@YmchwilCymru
Tudalen 12
Cyfle i gyfarfod ag uwch arweinwyr ymchwil ac arweinwyr arbenigeddau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Tudalen 09
Tudalen 14
Sôn am ymchwil
Mynnu sylw i’ch ymchwil
Hybu ymchwil i’r cyhoedd mewn ffordd
Awgrymiadau i’ch helpu chi i fod yn fwy
ddiddorol a rhyngweithiol
arloesol ynglŷn â phryd, ble a sut rydych chi’n rhannu’ch ymchwil er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
1
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
Y cylchgrawn sy’n rhoi lle amlwg i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
Cynnwys 2
T U DA LEN 1 2
Yn cyhoeddi uwch arweinwyr ymchwil ac arweinwyr arbenigeddau newydd
T U DA LEN 0 9
Sôn am ymchwil
T U DA LEN 1 6
T U DAL EN 1 4
Calendr Digwyddiadau
Mynnu sylw i’ch ymchwil
T U DA LEN 0 3
T U DAL EN 0 4
Rhagair
Newyddion
Carys Thomas a Michael Bowdery, cyd-
Newyddion am ymchwil o ledled Cymru
gyfarwyddwyr interim, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
T U DA LEN 0 9
T U DAL EN 1 2
Sôn am ymchwil
Yn cyhoeddi uwch arweinwyr ymchwil ac arweinwyr arbenigeddau newydd
Dod ag ymchwil yn fyw i’r cyhoedd trwy
Eich canllaw i’n huwch arweinwyr ymchwil
gyfrwng profiadau a straeon personol
a’n harweinwyr arbenigeddau
T U DA LEN 1 4
T U DAL EN 1 6
Mynnu sylw i’ch ymchwil
Calendr Digwyddiadau
Yr awgrymiadau mwyaf effeithiol i’ch helpu chi i rannu’ch ymchwil
Nodwch y dyddiad: digwyddiadau ymchwil a datblygu allweddol
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
Rhagair C
roeso i rifyn 6 o @YmchwilCymru. Mae’r rhifyn hwn yn dathlu ac yn dwyn sylw at y partneriaethau a’r cydweithrediadau llwyddiannus y mae ein seilwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n eu datblygu ar lefelau cenedlaethol, y DU a rhyngwladol. Mae gweithio mewn partneriaeth a chydweithredu’n thema allweddol i ni ar gyfer 2019, wrth i ni edrych ymlaen at ddathlu gweithio’n effeithiol ag eraill ar bob gwedd a ffurf amrywiol. Mae hyn yn cynnwys gweithgarwch ar lefel strategol, lle rydyn ni’n parhau i weithio’n agos ag amrywiaeth eang o bartneriaid, gan gynnwys adrannau iechyd eraill llywodraeth y DU, cynghorau ymchwil, elusennau, y cyhoedd a diwydiant. Ar lefel rhaglenni, rydyn ni’n parhau i weithio gydag eraill i ddarparu cyfleoedd ar gyfer ariannu ar y cyd. Mae Partneriaeth Ymchwil Atal y DU, er enghraifft, newydd wneud ei set gyntaf o ddyfarniadau ac mae cyfleoedd newydd ar gynnig gydag arianwyr ymchwil y trydydd sector fel Fight for Sight a’r Scar Free Foundation. Mae’n amser cyffrous wrth i ni groesawu carfan newydd o uwch arweinwyr ymchwil a fydd yn ein helpu ni i siapio dyfodol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a grŵp newydd o arweinwyr arbenigeddau sy’n barod i helpu i hyrwyddo cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil i bobl yng Nghymru (gwelwch dudalen 12).
Pleser o’r mwyaf oedd gweld ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, a gwaith Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn cael lle amlwg yn adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Roedd hi’n dda gweld Dr Frank Atherton yn cydnabod pa mor hanfodol ydy ymchwil wrth ddiogelu a gwella iechyd y genedl yn y dyfodol. Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n edrych ymlaen at chwarae rhan arwyddocaol eleni wrth gefnogi gweithgareddau fel rhan o ddatganiad o fwriad Llywodraeth Cymru ynglŷn â meddygaeth fanwl, gan gynnwys datblygiadau’n ymwneud ag uwch therapïau a fydd o fudd i gleifion yn y dyfodol. Rydyn ni ar fin dechrau cyfnod prysur wrth i ni baratoi ar gyfer strategaeth 2020, a byddwn ni’n apelio atoch chi, ein cymuned ymchwil, i gefnogi’r gwaith hwnnw. Wrth gwrs, mae llawer o waith eisoes ar y gweill a fydd yn helpu i siapio’r pum mlynedd nesaf, gyda galwad y seilwaith datblygu ymchwil yn fyw ar hyn o bryd (mae cynigion wrthi’n cael eu hasesu wrth i ni ysgrifennu hwn), ac ystyriaeth gynyddol i ofal iechyd seiliedig ar werth fel modd o gryfhau’r seilwaith cefnogi a chyflenwi. Cadwch lygad yn agored am yr amrywiaeth arferol o gynlluniau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyda galwadau ar gyfer Dyfarniadau Amser Ymchwil Glinigol, Dyfarniadau
Ymchwil Gofal Cymdeithasol, grantiau Ymchwil er Budd Cleifion a’r Cyhoedd a Chymrodoriaethau Ymchwil Iechyd oll ar fin agor yn ystod y misoedd sydd ar ddod. Yn olaf, wrth i ni geisio sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn ganolog i’r holl ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, mae hwn yn gyfle da i ddwyn sylw at ddau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd a fydd yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf. Bydd y digwyddiadau Sôn am Ymchwil yn gyfle i aelodau’r cyhoedd gyfarfod â’r ymchwilwyr a chael gwybod mwy am yr ymchwil sy’n mynd rhagddi yng Nghymru bob dydd, a sut y gallan nhw fod yn rhan ohoni (gwelwch dudalen 9). Trwy ymgysylltu â mwy o bobl yng Nghymru, gallwn ni ddangos sut y mae ein hymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ragorol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i iechyd a llesiant. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n mwynhau darllen y rhifyn hwn o’r cylchgrawn ac yn darganfod mwy am waith gwych y gymuned ymchwil yng Nghymru.
Carys Thomas a Michael Bowdery Cyd-gyfarwyddwyr interim, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
3
Newyddion
Y G A N O LFAN Y MCH W IL T R EIALO N
Newyddion am ymchwil o ledled Cymru
4
Cydweithrediad Ewropeaidd gwerth £16 miliwn â nod o wella ansawdd bywyd pobl â chlefydau niwroddirywiol Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd yn archwilio sut y gellir defnyddio technolegau digidol, fel tracwyr ffitrwydd gwisgadwy, i gefnogi pobl â chlefyd Huntington. Fel rhan o gydweithrediad gwerth £16 miliwn i fynd i’r afael ag iechyd a gofal cymdeithasol pobl â chlefydau’r ymennydd, fe fydd yr Athro Monica Busse, cyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddorau yn y Ganolfan Treialon Ymchwil, yn arwain tîm rhyngwladol a fydd yn asesu sut y mae cwsg, maeth a gweithgarwch corfforol yn effeithio ar glefyd Huntington. Bydd tîm ymchwil Targedau Dull o Fyw Aml-barth i Wella Prognosis (The Multi Domain Lifestyle Targets for Improving ProgNOsis - DOMINO HD) hefyd yn ceisio datblygu ffyrdd newydd i helpu pobl i reoli symptomau.
o bryd. Meddai’r Athro Busse: “Mae’r prosiect hwn yn dod yn rhan o’n portffolio cynyddol o ymchwil ym maes clefyd Huntington, gan weithio’n agos â chleifion ac aelodau o’r cyhoedd, ac mae’n gam pwysig sydd â’r potensial o gyfrannu’n sylweddol at ein gwybodaeth a’n triniaeth o glefyd Huntington, a phroblem gynyddol dementia.” Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ynghyd ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lloegr, y Gymdeithas Alzheimer ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon, wedi ymrwymo £2.15 miliwn tuag at ddyfarniadau ariannu’r Cydraglen – Clefyd Niwroddirywiol (JPND), sy’n ariannu’r ymchwil newydd hon. Rhaglen JPND ydy’r fenter ymchwil fyd-eang fwyaf sydd â’r nod o fynd i’r afael â heriau clefydau niwroddirywiol.
