






Croeso gan ein Prif Weithredwr, Hugh Russell
Chwalu Muriau: Yr Hawl i gael Cyfweliad ar ôl Dychwelyd (NYAS)
Blaenoriaethu hawliau babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru (Plant yng Nghymru)
‘Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru’: Y Llyfr Hawliau Plant a Ysgrifennwyd gan Bobl Ifanc, ar gyfer Pobl Ifanc
Mae Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd blynyddol bellach yn fyw
Hawliau plant mewn
teulu breifat a’r peilot Braenaru (Cafcass Cymru)
Ffocws ar Ofal Plant All-ysgol a Chwarae (Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs)
Chwe pheth y byddai pobl ifanc yn eu gwneud pe baent wrth y llyw (Comisiynydd Plant Cymru)
Golygydd: Louise O’Neill louise.oneill@childreninwales.org.uk
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ
029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk
Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Rhif Cofrestru’r Cwmni: 2805996
Nid yw’r farn a fynegir yn y cyhoeddiad hwn o reidrwydd y farn Plant yng Nghymru, ac rydym ni’n cadw’r haw i olygu cyn cyhoeddi
Croeso bawb i Rifyn y Gwanwyn o Gylchgrawn Chwarterol Plant yng Nghymru.
Mae’r gwanwyn yn dymor o newid, felly gosodwyd y thema ar gyfer y rhifyn hwn o’r cylchgrawn gyda hynny mewn golwg. Yn wleidyddol, rydym yn mynd i weld newidiadau eleni ar raddfa na theimlwyd ers blynyddoedd. Rydym yn croesawu Prif Weinidog newydd Cymru, Vaughan Gething, a chabinet newydd cysylltiedig (er y bydd llawer o’r ffigurau ynddo yn gyfarwydd i aelodau Plant yng Nghymru o rolau blaenorol). Rydym hefyd yn barod ar gyfer etholiad cyffredinol, y mae’r arolygon wedi dangos yn gyson y bydd yn arwain at lywodraeth Lafur.
Mae’n werth nodi ar y pwynt hwn ein bod yn disgwyl i etholiadau gael eu cynnal ledled Cymru ar gyfer cynrychiolwyr i Senedd Ieuenctid y DU eleni. Mae tranc anffodus, diweddar Cyngor Ieuenctid Prydain, a ddarparodd gydgysylltu canolog ar gyfer Senedd Ieuenctid y DU, wedi golygu y bu’n rhaid oedi’r etholiadau hyn. Rwy’n ymwybodol bod hyn yn golygu ansicrwydd a rhwystredigaeth i bobl ifanc, ond hoffwn sicrhau darllenwyr ein bod wedi bod yn gweithio gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a phartneriaid eraill i roi’r rhaglen ar waith cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi’r cyfle hwnnw i bobl ifanc Cymru i leisio eu barn.
Drwy gydol y cyfnod hwn o newid gwleidyddol, nod Plant yng Nghymru yw sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol a bod lleisiau ein haelodau’n cael eu clywed gan lunwyr polisi. Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog yn gosod yn uchel ar ei restr flaenoriaeth yr angen brys i fynd i’r afael â thlodi plant a chanolbwyntio’n fawr ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf hollbwysig ym mywydau plant, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef a gyda’r ysgrifenyddion cabinet perthnasol a gweinidogion y mae wedi’u penodi i sicrhau bod y wybodaeth a’r profiad sydd gan ein haelodau ar y cyd yn bwydo i mewn i’r gwaith hwn.
Mae’n briodol felly bod y rhifyn hwn yn cynnwys erthyglau gan aelodau yn nodi’r heriau y maen nhw, a’r plant a’r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw, yn eu hwynebu, fel y gallwn helpu i’w hamlygu i’r rhai sydd â phwerau newydd.
Wrth ddarllen drwy’r cyflwyniadau y chwarter hwn, teimlais fod darn y Comisiynydd Plant yn arbennig o drawiadol, yn coladu profiadau cannoedd o bobl ifanc ac yn nodi eu gofynion am newid: roedd gwelliannau i ysgolion, mwy o drafnidiaeth gyhoeddus, a gwell mynediad at ofal meddygol ymhlith y galwadau gan bobl ifanc.
O safbwynt Plant yng Nghymru, mae’r rhifyn hwn wedi rhoi’r cyfle i ni nodi nifer o’n blaenoriaethau ar draws meysydd amrywiol o’n gweithrediad a byddwch yn gallu darllen am yr hyn y credwn sydd angen ei newid ym meysydd anghenion dysgu ychwanegol, tlodi plant (thema ddigalon ac ailadroddus), y blynyddoedd cynnar, a chymorth i deuluoedd a magu plant, ymhlith eraill.
Mewn mannau eraill, mae gennym ddarnau gan bartneriaid yn y sector gwirfoddol sy’n disgrifio gwasanaethau newydd (We Stand, sy’n amlinellu eu rhaglen i gefnogi teuluoedd y mae cam-drin plant yn rhywiol yn effeithio arnynt), neu sy’n tynnu sylw at y rhai presennol (y clybiau gwaith chwarae y tu allan i oriau ysgol a gefnogir gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs). Mae Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol Cymru wedi cyfrannu erthygl ar eu hymgyrch bwysig i weld cyfweliadau dychwelyd yn cael hawl statudol. Mae CAFCASS Cymru, cangen o Lywodraeth Cymru, hefyd wedi cyfrannu diweddariad ar eu gwaith braenaru i sicrhau hawl plant i gael eu clywed mewn achosion cyfraith teulu preifat.
Fel bob amser, hoffwn ddiolch i’r rhai hynny sydd wedi cyflwyno erthyglau i’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn. Dymunaf dymor disglair a chadarnhaol i’n holl ddarllenwyr ac aelodau ehangach.
Pan oedd cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn cael eu trafod yn y Senedd yn gynharach ym mis Mawrth, fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog, Mark Drakeford
MS, rannu sylw oedd yn taro tant i ni yn NYAS
Cymru: “Pam na fyddech chi’n dymuno eistedd i lawr a holi’r unigolyn ifanc hwnnw beth oedd wrth wraidd y gweithredoedd a oedd wedi digwydd yn eu bywyd?
Mae plant sydd â phrofiad o derbyn gofal yn wynebu risg anghymesur o uwch o fynd ar goll
na’u cyfoedion. Yn ôl data a gasglwyd gan NYAS
Cymru a Chymdeithas y Plant, roedd 39% o’r achosion o blant yn mynd ar goll yn ardaloedd awdurdodau lleol Cymru yn 2020 yn ymwneud â phlant yn derbyn gofal, er mai dim ond 1% o gyfanswm poblogaeth plant Cymru oedd yn derbyn gofal ar y pryd. Bydd achosion o fynd ar goll ymhlith plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn aml yn awgrymu fod rhywbeth o’i le yn eu bywyd. Gallai hynny awgrymu fod plentyn yn cael ei niweidio neu bod rhywun yn camfanteisio
ar blentyn, bod perthynas wedi chwalu, eu bod efallai’n teimlo’n anniogel ble bynnag y maent yn byw, neu efallai’n gweld eisiau eu ffrindiau neu eu teulu ac yn dymuno’u gweld. Beth bynnag fo’r rheswm, pwy fyddai’n dymuno colli cyfle i holi plant am eu teimladau a gofyn beth wnaeth arwain at y digwyddiad hwn, er mwyn gallu gwneud popeth posibl i’w atal rhag digwydd eto?
