




Croeso gan y Cyfarwyddwr Polisi/Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol
Cyswllt Rhieni Cymru: Y Siwrne hyd Yma (Plant yng Nghymru)
Sut y dylid helpu rhieni i ddiwallu anghenion plant drwy gydol eu plentyndod (Dawn Bowden AS y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol)
Cefnogi rhieni i roi’r cychwyn gorau i’w plant (Cymraeg i Blant a Clwb Cwtsh)
Fforwm Lleisiau’r Blynyddoedd Cynnar (Cyngor Dinas Casnewydd)
1,000 Diwrnod Cyntaf yn yr Awyr Agored (Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro)
Mae ein tŷ ni’n lle tawelach erbyn hyn (Barnardo’s Cymru)
Argyfwng Gofal Plant Cymru: Mae’n Bryd Gweithredu i Gefnogi Rhieni Mewn Tlodi (Oxfam Cymru)
Sut mae Place2Be yn helpu rhieni i adeiladu sylfeini cryf ar gyfer lles plant (Place2Be)
Gwella cefnogaeth i rieni ag anabledd dysgu yng Nghymru Cefndir (Anabledd Dysgu Cymru)
Cronfa’r Teulu
Rhoi’r grym yn nwylo cymunedau (Pennaeth Achub y Plant Cymru)
For Dads by Dads (Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen)
Rhianta gydag Amhariad ar y Golwg (Royal National Institute of Blind People)
Newyddion gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth (CEBEI), (Prifysgol Bangor)
Darganfod byd eich plentyn (Cyngor Sir Gâr)
Llygad: Tîm Profiad y Blynyddoedd Cynnar (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)
Cefnogaeth Gofal Plant All-Ysgol i Rieni (Clybiau Plant Cymru Kids Club)
Porth Lles Wrecsam (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu
Bwlio yw un o’r pethau mwyaf mae rhieni’n ei wynebu (Kidscape)
Golygydd: Natasha Belding natasha.belding@childreninwales.org.uk
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ
029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk
Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996
Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd y farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r haw i olygu cyn cyhoeddi
Croeso i rifyn yr Hydref o gylchgrawn
Plant yng Nghymru sy’n rhoi sylw i fagu plant yng Nghymru. Rydym wrth ein boddau’n rhannu enghreifftiau o arfer gyda chi, yn cynnwys rhai gan wasanaethau magu plant a chefnogi teuluoedd sydd wedi cael eu rhannu gyda ni o bob rhan o’n haelodaeth ac o’r sector ehangach.
Mae Wythnos Magu Plant yn uchafbwynt arbennig ar y calendr byd-eang, ac mae’n gyfle i ddathlu’r rôl hollbwysig y mae rhieni’n ei chwarae yn ein cymdeithas, a thaflu goleuni ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn magu, meithrin a siapio bywydau a datblygiad plant yn gadarnhaol. Wrth gyfeirio at ‘rieni’, defnyddiwn hwn fel term cynhwysol sy’n cynnwys holl rieni (mamau a thadau), teidiau a neiniau, rhieni maeth, rhieni sy’n mabwysiadu, neu unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant.
Mae Wythnos Magu Plant hefyd yn ein galluogi i dynnu sylw at yr heriau a’r rhwystrau a wynebir, yn ogystal â buddion ac effaith gydol oes meithrin perthynas gadarnhaol rhwng plant a’u rhieni. Wrth gwrs, dylai arferion rhianta fod wedi’u gwreiddio mewn ymrwymiad i wireddu hawliau plant. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae rhieni a gofalwyr yn ei chwarae mewn diogelu a gofalu am blant a galluogi plant i gael mynediad at yr holl ystod o hawliau drwy gydol eu plentyndod.
Yn drwch dros y tudalennau canlynol, fe welwch drosoch eich hunain yr holl waith sy’n cael ei wneud yn y byd magu plant, gan fod y rhifyn hwn o’n cylchgrawn yn arddangos peth o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei gyflawni ym mhob cwr o Gymru.
Mae llawer o’r gwaith hwn yn digwydd o fewn cyd-destun pwysau heriol costau byw sy’n effeithio ar blant a’u teuluoedd, ynghyd â’r galw uchel digynsail sy’n cael ei roi ar wasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, sy’n gwneud eu gorau glas i ddarparu cymorth ataliol ac argyfwng
hanfodol. Cafodd hyn ei ddangos yn fwyaf diweddar yn ein hadroddiad Cyflwr y Sector Magu Plant a Chymorth i Deuluoedd lle’r oedd gwasanaethau’n adrodd eu bod yn methu â bodloni’r galw cynyddol a chymhlethdod anghenion, gan rannu pryderon am eu gallu i ddarparu’r gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac ataliol y maent wedi’u hariannu’n bennaf i’w ddarparu.
Dros yr haf ac ers y rhifyn diwethaf o’n cylchgrawn, mae Llywodraeth Cymru wedi penodi Prif Weinidog newydd ac wedi adnewyddu’r Cabinet. Mae Eluned Morgan AS a Huw Irranca-Davies AS wedi ymgymryd â rolau’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog, ac roeddem wrth ein boddau’n croesawu’r ddau i’n stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yn ôl ym mis Awst. Mae gennym Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol newydd, Dawn Boden AS, sydd â chyfrifoldeb dros hawliau plant a llawer o’r meysydd polisi sy’n effeithio ar fabanod, plant a phobl ifanc, yn cynnwys magu plant. Ar ôl blynyddoedd lawer o ymgyrchu, rydym wrth ein boddau gyda’r ffaith bod gennym bellach Weinidog Plant sy’n arddel yr enw hwnnw yn y teitl, a hoffem ddiolch i’n haelodau a fu’n ymgyrchu law yn llaw â ni i sicrhau bod plant yn cael y gydnabyddiaeth a’r proffil y maent yn ei haeddu wrth fwrdd y llywodraeth.
Rydym wrth ein boddau bod y Gweinidog Plant newydd wedi cymryd amser yn gynnar yn ei rôl newydd i ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob babi, plentyn a pherson ifanc yn ffynnu yn eu teuluoedd a’u cymunedau, gan nodi’r polisïau a’r ymyriadau sy’n cefnogi plant a theuluoedd i wneud hyn yn realiti. Gallwch ddysgu mwy am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ein prif erthygl.
Diolchwn yn ddiffuant i’r rhai ohonoch sydd wedi cyfrannu at y cylchgrawn hwn, ac i eraill sydd yr un mor ymroddedig drwy gefnogi rhieni a theuluoedd i helpu galluogi holl blant i gael mynediad at eu hawliau a’r hyn y dylent ei gael.
Mwynhewch eich Hydref
Sean
Fatiha Ali Swyddog Datblygu, Plant yng Nghymru
Mewn byd lle mae polisïau’n aml yn siapio bywydau teuluoedd a phlant, mae’n hollbwysig bod lleisiau rhieni a gofalwyr yn cael eu clywed a’u gwerthfawrogi. Prosiect dan arweiniad Plant yng Nghymru yw Cyswllt Rhieni Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a dyna’n union yw ei nod. Drwy greu llwyfan Cymru gyfan, mae Cyswllt Rhieni Cymru’n cynnig lle i rieni a gweithwyr proffesiynol ymgysylltu mewn trafodaethau ystyrlon sy’n dylanwadu ar ddatblygiad polisi.
Yr Angen am Ymgysylltu gan Rieni
Mae rhieni eisiau chwarae rhan ystyrlon yn natblygiad polisïau sy’n effeithio ar eu plant, nid yn unig fel cyfranogwyr mewn ymarfer “ticio blychau”, ond fel cyfranwyr gwerthfawr o’r cychwyn cyntaf. Mae’r prosiect wedi’i gynllunio fel “dull dwy ffordd,” gan sicrhau bod lleisiau rhieni nid yn unig yn cael eu clywed ond yn cael eu gweithredu arnynt, gydag adborth yn cael ei ddarparu ar bob cam.
Cynnal Hawliau Plant
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gwarantu’r hawl i bob plentyn dyfu i fyny yn iach, yn hapus ac yn ddiogel. Wrth ei graidd, mae Cyswllt Rhieni Cymru’n cefnogi egwyddorion CCUHP, yn enwedig Erthyglau 3, 5, a 18. Mae’r rhain yn cydnabod rôl rhieni a theuluoedd mewn diogelu a gofalu am blant. Mae’r prosiect yn pwysleisio pwysigrwydd rhieni fel y rhai sy’n cario’r ddyletswydd i sicrhau bod hawliau plant yn cael eu cynnal. Mae’n annog rhieni i ddeall yr hawliau hyn ac eirioli drostynt.
Plant yng Nghymru| Hawliau rhieni a phlant
Gosod y Sylfaen
Ym mis Tachwedd 2021, dechreuodd Cyswllt Rhieni Cymru ar ei siwrne gydag ymarfer cwmpasu, arolwg, ac adroddiad. Roedd y canfyddiadau’n glir: roedd rhieni’n teimlo ei bod yn hollbwysig eu
bod yn cael cyfleoedd i rannu eu safbwyntiau, eu syniadau a’u barn. Fe wnaethant ddweud wrthym fod hyn yn bwysig oherwydd:
‘Rydym eisiau cael llais a chael ein clywed’
‘Rydym yn magu oedolion y dyfodol’
‘Rydym yn cynrychioli lleisiau ein plant’
‘I roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant – rhaid i ni oll weithio gyda’n gilydd’
Datblygu rhwydweithiau ac adnoddau
Ers mis Mawrth 2022, mae cam nesaf y prosiect wedi gwneud cynnydd sylweddol, gan sefydlu:
• Fforwm Gweithwyr Proffesiynol gyda mwy na 100 o aelodau o amrywiol sectorau sy’n gweithio mewn cyfranogiad rhieni.
• Grŵp Cynghori Rhieni sy’n dod â chynrychiolwyr rhieni amrywiol ynghyd i arwain y prosiect.
Mae’r ddau grŵp yn cynnig arbenigedd gwerthfawr ac yn cyfarfod bob chwarter i lywio cyfeiriad y prosiect a sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ymatebol i anghenion teuluoedd.
Ar ben hynny, mae’r prosiect wedi sefydlu:
• Cynrychiolwyr lleol ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru i gasglu a chyfleu safbwyntiau rhieni.
• Hwb Ar-lein Cyswllt Rhieni Cymru, adnodd canolog sy’n cynnig gwybodaeth a deunyddiau ar lais rhieni i rieni a gweithwyr proffesiynol.
Cynnwys pawb
Mae Cyswllt Rhieni Cymru’n ymroddedig i ymgysylltu â rhieni o gefndiroedd amrywiol. Maent wedi ffurfio partneriaethau cryf gyda grwpiau sy’n gweithio gyda rhieni plant sydd wedi bod mewn gofal, tadau, lleiafrifoedd ethnig, siaradwyr Cymraeg, plant ag anghenion dysgu ychwanegol a rhieni sy’n ymwneud ag amddiffyn plant a gwasanaethau cymdeithasol. Mae Cyswllt Rhieni Cymru hefyd wedi cyfieithu ei adnoddau prosiect i bum iaith gymunedol allweddol, gan eu defnyddio
i gynnal gweithdai ar hawliau plant i rieni yn y cymunedau hyn.
Cipolwg ar fod yn Rhiant drwy siwrne weledol
Mae’r prosiect hefyd wedi defnyddio dulliau creadigol gyda rhieni a allai fod yn methu ymwneud â dulliau ymgynghori traddodiadol fel arolygon neu grwpiau ffocws. Gallai hyn fod oherwydd rhwystr iaith, sgiliau llythrennedd heb eu datblygu, anableddau dysgu a llawer o resymau eraill.
Cyflwynodd y prosiect broses ymgynghori wedi’i seilio ar gelf, gan wahodd rhieni a gofalwyr i greu gwaith celf sy’n ategu eu profiadau o fod yn rhieni gan ddefnyddio dulliau gweledol. Fe wahoddodd rieni hefyd i dynnu llun i gyfleu ‘Bywyd fel Rhiant’ a chyflwyno ffotograffau gyda chapsiynau.
Defnyddiwyd y gwaith celf a’r ffotograffau i greu oriel ar-lein liwgar sy’n arddangos y pleserau a’r heriau sy’n perthyn i fywyd teuluol beunyddiol ledled Cymru. Maent yn adlewyrchu profiadau bywyd o fagu plant a sut maent yn diffinio magu plant, gan ddarparu adnodd gwerthfawr i weithwyr proffesiynol ddeall teuluoedd yn well.
Gwaith cyfredol
Mae’r gwaith sydd gan Cyswllt Rhieni Cymru ar y gorwel yn cynnwys:
• Pecyn Adnoddau Ymgynghori: Mae Cyswllt Rhieni Cymru’n datblygu pecyn adnoddau i sefydliadau lleol gael casglu a bwydo’n ôl ar safbwyntiau rhieni’n effeithiol. Mae hyn mewn
ymateb i angen a nodwyd gan sefydliadau rhieni a oedd yn frwdfrydig am gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ond heb y sgiliau i wneud hynny.
• Cefnogi ymgynghoriadau Llywodraeth
Cymru: casglu barn Rhieni i fwydo i mewn i ymgynghoriadau a chyfeiriad polisi Llywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cymorth i rieni drwy eu rhaglenni: Teulu
Cymru, Parenting Give it Time.
• Cefnogaeth dan arweiniad rhieni: mae ymchwil yn dangos bod rhieni’n aml yn chwilio am gyngor gan deulu, ffrindiau, a chyfoedion. O ganlyniad, bydd Cyswllt Rhieni Cymru’n parhau i ehangu cymorth cymunedol a dan arweiniad rhieni, gan gynnwys hyrwyddwyr rhieni presennol yng Nghymru.
• Pecyn hyfforddi ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol: mae Cyswllt Rhieni
Cymru’n datblygu pecyn hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar leisiau rhieni, cyfranogiad, a hawliau plant. Bydd yn codi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ac yn pwysleisio pwysigrwydd cyfranogiad rhieni.
• Dull cydweithredol ar gyfer y Deyrnas
Unedig gyfan: mae Cyswllt Rhieni Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda sefydliadau cyfranogiad rhieni yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr. Gyda’i gilydd, byddant yn gwneud galwadau ar y cyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan uchafu lleisiau rhieni o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Edrych ymlaen
Drwy ganolbwyntio ar ymgysylltu gwirioneddol a hyrwyddo hawliau plant, mae Cyswllt Rhieni
Cymru’n gweithio i sicrhau bod lleisiau rhieni yn rheng flaen y broses gwneud penderfyniadau am flynyddoedd i ddod. I weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd, mae Cyswllt Rhieni
Cymru’n cynnig adnodd amhrisiadwy – llwyfan i gysylltu â rhieni a deall eu pryderon. I rieni, mae’n gyfle i gael eu clywed, eu gwerthfawrogi, ac yn bwysicaf oll, i wneud gwahaniaeth yn y polisïau sy’n siapio bywydau eu plant.
