Llygad Llŷn 2016

Page 1

Rhif 10 • 2016 Cylchlythyr AHNE Llyˆn

Yn y rhifyn hwn... prosiectau, digwyddiadau a newyddion Newyddion am Enlli

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Giatiau Traddodiadol


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

ardal arbennig

Croeso i rifyn 2016 o Llygad Llyˆn – sef newyddlen flynyddol ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llyˆn. Pwrpas y newyddlen yw darparu ychydig o gefndir am yr ardal a’r dynodiad arbennig hwn ac adrodd ar waith diweddar tîm AHNE Llyˆn – yn ogystal â gwaith partneriaid eraill sy’n gweithio er lles yr ardal. Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Mae AHNE yn golygu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae Llyˆn yn un o bump AHNE sydd wedi eu dynodi yng Nghymru, o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Yr ardaloedd eraill yw Penrhyn Gw ˆyr, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Gwy. Prif bwrpas y dynodiad yw gwarchod, cynnal a meithrin harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a thirlun yr ardal. Mae'n bwysig hefyd bod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol yr ardal yn cael eu gwarchod. Am fwy o wybodaeth am yr holl Ardaloedd o Harddwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ewch i wefan Cymdeithas yr AHNE ar www.landscapeforlife.org.uk.

ˆn Penrhyn Lly Prif sail dynodi rhan o Lyˆn yn AHNE yn ôl yn 1957 oedd yr arfordir amrywiol a diddorol a’r tirlun hardd. Mae oddeutu chwarter y penrhyn, cyfanswm o 15,500 hectar, yn yr ardal ddynodedig. Mae’r rhan

Map o AHNE Llyˆn ........................3 Crwydro Arfordir Llyˆn .............4 a 5

Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol ˆn AHNE Lly Sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyˆn yn 1997 er mwyn cyfrannu at y gwaith o warchod a gofalu am yr AHNE. Ymysg yr aelodau, mae Cynghorwyr lleol, aelodau o Gynghorau Cymuned, a chynrychiolwyr o fudiadau ac asiantaethau lleol fel Cyfeillion Llyˆn, yr Undebau Amaethyddol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn y cyfarfodydd, a gynhelir rhyw 2-3 gwaith y flwyddyn, bydd yr aelodau yn trafod materion cenedlaethol a lleol perthnasol, yn cyfrannau at y gwaith o baratoi Cynllun Rheoli a chael gwybod am waith sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r AHNE. Hefyd mae Is-Bwyllgor (a elwir yn Banel Grantiau) yn penderfynu ar geisiadau am grant o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Côd Morol Newydd i Wynedd .....................10

Giatiau Hanesyddol yn Llyˆn ......6 a 7 Cylchdeithiau Cerdded Newydd ....................... 8 Bws Arfordir Llyˆn .........................9

Newyddion am Enlli ....................11 Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy .....12, 13 a 14 Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE Llyˆn 2015 ........................15 Be sy’n digwydd yn 2016? ...........16

Cyhoeddwyd gan: Gwasanaeth AHNE Llyˆn Argraffwyd gan: Wasg Carreg Gwalch, Llwyndyrys a Llanrwst

Mae dau aelod o staff yn gweithio yn yr Uned:

Elin Wyn Hughes – Swyddog Prosiectau AHNE Llyˆn Fel Swyddog Prosiectau mae Elin yn arwain ar brosiectau yn deillio o’r Cynllun Rheoli ac yn gweinyddu grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Hefyd, bydd yn trefnu digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth am AHNE Llyˆn a chynorthwyo i ddiweddaru’r Cynllun Rheoli.

Cynnwys

fwyaf yn dir arfordirol ond mae hefyd yn ymestyn i mewn i’r tir i gynnwys y Foel Gron a Garn Fadryn. Er mai’r tirlun a’r arfordir yw prif sail yr harddwch naturiol mae llawer o rinweddau eraill yn perthyn i’r ardal yn cynnwys y bywyd gwyllt amrywiol, olion hanesyddol, y môr a’i donnau, y diwylliant unigryw a’r iaith Gymraeg sy’n dal i ffynnu.

Tîm AHNE Ll yˆn – Bleddyn Prys Jones – Swyddog AHNE Llyˆn Fel Swyddog AHNE Llyˆn mae Bleddyn yn arwain gwaith Cyngor Gwynedd ar weithgareddau creiddiol yr AHNE, materion cenedlaethol, a’r gwaith o baratoi a gweithredu’r Cynllun Rheoli.

