FSB South Wales Small Business Conference Brochure_WELSH-Digital

Page 1


9.00 Cofrestru a choffi

9.30 Agor y Gynhadledd – Gemma Casey, Business News Wales

9.35 Croeso – John Hurst, Cadeirydd FfBB Cymru

9.40 Rob Stewart – Arweinydd Cyngor Abertawe

Sesiwn Un: Hanfodion Llwyddiant Busnes

9.45 Ydych CHI’n Dal Eich Busnes yn Ôl? – Lianne Weaver, Beam Development

10.15 Rhoi’r Hyn sydd ei Angen Mewn Gwirionedd i’ch Cwsmeriaid –Rebecca Ahern, Neos Partners

10.45 FfBB – Cefnogi Eich Busnes – Alan Cole, FfBB

11.00 Egwyl

Sesiwn Dau: Gwneud y Gorau o’ch Cyfleoedd ar gyfer Llwyddiant

11.30 Pŵer Profiad y Cwsmer – Miles Courtney-Thomas, Customer Start

12.00 Pam nad yw eich Gwefan yn Trosi (a sut i ddatrys hynny) –Will Roberts, WebBox Digital

12.30 Trafodaeth Banel – Dysgu o Lwyddiant – Darryl Morton, Summit Venture, Emma Owen Davies, Barford Owen Davies and Lisa Dagge, Sunny Recruitment

12.55 Gair gan Noddwr y Digwyddiad: Y Weinyddiaeth Amddiffyn –Craig Middle, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Ymgysylltu â Chyflogwyr, MoD

13.00 Cinio a Rhwydweithio

Sesiwn Tri: Offer i Argyhoeddi

14.00 O Lanast i Lwyddiant Marchnata: 5 Newid Sylfaenol i Dyfu Eich Busnes –Isabella Venour, MindStyle Ltd

14.15 Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i Droi Diddordeb yn Werthiant –Jonathan Pollinger, NILC Training

14.45 Datgloi Eich Potensial Gwerthu – Melissa Curran, Modern Mind Group

15.15 Crynodeb a Diolch – John Hurst, FSB

15.30 Cau

Noddwyr y Gynhadledd

Hoffem estyn ein diolch diffuant i’n holl noddwyr am eu cefnogaeth hael, sydd wedi bod yn allweddol wrth wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.

Trefnydd

Gemma Casey

Golygydd

Business News Wales

Gemma yw Golygydd y cwmni cyfryngau a chyfathrebu annibynnol Business News Wales. Dechreuodd ei gyrfa mewn newyddiaduraeth gyda phapurau newydd lleol a daeth yn Olygydd Cymru gyda’r Press Association cyn ymuno â BBC Cymru, lle bu’n gweithio ym maes radio, newyddion teledu a materion cyfoes. Yna arweiniodd raglen beilot mewn darlledu lleol a oedd yn ceisio profi sut y gallai’r cyfrwng gefnogi busnesau bach a chanolig yn yr ardal.

Treuliodd ddegawd gydag un o fanciau’r stryd fawr, yn gofalu am gysylltiadau cyhoeddus rhanbarthol yn ogystal â chynnal digwyddiadau ar gyfer busnesau o bob maint ac ym mhob sector, gan arwain ar ei raglenni cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig, gyda ffocws penodol ar fentrau ar gyfer menywod mewn busnes ac entrepreneuriaid o leiafrifoedd ethnig.

Mae Gemma yn eiriolwr angerddol dros fusnesau bach a chanolig, rhywbeth y mae hi’n ei briodoli i dyfu i fyny o amgylch busnes bach yng Nghymoedd De Cymru a oedd yn eiddo i’w theulu am bedair cenhedlaeth.

Mae Business Wales News yn blatfform cyfryngau digidol annibynnol sy’n ymroddedig i ddarparu newyddion a dadansoddiadau deallus, wedi’u targedu i gymuned fusnes Cymru. Maent yn cysylltu sefydliadau, llunwyr polisi ac entrepreneuriaid trwy greu deunydd, ymgyrchoedd a digwyddiadau penodol i’r sector sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.

Gyda thîm o newyddiadurwyr a storïwyr wedi’u lleoli ym mhob rhanbarth o Gymru, mae eu llwyfannau, eu gwasanaethau cyfathrebu a’u rhwydweithiau dosbarthu sydd wedi’u targedu’n fanwl, yn cynnig datrysiad un-stop profedig, sydd wedi’i gysylltu’n strategol i gleientiaid mewn sectorau busnes yng Nghymru a thu hwnt.

Trefnydd

John Hurst Cadeirydd FfBB Cymru

Mae John yn gyd-gyfarwyddwr Gwasanaethau TG B2B sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd. Prynodd ef a’i bartner busnes y cwmni fel rheolwyr yn 2016, ac ers hynny maent wedi adeiladu tîm sy’n rhannu eu gweledigaeth ar gyfer rhagoriaeth mewn TG. Mae’r busnes wedi mynd o nerth i nerth ac mae bellach yn gweithredu o swyddfeydd yng Nghaerdydd, Torfaen, a Bryste.

Yn y gorffennol, mae John wedi gweithio ar draws gweithgynhyrchu, technoleg a gwasanaethau proffesiynol, gan roi persbectif eang iddo ar realiti rhedeg busnes. Ar ôl treulio blynyddoedd yn gweithio ym maes masnach ryngwladol, gan allforio i dros 100 o wledydd, mae’n deall yr heriau o dyfu busnes mewn byd nad oes modd rhagweld yr hyn sy’n mynd i ddigwydd nesaf.

Astudiodd John gwrs Astudiaethau Busnes ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd cyn ennill MBA gyda rhagoriaeth o Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd.

