Helô a chroeso i rifyn y Gaeaf o’n e-gylchlythyr Diabetes UK Cymru!

Page 1

Rhifyn 2 | Ionawr 2024


Helô a chroeso i rifyn y Gaeaf o’n e-gylchlythyr Diabetes UK Cymru! Fy enw i yw Lucy, a fi yw’r Swyddog Ymgysylltu Digidol yma yn Diabetes UK Cymru. Gobeithio eich bod wedi cael gwyliau Nadoligaidd gwych, sut bynnag rydych chi'n dathlu ac rydym yn dymuno 2024 hapus iach i chi gyd. Yn y rhifyn hwn, mae gennym lawer o newyddion a diweddariadau i'w rhannu o'r tri mis diwethaf, gan gynnwys diweddariadau mawr gan NICE, prosiectau ymchwil newydd cyffrous ym Mhrifysgol Caerdydd, a'r astudiaeth gyntaf o'i bath yn y byd i sgrinio oedolion am ddiabetes math 1. Un o’m huchafbwyntiau o’r tair mis diwethaff oedd Diwrnod Diabetes y Byd, a oedd yn arbennig iawn eleni wrth i Arweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd ymuno â ni yn ein digwyddiad yn y Senedd. Roedd yn hynod o bwerus clywed eu straeon a'u profiadau o'r hyn y mae byw â diabetes math 1 yn ei olygu mewn gwirionedd! Darllenwch ragor am ein digwyddiad Diwrnod Diabetes y Byd ar dudalen 10. Uchafbwynt personol arall i mi oedd Dathliad Deugeinmlwyddiant Grŵp Diabetes UK Llanybydder, lle dysgais gymaint am hanes y grŵp a’r hyn y mae wedi’i gyflawni dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Daeth y digwyddiad â chymuned gyfan ynghyd am ddiwrnod o addysgu, cysylltu, a mwynhau bwyd! Gallwch ddarllen ragor am hyn ar dudalen 9. Roedd blwyddyn diwethaf yn llawn o llawer o gyflawniadau yr ydym yn hynod falch ohonynt gallwch darllen ein addroddiad ciplun or trosolwg o blwyddyn 2023. Am y tro, rydym am ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi Diabetes UK Cymru, boed hynny trwy ddod i'n digwyddiadau, gwirfoddoli, rhoddi'n ariannol, rhannu eich stori, ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd. Mae gennym lawer i ddod yn 2024 ac ni allwn aros i ddechrau. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen rhifyn y Gaeaf. Mae croeso i chi anfon eich syniadau am storïau neu eich adborth, trwy neges e-bost i walespress@diabetes.org.uk

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD Ein Cyfeiriad Diabetes UK Cymru Global Reach Dunleavy Drive Cardiff CF11 0SN

Llinell Gymorth Diabetes UK Ffoniwch ein llinell gymorth gyfrinachol i siarad â chynghorwyr helaeth eu hyfforddiant ar 0345 123 2399 rhwng 9am a 6pm yn ystod yr wythnos, neu anfonwch neges e-bost i helpline@diabete.org.uk.

Tudalen 2 | Diabetes UK Cymru

Dilynwch ni ar Instagram @DiabetesUKCymru

Dilynwch ni ar Twitter @DiabetesUKCymru

Cysylltwch â'n tîm y wasg Walespress@diabetes.org.uk

Dilynwch ni ar Facebook @DiabetesUKCymru


Cynnwys 04 Y Bwletin Newyddion diweddaraf Diabetes UK Cymru

10 Diwrnod Diabetes y Byd 2023 Darllenwch am ein digwyddiad

07 Y Mudiad Byw'n Dda Clywch gan ein Pencampwyr Byw'n Dda

11 Ailysgrifennu Stori Peter Diweddariadau ymgyrchoedd

08 Cyfarfod â'n Hyrwyddwr Cymunedol Darllenwch am Dr Mohammed Ali a'i waith gyda chymunedau yng Nghymru

13 Dewch i gwrdd â'n Codwyr Arian Gweithgareddau i godi arian

08 Gyda‘n Gilydd Math 1 Darganfyddwch beth may ein arweinwyr ifanc wedi bod i fynny at. 09 Grŵp Llanybydder yn dathlu ei ddeugeinmlwyddiant Darllenwch am hanes yr grwpiau ac sut mae nhw wedi dathlu yr milestone

