Page 1

Ein cynllun strategol Crynodeb gweithredol 2009–2012


Cynnwys 01 Cyflwyniad 02 Rhagair 06 Pwy ydym ni 08 Yr hyn yr ydym yn ei wneud 12 Yr hyn rydym yn ei gredu 14 Stori newydd 16 Byddwn yn... 18 Ein hymagwedd strategol 19 Ein blaenoriaethau 24 Mesur ein cynnydd 28 Cysylltiadau

Os hoffech gael y cyhoeddiad hwn mewn fformat a/neu iaith arall cysylltwch â’r Comisiwn i drafod eich anghenion. Mae pob cyhoeddiad ar gael i’w lawrlwytho a’u harchebu mewn fformatau amrywiol o’n gwefan www.equalityhumanrights.com


Ein gwaith ni yw torri anghydraddoldeb i lawr, adeiladu cyfleoedd a chefnogi cymdeithas ddinesig lle mae tegwch a hawl yr unigolyn i fywyd o urddas a pharch nid yn unig yn ddelfryd ond yn ffaith.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Mae’r gyfraith wedi ymddiried mandad hanfodol i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol: i amddiffyn unigolion rhag gwahaniaethu, i orfodi’r cyfreithiau ar gydraddoldeb a hyrwyddo tegwch a hawliau dynol i bawb.

2


Rhagair Am y tro cyntaf, mae gan gorff statudol y cyfrifoldeb i amddiffyn, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb ar draws y saith maes ‘gwarchodedig’ – oedran, anabledd, rhyw, hil,crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd. Mae’r cynllun yn crynhoi ein blaenoriaethau ac yn gosod cyfres o raglenni a phrosiectau rydym yn meddwl bydd yn helpu i wneud Prydain yn lle tecach, mwy cyfartal, gyda llai ohonom yn debygol o wynebu gwahaniaethu a mwy ohonom yn gallu cyflawni’n potensial yn llawn. Yn benodol, mae’r cynllun hwn yn mynd i’r afael â’r cwestiwn o sut bydd y Comisiwn yn cefnogi rhoi’r Mesur Cydraddoldeb ar waith. Ond mae’r hyn sydd wrth galon ein cenhadaeth, sef ein mandad integredig, yn golygu y byddwn

yn gweithredu ar draws pob maes rydym yn gyfrifol amdano, yn hyrwyddo tegwch drwy newid strwythurol sydd o fudd i’r 60 miliwn o bobl ym Mhrydain. Byddwn yn barod bob amser i fynd i’r afael â materion penodol gwahaniaethu, anghydraddoldeb a methiannau o ran hawliau dynol sydd o bwys i bob un o’r grwpiau gwarchodedig rydym yn ymwneud â nhw. Ni all cymdeithas deg fodoli os erys oedran, anabledd, rhyw, hil, crefydd a chred, cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd fel arwyddion anfantais; ac ni all cynnydd parhaol neu ddwfn fod ar gyfer grwpiau dan anfantais oni bai y gallwn wneud achos cadarn dros degwch sy’n cynnwys pawb.

3


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Wrth gyflwyno’r cynllun hwn ni fyddwn yn gweithio ar ein pennau ein hunain. Mae gennym eisoes ddwsinau lawer o sefydliadau partner sy’n rhannu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, cysylltiadau da a hawliau dynol, a chredwn ei bod yn hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd yn agos gyda nhw. Hoffwn ddiolch i’r holl bobl a gymerodd ran yn ein hymgynghoriad ac a gynigodd eu mewnwelediadau, tystiolaeth, profiad a syniadau i ni. Derbyniasom dros 400 o gyfraniadau i’r ymgynghoriad ar-lein a chroesawu dros 780 o gyfranogwyr i ddigwyddiadau ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Heb y cyfraniadau hynny ni fyddai wedi bod yn bosibl datblygu cynllun a oedd wedi’i anelu at y targedau cywir neu a allai weithio yn y byd go iawn.

4

Roedd y bobl a oedd yn cymryd rhan yn y broses hon yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd busnes, gwasanaethau cyhoeddus, y sectorau gwirfoddol a chymunedol, undebau llafur, y byd academaidd ac roeddent yn cynrychioli diddordebau a phryderon amrywiaeth lawn y gymdeithas Brydeinig. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn gwneud y gwaith o ddydd i ddydd o hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. Ni allaf or-ddatgan y ddyled sydd gan y Comisiwn i’r rhai sy’n gweithio ar y rheng flaen – am y gwaith dyddiol hynny ac am ddod a’u harbenigedd i’r adwy i hwyluso datblygiad ein strategaeth.


Yn y tair blynedd sydd i ddod bwriadwn wneud y mwyaf o’r perthynasau rydym wedi bod yn eu hadeiladu gyda phobl a sefydliadau sydd â diddordeb yng ngwaith y Comisiwn a byddwn yn dod o hyd i fwy o ffyrdd o sicrhau cyngor arbenigol llawer ohonynt yn ein prosiectau ac wrth i ni wneud penderfyniadau. Gall y gwaith caled o gyflwyno’r strategaeth hon ond llwyddo gyda chyfranogiad y glymblaid ehangaf. Rwyf yn gobeithio ac yn credu y bydd ein cynlluniau’n cyd-fynd â’r uchelgais hwnnw.