Dawn Bowden AS y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Roeddwn yn falch iawn o gael fy mhenodi’n Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol. Rwy’n credu’n gryf bod helpu rhieni a theuluoedd yn hanfodol er mwyn rhoi y dechrau gorau mewn bywyd a’r plentyndod gorau i holl blant Cymru. Fy rôl i yw sicrhau ein bod yn arfer dull sy’n seiliedig ar hawliau plant ym mhopeth a wnawn, gan sicrhau bod gwasanaethau wedi’u llywio o amgylch anghenion y plentyn yn unol ag egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae bod yn rhiant yn gallu rhoi llawer o foddhad, ond nid yw’n rôl heb ei heriau. Mae llawer o deuluoedd yn wynebu pwysau ychwanegol megis tlodi, tai sydd mewn cyflwr gwael ac anawsterau o ran iechyd meddwl a niwrowahaniaeth, sy’n ei gwneud hi’n anoddach sicrhau amgylchedd cefnogol i blant a phobl ifanc. Mae’n bwysig ein bod yn helpu rhieni a theuluoedd yn gynnar fel bod babanod, plant a phobl ifanc yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn dda, yn ogystal â sicrhau’r amodau cywir iddyn nhw dyfu a chyrraedd eu potensial llawn.
Ni waeth ble mae plant yn byw, ein gweledigaeth ni yw eu bod yn cael eu helpu i aros gyda’u teuluoedd, a bod llai o blant a phobl ifanc yn mynd i mewn i ofal. Ein nod yw lleihau’r amser y mae pobl ifanc yn ei dreulio mewn gofal wrth ddiwallu eu hanghenion.
Drwy ymyrryd yn gynnar, gallwn helpu i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, lleihau’r pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol, atal anghenion rhag dwysáu a lleihau’r risg o blant yn mynd i mewn i ofal. Yn ddyddiol, mae timau amlasiantaethol yn darparu cymorth cynhwysol, dwys ac wedi’i dargedu i rieni a theuluoedd sydd ag ystod o anghenion.
Mae’r 1,000 diwrnod cyntaf ym mywyd plentyn yn hollbwysig. Gall dechrau da yn y blynyddoedd cynnar hyn arwain at ganlyniadau addysgol gwell, perthnasoedd cryfach, ac iechyd meddwl ac iechyd corfforol gwell yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn ogystal, mae plant yn llai tebygol o ymwneud â throseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu fabwysiadu ymddygiadau sy’n niweidio iechyd yn ystod y glasoed. Mae hyn oll yn gadarnhaol iddyn nhw ac i’r gymdeithas ehangach.
Gall wynebu Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod neu drawma gael effaith hirdymor ar ganlyniadau bywyd plant. Dyna pam y mae ein rhaglenni rhianta a theuluoedd, a ddarperir mewn ffordd sy’n ystyriol o drawma, yn bwysig wrth fynd i’r afael a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac annog meithrin plant mwy gwydn.
Mae ein fframwaith NYTH yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant, gan annog gweithio ar draws sectorau a rhannu egwyddorion a dulliau gweithredu sy’n helpu babanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd y fframwaith hwn yn cael ei ategu gan ein Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol sydd ar ddod. Mae diwallu anghenion teuluoedd niwrowahanol yn un o’n blaenoriaethau allweddol ac mae cymorth yn cael ei gynnig i rieni a gofalwyr gan y Tîm Niwrowahaniaeth Cenedlaethol.
Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i bawb, ond yn arbennig i deuluoedd sy’n fwy agored i niwed. Mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu heriau i deuluoedd, gyda rhai yn wynebu problemau mwy cymhleth nag erioed o’r blaen. Mae’n bosibl bod teuluoedd nad oedd wedi ceisio cymorth yn flaenorol angen cymorth yn awr. Mae ein rhaglen flaenllaw, Dechrau’n Deg, yn rhaglen hollbwysig ar gyfer cynnig gwasanaethau hanfodol i rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig sydd, ochr yn ochr â’n gwaith ehangu fesul cam, yn parhau i gynnal datblygiad plant a helpu teuluoedd i osod sylfeini cadarn ar gyfer plentyndod iach a hapus.
Mae ein rhaglen amlasiantaethol Teuluoedd yn Gyntaf yn canolbwyntio ar help, atal a chymorth cynnar. Mae’r dull gweithredu Tîm o Amgylch y Teulu yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, gan helpu i atal problemau rhag arwain at sefyllfaoedd o argyfwng, a meithrin teuluoedd annibynnol a gwydn.
Gan roi pwyslais ar atal a chymorth cynnar, gall ein dull gweithredu o ran asesu a theilwra cymorth i rieni a’r teulu cyfan wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn aml yn bwynt cyswllt cyntaf ac maen nhw’n chwarae rhan hanfodol o ran darparu cyngor, gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau perthnasol.
Rydym yn ymwybodol bod gofal plant sy’n fforddiadwy, yn hygyrch ac ar gael yn galluogi rhieni
i weithio, ac mae ein Cynnig Gofal Plant yn ceisio ategu’n hymdrechion i fynd i’r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.
Rydym am sicrhau bod teuluoedd yn gallu cael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth, gan eu galluogi i ddewis y dulliau mwyaf cadarnhaol ar gyfer magu eu plant. Mae ein rhaglen rhianta ‘Magu plant. Rhowch amser iddo’ yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni plant hyd at 18 oed.
Mae hyn, ar y cyd â’n platfform Teulu Cymru a lansiwyd yn ddiweddar, yn arwain rhieni at wahanol ffynonellau o gymorth ymarferol ac ariannol. O gynghorion ynglŷn â rhianta a chyngor arbenigol yn ymwneud â datblygiad, i helpu gyda chostau gofal plant – mae Teulu Cymru yn ei gwneud hi’n haws i rieni ddod o hyd i gymorth mewn un lle drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n tudalen lanio ar y we.
Byddwn yn parhau i geisio barn rhieni a theuluoedd, a gwrando arno, er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau, ein cyngor a’n cymorth yn parhau i ddarparu’r help sydd ei angen arnyn nhw.
Mae cyfathrebu yn elfen hanfodol arall o ddatblygiad cynnar. Mae ein rhaglen Siarad gyda Fi yn helpu teuluoedd a gweithwyr gofal plant proffesiynol i feithrin cysylltiadau cadarnhaol yn ystod 1,000 diwrnod cyntaf plentyn, gan hyrwyddo datblygiad emosiynol a chymdeithasol.
Yn ogystal, mae ein rhaglenni Plant Iach Cymru a Pwysau Iach: Cymru Iach yn helpu teuluoedd i fabwysiadu a chynnal ffyrdd iach o fyw.
Mae ein gwaith yn dibynnu ar gydweithio ar draws sectorau a chymunedau. Gyda’n gilydd, gallwn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn, lle mae plant a phobl ifanc yn edrych ymlaen at ddyfodol llawn gobaith a phosibilrwydd. Gallwn wneud Cymru yn lle gwych i bob babi, plentyn, person ifanc, eu teuluoedd a’u cymunedau ffynnu, a hynny yn awr ac yn y dyfodol.
Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Dinah Ellis, Rheolwr Cenedlaethol Cymraeg i
Blant & Mari Gwilym, Rheolwr Cynlluniau Dysgu
Cymraeg Mudiad Meithrin
Ers sefydlu Cymraeg i Blant a Clwb Cwtsh, mae’r ddau gynllun wedi bod yn cefnogi rhieni a’u teuluoedd ledled Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg gyda’u phlant bach ac i ystyried dewis addysg Gymraeg.
‘I’m worried that two languages will confuse my son’; ‘I won’t be able to help my child with his homework’ - dyma bryderon cyffredin mae rhieni sydd yn ystyried dewis addysg a gofal cyfrwng Cymraeg yn eu lleisio’n ddyddiol gyda swyddogion.
Mae’n hollbwysig cofio mai proses gwbl naturiol yw i rai rhieni deimlo’n bryderus ac yn ansicr wrth ystyried dewisiadau iaith y teulu. Felly, mae’n
angenrheidiol cynnig cyfleodd a chefnogaeth i’r rhieni hyn drafod eu dyheadau a’u pryderon wrth fynd ati i ystyried trosglwyddo’r Gymraeg i’w plentyn. Mae’n angenrheidiol nid yn unig o fewn cyd- destun targed Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, ond hefyd wrth gofio mai dim ond ychydig dros 40% o rieni mewn teuluoedd ble mae un rhiant yn Saesneg a’r llall yn Gymraeg sydd yn trosglwyddo neu’n rhoi’r Gymraeg i’w plentyn.
Mae sawl adroddiad ymchwil yn nodi fod cefnogi rhieni yn y blynyddoedd cynnar yn fanteisiol i’r plentyn bach nid yn unig yn y tymor byr ond hefyd yn y hir dymor. Mae cefnogi iaith yn un o’r meysydd allweddol hynny ble gall cefnogaeth rhiant wneud byd o wahaniaeth.
Sut mae Cymraeg i Blant a Clwb Cwtsh yn cefnogi rhieni?
Estynnir croeso cynnes i rieni a theuluoedd estynedig o bob cefndir ieithyddol yn y grwpiau a’r sesiynau. Yng ngrwpiau Cymraeg i Blant, mae croeso i siaradwyr Cymraeg rhugl, rhieni sy’n ddihyder yn siarad Cymraeg, yn ogystal â dysgwyr. Mae hefyd croeso i rieni yn y cyfnod cyn-geni alw heibio er mwyn cael blas o’r hyn fydd ar gael iddyn nhw wedi’r enedigaeth.
Mae swyddogion Cymraeg i Blant yn cynnig grwpiau Tylino Babi, Ioga Babi, Arwyddo, Stori a Chân, yn ogystal â sesiynau Fi a Fy Mabi sydd oll am ddim. Os yw tywydd yn caniatáu, yna cynhelir rhai sesiynau allan yn yr awyr agored. Rhoddir pwyslais nid yn unig ar gyflwyno’r Gymraeg a chymorth ymarferol, ond hefyd ar greu ymlyniad cynnar cryf gyda’r plentyn bach. Yn bwysicaf oll mae’r grwpiau yn hwyl ac yn gyfle i rieni a’r neiniau a theidiau ddod i wneud ffrindiau newydd a rhoi’r cychwyn gorau i’r plentyn bach.
Rhennir gwybodaeth am fanteision cyflwyno’r Gymraeg ac anogir rhieni i ystyried dewis addysg a gofal cyfrwng Cymraeg. Cyflwynir y rhieni i’r Cylch Ti a Fi lleol, y Cylch Meithrin a’r Ysgol Gymraeg lleol. Ceir digonedd o gyfleoedd dros baned a bisged i drin a thrafod y Gymraeg, yn ogystal â chyfle i rannu pryderon, rhannu arferion da a llwyddiannau personol.
Mae Clwb Cwtsh yn cynnig cyfres o wyth sesiwn blasu dysgu Cymraeg sy’n canolbwyntio ar iaith magu plant yn y cartref i rieni a gofalwyr plant ifanc. Mae’r sesiynau’n para awr yr un ac yn addas ar gyfer dysgwyr newydd. Mae naws hwyliog ac ysgafn i’r sesiynau, gyda thema benodol bob wythnos sy’n canolbwyntio ar batrymau iaith sy’n ymwneud â bywyd bob dydd plentyn bach yn y cartref e.e.,amser chwarae, amser cinio, amser stori.
Mae’r sesiynau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb mewn rhai ardaloedd ac mae amryw o opsiynau rhithiol ar gael dros Gymru gyfan. Mae croeso i fabis a phlant ifanc ymuno yn y sesiynau; mae hyn yn rhoi’r cyfle euraidd i ddysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg yn syth gyda’r plant gyda’r swyddog yn bresennol i’w hannog i ynganu’n gywir ac i gynyddu eu hyder.
Yn ystod y grwpiau a’r sesiynau rhennir gwybodaeth am ddeunyddiau defnyddiol megis apiau a rhaglenni
S4C, yn ogystal â chyfleoedd i barhau i ddysgu Cymraeg yn lleol ac ar-lein. Annogir rhieni i fynychu
Cylchoedd Ti a Fi ar ôl i’w cyfnod yn y sesiynau ddod i ben, ac yna ymlaen i’r Cylch Meithrin sy’n rhan o daith iaith naturiol y plant tuag at dyfu’n unigolion dwyieithog hyderus.
Felly, os ydych am ddod i adnabod rhieni gyda’r un dyheadau a chi, eisiau cyfle i drin a thrafod y Gymraeg, neu eisiau cyfle i gynyddu eich hyder wrth siarad Cymraeg neu ddysgu Cymraeg am y tro cyntaf, yna mae croeso cynnes i chi mewn sesiwn
Clwb Cwtsh neu grŵp Cymraeg i Blant lleol.
Am fwy o wybodaeth am wasanaeth Cymraeg i Blant a Clwb Cwtsh ewch i:
@Cymraeg i Blant / @Clwb Cwtsh
www.meithrin.cymru/cymraegiblant
Clwb Cwtsh - Learn Welsh for free with Mudiad Meithrin
Nicola Davies, Dirprwy Reolwr Tîm Blynyddoedd Cynnar Casnewydd
Mae tîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Dinas Casnewydd wedi bod yn adolygu eu strategaeth cyfranogiad yn ddiweddar. O ganlyniad i ymgynghori â staff a’r cyhoedd, sefydlwyd Fforwm Lleisiau’r Blynyddoedd Cynnar ar gyfer Casnewydd. Datblygwyd y fforwm fel bod gan rieni a gofalwyr le diogel i rannu eu meddyliau, eu syniadau a’u profiadau i helpu i lunio Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar yng Nghasnewydd. Bellach mae gan deuluoedd â phlant 0-7 oed lwyfan i rannu eu syniadau ar sut i wneud Casnewydd y lle gorau i’n plant ddysgu a ffynnu gan roi’r dechrau gorau ar fywyd iddynt. Gyda’r Wythnos Rhianta Cenedlaethol ar y gorwel agos, rydym am fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw at sut y dylid cefnogi rhieni i ddiwallu anghenion plant yn effeithiol, yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf a gydol eu plentyndod. Ar 7 Hydref 2024 daeth cynrychiolwyr at ei gilydd am y tro cyntaf i drafod yr hyn sydd bwysicaf i deuluoedd o ran cael mynediad at wasanaethau cymorth i rieni yng Nghymru.
Ar frig y rhestr ar gyfer y rhai a fynychodd oedd mynediad at ddewisiadau gofal plant fforddiadwy, pan fydd rhieni’n dychwelyd i’r gwaith gyda’u babanod tua 9 mis oed. Amlygodd y trafodaethau sut mae jyglo oriau gwaith o amgylch oriau ysgol yn heriol ac y byddai mwy o wasanaethau cofleidio ar gyfer adegau codi a gollwng yr ysgol yn help mawr. Roeddent hefyd eisiau gweld mwy o weithgareddau/grwpiau lleol am ddim a oedd yn rhedeg gydol yr wythnos gyfan gan gynnwys penwythnosau. Rhoddwyd ystyriaeth ar gyfer cymorth i rieni sengl a sut y gellir cynyddu hyn yn ogystal â pha wasanaethau cymorth sydd ar gael i dadau sy’n canolbwyntio ar ddod yn rhieni. Gofynnwyd i’r rhai a fynychodd drafod ble mae rhieni’n mynd i ofyn am gyngor ac arweiniad, gyda phawb yn nodi eu bod yn ceisio cyngor o’r Rhyngrwyd, trwy siarad â’u hymwelwyr iechyd, a thrwy eu teulu a’u ffrindiau.
