Page 1

ST ISHMAELS St Ishmaels Church


Bywyd gwyllt o amgylch Llanisan-yn-Rhos Bychan o ran maint ond amrywiol o ran cynnwys yw llynnoedd y llanw a morfeydd heli Aber Gann. Bydd tua 400-500 o adar rhydio’n gaeafu yno ac yn eu plith gwelir y pibydd bach, y gylfinir, y gïach, y pibydd coeswyrdd a’r pibydd coesgoch. Ceir cnwd da o’r lafant môr llaes ei flodau prin ar y morfa yn ogystal â phorfa Parapholis strigosa. Bydd dyfrgwn yn magu yn y gwelyau brwyn a moch daear yn y coed coniffer uwchben yr aber. Gwelir glas y dorlan ar hyd rhannau uchaf Y Gann. Yn nyfroedd bas yr aber mae’r wrachen ddu beneurog hynod brin i’w chanfod. Cynefin i wymon Sargassum muticum a ddaw o Siapan yw glan y môr Musselwick ac yn Monkhaven mae teimlyddion blodau’r gwynt yn wyrdd llachar am fod yna symbiont algaidd ynddyn nhw. Gwelir y frân goesgoch brin â’i phig goch o amgylch pen y clogwyni yn aml, yn hedfan yn ddeheuig ac yn gloddesta ar bryfed y rhos arforol. Daeareg Deillia pridd coch yr ardal o’r hen dywodfeini coch a welir ym Mae Lindsway a Sandy Haven (395 miliwn oed). Gwelir rhai creigiau sy hyd yn oed yn hynach (420 miliwn oed). Mae rhai o’r rhain ger Pont Melin Lechi yn waddodol ac yn cynnwys ffosilau. Gorchuddir pen y clogwyni gan rewglai wedi’i wneud o ddeunydd anghyfnerthedig a adawyd gan ia’n toddi tua 20,000 o flynyddoedd nôl. Mabsgate Stone Hanes Cynnar Bu pobl yn byw yn yr ardal ers Canol Oes y Cerrig (10,000 o flynyddoedd nôl). Daethpwyd o hyd i gallestri a oedd mewn defnydd mewn amrywiaeth o leoliadau ond yn bennaf ar safleoedd arfordirol. Roedd yna bobl yn yr ardal hefyd yn ystod yr Oes Efydd. O’r chwech o feini hirion a gofnodwyd saif dwy ar eu traed heddiw. Ceir dwy gaer bentir o gyfnod yr Oes Haearn. Defnyddiwyd un ohonyn nhw, Great Castle Head yn ystod yr Oesoedd Tywyll pan gafodd caeadle “falwm” (arglawdd amddiffynnol) ei godi. Y llall yw Little Castle Head. Bae Longoar Daethpwyd o hyd i dair claddfa cist ganol oesol (beddau cerrig) ar wyneb y graig ar ôl cwymp yn 2001. Cloddiwyd beddau eraill yn 2003 a’u dyddio nôl i’r seithfed a’r nawfed ganrif. Mae’n bosib bod y fynwent hon ar gyfer anheddiad arferai fod yn Great Castle Head ond wrth ddatblygu safle’r eglwys gyfredol fe’i gadawyd yn segur. Eglwys Llanisan-yn-Rhos Deillia’r enw Llanisan-yn-Rhos o’r eglwys a gysegrwyd yn enw’r sant Cernywaidd, Isian o’r chweched ganrif a oedd yn ddisgybl i Dewi Sant ac fe’i holynodd yn Esgob Tyddewi. Yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda (940-945 AD) roedd yr eglwys yn un o saith o dai Esgobol yn Nyfed.


