LGBTQYMRU | Y CYLCHGRAWN | GOBAITH

Page 1

RHIFYN 2 MAI 2021


I'R GYMUNED GAN Y GYMUNED

2

LGBTQYMRU


CROESO I AIL RIFYN LGBTQYMRU: Y CYLCHGRAWN! Roeddwn wedi sôn bod LGBTQYMRU eisoes wedi bod ar daith anhygoel, ac nid yw'r tri mis diwethaf wedi bod yn ddim gwahanol. Gyda dros 80,000 o bobl wedi gweld rhifyn cyntaf y cylchgrawn, mae'n ddiogel dweud fy mod i, a gweddill y tîm, mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth ddiwyro. Gallu parhau i greu gofod lle y gallwn weld ein hunain a'n gilydd yw anadl einioes LGBTQYMRU a'n cenhadaeth bob amser yw dros y Gymuned, gan y Gymuned, yn ein geiriau ein hunain ac ar ein telerau ein hunain. Mae'n golygu cymaint i ni ei fod eisoes wedi golygu cymaint i chi. Thema drosfwaol y rhifyn hwn yw Gobaith, sef cysyniad yr wyf wedi dod i ddeall sydd wedi’i ymwreiddio ym mywydau pobl queer o bob man: gobaith am heddiw, ar gyfer yfory, ac ar gyfer ein gilydd wrth i ni ddechrau cyflwyno ein hunain yn ôl i'r gymdeithas ac i freichiau'r rheini sy’n annwyl i ni. O'n stori nodwedd ar ddileu deurywioldeb a sut i fynd i'r afael ag ef, i gyflwyno prosiect llety â chymorth LGBTQ + cyntaf Cymru, byddwch yn dod i weld gobaith a sut y gall gyflwyno ei hun mewn sawl ffordd wahanol. Ac er bod digwyddiadau diweddar wedi ennyn gobaith am ddyfodol gwell i unigolion queer gydag araith y Frenhines yn awgrymu y bydd therapi trosi’n dod i ben yn y DU, ein sylwebydd, Owen Hurcum, yn dod yn Faer anneuaidd cyntaf y byd, a thri gwleidydd sydd wedi 'dod allan' yn cael eu hethol yn Aelodau Senedd yng Nghymru, mae'n ddyletswydd ar y Gymuned i gydnabod a mynd i'r afael â'r naratif gwrth-draws cynyddol sydd wedi cael lle i grynhoi o fewn y gymdeithas ehangach. Fel Bwrdd Golygyddol, rydym am ailadrodd ein cefnogaeth lawn a diamwys i'n cymuned anneuaidd a thraws. Rydym yn gadarn yn ein hymrwymiad i ddarparu gofod diogel a chynhwysol drwy'r gwasanaethau a ddarparwn. Rydym yn gwrthwynebu'r rhai sy'n arddel safbwyntiau trawsffobig neu nad oes ganddynt ymrwymiad clir a chadarnhaol i herio gwahaniaethu o'r fath a’i ddileu. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r Golygyddion Cymunedol anhygoel, y Gohebwyr Cymunedol, y Gwesteion Arbennig, a'r cyfranwyr sydd wedi cymryd yr amser i lunio'r weledigaeth ar gyfer y cylchgrawn hwn. Ni allem fod wedi gwneud hyn hebddoch chi. Hoffwn hefyd estyn diolch arbennig i Elusen METRO a'i phartneriaid LGBTQ+ Covid-19 Fund, a ariennir gan Comic Relief, am y gefnogaeth rydych wedi'i darparu. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau. Bleddyn

LGBTQYMRU

3


Prif Olygydd Bleddyn Harris Golygyddion Cymunedol Craig Stephenson OBE

Andrew White

Karen Harvey-Cooke

Owen Hurcum

Gohebwyr Cymunedol

Aelodau Cyswllt

Jordan Howell

Thania Acarón

Hia Alhashemi

Hannah Isted

Fen Shields

Sue Vincent-Jones

Matthew Tordoff Imogen Coombs Evie Barker Charles Stylianou Gwesteion arbennig Alistair James

Cyfryngau Cymdeithasol ac Ymgysylltu Imogen Coombs Brandio a Dylunio Tom Collins

Dr. Sita Thomas

Y Clawr

Travel Gibbon

Mari Phillips - Mythsntits

Cyfieithiadau Ffion Emyr Bourton

Ni ddylid ystyried cyfeiriad at unrhyw berson o fewn erthyglau neu hysbysebion LGBTQYMRU, neu ar unrhyw rai o’i lwyfannau cymdeithasol, neu eu hymddangosiad neu bortread ohonynt, fel unrhyw arwydd o gyfeiriadedd rhywiol, cymdeithasol neu wleidyddol unigolion neu sefydliadau o'r fath.

4

LGBTQYMRU


CYNNWYS 6 8 10 13 18 20 24 27 30 32 35 38 40 42 44 48 52 54 58

Dileu deurywioldeb Cadw'r Ffydd Yn Agos a Phersonol Travel Gibbon Bywyd Personol a Gwaith Aubergine Café Pencampwyr Cymunedol Lleisiau o'n Cymuned LGBTQYMRU Brifysgol Agored Ty Pride Chwali Mythiau HIV Taclo Iechyd Meddwl Ffigurau Anghofiedig Iechyd a Lles Cyffur Cariad Talk with Andy Clybiau Chwaraeon LGBTQ+ Adolygiad o'r Nofel Loveless Straeon Queer Adolygiad o Disclosure

LGBTQYMRU

5


Dileu deurywioldeb Beth yw dileu deurywioldeb? A yw'n broblem mewn gwirionedd? Yn LGBTQYMRU, rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gynhwysol mewn perthynas â phob rhan o'r gymuned LGBTQ+, felly gwnaethom ofyn i'n gohebydd gwadd, Alistair James, ganfod mwy. Dyma oedd ganddo i'w ddweud. gan Alistair James

Fel dyn hoyw gwyn, rwyf bron yn bendant yn perthyn i’r rhan o’r gymuned LGBTQ+ sy’n cael ei gorgynrychioli fwyaf. Dydi hi ddim yn anodd i mi ddod o hyd i bobl sy'n edrych fel fi ac sy’n rhannu fy mhrofiadau i. Gallaf sôn am unrhyw nifer o straeon am ddynion hoyw sydd yn y newyddion, mewn ffilmiau ac ar y teledu y gallaf uniaethu â nhw rhywsut. Rwyf yn cydnabod y fraint hon. Ond rwy'n ymwybodol nad yw hyn yn wir i bawb ac rwyf am ddeall pam mae rhai pobl yn ein cymuned wych - yn benodol yr adran B yn LGBTQ+ - yn teimlo eu bod wedi'u dileu. Mae Adroddiad Stonewall ar Ddeurywioldeb yn 2020 yn tynnu sylw at nifer o bethau sy'n peri pryder. Mae'n dweud bod y gymuned ddeurywiol yn wynebu gwahaniaethu o'r tu mewn i'r gymuned LGBTQ+ ac o’r tu allan iddi, gyda llawer hefyd yn teimlo eu bod wedi'u heithrio o'n mannau a'n digwyddiadau, sy’n cyfrannu at lefelau uwch o unigrwydd ac arwahanrwydd. Ac roedd hynny cyn y pandemig. Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod pobl ddeurywiol yn llawer llai tebygol o fod wedi ‘dod allan' i’w ffrindiau a’u teulu na dynion hoyw a lesbiaid, gyda rhai yn nodi rhesymau fel stereoteipiau negyddol hirsefydlog o amgylch barusrwydd ac anffyddlondeb..

6

LGBTQYMRU


Mae Megan Pascoe yn byw yng Nghaerdydd ac mae hi’n Fodel Rôl Deurywiol i Stonewall Cymru. Daeth allan pan oedd hi'n 20 oed ar ôl dechrau ei pherthynas gyntaf â merch arall. Roedd yn brofiad cadarnhaol, ond mae Megan yn dweud bod materion yn ymwneud â ffobia ynghylch deurywioldeb a stigma yn cyfrannu at ddileu deurywioldeb. "Rwy'n credu y daw’r brif broblem o’r gymuned LGBTQ+. Rwy'n credu os nad yw ein cymuned ni ein hunan yn ein deall, yna sut y gallwn ddisgwyl i bobl y tu allan iddi wneud hynny?" "Mae'n beth anodd oherwydd os yw pobl yn dweud wrthych chi nad yw'n bodoli, rydych chi'n meddwl, 'A ddylwn i hyd yn oed drafferthu â dod allan os nad ydych chi'n mynd i fy nghredu i? Rydych chi'n meddwl fy mod i'n heterorywiol neu'n hoyw, a dyna ni.' Mae'n gwneud i chi deimlo nad yw eich rhywioldeb yn ddilys." Mae Libby Baxter Williams yn cynrychioli Biscuit, sefydliad sy'n eirioli dros y gymuned. Mae'n dweud bod dileu deurywioldeb yn deillio o hanes o edrych ar bethau mewn ffordd ddeuaidd ac, yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n gysylltiedig â’r ffaith bod bobl yn anghyfarwydd ag ef yn hytrach nag anwybodaeth fwriadol. "Mae'r teimlad o fod 'mewn limbo' (ddim yn heterorywiol nac yn ddigon hoyw’) yn un cyffredin. Mae canfod nad yw [y gymuned LGBTQ+] o reidrwydd mor groesawgar ag yr oeddech yn ei ddisgwyl yn gallu bod yn dipyn o ergyd." Ac mae hyn, meddai, yn cyfrannu at lefelau uwch o iselder, gorbryder ac anhwylderau bwyta yn y gymuned ddeurywiol.

"Mae'n gwneud i chi deimlo nad yw eich rhywioldeb yn ddilys" "Mae'n swnio’n eithaf anhygoel ond, yn ddigon rhyfedd, mae'r data'n ei gefnogi. Mae cysylltiadau yn bendant." Mae gwaith ymchwil gan Stonewall, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ac eraill wedi gwneud arsylwadau tebyg. Ac er bod Meg a Libby yn cytuno bod angen gwneud llawer mwy i gael gwared ar stereoteipiau niweidiol, mae'r ddwy’n teimlo bod pethau’n newid er gwell. Mae elusennau a sefydliadau fel Stonewall yn cyfeirio mwy o arian tuag at faterion deurywiol ac mae mwy o gynrychiolaeth, ac mae Libby yn dweud bod hynny'n cael effaith ddiferol. Ond mae'r ddwy’n dweud ei fod yn gyfrifoldeb ar bawb i newid.

LGBTQYMRU

7


Cadw'r Ffydd Gan ddilyn traddodiad ein colofn Cadw’r Ffydd yn LGBTQYMRU, ym mhob rhifyn, rydym yn edrych ar ffydd a'i pherthynas â’r gymuned LGBTQ+.

gan Hia Alhashemi

Ar gyfer y rhifyn hwn, fe wnes i gyfweld â Delyth Liddell, aelod o The Gathering, grŵp ffydd anhygoel sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, ynghylch sut beth yw bod yn rhan o'r gymuned Gristnogol ac LGBTQ+. BETH YW THE GATHERING CAERDYDD A BETH YDYCH CHI'N EI WNEUD? Rydym ni'n lle diogel i bobl LGBTQ archwilio eu ffydd yn Nuw. Credwn fod Duw yn caru pob un ohonom a bod ein rhywioldeb a'n rhywedd 8

LGBTQYMRU

yn cael ei ddathlu gan Dduw. Felly rydym yn bennaf yn eglwys ar gyfer pobl LGBTQ a'n nod yw bod yn gysylltiad rhwng ffydd a'r gymuned LGBTQ, ac yn gysylltiad rhwng yr eglwys ehangach a Christnogion LGBTQ. Mewn cyfarfod o’r Gathering, byddwn yn canu caneuon mawl i Dduw, yn gweddïo gyda'n gilydd, yn darllen y Beibl ac yn trafod â'n gilydd sut y gall Duw wneud gwahaniaeth yn ein bywydau. Rydym hefyd wedi cynnal Cynhadledd Gynhwysol i eglwysi i’w herio ynghylch sut y gallant fod yn fwy cynhwysol i bobl LGBTQ, ac rydym yn cynnal


un arall ym mis Ebrill gyda myfyrdodau fideo ynghylch yr hyn y mae priodas yn ei olygu i rai o'n cyplau o'r un rhyw yn y Gathering. Rydym yn cefnogi'r Babell Ffydd yn Pride Cymru ac, ym mis Awst, byddwn yn myfyrio ar briodas cyplau o'r un rhyw o safbwynt aml-ffydd, yn ogystal â'n sgyrsiau a'n digwyddiadau panel arferol yn Pride Cymru. BETH YW'R BERTHYNAS RHWNG BOD YN GRISTION AC YN UNIGOLYN LGBTQ? A OES GWRTHDARO, NEU A YW'R DDAU’N CEFNOGI EI GILYDD? Nid ydym yn credu bod gwrthdaro o gwbl. Gall Cristnogion fod yn LGBTQ a gall unigolion LGBTQ fod yn Gristnogion. Ond, rydym yn gwybod nad yw pob Cristion yn credu hyn a bod llawer o bobl LGBTQ wedi cael eu brifo gan Gristnogion unigol a'r eglwys yn gyffredinol

oherwydd yr agweddau tuag atom. Mae'r Gathering yn ofod lle y gall pobl LGBTQ rannu eu poen a'u profiadau o gael eu brifo gan Gristnogion eraill. Rydym ni am rymuso pobl i gael gweld natur gynhwysol Duw, gan gynnwys astudio rhannau o'r Beibl sydd wedi'u defnyddio i'n cywilyddio ni ac, yn lle hynny, dangos dealltwriaeth amgen bod Duw yn dathlu ein perthnasoedd a phwy ydyn ni.

