Llais Nadolig 2017

Page 1

Llais Ceredigion Rhifyn 44

Rhagfyr 2017

http://www.ceredigionunison.org.uk

Neges y Cadeirydd 2018 Nadolig Llawen a dymuniadau’r Ŵyl i chi gyd wrth Cadeirydd y Gangen, i’r rhai ohonoch sydd ddim yn fy adnabod, fy enw yw Alison Boshier ac yn ychwanegol i gadeirio Cangen UNSAIN rwyf hefyd yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Dysgu o fewn Uned Anghenion Arbennig, ac un o fy swyddogaethau arall yn y Gangen yw Cynullydd Ysgolion, sy’n golygu fy mod yn delio gyda llawer o waith achos unigol ar draws llawer o ysgolion yng Ngheredigion. Fel gallwch ddychmygu, rwy’n eithaf ymwybodol o’r heriau presennol sy’n gwynebu Cynorthwy-wyr Dysgu yng Nghymru, ac rwy’n gweld fy mhrif rhan yn UNSAIN fel cefnogi ein haelodau yn unigol ac ar y cyd i gwrdd â’r heriau hynny. Mae’r flwyddyn gyntaf i mi fel Cadeirydd wedi bod yn un bleserus ond rwyf wedi bod yn brysur iawn yn cynrychioli aelodau a mynd iddo a chadeirio amryw o gyfarfodydd yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol i fod yn Gadeirydd Ceredigion rwyf hefyd yn un o’ch cynrychiolwyr o Gymru ar Gweithgor Grŵp Gwasanaeth UNSAIN sy’n gwneud penderfyniadau ar rhan Llywodraeth Leol o UNSAIN dros Prydain gyfan; cynrychiolydd Cymreig ar Pwyllgor CPC (cyd-bwyllgor undeb sy’n trafod cyflog ar draws Cymru a Lloegr); ac aelod o Bwyllgor Menywod yng Nghymru. Felly rwy’n siwr medrwch gwerthfawrogi pan rwy’n dweud fod y flwyddyn diwethaf wedi bod yn brysur, ond mae gan gweithio iddo a gyda’r undeb eu buddion hefyd, un o’r rhain yw dod i adnabod ein haelodau mewn llawer o wahanol gweithleoedd, ac hoffwn ddweud fod y gwaith yr ydych chi, ein haelodau, yn ei wneud yn wirioneddol gwneud gwahaniaeth cadarn i’r gymuned lleol ac mae’n glir i mi mae ein haelodau yw calon eu gweithleoedd, cadw ein hysgolion a’r Cyngor i fynd. Hoffwn dalu teyrnged hefyd i un o Stiwardiaid Cangen UNSAIN, Peter Harper, buodd farw eleni. Mae Peter yn cael ei gofio’n dda gan pob un ohonom ar Pwyllgor y Gangen a gwelir ei eisiau yn ddifrifol. Mae fy nyletswyddau undeb, p’un ai’n cynrychioli’r Gangen neu Cymru, hefyd wedi golygu fy mod wedi ymweld â rhai llefydd efallai na byddem fel arall wedi ei weld, a dros y flwyddyn rwyf wedi cael cyfarfodydd yn Llundain, Caerdydd, Brighton, Wrecsam a Belfast. Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd y Gynhadledd blynyddol yn Brighton, ble cefais fy ysbrydoli gan rhai o’r siaradwyr a’r amrywiaeth o waith ac achosion mae’n hundeb yn rhan ohono, gan gynnwys helpu’r ymgyrch yn erbyn priodas dan orfodi plentyn. Ond efallai digwyddiad gorau’r flwyddyn oedd y rali diweddar yn Tachwedd yn Y Barri, De Cymru, cafodd ei drefnu gan UNSAIN oedd yn galw am gyflog teg i weithwyr y sector gyhoeddus i gyd. Roedd yr haul allan, roedd y siaradwyr (os nad y system PR) yn wych ac yn ddifyr, fel ag yr oedd y band pibau, ond ar amser pan mae gweithwyr y sector gyhoeddus a’r sector breifat â’u cefnau at y wal, roedd yn wir achlysur o undod, sef beth yw ystyr ein hundeb. Rwy’n gobeithio fod yr un mor brysur gyda fy ngwaith i’r undeb yn 2018 fel ag yr wyf wedi bod eleni, ac rwy’n dymuno Nadolig Llawen i bawb ac heddwch a ffyniant yn y flwyddyn newydd. Eich Cadeirydd Cangen, Alison Boshier Ffôn: 07514 969509 Ebost: alison.boshier@ceredigion.gov.uk 1

Nadolig Llawen


CYFARFOD BLYNYDDOL Dydd Llun 26ain Chwefror 2018, Dydd Mercher 28ain Chwefror Dydd Mercher 7fed Mawrth 2018 Annwyl Aelod Unsain Eleni bydd y Gangen yn gwasgaru ei Cyfarfod Blynyddol dros 3 cyfarfod er mwyn gwneud hi’n hawsach i aelodau fynychu. Yn ychwanegol i’r cyfarfod nos bydd yn cael ei gynnal ar 7fed o Fawrth yn Aberaeron, byddwn hefyd yn cael dau gyfarfod amser cinio yn y ddau prif swyddfa (Canolfan Rheidol a Phenmorfa). Y manylion llawn fel a ganlyn:

Dydd Llun 26ain Chwefror 2018, 12.30yp, Ystafelloedd 5 – 7, Canolfan Rheidol, Aberystwyth Dydd Mercher 28ain Chwefror 2018, 12.30yp, Ystafell Ystwyth, Penmorfa, Aberaeron Dydd Mercher 7fed Mawrth 2018, 6.00yh, Ystafell Ystwyth, Penmorfa, Aberaeron Bydd bwyd a diod yn cael ei ddarparu ym mhob cyfarfod, felly os fedrwch gadael Owain Davies (owain.davies@ceredigion.gov.uk neu 01545 572106) wybod ymlaen llaw pa gyfarfod yr ydych yn mynychu, bydd yn helpu sicrhau bod digon o fwyd i bawb. Bydd pawb sydd yn mynychu’r Cyfarfod Blynyddol hefyd yn cael tocyn raffl i’w dynnu ar 7fed Mawrth, a chael cyfle i ennill amryw o wobrwyon. Felly, rhoddwch y dyddiad yn eich dyddiadur, dewch, cael brechdan, cwrdd â Swyddogion a Chynrychiolwyr y Gangen, a chael eich dweud yn beth ydych eisiau eich hundeb chi ei wneud yn y flwyddyn i ddod. Mae Swyddogion a Stiwardiaid y Gangen yn cael eu hethol yn y cyfarfod yma a gall unrhyw aelod rhoi cynnig ymlaen i’r CB, rhaid i Ysgrifennydd y Gangen (Owain Davies) derbyn cynigion ac enwebiadau erbyn 5.00yp ar 8fed Ionawr 2018. Mae’r Gangen yn cael ei redeg gan eu haelodau, ac ond cystal â’r aelodau sy’n barod i roi eu hamser a’u hegni i’w redeg, felly gwnewch ymdrech i ddod i’r CB eleni os gwelwch yn dda, a dangos eich cefnogaeth i’r undeb, a’r cynrychiolwyr sy’n eich cefnogi. Edrychaf ymlaen i’ch gweld.

Owain Davies, Ysgrifenydd y Cangen

CYFATHREBU....... CYFATHREBU....... CYFATHREBU....... CYFATHREBU....... CYFATHREBU....... CYFATHREBU.......

facebook

Chwiliwch amdanom ar Facebook a gofyn i ymuno â grŵp UNSAIN SIR CEREDIGION.

Cadw mewn cyswllt a’r

Sir Ceredigion County Cysylltwch: Owain Davies ar 07949 084109 neu ebost owain.davies@ceredigion.gov.uk

AGAINST

CEREDIGION THE

AUSTERITY

PEOPLE SS PEOPLE ASSEMBLY ASSEMBLY

www.facebook.com/groups/ ceredigionpeoplesassembly

http://www.ceredigionunison.org.uk - am rhagor o manylion a newyddion diweddara ewch at y gwefan 2


Neges Ysgrifennydd y Gangen Mae wedi bod yn flwyddyn anodd arall i’ch Cangen, fel rwyf yn gwybod mae wedi bod i chithau hefyd, fel yr ydym yn mynd i fewn i wythfed blwyddyn o gyllidebau Awdurdod Lleol sy’n lleihau; llymder, cyfyngiadau cyflog, gostyngiadau yn y nifer o weithwyr, ac ansicrwydd dros darpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol yr ydym yn ystyried yn hanfodol, yn parhau ar garlam ac yn nawr yn edrych fel y ‘cyffredin’ newydd. Eleni yn unig yr ydym wedi colli llawer mwy o swyddi trwy diswyddiadau gwirfoddol ac ymddeoliadau cynnar (swyddi nad sy’n cael eu llenwi), cyfuniad Coleg Ceredigion a’r Drindod Dewi Sant gyda colledion swyddi lleol, a chau cartref preswyl Bodlondeb eto gyda cholli swyddi. Mae rhain i gyd oherwydd gostyngiad yn ariannu o’r llywodraeth canolog i’n Cyngor a’r penderfyniadau s’yn cael eu gwneud yn Westminster ar ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus er mwyn rhoi toriadau treth i gorfforaethau a’r mwyaf cyfoethog. Os nad yw’n fwriad gan y llywodraeth presennol i redeg gwasanaethau cyhoeddus i lawr i’r lleiafswm isaf a chynyddu anghydraddoldeb a chaledi yna maent yn methu, oherwydd dyna beth sy’n digwydd. Os dyna’u bwriad nhw, yna Duw â’n helpo ni, gan bod eu ‘llwyddiant’ mor belled ond wedi eu hannog nhw. Efallai fy mod ychydig yn ddrwg yn ceisio dyfalu gwir bwriad y llywodraeth presennol, ond beth nad ydynt yn ymddangos wedi ei ddeall yn iawn yw fod gwasanaethau cyhoeddus (fel ein hysgolion, gofal cymdeithasol, ffyrdd, llyfrgelloedd, tai, iechyd yr amgylchedd a gwasanaethau cynllunio ayyb), nid yn unig yn gwneud cyfraniad mawr a chadarn i’n cymuned a diogelwch a chydlyniaeth ein cymunedau, maent hefyd yn gwneud cyfraniad sylweddol ac hanfodol i’r economi yn gyffredinol. Dyna pam nad yw’n gyd-ddigwyddiad fod rhedeg gwasanaethau cyhoeddus i lawr yn gyfatebol gydag anweithgarwch yn yr economi cyffredinol. Beth sy’n ymddangos ar goll o ganfyddiad y llywodraeth hefyd, yw gwledydd ‘cyfoethog’ yn cael eu hystyried yn ‘gyfoethog’ ddim wedi seilio eu cyfoeth ar y bobl mwyaf cyfoethog yn y gwledydd hynny, ond ar sut mae cyfoeth a budd yn cael eu rhannu rhwng dinesyddion y wlad i gyd. Nawr, mae’n ymddangos efallai bod penderfyniadau economaidd a gwleidyddol mawr tu allan i’n gallu i ddylanwadu, ond os yr ydym eisiau gwella ein cymunedau, sicrwydd ein swyddi, ein termau a thelerau, a’n cyflog, yna mae’n rhaid i ni fod yn glir ble mae ein anawsterau presennol yn dod ohono, ac os byddwn yn codi ein ysgwyddau a dweud nad ydym yn medru dylanwadu na newid pethau yna mae ein diffyg pŵer canfyddedig i wneud hynny yn dod yn hunan3

gyflawnedig. Nid wyf yn dweud fel unigolion fod dylanwadu neu newid cyfeiriad y llywodraeth yn hawdd, ond dyna ble mae cyd-lais eich hundeb yn medru helpu. Mae ein hundeb wedi bod yn gyson a phenderfnnol dros y 7 mlynedd diwethaf yn dadlau yn erbyn economi a gwleidyddiaeth ‘llymder’, iawn efallai eich bod yn meddwl nad ydym wedi mynd yn bell yn y 7 mlynedd hynny, ond, fel mae toriadau sector gyhoeddus yn dechrau cnoi fewn i wasanaethau hanfodol a’r economi yn parhau i aros yr un peth, mae termau’r ddadl yn newid yn ein ffafr, ac mae nawr gennym wrthblaid gwleidyddol credadwy yn Westminster sydd hefyd yn dadlau’n gryf yn erbyn ‘llymder’ ac o blaid buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. I fod yn onest er fod dylanwad neu cryfder ymgyrchwyr ein hundeb, trafodwyr a gweithredwyr yn dod o gryfder teimlad, a’r parodrwydd i weithredu o’n aelodaeth cyffredinol, felly os ydych yn meddwl mae bai gweithredwyr Unsain a staff cyflogedig yw hi nad ydym wedi torri’r rhewi cyflog eto, yna buaswm yn dweud mae’n werth adlewyrchu ar y nifer o aelodau nad oedd yn medru gwneud yr ymdrech i ddychwelyd eu papur pleidleisio pan gofynwyd iddynt bleidleisio ar p’un ai gweithredu’n diwydiannol ar ein cynigion cyflog diweddar. Yn amlwg mae’r llywodraeth wedi adlewyrchu ar hynny, ac wedi ymateb iddo trwy peidio symud ar gyflog. Felly, p’un ai ydych yn cefnogi gweithredu diwydiannol ai peidio, os byddwn yn cael pleidlais arall, yna dangoswch eich bod yn sefyll gyda’ch hundeb o leiaf trwy cymryd diddordeb yn ein cynnig cyflog, ac annog eich cyd-weithwyr i ddychwelyd eu pleidleisiau hefyd, ac os nad ydynt yn aelodau annogwch nhw i ymuno. Mae rhai o’n trafodwyr cyflog CPC wedi dod yn fwy blinedig am yr holl fframweithiau trafod cyflog gyfan oherwydd diffyg datblygiad, ond y CPC yw’r mecanyddiaeth sydd gennym i drafod gyda’r cyflogwyr ar gyflog a termau a thelerau, ac os yw am cael ei ail-ysgogi yna bydd rhaid iddo ddod o’r gwaelod fyny, gydag aelodau yn cefnogi ein trafodaethau, siarad gyda’u cyd-weithwyr yn y gweithle am y cynnig cyflog a’u hannog nhw i bleidleisio os oes yna bleidlais. Dod nôl i Geredigion, mae’r stori’n debyg fan hyn, lle y mae gallu cynrychiolwyr y Gangen i drafod ar y cyd ar eich rhan yn cael ei ddylanwadu gan lefel y gefnogaeth sy’n cael ei ddangos gan aelodau a’n gwelededd yn y gweithle. Mae eich cynrchiolwyr a swyddogion cangen yn gwneud eu gorau i sicrhau fod barn y gweithwyr yn cael


ei glywed a’i gymryd fewn gan y Rheolwyr, ond fel llawer o rannau’r Cyngor, mae Pwyllgor y Gangen wedi colli cynrychiolwyr profiadol dros y blynyddoedd diwethaf, yn rhannol oherwydd ymddeoliadau a diswyddiadau gwirfoddol, ac yn rhannol oherwydd pwysau gwaith cynyddol a pwysau gwaith yn golygu fod pobl yn teimlo’n anfodlon neu’n methu cymryd yr amser i helpu gyda gwaith y pwyllgor. Nid wyf eisiau swnio’n ddilewyrch am hyn, ond mae angen aelodau newydd ar y pwyllgor ac mae angen i’r aelodau presennol weld fod ganddynt gefnogaeth yr aelodaeth lletach. Dyna pam eleni yr ydym wedi ceisio gwneud pethau’n hawsach i chi i fynd i’r Cyfarfod Blynyddol trwy gynnal dau gyfarfod amser cinio ym Mhenmorfa a Chanolfan Rheidol, yn ogystal â’r cyfarfod nos arferol (bydd yn cael ei gynnal ym Mhenmorfa, Aberaeron). Os bydd y cyfarfodydd amser cinio yn llwyddiannus yna byddwn yn edrych i’w hestyn nhw i gweithleoedd eraill fel ysgolion a depos yn y blynyddoedd i ddod. Ac er yr holl wenwyn (gweler uchod) o gwmpas ‘llymder’ a thoriadau cyllid mae’n bwysig i gofio mae un o’r buddion allweddol o weithio i Gyngor Ceredigion yw mae’n weithle ble mae gennym undeb annibynnol sy’n cael ei gydnabod a’i barchu gan y cyflogwr, ac o’r prif budd allweddol hwn mae llawer o’r buddion eraill yr

Peter Harper

ydym yn ei fwynhau a’i gymryd yn ganiataol yn dod (os nad ydych yn fy nghredu yna dylech siarad gyda rhai o’ch cyd-weithwyr yn y sector gofal preifat, mae’r gangen hefyd yn ei gynrychioli, i gael syniad o’r termau a’r telerau mewn gweithle heb undeb cydnabyddedig). Felly os ydych eisiau sicrhau fod hyn yn parhau, yna gwnewch ymdrech bach (ni fydd yn cymryd llawer) i ddod i’r Cyfarfod Blynyddol. Gyda Prif Weithredwr newydd, a gyda ail-strwythuro adrannol yn mynd ymlaen, bydd digon i siarad amdano, a digon o frechdannau, byrbrydiau a diod. Pwysicach byth serch hynny yw bydd yn gyfle i chi dangos eich cefnogaeth i’ch hundeb a sicrhau ein bod yn parhau i gael llais cryf ar eich rhan, a’n haelodau i gyd. Sydd ond yn gadael mi i ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi gyd a Blwyddyn Newydd Llwyddiannus. Ac rwy’n edrych ymlaen i’ch gweld yn y Cyfarfod Blynyddol. Owain

(1959 – 2017)

Gyda thristwch mawr a sioc gwnaeth Pwyllgor Cangen UNSAIN glywed y newyddion am farwolaeth Peter yn mis Medi. Roedd Peter wedi bod yn stiward Unsain ac aelod o’r Pwyllgor am rai blynyddoedd ac wedi cymryd i’r rhan gydag ymrwymiad mawr, egni a brwdfrydedd. Roedd Peter yn gweithio yn Nghanolfan Ddydd Canolfan Padarn, Llanbadarn Fawr, yn gweithio gydag oedolion efo anawsterau dysgu, gan darparu gweithgareddau, cyfleuon dysgu, cymuned a chyfeillgarwch i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Roedd yn ymrwymedig i’w waith ac i helpu pobl llai ffodus nag ef. Cymerodd rhan stiward siop fel ffordd o helpu ei gyd-weithwyr yn y gwaith ac i ymgyrchu er darpariaeth parhaol o wasanaethau o ansawdd i bobl lleol roedd y ganolfan ddydd yn ei ddarparu. Roedd yn gwybod yn uniongyrchol am y gwaith hanfodol, newid bywyd, a gwella bywyd sydd yn cael ei wneud gan y ganolfan a’u gweithwyr, er mwyn rhai o aelodau mwyaf bregus a dan anfantais ein cymuned, ac roedd yn falch iawn o’r gwaith yr oedd ef a’i gyd-weithwyr yn ei wneud. Roedd Peter hefyd yn ddyn cynnes a doniol iawn, gyda synnwyr cryf o chwarae teg a chyfiawnder, a daeth â’r rhinweddau hynny i’r gwaith ganddo ar Bwyllgor Gweithgor y Gangen ble gwnaeth ffrindiau gyda’i ymagwedd uniongyrchol, dim nonsens, Sir Gaerefrog i fywyd. Gwelir ei golli gan ei holl ffrindiau a chyd-weithwyr yng Nghanolfan Padarn ac ar Bwyllgor y Gangen ac rydym yn estyn ein cydymdeimlad i’w holl ffrindiau a’i deulu.

4


YDYCH CHI EISIAU CODIAD CYFLOG?

o 28% i 19% (gan ei wneud yn un o’r cyfraddau isaf yn Ewrop), ac mae cynlluniau i’w gostwng ymhellach i 17% erbyn 2022. Mae’r RAEM yn amcangyfrif byddai codiad o 1% yn y dreth gorfforaeth yn codi £2.6 biliwn, felly efallai nad yw’n syndod i weld fod difidendau

Ar ôl 7 mlynedd o rewi-cyflog neu cap ar gyflog o 1% îs na chwyddiant byddwn yn gobeithio bydddai pawb sy’n cael eu cyflogi ar termau a thelerau CBC yn ateb ‘IE” atseiniol. Mewn

cyfranddalwyr wedi codi 56.6% ers 2010, elw cwmniau 26%, a chyflog Prif Weithredwr gan 9.7%. Mae’n debyg nad yw’n syndod i lawer o fobl chwaith i nodi fod cyflog AS wedi codi 15.6% ers 2010, felly mae’n gwestiwn o flaenoriaethau, ac mae’n debyg nad yw ariannu gwasanaethau lleol a chynnal cyflog y sector gyhoeddus yn unol â chwyddiant yn flaenoriaeth, ac os ydyw, mae’n dod yn bell iawn ar ôl rhoi toriadau treth i aelodau mwyaf cyfoethog ein cymuned.

gwir termau, mae cyflog canolrif y sector gyhoeddus wedi cwympo £3,875 ers 2010.

Y rheswm arall mae’r llywodraeth wedi ei roi am “cael eu gorfodi” i roi toriadau cyflog ar weithwyr y sector gyhoeddus yw ei bod hi’n angenrheidiol er mwyn cael dyled a menthyg y llywodraeth o dan reolaeth, ond mae’n amlwg nad yw wedi gweithio oherwydd ers cyflwyniad y cap ar gyflog mae dyled net y llywodraeth wedi codi £496 biliwn (efallai oherwydd y toriadau enfawr i’r treth gorfforaeth?). Mewn gwirionedd, mae rhewi cyflog y sector gyhoeddus wedi ymddwyn fel seibiant ar yr economi a’r adferiad economaidd. Y sector gyhoeddus yw 17% o holl gyflogaeth y DU, ac mae dirywiad sylweddol ym mŵer gwario’r 17% hynny yn golygu fod llai o arian yn cael ei wario yn yr economi. Hefyd mae’r cap ar gyflog y sector gyhoeddus wedi ymddwyn fel seibiant

Swm arwyddocaol, a chwymp arwyddocaol ym mhŵer gwario sy’n cael ei adlewyrchu ar draws yr holl bandiau cyflog. Byddai’r arian yn helpu gyda costau atgyweiriadau’r car, anfoneb olew gwresogi, ambell pryd allan, ychydig yn ychwanegol i wario adeg y Nadolig, ac efallai gwyliau. Byddai pawb sy’n gweithio mewn Llywodraeth Leol dros yr amser hynny wedi teimlo’r pinsiad wedi ei arddodi gan toriadau cyflog blwyddyn ar ôl blwyddyn, a sut mae hyn wedi effeithio ar gostau byw a’u gallu nhw a’u teuluoedd. I rai mae hyn wedi achosi caledi go iawn ac wedi arwain at ddyledion cynyddol, ond i bob un ohonom mae’n amhosib dianc o’r teimlad nad yw gweithwyr y sector gyhoeddus yn cael eu gwerthfawrogi na’u parchu gan y Llywodraeth, ac yn cael eu trin yn unol â hynny. Hefyd mae’r dirywiad sylweddol yn ein cyflogau yn cyfateb gyda’r gofynion ychwanegol sy’n cael eu roi arnom, gan fod miloedd o swyddi

wedi eu colli mewn Llywodraeth Leol (dros 20,000 yng Nghymru’n unig dros yr adeg).

Mae’r neges o’r Llywodraeth ganolog yn glir ac yn syml: “gweithio mwy am llai o arian”. Yw hynny’n dangos unrhyw barch tuag at y bobl sy’n gofalu am yr henoed, cynnal a chadw ein ffyrdd a phriffyrdd, addysgu ein plant, sicrhau diogelwch ein bwyd, darparu prydiau ysgol, casglu sbwriel, a’r holl swyddi eraill yr ydym yn eu gwneud i edrych ar ôl ein cymedau? Mae’r Llywodraeth Ganolog wedi pledio tlodi, mae’n dweud na all fforddio ariannu’r gwasanaethau lleol yn briodol na chynnal cyflogau yn unol â chwyddiant, ac eto mae’r

dreth gorfforaeth wedi cwmpo ers 2010 5


cyson a dramatig i ostwng cyllidebau a gwariant Llywodraeth Leol (yng Ngheredigion mae hyn yn golygu toriad o 1/3 i’r gyllideb gyfan ers 2009/2010), felly nid oes digon o arian wedi bod gyda’r Awdurdodau Lleol hyd yn oed i gynnal gwasanaethau heb sôn am gwrdd â chostau chwyddiant, gan gynnwys cynyddiadau cyflog. Mae trafodaethau undeb wedi cael gwybod i dderbyn toriadau cyflog er mwyn osgoi mwy o golli swyddi – ond ni all unrhyw un o’r pethau hyn fod yn dderbyniol i’r rhai ohonom sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus ac sy’n gwerthfawrogi’r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn eu derbyn fel treth-dalwyr, ac os yw’r patrymau yma’n parhau (ac yn parhau ar gyflymder) yna’r unig cyrchfan gall fod yw colled gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol a thlodi’r bobl hynny sy’n dal i weithio yn y Llywodraeth Leol.

neu dylanwad plymio ar gyflogau yn y sector preifat, gan fod cyflogwyr preifat yn gweld cyflog y sector gyhoeddus fel meincnod, ac os nad yw’r llywodraeth yn credu dylai cyflogau eu gweithwyr gadw fyny gyda chwyddiant pam y dylen nhw. Os nad yw arian yn cael ei ledaenu ar draws yr economi, yna nid yn unig yw hyn yn effeithio ar iechyd ariannol gweithwyr unigol, ond mae hefyd yn effaith ehangach yn yr economi ehangach, gan fod llai o arian yn cael ei wario, llai o arian yn cael ei ennill, a llai o arian yn cael ei gasglu mewn trethi.

Fel gweithwyr Llywodraeth Leol mae ganddom rhan bwysig i chwarae, nid yn unig i geisio gwneud y gorau medrwn i leihau effaith y toriadau ar drigolion lleol, ond hefyd yn ymladd ein cornel a lobio am ragor o arian i gadw’r gwasanaethau hanfodol yr ydym yn darparu i fynd ac ar sylfaen gynaliadwy. Mae UNSAIN, gan gynnwys Cangen Ceredigion wedi bod yn weithgar iawn yn ymgyrchu a lobio dros gyllid teg er gwasanaethau Llywodraethau Leol, ond byddai’n deg i ddweud bod hi wedi bod yn frwydr anodd gyda llawer o’n hegni yn cael ei wario ar weithrediadau gwarchod er amddiffyn y gwasanaethau sydd ganddom, sydd o dan fygythiad yn syth. Fodd bynnag, mae’r rheolau sy’n llywodraethu gweithrediadau ac anghydfodau’r undeb wedi cyfyngu ein gallu i ehangu ein ymgyrchu ar gyllid teg i’r gweithle’n fwy cyffredinol, ond yr un peth sy’n uno rhan fwyaf o sector y Llywodraeth Leol yw ein

Felly, mae toriadau parhaus y sector gyhoeddus nid yn unig ddim yn helpu’r economi, ac yn bendant ddim yn deg i weithwyr y sector gyhoeddus. Felly sut wnaethom gyrraedd y pwynt hwn a sut ydym yn mynd i ddod allan ohono? Y ffordd mae’r CBC yn gweithio yw bob blwyddyn mae’r cyd-undebau (sy’n cynrychioli’r gweithwyr) yn rhoi cynnig am godiad cyflog i mynd i’r afael â chostau byw sy’n codi ac i gynnal gwir gwerth ein cyflogau, mae Sefydliad Llywodraeth Leol (sy’n cynrychioli’r cyflogwr) yna’n ymateb gyda cynnig a pha mor fforddiadwy ydyw. Yn y gorffennol byddai cyllidebau Awdurdod Lleol yn cael eu cynyddu’n awtomatig i gwrdd â chwyddiant, ac yna ychydig yn fwy i gwrdd â’r galw cynyddol ac ehangu gwasanaethau. Felly roedd yn gymharol hawdd i’r SLlL gytuno cytundeb teg gyda’r undebau gan fod ganddynt yr arian o’r llywodraeth ganolog. Mae ‘Llymder’ wedi newid hynny gan fod gwthiad

6


2. Siarad gyda’ch cydweithwyr am y bleidlais a gofyn iddynt ddychwelyd eu papurau pleidlais hefyd.

bargeinio dros gyflog. Y rheswm nad ydym wedi bod yn cael codiadau cyflog teg yn unol â chwyddiant yw oherwydd nid yw awdurdodau lleol wedi bod yn derbyn setliad ariannu teg na digonol o’r llywodraeth ganolog. Mae gan toriadau i gyflog a thoriadau i wasanaethau (gan gynnwys colli swyddi) yr un achos, felly mae angen i ni fod yn glir fod yr

Ar amser ysgrifennu nid ydym yn gwybod beth fydd y cynnig cyflog a bydd y Gangen yn cynghori aelodau ar sut yr ydym yn meddwl y dylech bleidleisio ar yr adeg honno, ond mae nawr yn glir, os ydych eisiau gweld diwedd ar y toriadau cyflog blwyddyn ar ôl blwyddyn a’r gostyngiad parhaus a’r bygythiad i’r gwasanaethau yr ydym yn darparu, yna mae angen i ni, fel gweithwyr ac aelodau undeb gwneud rhywbeth amdano gyda’n gilydd.

ymgyrch dros codiad cyflog teg a diweddu’r cap ar gyflog yn rhan o’r ymgyrch lletach er ariannu teg ac amddiffyniad gwasanaethau llywodraeth leol. Nid ydym yn gofyn am rhan

mwy o grochan llai, ond crochan fwy fel bod ein rhan ddim yn lleihau o hyd tra bod y gwasanaethau yr ydym yn darparu hefyd yn lleihau. Mae o fewn gallu’r Llywodraeth Ganolog a Changhellor y Trysorlys i roi hyn ac yn syml mae’n gwestiwn o flaenoriaethau – dylid anghofio am bylchau treth a threth gorfforaeth parhau i gael eu gostwng, neu dylai’r arian hynny cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus a sicrhau nad yw’r gweithwyr ar y llinell flaen sy’n eu darparu nhw yn debyn toriadau cyflog blwddyn ar ôl blwyddyn?

Mae gan pawb yr hawl i’w barn ar p’un ai ydyw’n addas neu defnyddiol i streicio, a’r bleidlais yw eich cyfle chi i gael eich barn a chael eich cyfrif, ond os mae methu fforddio streicio yw eich prif byder, a cholli cyflog o’i achos – gwnewch eich symiau – yr ydych wedi colli un rhan o bump o’ch pŵer gwario dros y 10 mlynedd diwethaf yn barod, ac os ydych yn y cynllun pensiwn bydd ganddo canlyniadau ariannol i chi am weddill eich bywyd, sy’n llawer pwysicach na beth fyddech yn ei golli trwy ymdrech ar y cyd a chydgysylltiedig. Nid oes neb eisiau mynd ar

Er y cynnig cyflog am 2018/19 mae’r undebau wedi rhoi cais i fewn am godiad o 5% ar y pwyntiau cyflog i gyd, sydd o feddwl

am faint yr ydym wedi colli dros y 7 mlynedd diwethaf, a’r ffaith fod chwyddiant dros 3%, ddim yn gynnig afresymol ac yn fforddiadwy. Yr ydym yn disgwyl clywed nôl wrth ochr y cyflogwyr am ein cynnig ar 13eg o Ragfyr, gan eu bod nhw wedi bod yn aros i glywed wrth y Canghellor i weld faint o arian bydd ganddynt, ond os yw’r blaid Geidwladol yn parhau i fod yn wir i ffurf yna mae disgwyliad uchel na fydd ein cynnig yn cael ei gwrdd yn llawn. Os mae dyma’r achos, yna mae’n debygol

streic a cholli cyflog, y cwestiwn yw pryd a ble yr ydych yn tynnu’r llinell a dweud ‘digon yw digon’. Mae cyflogau ar taflwybr ar

ei waered fel ag y mae ariannu Llywodraeth Leol a gwasanaethau cyhoeddus. Mae gweithredu diwydiannol yn offeryn terfynol, ond gall fod yn offeryn effeithiol, ac mae angen i ni gwneud rhywbeth i droi’r sefyllfa o gwmpas. Felly y peth cyntaf yw i ddefnyddio’r bleidlais i ddweud wrth eich hundeb a’ch cyd-aelodau undeb os ydych yn credu bod angen i ni ddefnyddio’r offeryn nawr – a’r peth nesaf yw, os yr ydym ni fel aelodau yn penderfynnu gweithredu, yw i gwneud y weithred mor effeithiol â phosib, oherwydd os byddwn yn gweithredu ar y cyd, yna bydd rhaid i ni fod yn unedig a dangos ymdrech ar y cyd, os yr ydym am ennill, a’r arallddewis i gwneud safiad ac ennill yw mwy o’r un peth rwy’n ofn – does neb yn mynd i ymladd eich brwydrau os nad ydym yn barod i’w hymladd nhw ein hunain.

byddwn yn gofyn i’n haelodau bleidleisio ar weithredu diwydiannol.

Mae’r cap ar gyflog y sector gyhoeddus yn effeithio ar bob rhan o’r sector gyhoeddus, nid yn unig Llywodraeth Leol, a’r undebau bydd yn edrych i weithio gyda’i gilydd ar draws y gwahanol sectorau i gwneud y gorau o effaith gweithredu diwydiannol, fodd bynnag os ydym i gael effaith y peth cyntaf mae angen i ni ei wneud yw sicrhau fod llawer yn pleidleisio. Felly os daw hi i bleidlais mae angen i chi:

1. Dychwelyd eich papur pleidleisio gyda’ch penderfyniad p’un ai ydych yn derbyn neu’n gwrthod y cynnig cyflog wedi ei gofnodi arno. 7


Sut y daeth hi i hyn? Fy nhaith i fod yn stiward undeb. Gan John Curran

Felly, sut nes i fod yn stiward undeb? Cwestiwn da, os daeth y syniad i mi o’r blaen, yr oedd wedi ei gladdu o dan haenau o fenywod cuddiog, cathod sy’n chwarae’r piano a brechdannau bacwn neu stêc i de! Roeddwn yn gwybod yn gwaith fod sibrydion bod angen un newydd, gan fod yr un blaenorol wedi ei wawdio am fethu trafod cyflenwad dŵr i’r tegell gwnaeth ymladd yn galed i ddarparu yr wythnos cynt, ond roedd yn syrpreis llwyr pan gwnaeth un o’r dynion chwalu fy mhreuddwyd gyda bys yn fy asennau a dweud “Oi moelyn, meddwl bydde ti’n dda yn hyn” a chyn fy mod yn gwybod unrhyw beth cefais fy hun gyda llond dwrn o enwebiadau, cefnogwyr ac ymgeisydd mewn pleidlais gwnes ennill. Gydag ychydig o amser i bopeth suddo fewn, meddyliais i fy hun, wel mae’r dynion yn griw gweddus o ddynion sydd wedi rhoi eu ffudd ynof fi, ac, er yr oeddwn wedi addo troedio’n ofalus hyd ymddeol a heb gwneud unrhyw gynlluniau nag uchelgeisiau mawr, gwelais fy hun yn cael blas ar bethau, a sylweddolais fod gennyf yr holl sgiliau trafod a phobl angenrheidiol o fy swyddogaethau blaenorol yn gwerthu i gallu gwneud gwahaniaeth ac helpu gwella pethau cymaint ag y medrwn. Felly, gyda’r gwaith nawr yn fy nghalon, gwnes gofrestru ar gwrs stiward newydd yng Nghaerdydd, ble gwrddais a dod yn ffrindiau gyda 1 5 o fobl amrywiol ac anhygoel iawn, i gyd eisiau dysgu a gwella pethau cymaint ag y medrant, roedd yn diddorol iawn i weld yr ymagweddau gwahanol i bethau, a chawsom llawer o hwyl dros y 5 diwrnod, a dysgu llawer o waith undeb hefyd, yn bennaf trwy ddamwain, ond hey, dysgu yw dysgu, ta sut rydych yn cyrraedd yno! Yn ychwanegol, ac fel bonws ychwanegol, cefais aros yng Nghaerdydd am rhai nosweithiau, diolch i’r undeb, an nid yw 8fed llawr y ‘Big Sleep’ mor ddrwg ag y mae’n swnio, hefyd mae Caerdydd yn le gwych i weld, er gwnes camgymeriad tra’n talu yn y maes parcio ac o ganlyniad cael dirwy o £90, gwnaeth gymryd tua 2 ddiiwrnod o gofid llwyr ac uffern i ddatrys, diolch NCP. 8

I gloi, hyd yn hyn mae’r daith wedi bod yn un diddorol, rwyf wedi cwrdd llawer o fobl da, ac rwy’n gwneud camau mawr ymlaen gyda fy nodau, rwyf hefyd yn gobeithio fod fy cydffrindiau o’r cwrs yn gwneud yn dda ac mae angen i ni dal fyny cyn gynted ag y byddaf wedi rhoi’r cyfeiriadau ebost yn fy ffôn, ac os oes gan unrhyw un sydd yn darllen fy ngeiriau dryslyd diddordeb yn yr undeb ond heb gwneud dim byd, fy nghyngor bydde ewch amdani, byddwch yn weithgar, mae’n werth e dim ond am y bobl gwnewch gwrdd. John


Cyfweliad gyda Ben Lake AS Pan galwyd yr etholiad sydyn nôl yn mis Mai, roedd canlyniad annisgwyl yn ymddangos fel posibilrwydd fel roedd yr ymgyrchoedd yn datblygu, a rhoddodd Ceredigion un o’r canlyniadau annisgwyl hynny. “I fod yn onest roedd yn sioc mawr i mi ennill yr etholiad yn Mai roeddwn yn amlwg yn gobeithio cael canlyniad da yn yr etholiad, ond yn sicr nid oeddwn yn sicr o flaen llaw byddwn yn ennill”, dywedodd Ben Lake pan gwrddais ag ef yn mis Hydref ac ers bryd hynny mae wedi bod yn cyfarwyddo gyda’i swydd newydd amlwg iawn a gofynion ei swydd. Fel rhan o’n ymgyrch i roi pwysau ar y Canghellor i ryddhau arian i sicrhau gweithwyr y sector gyhoeddus i gyd yn cael codiad cyflog teg, a fod y ‘cap ar gyflog’ artiffisial yn dod i ben, gwnes deithio i Lundain fel rhan o’r lobi cenedlaethol i gwrdd â’n AS newydd dros Geredigion i geisio cael ei gefnogaeth dros yr ymgyrch. Roedd Mr Lkae yn glir yn ei gefnogaeth er cael codiad cyflog teg i weithwyr y sector gyhoeddus. “Rwyf 100% tu cefn yr ymgyrch ac yn hapus i ychwanegu fy enw iddo fel AS Ceredigion, mae cap ar gyflog y sector gyhoeddus wedi bod yn mynd ymlaen am rhy hir nawr ac rwy’n gwybod yr effeithiau mae’n cael ar lawer o drigolion a theuluoedd yng Ngheredigion sy’n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf erioed wedi bod yn ymwybodol o’r cyfraniad pwysig mae gweithwyr y sector gyhoeddus yn ei wneud i’n cymunedau, boed hynny’n cadw ein strydoedd yn ddiogel ac yn lân, gofalu am y rhai sâl a gwan, neu sicrhau bod yna gweinyddiaeth effeithlon a chywir yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n hen bryd i’r llywodraeth cydnabod y cyfraniad pwysig hynny, a gorffen y cap mympwyol ar gyflog, sydd mewn gwirionedd, wedi gweld toriadau cyflog cyson i weithwyr y sector gyhoeddus dros y 7 mlynedd diwethaf”. Roedd UNSAIN wedi cysylltu gyda pob AS yng Nghymru i ddod i’n pleidlais, a thra cawsom mwyafrif o’r AS Cymreig i ymuno gyda’n hymgyrch, mae’n gredyd i Mr Lake taw fe oedd yr unig AS yng Nghymru tu allan i’r Blaid Lafur gwnaeth ddod a dangos ei gefnogaeth. Nôl yng Ngheredigion cymerodd Ben yr amser i gwrdd â mi eto i rannu ei mewnwelediadau a phrofiadau ei swydd newydd ac i drafod sut oedd yn teimlo bod yn Aelod Seneddol dros Geredigion, a gofynnais iddo sut oedd yn teimlo bod ei swydd dyddiol ym Mhalas Westminster. “Rydych yn iawn i’w alw’n Palas Westminster, gan mai 9

dyna’r enw cywir, ac mae’n edrych fel un. Mae pensaerniaeth yr adeiliad yn hollol wych, ac rwy’n credu mae bwriad y penseiri oedd i ysgogi synnwyr o anwe a pharch i’r gwaith oedd yn mynd ymlaen yno, gyda llawer o nenfydau uchel, manylion cymhleth a deunyddiau o ansawdd, ond un o’r pethau cyntaf gwnaeth fy nharo pan gwnes gyrraedd am y tro cyntaf oedd maint y siambr dadlau, sydd yn llawer llai o faint ac agos nag y mae’n ymddangos ar y teledu. Nid oes digon o seddi hyd yn oed i bob un o’r 650 AS, dyna pam yr ydych yn gweld y lle’n llawn ac AS yn sefyll ar eu traed yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog, ac ambell waith mae’n anodd clywed beth sy’n cael ei ddweud pan mae torf mawr i fewn. Dyna peth arall sydd ddim yn cael ei adlewyrchu pan yr ydych yn gwylio dadleuon ar y teledu, gan fod yna microffonau i godi’r siaradwyr i’r darlledwyr ac Hansard, ond nid oes ymhelaethiad o’r microffonau nôl i’r AS yn y siambr, felly dyna rhyweth gwnaeth fy syfrdannu pan gyrhaeddais y tro cyntaf, pa mor swnllwyd roedd hi’n medru bod ar adegau, ac i fod yn onest mae ychydig yn rwystredig pan nad ydych mewn gwirionedd yn medru clywed beth sy’n cael ei ddweud yn ystod dadl”. Rwy’n tybio mai cwestiynau’r Prif Weinidog yw’r darlun mae rhan fwyf o bobl yn ei gysylltu gyda gwleidyddiaeth Westminster ac ambell waith mae’n gallu ymddangos fod y dadleuon yn Nhŷ’r Cyffredin yn rhanbarthol iawn ac yn fwy am sgorio pwyntiau gwleidyddol na dadl rhesymegol, felly gwnes ofyn i Ben p’un ai oedd yn meddwl os oedd hyn yn adlewyrchiad cywir o beth sydd yn mynd ymlaen yno. “Wel mae’n wir pan mae’n


dod i’r Ceidwadwyr a Llafur mae yna dau lwyth gwahanol fel y bu, yn gyffredinol dangosir parch rhwng yr holl AS, ond mae’n amlwg fod yna ddiwylliant plaid gwleidyddol, felly nid ydych yn gweld cymdeithasu rhwng pobl o’r ddau prif blaid yn aml, mae rhai o’r aelodau henach y tŷ efallai yn eithriad i hyn, ac rwy’n tybio fod hyn yn naturiol pan yr ydych wedi gweithio yn yr un adeilad ac eistedd ar yr un pwyllgorau gyda’ch cydweithwyr am dros 20 mlynedd, bydd ymddiriedolaeth a pharch (hyd yn oed cyfeillgarwch) yn bodoli er gwahaniaethau pleidiol neu gwleidyddol”.Mae gan bod yn un o’r pleidiau llai o faint yn Westminster eu manteision a’u hanfanteision yn hyn o beth, fel Aelod Seneddol newydd, yn amlwg nid oes gymaint o rwydwaith cefnogaeth pan yr ydych yn cyrraedd gyntaf, ac mae yna rhai rheolau ac arferiadau chwaethus yn y Senedd nad ydych yn angenrheidiol yn cael gwybod amdano, fel gorfod plygu eich pen pan yr ydych yn gadael y Siambr, gwnaeth cymryd ychydig o amser i mi gyfarwyddo gydag. Mae cyd-weithwyr ym Mhlaid Cymru a’r SNP wedi bod yn ddefnyddiol iawn, ac yn gyffredinol mae fel unrhyw gweithle mawr arall ble chi’n dod i adnabod pobl dros amser. Rwy’n ceisio bod yn gyfeillgar gyda pawb rwy’n cwrdd ac yn gweithio gydag yno, a’r un peth yr wyf wedi dysgu yw ei bod hi’n syniad da i gadw ar termau da gyda Siaradwr y Tŷ a’i dîm. Fel cadair y siambr dadlau y siaradwyr sy’n cael dewis pwy, ac ym mha drefn, mae AS yn cael siarad ar ddadleuon, ambell waith gall fod yn fater o dal ei llygad nhw, ond fel AS newydd nid yw’n brifo cael gwên cyfeillgar pan yr ydych yn rhoi’ch enw i lawr gyda’r Tîm Siaradwyr cyn y ddadl”. “Yn gyffredinol mae ansawdd rhai o’r dadleuon yn dda, a tra bod y sesiynau cwesitynau gan aml am sgorio pwyntiau neu i geisio dal Gweinidog allan, pan mae’n dod i’r dadleuon ar ddeddfwriaeth medrwch cael rhai cyfraniadau wirioneddol dda a gwybodus. Gyda 650 o wahanol AS, i gyd gyda cefndiroedd gwahanol, gan aml mae gan rhywun arbenigedd penodol ar y pwnc, felly tu allan i’r sesiynau cwestiynau gall y dadleuon bod yn dda iawn, ac ambell waith medrant troi Gweinidog i gwneud newid mewn man penodol”. “Rwy’n wirionedol mwynhau fy ngwaith yno ar hyn o bryd, gall llywodraeth ymddangos fel peiriant mawr ambell waith ac felly’n anodd i AS unigol i ddylanwadu, fy nghymhariaeth yw fod y llywodraeth fell long enfawr, a fy rhan i fel AS etholaeth yw hynny o llong fach yn tynnu arno, i ddylanwadu ei gyfeiriad a cheisio ei lywio fel bod ei ganoblwynt ar wasanaethu’r cyhoedd a’n cymunedau”. Yn olaf gofynais i Ben beth oedd hi fel bod yn AS i Geredigion o ddiwrnod i ddiwrnod a byw fel dyn ifanc yn Llundain. “Wel yn nhermau’r amhariadau ac adloniant Llundain, nid oes digon o amser gennyf i fynd allan llawer pan rwyf yno. Rwy’n ymwybodol na fyddai’n AS am byth, a fy nghanolbwynt yw gwneud gwaith da a 10

gwneud cyfiawnhad â’r gwaith. Pan rwyf yn Llundain gan aml mae fy niwrnod yn dechrau trwy mynd trwy negeseuon ac ebyst, gan nad yw sesiynau seneddol gan aml yn dechrau hyd 11 neu 12 o’r gloch, ond maent yn aml yn mynd ymlaen i’r nosweithiau, felly efallai na fyddaf yn gorffen hyd nes 9 y nos. I mi, fel dyn sengl, nid yw hyn yn rhy anodd, ond i AS gyda plant ifanc am ymrwymiadau eraill gall fod yn anodd iawn iddo nhw a’u teuluoedd”. “Mae fy amser yn cael ei rannu rhwng Llundain a Cheredigion, a thra’i bod hi’n fraint mawr i weithio fel AS yn y Senedd, fy hoff rhan o’r wythnos yw pan rwy’n teithio nôl i Geredigion. Rwyf gan aml yn gwneud gwaith etholaeth ar Ddydd Gwener, yn helpu etholwyr gyda materion penodol, a dyna’r rhan o’r gwaith rwyf yn cael y mwyaf boddhad wrth, oherwydd yr ydych yn medru gweld y gwahaniaeth medrwch ei wneud i bobl fel AS ac ar lefel unigol. Rwyf gan aml allan ar hyd y lle rhan fwyaf o Ddyddiau Sadwrn hefyd, a dyna pryd rwy’n medru cymryd rhan ac ymweld â rhai o’r niferoedd o grwpiau cymunedol a digwyddiadau cymunedol sydd yn mynd ymlaen yn lleol, ac mae hyn yn rhan da o’r swydd hefyd”. A gyda hynny roedd Ben Lake AS ar ei ffordd nôl i Lundain i gymryd rhan mewn dadl arall a phleidlais yn y Senedd. Mae’n ymddangos i mi fod Ceredigion yn ffodus iawn i gael y fath AS cyfeillgar, onest, uniongyrchol â Ben Lake, ac mae cangen UNSAIN yn edrych ymlaen i gyd-weithio ag ef yn y dyfodol fel rhywun bydd yn helpu sicrhau bydd ein lleisiau’n cael eu clywed yng nghoridorau’r pŵer palasaidd yn Llundain.


ARBEDWCH EIN GWASANAETHAU – GWRTHDYSTIAD CYMRU GYFAN

SGWÂR Y BRENIN, Y BARRI – 4 TACHWEDD

Ar 4ydd o Dachwedd gwnaeth Alison Boshier, Cadeirydd y Gangen a minnau deithio lawr i’r de, ar ffurf Thelma a Louise i wrthdystiad Arbedwch ein Gwasanaethau Cymru Gyfan yn Y Barri, ar beth oedd yn Ddydd Sadwrn heulog, os nad ychydig yn wyntog gydag awyr las. Gwnaeth Owain Davies Ysgrifennydd y Gangen ein cwrdd yno. Fel gwnaethom gyraedd y sgwâr, cawsom ein cyfarch gan cyd-weithredwyr Undeb, a phartneriaid eraill Cyngor Undebau i Gymru. Roedd yn dda hefyd gweld sut gymaint o fobl o’r gymuned lleol yn aros i ddechrau’r gorymdaith, a ganddynt diddordeb yn beth oedd gan yr amryw siaradwyr i ddweud am y rhesymau dros yr orymdaith. Roedd yn alwad ar Ysgrifennydd Gwladol Westminster dros Gymru, Alun Cairns i wrando ar bobl Cymru, y mae ef fod eu cynrychioli, a darparu cyllid teg i Gymru er mwyn gall gwasanaethau cyhoeddus cael eu darparu ar eu rhan. Roedd yn alwad i orffen Llymder ac i weithwyr sector cyhoeddus cael eu trin yn gyfartal ac iddynt cael codiad cyflog hir ddyledus!

11

Cyflwynwyd yr amryw siaradwyr ar y diwrnod gan Paul James, comedydd, gwnaeth roi ychydig o ryddhad ysgafn, ynghyd â’r bardd-perfformiad Atilla y Brocer stoc a’r bardd yn erbyn llymder lleol Patrick Jones. Gwnaeth Jane Hutt Aelod Lleol Llafur o’r cynulliad gyfarch y dorf ynghyd â’r menywod o Grŵp MECPW (Menywod yn Erbyn Cydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth), Ysgrifennydd Cangen UNSAIN Bro Morgannwg Glen Pappas, Ysgrifenyddes Rhanbarthol UNSAIN Cymru/Wales Margaret Thomas, Llywydd CULl Cymru Mike James a’r cyn pêl-droedwr sydd nawr yn weithiwr gofal Neville Southall. Gwnaeth y dorf brwdfrydig, oedd yn cael eu harwain gan Pibau a Drymiau Casnewydd, gerdded lawr y prif stryd, yn dal placardiau a baneri yn gweiddi “Maent yn dweud torri nôl – rydym ni’n dweud ymladd nôl”, gan ddod i ben tu allan swyddfa aelodaeth Alun Cairns, ond i wneud pwynt, yna cario ymlaen i’r Ganolfan Dinesig. Gwnaeth y band pibau a drymiau chwarae cymysgfa o anthemau Cymreig gan gynnwys yr Anthem Genedlaethol. Yna gwnaeth y dorf wahanu neu gwneud eu ffordd nôl fyny i’r sgwâr i roi eu placardiau yn ôl. Roedd wedi bod yn brynhawn da a gobeithir bydd Alun Cairns yn teimlo ychydig yn fwy anghyfforddus gan gryfder y teimlad o’i driniaeth o’i etholwyr. Helen Doughty


Hwyl fawr i aelodau UNSAIN yng Ngholeg Ceredigion By Daniel Titley Fel rwy’n siwr fod llawer ohonoch yn gwybod, nid yw UNSAIN Cangen Sir Ceredigion yn cynrychioli gweithwyr Cyngor Sir Ceredigion yn unig. Ymysg eraill, mae hefyd yn cynrychioli fy hunan a gweithwyr eraill yng Ngholeg Ceredigion, ein Coleg Addysg Bellach lleol. Ond mae hyn am ddod i ben cyn hir. Gadewch i mi esbonio..... Nôl yn 2014 gwnaeth Coleg Ceredigion gyfuno gyda Prifysgol Cymru : Y Drindod Dewi Sant, grŵp Prifysgol Sector Deuol sy’n cynnwys campysau yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan ac Abertawe; yn ogystal â Choleg Sir Gâr, coleg addysg bellach yn Sir Gaerfyrddin. Ers y cyfuniad, mae Coleg Ceredigion wedi cael heriau ariannol sylweddol oherwydd gostyngiad yng nghyllid addysg bellach, chwyddiannau costau, dirywiad demograffig yn nifer pobl 16-18 oed yng Ngheredigion a chystadleuaeth cynyddol i fyfyrwyr o ysgolion a darparwyr hyfforddiant eraill. Roedd hyn yn golygu fod Coleg Ceredigion wedi adrodd colledion ariannol sylweddol bob blwyddyn ers 2014. Yn Mawrth eleni cafodd y gweithwyr wybod “er mwyn sicrhau cynaliadwyedd darpariaeth addysg bellach yn Sir Ceredigion” mae Y Drindod Dewi Sant wedi penderfynnu integreiddio Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr. Yn arbennig, byddai rhannu gwasanaethau, rheolaeth a gweinyddiaeth yn cael ei integreiddio. Mae’r broses integreiddio yn parhau, ond mae newidiadau sylweddol wedi bod yn barod. Mae pennaeth Coleg Ceredigion wedi ei ail-aseinio i swyddogaeth gwahanol o fewn grŵp y Brifysgol ac mae pennaeth Coleg Sir Gâr wedi ei apwyntio fel cyd-bennaeth y ddau goleg, ac mae gan Coleg Ceredigion logo newydd. Yn fwy pwysig, mae’r integreiddiad a’r ail-strwythuriad dilynol wedi golygu wyth o ddiswyddiadau yn barod ymysg y rheolwyr a’r gweithwyr gweinyddol. Yn anffodus, yr wyf i yn un o’r diswyddiadau, ond yn hapus mae fy diswyddiad wedi ei ohirio am ychydig fisoedd. Yn wahanol i Goleg Ceredigion , mae Coleg Sir Gâr yn ddigon mawr i’w gweithwyr nhw cael cangen UNSAIN eu hunain. Mae’r strwythur rheolaeth integredig a’r cyd-bennaeth sydd â gofal y ddau goleg yn golgyu bod hi’n gwneud synnwyr fod aelodau UNSAIN yn y ddau goleg yn cael eu cynrychioli gan un cangen, felly bydd aelodau UNSAIN yng Ngholeg Ceredigion yn trosglwyddo o Gangen Sir Ceredigion i Gangen Coleg Sir Gâr. Mwy na thebyg ni fydd y trosglwyddiad tan ar ôl y CB nesaf, fel y gallaf orffen fy amser fel trysorydd y gangen (ac hefyd i wneud y cwis cerddoriaeth am y tro olaf ).

Dewch, a chael golwg a gofyn i ymuno gyda’n tudalen ar Facebook: “UNISON CEREDIGION COUNTY”. Mae’n ffordd gwych i weld beth sydd yn mynd ymlaen yn eich cangen, ar draws rhanbarth Cymru/Wales ac yn genedlaethol. Hefyd medrwn cael gwybodaeth atoch yn fwy cyflym. 12


Wel ble i ddechrau? Fy enw yw Denise Owen, rwy’n gweithio yn Gwasanaethau Dysgu yn Dysgu Bro yn darparu dosbarthiadau dysgu i oedolion yng Ngheredigion. Rwyf wedi gweithio i’r Cyngor am bron 20 mlynedd (rhaid fy mod yn ddwl rwy’n gwbyod!) Mae gennyf ddau gollie barfog (fy mhlant ☺) ac yn gefnogwr eiddgar o Glwb Pêl-droed Abertawe, rwy’n ddeiliad tocyn tymor ac yn teithio i lawer o gemau ffwrdd o gartref. O ac hefyd gwnes fynd i fy gêm rygbi rhyngwladol gyntaf mis diwethaf yn erbyn Awstralia, rhaid cadw bywyd yn diddorol ☺. Yn ddiweddar, rwyf wedi darganfod y gampfa, roeddwn yn arfer osgoi ymarfer corff fel y pla ond rwyf nawr yn mwynhau (methu credu fy mod wedi dweud hynny, rhaid fy mod wedi fy meddiannu!!!) Felly, pam benderfynais fod yn Gynrychiolydd? Roeddwn wedi bod yn aelod o UNSAIN am rai blynyddoedd cyn penderfynnu bod yn fwy gweithgar. Roeddwn yn medru gweld y buddion o fod yn aelod ac eisiau bod yn fwy gweithgar, felly pan gofynwyd i mi fod yn Gynrychiolydd Addysgu’r Undeb nid oeddwn yn siwr beth oedd yn ei olygu ond gan fod y gair Dysgu yn y teitl a gan fy mod wastad wedi gweithio yn yr Adran Addysgu o fewn y Cyngor, meddyliais pam lai? Cefais hyfforddiant er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y swydd ac ers hynny rwyf wedi medru sicrhau cyllid i roi hyfforddiant Sgiliau Digidol i weithwyr Rheoli Gwastraff a gweithwyr Gofal Cartref. Mae yna arian i gael i’ch helpu fynd ar gwrs o’ch dewis, mae un aelod wedi bod yn llwyddiannus yn cael arian tuag at ei gwrs Prifysgol Agored. Os oes gennych unrhyw gofynion dysgu yr ydych eu hangen yna cysylltwch a mi a gadewch inni weld beth fedrwn wneud gyda’n gilydd. Rwyf hefyd wedi cymryd rhan Swyddog Budd, mae’r rhan yma’n helaeth ac yn amrywio o helpu gyda gwisg ysgol i helpu unigolion mewn argyfwng ariannol. Mae Unsain yno i helpu felly peidiwch bod ofn i ofyn. Edrychwch ar y wêfan am wybodaeth pellach http://www.ceredigionunison.org.uk/?page_id=77 Hefyd rwyf yn Stiward i Wasanaethau Dysgu, gwnes fynd ar yr un hyfforddiant â John Curran ac roedd y cwrs yn fuddiol iawn. Roedd yn amser da, pobl gwirioneddol neis a dysgais sut gymaint. Ydw i wedi deffro eich diddordeb? Byddech chi’n hoffi fod yn Gynrychiolydd neu’n Stiward? Mae’r undeb ond mor gryf a’i aelodaeth ac mewn gwirionedd gallwn gwneud tro gyda’r cymorth! Mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un ohonom am sgwrs anffurffiol, beth sydd gennych i’w golli?

Cysylltwch a Denise Owen ar 01970 633541 neu Denise.Owen@ceredigion.gov.uk Swyddog Budd er Cangen Cyngor Sir Ceredigion Os rydych yn brwydro trwy argyfwng annisgwyl, neu os yw pwysau bywyd pob dydd yn faich, gall Yno i Chi eich helpu. Yr ydym yn cynnig cyngor cyfrinachol arbennig a gwasanaeth cefnogaeth ond i aelodau UNSAIN a’u dibynyddion. P’un ai ond am sgwrs neu chlust cyd-deimladwy, neu cymorth mwy cadarn yr ydych ei hangen, efallai medrwn helpu. Yr ydym yn cynnig: • •

Cymorth Ariannol Gwybodaeth a chefnogaeth

• •

Cyngor Dyled Gwyliau Lles

UNSAIN yw’r unig undeb i gynnig cyngor cyfrinachol a gwasanaeth cefnogaeth i’w haelodau a’u teuluoedd ar ffurf elusen cofrestredig. Mae Budd UNSAIN nawr wedi ei hail-frandio fel Yno i Chi : cefnogi aelodau UNSAIN pan mae bywyd yn mynd yn anodd. 13


Ynoi i chi

cefnogi aelodau UNSAIN pan mae bywyd yn anodd

Cael cymorth i aros yn gynnes gaeaf eleni Gyda costau tanwydd yn codi a gaeaf oer arall mae llawer o aelodau yn poeni sut maent yn mynd i dalu anfonebau tanwydd eleni

Mae cymorth i gael Mae Yna I Chi wedi gosod cronfa cyfyngedig i helpu aelodau Unsain sydd ar gyflog isel trwy un taliad i fyny at £50 I gwneud cais a lawrlwytho’r ffurflen gais ewch i

unison.org.uk/thereforyou neu cysylltwch â swyddfa eich cangen lleol

Yna i Chi yw enw gweithiol Budd UNSAIN, elusen cofrestredig sy’n cael ei gefnogi gan undeb UNSAIN. Rhif Elusen : 1023552/SCO38305

14


cyllidebau’r gangen ac i gynghori swyddogion y gangen ar faterion ariannol. Eto, mae gan CCA adroddiadau a thempledi i helpu gyda hyn. Mae gwaith trysorydd yn hollol hanfodol i’r gangen ac mae rheolau UNSAIN yn mynnu bod un ganddom, dyna pam yr ydym yn gofyn am wirfoddolwr. Gall unrhyw aelod o’r gangen fod yn drysorydd, heblaw am aelodau wedi ymddeol neu Ysgrifennydd y Gangen. Nid oes rhaid bod ganddoch cymhwysterau cadw llyfrau na phrofiad, mae angen i chi ond cael llygad am fanylder, bod yn gyfarwydd â defnyddio cyfrifiadur a dealltwriaeth syml o gyllidebau. Yn h n wrt sicr Byddw o dd y g ? a d fy m u y llaf Pr i help

Ble?

no Byddaf y

Rwyf wedi bod yn drysorydd Cangen Ceredigion UNSAIN ers bron i ddwy flynedd, ers cymryd yr awennau wrth Ann Jones. Ond, fel byddwch yn gwybod os oeddech wedi darllen fy erthygl arall yn y rhifyn hyn o Llais, byddaf yn gadael y Gangen cyn hir; sydd yn golygu bydd y gangen angen trysorydd newydd cyn hir.

GWIRFODDOLWYR

Mae Llyfr Rheolau UNSAIN yn dweud bydd Trysorydd y Gangen “yn cynnal busnes ariannol y gangen a chadw cyfrifon yn unol â’r rheolau”, ond beth mae hyn yn ei olygu? Fy ngwaith mwyaf yw i dalu anfonebau’r gangen a threuliau swyddogion y gangen. Rwy’n derbyn yr anfoneb neu ffurflen treuliau, edrych i weld nad oes unrhyw anghysondebau, ac yna naill ai ysgrifennu siec neu gosod fyny taliad arlein. Mae’r cyfrifoldeb hyn yn cael ei rannu gan swyddogion cangen eraill oherwydd mae’n rhaid i bob siec cael dau llofnod ac mae’n rhaid i bob taliad arlein cael ei awdurdodi gan swyddog arall cyn iddynt cael eu talu. Mae rhaid i bob taliad ac incwm cael ei gofnodi ar system Cyfrifyddu Cangen Arlein (CCA) a’u cael eu cysoni gyda’n datganiadau banc. Rwy’n cyfaddef mae dyma’r rhan sy’n cymryd rhan fwyaf o’r amser, oherwydd mae CCA yn gofyn am tipyn o wybodaeth am bob trafodiad. Ar y llaw arall, mae CCA yn ei gwneud hi’n eithaf hawdd i gadw llygad ar ein gwariant ac i weld sefyllfa ariannol y gangen. Hefyd mae CCA yn gwneud yr archwiliad blynyddol llawer hawsach. Rhan mawr arall y trysorydd yw i fynd i gyfarfodd misol gweithgor y gangen a’r cyfarfod blynyddol i ddarparu adroddiadau ar sefyllfa ariannol y Gangen, i helpu gosod 15

Rwy’n gwybod fod bod yn drysorydd yn ymddangos fel llawer o waith, ond am rhan fwyaf o’r flwyddyn, rwyf ond yn gwario tua awr yr wythnos ar fy nyletswyddau trysorydd. Dylech fod yn cael amser i ffwrdd i fynd i gyfarfodydd, ac fel unrhyw swyddog cangen arall gall y trysorydd adennill unrhyw treuliau allan-o-boced. Mae UNSAIN hefyd yn cynnig digon o hyfforddiant a chyfarwyddyd i drysoryddion, yn enwedig hyfforddiant ar system CCA. Bydd swyddogion eraill y Gangen yn eich cefnogi; ac ni fyddaf yn diflannu pan fyddaf yn gadael y gangen, a byddaf yn cynnig cyngor fel ag y medraf. Os oes ganddoch diddordeb fod yn drysorydd, cysylltwch ag Owain Davies, Ysgrifennydd y Gangen.


Rhan o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru Part of the Welsh Government Warm Homes programme

Rhan o raglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru Part of the Welsh Government Warm Homes programme

Rhadffôn 0808 808 2244 (Dydd Llun – dydd Gwener, 9am-7pm)

Rhadffôn 0808 808 2244

www.nestwales.org.uk

(Dydd Llun – dydd Gwener, 9am-7pm)

www.nestwales.org.uk Rhadffôn 0808 808 2244

Ydychyn chi’n poeni ac amyneich (Dydd Llun – dydd Gwener, 9am-7pm) gwneud cartrefi gynhesach fwy biliau ynni? www.nestwales.org.uk Nod cynllun Nyth yn gynhesach ac yn fwy annau effeithlonrwydd ynni Cartrefi i'r cartrefClyd am Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi ynni effeithlon i fyw ynddynt. Rydym darparu gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am nswleiddio. Ydych chi’n poeni am eich biliauynynni? ddim fel boeler newydd, system gwres canolog, neu inswleiddio. wydd ynniNod i'r cartref ddim os: Clyd Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi yn gynhesach ac yn fwy cynllunam Nyth Cartrefi Gallech fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd i'r cartref amynni ddim ynni effeithlon i fyw ynddynt. Rydym yn darparu gwelliannauynni effeithlonrwydd i'r os: cartref am gan landlord preifat (nid y Cyngor na ddim fel boeler newydd, system gwres canolog, neu inswleiddio.  Rydych yn berchen ar eich cartref neu'n rhentu gan landlord preifat (nid y Cyngor na GallechChymdeithas fod yn gymwys i gael gwelliannau effeithlonrwydd ynni i'r cartref am ddim os: Dai) budd-dal prawf modd

Rydych chi neu rywun sy'n byw gyda chi yn cael budd-dal prawf modd  Rydych yneffeithlonrwydd berchen ar eich cartref neu'n rhentu gan landlord preifat (nid y Cyngor na di'i deilwra o welliannau Chymdeithas ydych yn ac gymwys, byddwn cartref ynOs gynhesach ynDai) arbed arian iyn argymell pecyn wedi'i deilwra o welliannau effeithlonrwydd i'r cartref ddim i chi. Byddant yn gwneud eichbudd-dal cartref yn gynhesach ynniRydych chiam neu rywun sy'n byw gyda chi yn cael prawf modd ac yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni. gartrefi yng Nghymru yn ystod byddwn y chwe yn argymell pecyn wedi'i deilwra o welliannau effeithlonrwydd Os ydych yn gymwys, wedi am gosod gwelliannau mewn 29,000 gartrefi Nghymruac ynyn ystod y chwe i leihau ynni euRydym biliau ynni. i'r cartref ddim i chi. Byddant yn dros gwneud eichocartref ynyng gynhesach arbed arian i blynedd ac wedi helpu miloedd o deuluoedd i leihau eu biliau ynni. chi ar eichdiwethaf biliau ynni. n, tariffau ynni a hawl i fudd-daliadau, felly Rydymwedi hefyd yn rhoi cyngor armewn arbed dros ynni,29,000 rheoli arian, tariffau a hawlyni fudd-daliadau, Rydym gosod gwelliannau o gartrefi yngynni Nghymru ystod y chwe felly ffoniwch ni ar Radffôn 808 2244. o deuluoedd i leihau eu biliau ynni. blynedd diwethaf ac wedi0808 helpu miloedd les.org.uk – yn cynnwys 'ffurflen cais am onio'n ôl.Rydym Mae llawer arar einarbed gwefan – www.nestwales.org.uk – yn cynnwys 'ffurflen caisfelly am hefydoynwybodaeth rhoi cyngor ynni, rheoli arian, tariffau ynni a hawl i fudd-daliadau, alwad yn Llenwch0808 y manylion a byddwn yn eich ffonio'n ôl. ffoniwch ni ôl'. ar Radffôn 808 2244. m eich eiddo a'r budd-dal rydych yn ei Bydd ein cynghorwyr ynargofyn rhai cwestiynau i chi am eich eiddo budd-dal rydychcais yn ei d-dal a manylion eich wrth law Mae llawer o landlord wybodaeth ein gwefan – www.nestwales.org.uk – yna'r cynnwys 'ffurflen am gael.yn Sicrhewch fod ygennych eich llythyr dyfarnu a manylion eich landlord wrth law alwad ôl'. Llenwch manylion a byddwn yn eichbudd-dal ffonio'n ôl. pan fyddwch yn ein ffonio. Bydd ein cynghorwyr yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich eiddo a'r budd-dal rydych yn ei Edrychwn ymlaen glywedeich gennych. gael. Sicrhewch fod at gennych llythyr dyfarnu budd-dal a manylion eich landlord wrth law pan Ynfyddwch gywir yn ein ffonio. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Tîm Nyth

Yn gywir

u ewch i www.nestwales.org.uk Tîm Nyth ni ar Radffôn 0808 808 2244 neu ewch i www.nestwales.org.uk Ffoniwch Ffoniwch ni ar Radffôn 0808 808 2244 neu ewch i www.nestwales.org.uk 16


Roedd diwrnod Seren yn ein hysgol ar 24 Tachwedd. Drwy gydol yr wythnos, ymwelodd Alison Boshier, Gemma Moroney a Hugh McDyer â’n holl ysgolion lleol o gwmpas y Sir er mwyn dangos gwerthfawrogiad o’r gwaith gwych a wnaed. Yn y llun mae rhai o’r staff mewn ysgolion lleol yn derbyn bagiau da a melysion i gydnabod y gwaith gwych y maent yn ei wneud yn ein hysgolion. Mae ein staff cymorth dysgu, cogyddion, glanhawyr a gofalwyr yn gwneud gwaith gwych y tu ôl i’r llenni ac maent yn arwyr di-dor. (Mae’r Staff yn y llun yn dod o Ysgol gynradd Comins Coch (uchod) ac Ysgol Uwchradd Penglais (isod).

17


Anagram - £25.00 i’r enillydd h t e a u e l d a t s y C

Anagramau thema’r Nadolig i chi eu datrys

1. YDDD NAIGOLD

____ _______

2. AWSS RABA

____ ____

3. ERS Y GLEDDOG

___ _ _______

4. OSFEJ

_____

5. NECAC GNAIODL

_____ _______

6. PLTACIHAOS

___________

7. IGNW TEPOH

____ _____

8. RULHOIA SSEGLI

_______ _____

9. FRELTIF ESIRI

_______ _____

10. HRTOS ANUC

___ __ ____

11. GEALN GNAIODL

_____ _______

12. Y RTI NDY DETOH

_ ___ ___ _____

13. NIMS EIPS

____ ____

14. WRICT SRTHO

_____ _____

15. LEOB BAHYNC

____ ______

16. GŴYL SAN STEFFAN _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ 17. GPLAINY

_______

18. “BUSEALB”

_______

Danfonwch eich Anagramau wedi ei gwblhau i Helen Doughty, Tîm Cyhoeddusrwydd UNSAIN, Reprografeg, Uned 1B, Depo Llanbadarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3RJ neu ebostiwch i helen.doughty@ceredigion. gov. uk Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif cyswllt yn ystod y dydd, a lleoliad eich gwaith. Bydd yr ateb cywir mas or het yn ennill £25.00

19. ELDEFNO ISNO CRON _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ _ 20. PEULN RAEI

_____ ____

21. RMAI WLDY

____ ____

22. AJC Y WREH

___ _ ____

23. IARTP NAIGOLD

_____ _______

Dyddiad cau i’w 15 Chwefror 2018. Enillwyr diwethaf oedd Anwen Thomas.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Gangen Unsain Ceredigion. 18


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.