YW March 2024 newsletter (Welsh)

Page 1

Mawrth 2024 www.childreninwales.org.uk Cylchlythyr Cymru Ifanc
Senedd Ieuenctid Cymru yn pwyso am waredu’r rhwystrau i deithio cynaliadwy Llywio Cymru: Antur Annisgwyl Myfyriwr Rhyngwladol Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â bwrdd Gwarant Pobl Ifanc Cwrs Preswyl Cymru Ifanc 2 | childreninwales.org.uk 4 6 7 8
Mawrth 2024 | 3

Senedd Ieuenctid Cymru yn pwyso am waredu’r rhwystrau i deithio cynaliadwy

Ym mis Hydref 2023, lansiodd Pwyllgor Hinsawdd ac Amgylchedd Senedd Ieuenctid Cymru ei hadroddiad ‘Ffyrdd Gwyrdd’ a oedd yn canolbwyntio ar ddeall agweddau pobl ifanc tuag at wahanol ddulliau teithio, a deall y rhwystrau sy’n eu hatal rhag teithio’n fwy cynaliadwy.

Dywedodd Poppy Jones, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Arfon:

‘Y mater pwysicaf i mi yw sefydlogrwydd ein hinsawdd. Ni ellir ei gweld, nid oes aroglau iddi, ni ellir cyffwrdd â hi ac ni ellir ei chlywed ond mae’n effeithio ar bob agwedd bron ar ein bywydau bob dydd. Mae dynoliaeth yn llythrennol yn sglefrio ar iâ tenau.’

Yng Nghymru, mae 17% o’r holl allyriadau carbon yn cael eu cynhyrchu o drafnidiaeth, a

dyna pam y penderfynon nhw ganolbwyntio ar edrych ar deithio cynaliadwy drwy deithio neu drafnidiaeth gyhoeddus i helpu i leihau allyriadau.

Yn y cyfnod ymgynghori, cwblhaodd 1,300 o bobl ifanc yr arolwg, a chynhaliwyd digwyddiadau, sesiynau gydag ysgolion a fforymau ieuenctid ledled Cymru.

Canfu’r adroddiad fod 2/3 o bobl ifanc yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol wrth ddewis eu dull o deithio a bod 74% o bobl ifanc wedi dweud y byddent yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy pe bai am ddim. Canfu’r arolwg hefyd fod llawer o grwpiau’n cael eu gwthio i’r cyrion o brofiad trafnidiaeth gyhoeddus cadarnhaol.

4 | childreninwales.org.uk
Mawrth 2024 | 5

Llywio Cymru: Antur Annisgwyl Myfyriwr Rhyngwladol

Mae llywio system drafnidiaeth Cymru fel myfyriwr rhyngwladol 25 oed wedi bod yn agoriad llygad mewn sawl ffordd. Yn ôl gartref, roeddwn i’n defnyddio cerbyd dwy olwyn neu gerbyd preifat i deithio yn rheolaidd. Doedd trafnidiaeth gyhoeddus byth yn ddewis cyntaf i mi, er mor gyfleus ydoedd. Ond mae pethau’n wahanol iawn yma yng Nghymru.

Heb os nac oni bai, mae cefn gwlad Cymru yn eithriadol o hardd, ond mae cyrraedd yno yn galw am strategaeth wahanol. Er bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi gwella, gall yr opsiynau amgen mewn mannau gwledig fod yn brinnach nag yn fy mhrofiad blaenorol. Mae bysiau yn cyrraedd ac yn gadael yn llai aml, sy’n gwneud teithio munud olaf a mynd i ddigwyddiadau y tu allan i ganol y ddinas yn heriol o ran logisteg. Gall teithio’n aml fod yn ddrud hefyd, yn enwedig i fyfyrwyr ar gyllideb dynn.

Ond mae’r cyfyngiadau hyn wedi gwneud i mi werthfawrogi dulliau eraill o drafnidiaeth hyd yn oed yn fwy. Mae llwybrau beic cadarn yn cynnig ffordd hardd ac iach o deithio, ond

mae cerdded yn cynnig golwg agosach o’r golygfeydd anhygoel a’r ffordd leol o fyw. Mae gweithgareddau a oedd yn eilradd yn fy nhref enedigol wedi datblygu i fod yn rhai o fy hoff ffyrdd o ddarganfod cymdogaethau hyfryd y wlad hon.

Mae fy mhrofiad yng Nghymru wedi pwysleisio pwysigrwydd ystyried safbwyntiau amrywiol wrth gynllunio datrysiadau trafnidiaeth. Er bod llywio systemau anghyfarwydd yn gallu bod yn heriol, mae hefyd yn meithrin gwerthfawrogiad a dealltwriaeth am ddulliau gwahanol.