"Rydym ni'n lle diogel i bobl LGBTQ archwilio eu ffydd yn Nuw. Credwn fod Duw yn ein caru ni i gyd a bod ein rhywioldeb a'n rhywedd yn cael ei ddathlu gan Dduw."

BLE YDYCH CHI'N CWRDD? Ar hyn o bryd, rydym yn cyfarfod ar Zoom bob nos Sul am 7yh. Mewn cyfnodau heb Covid, rydym yn cwrdd yn Eglwys Ddiwygiedig Unedig y Ddinas ar Windsor Place yng Nghaerdydd. Un o fanteision cyfarfod ar Zoom ar hyn o bryd yw bod pobl o bob rhan o'r wlad yn ymuno â ni ac rydym yn gobeithio parhau â hyn, hyd yn oed pan allwn ni gwrdd eto wyneb yn wyneb. SUT MAE CYSYLLTU Â CHI? Ewch i'n gwefan https://www.thegatheringcardiff. org/ Dewch o hyd i ni ar Facebook https://www. facebook.com/TheGatheringCardiff ac anfonwch neges atom, neu e-bost at mail@ thegatheringcardiff.org LGBTQYMRU

9


YN AGOS A PHERSONOL I GYDA MAGGI NOGG

10

LGBTQYMRU


Roeddem am ddod i adnabod Maggi Noggi a'r person y tu ôl iddi, Kristopher Hughes. Gwnaethom ofyn i'n Gohebydd Cymunedol, Jordan Howell, ganfod mwy i ni. gan Jordan Howell

Magwyd Kristopher Hughes ym mhentref Llanberis yng Ngogledd Cymru, wrth droed yr Wyddfa, ond mae wedi byw yn Ynys Môn ers yr oedd yn 13 oed. Dechreuodd berfformio mewn drag yn gynnar yn yr 1990au ac mae wedi cael nifer amrywiol o bersonâu drag ers hynny. Ganwyd Maggi ar daith i Brighton gyda'i bartner o 30 mlynedd. “Roeddwn i’n cysgu’n drwm yn sedd y teithiwr,” mae’n cofio, “ac yn sydyn fe waeddodd Ian ‘Maggi Noggi! ’”. “Cyn gynted ag y dywedodd yr enw, daeth y cymeriad cyfan i fy meddwl i. Yn sydyn, roedd bywyd teuluol a chefndir cyfan y fenyw hon yn fy nychymyg i.” Ar ôl astudio hanes Celtaidd a bod yn athro yn y pwnc, roedd 'Maggi Noggi' yn ffordd glyfar o chwarae ar y gair 'mabinogi' - roedd 'mab' yn wreiddiol yn golygu 'llanc' neu 'ieuenctid', ac yn ddiweddarach byddai’n golygu 'stori' hefyd. Mae Kris yn disgrifio personoliaeth Maggi fel un diniwed a naïf. “Mae hi’n ymwybodol bod pethau’n digwydd yn y byd,” meddai, “ond mae hi hefyd yn ymwybodol y gallwch chi wella pethau drwy ddod â llawenydd i fywydau pobl.” Mae Maggi hefyd yn llawer mwy byrlymus a rhyngweithiol na Kris, ac mae hi wrth ei bodd bod yng nghwmni pobl - mae Kris yn awdur, ac yn hoffi treulio ei amser ar ei ben ei hun. “Dw i ddim yn hoffi tafarndai, dwi ddim yn hoffi clybiau nos, dwi byth eisiau dawnsio, a dwi ddim eisiau bod mewn lleoedd sydd fel marchnad wartheg. Mae Maggi wrth ei bodd â'r sefyllfaoedd hynny.”

“Fe wnes i drag am fy rhesymau fy hun, ac yn bennaf er mwyn trawsnewid yr holl bryderon oedd gen i fel dyn hoyw ifanc a helpodd drag imi eu goresgyn.” LGBTQYMRU

11


Mae hi'n Gymraeg heb ymddiheuriad ond mae'n sicrhau bod ei chomedi yn hygyrch i bawb, drwy ddarparu cyfieithiadau Saesneg hefyd. “Roedd yn amlwg i mi bod angen i mi wneud rhywbeth i fynd i’r afael â’r gwagle yn y byd Cymraeg, gan nad oes cymaint o frenhinesau drag â hynny sy’n siarad Cymraeg o hyd.” Cymreictod Maggi yw un o'r rhesymau pam mae hi mor boblogaidd gydag S4C. Bydd gwylwyr rheolaidd y sianel eisoes yn gyfarwydd iawn â Maggi, ar ôl iddi ymddangos ar Y Salon a Gwely a Brecwast Maggi Noggi, i enwi ond ychydig o raglenni. Yn ei hymddangosiad diweddaraf, roedd yn mentora’r ddigrifwraig Kiri Pritchard-McLean ar Iaith ar Daith - cyfres sy’n dilyn personoliaeth teledu Cymraeg sy’n ymuno â phersonoliaeth arall sy'n dysgu Cymraeg. Ffilmio Iaith ar Daith oedd y cyfle cyntaf i Kris ymddangos fel Maggi mewn 12 mis, oherwydd effeithiau pandemig y Coronafeirws. Roedd hi hefyd i fod i fynd ar daith genedlaethol, a gweithio ar nifer o brosiectau eraill, ond bu'n

“Nid yw Gogledd Cymru fel y de - nid oes gennym ni ddinasoedd, nid oes gennym y gymuned honno. Nid oes unrhyw beth i chi gael eich tynnu tuag ato yma, felly mae fy mherfformiad drag yn ymateb i hynny ar yr un pryd.” rhaid iddi ohirio pob un ohonynt. “Diflannodd y cyfan dros nos, ond roeddwn i mor ffodus o gymharu â chymaint o freninesau eraill rydw i'n eu hadnabod - perfformio yw sut y maen nhw'n gwneud eu harian, ac yna fe ddiflannodd hynny dros nos.” Yn rhyfeddol, un o alwedigaethau eraill Kris yw gweithio fel Technegydd Patholeg yng Nghanolfan Awtopsi a Phrofedigaeth Gogledd Cymru. Pan darodd y pandemig, treuliodd lawer mwy o amser yno. Fodd bynnag, wrth i'r cyfyngiadau lacio, mae Kris wedi dychwelyd i'r rôl yn rhan amser er mwyn canolbwyntio ar ei ymrwymiadau eraill. Pan ddaw Kris adref o'r marwdy, mae'n llwyddo i adael y pethau erchyll y mae'n eu gweld yno. Mae’n defnyddio drag, ei ysgrifennu, a'i rôl ysbrydol fel Pennaeth Urdd Derwyddon Môn fel ffordd o ddelio â’r “tirlun o arswyd” y mae'n byw ynddo. Mae Ian yn gefnogol iawn o’r gwaith y mae ei ŵr yn ei wneud, yn enwedig Maggi, gan ei bod hi’n brosiect ar y cyd i raddau. Mae Ian yn helpu i lunio llawer o'r jôcs, ac mae hefyd yn gwneud llawer o emwaith Maggi. "Rydym ni wedi bod gyda'n gilydd cyhyd ag y bûm i’n perfformio drag" meddai Kris. "Felly mae wedi hen arfer â'r ffaith bod y tŷ yn llawn wigiau a stiletos, a dillad isaf merched. Mae mwy o ddillad isaf merched yn y tŷ hwn nag sydd mewn tŷ dyn straight ... byddwn i'n dychmygu!”.

12

LGBTQYMRU

Gallwch wylio pennod Maggi o Iaith ar Daith gyda Kiri Pritchard-McLean ar S4C Clic nawr, a gallwch archebu llyfr diweddaraf Kris, ‘Cerridwen: Celtic Goddess of Inspiration’, ar-lein.


Blwyddyn gwyliau gartref yn y DU Rydym yn falch o fod wedi llunio partneriaeth â’r ymgynghorwyr teithio annibynnol, The Travel Gibbon, i ddod i'r newyddion a’r safbwyntiau diweddaraf am wyliau i chi. gan Travel Gibbon

Er bod teithio rhyngwladol yn edrych yn fwy addawol ar gyfer 2021, mae pethau'n dal yn aneglur iawn ac mae llawer wedi croesawu'r cyfle i fwynhau'r hyn sydd gan Ynysoedd Prydain gwych i'w gynnig ac wedi trefnu gwyliau gartref yn y DU.

Mae lleoedd anhygoel i aros ynddynt, lleoedd syfrdanol i ymweld â nhw a llu o brofiadau rhestr bwced i'w cael ar y tir hwn rydym yn ei alw'n gartref.

LGBTQYMRU

13


Rhai syniadau yng Nghymru i'ch ysbrydoli:

Ond gofalwch, mae marchnad llety gwyliau'r DU yn gweld cynnydd mawr yn y galw ac mae llawer o leoedd eisoes yn llawn tan fis Medi, felly dechreuwch gynllunio'r daith honno nawr.

1 mlaciwch mewn wagen reilffordd foethus wedi'i haddasu gyda thwb poeth preifat ger Llandrindod – Pen Rhos

2 Profwch benwythnos Ioga a Phuro’r Corff ar ystâd wledig ar Ynys Môn – Ioga a Phuro’r Corff

3 Ymgollwch eich hunain yng nghefn gwlad Eryri mewn tŷ coeden moethus – Tŷ Coeden

14

LGBTQYMRU


4 Mwynhewch y golygfeydd godidog o'ch twb poeth mewn porthdy arfordirol ar ben clogwyn yn Sir Benfro – Tŷ Gwyn Bae Abergwaun

5 Mwynhewch fwydlen blasu seren Michelin 7 cwrs, yn ystod gwyliau mewn chateau gwledig 5* ger yr Wyddfa

Awgrymiadau ar gyfer gwyliau gartref yn y DU Disgwyliwch rai cyfyngiadau Covid parhaus – efallai na fydd cyfleusterau a rennir yn gwbl weithredol, a bydd masgiau a phellter cymdeithasol gyda ni am gyfnod. ARCHEBWCH YN GYNNAR – mae lleoedd eisoes yn dechrau llenwi ar gyfer yr Hydref felly peidiwch ag aros gan ei bod yn anhebygol y bydd 'bargeinion hwyr' ar gael – disgwyliwch i’r prisiau fod yn uwch nag arfer oherwydd y galw cynyddol. Os yw’r cyfyngiadau Covid yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon teithio, bydd gennych chi hawl i newid y dyddiad neu i gael ad-daliad – fodd bynnag, os yw'n ofynnol i chi hunanynysu, nid yw hyn wedi'i gynnwys, felly mae angen i chi fod yn glir ynghylch polisi’r llety.

