Llygad Llŷn 2015

Page 1

Rhif 9 • 2015 Cylchlythyr AHNE Llyˆn

Yn y rhifyn hwn... prosiectau, digwyddiadau a newyddion Crwydro

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth

Ecoamgueddfa


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

ardal arbennig

Croeso i rifyn 2015 o Llygad Llˆy n – sef newyddlen flynyddol ar gyfer Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llˆy n. Pwrpas y newyddlen yw darparu ychydig o gefndir am yr ardal a’r dynodiad arbennig hwn ac adrodd ar waith diweddar tîm AHNE Llyˆn – yn ogystal â gwaith partneriaid eraill sy’n gweithio er lles yr ardal. Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Mae AHNE yn golygu Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae Llyˆn yn un o bump AHNE sydd wedi eu dynodi yng Nghymru, o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Yr ardaloedd eraill yw Penrhyn Gw w ˆ yr, Ynys Môn, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, a Dyffryn Gwy. Prif bwrpas y dynodiad yw gwarchod, cynnal a meithrin harddwch naturiol yn yr ardal. Mae hyn yn cynnwys amddiffyn bywyd gwyllt a phlanhigion, yn ogystal â nodweddion daearegol a thirlun yr ardal. Mae'n bwysig hefyd bod nodweddion archeolegol, olion hanesyddol a nodweddion pensaernïol yr ardal yn cael eu gwarchod. Am fwy o wybodaeth am yr holl Ardaloedd o Harddwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ewch i wefan Cymdeithas yr AHNE ar www.landscapeforlife.org.uk.

Cynnwys Map o AHNE Llyˆn .....................3

Penrhyn Llyˆn Prif sail dynodi rhan o Lˆ y n yn AHNE yn ôl yn 1957 oedd yr arfordir amrywiol a diddorol a’r tirlun hardd. Mae oddeutu chwarter y penrhyn, cyfanswm o 15,500 hectar, yn yr ardal ddynodedig. Mae’r rhan fwyaf yn dir arfordirol ond mae hefyd yn ymestyn i mewn i’r tir i gynnwys Foel Gron a Garnfadryn. Er mai’r tirlun a’r arfordir yw prif sail yr harddwch naturiol mae llawer o rinweddau eraill yn perthyn i’r ardal yn cynnwys y bywyd gwyllt amrywiol, olion hanesyddol, y môr a’i donnau, y diwylliant unigryw a’r iaith Gymraeg sy’n dal i ffynnu.

Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyˆn Sefydlwyd Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llyˆn yn 1997 er mwyn cyfrannu at y gwaith o warchod a gofalu am yr AHNE. Ymysg yr aelodau, mae Cynghorwyr lleol, aelodau o Gynghorau Cymuned, a chynrychiolwyr o fudiadau ac asiantaethau lleol fel Cyfeillion Llyˆn, yr Undebau Amaethyddol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn y cyfarfodydd, a gynhelir rhyw 2-3 gwaith y flwyddyn, bydd yr aelodau yn trafod materion cenedlaethol a lleol perthnasol, yn cyfrannau at y gwaith o baratoi Cynllun Rheoli a chael gwybod am waith sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r AHNE. Hefyd mae Is-Bwyllgor (a elwir yn Banel Grantiau) yn penderfynu ar geisiadau am grant o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

Crwydro Arfordir Llyˆn ..........4 a 5 Prosiect Ymchwil i Hanes Hen Dafarndai Llyˆn …................ 6 a 7 Tacluso ac Adfer ................... 8 a 9 Agoriad Swyddogol Amgueddfa Forwrol Llyˆn ..........10 Ecoamgueddfa Gyntaf Cymru! ….....................11 Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ........12 a 13 Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2015 …...................................14 Digwyddiadau yn Llyˆn ..............15 Gwarchod a Rheoli’r AHNE ....16

Cyhoeddwyd gan: Uned AHNE Llyˆn

Tîm AHNE Ll yˆn – Llongyfarchiadau i Elin Wyn Hughes (Swyddog Prosiect AHNE) ar enedigaeth hogyn bach, Dafydd. Dros gyfnod mamolaeth Elin fe fydd Catrin Glyn yn gweithio fel Swyddog Prosiectau Dros Dro gyda Rheolwr yr Uned, Bleddyn Prys Jones. Mae Bleddyn a Catrin yn gweithio yn yr Uned AHNE yn Swyddfeydd Dwyfor ym Mhwllheli, Bleddyn yn arwain ar waith creiddiol yr uned a’r Cynllun Rheoli, a Catrin ar brosiectau sy’n deillio o’r cynllun ac yn gweinyddu’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy.

