CIW Winter magazine 2023 (Welsh)

Page 1

Rhifyn 87 Gaeaf 2023/24 childreninwales.org.uk

Adeiladu Cymru lle mae gan bob plentyn a pherson ifanc eu holl hawliau wedi’u cyflawni

30ain

penblwyd

d

(Rhan 2)

CYNNWYS Ysgol Y Ferch o’r Sger LGBT+ Cymru Clybiau Plant Cymru

HEFYD: Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Achub y Plant Promo Cymru


GAEAF 2023 | 3

Croeso

Croeso gan Hugh Russell, Prif Weithredwr 6 4

Croeso!

Croeso gan ein Prif Weithredwr

3

Plant yng Nghymru/Cymru Ifanc

4

Ysgol y Ferch o’r Sger

6

Cyngor Sir Caerfyrddin

8

LGBT+ Cymru

10

Achub y Plant Cymru

12

ProMo Cymru

14

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

8

15

Prifysgol Gorllewin Lloegr

16

National Lottery Community Fund

18

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ynys Saff

19

Clybiau Plant Cymru

20

NYAS Cymru

21

Platfform

22

10

Croeso i bawb i’r rhifyn Gaeaf hwn o gylchgrawn chwarterol Plant yng Nghymru. Rwy’n ysgrifennu’r cyflwyniad hwn ar y diwrnod y mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Strategaeth Tlodi Plant 2024. Er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod ers rhyddhau drafft cyntaf y Strategaeth y llynedd, ac rydym ni yn Plant yng Nghymru wedi croesawu’r cyfle i ddylanwadu ar y broses ddrafftio (mae’r fersiwn derfynol yn seiliedig ar sylfaen o hawliau plant, er enghraifft, pwynt a wnaethom dro ar ôl tro), dim ond cymaint y mae’r dylanwad hwn wedi’i gyflawni, ac rydym ni a’n partneriaid wedi dod i ffwrdd yn siomedig, yn y pen draw. Mae’r strategaeth yn sylfaenol yn methu â darparu ymdeimlad o atebolrwydd ar y materion pwysicaf hwn. Er bod fframwaith monitro wedi’i addo, nid oes targedau yn y strategaeth hon, sy’n ei gwneud yn llawer anoddach i ni ddeall effaith y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’w gyflawni. Nid wyf yn gwadu bod llawer o’r ysgogiadau allweddol i ddod â thlodi plant i ben yn llwyr yn San Steffan. Rwy’n cydnabod bod effaith chwyddiant a’r pydredd hir, araf a osodwyd ar ein gwasanaethau cyhoeddus gan bolisïau llymder wedi cael effaith fawr ar ein gallu yng Nghymru i ymateb i anghenion plant a’u teuluoedd. Ac rwy’n derbyn y datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip bod “mynd i’r afael â thlodi plant wrth wraidd popeth a wnawn” – mae nifer o enghreifftiau wedi cael eu darparu neu eu hariannu gan y llywodraeth hon o fentrau sy’n cyflawni’r datganiad hwn. Ond gyda thlodi plant ar lefelau mor uchel ar draws y wlad, mae’n parhau i fod yn ddigalon a methu gweld y dangosyddion penodol y mae angen eu cyrraedd er mwyn troi pethau o gwmpas ar raddfa genedlaethol. Byddai’n hawdd teimlo’n dywyll yn y cyd-destun hwn, ond, fel y mae cyfraniadau i’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn dangos i ni, mae llawer i fod yn optimistaidd yn ei gylch!

Rydym yn gosod thema’r mater hwn i fod yn ffocws ar y dyfodol o hawliau plant yng Nghymru. Rydyn ni’n dod i ddiwedd ein 30ain pen-blwydd bellach ac, ar ôl myfyrio ar cynnydd yn ystod y cyfnod hwnnw yn ein rhifyn diwethaf, mae’n teimlo briodol i ddefnyddio’r cylchgrawn hwn i edrych ymlaen at yr hyn sydd yn cael ei wneud ar draws Cymru nawr ac i feddwl am beth yn dod nesaf.

Mae ein sector yn llawn angerdd, arloesedd ac egni. Y mae’r erthyglau a nodir yma yn dangos bod amrywiaeth o feysydd: o addysg, i iechyd, i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar. Ymhlith yr erthyglau a ddaliodd fy llygad yn arbennig yn y rhifyn hwn roedd darn ar y gwaith y mae Ysgol y Ferch o’r Sger, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn ei wneud i wreiddio hawliau plant ym mywydau beunyddiol eu disgyblion, gan gynnwys rhieni yn eu gwaith i sicrhau bod gwersi’r ystafell ddosbarth yn gyson â’r rhai gartref. Mae yna erthygl wych o waith arloesol Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar yn Sir Gaerfyrddin, gan ddod â ffocws clir ar hawliau plant i’w gwaith gyda babanod ifanc a’u rhieni. Roeddwn hefyd wrth fy modd yn darllen darn Dominique Drummond am yr ymgyrchu a wnaed gan Prosiect Undod NYAS Cymru, sy’n ymwneud â sicrhau bod plant sy’n cael eu geni i rieni sydd â phrofiad o ofal yn cael y canlyniadau gorau posibl. Hoffwn ddiolch i’n holl gyfranwyr ac rwy’n gobeithio y bydd y mater hwn yn eich gadael yn teimlo’n llawn cyffro gan yr amrywiaeth o waith gwych sy’n digwydd ledled Cymru i wella bywydau plant a phobl ifanc.

16

Golygydd: Louise O’Neill louise.oneill@childreninwales.org.uk 21 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BY 029 2034 2434 @ PlantyngNghymru info@childreninwales.org.uk Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313 Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996

childreninwales.org.uk

Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd yn farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r hawl i olygu cyn cyhoeddi

Aelodaeth Plant yng Nghymru Mae aelodaeth bellach wedi’i gwneud yn haws i chi - mae’r pŵer yn eich dwylo i gael mynediad at eich dewisiadau eich hun a’u rheoli gan ddefnyddio ein platfform aelodaeth. Byddwch yn gallu cael mynediad at ystod eang o fuddion drwy’r platfform hwn, gan gynnwys eich rhif aelodaeth, cod disgownt at ein cyrsiau hyfforddi, adnoddau gan gynnwys Efriffiadau Aelodau Plant yng Nghymru a Eurochild, hen gopïau o’r Cylchgrawn hwn, digwyddiadau rhwydweithio i aelodau yn unig, a chyfleoedd unigryw eraill. I weld yr ystod lawn o fuddion aelodaeth, ewch i’n platfform yma.


4 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yng Ngŵyl Cymru Ifanc 2023 Plant yng Nghymru/Cymru Ifanc Ar ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023, bu Plant yng Nghymru yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant trwy gynnal Gŵyl flynyddol Cymru Ifanc ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe. Eleni, cafwyd nawdd hael ar gyfer rhai o’r costau cysylltiedig â’r digwyddiad gan Cactus Design Ltd a Techsol Group Ltd. Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ddod i gysylltiad â llunwyr penderfyniadau hollbwysig, gan gynnwys y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a Rheolwyr Polisi Llywodraeth Cymru. Wrth i’r diwrnod gychwyn, cyrhaeddodd ein cynrychiolwyr a chofrestru ar gyfer y gweithdai a’r sesiynau bord gron oedd wedi’u cynllunio. Wrth i bobl gyrraedd, cafwyd perfformiadau rhyfeddol gan bobl ifanc Anthem ar lwyfan y Brif Neuadd. Dyna lle roedd yr ardal arddangos hefyd, ac roedd yn llawn stondinau sefydliadau eraill oedd yn cynnig gweithgareddau difyr a thestunau trafod. I agor yr ŵyl yn swyddogol, bu Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, Hugh Russell, yn croesawu’r rhai oedd yn bresennol ac yn rhoi anerchiad agoriadol. Dilynwyd hynny gan ein siaradwr cyntaf, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, cyn i’n gwirfoddolwyr ifanc roi cyflwyniad ar ein prosiect diweddaraf, llyfr dathlu 30 mlwyddiant Plant yng Nghymru: ‘Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru’. Yn fuan, dechreuodd y prif ddigwyddiad, gyda’r cyntaf o’r gweithdai rhyngweithiol a’r sesiynau bord gron yn cael eu cynnal. Roedd y sesiynau hyn yn gyfle i’r plant a’r bobl ifanc oedd yn bresennol sicrhau bod Gweinidogion a swyddogion eraill yn clywed eu lleisiau, ac fe gawson nhw drafod y pynciau oedd yn bwysig iddyn nhw. Roedd y gweithdai rhyngweithiol yn cynnwys pynciau fel Gorbryder a Straen, Sgiliau Syrcas, Drama, Amgueddfa Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Meithrin Hyder a Sgiliau. Cafodd y gweithdai hyn eu hailadrodd ar hyd y dydd, fel bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael cyfle i chwarae rhan weithredol ynddyn nhw. Roedd 6 sesiwn bord gron ar gael yn ystod y digwyddiad, dan arweiniad amrywiaeth o siaradwyr allweddol. Bu llawer o’r plant a’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn ymgysylltu’n llawn â’r pynciau, ac yn sicrhau bod eu safbwyntiau i’w clywed. Dyma oedd testunau’r sesiynau: Iechyd Meddwl a Llesiant - Millie Boswell, Uwch Reolwr Polisi Llywodraeth Cymru, oedd swyddog y ford gron yma, lle trafodwyd cefnogaeth iechyd meddwl mewn ysgolion a’r amserau aros ar hyn o bryd ar gyfer pobl ifanc sy’n ceisio cefnogaeth broffesiynol. Rhoddwyd sylw hefyd i ddilyniant a chysondeb gofal. Costau Byw - Jane Hutt AS, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, oedd yn arwain y ford gron ar Gostau Byw. Bu’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn trafod y berthynas rhwng Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad a thlodi, y gefnogaeth sydd ar gael i’r rhai â nodweddion gwarchodedig, a sut mae ymdrin â chostau cynyddol eitemau a gwasanaethau hanfodol. Buon nhw hefyd yn holi sut gallwn ni sicrhau bod pobl ifanc yn byw, yn hytrach na goroesi’n unig, yn ystod yr argyfwng yma. Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiad – Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, oedd â gofal am drydedd sesiwn y dydd. Yma trafodwyd cwestiynau fel sut mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad i’w holl hawliau? Sut mae creu gwasanaethau ac amgylcheddau cynhwysol, a sut mae Cymru’n cyflawni ei hymrwymiad i fod yn genedl noddfa? Newid yn yr Hinsawdd - Hugh Russell, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru, oedd â gofal am y Ford Gron yn trafod Newid Hinsawdd. Bu ef a’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn trafod effeithiau’r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, sut mae sylw’n cael ei roi i’r effeithiau hynny, a sut mae trawsffurfio’r seilwaith trafnidiaeth presennol mewn ymateb i argyfwng yr hinsawdd. Buon nhw hefyd yn rhoi eu barn ar sut gall Cymru ddylanwadu ar bolisi byd-eang i amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol. Addysg – Ochr yn ochr â 3 swyddog addysg o Lywodraeth Cymru, bu’r bobl ifanc oedd yn bresennol yn y sesiwn bord gron hon yn archwilio effeithiau tlodi a chostau byw ar addysg. Buon nhw’n ystyried sut gallwn ni alluogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni hyd eithaf eu potensial, a sut gallwn ni greu ymarferwyr, gwasanaethau ac amgylcheddau sy’n meithrin pobl o bob oed ac yn ddiogel iddyn nhw. Hawliau Plant a Chyfranogiad – Roedd sesiwn bord gron olaf y dydd yng ngofal Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru. Roedd hon yn sesiwn boblogaidd iawn, a bu’r rhai oedd yn bresennol yn archwilio sut gallwn ni gynyddu ymwybyddiaeth o hawliau plant yng Nghymru a’i gwneud hi’n wlad fwy croesawgar i blant. Buon nhw hefyd yn ystyried cyfranogiad ieuenctid yng Nghymru a’r mesur pobl ifanc.