Y newyddion da yw bod Tîm y Blynyddoedd Cynnar eisoes yn mynd i’r afael â rhai o’r pwyntiau a godwyd drwy weithio gyda darparwyr gofal plant yng Nghasnewydd i gynyddu’r mannau sydd ar gael, ehangu’r rhaglen Dechrau’n Deg dan ganllawiau Llywodraeth Cymru, hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru sy’n rhoi’r hawl i’r teuluoedd cymwys hynny gael hyd at 30 awr o ofal plant wedi’i ariannu. Mae’r tîm hefyd yn cyfarwyddo
gwasanaethau i gefnogi’r teuluoedd mwyaf agored i niwed sydd â lleoedd â chymorth, sef cynllun cymorth ariannol i gael mynediad at ofal plant a thrwy allgymorth Dechrau’n Deg.
Gan weithio ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd – y tîm Datblygu Cymunedol, mae grwpiau dynion yn cael eu datblygu a fydd yn cefnogi tadau’n lleol i roi cymorth a chyngor rhianta. Mae aelodau staff gwrywaidd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu cwrs rhianta Cylch Diogelwch, a byddant yn gallu cynnig y grŵp hwn i dadau yn 2025. Cyn i’r grwpiau gael eu cynnig, mae’r tîm yn gweithio’n galed i ymgysylltu â’r rhai sydd leiaf tebygol o ymgysylltu â chymorth trwy feithrin perthnasoedd a chynyddu ymddiriedaeth rhyngddynt.
Mae’r ddarpariaeth wyliau yng Nghasnewydd bellach wedi’i chysylltu ar draws yr holl wasanaethau plant a phobl ifanc i gynnig darpariaeth am ddim i blant cyn oed ysgol yr holl ffordd drwodd i’r ddarpariaeth ieuenctid a all gefnogi pobl ifanc hyd at 25 mlwydd oed. Mae tîm y Blynyddoedd Cynnar yn gweithio gyda’r gwasanaethau Ieuenctid a Chwarae i ddarparu cyfres o weithgareddau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc ar draws y ddinas ym mhob gwyliau ysgol.
Ein camau nesaf yw parhau i ymgysylltu â Fforwm y Blynyddoedd Cynnar i ddangos sut rydym wedi gwrando ar eu meddyliau a’u syniadau, ac i barhau i ganolbwyntio ar sicrhau ein bod yn mynd ati i gymryd rhan go iawn trwy archwilio cyfleoedd ar gyfer cydgynhyrchu.
Nawr, yn fwy nag erioed mae rhieni’n wynebu amrywiaeth dryslyd o ddewisiadau ac weithiau blaenoriaethau sy’n gwrthdaro o ran diwallu anghenion eu plentyn, yn enwedig yn ystod y 1,000 diwrnod cyntaf o fywyd. Ymdopi â’r baich ariannol o fagu plentyn, sicrhau ei fod yn aros yn iach, darparu deiet cytbwys, hwyluso rhyngweithio â phlant eraill, mae’r rhestr yn ddiddiwedd.
Mae’n annhebygol y bydd ystyriaeth o faint o amser y dylid ei neilltuo ar gyfer chwarae yn yr awyr agored gyda’ch plentyn yn dod yn agos at frig unrhyw restr blaenoriaeth i rieni neu ofalwyr. Ac eto, mae tystiolaeth gref i awgrymu bod chwarae yn yr awyr agored wir yn gallu gwneud gwahaniaeth yn y blynyddoedd cynnar hynny, gan gyfrannu’n gadarnhaol at ddiwallu anghenion plant yn y cyfnod hwn o’u bywyd.1
Fodd bynnag, mae diffyg cysylltiad cynyddol rhwng plant a natur, ac yn gyffredinol mae
plant yn byw bywydau llai egnïol o’u cymharu â chenedlaethau blaenorol.2
Yn 2022, mewn ymateb i gynllun gan Lywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn 1,000 Diwrnod Cyntaf bywyd plentyn, lansiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu prosiect 1,000 Diwrnod Cyntaf eu hunain (Prosiect 1,000 Diwrnod Cyntaf - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).
Mae’r prosiect yn ceisio cysylltu teuluoedd â natur a’r awyr agored, gan dynnu sylw at werth mannau gwyllt a chwarae yn yr awyr agored o ran cyfrannu at lesiant plant ifanc a’u teuluoedd. Mae ein cynulleidfaoedd targed ar gyfer y gwaith wedi bod yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Sir Benfro gyda chyfraddau cymharol uchel o dlodi plant.3
Mae’r prosiect yn darparu rhaglenni chwarae yn yr awyr agored sy’n seiliedig ar gymdogaethau a
mannau agored lleol, gan gefnogi teuluoedd nad ydynt yn mynd i fannau agored yn rheolaidd, gan feithrin hyder, ymwybyddiaeth a’r cymhelliant i rieni a phlant dreulio amser yn yr awyr agored. Mae’r prosiect hefyd yn gweithio ochr yn ochr â thîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Sir Penfro, gan gefnogi lleoliadau yn gynnwys canolfannau Dechrau’n Deg i ddatblygu eu defnydd o’r awyr agored.
Fel rhan o’n gwaith, rydyn ni wedi siarad â rhieni am y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu o ran treulio mwy o amser yn yr awyr agored. Nid yw’n syndod bod y tywydd yn ystyriaeth, ynghyd â phryderon am blant yn mynd yn frwnt. Mae diffyg dillad ac esgidiau addas yn cyfyngu ar gyfleoedd, ond mae canfyddiad hefyd ymysg rhai rhieni bod yr awyr agored yn lle anniogel, o bosibl yn cael ei atgyfnerthu gan ddigwyddiadau sy’n cael cyhoeddusrwydd sylweddol a sylw yn y cyfryngau.
Mewn cymunedau gwledig a threfol, mae ‘llwybrau diogel i chwarae’ yn gyfyngedig, gyda ffyrdd prysur a llwybrau troed a phalmentydd o ansawdd gwael yn cyfyngu ar hygyrchedd hyd yn oed lle mae mannau chwarae yn bodoli. Mae’r uchod i gyd yn arwain at ddiffyg hyder ymysg rhieni wrth ystyried treulio amser yn yr awyr agored gyda’u plant.
Yn fwy na dim arall, mae angen i’r amser a dreulir yn yr awyr agored fod yn hwyl i rieni a phlant – er bod ein harsylwadau’n awgrymu bod plant yn mwyhau chwarae yn y mwd yn llawer mwy na’u rhieni! Rydyn ni’n clywed ac yn gweld tystiolaeth o ganlyniadau gwych i’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni awyr agored, hyd yn oed pan nad yw’r tywydd yn berffaith. Mae gweithgareddau chwarae strwythuredig a rhydd yn caniatáu i blant sy’n cael
trafferth mewn lleoliadau dan do ffynnu yn yr awyr agored. Gall amgylchedd awyr agored ddarparu lle i chwarae a gall hefyd fod yn lle i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a datblygu rhyngweithio â chyfoedion. Dywedwyd wrthym fod rhieni hefyd yn mwynhau’r profiad cymdeithasol mewn man awyr agored, yn enwedig os yw’n cynnwys paned o de o amgylch tân gwersyll.
Mae diffyg cyfleoedd ar gyfer chwarae yn yr awyr agored yn debygol o gael effaith anghymesur ar blant o gefndiroedd difreintiedig gan y gall y rhai o gefndiroedd mwy cefnog fanteisio ar fannau awyr agored sy’n hygyrch mewn ceir neu feithrinfeydd lle mae gweithgareddau ‘ysgolion coedwig’ yn rhan o’r profiad bob dydd.
Mewn cymunedau ledled Cymru, mae cyfle i wneud mwy o’n mannau agored i blant a rhieni. Fodd bynnag, mae angen i awdurdodau lleol ac asiantaethau statudol eraill fod yn gefnogol, nid yn unig o ran hyrwyddo gwerth chwarae yn yr awyr agored, ond wrth ystyried datblygiad ein cymunedau yn y dyfodol a’r mannau o’u cwmpas fel eu bod yn aros (neu’n dod) yn lleoliadau deniadol ar gyfer chwarae yn yr awyr agored.
Graham Peake yw arweinydd y tîm Dysgu a Chynhwysiant ar gyfer Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Kelly Davies yw’r Gweithiwr Chwarae Awyr Agored ar gyfer y prosiect 1,000 Diwrnod 1af
Cyfeiriadau
1 Play in Nature: Fun, Safe Outdoor Activities for Children (pathways.org)
12 benefits of outdoor play (and tips for helping kids reap these benefits) (parentingscience.com)
Nature nurtures children Summary Report FINAL.pdf (wildlifetrusts.org)
2 WHAT IS NATURE-DEFICIT DISORDER? | Children & Nature Network (childrenandnature.org)
3 Nearly a quarter of Pembrokeshire children living in poverty (msn.com)
Ychydig fisoedd yn ôl roedd Louise yn teimlo’n is nag erioed, yn cael trafferth ymdopi ag ADHD ei mab a ddim yn gwybod sut i gael help.
Heddiw, mae hi a’i gŵr Sean yn rhieni llawer mwy hyderus i Charlie, sy’n 11 oed. Mae ganddyn nhw wybodaeth am sut y gall y byd ymddangos i blentyn niwroamrywiol a phecyn o dechnegau i’w helpu.
Diolch i weithdai i deuluoedd a gynhaliwyd gan Barnardo’s Cymru yng Nghaerffili, maen nhw wedi gallu cwrdd â rhieni eraill sydd wedi wynebu heriau tebyg a sylweddoli nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
“Roedd hi mor wych gallu siarad am bethau gyda rhieni eraill fel ni. Fyddwn i byth yn siarad am y problemau roeddwn i’n eu hwynebu wrth gât yr ysgol oherwydd bod stigma ynghylch cael trafferth fel rhiant.
“Nawr rydyn ni’n gwybod bod magu plentyn niwroamrywiol yn wahanol ac mae gennym well dealltwriaeth o bethau sy’n gallu helpu,” meddai Louise.
Ar ôl i Louise a Sean gael eu hatgyfeirio at Barnardo’s Cymru, fe wnaethant ddechrau mynd ar gwrs Talking Teens ac yna cawsant gyfle i fod
yn rhan o gyfres o weithdai cymorth ymddygiad niwroddatblygiadol yr oedd y gwasanaeth yn eu cynnig mewn partneriaeth â Gwasanaeth Halcyon.
Dywedodd Louise: “Roedd yn grŵp hyfryd o rieni a gweithwyr proffesiynol, ac roedden ni’n teimlo ein bod mewn amgylchedd diogel lle gallen ni siarad yn agored am ein trafferthion. O fewn hanner awr roeddwn i wedi cael agoriad llygad wrth i mi sylweddoli bod ein problemau’n deillio o niwroamrywiaeth Charlie, nid oherwydd fy mod i’n rhiant gwael.
“O’r blaen, byddwn i wedi digalonni pe bai rhywun wedi awgrymu fy mod i’n mynd ar gwrs magu plant, ond roedd yn gyfle amhrisiadwy i ddysgu technegau gwahanol i helpu gyda phlentyn niwroamrywiol.
“Roeddwn i’n dod o bob sesiwn yn teimlo’n ysgafnach ac wedi fy ngrymuso.”
Dywedodd Sean: “Roedd y cwrs yn anhygoel. Rhoddodd ganiatâd i ni fagu mewn ffordd wahanol.”
Dysgodd y cwpl sut y gallai eu mab deimlo’n anniogel gyda dulliau magu plant traddodiadol. Fe wnaethant ddarganfod y gall defnyddio technoleg
ei dawelu a’i helpu i reoli ei hun, yn hytrach na’u bod yn cael gwared ar ei ffôn neu ei iPad fel cosb am ymddygiad gwael.
Roedden nhw hefyd yn sylweddoli bod angen iddyn nhw roi amser iddo dawelu cyn ceisio rhesymu ag ef.
“Bydd yna ddyddiau gael o hyd, ond mae ein tŷ ni’n llawer tawelach erbyn hyn. Mae’n bendant yn waith sy’n dal i fynd yn ei flaen,” meddai Louise.
Cefnogodd gwasanaeth Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach Barnardo’s dros 300 o deuluoedd ledled Caerffili y llynedd, yn bennaf gyda sgiliau magu plant cyffredinol.
Mae’r gweithdai i deuluoedd wedi cael eu cynnal mewn ymateb i’r galw gan rieni sydd angen help gyda phlant sy’n dangos ymddygiad niwroamrywiol, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw heb gael diagnosis o awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) eto.
Llwyddodd Barnardo’s Cymru i gael cyllid gan Teuluoedd yn Gyntaf i gynnig gweithdai peilot a chyflwyno hwyluswyr o wasanaeth Halycon sydd â phrofiad personol o fagu plant niwroamrywiol.
Dywedodd Fiona Fry, Rheolwr Tîm gyda Barnardo’s Cymru: “Roedd y rhieni a ddaeth yno yn teimlo ei fod yn rymusol iawn. Tan hynny, roedd rhai ohonyn nhw’n teimlo eu bod ar eu pen eu hunain.
“Gall cael plentyn ag ymddygiad heriol fod yn ynysig iawn i rieni a gallan nhw deimlo eu bod yn cael eu barnu gan bobl eraill sy’n gweld ymddygiad ‘drwg’ yn unig.
“Efallai na fydd plant niwroamrywiol yn ymateb i dechnegau magu plant traddodiadol. Os gallwn roi dewisiadau eraill sy’n gweithio gyda’u plant, gall fod o gymorth mawr. Gall y gefnogaeth honno hefyd roi hwb i’w hiechyd meddwl eu hunain, meithrin eu cydnerthedd, eu galluogi i reoli ymddygiad eu plant yn well ac ymdopi â’r dyddiau gwael.”
Ymhlith y meysydd dan sylw mae:
• Rheoleiddio – sut gall rhieni helpu plant i reoli eu hunain pan fyddan nhw’n teimlo eu bod yn cael eu llethu gan y defnydd o ‘fannau diogel’.
• Cyfathrebu – cadw cyfarwyddiadau’n fyr a chaniatáu amser prosesu’
• Cydnabod y bydd plant yn aml yn mynegi eu hanghenion drwy ymddygiad yn hytrach na geiriau.
• Dilysu – efallai na fydd strategaethau magu plant traddodiadol yn effeithiol i blant niwroamrywiol a gall rhieni sy’n teimlo eu bod yn methu ddatblygu strategaethau mwy llwyddiannus drwy ddeall y ffordd y mae eu plentyn yn gweld y byd.
Gall teuluoedd atgyfeirio eu hunain neu gael eu hatgyfeirio gan weithiwr proffesiynol. Yn ogystal â’r gweithdai, mae’r elusen yn cynnig cefnogaeth un i un, yn gweithio mewn ysgolion ac yn cyfeirio at wasanaethau arbenigol sy’n teilwra’r gefnogaeth i anghenion teuluoedd.
