Rhaglen Frân Wen 2020/21

Page 1

RHAGLEN 2020


Heddiw, gyda chyhoeddiad ein rhaglen newydd, dwi’n edrych ymlaen at gofleidio ffyrdd newydd o weithio, cysylltu a chreu amrywiaeth o brosiectau a chynyrchiadau uchelgeisiol a chyfoes. Gan gyd-weithio ochr yn ochr ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Theatr Genedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, Llenyddiaeth Cymru a Pontio a rhai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru, hon yw ein rhaglen fwyaf cydweithredol erioed! Boed yn gynhyrchiad neu gwaith mewn datblygiad fel rhan o’n rhaglen newydd ni Frân Wen Sgratsh, dros y 6 mis nesaf byddwn yn tynnu hen glasuron yn gria’, yn rhoi stamp Frân Wen ar sioe gerdd ac arbrofi gyda theatr gig am y tro cyntaf. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda Chwmni Ifanc Frân Wen mewn ffyrdd hollol newydd, gan eu gosod wrth galon ein rhaglen er mwyn sicrhau’r cyfleon mwyaf cynhwysol a heriol i’n pobl ifanc. Heb anghofio wrth gwrs am ddatblygiadau Nyth - ein cartref newydd sbon ym Mangor. Byddwn yn ogystal yn parhau gyda’n prosiectau cymunedol sydd yn yn rhoi cymaint o foddhâd i ni fel cwmni ac yn gwneud gwahaniaeth i gymunedau arbennig o bobl gan gynnwys Llwybrau Llachar, Nythu ac Encil. Gydag ystod amrywiaeth ein rhaglen, yr hyn sy’n gyson ydi’r uchelgais i arbrofi, i greu theatr eofn a chynnig cyfleon i artistiaid a chymunedau gysylltu. Beth bynnag fo’r amgylchiadau, bydd ein rhaglen yn digwydd ac yn cael ei rannu gyda chi - boed yn fyw, yn ddigidol neu ba bynnag ffordd arall! A dydan ni methu aros am eich ymateb! Cadwch yn saff a chofiwch bod drws Frân Wen wastad ar agor am sgwrs byddem wrth ein boddau clywed gennych chi. Gethin Evans Cyfarwyddwr Artistig Frân Wen


Frân Wen

RHAGLEN

CYFNOD Wrth i ni edrych ymlaen i’r cyfnod nesaf, rydym am gymryd eiliad i adlewyrchu ar yr hyn rydym wedi ei wneud a’r bobl rydym wedi gweithio gyda nhw yn ystod yr 16 wythnos ddiwethaf. Rydym yn eithriadol o falch o fod wedi cynnig 31 o gomisiynau i 24 o artistiaid, rhai sy’n gyfarwydd iawn i ni yn Frân Wen ac eraill sy’n newydd i’r cwmni ac i’r sector, wedi cyflwyno 119 o weithdai i 1847 o bobl ifanc, wedi cynnal

4,305

perfformiad theatr digidol byw am y tro cyntaf gan gyrraedd cynulleidfa

119 1847

o 4,305 o ben draw Pen Llŷn i bellafoedd America, Sbaen a’r Almaen a chefnogi dwy artist ifanc newydd llawn addewid. Ein gobaith mwyaf yw ein bod wedi chwarae rhan fechan yn gwneud y diwrnodau hir ac ynysig yn y cyfnod anodd yma ychydig yn haws a gobeithiol. Ni fuasai hyn wedi bod yn bosib heb gydweithrediad ein hartistiaid, pobl ifanc a’n cymunedau felly diolch o galon i bob un am ymuno hefo ni ar y daith. Hoffem ddiolch yn fawr

31

i’n prif ariannwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn am gredu yn ein gweledigaeth a’n cefnogi i barhau i fentro ac

24 artistiaid

estyn allan mewn cyfnod mor gythreulig o anodd.

