Mae’n wych eich bod yn ystyried astudio â ni yn Coleg Gwent Bob blwyddyn mae miloedd o bobl fel chi yn mynd ymlaen i gyflawni pethau mawr – cael prentisiaeth, cael swyddi da a gwella eich rhagolygon ar gyfer y dyfodol. Bydd Prentisiaeth yn datblygu eich sgiliau ac yn ennill cymwysterau a gydnabyddir yn y diwydiant a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu i ddyfodol disglair. Felly edrychwch ar y canllaw hwn. Dewch draw i un o’n digwyddiadau agored, ewch i’n gwefan neu ffoniwch – rydym yma i fod o gymorth.
Gall prentisiaid hyfforddi hyd at lefel gradd a thu hwnt. Mae prentisiaid yn gweithio mewn rhai o’r meysydd technegol pellaf ac uchaf yn economi Cymru, fel peirianneg. Enillwch wrth ddysgu Gwyddwn nad yw dysgu llawn amser yn apelio i bawb. Os hoffech fynd yn syth i gyflogaeth ond eisiau cael y cymwysterau ar y cyd â’ch sgiliau a phrofiad newydd, ac wedi’ch cyflogi am fwy na 16 awr yr wythnos, gall Prentisiaeth fod yn addas i chi. Swydd iawn Rhowch eich sgiliau newydd ar waith yn eich gweithle, a dewch i’r coleg, sydd unwaith yr wythnos fel arfer. Cymhwyster go iawn Cymhwyster cenedlaethol a gydnabyddir gan gyflogwyr o amgylch y byd. Siec gyflog go iawn Nid yn unig y cewch brofiad o’r diwydiant, sgiliau gweithle a chymwysterau, cewch eich talu hefyd! (Yn unol â gofynion isafswm cyflog cenedlaethol) Dyfodol go iawn Erys 85% o Brentisiaid mewn gwaith pan gwblhânt eu Prentisiaeth. Mae 32% yn cael dyrchafiad o fewn 12 mis i orffen.
1
Rydym yn arbenigo mewn Prentisiaethau peirianneg ac adeiladu mewn: • • • • • • • • •
Peirianneg fodurol – cerbyd ysgafn a thrwm Peirianneg fodurol – trwsio corff cerbyd Peirianneg fodurol Peirianneg drydanol Weldio Gosod brics Gwaith saer coed Gosod trydanol Plymio
Gan ddibynnu ar eich cymwysterau presennol gallwch un ai wneud Prentisiaeth Sylfaenol (sy’n cyfateb i 5 TGAU gradd A-C) neu Brentisiaeth (sy’n cyfateb i 2 Lefel A).
Byddwch yn dilyn fframwaith penodol i anghenion diwydiant neu faes galwedigaethol penodol yr ydych wedi’i ddewis hyfforddi ynddo. Ynghyd â chael y sgiliau mae cyflogwyr eu heisiau a gwella eich cyfleoedd o gael swydd lawn amser wedi’ch hyfforddiant, cewch: • •
I wneud Prentisiaeth mae angen i chi: • Gael eich cyflogi yn y sector perthnasol, cael contract cyflogaeth a chael eich cyflogi yn unol â’r lleiafswm cyflog cenedlaethol • Byw ac/neu gael eich cyflogi yng Nghymru • Bod yn 16 oed neu hŷn a dim mewn addysg llawn amser • Bod yn ymroddedig i gyflawni’r cymwysterau sy’n
•
•
Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol yn darparu sgiliau yn benodol i feysydd galwedigaethol Tystysgrif Dechnegol – i danategu eich sgiliau ymarferol y byddech yn eu gwneud fel arfer fel rhyddhau am ddiwrnod neu am gyfnod byr ar un o’n campysau Sgiliau a chymwysterau trosglwyddadwy sy’n berthnasol i waith mewn cyfathrebu, cymhwyso rhif, TGCh, iaith Gymraeg a diwylliant a dinasyddiaeth Dealltwriaeth o hawliau a chyfrifoldebau gweithwyr a gweithdrefnau a strwythurau o fewn y gweithle
tanategu’r Brentisiaeth
2
Jay Barrett, prentis cerbyd modur yn gweithio yn Forza GB “Mae fy Mhrentisiaeth yn gyfle lle rwyf fi a’m cyflogwr ar ein hennill. Mae gennyf swydd lle rwyf yn cael sgiliau ymarferol, cymhwyster ac mae fy nghyflogwr yn fy hyfforddi yn y sgiliau mae eu hangen. Mae gan y cyflogwr fecanydd trwy hyfforddiant cost effeithiol. “Rwyf wrth fy modd gyda’m swydd. Rwy’n cael gweithio ar y ceir gorau fel Ferraris, Bentleys ac Aston Martins – gan eu trin, disodli prif gasgedi a gwaith technegol eraill. Rwyf hefyd yn mwynhau bod yn y coleg lle dysgwn am y theori y tu ôl i’r gwaith technegol – sut mae’r gwaith trydanol yn gweithio, sut mae peiriannau a throsglwyddo yn gweithio – pethau fel hynny. “Rwyf eisiau cymhwyso i Lefel 3. Yna rwy’n gobeithio yn Forza GB am ychydig flynyddoedd. Fy nghynllun hirdymor yw ymuno â’r Llu Awyr Brenhinol neu’r Llynges fel peiriannydd sef beth wyf wedi bod eisiau ei wneud erioed. Rwy’n gobeithio fod fy mhrofiad a’m cymwysterau fel prentis yn gwella fy nghyfleoedd o gael mynediad.”