TEITHIWCH Y TU ALLAN I WYLIAU YSGOL OS GALLWCH – mae prisiau llawer gwell ar gael. DEFNYDDIWCH ASIANT ABTA – ni fydd yn costio unrhyw beth i chi ond bydd asiant yn sicrhau eich bod yn deall y Telerau ac Amodau ac yn esbonio'r sefyllfa pe na baech yn gallu teithio. Mae The Travel Gibbon yn asiant teithio annibynnol ardystiedig ABTA. Ewch i dudalen Facebook The Travel Gibbon i weld y cynigion diweddaraf neu anfonwch e-bost ataf yn thetravelgibbon@gmail.com

LGBTQYMRU

15


Ydych chi'n ystyried teithio dramor? Os ydych chi’n gobeithio mynd ar daith dramor yn 2021, cadwch lygad ar system goleuadau traffig Llywodraeth y DU sydd i'w hadolygu a'i newid o bosibl bob 3 wythnos. Hefyd, ymchwiliwch am ofynion profi CoVid - ond dyma rywfaint o gyngor: Nid rheoliadau'r DU yn unig y mae’n rhaid eu hystyried; bydd gan y wlad rydych yn ymweld â hi ei gofynion ei hunan – mae angen i chi wybod y rhain hefyd. Os oes angen profion PCR ar gyfer cael mynediad i unrhyw wlad, mae'r rhain ar hyn o bryd yn costio tua £100 y pen fesul prawf – gallai hyn fod yn gost sylweddol ar ben cost eich gwyliau. Mae rhai cyrchfannau yn cynnig ad-dalu cost y prawf i gwsmeriaid. Nid oes sicrwydd na fydd y cyfyngiadau Covid yn newid yn y cyfnod cyn eich gwyliau neu tra byddwch chi i ffwrdd – gwelsom hyn yn digwydd yr haf diwethaf – mae hyn y tu hwnt i'ch rheolaeth chi’n llwyr ond mae'n risg y mae angen i chi ei hystyried. Ni fydd gweithredwr y daith yn canslo'r gwyliau nes bod yn rhaid iddynt, ac ni allwch ganslo nes ei bod hi’n anghyfreithlon teithio, felly gall fod yn gyfnod nerfus o aros os oes cynnydd yn yr achosion o Covid. 16

LGBTQYMRU

Cymerwch yswiriant teithio CYN GYNTED AG y byddwch yn archebu’r gwyliau – os ydych am gynnwys yswiriant ar gyfer Covid, bydd premiwm yn cael ei ychwanegu, gan nad yw’n cael ei gynnwys mewn yswiriant ar hyn o bryd. Archebwch wyliau PECYN – nid yw'n ddoeth archebu teithiau awyren a llety ar wahân ar hyn o bryd gan nad ydych chi wedi'ch diogelu o dan y Rheoliadau Teithio Pecyn. Fisâu – bydd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn caniatáu fisa twristaidd 30 diwrnod pan gyrhaeddwch chi i ddeiliaid pasbortau'r DU – cofiwch wirio hynny oherwydd bydd rhai gwledydd wedi newid y rheoliadau ers Brexit. Cofiwch efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i'r ciw pasbort y tu allan i'r UE yn eich cyrchfan. Defnyddiwch asiant ABTA – ni fydd yn costio unrhyw beth i chi ond bydd asiant yn sicrhau eich bod yn deall y Telerau ac Amodau ac yn esbonio'r sefyllfa pe na baech yn gallu teithio. Mae The Travel Gibbon yn asiant teithio annibynnol ardystiedig ABTA – ewch i’n tudalen Facebook neu anfonwch e-bost at thetravelgibbon@gmail.com


Davinia Green Mae LGBTQymru yn croesawu Davinia Green yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Stonewall Cymru. I weld cyfweliad manwl ynghylch yr hyn y bydd Davinia a thîm Stonewall Cymru yn ei gyflawni dros Gymru yn y dyfodol, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Rhifyn 3!

LGBTQYMRU

17


Mae Pethau'n Dechrau mynd yn Wleidyddol gan Craig Stephenson

Yr enw rydych yn cael ei alw’n gyhoeddus: Nia Griffith Beth yw eich rhagenwau? Hi Pa blaid wleidyddol ydych chi'n ei chynrychioli? Y Blaid Lafur Pa ardal yng Nghymru y cawsoch chi eich hethol iddi? AS Llanelli, Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru

Pam wnaethoch chi ddod yn wleidydd? Mae LGBTQymru yn grŵp gwirfoddol nad yw’n gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol. Bydd ein cylchgrawn yn cynnwys gwleidyddion LGBTQ Cymreig o wahanol garfanau gwleidyddol ym mhob rhifyn. Ein nod yw sicrhau cydbwysedd a chynnwys pobl o wahanol garfanau gwleidyddol gan ddibynnu ar bwy sy'n derbyn ein gwahoddiad i gymryd rhan. Barn y gwleidydd dan sylw fydd y safbwyntiau sy’n cael eu mynegi. Disgwyliwn iddyn nhw gynnal gwerthoedd LGBTQymru. Diben yr erthyglau nodwedd yw dod i adnabod ein gwleidyddion LGBTQ ychydig yn well. 18

LGBTQYMRU

Oherwydd roeddwn i eisiau newid pethau er gwell, a sylweddolais o’r cyfnod pan oeddwn yn fyfyriwr ac yn gweithredu yn y gymuned eich bod mor aml yn delio â symptomau problemau dyfnach, a bod angen i chi, er mwyn sicrhau newid gwirioneddol, fod yn dylanwadu ar weledigaeth y gymdeithas yr ydym am ei chael, a chefnogi hynny gyda'r ddeddfwriaeth angenrheidiol a blaenoriaethu adnoddau, a dyna yw gwleidyddiaeth.


“Mae angen inni lynu at ein gilydd, ac, ar hyn o bryd, dylem ganolbwyntio ar roi cefnogaeth well yn gyffredinol i bobl draws a mynd i'r afael â thrawsffobia."

Pam ei bod hi'n bwysig cael gwleidyddion LGBTQ+ gweladwy?

Pam mae gwleidyddiaeth yn bwysig i'r mudiad LGBTQ+?

Mae'n bwysig iawn, er mwyn bod yn wirioneddol gynrychioliadol o'n cymdeithas a darparu modelau rôl fel y gall pobl LGBTQ+ a’r gymdeithas ehangach weld ei bod hi’n iawn bod yn LGBTQ+, yn ogystal â gallu siarad o brofiad uniongyrchol ar faterion sy'n effeithio ar y gymuned LGBTQ+ yn arbennig.

Oherwydd drwy wleidyddiaeth rydym yn pasio'r cyfreithiau ac yn blaenoriaethu'r adnoddau y mae arnom eu hangen i sicrhau newid mewn cymdeithas, boed hynny'n atal gwahaniaethu, mynd i'r afael â throseddau casineb, gweithredu hawliau mabwysiadu cyfartal, cyfreithloni priodas rhwng pobl o'r un rhyw, darparu cymorth mwy hygyrch i bobl sy'n pontio neu mynd i'r afael â bwlio homoffobig.

Pe gallech chi newid unrhyw beth i wella bywyd i bobl LGBTQ+, beth fyddai hynny? Bydd blaenoriaethau'n newid dros amser, ond mae angen inni lynu at ein gilydd, ac, ar hyn o bryd, dylem ganolbwyntio ar roi cefnogaeth well yn gyffredinol i bobl draws a mynd i'r afael â thrawsffobia. Beth fu moment fwyaf balch eich gyrfa neu eich bywyd hyd yn hyn? I mi, gweithio ar Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 – y Ddeddf gyntaf o’i math yn y byd a dorrodd dir newydd, ond rwy’n poeni nad ydym wedi gwneud digon o gynnydd ers hynny o ran mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Sut ydych chi'n cefnogi'r gymuned LGBTQ+ yn eich bywyd personol a phroffesiynol? Yn ogystal â chefnogi a siarad mewn digwyddiadau LGBTQ+, mae yr un mor bwysig i mi i godi materion LGBTQ+ yn ehangach, er engraifft trwy ofyn i'r gweithleoedd a’r lleoliadau addysgol rwy'n ymweld â nhw beth y maen nhw'n ei wneud i fynd i'r afael â bwlio homoffobig a thrawsffobig. Pe gallech chi ddweud un peth wrthych eich hunan pan yn iau, beth fyddai hynny? Paid â synnu faint o amser y mae'n ei gymryd i sicrhau newid a sawl gwaith y mae'n rhaid i ti ailadrodd yr un dadleuon! LGBTQYMRU

19


Aubergine Café Mae Selena Caemawr, aelod o'r tîm yn Aubergine Café and Events, yn teimlo’n angerddol dros greu mannau lle mae pobl yn teimlo eu bod yn perthyn. gan Karen Harvey-Cooke

Mae Aubergine Café and Events yn gaffi sy'n gyfeillgar i bobl ag awtistiaeth, sy'n gweini bwyd blasus o blanhigion, ac yn darparu amrywiaeth eang o weithdai a digwyddiadau i oedolion awtistig a niwrowahanol yng Nghymru - o'r celfyddydau, i chwaraeon, i eiriolaeth a chefnogaeth gan gymheiriaid. Maent yno i ymateb i anghenion oedolion awtistig a niwrowahanol yng Nghymru, ac i feithrin rhwydwaith cryf ar gyfer eu Teulu Aubergine.

20

LGBTQYMRU

Mae Selena yn siarad yn agored am y rhwystredigaethau a'r heriau mewn cyflogaeth a arweiniodd at y pwynt hwn. 'Cefais nifer o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd yn fy ngyrfa lle’r oeddwn i wedi cael yr argraff nad oeddwn i o reidrwydd yn cael fy nhrin yn yr un ffordd â phawb arall, ond allwn i fyth roi fy mys ar beth oedd yn wahanol.' Mae pob aelod o dîm Aubergine wedi profi eu hadfyd eu hunain yn y gweithle, boed hynny oherwydd rheolwyr nad oeddent yn deall eu


hanghenion yn y gwaith neu weithleoedd nad oeddent wedi darparu'r addasiadau rhesymol y mae'n ofynnol yn gyfreithiol iddyn nhw eu darparu. Mae'r tîm yn cynrychioli llu o hunaniaethau croestoriadol, awtistig a niwrowahanol, pobl o'r gymuned LGBTQ+, pobl o gefndiroedd incwm isel a dosbarth gweithiol, a phobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig. 'Mae yna ryw deimlad o fethu â ffitio i mewn erioed, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y gall pobl queer a phobl awtistig gydymdeimlo ag ef. Rwy'n un o'r bobl hynny sy'n eistedd ar sawl croestoriad. Rwyf o hil gymysg, rwy’n queer ac, yn ddiweddarach, sylweddolais fy mod yn awtistig. Pan rydym ni mewn gwahanol sefyllfaoedd, rydym ni wedi'n cyflyru i gyflwyno ein hunain mewn ffordd sy'n gweddu oherwydd ei fod yn gysylltiedig â bod yn ddiogel, i raddau.'

Roeddwn i wir eisiau rhywle lle nad oedd yn rhaid i chi boeni o gwbl am unrhyw rai o'r pethau hyn a lle gall pobl fod yr holl hunaniaethau ar yr un pryd. Roeddwn i eisiau gweld rhywle lle’r oedd yn bosibl inni fod y modelau rôl na chawsom ni eu gweld erioed.' Yn yr un modd â llawer o gymunedau, mae teulu Aubergine wedi gorfod ymateb i’r cyfnodau clo. Mae wedi darparu amrywiaeth o weithdai i gadw pobl yn brysur ac wedi’u cysylltu â’i gilydd, o weithdai celf a chrefft a gynhelir gan artistiaid awtistig a niwrowahanol a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, i sesiynau rhwydweithio cefnogaeth gan gymheiriaid gydag Autistic UK. Yn fwy diweddar, mae wedi ymuno â SpokesPerson CIC i ddarparu gweithdai cynnal a chadw beiciau a sesiynau beicio un i un dan arweiniad, yn ogystal â dechrau dosbarthiadau coginio wythnosol ar-lein. Maent wedi ceisio sicrhau amrywiaeth a digon o hwyl, gan sicrhau hefyd eu bod wedi bod yn gwrando ac yn ymateb i anghenion newidiol eu teulu Aubergine yn ystod cyfnod mor anodd. Nid oes rhaid dweud mai'r prif obaith ar gyfer y dyfodol yw agor y Caffi eto, ond maent hefyd am gychwyn ymgynghoriad cenedlaethol i derminoleg Gymraeg ar gyfer hunaniaethau ymylol er mwyn creu rhestr o dermau y gallai

"Roeddwn i eisiau gweld rhywle lle’r oedd yn bosibl inni fod y modelau rôl na chawsom ni eu gweld erioed" LGBTQYMRU

21


"Rwy'n caru Aubergine gymaint. Mae'n teimlo fel teulu niwrowahanol queer hardd. Mae yna ymdeimlad o gynhesrwydd a derbyniad yma na chefais i yn unman arall rydw i wedi gweithio ynddo erioed." sefydliadau ac unigolion eu defnyddio. Mae’r cynlluniau tymor hwy yn cynnwys dechrau darparu gwaith ymgynghori i sefydliadau, i annog eraill i wneud yr hyn y mae tîm Aubergine wedi'i wneud, megis archwiliadau synhwyraidd mewn gweithleoedd a darparu adborth ar yr hyn y gellid ei wneud yn wahanol. Soniodd Selena am waith ymchwil sy’n dangos bod sefydliad sy’n gyfeillgar i bobl ag awtistiaeth mewn gwirionedd yn weithle gwell i bawb. Wrth i’n sgwrs ddirwyn i ben, buom yn siarad am ddyfyniad gan ei chydweithiwr, Aarwn, a oedd wedi bod allan fel person queer/person nad yw eu rhywedd yn cydymffurfio am 3 blynedd cyn ymuno ag Aubergine, ond nid oeddent erioed wedi dod o hyd i gymaint o ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth o bwy oedden nhw yn eu cyfanrwydd. 'Ar ôl ymuno â thîm Aubergine, dechreuais deimlo'n ddigon hyderus i ddechrau defnyddio’r rhagenw “nhw” oherwydd roeddwn i'n gwybod na fyddai'n rhaid i mi egluro na chyfiawnhau fy hun i unrhyw un. Mae Aubergine wedi rhoi cyfleoedd i mi na fyddwn i erioed wedi eu cael yn unman arall. Yma, rwy’n cael fy annog i weithio mewn ffyrdd sy'n gwneud synnwyr i mi yn lle ceisio ffitio mowld a wnaed ar gyfer rhywun arall. Rwy'n caru Aubergine gymaint. Mae'n teimlo fel teulu niwrowahanol queer hardd. Mae yna ymdeimlad o gynhesrwydd a derbyniad yma na chefais i yn unman arall rydw i wedi gweithio ynddo erioed.' I ddarganfod mwy am Aubergine Café and Events, ewch i auberginecafe.co.uk

22

LGBTQYMRU


RYDYN NI'N RECRIWTIO! Are Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm LGBTQYMRU? Mae pob rôl yn wirfoddol ac rydym ni’n defnyddio dull cefnogol, un tîm o gynhyrchu erthyglau o ansawdd uchel ar gyfer y gymuned LGBTQ+ gan y gymuned LGBTQ+ yn ein cylchgrawn chwarterol a chwbl ddwyieithog sy’n rhad ac am ddim. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â thîm cynhwysol, ewch i’r pecyn cais yma: LGBTQYMRU.WALES

STRAEON Yn LGBTQymru, un o'r pethau sy’n ein sbarduno ni yw sicrhau bod aelodau ein cymuned LGBTQ yn aros mewn cysylltiad â’i gilydd. Ein mantra yw 'I’r Gymuned, gan y Gymuned'. I ni, mae hynny'n golygu Cymru gyfan. Felly, byddai’n hynod o gyffrous clywed gennych chi os oes gennych chi stori queer i'w hadrodd neu syniad i'w gynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol. Peidiwch â bod yn swil - gallwch gyflwyno eich straeon drwy ddilyn hwn a dewis 'syniadau'.