Yn ogystal â bod yn berchennog busnes, mae’n ŵr ac yn dad sydd â chariad dwfn at Gymru - ei phobl, ei thirweddau, ac egni ei chymuned fusnes. Mae John hefyd wedi bod yn llais gweithredol ym myd busnes a pholisi ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn aelod o Uned Bolisi FfBB Cymru ers saith mlynedd ac mae wedi cynrychioli’r FfBB ar y Bwrdd Cynghori ar Brentisiaethau a benodwyd gan y Gweinidog ers pum mlynedd. Mae hefyd wedi dal swyddi eraill ar y bwrdd ac wedi cyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon y Senedd, gan ddod â’i brofiad a’i fewnwelediad i helpu â llunio polisïau sy’n cefnogi busnesau bach.

Siaradwr

Beam Development & Training Ltd

Trosolwg Cyflym:

Gall hyd yn oed y perchnogion busnes mwyaf disglair fod yn euog o ohirio pethau, amau eu gwerth, neu atal eu hunain rhag bod yn weladwy, nid oherwydd nad oes ganddyn nhw strategaeth, ond oherwydd patrymau isymwybodol a gynlluniwyd i’w cadw’n “ddiogel”. Yn y sesiwn bwerus hon, bydd Lianne yn archwilio’r cysylltiad cudd rhwng ofn, llwyddiant a thanseilio, ac yn datgelu sut i dorri’n rhydd gan ddefnyddio offer o feysydd seicoleg, niwrowyddoniaeth a gwyddor ymddygiad.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Mae Lianne Weaver yn awdur, siaradwr, hyfforddwr therapiwtig a Rheolwr Gyfarwyddwr Beam Development & Training Ltd, sy’n sefydliad hyfforddi a chefnogi llesiant a datblygiad personol unigryw ac effeithiol.

Mae Beam wedi bod yn darparu hyfforddiant llesiant a datblygiad personol eithriadol ers dros ddegawd i rai o’r cyflogwyr mwyaf yn y byd, gyda chyrsiau unigryw yn canolbwyntio ar y Niwrowyddoniaeth, Gwyddor Ymddygiad, Seicoleg a Seicoleg Gadarnhaol fwyaf cyfoes.

Mae Lianne wedi gweithio fel arbenigwr llesiant a datblygiad personol i sefydliadau mawr, wedi ymddangos ar lawer o bodlediadau rhyngwladol ac fel arbenigwr mewn trafodaethau panel, yn ogystal â chyfraniadau ar wefannau ac yn y wasg leol a siarad ar lwyfan fel arweinydd yn ei maes.

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.beamtraining.co.uk

LinkedIn: www.linkedin.com/in/lianneweaver

Facebook: www.facebook.com/BeamTherapyandTraining

Siaradwr

Trosolwg Cyflym:

Bydd Rebecca yn rhoi cipolwg yn ystod y sesiwn hon ar ddysgu sut i sefyll allan i’ch cwsmeriaid, gan dynnu sylw at sut mae gwahaniaethu clir yn helpu busnesau bach i wneud gwell penderfyniadau, gwella’r hyn maen nhw ei gynnig ac adeiladu mantais gystadleuol barhaol.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Rebecca Ahern yw Rheolwr Gyfarwyddwr Neos Partners Ltd, busnes ymgynghori sy’n dod â strategaeth, arloesedd a datrysiadau masnachol i fusnesau bach a chanolig sy’n awyddus i ddatblygu a thyfu. Mae Rebecca yn ymgynghorydd strategaeth sydd â thros 20 mlynedd o brofiad o arweinyddiaeth mewn strategaeth fasnachol, rheolaeth gyffredinol a thrawsnewid busnes.

Mae Neos Partners Ltd yn teilwra ymagwedd sy’n seiliedig ar strategaeth yn benodol ar gyfer eich busnes, gan helpu i fynd i’r afael â heriau unigryw gyda safbwynt ffres. Gan dorri trwy’r sŵn a sicrhau eglurder o gymhlethdod, mae heriau’n cael eu troi’n strategaethau clir, wedi’u ffocysu sy’n sbarduno gweithredu, gyda’r gefnogaeth sydd ei hangen i droi cynlluniau’n ganlyniadau mesuradwy.

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.neospartners.co.uk

LinkedIn: www.linkedin.com/in/rebecca-j-ahern

Siaradwr

Miles Courtney-Thomas

Customer Start

Trosolwg Cyflym:

Bydd Miles, un o’r arbenigwyr blaenllaw ym maes Profiad y Cwsmer (CX), yn cyflwyno sesiwn adfywiol, hwyliog a hynod ddifyr wedi’i chynllunio i swyno ac ysbrydoli timau i weld potensial trawsnewidiol CX, gan ddarparu syniadau ymarferol i fusnesau fynd ati i baratoi eu hunain i ysgogi newid ystyrlon yn eu sefydliad.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Miles Courtney-Thomas yw cyd-sylfaenydd Customer Start, cwmni ymgynghori a hyfforddi Profiad Cwsmeriaid (CX) blaenllaw, sy’n gweithio gyda chleientiaid ledled y byd. Mae Customer Start yn helpu busnesau o bob maint i ganolbwyntio mwy ar y cwsmer, trwy wasanaethau cynghori ac ymgynghori arbenigol, gan adeiladu sylfaen o gwsmeriaid ffyddlon sy’n prynu mwy ac yn argymell i eraill, gan ddod yn eiriolwyr dros eich busnes.