TUDALEN 2

Lluniau: Hawlfraint Cyngor Gwynedd (oni nodir yn wahanol) Llun Clawr: Porthdinllaen

Bleddyn Prys Jones

Manylion Cyswllt Gwasanaeth AHNE Llyˆn, Adran Cefn Gwlad a Mynediad, Swyddfa Cyngor Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd – LL53 5AA Ffôn: 01758 704 155 / 01758 704 176 E-Bost: ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.ahne-llyn-aonb.org

Elin Wyn Hughes


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 3

m a p o A H N E l l ˆy n


c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

•••

Crwydro Arfordir Llyˆn • • •

TUDALEN 4

Y CÔD CEFN GWLAD PARCHWCH • DIOGELWCH • MWYNHEWCH

• Byddwch yn ddiogel – cynlluniwch

Yn flynyddol, bydd Gwasanaeth AHNE Llyˆn yn trefnu teithiau cerdded yn yr ardal. Maent yn cynnig cyfle gwych i fwynhau’r

golygfeydd, cyfarfod â phobl newydd a dod i wybod mwy am ein

treftadaeth cyfoethog.

• •

ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion Gadewch giatiau ac eiddo fel yr ydych yn eu cael nhw Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt Cadwch eich ci dan reolaeth Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Yn ystod 2015, cynhaliwyd teithiau yn Ngarn Fadryn, Mynydd Cilan a Chlynnog Fawr. Yng Ngarn Fadryn, braf oedd cael cwmni Dilwyn Morgan yn hel atgofion am ei blentyndod yno, ac wedi i ni ddringo i’r copa bu cryn sgwrsio am y tirlun bendigedig oedd i’w weld o’n cwmpas i bob cyfeiriad. Ar Fynydd Cilan, bu John Dilwyn Williams yn tynnu sylw at amryw o nodweddion diddorol megis ôl troed march Einion Frenin ac yn adrodd hanes ambell long aeth i’w thranc ym Mhorth Neigwl islaw. Mae’n lle delfrydol i grwydro ac yn hafan i bob math o fywyd gwyllt prin, yn arbennig adar môr. Yr archeolegydd Rhys Mwyn fu’n tywys taith yng Nghlynnog a dyma fanylion pellach am y daith honno....... ••••••••••

Saif pentref Clynnog Fawr ar arfordir gogleddol Llyˆn. Mae’n bentref hanesyddol a thlws, yn llawn cymeriad. Yn ogystal â bod oddi fewn i ffiniau’r AHNE, mae rhan helaeth o ganol y pentref wedi ei dynodi yn Ardal Cadwraeth ar sail y cymeriad arbennig a’i bensaernïaeth diddorol. O bentref cymharol fychan, ceir nifer o nodweddion diddorol o gwmpas a safleoedd hanesyddol pwysig. Un o’r nodweddion amlycaf yw’r eglwys, a dyma oedd ein man cyfarfod. Dyma un o eglwysi pwysicaf gogledd Cymru, yn drawiadol iawn o ran ei hadeiladwaith ac yn un o’r amryw o adeiladau rhestredig yn y pentref. Sefydlwyd hi mae’n debyg gan Beuno Sant yn y 7fed ganrif. Ystyrir Beuno yn un o’r prif Seintiau Celtaidd a dywedir iddo feddu ar alluoedd arbennig a phwerau iacháu rhyfeddol. Ceir cofnod i’r Eglwys gael ei llosgi yn y flwyddyn 978 gan y Llychlynwyr ac yn ddiweddarach gan y Normaniaid. Erbyn diwedd y 15fed Ganrif, roedd hi’n eglwys golegol, yn un o chwech yn unig drwy Gymru. Mae’n debyg fod yr Eglwys yn gyrchfan bwysig i’r pererinion a deithiai i Enlli, ac mae’r gist bren hynafol ble arferai’r pererinion roddi eu cyfraniad i’w gweld yno hyd heddiw, sef Cyff Beuno. Ceir sawl nodwedd ddiddorol arall ar y safle megis y cloc haul yn y fynwent sydd â’i ffurf yn eithaf anghyffredin yng Nghymru, ac sy’n dyddio’n ôl i tua’r 10fed ganrif. Os am grwydo’r fynwent, ceir sawl carreg fedd yma o ddiddordeb cenedlaethol megis Ebenezer Thomas (Eben Fardd) – bardd ac emynydd poblogaidd ac ysgolfeistr yng Nghlynnog.

Eglwys Clynnog

Y Cloc Haul


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 5

Yn ystod Medi 2016, bydd teithiau cerdded yn Rhiw, Llanbedrog a Nant Gwrtheyrn. Bydd y tair taith yn cynnig golygfeydd arbennig iawn ynghyd â chyfle i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt. Hefyd wrth gwrs, bydd cyfle i glywed am hanesion llafar gwlad a gwerthfawrogi nodweddion diddorol. Er mwyn ymuno â’r teithiau hyn, bydd yn hanfodol cysylltu â ni o flaen llaw am fwy o wybodaeth ac i gofrestru. Ffoniwch 01758 704 176 neu e-bost – AHNELlynAONB@gwynedd.gov.uk Cromlech Fach-wen