GAEAF 2023 | 5

Cafwyd sawl egwyl yn ystod y dydd, a chafodd y gwesteion gyfle i fwynhau lluniaeth, cwrdd â’r sefydliadau ar eu stondinau, ac wrth gwrs, gwylio’r perfformwyr ifanc dawnus o Anthem. Daeth y digwyddiad i ben ag anerchiad ysgubol a diolchiadau gan Gadeirydd Plant yng Nghymru, Helen Mary Jones. I grynhoi, roedd Gŵyl Cymru Ifanc 2023 yn ddiwrnod diddorol i nodi Diwrnod Byd-eang y Plant. Roedd yn llwyfan i’n gwirfoddolwyr ifanc rannu eu cyflawniadau, cymryd rhan mewn gweithdai diddorol, ac yn gyfle iddyn nhw gwrdd â llunwyr penderfyniadau pwysig yng Nghymru i drafod y pynciau sydd o bwys iddyn nhw. Roedd hefyd yn gyfle i ni ddathlu hawliau plant a phobl ifanc, a’r gwaith a wnaed yn ystod 30 mlynedd o wasanaeth Plant yng Nghymru. Law yn llaw â hyn, roeddem wedi trefnu cyfle creadigol i ysgolion, grwpiau cymunedol, lleoliadau gofal plant a chwarae godi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant a chael plant a phobl ifanc i feddwl pa hawliau sydd bwysicaf iddynt. Gofynnom i blant a phobl ifanc greu baneri bach yn seiliedig ar hawl y plant o’u dewis ac roeddem yn falch iawn o gyhoeddi’r enillwyr yn yr Ŵyl ac arddangos eu gwaith: Lle cyntaf: disgybl o Ysgol y Ferch o’r Sger, Pen-y-bont ar Ogwr Ail safle: disgybl o Ysgol Trellech, Sir Fynwy Trydydd safle: disgybl o Ysgol Gynradd Bryn Celyn, Caerdydd Diolch i bawb a gymerodd ran ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf yn 2024.


6 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Ein Taith Hawliau Plant

Delyth Davies, Ysgol y Ferch o’r Sger, Pen-y-Bont ar Ogwr Mae Ysgol Y Ferch O’r Sgêr yn falch iawn i fod yn ysgol sy’n parchu hawliau. Dechreuon ni ar y daith yn Hydref 2019 fel rhan o’n strategaeth lles a llwyddon ni ennill ein FGwobr Arian Hawliau Plant yn Gwanwyn 2019. Ers hynny rydym wedi parhau i godi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant o fewn cymuned yr ysgol a thu hwnt.

GAEAF 2023 | 7

Cylchgrawn y Gwanwyn Plant yng Nghymru 2024 Canolbwyntio ar hawliau plant mewn cyfnod o newid

Mae ein rhaglen Hawliau Plant yn rhedeg trwy’r flwyddyn ysgol gyda erthyglau penodol yn cael sylw o fewn gwasanaethau ysgol wythnosol. Rydym yn lawnsio’r rhaglen pob mis Medi gan ddarparu poster hawliau i bob dosbarth. Mae’r Cyngor Ysgol yn cyflwyno’r cysyniad o ‘Angen ac Eisiau’ i’r ysgol gyfan ac yn gosod yr her o greu ‘Siartr Hawliau Dosbarth’ a ‘Siart Angen ac Eisiau’. Cysylltwn hawliau plant gyda diwrnodau arbennig megis Diwrnod Plant Mewn Angen, Wythnos Gwrth-Fwlio a Diwrnod Dºr y Byd a bydd y plant yn ymgysylltu gyda gweithgareddau perthnasol o fewn y dosbarth sy’n addas i’w hoedran a’u lefel datblygiad. Annogwn rhieni i fod yn rhan o’r rhaglen a dosbarthir taflen ar ddechrau’r flwyddyn yn annog rhieni i sicrhau hawliau eu plant at addysg, dºr glân, bwyd iach a chwarae. Mae ein hawl i fynegi barn yn cael ei sicrhau gan Bwyllgor Ysgol gweithgar a mae pob dosbarth yn myfyrio ar eu dysgu a chynllio ar gyfer yr wythnos i ddod o fewn sesiynau ‘Gwener Gwenu’. Mae cyweithiau gyda asiantaethau megis yr NSPCC, Gwasanaeth Ymgysylltu’r Heddlu, y Frigâd Dân a Chrefft yr Heol yn sicrhau blaenoriaeth uchel at ein hawl i fod yn ddiogel ac mae Bytis Buarth yn ein hannog i ddangos parch tuag at eraill ar yr iard. Eleni rydym yn cydnabod mor bwysig yw chwarae i’n lles ac yn cynnal rhaglen o ddiwrnodau ‘Dysgu Awyr Agored’ a ‘Diwrnodau Lles’ pob mis. Rydym hefyd wedi defnyddio ein sgiliau creadigol i gyfansoddi caneuon Hawliau Plant ac rydym wrth ein boddau yn eu perfformio ar unrhyw gyfle.

Gyda Phrif Weinidog newydd yn dod i’w swydd ym mis Mawrth 2024, etholiad Llywodraeth y DU ar y gorwel agos, ac etholiad i’r Senedd baratoi ar ei gyfer yn ystod y ddwy flynedd nesaf, rydym am achub ar y cyfle hwn i dynnu sylw at yr hyn sydd angen ei newid yng Nghymru o hyd er mwyn i bob plentyn allu cael mynediad at eu holl hawliau.

Wrth i’r plant dysgu am eu hawliau rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn datblygu eu hymwybyddiaeth o degwch a chydraddoldeb ac yn deall bod cyfrifoldebau yn dod gyda’n hawliau-y cyfrifoldeb o wneud ein gorau glas i barchu hawliau eraill ar bob achlysur.

Hoffem arddangos y gorau o’r gwaith y mae ein haelodau yn ei wneud i gyflawni’r nod hwn a gofyn i chi gyfrannu erthyglau, sy’n amlygu’r arfer da a’r bylchau.

Os hoffech ddysgu mwy am y gwaith a wnawn yn yr ysgol, e-bostiwch: pennaeth@yfos.pen-y-bont.cymru

Efallai yr hoffech ystyried: * Pa flaenoriaethau fyddech chi’n eu pennu ar gyfer Prif Weinidog newydd? * Yn yr un modd, pa flaenoriaethau ydych chi am weld anerchiad newydd gan Lywodraeth y DU a sut? * Dywedwch wrthym am waith rydych chi’n ei wneud i helpu plant i gael mynediad at eu hawliau, y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu a’r hyn sydd angen ei newid er mwyn eich galluogi i gyflawni canlyniadau mwy o hyd * Myfyrdodau ar yr hyn y mae Llywodraeth bresennol Cymru yn ei wneud i helpu plant i gael mynediad i’w hawliau - beth sy’n gweithio’n dda a ble mae’r bylchau? * Lleisiau pwy ydych chi eisiau i wleidyddion newydd glywed a beth allwn ni ei wneud i’w chwyddo? Dylai erthyglau fod: * Rhwng 500 a 750 o eiriau * Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg * Ganddynt deitl ac awdur ac yn cynnwys un neu ddau lun JPEG o ansawdd da (dewisol) * Yn cael eu cyflwyno erbyn dydd Iau, 28 Mawrth2024 E-bostiwch louise.oneill@childreninwales.org.uk i gadw eich lle.