Mae cwmnïau sy’n darparu profiad o’r radd flaenaf yn perfformio’n well yn ariannol; maent yn fwy effeithlon ac arloesol ac yn arwain y ffordd o ran profiad gweithwyr ac mae Customer Start yn aelodau balch o’r corff proffesiynol CX mwyaf yn y byd, sef Cymdeithas Proffesiynwyr Profiad Cwsmeriaid (CXPA).

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.customerstart.com

LinkedIn: www.linkedin.com/in/milesct

Facebook: www.facebook.com/customerstart

Siaradwr

Will Roberts

WebBox Digital

Trosolwg Cyflym:

Os ydych chi’n teimlo’n rhwystredig oherwydd nad yw eich gwefan yn darparu’r cysylltiadau, y gwerthiant a’r ymgysylltiad yr oeddech chi’n gobeithio amdanynt, ac yn pendroni sut i drosi mwy o ymwelwyr yn gwsmeriaid, yna ymunwch â Will i ymchwilio’n fanwl i fyd Optimeiddio Cyfradd Trosi (CRO). Bydd Will yn rhannu technegau a theclynnau ymarferol y gellir eu rhoi ar waith ar unwaith i wella perfformiad eich gwefan.

Gwybodaeth am y Cwmni: Will Roberts yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr WebBox, cwmni sy’n adeiladu gwefannau arloesol ac yn rheoli ymgyrchoedd gwella perfformiad marchnata, gan helpu busnesau i fod yn ddigidol effeithiol a chadw ar y blaen o’u cystadleuwyr. Mae ei ymagwedd entrepreneuraidd at ddatrys problemau yn caniatáu iddo fynd at wraidd gofynion y cleient, gan gadw’n gyfoes â datblygiadau diweddaraf y diwydiant.

Mae WebBox yn gweithio gyda sefydliadau yn y sectorau iechyd, hamdden, twristiaeth a chwaraeon, gan ddarparu gwefannau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gwella perfformiad marchnata sy’n troi uchelgais ddigidol yn dwf mesuradwy. Maen nhw’n dechrau trwy ddatgelu beth sydd ei angen ar-lein ar eich cynulleidfaoedd mewn gwirionedd, yna’n trosi’r mewnwelediadau hynny’n brofiadau digidol â pherfformiad uchel, gan ysgogi mwy o gysylltiadau ac ymholiadau gan ryddhau timau o dechnoleg aneffeithlon a gwaith llaw.

Mae Will yn arbennig o falch o’u gwaith gyda DS Smith Plc, datrysiad blaenllaw yn y diwydiant sydd wedi ehangu’n rhyngwladol, eu platfform adnoddau sector iechyd ar gyfer Airlocum, a’u hymgyrchoedd PPC ar gyfer Fever-Tree.

Manylion Cyswllt: Gwefan: www.webbox.digital

LinkedIn: www.linkedin.com/company/webbox-digital

Facebook: www.facebook.com/webboxdigital

Siaradwr

Isabella Venour

Mindstyle Ltd

Trosolwg Cyflym:

A yw eich busnes yn trin Marchnata fel tasg angenrheidiol ond yn rhywbeth i’w ofni, yn hytrach nag arf cudd? Mae’r sesiwn egnïol hon gan Isabella yn addo trawsnewid yn llwyr sut rydych chi’n meddwl am Farchnata, gan gyfuno strategaeth fusnes ymarferol â newidiadau meddylfryd, gyda chyngor ymarferol y gallwch chi ei roi ar waith ar unwaith.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Isabella Venour yw sylfaenydd MindStyle Ltd ac mae’n Strategydd Alinio Busnes a Hyfforddwr Meddylfryd NLP, gan gynorthwyo busnesau ‘Angerddol a Gwastadol’ i ‘Dyfu’n Llwyddiannus’.

Fel Strategydd Busnes Ardystiedig ac Ymarferydd NLP, gyda thros ddegawd o brofiad mewn Marchnata, mae Isabella yn dod â chymysgedd o bensaernïaeth fusnes ymarferol a meddylfryd pwerus i arwain cleientiaid tuag at fusnes sy’n tanio llwyddiant ariannol a chyflawniad personol.

Mae Isabella yn chwalu’r mythau marchnata mwyaf sy’n atal perchnogion busnesau bach rhag gwneud cynnydd ar gyfryngau cymdeithasol heb weld canlyniadau go iawn. Mae ei Fframwaith Eglurder Marchnata yn troi ymdrechion gwasgaredig yn dwf strategol ac yn dysgu pam mae cysylltiad emosiynol yn bwysicach na chyllidebau mawr bob tro, gan gyfuno strategaeth fusnes ymarferol â newidiadau meddylfryd i’ch helpu i syrthio mewn cariad â Marchnata eto wrth greu’r twf cynaliadwy y mae eich busnes yn ei haeddu.

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.mind-style.co.uk

LinkedIn: www.linkedin.com/in/isabella-venour-mindstyle

Facebook: www.facebook.com/MINDSTYLE.UK

Siaradwr

Trosolwg Cyflym:

Bydd Jonathan yn rhannu awgrymiadau ymarferol yn y sesiwn hon, gan nodi sut y gall busnesau bach hybu gwerthiant gan ddefnyddio offer fel ChatGPT a Microsoft CoPilot, heb fod angen unrhyw gefndir technegol, dim ond cyngor ymarferol defnyddiol y gallwch ei roi ar waith ar unwaith.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Mae Jonathan Pollinger yn helpu busnesau bach i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn ffyrdd syml ac effeithiol. Gyda thros 15 mlynedd o brofiad, mae’n adnabyddus am wneud technoleg yn hawdd ei deall a dangos i bobl sut i gyflawni canlyniadau go iawn heb y jargon.