“Mae’n ymwneud â gofalu am rieni hefyd. Rydyn ni’n rhoi adnoddau llesiant iddyn nhw sy’n cydnabod yr anawsterau mae llawer o rieni’n eu hwynebu bob dydd,” meddai Fiona.
Sarah Rees
Pennaeth Oxfam Cymru
Ledled Cymru, mae argyfwng tawel yn mynd rhagddo. Mae teuluoedd yn ceisio mynd i’r afael â chostau uchel ac anfforddiadwy gofal plant, ynghyd â diffyg darpariaeth gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd nid yn unig yn bygwth eu sefydlogrwydd ariannol ond sydd hefyd yn rhoi breuddwydion am ehangu teuluoedd a hybu gyrfaoedd y tu hwnt i’w cyrraedd.
Y realiti llym yw nad yw’r system gofal plant bresennol yn bodloni gofynion rhieni, yn enwedig y rhai sy’n byw mewn tlodi. Wrth i gostau byw barhau i fod yn boenus o uchel, mae llawer yn wynebu dewis anodd: talu am ofal plant neu ddarparu ar gyfer anghenion sylfaenol eu teulu.
Y llynedd, datgelodd ymchwil gan Oxfam Cymru sut y mae costau gofal plant uchel yn gwthio rhieni Cymru i dlodi. Nid yw hyn yn ymwneud ag arian yn unig i rieni; mae’n ymwneud â gobaith, sefydlogrwydd, a’r dyfodol. Mae talu gweithwyr gofal plant yn deg yn hanfodol, ond i deuluoedd, pan fydd gofal plant yn cymryd cyfran sylweddol o’u hincwm, mae’n creu cylch o straen ac anobaith a all fod yn anodd ei dorri.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu rhaglenni megis Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant blaenllaw, sy’n cynnig darpariaeth gofal plant gyfyngedig a ariennir, wedi’i thargedu at grwpiau penodol, er yn wahanol, o rieni plant dan bump oed.
Nid yw’r naill gynllun na’r llall yn cyrraedd y nod.
Dim ond dwyawr a hanner y dydd o ofal plant y mae Dechrau’n Deg yn ei gynnig, a hynny mewn lleoliadau dynodedig, i rieni plant dwy oed sy’n byw mewn codau post penodol. Mae’r Cynnig Gofal Plant, yn y cyfamser, yn cynnig mynediad at 30 awr o ofal plant a ariennir, wedi’i rannu rhwng dau leoliad fel arfer, ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni cymwys sy’n gweithio.
Pa ddiben sydd i ddwyawr a hanner o ofal plant i bobl sy’n gweithio neu sy’n chwilio am waith? Ac a allwch ddychmygu unrhyw beth mwy anymarferol na gorfod gadael y gwaith yng nghanol y dydd i symud eich plentyn rhwng lleoliadau gofal plant gwahanol? Heb sôn am ba mor annifyr i blant ifanc yw symud rhwng lleoedd gwahanol.
Nid yw’r clytwaith hwn o ddarpariaeth yn ddigon da.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn addo cyflwyno gofal plant a ariennir ar gyfer bob plentyn dwy oed ers blynyddoedd, gan wneud ymrwymiad penodol i gyflawni hynny yn ei Chytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Ond yr hyn y mae’n ei wneud yn lle hynny yw cyflwyno elfen gofal plant ei chynllun Dechrau’n Deg presennol, er bod ganddo ei ddiffygion, a hynny’n aruthrol o araf, heb fod yna fap ffordd cyhoeddus ar gael i ddangos y modd y mae Gweinidogion yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth hon i bob plentyn dwy oed, a phryd y bydd hynny’n digwydd.
Fel y gŵyr rhieni a darparwyr yn dda iawn, mae sector gofal plant Cymru eisoes yn gwegian oherwydd diffyg buddsoddiad difrifol. Ac eto, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â defnyddio’r arian ychwanegol a ddyrannwyd iddi gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i’r gwariant ychwanegol ar ofal plant yn Lloegr, ar ehangu neu wella gofal plant yng Nghymru. Yn lle hynny, defnyddiwyd yr arian – £180 miliwn yn ôl y sôn – i helpu i lenwi’r twll du cyllidebol a oedd yn wynebu Gweinidogion Cymru, ynghyd â thanwariant o’r Cynnig Gofal Plant presennol.
Wrth gwrs, menywod yn bennaf sy’n talu’r pris am benderfyniadau Gweinidogion Cymru ac oedi anodd ei ddeall, ac mae mamau’n cael eu gorfodi i naill ai leihau eu horiau gwaith neu roi’r gorau i’w gwaith yn gyfan gwbl i ofalu am eu plant.
Seilwaith economaidd a chymdeithasol sylfaenol yw gofal plant, a all, os caiff ei gynllunio a’i ddarparu’n dda, helpu Gweinidogion i gyflawni eu huchelgeisiau o ran gwrthdlodi a’u hymrwymiad i redeg Llywodraeth ffeministaidd. Ond ar hyn o bryd, nid yw system gofal plant Cymru yn cyflawni’r naill beth na’r llall.
Mae yna rai camau uniongyrchol, clir y gallai Gweinidogion eu cymryd, megis gwneud Dechrau’n Deg yn hygyrch i bob rhiant ledled Cymru, a sicrhau nad oes unrhyw gyfyngiadau o ran y lleoliadau y gellir defnyddio darpariaeth Dechrau’n Deg ynddynt.
Ond nid yw ehangu Dechrau’n Deg yn ddigon ynddo’i hun. Mae angen i ni hefyd ystyried modelau arloesol megis yr Addewid Gofal Plant i Deuluoedd, a awgrymwyd gan ymgyrchwyr ac ymchwilwyr yn Pregnant Then Screwed a’r New Economics Foundation, gyda chymorth gan Oxfam Cymru.
Mae’r Addewid Gofal Plant i Deuluoedd yn cynnig agwedd fwy hyblyg at ofal plant, gan sicrhau y gall rhieni gael mynediad at ofal fforddiadwy o ansawdd uchel heb wagio’r banc. Yn y model hwn, byddai costau gofal plant yn cael eu capio ar 5% o incwm y teulu. Trwy rymuso teuluoedd â dewisiadau a chymorth, gallwn greu system sy’n gweithio i bawb, nid dim ond y rhai sy’n gallu ei fforddio.
Mae’r neges yn glir: rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ac asesu’r dewisiadau amgen credadwy sy’n cael eu hawgrymu. Mae rhieni wedi aros yn ddigon hir am atebion sy’n mynd i’r afael yn go iawn â’u hanghenion. Dim ond parhau’r cylch tlodi a llesteirio potensial y mae gohirio gweithredu yn ei wneud. Trwy greu system gofal plant gadarn, nid dim ond helpu teuluoedd yr ydym yn ei wneud; rydym yn buddsoddi yn nyfodol Cymru.
Yn 2023, roedd gan tua un o bob pump o blant a phobl ifanc rhwng wyth a 25 oed anhwylder meddwl tebygol. Gorbryder cyffredinol, anawsterau canolbwyntio, hunan-barch isel, hwyliau ansad a rhyngweithio cymdeithasol oedd y pum mater mwyaf cyffredin a gyflwynwyd ar gyfer plant oed ysgol gynradd a dderbyniodd gymorth cwnsela unigol yn Place2Be yn ystod y flwyddyn.
Mae Place2Be bob amser wedi gweithio mewn partneriaeth agos â rhieni a gofalwyr fel rhan o’n hymagwedd ‘ysgol gyfan’ at iechyd meddwl. Gall rhieni atgyfeirio eu plentyn am gymorth wedi’i dargedu yn ein hysgolion partner a chael cymorth ar heriau magu plant gan ein hymarferwyr teulu.
Mae pryderon cyffredin a rennir gan rieni yn cynnwys sut i adnabod arwyddion bod plant yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl, a pha strategaethau y gellir eu rhoi ar waith gartref i helpu plentyn i ymdopi â theimladau anodd.
Fel rhan o’n hymrwymiad i wella canlyniadau’n barhaus i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, fe wnaethom adolygu ein cynnig rhianta yn llawn y n 2021.
Buom yn ymgynghori â rhieni a gofalwyr yn ysgolion Place2Be i ddysgu mwy am ba fath o gymorth fyddai fwyaf defnyddiol. Roedd hyn yn dangos i ni fod rhieni eisiau cyngor hygyrch, seiliedig ar dystiolaeth ac ymarferol.
Mae Parenting Smart yn wefan rad ac am ddim sy’n llawn cyngor ymarferol, awgrymiadau i rieni a gofalwyr plant oed ysgol gynradd, gan gynnwys fideos byr i ddangos sut i roi canllawiau ar waith.
Ers 2021, rydym wedi gweld mwy na 130,000 o ymwelwyr â’r safle. Mae’r erthyglau yr edrychir arnynt fwyaf yn canolbwyntio ar gefnogi plant â gorbryder, dicter a hunanreoleiddio.
Mae gan rieni a gofalwyr y mae eu plentyn yn mynychu ysgol Place2Be hefyd fynediad at y Cwrs
Parenting Smart Online, a ddatblygwyd gennym mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG De Llundain a Maudsley. Mae’r cwrs yn seiliedig ar dechnegau profedig i ymdrin â heriau magu plant a helpu i feithrin cysylltiadau cryf â phobl ifanc.
Mae ein hymarferwyr teulu hefyd yn cynnig
Hyfforddiant Rhianta Unigol Personol (PIPT) i rieni a gofalwyr sy’n chwilio am gymorth arbenigol i adeiladu ar eu sgiliau a rheoli ymddygiad. Mae PIPT yn cynnwys chwech i ddeg sesiwn rhiant/ plentyn, lle gall rhieni ddysgu sgiliau newydd gyda chymorth therapydd hyfforddedig. Ein nod yw cefnogi a pharatoi rhieni a gofalwyr i feithrin gwydnwch ac iechyd meddwl da yn eu plant.
Mae data canlyniadau o’n holl ymyriadau rhianta yn dangos effaith gadarnhaol ar y berthynas rhiant/plentyn ac ar draws hyder rhieni wrth reoli ymddygiad, gyda rhiant yn dweud: “Rwy’n teimlo’n dawelach o lawer yn fy nghalon ac rwy’n gyffrous i dreulio mwy o amser gartref gyda fy merch”. Dywedodd un arall: “Rwy’n teimlo’n fwy hyderus o wybod fy mod yn defnyddio strategaethau defnyddiol ac wedi sylwi ar ei hymddygiad yn newid mewn ymateb i fy un i”.
Gwyddom y gall rhianta cadarnhaol gael effaith fawr ar ganlyniad plentyn. Eto i gyd, erys stigma yn gysylltiedig â chael mynediad at gymorth, gyda rhieni’n aml yn beio eu hunain yn gyflym.
Mae’n bwysig ein bod yn normaleiddio y gall fod angen cymorth ar unrhyw riant yn ystod eu taith magu plant. Mae rhieni a gofalwyr yn haeddu’r cymorth gorau i feithrin eu hyder, eu gwytnwch a’u lles fel y gallant helpu eu plant i ffynnu.
Dysgwch fwy am gynnig rhianta Place2Be
Anabledd Dysgu Cymru
Amcangyfrifir bod plant tua 40-60% o rieni ag anabledd dysgu yn cael eu cymryd i ofal1. Nid oes gennym ddata cywir ar gyfer Cymru ond o gofio bod gennym ni gyfradd uwch o blant sy’n derbyn gofal, mae’n debygol nad yw nifer sylweddol o rieni ag anabledd dysgu yng Nghymru yn byw gyda’u plant.
Mae tystiolaeth yn dangos bod gan blant y mae gan eu rhieni anabledd dysgu ac sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cymdeithasol plant lefelau uchel o angend2. Mae cydweithio effeithiol ar draws pob asiantaeth, yn enwedig
gwasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion, yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant a’u teuluoedd. Fodd bynnag, mae hyn yn aml yn dameidiog neu ddim yn bodoli. Mae diogelu a hyrwyddo lles plant yn hollbwysig ac mae’n rhaid i hyn fod yn berthnasol yn gyfartal i blant rhieni ag anabledd dysgu. Fodd bynnag, mae gan y teuluoedd hyn anghenion penodol sy’n gofyn am wybodaeth a sgiliau arbenigol i alluogi gweithwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaeth teg a chyfiawn.
Nid yw llawer o weithwyr cymdeithasol yn teimlo eu bod yn ddigon cymwys i ddarparu’r cymorth arbenigol mae rhieni ag anabledd dysgu ei angen, yn enwedig yn y broses amddiffyn plant. Yn aml, nid oes gan weithwyr cymdeithasol plant y sgiliau a’r profiad i weithio’n effeithiol gyda rhieni ag anabledd dysgu, ac efallai na fydd gan weithwyr cymdeithasol sy’n oedolion ddealltwriaeth ddigonol o’r broses amddiffyn plant i’w cefnogi’n effeithiol. Mae problemau hefyd ynghylch a yw rhieni’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gan wasanaethau oedolion.
Mae methu â darparu cefnogaeth ddigonol i rieni ag anabledd dysgu yn debygol o fod yn niweidiol i les y plant a gallai fod yn groes i hawliau’r plant a’r rhieni. O dan Erthygl 23 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, mae gan bobl ag anabledd dysgu hawl i berthnasoedd a bywyd teuluol. Mae ganddynt yr hawl i ddewis gyda phwy maen nhw’n byw, gan gynnwys partner neu briod ac unrhyw blant sydd ganddynt. Mae gan bobl anabl hefyd yr hawl i’r canlynol:
• “cael mynediad at wybodaeth sy’n briodol i’w hoedran, addysg atgenhedlu a chynllunio teulu”
• “cymorth priodol [...] mewn perthynas â pherfformio cyfrifoldebau magu plant”
Felly, rhaid rhoi pob cyfle i rieni ag anabledd dysgu ddangos eu bod yn gallu rianta’n ddiogel gyda chymorth priodol. Mae ganddynt hawl i gael mynediad cyfartal i wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chymorth i rieni. Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i “hyrwyddo cyfle cyfartal”3 ac i wneud addasiadau rhesymol i bolisïau, arferion a gweithdrefnau lle bo hynny’n angenrheidiol.
Mae diffyg cefnogaeth arbenigol ddigonol i rieni ag anabledd dysgu yn aml yn ffactor sy’n cyfrannu at dynnu eu plant oddi arnynt. Mae llawer o’r ychydig wasanaethau arbenigol a oedd yn bodoli yng Nghymru wedi cael eu colli yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd diffyg cyllid, gan gynnwys prosiect Ymbarel Gweithredu dros Blant a phrosiectau eiriolaeth arbenigol yng Nghaerffili a Phen-y-bont ar Ogwr. Mae llawer o awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaethau eiriolaeth generig yn
unig ond i rieni ag anabledd dysgu nid yw hyn yn aml yn ddigonol gan fod angen eiriolwr arnynt sydd â gwybodaeth arbenigol am y system amddiffyn plant yn ogystal â dealltwriaeth dda o sut i gefnogi eu hanghenion penodol.
Sut mae cefnogaeth dda yn edrych?
