Annual report 13 welsh(1)

Page 1

Adroddiad Effaith Y BLYNYDDOL Y

2012/13


2

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

CYNNWYS 3

4

5

6

Datganiad am yr Undeb ynghyd â’i ddatganiadau o’i genhadaeth, gweledigaeth a’i werthoedd

Cyflwyniad i’r adroddiad gan y Llywydd a’r Prif Weithredwr

Prif Gyflawniadau yn 2012/13

Boddhad (myfyrwyr a staff)

7

8

9

10

Perfformiad yn erbyn ein targedau

Cynrychiolaeth, Llais y Myfyrwyr, Ymgyrchu dros fyfyrwyr

Cyngor a Chynrychiolaeth

Ystadegau Gwaith Ymgysylltu Cyffredinol

11

12

13

14

Chwaraeon a Chymdeithasau

Cyfryngau’r Myfyrwyr

Democratiaeth ac etholiadau

Datblygu Myfyrwyr

15

16

17

18

Gwirfoddoli yn y Gymuned

Adloniant

Adloniant

Tai

19

20

21

22

Siop Swyddi Unistaff ac arian ym mhocedi myfyrwyr

Siop TG a Cutting Edge

Gwasanaethau’r Undeb yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan

Incwm a Gwariant

23

24

25

26

Perfformiad Masnachu

Gwaith adeiladu haf 2013

Gwaith adeiladu arfaethedig - haf 2014

Ein cynlluniau 2013/14

27

28

Datblygu strategaeth 2014-17

Rhestr o Ymddiriedolwyr / Cyfarwyddwyr ac Uwch Aelodau o Staff


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Yr Undeb

Wyddech chi

Nod Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw cael effaith gadarnhaol ar fywyd pob myfyriwr yng Nghaerdydd a’i helpu i fwynhau ei gyfnod yma. Fel rhan annibynnol o’r Brifysgol a arweinir gan fyfyrwyr, mae’r Undeb yn gwneud hyn drwy gynrychioli myfyrwyr a darparu amrywiaeth eang a chynhwysol o weithgareddau a gwasanaethau. Mae’r Undeb, sydd wedi’i leoli ym Mhlas y Parc ac ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, yn cyflogi 100 o aelodau o staff parhaol a 300 o aelodau o staff sy’n fyfyrwyr. Mae ganddo drosiant o tua 8.5M y flwyddyn.

Mae’r Undeb yn elusen gofrestredig a chafodd ei gorffori’n gwmni cyfyngedig yn 2010.

ein

gaeth i d e l e w g elu at ol n a n y Rydym aith gadarnha gael eff d pob ar fywy riwr... myfy

IERTNHOEDD E GW

erdydd ei a h g N ...yng ynhau w f i u p l a’i he yma gyfnod

t n a i l l y w Y i d wdd

ansa

bu e r h t a f Y y c h t partneriae d d e o e l f Y y c yedd

cynaliadw

Wyddech chi Mae’r Undeb yn rhedeg cwmni masnachu – Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig – i ddarparu ei wasanaethau masnachol. Yna, caiff elw’r Cwmni Masnachu ei roi i’r Undeb i’w ddefnyddio ar gyfer ei weithgareddau a’i wasanaethau elusennol.

3


4

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

CYFLWYNIAD GAN Y LLYWYDD A’R PRIF WEITHREDWR Rwy’n ffodus fy mod yn fy ail flwyddyn fel swyddog etholedig sy’n golygu y gallaf feddwl yn ôl dros gyflawniadau llynedd, monitro ein cynnydd presennol ac edrych ymlaen at y cynlluniau cyffrous sydd gan y tîm swyddogion mewn golwg ar gyfer y flwyddyn i ddod. Bu 2012/13 yn flwyddyn o newid mawr i Brifysgol Caerdydd ac i Undeb y Myfyrwyr sy’n golygu y bu’n gyfnod llawn cyfleoedd hefyd. Mae gan y Brifysgol Is-Ganghellor newydd sydd wedi ailstrwythuro’r ysgolion academaidd yn dri choleg. Mae gan yr Undeb Brif Swyddog Gweithredol newydd, un swyddog etholedig yn llai (neu Is-Lywydd fel y’i gelwir bellach) a gwelwyd gwelliannau mawr i’r adeilad. Gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn parhau a thros y misoedd nesaf byddaf yn siarad gyda myfyrwyr am y cynlluniau i ailddatblygu’r ail lawr. Bydd hynny yn cynnwys clwb nos Solus, y Gegin, y Taf a (gan groesi ein bysedd!) lle cymdeithasol gwell y tu allan! Hoffwn ddiolch i dîm swyddogion 2012/13 a’u llongyfarch ar eu gwaith caled a’u hymroddiad, a amlygir gan y buddiannau i fyfyrwyr y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn. Maent wedi gosod y sylfeini ar gyfer nifer o brosiectau a gynhelir eleni, sydd wedi bod o gymorth mawr i dîm 2013/14.

Cyflwyniad gan y Prif Weithredwr Mae’n bleser gennyf gyflwyno adroddiad blynyddol yr Undeb ac edrych yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd gan y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf. Ymunais â’r Undeb fel Prif Weithredwr ym mis Mehefin 2013, felly mae’r mwyafrif o’r adroddiad hwn yn cwmpasu cyfnod cyn i mi ddod i adnabod y sefydliad a’i gydberthynas agos â myfyrwyr Caerdydd. Fodd bynnag, mae cyflawniadau gwych staff, swyddogion a gwirfoddolwyr yr Undeb dros y 12 mis diwethaf yn rhoi’r hyder i mi y gall yr Undeb barhau i fynd o nerth i nerth dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt. Cefais fy nenu i Gaerdydd oherwydd enw da yr Undeb, y lefelau uchel o foddhad ymhlith ei fyfyrwyr a dyheadau uchel y Brifysgol. Dros y flwyddyn nesaf, byddaf yn gweithio gyda Cari, y swyddogion etholedig eraill, ein staff a’r Brifysgol i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr Undeb a fydd yn atgyfnerthu ein cryfderau, yn rhoi llwyfan i’r Undeb ffynnu ac yn sicrhau bod yr Undeb yn cael ei gydnabod fel rhan flaenllaw o’r Brifysgol. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn adeilad yr Undeb ac yn darparu’r mannau gorau posibl i fyfyrwyr gael gafael ar ein cynrychiolaeth, ein gwasanaethau a’n gweithgareddau. Gwnawn hyn tra’n ail-gydbwyso’r gwasanaethau masnachol a gynigir gan yr Undeb er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ychwanegu gwerth ac incwm ychwanegol i ariannu gweithgareddau craidd yr Undeb. Ar ôl blwyddyn heriol yn 2011/12, llwyddodd cwmni masnachu’r Undeb i wneud elw yn 2012/13 a disgwyliwn iddo atgyfnerthu hyn ymhellach yn ystod 2013/14. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad. Os hoffech weld adroddiad ffurfiol yr Undeb yn ogystal â’n datganiadau ariannol, ewch i www.cardiffstudents.com.