8 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Hyrwyddo hawliau’r plentyn yn ystod y blynyddoedd cynnar Tina Taylor, Cyngor Sir Caerfyrddin W Ni yw Tîm Integreiddio’r Blynyddoedd Cynnar, project braenaru ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae’r tîm yn cynnwys bydwragedd BIP Hywel Dda ac ymwelwyr iechyd, ynghyd â thîm cymorth o Gyngor Sir Caerfyrddin. Fel tîm blynyddoedd cynnar mae gennym ni ddiddordeb mewn hawliau plant, yn enwedig y plant ifanc iawn rydyn ni’n gweithio â nhw. Fel tîm blynyddoedd cynnar, mae’n anodd dangos weithiau sut rydyn ni’n hyrwyddo ac yn cynnal hawliau’r plentyn. Gan eu bod nhw mor ifanc, mae’r plant eu hunain naill ai’n rhag-eiriol neu â geirfa gyfyngedig, ond dydy hynny ddim yn golygu nad oes ganddyn nhw lais. Bydd hyd yn oed y baban ieuengaf yn rhoi gwybod i ni pan fydd angen ei fwydo, yn anghyfforddus neu angen cyswllt. Bydd babanod ifanc iawn yn dangos diddordeb clir wrth ryngweithio â rhieni, yn enwedig y fam, a byddan nhw’n troi i ffwrdd os na fyddan nhw am ymgysylltu. Mae’n ddyletswydd arnom ni i helpu rhieni i arsylwi ac ymateb i giwiau baban gan mai dyna’r unig ffordd y gall gyfathrebu’r hyn sydd ei angen arno. Er enghraifft, hybu bwydo ymatebol ar gyfer babanod sy’n bwydo ar y fron a babanod sy’n bwydo o’r botel. Mae hyn yn cynnwys negeseuon syml am gysyniadau fel ‘bwydo reoledig’ ar gyfer babanod sy’n bwydo o’r botel lle rydyn ni’n ceisio osgoi bwydo babanod drwy ddisgyrchiant neu’n cael gwared ar y canfyddiad bod angen cymryd

swm penodol o laeth. Os byddwn ni’n gadael i fabanod ein tywys ni, byddan nhw’n cymryd ychydig yn aml yn naturiol. Mae angen dal babanod a gallwn ddangos sut mae curiad calon baban yn rheoleiddio pan fydd yn agos at mam neu dad, yn enwedig yn ystod cyswllt croen â chroen. Rydyn ni’n hybu ‘caru’ eich baban. Peidiwch ag ofni eu sbwylio nhw. Bydd eu dal a siarad â nhw yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel ac yn hapus. Mae’n hybu datblygiad yr ymennydd ac iechyd emosiynol da; dyna’r hyn y mae baban ei angen yn naturiol, a bydd yn gofyn amdano. Yn anffodus, mae sefyllfaoedd neu brofiadau rhai teuluoedd yn effeithio’n negyddol ar y plentyn. Efallai y bydd heriau ariannol, tai, ynysigrwydd, materion iechyd meddwl neu broblemau cymdeithasol yn effeithio ar deuluoedd. Dydy’r heriau hyn ddim o reidrwydd yn golygu bod pryderon diogelu, ond gall fod materion cymhleth fel llai o gapasiti i ddiwallu anghenion iechyd, maeth gwael neu lai o gapasiti i reoli’r gwaith o redeg cartref o ddydd i ddydd. Bydd y teuluoedd mwyaf cymhleth yn cynnwys diogelu ac, yma, rydyn ni’n glir ynghylch cynnal hawliau’r plentyn gyda chanllawiau sy’n nodi erthyglau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i ddiogelu plant yn benodol. Mae cefnogi’r rhiant yn cefnogi’r plentyn. Nodir hyn hefyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae helpu rhieni i ddeall pam mae hawliau’r plentyn yn bwysig i’w plentyn a sut y gellir eu cynnal yn rhan bwysig o’n gwaith. Mae

helpu rhieni i ddeall bod angen rhyngweithiadau cymdeithasol ar eu baban, ei fod yn gallu cyfathrebu’r hyn sydd ei angen arno a bod ganddo’r hawl i ffynnu yn her. Mae’n her rydyn ni’n ei derbyn, ond mae angen i ni wneud mwy. Er ei bod hi’n eithaf clir sut y gallem nodi a dangos tystiolaeth o’r ffordd rydyn ni’n cynnal hawliau’r plentyn pan fo pryderon diogelu, yn ffodus, dydy’r rhan helaeth o blant ddim yn rhan o’r categori hwnnw. Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae ac i safon byw dda (Erthygl 27), i ofal iechyd (Erthygl 24), i addysg (Erthygl 28) ac mae hefyd ganddyn nhw’r hawl i rieni sy’n cael eu cefnogi i ddiwallu eu hanghenion (Erthygl 18). Mae’n ddyletswydd arnom ni, fel gweithwyr iechyd ac awdurdod lleol proffesiynol i gynnal yr hawliau hynny. Os hoffech chi drafod gwaith ein tîm mewn mwy o fanylder, e-bostiwch: ttaylor@carmarthenshire.gov.uk


10 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Apel brys i achub bywydau plant Debbie Lane, LGBT+ Cymru

Ers dros 19 mlynedd, mae LGBT+ Cymru Helpline wedi helpu cannoedd o blant a phobl ifanc gyda’r agwedd gwnsela ar yr elusen, sef y Swansea Rainbow Counselling Centre. Rydyn ni’n cynnig cwnsela wyneb yn wyneb i’r rhai hynny sy’n gallu teithio i’n hystafelloedd therapi yn Abertawe a chwnsela ar-lein, os yn briodol, ledled Cymru.

GAEAF 2023 |

Wrth ystyried yr holl ffactorau hyn, mae ein cwnselwyr yn aml yn gweld cleientiaid wedi i’r niwed gael ei wneud; dyna pam rydyn ni’n ymrwymo i sicrhau ein bod ni’n darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’n cleientiaid ifanc. Un o’r ffyrdd rydyn ni’n gwneud hyn yw drwy beidio â chapio ein sesiynau, sy’n galluogi’r gwaith therapiwtig hir sydd ei angen gymaint i ddigwydd heb gyfyngiadau capio sesiynau ar 6–12 sesiwn, gan ei fod yn gallu cymryd hyd at 5–10 sesiwn i berson ifanc deimlo ei fod yn ymddiried ynddoch chi oherwydd y rhwystrau sydd wedi codi iddo yn flaenorol.

Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi helpu cannoedd o gleientiaid ac, mewn nifer mawr o achosion, rydyn ni wedi achub bywydau llawer o blant yn llythrennol. Yn anffodus, oherwydd diffyg cyllid, rydyn ni wedi gorfod stopio derbyn atgyfeiriadau newydd ers mis Hydref 2023; dyna pam mae hon yn apêl i achub bywydau.

Mae angen cyllid arnom ni ar frys er mwyn caniatáu i’n gwasanaeth cwnsela allweddol barhau. Mae’n costio £150,000 y flwyddyn i redeg yr elusen ar gapasiti llawn, gan gefnogi dros 800 o gleientiaid bob blwyddyn. Mae costau rhedeg yr elusen yn isel oherwydd bod ein cwnselwyr mwyaf profiadol yn gwirfoddoli ac eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

sicrhau eu bod, pan fyddan nhw’n ddigon hen, wedi meithrin gwydnwch a sicrwydd o ran eu hymdeimlad o hunaniaeth.

Mae angen i ni fod yn fwy hunangynhaliol er mwyn gallu parhau i achub mwy o fywydau plant. Ein nod a’n dymuniad mwyaf yw cael 2,500 o bobl i roi £5 y mis fel na fydd yn rhaid i ni boeni ac ofni am golli bywyd plentyn arall oherwydd diffyg cyllid.

Pan gaiff pobl ifanc eu cyfeirio atom ni, dydyn ni ddim yn chwarae unrhyw ran mewn annog neu gynghori ar y broses feddygol; mae

Os hoffech chi ddysgu mwy am ein sefydliad a gwasanaethau eraill a ddarperir gennym, a’n helpu i godi arian, anfonwch e-bost at:

hyn y tu hwnt i’n cylch gwaith yn llwyr. Rydyn ni’n wasanaeth cwnsela therapiwtig, yn cyd-fynd â fframwaith moesegol BACP y mae ei

debbie@lgbtcymru.org.uk

Ymysg y nifer o wahanol fathau o therapi rydyn ni’n eu darparu, dros y tair blynedd diwethaf mae’r angen cynyddol ar gyfer cwnsela a chymorth i’n cleientiaid traws ac anneuaidd wedi mynd i fyny 12 gwaith. Mae ein gwasanaeth cwnsela wedi bod yn allweddol wrth helpu pobl ifanc traws ac anneuaidd i lywio eu teithiau emosiynol gyda phryder am eu rhywedd a sut i annog ewfforia rhywedd er mwyn

egwyddorion yn hybu ymreolaeth cleientiaid. Hefyd, yn groes i safbwynt y cyfryngau a’r ychydig weithwyr proffesiynol sydd wedi’u camarwain o ran plant yn ailbennu rhywedd, mae hyn yn fyth ac nid yw’n wir. Mae’n rhaid i bobl draws fod yn oedolion cyn cael ymyriadau meddygol o’r fath; nid yw llawer o gleientiaid yn cael llawdriniaethau o’r fath tan eu bod yn eu 20iau hwyr.