TUDALEN 2

Argraffwyd gan: Wasg Carreg Gwalch, Llwyndyrys a Llanrwst Lluniau: Hawlfraint Cyngor Gwynedd (oni nodir yn wahanol) Llun Clawr: Chris Chown

Bleddyn Jones

Manylion Cyswllt Uned AHNE Llyˆn, Adran Cefn Gwlad a Mynediad, Swyddfa Cyngor Gwynedd, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd - LL53 5AA Ffôn: 01758 704 155 / 01758 704 176 E-Bost: ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk Gwefan: www.ahne-llyn-aonb.org

Catrin Glyn


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 3

m a p o A H N E l l ˆy n


ARDAL

c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

•••

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

C r w y d r o A r f o r d i r L l ˆy n

TUDALEN 4

•••

Y CÔD CEFN GWLAD PARCHWCH • DIOGELWCH • MWYNHEWCH

• Byddwch yn ddiogel

Yn flynyddol, bydd Uned AHNE Llyˆn yn trefnu teithiau tywys yn yr ardal. Maent yn cynnig cyfle gwych i fwynhau’r golygfeydd, cyfarfod â phobl newydd a dod i wybod mwy am hanes cyfoethog yr ardal. Ddiwedd Medi 2014,

trefnwyd taith yn ardal Porthor gan AHNE Llyˆn, ar y cyd â Rhys Roberts sy’n

gweithio i Gyngor Gwynedd fel Swyddog Prosiect Llwybr yr Arfordir.

• •

– cynlluniwch ymlaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion Gadewch giatiau ac eiddo fel yr ydych yn eu cael nhw Ewch â’ch sbwriel adref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt Cadwch eich ci dan reolaeth Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Taith Gerdded Porthor Man cyfarfod ein taith, oedd maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (cyfeirnod grid – SH170293). Yn ogystal â bod oddi fewn ffiniau AHNE Llyˆn, mae’r ardal yn cael ei chynnwys mewn dynodiadau statudol pwysig eraill hefyd. Un o’r rhain yw Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llyˆn a’r Sarnau (www.penllynarsarnau.co.uk). Pwrpas y dynodiad hwn yw gwarchod ac amddiffyn yr amrywiaeth eang o fywyd gwyllt morol sy’n byw yma. Mae morloi i’w gweld oddi yma yn aml a dolffiniaid hyd yn oed. Mae'r ardal o gwmpas y traeth yn gadarnle hefyd i Frain Coesgoch, Gweilch y Penwaig, Gwylogod, Gwylanod Coesddu, Mulfrain, Mulfrain Gwyrddion a’r Bras Melyn. Mae Porthor yn ogystal yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Glannau Aberdaron. Mae dros fil Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig drwy Gymru gyfan ac maent yn cael eu gwarchod yn ddwys oherwydd y cynefinoedd, y rhywogaethau a’r nodweddion daearegol arbennig sydd ynddynt. Y Daith Aethom i’r dwyrain o waelod y maes parcio i gyfeiriad Porth Iago, gan ymuno â’r Llwybr Arfordirol. O fewn dim, roeddem yn cerdded uwchlaw traeth Porthor – traeth tlws a elwir yn aml yn “Whistling Sands”, gan fod modd clywed y tywod euraidd yn chwibanu wrth i chi gerdded arno. Ymlaen â ni ar y Llwybr gan fwynhau seibiant uwchlaw cilfach dlws Porth Gyfyng. Yma, bu Rhys Roberts yn arddangos rhan newydd sbon o’r Llwybr Arfordirol gan egluro am y gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd. Roedd Rhys yn sôn yn arbennig am gydweithrediad parod y tirfeddianwyr lleol sydd wedi cynorthwyo i sicrhau adnodd mor werthfawr â Llwybr yr Arfordir i’r ardal. Toc, roeddem yn cerdded uwchlaw creigiau Porth y Wrach. Nid oes sicrwydd ynghylch tarddiad yr enw difyr hwn. Hawdd fuasai dychmygu cysylltiad â dewines o ryw oes, ond yn fwy tebygol, mae’r enw yn cyfeirio at bysgod arbennig sy’n trigo yma (Gwrachennod). Daethom cyn bo hir at benrhyn bychan a elwir yn Drwyn Glas, a thu hwnt i hwnnw, i olwg Porth Llwynog. Yma, ceir Ogof Newry, ogof sydd a’i henw yn gysylltiedig â thrychineb a welwyd yn y cyffiniau nôl yn Ebrill 1830. Llong oedd y Newry, oedd yn teithio o Ogledd Iwerddon am Quebec yng Nghanada, gyda bron i 400 o ymfudwyr ar ei bwrdd. Fe’i drylliwyd mewn storm yng nghyffiniau Anelog yn ôl y sôn, ac mae’n debyg mae i’r fan hon y daeth ei gweddillion i’r lan. Beth oedd tynged y teithwyr truan tybed? Dengys cofnodion fod tua 25 ohonynt wedi boddi a’u claddu yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron. Achubwyd y gweddill gan rai o griw'r llong a dynion lleol dewr aeth yno i gynorthwyo. Un o’r rheiny oedd Dafydd Griffiths, oedd yn trigo ar fferm Morfa Trwyn Glas.