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

A LLWYDDIANNAU MYFYRWYR CAERDYDD

WN CYNNYDD ME CYFFREDINOL YMGYSYLLTU

Gwaith y n ystod H af

2013

yfyrwyr Gorau i F u a g n y fr Cy

MRU UCM CY

VARS ITY

Cyflawniadau Swyddogion Etholedig Undeb y Myfyrwyr • Cyflwynwyd polisi Dim Goddefgarwch mewn perthynas ag Aflonyddu Rhywiol ar draws y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr • Lobïwyd y Brifysgol yn llwyddiannus ar ei pholisi Buddsoddi Moesegol o ran bancio ac ariannu • Cyflwynwyd y Criw Cyngor - i godi ymwybyddiaeth o’r cymorth bugeiliol a gynigir gan yr Undeb • Cynhaliwyd Wythnos Byddwch Wyrdd - yn cynnig dosbarthiadau ymwybyddiaeth beicio/diogelwch ar y beic a dosbarthiadau meistr ar dyfu eich llysiau eich hun • Cefnogwyd ymgyrch Adennill y Nos UCM Cymru, sy’n grymuso merched yn y gymuned • Brwydrwyd i achub Canolfan Iechyd y Brifysgol • Cyflwynwyd Cynllun Tacsi Diogel i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cyrraedd adref yn ddiogel hyd yn oed heb arian • Rhoddwyd dros 2000 o baneidiau o de, coffi, dwr a diodydd ynni am ddim fel rhan o Gymorth Adolygu • Gwelwyd mwy o fyfyrwyr yn pleidleisio yn ein Hetholiadau blynyddol • Llwyddwyd i droi diffyg ariannol o £250k y llynedd yn warged bach eleni • Sicrhawyd cytundeb gwerthfawr â WHSmiths • Llwyddwyd i gynyddu aelodaeth gyffredinol o gymdeithasau 10% • Cynhaliwyd Go:Global a oedd yn cynnwys miloedd o fyfyrwyr, 28 o ddigwyddiadau a 36 o gymdeithasau • Cyflwynwyd cynrychiolwyr RAG (Raise and Give) i Bwyllgorau Cymdeithasau • Hyfforddwyd dros 500 o aelodau pwyllgorau cymdeithasau ar gyfer y flwyddyn nesaf • Mynychwyd #DEMO2012 UCM • Mynychwyd #BUCSProtest er mwyn diogelu clybiau chwaraeon myfyrwyr meddygaeth

• Cynyddwyd nifer y cymdeithasau sydd gennym i dros 150 • Penodwyd Prif Weithredwr newydd • Cynhaliwyd ein harolwg mwyaf erioed o brofiad myfyrwyr ar Leoliadau Clinigol • Cynhaliwyd ein hwythnos y Glas fwyaf a gorau erioed ar gyfer carfan nyrsys mis Mawrth • Sicrhawyd ymrwymiad i rewi ffioedd myfyrwyr rhyngwladol dros gyfnod eu cwrs • Rhoddwyd y cyfle i dros 2000 o fyfyrwyr roi adborth i’r Brifysgol yn ystod Wythnos Siarad • Dosbarthwyd 700 o gardiau post ac arnynt syniadau gan fyfyrwyr yn uniongyrchol i ddesg yr Is-Ganghellor • Recriwtiwyd dros 900 o Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr • Sicrhawyd £1.1m ychwanegol o gyllideb ganolog y Brifysgol er mwyn gwella Neuaddau Preswyl • Sicrhawyd £1.04m i drawsnewid 3ydd llawr Undeb y Myfyrwyr • Enillodd ‘Chwaraeon Cynhwysol’ wobr UCM am yr Ymgyrch LGBT+ orau • Enillwyd gwobr Cyfryngau Gorau yng Ngwobrau UCM Cymru • Cynhaliwyd y gystadleuaeth Varsity fwyaf erioed, gyda 30 o gemau, ac enillodd Caerdydd 23 ohonynt! Torf o dros 17,000 yn Stadiwm y Mileniwm! • Trefnwyd y daith chwaraeon ganoledig gyntaf i Salou, Sbaen • Codwyd £1500 ar gyfer Wheelpower drwy galendr elusen • Llwyddwyd i gynyddu aelodaeth gyffredinol o gymdeithasau chwaraeon 20% • Cyflwynwyd strwythur haenu clybiau chwaraeon i’r Undeb Athletau er mwyn ysgogi clybiau i wella a gwobrwyo llwyddiant • Cadarnhawyd pedwar clwb chwaraeon newydd • Cyflwynwyd rôl staff newydd:

Rheolwr Gweithgareddau • Cyd-ysgrifennwyd strategaeth chwaraeon gyntaf y Brifysgol • Sicrhawyd nawdd o hyd at £15,000 gan Kukri ar gyfer yr Undeb Athletau • Llwyddwyd i ymgysylltu â 500% yn fwy o fyfyrwyr drwy Hwb y Mynydd Bychan • Sicrhawyd £350k o arian i ailddatblygu’r 4ydd llawr, gan roi ystafelloedd addysgu/cyfarfod newydd i ni ac ystafell gynadledda • Argraffwyd y 1000fed rhifyn o Gair Rhydd • Cynhaliwyd ymgyrch ‘Don’t Drop Out, Drop In’ ar ôl y Nadolig • Crëwyd gwefan newydd er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fyfyrwyr am bopeth a wnawn • Gosodwyd arwyddion dwyieithog newydd drwy’r adeilad • Dyluniwyd brand newydd ar gyfer yr Undeb a’i gyflwyno er mwyn sicrhau mwy o effaith a chysondeb • Cynhaliwyd y Gynhadledd gyntaf erioed i Gynrychiolwyr Cyrsiau Caerdydd • Ail-lywiwyd democratiaeth myfyrwyr a chafwyd mwy o syniadau ar gyfer newid gan fyfyrwyr nag yn ystod y tair blynedd blaenorol gyda’i gilydd • Hyfforddwyd y nifer fwyaf erioed o Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr • Cynhaliwyd ein gweithdy cyflogadwyedd cyntaf erioed ar gyfer Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr • Sicrhawyd ymrwymiad amhenodol gan y Brifysgol i gofnodi darlithoedd • Siaradwyd â thros 2000 o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf am System Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr • Dylanwadwyd yn fawr ar flaenoriaethau’r Brifysgol ar gyfer gwariant cyfalaf

5


6

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Boddhad

10

UCHAF

Boddhad Myfyrwyr Ers 2012, mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr wedi cynnwys cwestiwn ynghylch boddhad gydag Undeb y Myfyrwyr. Gwahoddir pob myfyriwr israddedig yn ei flwyddyn olaf i gwblhau’r arolwg ac mae dros 90% o fyfyrwyr Caerdydd yn cymryd rhan. Yn 2013, llwyddodd Caerdydd i aros yn y deg uchaf o blith undebau myfyrwyr y DU, gan gipio’r safle cyntaf yng Nghymru.

Y Cwestiwn

Safle Safle Sefydliad +/yn 2013

Undeb % a oedd yn Cytuno 2013

Undeb % a oedd yn Cytuno 2012

0

1

Sheffield (Prifysgol)

93

95

1

2

Leeds (Prifysgol)

90

90

-1

3

Prifysgol Loughborough

88

91

8

4

Caerfaddon (Prifysgol)

85

79

13

5

Prifysgol Keele

84

76

3

6

Caer-wynt (Prifysgol)

83

80

-3

7

Prifysgol Caerdydd

82

83

-2

7

Dundee (Prifysgol)

82

82

2

9

Teeside (Prifysgol)

81

79

Prifysgol Cofentri

Boddhad Staff

2 3

LOUGHBOROUGH

4

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2013

9

SHEFFIELD

LEEDS

“Gan feddwl am yr holl wasanaethau, gan gynnwys cymorth, gweithgareddau a chynrychiolaeth academaidd a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr (Cymdeithas neu Urdd) yn eich sefydliad, i ba raddau ydych chi’n cytuno â’r datganiad canlynol: Rwy’n fodlon ar Undeb y Myfyrwyr (Cymdeithas neu Urdd) yn fy sefydliad”.

12

1

81

Gorffennaf 2013

75

888

Mae staff yr Undeb yn aml yn gyfrifol am ddarparu llawer o weithgareddau a o staff yn dweud gwasanaethau’r Undeb ac am bod yr Undeb gefnogi’r miloedd o fyfyrwyr yn lle gwych i sy’n gwirfoddoli o’u hamser i’r weithio Undeb a thrwy redeg clybiau chwaraeon, cymdeithasau a grwpiau diddordeb eraill. Ym mis Gorffennaf 2013, nododd 72% o staff yr Undeb fod Undeb Myfyrwyr Caerdydd yn lle gwych i weithio.