Diabetes UK Cymru | Tudalen 3


y bwletin Newyddion diweddaraf Diabetes UK Cymru NICE yn cyhoeddi argymhellion gwerthuso terfynol o ran systemau dolen gaeedig hybrid ar gyfer diabetes math 1 Yn ôl ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fanylion canlyniad ei arfarniad o systemau dolen gaeedig hybrid – gan argymell y dylid cynnig y dechnoleg y genhedlaeth nesaf hon i gannoedd o filoedd o bobl sy'n byw â diabetes math 1 yng Nghymru a Lloegr dros y pum mlynedd nesaf i'w helpu i reoli eu cyflwr. Mae cynllun gweithredu pum mlynedd graddol yn cael ei ddatblygu yng Nghymru i sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i ddefnyddio'r dechnoleg yn hyderus ac yn ddiogel. Er bod hyn yn golygu na fydd pawb sy'n gymwys yn gallu cael y dechnoleg ar unwaith, bydd yn helpu i'w chyflwyno mewn modd teg. Rydym yn dal i aros i glywed pa gyllid sydd wedi'i sicrhau, pryd y bydd y broses gyflwyno'n dechrau, a pha ddyfeisiau fydd ar gael, ond byddwn yn siŵr o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi! Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr argymhellion yma.

Bron £3 miliwn wedi’i ddyfarnu i wyddonwyr Prifysgol Caerdydd i helpu i ddod o hyd i ffordd o wella diabetes math 1 Yn mis diwethaf cyhoeddodd Her Fawr Diabetes Math 1, sef partneriaeth arloesol rhwng Sefydliad Steve Morgan, Diabetes UK a JDRF UK, gyllid o £2.9 miliwn ar gyfer dau brosiect ymchwil mawr yng Nghymru, mewn ymgais i ddod o hyd i ffordd o wella diabetes math 1. Mae gwyddonwyr blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr James Pearson a Dr Danijela Tatovic, ymhlith chwe thîm yn y DU sydd heddiw wedi cael grantiau mawreddog gwerth dros £13 miliwn. Daw’r buddsoddiad hwn diolch i adduned hanesyddol gan Sefydliad Steve Morgan i roi £50 miliwn i gyflymu ymchwil addawol a allai ddatgloi triniaethau newydd i newid bywydau pobl sydd â diabetes math 1. Bydd ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn arwain timau amlddisgyblaethol i ymchwilio i sut i fynd i’r afael â’r ymosodiad ar y system imiwnedd sydd wrth wraidd diabetes math 1 gan ddefnyddio triniaethau newydd addawol, a elwir yn imiwnotherapïau, a allai atal neu arafu’r cyflwr. Gellir dod o hyd i grynodebau o bob prosiect sydd newydd ei ariannu, gan gynnwys y ddau brosiect gan Brifysgol Caerdydd, yma.

Tudalen 4 | Diabetes UK Cymru


A ydych yn adnabod arwyddion DKA? Bob blwyddyn ym mis Hydref rydym yn rhannu hanes Alastair Thomas, cerddor ysbrydoledig a thad i ddau o blant, a gollodd ei fywyd bum mlynedd yn ôl i Getoasidosis Diabetig (DKA), sef cymhlethdod o’i ddiabetes math 1. Ym mis Hydref 2018, roedd Ali’n teimlo’n sâl gyda’r hyn yr oedd yn tybio oedd yn stumog tost ac aeth i’w wely. Ar ôl teimlo'n sâl am ddiwrnod arall a chwyno am boen yn ei gefn, dechreuodd ymddangos yn ddryslyd, llewygodd ac aethpwyd ag ef i Ysbyty Caer, lle bu farw bum niwrnod yn ddiweddarach o DKA.

Mae Mam Ali, Dee, wedi bod yn ymgyrchu byth ers hynny i feithrin ymwybyddiaeth o DKA a'r camau y dylid eu cymryd mewn argyfwng. Ar y cyd â GIG Cymru, creodd ei fam daflen er mwyn i berthnasau, partneriaid a ffrindiau ddeall beth i'w wneud mewn argyfwng. Dywedodd Rachel Burr, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: “Rydym yn parhau i gefnogi Dee a chofio am Ali. Mae'r fenter hon yn dangos y gall unrhyw un sydd â diabetes math 1 ddioddef o DKA, ni waeth beth yw ei oedran. “Mae'n bwysig atgoffa pobl y gall heintiau a ffactorau eraill effeithio'n ddifrifol ar siwgrau gwaed a sbarduno'r cymhlethdod hwn sy'n bygwth bywyd, a bod gweithredu'n gyflym yn hanfodol.” Os hoffech gopi o'r daflen hon, anfonwch neges e-bost i wales@diabetes.org.uk.