LGBTQYMRU

23


Pencampwyr Cymunedol

OWEN HURCUM Mae Owen Hurcum yn actifydd di-flewyn-ar-dafod, ac ef yw maer anneuaidd agored cyntaf Gogledd Cymru. Siaradodd LGBTQymru ag Owen am eu gwaith gweithredu, eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu cymuned queer Gogledd Cymru. gan Matthew Tordoff

24

LGBTQYMRU


"Rwyf am ddangos y gall unigolion anneuaidd fod yn rhan o'r gymuned a hyd yn oed yn rhan o grŵp sy'n draddodiadol yn cael ei ystyried yn geidwadol, fel cyngor dinas."

Roeddwn i eisiau dechrau drwy ofyn beth ddaeth â chi i Ogledd Cymru ac yn benodol i Fangor?

Sut ydych chi'n meddwl eich bod chi'n herio canfyddiadau a stereoteipiau’r hyn y mae pobl yn disgwyl i Faer fod?

Symudais i Fangor i'r brifysgol ac ymhen wythnos roeddwn i wedi syrthio mewn cariad â’r lle. Cefais gyfle gan y blaid yr oeddwn yn ei chynrychioli ar y pryd i fod yn ymgeisydd yn etholiadau’r cyngor lleol, ond oherwydd llawer o waith papur rhyfedd, ni wnaeth hynny weithio allan. Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, daeth cyfle i wneud hynny eto, felly mi fachais ar y cyfle a dod yn aelod o gyngor y ddinas. Roeddwn i'n ei weld fel cyfle i fod yn rhan o gymuned roeddwn i wedi syrthio mewn cariad â hi yn llwyr.

Rwyf am ddangos y gall unigolion anneuaidd fod yn rhan o'r gymuned a hyd yn oed yn rhan o grŵp sy'n draddodiadol yn cael ei ystyried yn geidwadol, fel cyngor dinas. Hynny yw, mae gennym ni wisgoedd a chadwyni seremonïol; rydyn ni mor aristocrataidd a hynafol â llawer o grwpiau o bobl. Rwy'n hoffi meddwl, drwy hyn, y gallaf gynrychioli pobl anneuaidd a dangos y gallwn ni wneud pethau na fydd pobl eraill yn ystyried eu bod yn bosibl. Dyna mewn gwirionedd rwyf am ei gyflawni yn fy ffordd anghonfensiynol. LGBTQYMRU

25


"rwy'n credu pan ddaw aelodau cymuned queer at ei gilydd, gyda'u meddyliau’n canolbwyntio ar rywbeth, mae'n anodd iawn i unrhyw beth arall ddigwydd, heblaw am lwyddiant."

Beth ydych chi'n ei feddwl yw rhai o'r heriau sy'n wynebu cymuned LGBTQ+ Gogledd Cymru? Mae cymunedau lleol wedi cael eu difetha gan COVID-19, ni ellir osgoi hynny. Effeithiwyd yn benodol ar Fangor, oherwydd nid yw nifer helaeth o boblogaeth y myfyrwyr wedi gallu dychwelyd ac, o fewn hynny, mae'r gymuned LGBT yn wynebu problemau. Mae’r unig far queer oedd gennym ni wedi'i gau i lawr oherwydd y pandemig. Gwnaethom ni lansio Pride yn ôl yn 2019, ond nid ydym wedi gallu cadw hynny i fynd oherwydd effeithiau'r pandemig. Pa gamau y mae pobl yn eu cymryd i helpu i ddatrys y materion hyn? Mae cymuned dda iawn yma ac rydw i eisiau rhoi rhywbeth yn ôl iddi. Un o'r pethau cyffrous iawn yw Bangor yn Gyntaf, sef enw Ardal Gwella Busnes Bangor a gafodd ail-bleidlais ac yn ei maniffesto mae ymrwymiad iddi drefnu digwyddiad Pride. Os gallwn weithio gyda sefydliadau lleol i helpu pobl LGBTQ+ i ganfod cyfleoedd am gyflogaeth, gyda chyflogwyr sy'n eu gwerthfawrogi fel unigolion ac yn eu parchu, yna byddai hynny'n wych hefyd. A gobeithio y bydd yn bosibl cael lleoliad; naill ai clwb, neu dafarn, neu gaffi hyd yn oed lle gallwn ddod â phobl at ei gilydd - oherwydd rwy'n credu pan ddaw aelodau cymuned queer at ei gilydd, gyda'u meddyliau’n canolbwyntio ar rywbeth, mae'n anodd iawn i unrhyw beth arall ddigwydd, heblaw am lwyddiant. Beth am Ogledd Cymru a'r gymuned LGBTQ+ yno sy'n dod â gobaith i chi? Rwy'n credu bod Gogledd Cymru yn fwy gwledig ac yn llai cosmopolitaidd ac, ar sail stereoteipiau, mae'r lleoedd hyn yn cael eu hystyried yn fwy hen ffasiwn a rhagfarnllyd. Yn fy mhrofiad i, nid yw Gogledd Cymru fel hynny, ar wahân i ambell achos. Mae hynny'n rhoi gobaith i mi ein bod ni fel ardal yn gadarnhaol ynghylch y gymuned LGBTQ+.

26

LGBTQYMRU


Lleisiau o'n Cymuned LGBTQYMRU Mae nifer o gymunedau LGBTQ+ yn ei chael hi'n anodd derbyn eu hunain cymaint ag y maen nhw’n ei chael hi’n anodd i eraill eu derbyn, yn enwedig pan fydd pandemig wedi effeithio ar allu aelodau ein cymuned i ddod at ei gilydd ac i ddathlu eu hunain. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn bwysig dod o hyd i ffyrdd o wneud hyn ac, o'r herwydd, mae rhai o'n gohebwyr yma yn LGBTQymru wedi bod yn siarad am eu profiad o gydweithio fel rhan o'n Cymuned hyd yn hyn...

Pam mae cynrychiolaeth LGBTQ+ yn bwysig yn y Cyfryngau Cymreig? Mae'n bwysig bod unigolion LGBTQ+ yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn maen nhw'n ei wylio a'i ddarllen. Ni ddylai byw mewn ardal arbennig o wledig yn hytrach na dinas fawr fel Caerdydd olygu eich bod chi'n teimlo'n unig. Mae'n bwysicach fyth bod straeon Queer, fel y rhai y mae LGBTQymru yn eu hadrodd, yn dod o bob ardal ac ar gael i'w darllen ym mhob ardal; mae hygyrchedd ar-lein y cylchgrawn yn ddelfrydol. Evie Barker

LGBTQYMRU

27


Beth wnaeth eich ysgogi chi i gyflwyno cais i fod yn ohebydd a pham gyda chylchgrawn LGBTQymru? Roeddwn i eisiau ceisio am swydd gyda LGBTQymru oherwydd pa mor groesawgar y bu'r gymuned queer ledled Cymru i mi. Roedd yn teimlo fel y cyfle perffaith i gyfrannu yn ôl i'r gymuned a helpu i chwyddo lleisiau unigolion LGBTQ+, gan feithrin rhywfaint o brofiad fel newyddiadurwr ar yr un pryd. Matthew Tordoff

Sut brofiad fu gweithio o bell yn ystod pandemig? Nid oedd gweithio yn ystod pandemig fyth yn mynd i fod yn hawdd, ond mae'n rhyfeddol o hydrin mewn rhai sefyllfaoedd bellach oherwydd mae'r dechnoleg ar gyfer gweithio o bell yn weddol hygyrch. Fen Shields

28

LGBTQYMRU


Pa sgiliau ydych chi wedi’u meithrin/ datblygu fel rhan o’r tîm LGBTQymru? Rwyf wedi magu llu o brofiad newyddiadurol, o gyfweld i gyflwyno erthyglau. Rwyf hefyd wedi cael cyfle i arddangos fy ngwaith celf a phrosiectau angerdd, ac rwyf mor ddiolchgar i'r bwrdd golygyddol am hynny. Evie Barker

Sut y bu’r perthnasoedd a ffurfiwyd yn yr amgylchedd gwaith hwn yn rhai cadarnhaol i chi? Rydw i wedi cael amser anhygoel yn gweithio gyda phawb yn LGBTQymru! Mae hi wedi bod mor galonogol bodoli a gweithio mewn gofod queer agored ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu at yr erthyglau anhygoel rydym ni wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol. Matthew Tordoff

LGBTQYMRU

29


Rhwydwaith Staff Traws y Brifysgol Agored Ym mis Tachwedd 2020, ar ôl moment o ysbrydoliaeth am hanner nos, penderfynodd Amo King sefydlu Rhwydwaith Staff Traws y Brifysgol Agored.

gan Charles Stylianou

Y cynllun cychwynnol oedd cyhoeddi diweddariad ar ffurf e-bost a chynnal cyfarfod rhithwir bob mis i sicrhau bod y rhwydwaith yn gynaliadwy, gan gychwyn yn fach ac adeiladu o’r pwynt hwnnw. “Waeth pa mor gefnogol yw eich cydweithwyr, mae’n gallu bod yn anodd pan rydych chi’n teimlo’n sylweddol wahanol i’r rheini o’ch cwmpas chi, yn enwedig oherwydd ei bod hi’n gallu bod yn anodd egluro rhai o heriau bywyd bob dydd i gydweithwyr sydd y tu allan i’r gymuned.” “Fel person traws-wrywaidd y mae fy rhywedd yn cael ei ddarllen i’r naill gyfeiriad a’r llall gan ddieithriaid, roeddwn yn teimlo nad oeddwn yn gallu cymryd rhan lawn mewn rhai digwyddiadau

30

LGBTQYMRU


“Waeth pa mor gefnogol yw eich cydweithwyr, mae’n gallu bod yn anodd pan rydych chi’n teimlo’n sylweddol wahanol i’r rheini o’ch cwmpas chi, yn enwedig oherwydd ei bod hi’n gallu bod yn anodd egluro rhai o heriau bywyd bob dydd i gydweithwyr sydd y tu allan i’r gymuned.”

cymdeithasol oherwydd roedd gennyf bryderon ynghylch defnyddio’r tai bach yn y bariau prysuraf yng nghanol dinas Caerdydd. Roedd hyn yn golygu y byddwn yn gadael yn gynnar, yn osgoi digwyddiadau cymdeithasol yn gyfan gwbl, neu hyd yn oed yn sleifio yn ôl i'r swyddfa pan oeddwn i eisiau defnyddio'r tŷ bach. " Mae cydweithwyr wedi disgrifio teimlad o obaith a rhyddhad ynghylch y cyfle i allu meithrin cysylltiadau ledled y Brifysgol Agored. Yn ogystal, mae'r rhwydwaith wedi darparu lle i'r rheini sy'n dechrau archwilio eu hunaniaethau, drwy brofi’r rhagenwau a’r enwau a ddewiswyd ganddynt, heb ei bod yn anorfod iddynt fentro i mewn i drawsnewid yn gymdeithasol o fewn y gymuned waith ehangach. “Un o’r heriau mwyaf fu cynnal y camau cadarnhaol ymlaen yng nghyd-destun yr hinsawdd bresennol o elyniaeth tuag at bobl draws yn y DU. Ynghyd â phwysau’r cyfnodau clo, mae'n flinedig yn emosiynol ymgysylltu â materion LGBT+ a materion o gynhwysiant o ran pobl draws yn y gwaith."