Rôl y cwnselwyr yw mynd ar siwrnai’r cleientiaid i sicrhau bod ganddyn nhw, os byddan nhw’n dewis cael hormonau a/neu lawdriniaethau, y gofod i feithrin eu hunaniaeth/gwydnwch ac archwilio unrhyw ansicrwydd o ran eu hunaniaeth yn gyntaf. Mae hyn yn allweddol oherwydd, yn y gorffennol, rydyn ni wedi cael cleientiaid yn dad-drawsnewid o ganlyniad i ddarganfyddiadau yn ystod therapi a oedd yn golygu nad pryder am rywedd oedd ganddyn nhw. Heb ein gwasanaethau ni, a heb yr hunanarchwilio hollbwysig sydd ei angen o fewn grŵp cleientiaid mor gymhleth, efallai y byddai’r cleientiaid hynny wedi mynd ati i gael llawdriniaethau a fyddai wedi newid eu bywydau.

Yn aml, pan fydd pobl ifanc yn cael eu cyfeirio aton ni, maen nhw eisoes wedi ceisio hunanladdiad neu wedi ystyried gwneud. O safbwynt systemig, mae hyn oherwydd nifer o ffactorau; y prif reswm yw diffyg dealltwriaeth neu’r teulu yn gwrthod derbyn yr unigolyn, sy’n gwneud i’r person ifanc deimlo’n ynysig a heb gymorth neu empathi anwyliaid.

Thema gyffredin arall rydyn ni wedi’i weld sy’n cyfrannu at ddirywiad llesiant ein cleientiaid traws ac anneuaidd yw lefelau amrywiol o ddealltwriaeth a/neu dderbyn mewn ysgolion. Oherwydd yr anghysondeb hwn, mae’r bobl ifanc yn credu nad oes ganddyn nhw gymorth na chysylltiadau sydd, yn ei dro, yn eu gadael nhw’n agored i gael eu hecsbloetio o ganlyniad i chwilio’n anobeithiol am ymdeimlad o berthyn a chael eu derbyn.


12 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

GAEAF 2023 | 13

Canrif o ymgyrchu ar hawliau plant Melanie Simmonds, Achub y Plant Cymru

Ganrif yn ôl, yn 1924, ysgrifennodd cyd-sylfaenydd Achub y Plant, Eglantyne Jebb y Datganiad ar Hawliau’r Plentyn. Hwn oedd y datganiad mawr cyntaf o hawliau dynol cyffredinol plant a lywiodd Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sydd wedi’i arwyddo gan bron bob gwlad yn y byd. Heb ddatganiad penodol ar eu hawliau credai Eglantyne Jebb yn gryf y byddai plant yn parhau i fod yn agored i niwed, i fod heb amddiffyniad ac na fyddai oedolion yn gwrando arnynt. Meddai: “Rwy’n credu y dylem fynnu hawliau penodol i’r plant a llafurio i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cydnabod gan bawb.” Mae hawliau plant wedi bod yn sail i holl waith Achub y Plant yng Nghymru erioed. Dros y degawdau mae eirioli ac ymgyrchu ar ystod o faterion polisi o safbwynt hawliau plant wedi arwain at newidiadau gwleidyddol pwysig a datblygiadau arloesol. Mae’r rhain yn cynnwys helpu i ddatblygu corff ymbarél Plant yng Nghymru ddeng mlynedd ar hugain yn ôl a chreu swydd Comisiynydd Plant Cymru a’r Cynulliad Ieuenctid, a adwaenid ar y pryd fel y Ddraig Ffynci. Rydym hefyd wedi chwarae rhan ganolog fel rhan o Grŵp Monitro CCUHP sydd wedi arwain at sicrhau bod hawliau plant yn cael eu gwneud yn rhan o’n cyfraith ddomestig ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Dros y blynyddoedd rydym wedi gweithio gyda phlant a theuluoedd Sipsiwn a Theithwyr i’w helpu i gael mynediad at eu hawliau sylfaenol i addysg ac iechyd. Fe wnaethom gefnogi plant a phobl ifanc yn eu hawliau i gael dweud eu dweud mewn penderfyniadau am eu dyfodol trwy brosiectau fel yr Uned Cyfranogiad, Turn On The Rights, Criw Gilfach, Grŵp Eiriolaeth Ceiswyr Lloches Ifanc, Yn Fy Iard Gefn a Llysgenhadon Ifanc, mewn cymunedau ar draws Cymru. Cododd y cyfranogwyr yn y prosiectau hyn eu llais ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw, gan gynnwys cael Cyflog Byw, teimlo’n ddiogel yn eu cymuned ac effaith tlodi ar fywydau ifanc. Mae ein hanes yn ffurfio sylfaen ein rhagolygon strategol ar gyfer y pum mlynedd nesaf pan fyddwn yn ymdrechu i leihau nifer y plant sy’n cael eu magu mewn tlodi yng Nghymru drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill, gwrando ar y dystiolaeth ddiweddaraf, ac yn bwysicaf oll, gwrando ar leisiau plant a theuluoedd. Trwy’r gwaith hwn, ein nod yw creu newid arloesol a chynaliadwy er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i gael y dechrau gorau mewn bywyd a bod eu hawliau sylfaenol yn cael eu bodloni. Mae Cymru wedi cymryd camau breision wrth gyflwyno deddfwriaeth sydd wedi’i dylunio i wella bywydau plant a phobl ifanc ac i wneud arferion hawliau plant yn realiti. Ond tlodi yw’r maen tramgwydd mwyaf i’w hawliau o hyd gyda bron i 1 o bob 4 plentyn yma yn cael eu heffeithio gan dlodi plant.

Rydym yn deall bod cyllidebau’n dynn a bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond gyda chymaint o deuluoedd yn cael trafferth fforddio pethau sylfaenol fel bwyd, dillad a thalu eu biliau, ni ddylai plant orfod talu’r pris am y sefyllfa bresennol o gyni ariannol a wynebu mynd i’r gwely yn oer neu heb bryd o fwyd poeth yn eu boliau. Mae’n gwbl annerbyniol ac rydym i gyd yn gwybod bod canlyniad hirdymor tlodi yn y pen draw yn mynd i effeithio mwy ar wariant cyhoeddus os na chymerir camau ar unwaith. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â thlodi plant mae angen i dargedau clir a chynllun cyflawni wedi’i ariannu fod yn rhan o’r Strategaeth Tlodi Plant. Rhaid i hyn hefyd fod yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog nesaf wrth iddo ddechrau ar ei rôl newydd yn y gwanwyn.


14 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Pobl ifanc yn defnyddio’u hawliau i greu newid yng ngwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru Halyna Soltys, ProMo Cymru

GAEAF 2023 | 15

Cyfannol – HWB Diogelu a Llesiant, Adran Achosion Brys, Ysbyty Athrofaol Cymru

Nicola Hadley, Vicky Lee a Ainsty Fox, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Nododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yr angen am ymarferwyr arbenigol medrus, a all ymateb a chefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael mynediad at wasanaethau ysbyty. Mae datblygu’r HWB Diogelu a Lles yn yr Adran Achosion Brys yn galluogi staff i gael gafael ar gymorth uniongyrchol i’n cleifion mwyaf agored i niwed, sy’n benodol i’w hanghenion unigol. Cynghorwr Person Ifanc Trais Domestig Annibynnol Mae’r cynghorwr person ifanc yn cefnogi cleifion, sydd rhwng 11 ac 17 oed ac wedi cyflwyno i’r Adran Achosion Brys eu bod wedi cael profiad o: Trais Domestig / Perthynas Profiadol (Personol / Teuluol); Bod yn dyst i drais domestig o fewn yr aelwyd; Trais yn seiliedig ar anrhydedd; wedi dioddef trais rhywiol; Arwyddion o gamfanteisio rhywiol.

Mae Ein Meddyliau Ein Dyfodol (EMED) yn brosiect trawsnewidiol sydd yn grymuso pobl ifanc i lunio tirwedd gwasanaethau iechyd meddwl ledled y DU. Mae ProMo Cymru ac Adferiad Recovery yn cynnal y prosiect yng Nghymru, ble mae EMED yn hyrwyddo lleisiau eiriolwyr ifanc er mwyn cyflwyno newidiadau ystyrlon i bolisïau ac ymarferion iechyd meddwl. Gyda chynnydd mewn pryderon iechyd meddwl pobl ifanc, mae dogfen Galwad i Weithredu EMED, wedi ei greu ar y cyd ag eiriolwyr ifanc Cymru yn 2021, yn amlinellu’r 5 gorchymyn sydd yn hanfodol i wella lles emosiynol. Y gorchmynion yma yw: 1. Rydym eisiau dull canolog i bobl ifanc 16-25 oed i ddarganfod a chael mynediad i gefnogaeth 2. Rydym eisiau gweld gwasanaethau yn defnyddio dull holistig i weithio’n dda gyda’i gilydd i’n helpu 3. Rydym eisiau mynediad i osodiadau wyneb i wyneb ac ar-lein sydd yn ddiogel, yn groesawus, ac yn barchus 4. Rydym eisiau i ddylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau i wrando arnom, i glywed ein llais ac i fod yn atebol i ni 5. Rydym eisiau gweld gweinidog gyda phortffolio ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed Dros y pedair blynedd diwethaf, mae eiriolwyr ifanc EMED Cymru wedi bod yn brysur yn ymgyrchu am y gorchmynion yma, yn cysylltu gyda’r dylanwadwyr a’r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau wrth lythyru, cynnal gweithdai, fforymau trafod, a chynhadledd ar-lein. Roedd y gynhadledd cynhelir ar 8fed Gorffennaf 2023, yn ymwneud â gofal claf mewnol, sut mae cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at iechyd meddwl, a’r fframwaith NYTH ar gyfer ymyrraeth gynnar. Cafodd y digwyddiad ganmoliaeth fawr gan weithwyr proffesiynol o sectorau amrywiol am ei effaith a’r cyfle i glywed gwir leisiau eiriolwyr ifanc EMED, a oedd yn amlwg yn deall eu hawliau. Tra bod newid polisïau yn gallu bod yn broses hir, mae EMED (Cymru) wedi cysylltu pobl ifanc gyda dylanwadwyr yn llwyddiannus, gan greu argraff hir dymor ar rhanddeiliaid. Mae eiriolwyr ifanc EMED wedi cyfrannu at drafodaethau polisi ond hefyd wedi profi tyfiant personol ac wedi gweld gwelliant i’w iechyd meddwl wrth fod yn rhan o’r prosiect a thu hwnt. Mae EMED yn pwysleisio dull wedi’i selio ar hawliau, yn alinio gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae erthyglau perthnasol yn cynnwys yr hawliau i fynegi barn (Erthygl 12), i wybodaeth (Erthygl 13), i ryddid mynegiant (Erthygl 14), i ofal arbennig a chymorth os oes gennych chi anabledd (Erthygl 23), i ofal iechyd o ansawdd dda (Erthygl 24), ac i addysg (Erthygl 28). Mae cyfraith bwrpasol yng Nghymru sydd yn gorchymyn bod rhaid ystyried y CCUHP wrth wneud unrhyw benderfyniadau llywodraethol. Nid prosiect yn unig yw Ein Meddyliau Ein Dyfodol Cymru; mae’n symudiad sydd yn llunio Cymru ble mae hawliau plant a phobl ifanc nid yn unig yn cael eu cydnabod, ond hefyd yn cael eu blaenoriaethu’n weithredol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda sylfaen gadarn yn y CCUHP, cyfraith bwrpasol, a fframwaith y Comisiynydd Plant, mae EMED Cymru yn paratoi’r llwybr ar gyfer dyfodol disglair i ieuenctid Cymru sydd yn canolbwyntio ar eu hawliau.