Ffynnon Beuno

c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

Nepell o giât yr Eglwys, gellir troi i’r dde gyda wal y fynwent ac i lawr at briffordd yr A499. Ar ôl croesi, buom yn dilyn llwybr troed nes cyrraedd Cromlech Fach-wen. Dyma fath arbennig a siambr gladdu o’r cyfnod Neolithig. Mae’n debyg mai siambr gladdu i rywun o statws arbennig yn y gymdeithas yw hon. Tynnwyd ein sylw at farciau wedi eu cerfio ar y maen uchaf a chafwyd trafodaeth ddifyr am eu harwyddocâd posib. Aethpwyd yn ôl hyd y llwybr am y pentref unwaith eto gan ymweld â Ffynnon Beuno cyn i’r daith ddirwyn i ben ger giatiau’r eglwys. Mae’r ffynnon yn atyniad poblogaidd ers canrifoedd maith. Roedd yn ffynnon iacháu yn ôl traddodiad a byddai cleifion yn cael eu trochi yn ei dyfroedd a'u rhoi i orwedd dros nos ar fedd Beuno Sant yn yr Eglwys gan obeithio am wellhad.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 6

giatiau hanesyddol

Clynnog

Giatiau• • • Hanesyddol •••

Mae cloddiau, gwrychoedd a waliau yn sicr yn cyfrannu at gymeriad y tirlun yma yn Llyˆn ond mae giatiau caeau hanesyddol hefyd yn chwarae rhan. Giatiau haearn trwm sydd yn draddodiadol i Lyˆn er fod rhai giatiau pren hefyd yn cael eu gosod. Roedd y giatiau haearn yn cael eu gwneud yn yr efail leol gan y gof fyddai yn gweithio yno. Oherwydd hynny mae edrychiad y giatiau yn amrywio o ardal o ardal yn ôl arddull y gof. Ganrif a mwy yn ôl roedd na efail ym mhob pentref bron; roeddent yn llefydd prysur a hefyd yn fan lle roedd dynion yn dod at ei gilydd i drafod a rhoi’r byd yn ei le. Roedd y gofaint yn grefftwyr ac yn gwneud pob math o waith dur yn cynnwys pedolau, giatiau, rheiliau, offer amaethyddol ac ati. Mae’r rhan fwyaf o’r hen efeiliau wedi cau erbyn hyn ond mae’r enwau, a’r adeiladu mewn rhai mannau, yn parhau – megis Efail Rhos, Rhoshirwaun, Efail Pont y Gof, Botwnnog, Efail Bemprys, Pentreuchaf, Efail Gledrydd ac Efail Tudweiliog. Roedd gan Stadau Nanhoron, Cefnamwlch a Glynllifon ofaint eu hunain ac roedd giatiau ar gyfer eu ffermydd yn cael eu gwneud yn ôl arddull arbennig – yn aml

Llanengan

Efail Pont y Gof, Botwnnog


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

Rhiw

Botwnnog

Bryncroes Giat newydd ger Clynnog

yr hen a’r newydd ...

giatiau hanesyddol

gellir adnabod yr hen ffermydd stâd o’r adeiladau a’r giatiau. Yn ddiweddar mae cronfa grant yr AHNE wedi cefnogi prosiect gan Ymddiriedolaeth Enlli i osod giatiau newydd ar yr ynys, yn ôl dull stad Glynllifon. Er fod llawer o’r hen giatiau haearn i’w gweld hyd heddiw, maent bellach yn prinhau. Mae rhai wedi plygu neu rydu ac eraill wedi eu tynnu yn sgil lledu adwyon ar gyfer peirannau modern. Mewn rhai achosion mae cilbyst cerrig hanesyddol wedi eu colli hefyd. Ran amlaf mae giatiau traddodiadol wedi eu cyfnewid am rai tiwb wedi eu galfaneiddio. Mae digonedd o’r rhain ar gael mewn gwahanol hydau ac maent yn hawdd i’w gosod ond giatiau plaen a di-gymeriad ydynt heb steil na chymeriad yr hen giatiau haearn. Y newydd da ydi fod gof lleol yn dal wrthi yn trwsio a gwneud giatiau traddodiadol ac mae’r prisiau yn ddigon rhesymol. Mae’r giatiau hyn yn edrych yn well, yn cynnal cymeriad yr ardal ac wedi eu gwneud i bara am amser maith. Mae’n bosib y gall gwasanaeth AHNE Llyˆn gynnig grant tuag at cost giât haearn draddodiadol ar ddaliadau amaethyddol os yw’r lleoliad mewn man cyhoeddus (ar ochor lôn neu lwybr). Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth.

TUDALEN 7


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

c y l c h d e i t h i a u c e r d d e d l l yˆ n

Cronfa Cym uneda u’r

TUDALEN 8

Cylchdaith Clynnog Fawr

Arfor dir Cylchdeithiau Cerdded Newydd yn Llyˆn Mae Cyngor Gwynedd, ynghyd â rhai sefydliadau eraill yn yr ardal wedi bod yn llwyddiannus i ddenu arian o Gronfa Cymunedau’r Arfordir y Loteri Fawr. Nôd Cronfa Cymunedau’r Arfordir (CCA) yw annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol y Deyrnas Gyfunol trwy ddyfarnu arian i greu twf economaidd a swyddi (cynaliadwy). Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn £280,205 tuag at ddatblygu ac uwchraddio llwybrau ar gyfer creu 18 cylchdaith oddi ar Lwybr yr Arfordir, a’u hyrwyddo gyda’r bwriad o greu buddsoddiad economaidd i’r cymunedau gerllaw.