3


Frân Wen

CYNHYRCHIAD

FAUST

gyda Nia Lynn a Chwmni Ifanc Frân Wen

FRANWEN.COM/FAUST

RHAGLEN

Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Pontio

Cynhyrchiad theatr rhyngweithiol wedi ei ysbrydoli gan y chwedl glasurol Almaeneg am ddyn sy’n gwerthu ei enaid i’r diafol. Mae’r cynhyrchiad yn dod â chymuned o gyfranogwyr ifanc ac actorion proffesiynol at ei gilydd i archwilio’r angen dynol am fwy, yr ysfa am bŵer a phrofiadau sydd yn gwthio ffiniau i’r eithafion. Fel aelodau’r gynulleidfa byddwch yn cael eich rhyddhau a’ch cymell i brofi

Tîm creadigol

teimladau hollol unigryw. Cewch eich arwain i fyd hudolus ond tywyllodrus

Cyfarwyddwr Creadigol: Nia Lynn

Faust lle bydd trywydd y stori yn eich dwylo chi. Beth fyddwch chi’n barod i’w

Cyd-gyfarwyddwr: Gethin Evans

aberthu ac i brofi o’r newydd? Pa mor bell wnewch chi fentro y tu hwnt i’r hyn

Ar y cŷd gyda Chwmni Ifanc Frân Wen

sy’n gyfarwydd a chyfforddus? Partneriaid Gan ddefnyddio addasiad T Gwynn Jones fel ysbrydoliaeth, dyma gynhyrchiad

Cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru mewn partneriaeth â

sy’n cofleidio cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol er mwyn cynnig profiad

Pontio.

theatrig hollol newydd, arbrofol ac annisgwyl i’r gynulleidfa. DYDDIAD Gwanwyn 2021

Mwy o wybodaeth ynglyn â recriwtio a chastio i’w gyhoeddi’n fuan. 4


Frân Wen

DIGWYDDIAD

FRÂN WEN SGRATsH

FRANWEN.COM/SGRATCH

RHAGLEN

Trwy gydol tymor yr hydref byddwn yn agor cil y drws ar gynyrchiadau’r dyfodol trwy gynnal nosweithiau Sgratsh. Bydd y digwyddiadau sgratsh yn cynnwys darlleniad o waith mewn datblygiad a sgwrs anffurfiol am y cysyniadau, y straeon a’r prosiectau sy’n ein cadw’n brysur a’n hysbrydoli yn Frân Wen. Rydym yn hynod o falch o gydweithio gyda rhai o artistiaid mwyaf blaengar ac uchelgeisiol Cymru i greu cynnyrch beiddgar a pherthnasol i’n cynulleifaoedd Bydd Sgratsh yn gyfle i ni sicrhau ein bod yn dod â’n cynulleidfaoedd chwilfrydig ac angerddol ar y daith gyda ni. Boed ar-lein neu’n fyw, mewn criwiau bach neu fawr – rydym yn ymrwymo i rannu ein stori gyda chi ym mha bynnag ffordd sy’n addas. Manylion lleoliadau ac amseroedd i’w cyhoeddi’n fuan!

5


Frân Wen

RHAGLEN

6


Frân Wen

MEWN DATBLYGIAD

Diwrnod Arall gyda Casi Wyn a Gethin Evans

FRANWEN.COM/DIWRNODARALL

RHAGLEN

Gyda chefnogaeth Theatr y Sherman

Cyfuniad trydanol o theatr byw a cherddoriaeth bop fydd yn herio’r cwest am annibyniaeth. Theatr ar ffurf gig sy’n dilyn stori merch deunaw oed, wrth iddi ddychwelyd adref i bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth cyntaf Cymru. Hunaniaeth, annibyniaeth, tensiynau a gwrthryfel. Sut brofiad yw cymryd y naid honno? Petae’n cael ei gynnig, a fyddech chi wir yn ei gymryd? Tîm creadigol Dramodydd a chyfansoddwr: Casi Wyn Cyfarwyddwr: Gethin Evans Partneriaid Gyda chefnogaeth gan Theatr y Sherman.

