



Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad ein Hwythnos
Ymchwil ac Arloesi gyntaf, rhaglen gyffrous o
ddigwyddiadau a fydd yn dathlu ein gweithgareddau
ymchwil ac arloesi presennol ac yn meithrin diwylliant
o ddysgu, cydweithio, a newid trawsnewidiol.
P’un a ydych chi’n ymchwilydd ar ddechrau eich gyrfa, yn addysgwr entrepreneuraidd, yn athro profiadol, neu’n alluogwr arloesi, dyma’ch cyfle
i groesawu a dathlu ymchwil ac arloesi ym Met Caerdydd. Rwy’n gobeithio
y byddwch yn ymuno â ni i ddarganfod mwy am yr ymchwil ac arloesi
cyffrous y mae ein cydweithwyr yn ei gynhyrchu, i ehangu eich rhwydwaith
a chymryd rhan mewn ymchwil, arloesi ac effaith flaengar.
“Mae Wythnos Ymchwil ac Arloesi yn argoeli i fod yn wythnos bleserus, ysbrydoledig, a llawn gwybodaeth. Rwy’n gobeithio y cewch chi wythnos buddiol a gwerth chweil. Mae llwyddiant y digwyddiadau hyn yn dibynnu ar ymroddiad a gwaith caled llawer o unigolion ar draws y
Brifysgol a hoffwn estyn fy niolch diffuant i bawb a gymerodd ran.”
Yr Athro Sheldon
Hanton
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi)
Mae gan bortffolio Ymchwil ac Arloesi Met Caerdydd ffocws hynod gymhwysol, sydd wedi’i gynllunio i greu effaith ystyrlon ac ysgogi newid trwy brosiectau blaengar a chydweithrediadau rhyngddisgyblaethol, yn aml gyda mewnbwn a chymorth gan ddiwydiant. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwyslais ar gymhwysiad ymarferol ymchwil i fynd i’r
afael â heriau’r byd go iawn, gan feithrin datblygiadau mewn amrywiol feysydd megis iechyd, technoleg, a’r amgylchedd. Trwy ymgysylltu â phartneriaid yn y diwydiant, cyrff y llywodraeth, a chymunedau, mae Met Caerdydd yn sicrhau bod ei hymchwil
nid yn unig yn hyrwyddo gwybodaeth, ond hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd, ac yn gwella ansawdd bywyd yn lleol ac yn fyd-eang.
Mae Wythnos Ymchwil ac Arloesi 2024 nid yn unig yn dathlu ein cyflawniadau ond hefyd yn gosod y llwyfan ar gyfer ymchwil ac arloesi yn y dyfodol a chynnydd parhaus wrth gael effaith gadarnhaol ar y byd.
Dilynwch ni a rhannwch eich profiadau yn ystod yr wythnos ar X (Twitter)
#WythnosYacA2024 a LinkedIn. Byddwn yn ffilmio trwy gydol yr wythnos ond os byddai’n well gennych beidio â chael eich cynnwys mewn unrhyw luniau neu ffilmiau cysylltwch ag Eva Huw neu aelod o’r tîm.
Rydym wedi cynllunio sesiwn agoriadol addysgiadol a deniadol ar gyfer digwyddiad
Lansio Wythnos Ymchwil ac Arloesi agoriadol ddydd Llun 1 Gorffennaf a fydd
yn rhoi cipolwg ar yr wythnos i ddod. Bydd ein Is-Ganghellor, yr Athro Rachael
Langford yn agor y digwyddiad yn swyddogol, a bydd cyfle i glywed gan Derek
Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Abi Phillips, Pennaeth Arloesi yn Llywodraeth Cymru a Gavin Powell, Pennaeth Arloesi a Chlystyrau, Prifddinas
Ranbarth Caerdydd. Bydd hefyd arddangosfa o ymchwil ac arloesi o bob rhan o’r
Brifysgol yn Atriwm Ysgol Reoli Caerdydd felly cymerwch amser i archwilio a dathlu ein cyflawniadau diweddaraf.
Bydd ein digwyddiadau ar ddydd Mawrth 2 Gorffennaf, yn canolbwyntio ar feithrin cydweithrediadau rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd a hoffem estyn croeso cynnes a diolch o galon i’n rhanddeiliaid allanol am eu cyfranogiad.
Mae canllaw cyflym i ddigwyddiadau gweddill yr wythnos i’w weld isod, a disgrifiadau manwl ar gyfer pob sesiwn. Gellir archebu pob sesiwn trwy ‘Wythnos Ymchwil ac Arloesi’ ar y Pwll Dysgu oni nodir hynny yn nisgrifiad y digwyddiad isod.
Bydd cynnwys a sleidiau ar gael ar ôl y digwyddiad ar dudalennau Safle’r Uned Ymchwil ac Arloesi.