Ymunwch â'n cymuned Instagram NEWYDD, sef Math 1 Gyda'n Gilydd! Ym mis Tachwedd lansiwyd ein tudalen Instagram newydd, Together Type 1 Cymru | Gyda'n Gilydd Math 1! Mae’r dudalen hon yn lle i bobl ifanc sy’n byw â diabetes math 1 yng Nghymru fod gyda’i gilydd, dysgu, a chefnogi ei gilydd. Gall byw â diabetes math 1 fod yn rhwystredig ac yn unig ar adegau, ond yn Gyda'n Gilydd Math 1 rydym yn newid hynny. Dewch o hyd i ni ar Instagram @tt1_cymruwales.

Digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim ar ddiabetes a'r menopos Ym mis Ionawr bydd ein cydweithwyr yn nhîm Arfordir Deddwyrain Lloegr a Llundain yn cynnal digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim i bobl sy'n byw â diabetes a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Yn ymuno â nhw bydd y Nyrs Arbenigol Diabetes Gymunedol, Anne Eltringham Cox, o West Kent Primary Care, a fydd yn trafod y modd y mae'r menopos yn effeithio ar brofiad menywod o fyw â diabetes. Os hoffech ddod i'r digwyddiad hwn, anfonwch neges e-bost i SECoastandLondon@diabetes.org. uk.

Diabetes UK Cymru | Tudalen 5


Yr astudiaeth gyntaf o'i bath yn y byd i sgrinio oedolion ar gyfer diabetes math 1 yn agor ar gyfer recriwtio Ar Ddiwrnod Diabetes y Byd 2023, cyhoeddwyd yr astudiaeth gyntaf o'i bath yn y byd i nodi oedolion yn y boblogaeth gyffredinol sydd â risg uchel o ddatblygu diabetes math 1. Mae'r astudiaeth, a elwir y Risg o Ddiabetes Math 1 ymhlith Oedolion (T1DRA), bellach yn recriwtio 20,000 o oedolion, rhwng 18 a 70 oed, er mwyn dod o hyd i'r rhai sy'n debygol o ddatblygu diabetes math 1 yn y dyfodol. Mae'n cael ei arwain gan yr Athro Kathleen Gillespie ym Mhrifysgol Bryste. Roeddem wedi lansio astudiaeth debyg ar gyfer plant – o’r enw ELSA – yn 2022. Mae hyn yn golygu mai’r DU bellach yw’r wlad gyntaf yn y byd i gynnig gwasanaeth sgrinio diabetes math 1 ar gyfer plant ac oedolion, fel ei gilydd, yn y boblogaeth gyffredinol, a hynny mewn cyd-destun ymchwil. Gwyddom fod oedolion yn cyfrif am fwy na hanner y diagnosisau o ddiabetes math 1. Ond mae gwyddonwyr wedi astudio ei ddatblygiad ymhlith plant yn bennaf, felly nid oes yna ddealltwriaeth dda o ddiabetes math 1 sy'n dechrau ymhlith oedolion. Bydd T1DRA yn ateb cwestiynau pwysig am y modd y mae diabetes math 1 yn datblygu ymhlith oedolion a bydd yn rhoi’r darlun cyntaf erioed i ni o faint o oedolion yn y DU sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu’r cyflwr. Bydd hefyd yn golygu y bydd pobl y canfyddir eu bod mewn perygl mawr o gael diabetes math 1 yn cael cymorth a'u monitro, ac yn cael mynediad i dreialon clinigol sy'n profi triniaethau ataliol newydd. Ariennir T1DRA gan Ymddiriedolaeth Elusennol Helmsley, ac fe'i gwnaed yn bosibl gan astudiaeth hwyaf y DU o ddiabetes math 1, a elwir yn Bart's Oxford Family study (BOX), yr ydym wedi'i hariannu dros y 40 mlynedd ddiwethaf. Dysgwch ragor am astudiaeth T1DRA a sut y gallwch gofrestru yma.