Cylchdaith Llangwnnadl

Mae nifer o adnoddau yn cael eu datblygu i hyrwyddo’r cynnig arfordirol drwy ddefnydd fideo a lluniau, ynghyd â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol megis Facebook. Bydd map rhyngweithiol yn cael ei ddatblygu a fydd yn amlygu manylion y cylchdeithiau. Bydd y cynllun yn ogystal yn cefnogi digwyddiadau arfordirol ac yn hyrwyddo’r cynnig drwy dargedu cylchgronau cerdded. Mae nifer o’r cylchdeithiau wedi eu lleoli o fewn AHNE Llyˆn, yn cynnwys Clynnog, Trefor, Tre’r Ceiri, Edern, Tudweiliog, Aberdaron, Llangwnnadl, Rhiw a Llanbedrog. Penodwyd Mel Parry, mewn cydweithrediad â Myrddin ap Dafydd a Neil Johnstone i gerdded ac ysgrifennu testun ar gyfer y cylchdeithiau, a fydd yn rhoi sylw i fannau o ddiddordeb treftadaeth, diwylliannol, ac ecolegol yn ogystal â gwybodaeth am gyfleusterau ac atyniadau sydd ar gael yn y cymunedau cyfagos. Bydd yr wybodaeth yma ar gael ar wefan Eryri Mynyddoedd a Môr www.ymweldageryri.info a gwefan AHNE Llyˆn – www.ahne-llyn-aonb.org. Bydd arwyddion pwrpasol wedi eu gosod oddi ar Lwybr yr Arfordir yn rhoi gwybod am lwybrau’r cylchdeithiau yn ystod 2016.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 9

Yn dilyn llwyddiant treialu Bws Arfordir gan fenter cymunedol O Ddrws i Ddrws yn ystod Haf 2014, maent hwythau wedi derbyn nawdd trwy’r gronfa i barhau i redeg y Bws Arfordir eto rhwng diwedd Mawrth a Hydref 2016. Eleni bydd dau fws yn cael eu defnyddio ac yn rhedeg bedwar diwrnod yr wythnos rhwng Nefyn ac Abersoch. Mae pump pwynt penodol lle gellir dal y bws (Nefyn, Porthor, Aberdaron, Pentowyn ac Abersoch) ond mae hefyd yn bosib trefnu cael eich codi mewn lleoliadau eraill drwy drefniant o flaen llaw. Mae’n wasanaeth buddiol i bobl leol yn ogystal ag ymwelwyr, ac ar gael am £1 yn unig. Cysylltwch gyda O Ddrws i Ddrws ar 01758 721777 neu oddrwsiddrws@yahoo.co.uk am fwy o wybodaeth neu i gadw sedd.

BWS ARFORDIR LLYN LLWYBR ARFORDIR

ARDAL CODI

b w s a r f o r d i r l l yˆ n

Bws Arfordir Llyˆn


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 10

côd morol Gwynedd

Côd Morol Newydd i Wynedd Mae’r Prosiect Ecosystemau Morol yn brosiect peilot sydd wedi ei leoli ym Mhen Llyˆn ac yn esblygiad o waith Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Pen Llyˆn a’r Sarnau (www.penllynarsarnau.co.uk). Mae’r prosiect yn ganlyniad i ddogfen a luniwyd gan Gymdeithas Pysgotwr Cymru oedd yn cynnig dull o reoli’r môr fyddai’n gwella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd morol, hyrwyddo adferiad a lles ecosystemau, heb gael effaith niweidiol ar bysgotwyr a chymunedau lleol. Y nod yw gwarchod bywyd diwylliannol ac economaidd a diogelu pysgodfeydd traddodiadol a gweithgareddau hamdden. Felly mae ACA Pen Llyˆn a’r Sarnau a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru yn cyd-arwain prosiect sydd yn adlewyrchu’r ffaith fod cadwraeth a’r diwydiant pysgota yn mynd law yn llaw ac yn rhoi pwyslais mawr a’r gydreoli ac ymgynghori. Un elfen o’r prosiect yw Côd Ymddygiad Morol i holl ddefnyddwyr y môr yng Ngwynedd. Roedd y côd blaenorol wedi dyddio, felly mae’r prosiect wedi datblygu côd newydd i Wynedd. Yn dilyn llwyddiant proses debyg yn ardal Cyngor Ceredigion yn ddiweddar, cafwyd trafodaethau gyda’r swyddogion perthnasol a chytunwyd i rannu’r un côd, neu o leiaf ei ddefnyddio fel sylfaen i gôd newydd Gwynedd. Mae hyn wedi osgoi dyblygu gwaith ac yn mynd i gadw cysondeb ar draws y bae. Gyda chydweithrediad Barry Davies ac Adran Forwrol Cyngor Gwynedd, fe fydd y côd yn cael ei ddosbarthu i holl gofrestrwyr cychod yn y sir, ac ar gael i’r cyhoedd yn yr harbyrau. Mae copi ar gael hefyd ar wefan AHNE Llyˆn – www.ahne-llyn-aonb.org Mae’r côd yn anelu tuag at ddiogelu’r bywyd gwyllt godidog sydd gennym yn yr ardal felly mae hi’n hanfodol fod pawb yn ei ddilyn er mwyn gallu mwynhau’r môr, heb darfu na dychryn unrhyw ddolffin, lamhidydd neu aderyn yn nythu ar y creigiau. Mae’r côd yn ein galluogi i fwynhau gweld y rhywogaethau arbennig sy’n trigo ym Mhen Llyˆn a’r Sarnau, mewn ffordd sy’n ddiogel i bawb. Felly, cofiwch amdano pan fyddwch yn mwynhau arfordir Llyˆn dros yr haf. Am fwy o fanylion am y Côd Morol neu am y Prosiect Ecosystemau Morol, ffoniwch Catrin Glyn ar 01286 679 445.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 11

