

Arolygon Tlodi Blynyddol Plant a Theuluoedd 2024
Karen McFarlane | Hydref 2024
Fatiha Ali, Anna Westall, Rachel Beddoe

Mewn partneriaeth â

Diolchiadau
Hoffem ddiolch i aelodau grŵp llywio ECPN a Chyswllt Rhieni Cymru am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth.
Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch o galon i’r holl rieni, gofalwyr, plant, pobl ifanc, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg. Hebddyn nhw, fyddai ein harolygon a’r adroddiad hwn ddim yn bosib. Diolch yn fawr.
Er cof am Karen McFarlane, a ysgrifennodd yr adroddiadau o 2021-2024.

Y dyfyniadau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yw’r rhai a ddarparwyd trwy garedigrwydd ymatebwyr yr arolwg.
Ariannir yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru. Barn yr awdur a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid yw o reidrwydd yn cynrychioli barn yr ariannwr.
Barn yr ymatebwyr i’r cwestiynau yn yr arolwg a geir yn yr adroddiad hwn, ac nid yw o reidrwydd yn cynrychioli barn Plant yng Nghymru.
Yr adroddiad hwn yw prif gyhoeddiad canfyddiadau Arolygon Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd Plant yng Nghymru 2024. Ar ben hynny, cyhoeddwyd y canfyddiadau ar ffurf adroddiadau llai ar wahân, sydd i gyd ar gael ar wefan Plant yng Nghymru:
Plant a Phobl Ifanc: Adroddiad canfyddiadau
Rhieni/Gofalwyr: Adroddiad canfyddiadau
Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol: Adroddiad canfyddiadau
Crynodebau ffeithluniau
Fersiwn Plant a Phobl Ifanc o’u canfyddiadau
Manylion cyswllt: info@childreninwales.org.uk
Gwybodaeth am Plant yng Nghymru

Ein Gweledigaeth: Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu gwireddu.
Ni yw’r corff cenedlaethol trosfwaol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru. Rydyn ni’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru i sicrhau bod hawliau plant yn cael lle blaenllaw mewn polisi ac wrth wneud penderfyniadau.
I wneud hynny rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau bod llais gan blant a phobl ifanc yng Nghymru, rydyn ni’n brwydro dros wasanaethau cynaliadwy a theg, yn eiriol dros newidiadau polisi yng Nghymru, ac yn cysylltu ac yn cynrychioli’r gwaith mae ein haelodau yn ei wneud.
Mae ein haelodaeth yn cynnwys unigolion a sefydliadau o’r sectorau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc ar nifer o wahanol brosiectau, ac mae gennym ni aelodaeth benodol ar gyfer ein cynulleidfa ifanc.
I gael gwybod mwy am ein gwaith, neu i ddod yn aelod o Plant yng Nghymru, cysylltwch â ni ar membership@childreninwales.org.uk
Gwybodaeth am Cyswllt Rhieni Cymru
Prosiect yw Cyswllt Rhieni Cymru (PCW) sy’n cael ei arwain gan Plant yng Nghymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Ei nod yw grymuso lleisiau rhieni/gofalwyr i hybu hawliau plant.
Mae Cyswllt Rhieni Cymru wedi sefydlu:-
• Fforwm gweithwyr proffesiynol gyda 110 o aelodau hyd yma
• Grŵp cynghori i rieni, gyda 6 chynrychiolydd sy’n rhieni
• 22 o gynrychiolwyr lleol, un ym mhob un o awdurdodau lleol Cymru
• Platfform ar-lein o’r enw ‘Hyb Ar-lein Cyswllt Rhieni Cymru’
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Cyswllt Rhieni Cymru, ewch i’r hyb ar-lein neu cysylltwch â parentsconnect@childreninwales.org.uk
DS Wrth gyfeirio at ‘rhieni’ rydyn ni’n ei ddefnyddio’n derm cynhwysol sy’n cwmpasu rhieni (yn famau a thadau), gofalwyr, rhieni cu, rhieni maeth, rhieni mabwysiadol neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Gwybodaeth am Rwydwaith Dileu
Tlodi Plant Cymru

Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant (ECPN) Cymru yn glymblaid o sefydliadau sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi plant yng Nghymru, ac sy’n cael ei gydlynu a’i reoli o ddydd i ddydd gan Plant yng Nghymru.
Mae ei Grŵp Llywio yn cynnwys cynrychiolaeth ar draws y sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y rhwydwaith ehangach fwy na 1200 o aelodau cefnogol o groestoriad eang o asiantaethau.
Os hoffech chi ymuno â ffurf ehangach Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, ewch i’r wefan neu cysylltwch â info@childreninwales.org.uk
Hawliau Plant a Thlodi
Mae tlodi’n mynd yn groes i nifer o Erthyglau a gyflwynir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Mae CCUHP yn gytundeb rhyngwladol sy’n cyflwyno hawliau plant a phobl ifanc hyd at 18 oed. Mae wedi’i seilio ar dair egwyddor: cyfranogiad, amddiffyniad a darpariaeth.
Yn 2011, crisialwyd CCUHP yng nghyfraith Cymru trwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae’r Mesur hwn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i CCUHP wrth ddatblygu neu adolygu deddfwriaeth a pholisi.
Mae tlodi’n amddifadu plant a phobl ifanc o lawer o’u hawliau:
• Eu hawliau i ddatblygu eu potensial llawn (Erthygl 6)
• Eu hawliau i gael yr iechyd gorau posibl a bwyd maethlon (Erthygl 24)
• Eu hawliau i elwa o nawdd cymdeithasol (Erthygl 26)
• Eu hawliau i gael safon byw digonol sy’n diwallu ac yn cefnogi eu hanghenion (Erthygl 27)
• Eu hawliau i gael addysg, a hynny ar sail cyfle cyfartal (Erthygl 28)
• Eu hawliau i chwarae a chael cyfleoedd hamdden (Erthygl 31)
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn gosod dyletswydd sylw dyledus tebyg ar gyrff cyhoeddus penodol, gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd, o ran CCUHP wrth gyflawni eu swyddogaethau’n rhanbarthol ac yn lleol.
Ym mis Mawrth 2021, daeth y Ddyletswydd Sosio-economaidd i rym yng Nghymru. Mae’r ddyletswydd hon yn golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus penodol ystyried sut gall eu penderfyniadau strategol wella anghydraddoldeb canlyniadau i bobl sydd o dan anfantais sosioeconomaidd.
Ym mis Ionawr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu Strategaeth Tlodi Plant a ddiweddarwyd, er mwyn helpu i atal a lliniaru tlodi plant.
Rhieni/Gofalwyr a Hawliau Plant
Mae CCUHP yn sôn yn fwy am ‘rieni’ a ‘theuluoedd’ na ‘phlant’ ac yn cydnabod bod hawliau plant yn cael eu diogelu o fewn teuluoedd yn gyntaf.
Mae’r erthyglau sy’n dilyn yn cydnabod rôl allweddol rhieni a theuluoedd wrth amddiffyn plant a gofalu amdanynt:-
• Eu hawl i gael ystyried eu lles pennaf ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnyn nhw (Erthygl 3)
• Eu hawl i rôl eu rhieni/gofalwyr gael ei chydnabod a’i pharchu, fel bod plant yn gallu cyrchu eu holl hawliau (Erthygl 5)
• Eu hawl i gael eu magu gan y ddau riant, os yw hynny’n bosib (Erthygl 18)
Gall tlodi amddifadu rhieni/gofalwyr o’r gallu i gyflawni hawliau eu plant a sicrhau eu bod yn cael eu diwallu.
YCewch ragor o wybodaeth am sut gall rhieni gefnogi hawliau plant yma:UNCRC_Understanding_Childrens_Rights.pdf (childreninwales.org.uk)
Cyflwyniad

“Mae pobl yn anobeithio ac yn cael eu gwthio ymhellach ac ymhellach i dlodi.”
Mae canfyddiadau arolygon 2024 yn cyflwyno darlun digysur iawn o effaith tlodi ar filoedd o fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd ar draws Cymru. Er bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ychydig iawn mae hynny’n ei ddweud wrthyn ni am effaith tlodi ar fywydau beunyddiol. Mae ymatebwyr arolygon blynyddol dilynol wedi bod yn eitha cyson o ran nodi’r heriau a’r rhwystrau mae teuluoedd yn eu hwynebu. O ystyried y cyd-destun hwn, yn hytrach nag ailadrodd llawer o’r wybodaeth mewn adroddiadau blaenorol, mae’r adroddiad hwn yn 2024 yn darparu crynodeb byr o’r prif ganfyddiadau yn achos pob un o themâu’r arolwg.
Eleni rydyn ni’n croesawu’n fawr y ffaith ein bod ni’n ychwanegu gwybodaeth o’n harolwg newydd i rieni/ofalwyr. Mae clywed barn rhieni a gofalwyr yn uniongyrchol yn hanfodol i’n helpu i ddeall effaith yr hyn maen nhw’n ei wynebu a’r heriau o’u persbectif nhw eu hunain.
Ar draws pob un o’n 3 arolwg, mae llawer o’r canfyddiadau’n debyg iawn, er bod gwahanol gwestiynau’n cael eu gofyn i’r 3 grŵp gwahanol. Y thema or-redol a ddaeth i’r amlwg o arolygon eleni oedd effaith materion cysylltiedig â thlodi ar iechyd emosiynol a meddyliol pobl, sy’n effeithio ar fabanod, plant, pobl ifanc a’u rhieni. Beth bynnag oedd y pwnc, codwyd iechyd meddwl ar draws pob un o’r 3 arolwg. Defnyddiodd plant a phobl ifanc droeon eiriau fel ‘trist’, ‘isel’, ‘pryderus’ ac ‘wedi ypsetio’ yn eu sylwadau, ac adroddodd ymarferwyr am gynnydd yn nifer y rhieni a’r plant oedd angen cefnogaeth iechyd meddwl, yn aml mewn sefyllfaoedd o argyfwng uniongyrchol. Dywedodd ymarferwyr fod ‘sefyllfa tlodi wedi bod mor wael ers mor hir, fel bod gwydnwch yn is nag y bu erioed’. Yn achos rhieni, mae eu sylwadau’n adlewyrchu’r heriau real iawn maen nhw’n eu hwynebu yn feunyddiol, ac maen nhw hefyd yn cydnabod effaith hynny ar eu plant. Yn anochel, mae hynny’n cynyddu eu teimladau hwythau o euogrwydd a phryder.
“Mae pob rhiant eisiau’r gorau i’w plant, ac yn teimlo’n euog os ydyn nhw’n methu hyd yn oed â darparu’r pethau sylfaenol”
Mae plant a phobl ifanc yn dal i adrodd eu bod yn profi neu’n tystio i fwlio cysylltiedig â thlodi, gyda rhai’n rhannu effaith uniongyrchol hynny arnyn nhw, eu hiechyd meddwl a’u presenoldeb yn yr ysgol. Cyfeiriodd mwyafrif llethol o’r plant a’r bobl ifanc at faterion cysylltiedig â gwisg ysgol fel prif achos bwlio, gan fod 79% yn adrodd bod gwisg ysgol yn dal i orfod cynnwys bathodyn a logo, er bod hynny’n costio mwy na dillad heb eu brandio. Gwnaeth nifer sylw, gan nad oedden nhw’n ennill yr arian i brynu eu gwisg ysgol, pam dylen nhw gael eu cosbi am fethu cydymffurfio. A dweud y gwir, mae’n anodd dadlau yn erbyn eu safbwynt ar hyn.
Roedd rhieni’n pryderu am stigma tlodi, ac yn profi effaith hynny’n uniongyrchol, ac o ran eu plant a’u pobl ifanc, roedden nhw’n pryderu am gael eu hynysu y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol, a sut roedd y rhai oedd yn byw mewn tlodi yn cael eu trin. Amlygodd plant a phobl ifanc hefyd wahaniaethau pwysig yng nghyfleoedd addysg y rhai oedd yn byw mewn tlodi, gan gynnwys mynediad at deithiau ysgol, gweithgareddau a digwyddiadau, a’r gallu i fforddio trafnidiaeth i fynd i’r ysgol.
Dywedodd ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol a rhieni mai costau byw oedd yn cael yr effaith ariannol fwyaf yn gyffredinol ar y rhai oedd yn byw mewn tlodi, ochr yn ochr â llawer o ffactorau eraill, megis costau uchel rhent, trafnidiaeth a chyfleustodau, yn ogystal ag effaith cyflogau isel a chael mynediad at fudd-daliadau lles.

Yng nghanfyddiadau eleni gwelwyd cynnydd sylweddol yn y sylwadau am effaith ariannu a thoriadau i wasanaethau cymorth hanfodol. Er bod y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar wasanaethau iechyd meddwl, yn arbennig i blant a’r glasoed, roedd llawer yn tynnu sylw at golli capasiti a chynnig gwasanaethau ymyrraeth gynnar, sy’n helpu i atal problemau rhag gwaethygu.
Amlygodd rhieni sut mae’r systemau presennol yn methu, a sôn am loteri côd post o ran cymorth Dechrau’n Deg a dibyniaeth ar fudd-daliadau. Soniodd llawer oedd yn byw ar aelwydydd incwm isel am orfod brwydro mlaen heb fawr ddim cefnogaeth ariannol, os o gwbl, a chafwyd sylwadau ganddyn nhw am effaith hyny ar draws eu bywydau beunyddiol.
Gwnaed nifer sylweddol uwch o gyfeiriadau at anawsterau tai nag yng nghanlyniadau arolygon blaenorol. Gwnaed sylwadau amlaf ynghylch fforddiadwyedd rhent, amodau tai gwael, a mwy o ddefnydd o lety dros dro.
Fel y nodwyd yn flaenorol, mae canfyddiadau ein harolygon yn dal yn ddigysur ac yn parhau i amlygu sut rydyn ni fel cymdeithas yn parhau i fethu darparu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n byw mewn teuluoedd incwm isel. Nid yw’n syndod, felly, bod llawer o’r ymatebwyr yn defnyddio termau fel ’bod yn ddiobaith’ ac ‘anobeithio’ ac yn disgrifio dyfodol ansicr, nad yw’n newid.
Yn olaf, roedd pob un o’r 3 arolwg yn gyfle i’r ymatebwyr nodi atebion a blaenoriaethau fyddai’n helpu i fynd i’r afael ag erchylltra tlodi plant, a gobeithio bydd y rhain yn amhrisiadwy i lunwyr penderfyniadau wrth iddyn nhw benderfynu ar y camau byddan nhw’n eu cymryd i atal a lliniaru effaith tlodi ar blant a’u teuluoedd. Fodd bynnag, mae o fewn gallu pawb ohonom i ystyried beth arall gallwn ni wneud i roi cefnogaeth well i fabanod, plant a phobl ifanc sydd mewn teuluoedd incwm isel, trwy gynnal a chryfhau mynediad at wasanaethau hanfodol craidd, yn ogystal â thrwy fabwysiadu dull empathetig o weithredu ar draws ein hymarfer, a chynyddu ein hymwybyddiaeth a’n dealltwriaeth.


Gwybodaeth am yr arolwg
Roedd ein harolwg yn ceisio cael cipolwg ar brofiadau ac arsylwadau’r rhai sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Cynhaliwyd yr arolwg am gyfnod o 5 wythnos (30 Ebrill – 7 Mehefin 2024) a chafodd ei gwblhau’n ddienw.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ymateb i gwestiynau cysylltiedig â thlodi ar draws nifer o feysydd, ac roedd yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau agored ac amlddewis, fel bod modd iddyn nhw rannu eu barn a’u profiadau. Yr adroddiad hwn yw’r 8fed yn y gyfres, sy’n golygu bod modd i ni olrhain tueddiadau a datblygiadau yn flynyddol ar draws Cymru.

Pwy ymatebodd
Ymatebodd gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr o 21 o ardaloedd awdurdod lleol ledled Cymru. Cafwyd cyfanswm o 194 o ymatebion, ac roedd 82% o’r ymatebwyr yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd.
Cylch gorchwyl yr holl ymatebwyr oedd plant, pobl ifanc a/neu deuluoedd. Roedd y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phlant a theuluoedd yn gweithio gydag isafswm o 62,000 o deuluoedd bob blwyddyn. Mae’r ffigur hwn yn amcangyfrif gofalus, a addaswyd, a buom yn ofalus i eithrio’r posibilrwydd o ‘gyfrif dwbl’ ar draws sefydliadau ac ardaloedd awdurdod lleol. Yr isafswm gwreiddiol, heb ei addasu, yw 98,000 o deuluoedd.
Roedd yr 18% o ymatebwyr oedd yn weddill yn gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd mewn meysydd fel datblygu polisi, rolau rheoli a’r byd academaidd.
Gwasanaethau
Cynghori ac eraill
Darparwyr Gofal Plant
Arall
Addysgwyr
Ymarferwyr
Rolau ymatebwyr
Llunwyr Polisi
Rheolwyr
Ymatebodd ystod eang o sectorau a gwasanaethau ar draws Cymru i’r arolwg.
Arall
Tai
Gofal Plant
Gwaith Ieuenctid
Blynyddoedd Cynnar
Gwasanaethau Cynghori
Teuluoedd yn Gyntaf
Iechyd
Dechrau'n Deg
Awdurdod Lleol
Ysgolion
Trydydd Sector
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi’r grwpiau oed maen nhw’n gweithio gyda nhw’n bennaf, neu sy’n rhan o’u cylch gorchwyl. Sylwch fod gan rai ymatebwyr gylch gorchwyl oedd yn cwmpasu mwy nag un grŵp oed.
Ystod oed cylch gorchwyl yr ymatebwyr