Diabetes UK Cymru yn bresennol yng Nghynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du, bum mlynedd ar hugain wedi’r gynhadledd gyntaf Yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon, aeth ein tîm Ymgysylltu â Chymunedau a Gwirfoddoli, Rhian a Becky, i Gynhadledd Cymdeithas Genedlaethol yr Heddlu Du yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, a hynny bum mlynedd ar hugain wedi’r gynhadledd gyntaf. Yn y digwyddiad, rhannodd ein tîm wybodaeth ac adnoddau i helpu i gefnogi'r rhai sy'n byw â diabetes neu sydd mewn perygl o ddatblygu diabetes. Roeddem wrth ein bodd i gael ein gwahodd gan ein bod yn awyddus i sicrhau bod aelodau ein heddlu lleol yn wybodus am ddiabetes er mwyn iddynt allu helpu'r rhai yn eu timau yn ogystal â phobl yn y gymuned leol. Yn y digwyddiad roeddem wrth ein bodd i dderbyn plac hardd gan Brif Gwnstabl De Cymru, Jeremy Vaughn, yn arwydd o werthfawrogiad yr heddlu am ein cefnogaeth.

Tudalen 6 | Diabetes UK Cymru

A ydych yn gwybod sut i ddal draenog? Mae'r Seicolegydd Clinigol o Gymru, Dr Rose Stewart, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Anrhydeddus ar gyfer Seicoleg yng Nghymru, wedi ysgrifennu cyfres o lyfrau wedi'u hanelu at blant a theuluoedd sy'n byw â diabetes. Ar hyn o bryd mae pum llyfr yn ei chyfres – Diabetes Burnout, Not OK with Needles?, Diabetes Distress & Burnout for Parents & Carers, How to Manage a Mammoth a'i llyfr newydd ar gyfer 2023 – How to Hold a Hedgehog. Mae'r llyfr hwn yn adrodd hanes Aneesha, pêl-droediwr o fri sy'n dod i arfer â byw gyda Sid y draenog diabetes a'i holl ffyrdd pigog. Dywedodd Dr Stewart: “Mae wedi bod yn gyffrous iawn gweld Talking Type 1 yn datblygu o fod yn ddiddordeb angerddol i fod yn gyfres o lyfrau sydd ar gael yn rhyngwladol. Gobeithiwn y gall y llyfrau hyn helpu pobl â diabetes i gael mynediad at rywfaint o’r cymorth seicolegol y mae ei angen arnynt, ac yn bwysicaf oll, sylweddoli nad ydynt ar eu pen eu hunain!” Mae'r llyfrau am ddim i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru. Os hoffech eu cael, cysylltwch â'ch Nyrs Diabetes Arbenigol neu anfonwch neges e-bost i wales@diabetes.org.uk.


Grwpiau Lleol a Gwirfoddoli Newyddion a diweddariadau Hyrwyddwr Byw'n Dda, Lee Morgan, yn cefnogi pobl yn y Rhondda Mae Lee Morgan wedi byw â diabetes math 1 ers bron 40 mlynedd, ac mae’n gwybod yn iawn am y niwed emosiynol y gall ei achosi i unigolion a’u teuluoedd. Mae Lee wedi bod yn cefnogi Diabetes UK Cymru yn frwd ers 2019. Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi cwblhau taith gerdded 10 milltir o amgylch y Rhondda, wedi cwblhau ein Her Miliwn o Gamau, ac wedi bod yn rhan o’n digwyddiad ‘Rhy Aml Ar Goll’ lle creodd gyfres o ddelweddau yn amlygu effaith seicolegol byw â diabetes. Ym mis Gorffennaf 2023 ymunodd Lee Morgan â’n tîm o Hyrwyddwyr Byw’n Dda yng Nghymru, gan ei fod am wneud mwy i feithrin ymwybyddiaeth a chefnogi pobl yn ei gymuned leol. Yn ystod mis Tachwedd, sef Mis Ymwybyddiaeth o Ddiabetes, gosododd Lee stondin yn ei ysbyty lleol, Ysbyty Cwm Rhondda, i siarad â phobl am ddiabetes a rhoi gwybodaeth iddynt am fyw'n dda. Mae'n frwd dros feithrin ymwybyddiaeth a chefnogi unrhyw un sy'n byw â'r cyflwr. Rydym yn ddiolchgar i'w gael yn wirfoddolwr!