Gall y gwasanaeth arbenigol gynnig cynllunio diogelwch, cyngor diogelu gan gynghorwyr nyrsys diogelu, atgyfeiriadau at wasanaethau trais domestig a rhywiol cymunedol, cyngor perthynas iach, cysylltu â gwasanaethau addysg ac iechyd meddwl, mesurau caledu targed a chysylltu â’r heddlu a chefnogi drwy’r prosesau cyfiawnder troseddol. Y rôl yw darparu eiriolaeth arbenigol a chefnogaeth o ansawdd uchel, i’r rhai sydd â’r risg uchaf o drais domestig, cam-drin perthynas a thrais rhywiol, gan helpu pobl ifanc i fod yn ddiogel rhag niwed a datblygu eu dealltwriaeth o berthnasoedd iach. Tîm Atal Trais Mae tîm Atal Trais y GIG, sy’n cael ei ariannu gan Uned Atal Trais Cymru, yn darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad i gleifion o unrhyw oedran a rhyw sydd wedi dioddef anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais nad yw’n gysylltiedig â domestig neu sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio. Mae gwaith y tim yn cynnwys amrywiaeth o opsiynau cymorth wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn, o gychwyn atgyfeiriadau i wasanaethau arbenigol yn y gymuned, i gefnogi cleifion i ailgysylltu ag aelodau’r teulu. Nod y tîm yw cynorthwyo cleifion i symud i ffwrdd o ffyrdd o fyw sydd wedi’u cyfyngu mewn trais, trwy weithio mewn partneriaeth â Phartneriaid Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Heddlu a sefydliadau dielw. Mynychwyr Aml Mae’r gwasanaeth i Fynychwyr Aml Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn cefnogi pob claf: pediatrig ac oedolyn, sy’n aml yn defnyddio gofal brys neu heb ei drefnu. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio dull amlasiantaethol o weithio gydag Iechyd, WAST, Heddlu De Cymru a meddygon teulu OOH i nodi’r garfan hon o gleifion sy’n agored i niwed. Cynhelir paneli misol i unigolion i hwyluso trafodaethau ymhlith gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau, i sefydlu sut i gefnogi claf yn well. Gall y gwasanaeth greu cynlluniau rheoli lle bo angen i ddarparu parhad gofal ar draws adrannau gwasanaeth. Os hoffech wybod mwy am y gwaith hwn, e-bostiwch Nicola Hadley, Cynghorydd Person Ifanc Trais Domestig Annibynnol, Adran Achosion Brys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: nicola.hadley@wales.nhs.uk


16 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

GAEAF 2023 | 17

Ymchwilio i hawliau cyfranogol mewn addysg plant iau: Polisi, arfer a phrofiadau plant Louisa M Roberts a Dr Sarah Chicken, Prifysgol Gorllewin Lloegr Wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, mae ymchwilwyr mewn pedair prifysgol* yn cydweithio dros gyfnod o dair blynedd i ystyried sut mae deddfwriaeth, polisi ac addysg athrawon cyfredol yn cefnogi deddfu hawliau cyfranogol plant mewn ysgolion ar gyfer plant pump i saith oed yng Nghymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n uniongyrchol â phlant, athrawon, addysgwyr athrawon ac athrawon dan hyfforddiant i ystyried eu dealltwriaeth a’u profiadau o hawliau cyfranogol plant. Mae gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru (2021) yn cynrychioli adeg o newid digynsail i addysg yng Nghymru. Mae ein dadansoddiad o ddeddfwriaeth a pholisi addysg yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ei hymrwymiad i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn drwy ganllawiau cwricwlwm sy’n wynebu ymarfer, er gwaethaf anghysondebau ynghylch hawliau cyfranogol plant yn y ddogfennaeth bolisi ffurfiol. Mae’r Cwricwlwm i Gymru (2021) yn adeiladu ar yr ymrwymiad hwn drwy roi hyblygrwydd a pherchnogaeth i ysgolion o ran datblygu’r cwricwlwm, gan nodi hefyd y dylai Fframwaith Addysg Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (2011) fod yn sail i ddatblygiad y cwricwlwm. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion, bellach, sicrhau bod eu cwricwlwm yn adlewyrchu

tair elfen y fframwaith, ac mae’n cynnwys addysg am, drwy ac ar gyfer hawliau dynol. Mae hwn yn safiad blaengar ac yn sicrhau bod Cymru yn chwarae rôl fwy blaenllaw yn addysg hawliau plant. Fodd bynnag, mae’r ffordd y mae polisi addysg yn gweithio’n ymarferol ac yn siapio profiadau personol plant yn gymhleth. Mae ein project ni’n edrych ar rai o’r pwyntiau critigol yn y daith honno o roi polisi ar waith, gan gynnwys: * Cyfleoedd Addysg Gychwynnol i Athrawon a Dysgu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus i athrawon ac addysgwyr *Dealltwriaeth athrawon mewn swydd o hawliau cyfranogol plant a sut y gellir eu cefnogi yn eu hystafelloedd dosbarth, * Dealltwriaeth pobl ifanc o’u hawliau a’u profiadau o gyfranogiad Mae ein harolwg o raglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon yn awgrymu darlun anghyson, gyda dau yn unig allan o’r naw rhaglen a oedd yn rhan o’r arolwg yn cynnwys hawliau plant yn benodol fel rhan o nodau a chanlyniadau dysgu y rhaglen. Fodd bynnag, ar lefel fodiwlaidd, gwelwyd bod 24 o fodiwlau yn cynnwys cyfranogiad plant; yn y modiwlau hyn mae ffocws ar wybodaeth am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac arferion addysgegol sy’n cefnogi hawliau cyfranogol plant. Mae cam presennol ein project yn cynnwys cydweithio ag athrawon plant 3–7 oed yn y feithrinfa hyd at ddosbarthiadau blwyddyn dau mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg ledled Cymru. Drwy

weithdai creadigol ac arloesol, mae’r athrawon yn archwilio dealltwriaeth o hawliau cyfranogol plant, ac yn archwilio’r rhwystrau a’r galluogwyr a allai bodoli wrth weithredu’r hawliau hyn yn ymarferol mewn ystafell ddosbarth. Mae addysgeg Reggio Emilia yn cael ei defnyddio i ysgogi myfyrdodau o ran sut y gall hawliau cyfranogol plant fodoli mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Yn ystod gam gyffrous nesaf y gwaith ymchwil, bydd yr athrawon yn cynnal projectau ystafell ddosbarth i archwilio dealltwriaeth plant o’u hawliau cyfranogol, a’r dulliau addysgegol a allai cefnogi’r gwaith o weithredu’r hawliau cyfranogol hyn. Bydd yr athrawon yn rhannu eu projectau gyda’i gilydd a thrwy ein rhwydweithiau ni. Yn fwyaf pwysig, bydd ein tîm ymchwil yn ymgysylltu â phlant yn uniongyrchol er mwyn clywed eu safbwyntiau a’u teimladau am y projectau y maen nhw’n cymryd rhan ynddyn nhw. Fel hyn, caiff barn plant ifanc eu hunain le blaenllaw yng nghanfyddiadau ein gwaith ymchwil a gall hyn gael ei fwydo’n ôl i lunwyr polisi ac addysgwyr ledled Cymru. Mae ein Bwrdd Cynghori Plant yn adlewyrchu model Lundy sy’n seiliedig ar hawliau plant o gyfranogiad ymchwil (Lundy, 2007) ac mae’n helpu i gyfeirio’r broses o gynhyrchu data gyda’r plant. Mae lleisiau plant yn cael eu harchwilio a’u codi drwy gyfryngau lluosog ac rydyn ni’n sicrhau bod gan y cynulleidfaoedd rydyn ni’n lledaenu ein canfyddiadau iddyn nhw y dylanwad i wella deddfu hawliau cyfranogol plant ifanc mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Byddwn ni’n sicrhau ein bod ni’n rhannu materion y gallwn weithredu arnyn nhw gyda’r Bwrdd Cynghori Plant, a byddwn ni’n darparu adborth clir drwy fodel ‘dywedasoch chi ac ymatebasom ni’.