3
Mae’n Prentisiaethau yn rhoi mantais gystadleuol i chi Ynghyd â datblygu’r sgiliau angenrheidiol a chymhwyso, gallwch fod â’r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau. Maent yn ffordd wych i chi feincnodi eich sgiliau ymysg y gorau yn y DU. Edrychant yn dda ar eich CV hefyd. Cymhwysodd dau o’n prentisiaid yn ddiweddar ar gyfer ein sgwad DU. Gallent fod â’r cyfle i arddangos eu sgiliau ar raddfa fyd eang yn WorldSkills yn Abu Dhabi yn 2017. Mae hyn yn gyflawniad gwych iddynt ac yn dystiolaeth o ansawdd ein Prentisiaethau.
Chwilio am gyflogwr Yn gyntaf oll byddwch angen bod yn gyflogedig cyn y gallwch gofrestru â ni. Os ydych mewn gwaith yn barod neu bod swydd gennych ar y gweill, mae hynny’n newyddion gwych. Os ddim, gall gwybod am y lleoedd iawn i chwilio am swyddi gwag wneud chwilio am Brentisiaeth yn llawer haws. Cewch fwy o wybodaeth a chyngor ar sut i ganfod swydd ar ein gwefan trwy sganio’r cod QR isod: Caiff eich cyflogwr fwy o wybodaeth ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk/employerinfo
Ymgeisiwch Wedi i chi gael eich cyflogi gallwch ymgeisio am Brentisiaeth yn y coleg. Gallwch gael ffurflen gais trwy: • Lawrlwytho un o’r adran Brentisiaethau ar ein gwefan • Ein ffonio ar 01495 333355 – yna fe yrrwn un i chi trwy’r post • Galw mewn i un o’n pum campws
Cyfweliad Fe wahoddwn chi i’r coleg am gyfweliad. Nid oes angen poeni am hyn. Rhown fwy o wybodaeth i chi am eich Prentisiaeth. Dyma’r cyfle perffaith i chi holi cwestiynau.
Cwblhewch Gytundeb Prentisiaeth rhwng y coleg, chi a’ch cyflogwr Gwnaiff un o’n Haseswyr Dysgu Seiliedig ar Waith drefnu ymweld â chi a’ch cyflogwr i drafod sut y gwnawn weithio gyda’n gilydd a beth yw cyfrifoldebau pawb.
Gwiriadau iechyd a diogelwch Bydd un o’n Cydlynwyr Iechyd a Diogelwch mewn cysylltiad i drefnu ymweliad â’ch gweithle i wneud y gwiriadau iechyd a diogelwch angenrheidiol – i sicrhau eich bod yn gweithio mewn amgylchfyd diogel.
Cofrestru Bydd angen i chi ddod i mewn a chofrestru. Sicrhawn eich bod chi a’ch cyflogwr yn gwybod y dyddiad a’r amser a manylion perthnasol eraill ymlaen llaw.
Wedi i chi ei llenwi gallwch: • Ei e-bostio at wbl@coleggwent.ac.uk • Ei phostio i WBL Coleg Gwent, Siambrau Brenhinol, 3ydd Llawr, Stryd Fawr, Casnewydd, NP20 1FZ • Galw mewn i un o’n pum campws
4
Mae Coleg Gwent yn rhan o grŵp o ddarparwyr hyfforddiant a cholegau addysg bellach yng Nghymru sy’n weithio gyda’i gilydd i gynnig dysgu seiliedig ar waith o’r ansawdd uchaf. Maent yn sicrhau eich bod yn cael y mwyaf o’ch Prentisiaeth ac y bodlonir anghenion sgiliau cyflogwyr. Mae’r grŵp, dan arweiniad Coleg Penfro ac a elwir yn B-wbl, yn sicrhau bod yr holl brentisiaid yn cael y cymorth a’r cyfleoedd gorau trwy rannu adnoddau ac arfer gorau yn y coleg, ac yn y gweithle.
Cewch fwy o wybodaeth ar ein gwefan, neu gallwch ffonio ein tîm cyfeillgar i drafod eich opsiynau yn fwy manwl