Un o atyniadau mwyaf poblogaidd ac enwog Llyˆn heb os, yw Ynys Enlli. Wedi ei lleoli oddi ar arfordir eithaf y penrhyn dros swnt tymhestlog, dyma ynys chwedlonol sydd â chysylltiadau Cristnogol yn dyddio yn ôl i gyfnod cynnar iawn. Denwyd pererinion o bell ac agos dros y canrifoedd ac yn ôl y sôn, roedd tair pererindod i Enlli gyfystyr ag un i Rufain. Dywedir fod 20,000 o saint wedi eu claddu yno ar yr ynys. Mae’r ynys yn gyfoethog o olion ac adeiladau hanesyddol ac yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Mae’r nodweddion hyn, yn ogystal â hud a harddwch arbennig Enlli yn golygu fod llawer iawn o ddynodiadau ynghlwm â hi. Ymysg y rhain (yn ychwanegol at ddynodiad yr AHNE), mae Enlli yn Ardal Gadwraeth, yn Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyˆn a’r Sarnau (www.penllynarsarnau.co.uk). Ar hyn o bryd, mae Cynllun Rheoli Treftadaeth Ynys Enlli yn cael ei ddatblygu gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Enlli. Y nod yw gwella dealltwriaeth o archaeoleg yr Ynys, asesu arwyddocâd nodweddion archeolegol (unigol ac hefyd archaeoleg yr Ynys yn ei chyfanrwydd) a darparu gwybodaeth briodol a fframwaith strategol er mwyn sicrhau fod yr amgylchedd hanesyddol yn rhan annatod o reoli tir yno. Bwriedir hefyd i adnabod unrhyw faterion ynghylch rheoli archaeoleg ar yr ynys a chreu argymhellion ar gyfer y materion hynny. Edrychwn ymlaen i glywed am ddatblygiadau pellach y Cynllun yn ystod y flwyddyn. Datblygiad cyffrous arall o ran Enlli yn ddiweddar, yw penodiad Sian Stacey fel rheolwr newydd. Gyda dros 300 o bobl ledled y byd yn ymgeisio am y swydd, Sian, yn wreiddiol o sir Gaerfyrddin oedd yn llwyddiannus. Ei rôl fydd gofalu am ymwelwyr yn ogystal ag ymgymryd â gwaith cynnal a chadw ar y bythynnod. Mae cofnod diddorol o fywyd ar Enlli i’w gael ar flog Sian – www.bardseyislandlife.blogspot.co.uk. Cyhoeddwyd hefyd ambell gyfrol gan Wasg Carreg Gwalch yn ddiweddar sy’n rhoi darlun i ni o fywyd yno ddoe a heddiw (Pobol Enlli gol. Myrddin ap Dafydd) a Enlli – Tu hwnt i’r Swnt (Marian Delyth). Os am ragor o wybodaeth am Enlli, a sut gellir trefnu ymweliad, ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Ymddiriedolaeth Enlli – www.enlli.org.

