The Riverfront Autumn Brochure 2025

Page 1


CROESO

Join us this Autumn for an unforgettable season of shows and events!

SUPPORTING THE ARTS AT THE RIVERFRONT THEATRE AND ARTS CENTRE

Newport Live and The Riverfront Theatre and Arts Centre is a non-profit charitable trust. Every ticket you buy helps us reinvest in our theatre programme, arts development, and facilities. By attending performances, cinema screening, or workshops, you’re directly supporting the arts in Newport. You can also round up your booking to make a donation - every contribution counts. Thank you for keeping the arts alive!

BOOKING TICKETS

01633 656757

newportlive.co.uk/Riverfront riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk

Our friendly team is available to assist you Monday to Saturday, 9am – 5pm. The Riverfront will be open later if there is a show or cinema screening that evening.

HOW TO FIND US

The Riverfront Theatre is opposite the main bus station and Friars Walk shopping centre, just a 10-minute walk from Newport train station. Nearby parking: Friars Walk & Kingsway Centre.

Address: The Riverfront Theatre, Kingsway, Newport NP20 1HG

HOW CAN WE SUPPORT YOU?

Ymunwch â ni yr Hydref hwn am dymor bythgofiadwy o sioeau a digwyddiadau!

CEFNOGI’R CELFYDDYDAU YN THEATR A CHANOLFAN GELFYDDYDAU GLAN-YRAFON

Mae Casnewydd Fyw a Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yr-Afon yn ymddiriedolaeth elusennol ddielw. Bydd pob tocyn rydych chi’n ei brynu yn ein helpu i ailfuddsoddi yn ein rhaglen theatr a’n cyfleusterau a datblygu’r celfyddydau. Trwy fynychu perfformiadau, dangosiadau sinema, neu weithdai, rydych chi’n cefnogi’r celfyddydau yng Nghasnewydd yn uniongyrchol. Gallwch hefyd dalgrynnu eich archeb i wneud rhoddmae pob cyfraniad yn cyfrif. Diolch am gadw’r celfyddydau’n fyw!

ARCHEBU TOCYNNAU

01633 656757 newportlive.co.uk/Riverfront riverfront.boxoffice@newportlive.co.uk

Mae ein tîm cyfeillgar ar gael i’ch helpu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 9am – 5pm. Bydd Glan-yr-Afon ar agor yn hwyrach pan fydd sioe neu ddangosiad sinema gyda’r nos.

SUT I DDOD O HYD I NI

Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan-yrAfon gyferbyn â’r brif orsaf fysus a chanolfan siopa Friars Walk, yn daith gerdded 10 munud o orsaf drenau Casnewydd. Lle parcio cyfagos: Friars Walk a Chanolfan Ffordd y Brenin

Cyfeiriad: Glan yr Afon, Ffordd y Brenin, Casnewydd, NP20 1HG

We’re committed to accessible arts for all. Need assistance? We offer wheelchair spaces, accessible performances, HYNT scheme support, blue badge parking and more. Let us help make your visit enjoyable. Scan here to find out more about your visit, full accessibility details, view a seating plan or for further booking information.

SUT ALLWN NI EICH CEFNOGI?

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod y celfyddydau’n hygyrch i bawb. Angen help? Rydym yn cynnig mannau i gadeiriau olwyn, perfformiadau hygyrch, cymorth cynllun HYNT, lle parcio â bathodyn glas a mwy. Gadewch i ni helpu i wneud eich ymweliad yn un pleserus. Sganiwch yma i gael gwybod mwy am eich ymweliad, gweld y manylion hygyrchedd llawn neu gynllun seddi, neu i gael mwy o wybodaeth archebu.

SEPTEMBER | MEDI

Thursday 4 Dydd Iau, 7:30pm

An Evening with Nigel Owens

Tickets | Tocynnau £29

Nigel is one of the most engaging and humorous characters in Rugby. This will be an evening not to miss for any sports fan as he recounts stories from his life and career.

Mae Nigel yn un oʼr cymeriadau mwyaf diddorol a doniol yn y byd rygbi. Bydd hon yn noson na ddylid ei cholli i unrhyw ddilynwr chwaraeon wrth iddo adrodd straeon oʼi fywyd aʼi yrfa

Friday 5 Dydd Gwener, 7:30pm James Phelan - The Man Who Was Magic

Tickets | Tocynnau £27.50

Dare to believe in magic and step into a world where the impossible comes alive! You’re invited to a night of wonder where secrets unravel and you’re left aching with laughter and dizzy in disbelief.