Dydd Llun 1 Gorffennaf Ystafell
10yb - 11:30yb O1.01, YRC
9yb - 10yb, 11:30yb - 1yp Atriwm, YRC
1yp - 3yp
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf
O0.18, YRC
Teitl y Sesiwn
Lansiad Wythnos Ymchwil ac Arloesi Agoriadol
Ffair Ymchwil ac Arloesi
Clinig Cydweithio Rhyngddisgyblaethol
9:30yb - 1yp Ystafelloedd Lletygarwch, YRC Datblygu Cydweithio Effeithiol (ar agor i gydweithwyr allanol)
10yb - 12yp
1yp - 4yp
2yp - 4:30yp
10yb - 4yp
Dydd Mercher 3 Gorffennaf
10yb - 12yp
10yb - 10:50yb
11yb - 12yp
1yp - 1:50yp
2yp - 3yp
Dydd Iau 4 Gorffennaf
10yb - 12yp
V0.08, Cyncoed
O0.23, YRC
C0.15, Cyncoed
Techniquest
O0.18, YRC
O0.20, YRC
O1.08, YRC
O0.20, YRC
O0.18, YRC
O0.18, YRC
10yb - 10:50yb O0.20, YRC
11yb - 12yp
1yp - 1:50yp
2yp - 3yp
Dydd Gwener 5 Gorffennaf
9yb - 4yp
O0.18, YRC
O0.20, YRC
O0.18, YRC
O1.01, YRC
Lansio R:IDEAS. Rhwydwaith Newydd i Ymchwilwyr
Dyfeisgarwch — Sgyriau Byr (ar agor i gydweithwyr allanol)
Cyflwyniad i Ymgeisio am Dendr
Cynhadledd Ymchwilwyr Doethurol
Lansio R:IDEAS. Rhwydwaith Newydd i Ymchwilwyr
Offer Ymchwil: Dadansoddi Templedau
Offer Ymchwil: Rhaglennu LaTeX
Offer Ymchwil: Ymchwil Weithredol
Offer Ymchwil: Ysgrifennu er Llesiant
Y Gwrthdrawiad rhwng Addysg ac Arloesi
Nid Dieithriaid Mohonom - Ymchwil Agored a’r Sefyllfa Go Iawn
Y Clwb Gwych: Cyfleoedd addysgu ar gyfer Ymchwilwyr Doethurol
Ymgysylltu â Horizon Europe
Awgrymiadau Cyhoeddusrwydd a Phrosiectau Academaidd
Symposiwm Goruchwyliwr Ymchwilydd Doethurol
AMSER: 10yb - 11:30yb
LLEOLIAD: O1.01 (Darlithfa 2), Ysgol Reoli Caerdydd (YRC)
Ymunwch â ni ar gyfer lansiad yr Wythnos Ymchwil ac Arloesi gyntaf ym Met Caerdydd. Bydd yr Is-Ganghellor, yr Athro Rachael Langford yn agor yr wythnos yn swyddogol gyda chipolwg ar yr wythnos i ddod. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn rhoi cipolwg inni ar strategaethau datblygu cynaliadwy a diogelu’r dyfodol, a byddwn hefyd yn clywed gan Bennaeth Arloesi Llywodraeth Cymru, Abi Phillips a Phennaeth Arloesi a Chlystyrau, Prifddinas Ranbarth Caerdydd, Gavin Powell. Yn olaf, bydd yr Athro Di Crone, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant (CAWR) ym Met Caerdydd, yn cyflwyno adroddiad archwilio Cefnogi Datblygiad Cynaliadwy Byd-eang.
Rydym yn eich annog i fynychu’r sesiwn hon a bachu ar y cyfle i ymgysylltu â thîm y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi yn y Ffair Ymchwil ac Arloesi rhwng 9-10yb a 12-1yp.
YR ATHRO RACHAEL LANGFORD, IS-GANGHELLOR,
PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD
Mae’r Athro Rachael Langford wedi bod yn
Llywydd ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Metropolitan Caerdydd ers mis Chwefror 2024, ar ôl gwasanaethu fel Dirprwy Is-Ganghellor ers 2021. Gyda chefndir mewn ieithoedd modern, mae ganddi raddau o Rydychen a Chaergrawnt ac mae wedi ymchwilio’n helaeth i astudiaethau diwylliannol Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg a diwylliannau ôldrefedigaethol Ffrangeg eu hiaith. Cyn hynny, bu’n gweithio mewn amrywiaeth o rolau academaidd a gweinyddol allweddol ym Mhrifysgol Oxford
Brookes a Phrifysgol Caerdydd ac mae’n parhau i gyfrannu at ei maes cyn belled ag y bo hynny’n ymarferol bosib.
DEREK WALKER, COMISIYNYDD CENEDLAETHAU’R DYFODOL
Cyn Brif Swyddog Gweithredol Cwmpas, asiantaeth datblygu cydweithredol mwyaf y DU, lle bu’n gweithio i gefnogi pobl a chymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau, a lle bu’n gyfrifol am newid ffocws y sefydliad i ddatblygiad sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Materion
Allanol y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth
Polisi ac Ymgyrchoedd TUC Cymru ac ef oedd gweithiwr cyntaf Stonewall Cymru.
Mae Abi yn angerddol am gyflenwi yn y sector cyhoeddus, sydd wedi dal amrywiaeth o rolau
polisi a chyflenwi o fewn Llywodraeth Cymru sy’n
canolbwyntio ar arloesi a datblygu a gweithredu technolegau newydd. Mae ganddi BSc mewn
Astudiaethau Busnes, MSc mewn Polisi Iechyd ac mae wedi bod yn ymwneud â nifer o raglenni trawssector gan gynnwys y Fenter Ymchwil Busnesau
Bach a Chymorth Arloesedd Hyblyg SMART.
