Helô a chroeso i rifyn y Gwanwyn o’n e-gylchlythyr – Mewn Cysylltiad … â Diabetes UK Cymru!

Page 1

Mae grŵp Diabetes

UK Dinbych-y-pysgod

wedi codi dros

£120,000 yn ystod eu 43 mlynedd!

… â Diabetes UK Cymru

Hollie yn codi dros

£4,000 ar ôl i’w mab

Callum gael diagnosis o ddiabetes math 1

Grymuso Lleisiau: Aelodau tîm Math

1 Gyda’n Gilydd yn hyrwyddo cymorth

cymheiriaid ac ymwybyddiaeth ledled Cymru!

3 | ebrill 2024
Rhifyn

Helô a chroeso i rifyn y Gwanwyn o’n e-gylchlythyr – Mewn Cysylltiad … â Diabetes UK Cymru!

Ers i chi glywed gennym ddiwethaf, mae’n bosibl eich bod wedi sylwi bod rhywbeth wedi newid. Rydym wedi ailenwi ein e-gylchlythyr chwarterol, ac i chi y mae’r diolch am hynny! Bu i ni ofyn i’n cynulleidfa wych ar-lein am syniadau, a’r dewisiadau gorau oedd ‘Cysylltiad gan Diabetes UK

Cymru’ a ‘Cymru Gysylltiedig.’ Felly, dyma ni’n eu stwnsio nhw gyda’i gilydd, a voilà! Dewch i gwrdd â ‘Mewn Cysylltiad … â Diabetes UK Cymru’! Mae’n ymwneud â chadw’n glòs a rhannu’r hyn sydd bwysicaf yng Nghymru. Byddwch yn barod am y newyddion diddorol diweddaraf, straeon ysbrydoledig, a llawer o gymorth.

Dyma’n ffordd ni o gadw mewn cysylltiad â’r gymuned diabetes wych yng Nghymru a thynnu sylw at y gwaith y mae ein cefnogwyr a’n gwirfoddolwyr yn ei gyflawni i wneud gwahaniaeth!

Rydym yn awyddus i rannu ein trydydd rhifyn, a hyd yn oed yn fwy cyffrous ei bod hi bellach yn wanwyn – yn swyddogol! Felly, gallwch ddisgwyl croesawu dyddiau cynhesach a nosweithiau hirach.

Yn y rhifyn hwn mae gennym lawer o ddigwyddiadau cyffrous i’w rhannu â chi! Cewch glywed popeth am ‘Ali Fest’, sef gŵyl gerddoriaeth undydd yng Ngogledd Cymru, ein Taith Cerdded Llesol gyntaf erioed yng Nghaerdydd, a’n Hyb Byw’n Dda nesaf! Mae gennym hefyd lawer o ddiweddariadau gan ein Harweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd, a straeon gwych am waith codi arian. Mae rhai o fy uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn hyd yma yn cynnwys digwyddiad Dydd Gŵyl Dewi Côr Meibion Treorci yn Aberdâr, a oedd yn noson ragorol o anrhydeddu cerddoriaeth Gymreig a chodi arian! Buom hefyd yn dathlu wythnos Gweithredoedd Caredig Digymell trwy anfon cardiau wedi’u hysgrifennu â llaw at ein cefnogwyr yng Nghymru, sef ein ffordd fach ni o ddweud diolch yn fawr iawn!

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen rhifyn y Gwanwyn. Mae croeso i chi anfon eich syniadau am storïau neu eich adborth, trwy neges e-bost i walespress@diabetes.org.uk Mwynhewch y darllen!