Yn 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer gweithwyr cymdeithasol ar weithio gyda theuluoedd lle mae gan riant anabledd dysgu4. Mae’r canllawiau pwysig hyn yn nodi sut y dylid nodi rhieni a’u cefnogi i ofalu am eu plant gyda’r nod o leihau nifer y plant sy’n cael eu cymryd i ofal.
Mae’r canllawiau’n ymdrin â nifer o faterion allweddol, gan gynnwys:
• Gwerthoedd ac egwyddorion
• Nodi
• Cyfathrebu
• Eiriolwyr annibynnol
• Asesiad
• Cefnogaeth effeithiol
• Cydweithio
Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol
Dylai unrhyw weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd fod ag ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anghenion pobl ag anabledd dysgu. Dylai staff sy’n darparu cymorth uniongyrchol i deuluoedd neu sy’n cynnal asesiadau gael hyfforddiant manylach ar sut i gefnogi rhieni ag anabledd dysgu. Dylai arbenigwyr anableddau dysgu ddarparu hyfforddiant, gan gynnwys rhieni ag anabledd dysgu eu hunain lle bynnag y bo modd. Dylai’r hyfforddiant gynnwys amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
• Stereoteipio ac agweddau cymdeithasol negyddol
• Rhwystrau i gynhwysiant a dealltwriaeth
• Deddfwriaeth a chanllawiau
• Gwybodaeth hygyrch
• Gwahaniaethau niwrolegol
• Materion cyfathrebu
• Ymddygiad a heriau cymdeithasol
• Camdriniaeth, troseddau casineb ayyb
• Cyfeillgarwch, perthnasoedd a rhywioldeb.
I ddarganfod mwy, ewch i’n gwefan ac ymunwch â’n rhwydwaith ar weithio gyda rhieni ag anabledd dysgu: https://www.ldw.org.uk/cy/project/rhieni-aganabledd-dysgu/
References
1 Wilson a’i gydweithwyr, 2013
2 Canllawiau arfer da ar weithio gyda rhieni ag anabledd dysgu (2007)
3 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
4 Canllawiau i weithwyr cymdeithasol ar gyfer teuluoedd lle mae gan y rhiant anabledd dysgu
Mae Bethan yn byw ym Morgannwg gyda’i merch, Isabelle, sy’n saith oed ac a gafodd ddiagnosis o awtistiaeth difrifol yn ddwy oed:
“Mae Isabelle yn ddi-eiriau ac yn gallu bod yn ymosodol ar adegau. Gall ymweld â mannau cyhoeddus a thorfeydd mawr fod yn llethol iddi oherwydd problemau synhwyraidd, felly nid ydym yn cael llawer o gyfle i fynd allan gyda’n gilydd fel teulu.
Fel rhiant ofalwr, rwy’n cefnogi Isabelle gyda mynd i’r toiled, hylendid, gwisgo a chysgu. O ran bwyta, bydd Isabelle ond yn bwyta bwydydd sawrus sych fel ‘nuggets’ a pizzas. Mae’n anodd ar adegau ond dw i wedi dysgu bod yn fwy amyneddgar.”
Gwnaeth Bethan gais i Gronfa’r Teulu ychydig flynyddoedd yn ôl, i dderbyn grantiau a chefnogaeth ehangach:
“Roedd yr arian a dderbyniwyd ar gyfer Isabelle yn mynd tuag at eitemau synhwyraidd. Gwnaethom ddefnyddio’r arian i brynu amseryddion tywod, bagiau ffa, ac offer arall i gefnogi ei hanghenion synhwyraidd. Mae’r amseryddion tywod wedi ei helpu llawer gyda’i hamynedd. Hyd yn oed yn yr ysgol, mae Isabelle bellach yn gwybod bod yn rhaid iddi aros nes bod yr amserydd yn rhedeg allan cyn iddi droi i wneud rhywbeth arall.
Cafodd Isabelle grant tuag at siglen hefyd. Mae hi wrth ei bodd ac mae hi hyd yn oed yn aros arno tan amser gwely. Mae’n rhoi cyfle iddi ymarfer corff. Cyn y siglen, ni fyddai Isabelle hyd yn oed yn mynd allan i’r ardd.
Mae Cronfa’r Teulu yn elusen anhygoel. Mae’r broses gyfan yn hawdd.”
Gwnewch gais am grant heddiw
Anogir teuluoedd sy’n magu plant neu bobl ifanc anabl yng Nghymru i wneud cais i Gronfa’r Teulu rhwng dydd Mawrth 8 Hydref a dydd Llun 4 Tachwedd.
Gall rhieni a gofalwyr wneud cais am ystod eang o eitemau, gan gynnwys offer cegin, fel oergell, popty neu beiriant golchi; dillad neu welyau a dillad gwely; offer synhwyraidd neu offer chwarae; eitemau technoleg fel tabledi a gliniaduron; neu seibiant teuluol.
Darllenwch ragor am bwy all wneud cais, ar wefan Cronfa’r Teulu yma.
Mwy o gefnogaeth i rieni a gofalwyr
Ochr yn ochr â grantiau, gall Cronfa’r Teulu helpu teuluoedd i ddod o hyd a chael mynediad at gymorth arall sydd ar gael ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar ble i fynd am help gydag arian a budd-daliadau, cynllunio cyllidebau, addysg plant, iechyd meddwl a lles, hyfforddiant digidol a gweithdai creadigol. Edrychwch ar dudalen gymorth ehangach Cronfa’r Teulu yma
I weithio gyda Cronfa’r Teulu, neu i gymryd rhan, yng Nghymru, cysylltwch â Davina, Rheolwr Ymgysylltu Partneriaeth Cymru: davina.carey-evans@familyfund.org.uk
Melanie Simmonds
Pennaeth Achub y Plant Cymru
Gwyddom o weithio gyda rhieni, pan fyddwn yn neilltuo amser i ddod â phobl ynghyd a buddsoddi mewn meithrin perthnasoedd rhwng gweithwyr proffesiynol a theuluoedd, y gallwn helpu i wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau.
Mae bron i un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi. I lawer o rieni, mae cost eitemau hanfodol yn anfforddiadwy a’u sefyllfa yn gwaethygu oherwydd prisiau bwyd ac ynni cynyddol.
Dywedodd rhiant o Gymuned Dysgu Cynnar Betws wrthym fod “…dim ond mynd yn fwy ac yn fwy mae costau byw ac allai i ddim â gweld sut y gall hynny byth wella. Mae’n golygu llai o arian ar gyfer pethau hanfodol eraill fel dillad a bwyd a llai o weithgareddau hamdden i’r plant yn enwedig pan fo angen eu diddanu yn ystod gwyliau’r ysgol.”
Mae cyllidebau teuluoedd yn cael eu hymestyn i’r eithaf, ac o ganlyniad mae llawer yn syrthio i
gylch dieflig o ddyled, sydd wrth gwrs yn peri straen a phryder aruthrol ar unigolion. Mae tlodi hefyd yn gwaethygu’r amodau ar gyfer iechyd meddwl gwael, drwy achosi teimladau o stigma a chywilydd i rai o’r rhieni a’r plant.
Disgrifiodd Siân*, rhiant sengl ag un plentyn sy’n gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd, ac a gymerodd ran yn ein prosiect ymchwil Hwyl i Chwarae, sut roedd effaith gyfunol ei hanawsterau ariannol, costau gofal plant a’r teimlad o unigedd ar ôl y pandemig yn teimlo fel “taro wal frics.”
“Pan roedd yn rhaid i mi ddefnyddio’r banc bwyd am y tro cyntaf, roeddwn i’n torri nghalon gan fod cymaint o embaras arna’ i. Rwy’ bob amser wedi bod yn annibynnol, wedi prynu fy nhŷ fy hun. Fe darodd yr holl beth fi oddi ar fy echel; effeithiodd yn fawr arnaf. Dw i wedi gweithio’n galed! Ac mae’n rhaid i mi fynd i fanc bwyd!”
Rydym am helpu plant a theuluoedd mewn tlodi drwy wneud yn siŵr bod eu lleisiau’n cael eu clywed pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud. Rydym am i wasanaethau allu cydweithio’n well fel bod mwy o arian yn mynd i mewn i bocedi teuluoedd.
Mae plant a rhieni yn dweud wrthym yn gyson eu bod am gael dweud eu dweud ar bethau o bwys, a’u bod am wneud gwahaniaeth i’w cymuned. Yn Achub y Plant rydym wedi bod yn archwilio dulliau ‘Effaith ar y Cyd’, lle mae cymunedau’n cael eu cefnogi i ddod at ei gilydd a dilyn agenda ar gyfer newid er gwell, cydgysylltu ymdrechion a chyfuno adnoddau i wneud defnydd o’r sgiliau a’r capasiti sydd eisoes ar gael.
Dros y misoedd nesaf, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu ac arddangos gwaith ein prosiectau Cymunedau o Ymarfer yng Nghaerdydd a Chastell-nedd Port Talbot ymhellach drwy gyllid cynllun Tlodi plant: Grant Arloesi a Chefnogi Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Mae cynnwys plant a rhieni yn yr holl drafodaethau wrth wraidd y prosiect. Byddwn yn gweithio i gefnogi partneriaid i weithio mewn ffordd wahanol i gynnwys rhieni a’u plant wrth fapio cryfderau ac anghenion cymunedol ac i ddod o hyd i atebion creadigol i’r heriau anochel.
Mae cydweithio hefyd wrth galon ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol wrth i ni baratoi i weithio gyda sefydliadau amrywiol i frwydro yn erbyn tlodi plant. Byddwn yn gwthio Llywodraeth Cymru i gadw eu haddewidion a gwneud penderfyniadau ar sail profiadau go iawn.
Mae’n ymwneud â throsglwyddo y pŵer a chael ein harwain gan leisiau plant a rhieni.
Canolfan Byw’n Egnïol Pont-y-pŵl
Cwrs 10 wythnos
Sesiynau gydag arbenigwyr
Cymorth Cyntaf
Sesiynau seicoleg
Cefnogaeth iechyd meddwl
Aelodaeth am ddim o’r gampfa
Cofrestrwch nawr a sganiwch y Cod QR.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch Jacob.Guy@torfaen.gov.uk
Jacob Guy, Swddog Datblygu Chwaraeon
Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Mae For Dads By Dads yn cael ei redeg gan
Jacob O Datblygu Chwaraeon Torfaen a Gareth o Dorfaen Blynyddoedd cynnar - Rhaglen 10 wythnos AM DDIM yw’r rhaglen sydd wedi’i hanelu at dadau newydd a rhai sy’n disgwyl. Mae’n rhoi lle diogel i dadau ddysgu am dadolaeth trwy bŵer gweithdai sydd wedi’u hanelu at y grŵp targedig hwn. Mae’r sesiynau yn 2 awr yr un ac mae 2 raglen y flwyddyn. Mae llwybrau ymadael i fentrau dad eraill gan gynnwys cylch diogelwch, tadau yn ystod y dydd a sesiynau dad a fi.
Mae cyfleoedd i’r dynion ddysgu am iechyd meddwl amenedigol, cymorth cyntaf i blant a babanod, seicoleg, cymorth i rieni/tadau, gosod targed i enwi ychydig drwy weithdai.
Rydym yn gweithio gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Dreigiau yn y gymuned, Sir Casnewydd yn y gymuned, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, 4minds, Tidy Butt a llawer o rai eraill
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Jacob.guy@torfaen.gov.uk.
For Dads, By Dads | Torfaen County Borough Council
https://www.facebook.com/share/r/ RzUZ3BTr8urW83R9/?mibextid=UalRPS
For Dad, By Dads | Torfaen County Borough Council
Parenting programme helps new dad | Torfaen County Borough Council
https://www.cwmbranlife.co.uk/two-torfaen-menwant-new-and-expectant-dads-to-sign-up-for-freeparenting-course/
https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-65889965
https://vimeo. com/906795671/1053ff7a6d?share=copy
Mens Health Awareness Month by Torfaen Talks CIC Community Podcast (spotify.com)
https://www.youtube.com/watch?v=mxvmM_dPojk
Dads’ programme leads to friendship | Torfaen County Borough Council
Pan ofynnwyd iddynt ystyried pa heriau y gallai rhiant newydd gydag amhariad ar eu golwg (VI) eu hwynebu, gellid tybio mai tasgau ymarferol - fel gallu dehongli’r print mân ar boteli meddyginiaeth neu leoli’r cynhyrchion cywir yn ardal babanod yr archfarchnad - sy’n achosi’r mwyafrif o broblemau.
Mewn gwirionedd, nid yw rhai o’r heriau mwyaf yn rhai ymarferol o gwbl. Mae technoleg yn esblygu’n gyson i helpu pobl sydd â cholled golwg i fyw bywydau annibynnol. Mae apiau fel NaviLens, a wnaeth gydweithio â SMA yn ddiweddar i ychwanegu codau sganio ar eu holl becynnau babanod, yn helpu i wneud y byd yn fwy hygyrch i rieni ag amhariad ar eu golwg.
Mae rhieni’n dweud wrthym ei bod yn anoddach goresgyn rhagdybiaethau negyddol – gan deulu, rhieni eraill, weithiau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol hyd yn oed – am eu gallu i ymdopi â gofynion rhianta. Gall yr ystrydebau hyn effeithio ar eu hyder a’u hunan-barch.
“Roedd hi’n drist iawn i fy mhlant pan ddywedodd rhieni ffrindiau wrthyn nhw na all eu merch na’u mab ddod i chwarae yn ein tŷ ni oherwydd fy mod i’n ddall.” (Rhiant VI)
Nod cyfres ‘Rhianta gydag Amhariad ar y Golwg’ RNIB yw mynd i’r afael â’r ystrydebau negyddol, gan rannu cyngor ac awgrymiadau gan rieni sydd ag amhariad ar eu golwg sydd â’r profiad a gwybodaeth i brofi nad yw colled golwg yn rhwystr i fod yn rhiant cymwys.
Mae’r canllawiau yn ymwneud â materion allwedd gan gynnwys:
• Llywio’r gwasanaethau mamolaeth, apwyntiadau ac ymwneud â gweithwyr proffesiynol.
• Awgrymiadau ar gyfer tasgau ymarferol o newid cewynnau a diddyfnu i ddelio â gwaith cartref a chynllunio taith ysgol.
• Siarad â’ch plentyn am amhariad ar y golwg.
“Fe ddysgodd fy mhlant yn gyflym, er mwyn dangos unrhyw beth i mi, bod angen i dad weld â’i ddwylo.” (Rhiant VI)
Er bod canllawiau ysgrifenedig yn ddefnyddiol, dim ond cymorth cyfyngedig y gall ei ddarparu. Yn aml, yr hyn sydd ei angen ar rieni yw grŵp cyfoedion sy’n deall eu hamgylchiadau. Mae Grŵp Rhieni VI RNIB yn cyfarfod bob mis dros Teams, gan sefydlu man diogel lle gallant rannu straeon a gofyn am gyngor. Trwy ryngweithio anfeirniadol, sgwrsio am y pryderon a dathlu’r llwyddiannau, mae rhieni’n dechrau teimlo’n rhan o gymuned a deall bod ganddyn nhw’r sgiliau a’r rhwydwaith cymorth i ymateb i heriau magu plant.