Ar hyn o bryd mae Abi yn Bennaeth Arloesedd yn Adran yr Economi, Gwyddoniaeth ac Adnoddau
Naturiol, ac yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu Cymru’n Arloesi, ein Strategaeth Arloesi Trawslywodraethol.
PRIFYSGOL METROPOLITAN CAERDYDD
Mae Diane Crone yn Athro ym Mhrifysgol
Metropolitan Caerdydd, sy’n arbenigo mewn hybu iechyd y cyhoedd a gweithgarwch corfforol. Mae’n arwain yr Academi Fyd-eang ar gyfer Iechyd Dynol a Pherfformiad Dynol ac mae’n Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys effaith gweithgarwch corfforol ar iechyd meddwl a hybu gweithgarch corfforol ar lefel y boblogaeth gan fabwysiadu dull systemau. Mae gwaith Diane yn allweddol wrth lunio polisïau iechyd a hyrwyddo ffyrdd egnïol o fyw o fewn poblogaethau amrywiol.
GAVIN POWELL, PENNAETH ARLOESI A CHLYSTYRAU, PRIFDDINAS RANBARTH CAERDYDD
Mae gan Gavin ddau ddegawd o brofiad o weithio o fewn sectorau blaenoriaeth Prifddinas-Ranbarth
Caerdydd – ac arbenigedd eang sydd wedi’i weld yn cyflawni’r haenau uchaf o arloesi, yn ogystal
â bod yn gatalydd i Fintech ac yn gyfrannwr
allweddol i Ddeallusrwydd Artiffisial a Medtech yn Ne Ddwyrain Cymru. Enillodd radd Meistr mewn Deallusrwydd Artiffisial a PhD, treuliodd wyth mlynedd yn Airbus mewn nifer o uwch rolau ar draws eu hadran arloesi, cyn gadael i helpu i adeiladu FinTech Wales. Mae ei daith hefyd wedi cynnwys nifer o brofiadau cychwyn busnes gan ddechrau ym maes technoleg feddygol, gan gynnwys cwmni a brynwyd gan Specsavers. Yn ei rôl bresennol yn CCR, mae Gavin yn gyfrifol am y strategaeth arloesi ranbarthol, gweithgaredd ar draws a datblygiad y sectorau ffocal Technoleg Ariannol, Creadigol, Technoleg Feddygol, Sero Net, Lled-ddarlgludyddion a Dioglewch Seiber, a datblygu sgiliau rhanbarthol.
Mae hefyd yn helpu i alluogi a sicrhau cyfleoedd i gychwyn a thyfu busnesau i fusnesau lleol, ochr yn ochr â chefnogi buddsoddiadau mewn cwmnïau lleol, cronfa arloesi rhanbarthol a chronfa ffyniant a rennir.
AMSER: 9yb - 10yb a 11.30yb - 1yp
LLEOLIAD: Atriwm, YRC
Mae croeso i chi ddod draw i gwrdd â thîm y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (GYA). Mae’n gyfle i ofyn cwestiynau, trafod syniadau, a chael gwybod am y gwasanaethau cymorth a ddarperir gan GYA. Bydd staff ar gael i drafod: Addysg Fenter a Chymorth Cychwyn Busnes, Goruchwyliaeth Ddoethurol, REF 2029 / Effaith, System Gwybodaeth Bur, Ariannu Ymchwil, Hyfforddi a Datblygu Staff, Cyfnewid Gwybodaeth / Arloesi / Eiddo Deallusol, Academïau Byd-eang, Contractau Ymchwil ac Arloesi, a Marchnata a Chyfathrebu.
AMSER: 1yp - 3yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC
Yn ystod yr Wythnos Ymchwil ac Arloesi, mae’r Academïau Byd-eang cyfun yn cynnal Clinig
Cydweithio Rhyngddisgyblaethol lle byddant yn trafod cynigion prosiect. Y nod yw nodi a sefydlu’r llwybrau ariannu gorau a lleoli’r, yn ogystal â chynnig cysylltiadau i randdeiliaid a allai gefnogi’r cynnig ymhellach. Mae’r sesiwn hwn ar gyfer unigolion neu grwpiau gyda chonsortiwm sefydledig, sydd â ‘cnewyllyn’ o syniad am brosiect ond sydd angen cyngor i’w ddatblygu ymhellach.
AMSER: 9:30yb - 1yp, gan gynnwys lluniaeth a chinio
LLEOLIAD: Ystafell Lletygarwch, YRC
Gwahoddir academyddion a chwmnïau ar draws pob sector i ymuno â ni ar gyfer cyfres ysbrydoledig o gyflwyniadau amserol i hwyluso cysylltiadau rhwng byd diwydiant a’r byd academaidd. Ymhlith y siaradwyr sy’n ymuno â ni ac yn trafod y gwahanol gyfleoedd mae Geraint Jones o Innovate UK, Richard Hawkins o SO Modular, Mark Lewis o Lywodraeth Cymru, Hayley Mills o InBio, Emma Wootten o Age Connects Torfaen, a’r Athro John Littlewood, Dr Imtiaz Khan a Dr James Blaxland o Met Caerdydd.
Cynhelir sesiwn rwydweithio yn y bore lle gall cynrychiolwyr o’r diwydiant gwrdd a sgwrsio gydag academyddion brwd i archwilio syniadau a chyfleoedd cydweithio.
Rydym yn annog academyddion sy’n ymgysylltu â busnesau i wneud y gorau o’r cyfle i ddatblygu cydweithrediadau presennol trwy rannu’r gwahoddiad EventBrite â’u cysylltiadau. Gall staff Met Caerdydd gofrestru ar y Pwll Dysgu.
Bydd robotiaid Eureka YDC hefyd yn ymddangos yn yr Atriwm o 12yp-1yp.
Partneriaethau Trosgwlyddo Gwybodaeth
Mae Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn bartneriaeth rhwng cwmni, prifysgol a myfyriwr graddedig sy’n cydweithio i gyflawni prosiect strategol ar gyfer y busnes na fyddai’r cwmni’n gallu ei wneud heb y wybodaeth a’r arbenigedd a ddarperir gan y Brifysgol. Bydd
Geraint Jones o Innovate UK, yr Athro John Littlewood o Met Caerdydd a Richard Hawkins o SO Modular yn rhannu gwybodaeth am y rhaglen a phrofiadau o safbwyntiau academaidd a diwydiant.
Dysgwch fwy am Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Met Caerdydd yma.
Cyllid Arloesi Llywodraeth Cymru
Mae Partneriaethau SMART yn cynnig cymorth ariannol i brosiectau cydweithredu arloesol sydd angen ystod o arbenigedd i helpu busnesau i dyfu, gwella cynhyrchiant a chynyddu cystadleurwydd. Mae Met Caerdydd wedi cael nifer o brosiectau Partneriaeth SMART llwyddiannus ac mae rhai ohonynt wedi arwain at Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth. Bydd Mark Lewis o Lywodraeth Cymru, Dr James Blaxland o Met Caerdydd a Hayley Mills o InBio yn siarad am y rhaglen a’u profiadau o safbwynt academaidd a diwydiant.
Gweler rhai o astudiaethau achos Partneriaethau SMART Met Caerdydd yma.
MemoryConnect
Wedi’i ariannu gan y Longitude Prize on Dementia fawreddog, mae’r ap MemoryConnect yn integreiddio data gwybyddol, ffisiolegol a seicolegol bron mewn amser real i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o’r profiad byw. Mae’r datrysiad arloesol hwn yn galluogi pobl â dementia i sefydlu cymunedau rhithwir a darparu cymorth ar y cyd, a thrwy hynny leddfu rhai o’r beichiau ar eu gofalwyr. Bydd Dr Imtiaz Khan o Met
Caerdydd ac Emma Wootten o Age Connects Torfaen yn siarad am y prosiect cyffrous hwn.
Darllenwch fwy am yr Ap MemoryConnect yma a gwyliwch y fideo.
Konfer
Mae Konfer yn blatfform digidol lle gall prifysgolion a busnesau gysylltu i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar brosiectau arloesol. Bydd y bore yn cynnwys sesiwn gan Konfer lle bydd y platfform yn cael ei drafod yn fanylach.
Darganfyddwch fwy am Konfer yma.
AMSER: 10yb - 12yp
LLEOLIAD: V0.08, Campws Cyncoed
HWYLUSWYR: Yvonne Morgan, Dr Jen Lyttleton-Smith, Dr Sarah Hooper
Mae menter R:IDEAS yn rhwydwaith newydd a gynlluniwyd i feithrin a chefnogi diwylliant ymchwil llewyrchus ym Met Caerdydd. Dan arweiniad academyddion, ar gyfer academyddion, a gyda chefnogaeth RIS, ein nod yw datblygu cymuned fywiog a fydd yn cefnogi Ymchwilwyr Met Caerdydd trwy gydol eu gyrfa.
Wrth lansio’r rhwydwaith yn swyddogol yn ystod yr Wythnos Ymchwil ac Arloesi, rydym yn ceisio cyfranogiad a mewnbwn gan holl ymchwilwyr Met Caerdydd a fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o’n rhwydwaith. Mae R:IDEAS ar gyfer yr holl staff ymchwil academaidd, waeth beth fo’u cam gyrfa, a byddem wrth ein bodd pe bai cynrychiolwyr o bob disgyblaeth yn y Brifysgol yn rhan ohono.
I ddarganfod mwy, a chyfrannu at y fenter, ewch i sesiwn lansio R:IDEAS. Byddwn yn cynnal sesiwn ryngweithiol sy’n canolbwyntio ar gasglu syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol, nodi anghenion diwylliant ymchwil, a datblygu dyheadau o bob rhan o’r Brifysgol ar sut y gall R:IDEAS gefnogi staff.
AMSER: 1yp - 4yp, gan gynnwys lluniaeth a rhwydweithio
LLEOLIAD: O0.23, YRC
HWYLUSYDD: Yr Athro Steve Gill
Dewch i glywed cyfres o sgyrsiau byr gan aelodau o staff sydd wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol, diddorol neu hyd yn oed anghyffredin o fynd i’r afael â neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o edrych ar broblemau yn eu gweithgareddau ymchwil a menter. Bydd yr holl sgyrsiau yn cael eu darparu ar gyfer gynulleidfa eang, felly ymunwch â ni, gwrandewch a gweld yr ystod eang o bethau cyffrous sy’n digwydd ar draws y Brifysgol ac efallai gwneud cysylltiadau newydd a chydweithio newydd posibl.
