
Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref - Ceredigion
Y Newyddion yn Gryno
HafgydaHAHAV
Newyddionamygwaith
adnewyddu
GrŵpCymorthCanseryFron
Digwyddiadau’rMaer
Ffarwelio
Adnewyddu Plas Antaron
Mae’ r gwaith adeiladu ar yr ystafell sy ’ n mynd i fod yn Ystafell Gelf yn mynd ymlaen yn dda gyda'r gwaith allanol ar y to newydd dros y brif ystafell bron wedi dod i ben.


Y cam nesaf fydd y gwaith allanol ar do'r coridor i fyny'r grisiau, ac yna ' r gwaith aildrefnu mewnol a ' r newidiadau strwythurol. Mae'r hen waliau a nenfydau oedd yn ffurfio hen ystafelloedd gwely'r gwesty wedi cael eu tynnu ac mae ffenestri to newydd wedi cael eu gosod. Rydyn ni’ n dechrau cael cipolwg ar ba mor agored a golau bydd y lle hwn pan ddaw’ r gwaith i ben
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf ar ein cyfryngau cymdeithasol



@hahav ceredigion
@HAHAV Ceredigiion
@ HAHAV
Hwyl fawr a phob lwc Amelia!
Ar ôl ychydig llai na 4 blynedd o gydlynu'r gwasanaeth Cymorth yn y Cartref, daeth yn bryd inni ffarwelio ag Amelia Quinlan.
Bydd ein holl wirfoddolwyr a’n staff yn gweld colli Amelia a dymunwn y gorau iddi wrth iddi symud ymlaen i borfeydd newydd.


Llongyfarchiadau i enillydd ein cystadleuaeth “dyfalu enw’r jiráff” yn Sioe Aberteifi, a ddyfalodd yn gywir mai ei henw
oedd...Georgia!


Cip ar wirfoddolwr
Rwy’n frodor o Aber, wedi cael fy addysg yn lleol ac wedi aros yma ar wahân i flwyddyn gyda’r teulu yn Awstralia.
Ces i hyfforddiant yng Ngorsaf Bridio Planhigion Cymru (IBERS bellach) fel technegydd ymchwil.

Fe wnes i adael, fel y gwnaeth cymaint o ferched bryd hynny, i ddechrau teulu ond roedd dal amrywiaeth o swyddi rhan-amser ar gael y gallen i eu gwneud o gwmpas fy nheulu ifanc.
Yr un a roddodd y boddhad mwya i mi oedd gweithio fel Nyrs Gynorthwyol rhan-amser gyda'r hwyr. Gwnaeth hynny argraff enfawr arna i. Rwy'n meddwl bod gan y rhan fwya o famau rôl ofalu ac ychwanegodd hyn at fy nealltwriaeth. Fe ddysgais i gymaint.
Pan gododd y cyfle, fe wnes i ailhyfforddi fel Cytolegydd llawnamser a gweithio yn Labordy Patholeg Bronglais, gan arbenigo mewn Sytoleg Serfigol. O bryd i'w gilydd roeddwn i'n gweithio yng nghlinig Dr Axford a phan wnes i ymddeol, a phan ddechreuodd ef fudiad HAHAV, roeddwn i'n hapus i ymuno fel gwirfoddolwr gofal yn y cartref. Hanes yw'r gweddill.
Rwy'n mwynhau'r hyn rwy'n ei wneud gan wybod fy mod yn gwneud gwahaniaeth bach i fywydau pobl ond mae’n ymhell o fod yn brofiad unffordd. Rwy’n ennill cymaint wrth ddod i adnabod y bobl hyn, yn cael croeso yn eu cartrefi, ac yn eu tro maen nhw’n dysgu pethau i mi gan fy ngwneud yn berson mwy deallgar. Mae rhywbeth bach i’w ddysgu bob dydd.
Joyce Mytton


Digwyddiad y Maer
Fel un o’r elusennau mae’r Maer wedi ei dewis, byddwn yn y digwyddiad hwn gyda bwcedi i godi arian ac mae gwir angen rhai gwirfoddolwyr i’n helpu ar y diwrnod. Rhowch wybod os ydych ar gael! Grŵp Newydd Cymorth Canser y Fron
Roedd HAHAV yn falch iawn o gael cais i gynnal grŵp newydd cymorth canser y fron fis Gorffennaf eleni. Mae'r grŵp ar gyfer merched ar draws Ceredigion sydd wedi cael diagnosis o ganser y fron ac sydd bellach yn dod at ddiwedd y driniaeth. Mae'r grŵp yn cael ei redeg gan Claire Doncaster o Macmillan a bydd yn cyfarfod yng nghanolfan byw yn dda HAHAV, Plas Antaron. Dywedodd Claire: 'Canser y fron yw ' r ail ganser mwyaf cyffredin yn y byd. Mae un fenyw yn cael diagnosis bob 10 munud. Wrth i chi agosáu at gwblhau triniaeth, nid yn unig rydych chi'n delio â sgileffeithiau a blinder ar ôl y driniaeth, ond does dim gyda chi gymaint o gysylltiad rheolaidd â thimau iechyd, felly gall fod yn gyfnod heriol o hyd Gobeithiwn y bydd y grŵp cymorth newydd hwn yn llenwi'r bwlch ac yn lle defnyddiol i fenywod rannu a dod i gysylltiad â’i gilydd.' Bydd y cyfarfod nesaf ym mis Hydref, ffoniwch Susie am fwy o fanylion 01970 611550