Llun: Turtle Photography


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

TUDALEN 5

Mae mapiau yn dangos taith y Llwybr Arfordirol o gwmpas Llyˆn i’w cael ar wefan yr AHNE (www.ahne-llyn-aonb.org) yn yr adran “Ymweld”. Llun: Turtle Photography

c r w y d r o a r f o r d i r l l ˆy n

Nid y Newry yw’r unig long i gyrraedd ei thranc ar y rhan hwn o’r arfordir dros y canrifoedd. Clywsom am hanes llong o’r enw Lovely a ddrylliwyd yn 1802 ar Faen Mellt, sef craig amlwg a welir allan yn y môr oddi yma. Yn fuan, roeddem yn cerdded uwchlaw Graig Ddu ac yn gweld traeth cysgodol a thywodlyd Porth Iago ble bu cyfle am seibiant i fwynhau’r golygfeydd unwaith eto. Mae’r Llwybr Arfordirol yn parhau o Borth Iago tuag at Borth Ferin. Er hynny, roeddem am ddychwelyd i Borthor ac fe gawsom ganiatâd y perchennog i gerdded ar lôn breifat drwy fferm Tyˆ Mawr yn ôl i’r briffordd gyhoeddus gerllaw Tyˆ Hen. Nid oedd yn rhaid cerdded ar y briffordd yr holl ffordd nôl i Borthor, bu cyfle i ni, cyn cyrraedd Methlem, i droi i’r dde oddi ar y ffordd ac at lwybr cyhoeddus. Fe’n galluogwyd felly i gerdded yn ôl i Gaffi Porthor ar hyd y traeth, ble cafwyd croeso cynnes a phaned heb ei hail. Mae hanes digon diddorol i’r caffi ei hun. Hen iard lo ydoedd yn y cyfnod ble roedd Porthor yn borthladd prysur tu hwnt, a’i enw ar un adeg oedd y Coal Hole Café. Ceir lôn hwylus yn arwain o’r traeth nôl i’r maes parcio ac yno y daeth ein taith gerdded i ben a phawb wedi mwynhau. Mae croeso cynnes i unrhyw un ymuno â’n teithiau ac mae gwybodaeth am y teithiau diweddaraf i’w gweld ar dudalen 15. Bydd angen cysylltu gyda ni o flaen llaw i gadw lle a sicrhau fod y daith yn addas ar eich cyfer.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 6

h a n e s t a f a r n d a i l l yˆ n

Prosiect Ymchwil i Hanes Hen Dafarndai Llyˆn Nanhoron Arms, Nefyn Ship, Aberdaron

Mae amgylchedd hanesyddol Llyˆn yn rhinwedd arbennig sy’n cyfrannu at ddynodiad pwysig yr ardal fel AHNE. Mae’n bwysig iawn felly i ymgymryd ag ymchwil o dro i dro i wahanol nodweddion hanesyddol diddorol a sicrhau fod yr hanes ar gof a chadw. Dyma sail ymchwil a wnaethpwyd yn ystod 2014 gan Mr John Dilwyn Williams ar ran yr Uned AHNE, i hanes hen dafarndai Llyˆn. Mae’r ardal yn frith o adeiladau a fu ar un adeg yn dafarndai prysur oedd yn rhan bwysig o’r gymdeithas, ac wrth gwrs mae rhai ohonynt yn dal i ffynnu hyd heddiw. Bu’r ymchwil yn edrych ar leoliadau’r tafarndai a chyflwyno hanesion difyr a ffeithiau diddorol yn ymwneud â nhw. Clywsom er enghraifft fod tair tafarn yn Aberdaron ar un adeg. Roedd y Gegin Fawr yn un ohonynt, sydd bellach yn gaffi poblogaidd – ac mae’n debyg fod y dafarnwraig yno ar un cyfnod wedi bod o flaen ei Gegin Fawr, Aberdaron gwell am fod yn feddw wrth ei gwaith!

Eglurwyd hefyd beth oedd ystyr logo arbennig oedd i’w weld ar ambell dafarn mewn hen luniau, sef logo’r Cyclists’ Touring Club. Fe’i gwelir yma er enghraifft ar y Sun Sun Inn, Llanengan Inn yn Llanengan a’r Nanhoron Arms yn Nefyn. (Sylwer fod y Nanhoron Arms mewn lleoliad gwahanol erbyn hyn!).