Trevor Phillips Cadeirydd, Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

5


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Pwy ydym ni Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gorff eirioli annibynnol ar gyfer cydraddoldeb, hawliau dynol a chysylltiadau da ym Mhrydain. Corff statudol annibynnol ydym a sefydlwyd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2006 a’r corff yn y llywodraeth sy’n ein noddi yw Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth. Mae cynllun strategol y Comisiwn Cydraddoldebau a Hawliau Dynol yn gosod allan yn glir sut y byddwn yn gweithio tuag at ein gweledigaeth o Brydain well, wedi’i hadeiladu ar egwyddorion tegwch a pharch.

6


Working Gloria Buckley better Gloria Buckley

Rydym Our Working yn sicrhau Better bod report, awdurdodau published We make 2009, sure that public authorities in March cyhoeddus yn cyflawni drew on euexamples dyletswyddau are fulfilling their legal duties to of flexible cyfreithiol working i hyrwyddo likecydraddoldeb the bakery a promote equality and good relations. at Sainsbury’s chysylltiadau da. in Rydym Camden wedi Town, ymchwilio We have investigated local ipictured. ddarpariaeth The report yr awdurdodau set outauthorities’ detailed lleol provision ofawdurdodedig authorised Gypsy and plans o safleoedd for reforming parental Sipsiwn leave Traveller sites, three managed and a Theithwyr, promoting fellike greater y trithe a reolir flexibility gan in by Buckley, theGloria Gloria workplace. Buckley, yn ypictured. llun.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Yr hyn yr ydym yn ei wneud Mae ein mandad yn deillio o ymagwedd at gydraddoldeb a chyfleoedd sy’n adeiladu ar hanes o gynnydd gan ein comisiynau etifeddol a llawer o rai eraill. Rheolydd modern ydym sy’n cael y cyfrifoldeb o gynnal triniaeth deg a mynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Rydym yma ar ran y 60 miliwn o bobl ym Mhrydain, i sicrhau y caiff pawb eu trin gydag urddas a pharch. Credwn na ddylai neb orfod delio ag effeithiau niweidiol gwahaniaethu ac nad oes lle i ragfarn mewn cymdeithas agored, fodern. Mae’r Senedd wedi gosod y tasgau i ni o hyrwyddo cydraddoldeb, gorfodi’r gyfraith, amddiffyn hawliau dynol pawb a sicrhau cysylltiadau da mewn cymdeithas. Mae’r rhain yn nodau uchelgeisiol a all ond gael eu cyflawni mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid a chyda chefnogaeth y cyhoedd. Rydym yn byw trwy gyfnod sy’n newid yn gyflym, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Rydym yn credu mewn ‘difidend amrywiaeth’, wrth fod yn fwy cynhwysol

8

cawn fwy o fuddion. Drwy sicrhau ein bod yn tynnu ar sgiliau pawb byddwn yn well fel gwlad. I’n helpu i gyflawni ein nodau mae gennym bwerau unigryw. Gallwn ymgymryd ag achosion cyfreithiol ar ran unigolion i brofi ac ymestyn yr hawl i gydraddoldeb a hawliau dynol; gallwn osod ymchwiliadau i ymchwilio ymddygiad sefydliadau; gorfodi dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus; defnyddio ein dylanwad a’n hawdurdod i arwain trafodaethau newydd, adeiladu ein dadleuon o’r dystiolaeth a gasglwn ac a gyhoeddwn. Rydym yn gorff annibynnol a ariennir yn gyhoeddus.


Gweithio’n well Tynnodd ein hadroddiad Working Better, a gyhoeddwyd fis Mawrth 2009, ar enghreifftiau o weithio’n hyblyg megis y popty yn Sainsbury’s yn Nhref Camden, gweler y llun. Gosododd yr adroddiad gynlluniau manwl ar gyfer diwygio absenoldeb rhiant a hyrwyddo mwy o hyblygrwydd yn y gweithle.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

‘Credaf ein bod wedi mynd mor bell ag y gallwn gyda’r grŵp hunaniaeth sengl. Mae angen i ni ddod ag eraill gyda ni. Os ydym yn creu llais mwy, bydd y Llywodraeth yn ymateb iddo.’ Y Farwnes Jane Campbell Comisiynydd, Comisiwn Cydraddoldeb A Hawliau Dynol

10


Sharon ac Oliver Coleman Aeth y Comisiwn ag achos Sharon Coleman, sydd yn y llun gyda’u mab anabl Oliver, i Lys Cyfiawnder Ewrop. Sefydlodd yr achos hawliau newydd ar gyfer y miliynau o gynhalwyr ledled y DU, yn eu hamddiffyn rhag gwahaniaethu gan gyflogwyr.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Yr hyn yr ydym yn ei gredu Rydym yn gorff cyhoeddus a rhoddwyd y cyfrifoldeb arnom i helpu i greu cymdeithas lle gall pobl fyw eu bywydau’n llawn, beth bynnag yw eu cefndir neu eu hunaniaeth. Mae ein tystiolaeth yn dangos bod gwreiddiau cyffredin o ran anghydraddoldeb yn aml a chydag ymagwedd gydgysylltiedig ar draws ei mandad gallwn gyflawni newid systemig go iawn. Drwy weithio gyda’n gilydd gydag ystod eang o grwpiau aiff ein llais a lleisiau’r rhai rydym yn siarad drostynt yn uwch. Rydym yn credu mewn grymuso’r unigolyn. Drwy roi’r pŵer yn nwylo’r sawl sydd ei angen gallwn symud i ffwrdd o reolaeth wedi’i ganoli. Rydym yn credu mewn cymunedau: cymunedau o ran lleoliad a chymunedau o ddiddordebau. Mae pobl eisiau gwasanaethau sydd wedi’u teilwra iddynt hwy ac maent eisiau cael rhwystrau wedi’u tynnu o’u ffordd. Maent eisiau i sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fod yn dryloyw ynglŷn â sut maent yn ymddwyn. Maent eisiau i fusnesau ddeall bod enw da mor bwysig â’r waelodlin. Maent eisiau cyrff cyhoeddus sy’n effeithlon ac sy’n gwario arian y cyhoedd yn gall.