72%

CAERFADDON

5

KEELE

6

CAER-WYNT

7

CAERDYDD

8

DUNDEE

9

TEESIDE

10

COFENTRI


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Perfformiad yn erbyn ein targedau Yn 2010, lansiodd yr Undeb ei strategaeth gyfredol a phennodd amrywiaeth o dargedau ar gyfer pob blwyddyn o’r cynllun hwnnw. Yn ystod 2012/13, roedd gan yr Undeb 96 o dargedau unigol. O’r rheini, cyflawnwyd 29, cyflawnwyd 13 yn rhannol ac ni lwyddwyd i gyflawni 52. Eleni (2012/13) oedd blwyddyn olaf ond un strategaeth gyfredol yr Undeb ac roedd llawer o’r targedau yn heriol iawn. Hefyd, mae rhai o’r targedau gwreiddiol wedi dod yn llai perthnasol dros amser ac nid aed ati i’w cyflawni. TARGEDAU

CYFLAWNWYD CYFLAWNWYD YN RHANNOL NI CHYFLAWNWYD

EICH LLAIS

11

2

2

7

YMGYSYLLTU A'R GYMUNED

21

5

2

14

CYFLOGADWYEDD

21

8

2

11

IECHYD A LLES

20

8

6

6

HWYL A CHYFEILLGARWCH

18

6

3

9

GWASANAETHAU

2

0

0

2

ADNODDAU

3

0

0

3

96

29

13

52

CYFANSYMIAU

Mae cynllun gweithredu’r Undeb ar gyfer 2013/14 wedi’i symleiddio a dim ond 20 o dargedau sydd wedi’u cynnwys. Mae’r targedau hyn yn cwmpasu: rhanddeiliaid; dysgu a thwf; rheolaeth ariannol; a systemau, polisïau a gweithdrefnau. Mae’r Undeb hefyd wedi ymrwymo i lansio ei gynllun strategol newydd cyn diwedd y flwyddyn academaidd i gwmpasu 2014/17.

7


8

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Cynrychiolaeth / Llais y Myfyrwyr / Ymgyrchu dros fyfyrwyr Mae gan yr Undeb hanes hir a balch o gynrychioli myfyrwyr Caerdydd a llywio profiad dysgwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Bob blwyddyn, caiff myfyrwyr eu hethol i rolau arwain o fewn yr Undeb, gyda chynrychiolwyr Colegau ac Ysgolion yn cael eu hethol gan fyfyrwyr o’r meysydd hynny.

Cynrychiolaeth Mae Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn chwarae rôl hanfodol bwysig yn y bartneriaeth rhwng Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd. Mae’r Cynrychiolwyr yn gweithredu fel cyswllt rhwng aelodau o staff a’u cyd-fyfyrwyr i sicrhau y caiff llais myfyrwyr ei glywed a’i ystyried o ddifrif ar bob lefel. Mae Cynrychiolwyr hefyd yn mynychu paneli Staff-Myfyrwyr yn eu hysgolion.

Yn 2012-13

500

hyfforddwyd 500 o fyfyrwyr fel Cynrychiolwyr o’i gymharu â 200 y flwyddyn flaenorol

Yn 2012-13, hyfforddwyd 500 o fyfyrwyr fel Cynrychiolwyr o’i gymharu â 200 y flwyddyn flaenorol. Cynhaliwyd yr hyfforddiant dros 35 sesiwn hyfforddi unigol yn yr ysgolion ac yn yr Undeb.

Llais y Myfyrwyr Yn 2013 cynhaliwyd y Speak Week cyntaf erioed; wythnos yn cynnig cyfle i fyfyrwyr roi adborth ar eu profiad yn y Brifysgol drwy arolygon ar-lein, pwyntiau adborth o amgylch y campws a wal syniadau yn Undeb y Myfyrwyr. Yn ystod Speek Week, cynhaliwyd hefyd y gynhadledd gyntaf i Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr.

Ymgyrchu dros Fyfyrwyr Mae diwylliant ymgyrchu fywiog yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sy’n galluogi aelod byfyrwyr i gefnogi’r achosion maent yn credu ynddynt a dweud eu dweud ar faterion pwysig. Caiff ymgyrchoedd eu harwain yn aml gan Swyddogion Etholedig, Cymdeithasau, Gwasanaethau a gaiff eu rhedeg gan Fyfyrwyr a gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Nifer y Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr

2012-13 971 2011-12 963

Cefnogi myfyrwyr Yn 2012-13, cefnogodd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ei aelod fyfyrwyr yn yr ymgyrchoedd canlynol: • Wythnos Mind Your Head (iechyd meddwl a lles) • Prosiect Everyday Sexism • Cynaliadwyedd (Wythnos Byddwch Wyrdd)


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Cyngor a Chynrychiolaeth

2011-12

nifer yr a y myfyrwceisio oedd yn

cymorth

1,225

2012-13

1,739

Mae’r Undeb yn rhedeg canolfan cynghori a chynrychioli benodol ar 3ydd llawr adeilad yr Undeb ac o’r Ganolfan Iechyd ar gampws y Mynydd Bychan. Bydd ein tîm o Ymgynghorwyr Myfyrwyr naill ai’n rhoi cymorth uniongyrchol i fyfyrwyr y maent yn eu gweld neu’n eu cyfeirio i gael help arbenigol. Yn ystod 2012/13, gwelodd y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli gynnydd amlwg yn nifer y myfyrwyr a oedd yn ceisio cymorth, sef cyfanswm o 1,739 o fyfyrwyr unigol o gymharu â 1,225 yn 2011/12. Mae’r Ganolfan Cynghori a Chynrychioli (CCCh) yn cynghori ar nifer o broblemau gwahanol, gan gynnwys problemau academaidd, defnyddwyr, tai, cyflogaeth, cyllid myfyrwyr, materion ariannol a materion personol.

Materion academaidd Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymdriniodd CCCh â 856 o faterion academaidd yn cynnwys arfer annheg, ffitrwydd i ymarfer, cynnydd astudio, apeliadau academaidd ac amgylchiadau esgusodol. Yn ystod y cyfnod hwn, rhoddodd CCCh gyngor ar 251 o apeliadau academaidd a 295 o faterion a oedd yn ymwneud ag amgylchiadau esgusodol. Gwnaeth CCCh hefyd gynghori a chynrychioli nifer uwch o achosion arfer annheg. Roedd CCCh wedi gallu cefnogi a chynrychioli rhai myfyrwyr yn llwyddiannus a oedd yn profi problemau ffitrwydd i ymarfer a disgyblu, a roddodd waith achos dwys i’r cynghorwyr dros gyfnod hir. Rhoddodd CCCh gyngor ar 1064 o broblemau yn ymwneud â thai, a oedd yn cynnwys chwilio am dai, gwirio contractau tai, blaendaliadau tai, problemau adfeilio a chwynion preswylwyr. Hefyd cynhaliwyd amryw o ddigwyddiadau gan CCCh er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr am faterion osgoi fel Cymorth Adolygu ac Wythnos Cyngor ar Dai. Yn ystod y flwyddyn caiff bron i 4,000 o daflenni cyngor ar dai eu dosbarthu yn rhoi gwybod i fyfyrwyr am eu hawliau a’u cyfrifoldebau yn y sector rhentu preifat.

Money Doctors Mae Money Doctors, sef ein partneriaeth â Chanolfan Cymorth Myfyrwyr y Brifysgol, yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ariannol yn weithredol ymysg myfyrwyr, ac eleni, lledaenwyd y neges i 2225 o fyfyrwyr drwy wneud cyflwyniadau, digwyddiadau rhyngweithiol a dosbarthu gwybodaeth.

9


10

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Gwaith Ymgysylltu Cyffredinol Mae’r Undeb yn gwneud ei orau i fesur ei holl ryngweithio â myfyrwyr Caerdydd ac mae’n cofnodi lefelau cyfranogi yng ngweithgareddau’r Undeb a’r defnydd a wneir o wasanaethau. Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr Undeb yn ceisio mynd ati i ddefnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwella’r modd y caiff ei weithgareddau a’i wasanaethau eu darparu a sicrhau bod cyfranogiad myfyrwyr yn adlewyrchu’r amrywiaeth a welir o ran myfyrwyr y Brifysgol. Mae’r adnoddau a ddefnyddir i gofnodi rhyngweithio yn cael eu diweddaru’n barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn gywir, yn deg ac yn adlewyrchu gweithgarwch go iawn. Caiff y ffactorau hyn eu hystyried wrth fesur sut mae’r Undeb yn defnyddio’r data hwn.