“Tra bod enwogion fel Sam Smith ac Elliot Page yn dod â hunaniaethau traws i mewn i eirfa mwy o bobl, mae diffyg cefnogaeth gan y llywodraeth ynghyd â’r cynnydd mewn rhoi llwyfan i leisiau yn erbyn pobl draws o fewn y cyfryngau yn dechrau cael effaith.” “Fodd bynnag, rwyf wedi derbyn llawer iawn o gefnogaeth, gan gydweithwyr uniongyrchol yn ogystal â chynghreiriaid, y mae llawer ohonynt wedi mynd allan o’u ffordd i gynnig cyngor ac anogaeth wrthi imi weithio ar ledaenu’r neges.” Mae'r ymateb i'r rhwydwaith wedi bod yn gadarnhaol dros ben, gyda chefnogaeth gan Ddeon Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd y Brifysgol Agored, yr Athro Marcia Wilson. Dros y flwyddyn nesaf, mae Amo yn bwriadu canolbwyntio ar gysondeb i ehangu a sefydlu'r rhwydwaith. “Er bod cyswllt cryf rhwng galwadau fideo a bywyd o dan glo, mae cyfarfod ar-lein wedi golygu ein bod I gael rhagor o wybodaeth, chwiliwch am Gydraddoldeb yn y Brifysgol Agored neu cysylltwch â people-services-EDI@ open.ac.uk LGBTQYMRU

31


Ty Pride Rydym yn ysu am fwy o leoedd diogel i bobl ddigartref LGBTQ+

Mae rheolwr prosiect llety â chymorth LGBTQ+ cyntaf Cymru yn dweud ei bod yn “ysu” iddo dyfu, wrth i fwy o bobl ifanc LGBTQ+ wynebu digartrefedd.

gan Jordan Howell

Mae’r prosiect Tŷ Pride wedi'i leoli yn y Rhyl, Sir Ddinbych, ac fe’i sefydlwyd gan yr elusen digartrefedd ieuenctid Llamau, ar ôl i waith ymchwil ddangos bod pobl ifanc yn y gymuned LGBTQ+ bedair gwaith yn fwy tebygol o ddod yn ddigartref na'u cyfoedion nad ydynt yn LGBTQ+.

Cafodd yr enw 'Tŷ Pride' gan rai o'i gynbreswylwyr.

Mae Emma Evans yn gyfrifol am yr eiddo tair ystafell wely, sy'n gweithredu fel lle diogel a chynhwysol heb feirniadaeth i'r rhai sydd wedi'u gwneud yn ddigartref, neu sydd dan fygythiad o hynny.

Unwaith y bydd person ifanc yn cael ei atgyfeirio, maent yn symud i'r tŷ ac yn cychwyn ar raglen o gymorth sgiliau bywyd dwys - sy’n rhoi strwythur a threfn iddynt ar unwaith. Mae’r preswylwyr yn dysgu sut i gyllidebu ac ymdopi â byw ar eu

32

LGBTQYMRU

Meddai Emma: “Mae'n brosiect mor unigryw ac arbennig, ac mae angen mor enfawr am fwy o brosiectau fel hyn.”


pennau eu hunain, a hyd yn oed sut i gofrestru gyda meddyg teulu a deintydd. Gallant hefyd gymryd rhan mewn nosweithiau ffilm, grwpiau cerdded a gweithgareddau eraill, a chael y profiad syml o fyw gyda phobl eraill o’r gymuned LGBTQ+. Dywedodd un person ifanc sy’n byw yn Tŷ Pride: “Dim ond 3 pherson sy’n byw yma ac rydym i gyd yn dod o’r un gymuned, felly rydym ni’n teimlo ein bod ni i gyd yr un fath. Rwyf wedi profi homoffobia mewn prosiectau eraill.” Gan fod y lle yn Tŷ Pride yn gyfyngedig iawn, a bod arhosiad pob unigolyn yn dibynnu ar eu hanghenion unigol, mae'r rhai na allant symud i mewn ar unwaith yn cael eu cefnogi gan un o bartneriaid allweddol y prosiect, Viva, sy’n darparu cymorth LGBTQ+ arbenigol i’r prosiect,

ar gyfer y bobl ifanc a’r tîm staffio. Mae’n gwneud hyn drwy grwpiau ieuenctid a chymorth un i un, a hyfforddiant LGBTQ+ penodol. “Rydym ni wir eisiau bod yn fwy, ac eisiau gallu tyfu fel y gallwn ni geisio helpu cymaint o bobl ifanc ag y gallwn ni,” meddai Emma. “Rydym ni’n ysu i dyfu, yn ysu’n fawr, oherwydd rydym ni’n gwybod bod yr angen yno.” Cafodd Tŷ Pride ei lansio ym mis Rhagfyr 2019 yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad 'Out On the Streets' am ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan End Youth Homelessness Cymru, a oedd yn argymell agor prosiectau llety â chymorth LGBTQ+ penodol. Daeth Llamau, Viva a Chyngor Sir Ddinbych ynghyd mewn partneriaeth unigryw i agor llety LGBTQ+ cyntaf Cymru yn y gobaith nad hwn fyddai’r unig un. LGBTQYMRU

33


“Mae'n brosiect mor unigryw ac arbennig, ac mae angen mor enfawr am fwy o brosiectau fel hyn.”

Wrth siarad yn ddiweddar â The Big Issue, dywedodd Sam Lewis, Cyfarwyddwr Gweithredol Llamau: “Roeddem yn gwybod bod canran y bobl LGBTQ+ sy’n gorfod cael mynediad i’n heiddo oherwydd eu bod yn ddigartref yn cynyddu ac roedd yr ymchwil yn ategu cymaint o broblem oedd hynny. “Fe gadarnhaodd hefyd faint yn fwy agored i wahaniaethu oedden nhw, ac i deuluoedd yn chwalu, i stigma ac i'r niwed seicolegol ychwanegol sy’n mynd ochr yn ochr â cheisio cael eich derbyn yn eich cymuned am fod yn chi eich hunan.” Hyd yma, mae bron i 50 o bobl rhwng 16 a 25 oed wedi cael eu hatgyfeirio i Tŷ Pride, o bob cwr o Gymru. Daeth yr atgyfeiriadau hynny gan asiantaethau trydydd sector eraill, awdurdodau lleol, timau iechyd meddwl, timau digartrefedd, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau plant a phobl ifanc. Mae'r tîm mewn cysylltiad rheolaidd â’i bartneriaid allweddol, Cyngor Sir Ddinbych a Tai Gogledd Cymru, i geisio dod o hyd i eiddo newydd y gall eu defnyddio, er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc y gallant eu cefnogi. Gallwch ganfod mwy am y prosiect, a sut i gael cefnogaeth, ar wefan Llamau llamau.org.uk

34

LGBTQYMRU


Chwali Mythiau HIV Ar y cyd â Fast-Track Cities, Caerdydd a'r Fro, rydym wedi dod â nifer o ffeithiau ynghyd i godi ymwybyddiaeth ynghylch HIV gyda'r nod o ddileu'r stigma a dod â ni'n agosach at y nod o gael dim trosglwyddiadau newydd erbyn 2030.

GALL UNRHYW UN GAEL HIV Nid yw feirysau’n gwahaniaethu. Mae 30% o’r achosion newydd yng Nghymru ymysg menywod. (https://www.gov.uk/government/ statistics/hiv-annual-data-tables)

MAE HIV YN DAL I FOD YN BROBLEM Cafodd 123 o bobl ddiagnosis newydd o HIV yng Nghymru yn 2019. Derbyniodd dros 2,300 o bobl sy'n byw yng Nghymru ofal HIV yn 2019. (https://www.gov. uk/government/statistics/hivannual-data-tables)

LGBTQYMRU

35


NI ALL POBL SY'N CAEL TRINIAETH EFFEITHIOL DROSGLWYDDO’R FEIRWS Ni all rhywun sy'n byw gyda HIV ac sydd ar driniaeth effeithiol ei drosglwyddo. Mae’r tebygolrwydd y byddwch yn trosglwyddo HIV yn gysylltiedig â faint o’r feirws sydd yn eich gwaed. Mae triniaeth effeithiol yn lleihau faint o’r feirws sydd i lefelau anghanfyddadwy (bod â llwyth feirysol anghanfyddadwy). Mewn astudiaethau lle cafodd partner HIV positif â llwyth feirysol anghanfyddadwy ryw â phartner HIV negyddol, ni chafwyd unrhyw achosion o drosglwyddo HIV. Anghanfyddadwy = Anhrosglwyddadwy (A=A)

MAE PREP YN ATAL HEINTIO GYDA HIV OS CAIFF EI GYMRYD CYN CAEL RHYW Mae PrEP yn sefyll am pre-exposure prophylaxis. Mae'n bilsen y gall person heb HIV ei chymryd bob dydd i'w hatal rhag cael HIV. Mae ar gael i bobl sydd â risg uwch mewn clinigau iechyd rhywiol.

GALL PEP ATAL HEINTIO AR ÔL CAEL RHYW Mae PEP yn sefyll am postexposure prophylaxis. Mae'n gyfuniad o gyffuriau HIV a all atal y feirws rhag gafael. Rhaid ei gymryd o fewn 72 awr, ond gorau po gyntaf.

MAE'N HAWDD CAEL PRAWF Mae profion cartref bellach ar gael yng Nghymru i brofi am clamydia, gonorrhoea, HIV, syffilis, hepatitis B a hepatitis C. Gallwch archebu'r citiau yn friskywales.org ac yna eu postio’n ôl i'r labordy yn yr amlen ragdaledig.

36

LGBTQYMRU


MAE HIV AC AIDS YN WAHANOL AIDS yw cam hwyr yr haint HIV. Nid yw pobl sydd wedi’u heintio â HIV ac sydd ar driniaeth effeithiol yn datblygu AIDS, gan fod y driniaeth yn atal niwed i'r system imiwnedd.

MAE GAN BERSON SY'N BYW GYDA HIV DDISGWYLIAD OES TEBYG I BERSON HIV NEGYDDOL Ar yr amod eu bod yn cael diagnosis mewn da bryd, mynediad da at ofal meddygol, a’u bod yn gallu cadw at eu triniaeth HIV.

GALL MENYWOD SY'N BYW GYDA HIV ROI GENEDIGAETH I BLANT HEB DROSGLWYDDO HIV Os dilynwch y cyngor meddygol yn agos, byddwch yn amddiffyn eich babi rhag trosglwyddiad o’r fam i’r plentyn.

MAE STIGMA YNGHYLCH HIV YN BROBLEM YNG NGHYMRU Gall siarad yn agored am HIV helpu i normaleiddio'r pwnc. Bydd gwella addysg ac ymwybyddiaeth yn helpu i leihau’r stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

LGBTQYMRU

37


Taclo Iechyd Meddwl Mae Nigel Owens yn ddyfarnwr rygbi byd-enwog, yn ffermwr ac, ers sawl blwyddyn bellach, yn hyrwyddwr brwdfrydig ymwybyddiaeth o iechyd meddwl. gan Matthew Tordoff

Mae wedi amlygu iechyd meddwl dynion mewn chwaraeon ac wedi siarad yn onest am ei frwydrau ei hun ag iselder a bwlimia. Siaradais â Nigel am ei yrfa, ei waith gweithredu, a'i obeithion ar gyfer dyfodol iechyd meddwl mewn rygbi a thu hwnt. Mae Nigel Owens yn priodoli ei ddiddordeb mewn rygbi i'w blentyndod oherwydd, meddai “roedd rygbi yn rhan o dyfu i fyny yng Nghymru; mae yn eich DNA.” Fe wnaeth yr angerdd a’r penderfyniad hwnnw helpu i yrru ei yrfa i uchelfannau digyffelyb, lle bu’n dyfarnu rhai o dwrnameintiau mwyaf yr undeb rygbi. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol y llynedd, er ei fod wedi bod yn brysur ers hynny drwy helpu i roi amlygrwydd i iechyd meddwl ym myd 38

LGBTQYMRU

rygbi. “Rhwng y gwaith teledu a'r siarad [am iechyd meddwl], ac yn amlwg y gwaith fferm, chi’n gwybod, ni fu unrhyw amser sbâr mewn gwirionedd.” Bu newid amlwg yn niwylliant rygbi dros y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd gweithredwyr fel Nigel sydd wedi helpu i siarad yn erbyn gwrywdod gwenwynig mewn chwaraeon. Meddai: “oherwydd byd macho rygbi, a’r ddelwedd macho o rygbi, mae’n anodd iawn dychmygu dod allan, mewn gwirionedd. Ond yn amlwg, pan wnes i, roedd y gymuned rygbi, o’r chwaraewyr, i’r gwylwyr, yr hyfforddwyr, y cofrestryddion a fy nghyd-ddyfarnwyr, i gyd yn gefnogol iawn. Mae'n dangos mewn gwirionedd bod rygbi yn gamp amrywiol a chynhwysol.”


“NID YW DANGOS BREGUSRWYDD YN ARWYDD O WENDID; MEWN GWIRIONEDD MAE'N ARWYDD O'CH CRYFDER."