Rhian Myfanwy Thomas (29 Tachwedd 1958 – 11 Awst 2024)
Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth sydyn Rhian. Dechreuodd Rhian ei gyrfa fel cyfrifydd dan hyfforddiant gyda Chyngor Sir Ceredigion yn 1978 ac, ar ôl cymhwyso, symudodd i fyny'r rhengoedd yn gyflym i fod yn Uwch Gyfrifydd. Ar ôl ymddeol o’r Cyngor yn 2017, ymunodd â HAHAV fel gwirfoddolwr gyda’n tîm siopau, gan ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr HAHAV fel Cyfarwyddwr Cyllid ym mis Chwefror 2021 Bu ei phrofiad helaeth fel cyfrifydd o fudd mawr ar adeg dyngedfennol yn ein datblygiad Nid yn unig y rhoddodd gyngor ariannol i’n Bwrdd, ond ymrwymodd hefyd lawer o’i hamser fel gwirfoddolwr arweiniol yn ein Siop Elusen a’n Warws. Roedd hi’n garedig a hael a bob amser ar gael i unrhyw un oedd angen cymorth a chefnogaeth. Roedd sawl agwedd ar ei bywyd prysur. Bu'n ymwneud yn fawr â'r Ddolen, roedd yn aelod o Ymddiriedolaeth y Fonesig Grace James, yn aelod o Eglwys Llanbadarn ac yn archwilydd materion ariannol yr eglwys Er gwaethaf ei holl ymrwymiadau gwirfoddol, gofalai’n yn gariadus am ei thad oedrannus sydd yn anffodus bellach wedi marw, a’i mam, gan deithio sawl gwaith yr wythnos i’w phentref genedigol, Croes-lan. Mae ein meddyliau gyda'i mam Ray, ei gŵr Rob, y plant Aled a Sioned, ei hŵyr hardd Ellis (cannwyll ei llygad) a'u teuluoedd Galarwn am farwolaeth ffrind a chydweithiwr mor ffyddlon Bu’n fraint cael rhannu rhan mor fach o’i bywyd Alan a Karen Axford

Gyda sioc a thristwch y clywodd tîm prosesu’r warws (Jackie, Audrey, Gweneira, Babs a June) fod Rhian wedi ein gadael ddydd Sul 11 Awst ac mae ein meddyliau gyda’i theulu Roedd hi mor falch o Sioned ac Aled ac roedd y cariad oedd ganddi at Elis, ei hŵyr, mor amlwg Roedd hi’n cydnabod cyfraniad gwerthfawr HAHAV o fewn ein cymuned a rhoddodd yn hael o'i hamser a'i harbenigedd. Ar ôl i HAHAV brynu’r warws nôl yn 2021, byddai Rhian yn dod i helpu bob dydd Llun a helpu i brosesu’r dillad a’r nwyddau ffabrig dodrefnu yn barod i’w hanfon draw i’r siop Hi oedd yr un y bydden ni’n troi ati oherwydd ei gwybodaeth arbenigol am Cybertill (ein system weinyddol yn y siop) a gyda'i chefndir cyllid roedd ganddi'r mewnwelediad a'r weledigaeth i'n darbwyllo ni i gyd o fanteision hirdymor y warws Roedd hi'n aelod go iawn o'r tîm a oedd yn ein gwerthfawrogi ni i gyd, ac a wnaeth ein hysgogi a'n trefnu pan fyddai nifer y rhoddion yn ein llethu neu pan oedd rhai tasgau'n ymddangos yn frawychus. Daethon ni’n ffrindiau, bydden ni’n cael sgyrsiau diddorol dros ein paned bore am 11am, fe wnaeth hi ein helpu a’n cynghori ni i gyd, bydden ni’n mynd allan am ginio, roedd ots gyda hi a byddwn ni i gyd yn gweld ei heisiau hi Disgrifiodd Jackie hi fel y person neisaf mae hi erioed wedi ei hadnabod! Gorffwysed mewn hedd, Rhian.