Gwirfoddoli (Gwirfoddoli Myfyrwyr Pleidleisiwr Caerdydd)

Cyngor

Gwasanaethau a gaiff eu Rhedeg gan Fyfyrwyr

CCB Cymdeithasau Undeb Athletau

Cyfryngau’r Myfyrwyr Cyngor y Myfyrwyr

Cynrychiolwyr Cyrsiau

Uned Datblygu Myfyrwyr

Profion Gyrru

Gosodiadau

Ymgeiswyr Etholiadol

Siop Swyddi

Menter

Siop TG

Yn ystod 2012/13, gwelodd yr Undeb gynnydd anferth yn gyffredinol yn nifer y myfyrwyr a oedd yn ymgysylltu â’r Undeb. Isod rhestrir nifer y myfyrwyr a ddefnyddiodd bob gwasanaeth neu weithgarwch a oedd yn gysylltiedig â’r Undeb.

Adloniant

Urdd y Cymdeithasau

60% o holl fyfyrwyr Caerdydd Yn 2012/13, defnyddiodd 16,616 o fyfyrwyr un neu fwy o wasanaethau’r Undeb o gymharu â 15,760 yn 2011/12, sef cynnydd o fwy na 5%. Mae hyn yn cyfrif am 60% o holl fyfyrwyr Caerdydd. Yn ogystal â hyn, rydym yn cydnabod y gall llawer o fyfyrwyr ymgysylltu â ni mewn ffyrdd anfesuradwy - fel defnyddio cyfleusterau cymdeithasol yr Undeb a phrynu pethau drwy ein siopau, ein bariau a’n caffis. Mae’n annhebygol y bydd yr Undeb byth yn mynd ati i fesur rhyngweithio o’r fath, ond mae’n anelu drwy’r amser at sicrhau bod pob un o fyfyrwyr Caerdydd yn ymgysylltu â’r Undeb ac yn teimlo’n fodlon ar yr hyn a gynigir gennym.

CYFANSWM YMGYSYLLTU Â MYFYRWYR UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD 2012-13

Wyth Gwasanaeth Saith Gwasanaeth Chwe Gwasanaeth Pum Gwasanaeth

Un Gwasanaeth ar Ddeg Deg Gwasanaeth Naw Gwasanaeth

Pedwar Gwasanaeth Un Gwasanaeth

Nifer y Gwasanaethau

Cyfrif Myfyrwyr

Tri Gwasanaeth

2012/13

2011/12

Un Gwasanaeth

7197

6911

286

4.14

Dau Wasanaeth

4246

4094

152

3.71

Tri Gwasanaeth

2801

2589

212

8.19

Pedwar Gwasanaeth

1387

1282

105

8.19

Pum Gwasanaeth

596

523

73

13.96

Chwe Gwasanaeth

223

216

7

3.24

Saith Gwasanaeth

97

78

19

24.36

Wyth Gwasanaeth

40

35

5

14.29

Naw Gwasanaeth

11

8

3

37.50

Deg Gwasanaeth

1

14

-13

-92.86

Un Gwasanaeth ar Ddeg

5

4

1

25.00

Deuddeg Gwasanaeth

3

4

-1

-25.00

Tri Gwasanaeth ar Ddeg

2

1

1

100.00

1

-1

-100.00

Pedwar Gwasanaeth ar Ddeg

%

Dau Wasanaeth

Nifer Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr yr Ymgysylltir â Hwy


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

CHWARAEON A CHYMDEITHASAU Safle Bucs yr Undeb Athletau

14

22

18

2003/04 2004/05 2005/06

16

17

16

15

12

2006/07

2009/08

2009/09

2009/10

2010/11

Mae’r Undeb yn hwyluso’r broses o redeg dros 64 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau. Caiff y grwpiau hyn eu goruchwylio gan yr Undeb, ond caiff llawer o’r gwaith trefnu ei wneud gan fyfyrwyr gwirfoddol o fewn y grwpiau hynny. Caiff y gwirfoddolwyr hyn eu hethol gan aelodau’r grwpiau hyn bob blwyddyn. Yn 2012/13 gwelodd yr Undeb gynnydd sylweddol o dros 500 yn aelodau clybiau’r Undeb Athletau. O ganlyniad, gwelwyd 88 tîm yn cynrychioli’r Brifysgol mewn cystadlaethau chwaraeon, gyda 800 o fyfyrwyr yn cymryd rhan.

Cymdeithasau

17

19

2011/12 2012/13

20 UCHAF

Yn ystod 2012/13, gwelwyd y nifer fwyaf erioed o aelodau Cymdeithasau, gyda 4,872 o fyfyrwyr yn cofrestru gydag un o grwpiau’r Undeb. Mae hyn yn cyfateb i bron 18% o’r holl fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru â’r Brifysgol. Mae Urdd y Cymdeithasau yn gasgliad amrywiol o grwpiau wedi’u rhannu’n eang yn grwpiau gwleidyddol, gweithgarwch corfforol. I weld dadansoddiad llawn o holl gymdeithasau’r Undeb, ewch i www. cardiffstudents.com/societies

BUCS Mae’r Undeb yn cofrestru timau’r Undeb Athletau ar gyfer cystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a chaiff perfformiad pob tîm ei fesur drwy gyfrwng tabl cynghrair genedlaethol BUCS. Yn 2012/13, llithrodd yr Undeb o’r 17eg safle i’r 19eg safle ond mae’n parhau yn yr 20 uchaf o blith y 140 o sefydliadau sy’n cymryd rhan.

11


12

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Cyfryngau’r Myfyrwyr Mae’r Undeb yn cefnogi amrywiaeth o wasanaethau cyfryngol a arweinir gan fyfyrwyr: Gair Rhydd; Quench; Xpress Radio; a CUTV. Caiff y grwpiau cyfryngol hyn eu rhedeg fel clybiau chwaraeon a chymdeithasau ac maent yn cynhyrchu cynnwys cyfryngol ar gyfer holl fyfyrwyr Caerdydd. Mae’r Undeb wedi newid y ffordd y mae’n mesur ymgysylltu â chyfryngau’r myfyrwyr. Yn flaenorol, cafodd myfyrwyr a gofrestrodd i fod yn aelodau o bob un o’r grwpiau eu cyfrif at ddibenion ymgysylltu, ond yn 2012/13, cafodd y system ei newid er mwyn sicrhau mai dim ond y rhai a gyfrannodd mewn gwirionedd drwy gynhyrchu cynnwys a darparu cymorth technegol a gyfrifwyd. Yn ystod y flwyddyn, cyfrannodd 146 o fyfyrwyr at grwpiau’r cyfryngau.

Canolfan gyfryngau newydd Ym mis Ebrill 2013, symudodd Cyfryngau’r Myfyrwyr o bedwerydd llawr yr Undeb i ofod pwrpasol ar y trydydd llawr.

XPRESS RADIO

CUTV

gair rhydd

Quench cyfrannodd 146 o fyfyrwyr at grwpiau’r cyfryngau.


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

democratiaeth ac Etholiadau

5,018

CAFODD SWYDDOGION EU HETHOL GAN FYFYRWYR CAERDYDD DRWY BLEIDLAIS GUDD

2012 mawrth

Caiff pob myfyriwr yng Nghaerdydd y cyfle i gymryd rhan yn nemocratiaeth yr Undeb a dylanwadu ar gyfeiriad a pholisi’r sefydliad. Gwneir hyn drwy ethol prif ddeiliaid swyddi ym mis Mawrth bob blwyddyn a thrwy gymryd rhan mewn cyrff llunio polisïau fel y Cyfarfod Blynyddol i Aelodau a’r Weinyddiaeth Newid. Ym mis Mawrth, cafodd y grwp cyfredol o swyddogion ei ethol drwy bleidlais gudd gan 4,898 o fyfyrwyr Caerdydd (tua 18% o’r holl fyfyrwyr). Mae hyn yn ostyngiad bach o gymharu â’r flwyddyn flaenorol pan bleidleisiodd 5,018 o fyfyrwyr. Fodd bynnag, yn 2013/14, mae’r Undeb yn ymrwymedig i sicrhau bod dros 8,000 o fyfyrwyr yn cymryd rhan - tua 29% o holl fyfyrwyr Caerdydd.

