



Nghymru
Mae grwpiau a sefydliadau
llawr gwlad yn chwarae rôl
bwysig mewn cefnogi pobl
Drawsryweddol sydd wedi'u targedu a'u heffeithio gan gasineb.
Yma rydym yn tynnu sylw at bwysigrwydd grwpiau llawr gwlad gan siarad ag Unique, sefydliad sy'n cefnogi pobl
Drawsryweddol yng Ngogledd Cymru yn bennaf, ond sydd
hefyd â chyrhaeddiad rhithwir dros Gymru gyfan.
Gan weithio mewn
partneriaeth agos â grwpiau
megis Unique, gallwn sicrhau bod pobl yn derbyn cymorth gan eraill sy'n rhannu'r
nodwedd â nhw, ac ar yr un pryd yn gallu cael cymorth
arbenigol hanfodol gan
Ganolfan Cymorth Casineb Cymru.
Grass-root groups and organisations play an important role in supporting Transgender people targeted and impacted by hate.
Here we highlight the importance of grass-root groups by talking to Unique, an organisation supporting Transgender people primarily in North Wales, but who also have a reach virtually across Wales.
Working closely in partnership with groups like Unique, we’re able to ensure that people are receiving support from others with their shared characteristic, and at the same time able to access vital specialist support from the Wales Hate Support Centre.
Fel arbenigwyr mewn dioddefwreg yn Cymorth i Ddioddefwyr, rydym yn
gwerthfawrogi cysylltiad ac fel sefydliad gydag ymdeimlad
cryf o gynghreiriaeth tuag at y gymuned Drawsryweddol, rydym yn deall pwysigrwydd cysylltu pobl â phawb y gall helpu a chefnogi.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen rhagor o wybodaeth am Unique. Mae’n bosibl bod grwpiau a sefydliadau llawr gwlad eraill sy’n cefnogi pobl drawsryweddol yn gweithredu yn eich ardal – fel cynghreiriad trawsryweddol, treuliwch
amser yn chwilio amdanynt a gwybod pwy ydyn nhw rhag ofn y byddwch yn dod ar draws rhywun sydd angen eu cymorth.
As specialists in victimology in Victim Support, we value connection and as an organisation with a strong sense of allyship towards the Transgender community, we understanding the importance of connecting people with all of those that can help and support.
We hope that you enjoy reading more information about Unique. There may be other grass-root groups and organisations supporting transgender people operating in your area – as a transgender ally, please take the time to seek them out and know who they are in the event you come across someone who needs their support.
Mae THE UNIQUE TRANSGENDER NETWORK yn
grŵp gwirfoddol cyfansoddiadol sy'n ariannu ei hun sy'n cefnogi pobl Draws (trawsryweddol), Anneuaidd a Rhywedd-amrywiol yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Sir Gaer a thu hwnt. (https://www.uniquetg.org.uk/)
Yn aml mae pobl Draws, o'r rhai sydd newydd ddod allan (naill a'i croeswisgo neu'n dechrau trawsnewid) angen sicrwydd, cefnogaeth a chyfeirio gan eraill sydd â phrofiadau tebyg.
Prif nod Unique yw helpu pob person Traws, Anneuaidd a Rhywedd-amrywiol i dderbyn eu hunain, dod o hyd i dderbyniad gan eraill a chael eu cynnwys gan gymdeithas trwy godi ymwybyddiaeth pob darparwr gwasanaeth.
The UNIQUE TRANSGENDER NETWORK is a constituted and self-funding voluntary group supporting Trans (transgender), Non-Binary and Gender Diverse people in North Wales, West Cheshire and beyond.
(https://www.uniquetg.org.uk/ )
Trans people, from those who have just-left-the-closet (either cross-dressing or starting transitioning) often need reassurance, support and signposting from others with similar experiences.
Unique's prime aim is to help all Trans, Non-Binary and Gender Diverse people accept themselves, find acceptance from others and inclusion by society by raising awareness for all service providers.