Mae cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn un o’r dulliau diogelu mwyaf grymus wrth weithio gyda phlant sydd wedi mynd ar goll o leoliad gofal. Gall cyfweliad ar ôl dychwelyd ein helpu i ddeall beth wnaeth achosi i’r plentyn fynd ar goll, beth ddigwyddodd tra’r oeddent ar goll, a beth y gellir ei wneud i atal hynny rhag digwydd eto. I blant, mae cyfweliadau ar ôl dychwelyd yr un mor bwysig. Maent yn cynnig cyfle diogel i blant gael siarad ag oedolyn dibynadwy a chael gwrandawiad, rhan allweddol o gynnal eu hawl Erthygl 12 o dan CCUHP.
Yn 2014, fe wnaeth Llywodraeth y DU bennu bod cynnig cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn arfer statudol yn achos plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn Lloegr. Mae hynny’n golygu bod ganddynt hawl i gael cynnig cyfweliad ymhen 72 awr ar ôl dychwelyd i leoliad gofal. Ers cyflwyno’r gofyniad statudol hwn, mae data gan wasanaethau cyfweliadau ar ôl dychwelyd NYAS yn Lloegr wedi dangos y bydd nifer cyfartalog yr achosion o fynd ar goll eto yn gostwng o 6.3 i 2.8 pan fydd cyfweliad ar ôl dychwelyd yn cael ei gynnal gyda phlentyn sydd â phrofiad o dderbyn gofal. I gynnig cymhariaeth, yng Nghymru, ble nad oes hawl statudol i gael cyfweliadau ar ôl dychwelyd, mae nifer gyfartalog yr achosion o fynd ar goll eto yn 3.2 yn achos plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal.
Yn fuan ar ôl i blant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn Lloegr gael hawl statudol i gael cyfweliad ar ôl dychwelyd, fe wnaeth NYAS Cymru droi ei sylw at sicrhau bod plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn cael yr un hawl yng Nghymru. Dyna oedd man cychwyn Grŵp Llywio
Cenedlaethol ‘Methu’r Pwynt’ Cymru Gyfan, sef grŵp a sefydlwyd gan NYAS Cymru sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru sydd oll yn gweithio i rannu arferion gorau a lleihau nifer y plant coll yng Nghymru. Mae’r grŵp hwn yn ategu ein Hymgyrch ‘Methu’r Pwynt’, sy’n ymdrechu i
roi terfyn ar y cylch sy’n golygu bod plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn wynebu mwy o risg o fynd ar goll a phrofi cam-fanteisio. Fel rhan o’r ymgyrch, mae NYAS Cymru wedi bod yn galw ers tro ar Lywodraeth Cymru i bennu bod cyfweliad annibynnol ar ôl dychwelyd yn hawl statudol i blant sydd â phrofiad o dderbyn gofal.
Ar ôl bod yn ymgyrchu am bum mlynedd, rydym yn credu ein bod yn agosach nag erioed at adeg pan fydd cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn hawl statudol i blant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yng Nghymru. Mae galwadau NYAS Cymru yn cael eu cefnogi gan Aelodau’r Senedd ac yn cael eu defnyddio fel argymhellion i Lywodraeth Cymru mewn adroddiadau pwyllgorau, ac mae cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn cael sylw blaenllaw yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog.
Ein gweledigaeth yw galluogi pob plentyn sydd â phrofiad o dderbyn gofal ledled Cymru i deimlo’n ddiogel ac yn hapus yn eu hamgylchedd, yn cael eu hamddiffyn rhag risgiau ac yn cael cyfle i fynegi safbwyntiau pan fydd rhywbeth wedi digwydd sy’n golygu yr adroddir eu bod ar goll. Mae nifer y plant sy’n cychwyn derbyn gofal yng Nghymru yn dal i gynyddu, felly bydd nifer y plant sy’n mynd ar goll o leoliad gofal yn parhau i gynyddu hefyd. Mae plant sydd â phrofiad o dderbyn gofal yn dibynnu ar y Prif Weinidog nesaf i gryfhau eu hawliau ymhellach trwy bennu bod cyfweliadau ar ôl dychwelyd yn hawl statudol a llwyddo o ddifrif i roi terfyn ar y cylch sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o fynd ar goll a phrofi camfanteisio.
I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau cyfweliadau ar ôl dychwelyd NYAS Cymru, trowch at ein gwefan neu cysylltwch â johanne.jones@ nyas.net
Sean O’Neill, Anna Westall, Karen McFarlane, Fatiha Ali & Russell Baker, Plant yng Nghymru
Gyda’r newid yn y tymor a’r oriau dydd hirach, mae hyn yn naturiol yn dod â gobaith a disgwyliad newydd, a mwy o ymdeimlad o bwrpas a phosibiliadau di-ri.
Gellid dweud yr un peth am etholiad Prif Weinidog newydd, ynghyd â thîm wedi’i adnewyddu o weinidogion ac ysgrifenyddion cabinet, pob un yn awyddus i wneud eu marc a’n bywydau ni i gyd rywfaint yn well. Felly, gyda chapten newydd wrth y llyw, beth allwn ni ei ddisgwyl yn ystod cyfnodau olaf tymor presennol y Senedd?
Roedd maniffesto etholiad y Prif Weinidog newydd yn nodi gweledigaeth lle mae holl hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni ar draws pob maes polisi ac yn cynnwys sawl addewid allweddol i gyflawni’r nod hwn. Yn bennaf ymhlith y rhain mae ffocws o’r newydd ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf ym mywyd plentyn ac ymrwymiad i ehangu’r Cynnig Gofal Plant wrth i adnoddau ddod ar gael. Mae ymrwymiadau i flaenoriaethu buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl, i fynd i’r afael â phob math o ragfarn a gwahaniaethu yn yr ystafell ddosbarth, cryfhau ymgysylltiad cyn-16 ysgol–cyflogwr a thyfu’r economi, gan sicrhau bod gwaith yn ystyrlon ac yn cael pobl allan o dlodi. Mae cynnig diddorol hefyd i gyflwyno pasbort diwylliannol i rai dan 18 oed, er mwyn helpu i sicrhau bod pobl ifanc o bob cefndir yn gallu cael mynediad at gyfleoedd celfyddydol, diwylliannol a chreadigol.
Daw newidiadau i’r uwch dîm yn Llywodraeth Cymru ar adeg dyngedfennol i fabanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru, y mae llawer ohonynt yn wynebu straen costau byw di-baid a gwaddol y pandemig, gyda hyn oll yn digwydd o fewn cyd-destun pwysau digynsail ar Gyllideb ddatganoledig Cymru. Gellir dadlau felly bod yr angen i flaenoriaethu a buddsoddi mewn plant, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed ac sy’n wynebu anfantais oherwydd eu nodweddion neu eu hamgylchiadau, yn bwysicach nawr nag ar unrhyw adeg ers dechrau datganoli.