Ein Cyfeiriad

Diabetes UK Cymru

Global Reach

Dunleavy Drive

Cardiff CF11 0SN

Cadwch mewn cysylltiad

Llinell Gymorth Diabetes UK

Ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol i siarad â chynghorwyr helaeth eu

hyfforddiant ar 0345 123 2399 rhwng

9am a 6pm yn ystod yr wythnos, neu anfonwch neges e-bost i helpline@ diabete.org.uk

Dilynwch ni ar Instagram

@DiabetesUKCymru

Cysylltwch â’n tîm y wasg

Walespress@diabetes.org.uk

Dilynwch ni ar Twitter @DiabetesUKCymru

Dilynwch ni ar Facebook @DiabetesUKCymru

2
3
04 Y Bwletin Newyddion diweddaraf Diabetes UK Cymru 06 Dewch i gwrdd â’n Codwyr Arian Gweithgareddau i godi arian 08 Cerdded Llesol Caerdydd Darllenwch am y Daith Gerdded Llesiant gyntaf erioed yng Nghymru 10 Polisi Diabetes yng Nghymru Y newyddion diweddaraf gan Lywodraeth Cymru 12 Yn y gymuned Cymorth a gweithgareddau diabetes yng Nghymru 04 08 13 06
Cynnwys

y bwletin

Newyddion diweddaraf Diabetes UK Cymru

Diwrnod Plant a Diabetes Math 1

Bob blwyddyn yng

Nghymru rydym yn dathlu

Diwrnod Plant a Diabetes Math 1 ym mis Chwefror i feithrin ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ac i ddangos i bawb pa mor ddewr a chryf yw ein plant sy’n brwydro math 1.

Roedd eleni yn arbennig iawn gan i ni ymuno â’n Harweinwyr Ifanc Math 1

Gyda’n Gilydd, a rannodd eu teimladau am fyw â math 1. Dyma beth yr oeddent wedi’i ddweud …

Spire Caerdydd yn codi dros £4,000 ar gyfer

Diabetes UK Cymru!

Yn 2023, dechreuodd tîm Ysbyty Spire Caerdydd gyfres o heriau i gefnogi Diabetes UK Cymru. O feicio 86 km trawiadol o Fryste i Gaerdydd i goncro Hanner Marathon Caerdydd, mae eu hymdrechion wedi codi dros £4,000 mewn rhoddion. Mae eu hymroddiad a’u penderfyniad yn arddangos eu hymrwymiad i wneud gwahaniaeth ystyrlon yn y frwydr yn erbyn diabetes.

“Gall byw â diabetes math 1 fod yn debyg i gael fflawen yn eich bys; ar ddiwrnodau eraill gall fod yn debyg i fys wedi torri. I mi, mae bod â diabetes yn golygu deall eich bod yn wahanol ac mae hynny’n iawn. Y bobl sy’n derbyn ac yn croesawu eich gwahaniaethau sy’n gwneud byw â diabetes math 1 ychydig yn haws.” Mya

“Mae’n teimlo fel ffigar-êt rai dyddiau, a diwrnodau eraill mae’n teimlo fel brwydr; oherwydd pan fydd fy synhwyrydd yn seinio a minnau allan gyda ffrindiau, mae lleoedd i roi fy inswlin yn gyfyngedig, a phan fyddaf yn mynd i leoedd a fy synhwyrydd yn seinio, mae rhai pobl yn meddwl beth sy’n digwydd, ac yna mae’n rhaid i mi esbonio mai synhwyrydd ar gyfer fy niabetes yw e.” Alex

“Mae gen i deimladau croes ynghylch math 1; i mi gall fod yn heriol gan ei fod yn ffigar-êt di-ddiwedd. Mae’n rhywbeth na allwch chi fyth gymryd seibiant oddi wrtho, a gall weithiau fod yn straen corfforol ac emosiynol. Rwy’n hoffi ei gymharu â chlorian bwyso gan ein bod ni bob amser yn ceisio cydbwyso uchafbwyntiau ac isafbwyntiau math 1.” Divya

■ Dysgwch fwy am ein cymuned Math 1 Gyda’n Gilydd yng Nghymru ar ei Instagram.

4

Grymuso

Lleisiau: Aelodau tîm Math 1 Gyda’n Gilydd yn hyrwyddo cymorth cymheiriaid ac ymwybyddiaeth ledled Cymru!