Fel hyfforddwr gyda NILC, mae Jonathan yn helpu sefydliadau i wella sut maen nhw’n gweithio, cael sylw ar-lein a chysylltu â chwsmeriaid.

NILC yw darparydd hyfforddiant TG a Rheoli Prosiectau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnig dros 500 o gyrsiau a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant wedi’u cynllunio i hybu eich datblygiad proffesiynol. Boed yn uwchsgilio neu’n dechrau o’r newydd, mae’r hyfforddiant dan arweiniad arbenigwyr yn eich darparu â’r sgiliau ar gyfer yfory, gyda llawer o’r cyrsiau wedi’u hariannu’n llawn i’w gwneud hi hyd yn oed yn haws i fusnesau bach fuddsoddi mewn twf.

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.nilc.co.uk

LinkedIn: www.linkedin.com/company/nilctraining

Facebook: www.facebook.com/nilctraining

Siaradwr

Trosolwg Cyflym:

Bydd Melissa yn rhoi cipolwg ar ddysgu strategaethau llwyddiant gwerthu yn y sesiwn hon, gan fanylu ar sut i feithrin perthnasoedd cryfach â chwsmeriaid a tharo bargen yn fwy effeithiol. Bydd y cyngor ymarferol a ddarperir o fudd wrth ddysgu sut i hybu perfformiad gwerthu, a datgloi potensial gwerthu, gyda dewrder a hyder.

Gwybodaeth am y Cwmni:

Mae Melissa Curran yn Berchennog Busnes, Ymgynghorydd Perfformiad, ac awdur toreithiog, gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn gwerthiannau sy’n seiliedig ar wasanaeth.

Fel ymgynghorydd y mae pobl ledled y byd yn ymddiried ynddi, sefydlodd Melissa The Modern Mind Group yn 2019 gan gynnig gwasanaethau ymgynghori i fusnesau sy’n awyddus i gynyddu elw, creu timau llwyr ymgysylltiedig a chyflawni canlyniadau sy’n torri pob record.

Mae Melissa wedi darparu dros 15,000 awr o hyfforddiant i weithwyr rheng flaen hyd at lefel prif weithredwyr ac wedi cyflwyno dros 1,000 o weithdai hyfforddiant wyneb-yn-wyneb. Mae Melissa yn defnyddio ei Fformiwla Fusnes Emotioneering® ei hun fel fframwaith, ochr-yn-ochr â Cherdyn Sgorio Glasbrint Emotioneering® i fesur llwyddiant gyda phob tîm y mae’r Modern Mind Group yn gweithio gyda nhw. Mae hi hefyd yn manylu ar hyn yn ei llyfr poblogaidd Emotioneering® Business Results: Improve Your Team Performance.

Manylion Cyswllt:

Gwefan: www.modernmindgroup.co.uk

LinkedIn: www.linkedin.com/in/melissa-curran

Facebook: www.facebook.com/modernmindgroup

Panelwr

Darryl Morton Summit Venture

Mae Darryl Morton yn entrepreneur technoleg profiadol, gyda thros ddau ddegawd o brofiad o sefydlu mentrau meddalwedd.

Adeiladodd asiantaeth lwyddiannus gan weithio gyda chleientiaid mawr yn y DU cyn cyd-sefydlu The Safeguarding Company, darparydd meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS) ar gyfer amddiffyn plant mewn ysgolion. Arweiniodd dwf yr asiantaeth i 100 o weithwyr, gan sicrhau £3.2m mewn cyllid cyfalaf menter (VC) cyn i Tes Global eu prynu yn 2023.

Yn dilyn cyfnod byr ar gyflog, symudodd Darryl i faes cynghori strategol. Fel sylfaenydd, mae wedi ennill profiad ymarferol ym mron pob agwedd ar fusnes yn ystod ei yrfa: arweinyddiaeth a rheolaeth, gwerthu, marchnata, gweithrediadau, gwasanaeth cwsmeriaid, peirianneg, cyllid, AD, cyfreithiol a.y.b. Sefydlodd Darryl y swyddogaethau hyn ac yna recriwtiodd bobl ardderchog i gymryd cyfrifoldeb drostynt.

Mae bellach yn gweithio fel cynghorydd i arweinwyr uchelgeisiol busnesau sy’n tyfu, gan roi cyngor gonest, ymarferol ac uniongyrchol ar gynllunio strategol, datblygu talent, systemau gweithredol a thwf busnes.

Manylion Cyswllt: Gwefan: www.summitventure.uk LinkedIn: www.linkedin.com/in/darryl-morton-8209bb1b

Emma Owen Davies

Barford Owen Davies (BOD)

Dechreuodd Emma ei gyrfa yn PwC Caerdydd, lle daeth yn Gyfrifydd Siartredig, gan symud ymlaen i fod yn Uwch Reolwr, gan reoli portffolio o fusnesau dan reolaeth eu perchnogion.

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, sefydlwyd BOD yn 2017 gan Carrie Barford ac Emma Owen Davies, ar ôl i’r ddwy gydweithio’n agos yn PwC a datblygu angerdd a rennir dros helpu busnesau preifat Cymru.

Mae Barford Owen Davies (BOD) yn dîm ymgynghori ariannol arbenigol wedi’i leoli yng Nghymru sy’n gweithio’n agos gyda busnesau uchelgeisiol sy’n cael eu rheoli gan eu perchnogion ac entrepreneuriaid ar draws amryw o sectorau. Maent yn angerddol am helpu eu cleientiaid i dyfu a gwireddu eu potensial, gan ymdrechu i gyflawni’r tu hwnt i ddisgwyliadau trwy fanteisio ar eu profiad helaeth, eu hystod eang o arbenigedd a’u hymrwymiad i gyflawni.