12

Nid oes neb eisiau i rywun wneud rhagdybiaethau amdanynt oherwydd eu cefndir neu eu cyfansoddiad, boed yn ddyn croenwyn yn ceisio ailhyfforddi, merch groenddu sydd angen cymorth i’w busnes, myfyriwr israddedig hoyw, plentyn ifanc o ystâd ddifreintiedig, mam sydd eisiau gweithio neu rywun anabl sy’n chwilio am y gefnogaeth gywir. Mae saith colofn benodol i’n mandad, y saith llinyn lle byddwn yn mynd i’r afael â gwahaniaethu a defnyddio’r gyfraith i greu mwy o gydraddoldeb sef: rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred, oedran ac ailbennu rhywedd.


Farmida Bi, Sabina Iqbal a Salma Yaqoob Dathlodd Rhestr Pŵer i Ferched Mwslimaidd y Comisiwn lwyddiannau merched Mwslimaidd proffesiynol megis Bi, o’r cwmni cyfreithiol Norton Rose, Iqbal, o Deaf Parenting UK, a Yaqoob, Cynghorydd o Birmingham, yn y llun.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Stori newydd Mae chwilio am gydraddoldeb wedi bod, yn hanesyddol, yn achos o ymladd yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn unigolion. Cafodd ei anelu at wneud yn iawn am droseddau sydd eisoes wedi’u cyflawni. Er bod yr ymagwedd hon yn hanfodol, ni allwn ddibynnu yn unig ar bobl yn mynd â’u hachosion drwy’r system gyfreithiol. Mae’n rhaid i ni hefyd ganolbwyntio ar weithio tuag at newid systemig a newid mewn diwylliant, fel gwnaeth ein rhagflaenwyr, yn ogystal ag at gyfiawnder unigol. Dyma lle mae tegwch a chydraddoldeb yn croestorri ac yn cefnogi ei gilydd mae tegwch am ddiwylliant o gydraddoldeb, ymateb greddfol yn erbyn gwahaniaethu a rhagfarn, yn dathlu gwahaniaeth lle gall pob talent ffynnu. Mae cydraddoldeb am y set o egwyddorion sy’n bwysig i ni a sicrhau, gyda chymorth y gyfraith os oes rhaid, y cânt eu cynnal. Nid yw’n ddigon i ni nodi problemau: mae’n rhaid i ni ddod o hyd i atebion. Rydym eisiau galluogi pobl a sefydliadau i weithredu’n deg, yn hytrach na’u cosbi os ydynt yn pechu. Gweithiwn gyda’r rhai sy’n gwneud yn dda, helpu’r rhai sydd eisiau gwella a gweithredu yn erbyn y rhai nad ydynt eisiau gwneud hynny.

14

Mae’n rhaid i’n gwaith ymgysylltu ag emosiynau pobl. Rydym yn adrodd hanesion pobl ac rydym yn dysgu ohonynt. Rydym yn gwrando ac yn delio â’r byd fel ag y mae, yn hytrach na fel yr hoffwn iddo fod. Gweithredwn fel brocer, yn dod â barn ac awdurdod cyfreithiol at drafodaethau anodd, difrodedig. Yn aml bydd angen deddfwriaeth arnom i wneud ein gwaith ond bydd hefyd arnom angen grym llais, dadl a thystiolaeth awdurdodol i wneud ein hachos.


Jack Thomas Caniataodd ein gwaith cyfreithiol i Jack Thomas, 14, yn y llun, o Abertawe gystadlu yng Ngemau Ysgolion y DU. Cafodd athletwyr ag anableddau dysgu eu heithrio o’r Gemau a’r Paralympau oherwydd twyllo yn y Paralympau yn 2002.


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Byddwn yn... Gweithio i ddod â charreg filltir o Ddeddf Cydraddoldeb i fodolaeth sy’n cael gwared ar wahaniaethu nad yw’n gyfiawn ac yn rhyddhau talent drwy fframwaith deddfwriaethol symlach. Sicrhau bod y gyfraith yn gweithio dros unigolion, gan dorri trwy anghyfiawnder, gwneud ymyriadau strategol a chefnogi achosion unigol. Byddwn hefyd yn gweithio gydag eraill i gynyddu argaeledd cynrychiolaeth gyfreithiol. Darparu rhaglen o grantiau sy’n helpu ehangu cyrraedd y sectorau gwirfoddol a chymunedol, yn cyflawni ein mandad i gryfhau cysylltiadau da a dod â phobl at ei gilydd.