Dewch i gael cipolwg ar fyd hud a lledrith lle maeʼr amhosibl yn dod yn fyw! Rydych chiʼn cael eich gwahodd i noson o ryfeddod lle mae cyfrinachauʼn cael eu datgelu a lle byddwch chiʼn chwerthin lond eich bol ac wediʼch synnuʼn llwyr.

Sunday 7 Dydd Sul, 2pm

Natural History Museum Presents Dinosaurs Live

Tickets | Tocynnau £19.50

Age | Oed 3+

For the first time since 1881, the home of dinosaurs, London’s Natural History Museum, is going on tour! We’ll go on a pre-historic journey together to the Triassic, Jurassic and Cretaceous periods and watch the life-like dinosaurs come alive right on stage!

Am y tro cyntaf ers 1881, mae cartref y deinosoriaid, Natural History Museum Llundain, yn mynd ar daith! Byddwn yn mynd ar daith gynhanesyddol gydaʼn gilydd iʼr cyfnodau Triasig, Jwrasig a Cretasaidd ac yn gweld deinosoriaid hynod realistig yn dod yn fyw ar y llwyfan!

Friday 12 Dydd Gwener, 7:30pm

An Evening with Mike Bubbins

Tickets | Tocynnau £19

Age | Oed 16+

Join the star of hit BBC sit-com Mammoth in a free-wheeling evening of conversation, incredible stories, an audience Q & A and some work-in-progress new material.

Ymunwch â seren sioe gomedi lwyddiannus y BBC, Mammoth, mewn noson rydd o sgyrsiau, straeon anhygoel, sesiwn holi ac ateb gydaʼr gynulleidfa, ac ychydig o ddeunydd newydd sydd ar y gweill.

SEPTEMBER | MEDI

Saturday 13 Dydd Sadwrn, 7:30pm Supreme Queen

Tickets | Tocynnau £31

Bringing together some of the finest and most recognisable Queen tribute performers in the world, complimented by the stunning production values, authentic stage settings and specialist sound and lighting effects.

Yn dod â rhai oʼr perfformwyr teyrnged Queen gorau a mwyaf adnabyddus yn y byd at ei gilydd, ynghyd âʼr gwerthoedd cynhyrchu syfrdanol, gosodiadau llwyfan realistig ac effeithiau sain a goleuadau arbenigol.

Wednesday 17 Dydd Mercher, 7:30pm

The Makings of a Murderer 2

Tickets | Tocynnau £31

Age | Oed 18+

The UK’s top true crime theatre tour is back with a brandnew lineup - featuring Senior Investigating officer Colin Sutton, who caught serial killer Levi Bellfield and ʻNight Stalker’ Delroy Grant.

Mae taith theatr trosedd go iawn orauʼr Deyrnas Unedig yn ôl gyda chast newydd sbon - yn cynnwys yr Uwch Swyddog Ymchwilio Colin Sutton, a ddaliodd y llofrudd cyfresol Levi Bellfield aʼr ʻNight Stalkerʼ Delroy Grant.

Saturday 13 Dydd Sadwrn, 8pm Quill & Pearl

The Pearl Slipper Burlesque

Tickets | Tocynnau £16.50 Age | Oed 18+

This dazzling showcase celebrates burlesque’s past and revels in its future with a handpicked cast of rising stars. Enjoy sizzling performances, political edge, and plenty of cheeky charm - all wrapped in sequins and sass.

Maeʼr arddangosfa ddisglair hon yn dathlu gorffennol burlesque ac yn ymfalchïo yn ei ddyfodol gyda chast o sêr addawol. Mwynhewch berfformiadau cyffrous, ochr wleidyddol, a digon o hud hyf - i gyd wediʼu lapio mewn gliter a glam.

Thursday 18 Dydd Iau, 7:30pm

Travis George - This Moment

Tickets | Tocynnau £16.50

Join Britain’s Got Talent Finalist Travis George as he reflects on the songs that are shaping his career. A cornucopia of theatre, classic and contemporary music.

Ymunwch â Travis George, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britainʼs Got Talent, wrth iddo fyfyrio ar y caneuon syʼn siapio ei yrfa. Toreth o gerddoriaeth theatr, clasurol a chyfoes.

To book your tickets, go to newportlive.co.uk/Riverfront

Friday 19 Dydd Gwener, 7:30pm

Sweet Caroline - A Tribute to Neil Diamond

Tickets | Tocynnau £33.50

Featuring 50 years of the greatest music ever written, enjoy all the hits Forever In Blue Jeans, America, Love On The Rocks, Song Sung Blue, Hello Again, Beautiful Noise and, of course, Sweet Caroline.