Mae ein Tîm Math 1 Gyda’n Gilydd wedi bod yn brysur dros y ddeufis diwethaf yn meithrin ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 a phwysigrwydd cymorth cyfoedion! Hyd yn hyn maent wedi…

■ Bod yn bresennol yn y digwyddiad Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Abertawe, lle buont yn siarad â staff addysg am Math 1 Gyda’n Gilydd a’r 4T.

■ Rhannu eu straeon i feithrin ymwybyddiaeth ar gyfer Diwrnod Plant a Diabetes Math 1.

■ Bod yn bresennol yn Ffair y Glas Undeb Myfyrwyr Caerdydd i siarad am bopeth sy’n ymwneud â math 1!

■ Siarad â Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru yn y digwyddiad ‘Mae Fy Llais yn Bwysig’ yn Abertawe yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant.

■ Cwrdd â Joel James AS ar gyfer cyflwyniad i Senedd Ieuenctid Cymru a phwysigrwydd sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

■ Cynnal eu digwyddiad cymdeithasol cyntaf ar gyfer y flwyddyn – gêm o golff mini! Sbardunodd hwn lawer o sgyrsiau am rifau, a hynny o sgorio golff i ddarlleniadau glwcos.

■ Cynnal eu cyfarfod ar-lein mwyaf i 15 o bobl ifanc ar y cyd â Colette Marshal, Prif Swyddog Gweithredol newydd Diabetes UK, a’r siaradwyr gwadd Wendy Gane a Paul Pritchard o Gr ŵp Cyfeirio Cleifion Diabetes Cymru Gyfan

■ Buont hefyd mewn digwyddiad galw heibio yn Ysbyty Cwm Cynon gyda Gr ŵp Diabetes UK Cwm-bach i gynnig cefnogaeth i bobl ifanc yr ardal!

Mae’r hwyl ddim yn gorffen ar y 29ain o bob mis maent

yn cyfarfod ar-lein i drafod uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o fyw gyda math 1. Os hoffech ymuno â’r cyfarfodydd ar-lein anfonwch e-bost at Michelle. Jenkins@diabetes.org.uk. I gael rhagor o ddiweddariadau Math 1 Gyda’n Gilydd Cymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn @tt1_cymruwales ar Instagram.

5

Dewch i gwrdd â’n Codwyr Arian

Hollie yn codi dros

£4,000 ar ôl i’w mab Callum gael diagnosis o ddiabetes math 1

Dyma Hollie Harris, a’i mab Callum. Ar ôl diagnosis diabetes math 1 Callum ym mis Ionawr 2023, roedd Hollie a’i theulu’n awyddus i feithrin llawer o ymwybyddiaeth o’r cyflwr. Felly, ym mis Rhagfyr 2023 aethant ati i gynnal noson bingo elusennol i godi arian ar gyfer Diabetes UK Cymru a’i grŵp Diabetes UK Family lleol.

Cerddoriaeth â chenhadaeth!

Ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd Côr Meibion Treorci berfformiad i’r dim yn Eglwys Elfan Sant Aberdâr i godi arian i Diabetes UK Cymru!

Mae Jack Harries, aelod o’r côr a drefnodd y Dathliad Gŵyl Dewi trwy ei gwmni, Harries Productions, Jack ynghyd â’i bartner, Morgan, sy’n byw â diabetes math 1, ar genhadaeth i godi dros £10,000 i Diabetes UK Cymru gan ei bod yn elusen agos at eu calon.

Roedd digwyddiad cyntaf Harries Productions yn cynnwys y côr rhyngwladol o fri, Côr Meibion Treorci, seren All Together Now BBC One, Rachel Lee Stephens, a’r côr menywod rhagorol, Dare to Sing. Cododd y noson swm gwych o £570!

Diolch enfawr i Jack a Morgan am ddewis cefnogi ein helusen, ac i bawb a gyfrannodd mor hael ar y noson!

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol. Daeth llawer o bobl o’r gymuned leol yn y Trallwng i’r noson, a rhoddodd busnesau lleol wobrau ar gyfer y bingo a’r raffl, gan helpu i godi llawer o arian. Cododd y teulu gyfanswm gwych o £4,133. Llwyddodd Hollie hefyd i sicrhau £1,000 yn ychwanegol mewn arian cyfatebol gan Morrisons.

