ADRODDIAD EFFAITH BLYNYDDOL 2012/13
CHWARAEON A CHYMDEITHASAU Safle Bucs yr Undeb Athletau
14
22
18
2003/04 2004/05 2005/06
16
17
16
15
12
2006/07
2009/08
2009/09
2009/10
2010/11
Mae’r Undeb yn hwyluso’r broses o redeg dros 64 o glybiau chwaraeon a chymdeithasau. Caiff y grwpiau hyn eu goruchwylio gan yr Undeb, ond caiff llawer o’r gwaith trefnu ei wneud gan fyfyrwyr gwirfoddol o fewn y grwpiau hynny. Caiff y gwirfoddolwyr hyn eu hethol gan aelodau’r grwpiau hyn bob blwyddyn. Yn 2012/13 gwelodd yr Undeb gynnydd sylweddol o dros 500 yn aelodau clybiau’r Undeb Athletau. O ganlyniad, gwelwyd 88 tîm yn cynrychioli’r Brifysgol mewn cystadlaethau chwaraeon, gyda 800 o fyfyrwyr yn cymryd rhan.
Cymdeithasau
17
19
2011/12 2012/13
20 UCHAF
Yn ystod 2012/13, gwelwyd y nifer fwyaf erioed o aelodau Cymdeithasau, gyda 4,872 o fyfyrwyr yn cofrestru gydag un o grwpiau’r Undeb. Mae hyn yn cyfateb i bron 18% o’r holl fyfyrwyr sydd wedi’u cofrestru â’r Brifysgol. Mae Urdd y Cymdeithasau yn gasgliad amrywiol o grwpiau wedi’u rhannu’n eang yn grwpiau gwleidyddol, gweithgarwch corfforol. I weld dadansoddiad llawn o holl gymdeithasau’r Undeb, ewch i www. cardiffstudents.com/societies
BUCS Mae’r Undeb yn cofrestru timau’r Undeb Athletau ar gyfer cystadlaethau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) a chaiff perfformiad pob tîm ei fesur drwy gyfrwng tabl cynghrair genedlaethol BUCS. Yn 2012/13, llithrodd yr Undeb o’r 17eg safle i’r 19eg safle ond mae’n parhau yn yr 20 uchaf o blith y 140 o sefydliadau sy’n cymryd rhan.
11