Grŵp Llesiant Castell-nedd yn mynd i'r afael â Diwrnod Diabetes y Byd yn ei Ganolfan Hamdden leol Cynhaliodd Nicola ac Anne o Grŵp Llesiant Castell-nedd ddiwrnod ymwybyddiaeth o ddiabetes yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd i ddathlu Diwrnod Diabetes y Byd. Drwy gydol y dydd cawsant lawer o sgyrsiau am ddiabetes ond hefyd am y camau bach y gall pobl eu cymryd i wella eu llesiant. Defnyddiwyd y cyfle hefyd i ledaenu'r gair am eu grŵp a'r gweithgareddau sy'n cael eu gwneud i gefnogi pobl yng Nghastell-nedd. Os ydych yn byw yn ardal Castell-nedd neu Bort Talbot a hoffech gwrdd ag eraill yn eich cymuned, dilynwch y grŵp ar Facebook yma.

Diabetes UK Cymru | Tudalen 7


Ein Hyrwyddwr

Cymunedol newydd

Yn ddiweddar croesawyd Dr Mohammed Ali, sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd, i’n swyddfeydd i gyflwyno tystysgrif iddo ar ôl dod yn un o Hyrwyddwyr Cymunedol Diabetes UK. Mae Dr Ali yn ffrind gwerthfawr i Diabetes UK Cymru ac fe'i hanrhydeddwyd â'r teitl hwn am ei waith mewn cymunedau ethnig leiafrifol lleol yn Ne Cymru. Yn gynharach eleni, dyfeisiodd Dr Ali gyfres o weminarau a digwyddiadau llesiant cymunedol amlieithog yn ystod Ramadan i roi cymorth a chyngor i bobl sydd mewn perygl o gael diabetes ac sy’n byw â diabetes yn y gymuned. Aethom i gefnogi Dr Ali yn nigwyddiad lansio’r ymgyrch hon yn y Senedd yng Nghaerdydd, lle'r oedd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yn bresennol, a oedd yn hynod gefnogol i’r fenter. Byddwn yn parhau i weithio gyda Dr Ali a Muslim Doctors Cymru i ddarparu cymorth a chyngor ynghylch ymprydio yn ystod Ramadan 2024.

Gyda’n Gilydd Math 1 Mae ein Harweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd yng Nghymru wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf. Ym mis Medi buom mewn digwyddiad ym Manceinion yn dathlu blwyddyn ers lansio’r rhaglen; roedd yn wych cael ein Harweinwyr Ifanc, Divya, Kia ac Alex yn cynrychioli Cymru. Daeth y digwyddiad â channoedd o bobl ifanc sy’n byw â diabetes math 1 o bob rhan o’r DU ynghyd i gwrdd a rhannu eu profiadau. Ym mis Tachwedd bu ein Harweinydd Ifanc, Kia, hefyd yn siaradwr gwadd ac yn banelwr yn ein Penwythnos Teuluol Diabetes Math 1 yng Nghasnewydd. Treuliodd Kia amser yn ateb llawer o gwestiynau gan rieni a theuluoedd, yn ogystal ag yn rhannu ei phrofiadau ei hun o fyw â'r cyflwr. Soniodd hefyd am raglen Math 1 Gyda'n Gilydd a pham ei bod mor bwysig iddi. Rhoddodd Divya gyflwyniad yn ein digwyddiad Ailysgrifennu Stori Peter, lle'r oedd pobl sy'n byw â diabetes math 1, eu teuluoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn bresennol. Siaradodd Divya am ei stori, am fod yn arweinydd ifanc gwirfoddol, ac am y rhaglen ieuenctid. Mae’r Arweinwyr Ifanc hefyd wedi bod i ddigwyddiadau cymdeithasol gyda phobl ifanc eraill sy’n byw â diabetes math 1 a drefnwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, megis Ninja Warrior yn Abertawe ac Ystafelloedd Dianc yng Nghaerdydd. Ac wrth gwrs, roeddem yn ddiolchgar dros ben ac yn hynod falch o gael ein Harweinwyr Ifanc i siarad yn ein digwyddiad Diwrnod Diabetes y Byd diweddar yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd.

