addysgu ac asesu Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut i ddefnyddio eu dealltwriaeth o gyd-ddibyniaeth y pedair sgil wrth gynllunio, addysgu ac asesu • Pwysigrwydd cynllunio gwersi i gynnwys y pedair sgil • Sut i gynorthwyo dysgwyr i adnabod natur aml-foddol cyfryngau newydd • Sut i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu a defnyddio cyfryngau newydd at ddibenion darllen ac ysgrifennu

Elfen CiO C1.14 Dadansoddi’r prosesau sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Y prosesau gwybyddol ar gyfer deall, dehongli a chynhyrchu testunau • Ffactorau cymdeithasol-ddiwylliannol wrth ddeall, dehongli a chynhyrchu testunau • Sut mae ymagweddau’n amrywio yn ôl cyd-destun a diben • Yr ystod o is-sgiliau mae eu hangen ar gyfer deall, dehongli a chynhyrchu testunau mewn amrywiaeth o gyd-destunau ac at amrywiaeth o ddibenion • Ffactorau sy’n gwella dealltwriaeth a mynegiant • Ffactorau sy’n rhwystro dealltwriaeth a mynegiant

23


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 24

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Elfen CiO C1.15 Gwybod amrediad o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n gysylltiedig â’r pedair sgil Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut i ddefnyddio eu hymwybyddiaeth o brosesau’r pedair sgil wrth gynllunio, addysgu ac asesu dysgwyr • Sut i gefnogi dechreuwyr i ddarllen ac ysgrifennu • Sut i ddefnyddio ystod o destunau ysgrifenedig a llafar, ynghyd â gweithgareddau, sy’n adlewyrchu amrywiaeth ar ran diben, cynulleidfa, ffurf a ffwythiant • Sut i ddefnyddio gwybodaeth am brosesau cysylltiedig â siarad ac ysgrifennu i gynllunio rhaglenni a sesiynau sy’n ystyried proses yn ogystal â chynyrch • Sut i ddefnyddio gwybodaeth am brosesau cysylltiedig â siarad ac ysgrifennu i ddatblygu rhuglder a chywirdeb y dysgwr

Safon CC 2

Elfen CiO C2.1

Meithrin brwdfrydedd dysgwyr a’u hysgogi yn eu maes arbenigedd eu hunain

Deall canfyddiadau am yr iaith Gymraeg ac ystyried eu heffaith ar symbyliad dysgwyr Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Yr amrywiaeth o ysgogiadau i ddysgu Cymraeg a’r berthynas â barn genedlaethol a rhynwqladol ehangach am yr iaith

Elfen CiO C2.2 Dangos gwybodaeth arbenigol am strategaethau sy’n codi diddordeb a meithrin brwfrydedd dysgwyr y Gymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Sut i fagu hyder dysgwyr, er enghraifft, gwerthfawrogi dysgu a phrofiad blaenorol, torri tasgau’n gamau priodol er mwyn creu cyfleoedd i lwyddo • Effeithiau hyder, brwdfrydedd a gwybodaeth arbenigol y tiwtor ar hyrwyddo datblygiad iaith a llythrennedd y dysgwyr • Sut i sefydlu’r Gymraeg fel iaith y grºp • Sut i greu awyrgylch difygwth a pherthnasau cefnogol o fewn y grºp

Safon CC 3 Cyflawni’r cyfrifoldebau statudol sy’n gysylltiedig â’u maes addysgu arbenigol eu hunain

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon CC 4 Datblygu arfer da mewn addysgu yn eu maes arbenigedd eu hunain

24

Gweler Elfen CiO A4.1


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 25

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Parth D: Cynllunio ar gyfer dysgu

Safon DC 1 Cynllunio i hyrwyddo cydraddoldeb, cefnogi amrywiaeth a bodloni amcanion ac anghenion dysgu’r dysgwyr

Yn adlewyrch’r safonau proffesiynol yn unig

Safon DC 2 Cyfranogiad dysgwyr mewn cynllunio dysgu

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon DC 3 Gwerthuso eu heffeithiolrwydd eu hunain wrth gynllunio dysgu

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

25


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 26

Dysgu gydol oes yn y du

Adran 2: Elfennau a chanllawiau i fanylder

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Parth E: Asesu ar gyfer dysgu

Safon EC 1

Elfen CiO E1.1

Dylunio a defnyddio asesu fel offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Defnyddio egwyddorion ac ymagweddau arbenigol at asesu ar gyfer dysgu iaith Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn gwybod ac yn deall: • Gwahanol fathau o asesiadau iaith a therminoleg • Sut i ddewis a defnyddio gwahanol fathau o asesu iaith (cychwynnol, diagnostig, ffurfiannol, crynodol) sy’n briodol i gyd-destun a diben • Sut i asesu sgiliau iaith dysgwyr ar ddechrau rhaglen ddysgu • Offer a threfniadau asesu sy’n adlewyrchu defnydd iaith ym mywydau dysgwyr • Sut i weithredu cynllun asesu parhaus a gymeradwyir gan y Ganolfan Cymraeg i Oedolion leol • Sut i baratoi dysgwyr at arholiadau cenedlaethol Cymraeg i Oedolion