Cyflwr niwrolegol etifeddol ydy clefyd Huntington, sy’n achosi anawsterau symud a chydsymudiad. Mae hefyd yn achosi nam gwybyddol sy’n gwaethygu dros amser. Nid oes unrhyw driniaeth ar gyfer y cyflwr ar hyn
Bydd y tîm yng Nghymru’n arwain consortiwm ar draws Ewrop sy’n cynnwys Iwerddon, Sbaen, Gwlad Pwyl, yr Almaen a’r Swistir.
CY M R AWD Y M CH W IL IECH Y D A G O FA L C Y M R U
sgil cydraddoldeb ac amrywiaeth, i ymchwil yn ogystal ag i unigolion.
Dr Emma Yhnell yn helpu i ddod â chydraddoldeb ac amrywiaeth i ymchwil
“Dwi wrth fy modd bod aelodau’r BNA wedi fy ethol i’r rôl hon...Mae’n hanfodol galluogi holl rannau o’r gymdeithas i gyfrannu at ymchwil ac i deimlo’u bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi am wneud hynny.”
Etholwyd cymrawd ymchwil Iechyd a Gofal Ymchwil Cymru, Dr Emma Yhnell yn Gynrychiolydd Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth ar Bwyllgor Cymdeithas Niwrowyddoniaeth Prydain (BNA). Mae Dr Yhnell, sy’n gweithio yn yr Athrofa Ymchwil Niwrowyddoniaeth ac Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi gweithio gyda grwpiau o gleifion yn ogystal ag unigolion sydd wedi teimlo’n ynysig neu heb eu cynrychioli’n iawn, a dywedodd ei bod yn ymwybodol o’r buddion a ddaw yn
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
B WR D D IECH Y D P R IFYS GO L BAE ABERTAW E AC AR W EINY DD ARBE NI GE DD
Canolfan ymchwil achosion brys arloesol yn agor yn Ysbyty Treforys Yn gynharach eleni, agorodd Canolfan gyntaf Cymru ar gyfer Ymchwil Meddygaeth Frys ac mae ar fin mynd ati i ddatblygu ymhellach y cydweithredu â chanolfannau rhyngwladol blaenllaw mewn ymchwil meddygaeth frys. Daw’r lansio hwn yn sgil partneriaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe, gydag adran ymchwil a datblygu’r bwrdd iechyd yn darparu cymorth
ARWEINYD D A RBE NI G ED D
llywodraethu.
‘Cynnydd anhygoel’ mewn ymchwil strôc yng Nghymru
Bydd yn darparu hafan ar gyfer datblygu ymchwil arloesol i feddygaeth frys, ac mae’n adeiladu ar flynyddoedd o waith arloesol mewn ymchwil argyfwng, biofeddygol, epidemiolegol a chlinigol.
Mae Cymru nawr yn recriwtio gymaint deirgwaith o gleifion i astudiaethau strôc
Agorwyd y ganolfan fel rhan o raglen i
bob blwyddyn ag yr oedd yn 2016, diolch i rwydwaith o hyrwyddwyr ymchwil strôc.
mewn byrddau iechyd ledled Cymru – wedi chwarae rhan fawr yn cynyddu’r recriwtio o 150 o bobl y flwyddyn ar gyfartaledd i 540 y llynedd. “Mae hwn yn newid sylweddol,” meddai Jonathan Hewitt, arweinydd arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ar gyfer strôc. yn y safle isaf am recriwtio yn y DU, fesul pen, i un o’r uchaf.” Mae dau o gymrodoriaethau Cochrane ym maes ymchwil strôc hefyd wedi’u sefydlu yng Nghymru, mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn yr Alban, i gefnogi ymchwilwyr yng nghyfnodau cynnar eu gyrfa. “Mae gennon ni lawer o astudiaethau strôc eraill sydd wrthi’n cael eu sefydlu ac mae’r
U N ED TR EIALO N ABERTAW E
Arwain o ran cynnwys y cyhoedd Penodwyd Dr Kym Thorne, uwch reolwr treialon Uned Treialon Abertawe, yn arweinydd pecyn gwaith a fydd yn cefnogi cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd ledled Rhwydwaith Unedau Treialon Clinigol sydd wedi’u Cofrestru â bwrdd Cydweithredu ar Ymchwil Glinigol y DU (UKCRC).
ymchwil sydd yn yr arfaeth yn edrych yn addawol,” ychwanegodd Jonathan. “Yr her i ni nawr ydy cynnal y cynnydd gwych rydyn ni wedi’i wneud, ymestyn ymhellach ac annog mwy o’n prif ymchwilwyr i ddechrau cynnig eu hastudiaethau eu hunain.”
ganolfan academaidd flaenllaw yn y maes hwn. Yr Athro Adrian Evans sy’n arwain y rhaglen, gydag arweinydd arbenigedd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Dr Ceri Battle, yn gyfarwyddwr epidemioleg iddi. Yn ogystal ag agor y ganolfan, mae’r rhaglen hefyd wedi sicrhau bod academyddion ifanc yn cyfnewid rhwng y canolfannau arloesol hyn, ac mae wedi denu miliynau o bunnoedd i ariannu ymchwil oddi wrth nifer o gyrff dyfarnu grantiau mawr eu bri. Meddai’r Athro Evans: “Dim ond y cam cyntaf ydy cyrraedd lle rydyn ni nawr, ac mi fydd angen llawer o waith caled i hwyluso a chynnal ei dwf ar gyfer y dyfodol. “Mae yna fwriad yn barod i benodi i fwy o swyddi ym maes meddygaeth frys academaidd ac mae hyn yn dangos ymrwymiad y bwrdd iechyd a’r brifysgol i ddatblygu hyn yn y dyfodol.” cofrestru i gefnogi cynnwys ac ymgysylltu â’r cyhoedd, nid oes unrhyw asesiad ffurfiol wedi bod o’r adnoddau hyn ac nid oes yna’r un ffordd o’u rhannu nhw ar draws y Rhwydwaith.
Mae’r hyrwyddwyr – sydd wedi’u lleoli
“Mae wedi symud Cymru o fod y rhanbarth
ddatblygu Abertawe, a Chymru, i fod yn
Cafodd ei sefydlu mewn ymateb i argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion a’r Cyhoedd Rhwydwaith Unedau Treialon sydd wedi’u Cofrestru â UKCRC, a welodd, er bod nifer o adnoddau eisoes yn cael eu defnyddio yn yr unedau treialon clinigol unigol sydd wedi’u
Bydd y pecyn gwaith hwn (un o’r tri y mae UKCRC yn eu hariannu ar gyfer gwaith cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd) yn canolbwyntio ar asesu natur gaffaeladwy ac ansawdd yr adnoddau cynnwys ac ymgysylltu presennol, ar gyfer y cyhoedd a’r ymchwilwyr sy’n benodol i dreialon clinigol. Y nod yw darparu cronfa o wybodaeth o ansawdd uchel sy’n hawdd i’r cyhoedd ac ymchwilwyr gael gafael arni. Meddai Dr Thorne: “Mae cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn rhan bwysig o sawl agwedd ar ymchwil, fel cynllunio’r astudiaeth, ymgysylltu â chleifion a’u recriwtio, dadansoddi a lledaenu’r canlyniadau. Fe fydd y pecyn gwaith yn dod ag adnoddau defnyddiol ynghyd mewn man canolog, gan eu gwneud nhw’n hawdd i ymchwilwyr ledled y Rhwydwaith Unedau Treialon Clinigol sydd wedi’u Cofrestru gael gafael arnyn nhw, a gan hybu rhannu arfer da i gefnogi cynnwys ac ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd.” Dr Heather Bagley, sy’n gweithio yng Nghanolfan Ymchwil Treialon Clinigol Lerpwl, sy’n arwain y prosiect.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
5
y cimwch ar dri thraeth yng Nghymru i atgyfnerthu’r neges. Daeth ysbrydoliaeth am yr arwyddion i ddechrau oddi wrth ymgynghorydd dermatoleg Avad Mughal, o Ysbyty Singleton, a oedd ar ei wyliau haf. “Tra ro’n i ar fy ngwyliau yng ngorllewin Cymru yr haf diwetha’, mi sylweddolais i, wrth i mi edrych ar y bobl ar y traeth, mai y rhain oedd fy llwyth gwaith i yn y dyfodol. Be’ allwn i ei wneud i’w wneud yn llai?” meddai. “Mae gennon ni arwyddion yn dweud wrth bobl i beidio â dod â chŵn ar y traethau neu i godi sbwriel, felly pam na allwn ni eu hatgoffa nhw i wisgo eli haul?”