7


Frân Wen

MEWN DATBLYGIAD

BRANWEN

gyda Seiriol Davies, Hanna Jarman, Elgan Rhys a Gethin Evans

FRANWEN.COM/BRANWEN

RHAGLEN

Mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru

Un o’n hoff chwedlau wedi ei hailddehongli ar gyfer y chwalfa o fyd sydd ohoni heddiw. Sioe gerdd gyfoes, ffyrnig a ffrwydrol. Wrth i’r ddeyrnas syrthio’n ddarnau a’r hen genhedlaeth ballu, a phopeth oedd unwaith mor gadarn ddiflannu, mae dwy chwaer ifanc yn gweld eu cyfle. Tîm creadigol Os gallant orchfygu’r storm gallant gipio grym, newid y byd; a chael

Cerddoriaeth, lyrics a deunydd ychwanegol: Seiriol Davies

gafael ar yr hyn sydd wedi ei wadu iddynt gyhyd .. eu llais.

Sgript: Elgan Rhys a Hanna Jarman Cyfarwyddwr: Gethin Evans

Ond beth fydd yr aberth? Partneriaid Mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru.

Stori anarchaidd am gariad, pŵer, teyrngarwch a’r pethau bach a ddywedwn wrth ein hunain i wneud i ni gredu ein bod mewn rheolaeth.

8


Frân Wen

MEWN DATBLYGIAD

Popeth Ar y Ddaear

FRANWEN.COM/paydd

RHAGLEN

gyda Nico Dafydd, Marged Tudur ac Osian Williams Mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru

Cynhyrchiad uchelgeisiol sy’n cyfuno ‘spoken word’, cerddoriaeth a theatr. Dyma gynhyrchiad fydd yn archwilio ymateb unigolion pa fo’u rhyddid a’u hewyllys rydd yn cael eu cymryd oddi arnynt a beth sydd yn digwydd pan nad oes dim dewis? Tîm creadigol Geiriau: Marged Tudur

Dyma stori am ffydd, colledion a chryfder pobl yn wyneb trychineb

Cyfarwyddwr Creadigol: Nico Dafydd

catastroffig.

Cyfansoddwr: Osian Williams Ar y cŷd gyda Chwmni Ifanc Frân Wen Partneriaid Mewn partneriaeth ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru.

9


Frân Wen

RHAGLEN

*GALWAD AGORED* Bydd datblygiad POPETH AR Y DDAEAR yn cynnwys 3 comisiwn i sgwennwyr ifanc fydd yn cynnwys rhaglen mentora gyda’r tîm creadigol. Gwyliwch y gofod am gyhoeddiad y comisiynau yn fuan. Mae Llenyddiaeth Cymru, Frân Wen ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi galwad agored am awduron ifanc dan 30 i ymuno â’r tîm creadigol i sgwennu Popeth ar y Ddaear.

Am rhagor o fanylion ewch draw i Maes b o bell ar Insta Live am 8pm ar nos Wener, 7 Awst.

10



Frân Wen

PROSIECT CYMUNEDOL

gyda chefnogaeth Plant Mewn Angen

FRANWEN.COM/llwybrau-llachar

RHAGLEN

Yr haf yma bydd ein cynllun datblygu tô newydd o artistiaid ifanc gydag anghenion ychwanegol yn symud i fyd dawns, dylunio, cerddoriaeth a ‘sgwennu. Dan arweiniad artisitiad ysbrydoledig fel Meilir Williams, Cai Tomos, Casi Wyn a Gwyn Eiddior, a chefnogaeth gwirfoddolwyr ifanc bydd y bobl ifanc yn cael cyfle i ddatblygu eu maes diddordeb celfyddydol a’r penllanw fydd rhaniad cyhoeddus o’r gwaith yn yr hydref.

Bydd y criw yn ogystal yn cyfarfod yn fisol fel grŵp gyda’r amcan o

Gyda chefnogaeth Mantell Gwynedd a Comic Relief.

ddatblygu prosiect ar y cyd.

