Annual report 13 welsh(1)

Page 8

8

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Cynrychiolaeth / Llais y Myfyrwyr / Ymgyrchu dros fyfyrwyr Mae gan yr Undeb hanes hir a balch o gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a llywio profiad dysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bob blwyddyn, caiff myfyrwyr eu hethol i rolau arwain o fewn yr Undeb, gyda chynrychiolwyr Colegau ac Ysgolion yn cael eu hethol gan fyfyrwyr o’r meysydd hynny.

Cynrychiolaeth Mae Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn chwarae rôl hanfodol bwysig yn y bartneriaeth rhwng Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Cynrychiolwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng aelodau o staff a’u cyd-fyfyrwyr i sicrhau y caiff llais myfyrwyr ei glywed a’i ystyried o ddifrif ar bob lefel. Mae Cynrychiolwyr hefyd yn mynychu paneli Staff-Myfyrwyr yn eu hysgolion.

Yn 2012-13

500

hyfforddwyd 500 o fyfyrwyr fel Cynrychiolwyr o’i gymharu â 200 y flwyddyn flaenorol

Yn 2012-13, hyfforddwyd 500 o fyfyrwyr fel Cynrychiolwyr o’i gymharu â 200 y flwyddyn flaenorol. Cynhaliwyd yr hyfforddiant dros 35 sesiwn hyfforddi unigol yn yr ysgolion ac yn yr Undeb.

Llais y Myfyrwyr Yn 2013 cynhaliwyd y Speak Week cyntaf erioed; wythnos yn cynnig cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad yn y Brifysgol drwy arolygon ar-lein, pwyntiau adborth o amgylch y campws a wal syniadau yn Undeb y Myfyrwyr. Yn ystod Speek Week, cynhaliwyd hefyd y gynhadledd gyntaf i Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.

Ymgyrchu dros Fyfyrwyr Mae diwylliant ymgyrchu fywiog yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n galluogi aelod byfyrwyr i gefnogi’r achosion maent yn credu ynddynt a dweud eu dweud ar faterion pwysig. Caiff ymgyrchoedd eu harwain yn aml gan Swyddogion Etholedig, Cymdeithasau, Gwasanaethau a gaiff eu rhedeg gan Fyfyrwyr a gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Nifer y Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr

2012-13 971 2011-12 963

Cefnogi myfyrwyr Yn 2012-13, cefnogodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ei aelod fyfyrwyr yn yr ymgyrchoedd canlynol: • Wythnos Mind Your Head (iechyd meddwl a lles) • Prosiect Everyday Sexism • Cynaliadwyedd (Wythnos Byddwch Wyrdd)


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.