16

Gweithio gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat i ddarparu cyngor ac arweiniad o ansawdd da ar y gyfraith a sicrhau y gorfodir y gyfraith. Paratoi awdurdodau cyhoeddus am genhedlaeth nesaf y ddyletswydd gyhoeddus, gan ddarparu arweiniad ymarferol a hyrwyddo arfer gorau sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau, sef canlyniadau gwell ar gyfer grwpiau o dan anfantais. Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gofleidio gwerthoedd cydraddoldeb a hawliau dynol.


Amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol pawb, gan roi ar waith argymhellion ein Hymchwiliad Hawliau Dynol i sicrhau diwylliant o urddas a pharch mewn gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau ein hawliau sifil. Adeiladu galluoedd ein sefydliad er mwyn i ni weithredu fel corff rheoleiddiol modern sy’n sicrhau y delir â thor-cyfraith yn gyflym, yn gymesur ac yn effeithlon.

Cyhoeddi adolygiad teirblynyddol i osod agenda er mwyn asesu cyflwr cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain, a gwneud argymhellion cadarn ar gyfer diwygiad. Creu partneriaethau ystyrlon gyda’n rhan-ddeiliaid i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain.

Cyfathrebu’n uniongyrchol â’r cyhoedd, gan ddatblygu platfformau ac offer newydd drwy strategaeth ddigidol y Comisiwn, a rhoi gwybodaeth i bobl fel eu bod yn cael eu grymuso i chwilio am iawndal.

17


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Ein hymagwedd strategol Caiff ein strategaeth ei gyrru gan ein gweledigaeth o Brydain well sydd wedi’i hadeiladu ar egwyddorion tegwch a pharch, ein dyletswydd statudol i gael gwared ar wahaniaethu, ac anghenion y gymdeithas rydym yn gweithredu ynddi. Mae’r cynllun strategol 2009–2012 yn gosod allan cyfeiriad strategol y Comisiwn: ein blaenoriaethau a’n rhaglenni gwaith dros y tair blynedd nesaf. Cafodd ei ddatblygu drwy gyfranogiad ac ymgynghoriad â rhan-ddeiliaid sydd â diddordeb yn ein gwaith neu y mae ein gwaith wedi effeithio arnynt.

Ein rôl yw creu gweledigaeth gref, arwain trafodaeth i weddnewid diwylliant a dylanwadu ar feddwl, i ddarparu’r dehongliad terfynol o sut y defnyddir y cyfreithiau hawliau dynol a chydraddoldeb, ac i weithredu ar doriadau mewn deddfwriaeth gydag ystod ein pwerau gorfodi a rheoleiddiol.

Mae’n dangos sut y bwriadwn gyflawni ein rhywmedigaethau statudol fel eiriolwyr annibynnol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol ym Mhrydain yn effeithlon ac yn effeithiol. Byddwn yn defnyddio ein pwerau unigryw i greu newid, ac i rymuso eraill i weithio gyda ni.

Byddwn yn grymuso eraill drwy warantu ffordd ddibynadwy drwy’r system ar gyfer y rhai sydd mewn angen; drwy ddarparu cyngor a chefnogaeth awdurdodol ar gyfer y rhai sy’n wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb; a thrwy weithio ochr yn ochr â rheolyddion, arolygiaethau ac awdurdodau eraill i greu offer effeithiol ar gyfer gweithredu. Byddwn yn arwain drwy sicrhau y clywir lleisiau ein rhan-ddeiliaid; neu lle bo’n briodol, siarad yn annibynnol; byddwn yn bartneriaid ac yn eiriolwyr ar gyfer y rhai a fydd yn elwa ar gefnogaeth ein henw a’n hawdurdod.

18


Ein blaenoriaethau Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth strategol y byddwn yn gweithio tuag atynt dros y tair blynedd nesaf. Bydd yr holl waith a wnawn yn gysylltiedig ag un neu’n fwy o’r blaenoriaethau hyn. Blaenoriaeth strategol 1: sicrhau a rhoi ar waith fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol effeithiol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol Gwelir y fframwaith deddfwriaethol presennol gan lawer yn anghyson, yn annealladwy ac yn dameidiog ar draws gwahanol feysydd o gydraddoldeb. Ar yr un pryd mae sbardunau allweddol ar gyfer anghydraddoldeb yn gwaethygu ac mae angen fframwaith cyfreithiol mwy effeithiol. Mae’r angen am ddeddfwriaeth sydd wedi symleiddio ond sy’n gadarn ac yn ystyried newid cyfansoddiadol – cynigion am Fesur Hawliau a datganoliyn fwy anorfod nag erioed.

Bydd y Comisiwn yn sicrhau y rhoddir y ddeddfwriaeth newydd ar waith yn llwyddiannus, ac y bydd yn helpu sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gynllunio ac i baratoi am y Mesur Cydraddoldeb. Byddwn yn sicrhau bod y Mesur Hawliau arfaethedig yn amddiffyn ac yn hyrwyddo’r egwyddorion a osodwyd allan yn y Ddeddf Hawliau Dynol. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn helpu’r Comisiwn i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

19


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Blaenoriaeth strategol 2: creu Prydain decach, gyda chyfleoedd bywyd cyfartal a mynediad at wasanaethau i bawb Mae ein dadansoddiad o’r newidiadau o ran anfantais a gwahaniaethu ym Mhrydain, y farchnad lafur gyfnewidiol, darparu gwasanaethau cyhoeddus ac effaith uniongyrchol y dirywiad economaidd, yn pwyntio tuag at yr angen am gamau gweithredol cydunol ar ran y Comisiwn i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol sy’n cael effaith ar y grwpiau yn ein mandad. ■