Fel dilyniant i’r prosiect Llwybrau Llachar, dyma gyfle i bobl ifanc rhwng 14 - 25 oed gyfarfod yn rheolaidd i ddatblygu eu celf unigryw trwy weithdai rhannu sgiliau a dosbarthiadau meistr gyda gwneuthurwyr theatr blaenllaw.

12


Frân Wen

PROSIECT CYMUNEDOL

FRANWEN.COM/NYTH

RHAGLEN

gyda Mari Morgan ac Elgan Rhys

Fel rhan o ddatblygiad ein cartref newydd ym Mangor, mae Nythu yn gweithio gyda chymuned o bobl dros 65 oed yn yr ardal leol. Gyda gweithdai yn digwydd dros y ffôn a thrwy lythyr, mae’r gymuned yn datblygu cyfrol, i’w chyhoeddi fis Awst eleni, sy’n edrych nôl ar y gorffennol er mwyn gwneud synnwyr a dathlu’r presennol.

13


Frân Wen

RHAGLEN

14


Frân Wen

RHAGLEN

DATBLYGU ARTISTIAID

DATBLYGU ARTISTIAID

#2020 // PYS MELYN

ENCIL

Gyda chefnogaeth Syniadau Mawr Cymru a M-Sparc

Fel rhan o brosiect pitsio syniadau digwyddiadau creadigol yn gynharach yn y flwyddyn, cefnogwyd y band Pys Melyn i ddatblygu cysyniad cyffrous i gyfuno gig a fideos byw.

Mae ein hymrwymiad i feithrin artistiaid ifanc yn bwysicach nag erioed. Ynghyd â’r alwad am ‘sgwennwyr ifanc fel rhan o brosiect Popeth ar y Ddaear, rydym hefyd yn ymrwymo i gynnig dau breswyliad yn flynyddol i hyd at ddau artist ifanc dan 25 oed ar y tro. Bydd y pecyn cefnogaeth yn cynnwys tâl cynhaliaeth, gofod ac adnoddau i greu a mynediad at fentoriaid proffesiynol.

Mae’r band sy’n bodoli islaw’r arwyneb cyffredin yn brysur gweithio ar y prosiect a bydd y manylion yn cael eu rannu ym mis Medi - felly gwyliwch y

Bydd manylion ymgeisio yn cael eu cyhoeddi fis Medi.

gofod!

#2020 Prosiect pitsio syniad creadigol i artisitiad ifanc.

Tra’n Aros Preswyliad artisitaid ifanc gyda Lauren Connelly a Hafwen Hibbard.

15


Frân Wen

RHAGLEN FRANWEN.COM/cifw

IFANC Mae Cwmni Ifanc Frân Wen yn blatfform i drafod, cysylltu a mynegi ac yn sylfaen ar gyfer ein holl waith yn Frân Wen. Ydych chi’n berson ifanc dan 25 oed sydd eisiau creu, cynhyrchu a rhannu theatr ochr yn ochr ag artistiaid proffesiynol ysbrydoledig - er enghraifft gyda Popeth ar y Ddaear a Faust.

Mae hefyd cyfleodd i bobl ifanc ddatblygu eu celfyddyd unigryw trwy cyfres o weithdai rhannu sgiliau a dosbarthiadau meistr gyda gwneuthurwyr theatr blaenllaw; profi’r theatr fwyaf perthnasol a beiddgar ar draws y DU a chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau, rhaglennu a llywodraethiant Frân Wen.

Rydym ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau ar gyfer y cwmni i’r flwyddyn nesaf, cysylltwch â ni drwy Instagram, Facebook neu Twitter os oes gennych ddiddordeb gwybod mwy. NID OES rhaid cael unrhyw brofiad, dim ond angerdd i drafod, rhywbeth i’w ddweud a’r awydd i ddarganfod rhywbeth newydd.

16


Frân Wen

RHAGLEN

X

17


FRANWEN.COM


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.