UN ED TRE I A LO N A BE RTAWE
Abertawe, oedd gwneud yn union hynny, gyda chymorth cimwch cartŵn. Bwriad yr ymgyrch #PeidiwchbodynGimwch oedd annog y cyhoedd i fod yn ddiogel yn yr haul gyda negeseuon syml: amddiffyn eich hun rhag yr haul – hyd yn oed ar draethau Cymru, gwisgo eli haul, hetiau mawr, crysau-t, a pheidio â llosgi yn yr haul. Peidiwch â bod yn gimwch.
Sut i gimwch cartŵn helpu i hybu amddiffyn rhag yr haul ar draethau Cymru Mae cyfraddau Cymru o ganser y croen ymhlith yr uchaf yn y DU bob blwyddyn, ac wrth i gyfraddau canser y croen yng Nghymru gynyddu 63% dros 10 mlynedd, mae’n amlwg ei bod hi’n bryd gwneud rhywbeth.
Er mwyn hybu’r ymgyrch, cafodd cimwch cartŵn ei roi ar faner Cymru yn lle’r ddraig goch ac hedfanwyd y baneri mewn llawer o leoliadau enwog yng Nghymru gan gynnwys cestyll, Pont Hafren a Chanolfan y Mileniwm.
Nod ymgyrch arloesol Gofal Croen Cymru, mewn cydweithrediad ag Uned Treialon
Yn ogystal â chael ei weld ar Twitter ac yn y cyfryngau, gosodwyd arwyddion dwyieithog
Llwyddodd yr ymgyrch i ymgysylltu’n rhyfeddol, gan gyrraedd rhyw 44 miliwn o bobl yn rhyngwladol drwy’r cyfryngau cymdeithasol, y rhyngrwyd a’r cyfryngau print. Roedd Google Trends hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y bobl yng Nghymru a oedd yn chwilio am ‘ganser y croen’, ‘gofal croen’ ac ‘ eli haul’. Mae Gofal Croen Cymru nawr yn gweithio gydag aelodau o Uned Treialon Abertawe, Canolfan PRIME Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ddatblygu cynigion ymchwil i edrych ar newidiadau mewn ymwybyddiaeth ac ymddygiad o ganlyniad i’r ymgyrch.
GWA SANA E T H C YM O RTH ECO N O M EG IECH Y D CY MR U Pan werthuswyd canolfan newydd diagnosis cyflym o ganser o safbwynt economaidd, gwelwyd ei fod yn llai costus ac yn fwy effeithiol o’i gymharu â gofal arferol. Bu ymchwilwyr yn y Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS) yn cydweithio ag Ymchwil Canser y DU a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) i fynd ati i werthuso buddsoddiad BIPBA yn ei ganolfan diagnosis cyflym.
Gwelwyd bod canolfannau diagnosis cyflym o ganser yn werth ‘ardderchog’ am arian
6
Po gynharaf y gellir cael diagnosis o ganser, gorau oll. Mae cael diagnosis pan fo’r canser wedi datblygu yn waeth o ran canlyniadau i’r cleifion, ond mae hefyd yn cynyddu costau gofal iechyd. Nid oes gan 50% o gleifion canser posibl yn y DU unrhyw symptom sy’n awgrymu cyflwr difrifol, sy’n gallu arwain at gael eu hatgyfeirio ar unwaith, a chyn hyn doedd yna’r un llwybr yng Nghymru i gleifion â symptomau amhendant gadarnhau nad oedd canser arnyn nhw.
I fynd i’r afael â’r angen hwn sydd heb ei ddiwallu, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Canser Cymru, wedi sefydlu dwy ganolfan diagnosis cyflym. Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae cleifion â symptomau amhendant yn cael eu gweld o fewn pum niwrnod ac yn gadael naill ai â diagnosis o ganser neu drefniant i gael ymchwiliadau pellach. Bu WHESS yn gwerthuso data economaidd o flwyddyn gyntaf canolfan diagnosis cyflym o ganser Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Caerdydd, a gwelwyd ei fod yn cynrychioli gwerth ardderchog am arian i’r bwrdd iechyd. O ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe nawr wedi sefydlu canolfan barhaol, gan arwain y ffordd o ran rhoi diagnosis o ganser yng Nghymru.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
UN ED YM C H W I L A RE N N O L CY M R U
Does unman yn debyg i gartref – sut y gall annog therapïau arennol yn y cartref wella bywydau yng Nghymru Mae clefyd cronig yr arennau’n effeithio ar ryw 15% o boblogaeth y byd, ac mae wedi’i gysylltu â lefel uchel o forbidrwydd
opsiwn cynaliadwy i’r GIG a byddai therapi
ledled Cymru, i helpu i gefnogi mwy o
a marwolaeth. Gyda’r cynnydd sydyn mewn
yn y cartref o bosibl yn fwy priodol i lawer o
gleifion a gofalwyr i gael eu dewis nhw o
diabetes, mae nifer y cleifion sy’n datblygu
gleifion.
driniaeth ac, o bosibl, i wneud therapïau
methiant yr arennau’n debygol o gynyddu
yn y cartref ledled Cymru’n haws i’w cael,
dros y degawd nesaf, gan roi pwysau ar
Er mwyn deall yn well beth sy’n dylanwadu
yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac
wasanaethau’r GIG.
ar gleifion wrth ddewis triniaeth, mae’r tîm
ardaloedd o amddifadedd.
astudio ‘Opsiynau a Dewisiadau Dialysis’ yn Gall cleifion sydd â methiant datblygedig yr
Uned Ymchwil Arennol Cymru’n casglu data
Meddai Dr Gareth Roberts, arenegwr
arennau ddewis o nifer o opsiynau triniaeth
o’r setiau data arennol a banc data SAIL yn
ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol
gwahanol, gan gynnwys trawsblannu, gofal
ogystal â chyfweld pobl sydd â chlefyd yr
Caerdydd a’r Fro ac arweinydd yr astudiaeth:
cefnogol a hemodialysis (i hidlo gwastraff
arennau, aelodau o’u teuluoedd a gofalwyr.
yn eu gwaed) yn eu cartref neu mewn uned arbenigol.
“Bydd dysgu o brofiadau a barn pobl yn ein Mae’r tîm eisiau dysgu mwy am faint y
helpu ni i ddeall beth ydy’r peth pwysicaf i
mae pobl yn ei ddeall am yr opsiynau o
bobl wrth iddyn nhw benderfynu ynglŷn â
Mae hemodialysis mewn uned yn cynnig yr
driniaethau sydd ar gael, beth sydd o’r
thriniaeth yr arennau.
ansawdd bywyd gwaelaf i gleifion, lefelau
gwerth mwyaf iddyn nhw wrth wneud
uwch o risg a chostau triniaeth uwch,
penderfyniadau anodd a’r rhwydweithiau
“Bydd hyn yn darparu sail ar gyfer rhaglenni
ond er hynny mae’r mwyafrif o gleifion
cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
addysg yng Nghymru yn y dyfodol, yn helpu
yng Nghymru yn dal i ddewis derbyn
eraill i wneud y penderfyniad iawn o ran
hemodialysis mewn unedau arbenigol yn
Mae’r tîm yn disgwyl y bydd canlyniadau
y driniaeth ar eu cyfer nhw a’u teulu ac i
hytrach nag yn eu cartref. Dydy parhau i
uniongyrchol yr astudiaeth yn cefnogi
wneud y defnydd gorau o adnoddau’r GIG.”
ehangu hemodialysis mewn unedau ddim yn
ailgynllunio’r rhaglen addysg bresennol
Mae’r gwerthusiad cyntaf cadarn o’r system feddal o optio allan o roi organau yng Nghymru, a gynhaliwyd gan ymchwilwyr Uned Ymchwil Arennol Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ledled Cymru, wedi cael ei gyhoeddi yn y BMJ. Gallwch chi ddarllen mwy am yr astudiaeth yn Rhifyn 1 o @YmchwilCymru.