By Florian Christoph from Dublin, Ireland

Mae'r agwedd hon o fod yn agored o ran rhywioldeb ac iechyd meddwl yn newid i'w groesawu ac yn un angenrheidiol hefyd. Darganfu arolwg gan yr RPA fod 62% o chwaraewyr rygbi sydd wedi ymddeol wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl. Mae Nigel am herio’r agwedd “dioddef mewn distawrwydd” hon. Mae'n bendant bod siarad am iechyd meddwl a chreu deialog agored yn gam cyntaf angenrheidiol i ddynion mewn chwaraeon: “nid yw dangos bregusrwydd yn arwydd o wendid; mewn gwirionedd mae'n arwydd o'ch cryfder.” Gofynnais sut y mae’n gallu siarad mor agored am bynciau mor drawmatig, a thrafod ei brofiad ei hun mewn manylder. Dywedodd wrthyf fi

“dim ond gwybod ei fod yn helpu. Ei fod yn codi ymwybyddiaeth am yr holl feysydd gwahanol hynny sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, oherwydd pan oeddwn i'n cael trafferth ag ef fy hunan, pe bai unrhyw un arall wedi bod allan yna a oedd wedi bod yn siarad am y profiad hwnnw, byddai wedi fy helpu'n fawr." Mae gwaith eiriolaeth Nigel ynghylch y pwnc iechyd meddwl wedi helpu i leihau’r stigma o amgylch iechyd meddwl mewn chwaraeon dynion. “Mae yna lawer o waith i’w wneud, ond mae pethau wedi newid. Maen nhw'n gwella, does dim amheuaeth am hynny. Mae yna gamau ar waith nawr i annog pobl i siarad amdano [iechyd meddwl].” Ar ddiwedd ein sgwrs, fe adawodd gan roi neges i unrhyw un sy'n cael trafferth gyda phroblemau iechyd meddwl: “gallwch chi ddod drwyddo; dydych chi ddim ar eich pen eich hunan. Mae yna lawer o bobl allan yna, pobl y byddech chi'n eu disgwyl leiaf, sydd wedi bod neu sy'n mynd drwy broblemau iechyd meddwl.” LGBTQYMRU

39


40

LGBTQYMRU


LGBTQYMRU

41


Iechyd a Lles Cyffur Cariad Mae ‘chemsex’, sef yr enw a roddir i’r weithred o gymryd cyffuriau (yn enwedig GHB, crisialau meth a meffedron) i wella profiadau rhywiol, yn tarddu o sîn hoyw Llundain yn y 1990au.

gan Fen Shields

Ar y sîn, mae GHB yn cael ei alw weithiau yn “Gina” neu “G”, cyfeirir at risialau meth yn aml fel “Tina” neu “ice”, ac mae gan meffedron y llysenw “meow meow”.

ar unwaith i bobl at ddarpar bartneriaid a hyd yn oed gwerthwyr cyffuriau cyfagos. Mae hyn i gyd yn helpu i roi statws i chemsex o fewn y diwylliant bachu hoyw.

Defnyddir y cyffuriau hyn oherwydd eu gallu i gynyddu libido drwy wneud pobl yn llai hunanymwybodol, a gallant gadw person yn effro am ddyddiau ar y tro. Mae hyn i gyd yn caniatáu i'r defnyddwyr gael partïon rhyw am sawl diwrnod heb flino na phoeni gormod am ganlyniadau posibl y gweithredoedd hyn. Er iddo ddechrau cyn troad y ganrif, cynyddodd poblogrwydd chemsex yn fawr pan ryddhawyd apiau mynd-ar-ddêt i bobl hoyw, fel Grindr. Mae'r dechnoleg fodern hon yn rhoi mynediad

Ar yr olwg gyntaf, gall chemsex ymddangos yn ddeniadol oherwydd pa mor hawdd yw hi i gael gafael ar y cyffuriau a chyfranogwyr parod. Fe’i defnyddir i demtio pobl gyda'r cynnig o amser sy'n ymddangos yn dda, ond nid yw’r peryglon niferus a ddaw yn sgil chemsex yn cael eu trafod yn ddigonol. Er enghraifft, dylai pobl wybod nad yw GHB yn gyffur diogel i yfed ag ef gan ei fod yn cynyddu'r siawns o orddosio. Mae hyn yn arbennig o beryglus oherwydd ei fod yn un o'r cyffuriau hawsaf i orddos arno fel y mae, sy'n

42

LGBTQYMRU


"Mae gan bob cyffur ei risgiau ei hun, ond mae'r diwylliant o'i gwmpas yn caniatáu iddo fod hyd yn oed yn fwy anniogel."

golygu bod yn rhaid i'r mesuriadau fod yn fanwl gywir. Mae gan bob cyffur ei risgiau ei hun, ond mae'r diwylliant o'i gwmpas yn caniatáu iddo fod hyd yn oed yn fwy anniogel. Oherwydd bod y cyffuriau hyn yn gwneud i bobl deimlo’n llai hunanymwybodol, mae'n gyffredin i bobl sy'n cymryd rhan mewn chemsex gymryd rhan mewn rhyw heb ddiogelwch sy'n eu gwneud yn agored i heintiau a drosglwyddir yn rhywiol .

gofyn i chi weithio tuag at ostwng a rheoli'ch defnydd o gemegau, sy'n gyraeddadwy iawn gyda'r gefnogaeth y mae'n ei chynnig. Cadwch yn ddiogel.

Mae gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins adnoddau i helpu a chefnogi dynion LGBT+ sy’n HIV positif, sy’n cymryd rhan mewn chemsex. Mae’n cynnal sesiynau y gallwch chi ymuno â nhw drwy ei gwefan. Er nad yw’n gofyn i chi roi'r gorau i'r ffordd hon o fyw yn llwyr, mae'n

LGBTQYMRU

43


Our resident psychotherapist, Andy Garland, founder and clinical director at Andy Garland Therapies, the mental health clinic, joins the LGBTQymru team to answer your questions. 44

LGBTQYMRU


"Rwy'n deall y gall bod yn agored ac yn onest, yn enwedig ar ddechrau perthynas newydd, fod yn bwysig. Gallwch fod yn bryderus ynghylch cael eich gwrthod, neu fod partner ddim yn deall yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn HIV positif yn 2021. Mae'r mwyafrif o’r stigma yn tarddu o ddiffyg gwybodaeth." CWESTIWN Rwyf wedi dechrau gweld rhywun ac mae angen cyngor arnaf fi. Rwy'n HIV positif ac nid wyf yn gwybod pryd y dylwn ddatgelu fy statws iddynt.

ATEB Dydych chi ddim ar eich pen eich hunan gyda hyn. Mae yna lawer o agweddau ar ddiagnosis HIV sy'n mynd y tu hwnt i unrhyw ymyrraeth feddygol. Gall delio â'r agweddau emosiynol, bob dydd fod yn heriol, ac wrth gwrs, gall gael effaith niweidiol ar eich iechyd meddwl. Nid oes un ateb pendant i'ch cwestiwn gan fod cymaint o newidynnau i'w hystyried. Efallai yr hoffech chi feddwl am sut rydych yn gweld y berthynas newydd hon; allwch chi ymddiried yn y person hwn; ydych chi a'ch partner yn defnyddio condomau; a yw'ch partner yn cymryd PrEP; ydych chi'n gwybod beth yw statws eich partner; a yw eich cyfrif CD4 yn iach; a yw eich llwyth feirysol dan reolaeth. Dylai meddwl am y cwestiynau hyn eich arwain yn agosach at eich ateb. Mae dweud wrth bartner newydd neu beidio yn ddewis - mae'n weithred o gydbwyso eich hawl i breifatrwydd a bod yn onest. Nid oes unrhyw

gyfraith yn y DU sy'n dweud bod yn rhaid i chi ddweud wrth bartner am eich statws HIV, er bod deddfau ynghylch trosglwyddo di-hid yng Nghymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu, pe bai partner yn dal HIV, o ganlyniad i ryw heb ddiogelwch, ac nid oeddent yn ymwybodol o'ch statws positif chi, gallech chi gael eich erlyn. Os ydych chi ar feddyginiaeth gwrth-retrofeirysol gyda llwyth feirysol wedi'i atal, a'ch bod yn glynu at ei gymryd, mae'r dystiolaeth feddygol yn dweud wrthym na allwch chi drosglwyddo HIV. Cofiwch, mae gennych chi feirws, felly peidiwch byth â theimlo bod yn rhaid i chi ymddiheuro am fod yn HIV positif. Rwy'n deall y gall bod yn agored ac yn onest, yn enwedig ar ddechrau perthynas newydd, fod yn bwysig. Gallwch fod yn bryderus ynghylch cael eich gwrthod, neu fod partner ddim yn deall yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn HIV positif yn 2021. Mae'r mwyafrif o’r stigma yn tarddu o ddiffyg gwybodaeth. Efallai eich bod yn fwy gwybodus na'ch partner, felly gallwch chi helpu i ehangu eu dealltwriaeth neu efallai y byddant yn gallu dysgu ychydig o bethau i chi hefyd! LGBTQYMRU

45


"Efallai eich bod wedi cwrdd â phobl drawsryweddol eraill ac yn perthyn i gymuned sydd â phrofiadau tebyg i chi, ac sydd wedi teimlo eich bod yn cael cefnogaeth ganddynt. Pan fyddwch chi'n dweud wrth riant, mae eu taith yn cychwyn ar y pwynt hwnnw - mae ganddyn nhw lawer i'w ddysgu a'i dderbyn."

46

LGBTQYMRU


sylweddoli a derbyn eich bod yn drawsryweddol. Byddwch chi wedi dysgu'r holl dermau, labeli a lingo. Efallai eich bod wedi cwrdd â phobl drawsryweddol eraill ac yn perthyn i gymuned sydd â phrofiadau tebyg i chi, ac sydd wedi teimlo eich bod yn cael cefnogaeth ganddynt. Pan fyddwch chi'n dweud wrth riant, mae eu taith yn cychwyn ar y pwynt hwnnw - mae ganddyn nhw lawer i'w ddysgu a'i dderbyn.

Os ydych chi’n dewis dweud wrth eich partner, gwnewch bethau’n syml; does dim rhaid i chi rannu stori gyfan eich bywyd. Dywedwch wrthyn nhw beth sy'n teimlo'n gyffyrddus i chi ar y pwynt hwnnw - gallwch chi ychwanegu mwy wrth i chi ddod i adnabod eich gilydd, ac wrth i’ch hyder yn y berthynas dyfu. Anogwch nhw i ofyn cwestiynau, a gallech chi eu cyfeirio at wefan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins (www.THT.org.uk), lle gallwch ddod o hyd i gyfoeth o wybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar fyw gyda HIV.

CWESTIWN Sut y gallaf esbonio i fy mam y dylai hi fod yn cyfeirio ataf fel ei mab ac nid ei 'mab traws' wrth siarad â phobl? Dydw i ddim am frifo ei theimladau hi oherwydd rydym ni wedi dod mor bell ers i mi ddod allan, ond dydi hi byth yn fy ngalw i’n fab yn unig i bobl. Mae'n teimlo fel nad yw hi'n dal i'w dderbyn yn llawn.

ATEB Gallaf ddeall pa mor bwysig yw hi i chi gael eich adnabod gan ddefnyddio eich rhywedd cywir, yn enwedig ar ôl dod allan, sy’n gallu bod yn brofiad anodd yn emosiynol. I rai, gall y cam o ddod allan ymddangos fel rhan olaf y jig-sô, er bod llawer mwy i'w gwblhau cyn i chi agosáu at weld y darlun cyflawn. Mae'n swnio o'ch cwestiwn bod eich mam yn ceisio ei gorau glas, a gallwch chi weld hynny. Efallai eich bod wedi cael sawl blwyddyn i

Ychydig iawn o rieni sy'n dychmygu y gallai eu plentyn fod yn drawsryweddol; gall hyd yn oed y rhai sy'n cwestiynu mynegiant rhywedd eu plentyn deimlo’n ddryslyd, yn ddig ac yn ofidus. Efallai eich bod wedi gweld rhywfaint o hyn yn dod i’r amlwg yn y dyddiau, wythnosau a misoedd ar ôl i chi ddod allan. Mae cael eich galw yn fab eich mam yn gadarnhad o'ch rhywedd, ac rydw i'n deall hynny. Rwy'n cofio ar ôl dod allan i fy rhieni, a'r sgwrs gychwynnol ynghylch 'beth fydd y cymdogion yn ei feddwl', byddai fy mam yn fy nghyflwyno i'w ffrindiau fel 'fy mab hoyw'! Roedd hynny’n teimlo'n anghyffyrddus, ac rwy'n cofio edrych arni drwy gornel fy llygad, er ei bod yn gwneud ei gorau i dderbyn y sefyllfa, a chanfod ei ffordd mewn byd nad oedd hi'n gwybod dim amdano. Felly, gallai'r hyn nad ydych chi'n ei deimlo sy’n dderbyniad llawn fod yn broses ddysgu i’ch mam, ac efallai hyd yn oed yn ffordd o ddangos ei bod ymfalchïo ynoch chi, ei mab. Gallech chi helpu'ch mam drwy ei hannog i ofyn cwestiynau, a chaniatáu iddi wneud camgymeriadau. Yn union fel fy swydd fel therapydd, nid yw gweithio gyda materion hunaniaeth rhyweddol yn fy ngwneud yn arbenigwr - does gen i ddim profiad byw o fod yn drawsryweddol, ac weithiau byddaf yn gwneud camgymeriadau. Y peth pwysig yw ein bod yn cywiro ein dealltwriaeth ac yn parchu'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn berson trawsrywiol. Mae elusen wych o'r enw Mermaids (mermaidsuk. org, uk), ac maen nhw'n cefnogi'r plentyn / person ifanc a'u rhieni - rydych chi o bosib yn hŷn na pherson ifanc, er mae’r cyngor i rieni yn addysgiadol ac yn ddefnyddiol iawn. Efallai y cewch eich siomi ar yr ochr orau pa mor dda y mae eich mam yn ymgysylltu â’r sgyrsiau hyn rydych chi’n gwneud yn wych! LGBTQYMRU