Tudalen 8 | Diabetes UK Cymru


Grŵp Diabetes UK Llanybydder

yn dathlu ei ddeugeinmlwyddiant Ddydd Sul 19 Tachwedd 2023 cynhaliodd Grŵp Diabetes UK Llanybydder ddigwyddiad i ddathlu ei ddeugeinmlwyddiant! Cynhaliodd Grŵp Diabetes UK Llanybydder ei ddigwyddiad cyntaf er budd Diabetes UK Cymru yn ôl ym mis Chwefror 1983. Oherwydd y gefnogaeth enfawr a llwyddiant yr achlysur penderfynwyd ffurfio grŵp yn 1984 ar gyfer y gymuned leol. Dechreuodd y grŵp gynnal cyfarfodydd bob deufis gyda siaradwyr gwadd yn rhannu gwybodaeth a chyngor ynghylch diabetes. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r grŵp wedi codi dros £150,000, sydd wedi ariannu ymchwil hanfodol yng Nghymru ac wedi helpu meddygfeydd teulu lleol i brynu offer diabetes. Bu aelodau’r pwyllgor, Elizabeth, Ann, a Mr Jenkins, yn dathlu pen-blwydd y grŵp yng Nghlwb Rygbi Llanybydder gyda 40 o bobl o’r gymuned leol. Yn y digwyddiad, ymunwyd â nhw gan nyrsys diabetes pediatrig o Fwrdd Iechyd Hywel Dda a siaradodd am adnoddau SEREN Connect ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl ifanc sy'n trosglwyddo i wasanaethau oedolion. Daeth y tîm podiatreg draw hefyd i siarad am bwysigrwydd cadw eich traed yn iach, gan hefyd rannu llawer o awgrymiadau defnyddiol a chyngor. Trwy gydol y dydd bu Niaomh o’r Shared Plate yn arddangos sut i goginio dau bryd maethlon syml ond blasus. Aeth ein tîm Ymgysylltu â Chymunedau, Rhian a Becky, draw i rannu llawer o lyfrynnau gwybodaeth ac i siarad am y mudiad Byw’n Dda yng Nghymru. Roeddent hefyd yn darparu gwybodaeth i unigolion am adnodd 'Adnabod eich Risgiau' Diabetes UK.

Diabetes UK Cymru | Tudalen 9


Y Grŵp Trawsbleidiol ar ddiabetes yn lansio adroddiad newydd ar gyflwr gofal diabetes yng Nghymru ar Ddiwrnod Diabetes y Byd! Ar Ddiwrnod Diabetes y Byd, lansiodd Diabetes UK Cymru ‘Adolygiad Diabetes Cymru Gyfan’, adroddiad a luniwyd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes, sy’n adolygu tystiolaeth gan amlygu data, tueddiadau a phrofiadau cyfredol pobl yng Nghymru sy’n byw â diabetes ac sydd mewn perygl o'i ddatblygu. Mae'r adroddiad yn nodi meysydd hanfodol i'w gwella, gan nodi lle nad yw gwasanaeth a gofal yr hyn y dylent fod, a darparu 20 o argymhellion ar gyfer gweithredu. Mae'r argymhellion a nodwyd yn cwmpasu ystod eang o feysydd, gan gynnwys ymwybyddiaeth, mynediad at ddata, cydweithredu rhwng gwasanaethau gofal iechyd, lleihau gordewdra, cymorth i'r gweithlu, gofal seicolegol, technoleg, addysg, a chynaliadwyedd o ran cyllid. I gael rhagor o wybodaeth darllenwch y crynodeb a'r argymhellion yma. Lansiwyd yr adroddiad yn Adeilad y Pierhead yng Nghaerdydd gan noddwr ein digwyddiad a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, Jayne Bryant AS. Clywsom hefyd gan y Gweinidog dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Eluned Morgan, a Chyfarwyddwr Diabetes UK Cymru, Rachel Burr. Roedd y digwyddiad yn arbennig iawn gan fod ein Harweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd, Divya, Kia, Caitlin, Mya, Gareth ac Alex wedi ymuno â ni i rannu eu straeon a’u profiadau o fyw â diabetes math 1. Roedd eu straeon yn hynod o bwerus ac ysbrydoledig wrth iddynt dynnu sylw at yr effaith ddifrifol y mae diabetes yn ei chael ar eu bywyd bob dydd, a'r gwaith gwych y mae ein clinigwyr yn ei wneud yn ddyddiol i'w cefnogi. Daeth dros 100 o bobl i’r noson, gan gynnwys pobl sy’n byw â diabetes, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, elusennau, a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru. Roedd gennym hefyd stondinwyr yn arddangos eu gwaith anhygoel yn ystod y noson, gan gynnwys ein Harweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd, Kidney Research UK, Aren Cymru, SEREN Connect, ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Tudalen 10 | Diabetes UK Cymru


Rhoi Diwedd ar Ddiabetes Gyda'n Gilydd!

Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig 'Ailysgrifennu Stori Peter'

Yn 2023, fe wneathom hefyd wedi troi Cymru’n las gyda’n Her Rhoi Diwedd ar Ddiabetes, a welodd lawer o bobl ledled Cymru yn paentio eu hewinedd yn las i ddangos i bobl eraill sy’n byw â diabetes nad ydynt ar eu pen eu hunain! Roedd yn wych gweld ysgolion cynradd, busnesau, cyd-weithwyr, a hyd yn oed meithrinfeydd yn cymryd rhan eleni.

Yn ôl ym mis Medi, lansiwyd ein hymgyrch 'Ailysgrifennu Stori Peter' i feithrin ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau diabetes math 1 a phwysigrwydd diagnosis cynnar mewn Meddygfeydd Teulu ledled Cymru. Er mwyn gwneud hyn anfonwyd dros 400 o becynnau adnoddau meddygon teulu a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ddiabetes math 1, am sut i wneud diagnosis a chyfeirio cleifion, ac yn bwysicaf oll, nodyn atgoffa o ran – Cofiwch y 4T – toiled, teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, teneuach! Ers i ni lansio'r ymgyrch, rydym wedi gallu gweithio'n agos gyda llawer o feddygfeydd teulu ledled Cymru a meithrin ymwybyddiaeth o ba mor ddifrifol yw diabetes. Cawsom wybod yn ddiweddar fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn bwriadu darparu gweminarau addysgol am y 4T i glinigwyr rheng flaen, a'i fod hefyd wedi dosbarthu pecynnau cychwynnol yn ymwneud â chetonau a mesuryddion glwcos i’w holl feddygfeydd i’w rhoi i gleifion yr amheuir bod ganddynt ddiabetes math 1. Mae hyn yn ganlyniad hynod o gadarnhaol; fodd bynnag, nid ydym am i'r gwaith hwn ddod i ben yn y fan hon! Dyna pam y mis diwethaf yr oeddem wedi cynnal cystadleuaeth Cerdyn Nadolig, yn gofyn i blant sy'n byw â diabetes math 1 yng Nghymru anfon eu creadigaethau Nadolig atom. Bydd y dyluniad buddugol yn cael ei anfon at yr holl feddygon teulu yng Nghymru i'w hatgoffa am yr ymgyrch a'r ffyrdd y gallwn gefnogi eu hymarfer. Cawsom lawer o geisiadau gwych gan blant o bob cwr o Gymru. Pleidleisiodd ein panel o Arweinwyr Ifanc Math 1 Gyda’n Gilydd yng Nghymru dros eu tri dyluniad gorau. Dyma ddyluniad buddugol George, 7 oed o Gaerdydd.

Diabetes UK Cymru | Tudalen 11


Cwrdd â'n codwyr arian

Gyda’i gilydd, trefnodd Charlotte a Christine noson bingo diabetes, cwis cerddorol, a diwrnod diabetes yng Nghanolfan Gymunedol y Fron. Dywedodd Charlotte, “Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Ganolfan Gymunedol i feithrin ymwybyddiaeth o ddiabetes gan nad yw cynifer o bobl hyd yn oed yn gwybod bod ganddynt ddiabetes, ac nid yw’r rhai sydd newydd gael diagnosis yn ei ddeall. Mae’n gyflwr mor gymhleth”.

Wythnos Codi Arian i Ddiabetes Charlotte a Christine Yn 2023, yn ystod Wythnos Diabetes penderfynodd ein cefnogwr, Charlotte, ymuno â’i ffrind, Christine, i gynllunio wythnos o weithgareddau codi arian yn ei chymuned leol. Gan fod Charlotte wedi bod yn byw â diabetes math 1 ers dros 16 mlynedd, roedd yn awyddus i helpu eraill sy'n byw â'r cyflwr gan ei bod yn gwybod pa mor rhwystredig a heriol y gall fod. Dywedodd Charlotte, “Mae'n rhwystredig ceisio rheoli fy niabetes, yr uchafbwyntiau a'r isafbwyntiau a'r pryder am y niwed rwy'n ei achosi i'm corff er fy mod yn gwneud fy ngorau. Rwyf i, ynghyd â miliynau o bobl eraill, am gael ffordd o wella diabetes”.