Safon EC 2

Elfen CiO E2.1

Asesu gwaith dysgwyr mewn modd teg a chyfiawn

Asesu gwaith dysgwyr y Gymraeg mewn modd teg a chynhwysol Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Dangos ymwybyddiaeth o amrywiaeth mewn cefndiroedd ieithyddol a diwylliannol y dysgwyr a goblygiadau hyn am asesu teg a chynhwysol • Dangos ymwybyddiaeth o’r ystod o ffactorau a all effeithio ar ddysgwyr iaith a llythrennedd â dyslecsia neu anawsterau dysgu eraill neu anableddau a goblygiadau hyn ar gyfer asesu teg a chynhwysol

Safon EC 3

Elfen CiO E3.1

Cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb yn y broses asesu

Hwyluso cyfranogiad dysgwyr a rhannu cyfrifoldeb mewn asesu dysgu Cymraeg Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Dangos ymwybyddiaeth y gallai dysgwyr wedi cael gwahanol brofiadau o asesu, ac y gallai hyn effeithio ar eu hagweddau presennol tuag at asesu • Defnyddio ffyrdd o ddatblygu a hwyluso hunanasesu ac asesu cymheiriaid yng nghyd-destun dysgu iaith

Safon EC 4

Elfen CiO E4.1

Defnyddio adborth yn offeryn ar gyfer dysgu a dilyniant

Defnyddio gwybodaeth arbenigol mewn deialog gyda dysgwyr fel rhan o’r broses asesu Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Gwybod ac yn deall pwysigrwydd defnyddio iaith briodol ar lafar ac yn ysgrifenedig wrth roi adborth i ddysgwr y Gymraeg

Safon EC 5 Gweithio o fewn systemau a gofynion ansawdd y sefydliad mewn perthynas ag asesu a monitro cynnydd dysgwyr

26

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 27

Dysgu gydol oes yn y du

Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn y sector dysgu gydol oes yng Nghymru wedi ymrwymo i:

Parth F: Mynediad a chynnydd

Safon FC 1

Elfen CiO F1.1

Annog dysgwyr i chwilio am gyfleodd dysgu cychwynnol a phellach a defnyddio gwasanaethau o fewn y sefydliad

Cyfeirio dysgwyr y Gymraeg at gyfleodd dysgu a dilyniant ychwanegol Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Adnabod ffynonellau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau sy’n berthnasol i Gymraeg i Oedolion ac yn cyfeirio dysgwyr atynt • Adnabod cyfleoedd cenedlaethol, rhanbarthol a lleol am ddysgu ychwanegol ac yn cyfeirio dysgwyr atynt • Adnabod amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys TGC, sy’n darparu cyfleoedd dysgu ychwanegol, ac yn cyfeirio dysgwyr atynt • Hyrwyddo’r gwasanaethau sydd ar gael i ddysgwyr o fewn y sefydliad ac yn allgyrsiol • Annog dysgwyr i fanteisio ar amrediad o gyfleoedd dysgu y tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol, gan gynnwys astudiaeth yn y cartref • Annog dysgwyr i fanteisio ar bob cyfle i siarad Cymraeg y tu fewn a’r tu allan i’r amgylchedd dysgu ffurfiol • Annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu dysgu eu hun

Safon FC 2 Darparu cefnogaeth i’r dysgwyr o fewn ffiniau rôl yr athro

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon FC 3 Cynnal eu gwybodaeth broffesiynol eu hunain er mwyn darparu gwybodaeth am gyfleoedd ar gyfer ddilyniant yn eu maes arbenigedd eu hunain

Yn adlewyrchu’r safonau proffesiynol yn unig

Safon FC 4

Elfen CiO F4.1

Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau er mwyn cefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant y dysgwyr

Cydweithredu ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi cyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant Mae tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion yn: • Annog dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd a ddarperir gan sefydliadau eraill ar gyfer dysgu ffurfiol ac anffurfiol gan gynnwys gweithgareddau cymdeithasol, Sadyrnau siarad a chyrsiau preswyl

27


LLUK WfA Welsh

30/5/08

09:23

Page 28

Mae geirfa o’r termau a ddefnyddir yn y ddogfen hon ac mewn cyhoeddiadau eraill o Gymru ar gael ar wefan LLUK yn www.lluk.org/2819.htm

Dysgu Gydol Oes y DU LONDON

5th Floor, St Andrew’s House, 18-20 St Andrew Street, London EC4A 3AY LEEDS

4th Floor, 36, Park Row, Leeds LS1 5JL EDINBURGH

Ffôn: 0870 757 7890 Fax: 0870 757 7889 Email: enquiries@lifelonglearninguk.org Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor: 020 7936 5798

www.lluk.org

Rhan o rwydwaith Sgiliau ar gyfer Busnes o 25 o Gynghorau Sgiliau Sector a arweinir gan gyflogwyr

RW05/08/2740

Capital Business Centre, CBC House Suite 19 24 Canning Street, Edinburgh EH3 8EG


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.