Yn cynnwys rhai oʼr caneuon gorau a ysgrifennwyd erioed dros gyfnod o 50 mlynedd, mwynhewch y clasuron i gyd fel Forever in Blue Jeans, America, Love On The Rocks, Song Sung Blue, Hello Again, Beautiful Noise ac, wrth gwrs, Sweet Caroline.

Saturday 20 Dydd Sadwrn, 7:30pm Barry Steeleʼs Roy Orbison Story

Tickets | Tocynnau £32.50

Join Barry Steele’s Roy Orbison Story for an unforgettable evening celebrating the legendary Roy Orbison and the iconic Traveling Wilburys! Don’t miss out on this magical night of unforgettable music.

Ymunwch â Barry Steeleʼs Roy Orbison Story am noson fythgofiadwy yn dathluʼr chwedlonol Roy Orbison aʼr eiconig Traveling Wilburys! Peidiwch â cholliʼr noson hudolus hon o gerddoriaeth fythgofiadwy.

Sunday 21 Dydd Sul, 3pm

BBC National Orchestra of Wales

Beethoven 5

Tickets | Tocynnau £6 - £10

Audience favourite Nil Venditti returns to The Riverfront podium with BBC National Orchestra of Wales for a night of big emotions and blockbuster classics.

Mae ffefryn y gynulleidfa, Nil Venditti, yn dychwelyd i bodiwm Glan yr Afon gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC am noson o emosiynau mawr a chlasuron poblogaidd.

Thursday 25 Dydd Iau, 7:30pm The Story of Soul

Tickets | Tocynnau £34

Join the Love Train, as we give you the Best of Our Love and show you there Ain’t Nobody who does it better. Powerful performances from our talented cast will showcase the biggest hits spanning a generation.

Ymunwch âʼr trên cariad, wrth i ni roiʼr gorau oʼn cariad i chi a dangos nad oes neb syʼn gwneud hyn yn well. Bydd perfformiadau pwerus gan ein cast talentog yn cyflwynoʼr caneuon mwyaf adnabyddus sydd wedi rhychwantu cenhedlaeth.

Legend - The Music of Bob Marley

September | Medi

Friday 26 Dydd Gwener, 7:30pm

Tickets | Tocynnau £34

Legend - The Music of Bob Marley is an unforgettable evening celebrating this musical icon in one fantastic stage show. Combining his superb, distinctive vocals with flawless musicianship, a supremely talented cast recreates timeless hits.

Mae Legend - The Music of Bob Marley yn noson fythgofiadwy i ddathlu’r eicon cerddorol hwn mewn sioe lwyfan wych. Gan gyfuno ei lais gwych, nodedig gyda cherddoriaeth ddifai, mae cast hynod dalentog yn ail-greu clasuron bythol.

To book your tickets, go to newportlive.co.uk/Riverfront

OCTOBER

Wednesday 1 Dydd Mercher, 7:30pm National Dance Company Wales Surge | Gwefr

Tickets | Tocynnau £9 - £18

Join National Dance Company Wales for an evening of Welsh mythology, stunning sculpture and a glittering audience favourite. Get inspired by a unique collaboration between sculpture and dance and escape into the whimsical world of Welsh mythology.

Ymunwch â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru am noson o fytholeg Cymru, cerfluniau trawiadol ac un o ffefrynnau disglair y gynulleidfa. Dewch i gael eich ysbrydoli gan gydweithrediad unigryw rhwng cerfluniau a dawns a dianc i fyd chwilfrydig mytholeg Cymru.

Friday 3 Dydd Gwener, 7:30pm Bronwen Lewis - Finding Me

Tickets | Tocynnau £35 - £41

BBC Radio Wales star Bronwen Lewis makes her return to the stage in celebration of the release of her hugely anticipated new album ʻFinding Me’ . The Welsh singer-songwriter whose style sits between Country, Pop, Folk and Blues is proudly bilingual and received international acclaim during her time on The Voice, when she brought Tom Jones to tears.

Mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd iʼr llwyfan i ddathlu rhyddhau ei halbwm newydd hirddisgwyliedig ʻFinding Meʼ. Maeʼr gantores-gyfansoddwraig o Gymru y mae ei harddull yn gyfuniad o Ganu Gwlad, Pop, Gwerin a Blŵs, yn rhywun syʼn hynod falch o fod yn ddwyieithog ac fe gafodd glod rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice, pan ddaeth â dagrau i lygaid Tom Jones.

Friday 3 Dydd Gwener, 8pm

Matt Richardson – BRASH

Tickets | Tocynnau £17.50

Age | Oed 18+

Saturday 4 Dydd Sadwrn, 7:30pm

The Bluejays - Rave On: The Ultimate 50s & 60s Experience

Tickets | Tocynnau £28

Matt has moved to the countryside, settled down, and is trying his hardest to not make rude jokes. It’s not going as well as he’d hoped… Attempting to navigate a world of mate’s kids, mortgages and village life is proving a challenge for the guy who can’t resist causing a scene.