Byddwn yn mynd i’r afael ag achosion strwythurol o wahaniaethu – er enghraifft effaith gwahanu galwedigaethol ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau – yn ogystal â rôl ehangach anfantais economaidd-gymdeithasol a thlodi incwm ar waethygu gwahaniaethu ac anghydraddoldeb. Bydd gwaith y Comisiwn yn Lloegr yn cyfrannu at ddarparu Cytundeb Gwasanaeth Cyhoeddus (PSA) 15 ar Gydraddoldeb ar y cyd â’r Llywodraeth Ganolog, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol a phartneriaid eraill mewn llywodraeth leol a’r Sectorau Gwirfoddol a Chymunedol. Yn Yr Alban byddwn yn gweithio o fewn fframwaith Canlyniadau Perfformiad Cenedlaethol, ac yng Nghymru bydd ein blaenoriaethau’n ystyried rhai Cynulliad Cymru.

20

Byddwn ni’n defnyddio’r ddeddfwriaeth a’r pwerau sydd gennym eisoes -megis y dyletswyddau cyhoeddus a Deddf Hawliau Dynol – er mwyn creu newid cymdeithasol. Bydd y Comisiwn yn archwilio’r diwylliant o barch tuag at hawliau dynol o fewn gwasanaethau cyhoeddus Prydain. Bydd hynny hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn asesu effaith ffurfiau penodol ar anfantais gan ddefnyddio’r Fframwaith Mesur Cydraddoldeb, gan dderbyn efallai y bydd rhai newidiadau penodol yn anweledig ac felly heb eu deall yn dda o fewn yr ystadegau cydraddoldeb swyddogol.


Blaenoriaeth Strategol 3: adeiladu cymdeithas heb ragfarn, hyrwyddo cysylltiadau da a meithrin diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol bywiog

Ceir hefyd heriau enbyd megis mynd i’r afael â chasineb a thrais a anelir at bobl anabl, y cymunedau lesbiaid, hoyw a deurywiol, a phobl drawsryweddol. ■

Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y caiff gwahaniaethu ac anfantais strwythurol eu gwaethygu gan brosesau cynnil sy’n cynnwys stereoteipio negyddol, gelyniaeth a chasineb tuag at grwpiau penodol, ac agweddau rhagfarnllyd sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac sydd ynddynt eu hunain yn sbarduno ymddygiadau niweidiol. Ein huchelgais yn yr hirdymor yw newid agweddau cenhedlaeth. Byddwn yn gweithio tuag at hyn drwy ymchwil, cynghreirio gyda’r llywodraeth a Chyrff Anllywodraethol (NGOs), ac ystod o weithgareddau a ymgymerir â nhw y tu hwnt i’r Comisiwn. Byddwn hefyd yn adeiladu ar ein cysylltiadau gyda sefydliadau diwylliannol i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol. ■

Ceir tystiolaeth o lefel uchel o wahanu a diffyg dealltwriaeth, goddefgarwch a pharch a rennir tuag at ddiwylliannau, credoau a ffyrdd o fyw amrywiol, yn ogystal ag ymdeimlad o analluogrwydd ac ymyleiddio mewn rhai cymunedau. Bydd y Comisiwn yn ceisio lleihau’r lefelau cyffredinol o ragfarn yn y gymdeithas, gan adeiladau ar gynnydd mewn rhai meysydd. Er enghraifft, mae’n ymddangos fod hiliaeth yn llai cyffredin ymhlith y cenedlaethau iau ym Mhrydain, er nad yw’n absennol, o bell ffordd.

Ceir tystiolaeth gadarn y cynyddir gwahaniaethu gan ragfarn, gwahanu a diffyg ymwybyddiaeth. Oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r achosion sydd wrth wraidd gwahaniaethu anghyfreithlon, bydd y Comisiwn yn gweld bod y galw am ymyriadau ôl-weithredol i ‘wneud iawn am gamweddau’r gorffennol’ yn anghynaladwy. Mae ein hymagwedd strategol yn ymwneud â mynd i’r afael ag achosion ac effeithiau gwahaniaethu. Mae gan y Comisiwn ddyletswydd statudol i sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn mynd i’r afael yn ddigonol â’u dyletswyddau o ran cysylltiadau da, ac eto ceir tipyn o ddryswch ac ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â’r fframwaith deddfwriaethol ar gydlyniad cymunedol. Yn aml bydd y Comisiwn yn gweithio trwy sefydliadau cyfryngu megis y cyrff cyhoeddus strategol sy’n gosod polisïau ar gyfer ysgolion a phrifysgolion. Efallai bydd gan y cyrff hyn fwy o fewnwelediad i rwystrau a chyfleoedd sylfaenol. Byddwn hefyd yn datblygu sianeli uniongyrchol y gallwn gyfathrebu â’r cyhoedd trwyddynt.