Y D IWED DA RA F A M B ECY N G WY B O DA E T H L E O L Y D U
Cyflwyno dogfennau newydd DU-eang ar gyfer sefydlu astudiaethau Cyflwynwyd Pecyn Gwybodaeth Leol y DU
waith ledled y DU.
ar 5 Mehefin i gefnogi a safoni’r broses o sefydlu ymchwil GIG/Iechyd a Gofal
Mae canllawiau ar ddefnyddio Pecyn
Cymdeithasol yn y DU.
Gwybodaeth Leol y DU wedi’u cyhoeddi ar dudalen Help IRAS Penodol i’r Safle i helpu
Pecyn Gwybodaeth Leol y DU ydy’r set
ymgeiswyr â’r newidiadau.
o ddogfennau y mae sefydliadau’n eu defnyddio i ddechrau paratoi’n ffurfiol i
Mae gwybodaeth ar gyfer noddwyr
gyflawni astudiaeth.
masnachol a sefydliadau ymchwil ar gontract ar gael ar wefan Ymchwil Iechyd a Gofal
Gall ymchwilwyr nawr fanteisio ar gael pecyn
Cymru.
cyson i gefnogi sefydlu astudiaeth a’i rhoi ar
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
7
Y GA N O L FA N GE NE D L A ET H O L A R GYFE R YM C HW I L A R IECH Y D A LLE SIANT Y BO BLO GA ETH
Gallai model newydd o ofal lliniarol drawsnewid gwasanaethau i bobl ifanc Mae troi’n 18 oed fel arfer yn amser i ddathlu, ond i filoedd o bobl ifanc yn y DU sy’n byw â chlefydau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd, gall y pontio o ofal lliniarol plant i ofal lliniarol oedolion rhwng yr oedrannau 16 ac 18 achosi teimladau o ddryswch, dicter ac o fod ar wahân. Mae Emma, sef claf sy’n derbyn gofal lliniarol, yn gwybod hyn o brofiad ac er bod ei chyfnod pontio hi i ofal lliniarol oedolion wedi bod yn gymharol esmwyth, roedd hi’n dal i deimlo’n ofnus, yn unig ac nad oedd staff yn gwybod sut i ofalu amdani. Er gwaethaf dau ddegawd o ymchwil a mentrau, mae pobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd neu sy’n bygwth bywyd yn dal i weld y pontio’n anfoddhaol.
Mae ymchwil newydd, dan arweiniad yr Athro Jane Noyes o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth ac wedi’i hariannu gan Together for Short Lives, wedi argymell model newydd o ofal a allai newid y profiad hwnnw i filoedd o bobl ifanc. Bu’r tîm ymchwil yn astudio 77 o gyfweliadau â phlant a phobl ifanc, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ynglŷn â’u profiadau o ofal lliniarol, a gasglwyd mewn astudiaethau blaenorol. Mae profiadau o ofal mewn plentyndod yn llywio’r disgwyliadau o wasanaethau oedolion, a gwelodd yr astudiaeth chwe maes lle roedd yna wahaniaethau rhwng sefyllfaoedd gwasanaethau plant ac oedolion, sy’n esbonio pam fod pobl ifanc a’u teuluoedd yn gweld bwlch mawr rhwng y ddau. Roedd y rhain yn cynnwys cael eu trin fel oedolyn ac fel y claf hynaf yn y gwasanaethau plant o’i gymharu â chael eu trin fel plentyn a’r claf ieuengaf yn y gwasanaethau oedolion, a bod yn un o lawer â’r cyflwr yn y gwasanaeth plant i fod yn un o ychydig â’r cyflwr yn y gwasanaeth oedolion. Meddai Emma: “Mae yna lawer o faterion sy’n codi pan rydych chi’n dod yn 18 oed a
chithau dal angen gofal seibiant. Does yna ddim cyfleusterau sy’n addas i oedolion ifanc sydd â llawer o gyflyrau meddygol gwahanol... be’ bynnag ydy ein cyflyrau ’dyn ni’n haeddu gofal seibiant ar yr un lefel ag a gawn ni fel plant.” Mae elfennau craidd y model newydd yn hybu dilyniant mewn agweddau o ofal lliniarol, fel hybu iechyd, cynllunio a llwybrau gofal penodol i’r cyflwr a chymorth seicolegol. Mae’r tîm o’r farn y gellir cyflawni’r model hwn yn ymarferol drwy gael gwasanaethau pontio penodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed, mwy o ymgysylltu â grwpiau cymorth perthnasol, a defnyddio technolegau digidol a’r cyfryngau cymdeithasol i greu cymunedau sy’n cefnogi pobl ifanc â chyflyrau anghyffredin yn y gwasanaethau oedolion. Mae’r darganfyddiadau a’r argymhellion o’u hastudiaeth yn darparu mewnwelediadau newydd a chanllawiau y gellir eu defnyddio i wireddu’r newidiadau’n ymarferol, i helpu i dargedu gofal yn fwy effeithiol ac, yn y pen draw, i arwain at wasanaeth ac ansawdd bywyd dipyn gwell i gleifion fel Emma a’u teuluoedd.
CYLLID YM C H W I L I E CH Y D A G O FA L CY M R U
Rhaglen gelf yn rhoi sgiliau a hyder newydd i ofalwyr dementia Mae ymchwil newydd wedi dod i’r casgliad bod gweithgareddau fel barddoniaeth, ffilm a cherddoriaeth yn gallu helpu staff cartrefi gofal i feddwl yn fwy creadigol wrth ofalu am breswylwyr â dementia. Bu staff gofalu o 14 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint yn cymryd rhan mewn astudiaeth 18 mis – a ariannwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a’r Ymddiriedolaeth Wellcome – a oedd yn rhoi rhaglen datblygu staff wedi’i seilio ar y celfyddydau o’r enw Sgyrsiau Creadigol ar brawf. Mae’r rhaglen yn defnyddio gweithgareddau creadigol i gynyddu ymwybyddiaeth o beth sy’n bosibl o fewn gofal dementia. Mae hefyd yn ceisio rhoi sgiliau cyfathrebu ymarferol i staff, y gallan nhw eu defnyddio i ddatblygu perthynas ofalgar â’r preswylwyr. Gwelodd y staff a fu’n cymryd rhan yn yr astudiaeth fod y dull o fynd ati i ddysgu
8
trwy’r celfyddydau wedi golygu eu bod nhw’n deall eu preswylwyr yn well, gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu dieiriau. Roedd hefyd wedi rhoi hyder iddyn nhw fynd ati i roi cynnig ar ddulliau mwy creadigol o ofalu.
bod dysgu trwy gyfrwng y celfyddydau hefyd yn gallu ychwanegu at sgiliau’r staff sy’n gofalu am ddioddefwyr dementia a’u galluogi nhw i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o’r preswylwyr y maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.”
Meddai Dr Katherine Algar-Skaife, a oedd yn arwain yr ymchwil:
Cyflawnwyd y prosiect ymchwil mewn partneriaeth rhwng Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru Prifysgol Bangor (y grŵp ymchwil o Heneiddio a Dementia @ Bangor yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd), Dementia Positive, Ymgynghoriaeth TenFive Ten a Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.
“Mae’r celfyddydau’n cael eu cydnabod fwyfwy fel gweithgareddau pwysig a llesol i bobl sy’n byw â dementia. “Rydyn ni wedi dangos yn y prosiect hwn
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
UN ED YM C H W I L D I A B ETES CY M R U
Ymchwilwyr o Gymru’n creu partneriaeth â seiclwyr elitaidd i astudio diabetes math 1 Mae ymchwilwyr Uned Ymchwil Diabetes Cymru (DRU Cymru) wedi bod yn monitro’r gofynion llethol y mae grŵp unigryw o seiclwyr elitaidd yn eu dioddef, yn eu hymdrech i ddysgu mwy am diabetes. Tîm Novo Nordisk ydy’r unig dîm seiclo proffesiynol yn y byd i gynnwys dim ond seiclwyr sydd â diabetes math 1. Dr Richard
sut roedd eu cyrff yn ymdopi â threulio hyd
eu defnyddio – pethau fel pa fwyd roedden
Bracken, arweinydd Uned Ymchwil Diabetes
at saith awr bob dydd yn y cyfrwy, mewn
nhw’n ei fwyta, faint o gwsg ac addasiadau
Cymru ar gyfer Ffisioleg Ymarfer Corff a
gwersyll hyfforddi 10-diwrnod.
i’w meddyginiaeth.”
