FSB North Wales Conference 2025 - WELSH

Page 1


Arddangoswyr

Tîm Menter - Prifysgol Wrecsam

Mae Tîm Menter Prifysgol Wrecsam wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned fusnes trwy ddarparu offer hanfodol, â’r nod o feithrin amgylchedd ar gyfer rhannu gwybodaeth a phartneru effeithiol. Maent yn credu y dylai addysg fod yn hygyrch i bawb, o fusnesau newydd a graddedigion ifanc sy’n dechrau ar eu gyrfaoedd, i arweinwyr busnes ac arloeswyr, gan roi’r sgiliau a’r wybodaeth i unigolion i gyrraedd eu potensial llawn.

Manylion Cyswllt:

Chloe Huxley wrexham.ac.uk/business chloe.huxley@wrecham.ac.uk

Banc Datblygu Cymru

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi’n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu. Trwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol lle mae opsiynau wedi ymddangos yn gyfyngedig, gallant wireddu uchelgeisiau a thanio posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

Manylion Cyswllt:

James Ryan developmentbank.wales info@developmentbank.wales

Ffederasiwn y Busnesau Bach

O fusnesau newydd i’r rhai sydd am ehangu, mae FfBB yma i’ch helpu ar eich taith fusnes â’r nod o helpu busnesau llai i gyflawni eu huchelgeisiau. Rydym yn cynnig ystod eang o wasanaethau busnes hanfodol i’n haelodau gan gynnwys cyngor, arbenigedd ariannol, cefnogaeth a llais pwerus yn y llywodraeth.

Manylion Cyswllt:

Mike Learmond www.fsb.org.uk mike.learmond@fsb.org.uk

Doodly Dog

Mae DoodlyDog yn ddylunydd gwefannau WordPress, sy’n darparu gwefannau o safon, gyda phwyslais ar gyflymder a fforddiadwyedd, ac mae hefyd yn cynnig parthau, cynnal, dylunio, cymorth chwilio, a chymorth DIY. P’un a ydych chi’n fusnes bach sy’n bwriadu gwerthu i ddefnyddwyr neu i fusnesau eraill, â’r nod o sefydlu siop ar-lein neu os oes angen gwefan arnoch i ddweud wrth bobl pwy ydych chi a beth rydych chi’n ei wneud, gall DoodlyDog helpu.

Manylion Cyswllt:

Eric Davies doodlydog.wales eric@doodlydog.wales

Busnes @ Llandrillo Menai

Busnes @ Llandrillo Menai yw’r enw ar wasanaeth ymgysylltu â chyflogwyr Grŵp Llandrillo Menai, sef rhiant sefydliad Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor. Maent yn cynnig pecynnau cymorth ar gyfer hyfforddi a datblygu i sicrhau bod gan yr holl staff y sgiliau a’r cymwysterau angenrheidiol i alluogi perfformiad ar y lefel uchaf.

Manylion Cyswllt:

Stephen Howell Lloyd www.gllm.ac.uk lloyd4s@gllm.ac.uk

Business News Wales

Mae Business News Wales yn llwyfan cyfryngau digidol annibynnol sy’n ymroddedig i ddarparu newyddion a dadansoddiadau deallus, wedi’u targedu at gymuned fusnes Cymru. Maent yn cysylltu sefydliadau, llunwyr polisi ac entrepreneuriaid trwy greu deunydd, ymgyrchoedd a digwyddiadau penodol i’r sector sy’n hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.

Manylion Cyswllt:

Gemma Casey businessnewswales.com gemma@businessnewswales.com

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.