13:05 - 13:14
Mae’r YR ATHRO ALAN DIX yn Athro Cyfrifiadureg gyda gyrfa o fri mewn rhyngweithiau rhwng pobl a chyfrifiaduron a chyfrifiadura hollbresennol. Mae ei waith yn archwilio’r rhyngweithiadau rhwng pobl a thechnoleg, gyda phwyslais ar ddylunio systemau hawdd eu defnyddio. Mae Alan yn llais dylanwadol ym maes HCI, gyda nifer o gyhoeddiadau a chydweithrediadaus rhyngwladol.
13:17 - 13:26
Mae INGRID MURPHY yn artist cerameg arobryn ac yn ddarlithydd, sy’n adnabyddus am ei dull arloesol o gyfuno cerameg draddodiadol â thechnoleg ddigidol. Mae ei gwaith yn herio ffiniau confensiynol celf a chrefft, gan integreiddio realiti estynedig ac argraffu 3D. Mae Ingrid yn ysbrydoli ei myfyrwyr i archwilio gorwelion newydd mewn ymarfer cerameg cyfoes.
13:29 - 13:38
YR ATHRO JARRED EVANS yw Cyfarwyddwr PDR (y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil). Mae ei arbenigedd yn cwmpasu arloesi dylunio, datblygu cynnyrch, a phrofiad y defnyddiwr, gyda phwyslais cryf ar integreiddio technolegau blaengar i arferion dylunio. Mae’r
Athro Evans wedi ymrwymo i yrru ffiniau ymchwil dylunio yn eu blaenau a meithrin diwylliant o arloesi a rhagoriaeth yn y maes.
13:41 - 13:50
Mae DR SARAH HOOPER yn Ddarllenydd mewn
Microbioleg a Heintiau, sy’n gweithio yn y Ganolfan Iechyd, Imiwnoleg, Microbioleg a’r Amgylchedd.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddeall pathogenesis microbaidd, ymwrthedd gwrthficrobaidd, a datblygu strategaethau therapiwtig newydd. Dr. Mae Hooper yn ymroddedig i hybu iechyd y cyhoedd trwy ei hymchwil arloesol a’i haddysgu mewn microbioleg.
Egwyl
13:50 - 14:00
14:00 - 14:09
DR ANGESH ANUPAM yw Pennaeth yr Adran
Gwyddor Data, sy’n arbenigo mewn modelu systemau cymhleth a yrrir gan ddata. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu systemau ac algorithmau deallus a all ddatrys problemau byd go iawn cymhleth. Mae Angesh wedi ymrwymo i wthio ffiniau technoleg AI a’i chymwysiadau.
14:12 - 14:21
Mae DR IZZY MOORE yn ymchwilydd yn y Ganolfan Ymchwil Iechyd, Gweithgarwch a Llesiant.
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar y croestoriadau rhwng gweithgarwch corfforol, hybu iechyd a llesiant cymunedol. Mae Isobelle yn ymroddedig i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd trwy ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth a datblygu ymyriadau iechyd effeithiol.
14:24 - 14:33
Egwyl
14:45 - 14:55
14:36 - 14:45
YR ATHRO CHRIS WALLIS yw Pennaeth yr
Academi Fyd-eang ar gyfer Gwyddor, Diogelwch a Sicrwydd Bwyd. Mae’n arbenigo mewn
darganfyddiadau newydd ym maes gwyddor bwyd a defnyddio technolegau arloesol i sicrhau diogelwch a sicrwydd bwyd trwy ymchwil wyddonol uwch. Mae’r Athro Wallis wedi ymrwymo i fynd i’r afael â heriau bwyd byd-eang a gwella cynaliadwyedd systemau bwyd ledled y byd.
13:05 - 13:14
Mae DR SALLY CLOKE yn ymchwilydd yn PDR (y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Dylunio ac Ymchwil).
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddylunio sy’n canolbwyntio ar bobl, hwyluso dylunio a’r berthynas rhwng dylunio cynnyrch ac ymddygiad cynaliadwy. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dylunio ar gyfer iechyd a chyfiawnder cymdeithasol ac mae ganddi angerdd dros gyfathrebu ymchwil mewn ffyrdd creadigol i gynulleidfaoedd y tu hwnt i’r byd academaidd.
Mae DR LANA ST LEGER yn arbenigwr
ieithyddiaeth. Mae ei hymchwil yn ymchwilio i ieithyddiaeth gymdeithasol a chadwraeth diwylliant, a deall effaith newid yn yr hinsawdd arnynt yn y dyfodol. Mae Lana yn hyrwyddwr dros adfywio’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
14:55 - 15:03
MARTIN SUTHERLAND yw Cyfarwyddwr
Masnachol a Marchnata Canolfan Diwydiant Bwyd
ZERO2FIVE Met Caerdydd. Cyn Met Caerdydd, bu
Martin yn gweithio yn y diwydiant bwyd lle’r oedd yn Gyfarwyddwr Marchnata yn y sectorau
archfarchnadoedd a gweithgynhyrchu bwyd. Yn y rolau hyn bu’n arwain timau i gyflwyno arloesedd marchnata sydd wedi cynnwys lansio cannoedd o gynhyrchion newydd, cyflawni ymgyrchoedd marchnata gwerth £10m a rhoi strategaethau busnes newydd ar waith.