21


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Blaenoriaeth strategol 4: hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a dyletswyddau – darparu cyngor ac arweiniad amserol a chywir i unigolion a chyflogwyr Mae’n rhaid i’r Comisiwn sicrhau bod pob sefydliad yn gwneud beth sy’n ofynnol iddynt o dan y gyfraith, ac y caiff eu dyletswyddau eu cyflawni mewn perthynas â deddfwriaeth cydraddoldeb a Deddf Hawliau Dynol. Mae’r Comisiwn yn geidwad ar gyfer deddfiadau cydraddoldeb ynghyd â hawliau dynol Prydain yn ogystal â Chomisiwn Hawliau Dynol Yr Alban a’n rôl yw darparu arweiniad amserol, hygyrch ac awdurdodol ar y gyfraith, ac annog cyfnewid a datblygiad arfer gorau. Ar yr un pryd mae angen i ni weithio gyda sefydliadau a chymunedau, a pheidio â gosod ein hunain yn eu herbyn. Rydym yn cydnabod bod diwylliant sefydliadau’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn newid drwy’r amser. Wrth i sefydliadau fynd yn fwy hyblyg ac addasol, bydd angen ymagwedd wahanol at gydraddoldeb ac amrywiaeth arnom. ■

Byddwn yn gwobrwyo rhagoriaeth ymhlith ‘arweinwyr’ cydraddoldeb, rhoi cymhelliad i’r rhai sy’n ‘fodlon ond yn nerfus’ i wella ac i gymryd camau priodol a chymesur yn erbyn ‘oedwyr’ sy’n torri eu dyletswyddau statudol. Bydd y Comisiwn yn darparu diweddariadau

22

hygyrch, rheolaidd ar ddatblygiadau deddfwriaethol, cyfraith achosion a chamau gorfodi drwy amrywiaeth o sianeli fel y gellir ei roi ar waith yn rhwydd, yn enwedig ymhlith Mentrau Bach a Chanolig eu Maint. Bydd hyn yn cynnwys corff sylweddol o arweiniadau statudol ac anstatudol mewn perthynas â’r Ddeddf Gydraddoldeb newydd. ■

Byddwn yn gweithio gydag eraill gan gynnwys partneriaid allweddol megis ACAS, yr undebau llafur a sefydliadau busnes megis Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a’r cymdeithasau masnachol amrywiol sy’n ymwneud â’r proffesiynau, a’r diwydiannau cynhyrchu a gwasanaethu. Mae’n rhaid i bob sefydliad yn y sectorau cyhoeddus a phreifat gyflawni eu dyletswyddau o dan y gyfraith. Erys hawl yr unigolyn i iawndal yn hollbwysig. Fodd bynnag, yn aml mae’r Comisiwn yn credu bod yn well darparu cyngor ac arweiniad drwy gyfryngwyr megis y ganolfan Cynghori a chanolfannau cyfraith gymunedol, ac mai ein rôl ni yw darparu goruchwyliaeth effeithiol er mwyn sicrhau isadeiledd digonol ar gyfer cyngor a mynediad at gyfiawnder ledled Prydain.


Blaenoriaeth Strategol 5: adeiladu sefydliad awdurdodol ac ymatebol Bydd cyflawni ein pedair blaenoriaeth strategol gyntaf yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r comisiwn gyflawni cylch gorchwyl cymhleth, wrth ymdopi ag ystod o heriau economaidd a gwleidyddol ■

Byddwn yn parhau i adeiladu ein fframwaith mesur a seiliau tystiolaeth awdurdodol. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn pobl wrth ddatblygu ymagweddau effeithiol at waith a seilir ar brosiectau. Mae’r Comisiwn yn parhau i adeiladu canolfan gorfforaethol gynnil ac effeithlon, wrth gryfhau ei allu o ran rheolaeth ariannol.

Ein rhaglenni gwaith Mae’r rhaglenni gwaith yn diffinio ble byddwn yn canolbwyntio ein hadnoddau a sut byddwn yn gweithio gydag eraill. Mae ein rhaglenni i gyd yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn yr adran sy’n dilyn. Mae gennym wyth rhaglen waith sy’n gosod allan yn fanwl sut byddwn yn gweithio tuag at bob un o’n blaenoriaethau strategol. Gosodir y rhain yn fanwl yn fersiwn llawn ein Cynllun Strategol, sydd ar gael ar ein gwefan: www.equalityhumanrights.com

Bydd gan sefydliad sydd wedi canolbwyntio’n strategol ac yn alluog yn broffesiynol hefyd yr hyder i weithio gyda’r rhan-ddeiliaid hynny sydd wedi ymrwymo i’r agenda hawliau dynol a chydraddoldeb ac i arwain hefyd ynglŷn â chreu newid cymdeithasol parhaol lle bo angen. Bydd y Comisiwn yn cadw gallu ymatebol wedi ystyried tebygolrwydd digwyddiadau, argyfyngau a ‘siociau’ cymdeithasol annisgwyl.

23


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Mesur ein cynnydd Mae’r Comisiwn wedi datblygu set o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) i’n helpu i fesur ein cynnydd yn ystod y tair blynedd nesaf. Bydd yr adolygiad teirblynyddol, sydd i’w gyhoeddi yn 2010, yn gosod mesurau canlyniad pellach y gellir asesu perfformiad y Comisiwn yn eu herbyn. Blaenoriaeth Strategol 1: sicrhau a rhoi ar waith fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol effeithiol ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol ■

Tystiolaeth o ddylanwad y Comisiwn ar ddatblygiadau deddfwriaethol a pholisi allweddol gan gynnwys y Mesur Cydraddoldeb newydd, y Mesur Hawliau arfaethedig a Chyfarwyddeb Erthygl 13 yr UE a fydd yn helpu i gryfhau amddiffyniad cyfreithiol domestig. Tystiolaeth o roi ar waith yn llwyddiannus Gytuniadau Hawliau Dynol amrywiol y Cenhedloedd Unedig a Chyngor Ewrop fel y’u mesurwyd gan waith y Comisiwn, gan gynnwys adroddiadau cysgodol ar gydymffurfiaeth Prydain yn 2010, a oedd yn dylanwadu ar asesiadau’r cyrff rhyngwladol.

