St ishmaels welsh

Page 5

Deuai’r cwlwm (llwch glo caled) a’r calchfaen a ddefnyddid yn yr odynnau o ardaloedd Hook a Chaeriw. Dadlwythwyd badau bychain ar y traeth ger yr odynnau. Defnyddiwyd y calch a losgwyd yn wrtaith ar y tir. Dengys cofnodion Cyfrifiad rhwng 1851 ac 1891 mai amaethyddiaeth oedd y prif gyflogwr yn yr ardal ond nodir hefyd grefftau megis eiddo’r gof, yr adeiladydd badau, cigydd, morwyn laeth, masiwn, teiliwr a chobler gan ddangos yr amrywiaeth o alwedigaethau gwledig yn y plwyf. Agorwyd Meithrinfeydd Llanisan-yn-Rhos yn y 1930au yn rhan o Feithrinfeydd Dale yn wreiddiol, ac ychwanegwyd y Ganolfan Arddio’n ddiweddarach.

Capel Aenon, y Bedyddwyr, Sandy Hill Codwyd capel gan y Bedyddwyr yn Sandy Haven ar ochr Llanisan-yn-Rhos o’r d[r yn 1814. Pan fyddai’r llanw’n ddigon isel byddai pobl Herbrandston yn croesi’r cerrig camu i gyrraedd yr oedfaon. Yn 1877 codwyd capel a oedd yn haws ei gyrraedd yn Sandy Hill a deil mewn defnydd rheolaidd.

Aenon Baptist Chapel

Capel yr Annibynwyr, Llanisan-yn-Rhos Cyn codi’r capel yn 1829 cynhaliwyd gwasanaethau ar y safle o dan gysgod llwyfen hen. Roedd y capel yn llewyrchus am dros ganrif ond oherwydd lleihad yn nifer yr addolwyr bu’n rhaid ei gau. Mae’n d] preifat erbyn hyn. Addysg Roedd 67 o sgolorion yn yr ardal yn ôl Cyfrifiad 1851. Credir bod dwy chwaer gyda’r cyfenw Glover yn cynnal ‘Ysgol Hen Ferch’. Ar ôl cyflwyno Deddf Addysg 1870 agorwyd Ysgol Genedlaethol Llanisan-yn-Rhos ar Ddydd Calan 1873. Codwyd adeilad newydd yn 1914 ac fe’i defnyddiwyd tan y Sandy Hill Farm 1960au. Estynnwyd yr adeilad yn 1965 ac yn 2006. Yn 1998 ‘caewyd’ yr ysgol ac yna ei hailagor ar Fedi’r 1 yn enw Ysgol y Glannau. Erbyn 2008 roedd gan yr ysgol ddau safle, yn Llanisan-yn-Rhos a Herbrandston, ar gyfer ardal yn bennaf i’r gorllewin o Aberdaugleddau. Mae plant oedran ysgol uwchradd gan amlaf yn ysgolia yn Aberdaugleddau.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.