Materion tlodi trosfwaol: cymharu 3 blynedd
(2022-2024)
“Rydyn ni’n gweithio gyda niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc sy’n ddigartref, mewn sefyllfa fregus o ran tai, sy’n defnyddio banciau bwyd,…. sydd wedi datgysylltu o addysg brif ffrwd ac sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu am oedolion nad ydynt yn gallu gweithio bellach oherwydd anawsterau iechyd meddwl”.
Mae’r cwestiynau a ofynnir yn ein harolygon bob blwyddyn yn cynnwys cwestiynau craidd (sy’n cael eu hailadrodd bob blwyddyn) a rhai newydd sy’n helpu i wella dealltwriaeth o faterion penodol neu dueddiadau sy’n dod i’r amlwg. O’u cyfuno, mae’r rhain yn rhoi trosolwg o’r sefyllfa o ran tlodi yng Nghymru, fel y gwelwyd ac y profwyd gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol.
Ydy'r sefyllfa wedi newid yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?
Wedi gwella
Wedi gwaethygu Wedi aros yr un fath
Mae’r cyntaf o’n cwestiynau craidd yn ystyried y sefyllfa gyffredinol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Pan ofynnwyd iddyn nhw wneud sylwadau am eu hateb, roedd y rhan fwyaf yn canolbwyntio ar iechyd meddwl gwael cynyddol ymhlith plant ac oedolion; costau cynyddol bywyd beunyddiol; diffyg bwyd a maethiad gwael; a cholli cefnogaeth oherwydd toriadau i wasanaethau.
“Mae mwy o blant yn dod i’r ysgol gyda phroblemau iechyd difrifol oherwydd diffyg arian sydd ar gael i’r teulu eu bwydo’n iawn. Maen nhw dod i mewn heb fwyta ers amser cinio y diwrnod blaenorol, mewn dillad brwnt sydd heb gael eu golchi oherwydd costau golchi dillad a gwresogi dŵr.”
Roedd y rhai oedd yn adrodd bod y sefyllfa wedi parhau yr un fath â’r llynedd, yn dal i ddisgrifio darlun creulon, eto gan ganolbwyntio’n bennaf ar y materion yr adroddwyd amdanynt uchod.
“Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd y deuwn ar eu traws yn dal i drafod eu brwydrau ariannol, a’r pryder yw bod y sefyllfa’n gwaethygu, yn hytrach na gwella. Mae’r rhan fwyaf yn dal heb unrhyw syniad sut byddan nhw’n ymdopi yn y dyfodol os bydd y llwybr yma’n parhau."
Yn yr 2il o’n cwestiynau craidd, cyflwynwyd ystod eang o faterion cysylltiedig â thlodi i’r ymatebwyr (gweler y siart isod). O’r rhain, gofynnwyd iddyn nhw nodi’r 5 mater oedd yn achosi’r pryder mwyaf a’u rhoi yn nhrefn yr effaith fwyaf ar y plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw, neu sy’n rhan o’u cylch gorchwyl. Ni ofynnwyd i’r ymatebwyr roi’r materion eraill mewn trefn.
“Mae teuluoedd wedi’u dal mewn cylch negyddol o ddyled, tai gwael a straen cysylltiedig ag anghenion byw sylfaenol iawn; ac mae hynny i gyd yn cyfrannu at ddiffyg rheolaeth lwyr ar eu deilliannau bywyd eu hunain. Rydyn ni’n gwybod bod straen a thlodi yn cael effaith sylweddol ar blant, eu llesiant a’u profiadau cynnar mewn plentyndod, ac eto rydyn ni’n dod yn gwbl gyfarwydd â gweld hynny’n feunyddiol.”
I adeiladu ar ganfyddiadau ein harolygon yn 2023, cyflwynwyd materion newydd eleni. Er gwaethaf y newidiadau hyn, mae’r tueddiadau’n dal yn gymharol debyg yn ystod y cyfnod diwethaf o 3 blynedd. Fodd bynnag, adroddwyd am gynnydd sylweddol yn y ‘costau tanwydd/ynni’ a ‘cholli cefnogaeth/gwasanaethau’. Mae’r cynnydd hwn yn cyfateb i’r sylwadau a gafwyd gan ymatebwyr.
Y 5 mater ar y brig o ran tlodi - cymharu 3 blynedd
ansicrIncwm/cyflogaethneuafreolaidd Dyled E aithnewidiadaui fudd-daliadau (hebeigynnwysyn2024)CyflogiselIncwmiselofudd-daliadau(2024)AnsicrwyddbwydTloditanwydd/costauynniColligwasanaethauachymorthlleolCostaubywyncodiCostau/argaeledd/ mynediadatofalplantCostaucynhwysiaddigidolRhwystrauorantai(addasrwydda orddiadwyedd)YnysugwledigIechyd(cororol)Iechyd(emosiynol)2024ynunigCostau/argaeleddtrafnidiaethCostauaddysg(gwisg ysgol,teithiau,trafnidiaeth)Urddasmislif Mynediadathy orddiant/ addysgoedolion (swyddiDiygamsergyda'rteululluosog/oriaugwaith) Arall CynhwysolDileu'rcynnyddmewnCredyd (hebeigynnwysyn2024)Costgwasanaethauhamdden
Materion tlodi trosfwaol: 2024
“Y broblem rydyn ni’n ei hwynebu fel ymarferwyr yw bod angen cefnogaeth sylweddol i’r teuluoedd hyn, ond bod hynny hefyd yn aml am gyfnod amhenodol. Mae’n cael effaith aruthrol ar lesiant emosiynol a iechyd cyffredinol y teulu cyfan”.
Mae’r adran sy’n dilyn yn darparu mwy o fanylion am y materion trosfwaol cysylltiedig â thlodi a nodwyd yng nghanfyddiadau eleni. O’r rhestr a roddwyd, dewisodd yr ymatebwyr 5 mater, gan eu rhoi yn nhrefn yr effaith fwyaf ar fabanod, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd.
Y 5 mater cysylltiedig â thlodi oedd ar y brig
Incwm/cyflogaeth afreolaiddneuansicr DyledCyflogiselIncwmiselofudd-daliadau(2024)AnsicrwyddbwydTloditanwydd/CostauynniColligwasanaethauachymorthlleolCostaubywyncodiCostau/argaeledd/ mynediadatofalplantCostaucynhwysiaddigidol(addasrwyddaRhwystrauorantaiorddiadwyedd)YnysugwledigIechyd(cororol) Iechyd(emosiynol)2024ynunigCostau/argaeleddtrafnidiaethCostauaddysg(gwisg ysgol,teithiau,trafnidiaeth)Urddasmislif Mynediadathy orddiant/ addysgoedolion (swyddiDiygamsergyda'rteululluosog/oriaugwaith) Arall Costgweithgareddauhamdden
Y 5 mater oedd ar y brig 2024
Materion oedd ar y brig 2024
Nodwyd costau byw cynyddol fel mater ymhlith y 5 ar y brig gan 93% o’r ymatebwyr, ac fe’i dewiswyd fel prif fater gan 58% (y llynedd, roedd y canrannau hyn yn 96% a 59% yn eu tro).
“Rydyn ni’n gweld yn uniongyrchol effeithiau’r cynnydd mewn costau byw ar blant a theuluoedd. Rydyn ni’n sylwi bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gollwng yn llwglyd, ac rydyn ni’n gweld cynnydd o fwy na 100% yn y galw am ein darpariaeth prydau poeth iach… Rydym hefyd wedi tynnu 25c oddi ar bris y pryd, oherwydd nad oedd gan lawer o’r bobl ifanc y 25c.”
Roedd yr ymatebwyr yn cydnabod bod rhieni a gofalwyr yn gwneud eu gorau o dan yr amgylchiadau maen nhw’n eu hwynebu. Mae llawer yn mynd heb fwyd er mwyn darparu ar gyfer eu plant; yn wynebu pwysau ariannol di-derfyn; dyled sylweddol; ac ansicrwydd i’w teulu. Ni ellir tanbrisio’r straen mae hynny’n ei roi ar iechyd meddwl rhieni.
“Mae plant yn rheolaidd yn dod i’r sesiwn yn llwglyd neu dyw’r rhieni ddim yn bwyta. Mae’r ysgol yn rhoi tafell o dost i rai rhieni wrth iddyn nhw ollwng eu plant.”
Mae hyn i gyd yn ei dro yn cael effaith uniongyrchol ar fabanod, plant a phobl ifanc. Er enghraifft, gwnaeth ymatebwyr sylwadau droeon fod plant yn llwglyd; yn methu dod i apwyntiadau clinig a’r ysgol oherwydd costau trafnidiaeth; yn cael eu bwlio oherwydd diffyg gwisg ysgol; ac yn cael eu hynysu fwyfwy oddi wrth grwpiau cyfoedion, cyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol a gwasanaethau. Testun pryder arbennig i ymarferwyr yw nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n profi dirywiad yn eu hiechyd meddwl ac sydd mewn perygl.
“Does dim modd gwahanu iechyd y corff a’r meddwl. Mae niwed corfforol diamau byw ar aelwyd lle nad oes digon o arian ar gyfer gwres, bwyd a dillad yn cael effaith niweidiol aruthrol ar iechyd meddwl. Mae stigma a chywilydd bod yn rhywun yn barhaus sy’n methu fforddio [teithiau a dillad] ac sy’n cael eich pryfocio am fod yn dlawd, i gyd yn llwytho mwy o straen ar blant… ar ben hynny, mae rhieni sydd dan straen oherwydd problemau iechyd meddwl anochel o dan amgylchiadau o’r fath [yn methu] cefnogi’r plant, ac felly mae’r dirywiad yn parhau. Braslun yw hyn ….mae’r darlun gwirioneddol ar gyfer plant unigol gymaint yn fwy dwys nag y mae hyn yn disgrifio.”
Roedd y materion cyffredin eraill y cyfeiriwyd atynt yn canolbwyntio ar ddiffyg tai cymdeithasol addas, fforddiadwy a cholli neu dorri’n ôl ar wasanaethau. Nododd ymatebwyr fod llety dros dro yn cael ei ddefnyddio’n llawer rhy aml ar gyfer cyfnodau hir, gyda rhai’n nodi blynyddoedd. Mae teuluoedd yn methu fforddio rhenti, a chyfeiriwyd at amodau tai fel rhai gwael, anniogel ac afiach, yn arbennig yn y sector rhentu preifat. Roedd hyn hefyd yn wir am bobl ifanc oedd yn gadael gofal.
“Mae’r rhent am eiddo preifat yn afresymol o ddrud, mwy na £1000 y mis am rywbeth o safon mor wael, sy’n aml yn oer iawn ac yn llaith, gyda gwresogi annigonol fel gwresogyddion trydan… Mae’r sefyllfa gyfan yn gwthio teuluoedd i ddyled.”
Eleni, gwelwyd cynnydd sylweddol yn y sylwadau ynghylch darpariaeth gwasanaethau, toriadau cyllideb, hygyrchedd gwasanaethau ac amserau aros. Roedd ymarferwyr yn eu gwasanaethau eu hunain yn rhwystredig oherwydd y toriadau i’r gyllideb roedden nhw’n eu profi, ac effaith hynny ar y gefnogaeth roedden nhw’n gallu ei darparu. Nodwyd bod y galw am wasanaethau yn cynyddu’n gyflym, tra bod y cyllid yn parhau heb newid, neu mewn llawer o achosion yn lleihau. Roedd hyn yn berthnasol i groestoriad eang o wasanaethau a darpariaeth cefnogaeth, ac roedd yn cael effaith uniongyrchol ar bob grŵp oed o blant a’u rhieni. Ymhlith y meysydd mwyaf cyffredin a nodwyd fel rhai lle roedd angen cefnogaeth roedd; CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a’r Glasoed); Gwasanaethau ymyrraeth gynnar; Gwasanaethau Cynghori; Gwasanaethau Cymunedol; a staff cymorth mewn Ysgolion, yn arbennig i’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Mae pob un gwasanaeth a chefnogaeth sydd ar gael i deuluoedd o dan bwysau ac yn cynnig gwasanaethau cyfyngedig. O ganlyniad, pan fydd teuluoedd yn cael trafferth ymdopi, does unman iddyn nhw droi, neu mae rhaid iddyn nhw aros yn hir am gymorth, neu mae’r cymorth a gânt yn fach iawn. Mae hynny’n aml yn gallu golygu bod sefyllfaoedd yn gwaethygu. Gallai problemau gael eu datrys yn gyflym petai teuluoedd yn cael y gefnogaeth angenrheidiol pan fo angen amdani.”
Cyfeiriodd ymarferwyr hefyd at yr angen am fwy o gefnogaeth wyneb yn wyneb, yn hytrach na chefnogaeth o bell neu ‘hunan-gymorth’. Gan fod llawer yn cael trafferth o ran fforddiadwyedd a hygyrchedd trafnidiaeth, nodwyd bod angen dychwelyd at gyflwyno darpariaeth mewn cymunedau, er enghraifft; clinigau babanod.

Gwario cyllideb
”Mae lleihau hamdden i blant yn cael effaith. Mae’n effeithio ar eu datblygiad cymdeithasol oherwydd nad ydyn nhw’n cael cymaint o gyfle i gymysgu gyda’u cyfoedion. Mae’n effeithio ar ddatblygiad corfforol gan fod elfen gorfforol i lawer o weithgareddau hamdden, ac mae plant yn colli’r cyfle hwnnw. Mae gostyngiad amlwg yn iechyd a ffitrwydd plant, yn ogystal â’u hunanhyder.”
Yn anochel, mae costau byw cynyddol ac incwm isel yn golygu bod teuluoedd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch ble mae eu cyllidebau cyfyngedig yn cael eu gwario. I ddeall hyn ymhellach, gofynnwyd i’r ymatebwyr ym mha 3 maes roedd teuluoedd yn lleihau eu gwariant ar hyn o bryd.
Meysydd mwyaf cyffredin ar gyfer lleihau gwariant/cyllideb
Arall
Ad-dalu dyledion
Dillad (heblaw ysgol)
Gwasanaeth ôn a data
Gwisg ysgol
Costau trafnidiaeth
Gweithgareddau hamdden i blant (gan gynnwys rhai allgyrsiol a chlybiau)
Prydau ysgol
Rhent/Morgais
Trydan (pŵer)
Gwres
Gwariant ar fwyd
Gan adleisio canfyddiadau ein harolwg yn 2023, roedd effaith fwyaf y gostyngiad mewn gwariant i’w deimlo mewn clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau hamdden i blant, lle roedd rhieni’n methu fforddio’r costau cysylltiedig. Mynegodd gweithwyr proffesiynol eu pryderon ynghylch lleihau’r gweithgareddau hyn i blant a phobl ifanc a’r effaith ar eu hiechyd a’u llesiant cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Cyfeiriwyd at ynysu cymdeithasol fel problem roedd plant a phobl ifanc yn ei hwynebu oherwydd eu bod yn methu mynd i glybiau neu weithgareddau lle bydden nhw’n cael cyfleoedd i gymdeithasu gyda’u cyfoedion. Yn eu harolwg hwythau, mynegodd plant a phobl ifanc bryderon tebyg.
“Mae mor heriol i deuluoedd geisio blaenoriaethu ar beth maen nhw’n gwario eu harian. Wrth siarad â rhieni, mae llawer yn dewis peidio â rhoi’r gwres ymlaen oherwydd y costau uchel, mae rhai hefyd wedi dweud eu bod yn mynd heb fwyd i sicrhau bod eu plant yn bwyta. Mae rhieni wedi adrodd eu bod yn methu fforddio gweithgareddau gyda’r plant, teithiau ysgol etc.”
Mynegodd gweithwyr proffesiynol bryderon bod lleihau gwariant yn cael effaith ar blant a phobl ifanc oherwydd bod eu hanghenion sylfaenol ddim yn cael eu diwallu. Maen nhw’n gweld plant sy’n dweud eu bod yn llwglyd, a rhieni sy’n dweud eu bod yn mynd heb fwyd i sicrhau bod eu plant yn cael eu bwydo. Mae rhieni hefyd yn wynebu dewisiadau anodd rhwng gwresogi eu cartref a bwydo’u teulu. O ganlyniad, mae cyflwr y tu mewn i gartrefi wedi dirywio, gyda mwy a mwy o lwydni a lleithder yn bresennol.
Mae rhywfaint o liniaru wedi digwydd wrth i brydau ysgol am ddim gael eu cyflwyno mewn ysgolion cynradd, a nododd ymarferwyr fod rhieni’n mynegi rhyddhad bod eu plant yn cael pryd poeth yn yr ysgol.
“Rydyn ni wedi cael rhieni’n dweud wrthyn ni eu bod yn methu rhoi bath i’w plant oherwydd eu bod yn methu fforddio’r nwy/trydan. Ers cyflwyno’r pryd ysgol am ddim i bob plentyn oed cynradd, does dim cynifer o rieni wedi bod yn dweud wrthyn ni eu bod yn pryderu am fwyd.”
Nodwyd ad-dalu dyledion fel un maes lle mae rhieni’n lleihau eu gwariant. Gwnaed llawer o sylwadau am lwybr llithrig cynyddu dyledion ac ôl-ddyledion, ac effaith hynny. Mynegwyd pryderon ynghylch iechyd corff a meddwl gan ymatebwyr, a nododd effaith straen, pryder, a dewisiadau bwyd afiach ar deuluoedd. Roedd nifer cynyddol o deuluoedd hefyd yn estyn allan am gymorth gyda chost y diwrnod ysgol, gyda mwy o rieni’n cyrchu help gyda gwisg ysgol a theithiau ysgol, lle mae cymorth ar gael, gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei ddarparu gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Dywedwyd bod ceisiadau am dalebau ac atgyfeiriadau i’r banc bwyd hefyd ar gynnydd.
“Mae plant yn gwisgo dillad ac esgidiau sy’n rhy fach ac wedi treulio. Mae rhieni a phlant yn aml yn methu paratoi ar gyfer y tywydd. Rydyn ni’n rhoi llawer o gymorth gyda’r wisg ysgol, yn arbennig dillad gaeaf ac esgidiau.
Dyw llawer o’n teuluoedd ddim yn gwneud gweithgareddau hamdden, anaml y byddan nhw’n gadael y stâd lle maen nhw’n byw.”
Mae effaith ‘jyglo’ cyllidebau a lleihau gwariant mewn meysydd hanfodol i’w gweld yn glir yn sylwadau’r ymarferwyr ar hyd yr arolwg, ac roedden nhw’n mynegi pryder dwfn ynghylch y canlyniadau, yn awr ac i’r dyfodol.
Yng Nghymru, mae llawer o deuluoedd heb hawlio’r holl fudd-daliadau a chymorth sydd ar gael iddyn nhw. Mae hynny’n cynnwys budd-daliadau’r Deyrnas Unedig a’r rhai sy’n benodol i Gymru. Roedd yr arolwg yn ceisio deall ychydig mwy am y rhwystrau i hawlio
Ar sail eu profiad a’u dealltwriaeth o’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw, gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi’r 3 rheswm mwyaf cyffredin am hyn.
Rhesymau mwyaf cyffredin am beidio â hawlio budd-daliadau
Amherthnasol
Ddim yn ymwybodol o beth gallan nhw hawlio
Ddim yn gwybod sut i hawlio
Ddim yn gwybod pwy i holi
Ddim yn meddwl bod modd hawlio (rhesymau eraill)
Ddim yn meddwl bod modd hawlio oherwydd eu bod yn gweithio
Proses hawlio yn rhy anodd (gwir neu ganfyddiedig)
Stigma cysylltiedig â hawlio
Ddim yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael
Heb dechnoleg i hawlio
Arall
Nifer yr ymatebion
Roedd gostyngiad yn y gwasanaethau cymorth ac o ganlyniad mewn capasiti a lleihau mynediad, ynghyd â ffurflenni cymhleth, ‘ofn y gwasanaethau statudol’ a phrofiad blaenorol o fod yn anghymwys i dderbyn cymorth yn ffactorau cyffredin a nodwyd gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol.

Dyled
“Gwrthodir bwyd i rai plant yn yr ysgol oherwydd dyledion gyda’r awdurdodau lleol.”
Nododd ymatebwyr eto fod dyled, ei effaith a’r canlyniadau a ddaw yn ei sgîl, yn dal yn destun pryder arbennig. O ystyried incwm isel a chostau byw a thai uchel, nododd ymarferwyr fod rhai teuluoedd yn syml yn methu diwallu eu hanghenion hanfodol sylfaenol heb fynd i ddyled yn feunyddiol.
Ôl-ddyledion mwyaf cyffredin
Rhent(Landlordpreifat) Rhent(Landlord cymdeithasol) DWP/Budd-daliadauMorgaisCyfleustodauTrethgyngorPrydauysgolGofalplantCardiaucredydSiopau/CatalogauGwasanaethau ôn Teulua rindiau Benthyciadaudiwrnodcyflog Arall Amerthnasol
Gwelwyd mai dyled oedd un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol yng nghyswllt straen cynyddol, pryder a gorbryder, a’r dirywiad yn iechyd meddwl rhieni. Nododd ymatebwyr ostyngiad yn ymgysylltiad teuluol rhieni oherwydd straen cysylltiedig â dyled a’r ffaith bod y teulu cyfan yn fwyfwy ynysig. Cyfeiriwyd hefyd at yr effaith emosiynol roedd hyn yn parhau i’w chael ar blant a phobl ifanc. Dywedodd llawer fod plant yn eithriadol ymwybodol o’r sefyllfa ariannol, a’u bod yn pryderu am eu rhieni.
“Mae cynnydd yn y teuluoedd rydyn ni’n eu cefnogi mewn argyfwng sydd hefyd mewn dyledion ac yn methu diwallu anghenion sylfaenol plant.”
Yn aml doedd plant a phobl ifanc ddim yn gofyn am fwyd oherwydd bod hynny’n achosi pryder pellach yn y cartref, ac yn rhoi mwy o straen ar berthnasoedd. Cafwyd sylwadau hefyd ynghylch plant yn cael ofn wrth i gasglwyr dyledion ddod i’r tŷ neu’n pryderu am fod yn ddigartref. Dywedwyd hefyd fod rhai pobl ifanc yn ‘troi at ymddygiad peryglus’ er mwyn ceisio gwella sefyllfa ariannol eu teulu cyfan.
“Teimlo effeithiau anawsterau iechyd meddwl eu rhieni a’r straen yn gwaethygu oherwydd pryder am eu dyledion. Mynd heb ddillad ac esgidiau newydd. Bod mewn perygl o gael eu troi allan.”
Fydd lefelau dyled yn newid i deuluoedd yn ystod y 12 mis nesaf?
Aros yr un fath Gwaethygu
Lleihau Ddim yn siwr Amherthnasol
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, gwelwyd dyled fel ffactor risg sylweddol, gyda rhieni heb fawr ddim dewis, os o gwbl, heblaw parhau i ‘suddo’ ymhellach i ddyled.
Mae cost hanfodion sylfaenol ac angenrheidiol yn llawer mwy nag incwm pobl. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae rhieni a gofalwyr yn methu cynyddu eu hincwm. Roedd y rhesymau am hynny’n amrywio, ond roedd llawer yn troi o gwmpas iechyd meddwl; capasiti cyfyngedig gan eu bod eisoes yn gwneud sawl swydd; trafnidiaeth a gofal plant. Roedd hynny’n wir yn achos y rhai oedd yn derbyn budd-daliadau a’r rhai oedd mewn cyflogaeth incwm isel.
“Gwaetha’r modd, mae rhaid i ni atal lle’r plentyn yn y lleoliad nes bod y ddyled yn cael ei chlirio. Gallai hynny olygu bod rhieni’n methu mynd i’r gwaith oherwydd eu bod yn gofalu am eu plentyn, ac yna maen nhw’n methu talu’r ddyled.”
Dywedwyd eto fod tlodi ‘mewn gwaith’ ar gynnydd. Credai’r ymatebwyr y bydd y sefyllfa gyffredinol bresennol o ran tlodi a’i effaith yn parhau i waethygu yn ystod y 12 mis nesaf.
Rhwystrau i gael mynediad i wasanaethau
“Lludded – mae llawer o bobl sydd mewn tlodi yn teimlo eu bod yn rhedeg yn barhaus, ac yn gallu colli ysgogiad. Mae biwrocratiaeth yn hunllef. Mae’n anodd cael help gan berson go iawn, a chewch eich trosglwyddo o un man i’r nesaf. Mae pobl yn rhoi i fyny.”
Mae’n hysbys bod llawer o deuluoedd sy’n byw mewn tlodi ac ar incwm is heb gyrchu’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen nac y gallan nhw ei hawlio. Gall hynny fod yn wir am gefnogaeth ariannol ac emosiynol. Yn arolwg eleni, roedden ni am archwilio hyn ychydig ymhellach. Gofynnwyd i’r ymarferwyr a’r gweithwyr proffesiynol rannu eu profiadau ynghylch y math o rwystrau, os o gwbl, y mae’r rhai sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu. Cyfeiriwyd at lawer o rwystrau.
“Mae nifer o rwystrau, dyw llawer o bobl ddim yn gwybod pa gefnogaeth sydd ar gael, na sut mae ei chyrchu. Mae gan lawer o wasanaethau restrau aros eithriadol o hir, a gall pobl aros am flynyddoedd i gael cymorth. Mae llawer o bobl yn teimlo bod stigma ynghylch cyrchu gwasanaethau, a gall hynny eu hatal rhag estyn allan.”
Y rhwystrau a nodwyd amlaf oedd diffyg gwybodaeth am wasanaethau a mynediad atynt, toriadau cyllid, disbyddu staff a gwasanaethau; canoli cefnogaeth; a lleihau cyswllt wyneb yn wyneb. Pan fydd rhieni’n estyn allan, maen nhw’n aml yn cael eu ‘troi i ffwrdd’ neu maen nhw’n medru cael mynediad at wasanaethau mewn modd cyfyngedig iawn yn unig, megis banciau bwyd (3 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis). Roedd rhai gwasanaethau ar gael ar-lein yn unig, er enghraifft, cyngor ariannol a iechyd meddwl, ac roedd hynny’n bendant yn rhwystr i nifer o rieni.
“Hefyd mae terfynau yn eu lle gyda gwasanaethau’r ‘cyngor’, er enghraifft sawl gwaith gall teulu gyrchu banc bwyd, DAF neu dalebau ynni, sy’n creu rhwystr i deuluoedd sy’n gofyn am help.”
Nododd ymatebwyr fod cyllidebau gwasanaeth o dan gymaint o bwysau nes bod meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael mynediad at wasanaethau yn newid yn barhaus. Mae hynny’n aml yn golygu bod plant, pobl ifanc a’u rhieni heb fynediad at ymyrraeth gynnar, ac felly eu bod mewn argyfwng llwyr erbyn cael mynediad i’r gwasanaeth. Nododd ymarferwyr hefyd fod hynny o reidrwydd yn cynyddu’r ddarpariaeth mae ar bob unigolyn neu deulu ei hangen, ac felly’n lleihau’r capasiti i gefnogi eraill.
“Mae ein capasiti staff yn gyfyngedig, ac i dderbyn atgyfeiriad mae’n rhaid iddo fodloni rhai meini prawf penodol er mwyn i ni fedru cadw ein rhestrau aros o dan reolaeth.”
Yn anochel, o ystyried y sylwadau uchod, cyfeiriwyd yn rheolaidd at restrau ac amserau aros hir ar draws ystod eang o ddarpariaeth cymorth a gwasanaeth, gan gynnwys iechyd meddwl plant ac oedolion; darpariaeth tai; gwasanaethau cynghori; cymorth a diagnosis anghenion dysgu ychwanegol; gwasanaethau iechyd; a chymorth i deuluoedd. Roedd pryder nad yw gwir ddarlun yr heriau yn cael ei adlewyrchu yn yr ystadegau.
“Mae gwasanaethau dan straen, e.e. ymyrraeth gynnar a gwasanaethau ataliol o dan bwysau, ac yn aml iawn y cyngor gan reolwyr yw cyflwyno ffurflen atgyfeirio ‘amlasiantaeth’ gyda golwg ar asesiad gwasanaethau cymdeithasol ynghylch pryderon. Mae hyn yn eu symud oddi ar y llyfrau fel ymyriad llwyddiannus, ond yn gadael fawr ddim lle i wneud llawer o waith i helpu’r teulu i wella’u sefyllfa. Mae hefyd yn gadael y teuluoedd yn teimlo eu bod wedi’u bradychu. Ar ôl gofyn am ychydig o help, maen nhw’n cael eu hunain wedi’u gollwng i gylch y gwasanaethau statudol oedd yn codi ofn arnyn nhw.”
Cyfeiriodd llawer o ymatebwyr at rai teuluoedd yn teimlo’n ‘anobeithiol’ ynghylch cyrchu cefnogaeth a bod ‘dim pwynt’ ceisio cysylltu â gwasanaethau gan na fyddai dim yn newid. Roedd hynny’n wir yn achos cefnogaeth emosiynol ac ariannol, hyd yn oed pan oedden nhw mewn perygl.
Rhwystrau eraill a amlygwyd oedd diffyg gwasanaethau lleol a chostau trafnidiaeth; prosesau gweinyddol, ffurflenni cais cymhleth a ‘gormod’ o waith papur ailadroddus. Roedd hefyd lawer o sylwadau ynghylch rhaglenni a phrosiectau cymorth tymor byr. Er bod cefnogaeth ychwanegol yn cael ei chroesawu, dim ond am gyfnod byr iawn roedd hynny’n cael ei ariannu’n aml. Roedd natur fylchog, ad hoc hynny yn golygu bod teuluoedd yn cael eu gadael heb gefnogaeth barhaus, ac yn teimlo’n anobeithiol ac yn ddi-werth. Nododd rhai ymarferwyr fod teuluoedd wedyn yn aml yn amharod i ymgysylltu â rhaglenni eraill, hyd yn oed os oedden nhw’n helaethach.