Mae cam olaf y project yn ystyried profiadau’r holl gyfranogwyr, yn athrawon ac yn blant, i archwilio’r ffyrdd y gall addysgwyr athrawon gefnogi athrawon newydd i ddatblygu addysgeg gyfranogol. Y nod yw nodi galluogwyr a rhwystrau mewn addysg gychwynnol i athrawon fel bod athrawon sy’n mynd i mewn i’r proffesiwn yn cefnogi deddfu hawliau cyfranogol plant ifanc o’r cychwyn cyntaf yn eu gyrfaoedd.

Drwy gydol ein hymchwil, byddwn ni’n rhannu canfyddiadau, myfyrdodau, syniadau ac adnoddau perthnasol drwy lawer o sianeli gwahanol, gan gynnwys ein gwefan, X-Twitter, ac Instagram. Gall unrhyw un a hoffai gael y newyddion diweddaraf neu gymryd rhan yn ein project hefyd ymuno â’n Rhwydwaith Cymuned Ymarfer. Diolch hefyd i’n Grŵp Ymgynghorol Proffesiynol sy’n ffrind beirniadol i’r project ac sy’n parhau i roi o’i amser a chynnig ei wybodaeth a’i arbenigedd.

Rydyn ni’n ceisio rhannu ein gwaith mor eang â phosibl gyda llunwyr polisi ac ymarferwyr addysg fel y gellir gwireddu hawliau cyfranogol plant ifancaf ysgolion cynradd yng Nghymru yn llawn ac yn ystyrlon.

Am fwy o wybodaeth ewch at: childrens-participation.org neu ebostiwch child.participation@uwe.ac.uk

* Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant

Cyfeiriadau Lundy, L., 2007. ‘Voice’ is not enough: conceptualising Article 12 of the United Nations Convention on the Rights of the Child. British educational research journal, 33(6), tt.927–942.


18 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

GAEAF 2023 | 19

Dyfodol arian y Loteri Genedlaethol i blant yng Nghymru Flow Mascord a Jess Hey, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU. Yn 2023, gwnaethom ddosbarthu £35 miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i dros 850 o brosiectau ledled Cymru. Rydym wedi cynnal gwaith ymchwil mewnol i’n helpu i ddeall yn well lle dylid canolbwyntio ein hymdrechion a’n grantiau yn y dyfodol. Yma, rydym yn rhannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu am blant a phobl ifanc yng Nghymru. Ein grantiau

Hawliau plant

Rhwng 2022 a 2023, roedd bron i chwarter y grantiau a roddwyd yng Nghymru yn cefnogi prosiectau a oedd yn buddio plant a phobl ifanc. Rhoddir grantiau drwy ein prif raglenni ariannu, ‘Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol’ a ‘Phawb a’i Le’. Mae’r rhain yn caniatáu i grwpiau cymunedol ac elusennau ymgeisio am grantiau yn seiliedig ar eu hanghenion. Rhoddir grantiau hefyd drwy raglenni sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â mater penodol. Yn 2022, gwnaethom ddyfarnu naw grant Meddwl Ymlaen gwerth £10.8 miliwn er mwyn ymateb i’r nifer cynyddol o bobl ifanc a oedd yn adrodd am iechyd meddwl gwael. Mae’r grantiau’n grymuso pobl ifanc i gyd-greu a gweithredu dulliau sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau i sicrhau dyfodol mwy gwydn ac iach yn feddyliol.

Mae hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi’u hymgorffori yn y gyfraith. Mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011’ yn ymrwymo polisi Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), tra bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ystyried plant yfory. Er hynny, mae’n amlwg nad yw pob plentyn a pherson ifanc yn cael yr un cyfleoedd i ddatblygu a ffynnu. Mae’n bwysig ystyried croestoriadedd. Er enghraifft, mae plant o deuluoedd ethnig leiafrifol, y rhai sydd ag anabledd, neu sy’n dod o deulu ag anabledd, yn fwy tebygol yn ystadegol o fyw mewn tlodi. O ganlyniad, maent hefyd yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n negyddol gan COVID-19, yr argyfwng costau byw, a’r argyfwng byd natur a hinsawdd. Rydym yn pryderu fwyfwy am yr effaith niweidiol y mae’r digwyddiadau hyn yn ei chael ar ddatblygiad ac amgylchiadau plant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n profi sawl anfantais.

Ym mis Ionawr 2024, gwnaethom hefyd lansio ‘Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd’ gan ddefnyddio arian y Cynllun Asedau Segur (arian heb ei gyffwrdd mewn cyfrifon banc sy’n cael ei ddyrannu i achosion da). Mae’r rhaglen yn annog pobl ifanc ag anableddau a/neu bobl ifanc o gymunedau ethnig leiafrifol i ddatblygu hyder, sgiliau a phrofiad gwaith. Nod y rhaglen yw annog pobl ifanc i gael gyrfaoedd gwyrdd, gwella amrywiaeth yn y sector, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Y dyfodol Mae’r adolygiad o’n hariannu yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr â lansiad ein strategaeth ledled y DU ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ (2023-2030). Mae’r strategaeth hon yn gosod ein ffocws a’n hymdrechion ar bedwar nod cymunedol: 1. Mae cymunedau’n fwy iach

Heriau parhaus

2. Mae cymunedau’n dod ynghyd

Er ein bod yn falch o’n gwaith yn cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghymru, mae ein hymchwil wedi tynnu sylw at heriau parhaus sy’n effeithio arnynt. Mae’r heriau hyn yn cynnwys: diffyg gofal plant fforddiadwy neu weithgareddau addysg gynnar hygyrch, iechyd meddwl cynyddol wael, bwlio parhaus a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), yn ogystal â diffyg mannau diogel hygyrch, cyfleoedd chwarae a hamdden. Mae pryderon hefyd yn cynyddu am gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol a’r argyfwng byd natur a hinsawdd. Ar draws ein hymchwil, mae effaith tlodi yn amlwg. Ym mis Mawrth 2022, roedd 34% o blant a phobl ifanc yng Nghymru’n byw mewn tlodi. Mae tlodi yn ffactor cymdeithasol allweddol sy’n gallu cynyddu’r heriau y maent eisoes yn eu hwynebu.

3. Mae cymunedau’n amgylcheddol gynaliadwy

Sicrhau bod Hawliau Plant yn rhan Flaenllaw o’r System Cyfiawnder Troseddol Abigail Scounding, Ynys Saff, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro Daeth eiriolaeth broffesiynol i ddioddefwyr trais rhywiol yng Nghymru i’r amlwg yn y 2000au cynnar fel rhan o ymdrech i wella gwasanaethau cymorth. Fel Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc, mae hyn yn parhau i fod yn agwedd ganolog ar ein nod i sicrhau bod hawliau plant yn rhan flaenllaw o’r system cyfiawnder troseddol. Mae rhoi’r rheolaeth yn ôl yn nwylo goroeswyr ifanc trais rhywiol yn allweddol i gynyddu ymgysylltiad ac ymdeimlad o rymuso mewn cyfnod lle gellir dadlau bod yr ymdeimlad hwnnw o reolaeth wedi lleihau. Mae Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn gartref i Ynys Saff, Canolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, y cyfeirir ato fel ‘siop un stop’ ar gyfer cymorth amlasiantaethol ar gyfer y rhai hynny y mae trais rhywiol wedi effeithio arnyn nhw ledled Caerdydd a’r Fro ers 2008. Rydyn ni’n ffodus o gael tîm o Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc sy’n darparu cymorth ac arweiniad pwrpasol ac unigol i oroeswyr trais rhywiol. Maen nhw’n sicrhau y caiff eu hawliau eu heirioli a’u bod nhw wir yn deall yr hawliau hyn o ddechrau’r broses.

4. Mae cymunedau’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu Er bod ein grantiau’n parhau i fod ar gael i bob cymuned, ar draws ein holl waith a phedwar nod, rydym yn buddsoddi’r mwyaf yn y llefydd, pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu. Yn ystod 2024 byddwn yn cyflwyno ein strategaeth newydd ymhellach - gyda mwy yn y misoedd i ddod ar sut rydym yn bwriadu cynyddu ein grantiau lle mae’r angen mwyaf a bydd plant yn ffocws allweddol i ni.

Ers mis Gorffennaf 2023, mae Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc yn Ynys Saff wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen newid drawsnewidiol, Ymgyrch Soteria ac wedi bod yn rhan annatod ohoni. Fel rhan o’r ymgyrch, trawsnewidiodd 43 o heddluoedd ledled Cymru a Lloger eu dull o ymchwilio i drais a throseddau rhywiol difrifol. Mae’r Model Gweithredu Cenedlaethol, sydd wedi’i

ddatblygu drwy raglen Ymgyrch Soteria wedi gweld effeithiau cadarnhaol yn Ne Cymru yn barod. Mae Ymgyrch Soteria, ynghyd ag ymchwil helaeth, wedi amlygu’r diffyg hyder dwys sydd gan ddioddefwyr yn y modd y mae’r system cyfiawnder troseddol yn mynd i’r afael ag achosion o drais ac ymosodiadau rhywiol a’r ffordd y mae eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae ymchwil wedi tynnu sylw at rôl bwysig Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc wrth dynnu sylw at y ffaith “nad yw cam-drin rhywiol pobl ifanc bob amser yn cael ei gymryd o ddifrif ddigon” gan bersonél cyfiawnder troseddol. Rydyn ni’n wasanaeth – fel y caiff ei gydnabod gan Wasanaeth Erlyn y Goron – a gaiff ei ystyried yn eiriolwr dioddefwyr annatod i leihau’r risg y bydd dioddefwyr yn tynnu’n ôl a chynorthwyo dioddefwyr ifanc i roi eu tystiolaeth orau, gan ei wneud yn nod pwysig i Wasanaeth Erlyn y Goron i wella cydweithio ag Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc. Mae Ynys Saff yn credu ei bod hi’n hanfodol darparu llwybr atgyfeirio hygyrch i blant a phobl ifanc, gyda data o 2009 yn dangos bod 84% o’r cleientiaid cyffredinol sy’n cael eu cyfeirio at y gwasanaeth yn ifanc, gyda 24% yn 12 oed neu iau (Robinson, A.L. et al (2009). Ynys Saff oedd y Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol cyntaf a gynlluniwyd o’r cychwyn cyntaf i ddarparu gwasanaethau i ddioddefwyr o bob oed, gan greu llwybr ar gyfer y gefnogaeth a’r eiriolaeth orau i blant a phobl ifanc. Mae Ynys Saff yn gwneud gwaith pwysig ac yn parhau i wneud yn 2024 drwy greu gwasanaeth trais rhywiol i blant a phobl ifanc, lle mae cleientiaid a’u rhieni wedi rhoi gwybod am yr anhawster o gael mynediad at gymorth unrhyw le arall yn ystod eu hymgysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. Mae Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc yn Ynys Saff yn treulio’r