Bwriad yr ymchwilwyr nawr yw defnyddio
Casglwyd data ar faeth, glwcos a ffisioleg
canlyniadau’r astudiaeth i helpu pobl eraill
yn ystod hyfforddiant dwys a phrotocolau
sydd â diabetes sydd eisiau bod yn fwy
trylwyr profion seiclo ar gyfer y tîm.
Ffordd o Fyw, oedd yn arwain y tîm ymchwil a deithiodd i Sbaen i fonitro’r seiclwyr a
corfforol egnïol. “Rydyn ni eisiau dod o hyd i gliwiau a fydd o Esboniodd Dr Bracken: “Mae Tîm Novo
bosibl yn rhoi mwy o hyder i’r gymuned gofal
Nordisk yn cystadlu ar draws y byd ac yn
iechyd o ran annog y gymuned diabetes
hybu agwedd ‘gallaf wneud’ i unrhyw un â
math 1 ehangach i wneud gweithgarwch
diabetes math 1.
corfforol”, meddai Dr Bracken.
“Roedden ni eisiau gwybod mwy am
Bydd y darganfyddiadau nawr yn chwarae
ffisioleg arbennig yr athletwyr elitaidd hyn
rhan bwysig yn adeiladu gwell dealltwriaeth
i ddeall yn well eu hymateb i ymarfer corff
o’r cyflwr a bwriedir eu cyhoeddi mewn
eithafol a’r strategaethau roedden nhw’n
cyfnodolion gwyddonol diabetes blaenllaw.
YMCHWIL
Mynediad am ddim Stondinau cyfeillgar i deuluoedd G O F A L
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
Ardal weithgaredd i blant Sgyrsiau i ddathlu ymchwil
9
YSGOL Y M C H W I L GO FA L CY M D EITH A S O L CY M R U A CH ANO L FAN Y MCH W IL H ENEIDDIO A DEM ENT IA
Rhwydwaith ENRICH Cymru’n ehangu i alluogi mwy o ymchwil
nghanolbarth Cymru.” Mae cartrefi gofal ledled Cymru wrthi ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau ymchwil, gan gynnwys gwerthusiad o effaith gweithgareddau rhwng y cenedlaethau ar y preswylwyr, y staff a’r ymwelwyr.
Mae rhwydwaith cynyddol o gartrefi gofal sy’n ‘barod am ymchwil’ ledled Cymru’n helpu ymchwilwyr i gyflawni astudiaethau gofal cymdeithasol allweddol.
Yn ôl Kate Howson, sef myfyrwraig PhD sy’n arwain astudiaeth ENRICH Cymru, mae’n “ddolen hollbwysig”.
Lansiwyd y rhwydwaith Galluogi Ymchwil Mewn Cartrefi Gofal (ENRICH Cymru) – a gynhelir ar y cyd gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Ganolfan Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Abertawe – yn 2018.
“Mae ENRICH Cymru wedi fy ngalluogi i rannu fy hysbyseb ymchwil ar lwyfannau amrywiol a chafwyd ymholiadau niferus a llawer o gartrefi gofal yn awyddus i fod yn rhan o’r ymchwil o ganlyniad,” ychwanegodd Kate.
Nod y rhwydwaith yw annog a galluogi mwy o ymchwil i ddigwydd mewn cartrefi gofal, sef sector lle nad yw ymchwil wedi datblygu i’r un graddau â lleoliadau gofal iechyd eraill.
“Mae Stephanie Watts wedi cadw mewn cysylltiad cyson, yn cysylltu â mi ac yn rhoi
gwybod i mi am ddiddordebau a chyfleoedd posibl. Ar ben hyn, mae gallu mynd gydag ENRICH Cymru i gynadleddau wedi rhoi cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy i mi. Heb help rhwydwaith ENRICH Cymru dydw i ddim yn credu y byddai fy ymchwil i lle mae hi nawr.” Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n darparu adnoddau ychwanegol dros y flwyddyn nesaf i ddatblygu rhwydwaith ENRICH Cymru ymhellach, i’w ehangu fel ei fod yn cyrraedd cartrefi gofal ledled Cymru ac i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae hyfforddiant ‘Ymwybodol o Ymchwil’ Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer cartrefi gofal, hefyd yn cael ei gyflwyno fesul cam ar draws cartrefi gofal o fewn rhwydwaith ENRICH Cymru.
“Mae’r rhwydwaith yn hybu cyfnewid syniadau a gwybodaeth am ymchwil, ac yn meithrin creu ymchwil berthnasol ar y cyd i’r materion sydd ohoni yn y sector cartrefi gofal,” meddai Stephanie Watts, cydlynydd ENRICH Cymru. “Mae ymwybyddiaeth o’r rhwydwaith a diddordeb ynddo’n tyfu’n gyflym. Mae 20 o gartrefi wedi cofrestru ar draws gogledd a de Cymru, ac mae’r diddordeb yn tyfu yng
Stephanie Watts yn recriwtio cartref nyrsio Old Vicarage, Sgeti
FFOR WM Y&D 2019
Yn taflu goleuni ar Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yng nghynhadledd y DU
Iechyd a Gofal Cymru, oedd yn cadeirio un sesiwn a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi ymchwil gofal cymdeithasol, a chynigiodd Dr Fiona Verity, cyfarwyddwr Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru, safbwynt Cymreig ar y drafodaeth hon fel rhan o banel o arbenigwyr.
Tynnwyd sylw at ymchwil yng Nghymru yng nghynhadledd Fforwm Ymchwil a Datblygu (Y&D) y GIG, a gynhaliwyd yng ngwesty’r Hilton Metropole yn Brighton ym mis Mai, trwy gyfrwng stondinau arddangos, posteri a siaradwyr o ledled gwasanaeth cefnogi a chyflenwi Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Fel cadeirydd y grŵp rhaglen, gwnaeth Dr Nicola Williams, cyfarwyddwr cenedlaethol cefnogi a chyflenwi yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gyfraniad hynod werthfawr wrth ddatblygu’r digwyddiad, ac fe wnaeth y sylw:
Gyda nifer o weithdai a sesiynau llawn, daeth y gynhadledd â thimau ymchwil cefnogi a chyflenwi ledled y DU ynghyd i gyfarfod, dysgu a rhannu eu profiadau o weithio ym maes ymchwil. Carys Thomas, cyfarwyddwr interim Ymchwil
10
“Mae cynhadledd Fforwm Y&D y GIG yn parhau i dyfu wrth i nifer gynyddol o’n gweithlu proffesiynol ymdrechu i wneud gwahaniaeth i sut y mae ymchwil yn cael ei chefnogi a’i chyflenwi. Dwi wastad yn rhyfeddu at sut y mae Cymru’n parhau i arwain y ffordd o ran datblygu arfer da, dylanwadu ar bolisi a rhannu adnoddau.