“Mae’n cynyddu’r stigma ac yn rhoi bai ar deuluoedd, ond yn y rhan fwyaf o achosion, cost y rhent yw’r broblem, yn hytrach na sut mae teuluoedd yn medru ymdopi.”
Roedd sylwadau hefyd yn canolbwyntio ar y stigma a’r pryderon mae rhieni’n eu hwynebu wrth ofyn am gefnogaeth. Mae rhieni’n pryderu ynghylch sut mae gwasanaethau’n eu gweld, a fydd eu plant yn cael eu ‘cymryd oddi arnyn nhw’, neu a fyddan nhw’n cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol. Roedd canfyddiadau blaenorol o gael eu trin heb fawr ddim urddas na pharch hefyd yn cael effaith ar eu parodrwydd i ymgysylltu â gwasanaethau neu geisio cymorth.
Er mwyn lleihau neu ddileu rhwystrau, roedd ymatebwyr yn cynghori’r canlynol:
• Mwy o wasanaethau yn y gymuned leol ac yng nghartrefi teuluoedd
• Gwell hyrwyddo ar wasanaethau cyfredol
• Cyfnodau cyllido hwy ar gyfer gwasanaethau. Nid yw cyllid blynyddol yn caniatáu cynllunio a darparu’n strategol ar gyfer gwasanaethau
• Lleihau biwrocratiaeth. Creu prosesau symlach sy’n haws eu deall a chael hyd i ffordd drwyddynt.
• Dull gweithredu dim drws anghywir. Ddylai teuluoedd ddim cael eu symud o un man i’r nesaf er mwyn cael cefnogaeth.
• Mwy o gefnogaeth ymyrraeth gynnar. Byddai hynny’n fwy effeithiol, yn ariannol o ran y gwasanaethau ac yn emosiynol o ran y babanod, y plant a’r bobl ifanc.
• Ystyried costau trafnidiaeth mewn cyllidebau gwasanaeth.
• Parch a disgresiwn. Dylai pawb sy’n cyrchu gwasanaethau gael eu trin yn dda, gan ddarparwyr gofalgar, hawdd troi atynt, sy’n “gwrando’n iawn” ar anawsterau ac anghenion teuluoedd. Dylai hynny fod yn wir ar draws pob sector, gan gynnwys y sector statudol.
• Mwy o ddarpariaeth wyneb yn wyneb.
• Dull cwbl gyfannol o ymdrin â thlodi. Dylai hynny fod ar lefel genedlaethol a lleol, gan gynnwys sut mae gwasanaethau’n cael eu hariannu a sut dylen nhw weithio ar y cyd. Hefyd mae angen dileu seilos ariannu ac ymarfer.
Addysg a thlodi
“Mae [tlodi] yn effeithio ar bopeth – canolbwyntio, y gallu i ddod i’r ysgol yn barod i ddysgu, anawsterau gyda grwpiau cyfoedion/cyfeillion, hunanbarch, hyder, dyheadau, dymuno peidio gofyn am unrhyw beth ychwanegol cysylltiedig â’r ysgol; e.e. teithiau, cyfarpar”.
Roedd ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yn credu bod tlodi’n cael effaith negyddol ar brofiad plant a phobl ifanc o’r ysgol a dysgu, yn ogystal â’u deilliannau addysgol.
Ydy tlodi'n effeithio ar brofiad plant a phobl ifanc o'r ysgol a dysgu?
Ddim yn siŵr: 10%
Nac ydy: 1%
Amherthnasol: 1%
Ydy: 88%
Fel yn achos canfyddiadau ein hadroddiad tlodi yn 2023, y materion y cyfeiriwyd atynt amlaf oedd newyn; bwlio; stigmateiddio; ynysu cymdeithasol; costau ysgol (gwisg ysgol a thrafnidiaeth); blinder a chyfleoedd anghyfartal. Yn cysylltu’r rhain roedd thema drosfwaol “tlodi yn arwain at iechyd meddyliol ac emosiynol gwael” ac effaith hynny ar allu a chapasiti disgyblion i ddysgu.
Eleni cafwyd nifer cynyddol o sylwadau ynghylch ymddygiad ‘gwael’ yn amgylchedd yr ysgol,. Nododd yr ymatebion fod problemau ymddygiad fel arfer yn digwydd o ganlyniad i’r ffactorau uchod, cysylltiedig â thlodi, a bod hynny’n gallu troi’n gylch parhaus i lawer o blant a phobl ifanc os byddan nhw’n aros mewn tlodi.
“Mae plant llwglyd yn golygu plant blinedig, sy’n golygu diffyg canolbwyntio, sy’n golygu diffyg cadw gwybodaeth, sy’n golygu diffyg cynhwysiant, sy’n arwain at fethu, sy’n arwain at golli hyder, sy’n arwain at ddicter, sy’n arwain at gau allan, sy’n arwain at ynysu. Yn fy mhrofiad i, tlodi ac ynysu cymdeithasol yw’r achos gwaelodol.”
Amlygodd ymatebwyr hefyd gynnydd mewn absenoldeb, a nodi cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a thlodi. Nodwyd bod plant yn “colli ysgol oherwydd cost cyrraedd yno”; eu bod yn absennol yn hytrach na chael eu cosbi am wisgo’r wisg ysgol anghywir, a bod plant a phobl ifanc yn cymryd diwrnodau allan o’r ysgol er mwyn “osgoi’r gweithgaredd neu’r digwyddiad, oherwydd bod rhieni’n methu ei fforddio”.
“Mae staff ysgol yn treulio cymaint o amser yn delio â phryderon iechyd meddwl pobl ifanc a diogelu, nes bod hynny’n bwyta i mewn i’r amser dysgu.”
Roedd pryderon hefyd am y galwadau cynyddol oedd ar ysgolion a’u staff, yn enwedig yng nghyswllt iechyd meddwl ac ymddygiad heriol. Disgrifiad rhai oedd bod eu hysgolion yn methu ymateb i’r galw oherwydd “nifer y plant sydd mewn angen ar hyn o bryd”
“Os ydyn nhw’n llwglyd dydyn nhw ddim yn canolbwyntio. Os ydyn nhw’n methu fforddio’r wisg ysgol gywir, dydyn nhw ddim yn cael dod i’r dosbarth, felly dydyn nhw ddim yn dysgu’n iawn.”
Roedd yr arolwg yn gofyn pa agwedd ar addysg oedd yn cael yr effaith ariannol fwyaf ar deuluoedd. Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis un maes o’r rhestr a ddarparwyd.
P'un o'r canlynol sy'n cael yr effaith fwyaf neu sydd anoddaf i deuluoedd ei reoli?
Amherthnasol
Arall
Adnoddau ac o er ar gyfer dysgu
Trafnidiaeth ysgol
Digwyddiadau (e.e. Diwrnod y llyfr, codi arian
Teithiau ysgol
Prydau ysgol a byrbrydau
Gwisg ysgol a chit AddGor
% o'r ymatebwyr
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, nodwyd gwisg ysgol fel y gost anoddaf i’w rheoli. Fel y dangoswyd yn ymatebion y plant a’r bobl ifanc yn yr adroddiad hwn, roedd effaith gwisg ysgol anghywir fel arfer yn golygu eu bod yn cael eu bwlio gan eu cyfoedion ac yn cael amrywiol gosbau gan yr ysgol, gan gynnwys cadw mewn ar ôl ysgol a/neu eu hynysu Teimlai plant a phobl ifanc fod hynny’n annheg oherwydd nad nhw oedd yn rheoli cyllideb na gwariant y teulu. Mae’r adran ar wisg ysgol yn edrych yn fanylach ar hyn.
Prydau ysgol am ddim
“Mae hyn wedi bod o fudd aruthrol i deuluoedd. Maen nhw’n teimlo o dan lai o bwysau i ddarparu cinio pecyn iach a maethlon yn ystod y dydd. Mae plant yn mwynhau bwyta gyda’i gilydd ac yn barod i ddysgu.”
Ym mis Medi 2022, trwy’r Cytundeb Cydweithredu, cychwynnodd Llywodraeth Cymru ar gyfnod 3 blynedd o estyn prydau ysgol am ddim i’r holl blant mewn ysgolion cynradd ledled Cymru.
Roedd dros 72% o’r ymatebwyr yn gweithio gyda theuluoedd lle roedd o leiaf un plentyn yn derbyn y fantais hon, ac roedd eu hymatebion i’r fenter hon yn eithriadol gadarnhaol. Maen nhw’n sôn am weld gwahaniaeth sylweddol, amlwg mewn plant a’u rhieni, nid dim ond trwy’r gwerth maethol, ond trwy helpu i leihau’r baich ariannol ar iechyd meddwl rhieni; gwell ymgysylltiad gan blant; mwy o gydraddoldeb a chymdeithasu yn ystod prydau bwyd, a gostyngiad yn y stigma cysylltiedig â thlodi i’r teulu cyfan.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran pryder. Mae hefyd wedi sicrhau bod plant yn cael o leiaf un pryd bwyd da bob dydd.”
Gwnaeth ymarferwyr y sylw fod rhieni’n defnyddio’r arian maen nhw’n ei arbed i brynu hanfodion eraill, ac mewn llawer o achosion, ymddengys ei fod yn cefnogi gwell presenoldeb yn yr ysgol, gan fod rhieni’n gwybod y bydd eu plant yn cael eu bwydo.
Er bod prydau ysgol am ddim i bawb yn yr ysgol gynradd yn fenter i’w chroesawu, y mae mawr angen amdani, nodwyd bod teuluoedd yn dal i orfod talu dyledion prydau ysgol oedd wedi cronni cyn i’r rhaglen hon ddechrau.
Mater a godwyd gan rai ymatebwyr oedd bod rhai teuluoedd bellach yn colli cyfle i gael budd-daliadau eraill, grantiau a chefnogaeth. Cyn y rhaglen, roedd angen i deuluoedd ar incwm isel gofrestru er mwyn derbyn prydau ysgol am ddim. Os oedden nhw’n gymwys, byddai hynny wedyn yn eu galluogi i gael mynediad at fathau eraill o gefnogaeth a chymorth, megis y Grant Hanfodion Ysgol (SEG). Nodwyd bod rhieni’n dal yn ddryslyd ynghylch a ddylen nhw ymgeisio am gefnogaeth arall ariannol, ac os felly, sut.
“Oherwydd bod Prydau Ysgol am ddim yn cael eu hestyn i gynnwys pawb, nid yw’r teuluoedd sydd mewn angen yn eglur bod angen iddyn nhw ymgeisio am gronfeydd eraill i’w cefnogi, i’w helpu gyda gwisg ysgol etc.
Mae wedi achosi dryswch i lawer.”
Er bod llawer o ysgolion yn rheolaidd yn hyrwyddo’r angen parhaus am geisiadau, nid yw eraill yn gwneud hynny, ac felly mae rhai teuluoedd wedi gweld gostyngiad yn swm y gefnogaeth ariannol maen nhw’n ei derbyn.
Roedd y cwestiwn olaf am ddarparu prydau ysgol am ddim yn gofyn a ddylai mwy o blant mewn addysg uwchradd eu derbyn nhw. Dywedodd mwyafrif (86%) o’r ymatebwyr y dylen nhw, gyda 5% yn unig yn dweud ‘na’.
Ddylai mwy o blant mewn addysg uwchradd dderbyn prydau ysgol am ddim?
Amherthnasol: 1%
Na ddylen: 5%
Ddim yn gwybod: 18%
Dylen: 86%
“Dyw plentyn ddim yn stopio bod mewn tlodi wrth fynd i’r ysgol uwchradd. Mae angen egni arnyn nhw i ddysgu a bod y gorau gallan nhw fod.”
Roedd barn gref iawn ynghylch yr angen am brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd. Dywedodd y rhai oedd o blaid hynny fod prydau ysgol uwchradd yn ddrud iawn a bod y costau’n parhau i godi. Nodwyd hefyd bod y trothwy cymhwysedd cyfredol yn rhy isel, a bod niferoedd mwyfwy uchel mewn angen, ond yn dal yn anghymwys. Gwnaed sylwadau ynghylch hyn hefyd gan y rhai oedd yn meddwl na ddylai prydau ysgol gael eu darparu am ddim i bawb.
“Pam mae oed yn ffactor yn nadl tlodi?”
Yng nghanfyddiadau eu harolwg nhw, rhoddodd y plant a’r bobl ifanc sylwadau yn union yr un fath, yn ogystal â chytuno â’r ymarferwyr y byddai cynnig cyffredinol yn dileu stigma a phryderon. Pan ofynnwyd iddyn nhw beth bydden nhw’n ei wneud petaen nhw’n Brif Weinidog Cymru, roedd hynny’n cynnwys darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn a pherson ifanc fel blaenoriaeth allweddol.
“Dylid talu am bob pryd ysgol heb i blant orfod defnyddio ôl bys i gael pryd, neu fod â system taliadau cerdyn. Rwy’n gwaredu wrth feddwl bod plant y mae eu rhieni wedi anghofio neu sy’n methu fforddio ychwanegu arian at y cerdyn, yn cael eu gwrthod wrth ofyn am fwyd yn ffreutur yr ysgol. Dylai pob plentyn ysgol gael pryd iach, beth bynnag yw eu sefyllfa.”
Amlygodd rhai sylwadau yr angen i blant sydd ar amserlen lai gael eu hystyried, naill ai o dan y system bresennol, neu mewn unrhyw ddarpariaeth i’r dyfodol. Adroddwyd bod y rhai ar amserlen lai yn aml yn mynd heb fwyd yn yr ysgol, hyd yn oed os oedden nhw’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
“Mae arddegwyr eisoes yn profi stigma ac yn cael trafferth ffitio i mewn, ac mae hynny’n gallu bod yn niweidiol iawn, a’u hynysu. Bydd prydau ysgol am ddim i bawb yn golygu bod plant ddim yn cael eu hynysu ymhellach oddi wrth eraill.”
O’r 5% a ddywedodd na ddylai prydau ysgol am ddim gael eu cynnig i bawb mewn ysgolion uwchradd, teimlai’r mwyafrif, oherwydd toriadau ariannol a chyllidebau tynn mewn awdurdodau lleol, y dylai teuluoedd dalu am brydau ysgol, os gallan nhw fforddio gwneud hynny.

Iechyd meddyliol ac emosiynol
“Gall yr heriau parhaus sy’n gysylltiedig â thlodi… gyfrannu at deimladau o anobaith, diymadferthedd ac iselder.”
Ni ellir tanbrisio effaith tlodi ar iechyd meddyliol ac emosiynol. I gynifer sy’n byw gyda’r amgylchiadau hynny, mae straen a phryderon yn bresennol yn barhaus, ac yn anochel yn effeithio ar y teulu cyfan. Yn ddieithriad, nododd yr holl ymatebwyr fod tlodi yn cael effaith aruthrol ar iechyd meddwl babanod, plant, pobl ifanc a’u rhieni. Roedd cydnabyddiaeth bod hyn yn effeithio hyd yn oed ar y babanod ifancaf, gan fod rhieni’n fwyfwy analluog i ymgysylltu'n emosiynol ac yn feddyliol â’u plant, neu i ddiwallu eu hanghenion datblygiadol ac emosiynol.
Ar draws yr holl ganfyddiadau, beth bynnag oedd y cwestiynau, mae iechyd meddwl gwael wedi bod yn amlwg iawn, gydag ymatebwyr yn nodi cysylltiad uniongyrchol rhwng hynny a thlodi. Nodwyd yr effaith ym mhob rhan o fywydau plant, o’r ymgysylltiad yn y meithrin, hyd at yr ysgol, ac o fewn perthnasoedd teuluol a chyfoedion.
“[Effaith] aruthrol, oherwydd er bod teuluoedd yn ceisio cuddio’u trafferthion oddi wrth eu plant, mae plant yn gwybod beth sy’n digwydd, ac mae hynny’n golygu eu bod yn ansicr, ac mae hynny’n cael effaith negyddol ar eu llesiant bob dydd.”
Roedd nifer sylweddol o sylwadau yn cynnwys gwahaniaethau amlwg eleni o ran ymddygiad gwael, perthnasoedd teuluol a rhwng cyfoedion yn chwalu, ynysu a risg i’r hunan. Disgrifiodd ymarferwyr hyn fel llwybr sy’n dal i lithro ar i lawr.
Yn eu harolwg nhw, soniodd plant a phobl ifanc am eu straen a’u pryderon hwythau, ynghyd â chonsyrn am eu rhieni. Teimlai rhai yn grac, trallod a chywilydd, gan feio’u rhieni weithiau am eu sefyllfa, ond yn poeni lawn cymaint am eu hiechyd meddwl oherwydd y straen.
Mae’r canfyddiadau hyn wedi bod yn gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac felly yn arolwg 2024, fe ofynnon ni i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol am effaith tlodi ar berthnasoedd teuluol.
Ydy ffactorau cysylltiedig â thlodi yn cael effaith negyddol ar berthnasoedd rhwng rhieni/gofalwyr a'u babanod, eu plant a'u pobl ifanc?
Amherthnasol: 3%
Nac ydyn: 3%
Ddim yn siŵr: 18%
Ydyn: 76%
Adroddodd ymarferwyr eu bod yn gweld cynnydd mewn gwrthdaro ymhlith teuluoedd gartref oherwydd straen a phryder a achosir gan dlodi, gyda phlant a phobl ifanc yn teimlo’n grac ac yn dal dig yn erbyn eu rhieni a’u gofalwyr, a nifer cynyddol o rieni sydd heb fod o fewn cyrraedd yn emosiynol.
“Pan fydd y rhieni dan straen, maen nhw’n llai tebygol o ymdopi â sefyllfaoedd heriol. Mae hynny’n cael effaith ar sut maen nhw’n magu’r plant, mae’r berthynas yn colli cytgord, ac mae perthnasoedd yn gallu chwalu.”
Nodwyd hefyd fod rhai rhieni’n cael mwy o drafferth meithrin ymlyniad wrth eu babanod oherwydd bod eu hiechyd meddwl yn dirywio. Eto, roedd yr ymatebwyr yn glir iawn bod rhieni’n gwneud eu gorau glas i fod yn gefnogol ac ymgysylltu â’u plant, ond bod hynny’n llawer rhy aml yn anodd o dan yr amgylchiadau, ac yn arwain yn rheolaidd at rieni’n teimlo’n fwy euog fyth, oedd yn cael effaith negyddol ar y plant.
“Mae mwy o blant yn dod i’r ysgol gyda phroblemau treuliant difrifol a achosir gan gamfaethiad, ac mae mwy a mwy ohonyn nhw ar feddyginiaeth oherwydd gorbryder ac iselder.”
Roedd niferoedd sylweddol yn cyfeirio at yr angen brys am wella mynediad at gefnogaeth ymyrraeth gynnar, ochr yn ochr â mwy o gymorth iechyd meddwl mwy prydlon i holl aelodau’r teulu. Codwyd llawer o bryderon bod y ddarpariaeth CAMHS gyfredol yn annigonol i fodloni’r galw, ac y byddai’r galw hwnnw’n anochel yn cynyddu’n gyflym. Roedd y sefyllfa nawr yn cael ei disgrifio fel un ‘cronig’.
“Rwy’n gweld disgyblion bob dydd sydd â phryderon gartref. Wrth i’r arholiadau nesáu, rwy’n gweld ymddygiad sy’n cyfateb yn uniongyrchol i’r straen maen nhw’n ei deimlo oherwydd eu bod heb y gallu, yr amgylchedd na’r adnoddau i wneud yn dda. Mae gorbryder ymhlith plant wedi cynyddu, mae ymosodedd ymhlith disgyblion yn cynyddu, mae hunan-barch yn isel.”
Roedd cysylltiad agos iawn rhwng iechyd meddwl gwael a thlodi. Dywedodd yr ymarferwyr bod y llwybrau allan o dlodi fel arfer wedi’u ‘cau’ gan iechyd meddwl gwael. Er enghraifft, roedd rhieni’n aml yn methu gweithio, ymgysylltu â chymorth na cheisio cymorth oherwydd eu hiechyd meddwl; roedd presenoldeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol yn rheolaidd yn wael, oherwydd straen costau ysgol a bwlio, ac roedd hynny’n fynych yn arwain at gyrhaeddiad addysgol isel.