holl broses cyfiawnder troseddol yn meithrin ymddiriedaeth a chydberthynas gyda’u cleientiaid a, gyda llwyddiant Ymgyrch Soteria yn annog Gwasanaeth Erlyn y Goron i wella cydweithio ag Eiriolwyr Trais Rhywiol Annibynnol Plant a Phobl Ifanc, rydym wedi gallu helpu i fynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu wrth leisio eu barn yn ystod y broses hon. Rydym hefyd wedi gallu eirioli dros fesurau arbennig i’n goroeswyr ifanc i’w gwneud mor hawdd â phosibl iddyn nhw roi’r dystiolaeth orau posibl yn y llys. Hefyd, gwnaed gwaith i sicrhau y gall ein goroeswyr ifanc gwrdd â’r tîm erlyn cyn prawf, a chlywed unrhyw gwestiynau a godir gan y goroeswr ifanc yn uniongyrchol. Drwy feithrin cydberthynas broffesiynol agos â’n goroeswyr y mae eu hymddiriedaeth wedi’i chwalu, maen nhw’n ymddiried ynddon ni yn Ynys Saff i eirioli dros eu hawliau yn ystod cyfnod anodd iawn iddyn nhw fel pobl ifanc. Mae heriau i’n gwaith, ac mae gennym waith sylweddol i’w wneud eto i sicrhau dyfodol diogel i gydnabod hawliau plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol. Mae gan blant a phobl ifanc hawl statudol i gael ymchwiliad manwl wedi’i gynnal ar eu hadroddiad, gyda dull amlasiantaethol ar gyfer yr un nodau ac amcanion: sicrhau bod hawliau a lleisiau plant yn rhan flaenllaw o’r system cyfiawnder troseddol. Drwy gydnabod ac ymateb i’r heriau newydd hyn, mae Ynys Saff yn dangos ei ymrwymiad i ddiogelu hawliau plant mewn tirwedd sy’n newid yn barhaus. I ddysgu rhagor am Ganolfan Cyfeirio Ymosodiadau Rhywiol Caerdydd a’r cymorth rydyn ni’n ei ddarparu i oroeswyr trais rhywiol, ewch i’n gwefan.


20 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Gwrandewch ar fy llais Nicole Lovatt, Clybiau Plant Cymru Mae Erthygl 4 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn dweud wrthym fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gall pob plentyn fwynhau ei 42 o hawliau sylfaenol. Mae rhai oedolion yn dal i weld plant fel y rhai ‘y dylid eu gweld, nid eu clywed’, Mae Erthygl 12 yn herio’r meddylfryd hwn gan fod gan blant Hawl absoliwt i lais; i’w barn eu hunain - ac i gael eu clywed. Rhaid i ni hyrwyddo a chefnogi Hawliau trwy eiriolaeth, herio agweddau negyddol a gwahaniaethu! Un o’r heriau mwyaf yw diffyg ymwybyddiaeth neu wybodaeth am Hawliau Plant ymhlith oedolion yn y gweithlu Addysg, Chwarae a Gofal Plant, a rhieni. Un ffordd y gellid goresgyn yr her hon yw drwy gefnogi’r rhai sy’n cychwyn ar yrfa yn gweithio gyda phlant 0-18 oed (Gweithwyr proffesiynol ym meysydd Chwarae, Gofal Plant ac addysg) trwy godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP mewn sesiynau hyfforddi gorfodol gan ennill a datblygu dealltwriaeth ac, yn bwysig, hyder, wrth gefnogi plant mewn lleoliadau i fwynhau a deall eu hawliau. Trwy weithio gyda darparwyr hyfforddi’r gweithlu addysg a gofal plant, gallant gynnwys modiwl ar y CCUHP o fewn y maes llafur. Bydd gwneud hyn yn elfen orfodol i wirfoddolwyr a grwpiau cymunedol hefyd yn sicrhau bod pawb sy’n gweithio gyda phlant yn ymwybodol ac yn hyderus wrth gefnogi a hyrwyddo’r CCUHP a’u bod yn gweithredu Hawliau Plant yn effeithiol ledled ysgolion a Chlybiau Gofal Plant All-Ysgol. Mae rhai heriau hanesyddol yn dal i fodoli rhag hyrwyddo’r rhain, a nifer o rwystrau y mae angen mynd i’r afael â nhw cyn y gallwn sicrhau bod Hawliau Plant yn cael eu hymgorffori’n ymarferol yn achos POB plentyn yng Nghymru. Yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, rydym yn Eiriolwyr dros Hawliau Plant ac yn herio agweddau hynafol, wrth hyrwyddo, codi ymwybyddiaeth a chefnogi dealltwriaeth drwy ein cyrsiau hyfforddi; rydym wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau gwybodaeth a chymorth perthnasol ar ‘Erthyglau’r CCUHP’ ar gyfer plant a gweithwyr chwarae; rydym yn lledaenu’r gair trwy ein gwefannau cyfryngau cymdeithasol, ein negeseuon e-bost wythnosol/ misol a’r Bont – ein cylchgrawn chwarterol. Rydym yn gweithio gyda channoedd o leoliadau a gweithwyr chwarae ledled Cymru, gan eu hannog i weld pwysigrwydd Plant yn mwynhau ac yn deall eu Hawliau; Rydym yn cefnogi ac yn annog gweithwyr Chwarae a Gofal Plant i gydnabod y manteision i hyder plant, eu datblygiad cyfannol a’u lles emosiynol. Bydd cael dull gweithredu teg yn sicrhau bod plant yn cael eu croesawu a’u derbyn ar sail yr hyn ydyn nhw; dylid rhoi’r un manteision a chyfleoedd i blant er mwyn sicrhau cynhwysiant, gan ddileu’r rhwystrau sy’n analluogi plant; a rhaid i ysgolion a lleoliadau herio gwahaniaethu a hyrwyddo diwylliannau gwahanol. Gellir gwella dulliau ac agweddau drwy hyfforddiant cydraddoldeb a chynhwysiant. Rydym yn hysbysu pobl bod Hawliau Plant yn cael eu hysgrifennu yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru drwy rolau hyfforddi a datblygu o fewn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs’. Fel oedolion, mae rhwymedigaeth gyfreithiol a moesol arnom i sicrhau ein bod yn gwrando ar blant; bod ganddynt lais a dewis; yn cael eu diogelu a’u diogelu; a bod darpariaeth effeithlon ar eu cyfer. Mae effaith ein hyfforddiant a’n heiriolaeth wedi gweld mwy o ddiddordeb o du gweithwyr a lleoliadau unigol sydd eisiau datblygu a gwella. Wrth ddatblygu arferion o ansawdd trwy adnoddau cyfranogiad plant, a galluogi gweithwyr chwarae i wrando, arsylwi a deall y plant, maent yn darparu cyfleoedd gofal a chwarae mewn Clybiau All-Ysgol. Os hoffech ddysgu mwy am waith Clybiau Plant Cymru, ewch i’r wefan.

GAEAF 2023 | 21

Prosiect Undod: Gallwch “Ymddiried yn ein Gallu i Ofalu” Dominique Drummond, NYAS Cymru

Ar 26 Hydref 2023, fe wnaeth NYAS Cymru lansio ymgyrch ‘Ymddiriedwch yn ein Gallu i Ofalu’ fel ymgyrch flaenllaw 2023 yn y Senedd fel rhan o ddigwyddiad ‘Gyda’n Gilydd mewn Undod’ NYAS Cymru. Fe wnaeth NYAS Cymru gyhoeddi ein hadroddiad ymchwil, sef “Ymddiriedwch yn ein Gallu i Ofalu”, ac oedd yn cynnwys pethau y dywedodd mamau ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal am eu profiadau yn ymdrin â gwasanaethau cymdeithasol pan fydd eu plant yn destun achosion yn ymwneud ag amddiffyn plant. Yn ôl ystadegau allweddol yn yr adroddiad, dim ond un o bob tair menyw ifanc a gafodd wybod sut gwnaeth gwasanaethau cymdeithasol ganfod eu bod yn feichiog ac roedd tair o bob pum menyw ifanc yn credu nad oedd gwasanaethau cymdeithasol yn dymuno rhoi’r cyfle iddynt gadw eu plentyn, yn sgil eu hanes eu hunain o dderbyn gofal. Efallai fod yr ystadegau hyn yn swnio’n warthus, ond mae gweithwyr Prosiect Undod wedi bod yn cydweithio’n uniongyrchol â mamau ifanc, ac yn fwyaf diweddar, â thadau ifanc, â hynny wyneb yn wyneb yn eu cartrefi a’r cymunedau y maent yn byw ynddynt yn aml, i’w helpu i ddatblygu sgiliau i drechu’r stigma a ddaw yn sgil bod yn rhiant ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal. “Fe wnaeth Prosiect Undod fy helpu i gyrraedd sefyllfa lle gallwn i fod y fam orau y gallwn i fod, a chynnig cymorth i mi i’m galluogi i wella fy hunan-barch a fy hyder i ymdrin â gwasanaethau statudol gwahanol.” – Dyfyniad gan fam ifanc sy’n cael cymorth gan y prosiect.