Cri

newyddion am Enlli

Newyddion am Enlli


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

y gronfa datblygu cynaliadwy

••••••

T U D A L E N 12

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ••••••

Mae’r Gronfa yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gwneud lles i’r amgylchedd, yr economi, y diwylliant neu’r gymuned mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dylai’r prosiectau fod yn arloesol ac sy’n datblygu a phrofi ffyrdd newydd o fyw yn fwy cynaliadwy. Dyma flas ar rai prosiectau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf.... Adfywio’r Ardd ym Meithrinfa Blagur

Datblygwyd prosiect difyr yn Rhydyclafdy yn ddiweddar gyda nawdd o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy. Aethpwyd ati ar safle Meithrinfa Blagur i adfer tir gwastraff a datblygu gardd go arbennig. Cliriwyd gordyfiant oddi ar y safle a phrynwyd gwahanol ddeunyddiau fel llechi mân, tybiau plannu, blychau adar a phlanhigion a bu chontractwr lleol wrthi yn cynorthwyo’r gwaith o greu’r ardd newydd. Mae’r ardd bellach yn hafan i fywyd gwyllt o bob math ac yn fan perffaith i’r plant sy’n derbyn gofal yn y Feithrinfa, i chwarae ac ymddiddori yn yr amgylchedd o’u cwmpas. Mae’r prosiect yn ogystal wedi bod o fudd i’r gymuned ehangach gan fod llecyn mewn safle amlwg o fewn y pentref wedi ei wella. Yr oedd y prosiect yn haeddiannol iawn o nawdd y Gronfa ac yn cyrraedd nifer o’r meini prawf amgylcheddol a chymdeithasol.

Cofio Elizabeth Watkin Jones Bu gwaith ffilmio difyr yn digwydd yn ddiweddar i gofnodi hanes un o awduron enwog yr ardal. Ganed Elizabeth Watkin Jones yn Nefyn yn 1887 a chreodd nifer o lyfrau plant sy’n dal yn boblogaidd heddiw megis Luned Bengoch a Plant y Mynachdy. Hanner canrif ers ei marwolaeth bu Amgueddfa Forwrol Llyˆn yn arwain prosiect i gofio amdani ac un elfen o hynny oedd creu ffilm oedd yn cynnwys pobl leol oedd yn ei hadnabod yn hel atgofion. Dyma brosiect diddorol a phwysig sydd wedi sicrhau fod hanes lleol ar gof a chadw i genedlaethau’r dyfodol. Bydd y ffilm i’w gweld yn yr Amgueddfa fel rhan o arddangosfa ehangach yn ystod 2016.

Darganfod Aberdaron Ers canrifoedd, mae Aberdaron wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr o bob cwr. Yn bentref tlws gyda chymeriad unigryw, traeth godidog ac amryw o safleoedd hanesyddol diddorol yma ac acw, mae Aberdaron yr un mor boblogaidd heddiw ac a fu pan heidiai’r pererinion yno ar eu taith i Enlli. Dyma un o gadarnleoedd y Gymraeg hefyd ac mae’r pentref a’r ardal o’i chwmpas yn llawn o hanes a chwedlau tu hwnt o gyfoethog. Datblygwyd prosiect gan grw ˆ p Cyswllt Twristiaeth Aberdaron a’r Cylch er mwyn codi ymwybyddiaeth ac ymfalchïo yn yr ardal arbennig hon, ei hiaith a’i threftadaeth. Aethpwyd ati i drefnu gwersi Cymraeg sylfaenol i ymwelwyr er mwyn eu galluogi i fentro i’r siopau, caffis neu dafarndai i ymarfer eu sgiliau newydd. Aethpwyd ati hefyd i gynnal teithiau bws o gwmpas yr ardal gan dynnu sylw at gyfres o nodweddion a safleoedd hanesyddol pwysig – yn ogystal â’r golygfeydd bendigedig wrth gwrs! Bu’r prosiect yn llwyddiant ysgubol ac yn ffordd wahanol a hwyliog o hyrwyddo’r ardal arbennig hon ym mhen draw Llyˆn.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 13

Plasdy Bodwrdda, Aberdaron Cynhaliwyd cyfres o sgyrsiau diddorol yn ystod Ionawr a Chwefror eleni yng Nghanolfan Bryncroes gyda nawdd y Gronfa. Dymuniad Ffynnon Fair, Bryncroes pwyllgor y Ganolfan oedd rhoi cyfle i bobl gymdeithasu a mwynhau darlithoedd am hanes lleol. Mae llawer o hanesion a nodweddion diddorol yn perthyn i Fryncroes a’r plwyfi cyfagos megis ffynhonnau, ffermydd, plastai ac ystadau, bryngaerau a hen dafarndai. Mae hanesion difyr yn perthyn i drigolion yr ardal dros y canrifoedd hefyd, ac mae’n bwysig manteisio ar y cyfle i gadw eu hanesion ar gof a chadw. Bu’r sgyrsiau yn llwyddiant ysgubol a’r hen ysgol dan ei sang yn ystod pob sgwrs. Ymysg y siaradwyr gwadd yr oedd yr hanesydd John Dilwyn Williams a Glyn Roberts, aelod o Bwyllgor y Ganolfan. Arddangosfa Arlunwyr Sarn Gyda chymorth y Gronfa, mae grw ˆp o arlunwyr lleol wedi bachu’r cyfle i ddatblygu eu sgiliau ymhellach, a chynnal arddangosfa drawiadol o’u gwaith yng nghanolfan Porth y Swnt, Aberdaron. Prynodd Arlunwyr Sarn beiriant argraffu arbennig i arbrofi gyda gwahanol dechnegau ac aeth y grw ˆp ati yn ddiwyd i greu gwaith celf yn seiliedig ar nodweddion arbennig Llyˆn. Roedd rhan o’r arddangosfa yn seiliedig ar gerdd boblogaidd “Penrhyn Llyˆn” gan y prifardd Meirion MacIntyre Huws. Dyma brosiect lwyddodd i gyrraedd nifer fawr o feini prawf y Gronfa, yn enwedig am hyrwyddo’r AHNE a’i nodweddion unigryw i gynulleidfa eang a chynnal y diwylliant lleol. Dathlu Eglwys Carnguwch Cyfeillion Eglwys Carnguwch oedd grw ˆp arall a ddatblygodd brosiect diddorol gyda nawdd y Gronfa. Eu bryd oedd cynnal cyngerdd arbennig yn yr Eglwys a thaith gerdded. Mae hanes Eglwys Carnguwch, sydd wedi’i chysegru i Beuno Sant, yn mynd yn ôl ganrifoedd lawer a cheir sawl nodwedd hanesyddol diddorol o’i chwmpas fel maen hir ac ambell adfail. Bu’r digwyddiadau yn gyfle i’r gymuned ddysgu mwy am dreftadaeth cyfoethog yr ardal a gwerthfawrogi golygfeydd trawiadol. Bu cyfle hefyd i godi arian at brosiect hir-dymor i wella’r ddarpariaeth yn yr Eglwys ac ehangu’r fynwent.