Tafarn y Whitehall, Pwllheli. Mae’r Mostyn Arms Hotel bellach yn siop trin gwallt.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 7

Dafarn Newydd, Abersoch – ddoe a heddiw

Dyma adeiladau fu’n dafarndai ar un adeg. Rydym yn nodi eu henwau, ond tybed a ydych yn adnabod y pentrefi? atebion ar dudalen 14

1. Royal Oak

2. Victoria (ar y chwith) a’r Pengwern

4. Wellington

neu’r Jolly Farmers yn syth o’ch blaen

5. White Horse

3. Penponcyn

6. Ship

c w i s t a f a r n d a i l l yˆ n

Cyflwynwyd sgwrs am yr ymchwil mewn noson hwyliog yn Neuadd Sarn Mellteyrn. Bu nifer fawr yn canmol y gwaith gyda llawer yn awgrymu cyhoeddi’r ymchwil fel bod yr wybodaeth ar gael yn gyhoeddus.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

tacluso ac adfer

•••••••••

TUDALEN 8

Tacluso ac Adfer • • • • • • • • • Tacluso Ffynhonnau

O dro i dro, bydd gwaith cynnal a chadw angenrheidiol ar rai o safleoedd ffynhonnau hanesyddol Llyˆn. Gyda threigl y tymhorau, mae’r tywydd a llystyfiant yn elfennau sy’n effeithio ar y safleoedd pwysig hyn a buan iawn y daw’n amhosib cael mynediad atynt. Yn ystod 2014, bu’r Uned AHNE yn cydweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus i gynnal digwyddiadau i glirio dwy ffynnon. Diolch i bawb a ddaeth i wirfoddoli gyda’r gwaith yma ac i Lee Oliver o Cadw Cymru’n Daclus am drefnu, darparu offer a lluniaeth. Ffynnon Aelrhiw Saif Ffynnon Aelrhiw dafliad carreg o Eglwys Sant Aelrhiw yn Rhiw. Ceir golygfeydd trawiadol iawn oddi yma o Borth Neigwl a thu hwnt. Mae hi'n ffynnon sanctaidd a hanesyddol iawn. Credir ers canrifoedd fod ei dyfroedd yn gallu iachau rhai afiechydon y croen. Daeth criw da o wirfoddolwyr i’n cynorthwyo ac o fewn dim o dro, torrwyd y drain a’r mieri trwchus a’u cludo o’r safle.

Ffynnon Aelrhiw


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L L ˆY N

TUDALEN 9

Adfer Arwydd Newydd Pont Inkerman Bydd yr Uned AHNE o bryd i’w gilydd yn adfer hen arwyddion ffordd, cerrig milltir neu ambell nodwedd ddiddorol arall a welir hyd ffyrdd gwledig yr ardal. Dyma ymgais i warchod ein hamgylchedd hanesyddol yn ogystal â chymeriad unigryw'r ardal. Un prosiect diddorol a welwyd yn ddiweddar oedd gosod arwydd newydd ar Bont Llidiart y Dw ˆr yn nyffryn coediog Nanhoron. Mae’r arwydd yn cymryd lle’r un blaenorol oedd wedi bod yno ers peth amser ond wedi diflannu yn ddiweddar. Enw arall ar y bont, fel noda’r arwydd, yw Pont Inkerman. Ond beth yw cefndir yr enw dieithr hwn tybed? Mae enw arall yr un mor ddieithr wedi ei fabwysiadu ar lôn gyfagos ac mae’r arwydd gwreiddiol i’w weld o hyd. Os ewch ymlaen ar y lôn heibio Pont Inkerman, fe ddowch at groesffordd Rhydgaled. Yn syth ymlaen o’r groesffordd ceir Ffordd Balaclava. Cyfeirio mae’r ddau enw uchod at Ryfel Crimea a’i effaith ar ystâd Nanhoron a’r teulu. Ymladdwyd Brwydr Balaclava yn ystod Hydref 1854 a Brwydr Inkerman y mis canlynol. Parodd y gwarchae ar Sebastopol hyd at 1855 ac yno lladdwyd etifedd ystâd Nanhoron, y Capten Richard Lloyd Edwards ar Fai 11eg. Roedd yn 22 mlwydd oed.