Mae Matt wedi symud i gefn gwlad, wedi setlo, ac maeʼn ceisio ei orau i beidio â gwneud jôcs anweddus. Nid ywʼn mynd cystal ag oedd e wedi gobeithio… Mae ceisio arfer â byd llawn plant ffrindiau, morgeisi a bywyd pentref yn her iʼr dyn na all osgoi codi twrw.

Rave On is the 50s and 60s musical sensation sweeping the nation, featuring hits from the likes of Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Neil Sedaka, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, The Beach Boys and many more.

Rave On ywʼr sioe aruthrol o gerddoriaeth y 50au aʼr 60au syʼn ysguboʼr genedl, syʼn cynnwys caneuon gan Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Neil Sedaka, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, The Beach Boys a llawer mwy.

OCTOBER | HYDREF

Wednesday 8 Dydd Mercher, 7:30pm

The Magic of Motown

Tickets | Tocynnau £33

Get ready for the biggest Motown party of the year. You will be going loco down in Acapulco as we take you back down memory lane with all the Motown classics from artists such as: Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, The Four Tops, Martha Reeves, The Jackson 5, Smokey Robinson, and many, many more.

Byddwch yn barod ar gyfer parti Motown mwyaf y flwyddyn. Byddwch yn mynd yn loco i lawr yn Acapulco, wrth i ni fynd â chi ar hyd llwybrauʼr cof gyda holl glasuron Motown gan artistiaid fel: Marvin Gaye, Diana Ross, Stevie Wonder, The Temptations, The Supremes, The Four Tops, Martha Reeves, The Jackson 5, Smokey Robinson, a llawer iawn mwy.

Thursday 9 Dydd Iau, 7:30pm The Elvis Years

Tickets | Tocynnau £30

Direct from The West End, with over two decades of jawdropping performances, The Elvis Years is the ultimate celebration of The King, featuring over 50 classic hits including ʻThat’s Alright Mama’, ʻSuspicious Minds’, ʻIt’s Now or Never’, ʻHeartbreak Hotel’, ʻBlue Suede Shoes’, ʻHound Dog’, ʻLove Me Tender’, ʻIf I Can Dream’ and many more.

Yn syth oʼr West End, gyda mwy na dau ddegawd o berfformiadau anhygoel, mae The Elvis Years yn ddathliad penigamp oʼr Brenin Roc a Rôl, gyda dros 50 o glasuron gan gynnwys ʻThatʼs Alright Mamaʼ, ʻSuspicious Mindsʼ, ʻItʼs Now or Neverʼ, ʻHeartbreak Hotelʼ, ʻBlue Suede Shoesʼ, ʻHound Dogʼ, ʻLove Me Tenderʼ, ʻIf I Can Dreamʼ a llawer mwy.

Thursday 9 Dydd Iau, 7pm

Mewn Cymeriad

The Window from Wales

Tickets | Tocynnau £9 - £13

Take a journey across continents and through time to uncover the powerful story of how a horrific act of murder in 1963 Alabama ignited a quiet flame of compassion in the heart of a Welsh artist.

Ewch ar daith ar hyd cyfandiroedd a thrwy amser i ddatgeluʼr stori bwerus ynghylch sut gwnaeth llofruddiaeth erchyll yn Alabama yn 1963 ennyn teimladau o dosturi dwys yng nghalon artist o Gymru.

To book your tickets, go to newportlive.co.uk/Riverfront

Friday 10 Dydd Gwener, 7:30pm Tom Ball - Curtain Call

Tom Ball, the vocal sensation with 85 million views, rose to fame on Britain’s Got Talent. He’s been likened to such stars as Michael Ball and Michael Buble – and now it’s time for him to step into the Spotlight.

Daeth Tom Ball, y ffefryn lleisiol, yn enwog ar Britainʼs Got Talent ac mae ei berfformiadau wediʼu gweld 85 miliwn o weithiau. Mae wedi cael ei gymharu â sêr fel Michael Ball a Michael Buble – a nawr maeʼn bryd iddo gamu iʼr sbotolau.

OCTOBER | HYDREF

Saturday 11 Dydd Sadwrn, 7:30pm

Thank ABBA For the Music

Tickets | Tocynnau £28

Thank ABBA For The Music is an epic two-hour ABBA-fest that captures all of the magic and excitement of one of pop history’s most successful and iconic bands.