Cymorth a Gwybodaeth
Mae Unique yn cynnig cyfeillgarwch a chymorth i unigolion Traws, ac mae'n cael ei redeg gan bobl Draws
Mae gennym gyfoeth o brofiad personol (22+ mlynedd) a llawer o gysylltiadau defnyddiol o fewn y gymuned leol a phroffesiynau gofal.
Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu mannau diogel i bobl Drawsryweddol, Anneuaidd a Rhywedd-amrywiol (Traws+) fod yn nhw eu hunain trwy gefnogaeth reolaidd a chyfarfodydd cymdeithasol mewn lleoliadau amrywiol gan gynnwys Bangor, Prestatyn, Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy bob mis.
Mae'r cyfarfodydd hyn yn helpu unigolion i gysylltu, rhannu profiadau, cael eu cyfeirio at wybodaeth dda a chywir a dod o hyd i gymorth cymunedol a chyfeillgarwch.
Mae Unique yn cynnal saith cyfarfod byw pob mis a dau gyfarfod cymdeithasol ar-lein 3 awr ar Zoom pob wythnos.
Support & Information
Unique offers friendship and support to Trans individuals, and is run by Trans people.
We have a wealth of personal experience (22+ Years) and many useful contacts within the local community and caring professions. We do this by providing safe spaces for Transgender, Non-Binary and Gender-Diverse (Trans+) people to be themselves through regular support and social meetings in various locations including Bangor, Prestatyn, Rhyl and Deeside every month. These meetings help individuals connect, share experiences, be signposted to good and accurate information and find community support and friendship.
Unique runs seven live meetings every month and two 3 hour Zoom Online Social meetings every week.
Dechreuodd y cyfarfodydd Zoom ar ddechrau'r epidemig Covid i gyrraedd y rhai nad oedd yn gallu mynychu
cyfarfodydd byw, ac yn arbennig i gefnogi pobl Drawsryweddol a Rhywedd-amrywiol unig ac ynysig.
Mae'r allgymorth hwn wedi casglu aelodau rheolaidd o bob rhan o Gymru, Lloegr, a Gogledd America ac mae'n parhau i ddarparu cyswllt hanfodol i lawer.
Mae Unique yn cynnal cyfarfodydd Zoom dwywaith yr wythnos, gan sicrhau bod cymorth ar gael hyd yn oed i'r rhai na allant fynychu yn bersonol.
Rydym hefyd yn darparu llinell wybodaeth (01745-337144), rydym yn rhedeg tudalen Facebook fywiog (https://www.facebook.com/groups/U NIUQUETG), cyfrif Instagram (https://www.instagram.com/uniquet gnorthwales/), gwefan yr ymgynghorir â hi ac yr ymddiriedir ynddi lawer (www uniquetg org uk) (yn derbyn tua 1100 trawiad y mis) gyda gwybodaeth gywir a chyfredol, gan gynnwys darpariaeth gwasanaeth ac yn cylchredeg Cylchlythyr Gwybodaeth a Digwyddiadau Misol. (https://www.uniquetg.org.uk/newslet ter.html )
The Zoom Meetings started at the beginning of the Corvid epidemic to reach those unable to attend live meetings and particularly to support lonely and isolated Trans and Gender Diverse people.
This outreach has gathered regular members from across Wales, England and North America and continues to provide a vital link to many.
Unique hosts twice weekly Zoom meetings, ensuring that support is accessible even to those who cannot attend in person.
We also provide an information line (01745-337144), run a lively Facebook page (https://www.facebook.com/groups/U NIUQUETG), an Instagram account (https://www.instagram.com/uniquet gnorthwales/), a much consulted & trusted Website (www.uniquetg.org.uk) (Receiving around 1100 hits per month) with accurate and up-to-date Information, including service provision and circulate a Monthly Information & Events Newsletter. (https://www.uniquetg.org.uk/newslet ter.html )
Mae Unique yn rheoli tŷ cymunedol
yn y Rhyl, Gogledd Cymru sydd ar gael i’r rhai sydd angen lle tawel i fod yn nhw eu hunain.