tacluso ac adfer

Ffynnon Fyw Dyma ffynnon ddiddorol iawn o ran ei hanes a’i phensaernïaeth. Rhoddir disgrifiad pur fanwl ohoni gan Myrddin Fardd yn ei gyfrol Llên Gwerin Sir Gaernarfon (1908) lle dywed ei bod yn ffynnon ragorol ac iddi furiau amgylchynol, grisiau i arwain ati, meinciau ar gyfer y defnyddwyr a dau faddon. Fe'i lleolir i lawr heibio Capel Horeb ym Mynytho. Yn ôl traddodiad, mae dw ˆr y ffynnon hon yn llesol at anhwylderau'r llygaid ymhlith afiechydon eraill. Roedd rhedyn a drain ymysg y tyfiant oedd yn drwch yno, ond gyda gwirfoddolwyr brwd, buan iawn y cliriwyd y safle yn lân.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 10

agoriad swyddogol

Agoriad Swyddogol Amgueddfa Forwrol Llyˆn Daeth tyrfa fawr ynghyd yn Nefyn yn ystod Gorffennaf 2014 ar gyfer agoriad swyddogol Amgueddfa Forwrol Llyˆn. Dyma ffrwyth llafur blynyddoedd o waith caled i godi arian a phroffil y prosiect. Roedd cyfarfod cychwynnol yr agoriad yng Nghapel Isa’, a chafodd pawb gyfle i grwydro wedyn i’r amgueddfa ei hun i gael golwg a mwynhau lluniaeth. Yn ystod y seremoni, canodd y baledwr Harri Richards gân a ysgrifennodd y diweddar Joni Owen i’r hen amgueddfa fach nôl yn 1977. Cafwyd hefyd ddarlleniad gan Roger Stephens Jones o’r gyfrol Growing up Among Sailors o waith J. Ifor Davies a chlywyd eitemau cerddorol gan Anna Georgina ar ei thelyn. Yn ogystal, bu’r cynficer Wheldon Thomas yn sôn am yr hen amgueddfa.

Agor yn swyddogol gyda’r hanesydd a’r darlithydd John Dilwyn Williams.

Y seremoni yng Nghapel Isa’

Mae’r safle yn adnodd pwysig i’r ardal a dymunwn bob llwyddiant iddi. Os am ymweld, byddwch yn sicr o brofiad gwerth chweil. Am fanylion pellach ac amseroedd agor, edrychwch ar wefan yr Amgueddfa – www.llyn-maritimemuseum.co.uk neu ffoniwch 01758 721313 / 0791 7700 851.

Yr Amgueddfa ar ei newydd wedd.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 11

Sesiwn hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i’r partneriaid

Gwelwyd datblygiad cyffrous iawn yn Llyˆn yn ystod y flwyddyn diwethaf pan sefydlwyd Ecoamgueddfa gyntaf Cymru. Mae Ecoamgueddfeydd yn boblogaidd iawn yn Ewrop gyda dros 200 wedi eu sefydlu yno ers y 70au. Mae Ecoamgueddfeydd yn dathlu cyfoeth a hunaniaeth ardal arbennig ac yn ddibynnol iawn ar gyfranogiad cymunedol ac yn anelu i wella lles a datblygu cymunedau lleol. Mae’r gair ‘Eco’ yn y cyd-destun hwn yn cyfeirio at ecoleg yn hytrach nag economi. Does dim model penodol i'w ddilyn ar gyfer unrhyw Ecoamgueddfa ond un peth sydd yn gyffredin ym mhob un ydi eu bod i gyd yn dathlu'r un weledigaeth. Mae’r Ecoamgueddfa hon yn gweithredu mewn partneriaeth gyda saith sefydliad treftadol yn yr ardal sef Nant Gwrtheyrn, Amgueddfa Forwrol Llyˆn, Felin Uchaf, Porth y Swnt, Plas yn Rhiw, Plas Glyn y Weddw, a Phlas Heli. Mae’n adeiladu ar y gwaith treftadol mae Partneriaeth Tirlun Llyˆn eisoes wedi ei ddechrau.

Y weledigaeth yw gweld cynnydd mewn twristiaeth ddiwylliannol, gan arwain at ddiwydiant twristiaeth pedwar tymor cynaliadwy, fydd yn dod a buddion economaidd i’r ardal yn ogystal â rhai cymdeithasol ac amgylcheddol. Bydd yn gweithredu yn ddigidol drwy ddefnyddio technoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol mewn ffordd arloesol a phositif i ddenu cyfranogiad cymunedol a chynulleidfa byd eang i’r ardal arbennig hon. @ecoamgueddfa #Ecoamgueddfa Criw yr Ecoamgueddfa

www.ecoamgueddfa.org

ecoamgueddfa gyntaf cymru!

Ecoamgueddfa Gyntaf Cymru!