Tudalen 12 | Diabetes UK Cymru

Yn ymuno â nhw yn y Ganolfan Gymunedol oedd nyrsys diabetes Gwynedd, a ddosbarthodd lyfrynnau a oedd yn cynnwys gwybodaeth am ddiabetes, ac Alan Thomas o Dîm Podiatreg Betsi Cadwaladr, a siaradodd am bwysigrwydd gofalu am eich traed. Er mwyn helpu i godi arian yn y digwyddiad, cawsant arwerthiant cist car, arwerthiant cacennau, a chynhaliodd tîm Cimera weithdy syrcas i blant ac oedolion. Cododd wythnos gweithgareddau diabetes Charlotte a Christine swm gwych o £678 i Diabetes UK Cymru. Dywedodd Charlotte,

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr; rwy’n falch o’r swm y llwyddwyd i’w godi mewn cymuned mor fach. Codwyd llawer o ymwybyddiaeth o salwch sy'n newid bywydau nad oes modd ei wella ar hyn o bryd


Seiri rhyddion

Cyfrinfa penybont yn Cefnogi Diabetes UK Cymru

Eleni roeddem wrth ein bodd i gael ein henwebu'n un o elusennau’r Seiri Rhyddion ar gyfer y flwyddyn hon gan Feistr Cyfrinfa Penybont, Kevin Robertson. Y Seiri Rhyddion yw un o sefydliadau cymdeithasol ac elusennol hynaf y byd ac mae i'r sefydliad dros 200,000 o aelodau yng Nghymru a Lloegr. Cyfrannodd aelodau Cyfrinfa Penybont at amrywiaeth o weithgareddau codi arian. Trwy'r elw hwn, ynghyd â dwy noson gymdeithasol lwyddiannus iawn, cyfrannodd Kevin a'i wraig Maddie dros £1,000 i Diabetes UK Cymru. Dywedodd Kevin, “Mae hon yn elusen bwysig i fy ngwraig, Maddie, a minnau, gan fod diabetes wedi effeithio ar ein teulu ni”. Dywedodd Maddie, “Rydw i wedi gweithio mewn ysgolion ac mae diabetes math 1 arnaf i, felly rwy’n sylweddoli'r angen i sicrhau diagnosis cywir a chyflym o ddiabetes”. Dywedodd Kevin, “Mae Maddie a minnau’n falch iawn o weld y Gyfrinfa'n cefnogi’r achos hwn. Gall y rheiny sy'n wynebu amgylchiadau heriol gael cymorth gan Diabetes UK Cymru, a gwyddom y bydd yr elusen yn gwneud defnydd da o'r cyfraniad hwn i gefnogi ei gwaith.’ Dywedodd Stiward Elusen y Gyfrinfa, Bill Wilson, "Rwy'n byw â diabetes fy hun, felly sylweddolaf yr angen i gefnogi gwaith yr elusen hon sy'n cynorthwyo pobl trwy ddarparu cyngor, gofal a chymorth, a hynny trwy ymchwil feddygol." Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael iawn hon a dymunwn ddweud diolch enfawr i aelodau Cyfrinfa Penybont am eu cefnogaeth.

Tîm Pêl-rwyd Blaenau Ffestiniog yn cynnal digwyddiad codi arian dros y Nadolig ar gyfer Diabetes UK Cymru I ddathlu Mis Ymwybyddiaeth o Ddiabetes, cynhaliodd Tîm Pêl-rwyd Blaenau Ffestiniog ddigwyddiad codi arian gwych. Daeth chwe thîm pêl-rwyd at ei gilydd i gynnal diwrnod Nadoligaidd llawn hwyl a sbri, gwerthwyd llawer o de a chacennau, paentiwyd wynebau, a chynhaliwyd raffl a oedd yn cynnwys llawer o wobrau! Codwyd swm gwych o £500 ar gyfer Diabetes UK Cymru. Diolch i bawb a gefnogodd y diwrnod ac a gyfrannodd!

Diabetes UK Cymru | Tudalen 13



Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.