Wrth gwrs, mae i bobl sydd â cholled golwg yn gwynebu heriau ymarferol o fewn cymdeithas ac mae rhai o’r rhain yn cael effaith benodol ar rieni sydd ag amhariad ar y golwg. Un enghraifft yw mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, rhywbeth y mae’r ddemograffeg hon yn ystadegol fwy tebygol o ddibynnu arno na’u cyfoedion sydd â golwg.
Mae RNIB Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion teithio a thrafnidiaeth yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriadau diweddar ar dechnoleg a sgiliau digidol, sydd i gyd yn hanfodol i allu pobl ddall ac â golwg rhannol i fyw bywydau annibynnol.
Mae goblygiadau ariannol magu plentyn yn enfawr i unrhyw rian, fodd bynnag, yn 2023, roedd ymchwil a gynhaliwyd gan RNIB Cymru yn awgrymu bod pobl ddall ac â golwg rhannol yn cael eu heffeithio’n waeth gan gynnydd mewn costau byw na’r boblogaeth ehangach. Mae’r ymchwil, a grynhoir yn yr adroddiad Cost Colled Golwg yng Nghymru, yn dangos bod pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi profi costau bwyd, trafnidiaeth a goleuo uwch – sydd i gyd yn cael effaith uniongyrchol ar allu teulu i gyllidebu yn effeithiol.
Tra bod RNIB Cymru yn parhau i weithio gyda llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan alw am gymorth wedi’i dargedu’n fwy ar gyfer pobl sydd â cholled golwg, mae’n bwysig bod rhieni sydd ag amhariad ar y golwg yn deall ac yn gallu cael mynediad at yr holl fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt. Yn ogystal â’r RNIB, gall sefydliadau fel Sight Cymru a Chyngor Cymru i’r Deillion gynnig cymorth a chyngor am fudddaliadau i deuluoedd.
Mae bod yn rhiant yn brofiad hwylus, cyffrous sy’n newid bywyd ac nid oes un diwrnod yn debyg i’r diwrnod nesaf. Mae gan bob teulu ei heriau a’i uchafbwyntiau ei hun ac, er y gall rhianta gydag amhariad ar y golwg fod yn frawychus weithiau, mae gan y fam hon i dri o blant eiriau o anogaeth:
“Nid yw anabledd yn gyfystyr ag anallu. Mae’n golygu eich bod yn gwneud pethau’n wahanol i rywun sy’n gallu gweld. Gallwch chi barhau i goginio, glanhau, defnyddio cyfrifiadur mynd â’ch plant at y meddyg, darllen llyfrau iddyn nhw, ac, yn bwysicaf oll, gallwch chi eu caru cymaint ag y gall mam sydd â golwg.” (Rhiant VI)
Cyfeiriadau a chymorth bellach
Sight Cymru: https://sightcymru.org.uk/
Wales Council of the Blind: https://wcb-ccd.org.uk/ support
Blind Parents UK: https://blindparents.uk/
Guide Dogs: https://www.guidedogs.org.uk/guidedogs-cymru/
Canllawiau rhianta gydag amhariad ar y golwg: https://www.rnib.org.uk/living-with-sight-loss/ independent-living/parenting/resources-for-blind-orpartially-sighted-parents/
RNIB Helpline: 0303 1239999
Gwasanaeth CYPF RNIB: cypf@rnib.org.uk
Er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth am unrhyw wasanaethau RNIB ar gyfer rhieni gydag amhariad ar y golwg, gan gynnwys y Grŵp Rhieni VI misol, cysylltwch â cypf@rnib.org.uk
Yr Athro Judy Hutchings a Dr Margiad Williams, Cyd-Gyfarwyddwyr
y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth, Prifysgol Bangor
Grŵp rhieni yn Montenegro
Mae’r Ganolfan yn parhau i gynnal ymchwil a hyfforddiant i gefnogi gwasanaethau i ddarparu rhaglenni sy’n seiliedig ar dystiolaeth gan ganolbwyntio ar dair rhaglen dros y flwyddyn ddiwethaf; y rhaglen Rhianta ar gyfer Iechyd
Gydol Oes ar gyfer rhieni plant rhwng 2 a 9 oed, rhaglen Llyfrau Gyda’n Gilydd i rieni plant 3 i 6 oed a’r rhaglen gwrth-fwlio ysgol gyfan KiVa ar gyfer plant cyfnod allweddol II rhwng 9 ac 11 oed. Mae gwybodaeth am ein gwaith gyda’r holl raglenni hyn ar gael ar ein gwefan.
Datblygwyd y rhaglen Rhianta ar gyfer Iechyd Gydol
Oes i rieni Plant Ifanc rhwng 2 a 9 oed (PLH–YC) i ddechrau gan yr Athro Hutchings ym Mhrifysgol Bangor a Dr Jamie Lachman ym Mhrifysgol
Rhydychen. Dyluniwyd y rhaglen i gefnogi rhieni a phlant o wledydd incwm isel a chanolig trwy ddarparu adnodd am ddim. Mae gan y rhaglen drwydded ‘Creative Commons’ sy’n sicrhau na ellir ei defnyddio er elw.
Y rhesymeg dros PLH oedd bod lefelau trais yn erbyn plant, sy’n aml yn gysylltiedig â thlodi ac anfantais, yn sylweddol uwch mewn gwledydd incwm isel a chanolig lle mae hyd at 60% o blant yn cael eu disgyblu’n gorfforol. A lle mae adnoddau’n gyfyngedig.
Am dros 50 mlynedd ymchwiliwyd i raglenni rhianta i atal neu leihau trais yn erbyn plant mewn gwledydd incwm uchel ond yn fwy diweddar
mewn gwledydd incwm isel. Mae rhaglenni sy’n seiliedig ar theori dysgu cymdeithasol yn fwyaf effeithiol ac mae hyn yn ffurfio craidd y rhaglen PLH. Wedi’i gynllunio ar gyfer lleoliadau adnoddau isel, mae’r rhaglen yn defnyddio straeon darluniadol y gellir eu haddasu’n hawdd o ran enwau, dillad ac ati, gan wledydd unigol. Mae tystiolaeth o gludadwyedd rhaglenni a ddatblygwyd mewn gwledydd incwm uchel yn awgrymu bod egwyddorion craidd theori dysgu cymdeithasol yn berthnasol ar draws lleoliadau felly roedd yr addasiadau yn arwynebol yn bennaf o ran iaith, darluniau, ac yn y blaen.
Datblygwyd PLH-YC yn wreiddiol fel rhaglen 12 sesiwn er ei bod wedi’i haddasu a’i chyflwyno mewn amrywiaeth o wahanol hydoedd. Mae gan y rhaglen dystiolaeth o hap dreialon rheoledig(RCTs) ar draws nifer o wledydd, gan gynnwys De Affrica lle cafodd ei threialu i ddechrau, Ynysoedd y Philipinas lle cafodd ei uno â system trosglwyddo arian ar gyfer teuluoedd incwm isel, yng Ngwlad Thai ac mewn tair gwlad yn Nwyrain Ewrop. Mae CEBEI wedi bod yn rhan o’r treialon hyn i gyd, yn y Weriniaeth Tsiec ac o gyflwyno’r rhaglen yng Nghymru.
Mae prosiect saith mlynedd, rhwng Bangor ac UNICEF ym Montenegro wedi arwain at ymgorffori’r rhaglen yno a sicrhau cydnabyddiaeth ac achrediad gan y llywodraeth. Cyhoeddwyd y canlyniadau yn ddiweddar yng nghylchgrawn Prevention Science. Dechreuodd y prosiect gyda hyfforddiant a gwerthusiad annibynnol o’r rhaglen gyda 79 o rieni, a gwelwyd ostyngiadau sylweddol mewn problemau ymddygiad plant ac iselder mamol a chynnydd mewn rhianta cadarnhaol, gan gynnwys gostyngiadau mewn ymddygiad camdriniol gan rhieni tuag at blant. Yn dilyn y llwyddiant hwn, cytunodd y llywodraeth a’r asiantaethau i gyflwyno’r rhaglen, ac erbyn hyn mae 97 o hwyluswyr, 10 anogwr a dau hyfforddwr wedi cael eu hyfforddi a’r rhaglen yn cael ei chyflwyno i dros 1300 o rieni.
O ystyried y llwyddiant hwn a’r ymrwymiad enfawr a wnaed gan UNICEF Montenegro dros y saith mlynedd diwethaf, dyfarnwyd grant Cydweithio Rhyngwladol ym Mangor yn ddiweddar i ymgymryd â datblygu rhaglenni pellach i’w cyflwyno gyda’r boblogaeth Roma ym Montenegro mewn cydweithrediad ag UNICEF Montenegro a
Hyfforddiant arweinyddion cyntaf yn Ne Affrica
Enghraifft o stori ryngweithiol plentyn-gofalwr allan o’r rhaglen
Phrifysgol Montenegro. O dan y gwaith ar y grant newydd, sydd i’w gwblhau erbyn mis Mawrth 2025, mae’r rhaglen wedi’i haddasu a’i symleiddio ymhellach, gan gysidro heriau llythrennedd llawer o’r boblogaeth Roma a natur ddwyieithog y gymuned (ieithoedd Albaneg a Montenegrin). Bydd grwpiau’n cael eu cynnal yn ystod tymor yr hydref gyda goruchwyliaeth ar-lein ar gyfer hwyluswyr rhaglenni. Cesglir data dilynol annibynnol ym mis Ionawr a’r canlyniadau a gyflwynwyd erbyn mis Mawrth 2025 yn dilyn ymweliadau cyfnewid rhwng Bangor a 4 partner Montenegrin.
Am fwy o wybodaeth ewch i’r wefan neu e-bostiwch j.hutchings@bangor.ac.uk
Mynegodd rhieni fod angen grwpiau i’r rhai sy’n poeni am ddatblygiad eu plant. Roeddent yn teimlo bod bwlch yn y cynnig ac roedd angen iddynt fod yng nghwmni rhieni sy’n rhannu’r un profiadau. Gwnaethom wrando ac ymateb. Wrth gyfuno gweithwyr proffesiynol o wahanol dimau o fewn CSG, gan gynnwys y Gwasanaeth Anabledd, Therapi Galwedigaethol, Iaith a Lleferydd, ein nyrs ADHD a’n timoedd rhianta o Dechrau’n Deg, Gweithredu dros Blant a’r Tîm o Amgylch y Teulu, lluniwyd Darganfod byd eich plentyn. Rydym eisoes yn cynnig gweithdy penodol ynghylch ADHD i rieni, ond roeddent am gael mwy o wybodaeth am ddatblygiad cyffredinol eu plant. Gofynnon nhw am fwy o wybodaeth yn gynt, mynediad haws i weithwyr proffesiynol i allu ateb cwestiynau, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am ddatblygiad plant a sut i gefnogi eu plant i ffynnu a gofalu amdanynt eu hunain.
Er bod y cwrs hwn yn cael ei arwain gan Dîm
Rhianta Dechrau’n Deg, mae’r cwrs yn y broses o gael ei addasu ar gyfer plant o bob oedran mewn ardaloedd gwahanol. Mae’r sesiynau’n arwain rhieni ar daith o ran derbyn a lles. Caiff lle diogel ei greu i annog rhieni i drafod eu meddyliau a’u teimladau am anghenion eu plant ac i ddechrau meddwl am y modd y gallwn ofalu am eu lles eu hunain. Yn aml bydd rhieni’n sôn am ddiffyg amser i wneud hyn. Rhan fawr o’r sesiynau yw dangos i’r rhieni fod hyn yn bosibl a’i bod yn bwysig iddynt fel rhieni lenwi eu cwpanau er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion ein plant.
Yn yr ail sesiwn rydym yn sôn am bwnc dybryd –Cwsg! Gall hyn amrywio o ddiffyg cwsg i ddihuno yng nghanol y nos, trefn arferol, neu’r angen i rieni gysgu. Mae’r rhain i gyd yn bwysig iawn ac rydym hefyd yn sicrhau ein bod yn rhoi sylw i anghenion y rhieni o ran cwsg. Rydym yn cynnig awgrymiadau i ddatrys y problemau cysgu sy’n cael eu codi.
Bydd y drydedd a’r bedwaredd sesiwn yn cael eu darparu gan y Tîm Therapi Galwedigaethol a’r Tîm Iaith a Lleferydd. Bydd y gweithiwr galwedigaethol yn sôn am anghenion synhwyraidd a sut i atgyfeirio at y gwasanaeth. Byddant hefyd yn sôn am sut i gefnogi eich plentyn o ran strategaethau uniongyrchol sydd eu hangen ar blant ag anghenion synhwyraidd sydd wedi cael profiadau o drawma neu unigolion ag anabledd neu anghenion ychwanegol. Math o gyfathrebu, iaith a lleferydd fydd yn cael ei drafod yn y bedwaredd sesiwn gan weithiwr iaith a lleferydd. Yn y sesiwn edrychir ar wahanol fathau o gyfathrebu a chefnogi cyfathrebu yn y cartref.
Wedyn awn ar daith chwarae gyda’r rhieni. Canolbwyntiwn ar chwarae rhad gan gadw ein plant mewn cof yn y bumed sesiwn. Trafodwn y cylch chwarae, pwysigrwydd chwarae i blant a phwysigrwydd derbyn bod pob plentyn yn chwarae’n wahanol. Rhown syniadau o ran chwarae i rieni a’u cyfeirio at ap Dechrau’n Deg. Darparwn sesiynau chwarae yn yr ystafell nesaf i blant ochr yn ochr â’r sesiynau darganfod byd ein plentyn. Caiff y plant gyfle i gymryd rhan mewn chwarae anniben a synhwyraidd. Caiff pob teulu gymhelliad ar ddiwedd y cwrs a fydd yn seiliedig ar y sesiwn hon.
Mapio datblygiad fydd ffocws y chweched sesiwn. Yn y sesiwn hon edrychwn ar wahanol feysydd datblygu gan ganolbwyntio ar sut maent yn cyflwyno’u hunain yn hytrach nag oedran y plant. Trafodwn sut y mae hyn yn effeithio ar ymddygiad y plentyn a sut mae digwyddiadau yn ystod y dydd yn effeithio ar hyn. Bydd gwybod am hyn yn galluogi’r rhieni i ragweld y teimladau sydd y tu ôl i’r ymddygiadau ac i rianta mewn modd mwy empathig.
Amser cwestiwn ac ateb fydd y sesiwn olaf. Bydd ein Gwasanaeth Anabledd, ein Tîm Camau
Bach, a’n nyrs ADHD yn arwain y sesiwn hon. Cymorth pwrpasol fydd hwn a bydd amser am drafodaethau un i un.
Mae’r adborth rydym wedi’i gael hyd yn hyn wedi bod yn hynod gadarnhaol. Mae’r rhieni’n ddiolchgar am y mynediad cyflym i wasanaethau arbenigol a’r awgrymiadau ymarferol o ran cymorth maent wedi’u cael wrth aros am gymorth arbenigol. Yn bwysicach fyth, maent yn teimlo eu bod yn ‘perthyn’ i rieni eraill a bod eu rhwydwaith cymorth wedi tyfu’n aruthrol.