47


Clybiau Chwaraeon sy'n Gynhwysol i Bobl LGBTQ+ gan Imogen Coombs

Elyrch Balch Sefydlwyd Elyrch Balch yn 2014 gyda'r nod o gefnogi a meithrin cynhwysiant LGBT+ ar gyfer cefnogwyr a staff clwb pêl-droed Dinas Abertawe. I Andrew, sylfaenydd Elyrch Balch, mae Clwb Dinas Abertawe yn lle y gall fynd i ddianc iddo rhag bywyd bob dydd ac mae’n ei ystyried yn ofod diogel iddo. Uchelgeisiau Elyrch Balch ar ôl covid yw parhau i dyfu ei gymuned a lledaenu ei neges i'r gymdeithas ehangach. Yn y dyfodol, mae gan aelodau Elyrch Balch ddiddordeb mewn gweithio gydag elusennau, ymweld ag ysgolion a rhoi sgyrsiau, a chynnal digwyddiadau yn y stadiwm hyd yn oed i ledaenu neges yr hyn y mae Elyrch Balch yn ei gynrychioli. Pan ofynnwyd i’r grŵp am ffaith hwyliog am chwaraeon, rhoddodd un ddiddorol, sef bod Fifa yn nodi’n swyddogol bod pêl-droed yn

48

LGBTQYMRU

tarddu o Tsieina dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl, a bryd hynny fe'i gelwid yn Cuju. Mae Elyrch Balch wedi gwneud gwaith anhygoel i wneud pêl-droed yn Ninas Abertawe yn fwy cynhwysol ac ni allwn aros i weld beth fydd y clwb yn gweithio arno yn y dyfodol.


"Mae Elyrch Balch wedi gwneud gwaith anhygoel i wneud pêl-droed yn Ninas Abertawe yn fwy cynhwysol ac ni allwn aros i weld beth fydd y clwb yn gweithio arno yn y dyfodol."

LGBTQYMRU

49


KARMA SEAS CIC Mae Karma Seas CIC yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant mewn syrffio, gweithgareddau traeth, ioga ac ymwybyddiaeth ofalgar. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw ddarpariaeth LGBT+ arall yn y DU sy'n gysylltiedig â syrffio, sy'n gwneud Karma Seas ychydig yn fwy arbennig. Ar ôl y cyfnod clo, mae’r grŵp yn gobeithio ailddechrau sesiynau a chroesawu aelodau newydd i’w grwpiau oedolion ac ieuenctid, er mwyn sicrhau bod y gymuned LGBT+ yn cael cyfleoedd i gymryd rhan.

50

LGBTQYMRU

A oeddech chi’n gwybod? Syrffio yw un o'r campiau hynaf ar y Ddaear. Yn ddiweddar, gwnaeth archeolegwyr ddarganfod cerfluniau cerrig cynhanesyddol yn Chan Chan, Periw sy'n dyddio'n ôl dros 5,000 o flynyddoedd ac sy’n dangos pobl yn syrffio. Mae Karma Seas yn dod â’r Tonnau i Bawb ac mae'n sefydliad sy'n glod i Gymru!


LLEWOD CAERDYDD Llewod Caerdydd yw’r clwb rygbi hynaf yng Nghymru sy’n gynhwysol i bobl hoyw ac fe’i sefydlwyd ar 1 Mawrth 2004. Mae'r clwb yn darparu hafan ddiogel i bobl yn y gymuned lgbtqia+ fwynhau a chwarae rygbi heb bwysau nac ofn. Mae cadeirydd Llewod Caerdydd, Gareth, yn nodi ‘mae'r clwb ei hun yn deulu y dewisais ei gael ac rwy'n eu caru i gyd’.

Ffaith hwyliog! Bydd y mwyafrif o bobl yn y gymuned rygbi a'r tu allan iddi yn gwybod am yr Haka, y ddawns ryfel a berfformir gan y Crysau Duon yn Seland Newydd cyn pob gêm. Fodd bynnag, ar 16eg Tachwedd 1905, Cymru oedd y tîm cyntaf i'w herio wrth iddynt berfformio'r Haka drwy ddechrau canu "Hen Wlad Fy Nhadau”.

Mae Covid wedi golygu bod Llewod Caerdydd wedi gorfod cynnal sesiynau hyfforddiant rygbi ar-lein, ond mae ysbryd a morâl y clwb yn dal i ddisgleirio.

LGBTQYMRU

51


Adolygiad o'r Nofel Loveless Mae llyfr Alice Oseman, Loveless, yn paratoi'r ffordd ar gyfer ffuglen gynhwysol. Mae’n mynd ymhell o'r gynrychiolaeth ymylol arferol, gan fod y nofel hon i oedolion ifanc yn rhoi’r awenau i brif gymeriad Anrhywiol Aromantig. gan Evie Barker

Mae Loveless yn llawn cynhesrwydd dod o hyd i'ch teulu Queer ac yn ein hannog i ehangu ein diffiniad o gyfeillion enaid i gynnwys cyfeillgarwch platonig, sy’n gallu, fel y dywed Oseman, 'bod yr un mor ddwys, hardd a diddiwedd â rhamant'. Fel y mae'r teitl yn ei awgrymu, mae stereoteipiau ffug yn labelu bywydau anrhywiol fel rhai di-gariad. Rhaid inni wneud mwy i gynrychioli Anrhywioldeb yn gywir fel rhywbeth dilys a boddhaus, rhywbeth y mae Loveless yn ei gyflawni mewn ffordd bersonol ac ysgafn. Mae'r nofel yn darlunio'n llwyddiannus sut y gall y Brifysgol fod yn lle diogel i ddarganfod a mynegi eich hunan. Mae hyn yn gwneud 52

LGBTQYMRU

Loveless yn llyfr delfrydol i fyfyrwyr Queer sy'n methu eu cymuned amrywiol yn y Brifysgol yn ystod y cyfnod clo. Mae nofel Oseman yn cyffwrdd ar y rhagdybiaeth negyddol bod arbrofi yn anghenrheidiol wrth ddarganfod rhywioldeb. Yn ystod y cyfnod pan fydd Georgia yn cwestiynu ei hunan, mae hi’n cusanu dau unigolyn fel arbrawf; maent yn cael eu gadael yn teimlo eu bod wedi cael eu defnyddio ac mae Georgia wedi ei ffieiddio. Gall y naratif hwn fod yn ddifudd i unigolion Ace sy'n teimlo dan bwysau i gymryd rhan mewn 'profiadau arbrofol fel myfyrwyr' sydd wedi’u normaleiddio sy'n mynd yn groes i'w dewisiadau. Diolch byth, mae


Oseman yn cydnabod hyn; Mae ffrind Georgia yn sylweddoli - “You know when straight guys find out that a girl is gay and they’re all like ‘haha but you haven’t kissed me so how do you know you’re gay’. That’s basically what I did to you!!!”. Mae Loveless yn llawn enghreifftiau o normaleiddio rhagenwau ac mae ganddi gast amrywiol. Ond, ar brydiau, mae’n gwyro i'r ystrydebol. Efallai y bydd y penderfyniad i wneud Georgia yn fyfyriwr mewnblyg sy’n astudio Saesneg sydd ag obsesiwn am fanfiction yn apelio at rai, ond efallai nid at eraill, ac mae cynnwys negeseuon testun, er eu bod yn gynrychioliadol o'n hoes ni, yn gallu teimlo’n ffug ar adegau. Ond gall unrhyw unigolyn sydd wedi cwestiynu ei rywioldeb gael hyd i gipolwg ohono ei hunain yn y nofel hon. Enghraifft ddigrif o hynny yw’r cwis nodweddiadol 'Am I Gay?' y bydd pobl Queer yr oes ddigidol yn ei adnabod yn dda.

Mae un o gymeriadau Oseman yn ein hatgoffa nad yw Anrhywioldeb yn ymddangos mewn ffilmiau. Go brin ei fod yn ymddangos mewn sioeau teledu, a phan y bydd, mae'n is-blot bach iawn y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei anwybyddu. Pan fydd sôn amdano yn y cyfryngau, mae pobl yn trolio amdano’n ddiddiwedd. Mae rhai pobl queer hyd yn oed yn meddwl ei fod yn annaturiol neu'n ffug. Mae Loveless yn llyfr sydd yr un mor bwysig i bobl nad ydynt yn adnabod eu hunain fel unigolion Ace ag yw i’r gymuned Anrhywiol ac mae’n teimlo fel cam i'r cyfeiriad cywir ar gyfer cynwysoldeb unigolion LGBTQ+. Mae Loveless ar gael drwy wefan ei chyhoeddwyr, HarperColins, neu ym mhob siop lyfrau dda.

LGBTQYMRU

53


Fen Shields

Straeon Queer Mae Cymru’n llawn o wahanol leisiau a phrofiadau LGBTQ+, ac yn gymysgedd o wahanol straeon queer a straeon o lwyddiant.

54

LGBTQYMRU


"Mae'n ddatganiad pwerus o bwy ydym ni yn Sir Benfro, yn cyflwyno rhai anawsterau ond gobeithio yn grymuso pobl i gael sgyrsiau am y materion hyn ac, yn y pen draw, yn dathlu pobl queer LGBT+ yn ein holl falchder a gogoniant."

Mae Dr Sita Thomas, cyfarwyddwr sioe o’r enw Queer Tales, yn dweud wrthym ni am ei phrofiad a sut y gwnaeth hynny amlygu ei hun mewn sioe boblogaidd ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru... Pan ges i fy magu yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, ychydig iawn o fodelau rôl oedd yna y gallwn i uniaethu â nhw fel person o hil gymysg ac fel menyw queer. Es i drwy'r ysgol yn teimlo fy mod i'n wahanol, ond heb wybod pam mewn gwirionedd, neu fod â'r sgiliau i ddeall gwleidyddiaeth hil, rhyw a rhywioldeb. Mi wnes i ganfod fy mrwdfrydedd yn y celfyddydau perfformio, gan ganfod llawenydd wrth ddawnsio ac actio, ac aeth hyn â mi allan o Gymru, i geisio cyfle, i Lundain. Yn y fan hyn, fel aelod o’r National Youth Theatre, mi wnes i gyfarfod o'r diwedd â chymaint o bobl fel fi, o gynifer o wahanol gefndiroedd. Dechreuais ddeall fy hanes a’m treftadaeth ddiwylliannol, drwy rannu straeon, coginio, gwrando ar gerddoriaeth, gwylio perfformiadau theatr a ffilmiau, a mynd i gigs. Cefais fy neffro’n llawn mewn cymaint o ffyrdd! Rhywbeth a oedd bob amser ychydig yn anodd oedd fy mherthynas i â ‘gartref', yn ôl yng

Ngorllewin Cymru lle doeddwn i ddim yn teimlo bod fy hunaniaeth a fy rhywioldeb i’n cael eu derbyn, ac yn sicr doedden nhw ddim yn cael eu hystyried ‘y norm'. Gwnaeth hyn imi holi’n gryf pam roeddwn i ond yn teimlo'n gyffyrddus ac yn hyderus i fod yn fi fy hun yn llwyr ar ôl gadael Cymru? Beth fyddai angen ei newid fel na fyddai’n rhaid i bobl sy’n tyfu i fyny nawr adael er mwyn bodoli a byw’n rhydd yn eu hunaniaeth eu hunain? Ar ôl gorffen fy astudiaethau a PhD yn y Brifysgol, roedd hi'n bryd imi ddarganfod hynny. Cyflwynais y syniad o greu darn o theatr yn archwilio'r materion hyn a dyfarnwyd Preswyliad wedi’i Leoli i mi gyda Theatr Genedlaethol Cymru. I Kully Thiarai (y Cyfarwyddwr Artistig ar y pryd) y mae’r diolch am ei chefnogaeth a wnaeth i mi deimlo y gallwn ddod adref ac y gallwn ddathlu pwy ydw i; bod fy hunaniaeth a fy nghreadigrwydd o werth. Tra roeddwn i yn Llundain, clywais newyddion bod protest wedi ei chynnal yn Abergwaun. Roedd grŵp o bobl wedi dod ynghyd i sefyll dros hawliau LGBT+, yn erbyn llythyr homoffobig a ddosbarthwyd yn yr ardal. Gwelais ffotograffau o bobl yn dal baneri enfys, rhai mewn gwisgoedd drag, eraill yn cario placardiau gyda negeseuon fel 'We stand for love not hate' arnynt. Roedd yn LGBTQYMRU