Drwy ein rhaglen waith gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol, mae Plant yng Nghymru yn parhau i bwysleisio’r angen i
ddiogelu a thyfu gwasanaethau ac ymyriadau sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i fabanod, plant, pobl ifanc a’u teuluoedd, gan sicrhau bod ymyrraeth gynnar a rhaglenni atal yn cael eu blaenoriaethu a’u hariannu’n llawn, ochr yn ochr â’r rhaglenni sy’n darparu cymorth mewn argyfwng. Mae casglu’r blaenoriaethau allweddol o’n hystod eang o etholwyr yn allweddol er mwyn helpu i lunio ein galwadau ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sydd mewn grym. Felly, beth yw rhai o’n disgwyliadau o’r Llywodraeth Cymru newydd hon?
Blaenoriaethau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc gan Blant a Phobl Ifanc
Ar gyfer plant a phobl ifanc, trefnodd ein rhaglen Cymru Ifanc gwrs preswyl yn Abernant ym mis Chwefror, lle cynhaliwyd nifer o sesiynau i archwilio a chasglu eu barn ar y meysydd blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru, wedi’u llywio gan Sylwadau Terfynol y Cenhedloedd Unedig a gyhoeddwyd ym mis Mai 2023. Cafodd y bobl ifanc eu briffio ar yr hanes a’r cefndir a arweiniodd at adroddiad y Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys eu hatgoffa o’r chwe maes blaenoriaeth a gafodd eu hamlygu yn Adroddiad Cymru Ifanc i’r Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â’r argymhellion o adroddiad Cyflwr Hawliau Plant yng Nghymru a gynhyrchwyd ar ran sefydliadau cymdeithas sifil. Cafodd y bobl ifanc gyfle hefyd i dynnu sylw at feysydd eraill yr oeddent yn teimlo y dylent fod yn flaenoriaethau, gan dynnu ar dystiolaeth o sesiynau , trafodaethau a sgyrsiau eraill a gawsant. Amlinellwyd y meysydd blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:
• Iechyd Meddwl (a Llesiant)
• Safonau Byw / Costau Byw
• Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant (Peidio â gwahaniaethu)
• Cynaliadwyedd
O’n rhwydweithiau proffesiynol, rydym wedi dewis pedair blaenoriaeth allweddol, a dylid ystyried pob un ohonynt fel rhan o’n nod cyffredinol o ddatblygu hawliau plant ymhellach ar draws pob maes polisi.
i) Tlodi Plant - Mae ffigurau presennol yn dangos bod 28% o fabanod, plant a phobl ifanc Cymru yn byw mewn tlodi. Nid yw hyn yn dderbyniol. Er ein bod yn croesawu’r Strategaeth Tlodi Plant sydd newydd ei chyhoeddi, rydym yn parhau i bryderu na fydd hyn ar ei ben ei hun yn lleihau cyfraddau tlodi yng Nghymru yn sylweddol; mae angen fframwaith monitro fel rhan o gynllun cyflawni trawslywodraethol ag adnoddau llawn. Heb atebolrwydd, cerrig milltir na thargedau, mae’r brys a’r ymrwymiad sydd eu hangen i fynd i’r afael â thlodi plant yn wan. Mae gennym nifer o alwadau cyhoeddedig yn y maes hwn sy’n cynnwys yr angen i:
• Sicrhau bod adnoddau llawn ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant ddiwygiedig gyda mecanwaith olrhain yn ei le trwy Gynllun Gweithredu i fonitro buddsoddiad a gwariant.
• Ymestyn Prydau Ysgol Am Ddim i bob plentyn ysgol uwchradd y mae eu teuluoedd yn derbyn Credyd Cynhwysol a gwrthdroi’r penderfyniad i ddileu Prydau Ysgol am Ddim yn ystod gwyliau ysgol.
• Galluogi pob plentyn a pherson ifanc o dan 16 oed i gael mynediad am ddim i drafnidiaeth gyhoeddus.
• Buddsoddi mewn cynnig gofal plant gwell i bob plentyn 0–4 oed ledled Cymru.
• Sicrhau bod y dyletswyddau statudol presennol a osodir ar gyrff cyhoeddus perthnasol i fynd i’r afael â thlodi plant drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn cael eu cyflawni’n ddigonol.
• Darparu adnoddau digonol ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau cenedlaethol sy’n bodoli eisoes, megis Dechrau’n Deg, sydd
wedi’u gwerthuso’n effeithiol ac sy’n sicrhau canlyniadau cadarnhaol i’n plant tlotaf.
• Cyflymu cynlluniau ar gyfer System Fudddaliadau yng Nghymru, fel un pwynt mynediad ar gyfer cymorth, i helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad at eu hawliau llawn.
ii) Anghenion Dysgu Ychwanegol – Er bod gweithrediad y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) newydd yn mynd rhagddo’n dda, mae llawer o waith i’w wneud i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth, datblygu canllawiau ac adnoddau, ac yn bwysig, i roi ethos y Ddeddf a’r Cod ar waith. Ein disgwyliadau gan Lywodraeth Cymru yw:
• Cynyddu recriwtio, datblygu, capasiti a chadw’r gweithlu ADY, gan gynnwys mynd i’r afael â’r gostyngiad yn niferoedd y gweithlu arbenigol.
• Dylid gweithredu’r Cod a’r Ddeddf yn gyfartal ar draws holl awdurdodau lleol Cymru. Dylai pob plentyn a pherson ifanc, gan gynnwys rhai ôl-16, ag ADY gael yr un cyfleoedd ar gyfer dysgu, addysg a hyfforddiant, ni waeth ble maent yn byw.
• Cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob maes ADY. Dylai hyn gynnwys yr holl ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, asesiadau a’r gweithlu ADY a’r gweithlu arbenigol.
• O dan Erthygl 12 o CCUHP, mae gan blant yr hawl i gael eu clywed ar faterion a phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Dylid hyrwyddo’r hawl hon yn well gyda’r gweithlu a glynu ati ym mhob agwedd ar y system ADY.
iii) Y Blynyddoedd Cynnar - Croesawir y ffocws newydd arfaethedig ar y 1,000 o ddiwrnodau cyntaf, a gobeithiwn y bydd yn dod â mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd o bwysigrwydd y cyfnod hollbwysig hwn ym mywyd cynnar plentyn. Ymhlith ein galwadau ar y Gweinidog newydd dros y Blynyddoedd Cynnar a chabinet ehangach Llywodraeth Cymru mae:
• Datblygu a gweithredu Addewid Babanod gyda chanllawiau ategol, sy’n ymrwymo i ac yn galluogi llais babanod a phlant ifanc iawn i gael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau ar draws Llywodraethwyr Cymru. Dylid cysylltu hyn â gweithredu fframwaith NEST/NYTH a’r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant.
• Defnyddio’r term ‘babanod, plant a phobl ifanc’ yn rheolaidd wrth lunio polisïau.
• Ychwanegu cam gweithredu lefel uchel at Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant 2024–2034 i ddatblygu gwasanaethau amenedigol arbenigol, fel eu bod yn darparu’r lefel a’r ansawdd o ofal sydd ei angen ar fenywod, eu babanod, a’u teuluoedd.
• Sicrhau bod fframwaith monitro ar gyfer y Strategaeth Tlodi Plant yn adlewyrchu profiad bywyd a llais babanod a phlant ifanc.
• Sicrhau bod rhieni presennol a darpar rieni yn gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir i’w galluogi i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w babanod a’u plant ifanc, gan gynnwys gofal plant, cymorth arbenigol iechyd meddwl amenedigol, cymorth i dadau a chymorth rhianta.