Tlodi a diogelu
“Plant yn edrych yn ddi-raen, yn dweud bod dim bwyd yn y tŷ, rhieni â iechyd meddwl gwael, plant yn dweud eu bod yn rhannu gwelyau neu’n cysgu ar gelfi anaddas (matiau, cadeiriau etc), tai mewn cyflwr gwael (llwydni, lleithder) a byth yn mynd allan unrhyw le.”
Ydy ffactorau cysylltiedig â thlodi yn achosi pryderon diogelu i chi?
Amherthnasol
Ddim o gwbl
Yn achlysurol
Yn aml
Yn rheolaidd
Bob amser
Y maes mwyaf cyffredin oedd yn destun pryder, o bell ffordd, oedd diffyg arian i fedru fforddio hanfodion, fel bwyd, gwres, dillad, cynnyrch hylendid a thrafnidiaeth. Roedd pryderon nad oedd anghenion sylfaenol plant yn cael eu diwallu, a’u bod yn mynd heb fwyd, dillad addas, ac amodau digonol gartref. Mae hynny’n arwain at bryderon ynghylch esgeuluso, gan fod plant ddim yn edrych fel petaent yn cael digon o faeth, ac maen nhw mewn dillad sy’n aml yn frwnt neu’n rhy fach.
“Mae angen bwyd, gwres, amgylchedd sefydlog, dillad priodol a chynnyrch hylendid ar blant. Os nad yw’r anghenion hynny’n cael eu diwallu, mae’n destun pryder. Yn bendant, nid y teuluoedd sydd ar fai, ac mae angen mwy o gefnogaeth.”
Teimlai gweithwyr proffesiynol fod tlodi a phryderon ynghylch sefyllfa ariannol a’r gallu i fforddio hanfodion yn cael effaith ar iechyd meddwl rhieni, oedd yn ei dro yn effeithio ar lesiant plant.
“Bod plant o deuluoedd sy’n brwydro yn erbyn dyled yn byw gyda rhieni sydd dan straen. Mae plant o dan anfantais o’r cychwyn, a heb fynediad llawn at holl brofiadau cadarnhaol plant eraill. Gall hynny effeithio ar eu hiechyd meddwl ac achosi problemau ymddygiad.”
Amlygwyd tai fel maes oedd yn destun pryder i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd oedd yn byw mewn tlodi. Roedd y pryderon yn mynd y tu hwnt i’r amodau byw yn y cartref, lle doedd dim digon o arian i brynu elfennau hanfodol fel gwelyau a matresi, gyda chartrefi’n ddi-raen oherwydd diffyg arian i brynu cynnyrch glanhau hanfodol. Teimlai gweithwyr proffesiynol fod materion tai, fel rhenti uchel, a safonau tai gwael ac anniogel, tenantiaethau ansicr ac ôl-ddyledion rhent/morgais yn cael effaith negyddol ar deuluoedd oedd yn byw mewn tlodi.
“Gorfod dadflaenoriaethu hanfodion sylfaenol fel bwyd a dillad, a hynny yn y tymor hir mewn ymateb i’r costau rhent, yn hytrach na mater acíwt, tymor byr cysylltiedig â chyflogaeth neu ddiffyg budd-daliadau.”
Soniodd rhai gweithwyr proffesiynol pa mor fregus oedd plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi, a bod perygl iddyn nhw fod yn rhan o ymddygiad oedd yn cymryd risgiau, fel eu bod yn agored i gael eu hecsbloetio. Soniwyd hefyd bod yr anawsterau sy’n codi trwy dlodi, a’r brwydrau mae rhieni’n eu hwynebu, yn gallu golygu bod perthnasoedd teuluol yn chwalu, a lefel y tensiwn ar aelwydydd yn codi.
“Mwy o bwysau ar deuluoedd oherwydd costau cynyddol yn arwain at fwy o wrthdaro posibl ar yr aelwyd a mwy o berygl trais yn y cartref.”

Lliniaru effaith tlodi: Beth sydd ei angen ar
ymarferwyr?
“Mwy o gyfleoedd i glywed beth mae teuluoedd eisiau gan wasanaethau, gyda beth mae angen help arnyn nhw. Bydden ni hefyd yn hoffi gallu darparu tystiolaeth bod eu barn yn cael gwrandawiad ar lefelau uchaf y llywodraeth, a’u bod yn rhan o’r newid.”
Trwy ein harolygon dros y blynyddoedd, mae’n gwbl amlwg bod ymarferwyr a gweithwyr eisiau gwneud mwy i fynd i’r afael ag effaith tlodi a darparu gwell cefnogaeth a dealltwriaeth i’r babanod, y plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw. Maen nhw’n deall bod ganddyn nhw rôl hanfodol i’w chwarae, ond dydyn nhw ddim yn siŵr beth mwy gallan nhw wneud.
Roedd arolwg eleni yn gofyn yn benodol iddyn nhw pa wybodaeth, sgiliau neu hyfforddiant fyddai’n eu helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth a chryfhau’r gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i deuluoedd i helpu i liniaru effaith tlodi fel rhan o’u rolau.
“Mae llawer o gyrsiau yn trafod yr arwyddion i sylwi arnyn nhw a sut mae rhoi gwybod am anawsterau, ond dydyn nhw ddim yn treulio llawer o amser ar beth gallwn ni wneud i helpu.”
Roedd mwyafrif llethol o’r ymatebwyr, beth bynnag oedd eu rôl, eisiau gwybod sut i ymdrin â materion cysylltiedig â thlodi gyda phlant a rhieni, sut i wrando arnyn nhw ac ymgysylltu â nhw mewn ffordd gefnogol. Teimlai rhai fod sgyrsiau ynghylch tlodi ‘yn amhriodol’, ond roedd cydnabyddiaeth bod y rhain yn angenrheidiol er mwyn cefnogi anghenion teulu.
“Does dim hyfforddiant i fod yn Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd. Byddai hyfforddiant ar sut i ymgysylltu â theuluoedd o amrywiaeth o gefndiroedd yn dda.”
Er bod y rhan fwyaf yn cyfeirio at yr angen am hyfforddiant, gwnaeth eraill sylwadau ynghylch yr angen am ragor o wybodaeth ynghylch darpariaeth gwasanaethau. Bydden nhw’n benodol yn hoffi cael gwybodaeth genedlaethol a lleol ynghylch ble dylid cyfeirio teuluoedd, beth sydd ar gael i’w cefnogi, ac yn bwysig, sut mae cyrchu hynny. Gwnaed llawer o sylwadau ynghylch gwybodaeth drosfwaol am fudd-daliadau lles, yn ogystal â’r angen am hyfforddiant manwl ar y pwnc yma.
Dywedodd ymatebwyr fod angen arweiniad a gwybodaeth yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Yn arbennig, yr angen i Lywodraeth Cymru roi arweiniad i gefnogi eu Strategaeth Tlodi Plant (2024), o ran beth sy’n gweithio a sut mae ei roi ar waith. Roedd y sylwadau hyn yn cyfeirio nid at raglenni cenedlaethol neu leol yn unig, ond at amrywiaeth eang o rolau ac ymarfer. Mae sefydlu dull gweithredu ‘Cymuned o Ymarfer’ yn ddiweddar er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng gwasanaethau yn gam cadarnhaol at helpu i gysylltu gwasanaethau a dod yn fwy ymwybodol o’r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael a ble mae’r bylchau.
Rhywbeth pwysig i nifer o’r ymatebwyr oedd yr angen am ddarparu tystiolaeth bod plant, pobl ifanc a rhieni’n cael gwrandawiad ar y lefel uchaf, p’un a yw hynny mewn polisi ac ymarfer cenedlaethol, neu ar lefel fwy lleol. Adroddwyd bod teuluoedd yn aml yn ‘bwydo i mewn’ i wasanaethau a pholisïau, ond mai anaml y caiff canlyniadau eu ‘bwydo’n ôl’ iddyn nhw. Mae angen clywed profiadau bywyd, eu parchu, a’u defnyddio i lywio canlyniadau.
Mae’n werth nodi bod y rhai a ymatebodd i’r arolwg hwn hefyd wedi gofyn am adborth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Buont hwythau’n mynegi’r angen am wybod bod eu profiadau wedi cael eu clywed ar y lefel uchel a pha effaith mae hynny wedi’i chael, os o gwbl.
Dylai ymgysylltu ddigwydd y ddwy ffordd, a dylai bob amser gynnwys adborth i’r rhai fu’n cymryd rhan.
Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r arolwg hwn. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r amser rydych chi wedi’i gymryd i’w gwblhau, ond yn fwy na hynny, eich ymatebion meddylgar, pwyllog.
Unwaith eto, trwy’r ymatebion a gafwyd yn arolwg eleni, mae’n amlwg bod rhai ymarferwyr eu hunain ar incwm isel, ac yn wynebu llawer o heriau personol cysylltiedig â thlodi yn feunyddiol. Bydden ni’n hoffi cydnabod a diolch i’r rhai sy’n rhoi eu straen a’u pryderon eu hunain o’r neilltu er mwyn parhau i gefnogi’r plant, y bobl ifanc a’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw, a hynny’n aml o dan amgylchiadau anodd iawn. Diolch yn fawr.

Cyflwyniad

Mae’r arolwg Plant a Phobl Ifanc yn elfen bwysig o’n hadroddiad blynyddol ar dlodi, trwy roi llais iddyn nhw a sicrhau bod eu barn a’u profiadau yng nghyswllt tlodi yn cael eu clywed.
Mae canfyddiadau’r arolwg yn darparu gwell dealltwriaeth o’r materion cysylltiedig â thlodi sy’n bwysig i blant a phobl ifanc, ac effaith bosibl y materion hynny ar eu bywydau. Gwaetha’r modd, mae’r rhan fwyaf o’r naratif yn dal yn debyg i’n hadroddiad yn 2023, fel y mae’r effaith y cyfeiriwyd ati. O ystyried y cyd-destun hwn, mae’r adroddiad hwn yn 2024 yn darparu crynodeb byr o ganfyddiadau eleni ar gyfer pob un o’r meysydd yn yr arolwg.
Am yr arolwg
Bu’r arolwg yn fyw am gyfnod o 5 wythnos o 30 Ebrill tan 7 Mehefin 2024. Roedd yn agored i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru, ac yn cael ei gwblhau’n ddienw gan yr ymatebwyr. Nid oedd yr arolwg yn targedu’n arbennig blant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi a/neu’n byw mewn ardaloedd difreintiedig; nid oedd yr arolwg chwaith yn gofyn oedden nhw eu hunain yn byw mewn tlodi neu wedi’i brofi. Yn hytrach, roedd yr arolwg yn ceisio’u barn ar sut gallai tlodi effeithio ar wahanol agweddau o fywydau plant.
Gofynnwyd pob cwestiwn yn y trydydd person, ac roedd yr arolwg yn darparu esboniadau gofalus, hawdd eu deall i blant a phobl ifanc o derminoleg benodol, er enghraifft beth mae ‘tlodi’ a ‘dyled’ yn golygu. Yn anochel, roedd cyfraddau cwblhau’r cwestiynau unigol yn amrywio o 93%-100%. O ganlyniad, mae’r holl ffigurau wedi’u seilio ar y niferoedd a ymatebodd i bob cwestiwn unigol.
Ymatebodd cyfanswm o 250 o blant a phobl ifanc, gydag ystod oed oedd yn cwmpasu rhai o dan 10 oed hyd at 25 oed.
Ystod oed yr ymatebwyr
O’r ymatebwyr, dywedodd 4% nad oedd ganddyn nhw anabledd, roedd 3% yn dewis peidio â dweud, roedd 9% yn ansicr, a disgrifiodd 84% eu hunain fel rhai oedd heb anabledd.
Holwyd y plant a’r bobl ifanc hefyd am eu hethnigrwydd, ac er nad atebodd pawb y cwestiwn hwn, roedd y rhai a wnaeth hynny yn nodi hunaniaeth fel a ganlyn: Asiaidd o wlad arall (6%); Asiaidd Gymreig neu Brydeinig (12%); Du o wlad arall (5%); Tras Gymysg (5%); Gwyn o wlad arall (10%); Gwyn Cymreig neu Brydeinig (51%); Unrhyw grŵp ethnig arall (2%); Ddim yn siŵr (6%); a Dewis peidio â dweud (2%).
O ystyried nifer yr ymatebion i’r arolwg, nid oes modd gwybod a yw’r canfyddiadau gan y rhai oedd yn nodi bod ganddynt anabledd neu eu bod yn perthyn i grwpiau ethnig lleiafrifol yn arwyddocaol wahanol i atebion yr ymatebwyr eraill.

Canfyddiadau
Materion tlodi
“Mae llawer o bobl ifanc yn dibynnu ar oedolion ac felly’n methu newid yr amgylchiadau maen nhw ynddynt, sy’n arwain at fwy o bryderu a thrallod.” (19-25oed)
Gofynnwyd cwestiwn trosfwaol i’r plant a’r bobl ifanc ynghylch beth roedden nhw’n meddwl oedd yn effeithio fwyaf ar blant sy’n byw mewn tlodi. Gofynnwyd iddyn nhw ddewis 2 opsiwn o’r rhestr sydd yn y siart isod.
"Beth rydych chi'n meddwl sy'n effeithio fwyaf ar blant sy'n byw mewn tlodi?"
Bodhebddigonoarianidaluamfwyd,gwresneudrydanPryderuamariandrwy'ramserBodmewndyledGorfoddefnyddiobanciaubwydBodhebddigono arianargyfergwyliau,cyfrifiaduron,trênyrsBodhebddigonoarianifyndallangyda rindiau, i'rsinemaneui'rdref Arall
“Os ydych chi mewn dyled, mae hynny’n creu mwy o broblemau, achos mae angen arian arnoch chi i dalu am filiau, ac unwaith rydych chi wedi talu’r rheiny, fydd gennych chi ddim digon o arian ar gyfer bwyd.” (10-13oed)
Gofynnwyd i’r plant a’r bobl ifanc wneud sylwadau ar eu dewisiadau, ac fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd mwyafrif llethol yn amlygu effaith feddyliol ac emosiynol tlodi. Ymhlith yr effeithiau mwyaf cyffredin roedd teimlo’n bryderus oherwydd bod dim digon o arian ganddyn nhw, teimlo’n anhapus ac yn ynysig, bod mewn dyled, a theimlo eu bod yn cael eu gadael allan. Roedden nhw hefyd yn aml yn cyfeirio at deimlo cywilydd a cheisio cuddio’u hamgylchiadau oddi wrth gyfoedion ac oedolion.
“Bod mewn dyled a methu fforddio tŷ a methu mynd i’r ysgol achos bod rhaid i chi fwydo brodyr neu chwiorydd.” (10-13oed)
Fel mewn arolygon blaenorol, cododd plant a phobl ifanc faterion ynghylch bwlio cysylltiedig â thlodi droeon, a hynny yn yr ysgol a’r tu allan. Er nad oedd y cwestiwn yma’n sôn yn benodol am amgylchedd yr ysgol neu addysg, fe wnaeth plant a phobl ifanc sylwadau bod tlodi’n effeithio ar eu haddysg, eu profiadau a’u cyfleoedd mewn bywyd.
“Tystio i rieni’n delio â straen ariannol, a’r straen yna yn ei dro yn effeithio ar berthnasoedd teuluol… colli cyfle i fynd ar deithiau ysgol, colli cyfle o ran digwyddiadau neu weithgareddau ar y penwythnos gyda chyfoedion.
Cuddio’u sefyllfa ariannol, rhag ofn cael eu bwlio neu deimlo cywilydd yn yr ysgol.” (19-25oed)

Tlodi a’r ysgol
“Mae rhai plant yn newynu yn yr ysgol, neu’n llwglyd tan ddiwedd y dydd, ac yna wrth fynd adre efallai bod dim digon o fwyd i lenwi’u bol, neu falle bod nhw’n poeni fyddan nhw’n cael rhywbeth i’w fwyta gartre, neu’n pryderu bod eu rhieni ddim yn bwyta er mwyn iddyn nhw gael rhywbeth.” (10-13oed)
Mewn perthynas â’r ysgol, gofynnodd yr arolwg beth sy’n fwyaf tebygol o effeithio ar y rhai sy’n byw mewn tlodi. Eto, rhoddwyd opsiynau amlddewis, a gofynnwyd i’r ymatebwyr ddewis 2 opsiwn. Roedd yr opsiynau a ddarparwyd wedi’u seilio ar faterion a godwyd gan blant a phobl ifanc mewn arolygon blaenorol.
"Yn yr ysgol, beth sy'n effeithio fwyaf ar blant sy'n byw mewn tlodi?"
CaeleubwlioneuboblynedrychilawrarnynnhwDimdigonoarianifodynrhanodeithiau/glybiauysgolDimdigonoarianibrynu'rwisgneu'roercywirDimdigonoarianibrynubrecwastneufyrbrydauDerbynprydauysgolamddim
“Mae [tlodi] yn gwneud bywyd ysgol yn annioddefol.” (10-13oed)
Arall
Pan ofynnwyd iddyn nhw wneud sylwadau ar eu dewisiadau, gwnaeth y rhan fwyaf o’r plant a’r bobl ifanc, beth bynnag oedd eu dewisiadau, sylwadau am fwlio cysylltiedig â thlodi yn yr ysgol ac effaith hynny ar iechyd meddwl. Nodwyd eu bod nhw ddim eisiau mynd i’r ysgol oherwydd hynny, a chyfeiriwyd at ddiffyg gwisg ysgol gywir neu fethu fforddio teithiau ysgol fel prif achos bwlio cysylltiedig â thlodi. Mae’r materion hyn yn cael eu harchwilio ymhellach mewn adrannau dilynol o’r adroddiad.
“Mae’n brifo. Rwy’n gwybod.” (10-13oed)
Nododd plant a phobl ifanc fod yn drist, yn ynysig ac yn unig yn yr ysgol ac roedd sylwadau rheolaidd am gael eu bwlio gan eu cyfoedion neu fod athrawon yn ‘pigo arnyn nhw’. Roedden nhw wedi ypsetio bod tlodi yn effeithio ar eu dysgu a’u mynediad at gyfleoedd neu’n syml ‘gyfleoedd i ymuno’, er enghraifft trwy deithiau ysgol a gweithgareddau eraill.
“Mae cael eich bwlio yn un peth, ond mae bod heb braidd dim arian i dalu am fwyd neu’r wisg ysgol yn gallu creu llawer o broblemau a phryderon.” (10-13oed)
Roedd hefyd nifer sylweddol o sylwadau am fethu dysgu os oedden nhw’n oer neu’n llwglyd, gan eu bod yn teimlo ei bod hi’n anodd canolbwyntio ar waith ysgol. Nododd ambell un fod hynny’n cynyddu amlder cosbau i rai dysgwyr, oedd yn aml yn arwain at gadw mewn ar ôl ysgol neu ‘bwyntiau ymddygiad negyddol’ neu ‘bryderon’*.
“Bydd yr ysgol yn eu dirwyo os ydyn nhw’n rhy ofnus i fynd i’r ysgol oherwydd y bwlio, a fydd ganddyn nhw ddim gwisg ysgol gywir, felly byddan nhw’n cael nodi pryderon neu fath arall o gosb.” (10-13oed)
* Ymddengys bod ‘pwyntiau ymddygiad negyddol’ neu ‘bryderon’ yn cael eu defnyddio’n aml gan ysgolion i nodi digwyddiadau ymddygiad lefel isel, megis siarad yn lle gwrando yn y dosbarth, bod yn anghwrtais neu’n angharedig. Ar sail canfyddiadau ein harolwg, mae’n amlwg bod gwisg ysgol anghywir hefyd yn cael ei chynnwys yn hyn.
Mae ysgolion yn amrywio o ran a ydyn nhw’n defnyddio’r dull yma o gofnodi ac adrodd digwyddiadau ymddygiad, a hefyd o ran eu camau dilynol neu eu cosbau. Dyw e ddim yn hysbys ydy pob ysgol yn defnyddio’r system yma, ond cyfeiriwyd ati gan ryw 90% o’n hymatebwyr i’r arolwg o bob rhan o Gymru.

Gwisg Ysgol
“Falle bydd gan blant ddim digon i brynu sgert ysgol, ond yna byddan nhw’n mynd i drwbwl am beidio â gwisgo un, er bod y sgertiau ysgol yn costio £20.” (10-13oed)
Yn dilyn y sylwadau a wnaed gan blant a phobl ifanc yn y ddau arolwg blaenorol, fe wnaethon ni ddechrau archwilio’r materion oedd yn codi ynghylch gwisgoedd ysgol, ac effaith bosibl hynny ar blant a’u teuluoedd oedd yn byw mewn tlodi neu ar incwm is. Fel y dangoswyd yn yr adran flaenorol, cyfeiriwyd at fod heb y wisg ysgol gywir fel prif achos bwlio cysylltiedig â thlodi ac i lawer, yn arwain at lesiant emosiynol a meddyliol gwael.
“Ddylen nhw ddim mynd i drwbwl oherwydd bod pethau’n costio arian.” (10-13oed)
Mae gwisgoedd ysgol yn ddrud, ac mae hynny’n waeth fyth pan fydd bathodynnau neu logos ysgol yn ofynnol ar y wisg honno, a bod rhaid eu prynu o fanwerthwyr arbenigol. Yn ein hadroddiad ar arolwg 2023, buon ni’n edrych yn fanylach ar gostau gwisg ysgol, gan nodi bod y costau cyfartalog yn amrywio o £75.50 am wisg ysgol ‘heb fathodyn’ a brynwyd o archfarchnad, yn codi i £183.50 am wisgoedd ysgol ‘â bathodyn’ lle roedd rhaid prynu un neu fwy o eitemau o fanwerthwr arbenigol. Mae’r gwahaniaeth cost yma yn cael effaith eithriadol o fawr ar deuluoedd sy’n byw ar incwm is.
Oes rhaid i ti wisgo bathodyn ysgol neu logo ysgol ar dy wisg ysgol?
Nac oes: 9%
Ddim yn siŵr: 2%
Oes: 89%
Gofynnodd yr arolwg i’r plant a’r bobl ifanc beth sy’n digwydd os nad ydyn nhw’n gwisgo’r wisg gywir. Yr ymateb mwyaf cyffredin i hyn oedd cael eu bwlio a/neu eu cosbi. Bu’r plant a’r bobl ifanc yn rhannu enghreifftiau o’r gosb, oedd yn aml yn cynnwys: cadw ar ôl ysgol, pwyntiau ymddygiad negyddol, pryderon, anfon adre a ‘dweud y drefn’
Disgrifiodd ambell un gael eu hynysu heb ganiatâd i ryngweithio ag eraill na bod yn rhan o ddosbarthiadau ac amserau egwyl. Mynegodd eraill bryderon bod rhieni’n cael eu galw mewn i ‘ddod â’r wisg ysgol gywir’. Roedd hyn yn creu pryder iddyn nhw, oherwydd eu bod yn gwybod bod eu rhieni’n methu fforddio prynu’r wisg ysgol gywir.
“Rydyn ni’n cael cerdyn gwyrdd, ac os bydd y cerdyn gwyrdd yn rhedeg allan, byddwn ni’n cael pwynt negyddol a’n cadw mewn.” (10-13oed)
Ymhlith y canlyniadau eraill, llai amlwg, roedd ‘Cardiau gwyrdd’, colli eu ffôn a mynd i’r hyb gwisg ysgol. Roedd y dysgwyr yn disgrifio ‘Cardiau gwyrdd’ fel pas roedd yn rhaid i’r dysgwr ei gario, neu mewn rhai achosion, ei wisgo yn y golwg. Mae’r cardiau yma’n cynnwys rhesymau pam nad yw’r dysgwr yn gwisgo’r wisg ysgol gywir, a dyddiad erbyn pryd mae rhaid cywiro hynny. Rhaid i’r dysgwr ddangos y cerdyn yma i aelodau staff wrth gael eu herio am eu gwisg. Os na chaiff y wisg ei chywiro erbyn y dyddiad a nodwyd, caiff y dysgwyr eu cosbi
Esboniwyd yr hyb gwisg ysgol yn bennaf gan ymatebwyr fel man lle gallen nhw ‘fenthyg’ yr eitem ofynnol, a’i dychwelyd ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Roedd hynny i’w weld yn dderbyniol i rai, tra bod eraill yn dweud bod yr eitemau’n aml heb eu golchi, oedd yn arwain at fwy o fwlio. Roedd y rhai fyddai’n dewis peidio â gwisgo’r eitem yma yn aml yn dweud eu bod wedyn yn cael eu hynysu am y dydd.
“Rydyn ni’n cael rhybuddion, gallwn ni gael ein gwahardd, rydyn ni wastod yn cael ein hanfon i’r hyb gwisg ysgol.” (14-16oed)
Ar nodyn mwy cadarnhaol, roedd rhai sylwadau yn amlygu dealltwriaeth ac ystyriaeth i blant yr oedd eu teuluoedd yn methu fforddio’r wisg ysgol.
“Does dim byd [yn digwydd], mae’r ysgol yn oddefgar iawn oherwydd bod llawer o deuluoedd o gefndir sosio-economaidd isel.” (10-13oed)
Eitemau gwisg ysgol sydd angen bathodyn ysgol neu logo
Nifer yr eitemau gwisg ysgol sydd angen bathodyn ysgol neu logo
Fel mae’r siart uchod yn dangos, mae gofyn bod bron traean (31%) o’r rhai a ymatebodd yn gwisgo bathodyn ysgol ar o leiaf 2 eitem o’u gwisg ysgol, a dilynir hynny’n agos gan 27% sy’n gorfod gwisgo 4 eitem â bathodyn. Dylid nodi, yn achos 2 eitem neu fwy, fod Citiau Addysg Gorfforol yn aml yn cael eu cynnwys. At ddibenion yr arolwg hwn, mae citiau AddGorff yn cael eu hystyried yn 1 eitem, ond mae’r sylwadau a wnaed gan blant a phobl ifanc yn dangos bod y categori yma’n cynnwys o leiaf 2 eitem, ond yn fwy aml 4-5 eitem â bathodyn.
O ystyried cwmpas yr arolwg, nid oes modd gwybod a all y rhieni brynu bathodynnau i’w smwddio/gwnïo ar y wisg, a’u rhoi ar yr eitemau gofynnol. Fodd bynnag, gan fod canran mor uchel (73%) yn cael eu prynu o werthwr arbenigol, mae hynny’ ymddangos yn annhebygol.