6

Ali

Fest:

Teyrnged a Dathliad Cerddorol yng Ngogledd Cymru!

Ydych chi’n rhywun sy’n byw ger yr Wyddgrug yng Ngogledd Cymru ac wrth eich bodd â cherddoriaeth? Mae gŵyl newydd, ‘Ali Fest’, ar y gorwel yr haf hwn, a bydd y tocynnau’n cael eu rhyddhau o fewn dyddiau!

Mae Ali Fest – a gynhelir ddydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024, yn ŵyl gerddoriaeth er cof am Alastair Thomas. Roedd Ali yn gerddor hynod dalentog a fu’n helpu cerddorion lleol eraill ar ddechrau eu taith. Mae Ali Fest hefyd yn ymwneud â meithrin ymwybyddiaeth o symptomau a chymhlethdodau diabetes math 1.

Bydd Clwb Pêl-droed Rhyd-y-mwyn yn cynnal digwyddiad eleni lle bydd y cyhoedd yn cael cyfle i weld rhai o’r talentau lleol gorau sydd gan Ogledd Cymru i’w cynnig. Bydd y digwyddiad hwn yn darparu ar gyfer pob oedran, a bydd plant yn cael cyfle i gwrdd â’u hoff gymeriadau Marvel a Cosplay.

Gallwch ddilyn ein cyfryngau cymdeithasol i gael gwybodaeth am docynnau, neu edrychwch ar eu tudalen digwyddiadau ar Facebook. https://www. facebook.com/groups/532862968954010/.

Mae grŵp Diabetes UK Dinbych-y-pysgod wedi codi dros £120,000 yn ystod eu 43 mlynedd!

Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd grŵp Diabetes UK o Ddinbych-y-pysgod eu bod yn cau ar ôl 43 mlynedd gyda’i gilydd!

Yn ôl ym mis Chwefror ymwelodd ein Codwr Arian Joe a Chyfarwyddwr

Cenedlaethol Rachel â’r grŵp ar gyfer eu cyfarfod olaf i ddiolch iddynt am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Ers sefydlu’r grŵp yn 1981 maent wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau, gan gynnwys teithiau cerdded o amgylch

Cronfa Ddŵr Llys Y Bran a helfeydd trysor poblogaidd iawn.

Maen nhw wedi codi dros £120,000 sydd wedi ein galluogi i barhau â’n gwaith ym meysydd ymchwil, addysg, ymwybyddiaeth a chymorth diabetes! Diolch yn fawr iawn i aelodau’r gr - Kathryn, Gaynor, Edward, Maureen, Siân a Gwyneth.

7
Bydd yna hefyd stondinau crefft, paentio wynebau, gwerthwyr bwyd a bar trwyddedig llawn.

Ymunwch â ni ar gyfer ein Taith Cerdded Llesol newydd sbon yng Nghaerdydd ddydd Sul 16

Mehefin 2024! Gan gychwyn ym mhrydferthwch Caeau Pontcanna, byddwch yn cerdded trwy Barc Bute, heibio Castell Caerdydd a thrwy ganol y ddinas, cyn mynd ymlaen wedyn i Fae Caerdydd a dychwelyd ar hyd Afon Taf. Does dim grisiau ar y llwybr, felly rydym yn croesawu pobl sy’n defnyddio cadeiriau gwthio neu sgwteri symudedd. Mae digon o doiledau ar gael ar ddechrau/ ddiwedd y daith, yn ogystal ag yn yr arhosfan seibiant ym Mae Caerdydd.

Dathlwch eich cyflawniad ar ddiwedd eich Taith Cerdded Llesol gyda’ch medal arbennig i orffenwyr yn ein Hardal y Gorffenwyr. Gallwch gael sesiwn dylino, siarad â Nyrs Arbenigol Diabetes neu ysgrifennu ar ein bwrdd diolchgarwch.