• Ymrwymo i gynyddu’r ddealltwriaeth o pam mae’r 1,000 o ddiwrnodau cyntaf yn hanfodol i lwyddiant plant a chymdeithas yn y dyfodol ymhlith rhieni a gofalwyr, gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd a’r cyhoedd yn gyffredinol.
• Blaenoriaethu babanod a phlant ifanc mewn penderfyniadau cyllidebol anodd sydd i ddod, gan gynnwys amddiffyn gwasanaethau sy’n cefnogi plant a theuluoedd.
• Blaenoriaethu cyllid a pholisi yn seiliedig ar yr egwyddor bod hyrwyddo tegwch a goresgyn rhwystrau tlodi i blant yn ystod y blynyddoedd cynnar yn fwy cost effeithiol nag ymyrraeth ddiweddarach.
iv) Cymorth i Deuluoedd a Rhianta – Mae CCUHP yn cydnabod yn benodol y rôl ganolog a chwaraeir gan rieni a theuluoedd wrth sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn iach, yn hapus ac yn ddiogel. Mae Erthygl 3 yn nodi’n glir bod yn rhaid i’r Llywodraeth gefnogi teuluoedd yn eu rôl hanfodol wrth fagu plant. Gyda bygythiad triphlyg effeithiau parhaus y pandemig, costau byw ac argyfyngau hinsawdd, mae teuluoedd yn wynebu pwysau aruthrol ac mae hawliau plant mewn perygl difrifol.
Rydym yn galw am:
• Gyllid gwarchodedig a ffocws ar gyfer gwasanaethau ymyrraeth gynnar i deuluoedd. Mae’r gwasanaethau hyn yn allweddol i atal yr angen i uwchgyfeirio i wasanaethau dwysach eraill sydd eisoes dan bwysau eu hunain.
• Cydnabod a chefnogi llesiant staff rhianta a chymorth i deuluoedd i sicrhau eu bod yn cael eu cadw a’u recriwtio.
• Parhau i ganiatáu hyblygrwydd yn y gwasanaeth er mwyn darparu dull ymatebol sy’n gwrando ar anghenion rhieni ac yn ymateb iddynt ac sy’n defnyddio dull sy’n seiliedig ar gryfderau, gan ddeall nad yw un ateb yn addas i bawb.
Mae’r ffocws a’r dull presennol o ymyrryd fel arfer yn symud oddi wrth atal, ymyrraeth gynnar, a chymorth cyffredinol tuag at ddiwallu anghenion lefel uwch a mwy cymhleth. Mae staff ac adnoddau o dan bwysau wrth i wasanaethau cymorth geisio diwallu anghenion a bodloni’r galw cynyddol. Mae strategeiddio yn heriol pan fydd gwasanaethau’n ceisio gwneud eu gorau gyda’r adnoddau prin sydd ganddynt, gan fod arloesedd a chreadigrwydd yn aml yn mynd ar goll pan fyddant mewn cyflwr ymladd neu ffoi.
Ymysg yr holl bwysau ar wasanaethau, mae pryder enfawr am lesiant staff yn parhau. Maent yn ymgymryd â llawer mwy, yn aml y tu hwnt i’w cylch gorchwyl a’u harbenigedd penodol, gan arwain at lawer iawn o bwysau a chyfrifoldeb. Mae llawer o staff yn teimlo’n anghymwys ac yn annigonol yn eu rolau, gan arwain at ddiffyg hyder, boddhad, a morâl isel sy’n effeithio’n ddieithriad ar gyfraddau cadw.
Mewn arolwg diweddar gan Cyswllt Rhieni Cymru, dywedodd rhieni eu bod eisiau cefnogaeth gyffredinol, ganolog gyda phob agwedd ar y daith rianta. Crynhodd un rhiant hyn drwy ddweud, “Rwyf am gael gwybodaeth o un lle ar bob elfen… o fagu plant ar gyfer pob aelod o bob gallu mewn cymdeithas.” Mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth fel nad yw rhieni’n teimlo ar goll.
Yn olaf, mae gan lawer o sefydliadau sy’n gweithio gyda rhieni hyfforddiant, sgiliau neu adnoddau cyfyngedig i gynnal ymgynghoriadau a gweithgarwch cydgynhyrchu gyda rhieni. Gall ymgorffori gweithgareddau llesiant fel rhan o weithgareddau ymgysylltu fod yn gymhelliant i rieni fynychu a helpu i fynd i’r afael â rhai rhwystrau i gyfranogiad e.e. coffi a sgwrs, celf a chrefft neu sesiynau blasu yoga byr.
Yn gryno, dim ond rhai o’r materion sy’n codi o’n gwaith gyda phlant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol yw’r rhain, ond wrth gwrs, mae llawer mwy. Edrychwn ymlaen yn fawr at barhau i ymgysylltu â’r Prif Weinidog sydd newydd ei benodi a’i gabinet newydd dros y misoedd nesaf i’w helpu i wireddu ei weledigaeth ar gyfer pob babi, plentyn a pherson ifanc i gael eu holl hawliau wedi’u cyflawni ledled Cymru gyfan.
‘Aros,
yng Nghymru’: Y
Ar y 7fed o Fawrth 2024, fe wnaethom lansio ein llyfr dathliadol, Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru. Mae’r llyfr yn cynnig ffordd unigryw o gyrraedd plant a phobl ifanc yn uniongyrchol, gan siarad eu hiaith nhw, i helpu codi ymwybyddiaeth
o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’r effaith y mae’n ei gael ar eu bywydau.
Fel rhan o’r prosiect, ychwanegodd ein gwirfoddolwyr ifanc eu gobeithion personol eu hunain ar gyfer y dyfodol, i helpu darllenwyr ddeall mwy ar beth mae plant a phobl ifanc eisiau ei weld o ran hawliau plant. Roedd rhai o’r syniadau hyn yn cynnwys darparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc rannu eu barn, mwy o gefnogaeth ar gyfer grwpiau lleiafrifol, sicrhau bod gwybodaeth ar hawliau plant yn fwy hygyrch ac ymgorffori’r CCUHP yn llawn yng nghyfraith Cymru.
Rydym yn galw ar y Prif Weinidog i ystyried a mynd i’r afael â’r syniadau hyn a mwy pan fydd yn ymgymryd â’i swydd. Mae angen o hyd am wneud newidiadau yng Nghymru os yw pob plentyn am gael mynnu eu holl hawliau.
Mae’r llyfr hwn yn pwysleisio na allwn anwybyddu lleisiau’r rhai sydd fwyaf o bwys wrth weithredu’r newidiadau hyn. Mae’n rhaid i ni wrando ar y plant a phobl ifanc y maent yn effeithio arnynt i sicrhau’r effaith fwyaf. Ni ddylem ddiystyru eu barn, ond yn hytrach eu helpu i dyfu eu syniadau nes byddant yn gallu eu gwireddu i greu camau y gellir gweithredu arnynt.
Er mwyn gallu hawlio eich hawliau, yn gyntaf mae’n rhaid ichi eu deall. Gobeithiwn y bydd Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru yn helpu i addysgu a grymuso plant a phobl ifanc i sicrhau bod eu hawliau oll yn cael eu gwireddu.