"O ble rwyt ti'n cael dy wisg ysgol?"
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau Polisi Gwisg Ysgol ac Edrychiad sy’n cynnwys cyngor i ysgolion ar ffyrdd o ymdrin â chost gwisgoedd ysgol. Fodd bynnag, mae canfyddiadau ein harolygon yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dangos bod angen mynd ati ar frys i roi’r canllawiau hyn ar waith i raddau helaethach ac yn fwy effeithiol mewn llawer o ysgolion yng Nghymru.
“Gwneud pethau dwl fel gwisg ysgol, sydd ddim angen bod mor ddrud, yn llai drud ac yn haws eu fforddio.” (14-16oed)
I helpu i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pellach o effaith ariannol ac emosiynol arfer gwisg ysgol cyfredol mewn ysgolion, mae Plant yng Nghymru wedi cynhyrchu nodyn briffio ac astudiaethau achos Cefnogi Newid: Gwisg Ysgol. Cyhoeddwyd hyn ym mis Mehefin 2024, ei ddosbarthu i’r holl ysgolion yng Nghymru, a’i hyrwyddo gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg, ochr yn ochr â’r Grant Hanfodion Ysgol. Yn ogystal â’r adnoddau hyn, mae Taclo Effaith Tlodi mewn Addysg yn rhoi gwybodaeth i ysgolion ar sut mae lliniaru effaith tlodi ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol.
Bwlio a thlodi
“Mae gorfod pryderu am fwyd ac arian yn ddigon i blant ei brosesu; gall cael pobl yn eich bwlio am hynny wneud i chi gau lawr, a mynd yn ynysig ac yn isel.” (10-13oed)
Cafodd cwestiynau am fwlio cysylltiedig â thlodi eu cynnwys gyntaf yn ein harolwg yn 2022. Cyn hynny, doedden ni ddim yn gofyn am hynny’n benodol, ac eto roedd cynifer o blant a phobl ifanc yn cynnwys hynny yn eu hymatebion, beth bynnag oedd y cwestiwn. O ganlyniad, mae bwlio cysylltiedig â thlodi yn awr yn cael ei gynnwys fel rhan greiddiol o’n hastudiaeth.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, nid yw’r naratif gan blant a phobl ifanc wedi newid, ac mae’n dal yn amlwg iawn yn eu hymatebion, beth bynnag yw’r cwestiynau. Fel mewn canfyddiadau blaenorol, soniodd plant a phobl ifanc am deimlo’n ynysig, yn isel ac yn drist, teimlo eu bod nhw ddim yn ddiogel a’u bod yn ‘cuddio o’r golwg’. Disgrifiodd eraill deimlo’n anobeithiol neu’n ‘faich’ a’u bod eisiau rhoi i fyny.
“Trist iawn, achos mae’n digwydd bob un dydd ers blwyddyn 7.” (10-13oed)
Roedden nhw’n adrodd bod bwlio cysylltiedig â thlodi yn arwain at lai o hunan-barch, peidio â chael eu derbyn yn yr ysgol, bod heb neb i siarad â nhw am y peth, bod yn llai tebygol o eisiau cymryd rhan mewn addysg a gweithgareddau a ddim eisiau mynd i’r ysgol o gwbl
“Ofni dod i’r ysgol.” (10-13oed)
Wyt ti'n gweld plant a phobl ifanc yn cael eu bwlio oherwydd bod ganddyn nhw ddim cymaint o arian na'r un pethau â phobl eraill?
Dewis peidio â dweud: 1%
Nac ydw: 34%
Ddim yn gwybod: 27%
Ydw: 38%
Nodwyd canlyniadau bwlio yn glir gan y plant a’r bobl ifanc. Roedd dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o effaith negyddol hyn ar iechyd meddwl, iechyd corfforol a’r gallu a/neu’r parodrwydd i ymgysylltu â’r ysgol a gwneud yn dda yno.
Fel y dangoswyd yn yr adran flaenorol, Gwisgoedd Ysgol, mae’n eglur bod methu fforddio’r wisg ysgol gywir yn arwain at fwy o fwlio, ond cyfeiriwyd at ffactorau eraill hefyd. Roedd y rhain yn cynnwys gorfod gofyn am gynnyrch hylendid, cael ‘dweud y drefn’ am faterion cysylltiedig â thlodi, fel gwisg ysgol anghywir, a methu fforddio mynd ar deithiau ysgol.
“Mae’n eu gwneud nhw’n agored i fwlio achos eu bod nhw falle heb arian i brynu stwff hylendid personol sylfaenol. Does neb yn yr arddegau eisiau mynd at athro i ofyn am angen hylendid sylfaenol.” (14-16oed)
Roedd cosbau cysylltiedig â materion yn ymwneud â thlodi hefyd yn debygol o gynyddu difrifoldeb neu amlder bwlio, er enghraifft cael eu cadw mewn, cael eu hanfon adre, ynysu a chardiau gwyrdd.
Gofynnwyd i blant a phobl ifanc beth ddylai gael ei wneud i atal bwlio cysylltiedig â thlodi yn yr ysgol. Nid yw’n syndod bod llawer o’r mesurau a awgrymwyd yn ymwneud â’r materion roedden nhw wedi’u codi, ond roedd y ffocws yn bennaf ar yr angen i ysgolion weithredu Roedd hynny’n cynnwys; lleihau cost gwisg ysgol; lleihau cost teithiau ysgol; addysgu’r ysgol gyfan, gan gynnwys athrawon, am achosion ac effaith tlodi; creu gwell dealltwriaeth a diwylliant o empathi yn yr ysgol; dilyn polisïau gwrth-fwlio’r ysgol yn fanwl; ac yn well fyth, arfer nad yw’n stigmateiddio gan athrawon a staff.
“Addysgu plant am gyflwr economaidd y wlad, dileu stigma tlodi, a chanolbwyntio ar y gymuned a llesiant.” (19-25oed)
Ar hyd eu hymatebion, nododd plant a phobl ifanc droeon yr angen am barch, dealltwriaeth a chefnogaeth emosiynol ac ymarferol i blant a’u teuluoedd sy’n byw mewn tlodi neu ar incwm isel.
“Ategu ideoleg gwrthfwlio a dangos bod pobl i gyd yn gyfartal, beth bynnag yw eu statws economaidd.” (14-16oed)

Tlodi a’r cartref
“Gall bod o gwmpas dadleuon ynghylch arian a phryderon drosodd a throsodd wneud plant yn ymosodol ac yn unig.” (17-18oed)
Roedd yr arolwg yn gofyn i’r ymatebwyr ystyried beth roedden nhw’n meddwl fyddai’n effeithio fwyaf ar blant sy’n byw mewn tlodi, pan fyddan nhw gartref. Eto, roedd fformat y cwestiwn yn gofyn i’r ymatebwyr ddewis 2 o’r rhestr a ddarparwyd.
“Mae plant yn mynd yn unig ac yn llwglyd.” (Under 10oed)
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r siart isod yn dangos bod plant a phobl ifanc yn pryderu, neu y bydden nhw’n pryderu am fethu aros lle maen nhw’n byw. Yn achos materion eraill, ymddengys bod amrywiadau sylweddol yn eu dewisiadau. Ar gyfer yr arolwg hwn, cynhwyswyd opsiynau ychwanegol a allai egluro’r newidiadau hyn. Mae’r dewisiadau ychwanegol hyn wedi’u seilio ar ganfyddiadau’r llynedd, ac fe’u cynhwyswyd i adlewyrchu’n well sylwadau a phrofiadau plant a phobl ifanc a gasglwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
Gartref, beth sy'n effeithio fwyaf ar blant sy'n byw mewn tlodi?
Bywmewntŷsydd hebfodynddigontwymPryderubodganddyn nhwddimdigonoariani arosllemaennhw'nbywMethugwahoddrindiaudrawDimrhyngrwyd/cysylltiadgwaelDimllepreifatiwneud gwaithcartrefneuymlacioDadlauamarian(2024)Bodhebddigonofwydgartref(2024) Arall 2024 2023 2022
Fel yn achos llawer o’r ymatebion a roddwyd ar hyd yr arolwg, gwnaed sylwadau ar iechyd emosiynol a meddyliol ar hyd yr adran hon. Nododd plant a phobl ifanc unigrwydd, tristwch, straen, ynysu a delio â materion iechyd meddwl. Materion eraill a godwyd yn aml oedd diffyg bywyd cymdeithasol a methu rhyngweithio gyda ffrindiau; methu canolbwyntio ar waith ysgol; bod yn llwglyd gartref a hefyd gorfod mynd heb hanfodion sylfaenol
“Effeithio ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol.” (10-13oed)
Roedd cyfeiriadau hefyd at ‘orfod helpu’r teulu’, gyda sylwadau yn cynnwys yr angen am ofalu am frodyr a chwiorydd neu ennill arian i ‘helpu’. Mae’r holl ganfyddiadau hyn yn cyfateb i ymatebion blynyddoedd blaenorol.

Tlodi yn y gymuned
“Mae’n effeithio ar bobl ifanc achos mae’n golygu eu bod i bob pwrpas yn ‘gaeth’ yn eu cartrefi. Allan nhw ddim bod yn rhan o bethau fyddai’n gwella ansawdd bywyd a llesiant cyffredinol ac allan nhw ddim mwynhau bywyd a bod yn blentyn.” (19-25oed)
Gall tlodi ac incwm isel effeithio ar bob agwedd ar fywydau plant a phobl ifanc, gan gynnwys sut maen nhw’n gallu rhyngweithio o fewn eu cymunedau lleol ac ehangach. Mae eu hymatebion i’n cwestiwn am dlodi a’u cymuned yn dilyn tueddiadau tebyg ar draws y blynyddoedd, gyda ‘Byw mewn man lle dydyn nhw ddim yn teimlo’n ddiogel yn mynd allan’ yn cael ei nodi fel y peth oedd yn cael yr effaith fwyaf ar blant a phobl ifanc.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae plant a phobl ifanc wedi mynegi pryder fwyfwy eu bod yn methu fforddio gweld eu ffrindiau neu eu teulu. Mae’r opsiwn yma wedi cael ei gynnwys yn arolwg eleni felly, a gallai egluro gostyngiad mewn meysydd eraill, yn enwedig o ran trafnidiaeth.
"Allan yn y gymuned, beth wyt ti'n meddwl fyddai'n effeithio fwyaf ar blant sy'n byw mewn tlodi?"
Byw mewn man lle dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel
Bod heb drafnidiaeth i deithio o gwmpas
Bod heb arian i dalu am ysiau a threnau
Bod heb arian i dalu am fysiau a threnau
Dim arian i weld rindiau neu deulu (2024 yn unig)
Arall 2024 2023 2022
“Teimlo eu bod nhw ddim yn ddiogel, a theimlo’n isel.” (14-16oed)
Mae’n amlwg o’u hymatebion bod tlodi’n gallu bod yn brofiad ynysig, ac fel yn achos yr ymatebion ar hyd yr arolwg, nododd plant yn aml ‘iselder’ a ‘tristwch’. Roedd y sylwadau ynghylch bod yn ynysig yn canolbwyntio ar fethu fforddio gweld ffrindiau neu aelodau o’r teulu, neu deimlo eu bod nhw ddim yn ddiogel i fynd allan oherwydd eu bod yn pryderu am gael eu bwlio neu ‘gangiau’. Soniodd un plentyn 10-13 oed am fod yn “bryderus iawn drwy’r amser ac yn flinedig iawn”.
“Maen nhw’n methu gweld y bobl sydd â gofal amdanyn.” (10-13oed)
Roedd eu hymatebion hefyd yn dangos bod teulu ehangach plant a phobl ifanc yn gyfrwng cefnogaeth mae mawr angen amdani. Cefnogaeth emosiynol oedd hynny’n bennaf, ac roedd methu eu gweld yn golygu “bod neb i siarad â chi na’ch cefnogi”. I rai, mae aelodau estynedig y teulu yn darparu cefnogaeth ariannol, er enghraifft ar ffurf bwyd a dillad.
“Falle bo chi eisiau gweld mam-gu, a mae hi yn y sbyty, a does gennych chi ddim digon o arian i fynd yno.” (10-13yrs)

Hamdden a gweithgareddau
“Anaml bydda i’n mynd allan gyda’r teulu, weithiau gyda ffrindiau, ond alla i ddim gwneud llawer, â bod yn onest.” (14-16oed)
Eleni, cyflwynwyd cwestiwn newydd ynghylch hamdden a gweithgareddau. Roedd yr arolwg yn holi plant a phobl ifanc am eu gweithgareddau yn ystod y penwythnos. Roedden ni eisiau deall mwy i weld ydy tlodi’n cael effaith ar beth maen nhw’n ei wneud, gyda phwy maen nhw’n ei wneud, a pha rwystrau neu heriau gallan nhw eu hwynebu yn ystod eu hamser hamdden.
Fe wnaethon ni ofyn “Beth rydych chi fel arfer yn gweud ar y penwythnos?” Roedd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn aros gartre neu’n treulio amser gyda ffrindiau. Yn achos y rhai oedd yn treulio amser gyda ffrindiau, ymddangosai fod hynny wyneb yn wyneb gan mwyaf, er bod nifer yn rhyngweithio â’u ffrindiau trwy gêmau ar-lein. Roedd mynd am dro neu ‘chwarae tu allan’ hefyd yn weithgaredd cyffredin, a lle nodwyd hynny, y man mwyaf cyffredin i wneud hynny oedd ‘y parc’.
Soniodd ambell blentyn a pherson ifanc am weld rhiant ar y penwythnos, neu dreulio amser gydag aelodau o’r teulu estynedig. Cyfeiriwyd hefyd at chwarae neu wylio chwaraeon, rygbi neu bêl-droed fel arfer, gyda rhyw 12% fel arfer yn gwneud hynny dros y penwythnos. Roedd hefyd nifer yn nodi nad oedden nhw’n mynd allan o gwbl ar y penwythnos.
Gyda phwy rwyt ti'n gwneud hyn?
Arall
Cyfuniad o bobl mewn tîm neu grŵp
Ddim yn siwr
Gyda'r teulu cyfan
Gyda rhiant/rheini/gofalwr/gofalwyr
Gyda brodyr a chwiorydd
Gyda rindiau
Ar ben fy hun
% of respondents
At ei gilydd, ychydig o wahaniaeth oedd ar draws y grwpiau oed o ran gyda phwy roedden nhw’n gwneud eu gweithgaredd.
Gofynnodd yr arolwg i’r plant a’r bobl ifanc “Tase dim byd yn dy rwystro, beth hoffet ti wneud ar y penwythnos?” O ystyried natur agored y cwestiwn yma, mae’n ddiddorol bod eu hymatebion yn canolbwyntio’n bennaf ar 2 faes: treulio amser gyda’r teulu a threulio amser gyda ffrindiau.
“Hoffwn i gael picnic pan dyw Mam ddim yn brysur yn gweithio.” (10-13oed)
Roedd y rhai oedd eisiau treulio mwy o amser gyda’u teulu yn nodi bod eu rhieni fel arfer yn gweithio dros y penwythnos, neu eu bod yn methu fforddio trafnidiaeth i ymweld â pherthnasau. Byddai llawer yn hoffi “mynd allan am y dydd” gyda’u teulu, ac roedd hynny’n cynnwys ymweld â pharciau cenedlaethol, traethau, y sŵ, trefi a dinasoedd gerllaw, neu’n syml fynd am dro hir. Nodwyd hefyd fod costau teithio i’r mannau hyn a mynd iddynt yn rhwystr.
“Mynd am dro braf yng nghefn gwlad neu dreulio amser gyda’r teulu sy’n bell i ffwrdd.” (14-16oed)
Roedd y plant a’r bobl ifanc yn cyfleu bod gweld ffrindiau’n amlach a gallu ‘ymuno’ â’u ffrindiau yn bwysig iddyn nhw. Roedd tua hanner eisiau bod gyda’u ffrindiau yn amlach, ond yn methu fforddio trafnidiaeth i wneud hynny, neu roedd eu teulu “yn gwrthod mynd â nhw”. Roedd y gweddill eisiau ymuno â’u ffrindiau ar ymweliadau â’r dref neu fynd i fowlio neu i’r sinema. Er bod rhai’n gallu gwneud hynny, cyfeiriodd llawer eto at gostau trafnidiaeth a gweithgareddau, ochr yn ochr â phellter ac ymrwymiadau gwaith y teulu fel rhwystrau.
Rhesymau pam rwyt ti'n methu gwneud hyn
Arall
Dewis peidio â dweud
Gallu gwneud fy ho beth ar unrhyw adeg
Mae'r o er yn rhy ddrud
Mae'r cit yn rhy ddrud
Mae'r teulu yn cynilo i brynu rhywbeth arall
Mae'r byrbrydau/bwyd yn rhy ddrud
Fydd fy nheulu ddim yn mynd â fi
Mae fy nheulu i'n gweithio
Mae'n rhy bell i wrdd
Mae'n rhy ddrud i deithio yno
Mae'n rhy ddrud i gymryd rhan
Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddewis 2 opsiwn
Fel mae’r siart uchod yn dangos, roedd cyfran sylweddol o blant a phobl ifanc (25%), yn gallu gwneud eu hoff beth pryd bynnag roedden nhw’n dymuno. Y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hynny oedd treulio amser gyda’u ffrindiau, ‘ymlacio heb wneud dim’, chwarae yn y parc neu ymweld â’u cartrefi. Fodd bynnag, roedd yn well gan eraill a ddewisodd yr opsiwn yma aros y tu mewn ar eu pennau eu hunain.
Mynegwyd awydd hefyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a drefnwyd
Roedd hynny’n cynnwys rygbi a phêl-droed yn bennaf, ond hefyd gymnasteg, caiacio, marchogaeth a dringo. Y rhesymau dros fethu gwneud hyn oedd costau trafnidiaeth, cyfarpar, ffioedd a phellter.
Mynegodd rhai plant a phobl ifanc ddiddordeb mewn profi gwahanol leoedd a gweithgareddau, ac roedd nifer bach yn syml eisiau amser ‘di-straen’ iddyn nhw eu hunain.
“I fod yn onest, cyfle i gysgu mewn heb boeni am ddim byd.” (14-16oed)

Tasen i’n Brif Weinidog Cymru……
“Talu arian i mewn i offer ysgol a bwyd i’r plant a’r teuluoedd sydd mewn angen, i’w helpu i gael yr addysg maen nhw’n ei haeddu, iddyn nhw allu cael dyfodol.” (17-18oed)
Bob blwyddyn, mae ein harolwg yn gofyn i blant a phobl ifanc, tasen nhw yn rôl Prif Weinidog Cymru, beth fydden nhw’n gwneud i atal tlodi. Rydyn ni’n disgrifio Prif Weinidog Cymru fel y ‘person sy’n gyfrifol am Gymru gyfan’.
Ar draws y blynyddoedd, mae eu ffocws a’u hymatebion wedi parhau’n debyg iawn, at ei gilydd. Bydden nhw’n ceisio delio â bwlio; costau ysgol, gan gynnwys y wisg, trafnidiaeth a phrydau ysgol; helpu pobl i gael gwaith, gyda mwy o gyflogaeth am gyflog gwell a chynyddu'r gofal plant sydd ar gael.
Sonion nhw hefyd am yr angen i gynyddu budd-daliadau, sicrhau gwell mynediad at grantiau i fwy o bobl, a mwy o gynnydd yn nifer y ceisiadau am grantiau sy’n cael eu cymeradwyo. Byddai un person ifanc yn sicrhau bod Incwm Sylfaenol i Bawb yn cael ei weithredu.
“Cefnogi’r bobl sy’n mynd drwyddi, fel eu bod yn gwybod bod nhw ddim ar eu pen eu hun.” (10-13oed)
Yn unol â’u hymatebion ar hyd yr arolwg, byddai plant a phobl ifanc yn rhoi sylw i’r materion cysylltiedig ag anghydraddoldeb a thegwch, nid yn ariannol yn unig, ond gyda ffocws penodol ar ‘trin pawb yr un fath’, gyda charedigrwydd a pharch.
“Gwneud pobl yn fwy ymwybodol i fod yn agored, ac i bobl sefyll i fyny’n fwy dros eraill, bod yno fel cymuned gyfan. Mae gan bob person deimladau a bywyd.” (14-16oed)
“Byddwn i’n garedig i blant.” (10-13oed)
Ymhlith y meysydd eraill oedd yn bwysig i blant roedd yr angen am denantiaethau diogel a thai fforddiadwy, gan sicrhau bod y rheiny mewn cymunedau ac amgylcheddau diogel. Cyfeiriwyd hefyd at yr angen am adeiladu mwy o gartrefi, fel bod gan bawb rywle i fyw.
“Gwella ystadau cyngor, dylai teuluoedd fedru byw’n ddiogel beth bynnag yw eu sefyllfa. Mae bod mewn cartref sydd ddim yn ddiogel yn gwneud y sefyllfa’n waeth.” (14-16oed)
“Adeiladu mwy o dai a gwneud yn siŵr bod yr heddlu’n patrolio ymhobman i wneud y ddinas yn ddiogel, fel bod pobl yn gallu byw mewn heddwch a ddim yn cael eu defnyddio ar gyfer pethau drwg.” (10-13oed)
Unwaith eto, mae ein plant a’n pobl ifanc wedi bod yn rhyfeddol. Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch o galon i’r holl blant a phobl ifanc a fu’n rhan o’r arolwg hwn. Gwrando arnyn nhw a mynd ati i glywed eu lleisiau yw craidd ein gwaith.
Byddwn ni’n sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed trwy rannu eu sylwadau a chanfyddiadau’r arolwg hwn gydag ymarferwyr, gweithwyr proffesiynol a llunwyr polisi, yn lleol ac yn genedlaethol, yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru, Ysgrifenyddion Cabinet, Gweinidogion ac wrth gwrs, Prif Weinidog Cymru.