Manylion Cyswllt: Gwefan: www.bod.wales

LinkedIn: www.linkedin.com/company/barford-owen-davies

Panelwr

Lisa Dagge Sunny Recruitment

Lisa yw Cyfarwyddwr Sunny bellach, gan oruchwylio rhedeg y busnes o ddydd i ddydd, ond dechreuodd ei gyrfa ym maes cyfrifon cyn symud rhwng gwerthiant, cyfrifon a rheoli swyddfa o fewn busnesau bach. Dair blynedd yn ôl, agorodd Lisa gaffi ochr-yn-ochr â chyd-gyfarwyddwr, gan gyflogi 27 o bobl, yn ogystal â dechrau Sprout Consultants yn 2024 i gefnogi cwmnïau sy’n dymuno cychwyn neu dyfu.

Mae Sunny yn asiantaeth recriwtio sydd â hanes hir o ddarparu talent fedrus a brwdfrydig i sicrhau bod gan sefydliadau dîm llwyddiannus bob amser. Gan recriwtio ar gyfer swyddi parhaol a rhai dros-dro, maent hefyd yn arbenigo mewn recriwtio ar gyfer sectorau allweddol gan gynnwys Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy, Fferyllol, Cynhyrchu Bwyd a Diod, Peirianneg, Cyllid a Chyfrifeg, Adeiladu, Gweinyddiaeth a Gweithgynhyrchu.

Fel asiantaeth annibynnol, mae Sunny yn croesawu’r cyfle i deilwra eu holl wasanaethau i weddu i anghenion unrhyw un o’r cleientiaid, gan roi’r hyblygrwydd sydd ei angen i ddod o hyd i’r person delfrydol ar gyfer y swydd heb unrhyw straen na thrafferth.

Manylion Cyswllt: Gwefan: www.sunnyrecruitment.co.uk LinkedIn: www.linkedin.com/in/lisa-dagge/

Exhibitors

NILC Training

Cyfle i ennill sgiliau TG a Rheoli Prosiectau hanfodol i ffynnu yn eich gyrfa! NILC yw darparydd hyfforddiant TG a Rheoli Prosiectau mwyaf blaenllaw Cymru, gan gynnig dros 500 o gyrsiau a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant wedi’u cynllunio i hybu eich datblygiad proffesiynol. P’un a ydych chi am uwchsgilio, ailsgilio, neu’n dechrau o’r newydd, mae eu hyfforddiant dan arweiniad arbenigwyr yn eich darparu â’r sgiliau ar gyfer yfory. Gellir ariannu llawer o’r cyrsiau’n llawn, gan ei gwneud hi’n haws nag erioed i fusnesau bach fuddsoddi mewn twf.

Manylion Cyswllt: Karim Dastgir www.nilc.co.uk karim.dastgir@nilc.co.uk

FfBB

O’r busnesau hynny sy’n cychwyn o’r gwaelod i’r rhai sydd am ehangu, mae’r FfBB yma i’ch helpu ar eich taith fusnes gyda’r amcan o helpu busnesau llai i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau busnes hanfodol i’n haelodau gan gynnwys cyngor, arbenigedd ariannol, cefnogaeth a llais pwerus yn y llywodraeth.

Manylion Cyswllt: Rob Basini www.fsb.org.uk rob.basini@fsb.org.uk

Indelible IP Limited

Mae Indelible IP, a sefydlwyd gan Michelle Ward yn 2016, yn darparu cyngor a gwasanaethau ymgynghori cyfeillgar wedi’u teilwra, gan arbenigo mewn diogelu brandiau a dyluniadau cynnyrch a phecynnu ar gyfer marchnadoedd y DU, yr UE ac yn fyd-eang. Wedi’i leoli yn Sir Fynwy, mae’r cwmni’n tywys busnesau trwy’r broses gofrestru, gan gynghori ar feysydd cysylltiedig megis hawlfraint, hawliau dylunio heb eu cofrestru ac anghydfod ynghylch enwau parth.

Manylion Cyswllt: Michelle Ward www.indelibleip.co.uk michelle@indelibleip.co.uk

RCS Cymru

Mae RCS yn fenter gymdeithasol wedi’i lleoli yng Ngogledd Cymru sy’n darparu cefnogaeth, hyfforddiant a therapïau personol i helpu unigolion a busnesau ledled Cymru i wella eu llesiant ar gyfer gwaith. Maent yn ymfalchïo mewn darparu hyfforddiant llesiant sy’n ddiddorol ac o ansawdd uchel, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Hyrwyddwyr Llesiant, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, Cymhelliant a Gwydnwch, Byw gyda Newid ac Ymdrin â Straen. Mae eu gwasanaethau o safon yn trawsnewid miloedd o fywydau a busnesau bob blwyddyn.

Manylion Cyswllt:

Sian Parry www.rcs-wales.co.uk/en hello@rcs-wales.co.uk

Cwmpas

Mae Cwmpas yn asiantaeth ddatblygu gydweithredol sy’n gweithio dros newid cadarnhaol, yng Nghymru a ledled y DU, gyda ffocws ar adeiladu economi decach a gwyrddach a chymdeithas fwy cyfartal, lle mae pobl a’r blaned yn dod yn gyntaf. Sefydlwyd Cwmpas ym 1982 fel canolfan Gydweithredol Cymru, a’u cenhadaeth oedd newid y ffordd y mae’r economi a chymdeithas yn gweithio, gan ddod â chyllidwyr a phartneriaid ynghyd i wneud cymunedau’n fwy hyderus, uchelgeisiol a mwy cydweithredol.