Mae’n bosib ei bod yn rhan o goleg mynachaidd a dyna wedyn yw’r esboniad dros darddiad yr enwau Monk Haven a Monkhill. Roedd Monk Haven yn le glanio ar gyfer masnachwyr a phererinion ar eu ffordd i Dyddewi. Gwelir tair carreg arysgrifen ganol oesol yn yr eglwys. Codwyd yr eglwys bresennol yn 1100 AD ac ychwanegwyd ati yn y drydedd a’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Cafodd ei hadfer yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Crug Llanisan-yn-Rhos Dyma sy’n weddill o’r castell Normanaidd mot a beili. St Ishmaels Tump Roedd yn amddiffynfa ganol (reconstruction) oesol fechan yn amddiffyn y penrhyn o dan oruchwyliaeth Castell Gwalchmai. Roedd yna balisâd pren yn amgylchynu pen ucha’r gaer uwchben y cynllun ffos a chlawdd. Mae’n bosib bod y beili i’r de rhwng y mot a llyn sy wedi’i ehangu i fod yn llyn dyfrhau. Dengys olion y gronfa bod creu llifogydd yn amddiffyniad ychwanegol. Pont Mullock a Harri Tudur Roedd Harri, a anwyd yng Nghastell Penfro, yn hawlio gorsedd Lloegr. Treuliodd y rhan fwyaf o’i flynyddoedd cynnar mewn diogelwch yn Ffrainc. Ar Awst 1 1485 hwyliodd o Harfleur gyda 2,000 o hapfilwyr Ffrengig er mwyn cipio’r orsedd. Fe lanion nhw ar Awst 7 ym Mae’r Felin ger Dale. Roedd Rhys ap Thomas o Gastell Caeriw wedi tyngu llw o deyrngarwch i Richard III gan ddweud mai dim ond dros fy mol y byddai Harri Tudur yn cael teithio ymhellach na’i ddarn ef o Sir Benfro. Er mwyn cadw’i air gorweddodd Rhys o dan Bont Mullock ar ei gefn wrth i Harri gerdded drosti. Ymunodd Rhys â Harri wedyn ar y daith i Bosworth. Yn ôl un chwedl cymrodd Harri saib yn Llanisan-yn-Rhos i gael diod o dd[r ac ers hynny gelwir y fangre yn ‘Ffynnon y Brenin’. Fe gyrhaeddon nhw Faes Bosworth yn Sir Gaerl]r a threchu Richard III erbyn Awst 22. Mullock Bridge


Amaethyddiaeth Datblygodd y rhan helaethaf o’r pentref modern o’r cyfnod canol oesol. Fe’i hamgylchynir gan llain-berci hirion, cul, canoloesol. Caewyd y rhain rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Codwyd ffermdai tua’r un adeg. Butter Hill yw’r ystâd hynaf yn yr ardal. Ymhlith y ffermydd mawr eraill mae Sandy Haven, Trewarren, Bicton, Mullock, Skerryback a Hoaten Fawr. Butter Hill Y Faenor oedd cartref Teulu Roch am 300 mlynedd tan 1906; roedd yn anheddiad amaethyddol llewyrchus o 300 erw a mwy. Roedd yr aelod olaf o’r teulu i fyw yn y lle yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros Sir Benfro. Yn ystod yr ugeinfed ganrif cafodd yr ystâd ei rannu ac roedd y costau cynnal yn drech na nifer o berchnogion. Ar ôl lletya milwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac yna ymwelwyr, ni ddefnyddiwyd yr adeiladau ar ôl 1966. Wedi deugain mlynedd o ddirywiad a segurdod mae’r adeiladau’n cael eu hadfer. T} Trewarren a Monk Haven Monk Haven Codwyd T] Trewarren yn 1845 a chynlluniwyd dyffryn Monk Haven i fod yn erddi pleser coediog i’r ystâd. Dynodwyd gardd cegin furiog yn rhan o’r dyluniad. Yn y 1950au cronnwyd y nant yn y dyffryn i greu llyn dyfrhau mawr. Dengys map o 1874 bod yna lyn yno cynt ond does yna fawr o’i olion i’w weld ar wahân i’r bambwau addurnol a blannwyd ar y pryd. Gwelir y mur enfawr y tu ôl i’r traeth ym mhaentiad Graham Sutherland, Llanisan-yn-Rhos (1976). Gosodwyd cylchoedd haearn ar dalcen y mur sy’n wynebu’r môr ar gyfer clymu badau. Gwelir gweddillion t] badau ar dalcen gorllewinol y mur yn wynebu’r tir mawr. Mae’r adeilad ar ben y clogwyni i’r dwyrain o Monk Haven yn ffolineb a adwaenir wrth yr enw Malakov. Yn ôl pob tebyg cafodd ei enwi ar ôl t[r yn Sebastopol a gymrwyd gan y Prydeinwyr yn ystod Rhyfel y Crimea yn 1855. Rhydd hynny fras amcan o ddyddiad codi’r adeilad. Deuir o hyd i adeileddau rhyfedd eraill yn y coed o adeiledd cyffelyb ac o bosib o’r un cyfnod. Masnach a Diwydiant Yn 1870 gosodwyd dau olau tywys yn Great Castle Head i arwain llongau i’r harbwr. Yn y 1970au gosodwyd goleuadau tywys yn Little Castle Head. Codwyd nifer o odynnau calch yn y cyffiniau ond dim ond un sydd i’w weld heddiw ar y ffordd i Sandy Haven. Cafodd ei adfer yn y 1980au ynghyd â chaban y llosgwyr calch a’r dafol bwyso.