Cyflwyniad
Dyma’r flwyddyn gyntaf i’n harolwg blynyddol gynnwys arolwg rhieni. Wrth gyfeirio at ‘rieni’ rydyn ni’n ei ddefnyddio’n derm cynhwysol i olygu rhieni (yn famau a thadau), gofalwyr, rhieni cu, rhieni maeth, rhieni mabwysiadol neu unrhyw un sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae eu dealltwriaeth uniongyrchol, eu barn a’u profiadau bywyd yn hanfodol i’n helpu i ddeall yn well realiti effaith tlodi a’r heriau mae teuluoedd yn eu hwynebu. Roedd rhieni’n croesawu’r cyfle i gael eu clywed, ac fe wnaethon nhw ymateb yn wych, gan ddarparu gwybodaeth fanwl oedd yn dod o’r galon.
Mae’r materion a amlygwyd gan rieni, eu sylwadau, eu pryderon a’u profiadau droeon yn adleisio’r hyn a gafwyd gan y plant a’r bobl ifanc a’r ymarferwyr. Mae hynny hefyd yn wir am yr atebion maen nhw’n eu hawgrymu ar gyfer lliniaru a lleihau tlodi a’i effaith.
Gwybodaeth am yr arolwg
Nod yr arolwg oedd cael cipolwg ar brofiadau ac arsylwadau rhieni plant a phobl ifanc yng Nghymru. Cynhaliwyd yr arolwg am gyfnod o 5 wythnos rhwng 30 Ebrill a 7 Mehefin 2024 ac fe’i cwblhawyd ar-lein yn ddienw gan yr ymatebwyr.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr ystyried cwestiynau cysylltiedig â thlodi ar draws sawl maes, ac roedd yr arolwg yn cynnwys cyfuniad o gwestiynau amlddewis a rhai penagored, fel eu bod yn cael cyfle i rannu eu barn a’u profiadau.
Roedd y cyfraddau ymateb i’r arolwg ar-lein yn amrywio o un cwestiwn i’r nesaf, a lle mae hynny’n berthnasol, rydym wedi cynnwys canrannau, yn hytrach na niferoedd, a’u cyflwyno i’w cymharu.

Pwy ymatebodd
Cafwyd ymateb gan rieni a gofalwyr o 21 ardal awdurdod lleol ar draws Cymru, gyda chyfanswm o 522 o ymatebion yn dod i law. Roedd gan bob un o’r ymatebwyr o leiaf un neu fwy o blant, hyd at uchafswm o 7 plentyn yn byw gyda nhw. Daeth yr ymatebion oddi wrth rieni oedd â chyfanswm o 1084 o blant i gyd.
Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi ystod oed y plant oedd yn byw gyda nhw. Dylid nodi bod gan rai ymatebwyr blant o fwy nag un grŵp oed yn byw gyda nhw. Cafwyd niferoedd digon tebyg o ymatebion gan rieni plant 0-5 oed, 6-10 oed a 11-15 oed. Mae hynny’n golygu bod ystod o blant wedi’u cynnwys, o ran oed a phrofiadau.
Ystod Oed Plant yr Ymatebwyr
Nifer yr Ymatebion
Ydych chi’n derbyn Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth?
Ansicr/Arall: 1%
Ydw: 42%
Nac ydw: 57%
Dywedodd 42% o’r ymatebwyr eu bod yn derbyn Credyd Cynhwysol neu Gredyd Treth. Mae hynny’n arwydd o aelwyd lle nad yw’r rhieni mewn cyflogaeth, neu eu bod yn aelwyd incwm is.
Ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg?
Ddim yn siŵr: 32%
Ydw: 35%
Nac ydw: 33%
Dywedodd 35% o’r rhieni eu bod yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg, sy’n golygu bod ganddyn nhw hawl i dderbyn cefnogaeth gan y cynllun Dechrau’n Deg. Mae’n ddiddorol, fodd bynnag, nad oedd 32% o’r rhieni’n siŵr oedden nhw’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg neu beidio.

Y 5 mater cysylltiedig â thlodi oedd ar y brig
“Os nad yw plant yn cael bwyd/dillad na digon o gwsg, allan nhw ddim dysgu... nhw yw ein dyfodol, ac maen nhw’n wir yn werth ein holl fuddsoddiad fel gwlad.”
Gofynnwyd i rieni beth yw’r prif faterion mae teuluoedd ar incwm isel yn eu hwynebu. Rhoddwyd y materion canlynol yn y 5 safle uchaf, ac fe’u cyflwynwyd yn eu trefn.
Y 5 mater ar y brig sy’n gysylltiedig â thlodi
Costau byw cynyddol
Costau ynni Dyled
Methu orddio bwyd
Cyflog isel
Mae’r rhan fwyaf o deuluoedd, gan gynnwys teuluoedd sy’n gweithio, yn cael trafferth oherwydd costau uwch mewn nifer o feysydd. O’r braidd mae llawer yn llwyddo i ymdopi, ac mae’n effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant.
“Mae fy ngŵr yn gweithio’n llawn amser, rydw i’n gweithio’n rhan amser, ac rydyn ni’n dal i gael trafferth ymdopi.”
“Rydw i’n cadw golwg ar bob un geiniog. Rydw i wedi ymlâdd, mae’n anodd meddwl yn bositif, ac rydw i’n teimlo’n euog bod fy mhlant yn colli cyfleoedd oherwydd mod i’n methu eu fforddio.”
Mae teuluoedd yn gorfod gwneud dewisiadau anodd oherwydd eu bod yn aml yn methu darparu ar gyfer eu hanghenion sylfaenol oherwydd costau byw cynyddol. Mae rhieni’n gorfod cyfyngu ar opsiynau bwyd, dewis rhwng gwres a dillad, ac weithiau peidio â bwyta eu hunain, neu aberthu pethau eraill.
“Mae’n fater o ddewis rhwng to uwch ein pennau, bwyd, neu drydan a nwy
Rwy’n cael trafferth rhoi 3 phryd o fwyd a byrbrydau i’m plentyn. Mae rhaid i mi fynd heb brydau i fwydo fy mhlentyn.”
Mae costau byw cynyddol yn arwain rhai teuluoedd i ddyled ac yn rhoi straen aruthrol ar sefyllfa ariannol aelwydydd.
“Mae costau cynyddol yn golygu bod cyllidebu’n iawn yn anodd; arian yn mynd allan yn amlach nag arian yn dod i mewn, felly dyledion yn crynhoi, neu orfod mynd heb hanfodion.”
Roedd diffyg amser teulu oherwydd mwy o oriau gwaith yn dilyn yn agos yn y 6ed safle, gyda 27% o’r ymatebwyr yn nodi hynny fel blaenoriaeth. Mae amser teulu a gweithgareddau hamdden wedi’u cyfyngu i’r hyn sydd ar gael yn lleol ac yn ddi-dâl, a dim ond os gall rhiant sicrhau amser o’r gwaith i fynd â’u plant. Mae rhieni’n gweithio mwy a mwy o oriau, ac mae hynny’n cael effaith niweidiol ar amser teulu ac amser i feithrin cwlwm perthynas.
“Llai o incwm i’w wario ar bethau braf i’w gwneud gyda’r plant. Llai i edrych ymlaen ato.”
“Fel teulu rydyn ni’n gweithio 100+ o oriau bob wythnos, ac mae amser o safon yn gyfyngedig.”
“Oherwydd ein hamserlenni prysur, does dim llawer o amser i feithrin y berthynas deuluol.”
Mae teuluoedd yn gwneud eu gorau, ond mae rhieni’n aml yn teimlo eu bod yn methu.
“O’r braidd rydyn ni’n fforddio ymdopi. Allwn ni ddim fforddio gwneud unrhyw beth braf fel teulu. Os bydd gwariant annisgwyl yn codi unrhyw bryd, bydd rhaid i ni osgoi bil arall i dalu amdano. Wedyn mae hynny’n golygu ein bod ni’n methu fforddio unrhyw beth. Mae’r plant yn colli cyfleoedd, ac rydw i’n barhaus yn teimlo’n euog, yn bryderus, ac yn poeni’n ofnadwy.”
“Mae popeth wedi dyblu. Does dim lle i unrhyw beth heblaw goroesi. Bydd hynny’n effeithio ar lesiant, a dyna ddechrau’r llwybr llithrig.”

Canfyddiadau
Dadansoddwyd pob un o’r 522 ymateb gan Cyswllt Rhieni Cymru, a daeth sawl thema allweddol i’r amlwg yn ystod y broses honno. Nawr byddwn ni’n amlinellu, yn trafod ac yn darparu enghreifftiau o’r themâu allweddol, gyda dyfyniadau a gafwyd gan y rhieni eu hunain.
Bywyd beunyddiol
“Pan gawn ni arian mae’r cyfan yn mynd ar filiau, tanwydd a siopa. Allwn ni ddim fforddio prynu dillad newydd, torri gwallt, esgidiau, diwrnodau allan, allwn ni ddim hyd yn oed fforddio mynd i’r sinema.”
Holwyd rhieni am eu sefyllfa ariannol bresennol ac a oedd wedi gwella neu waethygu o gymharu â’r llynedd. Dywedodd 68% o ymatebwyr wrthyn ni fod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu.
Yn ariannol, ydy pethau’n well neu’n waeth na’r llynedd?
Wedi aros yr un fath: 27%
Wedi gwella: 5%
Wedi gwaethygu: 68%
Pan ofynnwyd iddyn nhw ymhelaethu ar eu hymateb, daeth rhai themâu allweddol i’r amlwg o ran yr heriau ariannol mae rhieni’n eu hwynebu.
Diwallu anghenion sylfaenol
Dywedodd 25% eu bod yn cael trafferth fforddio pethau angenrheidiol oherwydd costau byw aruthrol o ddrud. Mae llawer o rieni’n methu fforddio hanfodion fel bwyd, dillad, trafnidiaeth a biliau cyfleustodau. Maen nhw’n gorfod dibynnu ar fanciau bwyd, a hefyd ar siopau elusen i gael dillad.
Mae rhieni’n methu gwresogi eu cartrefi’n iawn na chadw i fyny gyda chostau tai. Cyfeiriwyd at gostau rhentu uchel, cyfraddau morgais oedd wedi codi, a diffyg tai fforddiadwy ac addas fel rhesymau allweddol am hyn.
“Mae popeth wedi dyblu. Does dim lle i wneud unrhyw beth heblaw goroesi.”
“Ychydig iawn o incwm ar ôl wedi i ni dalu’r biliau a phrynu bwyd. Rhaid i bobl weithio mwy ac aberthu amser o safon fel teulu dim ond i gadw dau ben llinyn ynghyd.”
Dywedodd 28% o’r ymatebwyr eu bod yn profi straen ariannol. Soniodd rhieni am anawsterau gydag arian, a dweud eu bod yn gorfod tynnu arian o’u cynilion neu weithio oriau hwy oherwydd y straen ar sefyllfa ariannol eu haelwyd. Maen nhw hefyd yn gorfod dibynnu ar deulu estynedig am gymorth, a mynd i ddyled er mwyn gallu fforddio costau byw.

Costau cynyddol ac ansicrwydd bwyd
Dywedodd 17% o rieni fod cost bwyd wedi gwneud eu sefyllfa ariannol yn waeth eleni. Soniodd rhieni am gynnydd dramatig ym mhris bwyd, a dweud eu bod yn cael trafferth ymdopi â’r costau cynyddol. Mewn rhai achosion, maen nhw’n methu fforddio’r bwyd sydd ei angen arnyn nhw.
“Mae’r cynnydd yng nghostau bwyd wedi cael effaith fawr arnon ni, mae llai o fwyd yn y troli.”
“Mae pris bwyd yn y wlad hon yn warthus.”
Mae hepgor prydau neu ddewis opsiynau bwyd rhatach, afiach wedi dod yn realiti cyffredin. Mewn rhai achosion, mae rhieni sy’n wynebu ansicrwydd bwyd wedi gorfod ymweld â banciau bwyd. Yn aml, maen nhw’n teimlo cywilydd wrth wneud hynny, ond yn anobeithio, ac yn teimlo bod dim dewis ganddyn nhw.
“Rydw i’n bwyta braidd dim achos mod i’n cadw’r holl fwyd rydw i’n ei brynu i’m plentyn... alla i ddim fforddio byw.”
“Mae’n torri fy nghalon bod plant yn llwgu. Rydw i wedi mynd heb fwyd i roi bwyd i’m plant.”
Mae diffyg bwyd a maeth digonol yn cael effeithiau niweidiol ar y teulu cyfan, ac mae dirywiad hefyd yn ansawdd y bwyd maen nhw’n ei gael. Mae rhieni’n ymwybodol o ganlyniadau methu darparu bwyd a phrydau iach, maethlon.
“Os ydych chi’n methu bwyta, mae popeth yn dioddef, iechyd corff a meddwl. Y gallu i blant gyflawni yn yr ysgol, a’r gallu i rieni ganolbwyntio ar eu plant.”
“Mae bwyta’n iach yn anodd, felly does gennyn ni ddim... egni i roi sylw i’n plant... mae ein plant yn anoddach eu trin os nad ydyn nhw’n cael cymaint o ffrwythau a llysiau ffres.”
Inflation and the cost of living
Families are doing their best to manage, but 24% of respondents said that rising inflation and stagnant incomes and benefits (such as Universal Credit) have made this difficult.
Even with slight wage increases, parents report being unable to improve their standard of living. The soaring cost of living is outpacing any pay rise or benefit increase that they might receive. In some cases, even with both parents working, the gap between income and rising costs means they are worse off than before.
“My wages stayed the same whereas cost of living is still going up so overall we are able to purchase less.”
“Even though we had a slight pay rise, it’s not seen as the cost of living keeps going up.”
Families often find themselves unable to afford anything beyond the basics and constantly living in fear of unexpected expenses. If inflation continues to rise, many families will remain trapped in a cycle of financial hardship with devastating effects for their children.
“I manage every single penny. It’s exhausting, it’s hard to remain positive and I feel guilty that my children missing out on opportunities because I can’t afford them.”

Effaith Tlodi
Roedd sawl maes allweddol lle roedd rhieni’n adrodd bod tlodi’n cael effaith uniongyrchol, glir ar eu plant a’u teulu.
Bywyd Teuluol
“Mae’n amhosibl mwynhau bywyd os ydych chi dan straen yn barhaus ynghylch cyrraedd pecyn pae mis nesa.”
Ar hyd yr arolwg, rhannodd rhieni sut mae pwysau a phryderon ariannol yn cael effaith uniongyrchol ar fywyd teuluol, oherwydd bod ganddyn nhw lai o incwm i’w wario a llai o amser.
Adroddodd teuluoedd fod ganddyn nhw lai o incwm i’w wario ar fwynhau hobïau, gweithgareddau, diwrnodau allan a gwyliau. Mae amser teulu a gweithgareddau hamdden wedi’u cyfyngu i’r hyn sydd ar gael yn lleol yn ddi-dâl, a hynny dim ond pan fydd rhiant yn gallu cael amser o’r gwaith.
“Llai o amser ac arian ar gael i wneud hobïau a phethau rydyn ni’n eu mwynhau.”
“Llai o incwm i’w wario ar wneud pethau braf gyda’r plant. Llai i edrych ymlaen ato.”
Ochr yn ochr â hynny, mae rhieni’n gweithio mwy a mwy o oriau i ymdopi, ac mae hynny’n cael effaith negyddol ar y cyfleoedd i feithrin cwlwm teuluol.
“Gyda’n hamserlenni prysur, does dim llawer o amser i greu cysylltiad teuluol.”
“Fel teulu, rydyn ni’n gweithio 100+ o oriau yr wythnos, ac mae amser o safon yn gyfyngedig.”
Mae hynny’n achosi straen, pryder ac weithiau euogrwydd i rieni, gan eu bod yn teimlo bod eu plant yn colli cyfleoedd o ran gweithgareddau sylfaenol neu brofiadau bywyd. Yn sgîl hynny, maen nhw’n pryderu am yr effaith ar iechyd a dyheadau eu plant. At ei gilydd, roedd rhieni’n teimlo bod tlodi’n lleihau cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol eu plant, yn ogystal â’u potensial i gyflawni mewn bywyd. Mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn ymladd brwydr amhosibl, ac mae hynny’n rhoi straen ar berthnasoedd teuluol.
“Mae’n gallu rhoi straen ar berthnasoedd a pheri i deuluoedd chwalu.”
Mae teuluoedd yn gwneud eu gorau, ond maen nhw’n teimlo bod y systemau’n eu gadael i lawr, ac mae hynny’n effeithio ar eu llesiant.
“O’r braidd rydyn ni’n fforddio ymdopi. Allwn ni ddim fforddio gwneud unrhyw beth braf fel teulu. Os bydd gwariant annisgwyl yn codi unrhyw bryd, bydd rhaid i ni osgoi bil arall i dalu amdano.’
Mae popeth wedi dyblu. Does dim lle i unrhyw beth heblaw goroesi. Bydd hynny’n effeithio ar lesiant, a dyna ddechrau’r llwybr llithrig.”
Mae’r teulu cyfan yn teimlo’r effaith, gan fod rhieni sydd o dan straen ac yn cyfrif pob ceiniog yn barhaus yn gallu teimlo’n bryderus, sy’n arwain at straen ar berthnasoedd teuluol ac amser.
“Rydw i’n cadw golwg ar bob un geiniog. Rydw i wedi ymlâdd, mae’n anodd meddwl yn bositif, ac rydw i’n teimlo’n euog bod fy mhlant yn colli cyfleoedd oherwydd mod i’n methu eu fforddio.”
Fe wnaeth rhieni ddarparu syniadau ac awgrymiadau i gefnogi mwy o amser i’r teulu. Roedden nhw’n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau lleol ac yn y gymuned a’r angen am fuddsoddi yn rheiny er mwyn i deuluoedd fedru mwynhau diwrnodau allan yn ddi-dâl neu am bris isel. Roedden nhw am weld mwy o leoedd i deuluoedd gwrdd, a theithiau a gweithgareddau am ddim ar gael iddyn nhw.
Bywyd
fel Rhiant
“Mae rhieni’n dioddef mewn distawrwydd, achos dydych chi ddim eisiau i bobl wybod eich bod chi’n cael trafferth ymdopi, dydych chi ddim eisiau i’ch plant wybod eich bod chi’n cael trafferth ymdopi. Mae’r holl emosiwn yma wedi’i guddio, ac mae rhieni’n colli cwsg, a ddim yn bwyta prydau iawn er mwyn sicrhau bod eu plant yn cael y pethau mae arnyn nhw eu hangen.”
Hunaniaeth Rhieni a thlodi
Mae tlodi plant yn cael effaith fawr ar ymdeimlad rhieni o hunaniaeth, ac yn aml yn eu gadael â theimladau llethol o gywilydd, euogrwydd a methiant. Teimlai llawer o rieni’n annigonol, ac roedden nhw’n cwestiynu eu gallu i roi gofal. Teimlai rhieni eu bod yn gadael eu plant lawr, yn enwedig os oedden nhw’n methu darparu ar gyfer anghenion sylfaenol eu plant.
“Rydw i’n teimlo cywilydd mod i’n methu darparu ar gyfer fy mhlentyn fel byddwn i’n dymuno, rydw i’n teimlo mod i’n gadael fy mhlant lawr.”
Gall plant gael eu pryfocio a’u trin yn wael os ydyn nhw heb yr eitemau sydd gan eu cyfoedion. Mae rhieni’n rhoi pwysau arnynt eu hunain i fforddio’r eitemau yma, naill ai trwy fynd i ddyled, neu trwy fynd heb bethau eu hunain.
“Mae’n anodd iawn, bod yn rhiant... os ydych chi’n methu fforddio pethau, mae’n gwneud i chi deimlo fel rhiant gwael.”
Mae stigma tlodi yn dwysáu’r teimladau hyn, gan arwain rhieni i guddio’u hymdrechion ac osgoi gofyn am help rhag cael eu barnu. Soniodd rhieni am deimlo bod pobl yn edrych lawr arnyn nhw oherwydd eu sefyllfa ariannol ac yn eu diystyru fel “rhieni gwael”, yn hytrach na’u bod yn derbyn y gefnogaeth mae arnyn nhw gymaint o’i hangen. Mae diffyg hunan-barch yn dod yn gyffredin wrth i rieni deimlo eu bod yn cael eu barnu am eu galluoedd magu plant.
“Dydw i ddim eisiau gofyn am help... mae’n fater o falchder... mae pobl yn edrych lawr arnon ni oherwydd ein bod ni’n methu darparu. Mae’n gwneud i fi deimlo fel llai o fam.”
“Stopiwch wneud i ni deimlo fel rhieni gwael oherwydd ein bod ni’n methu cyflenwi popeth sy’n ddisgwyliedig.”
Mae’r diffyg empathi a chefnogaeth yma yn eu caethiwo mewn cylch o ddistawrwydd ac ynysu emosiynol, sy’n golygu bod gwella’u hamgylchiadau yn anoddach fyth. Mae’r stigma’n effeithio ar eu hymdeimlad o hunaniaeth a hefyd yn cyfrannu at eu brwydr barhaus yn erbyn tlodi.
Tlodi cudd rhieni
Holwyd rhieni ynghylch talu am gostau anghenion addysgol plant. Datgelwyd eu bod yn rhoi blaenoriaeth i anghenion eu plant, ond bod hynny’n costio’n sylweddol iddyn nhw yn bersonol. Dywedodd 22% o’r ymatebwyr eu bod yn aberthu rhywbeth i sicrhau bod eu plant yn cael yr hanfodion fel bwyd, dillad ac adnoddau addysgol.
Mae rhieni’n fynych yn gofalu am anghenion eu plant cyn eu rhai eu hunain. Dydyn nhw ddim am i’w plant gael eu bwlio gan eu cyfoedion oherwydd eu hamgylchiadau ariannol.
Maen nhw’n hepgor prydau ac yn mynd heb bethau angenrheidiol. Mewn llawer o achosion, maen nhw’n troi at aelodau o’r teulu am gefnogaeth, ac yn gofyn am gymorth ariannol. Gall hynny olygu mynd i ddyled i dalu costau, y cyfan er mwyn amddiffyn eu plant rhag eu brwydrau ariannol.
“Bydda i’n aml yn mynd heb ddillad newydd a sgidiau angenrheidiol i wneud yn siŵr bod fy mhlant wedi gwisgo i “ffitio mewn” gyda’u cyfoedion.”
“Bydda i’n dod o hyd i’r arian rywsut, hyd yn oed os yw hynny’n golygu cael pryd sylfaenol yn hytrach na phryd llawn go iawn.”
Mae tlodi rhieni yn aml yn anweledig. Mae eu haberth yn aml wedi’i guddio oherwydd bod y plant ddim i weld fel rhai sy’n profi tlodi. Er mai’r ffocws yw sicrhau nad yw plant yn dioddef, gall yr aberthau hyn arwain at straen a phryder hirdymor i rieni, gan eu caethiwo ymhellach mewn cylch o dlodi sy’n eu hynysu.