24

Defnydd wedi’i dargedu o’n pwerau sy’n ymdrin â’r holl feysydd yn ein cylch gorchwyl cydraddoldeb a hawliau dynol: o leiaf 100 o gamau cyfreithiol strategol ac achosion o gyfryngu bob blwyddyn a chyfradd llwyddiant o 70 y cant fel y’i diffinnir gan ganlyniadau cyfreithiol cadarnhaol a thelerau setliad effeithiol. O leiaf saith Ymchwiliad ac Archwiliad Ffurfiol a symudwyd ymlaen yn ystod tair blynedd o fewn amserlenni a chyllidebau pendant yn rhoi canlyniadau cadarnhaol sy’n achosi newid.


Blaenoriaeth strategol 2: creu Prydain decach, gyda chyfleoedd cyfartal mewn bywyd a mynediad at wasanaethau i bawb ■

O leiaf pum Memorandwm Cydddealltwriaeth wedi’u cytuno gyda rheolyddion gwasanaeth cyhoeddus ac arolygiaethau mawr, a mesurau perfformiad o ran cydraddoldeb wedi’u mewnosod yn eu fframweithiau archwilio, o fewn tair blynedd. Lefel ymwybyddiaeth uchel a chyson ymhlith cyrff cyhoeddus a dargedwyd gan y Comisiwn o ran eu hymrwymiadau o dan y dyletswyddau cydraddoldeb cyfredol yn y sector cyhoeddus fel y’u mesurwyd gan arolwg gwaelodlin a sefydlwyd yn 2009/10, a gwelliant o bump y cant o flwyddyn i flwyddyn ar ôl hynny. Cynnydd o ran y gyfran o gyflogwyr yn y sector preifat sy’n derbyn deunyddiau o’r Comisiwn sy’n credu eu bod yn deall deddfwriaeth gydraddoldeb fel y’u mesurwyd gan arolwg gwaelodlin a sefydlwyd yn 2009/10. Cynnydd yn y gyfran o gyflogwyr yn y sector preifat sy’n cynnal archwiliadau cyflog i 35 y cant o’r waelodlin bresennol o 23 y cant.

Canlyniadau cydraddoldeb gwell mew perthynas â chaffael ac amrywiaeth, y system cyfiawnder troseddol, addysg a pherfformiad llywodraeth leol. Byddwn yn cyhoeddi’r mesurau canlyniadau manwl hyn yn yr adolygiad teirblynyddol yn 2010.

Blaenoriaeth strategol 3: adeiladu cymdeithas heb ragfarn, hyrwyddo cysylltiadau da a meithrin diwylliant cydraddoldeb a hawliau dynol bywiog ■

Cynnydd o ran ymwybyddiaeth o’r Comisiwn a’i waith ymhlith y cyhoedd gan bump y cant o’r waelodlin ym mis Hydref 2007. Symudiad o ran agwedd ar fesurau cyffredinol o ragfarn ymhlith y cynulleidfaoedd a dargedwyd, er enghraifft cyfranogwyr mewn rhaglenni ieuenctid a gefnogir gan y Comisiwn. Cwblhawyd tair ymgyrch genedlaethol fawr, eu gwerthuso, a darparu tystiolaeth o effaith a chost-effeithiolrwydd. Bydd y Comisiwn yn pennu amcanion ar gyfer pob ymgyrch ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth, a newid agwedd ac ymddygiad.

25


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Yn ogystal â gwerthuso sy’n benodol i’r ymgyrchoedd, byddwn hefyd yn sefydlu metrigau sydd wedi’u safoni er mwyn adeiladau darlun o’n heffaith. Bydd hyn yn cynnwys ymarfer penodol i fesur ecwiti ein brand ymhlith cynulleidfaoedd a dargedir. Bydd y Comisiwn hefyd yn mesur ymdriniaeth gan y cyfryngau yn ôl cyfaint a faint mae’r negeseuon yn treiddio, gan gynnwys platfformau digidol. Caiff y waelodlin hon ei sefydlu erbyn trydydd chwarter 2009/10. Cwblhawyd tri ymarfer ymglymiad ar draws y wlad: cyfraddau cyfartalog o 50 y cant yn mynychu a chyfradd 20 y cant o bobl yn mynychu am y tro cyntaf ym mhob digwyddiad ymglymu ac ymgynghori.

Blaenoriaeth Strategol 4: hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau a dyletswyddau – darparu cyngor ac arweiniad amserol a chywir i unigolion a chyflogwyr ■

Cyhoeddwyd Codau Ymarfer a chanllawiau sy’n bodloni canllawiau arfer gorau ac yn gwella ymwybyddiaeth y cyflogwr, y gwneuthurwr polisïau a’r rhai sy’n darparu gwasanaeth o gyfrifoldebau statudol fel y’u mesurir gan arolwg blynyddol gyda’r waelodlin wedi’i sefydlu yn 2009/10.

