Coleg Gwent Canllaw Addysg Uwch 2017/18

Page 1

Meddwl mynd i’r brifysgol? Gall cymhwyster prifysgol fod yn nes nag ydych yn ei feddwl Roedd

98.7%

Mae

99%

10 1

Dewch i’n noson agored nesaf Dydd Mawrth 8 Tachwedd 2016 Dydd Mercher 18 Ionawr 2017 Dydd Mawrth 14 Mawrth 2017 Dydd Mercher 10 Mai 2017 Dydd Mawrth 27 Mehefin 2017

rheswm dros astudio Addysg Uwch ( AU ) yng Ngholeg Gwent

Ein partneriaethau cryf gyda Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerwrangon a Pearson.

2

Rydym yn lleol, felly byddwch yn arbed arian ar deithio a llety. Byddwch yn arbed amser i’w dreulio yn hytrach â theulu, neu yn y gwaith fel y gallwch leihau unrhyw ddyled ymhellach.

3

Gall ein cymwysterau AU arwain at botensial elw cynyddol, mwy o gyfleoedd a gyrfa sy’n rhoi mwy o foddhad. Gan eu bod yn berthnasol yn broffesiynol, gallent roi mantais gystadleuol i chi.

5-8YH Ym mhob campws

4

5

Mae ein cyrsiau fel arfer yn cynnwys dysgu yn y gweithle ac yn y coleg. Felly cewch sgiliau gyrfa a gwybodaeth benodol am ddiwydiant y chwilia cyflogwyr amdanynt. Bydd hyn yn hybu eich cyfleoedd o ganfod eich gyrfa ddelfrydol. Gallwch ennill cymhwyster annibynnol a fydd yn eich cynorthwyo i gychwyn eich gyrfa. Neu gallwch barhau â’ch astudiaeth i ennill gradd lawn o fewn 1 i 2 flynedd arall.

6

Mae ein hystod eang o bynciau ac opsiynau astudio yn golygu gallwch astudio yn llawn amser neu’n rhanamser. Ceir hyblygrwydd hefyd yn aml i gyd-fynd â gwaith neu ymrwymiadau eraill.

7

Mae gan ein darlithwyr ysbrydoledig wybodaeth wych a diweddar am y pwnc. Mae ganddynt brofiad addysg helaeth ynghyd â phrofiad diwydiant nodedig. Felly gallant roi cyngor da i chi ar sut i ganfod gwaith pan raddiwch.

8

Golyga meintiau dosbarthiadau llai y derbyniwch gymorth agos gan staff darlithio a’n staff cymorth ymroddedig. Mae ein campysau lleol yn gyfeillgar a chroesawgar.

9

Os ydych yn llwyddo i gwblhau cwrs a roddir gan un o’n prifysgolion partner, fe dderbyniwch dystysgrif a roddir gan y brifysgol. Cewch wahoddiad i seremoni raddio’r brifysgol.

10

Byddwch yn ymgeisio’n uniongyrchol i Goleg Gwent sy’n haws a mwy hyblyg nag UCAS. Efallai canfyddwch nad ydych â’r gofynion mynediad mae prifysgolion eu hangen, ond efallai y gallech gofrestru â ni.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.