Gallwch lawrlwytho Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Nghymru gan ddefnyddio’r ddolen isod:
Cymraeg: Aros, Chwarae, Ymlaen yn Gyflym: Taith Plant yng Ngymru by childreninwales - Issuu
Saesneg: Pause, Play, Fast-Forward: The Journey of Children in Wales by childreninwales - Issuu
Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Yr ydym yn awr yn ein 8fed flwyddyn.
Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i nodi a deall mwy am y materion presennol a’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Bydd eich profiadau a’ch safbwyntiau yn ein helpu i nodi a rhannu’r wybodaeth hon yn eang.
Mae eich lleisiau wir yn gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, cafodd canfyddiadau arolwg y llynedd eu lledaenu’n eang a’u defnyddio i ddylanwadu, llywio a newid arferion a pholisi ledled Cymru. Fe’u defnyddiwyd hefyd ar gyfer adroddiadau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i lywio’r Strategaeth Tlodi Plant newydd, a lansiwyd ym mis Ionawr 2024.
Beth bynnag fo’ch rôl neu sector, mae eich profiadau a’ch safbwyntiau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn bwysig i ni. P’un a ydych yn ymarferwr, yn addysgwr, yn wneuthurwr polisi neu’n rheolwr, os yw eich rôl yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd, yna rydym am glywed gennych.
Cymerwch 15 munud i gwblhau’r arolwg.
Mae gennym 3 arolwg, 1 ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, 1 ar gyfer rhieni a gofalwyr ac 1 ar gyfer plant a phobl ifanc eu hunain:
Gweithwyr proffesiynol ac ymarferwyr: Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2024: Gweithwyr Proffesiynol ac Ymarferwyr (Page 1 of 11) (office.com)
Rhieni a gofalwyr: Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd 2024: AROLWG RHIENI (Page 1 of 8) (office.com)
Plant a phobl Ifanc: Arolwg Blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc 2024 (Page 1 of 10) (office.com)
Bydd pob arolwg yn cau erbyn 5 Mehefin 2024.
Rydym yn chwilio am gymaint o ymgysylltu â phosibl a byddem yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth ddosbarthu’r arolygon i’ch cydweithwyr, rhwydweithiau a, lle bo’n bosibl, i rieni a phlant a phobl ifanc gan ei bod yn hollbwysig ein bod hefyd yn clywed ganddynt yn uniongyrchol.
Byddwn yn cyhoeddi ac yn rhannu’r canfyddiadau ym mis Hydref.
Ein nod yw y bydd y canfyddiadau unwaith eto yn helpu i lunio a llywio polisi ac arfer yng Nghymru.
Diolch am eich cefnogaeth.
Mae Cafcass Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru, gan ddarparu cyngor arbenigol sy’n canolbwyntio ar y plentyn i’r llysoedd teulu yng Nghymru er mwyn sicrhau y caiff plant eu diogelu, ac y caiff eu lleisiau eu clywed, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau er eu budd pennaf nhw.
Mae achosion cyfraith teulu breifat yn codi pan fydd rhieni sydd wedi gwahanu neu aelodau eraill o’r teulu yn gwneud cais am orchymyn i lys yng Nghymru neu Loegr benderfynu ar drefniadau ar gyfer eu plentyn neu blant. Gall y penderfyniadau a wneir gan y llys teulu gynnwys gyda phwy y bydd y plant yn byw ac yn treulio amser gyda nhw, yn ôl pa enwau y cânt eu hadnabod, pa ysgolion y byddant yn eu mynychu neu a gânt eu magu’n unol â chrefydd benodol. Mae’r
penderfyniadau hyn yn cael effeithiau sylweddol a pharhaus o ran llywio bywydau’r plant dan sylw.
Mae Adran 1 o Ddeddf Plant 1989 yn nodi y dylai’r llys teulu ystyried dymuniadau a theimladau canfyddadwy’r plentyn dan sylw (yn unol â’i oedran a’i lefel dealltwriaeth) wrth wneud penderfyniadau.
Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi’r hawl i blant gael clust i wrando ar eu safbwyntiau ac i oedolion eu cymryd o ddifrif pan gaiff penderfyniadau eu gwneud sy’n effeithio arnynt.
Efallai y bydd pobl yn synnu felly nad yw’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyfraith teulu breifat, sef y Rhaglen Trefniadau ar gyfer Plant (Cyfarwyddyd Ymarfer 12B), yn caniatáu i blant
fynegi eu safbwyntiau fel mater o drefn, ond yn hytrach ei fod yn annog rhieni a theuluoedd i gytuno ar drefniadau, neu i’r llys benderfynu ar drefniadau, heb glywed barn uniongyrchol gan y plentyn. Dim ond pan geir cyfarwyddyd gan y llys y daw ymarferwyr Cafcass Cymru yn rhan o’r broses, ac mewn llawer o achosion, dim ond cynnal gwiriadau diogelu y byddant yn ei wneud. Nid oes angen iddynt siarad â’r plant dan sylw fel rhan o’r gwiriadau hynny.
Mae tystiolaeth gynyddol yn dod i’r amlwg sy’n dangos y caiff penderfyniadau gwell, mwy diogel eu gwneud pan fydd plant yn rhan o brosesau’r llys, a bod plant a phobl ifanc yn gallu derbyn penderfyniadau yn well pan fyddant yn teimlo eu bod wedi cael digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd ac yn cael y cyfle i gymryd rhan (gwelwch er enghraifft, Roe, A. (2021). Children’s experience of private law proceedings: Six key messages from research. Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield). Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar yn dangos mai dim ond rhyw hanner o’r plant a’r bobl ifanc sy’n destun achosion cyfraith teulu breifat sy’n cael y cyfle i gymryd rhan mewn achosion, ac fel rheol dim ond mewn achosion lle mae angen ymchwilio i bryderon sy’n ymwneud â lles (Hargreaves, C. et al. (2024) Uncovering private family law: how often do we hear the voice of the child? Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield). At hynny, ni chaiff plant eu gweld na’u clywed tan rai misoedd ar ôl i’r achosion llys ddechrau, sy’n golygu eu bod yn y tywyllwch o ran beth sy’n digwydd yn eu teulu.
Lansiwyd y peilot Braenaru mewn nifer bach o lysoedd yng Ngogledd Cymru a Dorset gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ddechrau 2022, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid gan gynnwys Cafcass Cymru. Cafodd ei greu mewn ymateb i adroddiad 2020 Asesu’r Risg o Niwed i Blant a Rhieni mewn Achosion Plant Cyfraith Breifat (Hunter, R. et al 2020). Canfu’r adroddiad hwn ddiffygion yn y ffordd y caiff honiadau o niwed a cham-drin domestig eu nodi ac yn y ffordd yr ymatebir iddynt, ac un o’r canfyddiadau pwysicaf oedd na chaiff lleisiau oedolion a phlant sydd wedi dioddef a goroesi cam-drin domestig yn aml eu clywed. Un o nodau allweddol y cynllun peilot yw gwella profiad plant a’r cyfleoedd iddynt gymryd rhan ym mhroses y llysoedd cyfraith breifat.
Mae’r peilot Braenaru wedi galluogi Cafcass Cymru i ddiwygio ein hymarfer, i ymdrin â’n gwaith gyda theuluoedd mewn ffyrdd mwy cydweithredol a chreadigol ac i ymgysylltu â phob plentyn a pherson ifanc ar ddechrau achosion, yn hytrach na dim ond y plant y ceir pryderon am eu lles. Mae hyn wedi bod yn drawsnewidiol wrth alluogi ymarferwyr a theuluoedd i ganolbwyntio ar ddiogelwch, dymuniadau a theimladau plant, fel rhan o ddull gweithredu sy’n anelu at ddatrys problemau.