Y Weinyddiaeth Newid Yn ystod 2012/13, aeth yr Undeb ati i ailfrandio Cyngor y Myfyrwyr am gyfnod prawf a’i alw yn ‘Weinyddiaeth Newid’ gyda’r nod o sicrhau bod mwy o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a llunio polisïau’r Undeb.

NEW TRANSLATION Er bod strwythur a brand terfynol y Weinyddiaeth Newid yn dal i gael eu datblygu, llwyddodd i gynyddu nifer yr eitemau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr i’w hystyried o 10 (11/12) i 63 (12/13).

mawrt h 2013

4,898

13


14

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Datblygu Myfyrwyr Yr Undeb hwn oedd un o’r rhai cyntaf yn y DU i lunio rhaglenni datblygu myfyrwyr er mwyn gwella sgiliau a chyflogadwyedd myfyrwyr. Er mwyn cydnabod pwysigrwydd cynyddol y gwaith hwn a’r angen i ehangu cyfleoedd i fwy o fyfyrwyr, ymunodd yr Undeb â’r Brifysgol i ddatblygu gofod newydd ardderchog ar gyfer gweithgarwch Datblygu Myfyrwyr o fewn y Ganolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli newydd yn adeilad yr Undeb. Mae’r Ganolfan newydd, a agorwyd gan yr Is-ganghellor ym mis Medi 2012, yn cynnig gofod ardderchog i ddarparu rhaglenni sgiliau’r Undeb mewn meysydd fel arweinyddiaeth, effeithiolrwydd personol a chyfathrebu. Gall myfyrwyr ennill achrediad am gwblhau pum uned ar y cyrsiau hyn ac, yn ystod 2012/13, llwyddodd 134 o fyfyrwyr i gyflawni’r achrediad Cyfathrebu, 155 i gyflawni’r achrediad Effeithiolrwydd Personol a 161 i gyflawni’r achrediad Arweinyddiaeth. Cymerodd cyfanswm o 1,797 o fyfyrwyr ran mewn sesiynau datblygu sgiliau a oedd yn gynnydd mawr o 39% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Gwnaed 6411 o gysylltiadau i gyd o ganlyniad i fynychu sesiynau ar fwy nag un achlysur a gweithio’n agos gydag ysgolion unigol.

134

Cyfathrebu

1,797 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan

39%

o gymharu â’r flwyddyn flaenorol CYFANSWM O

6,411 o gysylltiadau i gyd

155 d d y w r l o i h t i e Eff Personol 181 h t e a i d d y n i e Arw


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Gwirfoddoli yn y Gymuned Mae’r Undeb yn cefnogi rhaglen gynhwysfawr o weithgarwch gwirfoddoli cymunedol yng Nghaerdydd a’r gymuned ehangach yn Ne Cymru drwy Gynllun Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd (SVC). Caiff SVC, elusen annibynnol a sefydlwyd ac sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr Caerdydd, ei hariannu gan yr Undeb ac fe’i lleolir yn y Ganolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli ar ail lawr adeilad yr Undeb.

Cyflawniadau yn y Gymuned Addysg: Gweithredodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd mewn 10 ysgol gynradd leol, 7 ysgol uwchradd a rheolodd 3 chlwb ar ôl ysgol.

Yn ystod y flwyddyn, bu cynnydd o 23% o ran lefel cyfranogi myfyrwyr yng ngweithgareddau Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd gyda 958 o wirfoddolwyr tymor hir yn ogystal â thros 200 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiadau untro. Cefnogwyd 62 o wirfoddolwyr hefyd gan Wirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd i gyflawni dyfarniad 50, 100 neu 200 awr fel rhan o’r rhaglen Gwirfoddoli’r Mileniwm.

Iechyd meddwl: Gweithredodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd mewn 13 o wardiau mewn 2 ysbyty iechyd meddwl yng Nghaerdydd; gwnaeth Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd hefyd gynnig cyfleoedd gwirfoddoli mewn 2 uned adsefydlu. Sefydliadau Partner: Parhaodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd i weithio mewn partneriaeth drwy helpu i recriwtio i sefydliadau lleol a chenedlaethol yn cynnwys y canlynolHeadway, Bullies Out, Hybu, Age Concern, GIG, Cymunedau yn Gyntaf, Heddlu De Cymru

Prosiectau Newydd

Ceir rhagor o wybodaeth am Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd ar eu gwefan svcardiff.org

Menter Prifysgol Caerdydd Lleolir Menter Prifysgol Caerdydd yn y Ganolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli. Gwasanaeth ydyw a reolir gan y Brifysgol ac mae’n gweithio’n agos gyda’r Undeb i gynnig cyfleoedd a chymorth menter ardderchog i fyfyrwyr. Yn ystod y flwyddyn, cymerodd 655 o fyfyrwyr ran yn nigwyddiadau allgwricwlaidd Menter Prifysgol Caerdydd, o gymharu â 602 y flwyddyn flaenorol. Hefyd, cafodd dros 90 o fyfyrwyr gymorth i ddatblygu eu syniadau busnes a datblygodd 548 o fyfyrwyr sgiliau menter drwy fodiwlau wedi’u hachredu a ddatblygwyd gan staff academaidd gyda chefnogaeth tîm y Fenter.

23

W

• Dyddiau Gwener LOL: Clwb sy’n rhoi’r cyfle i bobl ifanc sydd â syndrom Down feithrin sgiliau bywyd a chymdeithasol.

IRFO D D O L WYR YN CYMR N MEW YD RHA N DIGWYDDIADAU UNTRO

• Innovate Trust: Gan weithio gyda’n sefydliad partner, cafodd gwirfoddolwyr eu paru ag oedolion ag anableddau dysgu, corfforol a / neu iechyd meddwl sy’n byw mewn Tai â Chymorth.

958

YN OGYSTAL Â THRO S 2 0 0O

• Fab 5 Party Planners a Make & Bake: Mae’r ddau yn glybiau sy’n trefnu digwyddiadau a gweithgareddau i bobl hyn.

HIR

• Prosiect Confident Futures: Mae’r prosiect hwn sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Ehangu Mynediad, yn cefnogi pobl ifanc sy’n byw mewn gofal i ddatblygu sgiliau, hyder a dyheadau mewn perthynas ag Addysg Uwch.

FODDOLWYR TY ..O WIR

M OR

Y llynedd, dechreuodd Gwirfoddoli Myfyrwyr Caerdydd y prosiectau newydd canlynol:

%

O GYNNYDD O RAN LEFEL CYFRANOGI MYFYRWYR

15


16

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Adloniant Mae’r Undeb yn cydnabod y rôl bwysig y mae’n ei chwarae o ran creu cyfleoedd i fyfyrwyr Caerdydd gael hwyl a gwneud ffrindiau ac mae’n gwneud hyn drwy ddarparu gofodau pwrpasol yn adeilad yr Undeb. .

Caffis, Bwyd a Mannau Cymdeithasol Mae’r Undeb yn darparu amrywiaeth o wasanaethau yn adeilad yr Undeb lle y gall myfyrwyr fwyta, yfed, astudio ac ymlacio. Yn ogystal â’r ffaith eu bod yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan fyfyrwyr, mae llawer o’r gwasanaethau hyn yn cyfrannu’n ariannol at yr Undeb, fel bod modd cyfeirio mwy o arian tuag at ddarparu gwasanaethau lles, gweithgareddau i fyfyrwyr a gweithgarwch datblygu myfyrwyr. Yn 2012/13, ymrwymodd yr Undeb i gytundeb â WHSmiths a oedd yn golygu mai nhw fyddai’n rheoli Siop yr Undeb. Mae siop newydd WHSmiths, a ailagorwyd ym mis Ebrill 2013, yn darparu amrywiaeth eang o nwyddau hanfodol i fyfyrwyr a dillad â brand y Brifysgol arnynt.

Y Lolfa Mae’r Lolfa, a lansiwyd yn 2011, yn ofod ymlacio pwrpasol i fyfyrwyr mewn amgylchedd anfasnachol. Mae’n cynnwys podiau astudio a Skype, Cegin i fyfyrwyr, ystafell weddïo a theras to.

Canolfan y Graddedigion Mae’r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i redeg Canolfan y Graddedigion - man pwrpasol ar gyfer astudio a dysgu cymdeithasol i fyfyrwyr ôl-raddedig. Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnwys ei bar caffi ei hun ac amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol i fyfyrwyr ôl-raddedig.

Y Taf Y Taf yw tafarn draddodiadol yr Undeb yn adeilad yr Undeb. Mae’n cynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd a diod saith diwrnod yr wythnos ynghyd â rhaglen o adloniant.

Y Gegin Mae’r Gegin, sydd ond ar agor yn ystod y dydd, yn darparu amrywiaeth o fwyd a diodydd poeth ac oer am bris fforddiadwy. Mae wedi’i lleoli ar yr ail lawr ac mae’n boblogaidd iawn yn ystod y tymor. Mae ganddi le i hyd at 200 o fyfyrwyr.

Magic Wrap Mae’r Magic Wrap, sydd wedi’i leoli ar y Llawr Gwaelod, yn cynnig opsiwn cludfwyd iach amser cinio i fyfyrwyr.

CF10 Mae CF10 yn gaffi traddodiadol sy’n cynnig opsiynau brecwast a chinio fforddiadwy drwy’r flwyddyn. Mae wedi’i leoli ar y llawr cyntaf, gyferbyn â’r Neuadd Fawr, ac fe’i defnyddir hefyd fel lleoliad ar gyfer gigs a gofod y gall grwpiau o fyfyrwyr ei archebu gyda’r nos.


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

r w a f d d a y neu

WHSmiths

gored gofod a ddir w y r w defny dd Fa Y Neua Undeb ac fe’i o r y f a h e ng mwya rywiaet yddyn m a lw r f e f ’r rwy ar gy d s, u a d d re dau, gig weithga ys digwyddia u a nw , ciniaw gan gyn d, arholiadau ed darlitho o a ffeiriau y w gwobr

Rhoddwyd bywyd newydd i Siop boblogaidd yr Undeb ym mis Ebrill 2013 pan ymrwymodd yr Undeb i bartneriaeth â WHSmiths. Mae siop WHSmiths wedi’i lleoli ar y llawr cyntaf ac mae ar agor drwy’r flwyddyn, rhwng 09:30am a 16:30pm.

Wyddech chi Cymerodd o leiaf 31% o fyfyrwyr cofrestredig ran yn y rhaglen adloniant a drefnwyd gan yr Undeb gyda’r nos

Mae’r Undeb yn rhedeg amrywiaeth o weithgareddau llwyddiannus, amrywiol a phoblogaidd i fyfyrwyr Caerdydd gyda’r nos. Mae’r Neuadd Fawr, Solus a mannau cymdeithasol eraill yn adeilad yr Undeb yn darparu amgylchedd diogel, llawn hwyl i gynnal gweithgareddau gyda’r nos sy’n parhau’n boblogaidd ymhlith myfyrwyr. Yn ystod 2012/13, daeth o leiaf 8,659 o fyfyrwyr i’r gweithgareddau a drefnwyd gennym gyda’r nos yn adeilad yr Undeb, sef cynnydd o 18% o gymharu â 2011/12. Nid yw’n bosibl casglu data ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n defnyddio’r cyfleusterau hyn ac felly bydd nifer y defnyddwyr yn uwch. Mae croeso i fyfyrwyr o Brifysgolion eraill yng Nghaerdydd fwynhau rhaglenni adloniant yr Undeb hefyd ac maent yn parhau’n boblogaidd ymhlith y grwp hwnnw.

Wyddech chi Yn 2012/13, cynhaliwyd 68 o gigs yn yr Undeb gyda pherfformiadau gan Jake Bugg, Bastille a thaith wobrwyo NME.

Solus Mae prif glwb nos yr Undeb, Solus, yn cynnig digwyddiadau rheolaidd gyda’r nos yn ogystal â gigs a digwyddiadau arbennig ac fe’i defnyddir ar gyfer amrywiaeth o ddibenion yn ystod y dydd gan gynnwys dosbarthiadau ffitrwydd, arddangosfeydd a stondinau marchnad.

8,659

o fyfyrwyr WEDI BOD i'r gweithgareddau a drefnwyd gennym gyda'r nos yn adeilad yr Undeb

18% O GYNNYDD O GYMHARU A 2011-12

17


18

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Tai

1,3 60

20 11 /20 12

PE YN RCH G E GW YFA N BL N AR NTAETH ASIAOD TAI GOS

YR W R FY RWYD Y F O RPA Y DADDYNT TAI I

Cardiff Student Letting OWNED & RUN BY CARDIFF UNIVERSITY STUDENTS' UNION

14, 9 9

20 12 /20 13

R Y W FYR RWYD Y F O RPA Y DADDYNT TAI I

Mae’r Undeb yn berchen yn gyfan gwbl ar ei asiantaeth gosod tai ei hun a leolir ar Lawr Gwaelod yr Undeb. Roedd Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerdydd, a sefydlwyd yn 2005, yn gyfrifol am letya 1,499 o fyfyrwyr y llynedd, a hi yw’r unig asiantaeth gosod tai yng Nghaerdydd nad yw’n codi ffioedd asiantaeth ar denantiaid. Er gwaethaf hyn, mae’n dal i wneud elw da sy’n caiff ei ailfuddsoddi wedyn yng ngweithgareddau a gwasanaethau eraill yr Undeb.

SE FY D YN LWYD 2

00 5

D IOEDH F F DIM NTAET ASIA


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Siop Swyddi Unistaff ac arian ym mhocedi myfyrwyr

DARPARODD DROS

FE’I DEFNYDDIWYD GAN DROS

100,000

TALODD

1.2m

3,000

o oriau o waith â thâl yn ystod 2012/2013

mewn cyflogau achlysurol yn ystod 2012/2013

o fyfyrwyr yn ystod 2012/2013

Mae’r Undeb yn gweithio mewn partneriaeth â’r Brifysgol i redeg Siop Swyddi Unistaff - asiantaeth gyflogaeth i fyfyrwyr Caerdydd sy’n dod o hyd i waith rhan amser a dros dro i fyfyrwyr yn y Brifysgol ac yn y gymuned ehangach. Mae Siop Swyddi Unistaff wedi’i lleoli ar Lawr Gwaelod adeilad yr Undeb ond mae llawer o fyfyrwyr yn cael gafael ar y gwasanaeth drwy cardiffstudents.com neu’r gronfa ddata o swyddi a anfonir at fyfyrwyr cofrestredig.

Gwerthfawrogi’n fawr Yn 2012/13, parhaodd y Siop Swyddi i gael ei defnyddio a’i gwerthfawrogi’n fawr gan fyfyrwyr Caerdydd. Daeth o hyd i waith rhan amser neu dros dro i 1,870 o fyfyrwyr, sef cynnydd bach o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

19


20

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

SIOP TG A cutting edge

1,232

O gyfrifiaduron wedi’u hatgyweirio

Mae’r Undeb yn rhedeg Siop TG ar lawr cyntaf adeilad yr Undeb sy’n cyflenwi cyfarpar TG ac yn darparu gwasanaeth atgyweirio cyfrifiaduron a gliniaduron. Mae’r Siop hefyd yn gwerthu amrywiaeth o ddeunydd ysgrifennu i fyfyrwyr.

30,800

Cyfanswm yr arian yr arbedodd y Siop TG i fyfyrwyr ar gostau atgyweirio

260,000 Werthiannau

Mae’r Undeb yn rhedeg siop trin gwallt sydd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb. Mae’r siop ar agor i fyfyrwyr, staff a’r gymuned leol ac mae’r holl elw yn cael ei ailfuddsoddi yng ngweithgareddau a gwasanaethau’r Undeb. Ers iddi gael ei hagor yn 2010, mae’r siop wedi mynd o nerth i nerth ac mae’n darparu gwasanaeth a werthfawrogir yn fawr.