Dewiswyd pum poster o Gymru i’w harddangos yn y digwyddiad, gyda Chymru’n ennill y wobr poster o ddewis y bobl am y trydydd tro yn olynol. Lynette Lane, uwch reolwr hyfforddi a datblygu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a greodd y poster buddugol am y cwrs hyfforddi arloesol Sylfaen ar gyfer Arfer Ymchwil y mae tîm hyfforddi’r Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi’n ei redeg. Meddai Lynette: “Doeddwn i ddim eisiau i fy mhoster i fod yn un ichi ‘gerdded heibio iddo’; roeddwn i eisiau i bobl aros a chymryd sylw go iawn. “Roedd yn golygu llawer o gynllunio a chreadigedd ond yn y bôn mi gymerais i amser i ganfod sut i fod yn wahanol a sut i roi rhywbeth yn fy mhoster na fyddai o bosibl gan unrhyw un arall. Roedd y wybodaeth ar ein cwrs Sylfaen ar gyfer Arfer Ymchwil yn bwysig ac yn wahanol o’i gymharu ag unrhyw hyfforddiant arall yn y DU, ac felly roeddwn i
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
CA N OLFA N P RI M E C YM R U
Mae’n hen bryd gwella gofal llygaid brys Petai gennych chi broblem â’ch llygaid, i ble fyddech chi’n troi am help? Dywedodd ychydig dros hanner y bobl yng Nghymru y bydden nhw’n mynd at eu meddyg teulu, ac mae nifer y bobl sy’n mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys ar gynnydd. Mae hyn yn rhoi’r gwasanaethau hyn, sydd yn aml heb yr offer archwilio llygaid priodol, dan bwysau. Byddai galw heibio i’ch optegydd neu’ch fferyllfa leol yn gallu datrys tua traean o’r problemau sy’n ymwneud â’r llygaid ac fe allai astudiaeth gydweithredol newydd ym maes iechyd y cyhoedd helpu i leihau’r pwysau ar y gwasanaethau hyn trwy ddisgrifio amlder a baich gofal llygaid brys anniogel, ac amcangyfrif ei gost. Bydd yr astudiaeth, a ariennir gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac a gefnogir gan Ganolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys (Canolfan PRIME Cymru), yn defnyddio holiaduron a chyfweliadau, ochr yn ochr â data Cymrueang, i ddarganfod faint o ofal llygaid brys y gallai optegwyr a fferyllfeydd ei ddarparu. Mae’r tîm yn gobeithio y bydd hyn yn tynnu’r pwysau oddi ar wasanaethau’r adrannau
eisiau i bobl aros a darllen amdano. “Yng nghanol fy mhoster i roedd pen yn llawn o olwynion cocos metel gyda goleuadau bychain yn eu goleuo, yn cynrychioli prosesau meddwl a syniadau newydd. Yn sicr, roedd y cysyniad yn annhebyg i unrhyw un arall ac roedd pobl yn aros ac yn darllen y wybodaeth yn hytrach na jyst cerdded heibio. Roeddwn i’n teimlo mod i wedi cyrraedd fy nod, ond roedd ennill Gwobr Dewis y Bobl yn profi ei fod yn beth da i fod yn wahanol a hoelio sylw.” Roedd stondin arddangos Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn llwyddiant ysgubol hefyd, gyda staff y Ganolfan Cefnogi a Chyflenwi’n trafod dull Cymru’n un o fynd ati i sefydlu ymchwil a’i chyflenwi a’i rhannu. Bu mynychwyr hefyd yn chwarae ein gêm ‘Un Cymru...mae’n farbli-gedig!‘ â’r nod o adeiladu rhedfa marblis gyda phedwar mewnbwn ac un allbwn yn yr amser
damweiniau ac achosion brys a meddygon teulu ac yn gwella profiadau cleifion o wasanaethau gofal llygaid. Wedi’u lleoli yn ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg (OPTOM), mewn cydweithrediad ag Ysgolion Meddygaeth a Fferylliaeth, mae dyluniad yr astudiaeth wedi manteisio ar gefnogaeth Canolfan PRIME Cymru i gael gafael ar arbenigedd ymchwil gwasanaethau iechyd mewn gofal sylfaenol a brys. Mae grŵp Defnyddwyr Gwasanaeth ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Brys (SUPER) Canolfan PRIME Cymru’n darparu cymorth i gynnwys y cyhoedd trwy gydol yr astudiaeth. Gyda’i gilydd, mae’r ganolfan a’r tîm ymchwil yn gweithio i ddiffinio diogelwch cleifion ym maes gofal llygaid trwy ymchwilio i ba gyflyrau llygaid sy’n dueddol o ddioddef camreolaeth anniogel, oedi niweidiol cyn ymyrraeth, neu gamddiagnosis.
Meddai Dr Andrew Carson-Stevens, arweinydd arbenigol gofal sylfaenol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac arweinydd ymchwil i ddiogelwch cleifion ar gyfer Canolfan PRIME Cymru: “Mae’r grŵp diogelwch cleifion (PISA) yng Nghanolfan PRIME Cymru wedi ymchwilio’n helaeth i ‘beth sy’n anniogel mewn ymarfer meddygol?’ ac maen nhw nawr yn gweithio mewn cyfnod o wneud argymhellion a chynllunio ymyriadau i wella diogelwch systemau gofal sylfaenol. “Fe fydd ein cydweithrediad ag OPTOM yn creu cyflenwad o ben ymchwilwyr ym maes optometreg yn y gymuned sy’n arbenigo mewn ymchwilio i ofal iechyd anniogel ac mewn cynllunio atebion i wella gwasanaethau yn y dyfodol mewn byrddau iechyd ledled Cymru, yn ogystal â pheri ymchwil a datblygiadau methodolegol blaenllaw yn rhyngwladol i ymestyn yr ymchwil i ddiogelwch cleifion i ofal llygaid.”
cyflymaf. Llwyddodd Claire Symms o Grŵp Comisiynu Clinigol GIG De Norfolk i’w gwblhau mewn amser anhygoel o 24 eiliad, gan ennill iddi’i hun le ar frig ein bwrdd enillwyr. Fforwm Y&D y GIG sy’n cynnal y digwyddiad, ar y cyd â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, ac mae’n denu dros 600 o fynychwyr, gan gynnwys arweinwyr polisi o’r Adran Iechyd, GIG Lloegr, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, gydag elusennau, a phartneriaid academaidd a diwydiant yn mynychu hefyd. Mae Fforwm Y&D y GIG yn rhwydwaith proffesiynol dielw ac yn gymuned arfer ar gyfer y gweithlu sy’n rheoli, yn cefnogi ac yn arwain ymchwil iechyd a gofal ledled y DU. Mae cymuned Fforwm Y&D y GIG yn cynnwys rheolwyr, cyfarwyddwyr, staff cefnogi a chyflenwi ymchwil yn bennaf. Bydd digwyddiad 2020 yn cael ei gynnal
yn Newcastle, felly cadwch eich llygad yn agored ar ein tudalen digwyddiadau i gael y manylion diweddaraf wrth iddyn nhw gael eu rhyddhau.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
11
PR I F STORI
Yn cyhoeddi uwch arweinwyr ymchwil ac arweinwyr arbenigeddau newydd Mae enwau uwch arweinwyr ymchwil ac arweinwyr arbenigeddau newydd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi’u cyhoeddi – ac maen nhw’n barod i hyrwyddo’r ymchwil ragorol sy’n cael ei chynnal yng Nghymru.
B
u cryn gystadlu am yr uwch rolau hyn y
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Byddan nhw
Bwriedir hefyd “cydweithredu ar draws
hefyd yn chwarae rôl flaenllaw yn cynyddu
ffiniau ac yn rhyngwladol” yn ogystal â chael
proffil ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
“rhwydweithiau” arbenigeddau i allu “ehangu
yng Nghymru ar lefel genedlaethol a
nifer y treialon masnachol ac anfasnachol”
rhyngwladol.
sy’n mynd rhagddyn nhw yng Nghymru.
Bydd ein harweinwyr arbenigeddau’n
Mae ein huwch arweinwyr ymchwil a’n
adeiladu rhwydweithiau o ben ymchwilwyr
harweinwyr arbenigeddau 2016 wedi
o fewn eu harbenigeddau ac yn cefnogi pobl
gwneud gwaith ardderchog dros y tair
i ymgymryd ag astudiaethau yng Nghymru,
blynedd diwethaf a hoffen ni ddiolch iddyn
yn ogystal ag ymgysylltu â chymheiriaid yn
nhw am eu hamser a’u cyfraniad.
y DU. Rydyn ni llawn cyffro i groesawu ein grŵp
maen nhw’n ymgymryd â nhw am y tair blynedd nesaf.
Mae eu dyheadau’n amrywio o “roi pob
newydd o ymchwilwyr o fri, ac rydyn ni’n
cyfle posibl i bobl sy’n byw â diabetes i gael
edrych ymlaen at gydweithio â nhw.