Mae hyn yn wahanol i’r dull gweithredu gwrthwynebol traddodiadol o ymdrin â chyfraith teulu breifat lle mae plant yn llai tebygol o gymryd rhan yn uniongyrchol a lle y gall eu hawliau a’u lleisiau fynd ar goll yn hawdd mewn anghydfod rhwng oedolion.
O ganlyniad i lwyddiant y cynllun Braenaru yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf, gwnaed penderfyniad a darparwyd cyllid gan lywodraeth y DU i’w gyflwyno ledled De Ddwyrain Cymru a Birmingham, gyda’r nod o roi’r model ar waith mewn rhannau eraill o Gymru a Lloegr hefyd yn y pen draw. Mae Cafcass Cymru yn gadarn o blaid y broses o gyflwyno’r peilot Braenaru, a’r cyfle y mae hyn yn ei gynnig i bob plentyn gael mwy o wybodaeth a chael ei gynrychioli’n well, ac i sicrhau y caiff holl hawliau plant eu parchu mewn achosion cyfraith teulu breifat.
Roe, A. (2021). Children’s experience of private law proceedings: Six key messages from research. Spotlight series. London: Nuffield Family Justice Observatory
Mae gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs weledigaeth o Gymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru sy’n cefnogi hawl plant i chwarae a bod gofal plant o safon yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn diwallu anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau. Mae pob cymuned yn wahanol ac mae dewis o ddarpariaeth chwarae a gofal plant sy’n adlewyrchu anghenion iaith, treftadaeth a diwylliant, yn cefnogi cydlyniant cymunedol.
Mae Clybiau Gofal Plant All-Ysgol sydd wedi’u cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnig mannau diogel, chwarae-gyfoethog ac a arweinir gan blant o safon, wedi’u hwyluso gan Weithwyr Chwarae cymwysedig, sy’n cefnogi
hawliau plant (Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), yn arbennig Erthyglau 31, 19, 24, 23, 12, 13 a 15 a Sylw Cyffredinol 17), Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015,
Ar hyn o bryd rydym yn cefnogi dros 1,500 o Glybiau Gofal Plant Alol-Ysgol, (mewn 850 o leoliadau unigol) sy’n rhan allweddol o economi sylfaenol Cymru, gan ddarparu dros 46,500 o leoedd gofal plant ac amcangyfrif o 5,500+ o swyddi Gweithwyr Chwarae. Mae’r lleoliadau hyn a’r rhai sy’n gweithio ynddynt, yn cefnogi hawliau plant ac yn darparu cyfleoedd chwarae o safon a ddewisir yn rhydd i blant yn eu cymunedau.
Gweithwyr Chwarae cymwys a phrofiadol yw calon y sector Gofal Plant All-Ysgol. Maent yn hanfodol i ansawdd chwarae a gofal ac yn eu tro i gefnogi anghenion a llesiant plant.
Dangosodd ein harolwg clybiau diweddar fod angen mawr am gymwysterau a hyfforddiant a hefyd awydd am ddatblygiad proffesiynol i barhau i wella arfer er enghraifft i gefnogi defnyddio’r Gymraeg ac amrywiaeth, ac rydym yn falch o fod wedi cyrchu cyllid i fodloni’r gofynion hyn.
Parhad yn y cyllido ar gyfer cyfleoedd hyfforddi a chymwysterau a ariennir parhaus sy’n bodloni amryw o ofynion cymhwysedd, i gefnogi anghenion recriwtio a statws cofrestru ag AGC, ochr yn ochr â hyrwyddo a chydnabod gwerth Gweithwyr Chwarae.
Gwelodd cyfyngiadau 2020–21 allu plant i arfer eu hawl i chwarae, ynghyd â’u hiechyd a’u llesiant yn crebachu’n sylweddol. Hefyd, cyfleoedd chwarae, gan gynnwys chwarae yn yr awyr agored a chyfleoedd chwarae cydadferol mewn ysgolion a mannau gofal plant, yn cael eu cyfyngu’n fawr, a’r cyfiawnhad nodweddiadol dros yr amser a dreuliwyd yn yr awyr agored yn canolbwyntio ar yr oedolion a’u harweiniad (Y Gymdeithas Chwarae Ryngwladol (yr IPA, 2020).
Mae costau byw uwch a rhieni’n parhau i weithio gartref yn parhau i effeithio ar gyfleoedd chwarae plant ym maes gofal plan. Dywedodd adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan fod 1 o bob 5 teulu yn cael trafferth fforddio’r hanfodion. I liniaru hyn, roedd cyllid a dderbyniwyd drwy Sefydliad Moondance wedi ein galluogi i gefnogi 141 o blant, beth bynnag eu hangen neu’u gallu, i fynychu sesiynau llawn-chwarae Gofal Plant All-Ysgol na fyddent fel arfer wedi cael mynediad iddynt mewn ffordd ddi-stigma. Roedd 100% o’r lleoliadau a gynigiodd sesiynau cyfoethogi chwarae drwy’r cyllid hwn yn meddwl eu bod yn helpu i gefnogi ymgysylltiad cymdeithasol a lles meddwl.
Mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn yn rhydd ar bob mater sy’n effeithio arnynt; dywedodd y plant a fynychodd y sesiynau 100% eu bod wedi mwynhau mynychu. Pan ofynnwyd “Beth yw eich hoff beth am y clwb?” roedd yr ymatebion yn cynnwys:
“Rwy’n hoffi gwneud ffrindiau newydd a chwrdd â phobl newydd. Rwy’n hoffi tynnu lluniau ac ysgrifennu straeon. Rwyf wrth fy modd yn cael sgyrsiau gyda merched sy’n gweithio yn y clwb a dangos fy straeon iddynt. Rwy’n edrych ymlaen at y dyddiau y byddaf yn dod i’r clwb.”
Dywedodd ymatebwyr i’n harolwg clybiau hefyd fod 1,249 o blant ag amrywiaeth o anghenion ychwanegol yn eu lleoliadau. Roedd yr anghenion cefnogaeth/llesiant yn cynnwys; anhawster rheoli emosiynau, heriau lleferydd ac iaith, hunanhyder/hunan-dyb isel, pryder neu hwyliau isel, mudandod, ymddygiad ymosodol, ADHD, Awtistiaeth, cyflyrau gwybyddol di-eiriau, difrifol.
“Nid oes digon o arian ar gael i gefnogi anghenion lles y plant, mae effaith Covid wedi bod yn enfawr ar y plant ac yn dal yn amlwg. Mae angen mwy o arian i ddarparu lleoedd am ddim i blant sy’n cael trafferth o ran eu galluoedd corfforol a llesiant.”
Ymatebydd i’r arolwg
Mae angen mwy o ymwybyddiaeth o fanteision chwarae i blant, er mwyn addysgu a hysbysu cymunedau ledled Cymru am hawl plant i chwarae a gwerth chwarae, ei effaith gadarnhaol ar lesiant (yn enwedig o ystyried yr ymatebion ar anghenion cymorth plant), a Gofal Plant All-Ysgol, cofrestredig ag AGC, i blant.