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

21

Gwasanaethau’r Undeb yng Nghampws Parc y Mynydd Bychan HEATH

Hwb y Mynydd Bychan yw canolbwynt gweithgareddau yr Undeb yn y Mynydd Bychan. Gall myfyrwyr gael mynediad at amryw o’r gwasanaethau a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr, yn cynnwys y Siop Swyddi, Gwasanaeth Gosod Tai Myfyrwyr Caerydd, y Ganolfan Cynghori a Chynrychioli, yn ogystal â chyrsiau’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau. Hwb y Mynydd Bychan yw’r prif bwynt cyswllt ag Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc hefyd, gyda llinell ffôn uniongyrchol i’r Swyddogion Etholedig.

students O FYFYRWYR WEDI YMGYSYLLTU Â HWB Y MYNYDD BYCHAN

O GYNNYDD O GYMHARU â 2011-12

1917

184%


22

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

INCWM A GWARIANT Mae’r Undeb yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant. Rhoddir cyfrif am weithgareddau elusennol yr Undeb drwy Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a rhoddir cyfrif am weithgareddau masnachu drwy Wasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig. Bu 2012/13 yn flwyddyn sefydlog i’r Undeb. Ni chafwyd unrhyw amrywiadau mawr ym mherfformiad yr elusen na’r adnoddau a ddyrannwyd i’w nodau elusennol.

Incwm 2013

2012

Grant Bloc

600,000

610,000

Rhoddion mewn Nwyddau (cyfran o gostau Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig sy’n gymwys i’r Undeb)

1,161,519

1,063,929

Nawdd

3,951

4,713

Hysbysebu yn y Gair Rhydd

17,182

27,258

124,220

103,021

1,906,872

1,808,921

2013

2012

Costau Cyfryngau'r Myfyrwyr

44,485

59,089

Cyflogau

697,555

869,505

Sefydliad

38,610

34,478

Taliadau gweinyddol

65,867

88,274

Cerbydau a theithio

161,617

179,175

Gweithgareddau'r Undeb

619,392

386,013

4,737

7,415

651

714

272,337

298,036

1,905,251

1,802,699

Adnoddau a ddaeth i mewn o weithgareddau elusennol (gan cynnwys incwm ar gyfer chwaraeon, cymdeithasau a gweithgareddau eraill i fyfyrwyr) CYFANSWM

1,161,519

O RODDION MEWN NWYDDAU

3,951 O NAWDD

Gwariant

Treuliau proffesiynol Treuliau cyllid Costau cymorth CYFANSWM

Gellir lawrlwytho copi llawn o Ddatganiadau Ariannol yr Undeb ac Adroddiad Blynyddol yr Ymddiriedolwyr yn cardiffstudents.com

124,220

O WEITHGAREDDAU

1,906,872 CYFANSWM YR INCWM


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

PERFFORMIAD MASNACHU Cyfrif Elw a Cholled ar gyfer y Flwyddyn yn Gorffen 31.07.13 2013

2012

Trosiant

4,659,929

4,634,813

Cost gwerthiannau

(2,598,610)

(2,621,720)

2,061,319

2,013,093

(3,934,376)

(4,067,123)

Incwm gweithredu arall

1,935,192

1,754,137

Elw /colled gweithredu

62,135

(299,893)

Eitemau eithriadol eraill

(2,386,418)

Elw gros Treuliau gweinyddol

Llog derbyniadwy arall ac incwm tebyg

501

331

Llog taladwy a thaliadau tebyg

(11,803)

(7,593)

Colled ar weithgareddau arferol cyn treth

(2,335,585)

(307,155)

Colled ar gyfer y flwyddyn ariannol

(2,335,585)

(307,155)

2013

2012

Mantolen ar 31.07.13 Asedau sefydlog Asedau sefydlog diriaethol

797,834

943,244

Buddsoddiadau

77,023

95,023

874,857

1,038,267

Stociau

122,440

205,976

Dyledwyr

597,694

440,592

Arian parod yn y banc ac mewn llaw

147,416

115,179

867,550

761,747

(1,243,190)

(1,243,809)

(375,640)

(482,062)

499,217

556,205

Asedau Cyfredol

Credydwyr: symiau sy’n ddyledus o fewn blwyddyn Rhwymedigaethau cyfredol net Asedau net heb gynnwys rhwymedigaeth pensiwn Asedau net heb gynnwys rhwymedigaeth pensiwn Rhwymedigaeth pensiwn net

(2,278,597)

(Rhwymedigaethau) / asedau net

(1,779,380)

556,205

Cyfrif elw a cholled

(1,779,380)

556,205

(Diffyg)/cronfeydd cyfranddalwyr

(1,779,380)

556,205

Cyfalaf a chronfeydd wrth gefn

ELW

£62,135 YYY Mae Ymddiriedolwyr yr Undeb hefyd yn Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig, y cwmni masnachol sy’n darparu’r holl wasanaethau masnachol a gynigir gan yr Undeb, gan gynnwys lleoliadau, manwerthu, arlwyo, hysbysebu a gosod tai.

Y cwmni masnachu Adferwyd iechyd ariannol y cwmni masnachu yn 2012/13 gan greu elw gweithredu o £62,135 o’i gymharu â cholled o £299,893 yn 2011/12. Crëwyd yr elw hwn gan gynnydd mewn trosiant, gwell elw gros ac incwm gweithredu ychwanegol.

Newidiadau i’r ffordd o gyfrifyddu Oherwydd newidiadau i’r ffordd o gyfrifyddu rhwymedigaethau pensiwn buddion diffiniedig, mae’r cwmni wedi cydnabod ei rwymedigaethau yn y dyfodol i gynllun pensiwn i gyflogeion SUSS, sy’n cyfateb i £2,386,418. Mae rhwymedigaethau’r cwmni yn debygol o ymestyn hyd at 2030 a byddant yn cael effaith sylweddol ar y fantolen nes hynny.

23


24

ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Gwaith adeiladu - haf 2013 Yn ystod haf 2013, ymgymerodd yr Undeb â’i raglen adnewyddu fwyaf yn hanes adeilad yr Undeb, gyda’r 4ydd llawr a hanner y 3ydd llawr yn cael eu dymchwel yn fewnol, eu hailfodelu a’u hadnewyddu. Mae’r gwaith adnewyddu, a gostiodd ychydig dros £1M, yn darparu gofod gwell o lawer i fyfyrwyr, gofod newydd ar gyfer gweithgarwch cynghori a chynrychioli a gofod ychwanegol a gwell y gall grwpiau o fyfyrwyr ei archebu. Llywiwyd y prosiectau hyn gan yr ymchwil a wnaed gan yr Undeb yn 2012/13 i anghenion myfyrwyr, ac fe’u cefnogwyd yn llawn gan Brifysgol Caerdydd. Yn ogystal â’r newidiadau mawr ar ddau lawr uchaf adeilad yr Undeb, gwnaethpwyd gwelliannau llai o faint i’r Dderbynfa a’r gofod cylchredeg ar yr 2il lawr. Mae’r dderbynfa bellach yn darparu gofod gwell ar gyfer arddangosfeydd a mwy o le i fyfyrwyr eistedd. Er mwyn paratoi ar gyfer y myfyrwyr newydd a fyddai’n dechrau ym mis Medi 2013, cafodd opsiwn arlwyo newydd sy’n gwerthu bwyd poeth, diodydd ac ysgytlaethau ei leoli yn y dderbynfa, sef y Pantri. Cafodd y swyddfa docynnau ei chau’n barhaol gyda thocynnau bellach yn cael eu gwerthu ar-lein yn unig.