■ Ymunwch â channoedd o rai eraill a cherdded tuag at ddyfodol iachach, hapusach. Cofrestrwch yma: https://wellness-walk.diabetes.org.uk/find-a-walk/cardiff/

Gwirfoddoli ar Daith Cerdded Llesol Caerdydd

Rydym yn dibynnu ar dîm gwych o wirfoddolwyr i helpu i gefnogi ein digwyddiadau. O’n helpu ni i osod popeth, i gefnogi ein cerddwyr o amgylch y llwybr, neu i ddosbarthu medalau ar y llinell derfyn.

■ Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael yma: https:// wellness-walk.diabetes.org.uk/volunteer/

9

Diabetes yng Nghymru Polisi

Dathliadau ariannu

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae’n bleser gennym rannu newyddion gwych am Raglen Atal Diabetes Cymru Gyfan.

Yn ei blwyddyn gyntaf, cefnogodd y rhaglen dros 3,000 o unigolion a oedd mewn perygl o ddatblygu diabetes math 2, gan gydnabod effaith sylweddol Diabetes math 2 ar unigolion, a’r nifer cynyddol o bobl sy’n byw mewn perygl o gael diabetes math 2 yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid parhaus yng Nghyllideb Llywodraeth Cymru eleni.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd y rhaglen yn parhau i gael £1 miliwn mewn cyllid blynyddol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.

Dywedodd Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Diabetes UK Cymru, Mathew Norman: “Er bod hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, credwn ei bod yn hanfodol eirioli dros fuddsoddiad hirdymor yn y rhaglen a thros ei hintegreiddio i lwybrau gofal iechyd ledled Cymru.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cynaliadwyedd ac ehangiad y fenter hanfodol hon yn y prosesau cyllidebol sydd i ddod ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

“Trwy flaenoriaethu mesurau iechyd ataliol, gallwn leihau’r pwysau ar y GIG, hybu gwell canlyniadau iechyd, ac, yn y pen draw, wella llesiant poblogaeth Cymru.”

10
Mathew Norman, Dirprwy Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru.

Mynd i’r Afael â Diabetes

Eirioli dros Fuddsoddi mewn Iechyd a Meithrin Ymwybyddiaeth Ohono yng nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig

Bob blwyddyn, mae Diabetes UK Cymru yn mynychu Cynadleddau Gwleidyddol y Gwanwyn Cymru, ac eleni bu i ni ddechrau trwy fynd i gynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno, Gogledd Cymru (Chwefror 2024).

Ar y cyd â’r British Heart Foundation-Cymru, bu i ni gynnal dadl ar yr angen dybryd am fwy o fuddsoddiad gan y GIG mewn mesurau iechyd ataliol, megis addysg iechyd a hybu iechyd, canfod yn gynnar, rhaglenni atal a lleddfu, yn ogystal ag ymyriadau o ran ffordd o fyw. Soniasom hefyd am yr angen am fwy o fynediad at dechnolegau newydd ac ymwybyddiaeth ohonynt ar gyfer pobl sy’n byw â diabetes, yn ogystal â mynediad at ofal a rheolaeth barhaus ar gyfer eu diabetes.

At hynny, bu i ni gynnal stondin arddangos ar y cyd â Chynghrair Gordewdra Cymru, gan arddangos ein gêm archfarchnad; yn hon, roedd aelodau etholedig (gan gynnwys y Prif Weinidog!) yn chwarae gêm o osgoi’r bargeinion ‘prynu un cael un am ddim’ a ‘dewis a dethol’ ar ben yr eiliau ac wrth y tiliau. Mae’r gwaith hwn yn rhan o’r gwelliant yn ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth o’r effaith y mae bwydydd sy’n cynnwys llawer o fraster, siwgr a halen yn ei chael ar ein deiet a’n hiechyd yn gyffredinol, a hynny cyn rheoliadau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amgylcheddau bwyd cadarnhaol.