Featuring all of ABBA’s iconic hits, including Dancing Queen, Mamma Mia, Super Trouper, Gimme! Gimme! Gimme! SOS, Voulez-Vous, Waterloo and many more.

Mae ʻThank ABBA For The Musicʼ yn ddathliad epig dwy awr o hyd o ABBA, ac maeʼn llwyddo i gyfleu hud a chyffro un o fandiau mwyaf llwyddiannus ac eiconig hanes pop.

Yn cynnwys holl ganeuon eiconig ABBA, gyda Dancing Queen, Mamma Mia, Super Trouper, Gimme! Gimme! Gimme! SOS, Voulez-Vous, Waterloo a llawer mwy yn eu plith.

Wednesday 15 Dydd Mercher, 7:30pm

Money for Nothing

Tickets | Tocynnau £31.50

A tribute to the Dire Straits like no other before - a show of the highest quality. Meticulous attention is paid to every detail, to faithfully recreate the distinct sound of Dire Straits in this unforgettable sonic spectacular.

Teyrnged heb ei thebyg i Dire Straits – maeʼn sioe oʼr safon uchaf. Rhoddir sylw manwl i bob manylyn, i ailgreu sain unigryw Dire Straits yn gywir, yn y sioe sonig fythgofiadwy hon.

Sunday 12 Dydd Sul, 7:30pm Jimeoin - Pandemonium

Tickets | Tocynnau £23

A not-to-be-missed, hilarious evening with one of live comedy’s universally acclaimed true masters. Jimeoin’s cheeky no-gimmicks sense of humour, superb material and broad appeal keeps audiences in stitches across the globe.

Noson ddoniol na ddylid ei cholli gydag un o wir feistri comedi byw. Mae synnwyr digrifwch digywilydd, deunydd gwych ac apêl eang Jimeoin yn gwneud i gynulleidfaoedd ledled y byd chwerthin yn uchel.

Thursday 16 Dydd Iau, 7:30pm

The Simon & Garfunkel Story

Tickets | Tocynnau £31 - £32

The hit show tells the story of the origins and meteoric rise of Simon & Garfunkel blended together seamlessly with a full live band performing all the hits.

Maeʼr sioe boblogaidd yn adrodd hanes tarddiad a chynnydd sydyn Simon & Garfunkel wediʼi gyfunoʼn ddidor â band byw llawn syʼn perfformioʼr holl ganeuon poblogaidd

Friday 17 Dydd Gwener, 7:30pm

Stewart Copeland: Have I Said Too Much?

Tickets | Tocynnau £38.50 - £89.50

Meet and greet available

In this fascinating “Evening With”, A-List rock star Stewart Copeland will talk about his remarkable success with The Police, and his incredible life has one of the greatest drummers of all time, and a Rock and Roll Hall of Famer.

Yn ystod y noson ddiddorol hon, bydd y seren roc enwog Stewart Copeland yn siarad am ei lwyddiant rhyfeddol gyda The Police, aʼi fywyd anhygoel fel un oʼr drymwyr gorau erioed ac aelod oʼr Rock and Roll Hall of Fame.

Wednesday 22 Dydd Mercher, 8pm Household

Tickets | Tocynnau £12

Age | Oed 14+

HOUSEHOLD is a heartfelt and visually powerful double bill exploring what happens after the honeymoon fades. Created by a Welsh LGBTQ+ team and made with D/deaf and multilingual audiences in mind, the performers speak throughout the show, but their voices are not heard.

Mae HOUSEHOLD yn sioe ddwbl twymgalon ac yn weledol bwerus syʼn archwilio beth syʼn digwydd ar ôl iʼr mis mêl bylu. Wediʼu creu gan dîm o artistiaid LHDT+ o Gymru aʼu gwneud gyda chynulleidfaoedd B/byddar ac amlieithog mewn golwg, maeʼr perfformwyr yn siarad drwy gydol y sioe, ond ni chlywir eu lleisiau.

Wednesday 22 Dydd Mercher, 7:30pm

Black RAT Productions

Dai Cula - Prince of The Valleys

Tickets | Tocynnau £14 - £16

A fang-filled spoof bursting with laughs, Valleys pride, and a touch of garlic. A comedy about identity, heritage, and what it really means to be Welsh.

Sioe barodi yn llawn chwerthin, balchder y Cymoedd, a thamaid bach o arlleg. Comedi am hunaniaeth, treftadaeth, aʼr hyn mae wir yn ei olygu i fod yn Gymro.

To book your tickets, go to newportlive.co.uk/Riverfront

Thursday 23 Dydd Iau, 7:30pm

The Magic of The Bee Gees

Tickets | Tocynnau £31.50

It’s time to put on your dancing shoes, for the night out of the year you have been waiting for, as we celebrate the songs of music royalty, The Bee Gees.