Fe'i defnyddir hefyd i gefnogi'r rhai sy'n gwella ar ôl llawdriniaeth, i unigolion neu gyplau drafod yr heriau
o fod yn Draws neu'n syml i gael gwyliau tawel yng Ngogledd Cymru hardd.
Rydym hefyd yn cynnal ein cyfarfodydd galw heibio rheolaidd ddwywaith y mis yno, i helpu'r rhai sydd eisiau amgylchedd grŵp llai neu gefnogaeth un i un.
Rydym yn darparu partïon Gardd, gweithgareddau cymdeithasol ac ati, ac yn benthyca’r gofod i grwpiau eraill at ddibenion tebyg.
Mae Unique yn cynnal adnodd mawr
o ddillad, wigiau, esgidiau, a phrosthesis ar gyfer cefnogi Pobl
Drawsryweddol a llyfrgell gyfeirio
Draws fawr ar bob maes o drawsywedd a rhywedd-amrywiaeth.
Unique manages a community house in Rhyl, North Wales which is available for those needing a quiet place to be themselves.
It is also used to support those convalescing after surgery, for individuals or couples to discuss the challenges of being Trans or simply to have a quiet holiday in beautiful North Wales.
We also have our regular twice monthly drop-in meetings there, to help those wanting a smaller group environment or one to one support..
We provide Garden parties, social activities etc., and loan the space to other groups for similar purposes.
Unique maintains a large resource of clothes, wigs, shoes, and prosthesis for supporting Trans People and a large Trans reference library on all areas of trans and gender diversity.
Ymgysylltu â'r gymuned ehangach yw un o amcanion allweddol Unique, i unigolion Traws a allai fod angen help ac anogaeth, ac i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bobl drawsryweddol a'u materion i'r cyhoedd yn gyffredinol.
Rydym yn cynnig gwybodaeth a hyfforddiant Ymwybyddiaeth a Chydraddoldeb Traws i gwmnïau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau trydydd sector.
Mae Unique yn weithredol wrth eirioli dros well gofal iechyd a gwasanaethau cymorth i unigolion trawsryweddol yng Nghymru, ac mae'n rhan ganolog o sefydliad a gweithrediad parhaus Gwasanaeth Rhywedd Cymru, sy’n cael ei ganmol yn eang fel y gorau yn y DU.
Mae’n eirioli gyda GIG Cymru a’r Byrddau Iechyd lleol, Llywodraeth Leol a Rhanbarthol, Cymdeithasau Tai, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru a llawer o Sefydliadau Cyhoeddus a Thrydydd Sector eraill.
Reaching out to the wider community is one of Unique's key objectives, both to Trans individuals who may need help and encouragement, and to promote awareness of transgender people and their issues to the general public.
We offer information and Trans Awareness and Equality training to companies, public bodies and third sector organisations.
Unique is active in advocating for better healthcare and support services for transgender individuals in Wales, and is pivotal in the establishment and continued operation of the Welsh Gender Service, widely acclaimed as the best in the UK.
It advocates with NHS Wales and the local Health Boards, Local and Regional Government, Housing associations, North Wales Police, North Wales Fire and Rescue, The North Wales Police and Crime Commissioner and many other Public and Third Sector Organisations.
Mae ymdrechion parhaus Unique wedi cael effaith sylweddol ar fywydau llawer o unigolion trawsryweddol a rhywedd-amrywiol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.
Maent wedi codi ymwybyddiaeth o Bobl Drawsryweddol a gwella eu cynhwysiant yn fawr, wedi gwella eu hiechyd meddwl a’u lles, wedi osgoi ymdrechion i gyflawni hunanladdiad, wedi cynorthwyo’r rhai sy’n dymuno dilyn llwybr trawsnewid ac wedi eirioli dros lawer sydd am gael mynediad at y gwasanaethau rhywedd a chyhoeddus eraill amrywiol.
Results The ongoing efforts of Unique have made a substantial impact on the lives of many transgender and gender-diverse individuals in North Wales and beyond.
These have greatly raised awareness and Inclusion of Trans People, improved their mental health and well-being, averted suicide attempts, assisted those wishing to follow a transitioning pathway and advocated for many wanting to access the various gender and other public services.