Y tro nesaf y byddwch chi’n gweld teithwyr eraill – p’un a ydyn nhw’n bobl leol yn beicio neu’n dwristiaid yn teithio mewn car – cofiwch fod pob taith yn wahanol ac wedi’i ffurfio yn seiliedig ar anghenion a safbwynt yr unigolyn. Gyda’n gilydd, gallwn greu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n diwallu anghenion pawb, gan sicrhau profiad cyfforddus a chynaliadwy i genedlaethau sydd i ddod.

6 | childreninwales.org.uk
Girija Deshmukh

Trafnidiaeth Cymru yn ymgysylltu â bwrdd

Gwarant Pobl Ifanc

Ym mis Tachwedd, cymerodd y Bwrdd Gwarant Pobl Ifanc ran mewn sesiwn gyda Trafnidiaeth Cymru. Roedd y sesiwn hwn yn gyfle gwerthfawr i’r bwrdd gael mewnwelediad i weithrediadau

Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru, ac yn gyfle i rannu adborth a chodi ymholiadau yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain wrth ddefnyddio’r gwasanaethau.

Pwysleisiodd y bwrdd bryderon ac arsylwadau allweddol er mwyn gwella’r profiad o drafnidiaeth gyhoeddus i bobl ifanc yng Nghymru. Dyma rhai pwyntiau a godwyd:

• Amodau cerdyn rheilffordd 16–25 National Rail a’r cyfyngiadau defnydd.

• Codwyd y pwyntiau canlynol: profiad teithwyr anabl a phroblemau fel heriau ar gyfer seddi blaenoriaeth, dim digon o gefnogaeth ar gyfer teithwyr sydd ag anableddau anweladwy, toiledau anaddas, a diffyg cymorth mewn gorsafoedd.

• Fforddiadwyedd a gorlenwi: Prisiau cynyddol trenau a threnau gorlawn

• Materion technolegol: Nodwyd ymarferoldeb Wi-Fi ac anawsterau gydag adnabod cod bar ar wasanaethau bws fel meysydd y mae angen eu gwella.

• Cymorth i grwpiau agored i niwed: Awgrymiadau ar gyfer cymorthdaliadau uwch ar gyfer teithio i sefydliadau addysgol, gwell gefnogaeth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, gan bwysleisio’r angen ar gyfer cynwysoldeb a hygyrchedd o fewn gwasanaethau trafnidiaeth.

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn ymrwymedig i archwilio a mynd i’r afael â’r pryderon a godwyd gan y bwrdd ac mae’n gobeithio darparu adborth o fewn yr ychydig wythnosau nesaf.

Os hoffech chi gymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc, neu os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â rachel.clement@childreninwales.org.uk

Cwrs Preswyl Cymru Ifanc

Cymerodd Gwirfoddolwyr Cymru Ifanc ran yn ein cwrs preswyl yn Abernant Manor Adventure ym mis Chwefror 2024. Ar ôl cynnal sesiynau preswyl i Wirfoddolwyr Cymru Ifanc yn y pedwar cwadrant ledled Cymru, roedd Abernant Manor Adventure yn lleoliad delfrydol yng nghanolbarth Cymru. Mynychodd swyddogion Llywodraeth Cymru y sesiynau wyneb yn wyneb , gan ryngweithio â phobl ifanc ar lefel fwy personol. Darparwyd trafnidiaeth i gyfranogwyr a oedd yn teithio o ogledd, de, gorllewin a dwyrain Cymru. Allan o’r 31 a oedd yn bresennol, dau berson ifanc yn unig a gyrhaeddodd gan ddefnyddio eu trafnidiaeth eu hunain. Defnyddiwyd dau gar, bws mini a bws i gludo plant a phobl ifanc i Abernant Manor Adventure.

Mae’n hanfodol ystyried anghenion trafnidiaeth wrth drefnu cwrs preswyl. Mae’n bwysig ein bod yn darparu mynediad i bawb sydd â diddordeb ymgysylltu â’r gwaith; ni ddylid gadael unrhyw unigolyn allan oherwydd ei amgylchiadau personol. Oherwydd hyn, roedd yn bosibl i’r grŵp ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gyfleoedd a ddarparwyd yn ystod y cwrs preswyl. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda’r grwpiau a’r byrddau dan arweiniad Cymru Ifanc, ymgynghoriadau, hyfforddiant a chynllunio ar gyfer Gŵyl Cymru Ifanc. I ddiolch am eu cyfranogiad, gallai pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol, gyda dewis o opsiynau awyr agored a dan do. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgareddau fel ‘aeroball’, sgiliau goroesi, astudiaethau ffilm, trên dall a nosweithiau ffilm/gemau.

8 | childreninwales.org.uk

21 Windsor Place, Cardiff CF10

3BY 029 2034 2434

@ChildreninWales

info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk

Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.