Maeʼn bryd gwisgoʼch esgidiau dawnsio, am y noson allan oʼr flwyddyn rydych chi wedi bod yn disgwyl amdani, wrth i ni ddathlu caneuon cerddorion brenhinol y Bee Gees.

OCTOBER | HYDREF

Saturday 25 Dydd Sadwrn, 7:30pm Uptown Girl – The Billy Joel Collection

Tickets | Tocynnau £21.50 - £29.50

Wednesday 29 Dydd Mercher, 2pm & 5pm

Wifi Wars – Halloween Special

Tickets | Tocynnau £13 - £15

Age | Oed 6+

Celebrating the legacy of one of the greatest American musicians of all time. Drawing from six decades of smashhits, this stunning new stage production features a full-band dedicated to recreating iconic performances.

Yn dathlu etifeddiaeth un oʼr cerddorion Americanaidd mwyaf erioed. Yn tynnu ar chwe degawd o glasuron, maeʼr cynhyrchiad llwyfan newydd syfrdanol hwn yn cynnwys band llawn syʼn ymroddedig i ail-greu perfformiadau eiconig.

Thursday 30 Dydd Iau, 11am & 2:30pm

The Zoo That Comes To You

Tickets | Tocynnau £11

Age | Oed 5+

WiFi Wars returns with a very spooky version of the live comedy game show where you all play along! Log in with your smartphone or tablet and compete in a range of games, puzzles and quizzes to win the show, and prizes!

Mae Wi-Fi Wars yn dychwelyd gyda fersiwn frawychus iawn oʼr sioe gomedi fyw lle rydych chi i gyd yn chwarae! Mewngofnodwch gydaʼch ffôn clyfar neu dabled a chystadlu mewn amrywiaeth o gemau, posau a chwisiau i ennill y sioe, a gwobrau!

Thursday 30 Dydd Iau, Friday 31 Dydd Gwener, 7:30pm

Ballet Cymru & National Youth Dance Wales

NPT - Outstanding Dance Made in Newport

Tickets | Tocynnau £17 - £20 Age | Oed 8+

Come and meet this eclectic group of charming yet cheeky animals, as they discuss their life experiences and the challenges they face in a rapidly changing worldfeaturing puppetry, live music and playful characters.

Dewch i gwrdd âʼr grŵp eclectig hwn o anifeiliaid swynol ond direidus, wrth iddynt drafod eu profiadau bywyd aʼr heriau syʼn eu hwynebu mewn byd syʼn newid yn gyflym –yn cynnwys pypedwaith, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus.

Ballet Cymru and National Youth Dance Wales present three extraordinary short works choreographed by world class choreographers. Ballet and contemporary dance faultlessly fuse in an evening of creative excellence.

Ballet Cymru a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn cyflwyno tri darn byr o waith eithriadol wediʼu coreograffu gan goreograffwyr oʼr radd flaenaf. Bydd ballet a dawnsio cyfoes yn asioʼn berffaith mewn noson o ragoriaeth greadigol.

Thursday 6 Dydd Iau, 7:30pm Jah Wobble & The Invaders of The Heart

Tickets | Tocynnau £30

Combining global music, reggae, fusion and punk influences, Jah Wobble has entranced the world with his hypnotic bass riffs for over four decades. Accompanied by his band, Invaders of the Heart, Jah Wobble is reborn into a new decade as defiant as ever with a brand new UK tour.

Gan gyfuno dylanwadau cerddorol byd-eang, reggae, asiad a phync, mae Jah Wobble wedi swynoʼr byd gydaʼi riffs bas hypnotig ers dros bedwar degawd. Yng nghwmni ei fand, Invaders of the Heart, mae Jah Wobble yn cael ei aileni i ddegawd newydd yr un mor herfeiddiol ag erioed gyda thaith newydd sbon yn y Deyrnas Unedig.

Friday 7 Dydd Gwener, 7:30pm Walk Right Back

Tickets | Tocynnau £30.50

Immerse yourself in a wave of pure rock and roll nostalgia with Walk Right Back! This show recounts the tale of those two Kentucky boys who created unparalleled vocal magic – The Everly Brothers.

Ymgollwch mewn ton o hiraeth roc a rôl pur gyda Walk Right Back! Maeʼr sioe hon yn adrodd storiʼr ddau fachgen hynny o Kentucky a greodd hud lleisiol heb ei ail – The Everly Brothers.