Teuluoedd sy’n Gweithio
“Nid dim ond teuluoedd ar incwm isel sy’n cael eu taro gan dlodi, mae teuluoedd sy’n gweithio heb dderbyn fawr ddim cefnogaeth ariannol o ran budd-daliadau hefyd mewn trafferthion.”
Tlodi mewn Gwaith
Ar hyd yr arolwg, roedd yn eglur bod llawer o deuluoedd sy’n gweithio yn cael trafferth ymdopi â chostau byw cynyddol. O’r braidd mae llawer yn dod drwyddi, wrth i dlodi mewn gwaith ddod yn realiti i lawer o deuluoedd, hyd yn oed rhai sydd â lefelau incwm uwch na’r isafswm.
“Ychydig iawn o incwm sydd ar ôl wedi i ni dalu’r biliau a phrynu bwyd. Mae rhaid i bobl weithio mwy ac aberthu amser o safon i’r teulu i gadw dau ben llinyn ynghyd.”
Er eu bod yn gweithio oriau hir, mae aelwydydd yn cael trafferth cadw dau ben llinyn ynghyd oherwydd costau gofal plant uchel a chyflogau isel. Maen nhw’n dioddef o faich dwbl bod heb amser oherwydd ymrwymiadau gwaith, ond dal i wynebu brwydrau ariannol.
Y trothwy budd-daliadau a chymorth annigonol
Mae’r trothwy budd-daliadau yn effeithio ar rai rhieni, oherwydd eu bod fymryn uwchben y meini prawf cymhwysedd i dderbyn cymorth ychwanegol ar ffurf budd-daliadau, ond yn dal i fod ar incwm isel. Mae rhieni sy’n gweithio yn teimlo ei fod yn annheg eu bod yn methu cyrchu unrhyw gefnogaeth ariannol, er eu bod yn cael trafferth ymdopi gyda chostau byw cynyddol.
“Rydw i’n gweithio’n llawn amser, does dim help i deuluoedd sy’n gweithio... er ein bod ninnau’n cael trafferth ymdopi’n ariannol hefyd. Does dim help o gwbl, ond rydyn ni’n talu’n llawn am bopeth.”
“Nid dim ond ar deuluoedd incwm is mae hyn yn effeithio – teuluoedd incwm uwch sydd â mwy o arian yn mynd allan... ac mae costau a fu’n fforddiadwy bellach yn anoddach eu fforddio... ond yn anghymwys ar gyfer pob budd-dal... gan gynnwys budd-dal plant.”
Iechyd Meddwl a Llesiant Emosiynol
“Mae’n galed, mae’n gywilyddus, mae’n boen enaid, mae’n torri calon, ddylai plant ddim bod yn llwgu, mae plant yn diodde’n ddiangen, mae pawb yn cael trafferth ymdopi ryw ffordd neu’i gilydd.”
Mae effaith caledi ariannol yn cael effaith negyddol ar deuluoedd, eu hiechyd meddwl a’u llesiant emosiynol.
Holwyd rhieni oedden nhw’n teimlo bod sefyllfaoedd ariannol presennol yn cael effaith negyddol ar iechyd meddwl rhieni/gofalwyr. Dywedodd mwyafrif llethol o 96% ‘Ydw’, yn cadarnhau eu bod yn teimlo bod hynny’n digwydd.
Ydych chi’n teimlo bod sefyllfa ariannol rhieni/gofalwyr yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl?
Holwyd ymatebwyr pa mor aml roedden nhw’n meddwl bod rhieni/gofalwyr yn pryderu am fedru fforddio hanfodion. Dywedodd 53% eu bod yn meddwl bod hynny’n digwydd ‘Drwy’r amser’, a dywedodd 41% arall eu bod yn meddwl ei fod yn digwydd ‘Yn Aml’.
Rhieni/gofalwyr yn pryderu am fedru fforddio hanfodion sylfaenol
Byth: 1%
Ambell waith: 5%
Yn aml: 41%
Drwy’r amser: 53%
Soniodd rhieni am y pwysau parhaus i ddiwallu anghenion sylfaenol eu plant yng nghanol caledi ariannol. Gall hynny arwain at straen a phryder cronig. Mae rhieni’n aml yn teimlo eu bod yn cael eu llethu ac yn profi pryder parhaus ac ofn methiant.
“Mae’n frwydr aruthrol ac yn achosi straen, pryder a nosweithiau di-gwsg.”
Soniodd rhai rhieni am gael trafferth darparu popeth mae ar eu plant ei angen yn eu cartref ac i’w cadw’n hapus, yn iach ac yn ddiogel.
“Mae fy mhartner a fi’n poeni am bob un geiniog... byddwn ni bob amser yn sicrhau bod gan ein plant fwyd... a chartref cynnes, diogel, ond rai misoedd mae hynny’n frwydr.”
Gall y cyfrifoldebau llethol hyn greu ymdeimlad o fod yn ynysig, a’i gwneud yn anodd i rieni ddiogelu eu hiechyd meddwl. Does fawr ddim lle ar gyfer hunan-ofal emosiynol wrth i rieni orfod canolbwyntio ar oroesi o ddydd i ddydd, ac mae hynny’n dwysáu’r pwysau sydd arnynt.
“...Mae’n effeithio ar hapusrwydd a hunan-werth pobl. Maen nhw’n dweud bod arian ddim yn prynu hapusrwydd, ond gall fod heb arian greu diflastod llwyr.”
“Dyw fy sefyllfa ddim gwell eleni na’r llynedd, mae popeth yn dal yn frwydr i gadw pen ein teulu uwchben y dŵr.”
Soniodd rhieni am orfod osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol a digwyddiadau oherwydd goblygiadau cost. O ganlyniad, roedd llawer heb fywyd cymdeithasol oherwydd eu bod yn methu fforddio hynny, oedd yn arwain at ynysu pellach.
“Rydw i’n teimlo embaras pan fydd rhywun yn gofyn i fi fynd i grwpiau gyda ffrindiau... alla i ddim mynd oherwydd y gost, ond rwy’n teimlo mod i’n methu dweud mai dyna’r rheswm.”
Soniodd rhieni oedd dan straen yn barhaus ynghylch arian fod hynny’n amharu ar eu cwsg, a’u bod hefyd yn cuddio’u trafferthion rhag eu plant, ac yn cadw teimladau o ddicter a rhwystredigaeth i mewn.
Roedd rhai rhieni yn torri calon wrth weld eu plant yn llwglyd. Maen nhw eisiau i’r rhai sydd â phŵer wneud mwy.
“Ddylai dim un plentyn yn y Deyrnas Unedig fod yn byw mewn tlodi. Mae’n warthus.”
“Mae’n boen enaid.”
Roedden nhw’n teimlo bod pawb yn cael trafferth ymdopi mewn rhyw ffordd. Mae’r baich emosiynol ar rieni a theuluoedd yn aruthrol, wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn teimladau o anobaith oherwydd bod cymorth i weld mor brin ac mor bell i ffwrdd.

Gofal plant
“Byddai gwerth wythnos o ofal plant yn mynd â’m cyflog i gyd.”
“Mae cost gofal plant yn fwy na chyflog nodweddiadol mis o waith rhan amser. Does dim cefnogaeth na help i bobl sy’n gweithio ar y penwythnos. Does gen i neb i helpu gyda gofal plant, felly rydw i wedi gorfod gadael fy ngwaith.”
Roedd un rhan o’r arolwg yn holi rhieni am eu dewisiadau gofal plant, y rhesymau am y dewisiadau hynny, ac effaith hynny ar eu sefyllfa ariannol o ran cost a hygyrchedd.
Yn yr achos hwn, gofal plant yw pan fydd plentyn yn derbyn gofal gan rywun heblaw rhiant, gall hynny olygu gofal plant am dâl neu ofal plant anffurfiol gyda theulu a ffrindiau.
Roedd 34% o’r ymatebwyr yn defnyddio gofal plant ar hyn o bryd.
Ydych chi’n defnyddio gofal plant?
Ydw: 34%
Nac ydw: 66%

Pa opsiynau gofal plant rydych chi’n eu defnyddio?
Arall
Gwarchodwr plant
Cylch Meithrin
Ariannir gan y Llywodraeth
Meithrinfa Ysgol
Meithrinfa Ddydd Breifat
Clybiau brecwast/ar ôl ysgol
Teulu neu Ffrindiau
Mae’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn defnyddio gofal plant anffurfiol fel ‘Teulu neu Ffrindiau’ y n brif ffynhonnell gofal plant. Roedd Meithrinfeydd Dydd, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol hefyd yn cael eu defnyddio’n rheolaidd.
Holwyd rhieni ymhellach ynghylch pam roedden nhw’n defnyddio gofal plant anffurfiol yn rheolaidd. Dywedodd 34% mai’r rheswm am hynny oedd bod gofal plant ‘am dâl’ ddim yn fforddiadwy.
“Fyddai dim gwerth i mi weithio tase rhaid i fi roi fy mhlant mewn gofal plant.”
“Mae gofal plant mor ddrud, alla i ddim ei fforddio fe, er mod i a’m gŵr yn gweithio.”
Mae 30% o rieni yn defnyddio cyfuniad o ofal plant ‘anffurfiol’ ac ‘am dâl’. Y rheswm am hynny oedd dewis a dymuniad i gynnwys aelodau o’r teulu. Roedd hefyd o ganlyniad i fforddiadwyedd neu argaeledd gofal plant.
“Mae’r teulu’n mwynhau gofalu am y plant, felly rydyn ni’n lwcus i’w cael nhw.”
“I gadw costau gofal plant mor isel â phosib, rwy’n defnyddio’r hyn galla i hawlio o ran y cynnig gofal plant, ac yna’n dibynnu ar y teulu am ofal plant fel arall.”
“Alla i ddim fforddio gofal plant amser llawn mewn meithrinfa, felly rwy’n gorfod gwneud cyfuniad o ofal plant ffurfiol ac anffurfiol.”
Rhannodd rhieni bod eu dewis o ofal plant yn cael ei benderfynu gan y ffaith nad oedd lleoliadau’n darparu ar gyfer anghenion penodol eu plentyn oherwydd ADY neu anabledd.
“Does dim lleoedd gofal plant i blentyn 11 oed sydd ag anghenion ychwanegol.”
“Methu fforddio costau gofal plant ac yn cael gofal plant anffurfiol ar gyfer seibiant, neu i’n galluogi i ddiwallu anghenion ein plentyn anabl, ond yn anffodus dyw gofal seibiant y talwyd amdano ddim wedi cael ei gynnig.”
“Mae costau fy mhlentyn yn codi oherwydd ei hanghenion ychwanegol ac... (rwy’n) methu gweithio oherwydd mod i’n ofalwr amser llawn.”
Roedd eu horiau gwaith, eu lleoliad a hygyrchedd cyfyngedig hefyd yn cael effaith, oedd yn golygu nad oedd dewis ganddyn nhw ond defnyddio gofal plant anffurfiol neu beidio â gweithio.
“Rydw i’n byw mewn ardal wledig, a does dim lle gan unrhyw warchodwyr plant na meithrinfeydd sy’n cynnig gofal di-fwlch ar ôl ysgol.”
“Roedd llawer o leoliadau gofal plant yn methu diwallu anghenion fy mab, felly roedd e ddim yn ddewisol.”
Cyfeiriodd llawer o deuluoedd hefyd at y ffaith bod ganddyn nhw ddim cefnogaeth teulu na ffrindiau, a’u bod yn methu hyd yn oed ystyried gofal plant anffurfiol.
Ydy gofal plant yn eich atal rhag gweithio neu rhag gweithio mwy o oriau?
Ansicr/Arall: 11%
Nac ydy: 34%
Ydy: 55%
“Does gen i ddim “pentref” – rydw i ar fy mhen fy hun.”
Testun pryder oedd bod 55% o rieni’n dweud bod gofal plant yn eu hatal rhag gweithio neu weithio mwy o oriau.
Yn achos y teuluoedd hynny sy’n talu am ofal plant, dywedodd 60% ohonyn nhw ei fod yn rhoi straen aruthrol ar eu sefyllfa ariannol; eu gallu i fforddio hanfodion sylfaenol, a’u bod yn mynd i ddyled o’r herwydd.
Mae 25% o rieni naill ai wedi gorfod lleihau eu horiau gwaith; rhoi’r gorau i weithio, neu wedi canfod eu bod yn methu fforddio cael swydd oherwydd y costau sy’n cyfyngu ar ddewis rhieni.
Syniadau / awgrymiadau i wella gofal plant
Gofynnwyd i rieni rannu syniadau neu awgrymiadau ynghylch sut gallai teuluoedd incwm isel gael eu cefnogi. Dywedodd llawer o rieni fod help gyda chostau gofal plant yn allweddol.
“Rhoi mwy o help, p’un a yw hynny’n golygu caniatáu i rieni weithio gartre mwy, fel bod costau gofal plant yn gallu cael eu torri’n llwyr, neu ddarparu cymorth ariannol i’r rhai sydd angen hynny mewn gwirionedd.”
“Helpu meithrinfeydd, a rhoi arian iddyn nhw fydd yn treiddio trwodd i’r teuluoedd sy’n gweithio.”
Cynigiodd rhieni hefyd syniadau ac awgrymiadau pellach, gan gynnwys:
• Clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau allgyrsiol i blant
• Gofal plant yn ystod y gwyliau (gan gynnwys i blant hŷn)
• Mwy o gyllid ar gyfer gofal plant yn ifancach (9 mis)
• Yr hyn y gellir ei hawlio o ran gofal plant cyffredinol
• Darpariaeth gyffredinol Dechrau’n Deg
• Mwy o opsiynau gwaith hyblyg, gan gynnwys opsiynau gweithio gartref
• Grantiau gofal plant
• Mwy o gefnogaeth ar lefel y gymuned ac opsiynau gofal plant lleol
• Mwy o ofal plant arbenigol ar gyfer plant ag ADY corfforol ac anableddau
Addysg
“Mae ysgolion yn disgwyl i rieni dalu am bethau drwy’r amser... maen nhw’n gofyn am arian ar gyfer teithiau, digwyddiadau neu weithgareddau... Mae rhaid i chi dalu, neu bydd eich plentyn yn colli mas.”
“Hyd yma, rydw i wedi gallu cadw’r costau dan reolaeth... weithiau mae hynny’n golygu mod i’n mynd heb brydau bwyd i sicrhau bod gen i’r... holl hanfodion.”
Gofynnwyd i rieni sut roedden nhw’n ymdopi gyda chostau ychwanegol addysg. Roedd hwn yn gwestiwn perthnasol iawn gan fod plant 91% o ymatebwyr yr arolwg yn yr ysgol. Datgelodd yr ymatebion fod costau cysylltiedig â’r ysgol yn cael effaith negyddol ar deuluoedd.
Costau ysgol anoddaf eu rheoli
Adnoddau ac o er
Trafnidiaeth i’r ysgol ac oddi yno
O er gwaith cartref
Prydau a byrbrydau ysgol
Digwyddiadau
Teithiau ysgol
Gwisg ysgol
Costau gwisg ysgol
Nododd rhieni mai gwisg ysgol yw’r gost anoddaf i’w rheoli o ran yr ysgol. Roedden nhw’n dweud bod cost uchel gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau a bagiau, yn faich ariannol sylweddol ar deuluoedd. Wrth i blant dyfu, yn aml mae angen mwy nag un set o wisg ysgol bob blwyddyn, sy’n cynyddu’r gost. Mae cit Add Gorff a gwisg ysgol sydd â logo yn ychwanegu at y costau hynny, yn enwedig i’r rhai sydd â mwy o blant.
“Roeddwn i’n methu fforddio gwisg ysgol a gwrthodwyd fy nghais am grant... fe brynais i beth allwn i ac yna... rhoddwyd ambell beth i’m plant o’r bin eiddo coll, sy’n amlwg yn embaras... (i) fi a’r plant.”
Costau ysgol eraill
Amlygodd rhieni fod teithiau ysgol, cyfnodau preswyl, diwrnodau gwisg ffansi, a chostau cysylltiedig â digwyddiadau yn aml yn anfforddiadwy. Mae gweithgareddau codi arian yn ychwanegu at y pwysau, gan fod teuluoedd yn teimlo dan rwymedigaeth i gyfrannu.
Roedd rhai plant yn cael eu heithrio’n ddigidol oherwydd bod ganddyn nhw ddim gliniadur i orffen eu gwaith cartref yn iawn. Mae rhieni hefyd yn wynebu costau bwyd sylweddol am brydau ysgol, cinio pecyn, clybiau brecwast, byrbrydau, a chynhwysion dosbarthiadau coginio.
Mae llawer o rieni’n wynebu costau uchel o ran tanwydd a thocynnau bws, gan fod cais rhai plant am bás i’r bws yn cael ei wrthod. Mae gwasanaethau bws annigonol hefyd yn gorfodi rhieni i yrru eu plant i’r ysgol.
“Mae’r plant hŷn yn cerdded milltir a hanner i’r ysgol oherwydd ein bod ni’n methu cael pás i’r bws.”
Ydy eich plentyn/plant yn colli ysgol oherwydd costau?
Pan ofynnwyd oedd eu plentyn/plant yn colli ysgol oherwydd costau, ymateb 25% o’r rhieni oedd ‘Ydy’.
Teithiau ysgol
Digwyddiadau
Prydau/byrbrydau ysgol
Adnoddau/o er
O er gwaith cartref
Arall
Gwisg ysgol
Trafnidiaeth
Costau Ysgol sy’n golygu bod plant yn colli ysgol
Weithiau roedd rhieni’n teimlo bod dim dewis ganddyn nhw ond rhoi diwrnod i ffwrdd o’r ysgol i’w plant, er mwyn iddyn nhw beidio â theimlo eu bod yn cael eu gadael allan, gydag effaith negyddol ar eu haddysg a’u datblygiad. O ganlyniad, mae costau ysgol yn cyfyngu ar gyfranogiad plant ac yn arwain atyn nhw’n cael eu heithrio o weithgareddau.
“Rydw i wir eisiau i’m plentyn fynd ar deithiau ysgol, teithio a dysgu, achos mae’n dda i’w iechyd corff a meddwl, ond mae’r gost mor uchel, alla i ddim fforddio fe.”
“Weithiau rydyn ni’n methu fforddio gwisg arall ar gyfer un diwrnod yn unig. Felly mae’n gywilydd gen i ddweud ein bod ni wedi rhoi diwrnod o’r ysgol.”
Mynegodd rhieni hefyd deimladau o straen ac euogrwydd, wrth iddyn nhw ymdrechu i dalu am gostau addysg. Mae’r angen parhaus am gyllidebu a gwneud penderfyniadau ariannol anodd yn arwain at bryderon parhaus, y mae plant yn aml yn eu rhannu.
Syniad i gefnogi rhieni gyda chostau ysgol
Pan ofynnwyd am syniadau i gefnogi teuluoedd incwm isel, awgrymodd rhieni fwy o gefnogaeth gyda thrafnidiaeth, prydau ysgol a gwisg ysgol, yn arbennig i fyfyrwyr ysgol uwchradd.
Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer grantiau gwisg ysgol yn llym, ac mae’r gwerth yn gyfyngedig, sy’n golygu bod llawer o deuluoedd incwm isel yn cael eu gadael heb gymorth digonol. Gallai codi’r trothwy neu gynnig cymorth ariannol heb brawf modd helpu i ddatrys hyn. Gallai ysgolion hefyd hwyluso banciau a siopau cyfnewid gwisg ysgol, a newid eu polisi i ganiatáu opsiynau rhatach, heb logo.
Ar ben hynny, gallai costau trafnidiaeth a chymhwysedd gael eu hadolygu, a gallai prydau ysgol am ddim i bawb gael eu hestyn i fyfyrwyr ysgolion uwchradd. Yn ystod y gwyliau, gallai talebau arian gymryd lle prydau ysgol am ddim. Dylai ysgolion gynnal dosbarthiadau cyllidebu a dosbarthiadau sgiliau coginio cost isel.
Mynegodd llawer o rieni’r angen am gynlluniau talu mwy hyblyg, a rhybudd ymlaen llaw am gostau, a fyddai’n helpu teuluoedd i gynllunio’n ariannol.
Mae costau cynyddol addysg yn creu heriau ariannol i rieni, yn enwedig y rhai sydd eisoes yn wynebu tlodi. Mae’n bwysig lliniaru’r rhain er mwyn sicrhau nad yw’r costau hynny’n cael effaith negyddol ar lesiant plant a’u lefelau presenoldeb.
Cewch fynediad at adnoddau am ddim, a gynhyrchwyd gan Plant yng Nghymru, sy’n cynnig camau ymarferol i helpu i ddileu rhwystrau a 'chost' dysgu mewn lleoliadau ysgol yma:Plant yng Nghymru | Adnoddau Pris Tlodi Disgyblion