Deuai’r cwlwm (llwch glo caled) a’r calchfaen a ddefnyddid yn yr odynnau o ardaloedd Hook a Chaeriw. Dadlwythwyd badau bychain ar y traeth ger yr odynnau. Defnyddiwyd y calch a losgwyd yn wrtaith ar y tir. Dengys cofnodion Cyfrifiad rhwng 1851 ac 1891 mai amaethyddiaeth oedd y prif gyflogwr yn yr ardal ond nodir hefyd grefftau megis eiddo’r gof, yr adeiladydd badau, cigydd, morwyn laeth, masiwn, teiliwr a chobler gan ddangos yr amrywiaeth o alwedigaethau gwledig yn y plwyf. Agorwyd Meithrinfeydd Llanisan-yn-Rhos yn y 1930au yn rhan o Feithrinfeydd Dale yn wreiddiol, ac ychwanegwyd y Ganolfan Arddio’n ddiweddarach.

Capel Aenon, y Bedyddwyr, Sandy Hill Codwyd capel gan y Bedyddwyr yn Sandy Haven ar ochr Llanisan-yn-Rhos o’r d[r yn 1814. Pan fyddai’r llanw’n ddigon isel byddai pobl Herbrandston yn croesi’r cerrig camu i gyrraedd yr oedfaon. Yn 1877 codwyd capel a oedd yn haws ei gyrraedd yn Sandy Hill a deil mewn defnydd rheolaidd.

Aenon Baptist Chapel

Capel yr Annibynwyr, Llanisan-yn-Rhos Cyn codi’r capel yn 1829 cynhaliwyd gwasanaethau ar y safle o dan gysgod llwyfen hen. Roedd y capel yn llewyrchus am dros ganrif ond oherwydd lleihad yn nifer yr addolwyr bu’n rhaid ei gau. Mae’n d] preifat erbyn hyn. Addysg Roedd 67 o sgolorion yn yr ardal yn ôl Cyfrifiad 1851. Credir bod dwy chwaer gyda’r cyfenw Glover yn cynnal ‘Ysgol Hen Ferch’. Ar ôl cyflwyno Deddf Addysg 1870 agorwyd Ysgol Genedlaethol Llanisan-yn-Rhos ar Ddydd Calan 1873. Codwyd adeilad newydd yn 1914 ac fe’i defnyddiwyd tan y Sandy Hill Farm 1960au. Estynnwyd yr adeilad yn 1965 ac yn 2006. Yn 1998 ‘caewyd’ yr ysgol ac yna ei hailagor ar Fedi’r 1 yn enw Ysgol y Glannau. Erbyn 2008 roedd gan yr ysgol ddau safle, yn Llanisan-yn-Rhos a Herbrandston, ar gyfer ardal yn bennaf i’r gorllewin o Aberdaugleddau. Mae plant oedran ysgol uwchradd gan amlaf yn ysgolia yn Aberdaugleddau.