Saturday 8 Dydd Sadwrn, 7:30pm Hummadruz Black Light Theatre of Wales Amazing Stories from Wales

Tickets | Tocynnau £12.50 - £15.50 Age | Oed 4+

Amazing Stories is a spectacular, non-verbal UV show blending circus, dance, puppetry, and illusions. Featuring Welsh classical and electronic music, it tells two magical tales of UFOs in Wales and a dragon brought to life. A joyful, psychedelic experience for all ages, languages, and abilities.

Mae Amazing Stories yn sioe UV ysblennydd, heb eiriau, yn cyfuno syrcas, dawns, pypedwaith a rhithiau. Yn cynnwys cerddoriaeth glasurol ac electronig Gymreig, maeʼn adrodd dwy stori hudolus am UFOs yng Nghymru a draig syʼn dod yn fyw. Profiad llawen, seicedelig ar gyfer pob oedran, iaith a gallu.

In association with The Riverfront Theatre and Arts Centre

Saturday 8 Dydd Sadwrn, 8pm, November|Tachwedd

Dial 1 For UK

Tickets | Tocynnau £11

In Dial 1 for UK, Uday Kumar dreams of a British life while manning a Delhi call centre. A chance tip sparks his journey to England, but reality in Hounslow’s care sector shatters his illusions. Mohit Mathur’s solo play explores ambition, disillusionment, and the fate of vanished migrant workers.

Yn Dial 1 for UK, Mae Uday Kumar yn breuddwydio am fywyd Prydeinig pan foʼn rheoli canolfan alwadau yn Delhi. Mae awgrym ar hap gan rywun yn sbarduno taith i Loegr iddo, ond mae realiti sector gofal Hounslow yn chwaluʼr breuddwydion fu ganddo. Mae drama un person Mohit Mathur yn archwilio uchelgais, dadrithiad, a thynged gweithwyr mudol diflanedig.

Thur 4 Dydd Iau & Fri 5 Dydd Gwener, 7:30pm December|Rhagfyr

Casablanca

Tickets | Tocynnau £16.50 Age | Oed 12+

Broadcasting this classic tale of love in war-torn North Africa in front of a live theatre audience. Join Myrtle, Harry, Bert and their colleagues as they invite you for an evening in Rick’s Bar….If you don’t come, you will regret it, maybe not today….

Yn darlleduʼr clasur hwn o gariad yng Ngogledd Affrica o flaen cynulleidfa theatr fyw. Ymunwch â Myrtle, Harry, Bert aʼu cydweithwyr wrth iddyn nhw eich gwahodd am noson yn Rickʼs Bar....Os na ddewch chi, byddwch chiʼn difaru, ond efallai nid heddiw....

Wednesday 12 Dydd Mercher, 7:30pm, November|Tachwedd

Kerry Ellis – Queen of the West End

Tickets | Tocynnau £33.50 - £79.50

Meet and greet available

Kerry Ellis is the Queen of the West End. Singing songs from the biggest musicals and telling stories about how she came to play roles, this is a unique opportunity to see and hear the West End’s biggest hits in a very intimate setting.

Kerry Ellis yw Brenhines y West End. Yn canu caneuon oʼr sioeau cerdd mwyaf ac adrodd straeon am sut y daeth i chwarae rolau, mae hwn yn gyfle unigryw i weld a chlywed caneuon mwyaf y West End mewn lleoliad agos iawn.

Saturday 13 Dydd Sadwrn, 8pm, December|Rhagfyr House of Deviant Dick Twittington:

Tickets | Tocynnau £16.50 Age | Oed 18+

Join House of Deviant for a filthy, fabulous night of innuendo, sequins, and scandal in this outrageous twist on the classic ragsto-riches tale! When young Dick Twittington heads to London with dreams of glory (and maybe a rich sugar daddy), he’s joined by his sassy, high-heeled feline companion with claws as sharp as her comebacks.

Ymunwch â House of Deviant am noson ddrygionus, wych o ensyniadau, secwins, a sgandal yn y dehongliad pryfoclyd hwn o stori glasurol carpiau i gyfoeth! Pan fydd Dick Twittington ifanc yn mynd i Lundain gyda breuddwydion o ogoniant (ac efallai noddwr hŷn cyfoethog), maeʼn mynd yng nghwmni ei gath sodlau uchel chwareus, gyda chrafangau mor finiog âʼi hymatebion.

Friday 12th September, 8pm: Malika Blu

Friday 10 October, 8pm: Kat Rees & Tom Barber Duo

Friday 14 November, 8pm: Talulah & Matt Le Vi

Tickets | Tocynnau £12 Age | Oed 16+

The Riverfront Jazz Club is a monthly evening showcasing some of the best local emerging talent in Jazz, Jazzinspired, Funk, Soul and R&B. Enjoy a cocktail and listen live to local artists soulful melodies in The Riverfront Theatre’s intimate studio space.

