Ein cynllun strategol - Crynodeb gweithredol 2009–2012

Page 24

Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Blaenoriaeth strategol 4: hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a dyletswyddau – darparu cyngor ac arweiniad amserol a chywir i unigolion a chyflogwyr Mae’n rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod pob sefydliad yn gwneud beth sy’n ofynnol iddynt o dan y gyfraith, ac y caiff eu dyletswyddau eu cyflawni mewn perthynas â deddfwriaeth cydraddoldeb a Deddf Hawliau Dynol. Mae’r Comisiwn yn geidwad ar gyfer deddfiadau cydraddoldeb ynghyd â hawliau dynol Prydain yn ogystal â Chomisiwn Hawliau Dynol Yr Alban a’n rôl yw darparu arweiniad amserol, hygyrch ac awdurdodol ar y gyfraith, ac annog cyfnewid a datblygiad arfer gorau. Ar yr un pryd mae angen i ni weithio gyda sefydliadau a chymunedau, a pheidio â gosod ein hunain yn eu herbyn. Rydym yn cydnabod bod diwylliant sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn newid drwy’r amser. Wrth i sefydliadau fynd yn fwy hyblyg ac addasol, bydd angen ymagwedd wahanol at gydraddoldeb ac amrywiaeth arnom. ■

Byddwn yn gwobrwyo rhagoriaeth ymhlith ‘arweinwyr’ cydraddoldeb, rhoi cymhelliad i’r rhai sy’n ‘fodlon ond yn nerfus’ i wella ac i gymryd camau priodol a chymesur yn erbyn ‘oedwyr’ sy’n torri eu dyletswyddau statudol. Bydd y Comisiwn yn darparu diweddariadau

22

hygyrch, rheolaidd ar ddatblygiadau deddfwriaethol, cyfraith achosion a chamau gorfodi drwy amrywiaeth o sianeli fel y gellir ei roi ar waith yn rhwydd, yn enwedig ymhlith Mentrau Bach a Chanolig eu Maint. Bydd hyn yn cynnwys corff sylweddol o arweiniadau statudol ac anstatudol mewn perthynas â’r Ddeddf Gydraddoldeb newydd. ■

Byddwn yn gweithio gydag eraill gan gynnwys partneriaid allweddol megis ACAS, yr undebau llafur a sefydliadau busnes megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a’r cymdeithasau masnachol amrywiol sy’n ymwneud â’r proffesiynau, a’r diwydiannau cynhyrchu a gwasanaethu. Mae’n rhaid i bob sefydliad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gyflawni eu dyletswyddau o dan y gyfraith. Erys hawl yr unigolyn i iawndal yn hollbwysig. Fodd bynnag, yn aml mae’r Comisiwn yn credu bod yn well darparu cyngor ac arweiniad drwy gyfryngwyr megis y ganolfan Cynghori a chanolfannau cyfraith gymunedol, ac mai ein rôl ni yw darparu goruchwyliaeth effeithiol er mwyn sicrhau isadeiledd digonol ar gyfer cyngor a mynediad at gyfiawnder ledled Prydain.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.