Mae’r rhieni wedi darganfod lle y maent yn teimlo eu bod yn cael eu clywed. Ar ôl y cwrs hwn gall rhieni ymuno â chyrsiau eraill rydym yn eu cynnig fel bod y cymorth yn parhau o ran anghenion eraill y plant.
Hannah Newton (Gweithiwr cymorth iechyd meddwl graddedig), Dr Emma Johnston (Seicolegydd Clinigol ac Arweinydd Gwasanaeth), Dr Alice Horton (Seicolegydd Cwnsela) & Sarah Halliday (Rhiant Ofalwr)
Mae Tîm Profiad y Blynyddoedd Cynnar (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)
Mae Tîm Profiad y Blynyddoedd Cynnar (Llygad) yn darparu cymorth seicolegol i deuluoedd â phlant 0-5 oed sydd ag Anableddau Dysgu sy’n Dod i’r Amlwg (ELD), Oedi Datblygiadol Byd-eang (GDD), a Nam Datblygiadol sy’n Dod i’r Amlwg (EDI). Mae Llygad yn gwerthfawrogi dyngarwch, cysylltiad, chwilfrydedd, ac adeiladu perthynas, gan ymdrechu i gefnogi teuluoedd mewn modd therapiwtig sy’n ystyriol o drawma ac sy’n mynd y tu hwnt i therapi traddodiadol. Ein nod yw helpu teuluoedd i brofi bywyd yn wahanol, gan ganiatáu i fregusrwydd gael ei rannu a’i gefnogi, fel y gall pobl fyw eu bywydau gorau. Cafodd yr isod ei gyd-gynhyrchu gyda rhieni sy’n gofalu am blant ag anableddau dysgu ac fe’i hysgrifennwyd i adlewyrchu’r sgyrsiau a geir gyda theuluoedd rydym yn gweithio gyda nhw.
Blaenoriaeth i rieni sy’n ofalwyr yng Nghymru yw cyrchu gwybodaeth ac adnoddau. Mae angen
mynediad ar rieni at wybodaeth ac adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n cael eu rhannu mewn ffordd anfeirniadol a dilys. Sicrhau bod rhieni’n cael eu cefnogi heb deimlo eu bod yn cael eu llethu neu eu dadrymuso gan farn arbenigol. Yn ail, gwaith cydgysylltiedig trawsasiantaeth. Mae angen cymorth symlach, amlddisgyblaethol lle mae gwasanaethau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol yn cydweithio’n effeithiol. Lleihau’r angen i rieni esbonio eu sefyllfa i wahanol weithwyr proffesiynol, sy’n gallu bod yn brofiad ailadroddus a blinedig. Mae cymorth Iechyd Meddwl ac Emosiynol yn flaenoriaeth arall, mae rhieni’n aml yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl eu hunain, gan gynnwys bod yn agored i orbryder ac iselder. Mae mynediad at grwpiau cymorth cymheiriaid, cwnsela un-i-un, a gwasanaethau arbenigol yn hollbwysig. Mae ymchwil yn dangos bod 42% o rieni sy’n ofalwyr
wedi profi meddyliau hunanladdol, gan amlygu’r angen am systemau cymorth sy’n sensitif i’r heriau hyn ac sy’n darparu ymyriadau amserol. Mae cefnogaeth addysgol emosiynol yn flaenoriaeth y sonnir amdani yn aml. Dylai ysgolion ddarparu cymorth sydd wedi’i deilwra i anghenion unigol, yn enwedig y rheini â symptomau neu ymddygiadau cymhleth nad ydynt o bosibl yn weladwy ar unwaith. Rhaid i systemau addysg fod yn fwy cynhwysol ac ymatebol i’r anghenion amrywiol hyn.
Mae rhieni yn aml yn ei chael hi’n anodd llywio trwy systemau cymhleth gofal iechyd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Maent yn wynebu oedi, cam-gyfathrebu ac anghysondebau. Mae diffyg ymwybyddiaeth a chefnogaeth gymunedol. Mae rhieni’n teimlo’n ynysig oherwydd diffyg dealltwriaeth a chefnogaeth gan gymunedau. Gall diffyg ymwybyddiaeth arwain at fwy o rwystredigaeth a stigma. Gall jyglo cyfrifoldebau gofalu, cyflogaeth, a bywyd teuluol arwain at straen sylweddol ac euogrwydd rhieni. Gall canfyddiadau cymdeithasol o anabledd fel rhywbeth negyddol gymhlethu eu profiad ymhellach. Mae rhieni yn aml yn mynegi pryderon am y dyfodol. Poeni am ragolygon tymor hir eu plentyn, gan gynnwys cyfleoedd addysgol, cyflogaeth, byw’n annibynnol, sefydlogrwydd ariannol, cynhwysiant cymdeithasol, ac iechyd meddwl.
Beth mae Llygad yn ei wneud i gefnogi’r teuluoedd hyn?
Rydym yn cynnig gwasanaeth therapi rhieni. Mae seicolegydd cwnsela yn cynnig therapi i rieni a chyplau, gan ddarparu gofod diogel i fynegi eu teimladau a gwneud synnwyr o’u profiadau. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cefnogi’r system ehangach trwy oruchwyliaeth ac ymarfer myfyriol, gan annog meddwl a datblygiad seicolegol.
Mae gennym Fentor Rhiant sy’n Ofalwr (PCM) fel rhan o’r tîm. Yn dod â phrofiad bywyd i’r tîm, gan ddylanwadu ar strategaethau cymorth ac eirioli dros newidiadau systemig. Mae cydgynhyrchu gyda rhieni yn ganolog i’n dull gweithredu.
Rydym yn cynnig Portage a Dulliau Cadarnhaol Cynnar ar gyfer Cynorthwyo (E-PATS). Mae Portage yn grymuso rhieni gydag offer a sgiliau i gefnogi twf eu plentyn trwy gymorth personol, sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae E-PAtS yn
cynnig rhaglen sy’n canolbwyntio ar y teulu ar gyfer rhieni plant ag anableddau dysgu, gan hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol a lles emosiynol.
Mae Llygad yn cynnal boreau coffi a grwpiau arbenigol ar gyfer tadau a brodyr a chwiorydd. Adeiladu cymuned sy’n deall eu heriau unigryw.
Fel tîm rydym yn wynebu llawer o rwystrau, gan gynnwys cymorth ariannol. Mae angen mwy o gymorth ariannol i gynnal rhaglenni ymyrraeth gynnar a gwasanaethau hirdymor. Mae diffyg cydnabyddiaeth o ddulliau Atal Cynnar gyda anableddau dysgu. Mae angen mwy o gydnabyddiaeth i arwyddocâd dulliau atal cynnar, sy’n wahanol i normau datblygiadol nodweddiadol. Gallai hyn leihau’r pwysau ar wasanaethau eraill yn y tymor hir. Yn olaf, mae gwasanaethau presennol yn aml yn dameidiog, gan rannu cymorth rhwng gwahanol grwpiau oedran. Mae angen dull gweithredu mwy integredig ar draws y rhychwant oed (0-25 mlynedd) ar gyfer cefnogaeth deuluol gyson a byddai’n lleihau trawma yn y system.
Mae nodi anghenion yn gynnar ac ymyrraeth drwy raglenni fel Dechrau’n Deg a Chymorth ADY y Blynyddoedd Cynnar yn gam cadarnhaol. Fodd bynnag, mae bylchau. Mae cyfyngiadau ariannu yn aml yn cwtogi ar fentrau addawol. Mae diffyg ymgysylltu â gwasanaethau rheng flaen i ddeall eu gwaith a’u hanghenion. Mae’r system yn parhau i fod yn adweithiol yn hytrach na rhagweithiol, gyda ffocws ar wylio ac aros yn lle ymyrraeth gynnar.
Mae lleisiau rhieni, yn enwedig lleisiau plant ag anghenion dysgu ychwanegol, yn hollbwysig. Mae eu profiadau bywyd yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr a ddylai fod yn ganolog i lunio polisïau a gwasanaethau. Rhaid ymdrechu i atseinio’r lleisiau hyn, gan sicrhau eu bod yn cael eu clywed a’u parchu fel arbenigwyr yn eu rhinwedd eu hunain.
Gydag Wythnos Genedlaethol Rhiant yn nesáu, a oes ffordd well i ddathlu na dynnu sylw at bwysigrwydd Gofal Plant a Chwarae wrth gefnogi rhieni i ddiwallu anghenion eu plant yn effeithiol a’r effaith y mae’n ei chael ar eu bywydau gwaith.
Mae Clybiau Gofal Plant all ysgol yn cynnig gofal y tu allan i ddiwrnod ysgol llawn amser y plentyn, gan redeg cyn ysgol, ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol i blant 3 - 11+ oed. Maent yn galluogi rhieni a gofalwyr i weithio a hyfforddi i wella amgylchiadau
eu teuluoedd ac maent yn arbennig o bwysig i rieni unigol/teuluoedd incwm isel a’r rhai sy’n gweithio i ffwrdd o’r cartref.
Mae Gweithwyr Chwarae Cymwysedig yn darparu profiadau sy’n gyfoethog o ran chwarae ac sy’n cael eu harwain gan blant, gan hybu hunanbarch a lles plant a’u helpu i ddatblygu ystod o sgiliau bywyd. Mae clybiau Cymraeg Saesneg, a dwyieithog yn darparu gofal plant fforddiadwy, yn y gymuned, gan gynnig cyfleoedd datblygu
a chyflogaeth i staff ysgol ac aelodau’r gymuned. Mae lleoliadau gofal plant o safon yn mynd i’r afael â thlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol ac yn gwella canlyniadau i blant. Yn unol ag ethos Ysgolion Bro, mae clybiau’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau teuluoedd ac aelodau’r gymuned, gan helpu i ddatblygu cymunedau ffyniannus sy’n cael eu grymuso a’u cysylltu.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn gwybod, o’n hymchwil ein hunain, fod rhieni’n dweud mai cost gofal plant yw’r prif rwystr i ddefnyddio gofal plant neu ddefnyddio mwy ohono. Gwyddom hefyd na allwch roi pris ar chwarae a gofal plant o safon. Mae staff hyfforddedig ac astud yn darparu profiadau difyr a fydd yn ffurfio atgofion plentyndod hapus ac yn gwella lles meddyliol a chorfforol a chyrhaeddiad addysgol plant, gan gefnogi eu cyfleoedd a’u potensial yn y dyfodol.
Dylai gofal plant fod yn hygyrch i bob teulu a phlentyn. Mae cynlluniau cymorth ariannol ar gael i deuluoedd sy’n gweithio, a lle mae eu plant yn mynychu lleoliad gofal plant sydd wedi’u cofrestru hefo Arolygiaeth Gofal Cymru. Cymorth sydd ar gael Credydau Cynhwysol, Gofal Plant Di-dreth a Chynnig Gofal Plant Cymru. Gall teuluoedd ar incwm isel neu sydd angen help gyda’u costau byw dderbyn cymorth ariannol hyd at 85% i dalu costau gofal plant gan Gredyd Cynhwysol ac efallai y byddant hefyd yn gallu cael mynediad at daliadau gofal plant ymlaen llaw. Gall hyd yn oed rhieni sy’n ennill cymaint â £100,000 elwa ar gymorth o 20% gan y system gofal plant Di-dreth. Ar gyfer rhieni plant 3 i 4 oed sy’n gweithio ac yn hyfforddi, mae’r Cynnig Gofal Plant 30 awr yn caniatáu i blant 3-4 oed gael mynediad at 20 awr o ofal plant am ddim bob wythnos yn ystod y tymor a 30 awr yn ystod y gwyliau.
Croesewir y cynlluniau hyn ar gyfer teuluoedd sy’n gweithio, ond rydym yn dal i weld bylchau ar gyfer y rhieni nad ydynt yn gweithio nad yw eu plant yn cael yr un cyfleoedd i gael profiadau chwarae o safon a chymdeithasu â phlant o fewn eu cymuned.
Cawsom gyfraniad gan The Moondance Foundation a alluogodd ni i gyflawni ein prosiect Grant Lleoedd Gofal-Plant gan alluogi plant na fyddent fel arfer yn mynychu, mynediad i ofal plant a sesiynau cyfoethogi chwarae mewn Clybiau Gofal Plant all ysgol gyda’u cyfoedion. Galluogodd y prosiect hwn 225 o blant i fynychu 1,515 o sesiynau mewn Clybiau Gofal
Plant all ygol a reoleiddir rhwng Mai 1af ac Awst 31ain, gan gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddyliol plant ac mae adborth cynnar a dderbyniwyd yn dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r prosiect yn ei chael ar blant a’u teuluoedd. Dylai Clybiau Gofal Plant allysgol fod yn hygyrch i bawb a bydd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn parhau i geisio cyllid ychwanegol i gefnogi teuluoedd ar draws i allu gwneud hynny.
Lansiwyd Porth Lles Wrecsam yn swyddogol ym mis Hydref 2023, ochr yn ochr â Strategaeth Atal a Help Cynnar Wrecsam.
Mae’r Porth Lles yn blatfform digidol sy’n rhoi mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd a phawb sy’n gweithio gyda nhw, ac mae’r mynediad yn gyflym a hawdd, ac mewn un lle. Er mai platfform digidol yw’r Porth, mae rhyngweithio dynol ar bwyntiau allweddol trwy gydol y daith.
Datblygwyd y Porth Lles ar ôl ymgynghoriad helaeth â theuluoedd, lle dywedasant wrthym fod rhaid iddynt gysylltu â sawl gwahanol sefydliad yn aml wrth chwilio am gefnogaeth. Yn aml, bydd y broses hon yn cynnwys ailadrodd eu hanes droeon wrth sawl sefydliad, wrth chwilio am gefnogaeth sy’n iawn iddyn nhw. Yna caiff sawl atgyfeiriad ei wneud fel arfer, i nifer o sefydliadau, cyn iddynt allu cael mynediad at gefnogaeth, a gall arwain at rwystredigaeth a dryswch.
Nod y Porth yw lleihau’r rhwystrau hyn yn sylweddol trwy ddarparu un lle i bobl i rannu eu stori a lle gallant gael mynediad at nifer o sefydliadau gan gynnwys yr Awdurdod Lleol, Iechyd a’r Trydydd Sector.
Trwy’r dudalen lanio ar gyfer y Porth, mae dewis i unigolion ddefnyddio’r adnodd hunanwasanaeth a chael gwybodaeth am sefydliadau sydd ar gael sy’n ymwneud â’u maes pryder trwy deils syml sy’n cyfeirio’r defnyddiwr at feysydd pwnc allweddol fel cefnogaeth i bobl ifanc, cefnogaeth i deuluoedd, tai a thenantiaethau a llawer mwy. Mae’n gysylltiedig â gwefan DEWIS Cymru er mwyn sicrhau bod gwybodaeth bresennol yn cael ei defnyddio, bod y wybodaeth yn gywir a chyfredol ac nad yw ymdrechion yn cael eu hailadrodd.