26

Cynnydd o 50 y cant o ran y nifer o Fentrau Bach a Chanolig eu Maint sy’n ceisio gwybodaeth a chyngor gan y Comisiwn a’i bartneriaid, gan sefydlu gwaelodlin yn 2009/10. Cyflawni cynnydd o 20 y cant o ran bodlonrwydd cyffredinol y defnyddwyr gyda gwasanaethau’r Comisiwn drwy arolwg gwaelodlin a gynhaliwyd ym mlwyddyn gyntaf y cynllun: tystiolaeth yr ymatebir i dros 90 y cant o geisiadau am wybodaeth a chyngor yn brydlon ac yn effeithiol. Gwefan a llinell gymorth y Comisiwn sy’n cyrraedd safonau uchaf hygyrchedd cyhoeddus. Bydd ein harolwg bodlonrwydd defnyddwyr yn pennu gwaelodlin i fesur a welir gwefan a llinell gymorth y Comisiwn yn awdurdodol a byddwn yn monitro cyflymdra ymateb a chyfeintiau galwadau a dargedir yn rheolaidd. Sector cynghori a gefnogir ac a roddir ar waith i ddarparu cymorth a chefnogaeth uniongyrchol i unigolion: bydd o leiaf tri grant ym mhob rhanbarth yn adeiladu galluedd y sector cynghori ac eirioli ledled Lloegr, gydag adnoddau pellach ar gyfer Cymru a’r Alban. Arolwg rhan-ddeiliaid i fesur canfyddiadau o ansawdd a chyrraedd gwasanaethau cynghori ac eirioli ar draws Prydain, yn anelu at gynyddu hyder y rhan-ddeiliaid yn narpariaeth gyffredinol y gwasanaethau gan 20 y cant drwy gydol oes y cynllun.


Blaenoriaeth Strategol 5: adeiladu sefydliad awdurdodol ac ymatebol ■

Cronfa wedi’i gwella o rhan-ddeiliaid y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd wedi’u hymglymu, a ddangosir gan ystod fwy o sefydliadau a gynrychiolir yng nghynadleddau a digwyddiadau’r Comisiwn: byddwn yn cynyddu’r nifer o sefydliadau sy’n rhanddeiliaid a fydd yn cyfrannu at yr ymgynghoriad nesaf ar y cynllun strategol gan 30 y cant dros waelodlin 2008/9.

Bydd lefelau olrhain mynegeion cyflogeion o ran ymglymiad yn cynyddu i 70 y cant erbyn mis Rhagfyr 2009 – o waelodlin o 55 y cant – gyda gwelliannau pellach wedyn. Y gweithredoedd a nodwyd yn ein cynllun cydraddoldeb tair blynedd wedi’u cyflwyno erbyn Mawrth 2012.

Sicrhau defnydd effeithiol o’n hadnoddau, gan gadw gwariant o fewn +/- 5 y cant i’r gyllideb y cytunwyd arni, a datblygu a darparu ein cynllun gwerth am arian. Lefelau uwch o sicrwydd o’r archwiliad mewnol ac allanol gan gynnwys adroddiad a chyfrifon blynyddol diamod wedi’u cymeradwyo gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Dangosyddion perfformiad cydraddoldeb a hawliau dynol newydd a ymgynghorwyd arnynt ac wedi’u sefydlu ar gyfer yr adolygiad teirblynyddol erbyn mis Mehefin 2010.

27


Ein cynllun strategol | Crynodeb gweithredol 2009–2012

Cysylltiadau Lloegr

Yr Alban

Cymru

Freepost RRLL-GHUX-CTRX Arndale House Arndale Centre Manchester M4 3AQ

Freepost RRLL-GYLB-UJTA The Optima Building 58 Robertson Street Glasgow G2 8DU

Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL 3ydd Llawr 3 Sgwâr Callaghan Caerdydd CF10 5BT

Llinell Gymorth:

Llinell Gymorth:

Llinell Gymorth:

Prif rif 0845 604 6610

Prif rif 0845 604 5510

Prif rif 0845 604 8810

Ffôn testun 0845 604 6620

Ffôn testun 0845 604 5520

Ffôn testun 0845 604 8820

Ffacs 0845 604 6630

Ffacs 0845 604 5530

Ffacs 0845 604 8830

Amserau agor y llinell gymorth: Llun, Mawrth, Iau, Gwener: 9am-5pm Mercher: 9am-8pm www.equalityhumanrights.com

28


Argraffwyd ar 9lives Offset, wedi’i gynhyrchu 100% o Ffibr TCF (Hollol Rydd Rhag Clorin) wedi’i ailgylchu, ac wedi’i ardystio gan yr FSC. Dim ond inciau o lysiau a ddefnyddiwyd.

© Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cyhoeddwyd Mehefin 2009 ISBN 978-1-84206-185-5 Cynlluniwyd gan Precedent www.precedent.co.uk


www.equalityhumanrights.com

Ein cynllun strategol - Crynodeb gweithredol 2009–2012  

Mae’r cynllun yn crynhoi ein blaenoriaethau ac yn gosod cyfres o raglenni a phrosiectau rydym yn meddwl bydd yn helpu i wneud Prydain yn lle...

Read more
Read more
Similar to
Popular now
Just for you