Mae nifer o oruchwylion mawr yn wynebu
therapïau newydd” i ddod “yn genedl sy’n
ein huwch arweinwyr ymchwil, gan gynnwys
arwain ym maes ymchwil meddygaeth frys
Cliciwch ar y lluniau i ddysgu mwy am bob
helpu i ddatblygu cyfnod nesaf strategaeth
cyn-ysbyty a meddygaeth frys.”
un o’n hymchwilwyr o fri.
Uwch arweinwyr ymchwil
Yr Athro Jon Bisson
Yr Athro Vanessa Burholt
Yr Athro Colin Dayan
Yr Athro Adrian Edwards
Yr Athro William Gray
Yr Athro Kerenza Hood
Yr Athro Dyfrig Hughes
Yr Athro Ian Jones
Yr Athro Ronan Lyons
Yr Athro Paul Morgan
Yr Athro Shantini Paranjothy
Yr Athro Andrew Sewell
Yr Athro Helen Snooks
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards
Yr Athro John Williams CBE
12
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
Arweinwyr arbenigeddau
Dr Matthew Morgan – gofal critigol
Dr Chin Lye Ch’ng – hepatoleg
Dr Kate Button – anhwylderau cyhyrysgerbydol
Yr Athro Julia Sanders – iechyd atgenhedlol a geni plant
Dr Tamas Szakmany – anesthesia, meddygaeth amdriniaethol a rheoli poen
Dr Robert Jones – canser
Dr Richard Anderson – clefyd cardiofasgwlaidd
Dr Philip Connor – plant
Yr Athro Stephen Bain – diabetes
Dr Sunil Dolwani – gastroenteroleg
Dr Raza Alikhan – hematoleg
Nigel Rees – Dr Ceri Battle – anafiadau ac achosion anafiadau ac achosion brys (rôl ar y cyd) brys (rôl ar y cyd)
Yr Athro Jon Bisson – iechyd meddwl
Dr Aled Rees – anhwylder metabolig ac endocrin
Dr Khalid Hamandi – niwroleg
Yr Athro Ivor Chestnutt – iechyd y geg a deintyddol
Dr Andrew CarsonStevens – gofal sylfaenol
Dr Sian Griffin – arennol
Yr Athro Keir Lewis – anadlol
Dr Jonathan Hewitt – strôc
Dr Manju Krishnan – strôc (dirprwy)
Yr Athro Ian Whittaker – llawdriniaeth
Dr John Ingram – dermatoleg
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
13
P R I F STORI
Mynnu sylw i’ch ymchwil Mae’r tîm cyfathrebu yn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n derbyn cwestiynau’n aml oddi wrth ymchwilwyr ynglŷn â’r ffordd orau i roi cyhoeddusrwydd i’w gwaith.
R
ydyn ni’n byw mewn byd wedi’i orlwytho â gwybodaeth. Mae yna dros 1.8 biliwn o wefannau’n bodoli ac, ar gyfartaledd, mae 571 o rai newydd yn cael eu creu bob munud. Felly, mae arnon ni angen rhannu gwybodaeth am ymchwil mewn ffyrdd sydd mor hygyrch â phosibl. Felly sut y mae ymchwilwyr yn tynnu sylw at eu hymchwil? Mae Cheryl Lee, ein rheolwr cyfathrebu, yn rhannu ei hawgrymiadau a’i syniadau mwyaf effeithiol ynglŷn â sut y gall ymchwilwyr roi cyhoeddusrwydd i wybodaeth am eu hymchwil, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach. “Rydych chi wedi gorffen eich ymchwil ac nawr mae’n amser rhoi’r gair ar led am yr hyn rydych chi wedi’i ddarganfod. Ond beth pe baech chi’n rhoi cynnig ar wneud pethau ychydig yn wahanol? “Weithiau, mae’n ddefnyddiol bod yn fwy arloesol ynglŷn â phryd, ble a sut rydych chi’n rhannu’ch ymchwil, yn ogystal â gyda phwy rydych chi’n ei rhannu, er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. Os ydy ymchwil yn mynd i gael effaith yn y byd go iawn yna mae’n rhaid iddi gyrraedd y llunwyr polisi a’r
14
ymarferwyr, yn ogystal â chynulleidfaoedd ehangach, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd. “Yn hytrach nag aros tan ddiwedd eich ymchwil, rhowch amser i feddwl amdano o flaen llaw ac yn ystod pob cam o’r broses ymchwilio. Hefyd, dylech chi efallai ystyried bod rhannu gwybodaeth yn rhan annatod o gylch oes y prosiect, o ddatblygu syniad am ymchwil, i recriwtio pobl i gymryd rhan, trwodd i ledaenu darganfyddiadau’r ymchwil ar y diwedd. Wedi’r cyfan, gall ymwybyddiaeth gynnar a pharhaus o’ch astudiaeth helpu â’r recriwtio a’i gwneud hi’n haws ymgysylltu â phobl gyda’r darganfyddiadau yn ddiweddarach. “Mae sut a ble rydych chi’n rhannu’ch ymchwil hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran cyrraedd y bobl rydych chi eisiau eu cyrraedd. Mae yna nawr amrywiaeth o sianelau y gellir eu defnyddio, gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol a dulliau hawdd i’w cyrchu ar wefannau/tudalennau gwe fel blogiau, podlediadau, fideos a ffeithluniau. “Mae’r sianelau hyn yn gallu ymestyn y tu hwnt i’r dulliau traddodiadol ac mae ganddyn nhw lawer o fanteision. Yn ogystal â lledaenu cyflym, maen nhw’n gallu arwain at fwy o ryngweithio a chydweithredu, cynyddu dylanwad, er enghraifft, gydag arianwyr, a chodi proffil ymchwil ar raddfa fwy. “Mae’n bur debyg eich bod chi’n gwneud llawer o’r pethau hyn yn barod. Ond os oes angen ychydig o help ac ysbrydoliaeth arnoch chi, yna dyma rai o fy awgrymiadau a’m syniadau mwyaf effeithiol i’w rhannu â chi.
Cynllun cyfathrebu Mae sefydlu ffyrdd o gyfathrebu ar gyfer eich astudiaeth yn hanfodol i roi gwybod i randdeiliaid a’r cyhoedd am gynnydd eich ymchwil, a hefyd i ledaenu’r darganfyddiadau ar y diwedd. Gall y rhain fod ar ffurf gwefannau dynodedig, tudalennau gwe a chyfathrebu ysgrifenedig fel cylchlythyrau, enwau @ yn y cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau a mwy. Nid ydy’r dulliau hyn yn cymryd lle’r dulliau mwy traddodiadol, sy’n hynod bwysig hefyd, ond yn ychwanegu atyn nhw ac yn gymorth i gyrraedd cynulleidfa ehangach.
Blogio Gwefan neu dudalen gwe y mae unigolyn yn ei rhedeg ydy blog, ac mae’n cael ei ysgrifennu mewn arddull sgyrsiol. Bydd gallu blogio am eich ymchwil mewn iaith glir yn eich helpu chi i rannu’ch ymchwil â chynulleidfa ehangach a mwy cyffredinol. Mae blogio o gymorth mawr i gael eich darganfod.
Twitter Gwasanaeth newyddion a rhwydweithio cymdeithasol ar-lein ydy Twitter, gyda thua 321 miliwn o ddefnyddwyr gweithredol. Gallwch chi ddefnyddio Twitter i rannu’ch ymchwil yn hawdd ac yn gyflym gyda nifer fawr o bobl. Gallwch chi ddilyn, aildrydar a rhyngweithio â defnyddwyr eraill i adrodd eich stori ymchwil.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
glir a diddorol. Gallwch chi greu, golygu a lanlwytho’ch fideo yn syth o’ch ffôn clyfar.
Gwasanaeth rhwydweithio a chyfryngau cymdeithasol ar-lein ydy Facebook, gyda thua 2.3 biliwn o ddefnyddwyr gweithredol yn fisol, ac mae’n agor drysau i’r gynulleidfa cyfryngau cymdeithasol fwyaf a mwyaf amrywiol yn y byd. Gallwch chi rannu’ch ymchwil trwy dudalennau cyhoeddus, neu â chymunedau penodol trwy grwpiau preifat.
LinkedIn Mae LinkedIn wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer busnes a gweithwyr proffesiynol. Mae ymchwil yn galw am gydweithio ac mae proffil LinkedIn yn ffordd wych arall i rwydweithio a rhannu syniadau.
Ffeithluniau Cynrychioliad gweledol graffig o wybodaeth neu ddata ydy ffeithluniau, â’r bwriad o gynrychioli’r wybodaeth yn gyflym ac yn glir. Y dyddiau hyn, mae pobl wedi’u gorlwytho
Gwefan newyddion cymdeithasol ydy Reddit, ac mae wedi dod yn brif ysgogydd traffig postiadau blogio, fideos, delweddau ac erthyglau newyddion. Mae’r llwyfan yn
“Mae sut a ble rydych chi’n rhannu’ch ymchwil hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr o ran cyrraedd y bobl rydych chi eisiau eu cyrraedd.”
I gael rhagor o awgrymiadau ynglŷn â rhannu’ch ymchwil, drwy’r cyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau, blogio a mwy, cysylltwch â’r tîm cyfathrebu.
â gwybodaeth felly mae cyfleu’ch neges yn galw am fwy na dim ond testun plaen. Mae ffeithluniau’n ffordd wych o helpu pobl i ddeall llawer o wybodaeth gymhleth.
cynnig cyfle gwych i ymchwilwyr ymgysylltu â sail defnyddwyr o 250 miliwn o bobl, mewn is-adrannau penodol sy’n berthnasol i bwnc.
Podlediadau
Gofynion arianwyr ymchwil
Ffeil sain ddigidol ydy podlediad sydd ar gael ar y rhyngrwyd i’w lawrlwytho i gyfrifiadur neu ddyfais symudol. Mae podlediadau wedi dod yn hynod boblogaidd dros y deng mlynedd diwethaf – mae pobl yn treulio mwy o amser nag erioed â’u clustffonau ymlaen, sy’n rhoi’r cyfle perffaith ichi gyfathrebu â nhw a chael eu sylw llwyr.
Fideos Mae cynulleidfaoedd eisiau cael gwybodaeth ar flaenau eu bysedd sy’n gryno ac yn hawdd i’w deall, ac mae fideos yn ffordd wych i gyfleu cysyniadau cymhleth mewn ffordd
Mae’r holl arianwyr ymchwil yn disgwyl i ymchwilwyr ledaenu darganfyddiadau eu hymchwil yn effeithiol ac mae’n debygol y bydd yn rhaid ichi ymrwymo i gyhoeddi’ch gwaith ar ddiwedd proses y cyllid grant. Fodd bynnag, mae yna wahaniaeth rhwng gofynion a disgwyliadau arianwyr ymchwil a chynlluniau ariannu ymchwil. Dylech chi bob amser wirio’ch amodau a thelerau a disgwyliadau’ch ariannwr wrth gynllunio ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i’ch gwaith a’i ledaenu.
Cheryl Lee Rheolwr cyfathrebu, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
15
Calendr I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw rai o’r digwyddiadau hyn, ewch i galendr digwyddiadau Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
16
Diwrnod Iechyd Bae Abertawe
MediWales Connects
27 Mehefin Sefydliad Gwyddor Bywyd 1, Parc Singleton, Abertawe
02 Gorffennaf Y Neuadd Fawr, Prifysgol Abertawe
Gyda sgyrsiau gan arbenigwyr, gweithdai, taith o gwmpas y parc gwyddor, lle i arddangos a chyfleoedd i rwydweithio, bydd Diwrnod Iechyd Bae Abertawe 2019 yn rhoi lle amlwg i’r pethau gorau ar gynnig o ledled y sector gwyddor bywyd yn ne-orllewin Cymru.
Yn eich cysylltu chi â chlinigwyr y GIG sy’n
Cynhadledd Strôc Cymru
Sôn am ymchwil
03 - 04 Gorffennaf Prifysgol Metropolitan Caerdydd
06 Gorffennaf Storiel, Bangor
Mae Cynhadledd Strôc Cymru’n un o’r
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n
digwyddiadau amlddisgyblaeth mwyaf yng
cynnal dwy ŵyl rad ac am ddim yr haf hwn i
Nghymru ac mae’n ddigwyddiad arwyddocaol
ymgysylltu â phobl Cymru ynglŷn â’r ymchwil
ar y calendr addysgol ar gyfer strôc yn y DU.
sy’n mynd rhagddi ar stepen eu drws – a’u
Dechreuwyd y gynhadledd yn 2002 ac mae
helpu nhw i ddarganfod eu rôl nhw mewn
wedi mynd o nerth i nerth bob blwyddyn.
ymchwil iechyd a gofal.
Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd
Sôn am ymchwil
08 - 12 Gorffennaf Prifysgol Bangor
27 Gorffennaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cyfres o ddosbarthiadau meistr a fydd yn
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n cynnal dwy ŵyl rad ac am ddim yr haf hwn i ymgysylltu â phobl Cymru ynglŷn â’r ymchwil sy’n mynd rhagddi ar stepen eu drws – a’u helpu nhw i ddarganfod eu rôl nhw mewn ymchwil iechyd a gofal.
rhoi’r cyfle ichi ymgysylltu ag arweinwyr ymchwil ac/neu aelodau o’u timau a dysgu ganddyn nhw mewn meysydd arbenigol sy’n gysylltiedig ag ymchwil gofal iechyd.
dod wyneb yn wyneb â chleifion, arweinwyr arloesedd, iechyd cymunedol, llywodraeth a llunwyr polisi.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith UKCRF
Fforwm Addysg Ymchwil Caerdydd 2019
DECIPHer: Gwerthuso Proses Ymyriadau Cymhleth
27 - 28 Gorffennaf East Midlands Conference Centre
14 Awst Ysbyty Athrofaol Llandochau Fach
11 Medi Adeilad Morgannwg, Parc Cathays, Caerdydd
Mae Cynhadledd Flynyddol Rhwydwaith UKCRF yn rhoi cyfle i’r mynychwyr gyfarfod â chydweithwyr a thrafod materion amserol ynglŷn ag arfer gorau mewn gweithrediadau Cyfleuster Ymchwil Glinigol (CRF).
Sesiwn galw heibio yw hon, lle caiff gwybodaeth am hyfforddiant ymchwil ac adnoddau eu rhannu.
Nod y cwrs undydd hwn yw rhoi gwybodaeth ymarferol i gyfranogwyr am ddamcaniaeth ac arfer gwerthuso proses ymyriadau cymhleth.
Cynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol
Cwrs byr ffarmacoeconomeg
Menywod Cymru mewn STEM: Symposiwm Agoriadol
11 - 12 Medi Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd
12 - 13 Medi Y Ganolfan Rheolaeth, Prifysgol Bangor
6 Medi Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Y profiad cynhadledd unigryw hwn yw’r cyfle
Mae’r cwrs hwn yn cynnig trosolwg cynhwysfawr ar ddulliau gwerthuso ffarmacoeconomeg ac asesu technoleg iechyd i’r rheini sy’n gweithio yn y GIG neu sydd â diddordeb ynglŷn â sut y gwneir y penderfyniadau hyn.
Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu agor
Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Cynhadledd canser NCRI
03 Hydref Gerddi Sophia, Caerdydd
17 - 18 Hydref Canolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd
3 - 5 Tachwedd Scottish Event Campus, Glasgow
Thema: partneriaeth a chydweithredu.
Thema: creu Cymru iachach
Mae’r gynhadledd yn gyfle i ymchwilwyr,
mwyaf blaenllaw i arddangos a rhwydweithio ar gyfer y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
rhwydwaith Menywod Cymru mewn STEM, a bydd yn edrych i’r dyfodol ar gyfer menywod ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
clinigwyr, pobl y mae canser yn effeithio
Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu.
arnyn nhw a chynrychiolwyr diwydiant ddod at ei gilydd i drafod, cyflwyno ac arddangos ymchwil o ansawdd uchel.
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019
17
Fel a welir ar dudalen 10
Ymunwch â ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol
18
Cylchgrawn Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Rhifyn 06 – Mehefin 2019