Mae Clwb Jazz Glan yr Afon yn noson fisol syʼn arddangos rhai oʼr talentau lleol gorau syʼn dod iʼr amlwg ym maes Jazz, cerddoriaeth wediʼi hysbrydoli gan Jazz, Ffync, Soul ac R&B. Mwynhewch goctel a synau soniarus artistiaid lleol yng ngofod stiwdio clyd Theatr Glan yr Afon.

our upcoming cinema screenings with tickets starting at

Friday 26 September, Friday 31 October,

Friday 28 November, Friday 19 December, 8pm

Your monthly night of stand-up comedy on the last Friday of every month. Set in our intimate studio theatre with cabaret-style seating and a relaxed atmosphere, it’s the perfect way to unwind with friends, family or colleagues. Each show features a fresh line-up of three professional comedians, delivering sharp, original material and plenty of laughs.

Eich noson fisol o gomedi stand-yp ar nos Wener olaf pob mis. Wediʼi leoli yn ein theatr stiwdio glyd gyda seddi arddull cabaret ac awyrgylch hamddenol, dymaʼr ffordd berffaith o ymlacio gyda ffrindiau, aelodauʼr teulu neu gydweithwyr. Mae pob sioe yn cynnwys cast newydd o dri digrifwr proffesiynol, yn cyflwyno deunydd treiddgar, gwreiddiol a llwyth o chwerthin.

Sganiwch yma ar gyfer ein dangosiadau sinema sydd ar ddod gyda thocynnau yn dechrau ar £3.50! £3.50!

Wednesday 3 September: Nʼfamady Kouyaté

Wednesday 1 October: Sinfonia Cymru: All About The Bass

Wednesday 5th November: Joe Howson

Wednesday 3rd December: Christmas Concert

Lunchtime Concerts

Tickets | Tocynnau £7.50 - £11

On the first Wednesday of every month, The Riverfront presents ʻLunchtime Concerts’ with Sinfonia Cymru, bringing people together for an enjoyable afternoon of classical music.

Ar ddydd Mercher cyntaf pob mis, mae Glan yr Afon yn cyflwyno ʻCyngherddau Cinioʼ gyda Sinfonia Cymru, yn dod â phobl ynghyd ar gyfer prynhawn pleserus o gerddoriaeth glasurol.

CAFÉ CAFFI & BAR

The Riverfront Café is the perfect spot for a catch up with friends, a casual business meeting or even a place to work remotely. Enjoy a relaxing cup of coffee and piece of cake or even a glass of something stronger with views across the River Usk at the Riverfront Café.

Mae Caffi Glan yr Afon, ar ei newydd wedd, yn fan delfrydol i gwrdd â ffrindiau, cynnal cyfarfod busnes anffurfiol neu wneud ychydig o waith o bell hyd yn oed. Gallwch fwynhau paned o goffi a chacen yn hamddenol, neu wydraid o rywbeth cryfach os dymunwch, gyda golygfeydd dros Afon Wysg yng Nghaffi Glan yr Afon.

If you’re looking at starting a new hobby, learning a new skill or finding something to keep the kids occupied, visit newportlive.co.uk/Workshops and explore the varied range of workshops, including drama, dance, ceramics, choirs, tots classes and more.

Os ydych chi’n edrych i ddechrau hobi newydd, dysgu sgil newydd neu ddod o hyd i rywbeth i gadw’r plant yn brysur, ewch i newportlive.co.uk/Gweithdai ac archwiliwch ein hamrywiaeth o weithdai gan gynnwys drama, dawns, cerameg, corau, dosbarthiadau plant a mwy.

£5

Saturday Breakfast Deal

Bargen Brecwast Sadwrn

Enjoy any small hot drink and a bacon roll for just £5. The perfect way to fuel up for the day. Vegetarian options available.

Mwynhewch unrhyw ddiod boeth fach a rhôl bacwn am ddim ond £5. Y ffordd berffaith o danioʼch diwrnod. Mae opsiynau llysieuol ar gael.

ART GALLERY ORIEL GELF

The Riverfront Art Gallery hosts a broad spectrum of diverse and exciting arts exhibitions throughout the year. You can find upcoming exhibitions at newportlive.co.uk/artgallery

Mae Oriel Gelf Glan yr Afon yn cynnal sbectrwm eang o arddangosfeydd celfyddydol amrywiol a chyffrous drwy gydol y flwyddyn. Gallwch ddod o hyd i arddangosfeydd sydd ar ddod yn newportlive.co.uk/Oriel-Gelf/

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.