15:19 - 15:28
Mae DR GARY WALPOLE yn Ddarllenydd mewn
Rheoli Busnes ac yn Gyfarwyddwr y rhaglen
Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol, sydd wedi datblygu 250 o ymarferwyr o 140 o sefydliadau ledled Cymru ac wedi creu eco-system Arloesi’r Economi Gylchol. Mae’n arbenigo mewn datblygu galluoedd arloesi ac yn cyhoeddi ar agweddau mewnol sefydliadau ac arloesi rhanbarthol. Mae’n frwd dros ddatblygu galluoedd unigol a sefydliadol i osgoi’r argyfwng yn yr hinsawdd.
15:31 - 15:40
Mae DR FIONA CARROLL yn Ddarllenydd gydag arbenigedd mewn rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron a dylunio digidol. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr ac integreiddio technoleg mewn bywyd bob dydd. Mae Fiona yn angerddol am greu rhyngwynebau digidol hygyrch ac hawdd ei ddefnyddio.
Diwrnod 2 Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024
AMSER: 2yp - 4:30yp
LLEOLIAD: C0.15, Campws Cyncoed
HWYLUSYDD: Jamie Edwards
Gweithdy hyfforddi pwrpasol gyda Jamie Edwards, ymgynghorydd ysgrifennu cynigion proffesiynol gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector a hanes o ennill dros £80 miliwn o gontractau yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector. Yn y sesiwn hyfforddi hwn bydd Jamie yn ymdrin â rhai o egwyddorion craidd ymgeisio am dendrau:
• Pam ni, pam nawr? Beth yw ein thema/ cynnig ar gyfer cais ‘hwn’?
• Sut i egluro manteision gweithio gyda ni ar bapur?
• Bwrdd stori ar gyfer llwyddiant
• Dod â thechnegau perswadiol i’n hysgrifennu
• Deall y cleient
• Mapio Cynnwys – pecyn cymorth strwythurol ar gyfer atebion gwych
Bwriedir cynnal cynhadledd flynyddol y DRG ar 2 Gorffennaf 2024, yn Techniquest. Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei drefnu a’i reoli gan ein Grŵp Ymchwil Doethurol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr myfyrwyr o bob ysgol academaidd, a’i nod yw darparu llwyfan i’n cymuned ymchwil ddoethurol arddangos eu hymchwil rhyfeddol a’u prosiectau arloesol.
Mae’r gynhadledd yn gyfle amhrisiadwy i’n cymuned ddoethurol ennill gwybodaeth a meithrin cysylltiadau â chyd-ymchwilwyr, ac mae’n argoeli i fod yn brofiad gwerthfawr i bawb.
AMSER: 10yb - 12yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC
HWYLUSWYR: Yvonne Morgan, Dr Jen Lyttleton-Smith, Dr Sarah Hooper
Mae menter R:IDEAS yn rhwydwaith newydd a gynlluniwyd i feithrin a chefnogi diwylliant ymchwil llewyrchus ym Met Caerdydd. Dan arweiniad academyddion, ar gyfer academyddion, a gyda chefnogaeth RIS, ein nod yw datblygu cymuned fywiog a fydd yn cefnogi Ymchwilwyr Met Caerdydd trwy gydol eu gyrfa.
Wrth lansio’r rhwydwaith yn swyddogol yn ystod yr Wythnos Ymchwil ac Arloesi, rydym yn ceisio cyfranogiad a mewnbwn gan holl ymchwilwyr Met Caerdydd a fyddai â diddordeb mewn bod yn rhan o’n rhwydwaith. Mae R:IDEAS ar gyfer yr holl staff ymchwil academaidd, waeth beth fo’u cam gyrfa, a byddem wrth ein bodd pe bai cynrychiolwyr o bob disgyblaeth yn y Brifysgol yn rhan ohono.
I ddarganfod mwy, a chyfrannu at y fenter, ewch i sesiwn lansio R:IDEAS. Byddwn yn cynnal sesiwn ryngweithiol sy’n canolbwyntio ar gasglu syniadau ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol, nodi anghenion diwylliant ymchwil, a datblygu dyheadau o bob rhan o’r Brifysgol ar sut y gall R:IDEAS gefnogi staff.
AMSER: 10yb - 10:50yb
LLEOLIAD: O0.20, YRC ac ar-lein
HWYLUSYDD: Yr Athro Ron Fisher
Mae Dadansoddi Templedi (DT) yn ddull a ddefnyddir wrth ddadansoddi trawsgrifiadau cyfweliad ansoddol thematig. Mae’n darparu dull graffig o gofnodi codau, gan adeiladu’r rhain yn is-themâu ac is-themâu yn feta-themâu. Mae gan DT sylfaen ddamcaniaethol yn ymchwil Crabtree a Miller (1992) a King (2008). Defnyddir astudiaeth achos yn seiliedig ar ymchwil addysgol yn CMU i ddangos defnydd ymarferol o DT.