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

y gronfa datblygu cynaliadwy

••••••

T U D A L E N 12

Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ••••••

Sefydlwyd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy (CDC) gan Lywodraeth Cymru yn 2001. Mae’r Gronfa yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n gwneud lles i’r amgylchedd, yr economi, y diwylliant neu’r gymuned mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol. Dylai’r prosiectau fod yn arloesol gan ddatblygu a phrofi ffyrdd newydd o fyw yn fwy cynaliadwy. Dyma flas ar rai prosiectau a gefnogwyd yn ystod y flwyddyn diwethaf

Bws Arfordirol Llyˆn Yn ystod haf 2014, treialwyd cynllun peilot arloesol gan gwmni cludiant cymunedol O Ddrws i Ddrws. Aethpwyd ati i redeg gwasanaeth bws bob dydd Sul – gyfochrog â Llwybr yr Arfordir rhwng Nefyn ac Aberdaron. Dyma drywydd ble nad oedd y fath ddarpariaeth ar gael eisoes. Defnyddiwyd nawdd y Gronfa Datblygu Cynaliadwy ar gyfer costau megis marchnata a chydlynu. Roedd yn gynllun cyffrous a gyrhaedda nifer o feini prawf y Gronfa drwy: • Hyrwyddo teithio cynaliadwy • Leihau traffig yn yr ardal • Annog mwy i ddefnyddio Llwybr yr Arfordir • Annog mwy i ymweld ag atyniadau treftadol yr ardal Bu’r cynllun yn llwyddiant ysgubol gyda nifer yn canmol hyblygrwydd y gwasanaeth. Roedd rhai yn gallu cerdded rhan o Lwybr yr Arfordir, cyn cael cludiant yn ôl i’w man cychwyn ddiwedd y prynhawn. Roedd eraill wrth eu bodd wrth gael eu cludo i safleoedd diarffordd fel Porth Ysgaden a Phorth Iago. (Wrth archebu sedd o flaen llaw, roedd modd gofyn i’r gyrwyr wyro oddi ar y lôn fawr). Mae O Ddrws i Ddrws yn awr am ddatblygu’r ddarpariaeth ymhellach gan gynyddu nifer o ddyddiau’r wythnos y bydd y bws ar gael. Mae’n fwriad hefyd ymestyn i wasanaethu ardaloedd eraill yn Llyˆn sy’n ymylu â Llwybr yr Arfordir. Dymunwn bob llwyddiant i’r fenter, ac edrychwn ymlaen i glywed y Cwsmer bodlon yn Uwchmynydd datblygiadau.

Prosiect Plas Carmel Nepell o bentref Aberdaron, mae safle diddorol Plas Carmel. Saif Capel Carmel yno, sy’n adeilad o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig, ac wedi ei gofrestru yn Gradd II* gan CADW. Mae’r Tyˆ Capel ynghlwm iddo hefyd wedi ei gofrestru yn Gradd II. O fewn cwrtil y safle gwelir adeilad sinc, a arferai fod yn siop wledig. Mae’r safle hwn wedi’i leoli mewn amgylchedd hanesyddol iawn. Dyma fro’r ieithydd a’r crwydryn enwog Dic Aberdaron. Gerllaw, ceir olion chwarel Jasper Mynydd Carreg –


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 13

Gerddi’r Ddôl a Pherllan Nefyn Bu datblygiadau cyffrous yn Nefyn yn ystod y misoedd diwethaf gyda dau brosiect yn cael eu cefnogi ar safleoedd dafliad carreg o’i gilydd. Daeth cais yn gyntaf gan Gyngor Tref Nefyn i ddatblygu Gerddi’r Ddôl, a chreu 21 o randiroedd newydd ar gyfer y trigolion lleol. Yn dilyn derbyn caniatâd cynllunio, aethpwyd ati i drin y safle, gyda nawdd y Gronfa yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith megis draenio’r tir a’i aredig, gosod ffens a giatiau a chreu llwybr. Cyrhaedda’r prosiect nifer o feini prawf y Gronfa drwy: • Gynorthwyo pobl i arbed arian drwy dyfu eu bwyd eu hunain • Leihau faint o filltiroedd mae cynnyrch yn ei deithio cyn cyrraedd y bwrdd bwyd • Ddatblygu cynefinoedd newydd i fywyd gwyllt • Annog mwy i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a iachus. Ar y tir gyferbyn â’r rhandiroedd, datblygwyd prosiect arall i sefydlu perllan. Bydd pob math o goed ffrwythau yn cynnwys coed afalau, gellyg ac eirin yn y berllan. Y nod yw dosbarthu’r cynnyrch yn y dyfodol i drigolion lleol. Unwaith eto, dyma brosiect yn cynnig llawer o fuddion i’r AHNE mewn modd cymdeithasol, economaidd ac yn enwedig yn amgylcheddol. Mae coed ffrwythau o werth bioamrywiaeth uchel, gan gynnig buddion i adar a pheillwyr yn arbennig.

Os am fwy o wybodaeth y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, cysylltwch â Swyddog Prosiectau AHNE Lly ˆn:

01758 704 176

ahnellynaonb@gwynedd.gov.uk

y gronfa datblygu cynaliadwy

ac hefyd yn yr ardal hon y darganfuwyd Cerrig Anelog. Cerrig coffa arysgrifiedig yw’r rhain sy’n dyddio’n ôl rhwng diwedd y 5ed ganrif a dechrau’r 6ed ganrif. Bellach i’w gweld yn Eglwys Aberdaron, maent yn coffáu (mewn Lladin) dau offeiriad o’r enw Senacus a Veracius. Rai misoedd yn ôl, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol y safle. Mae cyflwr y Capel yn dirywio a bellach ar gau i’r cyhoedd. Mae’r tyˆ a’r siop hefyd yn wag. Ffurfiwyd Pwyllgor i wireddu’r nod o warchod a chadw’r capel a chreu prosiect i ddatblygu’r safle er lles y gymuned, ac o bosib yr economi hefyd. Sicrhaodd y Pwyllgor nawdd o’r Gronfa ar gyfer comisiynu pensaer i asesu cyflwr yr adeiladau a chynnig argymhellion ar gyfer y safle. Neilltuwyd peth o’r arian yn ogystal ar gyfer deunydd arddangos a chynhaliwyd digwyddiadau megis taith gerdded, i godi ymwybyddiaeth am y prosiect a denu cefnogwyr a gwirfoddolwyr newydd. Hyderwn fod cyfraniad y Gronfa wedi rhoi hwb cychwynnol i’r prosiect ac edrychwn ymlaen at weld adroddiad y pensaer a chlywed beth fydd penderfyniad y Pwyllgor o ran y dyfodol.


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 14

‘Treftadaeth Llyˆn’ Mae ein cystadleuaeth ffotograffiaeth yn ôl eto yn 2015. Y thema eleni yw ‘Treftadaeth Llyˆn’. Fe’ch gwahoddir i yrru hyd at ddau lun atom unai drwy’r post neu dros e-bost.

Dyma’r manylion cyswllt: Cystadleuaeth Ffotograffiaeth AHNE Llyˆn Cyngor Gwynedd Ffordd y Cob Pwllheli LL53 5AA. e-bost: ahne-llyn-aonb@gwynedd.gov.uk D Au • D Y D C D A i D D .. .. .. .. .. .. D Y

Gwobrau 1af – Trip i ddau i Ynys Enlli 2ail – Cinio Ddydd Sul i ddau 3ydd – Tocyn Anrheg gwerth £20 o Tonnau

Ewch amdani a phob lwc! 1 5 .. .. .. .. 25Ain 20 i D E m • GWEnER

Enillydd 2011 Jackie Milnes – Ynysoedd Tudwal

Enillydd 2013 – Rory Trappe – Porthor Rheolau: • Caiff yr enillwyr eu dewis gan banel annibynnol a benodir gan yr Uned AHNE • Caniateir uchafswm o ddau lun gan bob unigolyn • Ni chaniateir i unigolyn ymgeisio fwy nag unwaith • Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un sy’n uniongyrchol gysylltiedig gyda threfnu’r gystadleuaeth • Nid yw’r gystadleuaeth yn agored i ffotograffwyr proffesiynol • Bydd gan yr Uned AHNE hawl i ail-ddefnyddio’r lluniau yn y dyfodol cyhyd â’u bod yn cyfeirio at eu perchennog, oni nodir yn wahanol gan yr ymgeisydd • Wrth ymgeisio mae’r cystadleuwyr yn ymrwymo i reolau’r gystadleuaeth Atebion 1)Rhydyclafdy 2)Efailnewydd 3)Y Rhiw 4)Sarn Mellteyrn 5)Llanengan 6)Tudweiliog

cystadleuaeth ffotograffiaeth 2015

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2015


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 15

Be Sy’n Digwydd yn 2015? ˆ N GYDOL Y FLWYDDYN MAE RHYWBETH AT DDANT PAWB YN DIGWYDD YN LLY

• Bydd Gw ˆ yl Arfordir Llyˆn yn dychwelyd dros fisoedd yr haf, sef cyfres o weithgareddau wedi eu trefnu gennym ni ˆ yl. a’n partneriaid. Bydd digon o weithgareddau diddorol a chyffrous at ddant pawb o bob oed yn rhan o’r W Dyma flas o’r digwyddiadau eleni;

Plas Heli 8-10/5/2015 – Sioe Gychod Cymru Gyfan 23-24/5/2015 – Gw ˆ yl Fwyd Tir a Môr Llyˆn 7/6/2015 – Sportif Arfordirol Llyˆn plasheli.org

24/5/15 14/6/15 27/6/15 30/7/15

Ymddiriedolaeth Genedlaethol – ‘50 o bethau’ Llanbedrog, 12 y.h – 4 y.h – Blas y Môr Aberdaron, 11 y.b – 4 y.h – Blas y Môr Porthdinllaen, 12 y.h – 6 y.h – Diwrnod Hwyl ar y Traeth Porthor, 11 y.b – 4 y.h www.nationaltrust.org.uk/llyn-peninsula