Os am fwy o wybodaeth y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cysylltwch â Swyddog Prosiectau AHNE Lly ˆn:

01758 704 176

ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk

y gronfa datblygu cynaliadwy

Sgyrsiau Hanes Lleol – Canolfan Bryncroes


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

y gronfa datblygu cynaliadwy

••••••

T U D A L E N 14

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

(parhad) ••••••

Cymdeithas Hwylio a Chymdeithasol Hogia’ Llyˆn Bu prosiect diweddar gan Gymdeithas Hwylio a Chymdeithasol Hogia’ Llyˆn yn deilwng iawn o nawdd o’r Gronfa. Mae’r Gymdeithas yn hybu a threfnu rhaglen amrywiol o weithgareddau morwrol ym mhen draw Llyˆn. Nod eu prosiect oedd uwchraddio offer a phrynu rhai newydd, yn ogystal â chynnig sesiynau hyfforddi ar gyfer ieuenctid yr ardal a hyfforddiant iechyd a diogelwch i’r gwirfoddolwyr. Mewn ardal sydd â threftadaeth morwrol cryf, roedd yn brosiect gwerth chweil a braf oedd gweld cymaint o bobl yr ardal yn cael budd ohono.

Marchnad Cynnyrch Llyˆn Bu’r Gronfa yn gymorth i sefydlu digwyddiad pwysig a phoblogaidd iawn, sef Marchnad Cynnyrch Llyˆn. Cynhelir y Farchnad yn rheolaidd bellach ar fore Sadwrn cyntaf bob mis yn Neuadd Goffa Sarn a cheir gwledd yno o gynnyrch ffres – megis cigoedd, llysiau, wyau, cawsiau, bara, cacennau a phicls. Ceir amryw o grefftau unigryw hefyd sy’n wych ar gyfer anrhegion ac achlysuron arbennig. Cymydmaen Cyf. sydd wedi arwain y prosiect ac roedd yn deilwng iawn o nawdd y Gronfa drwy fod yn hwb a chefnogaeth i gynhyrchwyr lleol ac yn anogaeth i bobl yr ardal fyw yn fwy cynaliadwy.

•••••••••••••••••••••••••••••••••

Swyddogion Datblygu Newydd Cynnyrch Llyˆn Gyda datblygiad Marchnad Cynnyrch Llyˆn a’r diddordeb amlwg yn yr ardal mewn cynnyrch lleol o safon, penodwyd Swyddogion Datblygu Cynnyrch Llyˆn yn ddiweddar i weithio ar brosiectau cyffrous dros y misoedd nesaf. Bydd Dafydd Hughes a Ffion Strong yn gweithio yn Neuadd Sarn bob bore dydd Mawrth rhwng 9 ac 1 o’r gloch a bob prynhawn Mercher rhwng 3 a 6 o’r gloch. Meddai’r swyddogion newydd, “Byddwn yn canolbwyntio ar ddatblygu a hybu creu a gwerthu'n lleol. Felly os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu a gwerthu cynnyrch lleol, neu eisiau unrhyw wybodaeth am brosiectau Cynnyrch Llyˆn, sy'n cynnwys y Farchnad, dewch draw i'n gweld!” Gellir cysylltu dros e-bost hefyd ar cynnyrchllyn@gmail.com.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 15

Bob hyn a hyn, bydd y Gwasanaeth AHNE yn cynnal Cystadleuaeth Ffotograffiaeth dan wahanol thema. Y nod ydi annog pobl i fwynhau crwydro’r ardal a thynnu sylw at yr holl nodweddion arbennig a’r golygfeydd sydd yma. Yn 2015, cynhaliwyd cystadleuaeth dan y thema “Treftadaeth Llyˆn”. Dyma gyfle gwych i dderbyn casgliad o luniau diddorol ac ni chawsom ein siomi. Dyma’r tri llun ddaeth i’r brig. Diolch i Mari Jones o Oriel Plas Glyn y Weddw am feirniadu.