AMSER: 11yb - 12yp
LLEOLIAD: O0.20, YRC ac ar-lein
HWYLUSYDD: Dr Ana Calderon
Mae’r sesiwn hon wedi’i hanelu at y rheini nad ydynt erioed wedi defnyddio LaTeX o’r blaen neu sy’n chwilio am sesiwn loywi, bydd y sesiwn yn llawn ymarferion rhyngweithiol a byddwn yn ymdrin â hanfodion golygydd testun LaTeX gyda’n gilydd, gan eich cynorthwyo i ddechrau arni a gyda digonedd o enghreifftiau. Bydd yr union ddeunydd yn amrywio yn ôl anghenion/ ceisiadau’r rhai sy’n mynychu, ond fel sampl bydd y cynnwys yn cynnwys:
• Sefydlu Dogfen LaTeX
• Cysodi Testun
• Ymdrin â Gwallau LaTeX
• Hafaliadau Cysodi
• Defnyddio Pecynnau LaTeX
• Creu dogfennau sydd wedi’u strwythuro’n dda
• Ffigurau
• Llyfryddiaethau awtomatig
Os oes unrhyw beth yn benodol yr hoffech ei wybod am LaTeX (neu Beamer os ydych yn dymuno creu cyflwyniadau), cysylltwch â Dr Ana Calderon acalderon@cardiffmet.ac.uk gyda cheisiadau penodol a bydd yn hapus i ddarparu ar gyfer eich ceisiadau yn ystod y sesiwn.
AMSER: 1yp - 1:50yp
LLEOLIAD: O0.20, YRC ac ar-lein
HWYLUSYDD: Yr Athro Ron Fisher
Mae Ymchwil Weithredu (Lewin, 1944) yn fethodoleg a dull a ddefnyddir i ymchwilio a datrys materion mewn ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Mae gan Ymchwil Weithredu (YW) lawer o gymwysiadau mewn ymchwil sefydliadol a rheoli, ond mae’n arbennig o ddefnyddiol pan gaiff ei gymhwyso i faterion sy’n seiliedig ar ymarfer. Bydd y defnydd o Setiau Dysgu Gweithredol a chylchoedd gweithredu yn cael eu trafod. Bydd astudiaeth achos yn seiliedig ar lythrennedd ariannol yn cael ei defnyddio i ddangos defnydd ymarferol o YW.
AMSER: 2yp - 3yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC
HWYLUSYDD: Dr Kate North
Yn y sesiwn anffurfiol ac ymlaciol hon cewch eich cyflwyno i’r arfer o ysgrifennu er llesiant.
Cewch eich arwain i ddefnyddio ysgrifennu i fyfyrio ar faterion sy’n bwysig i chi ac i archwilio syniadau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Byddwn hefyd yn edrych ar sut y gellir defnyddio ysgrifennu ar gyfer twf a datblygiad personol. Ni fydd y sesiwn hon yn canolbwyntio ar ramadeg na sillafu ac ni fydd unrhyw rwymedigaeth i chi ddarllen eich gwath yn uchel.
AMSER: 10yb - 12yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC
Bydd y sesiwn hon, a gyflwynir gan ein Canolfan Entrepreneuriaeth, yn edrych yn ymarferol ar sut y gellir cefnogi arloesi ymhlith ein myfyrwyr.
Bydd y sesiwn hwn yn dangos sut y gall addysg ac arloesi wrthdaro’n gadarnhaol er mwyn cael effaith ar gymdeithas. Rydym yn unigryw yn gallu cefnogi effaith ystyrlon drwy feddwl arloesol a masnachol distyllu mewn rhaglenni israddedig, meistr a doethuriaeth. Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn trafod hanfodion addysg menter ac entrepreneuriaeth, yna yn amlinellu dulliau o gefnogi ein rhychwant o fyfyrwyr.
AMSER: 10yb - 10:50yb
LLEOLIAD: O0.20, YRC
HWYLUSYDD: Mark Lester
Mae Ymchwil Agored yn canolbwyntio ar ddileu rhwystrau i ‘agor’ y broses academaidd ac ysgolheigaidd. Gall olygu pethau gwahanol i wahanol bobl a disgyblaethau - gydag effeithiau llesol cudd yn aml ar ymchwil. Yn ddiweddar, mae wedi dechrau cael ei grybwyll fel rhan allweddol yn y newid i wella diwylliant ymchwil ac fel rhan bwysig o asesiadau ymchwil cenedlaethol. Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn ymdrin â’r hyn y mae Ymchwil
Agored yn ei olygu yng nghyd-destun y newidiadau pwysig hyn a realiti’r newid hwnochr yn ochr â pha bosibiliadau sy’n bodoli y tu allan i weithgareddau ymchwilwyr sy’n canolbwyntio ar gydymffurfiaeth.
AMSER: 11yb - 12yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC ac ar-lein
HWYLUSYDD: Emma Alderhayes-Rowe
Cefnogwch eich ymchwilwyr PhD i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb addysgol ac ysbrydoli’r
genhedlaeth nesaf, tra’n ennill hyfforddiant a phrofiad addysgegol ac ymgysylltu â’r cyhoedd gwerthfawr. Dewch draw i glywed gan The Brilliant Club am y cyfle cyffrous a datblygiadol hwn sydd ar gael i’ch ymchwilwyr.
AMSER: 1yp - 1:50yp
LLEOLIAD: O0.20, YRC
Bydd Jonathan Brookes o UKRO yn rhoi trosolwg o gysylltiad y DU â Horizon Europe a sut y gall academyddion Met Caerdydd ymgysylltu ag ef, gan ganolbwyntio’n benodol ar gamau gweithredu Colofn 2 a COST.