Hanes Milwrol The Malacov Folly O’r arfordir gallwch weld llawer o’r ceyrydd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnwys Ynys Thorne, Trwyn Dale a Chraig Stack. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd defnyddiwyd Sandy Haven i geisio twyllo’r gelyn ac fe’i goleuwyd i edrych fel Aberdaugleddau (a oedd wedi’i dywyllu). Y syniad oedd annog y bomwyr o’r Almaen i ollwng eu ffrwydron ar dir fferm heb anafu neb. Deuir ar draws cysgodfeydd concrid bychain wedi’u cyfnerthu ar hyd yr hafan lle byddai’r dynion a fyddai’n cynnau’r goleuadau a’r offer creu tannau ffug yn chwennych diogelwch. Rhwng Monk Haven a Bae Lindsway yn Nhrwyn Watch House ceir nifer o adeiladau yn cynnwys arsyllfa a llwyfannau magnel 6 modfedd. I’r dwyrain o Fferm Bicton gwelir gweddillion llwyfan magnel saethu awyrennau. Sandy Haven Cilfach a ffurfiwyd gan lefelau’r môr yn codi ar ôl yr oes ia ddiwethaf yw Sandy Haven. Rhoddir lle amlwg i Sandy Haven ym mhaentiadau Sir Benfro Graham Sutherland. Dywedodd yr arlunydd fod ei ysbrydoliaeth wedi’i ailgynnau gan ansawdd rhyfeddol goleuni Sir Benfro. Adeiladwyd Fferm Sandy Haven yn y bymthegfed ganrif ac er iddi gael ei hailwampio dros y canrifoedd deil llawer o’r nodweddion gwreiddiol megis t[r castellog yno o hyd. Bae Lindsway Yn 1955 yn rhan o Daith Coroniad y Frenhines gosododd Tywysog Charles a’r Dywysoges Anne eu traed ar dir Cymru am y tro cyntaf ym Mae Lindsway ar ddydd Sul, Awst 7. Ym mis Awst 1973 aeth y tancer olew 11,000 tunnell Donna Marika i drafferthion ar Drwyn Longberry ar draeth Lindsway. Roedd yn cludo gwirod hedfan a fedrai ffrwydro ac roedd yn cael ei tharo’n ddidrugaredd gan storm enbyd. Treuliodd y criw o 38 chwe awr arswydus ar ei bwrdd nes iddyn nhw gael eu hachub. Symudwyd nifer o’r pentrefwyr a threuliodd y rhan fwyaf ddwy noson oddi cartref. Cyflwynwyd cloch y Donna Marika i’r pentref ac fe’i gwelir yn y Clwb Chwaraeon a The Donna Marika Chymdeithasol.


Materion Cymdeithasol Codwyd y Neuadd Goffa yn y 1920au er cof am y rheini a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Fe’i hagorwyd gan Arglwydd Kensington (Sain Ffraid) a’i hariannu trwy danysgrifiad cyhoeddus. Codwyd y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol cyfoes drws nesaf i’r meysydd chwarae yn 1982. Llwyddodd y timau pêl-droed a chriced i ennill y prif wobrau sirol. Gerllaw mae Gerddi’r Jiwbilî ac ardal chwarae. Dechreuwyd cynnal y carnifal blynyddol yn y 1920au ac fe’i cynhelir ym mis Awst a daw’r orymdaith i ben ar y maes chwarae. Am flynyddoedd lawer roedd y pentref yn cynnal Sioe Flodau a Ffair Pwdin Reis blynyddol. Deil y Brook Inn i wasanaethu’r pentref fel y gwnaeth ers dros mwy na chanrif.

‘Tish’ mouse emblem of St Ishmaels

Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill CYDNABYDDIAETHAU Sefydlwyd Rhwydwaith Gweithredu Lleol Sir Benfro ar gyfer Mentro a Datblygu (PLANED) i wella amodau cymdeithasol ac economaidd y bobl ac i gyfoethogi amgylchedd Sir Benfro. Derbynnir nawdd gan ‘Arian i Bawb’ gyda chefnogaeth PLANED trwy Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Arlennir a hwylusir Gweithredu dros Gymunedau Gwledig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Rural Community Action is funded and facilitated by the Welsh Assembly Government.

Ymchwiliwyd ac ysgrifennwyd y testun gan Gr[p Treftadaeth Llanisan-yn-Rhos Darluniau gan: Mike Garlick Gyda diolch i: Dyfed Archaeological Trust Cynllun: Waterfront Graphics PLANED © 2008

St ishmaels welsh  
St ishmaels welsh  
Advertisement