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Gwaith adeiladu arfaethedig - haf 2014 Yn sgil llwyddiant datblygiadau cyfalaf yn 2012 a 2013, mae’r Undeb yn bwriadu ymgymryd â’i ddatblygiad cyfalaf mwyaf hyd yma yn 2014. Ar ddiwedd 2013 a dechrau 2014, bydd yr Undeb yn ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid y Brifysgol ar y gwaith o ailfodelu’r mwyafrif helaeth o 2il lawr yr adeilad, gan gynnwys clwb nos Solus, y Gegin, Y Taf a’r Dderbynfa. Y gobaith yw y bydd y prosiect datblygu yn dechrau ym mis Ebrill 2014 ac yn cael ei gwblhau ym mis Medi yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Mae’r cynlluniau cyfredol yn cynnwys adeiladu to gwydr ar Solus a chyflwyno lefel fesanîn fel bod modd defnyddio’r gofod mewn ffyrdd mwy hyblyg nag sy’n bosibl ar hyn o bryd. Ymhlith y cynlluniau eraill mae gwelliannau i fannau cymdeithasol ac ardaloedd balconi ar hyd ffrynt yr adeilad ac estyniad i’r dderbynfa.

25


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

Ein cynlluniau 2013/14 Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Undeb wedi pennu’r targedau canlynol fel yr 20 blaenoriaeth bwysicaf ar gyfer y flwyddyn:

,5 KN Rhanddeiliaid

DYSGU / TWF

Cynnal cydberthnasau cryf, cynaliadwy a boddhaol â’n rhanddeiliaid tra’n sicrhau bod yr Undeb yn cynnwys ei randdeiliaid yn y broses o lunio strategaeth a chynlluniau gweithredol.

Gwella’r hyn y mae’r Undeb yn ei wneud yn barhaus tra’n sicrhau bod gan staff, swyddogion a gwirfoddolwyr y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt i gyflawni Gweledigaeth yr Undeb

Targedau

Targedau

Paratoi a lansio strategaeth yr Undeb ar gyfer 201417, yn dilyn ymgynghoriad trylwyr â myfyrwyr, staff a’r Brifysgol, erbyn 30ain Mehefin 2014

Cynyddu ymgysylltu cyffredinol yr Undeb ag aelodau unigol hyd at 17,500 o fyfyrwyr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Llunio arolygon boddhad ar gyfer: staff gyrfa, staff sy’n fyfyrwyr, myfyrwyr, gwirfoddolwyr gweithgareddau myfyrwyr a rhanddeiliaid a chyflwyno’r amrywiol ganfyddiadau i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Cynnal tri diwrnod datblygu staff o leiaf a chyflwyno a llunio deunydd cyfathrebu rheolaidd gan y Prif Weithredwr erbyn 31ain Gorffennaf 2014

Mesur boddhad ymhlith staff gyrfa ac yna gwella perfformiad cyffredinol erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Sicrhau cyfradd boddhad o 85% o leiaf mewn perthynas â sgôr cwestiwn 23 yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn 2014, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Cynyddu’n sylweddol lefelau cyfranogi yn etholiadau blynyddol yr Undeb, gyda thros 8,000 o bleidleisiau a 5.5 o ymgeiswyr sabothol ar gyfartaledd ar gyfer pob swydd erbyn 31ain Mawrth 2014

Cytuno ar gynllun datblygu ar gyfer 2il lawr yr adeilad gyda’r Brifysgol, ar gyfer gwaith adeiladu yn 2014, erbyn 31ain Mawrth 2014 Sefydlu a chwarae rôl arweiniol yn y broses o ddatblygu’r prosiect ‘Canolfan Bywyd Myfyrwyr’ gyda’r Brifysgol, erbyn 31ain Hydref 2014

M

Datblygu strategaeth 2014-17

Llunio cynllun datblygu’r Ymddiriedolwyr a goruchwylio’r broses o recriwtio aelodau ychwanegol i’r Bwrdd, erbyn 31ain Mawrth 2014

Dros y flwyddyn nesaf, bydd yr Undeb yn ymgynghori â myfyrwyr a rhanddeiliaid o fewn y Brifysgol i lunio cynllun strategol yn lle cynllun cyfredol yr Undeb a fydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2014. Bydd yr Undeb yn cynnal arolygon o fyfyrwyr ac yn rhedeg grwpiau ffocws wedi’u teilwra i ystyried y materion pwysig y bydd angen i’r Undeb fynd i’r afael â hwy dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, ym marn y myfyrwyr. Ceir rhagor o wybodaeth am adolygiad yr Undeb o’r strategaeth yn: cardiffstudents.com/strategy

M

26


ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13

c# a9 Rheolaeth Ariannol Sicrhau sefydlogrwydd ariannol drwy reoli arian yn gadarn, adolygu arferion presennol a buddsoddi yn adeilad a chyfleusterau’r Undeb

Targedau Pennu cyllidebau blynyddol ar gyfer Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig a sicrhau bod y ddau gwmni yn gweithredu yn unol â’r cyllidebau hynny ar gyfer 2013/2014, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Cytuno ar gynllun ariannol hirdymor ar gyfer yr Undeb a chyflawni’r targed ar gyfer cronfeydd arian parod cyffredinol ar gyfer 2013/14, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Datblygu dull cyfrifyddu canolfan gost i ddelio ag adrannau gwahanol yr Undeb o fewn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig a chyflwyno’r canfyddiad i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, erbyn 31ain Ionawr 2014 Datblygu’r fynedfa ar ail lawr yr adeilad a thalu am y datblygiad hwnnw drwy elw masnachu ychwanegol a geir o’r gofod hwnnw, erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Sicrhau bod prosiectau cyfalaf y 3ydd llawr a’r 4ydd llawr yn cael eu cwblhau’n brydlon ac o fewn y gyllideb, erbyn 31ain Hydref 2013

Systemau, Polisïau a Gweithdrefnau Sicrhau bod systemau, polisïau a gweithdrefnau’r Undeb yn ychwanegu gwerth, yn galluogi mwy o fyfyrwyr i gyfranogi, ac yn hawdd eu deall

Targedau Datblygu cynllun rheoli a strwythur uwch dîm rheoli i gefnogi blaenoriaethau strategol yr Undeb, erbyn 31ain Mawrth 2014 Datblygu system arfarnu fodern gyda chysylltiadau â chardiau sgorio cytbwys unigol ar gyfer pob aelod o staff erbyn 31ain Rhagfyr 2013 Sefydlu cynllun gwerthuso swyddi newydd a gwerthuso pob swydd erbyn 31ain Gorffennaf 2014 Goruchwylio adolygiad llawn o drefniadau cyllid a llywodraethu’r Undeb, gan gynnwys adolygiad o strwythur a llif gwybodaeth y cwmni, erbyn 31ain Ionawr 2014 Datblygu strategaeth gwasanaeth cwsmeriaid, gan gynnwys safonau gwasanaeth, cyflwyno hunaniaeth gorfforaethol ar gyfer staff a mesuriadau ar gyfer ansawdd gwasanaethau, erbyn 31ain Rhagfyr 2013

27

M


Adroddiad Effaith Y BLYNYDDOL Y Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Gwasanaethau Undeb Caerdydd Cyfyngedig Ymddiriedolwyr Sabothol Llywydd

Harry Newman

Datblygu’r Undeb

Kieran Ghandi

Addysg

Beth Button

Lles

Megan David

Llywydd yr Undeb Athletau

Cari Davies

Cymdeithasau

Adam Curtis

Cyfryngau’r Myfyrwyr

Chris Williams

Campws Parc y Mynydd Bychan

Hannah Pask

Ymddiriedolwyr a Enwebwyd gan y Brifysgol Heb Bortffolio

Syr Donald Walters

Heb Bortffolio

Gethin Lewis

Ymddiriedolwr Allanol Heb Bortffolio

Kim Gould MBE

Uwch Aelodau o Staff Prif Weithredwr (hyd at 31ain Mai 2013)

Jason Dunlop

Prif Weithredwr (o 1af Mehefin 2013)

Daniel Palmer

Rheolwr Cyllid

Morgan Hart

Rheolwr Gwasanaethau Aelodaeth

Steve Wilford

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Plas y Parc Caerdydd CF10 3QN Ffôn: +44 (0) 29 2078 1400 cardiffstudents.com

2012/13


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.