Tair Taith Gerdded AHNE - Cofiwch logi lle drwy ffonio 01758 704 176 - www.ahne-llyn-aonb.org 1. 13/9/2015 – Taith hanesyddol ac archeolegol o dan arweinyddiaeth Rhys Mwyn yng Nghlynnog Fawr. Cyfle i ymweld ag Eglwys Sant Beuno, Cromlech Bachwen a Ffynnon Beuno – 1 y.h. 2. 20/9/15 – Taith o dan arweinyddiaeth Dilwyn Morgan ym mro ei febyd, Garnfadryn – cyfarfod wrth y capel am 1 y.h. 3. 27/9/15 – Taith o dan arweiniad yr hanesydd John Dilwyn Williams ar ran eithaf newydd o Lwybr yr Arfordir yn ardal Cilan am 1 y.h.

Sioeau Amaethyddol Nefyn a Thudweiliog 4/5/2015 Sioe Nefyn • 8/8/2015 Sioe Tudweiliog Bydd prif ddigwyddiadau’r ardal yn cael eu nodi yn y Calendr Digwyddiadau ar wefan AHNE Llyˆn, felly cofiwch daro golwg i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y bwrlwm yn Llyˆn dros y flwyddyn. Cofiwch hefyd ymweld â safleoedd gwe ein partneriaid i weld eu holl ddigwyddiadau dros y flwyddyn. www.ahne-llyn-aonb.org

Sioe nefyn


ARDAL

O

H A R D D W C H N A T U R I O L E I T H R I A D O L P E N R H Y N L LˆY N

T U D A L E N 16

gwarchod a rheoli’r AHNE

. . . . . . G WA R C H O D A R H E O L I ’ R A H N E . . . . . . Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru Yn 2014 comisiynwyd Panel Annibynnol gan Carl Sargeant AC, Gweinidog dros Gyfoeth Naturiol, i arwain adolygiad o dirweddau dynodedig yng Nghymru. Nod yr adolygiad yw sicrhau bod y dynodiadau yn ateb y gofynion o ran gwarchodaeth a chyfleon sy’n bodoli ar gyfer y dyfodol. Caiff y Panel Adolygu ei gadeirio gan yr Athro Terry Marsden o Brifysgol Caerdydd gyda John Lloyd Jones a Dr Ruth Williams fel aelodau eraill. Mewn datganiad, nododd y Gweinidog: “Nodwyd dibenion ein Parciau Cenedlaethol a’n Hardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol mewn deddfwriaeth sydd bron yn ddeg a thrigain oed bellach. Yn y degawdau ers hynny, mae datblygiadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd wedi golygu bod natur y materion sy’n eu hwynebu wedi datblygu hefyd.” Rhannwyd yr Adolygiad i ddau ran. Roedd Rhan 1 o’r Adolygiad yn edrych ar bwrpasau y tirluniau dynodedig a hefyd y manteision/ anfanteision o gategoreiddio tirluniau dan un enw. Dechreuwyd ar y gwaith yma ddiwedd 2014 gan gasglu tystiolaeth a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd Rhan 2 y gwaith, a gynhelir yn ystod 2015, yn ystyried: • trefniadau llywodraethu a rheoli’r tirluniau dynodedig • sut byddai unrhyw gorff/ gyrff rheoli yn hybu cydweithio ac osgoi dyblygu • y dull o ymdrin gyda atebolrwydd a phenderfyniadau lleol yn y ffordd orau Hefyd, bydd Rhan 2 yn ystyried Deddf Cynllunio (Cymru) o ran y trefniadau cynllunio mewn Parciau Cenedlaethol. Gellir cael gwybodaeth am y sefyllfa ddiweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru www.wales.gov.uk. Adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE Mae paratoi'r Cynllun Rheoli yn un o gyfrifoldebau Cyngor Gwynedd mewn perthynas â’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Nodir yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy fod angen adolygu’r Cynllun Rheoli bob pum mlynedd. Paratowyd y Cynllun Rheoli cyntaf ar gyfer AHNE Llyˆn yn 2004 a chafodd ei adolygu yn 2009. Felly yn ystod 2014 dechreuwyd ar y gwaith o adolygu’r Cynllun unwaith eto. Y tro yma mae canllawiau newydd wedi eu derbyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi arweiniad ar sut i roi mwy o bwyslais ar wasanaethau ecosystem/naturiol. Bydd y gwaith i adolygu’r Cynllun yn cael ei arwain gan yr Uned AHNE gyda chymorth gan y Cydbwyllgor Ymgynghorol a rhanddeiliaid allweddol. Am y diweddaraf o ran adolygu’r Cynllun gwelwch safle we’r AHNE – www.ahne-llyn-aonb.org.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.