Mae chwarae, hamdden a chreadigedd a ddewisir yn rhydd yn dod â llu o fanteision i blant, yn cynnwys eu datblygiad seicolegol, cymdeithasol a gwybyddol, ac effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a llesiant. Mae lleoliadau
Gofal Plant All-Ysgol yn gallu creu ac annog yn weithredol yr amser a’r lle i blant gymryd rhan yn eu hoffterau chwarae eu hunain; eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a bod rhywun yn gwrando arnynt, gan hefyd ddarparu llu o fanteision iechyd corfforol a meddyliol iddynt i gefnogi datblygiad cyffredinol.
Beth fyddai pobl ifanc Cymru yn gwneud tasen nhw’n Brif Weinidog newydd Cymru? Yn ystod mis Chwefror fe wnaeth dros 600 o blant ar draws Cymru ymateb i becyn trafod fy swyddfa ar gyfer ysgolion, Materion
Misol, a dweud wrthyn ni beth roedden nhw’n meddwl. Dyma chwech o bethau bydden nhw’n eu gwneud tasen nhw wrth y llyw.
1) Materion a syniadau cysylltiedig ag addysg oedd ar frig y rhestr. Ymhlith galwadau am brofiadau dysgu mwy amrywiol, ac ystod ehangach o bynciau, roedd rhai atebion yn adlewyrchu materion ehangach fel cost prydau ysgol, mynediad cyfartal i glybiau, a chost adnoddau adolygu. Bu pobl ifanc hefyd yn
sôn am gefnogaeth iddyn nhw eu hunain a’u cyfoedion – ‘mwy o staff cymorth mewn ysgolion’, ‘rhoi mwy o help i blant gyda darllen a lleferydd’, a ‘mwy o helpwyr mewn ysgolion i helpu gyda’n hysgrifennu’. Yn erbyn cefndir o heriau parhaus ar ôl y pandemig, roedd y sylwadau hyn yn pwysleisio’r angen am fuddsoddiad cyson a sylweddol i adfer addysg.
2) Roedd arian yn bryder aruthrol i’r rhai fu’n cymryd rhan. Fel mae ymchwil flaenorol wedi dangos, gan gynnwys arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd gan fy swyddfa yn 2022, roedd pris bwyd, tanwydd a biliau yn cael lle amlwg ym meddyliau llawer, fel yr oedd tai rhatach a chyflogau uwch. Wrth ddarllen yr ymatebion, roeddwn i’n cael y teimlad bod llawer o bobl ifanc yn pryderu’n fawr am y caledi maen nhw’n ei weld yn anochel yn eu cymunedau, ac yn chwilio am
atebion – ‘Bydda i’n rhoi arian i’r tlawd ac yn rhoi bwyd iddyn nhw’, ‘gwneud yn siŵr bod pobl yn cael taleb rhag ofn eu bod nhw mewn sefyllfa wael gydag arian ac yn methu fforddio pethau’, ‘Bwyd am ddim a dillad i bobl mewn angen’.
3) Roedd trafnidiaeth yn bwnc llosg arall. ‘Bysus sy’n rhedeg ar amser’, ‘bysus a threnau fforddiadwy’, a ‘thrafnidiaeth gyhoeddus am ddim’ oedd rhai o’r atebion oedd yn adlewyrchu’r angen am system fwy dibynadwy a fforddiadwy. Mae trafnidiaeth yn rhywbeth rwy’n clywed llawer amdano gan blant a phobl ifanc ar draws Cymru, a bydda i’n parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i roi trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob person ifanc, i’w helpu i gael mynediad i’w hawliau – gan gynnwys eu hawl i gael addysg, iechyd, a threulio amser gyda’u cyfoedion.
4) ‘Mwy o ysbytai’, ‘gwell gofal meddygol’, a ‘mwy o feddygfeydd’ oedd rhai o’r sylwadau niferus cysylltiedig â thriniaeth gofal iechyd. Roedd barn pobl ifanc yn adleisio adroddiad diweddar gan Goleg Brenhinol y Pediatregwyr yng Nghymru, oedd yn creu darlun digysur o gyflwr presennol gwasanaethau iechyd plant ac amserau aros annerbyniol o hir i blant. Rhaid cael cynllun penodol ar gyfer gwella iechyd plant a phobl ifanc, lleihau anghydraddoldebau iechyd plant, a rhoi sylw i’r anawsterau o ran y gweithlu.
5) Roedd yr amgylchedd lleol yn destun trafod sylweddol, ac yn arbennig glendid strydoedd a chanol trefi pobl ifanc. Roedd llu o sylwadau yn galw am ‘fwy o finiau sbwriel’ yn awgrymu bod sbwriel yn broblem fawr i blant a phobl ifanc.
6) Rhagor o bethau i’w gwneud am ddim. Roedd pobl ifanc eisiau mynediad at ystod eang o weithgareddau, chwaraeon a chyfleoedd i ddysgu
tu allan i’r ysgol oedd ddim yn costio arian – ‘Dim digon o leoedd diogel i fynd ar hyd y flwyddyn i gwblhau ein hobïau – maen nhw’n mynd yn fwy drud, ac allwn ni ddim fforddio fe.’
Mae’r canfyddiadau hyn yn adlewyrchu llawer o’r meysydd oedd yn destun pryder yn fy arolwg cenedlaethol yn 2022/23, ‘Gobeithion i Gymru’, a glywodd gan fwy na 10,000 o blant a phobl ifanc, a helpu i lunio fy strategaeth tair blynedd ‘Gwella Bywyd i Blant yng Nghymru’. Mae’r blaenoriaethau strategol a’r meysydd fydd yn brif ffocws ar gyfer fy nghyfnod yn y swydd yn cynnwys addysg, iechyd meddwl, cydraddoldeb a thlodi. Gan ein bod yn genedl flaengar sy’n rhoi pwyslais mawr ar hawliau dynol plant, rwyf wedi annog Prif Weinidog newydd Cymru i fyfyrio ar y negeseuon hyn gan blant wrth bennu ei flaenoriaethau ei hun ar gyfer y Llywodraeth.
Mewn datganiad i gyd-fynd â phenodi’r cabinet newydd, mae Prif Weinidog Cymru wedi mynegi ei ymrwymiad i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, rhywbeth rwy’n ei groesawu’n fawr, ac yn wir ei fwriad i wneud y Blynyddoedd Cynnar yn rhan o’r portffolio iechyd meddwl Gweinidogol. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i blant a phobl ifanc, a bydda i’n edrych ymlaen at gwrdd â Phrif Weinidog newydd Cymru i drafod y meysydd blaenoriaeth hyn yn fanylach, ynghyd â’r holl bwyntiau allweddol mae plant wedi’u rhannu gyda fi.
Mae Cymru Ifanc yn fenter Plant yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn gwrando ar bobl ifanc ac yn sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed. Mae ein gwaith yn seiliedig ar y syniad o rannu, hysbysu a newid polisi ac arfer.
Drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau ledled Cymru, mae Cymru Ifanc yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithredu cymdeithasol, a dylanwadu ar benderfyniadau ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) wrth wraidd y gwaith a wneir gan Cymru Ifanc. Rydym am i bobl ifanc wybod beth yw eu hawliau felly ein nod yn Cymru Ifanc yw adlewyrchu Erthygl 12 CCUHP – yr hawl i bobl ifanc gael barn, ac i’r safbwyntiau hyn gael eu clywed, a’u cymryd o ddifrif.