Manylion Cyswllt: David Madge www.cwmpas.coop david.madge@cwmpas.coop

Glew Marketing

Os yw canolbwyntio a rheoli eich gweithgaredd marchnata yn her, nid dydych chi ddim ar eich pen eich hun, gan fod hyd yn oed y sefydliadau sydd â’r adnoddau mwyaf yn ei chael hi’n anodd ffitio popeth i mewn, yn ogystal â dod â phopeth at ei gilydd. Mae gwasanaethau marchnata strategol Glew Marketing yn rhoi’r gallu i chi weld y darlun llawn, gan egluro eich strategaeth fel ei bod yn cyd-fynd yn hyderus â nodau busnes.

Manylion Cyswllt: Georgina Lewindon www.glewmarketing.co.uk georgina@glewmarketing.co.uk

Exhibitors

Balance Your Outlook

Mae Debbie Basden yn ymarferydd EFT ac NLP Uwch achrededig yn Ne Cymru, sy’n cynorthwyo pobl ledled y byd i gydbwyso eu hagwedd a gwella eu hiechyd meddwl. Gan ddefnyddio technegau gan gynnwys Havening, EFT, Tapping ac NLP, mae Balance Your Outlook yn cynorthwyo â thawelu meddwl oedolion sydd mewn trallod rhag pryder, ofnau a thrawma.

Manylion Cyswllt:

Debbie Basden www.balanceyouroutlook.com debbie@balanceyouroutlook.com

Hayley T Wheeler Ltd

Mae Hayley T Wheeler yn arweinydd meddwl enwog, sy’n herio ac yn newid y ffordd rydyn ni’n meddwl am lesiant emosiynol a meddyliol. Fel crëwr a sylfaenydd EmotionMind Dynamic, mae Hayley wedi helpu nifer fawr o blant, oedolion a sefydliadau i gyflawni lefelau digynsail o lwyddiant emosiynol, gan bontio’r bwlch rhwng iechyd emosiynol a chanlyniadau yn y byd go iawn.

Manylion Cyswllt: Hayley Wheeler www.hayleytwheeler.co.uk hayley@hayleytwheeler.co.uk

Modern Mind Group

Sefydlwyd y Modern Mind Group yn 2019 fel ymgynghoriaeth Gweithrediadau Pobl a Pherfformiad sy’n cynnig gwasanaethau allanol proffesiynol gyda thros 12 mlynedd o arbenigedd mewn pobl, dysgu gweithredol a pherfformiad. Maent yn cynnig cyngor ac arweiniad dibynadwy gyda gwasanaeth o ansawdd uchel, gan ddarparu ymgynghorwyr cymwys a chyfeillgar sy’n meddu ar ymagwedd bersonol ac unigryw.

Manylion Cyswllt: Melissa Curran www.modernmindgroup.co.uk melissa@modernmindgroup.co.uk

Branding By Becca

Mae Branding by Becca yn cynnig ystod eang o wasanaethau marchnata i’ch helpu i sefyll allan o’r dorf, gan helpu busnesau a chwmnïau i sefydlu a pharhau â’u hunaniaeth brand yn yr hinsawdd ddigidol sydd ohoni. O wefannau a chyfryngau cymdeithasol i daflenni a hysbysfyrddau, darganfyddwch sut i ddod â’ch brand yn fyw!

Manylion Cyswllt: Rebecca Davies www.brandingbybecca.co.uk hello@brandingbybecca.co.uk

WebBox Digital

Mae WebBox yn gweithio gyda sefydliadau yn y sectorau iechyd, hamdden, twristiaeth a chwaraeon, gan ddarparu gwefannau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr a gwella perfformiad marchnata sy’n troi uchelgais ddigidol yn dwf mesuradwy. Trwy ddatgelu beth sydd ei angen ar eich cynulleidfaoedd ar-lein mewn gwirionedd, mae WebBox yn trosi’r mewnwelediadau hynny’n brofiadau digidol â pherfformiad uchel, gan ysgogi mwy o gysylltiadau ac ymholiadau gan ryddhau timau o dechnoleg aneffeithlon a gwaith llaw.

Manylion Cyswllt: Will Roberts www.webbox.digital will@webboxdigital.co.uk

Undivided Training and Consultancy

Sefydlwyd Undivided Training & Consultancy yn 2014, gan ddarparu pecynnau hyfforddi yn ymwneud yn benodol â chynhwysiant a chanllawiau polisi LHDTCIA+. Yn ogystal â chefnogi llu o asiantaethau, busnesau a sefydliadau, maent yn arbenigo mewn darparu hyfforddiant, canllawiau ac adnoddau i ysgolion, gweithwyr cymdeithasol ac ieuenctid a phroffesiynwyr eraill sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Manylion Cyswllt:

Sarah Maslen www.undivided.org.uk info@undivided.org.uk

Exhibitors

Agor Innovation – Prifysgol Abertawe

Mae Agor Innovation yn sbarduno datblygiad ecosystem arloesedd Cymru, trwy rymuso twf busnes trwy arweinyddiaeth, dysgu a chydweithio. Gan ddangos yr hyn sydd gan Brifysgol Abertawe i’w gynnig, bydd Agor Innovation yn cyfeirio busnesau at yr arbenigedd y gellir ei ddarparu, gan bontio’r bwlch rhwng diwydiant a’r byd academaidd.

Manylion Cyswllt: Adam Fairbank www.swansea.ac.uk/humanities-and-socialsciences/ research/agor-innovation a.r.fairbank@swansea.ac.uk

Service Technology Group

Mae’r Service Technology Group yn cynorthwyo busnesau bach, canolig a chorfforaethol i fabwysiadu a defnyddio technoleg, gyda phortffolio o lwyfannau digidol sy’n helpu cwmnïau i weithredu’n effeithlon a chynyddu elw, gan ddigideiddio tasgau hanfodol sy’n ychwanegu gwerth yn y gweithle. Gyda diddordeb gwirioneddol mewn pobl yn elwa o ddefnyddio technoleg, eu dull yw deall y busnes ac yna mynd ati i weithredu ac esblygu, gan ddarparu gwasanaeth sy’n seiliedig ar dechnoleg.

Manylion Cyswllt: Serge Cren www.servicetg.com serge.cren@servicetg.com

It’seeze Websites

Yn It’seeze Website Design Merthyr Tudful, maen nhw’n creu gwefannau deniadol a fforddiadwy sydd wedi’u cynllunio’n benodol i arddangos eich busnes a chysylltu â chwsmeriaid yn effeithiol. Fel siop-un-stop ar gyfer eich holl anghenion dylunio gwe, i weddu i bob busnes a chyllideb, maen nhw’n credu mewn meithrin partneriaethau, nid gwefannau yn unig, gyda chymorth gwe gydol-oes yn gofalu am eich holl anghenion gwefan, gan ryddhau amser i ganolbwyntio ar wasanaethu eich cwsmeriaid a thyfu eich busnes.

Manylion Cyswllt: Alun Hurn www.itseeze-merthyrtydfil.co.uk alun.hurn@itseeze.com

Caffeine Creative

Mae Caffeine Creative yn asiantaeth ddylunio graffig ddwyieithog, gyfeillgar, sy’n rhoi pobl yn gyntaf, ac sy’n creu brandiau ysbrydoledig a chyfathrebu gweledol meddylgar, gan roi eich anghenion chi a’ch sefydliad yn gyntaf. Gyda chefndir yn y byd creadigol a marchnata, ynghyd â dealltwriaeth o werthu a chyfathrebu rhwng pobl, gall y tîm gynhyrchu gwaith gweledol sy’n siarad â’ch cwsmeriaid trwy gysylltiadau gweledol pwerus.

Manylion Cyswllt: Jeff Patreane www.caffeinecreative.co.uk jeff@caffeinecreative.co.uk

Business Cymru

Mae Busnes Cymru yn wasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i unigolion a busnesau yn ystod pob cam, o’u sefydlu i fusnesau bach a chanolig sy’n bodoli eisoes ac sy’n awyddus i ddatblygu eu busnes a thyfu. Mae’r gefnogaeth arbenigol hon yn cynnwys cynllunio busnes, rheolaeth ariannol, cyngor AD, datgarboneiddio’r busnes a chael mynediad at farchnadoedd newydd. Mae Busnes Cymru yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r strategaeth economaidd trwy feithrin entrepreneuriaeth ac annog twf busnesau ledled Cymru.

Manylion Cyswllt: 03000 603 000 www.businesswales.gov.wales Trading@BusinessWales.org

My Biz Solution

Gall rheoli prosesau busnes beri cryn straen a chymryd llawer o amser, ac mae rhedeg busnes yn fwy na dim ond cynnig cynhyrchion neu wasanaethau gwych. Mae MyBiz Solution yn cynnig platfform CRM, gwerthu a marchnata cynhwysfawr wedi’i deilwra i’ch busnes â’r nod o helpu i symleiddio gweithrediadau, gwella ymgysylltiad cwsmeriaid a hybu cynhyrchiant ac elw.

Manylion Cyswllt: Estelle Cartlidge www.mybizsolution.uk support@making-the-grade.co.uk

Exhibitors

MindStyle Ltd

Mae Isabella Venour, Strategydd Alinio Busnes a Hyfforddwr Meddylfryd NLP, yn cynorthwyo busnesau o fod yn ‘Angerddol a Gwastadol’ i ‘Dyfu’n Llwyddiannus’. Mae Isabella yn helpu busnesau i dorri’n rhydd o gyfyngiadau llwyddiant trwy lunio strategaethau twf cynaliadwy, sy’n teimlo cystal ar y tu mewn ag y maent yn ymddangos ar y tu allan, gan ddod â chyfuniad o bensaernïaeth fusnes ymarferol a meddylfryd pwerus, i arwain cleientiaid tuag at fusnes sy’n tanio llwyddiant ariannol a chyflawniad personol.

Manylion Cyswllt: Isabella Venour www.mind-style.co.uk info@mind-style.co.uk

Oseng-Ree Reflection Ltd

Mae Oseng-Rees Reflection Ltd yn Wasanaeth Ymgynghori a Dylunio ar gyfer Gweithiau Celf Gwydr wedi’i Ailgylchu a’u Creu gan Grefftwyr. Maent wedi ymrwymo i greu gweithiau celf gwydr cynaliadwy wedi’i asio ar gyfer gosodiadau mewnol a phensaernïol gan ddefnyddio gwydr gwastraff yn unig. Y nod yw lleihau eu hôl troed carbon trwy ddefnyddio dim ond gwydr wedi’i ailgylchu, gan ddarparu darnau celf hardd ac unigryw ar gyfer mannau masnachol a phreswyl.

Manylion Cyswllt: Tyra Oseng-Rees www.osengreesreflection.com tyra@osengreesreflection.com

Business Pathfinders

Mae Business Pathfiners yn eich helpu i ymdopi â’r heriau y gall eich busnes eu hwynebu, trwy ddarparu cyngor busnes cadarnhaol. Trwy gymhwyso gwybodaeth, arbenigedd a phrofiad helaeth gallant greu taith a fydd yn rhagori ar ddyheadau ac uchelgeisiau allweddol a nodwyd gan berchnogion busnesau, gan adeiladu llwybr i lwyddiant trwy asesiad diagnostig, ffurfio cynlluniau syml a rhoi hyder i’ch busnes.

Manylion Cyswllt: Matt Preece www.businesspathfinders.co.uk matt@businesspathfinders.co.uk

Business News Wales

Mae Business Wales News yn blatfform cyfryngau digidol annibynnol sy’n ymroddedig i ddarparu newyddion a dadansoddiadau deallus, wedi’u targedu i gymuned fusnes Cymru. Maent yn cysylltu sefydliadau, llunwyr polisi ac entrepreneuriaid trwy greu deunydd, ymgyrchoedd a digwyddiadau penodol i’r sector sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.

Manylion Cyswllt: Paul Scanlon www.businessnewswales.com paul@businessnewswales.com

The Welsh Whisky Co (Penderyn)

Distyllfa Penderyn yw cartref Wisgi Cymru, distyllfa wisgi gyntaf Cymru ers dros 100 mlynedd ac arloeswyr ym maes Wisgi’r Byd. Maent yn cynhyrchu wisgis brag sengl a gwirodydd arobryn yn eu distyllfeydd ym Mannau Brycheiniog, Llandudno ac Abertawe. Gyda buddsoddiad, ysbrydoliaeth, gwaith caled, sylw i fanylion, yr haidd gorau, distyllwyr benywaidd arbenigol a’r casgenni bourbon derw gorau o America, mae Wisgi Penderyn wedi ennill enw da ledled y byd yn gyflym am ei amrywiaeth o wisgis, sydd ar gael mewn dros 50 o wledydd.

Manylion Cyswllt: Francesca Murphy www.penderyn.wales francesca@penderyn.wales

Exhibitors

Y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD)

Lansiwyd Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2014, i gydnabod ymrwymiad a chefnogaeth cyflogwyr y DU tuag at Amddiffyn. Roedd y cynllun yn cynnwys Gwobrau Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau a all ddangos gwahanol lefelau o gefnogaeth ac aliniad eu gwerthoedd â Chyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan dynnu sylw at fanteision cyflogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog a’u teuluoedd fel rhan o’ch gweithlu.

Manylion Cyswllt:

Craig Middle www.armedforcescovenant.gov.uk wa-reed@rfca.mod.uk

Bargen Ddinesig Bae Abertawe (SBCD)

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn falch o gynorthwyo’r FfBB i ddod â Chynhadledd Busnesau Bach i Abertawe eleni. Fel buddsoddiad digynsail o hyd at £1.3 biliwn ar draws naw prosiect uchel eu proffil ledled De-orllewin Cymru, mae busnesau bach a chanolig wrth wraidd y Fargen Ddinesig, gan helpu i greu swyddi, tyfu’r gadwyn gyflenwi leol a gwella sgiliau. Mae’r Fargen Ddinesig yn cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat.

Manylion Cyswllt:

Peter Austin www.swanseabaycitydeal.wales praustin@carmarthenshire.gov.uk

Sight Life

Mae Sight Life, sef Sefydliad y Deillion Caerdydd gynt, yn cynnig ystod eang o wasanaethau lleol i gynnig cymorth i bobl ddall a rhannol ddall ar draws llawer o Dde Cymru. Wedi’i sefydlu ym 1865, mae’n un o elusennau hynaf Cymru gyda chenhadaeth i helpu pobl i fyw bywydau annibynnol, egnïol, cymdeithasol a boddhaus. Gyda thîm ymroddedig o staff a gwirfoddolwyr, mae’n darparu cymorth a chyngor ar bob mater sy’n ymwneud â cholli golwg, gyda chefnogaeth ar gael i bawb.

Manylion Cyswllt: Dylan Winchester www.sightlife.wales dylan.winchester@sightlife.wales

Barrow HR

Mae Barrow HR yn darparu cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant fforddiadwy a gonest ar bob mater sy’n ymwneud â’ch staff. O’r adeg y byddwch chi’n cychwyn busnes hyd at gyfnodau o dwf a newid, p’un a oes angen help arnoch chi gyda recriwtio, problemau staff neu adeiladu tîm, gall Barrow HR helpu, gan adael perchnogion a rheolwyr busnesau prysur yn rhydd i ganolbwyntio ar redeg eu busnes. Pa bynnag fath o fusnes ydyw – masnachwr unigol, busnes teuluol, rhyddfraint, partneriaeth, cwmni cyfyngedig neu elusen – maen nhw’n cynnig gwasanaeth fforddiadwy wedi’i gynllunio’n benodol ar eich cyfer chi.

Manylion Cyswllt: Deb Barrow www.barrowhr.wales deb@barrowhr.wales

Eich amddiffyn chi a’ch busnes

Yn Ffederasiwn y Busnesau Bach, rydym wedi cynorthwyo perchenogion busnesau bach fel Frank i gychwyn, rhedeg a thyfu busnesau anhygoel ers 1974.

• Digwyddiadau rhwydweithio lleol a chenedlaethol am ddim

• Cymorth cyfreithiol ac amddiffyniad treth

• Cyngor AD 24/7

• Yswiriant costau cyfreithiol yn gynwysedig

• Disgowntiau unigryw i aelodau

• Mynediad i fwy na 1,500 o ddogfennau a thempledi cyfreithiol

Ymunwch heddiw

Dechreuwch eich aelodaeth gyda ni Ewch i fsb.org.uk/join am fwy o wybodaeth

Frank Jay Chilli Shop Ltd

Nodiadau

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.