AMSER: 2yp - 3yp
LLEOLIAD: O0.18, YRC
HWYLUSWYR: Tîm Cyfathrebu Met Caerdydd a Cooked Illustrations
Dysgwch sut i wella cyrhaeddiad ac effaith eich prosiect gydag awgrymiadau cyhoeddusrwydd gan dîm Cyfathrebu Met Caerdydd. A ydych chi’n ceisio defnyddio marchnata yn effeithiol i hyrwyddo’ch ymdrechion academaidd? Ymunwch â ni i archwilio llwybrau amrywiol ar gyfer lledaenu gwybodaeth am eich prosiect i gynulleidfaoedd amrywiol.
Bydd Ian Cooke-Tapia o Cooked Illustrations yn dangos sut y gall allbynnau cyfathrebu gweledol hybu dyfyniadau, cyfranogiad cynadledda, ymgysylltu ar-lein, a hyd yn oed gynhyrchu incwm trwy fasnacheiddio ED ar gyfer ymchwilwyr.
AMSER: 9yb - 4yp
LLEOLIAD: O1.01 (Darlithfa 2), YRC
Bydd trydydd fersiwn y Symposiwm Goruchwyliwr Ymchwilydd Doethurol yn adeiladu ar lwyddiant y ddau ddigwyddiad cyntaf a bydd yn dod â Goruchwylwyr Ymchwilwyr Doethurol o bob Ysgol ar draws y Brifysgol ynghyd i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol, rhannu arfer da, ysgogi cymunedau goruchwylwyr, a gwella ymhellach y diwylliant ymchwil o fewn y Brifysgol. I gloi’r Symposiwm Goruchwyliwr, cynhelir cyflwyniad gwobrau i gydnabod rhagoriaeth mewn goruchwyliaeth o fewn y Brifysgol, gyda’r derbynwyr yn cael eu henwebu gan Ymchwilwyr Doethurol a’u Cyd-Oruchwylwyr Ymchwil Doethurol.
GWASANAETHAU YMCHWIL AC ARLOESI
Cyfarwyddwr Ymchwil
Yr Athro. Steve Gill
Cyfarwyddwr Arloesi
Matthew Taylor
Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil
Yr Athro Rich Neil
Dirprwy Gyfarwyddwr Arloesi
Leila Gouran
Rheolwr Arloesi
Richard Mahoney
Rheolwr Entrepreneuriaeth
Steve Aicheler
Rheolwr Rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth
Joanne Hill
Swyddog Cyswllt Busnes
Karl Couch
Rheolwr Prosiectau Ymchwil ac Arloesi
Rae DePaul
Rheolwr Polisi a REF
Kate Jeffries
Cyfrifydd Ymchwil ac Arloesi a Phartner Busnes
Brendon Owen-Jones
Cefnogaeth System PURE pure@cardiffmet.ac.uk
Tîm Contractau riscontracts@cardiffmet.ac.uk
Tîm Cefnogi a Chyfathrebu rissupport@cardiffmet.ac.uk
Tîm yr Academi Ddoethurol
Astudiaethau Graddedig (cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil) graduatestudies@cardiffmet.ac.uk
Arholiad Gradd Ymchwil (ar ôl cyflwyno’r traethawd ymchwil) researchdegreeexam@cardiffmet.ac.uk
CYSYLLTIADAU ALLWEDDOL YMCHWIL
AC ARLOESI YR YGSOLION A PDR
Dr Debbie Savage, Deon Cyswllt (Ymchwil), Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Yr Athro Peter Sykes, Deon Cyswllt (Arloesi), Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Yr Athro Jon Oliver, Deon Cyswllt (Ymchwil) Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Dr Chaminda Hewage, Deon Cyswllt (Ymchwil) Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Yr Athro Claire Haven-Tang, Deon Cyswllt (Ymchwil), Ysgol Reoli
Yr Athro Steve Cooper, Deon Cyswllt (Ymchwil), Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol
Yr Athro Jarred Evans, Athro Arloesedd Dylunio Cymhwysol a Chyfarwyddwr PDR, (Dylunio Cynnyrch ac Ymchwil)
CYSYLLTIADAU CEFNOGI YMCHWIL AC ARLOESI YR YSGOLION
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
ESSHRI@cardiffmet.ac.uk
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol
ESSHRI@cardiffmet.ac.uk
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd createadmin@cardiffmet.ac.uk
Ysgol Dechnolegau Caerdydd cstresearch@cardiffmet.ac.uk
Ysgol Reoli YRCresearch@cardiffmet.ac.uk
ACADEMÏAU
Pennaeth yr Academi Fyd-eang Iechyd a Pherfformiad Dynol
Yr Athro Diane Crone
Pennaeth yr Academi Fyd-eang Dylunio sy’n Canolbwyntio ar Bobl
Yr Athro Andrew Walters
Pennaeth yr Academi Fyd-eang a’r Athro Gwyddor Bwyd
Yr Athro Christopher Wallis
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth a’ch syniadau
Mae eich mewnbwn yn bwysig i ni, dywedwch wrthym beth yr hoffech
ei weld yn cael ei gynnwys mewn digwyddiadau yn y dyfodol
Cwblhewch y ffurflen gyda’ch syniadau a’ch awgrymiadau:
• Syniadau arddangos
• Siaradwyr Gwadd
• Hyfforddiant a Digwyddiadau
• Themâu
RHANNWCH EICH SYNIADAU