55


teimlo fel achlysur pwysig, ac ni allwn fod wedi dychmygu'r math hwn o gefnogaeth ar y cyd i'n cymuned LGBT+ pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn Sir Benfro. Penderfynais estyn allan i’r bobl a fu’n rhan o’r brotest, i gysylltu ac i rannu straeon. Mae yna fath o theatr o'r enw ‘gair-am-air’, lle mae'r sgript yn cynnwys geiriau y mae pobl go iawn wedi'u dweud. Wrth feddwl am gynrychioli ein cymunedau, roedd hyn yn teimlo fel y math cywir o theatr i'w wneud, lle gellid adrodd straeon go iawn a chlywed lleisiau. Credaf fod cymaint o rym mewn cynyddu cynrychiolaeth cymunedau sydd ar y cyrion yn hanesyddol drwy ddiwylliant. Dros benwythnos, fe wnes i a chyfansoddwr o Ddinbych-y-Pysgod - Phoebe Osborne - ddod at ein gilydd mewn oriel gelf ar ôl cyhoeddi galwad am gyfranogwyr, a gobeithio y byddai pump o bobl efallai’n dod i ymweld i rannu eu straeon. Ni allwn i gredu, mewn tref fach, bod deugain o bobl a oedd yn nodi eu bod yn LGBT+

56

LGBTQYMRU

wedi ymweld. Roeddwn i wedi fy llorio, i gwrdd ag eneidiau hoff cytûn, ac i sylweddoli bod angen lle, i sgwrsio, i'r gymuned. Gwnaethom gynnal cyfweliadau, a datblygodd Phoebe ei dull o blethu geiriau a thystiolaeth pobl yn ganeuon; mae cerddoriaeth yn elfen bwysig o fy ngwaith i ac mae ganddi allu gwych i gyrraedd calon emosiwn yn gyflym iawn. Cafwyd sesiwn rannu ar ddiwedd y broses gyda'r holl gyfranogwyr, yn ogystal â phartneriaid theatr a chyllidwyr, a chawsom ymateb mor wych. Buom yn ddigon ffodus i dderbyn cyllid pellach gan Gyngor Celfyddydau Cymru, MGCfutures a Jerwood Bursaries i ddatblygu’r sgript a’r sgôr ymhellach, ac erbyn hyn mae gennym ni ddarn o theatr gig yn barod i gynnal gweithdy ar ei gyfer ac i deithio gydag ef. Bydd yn cael ei berfformio gan bedwar actor-gerddor, gyda cherddoriaeth fyw, a buaswn i wrth fy modd yn mynd ar daith i theatrau stiwdio, ysgolion a lleoliadau cymunedol. Mae'n ddatganiad pwerus


o bwy ydym ni yn Sir Benfro, yn cyflwyno rhai anawsterau ond gobeithio yn grymuso pobl i gael sgyrsiau am y materion hyn ac, yn y pen draw, yn dathlu pobl queer LGBT+ yn ein holl falchder a gogoniant. Gallwch wrando ar beth o'r gerddoriaeth yma. Os edrychwn ni ar ble rydym ni nawr, mae llawer wedi newid. Mae gennym ni beth ffordd i fynd o hyd, tuag at gydraddoldeb a rhyddid, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y byd. Rwy'n cymryd fy nghyfrifoldeb fel artist o ddifrif; mae hi mor bwysig i mi ddefnyddio’r sgiliau sydd gennyf fi i gyfrannu at newid cadarnhaol mewn cymdeithas drwy'r gwaith rwy'n ei greu. Rwyf hefyd yn cyflwyno sioe deledu i blant o'r enw milkshake! ar Sianel 5, ac roeddwn yn wirioneddol falch o fod wedi cyflwyno a chreu ffilm fer ar gyfer Pride yn dathlu cariad o bob math i'n cynulleidfa ifanc. Fe wnaethon ni rannu straeon am wylwyr ifanc milkshake! sy’n mwynhau eu bywyd

teuluol, gyda, er enghraifft, eu dwy fam neu eu dau dad. Hoffwn i bobl weld eu hunain a'u teuluoedd ar y teledu, ac i ysbrydoli empathi, parch a charedigrwydd tuag at bawb. Byddai wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi wrth imi dyfu i fyny mewn pentref glan môr bach i weld hyn ar y teledu, ac rydw i mor falch o allu gwneud ychydig o wahaniaeth nawr. Rwy’n edrych ymlaen at greu llawer o straeon, sioeau a ffilmiau sy’n rhoi amlygrwydd i naratifau LGBT+, ac ni allaf aros i weld beth sydd gan y dyfodol i’w gynnig inni i gyd.

LGBTQYMRU

57


Adolygiad o Disclosure Os ydych chi fel fi, efallai eich bod wedi cael profiadau negyddol gyda rhaglenni dogfen yn y gorffennol. Efallai ichi ddarganfod bod y rhai y gwnaethoch chi eu gwylio yn y pen draw yn glinigol, yn anneniadol neu hyd yn oed yn ecsbloetio'r gymuned yr oedd yn ei dogfennu. gan Fen Shields

Pan glywais am raglen ddogfen ynghylch cynrychiolaeth drawsryweddol mewn ffilm a theledu, rhaid imi gyfaddef fy mod yn poeni y gallai fod ar y ffurf hen ffasiwn o gael dyn gwyn cydryweddol yn rhoi bywydau traws o dan y microsgop ac yn gwthio naratif negyddol. Ond cefais fy siomi ar yr ochr orau. Roedd Disclosure yn seibiant hyfryd o'r arfer hwn. Roedd yn sensitif, annwyl a difyr - roedd yn archwiliad cynhesach, mwy agos atoch chi o'r pwnc nag a welais o'r blaen. Gweithiodd Sam Feder gyda grŵp amrywiol o enwogion trawsryweddol i gael cipolwg dilys a theimladwy ar effaith cynrychiolaeth ar y sgrin.

58

LGBTQYMRU


Gan archwilio enghreifftiau o ddyddiau cynnar y sinema hyd at y sioeau cyfoes, modern rydym yn gyfarwydd â nhw, gwerthusodd Disclosure sut roedd y gynrychiolaeth hon wedi effeithio ar farn y boblogaeth ehangach ynghylch pobl drawsryweddol. Wrth eu hystyried gyda’i gilydd (yn hytrach na fel sefyllfaoedd unigol), daeth anferthedd y materion i'r amlwg. Dyma un o'r rhesymau pam roedd y rhaglen ddogfen hon yn teimlo mor bwysig a pherthnasol i’r brwydrau LGBT+ cyfredol.

jôc. Mae'n edrych ar rai o’r portreadau mwy negyddol o’r gymuned ond mae'n trafod pam maen nhw’n negyddol a bod angen eu newid felly nid yw'n ddiangen.

Ceir rhybudd ynghylch noethni, trafodaethau am drais, a darluniau o ymosodiadau rhywiol, ond mae’r rhaglen yn ymdrin â’r rhain mewn modd parchus a sensitif. Mae Disclosure yn ddewr yn archwilio'r cysylltiadau yn y cyfryngau rhwng bod yn drawsryweddol a bod yn dreisgar, bod â salwch meddwl neu gael eich gweld fel

“Changing representation is not the goal. It’s just the means to an end.” - Susan Stryker.

Mae’n cynnwys enwau mawr fel Laverne Cox, Bianca Leigh, a Brian Michael Smith i enwi ond ychydig, ac mae'n hawdd gweld pam mae’r rhaglen ddogfen wedi'i chanmol gymaint gan adolygwyr a chynulleidfaoedd fel ei gilydd. Rwy'n rhoi 4 ‘Q’ allan o 5 i Disclosure, ac rwyf am orffen gydag un o fy hoff ddyfyniadau ohono:

LGBTQYMRU

59


Gwasanaethau cymorth Cymraeg i bobl LHDT Llinell Gymorth LGBT Cymru Llinell gymorth a gwasanaeth cwnsela LGBT+ line@lgbtcymru.org.uk

Y Samariaid Cefnogaeth i unrhyw un www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/ 116 123

Umbrella Cymru Arbenigwyr Cymorth ar Rywedd ac Amrywiaeth Rhywiol info@umbrellacymru.co.uk 0300 3023670

Ceisiwyr Lloches LGBT Cymorth ac arweiniad i geiswyr lloches LGBT+ Wedi'i leoli yn Abertawe 01792 520111

Kaleidoscope Gwasanaethau cymorth alcohol a chyffuriau 0633 811950

Stonewall Cymru Gwybodaeth a chanllawiau LGBT+ 0800 0502020

Fflag Gwasanaethau cymorth i rieni a'u plant LGBTQ+ 0845 652 0311

Cymorth i Ddioddefwyr Cymorth ynghylch troseddau casineb a sut i’w cofnodi 0300 3031 982

New pathways Cymorth ar argyfwng trais a cham-drin rhywiol enquiries@newpathways.org.uk Switsfwrdd LGBT+ Switchboard.lgbt 0300 330 0630 Glitter Cymru Grŵp Cymdeithasol LGBT+ BAME - Wedi'i leoli yng Nghaerdydd glittercymru@gmail.com Mind Cymru Gwybodaeth a gwasanaethau cymorth ar iechyd meddwl info@mind.org.uk 0300 123 3393

60

LGBTQYMRU

Wipeout Transphobia Gwybodaeth a chymorth i Bobl sydd â Rhywedd Amrywiol 0844 245 2317 Bi Cymru Rhwydwaith ar gyfer pobl ddeurywiol a phobl sy’n cael eu denu at fwy nag un rhywedd bicymru@yahoo.co.uk Galop Llinell a gwasanaeth cymorth cam-drin domestig LGBT+ help@galop.org.uk Galop.org.uk 0800 999 5428


Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru Gwybodaeth a chymorth ynghylch HIV ac iechyd rhywiol 0808 802 1221

Prosiect LGBTA+ Sir Gaerfyrddin Prosiect a sefydlwyd i hyrwyddo'r gymuned LGBTQ+ yn Sir Gaerfyrddin. carmslgbtqplus.org.uk

Head above the waves Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch iselder a hunan-niwed ymysg bobl ifanc Hatw.co.uk

Rainbow Biz Mae'r fenter gymdeithasol hon yn annog cynhwysiant ac yn dathlu gwahaniaethau yn Sir y Fflint. www.rainbowbiz.org.uk/

UNIQUE Grŵp gwirfoddol sy'n cefnogi pobl Draws* (trawsrywiol) yng Ngogledd Cymru a Gorllewin Sir Gaer. Elen Heart - 01745 337144 Cymorth i Ferched Cymru Os ydych chi neu ffrind yn profi trais/camdrin domestig a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth.

Shelter Cymru Cyngor arbenigol, annibynnol, am ddim ar dai sheltercymru.org.uk/cy/lgbt-aware/

Llamau Cymorth a gwybodaeth ar ddigartrefedd ymysg pobl ifanc www.llamau.org.uk/our-vision-and-mission

Dyn Project Mae’n darparu cyngor a chymorth i ddynion heterorywiol, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol sy'n profi trais/cam-drin domestig. www.dynwales.org/

Grŵp Ieuenctid LGBTQ+ Casnewydd Grŵp newydd ar gyfer pobl ifanc LGBTQ+ (11-25 oed) sy'n byw yng Nghasnewydd. www.facebook.com/NewportLGBTQYouth/

Trawsrywiol Cymru Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cefnogi pobl ifanc traws* i ddeall eu hawliau ac i gefnogi gweithrediadau ar gyfer pobl ifanc i fynd i'r afael â gwahaniaethu. youthcymru.org.uk/cy/transform-cymru-2/

The Gathering - Cardiff Elusen gofrestredig gyda bwrdd ymddiriedolwyr, ac mae ganddi 5 pastai gwirfoddol sy'n rhoi cymorth penodol i Gristnogion LGBTQ+. www.thegatheringcardiff.org mail@thegatheringcardiff.org

Rustic Rainbow Grŵp anffurfiol ar gyfer pobl LGB&T sy'n caru harddwch naturiol Gogledd Cymru. www.facebook.com/groups/443148552374541/ Clwb Ieuenctid LGBT+ Mae'r Clwb Ieuenctid LGBT+ yn gyfle i bobl ifanc 15-21 oed fwynhau eu hunain, cael hwyl, cwrdd â ffrindiau a bod yn nhw eu hunain yng Nghaernarfon. LGBT@gisda.co.uk

PAPYRUS Atal Hunanladdiad Ifanc. Ydych chi'n berson ifanc sy'n cael trafferth gyda bywyd neu efallai eich bod yn poeni am berson ifanc a allai fod yn meddwl am hunanladdiad? I gael cymorth a chyngor ymarferol, cyfrinachol, cysylltwch â PAPYRUS HOPELINEUK ar 0800 068 4141, 07860 039967 neu e-bostiwch pat@ papyrus-uk.org

LGBTQYMRU

61


Diolch i Gronfa Adfer COVID-19 LGBTQ+ Comic Relief, mewn partneriaeth ag elusen METRO ac Umbrella Cymru


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.