Mae lleisiau pobl ifanc yn bwerus, ac mae Cymru Ifanc yn darparu llwyfan i farn pobl ifanc gael ei chlywed.
Trwy ein hymgynghoriadau, byrddau a grwpiau gwahanol, gall pobl ifanc ddatblygu eu sgiliau a rhannu eu barn ar bynciau sydd o bwys iddynt. Nid oes angen profiad blaenorol. Rydym yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig sydd eisiau cymryd rhan a defnyddio eu llais i wneud gwahaniaeth.
Mae tîm Cymru Ifanc yn gweithio’n galed i greu cyfleoedd anhygoel i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt, drwy gydol y flwyddyn. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn y gall ein gwirfoddolwyr ymwneud ag ef:
• Cymryd rhan yn ein Byrddau a’n Grwpiau sy’n ymdrin ag ystod o bynciau o Newid yn yr Hinsawdd ac Iechyd Meddwl i Ddiogelwch Ar-lein, Addysg a Hyfforddiant, a materion LGBTQ+. Os oes achos y mae pobl ifanc yn angerddol drosto, mae’n debyg bod gennym ni grŵp ar ei gyfer!
• Mynychu cwrs preswyl Cymru Ifanc, sy’n digwydd tair gwaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau yng Nghymru – mae’r llety, trafnidiaeth a bwyd yn cael eu darparu am ddim.
• Dysgu mwy am CCUHP a’n helpu ni i ledaenu’r gair am hawliau plant ledled Cymru.
• Cyfarfod ag Aelodau’r Senedd a Swyddogion Llywodraeth Cymru a rhannu eu barn fel rhan o’n rhaglen Cymru Ifanc.
• Cyfle i godi eu llais drwy gymryd rhan yn un o’n nifer o ymgynghoriadau gwahanol sy’n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.
• Ymuno â ni mewn digwyddiadau fel Gŵyl Flynyddol Cymru Ifanc, yr Urdd, a Pride Cymru.
Rydym yn defnyddio Microsoft Forms i gofrestru ein gwirfoddolwyr ifanc felly gallant gofrestru drwy’r ffurflen yma. Mae’n cymryd tua 20 munud i’w gwblhau. Byddwn wedyn yn cysylltu drwy e-bost i wahodd yr ymgeisydd i ymuno a sesiwn ymsefydlu gwirfoddolwyr ar-lein, a chyfleoedd a digwyddiadau sydd ar ddod.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at young.wales@childreninwales.org.uk
Amcangyfrifir bod 1 plentyn o bob 10 yn cael eu cam-drin yn rhywiol erbyn iddyn nhw gyrraedd 16 oed . Mae cam-drin plant yn rhywiol yn drawma systemig sy’n effeithio ar y teulu cyfan. Mae plant sy’n dioddef yn wynebu mwy o debygolrwydd o gam-drin pellach a phroblemau sy’n cyfyngu ar fywyd o ganlyniad i hynny. Ar yr un pryd, heb gefnogaeth briodol, bydd y teulu cyfan yn ei chael yn anodd goresgyn y trawma cyfunol a darparu’r sefydlogrwydd a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar ddioddefwyr a goroeswyr cam-drin plant yn rhywiol.
Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae We Stand (www.westand.org.uk) wedi arbenigo mewn helpu teuluoedd i brosesu eu trawma gyda’i gilydd, a helpu rhieni a gofalwyr amddiffyn a chefnogi eu plant sydd wedi’u cam-drin yn rhywiol i symud ymlaen. Rydyn ni’n cael galwadau bob dydd gan rieni sydd wedi cael gwybod yn ddiweddar bod eu plentyn wedi cael ei gam-drin. Maen nhw’n aml mewn cyflwr o sioc, gyda theimladau o unigedd ac anobaith, a dim gallu i ddeall sut y byddan nhw’n llywio’r dyfodol.
Ein nod yw lliniaru effeithiau tymor hir camdriniaeth yn ystod plentyndod, ac mae ein model cyflawni yn grymuso’r teulu cyfan (y teulu nad yw’n cam-drin) i symud ymlaen gyda’i gilydd.
Er ein bod wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol a chadarnhaol i ddegau o filoedd o fywydau, gan gynnwys drwy ein llinell gymorth ledled y DU, mae ein gwaith wyneb yn wyneb wedi’i gyfyngu i gleientiaid yn Ne Llundain. Mae’r pandemig wedi cyflymu ein strategaeth o ddarparu ein gwasanaethau eraill ledled y DU am y tro cyntaf. Roeddem yn dal i bryderu am y diffyg darpariaeth fanwl, wyneb yn wyneb ar gyfer y teulu cyfan ledled y DU.
Yn dilyn y broses o archwilio cofnod hawliau plant y DU, dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn eu sylwadau terfynol yn 2023 eu bod “...yn pryderu’n ddifrifol am yr adnoddau annigonol a ddyrannwyd i wasanaethau cysylltiedig ar gyfer plant sy’n dioddef.” Mae’r Pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion i’r Wladwriaeth sy’n barti ynghylch sut y gall sicrhau bod plant yn cael cymorth gwell, gan gynnwys: “...mynediad at ofal trawma
yn y gymuned a gwasanaethau cymorth sy’n sensitif i blant, yn ogystal â sicrhau bod pob plentyn sy’n dioddef neu’n dyst i drais yn cael mynediad prydlon at ymyriadau, gwasanaethau a chymorth cynhwysfawr, amlsector sy’n sensitif i blant, gan gynnwys cyfweliadau fforensig a therapi seicolegol, gyda’r nod o atal rhagor o niwed i’r plant hynny.”
Rydyn ni’n ategu’r angen am y newidiadau hyn ac yn credu’n gryf na fydd anghenion y plentyn yn cael eu diwallu’n llawn heb gymorth i’r teulu cyfan. Rydyn ni’n gweld cyfle sylweddol i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio mwy ar gymorth i’r teulu cyfan yn ei chynllun gweithredu cenedlaethol newydd ar gyfer atal ac ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Gan lansio’r gwanwyn hwn, bydd ein cynnig yn Ne-ddwyrain Cymru yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth wyneb yn wyneb i aelodau o’r teulu sy’n amddiffyn plentyn/sydd ddim yn cam-drin plentyn, ochr yn ochr â’n cynnig ar-lein i deuluoedd ledled Cymru. Bydd y gwasanaethau’n cynnwys therapi i rieni a gofalwyr, cyngor a chymorth cyfreithiol a gweithdai ar fagu plant drwy drawma.
Bydd ein gwasanaethau newydd ar gyfer rhieni a gofalwyr yn ategu’r cymorth presennol i blant a phobl ifanc sy’n cael ei ddarparu ledled Cymru gan ddarparwyr arbenigol, gan sicrhau bod y teulu cyfan yn cael cymorth drwy eu trawma. Rydyn ni’n awyddus i gysylltu a chydweithio â sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y maes hwn i eirioli dros ddull teulu cyfan.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â melissa@westand.org.uk
Cardiff University Social Science Research Park (SPARK), Cardiff, CF24 4HQ 029 2034 2434 @ChildreninWales info@childreninwales.org.uk childreninwales.org.uk