11
Ymunodd Dirprwy Gyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Mathew Norman, ag Ysgrifennydd Cabinet yr Wrthblaid dros Iechyd yng Nghymru, Russell George AS ar gyfer dadl ar ataliad iechyd yng Nghynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig. Prif Weinidog, Rishi Sunak yn ymweld â’n stondin Obesity Alliance Cymru.

yn y gymuned

A ydych yn dymuno gwella eich iechyd a’ch llesiant?

Bob blwyddyn, mae Diabetes UK Cymru yn cynnal cyfres o ‘Hybiau Byw’n Dda’, sef digwyddiadau iechyd a llesiant rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru. Mae’r digwyddiadau’n arddangos llawer o wasanaethau iechyd a llesiant lleol a all helpu i addysgu ac ysbrydoli pobl yn y gymuned i wneud newidiadau cadarnhaol i’w ffordd o fyw.

Ydych chi’n byw â diabetes neu’n adnabod rhywun sydd â diabetes? Ydych chi’n chwilio am gymorth yn lleol?

Felly, os ydych newydd gael diagnosis o ddiabetes, neu os hoffech wella eich iechyd a’ch llesiant, gallwn helpu! Dewch draw i wrando ar gyngor arbenigol ar fwyta’n iach, ymarfer corff, iechyd meddwl, a mwy.

Yn y digwyddiadau cewch gyfle i ddarganfod eich risg o gael diabetes math 2, i siarad ag aelodau o dîm Diabetes UK Cymru, a chyfle i ennill talebau archfarchnad!

Mae gennym amrywiaeth o grwpiau cymorth ledled Cymru sydd fel arfer yn cwrdd wyneb yn wyneb unwaith y mis. Mae’r grwpiau hyn yn cynnig gwybodaeth a chymorth lleol a’r cyfle i gwrdd â phobl eraill sy’n byw â diabetes.

Ar hyn o bryd, mae gennym grwpiau gweithredol yn Abertawe, Caerdydd, Cwmbach, Sir y Fflint, a Chastell-nedd. Gallwch ddysgu rhagor am ymuno â’r grwpiau hyn yma

■ Os ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol a hoffai siarad yn un o’n cyfarfodydd a digwyddiadau grŵp lleol, anfonwch neges e-bost i wales@diabetes. org.uk.

Byw’n Dda Casnewydd

Bydd ein Hyb Byw’n Dda nesaf yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd. Bydd sefydliadau a gwasanaethau lleol yn ymuno â ni, gan gynnwys Casnewydd Fyw, Cynllun Cenedlaethol Cymru i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Specsavers, GAVO, Rhaglenni Addysg i Gleifion Cymru (EPP Cymru) a mwy!

Ymunwch â ni ar gyfer arddangosiadau coginio a ffitrwydd, cymorth ffordd o fyw, MOTs iechyd, adnoddau diabetes, a’r cyfle i ennill talebau archfarchnad.

■ Dewch draw rhwng 11 yb a 3 yb dydd Llun 29 Ebrill. Anfonwch neges e-bost i Wales@diabetes. org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

12

Dosbarthiadau coginio cymunedol yn llwyddiant ysgubol!

Rydym wedi partneru â Chyngor Caerdydd i gynnal cyfres o sesiynau coginio ym Mhafiliwn Bute i bobl sydd am ddysgu mwy am goginio a bwyta’n iach.

Roedd pawb a fynychodd y cwrs wedi dewis eu ryseitiau eu hunain a mynd ati i’w haddasu i’w gwneud yn iachach ac yn llai o straen ar y pwrs. Roedd rhai o’r ryseitiau’n cynnwys puprynnau wedi’u stwffio â reis a ffa, corgimychiaid melys a sur, cinio rhost, byrgyrs falafel, tsili tair ffeuen, salad cyw iâr, a phenfras a thalpiau tatws melys. Cafodd y mynychwyr gyfle hefyd i ddefnyddio ffriwr aer a phrosesydd bwyd.

Ar ddechrau’r cwrs, cymerodd y mynychwyr ran mewn gweithgaredd i amcangyfrif faint o siwgr oedd yn y bwydydd a’r diodydd bob dydd yr oeddent yn eu bwyta a’u hyfed, er enghraifft tun o Coca-Cola neu dun o gawl. Roedd hyn yn agoriad llygad a barodd i rai o’r dysgwyr fyfyrio ar faint o siwgr y maent yn ei fwyta.

Dywedodd un cyfranogwr a chanddo risg uchel o ddatblygu diabetes math 2:

“Cefais amser braf iawn ar y cwrs coginio. Roedd yn dda dysgu am y ffriwr aer gan nad oeddwn erioed wedi defnyddio un o’r blaen”.

Dywedodd cyfranogwr arall wrthym: “Mae wedi bod yn ‘agoriad llygad’ go iawn i mi, ac o ganlyniad i’m profiad newydd, rwyf ‘nawr yn teimlo’n barod at y dasg o ddarparu bwyd maethlon syml i mi fy hun ar gyllideb, ac mae gennyf hefyd fwy o hyder o ran cael fy ngadael ‘yn rhydd’ yn y gegin.”

Yn ogystal, roedd cyfranogwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wedi mynychu’r cwrs yng nghwmni gweithwyr cymorth, a dywedasant ei fod wedi bod o gymorth mawr iddynt, yn enwedig o ran eu sgiliau rhifedd.

■ Bydd y dosbarthiadau coginio yn parhau trwy gydol y flwyddyn. Os hoffech gymryd rhan, anfonwch neges e-bost at Emma Rowley yn emma. rowley@Cardiff.gov.uk.

13

Cyfres Ymarfer Corff Digidol

Rydym wedi partneru â’r Cynllun

Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) i gynnal cyfres o ymarferion y gall pobl eu cyrchu ar-lein.

Mae’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn rhaglen atal a rheoli cyflyrau cronig ac iddi’r nod o wella iechyd a llesiant oedolion eisteddog ac anweithgar sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr cronig neu sydd â chyflwr o’r fath eisoes. Mae’n darparu rhaglen 16 wythnos o weithgarwch corfforol i unigolion a atgyfeiriwyd gan weithwyr iechyd proffesiynol y GIG, gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad i ymgorffori arferion gweithgarwch corfforol cadarnhaol.

Roedd Erin Taylor, sy’n arbenigwr ymarfer corff i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi arwain chwe sesiwn a oedd yn

cynnwys ioga cadair, pilates a tai chi!

Dywedodd Erin: “Mae ymarfer corff yn fuddiol am gymaint o resymau. Mae’n gwella ein hiechyd, ein ffitrwydd a hefyd ein hiechyd meddwl.

Dewisais weithio ochr yn ochr â Diabetes UK oherwydd fy mod yn deall pwysigrwydd sicrhau bod ymarfer corff ar gael i bawb. Gall ymarfer corff leihau eich risg o ddatblygu diabetes math 2, a gall hefyd helpu i reoli’r cyflwr.

Bydd y gyfres ymarfer corff digidol yn cael ei lansio yn yr Hyb Byw’n Dda nesaf yng Nghasnewydd, a bydd Erin hefyd yn ymuno â ni. Felly mae croeso i chi ddod draw i ofyn eich cwestiynau am ymarfer corff iddi!

RYDYM YN AIL-DDECHRAU EIN CYFRES GOGINIO

Rydym wedi ymuno â The Shared Plate i ddod â’n cyfresgoginio yn ôl!

Ymunwch â ni am brofiad hwyliog lle byddwch chi’n dysguryseitiau newydd, awgrymiadau coginio, a thriciau gan eincogydd talentog. Byddwch yn barod i chwipio prydau blasus achysylltu â phobl sy’n byw gyda diabetes.

■ Bydd ein sesiwn gyntaf ar dydd Mercher 24 Ebrill 2024 rhwng

6 yp a 7 yp. I archebu lle ar gyfer y sesiwn, anfonwch e-bost at Wales@diabetes.org. uk neu ffoniwch ni ar 02920 668 276.

14

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.