Mae Prosiect Undod yn cynnig cymorth cyfannol sy’n ystyried yr unigolyn cyfan i rieni ifanc sy’n aml yn teimlo fod y system wedi anghofio amdanynt. Yn ogystal â chynnig eiriolaeth a chymorth wedi’u teilwra i rieni, mae Prosiect Undod hefyd yn hwyluso gweithdai a digwyddiadau llesiant i rieni ifanc a’u plant. Mae gweithdai diweddar wedi ymdrin â chynllunio a threfnu gwibdeithiau heb wario llawer, i helpu rhieni ifanc i ddysgu sgiliau y gellir eu defnyddio i helpu i greu profiadau ac atgofion arbennig ar gyfer eu teulu, heb ‘dorri’r banc’, a gweithdy coginio heb wario llawer. Mae NYAS Cymru yn elusen ym maes hawliau plant, a byddai’n anghyffredin i ni beidio annog y rheini ifanc, ac eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg, i eirioli drostynt hwy eu hunain. Mae Prosiect Undod hefyd wedi bod yn cydweithio â CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd, a’r adran ymchwil ym Mhrifysgol Met Manceinion, i gasglu gwybodaeth am safbwyntiau a theimladau rhieni ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal, i geisio llywio ymchwil a ddefnyddir i gynorthwyo’r genhedlaeth nesaf o ymadawyr gofal, a dylanwadu ar ddeddfwriaeth hefyd gobeithio. Y sylfaen eiriolaeth hon sydd wedi arwain at ymgyrch Ymddiriedwch yn ein Gallu i Ofalu, oherwydd fe wnaethom ni sylweddol fod bwlch o ran y cymorth a gynigir i’r bobl ifanc hyn a phenderfynu fod yn rhaid gweithredu. Mae’r ymgyrch wedi cynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru er mwyn ceisio newid bywydau rhieni sydd â phrofiad o dderbyn gofal am genedlaethau lawer. Mae’r argymhellion yn cynnwys: · Cyhoeddi data blynyddol ynghylch profiad menywod ifanc sy’n derbyn gofal a menywod ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal o ryngweithio, oherwydd eu plentyn, ag achosion yn ymwneud ag amddiffyn plant. · Sicrhau bod rôl rhiant corfforaethol yn orfodol y tu hwnt i wasanaethau plant. · Sicrhau bod ‘cynnig gweithredol’ i gael cymorth gan Brosiect Undod yn digwydd cyn gynted ag y nodir y beichiogrwydd. · Cynnal adolygiad ynghylch y prosesau a weithredir pan fydd plentyn (sydd wedi’i eni neu yn y groth) yn destun achosion yn ymwneud ag amddiffyn plant Fe wnaeth yr argymhellion hyn ddeillio o’n gwaith wyneb yn wyneb gyda menywod ifanc a theuluoedd ac maent yn ddull o sicrhau tryloywder mewn proses sy’n aml yn ddryslyd ac yn hynod o anodd i bobl ifanc sydd â phrofiad o dderbyn gofal. Caiff yr ymgyrch Ymddiriedwch yn ein Gallu i Ofalu ei arwain gan fenywod ifanc er budd menywod ifanc, a gyda’n gilydd, rydym yn dymuno sefydlu dull partneriaeth â’r sector er mwyn creu newid cynaliadwy a systemig i bobl ifanc. I gael rhagor o wybodaeth am Brosiect Undod, trowch at ein gwefan.


22 | CHILDRENINWALES.ORG.UK

Erthygl 12 ar Waith – Sut mae Power Up yn Codi Lleisiau Ifanc Natalie Coombs, Platfform

Mae Power Up yn broject llesiant pobl ifanc newydd cyffrous dan arweiniad Platfform, elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol yn Ne Cymru. Rydyn ni’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 25 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n profi heriau i’w hiechyd meddwl, gan weithio mewn ffordd sy’n cael ei llywio gan drawma, sy’n berthynol ac sydd â ffocws cryf ar hawliau plant. Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â naw partner ar y project: Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Caerdydd, Cyngor Bro Morgannwg, Llamau, ProMo Cymru, EYST Cymru, iBme, YMCA Caerdydd, a gyda’n gilydd rydym wedi ymrwymo i gosi lleisiau ifanc ym mhob rhan o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Ariennir Power Up gan grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Meddwl Ymlaen, sy’n ceisio creu dyfodol iachach yn feddyliol i bobl ifanc yn eu cymunedau. Fodd bynnag, yr hyn sy’n gwneud y grant yn arbennig o gyffrous yw’r ffaith y rhoddwyd blwyddyn gyfan i’r holl brojectau wedi’u hariannu ddatblygu eu projectau ochr yn ochr â phobl ifanc. Y syniad oedd y byddai’r project wedi’i greu ar y cyd â phobl ifanc yn llwyr i greu projectau llesiant y mae pobl ifanc wir eu hangen. Yn ystod ein blwyddyn o ddatblygu, roedd yn bwysig iawn i ni fod pobl ifanc wir yn arwain y gwaith o ddatblygu Power Up. Un o’r ffyrdd allweddol y gwnaethom sicrhau hyn oedd drwy weithredu grŵp cynghori project. Y grŵp, sy’n cynnwys pobl ifanc rhwng 10 a 25 oed, yw arweinwyr go iawn y project! Caiff bob penderfyniad mawr sydd angen ei wneud ar gyfer y project ei gymeradwy ganddyn nhw, ac maen nhw’n helpu i siapio cyfeiriad cyffredinol y project drwy ddweud wrthyn ni beth maen nhw’n hoffi ai peidio, beth sy’n bwysig iddyn nhw, a chyflwyno syniadau i ni i’w trafod. Mae eu gonestrwydd, eu brwdfrydedd, a’u hymrwymiad i wella canlyniadau iechyd meddwl yn eu cymuned wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu’r project ac, felly, mae’n bwysig i ni fod y grŵp yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu gwaith caled. Cânt eu talu am eu hamser ym mhob cyfarfod a’u gwahodd i gwrs preswyl Power Up, sef encil penwythnos blynyddol i ddathlu gwaith a chyflawniadau’r grŵp. Ynghyd â gwaith ein grŵp cynghori, siaradom ni â dros 750 o bobl ifanc ledled Caerdydd a’r Fro am yr hyn roedden nhw’n gobeithio ei gael allan o wasanaeth iechyd meddwl newydd. Ymwelon ni ag ysgolion, colegau a grwpiau cymunedol i’n helpu i archwilio llesiant pobl ifanc ledled y rhanbarth. Wrth geisio casglu cymaint o leisiau ifanc â phosibl, roedden ni’n rhagweithiol wrth sicrhau bod y lleisiau o bob cefndir, diwylliant a hunaniaeth wahanol, felly buon ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gyrraedd grwpiau penodol o bobl ifanc sy’n aml yn cael eu tangynrychioli, fel pobl ifanc o leiafrifoedd ethnig, gofalwyr ifanc, a phobl ifanc ag anableddau. Wrth fyfyrio ar y project hyd yma, rydyn ni wedi gallu nodi’r heriau y mae hawliau plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd, yn enwedig o ran mynegi eu safbwyntiau a sicrhau y caiff y safbwyntiau hynny eu hystyried. Rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r heriau hyn drwy’r project hyd yma, a byddwn ni’n parhau i fynd i’r afael â’r

rhain wrth i ni symud at ein cam cyflwyno. Diffyg amser i gyd-gynhyrchu mewn modd ystyrlon Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o gyllid tymor byr yn y sector elusennol, sy’n achosi ystod o heriau. Un o’r heriau hyn yw diffyg amser priodol i gyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl ifanc, a gweithio ochr yn ochr â nhw i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion presennol pobl ifanc yn y ffordd orau bosibl. Rydyn ni’n credu y dylai mwy o grantiau, fel grant Meddwl Ymlaen, gynnwys cyfnod datblygu i ganiatáu i wasanaethau gynnal gwaith ymgysylltu gyda’r bobl ifanc a fydd yn defnyddio’r gwasanaeth fel y gellir ystyried eu syniadau yn ystod y gwaith o gynllunio a datblygu gwasanaethau newydd. Cyfranogiad di-dâl Dylid cynnig tâl teg i bobl ifanc am eu gwaith; mae hyn yn cynnwys unrhyw weithgarwch ymgysylltu a chyd-gynhyrchu sy’n cefnogi sefydliadau. Drwy dalu pobl ifanc am eu hamser, maen nhw’n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu barn a’u syniadau’n cael eu cymryd o ddifrif. ‘Anodd eu cyrraedd’ Mae myth yn bodoli o hyd bod grwpiau penodol o bobl ifanc yn ‘anodd eu cyrraedd’, ac felly dydy eu lleisiau nhw ddim yn cael eu clywed. Mae parhad y syniad hwn yn gwneud anghymwynas â hawliau plant, ac mae angen i sefydliadau fod yn fwy rhagweithiol wrth ddod yn ‘hawdd cael gafael arnynt’ a dod o hyd i ffyrdd newydd o ymgysylltu â phobl ifanc sy’n cael eu tangynrychioli. Os hoffech sgwrs bellach am Power Up, yna hoffem glywed gennych! Cysylltwch â ni yn powerup@platfform.org

21 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BY 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk

childreninwales.org.uk


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.