Mae’n gyfnod anodd a gwahanol iawn i lawer ohonom o hyd, wrth i’r coronafeirws barhau i effeithio ar ein ffordd o fyw a gweithio, gan gynnwys y gallu i dreulio mwy o amser gyda theulu a ffrindiau. Roeddwn am fanteisio ar y cyfle i sicrhau etholwyr, grwpiau cymunedol a busnesau fy mod i bob amser wrth law i wneud popeth posib i’ch helpu dan amgylchiadau mor ansicr a digynsail. Gydol y pandemig, rwyf wedi parhau i gynorthwyo trigolion gyda phob math o bynciau o dai i iechyd ac addysg yn ogystal â gweithio’n galed i roi’r manylion diweddaraf trwy ddiweddariadau rheolaidd, cylchlythyrau a sesiynau holi ac ateb byw.
ers 2016 mae gen i Cynorthwyo dros 2300 o etholwyr gyda gwaith achos
Ymgysylltu â 1000au o etholwyr ar gyfryngau cymdeithasol
Cefnogi dros 100 o fusnesau a sefydliadau
Cynhaliwyd dros 130 o ddigwyddiadau
I gael rhagor o wybodaeth am y canllawiau cenedlaethol, ewch i llyw.cymru/rheoliadaucoronafeirws-canllawiau Rwy’n paratoi e-gylchlythyr rheolaidd sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fy ngwaith yn y Senedd a’r etholaeth, yn ogystal ag unrhyw ddiweddariadau am faterion a godwyd gennych. Cysylltwch â mi os hoffech dderbyn y rhain. Os gallaf fod o gymorth i chi neu’ch anwyliaid, cysylltwch â mi drwy’r manylion isod. Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel.
Talwyd costau’r cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd, o gronfeydd cyhoeddus
SUT I GYSYLLTU Â MI
78
hannah.blythyn@senedd.cymru
01352 762102
HannahBlythynMS
@HannahBlythyn