RHAGLEN 2021/22
CROESO
Dyma ni eto, yn barod i rannu ein rhaglen newydd o waith am y 5 mis nesaf. Wrth i ni barhau i fyw trwy’r pandemig, byddwn ni’n mynd mewn i’n cymunedau, yn cyd-weithio gyda phartneriaid ac yn teithio ledled y wlad i ddathlu persbectif ein pobl ifanc. THEATR x RAP x POP Byddwn yn teithio theatrau Cymru gyda chynhyrchiad newydd sbon ym mis Mawrth. Yn gyfuniad o theatr, rap a phop, mae Ynys Alys yn archwilio pwy ydan i mewn amseroedd o newid mawr. Mae’r gwaith wedi ei ddatblygu gyda’r cerddor Casi Wyn, y rapiwr Lemfreck, y cynhyrchydd sain Alex Miedo a’r dramodydd Gareth Evans-Jones. Datblygwyd cysyniad Ynys Alys mewn ymateb i ‘chants’ ar drip bws i Fanceinion gyda Chwmni Ifanc Frân Wen cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Dechreuon ni greu cynhyrchiad am annibyniaeth i Gymru ond yn dilyn cyfnodau dwys o ymchwil a datblygu, daeth i’r amlwg bod bod lot mwy nag annibyniaeth angen ei drafod…...a beth mae hynny’n ei olygu mewn gwirionedd? PARTNERIAETHAU NEWYDD Mae’r partneriaethau strategol a chreadigol newydd gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd a GISDA yn hynod o gyffrous. Bydd y prosiectau Nabod a Dim Byd Fatha Chdi yn rhoi cyfle i ddyrchafu lleisiau pobl ifanc drwy cyd-greu a gwthio newid yn ein cymdeithas. Bydd sŵn mawr i’w glywed ar draws Gogledd Cymru yn ystod y misoedd felly byddwch yn barod i wrando. SCAFF FYNY Newyddion cadarnhaol arall ydi bod yr adeiladwyr wedi cychwyn gwaith ar ein cartref newydd ym Mangor. Bydd Nyth yn hwb i bobl ifanc, artistiaid a’r gymuned ehangach i ddod at ei gilydd, i gysylltu, herio, creu a rhannu trwy’r celfyddydau. Fel rhan o’r gwaith paratoi rydyn ni wedi symud i siop yng Nghanolfan Siopa Deiniol yng nghanol Bangor. Mae ein drws wastad ar agor - galwch heibio i ddeud helo, am baned ac i rannu syniadau. Gethin Evans. Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen.
YNYS ALYS YNYS ALYS YNYS ALYS YNYS ALYS CYNHYRCHIAD
YNYS ALYS
FRANWEN.COM/YNYSALYS
RHAGLEN
Gyda chefnogaeth Pontio
Mae theatr, cerddoriaeth bop a rap yn gwrthdaro yn y cynhyrchiad Cymraeg
hwn sy’n dilyn merch ifanc wrth iddi fynd ati i chwilio am ei hannibyniaeth.
Mae’n bryd i Alys ddechrau byw ei bywyd gorau. Ond caiff ei chaethiwo mewn hen hunlle’ cyfarwydd, anghyfarwydd. All hi goncro ei hofnau? All hi fod yr Alys y mae hi eisiau bod? Mae Ynys Alys yn archwilio pwy ydyn ni mewn adegau o newid a’r hyn rydyn ni wir yn gobeithio dal gafael arno mewn byd newydd. TÎM CREADIGOL Teithio ledled Cymru 17 Mawrth - 9 Ebrill 2022.
Cyfarwyddwr: Gethin Evans
PARTNERIAID
Cyfansoddi a Lyrics: Casi Wyn, Lemfreck ac Alex Miedo
Gyda chefnogaeth Pontio.
Cyfarwyddwr Cyswllt: Hannah McPake
Dramodydd: Gareth Evans-Jones
T O C Y N N A U F R A N W E N . C O M / Y N Y S A LY S 3
FRÂN WEN
NAPOD NABOD NABOD NABOD
FRÂN WEN
PROSIECT
NABOD
FRANWEN.COM/NABOD
RHAGLEN
Mewn partneriaeth â GISDA
Edrychwn ymlaen i gychwyn o ddifri ar y bartneriaeth hefo Gisda, elusen lleol sy’n gwneud gwaith gwych yn cefnogi pobl ifanc digratref a phobl ifanc bregus Gogledd Orllewin Cymru. Bydd y prosiect Nabod yn mynd ati i ddyrchafu lleisiau pobl ifanc sy’n derbyn cefnogaeth gan yr elusen drwy gyd-greu theatr gonest a byw sy’n annog newid cymdeithasol. Trwy ddod â chydweithio, ymgysylltu a hyfforddiant i frig y broses, bydd allbwn artistig arloesol, gwreiddiol a pherthnasol yn dod i’r amlwg fydd â gwaddol pellgyrhaeddol. PARTNER GISDA
4
ARTISTIAID ARTISTIAID ARTISTIAID ARTISTIAID PROSIECT
DATBLYGU ARTISITIAID
FRANWEN.COM/DATBLGYUARTIST
RHAGLEN
Mewn partneriaeth â Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Rhaglen datblygu artisitiad i
archwilio dulliau newydd i hoelio sylw cynulleidfaoedd theatr.
Gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ‘sgwennwyr newydd llynedd, byddwn yn parhau gyda’r bartneriaeth gyda Eisteddfod Genedlaethol Cymru i ddatblygu artistiaid theatr newydd. Rydym eisoes wedi comisiynu tri darn newydd o waith o raglen y llynedd, felly mae’n ein cyffroi ein bod yn gallu ymestyn rhaglen eleni i wneuthurwyr theatr o bob disgyblaeth. Bydd ffocws penodol eleni ar dechnoleg a theatr awyr agored a bydd y cyfle yn cynnig hyfforddiant, mentoriaeth, datblygu rhwydwaith a chreu darn newydd i’w rannu yn yr Eisteddfod yn 2022. Gwyliwch y gofod am fanylion y ffenest recriwtio yn y flwyddyn newydd. PARTNER Eisteddfod Genedlaethol Cymru
5
FRÂN WEN
CWMNI IFANC CWMNI IFANC CWMNI IFANC CWMNI IFANC DIM BYD ‘THA CHDI
FRANWEN.COM/DIMBYD
RHAGLEN
Mae gweithgaredd amrywiol ein
Cwmni Ifanc yn parhau yma yn Frân Wen.
Mae’r platfform yn gyfle i bobl ifanc ddod at ei gilydd i drafod,
cysylltu a mynegi eu hunain, ac yn yn sylfaen i holl waith Frân Wen. O Ionawr i Ebrill, byddwn yn cyd-weithio gyda Ieuenctid Gwynedd ar Dim Byd ‘tha Chdi, prosiect fydd yn ehangu ar ein gwaith gyda phobl ifanc o gymunedau amrywiol ar draws y sir. Gan greu hybiau hybiau o bobl ifanc, byddwn yn hybu llesiant a chyd-rannu, gan drafod y gorffennol, y dyfodol, a rwan hyn. Byddwn yn dod â’r hybiau yma o bobl ifanc at ei gilydd er mwyn creu digwyddiad slam arbennig, fydd yn cyfuno’r holl leisiau yma mewn profiad swnllyd, lliwgar, a disglair - ac yn creu sŵn mawr fydd yn arwain at ddigwyddiad rhannu fis Ebrill 2022!
6
FRÂN WEN
AELODAU CYSWLLT AELODAU CYSWLLT AELODAU CYSWLLT
FRANWEN.COM/AELOD-CYSWLLT
RHAGLEN
Rydym hefyd wedi lansio cynllun Aelodau Cyswllt newydd sbon.
Mae’r cynllun yn rhoi criw o bobl ifanc wrth wraidd popeth mae’r cwmni’n ei wneud o ddatblygiad ein rhaglen artistig i’r modd yr
ydym yn cyfathrebu, ac o ddatblygiad ein cartref newydd Nyth i’n herio i sicrhau cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn. Dilynwch hynt a helynt yr aelodau cyswllt yn y flwyddyn newydd.
7
FRÂN WEN
LLWYBRAU LLACHAR LLWYBRAU LLACHAR PROSIECT
LLWYBRAU LLACHAR gyda chefnogaeth Plant Mewn Angen
FRANWEN.COM/LLWYBRAU-LLACHAR
RHAGLEN
Mae’r cynllun datblygu to newydd o artistiaid ifanc gydag anghenion
ychwanegol yn mynd o nerth i nerth. Yn y flwyddyn newydd byddwn yn recriwtio ar gyfer y prosiect Llwybrau Llachar, sy’n gyfle i bobl ifanc gydag anghenion
ychwanegol gysylltu gydag artistiaid proffesiynol i greu gwaith sy’n ymateb i’w dyheadau creadigol.
Bydd y criw yn ogystal yn cyfarfod yn fisol fel grŵp i ddatblygu prosiect ar y cyd ac yn edrych ymlaen i rannu eu gwaith yn Ebrill 2022.
8
FRÂN WEN
FRANWEN.COM