Prydau ysgol am ddim
“Gwahaniaeth mawr, achos does dim rhaid i fi wario arian ar eitemau bwyd i ginio, bagiau cinio a bocsys...Mae’r cyfan yn cyfri gyda 3 o blant. Does dim rhaid i fi dreulio amser yn siopa... ac yn gwneud pethau bob nos. Rwy’n gallu treulio amser o safon... yn creu cysylltiad â’r teulu.”
Ym mis Medi 2022, dechreuodd Llywodraeth Cymru estyn rhaglen prydau ysgol am ddim i’r holl blant ysgol gynradd. Cynllun estyn graddol 3 blynedd oedd hwn, trwy’r cytundeb
Cydweithio gyda Phlaid Cymru. Gofynnwyd i rieni roi adborth ar y cynllun.
Do any of your children benefit from the Free School Meals programme in primary schools?
Dywedodd tua 66% o’r rhieni fod eu plant yn elwa o’r rhaglen prydau ysgol am ddim. Soniwyd hefyd am y manteision a ddaeth iddyn nhw yn sgîl y fenter hon. Dywedodd 55% o’r rhieni ei bod wedi cael effaith ariannol gadarnhaol arnyn nhw, a’u bod yn arbed arian, gan ysgafnhau eu baich ariannol. Mae rhieni wedi defnyddio’r arian gafodd ei arbed ar brydau ysgol i’w wario ar eu plant.
“Fe wnes i ddefnyddio’r arian bydden ni fel arfer yn ei dalu am brydau ysgol ar ddiwrnodau allan gyda’r plant, yn rhoi profiadau newydd iddyn nhw.”
Roedd 21% o’r rhieni hefyd yn fodlon bod eu plant yn derbyn pryd cynnes, maethlon bob dydd, ac yn croesawu’r cyfle i blant brofi amrywiaeth o fwydydd. Teimlai rhai rhieni fod prydau ysgol am ddim yn gwneud iawn am eu hanallu nhw i ddarparu bwyd digonol gartre, ac yn gwarantu pryd cynnes bob dydd i’w plentyn.
“Mae’n ysgafnhau’r baich o sicrhau pryd mawr cynnes iddyn nhw gartre. Mae ein bil bwyd wythnosol wedi gostwng. Rydw i’n ddiolchgar iawn bod y fenter hon ar gyfer pob plentyn.”
“Gwahaniaeth aruthrol, achos rydyn ni’n gwybod bydd ein plentyn yn cael bwyd da yn yr ysgol, hyd yn oed os nad oes fawr ddim bwyd gartre.”
Yn ogystal ag ysgafnhau pwysau ariannol, roedd prydau ysgol am ddim hefyd yn lleihau pwysau ar iechyd meddwl a straen. Dywedodd 18% o rieni ei fod yn gwneud eu bywydau nhw’n haws oherwydd bod dim rhaid iddyn nhw boeni am gael hyd i arian ar gyfer ciniawau. Roedden nhw hefyd yn arbed amser oherwydd bod dim rhaid iddyn nhw siopa am fwyd neu baratoi cinio pecyn bob dydd.
Trwy ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn, roedd hefyd yn dileu ofn cael eu barnu neu eu stigmateiddio am fynd â chinio pecyn, neu gael eu hadnabod fel rhai oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol i ni yn ariannol, yn ogystal â gostwng lefelau straen, gan ei fod yn un peth yn llai i feddwl amdano.”
“... Mwy o hyblygrwydd gydag amser oherwydd bod dim rhaid paratoi cinio yn y bore.”
Er gwaethaf yr adborth cadarnhaol gan y mwyafrif llethol, roedd rhai rhieni’n teimlo bod angen gwella ansawdd a maint dognau’r prydau ysgol. Dywedodd rhieni fod plant yn dod adref yn llwglyd oherwydd bod y dognau’n fach. Doedd rhai plant ddim yn hoffi’r prydau ysgol, felly roedd rhieni’n methu manteisio’n llawn arnyn nhw.
“Mae’r dewis o fwyd a maint y dognau’n wael, felly dyw e ddim mor llesol ag y gallai fod.”
“Naill ai dyw fy mhlant ddim yn hoffi’r fwydlen, neu maen nhw’n dal yn llwglyd oherwydd bod y dognau mor fach.”
Ar ben hynny, dywedodd 17% o rieni eu bod nhw ddim yn derbyn unrhyw fantais o’r fenter. Roedd gan rai plant anghenion dysgu ychwanegol, neu roedden nhw’n niwroamrywiol, oedd yn golygu bod y bwyd oedd yn cael ei ddarparu ddim yn diwallu eu hanghenion penodol. Roedd gan eraill anghenion dietegol penodol oedd ddim yn cael eu diwallu. Roedd gan lawer o rieni blant a fu’n flaenorol yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, neu roedd ganddyn nhw blant yn yr ysgol uwchradd neu’r ysgol feithrin, lle nad oes prydau ysgol ar gael am ddim i bawb.
“Mae gan y ddau blentyn sy gen i anableddau dysgu... maen nhw’n ffysi iawn o ran eu bwyd. Mae rhaid i fi wneud cinio pecyn iddyn nhw... achos dydyn nhw ddim yn bwyta’r bwyd yn yr ysgol.”
“Mae fy merch yn cael profion awtistiaeth, ac yn cael trafferth gyda rhai bwydydd.”
Gwnaeth rhieni awgrymiadau hefyd ynghylch sut gallai’r cynllun gael ei wella a bod yn fwy buddiol i blant a’u teuluoedd. Yr awgrymiadau allweddol a wnaed oedd
• Dylai prydau ysgol am ddim i bawb gael eu hestyn i ysgolion uwchradd hefyd.
• Dylai’r fwydlen fod yn fwy amrywiol a chwmpasu mwy o anghenion deietegol e.e. bwydlen heb glwten.
• Dylid darparu bwyd neu dalebau arian i’r rhai sydd ddim yn cael budd o’r fenter yn amgylchedd yr ysgol, yn arbennig yn ystod gwyliau’r ysgol.
• Dylai fod prawf modd i’r ddarpariaeth, yn hytrach na’i bod i bawb, a’i chyfyngu i’r rhai sydd ar incwm isel ac â’r angen ariannol mwyaf.


Rhwystrau i oresgyn tlodi
Rhwystrau i oresgyn tlodi
“Methiant yw’r unig opsiwn sydd ar gael iddyn nhw. Dydy’r llywodraeth d dim eisiau helpu i dorri’r cylch dieflig.”
Ar hyd yr arolwg cafodd amrywiaeth o rwystrau eu nodi gan deuluoedd neu eu cydnabod ar y cyd. Mae’r rhwystrau hyn yn llesteirio gallu teuluoedd i oresgyn tlodi. Amlinellir y prif rwystrau isod.
Gofal plant
Fel yr amlygir yn yr adran ‘Gofal plant’, mae diffyg hygyrchedd, argaeledd a dewis gofal plant yn cyfyngu’n uniongyrchol ar allu rhieni i weithio neu dderbyn rhagor o oriau o waith i wella’u sefyllfa ariannol. Mae hynny’n eu caethiwo mewn cylch o gyfleoedd cyfyngedig.
Mae tâl mamolaeth annigonol hefyd yn ei wneud yn anodd i famau sy’n gweithio fforddio costau byw. Mae hynny, wedi’i gyfuno â chost uchel gofal plant, yn gadael rhieni heb fawr ddim incwm i’w wario. Maen nhw hefyd yn cael eu gorfodi i ystyried opsiynau gwaith eraill.
“Mae tâl mamolaeth yn chwerthinllyd... fe wnes i ruthro nôl i’r gwaith achos allwch chi ddim fforddio byw ar un cyflog.”
“Mae’n gwneud i gydbwysedd y ddadl ‘costau gofal plant yn erbyn gweithio’ dueddu at ofalu am eich plentyn yn fwy, achos bod gofal plant yn swm mawr allan o gyllideb y mis.”

Chwyddiant/costau byw cynyddol
Rhwystr arall aruthrol sy’n effeithio ar lawer o deuluoedd yw costau byw cynyddol, a diffyg codiadau cyflog na chynnydd mewn budd-daliadau i gyfateb i hynny.
“Mae popeth heblaw cyflog yn codi.”
“Mae cost pethau’n codi’n gynt na chyflogau, felly mae rhaid gwneud i’r un swm o arian fynd ymhellach.”
Hyd yn oed pan fydd teuluoedd yn derbyn codiad cyflog bach, mae’n mynd yn syth i dalu am y costau uwch, felly does dim budd i’w weld.
“Er bod yr isafswm cyflog wedi codi, cododd popeth arall hefyd, ac mae costau byw wedi mynd trwy’r to.”
Systemau sydd ddim yn gweithio
Teimlai rhai teuluoedd fod y systemau sydd yn eu lle i helpu i oresgyn tlodi neu i’w cefnogi naill ai’n annheg neu ddim yn gweithio.
Loteri côd post Dechrau’n Deg, lle gall rhai teuluoedd gael mynediad i ofal plant o 2 flwydd oed, ond dyw hynny ddim ar gael i eraill.
Mae teuluoedd incwm isel sy’n gweithio mewn trafferthion, ond yn methu cael mynediad at rai budd-daliadau ac felly’n brwydro ymlaen heb fawr ddim cefnogaeth ariannol.
“Nid dim ond teuluoedd incwm isel sy’n cael eu taro gan dlodi, mae teuluoedd sy’n gweithio nad ydynt yn derbyn fawr ddim cymorth ariannol ar ffurf budd-daliadau hefyd yn cael trafferth ymdopi.”
“Ar bapur dydyn ni ddim mewn tlodi. Does gennym ni ddim hawl i fudddaliadau. Mewn gwirionedd, rydyn ni mewn trafferthion, ond yn methu derbyn unrhyw help sydd ar gael gyda chostau byw.”
Stigma
“Ydy, mae ceisio gofyn am help yn achosi embaras, ond mae hefyd yn anodd yng nghefn gwlad Cymru. Wrth ofyn am help, rydych chi’n cael eich gwneud i deimlo’n gwbl ddi-werth am dderbyn unrhyw fath o fudd-daliadau. Mae pobl yn rhagdybio’n awtomatig bod gennych chi 7 o blant a’ch bod chi’n rhy ddiog i weithio, ond y gwir amdani yw y byddech chi’n gweithio, neu’n gweithio mwy, petai costau gofal plant ddim yn mynd â’ch holl gyflog.”
Mae arolygon blaenorol (gydag ymarferwyr) wedi amlygu bod rhai teuluoedd sy’n byw ar incwm isel yn cael eu gwneud i deimlo embaras am eu hamgylchiadau ariannol, neu eu trin yn wahanol gan wasanaethau. Yn yr arolwg hwn, gofynnwyd i’r rhieni rannu enghreifftiau o hyn.
Cafwyd ymateb cryf i’r cwestiwn yma, gyda rhieni’n rhannu’r stigma ynghylch hawlio budddaliadau, ymweld â banciau bwyd a sefyllfaoedd beunyddiol.
“Wrth fynd i fanciau bwyd, roeddwn i’n teimlo mod i am i’r ddaear fy l lyncu’n gyfan.”
“Rydw i mewn angen difrifol am fwyd, ac mae banc bwyd gerllaw, ond dwy ddim yn gwybod sut i gael help, ac rwy’n teimlo embaras i ofyn... mae’n boen enaid.”
“Teimlo bod pobl yn edrych lawr arna i am fod ar fudd-daliadau, cael fy nhrin fel rhywun diog yn hytrach na rhywun sydd eisiau gweithio ond yn methu oherwydd amgylchiadau.”
Dywedodd 32% o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo cywilydd ac embaras am eu profiadau o dlodi. Roedd ganddyn nhw hefyd deimladau o fethiant ac euogrwydd oedd yn cael effaith negyddol ar eu hymdeimlad o hunaniaeth fel rhieni.

Atebion a ffyrdd ymlaen
“Mae’n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi. Mae angen i ni geisio addysgu a chefnogi teuluoedd i dorri’r cylch heb gael eu barnu.”
Ar hyd yr arolwg hwn, gofynnwyd i rieni am syniadau ac atebion i gefnogi teuluoedd incwm isel a gwella’u hamgylchiadau. Awgrymwyd amrywiaeth o syniadau ar gyfer hyn.

Cefnogaeth Ariannol
Gofynnwyd i rieni rannu awgrymiadau neu syniadau ynghylch sut gallai teuluoedd oedd yn byw ar incwm isel gael eu cefnogi’n well yn ariannol. Fe wnaethon nhw awgrymiadau newidiadau a allai wneud gwahaniaeth. Mae'r rhain yn cynnwys:-
• Cefnogaeth hygyrch, sydd ar gael am ddim neu am gost isel, heb farnu.
• Gwell cyfeirio at wasanaethau cefnogi perthnasol, gydag opsiynau hunan-atgyfeirio a bod yn ddienw ac yn gyfrinachol.
• Dosbarthiadau rheoli cyllideb, cyngor ariannol a gweithdai sgiliau bywyd i helpu teuluoedd i fwyafu eu hincwm a diwallu anghenion sylfaenol.
• Mynediad at arian brys mewn argyfyngau.
• Help i reoli dyledion.
• Hybu gwybodaeth ynghylch yr hyn y gellir ei hawlio o ran cefnogaeth sydd ar gael a budd-daliadau.
Cyflogaeth
“Mwy o gyfleoedd = gwell hunan-barch = gwell iechyd meddwl.”
Mae rhieni hefyd eisiau cael rhagor o gefnogaeth i symud i gyflogaeth a chael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli. Mae hwn yn sbardun allweddol ar gyfer cefnogi rhieni i ddod allan o dlodi a meithrin hunan-barch a hyder.
Lleihau costau byw
Mae rhieni eisiau gweld mwy o gamau’n cael eu cymryd i leihau costau byw. Mae costau hanfodol megis tanwydd, ynni, bwyd a thai ar hyn o bryd yn rhoi baich ariannol aruthrol ar deuluoedd.
Awgrymodd llawer y gallai llywodraethau helpu trwy leihau chwyddiant a chyfraddau treth y cyngor. Byddai hynny’n helpu teuluoedd i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol, ac yn rhoi mwy o le iddyn nhw ganolbwyntio ar ofal a llesiant eu plant.
Mae angen cymorth wedi’i dargedu hefyd ar gyfer aelwydydd incwm is sy’n wynebu argyfyngau ariannol. Awgrymodd rhieni gynyddu mynediad at hanfodion trwy fanciau dillad, banciau babanod, banciau bwyd, taliadau costau byw, a chronfeydd argyfwng i gefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
Cynyddu Incwm Aelwydydd
Yn sgîl costau byw cynyddol, mae angen mwy o arian ar deuluoedd i reoli costau. Awgrymwyd codi cyflog byw a’r isafswm cyflog yn unol â chwyddiant, a chodi budd-daliadau ar unwaith er mwyn cyflawni hyn.
Dylai system budd-daliadau deg, gyfartal fod yn ei lle i gefnogi pob teulu, a dylid cyflwyno Incwm Cyffredinol Sylfaenol i liniaru ansicrwydd ariannol. Dylid dileu’r cap budd-dal dau blentyn, gan ei fod yn effeithio’n anghymesur ar deuluoedd mwy o faint, gan eu gwthio i dlodi. Ar ben hynny, mae sicrhau cyfraddau Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) teg i deuluoedd plant ag anableddau yn hanfodol oherwydd y costau uwch sy’n gysylltiedig â gofal a chefnogaeth.
Tlodi mewn gwaith
Dywedodd rhieni y dylai fod mwy o help i deuluoedd sy’n gweithio, i leihau tlodi mewn gwaith. Trwy godi’r trothwy treth a throthwy hawlio Credyd Cynhwysol ar gyfer prydau ysgol am ddim a grantiau gwisg ysgol, gall teuluoedd sy’n gweithio gadw mwy o’u hincwm. Hefyd mae angen mwy o help ar rieni sengl sy’n gweithio gyda chostau gofal plant.
Mae codi lefel tâl mamolaeth a thadolaeth statudol hefyd yn hanfodol, gan fod rhai rhieni’n teimlo ei fod yn annigonol i dalu am gostau. Byddai hynny, mewn cydweithrediad ag opsiynau gofal plant gwell (a awgrymwyd yn Syniadau / awgrymiadau i wella gofal plant) yn caniatáu i fwy o rieni sy’n gweithio gynyddu incwm eu haelwyd.
“Dylai tâl mamolaeth fod yn well. Mae tâl mamolaeth statudol yn golygu fy mod i’n colli £1,000 y mis o gymharu â beth roeddwn i’n arfer ei dderbyn... fe DDYLAI adlewyrchu’r tâl roeddech chi’n arfer ei dderbyn!”

Cefnogaeth Emosiynol
Gofynnwyd i rieni rannu awgrymiadau neu syniadau ynghylch sut gallai teuluoedd oedd yn byw ar incwm isel gael eu cefnogi’n well yn emosiynol.
Mannau diogel
Roedd rhieni eisiau teimlo eu bod yn cael gwrandawiad, ac roedden nhw’n dweud ei fod yn bwysig cael lle diogel i rannu eu pryderon a’u profiadau. Awgrymiadau ar gyfer hyn oedd:-
• Canolfannau teulu a hybiau oedd yn cael eu hariannu’n llawn
• Grwpiau cefnogi rhieni a sesiynau galw heibio ar fagu plant, gydag oriau amrywiol i fod yn addas ar gyfer rhieni sy’n gweithio
• Darpariaeth gofal plant i bob grŵp
• Llinellau cymorth iechyd meddwl
• Mynediad at gwnselwyr a grwpiau cefnogi cymheiriaid
“Mynediad at grŵp rhieni lle gallwn ni ddod at ein gilydd, a siarad â phobl sydd yn yr un sefyllfa. Man diogel, lle does dim barnu.”
Gwell Gwasanaethau Cefnogi
Roedd galwad am fwy o gyllid i wasanaethau sy’n cefnogi iechyd meddwl plant a theuluoedd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anawsterau dysgu ychwanegol cymhleth (CALDS). Gallai ysgolion fod yn ganolbwynt ar gyfer y gwasanaethau hyn, a gallai hynny gael ei hwyluso gan swyddogion cyswllt teulu, a allai helpu hefyd gydag anghenion ehangach teuluoedd.
• Swyddogion cyswllt teulu mewn ysgolion i helpu i gael mynediad at gefnogaeth
• Apiau digidol a chyrsiau am ddim
• Swyddogion cymorth teulu allgymorth
Empathi a Dealltwriaeth
Roedd rhieni am gael eu gwerthfawrogi a’u deall heb gael eu beio na’u barnu oherwydd eu sefyllfaoedd heriol.
“Dydw i ddim eisiau gwell cefnogaeth emosiynol, y cyfan rydw i eisiau yw dealltwriaeth ein bod ni mewn cyfnod anodd.”
Dylid cynnig hyfforddi i weithwyr proffesiynol ar dlodi i fynd i’r afael â stigmâu a chynyddu ymwybyddiaeth, i sicrhau bod y dull gweithredu cywir a’r gefnogaeth gywir yn cael eu darparu. Byddai hynny’n gwella agweddau tuag at y rhai sydd mewn tlodi, ac yn sicrhau eu bod yn fwy empathetig a sensitif yn emosiynol.
Atebion â Ffocws Cymunedol
Mae rhieni hefyd am gael gwell darpariaeth leol, gymunedol lle gallan nhw gael mynediad at wasanaethau di-dâl neu gost isel megis gofal plant neu fynediad am ddim at gampfa. Roedden nhw hefyd am gael gweithgareddau di-dâl neu fforddiadwy i deuluoedd mewn mannau glân, diogel, i’w helpu i dreulio amser o safon gyda’i gilydd, gan leihau straen emosiynol a meithrin gwydnwch o ganlyniad.
“I roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant – gadewch i ni i gyd weithio gyda’n gilydd.”
Fe wnaethon nhw awgrymu hefyd:-
• Teithiau a gweithgareddau am ddim
• Canolfannau teulu sy’n cael eu hariannu’n effeithiol
• Grwpiau chwarae lleol, hygyrch, a chanolfannau ieuenctid
“Stopio pwysau ar rieni i wneud popeth. Gwneud i’r cyngor gynnal campfeydd ac ati sy’n fwy hygyrch i deuluoedd trwy leihau’r gost. Helpu teuluoedd i fwynhau amser gyda’i gilydd.”
Roedd thema o gynaliadwyedd a hunan-ddibyniaeth hefyd, yn enwedig mewn perthynas â bwyd. Awgrymodd rhieni greu cydweithfeydd bwyd nid er elw yn y gymuned, lle gallan nhw swmp-brynu eitemau bwyd a’u gwerthu’n rhatach. Awgrymwyd hefyd well mynediad at randiroedd lleol i deuluoedd dyfu eu bwyd eu hunain.
Diweddglo

Mae’r adroddiad hwn yn amlygu cynifer o enghreifftiau bywyd go iawn a phrofiadau bywyd o dlodi y mae teuluoedd yn eu hwynebu’n feunyddiol. Rhaid i’r cipolygon hyn ysgogi pawb i chwilio am ffyrdd ymlaen fydd yn lliniaru effeithiau tlodi plant.
Amlygodd rhieni fod angen mwy o fuddsoddi mewn plant a theuluoedd, ond hefyd bod camau gweithredu i fynd i’r afael â thlodi yn galw am fwy nag atebion ariannol. I daclo cylch tlodi, mae angen cefnogaeth gryfach gan y llywodraeth yn ogystal ag atebion yn y gymuned.
Mae mynd i’r afael â thlodi plant yn galw am newid cymdeithasol, empathi, lleihau stigma a chefnogaeth wirioneddol i helpu rhieni i adennill hyder a goresgyn cywilydd. Rhaid sicrhau dull gweithredu cyfannol sy’n cydnabod effeithiau emosiynol a seicolegol tlodi ar blant, rhieni a theuluoedd.
Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch i’r holl rieni a roddodd o’u hamser i gwblhau’r arolwg. Rydyn ni’n wir yn gwerthfawrogi’r amser rydych chi wedi’i gymryd i’w gwblhau a’ch bod wedi rhannu manylion eich meddyliau a’ch profiadau, yn aml o dan amgylchiadau anodd. Diolch eto.