1af – Eglwys Sant Gwynhoedl gan Michelle Brecken Lleolir Eglwys Sant Gwynhoedl, a enwir ar ôl un o seintiau cynharaf Llyˆn, yn mhlwyf Llangwnnadl ac mae llawer iawn o hanesion a nodweddion diddorol ynghlwm â hi. Yn yr eglwys mae carreg sy’n gysylltiedig â Gwynhoedl y credir iddi fod yn garreg fedd iddo. Yn ystod y canol oesoedd daeth allor Gwynhoedl yn boblogaidd iawn, ac yn un o’r llefydd pwysicaf ar ffordd y Pererinion i Ynys Enlli.

2ail – Porth Meudwy gan Rory Trappe Dyma borthladd bychan ond prysur nepell o Aberdaron. Mae’n daith fendigedig yno o’r pentref ar hyd Llwybr yr Arfordir ac i lawr y grisiau serth i’r traeth. Oddi yma y cychwynnai’r pererinion ar eu taith ar draws y Swnt i Enlli, a natur encilgar y rhain a roes i’r lleoliad ei enw. Oddi yma bydd teithiau cychod yn gadael i’r ynys hyd heddiw.

3ydd – Porth Cychod gan Dawn Jones Hafan gysgodol ger Porth Ysgaden yw Porth Cychod, yn boblogaidd gyda physgotwyr lleol. Un hanes cofiadwy yn gysylltiedig â’r lle oedd hanes dau lanc lleol a ddechreuodd ar antur fawr oddi yma ym mis Mawrth 1933. Cychwynnodd y ddau allan mewn cwch i osod cewyll, ond collwyd un o’r rhwyfau. Fe’u cariwyd allan i’r môr a’r diwedd fu iddynt gael eu golchi i’r lan yn Kilkeel yng Ngogledd Iwerddon ddeuddydd yn ddiweddarach. Gallwch ddychmygu’r holl bryderu a fu yn Nhudweiliog a’r llawenydd pan gafwyd y neges eu bod yn fyw ac iach.

Llongyfarchiadau gwresog i’r enillwyr, a diolch yn fawr i’r holl gystadleuwyr am gymryd rhan.

cystadleuaeth ffotograffiaeth 2015

C y s t a d l e u a e t h F f o t o g r a f f i a e t h A H N E L l ˆy n 2 0 1 5


ARDAL

O

T U D A L E N 16

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

Be Sy’n Digwydd yn 2016? Mae rhywbeth at ddant pawb yn digwydd yn Llyˆn gydol y flwyddyn boed yn sioe amaethyddol, ras aredig neu eisteddfod. ˆ yl Arfordir Llyˆn yn dychwelyd dros fisoedd yr haf, sef cyfres o weithgareddau wedi eu trefnu gennym ni a’n • Bydd Gw ˆ yl. Dyma flas o’r partneriaid. Bydd digon o weithgareddau diddorol a chyffrous at ddant pawb o bob oed yn rhan o’r W digwyddiadau eleni;

Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Plas Heli Mai 28ain-29ain – Gw ˆyl Fwyd Tir a Môr Llyˆn Mehefin 5ed – Sportif Arfordirol Llyˆn Mehefin 10fed-12eg – Sioe Gychod Pwllheli www.plasheli.org

Mehefin 18fed Gorffennaf 10fed Gorffennaf 29ain Awst 1af Awst 15fed

– Blas y Môr Porthdinllaen – Blas y Môr Aberdaron – Diwrnod Hwyl ar Draeth Porthdinllaen – Diwrnod Hwyl ar Draeth Llanbedrog – Diwrnod Hwyl ar Draeth Porthor

www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula

AHNE Ll yˆn Medi 10fed Medi 15fed Medi 24ain

– Taith Gerdded Y Rhiw – Taith Gerdded Llanbedrog – Taith Gerdded Nant Gwrtheyrn

(Rhaid cysylltu o flaen llaw am wybodaeth bellach a chadw lle drwy ffonio 01758 704 176)

Sioeau Amaethyddol Nefyn a Thudweiliog Nefyn – Mai 2ail

Tudweiliog – Awst 13eg

Bydd prif ddigwyddiadau’r ardal yn cael eu nodi yn y Calendr Digwyddiadau ar wefan AHNE Llyˆn felly cofiwch daro golwg i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y bwrlwm yn yr ardal dros y flwyddyn. www.ahne-llyn-aonb.org

Sioe Nefyn


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.