Os nad yw unigolion yn gyfforddus wrth gysylltu â sefydliadau eu hunain, neu os nad ydynt yn siŵr a allant ddiwallu eu hanghenion, gallant lenwi ffurflen ar-lein syml a rhannu rhywfaint o wybodaeth am y math o gefnogaeth allai fod ei hangen arnynt.
Pan fydd y ffurflen hon wedi’i chyflwyno, caiff ei hadolygu gan weithiwr profiadol o naill ai Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd i Wrecsam, Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd (Tîm o Amgylch y Teulu Wrecsam) neu’r Siop Wybodaeth a chynhelir sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’, trwy alwad ffôn fel arfer. Mae’r sgwrs lawnach hon yn sicrhau bod modd rhoi ystyriaeth i amgylchiadau llawn y teulu a bod modd nodi cefnogaeth briodol.
Yn y cam nesaf, caiff y cais ei anfon at un neu fwy o feysydd canolbwynt ar-lein. Mae’r canolbwyntiau hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n darparu cefnogaeth mewn maes penodol. Ar hyn o bryd, maen nhw’n cynnwys Anabledd ac Anghenion Ychwanegol, Magu Plant, Incwm, Budd-daliadau a Dyled, Cyfarfodydd Grŵp Teulu, Cefnogaeth Ieuenctid ac Iechyd Meddwl a Lles. Mae 29 sefydliad ar draws y canolbwyntiau hyn sydd wedi cofrestru i fod yn rhan o’r Porth. Bydd rhai o’r sefydliadau hyn ar fwy nag un maes hwb.
Bydd y sefydliadau’n mewngofnodi i’r Porth i adolygu’r cais, nodi a allan nhw ddarparu gwasanaeth neu beidio a chysylltu â’r unigolyn.
Er bod y Porth wedi’i lansio’n swyddogol ym mis Hydref 2023, mae wedi bod yn fyw ers mis Ebrill 2023. Ers hyn, mae 137 o geisiadau wedi dod i law trwy’r Porth Lles.
Mae’r Porth Lles yn darparu Un Pwynt Mynediad i deuluoedd sy’n ceisio llywio byd cefnogaeth atal a help cynnar, a all fod yn gymhleth a dryslyd weithiau. Ei nod yw grymuso teuluoedd i’w galluogi i ddewis pa gefnogaeth sydd orau i’w teulu wrth roi cyngor a chanllawiau priodol iddynt hefyd.
Cafodd y Porth Lles ei enwi’n enillydd y categori Cyflawniad Digidol yng Ngwobrau Sector Cyhoeddus Granicus UK yn ddiweddar.
Mae Porth Lles Wrecsam i’w weld yma.
Mae Fforwm Cymru Gyfan i Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu yn sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio i ddod â llais ac i gydnabod gofalwyr rhiant ar lefel genedlaethol, ranbarthol ac lleol.
Rydym yn gweithio gydag nifer o rwydweithiau partner, gan gynnwys grwpiau cymorth ar gufer gofalwyr rhieni , partneriaid y trydydd sector, fforwmau lleol a rhanbarthol a Llywodraeth Cymru. Rydym yn sicrhau bod teuluoedd ag anableddau dysgu yng Nghymru yn yr galon o unrhyw gynllunio ac ymgynghoriadau a fydd yn effeithio arnynt er mwyn helpu i siapio eu cymunedau a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi.
Mae rhieni a gofalwyr yn wahanol i rolau gofal eraill gan ei bod yn daith ofalu gydol oes.
Ni fydd llawer o rieni byth yn cydnabod eu hunain fel gofalwr ond fel ‘mam’ neu ‘dad’ yn unig. Mae’n bwysig i ni i gyd flaenoriaethu adnabod rôl rhieni ac yn sicrhau eu bod yn deall eu hawliau a’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Mae yna lawer o partneriau sy’n peri pryder i ofalwyr rhieni yng Nghymru, ac mae llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd ymdopi. Rydym yn teimlo bod angen blaenoriaethu’r materion
hyn, a gyd-gynhyrchu atebion ochr i ochr â theuluoedd. Byddaf yn darparu trosolwg cryno o rai o’r prif bryderon mae teuluoedd yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn aml mae rhieni’n disgrifio’r profiad o “syrthio oddi ar glogwyn” wrth i’w plentyn drosglwyddo o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, gan ddod wyneb yn wyneb â diffyg cymorth sy’n cyd-fynd â hynny. Pan fyddwch yn ymwneud â gwasanaethau plant ar gyfer anghenion gofal a chymorth eich plentyn anabledd dysgu, mae llawer o bobl o’ch cwmpas, ond pan fyddwch yn symud i wasanaethau oedolion, mae’r rhwydweithiau hyn yn diflannu ac rydych yn gorfod mynd ar ôl pobl eich hun, sy’n gallu bod yn flinedig ar ben eich rôl gofalu eisoes sy’n ormodol. Gall fod diffyg cysondeb o ran cymorth gan wasanaethau a throsglwyddo cyfrifoldeb rhwng gwahanol weithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal eich plentyn. Mae llawer o rieni hefyd yn gweld eu hunain yn gorfod ailadrodd eu sefyllfaoedd yn gyson, sy’n gallu bod yn flinedig yn ac yn emosiynol.
Trwy ein prosiect Cymunedau Gofalu Newid, rydym yn edrych ar atebion amgen a creadigol tuag at egwyliau byr, trosglwyddiadau a gweithgareddau cymunedol. Gwyddom nad
yw’r modelau traddodiadol yn gweithio i bob teulu, felly rydym yn cyd-gynhyrchu atebion i gyd-fynd â’r gwasanaethau traddodiadol hynny a fydd yn diwallu anghenion teuluoedd mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw. Rhoi llais, dewis a rheolaeth i ofalwyr rhieni dros y cymorth y maent ei angen. Mae hyn yn cyd-fynd â ysbryd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n rhoi hawliau i ofalwyr di-dâl ar wahân i’r person y maent yn gofalu amdano.
Rydym yn deall bod seibiant ac egwyliau yn edrych yn wahanol i bob teulu ac mae’n bwysig bod hyn yn cael ei ddeall gan bawb sy’n ymwneud â chefnogi gofalwr rhiant i gael y seibiant hwn. Gyda’n prosiect, rydym yn archwilio dulliau a modelau gwahanol a fyddai’n rhoi hyblygrwydd i deulu gael seibiant o’u dewis; boed yn unigol neu fel teulu cyfan, boed hynny o fewn y gymuned leol neu y tu allan iddi, boed hynny am un diwrnod, un awr neu un penwythnos. Mae’n bwysig iawn bod perthynas a hyder yn cael eu hadeiladu wrth fynd ar y daith hon.
Rydym hefyd yn gwybod nad yw pob opsiwn byw â chymorth yn gweithio i bob teulu. Gyda’n prosiect, rydym eisiau archwilio modelau tai cydweithredol a fyddai’n rhoi’r perchnogaeth a’r cymorth i deuluoedd ddylunio lleoliad byw annibynnol mewn ffordd a fydd yn diwallu eu hanghenion ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n werthfawr o fewn y broses hon.
Trwy’r prosiect Cymunedau Gofalu Newid, rydym yn gweithio mewn cyd-gynhyrchiad gyda theuluoedd, partneriaid y trydydd sector, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod holl leisiau’n cael eu cynnwys yn y broses ddylunio a chyflwyno hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gofalwyr di-dâl o fewn deddfwriaeth fel y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a grybwyllwyd yn gynharach ac yn y Siarter Gofalwyr Di-dâl. Crëwyd y siarter i gydnabod bod anghyfartaleddau mawr rhwng y lefelau o gymorth a gynigir i ofalwyr rhwng byrddau iechyd a awdurdodau lleol gwahanol ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio tuag at ddealltwriaeth gyffredin o hawliau gofalwyr di-dâl a’r lefel o wasanaeth y dylent ei gael, gan ddileu’r “postcode lottery”.
Am fwy o wybodaeth am Fforwm Cymru Gyfan neu i gysylltu â mi, mae croeso i chi gysylltu â mi yn: grace@allwalesforum.org.uk
Grace Coppock Swyddog Polisi
Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu www.allwalesforum.org.uk
Os yw bwlio wedi effeithio ar eich plentyn chi, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Canfu ymchwil o brosiect Cyswllt Rhieni Cymru, pan holwyd rhieni neu ofalwyr am y materion oedd yn effeithio ar eu plant, fod bwlio yn y pump uchaf. Teimlai 22% o rieni fod hynny wedi effeithio ar eu plentyn.
Yn wir, canfu adroddiad Gobeithion i Gymru y Comisiynydd Plant yn 2023 fod ychydig dros 40% o rieni a gofalwyr yn sôn bod plentyn yn eu gofal wedi profi gwahaniaethu yn eu herbyn, bwlio, cam-drin llafar/corfforol neu aflonyddu.
Mae effeithiau bwlio’n ddwys, ac maen nhw’n gallu parhau i oedolaeth. Maent hefyd yn effeithio, nid ar y plentyn ei hun yn unig, ond ar y teulu ehangach. Fel rhan o ymchwil Kidscape gyda Phrifysgol Efrog, esboniodd rhieni sut roedd profiadau eu plentyn o fwlio yn peri pryder sylweddol, yn effeithio ar eu gwaith a’u hiechyd meddwl, ac yn rhoi’r teulu
dan straen. Mae’r canfyddiadau hyn yn adleisio ymchwil flaenorol.
Ond mae ffyrdd i rieni neu ofalwyr gefnogi eu plentyn – a sicrhau cefnogaeth eu hunain. Elusen atal bwlio sydd wedi ennill gwobrau yw Kidscape, ac mae ganddyn nhw Linell Gyngor i Rieni. Gall unrhyw un sy’n pryderu am blentyn mewn sefyllfa fwlio dderbyn cyngor di-dâl, heb feirniadaeth.
Mae gennych rôl bwysig fel rhiant, a dyma rai awgrymiadau ar gyfer taclo’r broblem:
Addysgu’ch hunan: Ceisiwch ddysgu mwy am fwlio, ei arwyddion, a’i effaith.
Annog cyfathrebu agored: Ceisiwch annog deialog agored gartref, lle bydd plant yn teimlo’n ddiogel yn trafod eu teimladau a’u profiadau. Gall gwrando gweithredol a dilysu eu hemosiynau helpu plant i fynegi eu pryderon ynghylch bwlio heb ofni cael eu barnu.
Meithrin gwydnwch: Dysgwch strategaethau ymdopi a sgiliau gwydnwch i blant. Gall senarios chwarae rôl eu paratoi ar gyfer sefyllfaoedd bwlio posibl, a’u helpu i allu datblygu ymddygiad pendant. Mae Kidscape yn cynnig gweithdai ZAP am ddim i helpu i ddysgu’r sgiliau yma.
Ceisio help proffesiynol: Os oes effaith ar lesiant emosiynol plentyn, gofynnwch i weithiwr iechyd meddwl proffesiynol am help. Gall therapyddion helpu plant i brosesu eu profiadau a datblygu dulliau iach o ymdopi.
Cydweithio â’r ysgol: Gweithiwch yn agos gydag athrawon i ymdrin ag achosion o fwlio. Bydd gan ysgolion bolisïau, gweithdrefnau ac adnoddau yn eu lle i ddelio â bwlio, a gall cyfraniad rhieni ychwanegu at yr ymdrechion hynny. Cewch help ynghylch siarad â’r ysgol ar wefan Kidscape.
Hybu empathi a chynhwysiant: Anogwch empathi a charedigrwydd trwy fodelu ymddygiad cadarnhaol a meithrin amgylchedd cynhwysol gartref. Gall trafod pwysigrwydd sefyll yn erbyn bwlio rymuso plant i weithredu trwy wneud safiad, yn ogystal.
Bod yn ymwybodol o ymddygiad digidol eich plentyn: Mae’n hanfodol bod rhieni’n wybodus am sut mae eu plant yn rhyngweithio ar-lein. Gall addysgu plant am ddiogelwch digidol, a chanlyniadau ymddygiad ar-lein, helpu i greu amgylchedd rhithwir mwy diogel. Mae gan Kidscape gyngor ar seiberfwlio a diogelwch digidol.
Yn olaf, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae’n gallu bod yn anodd dros ben pan fydd eich plentyn yn troi atoch ynghylch bwlio, ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun.
Y Gangen Hawliau Plant a Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru
Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru. Ym mis Ionawr 2020, pasiodd y Senedd Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 (“y Ddeddf”) i helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru.
Er mwyn helpu ymarferwyr i ddeall a chymhwyso’r gyfraith newydd, mae Llywodraeth Cymru a Plant yng Nghymru wedi datblygu adnodd e-ddysgu. Mae hwn yn galluogi gweithwyr proffesiynol ym maes teuluoedd a phlant i ganfod eu ffordd drwy’r newidiadau, gan sicrhau y gallant roi gwybodaeth a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc yn hyderus.
Derbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 20 Mawrth 2020 a daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.
Ni wnaeth y gyfraith newydd greu trosedd newydd; yn hytrach, mae wedi dileu amddiffyniad cyfreithiol 160 mlwydd oed i blant gael eu cosbi’n gorfforol gan eu rhieni neu’r rheiny sydd ag awdurdod rhiant. Dros y blynyddoedd, roedd deddfwriaeth wedi cyfyngu ar yr amgylchiadau
lle gellid defnyddio’r amddiffyniad, ynghyd â’r lleoliadau lle gellid cosbi plant yn gorfforol. Roedd cosb gorfforol eisoes wedi’i gwahardd mewn ysgolion, cartref plant, cartref gofal maeth awdurdodau lleol, a lleoliadau gofal plant. Mae yn awr hefyd yn anghyfreithlon yn y cartref.
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yw’r sylfaen ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru ar blant. Mae gwahardd cosb gorfforol i blant yn cyd-fynd ag erthygl 19 CCUHP, sef yr hawl i ddiogelu rhag pob math o drais.
Amcan cyffredinol y gyfraith hon yw amddiffyn hawliau plant drwy wahardd cosbi plant yn gorfforol. Mae hyn yn golygu bod gan blant yr un amddiffyniad rhag ymosodiad ag oedolion. Mae’r gyfraith yn glir - hawdd i blant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd ei deall.
Bwriedir i’r Ddeddf, ar y cyd ag ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chymorth i rieni, arwain at ostyngiad pellach yn y defnydd a’r goddefgarwch o gosb gorfforol i blant yng Nghymru
Mae’r adnodd e-ddysgu yn cynnwys:
• Deall y Ddeddfwriaeth - Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020;
• Rôl a chyfrifoldebau ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant;
• Deall pryderon rhieni a’r pwysau ar rieni;
• Esbonio ac ymateb i blant a phobl ifanc; a
• Lle i gael gafael ar ragor o wybodaeth, cymorth a hyfforddiant.
Repository - Hwb (gov.wales)
Mae canllawiau ac adnoddau hefyd wedi’u datblygu i gefnogi ymarferwyr i wreiddio ymwybyddiaeth a rhaeadru gwybodaeth berthnasol, gadarnhaol a grymusol i blant a phobl ifanc am y gyfraith.
Stopio Cosbi Corfforol yng Nghymru: canllawiau cyfathrebu | LLYW.CYMRU
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ 029 2034 2434
@ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk