Dyma le o uchelgeisiau mawreddog, breuddwydion mawr, ffrindiau newydd, syniadau ffres...
Prosbectws

… o ddechreuadau newydd a dyfodol disglair.



… o ddechreuadau newydd a dyfodol disglair.
Lle sy’n rhoi croeso cynnes. Lle sy’n croesawu pob cwestiwn, gwirion neu beidio. Lle diddorol, llawn rhyfeddod.
Lle gyda choffi a sgyrsiau sy’n gallu para drwy’r dydd, os nad ydyn ni’n ofalus. Lle cadarnhaol, a gobeithio y gwelwn ni chi eto’n fuan.
Sganiwch y cod QR
i drefnu lle ar-lein ar gyfer un o’n Diwrnodau
Agored a Thaith o gwmpas y Campws
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle perffaith i chi ddysgu mwy am y cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, siarad â thiwtoriaid a myfyrwyr y cwrs a chael taith o gwmpas ein cyfleusterau, llety a champysau. Mae’n rhoi cyfle i chi ymweld â Chaerdydd hefyd a chael cip ar ein prifddinas gyffrous.
Cewch gyfle i siarad â’n tîm derbyn hefyd, clywed cyflwyniadau ar gyllid myfyrwyr, sgwrsio â’n gwasanaeth gyrfaoedd a gweld beth sydd gan Undeb y Myfyrwyr a Chwaraeon Met i’w gynnig.
Rydym yn cynnal Diwrnodau Agored ar y campws drwy gydol y flwyddyn, sy’n berthnasol i’ch cwrs a’ch maes diddordeb. Trowch i dudalennau’r cwrs yn y prosbectws hwn i weld pa gampws y dylech chi ymweld ag ef.
Ydych chi’n ystyried mwy nag un cwrs ar wahanol gampysau?
Peidiwch â phoeni, rydym yn cynnal rhaglen hyblyg a fydd yn rhoi cyfle i chi greu eich diwrnod eich hun a chael cip ar bopeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo.
Allwn ni ddim aros i’ch croesawu chi i’r Brifysgol.
Dyddiadau
• Sadwrn 15 Mehefin 2024
• Sadwrn 12 Hydref 2024
• Sadwrn 9 Tachwedd 2024
Teithiau Campws
Os nad oes unrhyw un o’n Diwrnodau Agored yn gyfleus i chi, a’ch bod yn dal i fod eisiau mynd ar daith o amgylch ein campysau, dewch ar un o’n teithiau campws dan arweiniad llysgennad myfyrwyr i gael cip ar y lle. Mae’r rheiny’n digwydd drwy gydol y flwyddyn ar ein campysau yn Llandaf a Chyncoed.
Croeso i Gaerdydd. Ein dinas, prifddinas Cymru
Llawn diwylliant, mannau gwyrdd a chwaraeon. Bywyd nos, siopau a digonedd o lefydd bwyta rhyngwladol rhagorol. Cerddoriaeth, antur, dyfrffyrdd a llawer mwy.
Mae llawer mwy i’w ystyried wrth benderfynu ar Brifysgol na’r cwrs cywir. Mae angen cofio mai dyma fydd eich cartref am y blynyddoedd nesaf – dyma bennod nesaf eich bywyd.
Os yw Caerdydd yn lleol i chi, neu os ydych chi’n teithio o bell i ddod atom, mae cartref newydd yn eich disgwyl.
Caerdydd yw un o’r dinasoedd mwyaf
fforddiadwy i fyfyrwyr yn y DU.
Yr 2il ym Mynegai Bywyd Myfyrwyr NatWest 2023.
Dinas i fyfyrwyr
Er bod ein dinas yn enwog ar hyd a lled y byd, mae’n teimlo’n lleol ac yn un o’r cymunedau mwyaf cyfeillgar y gallech ddymuno bod ynddi. Mae myfyrwyr yn byw’n bennaf yn y Rhath a Cathays, sy’n faestrefi bywiog llawn caffis annibynnol, bariau a thafarnau a siopau cynaliadwy, a’r cyfan o fewn pellter cerdded i ganol y ddinas.
Sganiwch i weld tudalen Bywyd Myfyrwyr.
Dinas o gerddoriaeth a diwylliant
I’r rhai sy’n hoffi teimlo’r bît, mae gan Gaerdydd enw da am gerddoriaeth o bob math. Mae’n gartref i leoliadau annibynnol bach sy’n rhoi llwyfan i ddoniau lleol fel Clwb Ifor Bach, Jacobs Roof Garden a’r Tramshed. Ond mae cyfle hefyd i weld bandiau byd enwog yn Arena Utilita Caerdydd a rhai o artistiaid mwyaf y byd yn perfformio yn Stadiwm y Principality.
Os arhoswch chi yma dros yr haf fe gewch gyfle i weld amrywiaeth o artistiaid yn perfformio o flaen castell ysblennydd Caerdydd yn y rhaglen flynyddol o gigiau haf.
Mae Theatr y Sherman yn llwyfan agos yn Cathays, a chomedi byw ar gael yn y Glee Club yn y Bae, neu beth am weld ffilm yn un o’r pedair canolfan sinema yng Nghaerdydd, neu yn Everyman Cinema a llond llaw o sinemâu dros dro yng Nghastell Caerdydd a lleoliadau pen to ar hyd a lled y ddinas.
Mae Canolfan y Mileniwm yn y Bae yn lleoliad celfyddydol a theatrig bydenwog, delfrydol ar gyfer diddordebau cerddorol o bob math. Ac ym maestref Treganna mae canolfan Chapter, gyda sinema, theatr gyfoes, bar a chaffi, i gyd o dan un to.
Dinas Bwyd a diod
Wrth sôn am fwyd, y lle cyntaf i alw heibio iddi yw’r hen Farchnad yng nghanol Caerdydd. Maen nhw wedi bod yn prynu a gwerthu yno ers y 1700au, ac erbyn hyn, marchnad Caerdydd yw’r lle poblogaidd i werthwyr bwyd annibynnol, siopau dillad ail law, ac arlwy Cymreig traddodiadol (cacennau cri cynnes yn syth o’r radell) a choffi artisan.
Fe welwch siopau’r stryd fawr a dewis o fwydydd annibynnol sydd wedi ennill gwobrau gyda digwyddiadau untro a gwyliau o gwmpas y ddinas, fel y Syrcas Bwyd Stryd flynyddol.
Mae digon o dafarnau traddodiadol a bariau coctels fel Tonight Josephine a’r Botanist, a bariau cwrw crefft ynghyd â dewis o glybiau nos sy’n cynnal nosweithiau wythnosol ar gyfer myfyrwyr.
Mae lleoliadau unigryw fel The DEPOT – sy’n lle annibynnol a sefydlwyd gan gyn-fyfyriwr marchnata Met Caerdydd, Nick Saunders – yn llwyddo i ddenu gwerthwyr bwyd stryd, digwyddiadau byw a’r enwog BINGO LINGO.
“Un peth rwy’n ei garu am Gaerdydd yw’r ffaith, er ei bod yn ddinas fach, fod popeth sydd ei angen ar fyfyrwyr yma. Mae rhywbeth i bawb yma, ac mae’n fforddiadwy”
Amanda Mulawarman Myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol
Dinas chwaraeon Gallwch dreulio penwythnos yng Nghaerdydd yn mwynhau’r awyrgylch yn ystod pob math o bencampwriaethau chwaraeon. Mae yna bêl-droed yn Stadiwm Dinas Caerdydd, criced rhyngwladol yng Ngerddi Sophia, hoci ia gyda’r Cardiff Devils yn y Bae ac wrth gwrs rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Principality, lle cynhelir llawer o ddigwyddiadau eraill i’ch difyrru.
Ac os hoffech fod wrth galon y cyffro, mae croeso i chi gymryd rhan yn y ras 10k flynyddol neu farathon Caerdydd, neu mae cyfle i wneud marathon llawn ychydig filltiroedd i ffwrdd yng Nghasnewydd.
Dinas llawn antur (a mwy)
Os mai antur a chyffro sy’n eich denu, mae cyfle i ddringo dan do, rafftio dŵr gwyn, sglefrio ia neu nofio yn y pwll maint Olympaidd a’r cyfan ar garreg y drws.
Neu gallwch fwynhau syrffio ac antur ar yr arfordir sydd gyda’r gorau yn y DU, beicio, cerdded neu ferlota ym
Mharc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog, a’r cyfan o fewn awr i’r brifddinas.
Teithio i Gaerdydd ac o gwmpas y ddinas
Fel prifddinas Cymru, mae gan Gaerdydd gysylltiadau da
BANGOR 4AWR 30MUN
CAERFYRDDIN 1AWR 20MUN
CAERDYDD
CAERWYSG 2AWR 10MUN
Sut i ddod o hyd i ni
CAMPWS CYNCOED
Cod Post ar gyfer y GPS: CF23 6XD
O’r A48 Rhodfa’r Gorllewin, teithiwch o Heol Llanedeyrn i Heol Cyncoed.
CAMPWS LLANDAF
Cod Post ar gyfer y GPS: CF52YB
Mae’r campws wedi’i lleoli ar Rodfa’r Gorllewin (A48).
Gellir dod o hyd i gyfeiriadau manwl yn: www.metcaerdydd.ac.uk
MANCEINION 3AWR 40MUN
BIRMINGHAM 2AWR 10MUN
CAERLOYW 1AWR 20MUN
LLUNDAIN 3AWR
BRYSTE 1AWR
BRIGHTON 3AWR 30MUN
Amseroedd gyrru ar gyfartaledd
Teithio o gwmpas
Mae traffordd yr M4 o fewn cyrraedd hawdd i’r Brifysgol ac felly mae’n ddigon hwylus teithio i Lundain, a De-ddwyrain Lloegr neu, ar hyd yr M5 i Ganolbarth, De-orllewin a Gogledd Lloegr.
Nid oes cyfleusterau parcio i fyfyrwyr ar gampysau Met Caerdydd yn Llandaf a Chyncoed, ond byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig trwyddedau i fyfyrwyr ag amgylchiadau eithriadol. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau parcio ar gael ar wefan Met Caerdydd
Bws
Mewn partneriaeth â Bws Caerdydd a Traveline Cymru, gallwch fanteisio ar gynigion arbennig ar gyfer teithio o gwmpas dinas Caerdydd.
Os ydych yn 16–21 oed gallwch wneud cais am Fy Ngherdyn Teithio gan
Lywodraeth Cymru a chael hyd at 30% o ostyngiad ar deithiau bws ledled Cymru. Mae’n ddigon hawdd gwneud cais, ewch i wefan Fy Ngherdyn Teithio.
Mae’r Met Rider yn cynnig tocyn tymor rhad hefyd, ar ôl ei brynu gall myfyrwyr deithio’n ddi-ben-draw ar unrhyw wasanaeth bws Caerdydd yn rhad ac am ddim.
Trên
Mae gwasanaeth trên dyddiol o Gaerdydd Canolog i’r rhan fwyaf o brif gyrchfannau’r DU gan gynnwys Llundain, gyda rhai trenau’n cymryd llai na dwy awr. Mae gan y rhwydwaith rheilffyrdd gysylltiadau da â phob rhan o Gymru hefyd.
Ein campysau a’n cyfleusterau
Mae ein campysau yn gwireddu breuddwydion mawr a dyheadau gwych. Dyma lle byddwch chi’n cwrdd â ffrindiau newyd a chreu atgofion fydd yn para gydol oes.
Gall pob myfyriwr ddefnyddio’r
ddau gampws. Felly, ble bynnag y cewch eich darlithoedd, gallwch deithio o gampws Llandaf i gampws Cyncoed a defnyddio’r cyfleusterau ar y ddau safle.
Os dewiswch chi astudio cwrs
yn Ysgol Addysg a Pholisi
Cymdeithasol Caerdydd
neu radd mewn chwaraeon
yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
cewch eich lleoli yma. Mae’r campws prysur hwn yn agos at ardal y myfyrwyr yn y Rhath ac yn daith fer ar fws i ganol y ddinas.
Mae yma gyfleusterau chwaraeon helaeth ar gyfer gwella perfformiad a datblygiad academaidd ein myfyrwyr (ac yn aml bydd athletwyr Olympaidd a’r Gymanwlad yn hyfforddi ar y safle). Mae cyfleusterau addysgu arbenigol ar gyfer graddau mewn Addysg, Hyfforddi Athrawon, y Cyfryngau, Plismona a Throseddeg.
Campws Cyncoed yw lleoliad Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd, mae llety myfyrwyr ar y safle a chanolfan gyda siopau, caffis a siopau coffi – lle delfrydol i gymdeithasu gyda ffrindiau newydd.
www.metcaerdydd.ac.uk/cyncoed
Ar y campws bywiog hwn mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, Ysgol Reoli Caerdydd, Ysgol Dechnolegau Caerdydd, yn ogystal â’n graddau iechyd a pholisi cymdeithasol.
Rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd mewn dysgu, addysgu a lleoedd cymdeithasol ar gampws Llandaf, i roi amgylcheddau dysgu modern i’n myfyrwyr, mannau cymdeithasol gwych, llawer o siopau coffi a llefydd i fwyta.
Mae’r campws wrth galon y gymuned, yn agos at bentref hanesyddol Llandaf, gyda nifer o barciau a chaeau chwarae o’i gwmpas. Dim ond dwy filltir o daith yw hi i ganol dinas Caerdydd, a gallwch gerdded i lety Plas Gwyn mewn 20 munud.
www.metcaerdydd.ac.uk/llandaf
Sganiwch y cod QR i
Canolbwynt dod hyd i gartref, o deimlo croeso’r rhai o’ch gwmpas, o ddrysau agored a meddyliau agored. Canolbwynt dod i ‘nabod cymdogion, rhannu paned, bwydydd newydd ac ehangu gorwelion. Canolbwynt noson allan anturus, a nosweithiau difyr o aros i mewn. Canolbwynt byw eich bywyd eich hun.
Cartref oddi cartref
Mae symud i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf yn gam mawr ac mae gwneud nyth gysurus oddi cartref yn rhan bwysig o gael amser llwyddiannus a phleserus yn y brifysgol. Mae gennym dîm o bobl sy’n gallu rhoi help llaw – o’r eiliad y byddwch chi’n gwneud cais, a thrwy gydol yr amser y byddwch chi gyda ni.
Beth rydyn ni’n ei gynnig
Llety ar y campws
Ar hyn o bryd mae gennym oddeutu 1,000 o ystafelloedd gwely/astudio ar gampysau Cyncoed a Phlas Gwyn. Mae nifer o opsiynau ar y ddau gampws, gyda darpariaeth gydag arlwyo, hunan-arlwy, en-suite a rhannu cyfleusterau.
Os ydych chi’n astudio chwaraeon neu addysg, campws Cyncoed sydd fwyaf addas. Mae Plas Gwyn yn gyfleus i bobl sy’n astudio celf a dylunio, rheoli, gwyddorau iechyd neu dechnolegau ar gampws Llandaf. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu eich llety o ddewis, ond ni fydd hyn yn bosibl bob tro oherwydd y galw.
Neuaddau preifat
Gallwn ddarparu ystafelloedd preifat en-suite i fyfyrwyr trwy gytundebau gyda neuaddau preifat sydd wedi eu lleoli gerllaw’r ddau gampws. Mae rhestr lawn o neuaddau preifat ar gael ar ein gwefan.
Faint yw’r gost
Gallwch weld gwybodaeth am ffioedd cyfredol y neuaddau a’r cymorth ariannol a all fod ar gael i helpu gyda chostau llety yn www.metcaerdydd.ac.uk/ ffioeddneuaddau
Gwneud cais am lety mewn neuadd neu lety preifat
Ar ôl penderfynu mai ni fydd eich dewis cyntaf, neu eich dewis wrth gefn, bydd angen i chi wneud cais ar-lein ar ein gwefan am le mewn neuadd o ddechrau mis Ebrill ymlaen.
Os byddai’n well gennych lety mewn tŷ preifat, mae gan y Swyddfa Llety Gofrestr Landlordiaid gyda rhestr o landlordiaid sy’n bodloni’r holl ofynion deddfwriaethol yn ymwneud â rhentu eu tai. Gallwn roi cyngor ar gontractau hefyd a beth y dylech chi gadw llygad amdano.
Gwarantu lle mewn neuadd
Byddwn ni’n gwarantu lle i chi mewn llety a gymeradwyir gan y brifysgol os ydych chi’n gwneud cais i fod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd am y tro cyntaf.
I fodloni’r meini prawf ar gyfer llety wedi ei warantu, dylech chi:
• Heb fod yn fyfyriwr llawn amser ym Met Caerdydd erioed o’r blaen
• Bod wedi derbyn cynnig o le yn
• Met Caerdydd a bod wedi ein gwneud ni yn ddewis pendant trwy UCAS
• Anfon eich cais am le mewn neuadd ar-lein erbyn 31 Mai 2025 fan bellaf
• Gofyn am lety am y cyfnod rhentu llawn fel preswylydd unigol
• Derbyn ein cynnig o lety a thalu blaendal o fewn saith diwrnod i dderbyn lle
• Ni ddylech fod yn fyfyriwr ‘lleol’ fel y nodir yn ein Polisi Dyrannu lle mewn Neuadd
• Sicrhau bod gennym lety addas ar gael i ddiwallu eich anghenion
Mae telerau llawn a rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau gwe.
Cwestiwn?
Ffôn: 029 2041 6188 neu 6189 E-bost: accomm@cardiffmet.ac.uk
Sganiwch i weld ein gwefan llety
Mae bywyd mewn neuadd yn llawer mwy na dim ond to uwch eich pen, mae’n gyfle i gyfarfod â phobl newydd a chael profiadau newydd. Dyma lle gall eich rhaglen
Bywyd Preswyl fod o gymorth.
I lawer ohonoch chi, byw mewn neuadd fydd y tro cyntaf i chi gael blas ar annibyniaeth a chael eich trin fel oedolion. Roedd rhaid i ni i gyd adael cartref rywbryd, a gall y tro cyntaf wneud i chi deimlo’n ansicr ond yn gyffrous hefyd. Does dim angen i chi boeni, mae hynny’n normal ac er y bydd pobl yn dweud fel arall, roedd pob un ohonom ni’n teimlo’r un fath. Rydyn ni’n awyddus i wneud bywyd mewn neuadd yn un o brofiadau gorau eich bywyd yn y brifysgol.
Wrth i chi wneud eich cais, gallwch nodi pa lety fyddai orau gennych chi. Os ydych chi’n siarad Cymraeg, efallai yr hoffech gael llety gyda siaradwyr Cymraeg eraill, ac os bydd hyn yn bosibl, byddwn yn ceisio trefnu bod hyn yn digwydd. Efallai yr hoffech chi fod mewn fflat di-alcohol neu dawel, a byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau hynny yn ôl y galw.
Os hoffech weld mwy am fywyd yn ein neuaddau ewch i’r blogiau ar ein gwefan: www.metcaerdydd.ac.uk/ blogiau
Cofiwch:
Dim ond sampl fach yw’r lluniau hyn o’r mathau o lety sydd ar gael. Gall neuaddau a ddyrennir ar y campws a neuaddau preifat fod yn wahanol i’r rhai yn y lluniau.
“Rwy’n byw gyda deg o wahanol bobl o bob cwr o’r DU ac mae byw mewn neuadd wedi bod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd. Y peth gorau yw bod mor agos at eich ffrindiau a gallu cerdded ar hyd y coridor, ymlacio, gwylio ffilm neu fynd i’r dref i fanteisio ar fywyd myfyrwyr yng Nghaerdydd.”
Holly
Astudiaethau Addysg Gynradd –Neuaddau â Gwasanaeth Arlwyo – Campws Cyncoed
Cymuned newydd, lle i wneud ffrindiau a lle i berthyn. Eich undeb myfyrwyr.
Mae Undeb Myfyrwyr Met Caerdydd yma i roi help llaw i chi ac i’ch cynrychioli. Efallai eich bod eisiau dewis gweithgaredd allgyrsiol – chwaraeon, cymdeithasau, gweithdai, gwirfoddoli a llawer mwy – neu eisiau gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed. Mae’r Undeb yma i wneud eich profiad ym Met Caerdydd mor bleserus a llwyddiannus â phosibl.
“Fy ngwaith i yw gwneud eich bywyd chi ym Met Caerdydd mor wych â phosibl. Fi sydd yn eich cynrychioli chi ar y lefel uchaf yn y Brifysgol ac rwy’n gweithio fel Myfyriwr Lywodraethwr yn cynrychioli safbwyntiau’r myfyrwyr.”
Natalia-Mia Roach Llywydd UM – Materion a Chymuned
Cymdeithasu
Mae cyfle i ymlacio rhwng darlithoedd a chwrdd â ffrindiau am fwyd a diod neu fynd i ddigwyddiad yn Centro, caffi, bar a lolfa UM. Mae wedi’i leoli yng nghanol campws Cyncoed.
Ac os ydych chi’n chwilio am le i fwynhau gwylio chwaraeon, mae Centro’n dangos y gemau mawr i gyd yn ystod y flwyddyn, o bêl-droed y Champions League a’r Super Bowl, i gemau rygbi’r Chwe Gwlad.
Ar y cyfryngau cymdeithasol:
Dilynwch @cardiffmetsu
I ddysgu mwy am fywyd fel
myfyriwr ym Met Caerdydd, ewch i
www.metcaerdydd.ac.uk/bywydmyfyriwr
www.cardiffmetsu.co.uk
Cymdeithasau UM
Os ydych chi am gychwyn hobi newydd, neu ymgyrchu dros achos, mae gennym 30 a mwy o gymdeithasau i chi ddewis o’u plith a gallwch ymuno â faint fynnwch chi. Os nad oes dim yn apelio, mae croeso i chi gychwyn cymdeithas newydd a bydd UM yn eich helpu chi os bydd angen.
Digwyddiadau
O gelf a chrefft i weithdai cyflogadwyedd a llesiant, mae ein rhaglen brysur o ddigwyddiadau yn cynnig digon i’w wneud o’r naill dymor i’r llall. Mae’n ffordd wych o ddysgu sgil newydd a chwrdd â phobl sydd ar gyrsiau gwahanol a gwneud ffrindiau.
Bod yn gyflogadwy
Mae Siop Swyddi UM yn lle i weld pa swyddi sydd ar gael ar y campws ac mewn mannau eraill. Mae llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yng
Nghaerdydd hefyd, gallwch weithio ar brosiect, i godi ymwybyddiaeth o broblemau cymunedol lleol a gwneud gwahaniaeth, a bydd hyn i gyd yn eich helpu i fod yn fwy cyflogadwy pan fyddwch yn graddio.
Ein teulu Archer
Mae gan yr ‘Archers’ ym Met Caerdydd hanes cyfoethog a chysylltiad hirfaith â chwaraeon – ond mae’n llawer mwy na hynny. Mae’n gyfle i ddatblygu cymeriad a gallu a chael hwyl ar yr un pryd, ac mae’n rhan o’n cymuned os byddwch chi’n dod i astudio ym Met Caerdydd, wedyn byddwch chi’n un o’r Archers hefyd. Waeth a ydych chi’n ein cefnogi ar y maes chwarae neu’n cynrychioli Met Caerdydd mewn cystadleuaeth lenyddol neu farddoni, byddwch chi’n rhan o gymuned gynhwysol, gefnogol ac uchelgeisiol teulu Archer.
Sganiwch y cod
QR i weld ein fideo a dysgu mwy
Aelodaeth
chwaraeon a ffitrwydd di-dâl
i bob myfyriwr
israddedig ym
Met Caerdydd*
Dyma ganolbwynt boreau cynnar. Taflenni tîm a dosbarthiadau meistr tactegol. Canolbwynt brwydrau wrth geg y gôl, anelu o ddeg llath ar hugain, a phlymio i mewn yn y pen dwfn. Neu ennill yn y funud olaf, cystadlu yn erbyn goreuon y byd, ac ymladd eich ffordd i’r llinell gais fesul modfedd ogoneddus. Canolbwynt rhagoriaeth mewn chwaraeon, brwydro fel tîm gyda chalonnau’n curo fel un.
Lle mae chwaraeon ac astudio’n cyfarfod
Ym Met Caerdydd, rydym ni’n credu bod chwaraeon yn rhan annatod o brofiad prifysgol. Mae ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau chwaraeon gwych, hyfforddiant arbenigol a chymuned chwaraeon sy’n ffynnu yn eich galluogi i ragori ar y cae chwarae ac yn yr ystafell ddosbarth. Profwch y wefr o gystadlu, gan ddod o hyd i ddiddordebau newydd a chyfeillgarwch a fydd yn para gydol oes wrth i chi gychwyn ar daith chwaraeon fythgofiadwy.
Cyfleusterau i’ch grymuso Os ydych yn athletwr uchelgeisiol neu’n awyddus i wella eich ffitrwydd, gall ein cyfleusterau roi’r llwyfan perffaith i chi ar gyfer eich ymdrechion ym myd chwaraeon. Yn yr arena chwaraeon amlbwrpas, mae ystafelloedd cryfder a chyflyru modern a chanolfannau ffitrwydd cwbl gynhwysol yn cynnig yr offer sydd ei angen arnoch i ragori. Mae’r Ganolfan Athletau Dan Do Genedlaethol ar ein campws hefyd.
Hafan ar gyfer iechyd a ffitrwydd
Cynllun aelodaeth chwaraeon a ffitrwydd yw Met Actif, ac mae’n DDI-DÂL i fyfyrwyr Met Caerdydd ym mlwyddyn academaidd 2024/25. Mae’n cynnwys defnydd llawn o’r campfeydd, y pwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd. Mae ein tîm ffitrwydd wedi cynllunio amrywiaeth o weithgareddau, o boxercise a pilates i bootcamp a chodi pwysau, sy’n addas i bob lefel ffitrwydd a diddordeb.
Chwaraeon Clwb: Angerdd i chwarae Mae modd mwynhau cyffro
chwaraeon o bob math o Aussie Rules i osgeiddgarwch cheerleading, ac mae ein dewis helaeth o weithgareddau hamdden yn sicrhau bod rhywbeth ar gael at ddant pawb. Gall yr athletwr profiadol neu ddechreuwr chwilfrydig ddod o hyd i rywbeth i danio eu brwdfrydedd a meithrin ffrindiau newydd.
BUCS: Cystadlu ar ei orau
Cewch gyfle i gynrychioli Met Caerdydd gyda balchder a chystadlu yng nghynghreiriau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS). Mae ein rhwydwaith eang o dros 50 o dimau cystadleuol y rhoi digon o gyfle i brofi eich sgiliau yn erbyn prifysgolion a cholegau eraill gan feithrin ysbryd o frawdgarwch a rhagoriaeth mewn chwaraeon. *Yn
“Rwyf wedi chwarae rygbi ers pan oeddwn i’n chwech oed, felly roedd cyfle
i wneud chwaraeon yn y brifysgol yn
bwysig i mi erioed gan fod hynny’n rhan
fawr o’m bywyd. Rwyf wrth fy modd yn
chwarae rygbi ym Met Caerdydd, mae’n rhaglen wych gyda hyfforddwyr rhagorol.”
Dilynwch ein timau ar Instagram
@CMetSUSport a sganiwch
yma here i wylio Teledu
Chwaraeon Met Caerdydd ar
YouTube
Mae cydnabyddiaeth ryngwladol
i Brifysgol Metropolitan Caerydd
am lwyddiant ei myfyrwyr
blaenorol a phresennol ym myd
chwaraeon ar lefel prifysgol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Jessie Owers Myfyriwr TroseddegMeithrin pencampwyr
Mae Met Caerdydd yn fagwrfa i bencampwyr chwaraeon y dyfodol. Mae amgylchedd Gyrfa Ddeuol achrededig Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS) yn sicrhau bod eich dyheadau chwaraeon yn plethu’n ddi-dor â’ch astudiaethau academaidd gan osod sylfaen ar gyfer dyfodol llwyddiannus. Mae ein rhaglen berfformiad elît, a gefnogir gan dîm o bobl broffesiynol ymroddedig, yn darparu agwedd holistaidd at ddatblygu athletwyr.
Bydd Canolfan Perfformiad Uchel Archers sy’n agor yn 2024, yn darparu cyfleusterau cryfder a chyflyru a gwasanaethau adfer ar gyfer athletwyrfyfyrwyr ar raglenni perfformiad Chwaraeon Met Caerdydd, gan gynnwys ein timau yn y Gynghrair Genedlaethol a’r athletwyr TASS, ac athletwyr perfformiad uchel sydd ar ymweliad. Bydd tri arwyneb hyfforddi yn y ganolfan, yn cynnwys trac rhedeg, arwyneb artiffisial PLAE ac offer a ddarperir gan Blk Box.
Cyrraedd eich nod drwy ysgoloriaethau chwaraeon Gall myfyrwyr cymwys wneud cais am un o’r ysgoloriaethau chwaraeon hael sydd ar gael, a derbyn cefnogaeth ariannol er mwyn eich helpu i gyflawni eich breuddwyd ym myd chwaraeon heb gyfaddawdu eich diddordebau academaidd.
I ddysgu rhagor am Chwaraeon Perfformiad ac ysgoloriaethau chwaraeon ewch i: www.metcaerdydd. ac.uk/chwaraeon-perfformiad
• Athletau
• Pêl fasged Menywod
• Pêl fasged Cadair Olwyn
• Criced Dynion (Canolfan Ragoriaeth mewn Criced Prifysgol Caerdydd, UCCE)
• Pêl-droed Dynion
• Pêl-droed Menywod
• Hoci Dynion
• Hoci Menywod
• Pêl-rwyd
• Rygbi’r Undeb i Ddynion
• Rygbi’r Undeb i Fenywod
• Triathlon
Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar sicrhau bod y cyfle gorau gennych chi i gyflawni eich potensial academaidd a phroffesiynol.
Mae ein Gwasanaethau Myfyrwyr yma i’ch cynorthwyo chi drwy gydol eich astudiaethau pa bynnag drafferthion y byddwch yn eu hwynebu. Mae ein staff arbenigol yn cynnig cyngor a chymorth diduedd a chyfrinachol ar arian, llesiant, anabledd, dyslecsia a chymorth dysgu arbenigol i’ch helpu chi wrth i chi gyflawni eich dyheadau academaidd.
Dewch am sgwr
Mae ein staff cymorth ymroddedig yn y parth-g, y gallwch eu holi am sut i gael mynediad i Wasanaethau Myfyrwyr, cyflogadwyedd neu unrhyw gefnogaeth anacademaidd, yma i’ch helpu gydol y flwyddyn. Nid oes unrhyw broblem yn ormod a bydd y tîm yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i ateb.
Mae ein staff i-zone cyfeillgar wedi eu lleoli ar y ddau gampws yng Nghyncoed a Llandaf.
Lles myfyrwyr
Mae’r Tîm Llesiant yn cynnig pob math o gymorth i fyfyrwyr ag anableddau, anawsterau dysgu penodol, niwroamrywiaeth a heriau iechyd meddwl. Mae’n destun balchder i ni allu gwneud ein gwasanaethau ni a'ch astudiaethau chi yn hygyrch. Nid yw anabledd neu gyflwr iechyd meddwl yn rhwystr i lwyddo ym Met Caerdydd. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddweud eich hanes, gan wneud hynny pan fyddwch chi’n barod; mae ein Tîm Llesiant wrth law bob dydd o’r wythnos waith i’ch tywys chi at y tîm cymorth priodol.
“Rwy’n aelod o dîm cefnogol
ac ymroddedig ym Met
Caerdydd, lle mae pawb
yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod unrhyw fyfyriwr sy’n datgelu anabledd yn cael cynnig cymorth wedi’i deilwra ac addasiadau rhesymol.
Mae’r cymorth hwn yn helpu myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial.”
Lisa Aske
Uwch Gynghorydd Llesiant
Cymorth ar gyfer Anabledd Rydym yn darparu cymorth cynhwysfawr i fyfyrwyr anabl ac yn hyrwyddo cynwysoldeb a sicrhau cyfle cyfartal i bawb. Os oes gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gallwch gael gafael ar gymorth.
Bydd ein cynghorwyr yn gweithio gyda chi i ddatblygu pecyn cymorth a fydd yn rhoi sylw i unrhyw anawsterau y byddwch yn eu hwynebu yn ystod eich astudiaethau.
Iechyd meddwl a llesiant
Mae cychwyn yn y brifysgol yn adeg gyffrous ond gall greu teimladau o ansicrwydd – cofiwch nad ydych ar eich pen eich hun ar y daith hon a byddwn yn deall y bydd gan bawb deimladau cymysg. Mae ein staff arbenigol yma bob amser i wrando a bydd croeso i chi gael sgwrs gydag un o’n Cynghorwyr Llesiant, cynghori cyfrinachol 1-1, sesiynau llesiant grŵp, neu fynediad i gwrs arbenigol. Rydym yn awyddus i’ch helpu gyda’r adnoddau a’r dulliau priodol a fydd yn gwneud pontio i fywyd prifysgol ychydig yn haws.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’ch tîm academaidd hefyd i roi cymorth ac addasiadau ar waith fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich potensial academaidd.
Cyngor ariannol a llesiant
Efallai mai’r brifysgol fydd y lle cyntaf i chi reoli eich arian eich hun. Os oes angen cymorth arnoch chi i drefnu’ch cyllideb, neu os oes gennych broblemau ariannol neu bryderon mae gennym gymorth a chyngor arbenigol a chronfeydd i helpu rhai sy’n wynebu caledi. Hefyd, mae ein cynghorwyr yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n gadael gofal, neu rai sydd â dyletswyddau gofal eu hunain, neu sydd wedi dieithrio oddi wrth eu teuluoedd mewn unrhyw ffordd arall.
Cymorth dysgu
Mae’r tîm cymorth dysgu’n darparu apwyntiadau mentora a thiwtora arbenigol 1:1, adnoddau, gweithdai a deunyddiau dysgu wedi eu teilwra. Ein nod yw eich helpu i ddatblygu sgiliau a strategaethau i oresgyn unrhyw broblemau wrth astudio, fel addasu i astudio mewn prifysgol a chynllunio llwyth gwaith.
Os hoffech ragor o wybodaeth gan y Gwasanaethau Myfyrwyr ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ gwasanaethaumyfyrwyr
I wneud apwyntiad gydag un o’n cynghorwyr cyn dechrau yn y brifysgol, cysylltwch â ni: Ffôn: 029 2041 6170
E-bost: studentservices@ cardiffmet.ac.uk
O gofrestru i raddio, mae Met Caerdydd yn awyddus i’ch paratoi ar gyfer eich camau nesaf wrth i chi ddechrau eich gyrfa. Mae ein cyrsiau rhagorol wedi eu hadeiladu ar bartneriaethau cryf gyda diwydiant, ac yn cynnig profiad o’r byd go iawn ac yn cynhyrchu graddedigion sy’n addas i’w cyflogi.
Gwasanaeth Gyrfaoedd
O’r diwrnod y byddwch chi’n ymuno â ni, gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth gyrfaoedd eithriadol, trwy gymorth amrywiol sydd â’r nod o wella eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch rhagolygon. Mae ein tîm yn awyddus i’ch helpu i lwyddo a chyflawni eich potensial.
8fed yn y DU ar gyfer cyflogadwyedd
*Uni Compare UK University
Graduate Employability Rankings
2023/2024
Rydym yn cynnig cyngor gyrfaol diduedd a phroffesiynol gydol y flwyddyn, wedi’i deilwra i’ch anghenion a’ch uchelgais benodol chi. Gallwch ddefnyddio ein Gwasanaethau
Gyrfaoedd ar hyd eich oes ar ôl i chi raddio.
Byddwn yn eich helpu i’ch paratoi at y dyfodol a pha bynnag yrfa yr hoffech ei dilyn ar ôl i chi raddio, gan ddod o hyd i gyfleoedd i ennill sgiliau a phrofiad, ac ymgeisio am swyddi neu ddilyn astudiaeth bellach. Bydd pob un o’n myfyrwyr yn rhan o Siapio eich Dyfodol, ein rhaglen datblygu sgiliau lle gallwch gymharu lefelau eich sgiliau yn erbyn y sgiliau y mae cyflogwyr yn galw fwyaf amdanynt.
A bob blwyddyn, byddwn yn dod â chyflogwyr lleol a chenedlaethol ynghyd ar y campws o sectorau o bob math i’n Ffair Yrfaoedd, lle bydd cyfle i chi archwilio’r farchnad swyddi a chyflwyno’ch hun i gyflogwyr gan roi’r cyfle gorau i chi sicrhau eich swydd gyntaf ar ôl i chi raddio o Met Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth: www.metcaerdydd.ac.uk/gyrfaoedd
Pan fyddwch chi’n astudio gyda ni, os cewch chi syniad ar gyfer menter gymdeithasol, elusen neu fusnes yr hoffech ei wireddu, gall ein Canolfan Entrepreneuriaeth eich helpu.
Gallwch hogi eich syniadau a meithrin sgiliau entrepreneuraidd trwy raglen lawn o ddigwyddiadau dysgu trwy brofiad a rhwydweithio, bootcamps, gweithdai a chyrsiau, sy’n cael eu cynnal bob blwyddyn ar gyfer myfyrwyr a graddedigion.
Gall ein Canolfan Entrepreneuriaeth gynnig cymorth 1-1 hefyd a chronfa sbarduno ar gyfer egin fusnesau myfyrwyr a graddedigion. Mae gennym dîm o gynghorwyr a mentoriaid ymroddedig wrth law i’ch tywys dwy’r camau angenrheidiol ar gyfer dechrau eich sefydliad eich hun.
Rydym yn awyddus i roi cyfle i’n myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a’u syniadau entrepreneuraidd, pa un ai a ydyn nhw am ddechrau busnes, gweithio’n llawrydd neu fynd i fyd gwaith. Mae ein harbenigwyr entrepreneuraidd yn cydweithio â’n holl Ysgolion i sefydlu Entrepreneuriaeth ar draws y cwricwlwm.
Rhagor o wybodaeth www.metcaerdydd.ac.uk/ entrepreneuriaeth
“Yr amser gorau i gychwyn busnes yw pan rydych chi yn y brifysgol. Y peth pwysicaf yw gweld beth sydd gan y Ganolfan Entrepreneuriaeth i’w gynnig gan eu bod yn darparu cefnogaeth wych, cyngor a chyfleoedd am nawdd pan ddaw’r amser.”
Louis Cochrane Wedi graddio mewn Hyfforddiant Chwaraeon a Chyd-sylfaenydd UniWom
94.2�
yw canran y graddedigion o Met Caerdydd sydd naill ai mewn gwaith neu astudiaeth bellach 15 mis ar ôl gorffen eu cwrs.
*Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2023
“Grymuso ein myfyrwyr i ddilyn eu breuddwydion yw hanfod ein gwaith fel Gwasanaeth Gyrfaoedd. Mae ein tîm yn rhoi pob math o gymorth, o wella CV i ddatblygu sgiliau pwysig cyflogadwyedd, a thywys myfyrwy r drwy’r broses o archwilio gyrfaoedd. Rydyn ni yma i roi help llaw bob amser.”
Megan Cooper Ymgynghorydd Gyrfaoedd
“Byddwn yn argymell y flwyddyn sylfaen i unrhyw un gan ei fod yn ddefnyddiol iawn. Fe roddodd gipolwg i mi ar sut y disgwylir i waith gael ei gyflwyno, ei fformatio a’i gyfeirio yn y brifysgol. Roedd y darlithwyr mor gefnogol hefyd.”
Romey Williamson
Sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau
Cymdeithasol ac Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig – BSc (Anrh)
Cynlluniwyd y flwyddyn sylfaen i hwyluso mynediad i ystod eang o raddau anrhydedd llawn mewn
Peirianneg a Chyfrifiadureg yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd.
Mae’r rhaglen sylfaen yn cysylltu â’r graddau anrhydedd canlynol:
Cyfrifiadureg
Cyfrifiadureg a Gwyddor tudalen 100 Data – BSc (Anrh)
Dylunio a Datblygu tudalen 102
Gemau Cyfrifiadurol – BSc (Anrh)
Cyfrifiadureg tudalen 104 – BSc (Anrh)
Diogelwch Cyfrifiaduron tudalen 106 – BSc (Anrh)
Cyfrifiadura gyda tudalen 108
Dylunio Creadigol – BSc (Anrh)
Peirianneg Meddalwedd tudalen 110 – BSc (Anrh)
Peirianneg:
Peirianneg Systemau tudalen 126
Trydanol ac Electronig – BEng/MEng (Anrh)*
Peirianneg Systemau tudalen 128
Cyfrifiadurol ac Electronig – BEng/MEng (Anrh)
Peirianneg Roboteg tudalen 130 – BEng/MEng (Anrh)
Os oes gennych ddiddordeb mewn symud ymlaen i’r radd BSc (Anrh)
Systemau Gwybodaeth Busnes, gweler
Sylfaen yn arwain at Busnes, Rheoli a Chwaraeon ar dudalen 34.
Mae’r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyfle i ehangu mynediad i fyfyrwyr nad yw eu cymwysterau’n briodol ar gyfer mynediad arferol i flwyddyn un o’ch dewis radd, a/ neu’r rhai a allai fod wedi bod allan o ddysg ers peth amser ond bod gennych brofiad gwaith perthnasol.
*Yn amodol ar ddilysu.
**Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. Fel y cyfryw, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd gennych sylfaen gref o wybodaeth graidd y byddwch yn gallu ei chymhwyso i'ch astudiaethau yn y dyfodol. Byddwch yn ennill sylfaen gref ac ymarferol mewn cysyniadau mathemateg a themâu cyfoes yn hanfodol i dechnoleg. Bydd modiwlau dewisol yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i'ch diddordebau penodol a’ch gradd ddewisol, tra bydd prosiect terfynol yn atgyfnerthu eich dysgu. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil allweddol a sgiliau trosglwyddadwy i gynorthwyo astudiaeth bellach ac i integreiddio’n llawn i fywyd fel myfyriwr cyn symud ymlaen i flwyddyn un.
Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol a dewisol:
• Mathemateg ar gyfer Technoleg
• Themâu Cyfoes mewn Technoleg
• Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd
• Prosiect Unigol
• Sgiliau Rhaglennu ac Ystadegau (opsiwn)
• Ffiseg ac Electroneg (opsiwn)
• Mae’r cwricwlwm wedi’i gynllunio i feithrin lefel o hyder a pharodrwydd a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i flwyddyn un o’ch dewis radd.
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y Cwrs:
1 flwyddyn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig
Nodweddiadol:
5 TGAU gan gynnwys. Saesneg a Mathemateg gradd
A*–C a 64 pwynt UCAS
Cod UCAS: Mae gan bob gradd ei chod UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. Cyfeiriwch at y wefan am y cod UCAS perthnasol a gwnewch gais ar wefan UCAS
“Rhoddodd y flwyddyn sylfaen yr hyder i mi ddychwelyd i’r byd academaidd ar ôl 16 mlynedd allan o fyd addysg. Rhoddodd y sgiliau yr oedd eu hangen arnaf i ymgymryd ag aseiniadau academaidd, megis y ffordd gywir o gyfeirio. Fe wnaeth hefyd fy nghysylltu â myfyrwyr eraill o gefndiroedd a diddordebau tebyg, gan ddangos i mi nad oeddwn ar fy mhen fy hun yn mynd yn ôl i addysg i ailhyfforddi a newid llwybr fy ngyrfa”
Phil Dickens
Sylfaen yn arwain at Ddylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol – BSc (Anrh)
Mae ein blwyddyn sylfaen yn y gwyddorau iechyd yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd prifysgol.
Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch gael mynediad i flwyddyn gyntaf ystod eang o raddau o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd. Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a hyder.
Mae croeso i chi astudio blwyddyn sylfaen os ydych chi’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol, gan gynnwys:
• Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
• Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Yn berthnasol ar gyfer y graddau canlynol ac yn cwmpasu meysydd y Gwyddorau Biolegol, Cemegol a Ffisegol yn ogystal â dealltwriaeth o sut mae ymchwil a dadansoddi data yn cael ei wneud yn y gwyddorau iechyd:
Gwyddorau Biofeddygol a Gofal Iechyd:
Gwyddor Fiofeddygol tudalen 78 – BSc (Anrh)
Gwyddor Fiofeddygol tudalen 80 (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) – BSc (Anrh)
Gwyddor Gofal Iechyd tudalen 82 – BSc (Anrh)*
Iechyd yr Amgylchedd:
Iechyd yr Amgylchedd tudalen 138 – BSc (Anrh)
Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg:
Gwyddor Bwyd a Maeth tudalen 156 – BSc (Anrh)
Maeth Dynol a Dieteteg tudalen 158 – BSc (Anrh)*
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 1 flwyddyn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 5 TGAU gan gynnwys. Saesneg a Mathemateg gradd A*–C, a 56 pwynt UCAS
Cod UCAS: Mae gan bob gradd ei chod UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. Cyfeiriwch at y wefan am y cod UCAS perthnasol a gwnewch gais ar wefan UCAS
Chwaraeon:
Gwyddor Chwaraeon ac tudalen 204
Ymarfer Corff – BSc (Anrh)
Cyflyru, Adsefydlu tudalen 208 a Thylino Chwaraeon – BSc (Anrh)
Proffesiynau Iechyd:
Technoleg Ddeintyddol tudalen 162 – BSc (Anrh)*
Podiatreg – BSc (Anrh)* tudalen 164
*Mae dilyniant awtomatig i un o’r graddau hyn yn gofyn am gyfradd lwyddo leiaf o’r sylfaen. Gweler y wefan am y gofynion llawn.
Rhowch hwb i’ch hyder, eich sgiliau a’ch gwybodaeth i symud ymlaen i astudio ar lefel gradd.
Dysgwch am feysydd rheoli allweddol yn ogystal â datblygu eich gwybodaeth a’ch hyder ym maes TG, ymchwil, marchnata a chyfathrebu gyda’n blwyddyn sylfaen yn Ysgol Reolaeth Caerdydd.
Gallwch astudio blwyddyn sylfaen, i’ch paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio ar un o’r graddau a restrir ar dudalen 35, os ydych yn perthyn i un o’r categorïau canlynol:
• Rydych chi’n ansicr pa bwnc yr hoffech chi arbenigo ynddo
• Nid oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Nid ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Rydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd
Byddwch yn cael eich trwytho’n llwyr i fywyd prifysgol a chymuned y myfyrwyr o’r diwrnod cyntaf. Gyda chyfraddau dilyniant uchel, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod pob myfyriwr yn cyrraedd ei lawn botensial. Bydd dilyn y llwybr sylfaen yn cymryd blwyddyn academaidd ychwanegol i gwblhau eich gradd anrhydedd.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
“Rhoddodd y flwyddyn sylfaen gyfle
i mi ddarganfod beth oedd gen i wir ddiddordeb ynddo. Fe gwblheais y flwyddyn sylfaen, cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd israddedig a gradd meistr ac gallaf ddweud fy mod i wedi ffynnu ym Met Caerdydd”
Jake Stacey
Rheoli Marchnata – BA (Anrh) a Rheoli Marchnata Digidol – MSc
Mae’r flwyddyn sylfaen yn cysylltu â’r graddau anrhydedd canlynol:
Cyfrifeg, Economeg a Chyllid:
Cyfrifeg – BA (Anrh) tudalen 40
Cyfrifeg ac Economeg tudalen 40 – BA (Anrh)
Cyfrifeg a Chyllid tudalen 40 – BA (Anrh)
Bancio a Chyllid tudalen 42 – BSc (Anrh)
Economeg – BSc (Anrh) tudalen 44
Busnes a Rheoli:
Rheoli Hedfan tudalen 86 – BA (Anrh)
Busnes a Rheoli tudalen 88 (gyda llwybrau arbenigol) – BA (Anrh)
Gwybodaeth Busnes tudalen 90
Systemau – BSc (Anrh)
Digwyddiadau, Lletygarwch a Thwristiaeth:
Rheoli Digwyddiadau tudalen 142 – BA (Anrh)
Rheoli Lletygarwch a tudalen 144
Gwesty Rhyngwladol – BA (Anrh)
Rheoli Twristiaeth tudalen 146
Ryngwladol – BA (Anrh)
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Bydd pob myfyriwr, waeth pa radd y maent yn symud ymlaen iddi, yn astudio eu blwyddyn sylfaen ar Gampws Llandaf.
Hyd y Cwrs: 1 flwyddyn llawn amser
Gofynion mynediad:
Cynnig nodweddiadol: 5 TGAU gradd C (neu gyfwerth) a 32 Pwynt UCAS
Cod UCAS: Mae gan bob gradd ei chod UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. Cyfeiriwch at y wefan am y cod UCAS perthnasol a gwnewch gais ar wefan UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg ar gael
Cyfraith:
Cyfraith Busnes a tudalen 170
Rheoli – BA (Anrh)
Y Gyfraith a Throseddeg tudalen 171 – BA (Anrh)
Y Gyfraith – LLB (Anrh). tudalen 172
Rheoli Marchnata:
Rheoli Marchnata Digidol tudalen 92 – BA (Anrh)
Rheoli Marchnata tudalen 94 a Hysbysebu – BA (Anrh)
Rheoli Brand a Marchnata tudalen 94 – BA (Anrh)
Rheoli Marchnata tudalen 94 – BA (Anrh)
Rheoli Marchnata a tudalen 94
Chysylltiadau Cyhoeddus – BA (Anrh)
Rheoli Gwerthu tudalen 94 a Marchnata – BA (Anrh)
Rheoli Prynu Ffasiwn tudalen 152 a Brand – BA (Anrh)
Rheoli Marchnata Ffasiwn tudalen 152 – BA (Anrh)
Chwaraeon:
Cyfryngau Chwaraeon tudalen 182 – BSc (Anrh)
Hyfforddi Chwaraeon tudalen 206 – BSc (Anrh)
Rheoli Chwaraeon tudalen 210 – BSc (Anrh)
Perfformiad Chwaraeon tudalen
Dadansoddiad – BSc (Anrh)
Chwaraeon, Addysg tudalen
Gorfforol a Iechyd – BSc (Anrh)
Chwaraeon, Addysg tudalen
Gorfforol a Iechyd
(Dawns) – BSc (Anrh)
Astudiaethau Chwaraeon tudalen 218
ac Addysg Gorfforol
Dwyieithog – Gradd BSc (Anrh)
Mae ein blwyddyn sylfaen yn y gwyddorau cymdeithasol yn flwyddyn ychwanegol o astudio ar ddechrau eich gradd prifysgol.
Ar ôl cwblhau eich blwyddyn sylfaen yn llwyddiannus, gallwch gael mynediad i flwyddyn gyntaf ystod eang o raddau o Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd ac Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd.
Bwriad y flwyddyn sylfaen yw eich paratoi ar gyfer eich blynyddoedd dilynol o astudio, gan gynnig y cyfle i chi gryfhau eich sgiliau, gwybodaeth a hyder.
“Roedd y cwrs yn cwmpasu llawer o agweddau dysgu y tu allan i’m llwybr dewisol a fyddai’n gwella fy mhrofiad yn y brifysgol, rhoddodd haen sylfaen gadarn o wybodaeth i mi i gyfoethogi fy mhrofiad ar y rhaglen radd.”
David Barraclough
Sylfaen yn arwain at y Gwyddorau Cymdeithasol a Seicoleg – BSc (Anrh)
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau
Iechyd Caerdydd /Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 1 flwyddyn llawn amser
Gofynion Mynediad: Cynnig nodweddiadol: 5 TGAU gan gynnwys. Saesneg a Mathemateg gradd A*–C, a 48 pwynt UCAS
Cod UCAS: Mae gan bob gradd ei chod UCAS blwyddyn sylfaen ei hun. Cyfeiriwch at y wefan am y cod UCAS perthnasol a gwnewch gais ar wefan UCAS
Mae croeso i chi astudio blwyddyn sylfaen os ydych chi’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol, gan gynnwys:
• Os nad ydych yn siŵr pa bwnc yr hoffech arbenigo ynddo
• Os nad oes gennych y cyfuniad cywir o bynciau ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Os nad ydych yn bodloni’r gofynion disgwyliedig ar gyfer mynediad uniongyrchol i Flwyddyn 1
• Os ydych chi’n dychwelyd i addysg ar ôl peth amser i ffwrdd
Yn berthnasol ar gyfer y graddau canlynol ac yn cwmpasu meysydd sgiliau allweddol a dadansoddi beirniadol yn y gwyddorau cymdeithasol. Yn ogystal, mae modiwlau penodol yn cynnwys
Cyflwyniad i Seicoleg, a Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Cymunedau ac Iechyd, a Throseddu a Throseddu.
Iechyd yr Amgylchedd:
Iechyd yr Amgylchedd tudalen 138 – BSc (Anrh)
Y Gyfraith, Troseddeg a Phlismona:
Troseddeg – BSc (Anrh) tudalen 174
Plismona Proffesiynol tudalen 176 – BA (Anrh)
Seicoleg:
Addysg, Seicoleg a tudalen 118
Anghenion Addysgol
Arbennig – BSc (Anrh)
Seicoleg – BSc (Anrh) tudalen 186
Seicoleg a Throseddeg tudalen 188 – BSc (Anrh)
Cymdeithaseg, Gwaith Cymdeithasol a Pholisi:
Iechyd a Gofal tudalen 192
Cymdeithasol – HND/BSc (Anrh)
Cymdeithaseg a Pholisi tudalen 196
Cymdeithasol – BSc (Anrh)
Gwaith Ieuenctid a tudalen 198
Chymuned – BA (Anrh)
Graddau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol ac â sydd ffocws ymarferol gydag opsiynau ar gyfer profiad gwaith a lleoliadau. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arbenigol yn Ysgol Reoli Caerdydd a meddalwedd ariannol, sy’n eich galluogi i gael profiad ymarferol wrth i chi ddysgu.
Cyrsiau
40 Cyfrifeg – BA (Anrh)
40 Cyfrifeg ac Economeg – BA (Anrh)
40 Cyfrifeg a Chyllid – BA (Anrh)
42 Bancio a Chyllid – BSc (Anrh)
44 Economeg – BSc (Anrh)
Cyrsiau Cysylltiedig
34 Sylfaen yn arwain at Gyfrifeg, Economeg a Chyllid
88 Busnes a Rheoli (Cyllid) – BA (Anrh)
Graddau cyfrifeg sydd wedi’u hachredu yn broffesiynol ac sy’n canolbwyntio ar yr ymarferol.
Graddau ar gael:
• Cyfrifeg – BA (Anrh)
• Cyfrifeg a Chyllid – BA (Anrh)
• Cyfrifeg ac Economeg – BA (Anrh)
Bydd ein graddau cyfrifeg achrededig proffesiynol yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i chi i bob maes cyfrifeg ac yn eich galluogi i lunio eich gradd er mwyn astudio’ch maes dewisol, p’un a yw hynny’n gyfrifeg fforensig, gwasanaethau ariannol, archwilio, trethiant, cyfrifyddu am gynaliadwyedd, adroddiadau ariannol neu gyfrifeg rheoli.
Beth bynnag rydych chi’n anelu ato ym myd cyfrifeg, bydd ein graddau yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus a chymwysterau pellach gydag eithriadau sylweddol ar gael gan ACCA, CIMA ac ICAEW.
Mae profiad gwaith yn chwarae rhan bwysig ym mhob cwrs sy’n eich galluogi i ennill profiad diwydiant yn y byd go iawn. Mae’r cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid a’r cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg ac Economeg yn eich galluogi i gwblhau profiad gwaith â chredyd neu brosiect gwirfoddoli yn eich ail flwyddyn. Gallwch hefyd ddewis ymgymryd ag opsiwn lleoliad blwyddyn o hyd ar bob un o’r tair gradd rhwng eich ail a’ch trydedd flwyddyn. Cynhaliwyd lleoliadau yn y gorffennol mewn sefydliadau fel Warner Bros., Procter & Gamble a Deloitte.
Mae gwaith cwrs yn ymarferol iawn ar y cyfan, ac yn aml mae’n gysylltiedig â materion cyfredol y byd go iawn, gan adlewyrchu’r sgiliau a’r technegau sy’n ofynnol gan weithiwr cyfrifyddu a chyllid proffesiynol. Mae asesiadau ar gyfer modiwlau ACCA achrededig yn cynnwys arholiad llyfr caeedig er mwyn bodloni gofynion eithrio.
“Erbyn diwedd fy ail flwyddyn, cefais gyfle gwych i ymweld â TP ICAP, cwmni brocer blaenllaw yng nghanol Llundain. Cawsom ein tywys o amgylch eu lloriau masnachu a buom yn siarad â’r masnachwyr am eu gwaith. Cawsom ein trin fel VIPs, a dysgodd pob un ohonom lawer am sut mae’r byd broceriaeth go iawn yn gweithio.”
Lijuan Chen
Cyfrifeg a Chyllid – BA (Anrh) a Chydymaith Cymorth Prosiect ar gyfer Deloitte
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
“Roedd astudio Cyfrifeg ym Met Caerdydd wedi arwain at fy swydd ddelfrydol fel Cyfrifydd Rheolaeth Ariannol y GIG. Mae’r darlithwyr nid yn unig yn dysgu deunydd i chi a all arwain at achrediadau ACCA, ond maent yn rhoi cipolwg i chi ar eu profiadau personol yn y diwydiant. Gall y wybodaeth yma eich helpu i lywio’ch ffordd mewn maes cyfrifeg a allai fod o ddiddordeb i chi ac mae cymaint o wahanol lwybrau gan fod angen cyfrifydd ar y rhan fwyaf o ddiwydiannau!”
Lauren ReillyCyfrifeg – BA (Anrh) a Cyfrifydd Rheoli Ariannol y GIG
Modiwlau nodweddiadol*
Bydd blwyddyn gyntaf eich gradd yn rhoi cyflwyniad i chi i gyfrifeg, cyllid, economeg a chynaliadwyedd.
Yn ystod eich ail a’ch trydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio’ch maes arbenigedd dewisol mewn mwy o fanylder.
Mae enghreifftiau o fodiwlau gorfodol yn cynnwys:
• Cyfrifeg Ariannol a Digidol
• Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
• Cyfrifeg Rheoli
• Rheolaeth Ariannol
• Cyfrifeg a Chyllid Cynaliadwy
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
• Fel myfyriwr graddedig Cyfrifeg bydd galw mawr amdanoch gan gyflogwyr yn y DU ac yn rhyngwladol.
• Mae cyn-raddedigion wedi cael lleoedd hyfforddi i raddedigion yn y pedwar cwmni cyfrifyddu mawr (Deloitte, PwC, EY, KPMG) a CThEM gyda llawer o rai eraill yn cael eu cyflogi gan gwmnïau cyfrifyddu llai.
• Gallwch hefyd ddilyn graddedigion llwyddiannus eraill yn y sector cyhoeddus, gwasanaethau ariannol a sefydliadau sector preifat mawr mewn gwahanol rolau fel dadansoddwyr cyllid ac ariannol.
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd llawn amser yn ddibynnol ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad:
Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Cwrs sy’n cyfuno trylwyredd academaidd, gwybodaeth arbenigol a sgiliau ariannol ymarferol.
Byddwch yn astudio cysyniadau allweddol bancio a chyllid mewn cyddestun ymarferol a damcaniaethol a bydd y cwrs yn rhoi dealltwriaeth i chi o effaith a phwysigrwydd ehangach y sector bancio o ran economi’r byd.
Bydd y cwrs yn eich arfogi â’r offer a’r galluoedd dadansoddol i nodi a datrys problemau cymhleth mewn ffordd ddeinamig a strategol. Yn ogystal, bydd yn darparu sgiliau trosglwyddadwy iawn i chi, yn ogystal â gwybodaeth ddofn o ystod o feddalwedd ariannol.
Bydd yr addysgu’n cynnwys darlithoedd a seminarau, a fydd yn cynnwys gwybodaeth academaidd a phrofiad ymarferol. Bydd y profiad ymarferol yn cynnwys defnyddio meddalwedd ariannol, megis Refinitiv, a fydd yn eich galluogi i weithredu penderfyniadau buddsoddi, masnachu a risg gyda hyder yn eich parodrwydd ar gyfer y gweithle ar ôl graddio.
Yn ogystal, ceir profiad yn y byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy brofiad gwaith gorfodol, yn ogystal â lleoliad blwyddyn ddewisol ac interniaethau diwydiannol.
Modiwlau nodweddiadol*
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cipolwg ar sut mae sefydliadau ariannol yn ffitio i economi’r byd, ynghyd â dulliau a thechnegau meintiol allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y diwydiant hwn. Bydd yr ail flwyddyn yn cynnwys ehangu eich gwybodaeth drwy astudio effaith gwahanol fathau o risg ar gwmnïau a gwledydd. Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn deall pwysigrwydd parhau i fod yn wybodus am faterion cyfoes yn y cyd-destun busnes ehangach drwy wneud ymchwil annibynnol. Mae’r modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
• Cyfrifeg Ariannol
• Bancio Arian a Risg
• Marchnadoedd Buddsoddi ac Egwyddorion
• Marchnadoedd Cyfalaf a Deilliadau
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
“Roedd y modiwlau ar y cwrs gradd
Bancio a Chyllid i gyd yn ddiddorol, ac yn bwysicaf oll, yn berthnasol i’r hyn oedd yn digwydd yn y byd. Gwnaeth y cymysgedd o ffyrdd rydych chi’n cael eich asesu argraff fawr arnaf – rhai modiwlau sy’n gofyn am draethodau, cyflwyniadau mewn eraill, a rhai yn defnyddio
taenlenni Excel neu bortffolios. I unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais i astudio
Bancio a Chyllid ym Met Caerdydd, allwn i ddim ei argymell ddigon, does dim byd mwy gwerth chweil na bod mewn man lle mae pawb eisiau dysgu ac ehangu eu gwybodaeth.”
Harry Simpson
Bancio a Chyllid – BSc (Anrh) a Chynorthwyydd Cyllid gyda Banc Datblygu Cymru
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y Cwrs: 3–5 mlynedd amser
llawn yn ddibynnol ar gymryd cwrs
sylfaen (gweler
tudalen 34) a/neu
leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Eich dyfodol
• Fe welwch amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa yn y sector bancio a chyllid, gan gynnwys y sector dadansoddi credyd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, dadansoddi risg, a chyfleoedd buddsoddi sefydliadol.
• Mae’r radd hon yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig.
Cwricwlwm blaengar i ddeall a mynd i’r afael â heriau’r byd sydd ohoni.
Rydym yn falch o fod wedi mabwysiadu CORE (Adnoddau Mynediad Agored y Cwricwlwm mewn Economeg), sy’n cynnwys datblygiadau diweddar mewn economeg a dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddatrys problemau i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf dybryd y byd.
Mae economegwyr yn archwilio problemau, yn nodi tueddiadau ac yn delio ag ansicrwydd ariannol. Byddwch yn archwilio sut mae pobl a busnesau yn buddsoddi ac yn dyrannu eu hadnoddau a byddwn yn eich arfogi â set o offer i’ch helpu i ddeall sut mae’r byd yn gweithio.
Cryfder ein Gradd Economeg yw’r pwyslais clir ar gymhwyso a dealltwriaeth feirniadol ac rydym yn gweithio’n agos gyda byd diwydiant, gan gynnwys Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth, i sicrhau bod ein cwricwlwm yn gydnaws ag anghenion y diwydiant.
Byddwch yn ennill profiad yn y byd go iawn ac yn datblygu eich cyflogadwyedd gyda lleoliad gwaith gorfodol fel rhan o’r ail flwyddyn. Mae myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau gwaith mewn sefydliadau fel Deloitte, Hargreaves Lansdown a’r GIG.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
“Mae Met Caerdydd wedi bod yn rhagorol o ran darparu cefnogaeth academaidd wrth hyrwyddo fy mreuddwyd athletaidd. I ddarpar fyfyrwyr sy’n ystyried gradd
Economeg ym Met Caerdydd, mae fy nghyngor yn syml: ewch amdani. Mae’r profiad prifysgol yn fwy na
chymhwyster academaidd. Mae’n daith o feithrin cysylltiadau, ehangu safbwyntiau, meithrin annibyniaeth, a chofleidio dysgu gydol oes.”
lestyn Harrett
Economeg – BSc (Anrh) myfyriwr a triathletwr proffesiynol
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Modiwlau nodweddiadol*
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Micro-economeg a macro-economeg
• Materion Cyfoes mewn Economi Wleidyddol Ryngwladol
• Economeg Ddiwydiannol
• Hanes Meddwl Economaidd
“Wrth ddeall pwysigrwydd profiad uniongyrchol, rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cael y cyfle i fod yn intern ddwywaith gydag arweinydd byd-eang mewn gwasanaethau proffesiynol: EY Bermuda. Yn ystod y ddwy interniaeth, cefais y cyfle amhrisiadwy i weithio o dan y ‘Llinell Gwasanaeth Ymgynghori’ yn ogystal â’r ‘Llinell Gwasanaeth Strategaeth a Thrafodion’ lle dw i wedi ymddiddori’n fawr ynddo.”
Marcus Scotland
Economeg – BSc (Anrh) myfyriwr a chwaraewr criced proffesiynol
Bydd yr opsiynau ym mlynyddoedd dau a thri yn eich galluogi i ddatblygu eich arbenigedd i fodloni’ch diddordebau penodol a’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa broffesiynol neu academaidd yn y dyfodol.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
• Mae ein gradd Economeg yn cynnig rhagolygon gyrfa rhagorol gydag economegwyr y mae galw mawr amdanynt yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus fel rheolwyr, ymchwilwyr, dadansoddwyr a strategwyr.
• Mae dilyniant i astudiaethau ôlraddedig yn Ysgol Reoli Caerdydd hefyd yn opsiwn.
Bydd ein graddau Celf, Dylunio a Phensaernïaeth yn eich arfogi â'r offer i newid ein byd er gwell. Byddwch yn un o’n graddedigion amlweddog a medrus iawn sy'n barod i ymuno ag arweinwyr, meddylwyr ac entrepreneuriaid y dyfodol.
Drwy weithio gydag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr eraill ar draws disgyblaethau, byddwch yn ehangu eich sgiliau, eich syniadau a'ch profiadau. Rydym yn annog eich datblygiad o fewn cyddestun cyfrifoldeb cymdeithasol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynwysoldeb a llesiant, ac i chwarae eich rhan wrth greu dyfodol cynaliadwy.
Gyda'n lleoliad yn y brifddinas, ein cyfleusterau pwrpasol gwerth miliynau o bunnoedd a chyfleoedd ar gyfer teithio’n rhyngwladol, Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yw'r lle delfrydol i barhau â'ch taith greadigol.
Ein cwricwlwm arloesol
Bydd ein cwricwlwm rhyngddisgyblaethol unigryw yn eich paratoi ar gyfer byw a gweithio yn yr 21ain ganrif. Fe'i cynlluniwyd i ehangu eich gorwelion, er mwyn meithrin meddylfryd cydweithredol, i ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth arloesol, ac i wneud newid ystyrlon mewn ystod eang o yrfaoedd creadigol.
Pwnc
Dyma eich arbenigedd; eich cartref yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Byddwch yn cael eich trochi yn arferion, hanesion a phrosesau creadigol eich dewis radd. Byddwch yn cael eich herio'n greadigol ac yn academaidd, wrth adeiladu ar eich sgiliau presennol drwy gymryd rhan mewn prosiectau ymarfer stiwdio, tiwtorialau a gweithdai sy'n berthnasol i'ch disgyblaeth.
Maes
Mae ein modiwlau maes rhyngddisgyblaethol wedi'u cynllunio i'ch helpu i nodi cyfleoedd i ddefnyddio eich ymarfer i lunio'r dyfodol. Byddwch yn cydweithio ar heriau'r byd go iawn gyda disgyblaethau eraill a chymunedau allanol, ac yn datblygu sgiliau cydweithio hanfodol.
Clwstwr ehangach
Mae'r modiwlau hyn yn eich cyflwyno i'r byd ehangach o syniadau, theori ac astudiaethau cyd-destunol o fewn, y tu allan, a thu hwnt i gelf a dylunio. Byddwch yn dysgu sut mae celf a dylunio yn cyfrannu at rwydwaith o leoliadau cymdeithasol, diwylliannol, moesegol, hanesyddol ac athronyddol cyfoes ac yn cael eu dylanwadu ganddynt.
Cyrsiau
Cyrsiau Cysylltiedig
150 Dylunio Ffasiwn – BA (Anrh)
*Yn amodol ar ddilysiad
Mae Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn gartref i ystod eang o weithdai, cyfleusterau technegol ac offer i'ch helpu i wireddu eich creadigrwydd – waeth pa ffurf.
Gan gyfuno technegau oesol gydag arloesi modern, mae ein gweithdai llawn offer wedi eu staffio gan arbenigwyr a fydd yn eich helpu i ddod yn ymarferydd creadigol cymwys a medrus gyda sgiliau amrywiol a deinamig.
Fe'ch anogir i archwilio pob gweithdy i sicrhau eich bod yn ymateb i'r her greadigol gyda'r deunyddiau mwyaf priodol ac arloesol.
Sganiwch yma i fynd am dro rhithwir o amgylch ein cyfleusterau
Clyweledol
Gantri goleuadau theatr a reolir yn electronig ar gyfer cynhyrchu fideo a pherfformio. Camerâu fideo, goleuadau, meicroffonau a recordwyr sain y gellir eu harchebu. Taflunwyr digidol, sgrîn sinema a system sain ac amrywiaeth o gyfleusterau animeiddio arbenigol.
Gwaith cerameg
Olwynion, odynau, plastr, gwaith enamel, clai a gwydro, odynnau mowldio gwydr. Mynediad allanol i odynau soda a chyfleusterau tanio Raku.
Cyfrifiadura, cyfryngau a thechnoleg TG, ystafelloedd MAC a CAD gydag ystod o feddalwedd arbenigol megis Adobe CC. Archwiliwch realiti estynedig, realiti rhithwir, cyfryngau rhyngweithiol, electroneg, mannau hacio, rhaglennu Arduino, ystafelloedd dylunio a rhyngwyneb Raspberry Pi.
Triniaeth ffabrig
Byrddau print, gwasg trosglwyddo gwres, argraffydd sychdarthiad, sgriniau cotio ac amlygiad, cabinet sychu, cyfarpar gwaith lliw, lliwiau naturiol a synthetig, stemiwr ffabrig diwydiannol.
FabLab
Cyfleusterau sganio ac argraffu 3D, electroneg, torwyr laser a pheiriant CNC fflat.
Metel
Ffowndri a gofod metel poeth, weldwyr mig a tig, torwyr plasma, drilio, plygu a melino offer, yn ogystal â chyfleuster ar gyfer gwaith metel ar raddfa fach fel gwaith enamel a gemwaith.
Ffotograffiaeth
Stiwdios llawn offer, ystafell dywyll ddigidol, ystafell dywyll ddu a gwyn ar gyfer cynhyrchu printiau gelatin arian RC a ffibr. Uned amlygiad golau dydd, cyfleusterau ar gyfer ffotograffiaeth amgen gan gynnwys ffotogramau, cyanoteipiau, argraffu halen, anthoteipiau a phrosesau golau hylif. Sganwyr fformat lluosog a chyfleusterau argraffu, ystafell golygu ddigidol, a mynediad i ystod eang o gamerâu ffilm a digidol.
Gwneud Printiau
Sgrîn-argraffu, intaglio, ysgythru, argraffu cerfwedd, gwneud papur, rhwymo llyfrau, cyfleusterau litho carreg a gwneud inc naturiol.
Modelu meddal
Argraffydd 3D stereolithographi
Formlabs safon diwydiant, argraffwyr 3D Ultimaker, torwyr laser, peiriannau melino mini-CNC.
Pwytho ac argraffu
Peiriannau gwnïo diwydiannol a heyrn, yn ogystal â pheiriannau over-locker, brodwyr digidol, a gwau ar gyfer gwau a gwehyddu. Offer argraffu digidol ac offer torri laser, a stondinau gwisg maint diwydiant gan gynnwys dynion, menywod, maint mwy, plant a mamolaeth.
Pren
Turnau pren diamedr mawr a bach, sandwyr drwm a disg, llif panel echel
X ac Y, llif gron, mowldiwr gwerthyd, llwybrydd cyflymder uchel, llif reiddiol, llif drawslifio, cylchlifau, driliau piler, peiriant morteisio, llif sgrolio a phlaeniwr wyneb / trwch.
Dod â straeon yn fyw; gwefreiddio cymeriadau a chynulleidfaoedd.
Bydd y radd hon yn rhoi’r sgiliau proffesiynol a’r profiadau gwerthfawr i chi i’ch paratoi ar gyfer gyrfa ym myd diwydiant. Byddwch yn archwilio technegau digidol ac analog traddodiadol ac arbrofol, yn ehangu eich gwybodaeth ac yn ymchwilio i gyd-destun hanesyddol, damcaniaethol a chymdeithasol eich pwnc. Byddwch yn meithrin llais ac arddull unigryw a phwerus, gan ddefnyddio ystod eang o ddeunyddiau a meddalwedd o safon diwydiant i fireinio a meistroli eich crefft.
Dan arweiniad tîm o academyddion sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, byddwch yn cael eich trochi yn y grefft o animeiddio trwy gwricwlwm cyfoethogi sy’n cynnwys briffiau byw, darlithoedd deinamig, tiwtorialau deniadol, seminarau sy’n ysgogi’r meddwl, a gweithdai ymarferol. Ar y cwrs hwn byddwch yn darganfod union sylfaen animeiddio dan arweiniad tîm o animeiddwyr proffesiynol a chynhyrchwyr medrus.
Mae ein hymrwymiad i’ch llwyddiant yn amlwg wrth i ni eich paratoi ar gyfer gofynion y diwydiant. Mae eich taith fel animeiddiwr ym Met Caerdydd yn ymestyn y tu hwnt i’r ffiniau confensiynol, gan gynnwys y grefft o sgriptio, cydweithio ag actorion llais a phypedwyr medrus, a chyffro prosiectau yn y byd go iawn a heriau cystadleuol, gan weithio gyda sefydliadau fel y GIG, Age Connects, y Ganolfan Entrepreneuriaeth, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gydag un prosiect o’r fath wedi ennill ‘Animeiddio Arbrofol Gorau’ yng Ngŵyl Ffilm Hollywood 2019.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Wrth raddio o’n rhaglen, byddwch yn cychwyn ar eich gyrfa fel animeiddiwr cyflawn a medrus, wedi’ch arfogi â phortffolio proffesiynol cymhellol. Byddwch yn darganfod amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys:
• Hanfodion animeiddio
• Iaith symud a thechnegau cynhyrchu animeiddio amrywiol
• Storifyrddio ac iaith ffilm ar gyfer animeiddio
• Bywluniad
• Adrodd straeon a chyfarwyddo
• Camera, goleuo a chyfansoddiad
• Dylunio cymeriad a dylunio’r byd
• Cyfarwyddo celf
• Cymeriadu ac actio ar gyfer animeiddio
• Cyfryngau cymysg ac animeiddio arbrofol
• Archwilio llwyfannau newydd, gemau, VR a gosod
• Technegau a phrosesau cynhyrchu traddodiadol a digidol; o ddatblygu syniadau i’w cyflawni
• Ymarfer proffesiynol a sgiliau busnes
“Ar y dechrau, animeiddiad stop-symud oedd yr hyn oedd gen i ddiddordeb ynddo’n bennaf, ond fe wnaeth y cwrs fy helpu i ehangu fy ngorwelion. Erbyn hyn dw i’n angerddol am animeiddio 2D, dylunio’r amgylchedd, yn ogystal â dylunio setiau”
Georgia Haywood Animeiddio – BA (Anrh)
Eich dyfodol
Byddwch yn cael cyfle i ennill profiad yn y diwydiant drwy amrywiaeth o sesiynau briffio byw, cyfleoedd interniaeth a lleoliad gwaith, dysgu cyflwyno i gleientiaid allanol, a byddwch yn gadael y cwrs fel animeiddiwr hyderus, sy’n meddwl yn feirniadol gyda’r sgiliau i fentro i fyd animeiddio proffesiynol. Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i fod yn animeiddwyr annibynnol yn y cyfryngau, yn gweithio mewn asiantaethau dylunio a hysbysebu, yn ogystal ag yn y diwydiannau ffilm, teledu a darlledu.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Sganiwch i wylio ffilm
graddedigion 2023
Datblygu arferion a dulliau a all gael effaith amgylcheddol gadarnhaol trwy ddylunio ac adeiladu adeiladau.
Gallwch gychwyn ar daith drawsnewidiol gyda’n rhaglen Dylunio Pensaernïol a Thechnoleg – gradd wedi’i hachredu’n broffesiynol. Bydd hynny’n eich helpu i archwilio gwaith cymhleth adeiladau ac yn eich arfogi â’r technegau a’r sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer eu hadeiladu.
Byddwch yn astudio cwricwlwm rhyngddisgyblaethol wedi’i gyfoethogi gan ddarlithoedd cyffrous, seminarau sy’n ysgogi’r meddwl, gweithdai ymarferol, ac amser stiwdio pwrpasol. Byddwch yn meithrin eich meddwl
creadigol, eich sgiliau dadansoddi, ac ysbryd cydweithredu. Byddwch yn dysgu pynciau craidd fel technoleg bensaernïol, deunyddiau adeiladu, a gwyddoniaeth bensaernïol, a byddwch yn harneisio pŵer Modelu Gwybodaeth Adeiladu a Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur.
“Mae astudio’r cwrs yn agor drysau i fyd lle gallwch chi ddylanwadu ar yr amgylchedd adeiledig. Mae’r cwrs
yn berffaith i bobl sy’n angerddol am ddylunio, creadigrwydd a chywirdeb.
Mae Met Caerdydd yn lle ardderchog i ddechrau eich gyrfa gan ei fod yn cynnig addysg ddamcaniaethol a thechnegol, gan roi’r cyfle i chi greu mannau arloesol ac ysbrydoledig.”
Laweeza Chaudhary
Dylunio a Thechnoleg Bensaernïol – BSc (Anrh)
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Bydd eich taith ym Met Caerdydd yn rhoi pecyn cymorth hyblyg i chi o gymwyseddau hanfodol, an gynnwys:
• Sgiliau lluniadu pensaernïol a chyflwyno
• Adeiladu dylunio, dehongli brîff a diwallu anghenion cleientiaid
• Technoleg adeiladu – sut mae adeiladau’n cael eu strwythuro a’u hadeiladu
• Deunyddiau a gorffeniadau adeiladu
• Rheolaethau cyfraith a rheoliadol sy’n ymwneud â dylunio adeiladau
• Ysgrifennu manyleb
• Manylion pensaernïol
• Cadwraeth ac adnewyddu adeiladau
• Gwyddoniaeth bensaernïol – gwresogi, oeri, awyru
• Arloesi a chynaliadwyedd
• Ymarfer proffesiynol a busnes ymarfer pensaernïol
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
• Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn, gan gynnwys gweithio gyda chymunedau lleol a chyflogwyr. Mae strwythur y cwrs yn rhoi cyfle amhrisiadwy i chi astudio gradd pedair blynedd, gan dreulio eich trydedd flwyddyn yn y diwydiant ei hun gyda lleoliad mewn practis pensaernïol. Mae graddedigion y rhaglen mewn sefyllfa dda i ymuno â phractis pensaernïol, gan weithio fel technolegwyr pensaernïol.
• Mae’r cwrs wedi’i achredu gan Sefydliad Siartredig Technolegwyr Pensaernïol (CIAT) a Chymdeithas Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE), gan alluogi graddedigion i symud ymlaen i fod yn aelodau siartredig llawn yn y proffesiwn amrywiol a chyffrous hwn. Byddwch yn cael cyfleoedd i ennill profiad yn y diwydiant a chyflwyno briffiau byw i gleientiaid allanol.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
(Llun: Elaeth James)
Dysgwch sut i ddylunio adeiladau a chreu lleoedd i bobl mewn ffordd greadigol ac amgylcheddol gyfrifol.
Mae pensaernïaeth yn siapio’r byd o’n cwmpas. Mae’n adlewyrchu ein cymdeithasau a’n cymunedau ac yn dylanwadu ar y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo. Mae pensaernïaeth yn hollbresennol ar ein gorwelion, yn trawsnewid ein dinasoedd, yn newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio, ac yn dod yn rhan o’n bywydau.
Mae’r cwrs gradd yma’n sefydlu deialog greadigol rhwng gwahanol feysydd o wybodaeth bensaernïol: dylunio, cynrychioli, technoleg, astudiaethau cyddestunol ac ymarfer proffesiynol.
Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o’r meysydd hyn ac yn dechrau dod o hyd i’ch llais fel pensaer. Byddwch yn llunio cynigion pensaernïol sydd wedi’u datrys yn ofodol ac yn dechnegol, gyda sail ddamcaniaethol gadarn, ac yn dysgu sut i gyfathrebu’ch cynigion yn effeithiol o fewn cyddestun proffesiynol.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Rydym yn rhoi pwyslais arbennig ar gyfrifoldeb y pensaer i fynd i’r afael â phroblemau cyfoes sy’n peri pryder amgylcheddol, ar raddfa fyd-eang ac ar raddfa leol (fel yr argyfwng hinsawdd).
Byddwch yn cael eich annog i ddatblygu safbwyntiau beirniadol ar sut y gellir defnyddio gwybodaeth a chreadigrwydd gyda’i gilydd i gyrraedd atebion dylunio sydd â’r potensial i wneud adeiladau, cymdogaethau a dinasoedd yn fwy cynaliadwy yn y tymor byr a’r tymor hir.
Mae’r radd wedi’i rhagnodi fel cymhwyster Rhan 1 gan yr ARB (Bwrdd Cofrestru Penseiri), y corff sy’n rheoleiddio proffesiwn y pensaer yn y DU. Ar ôl cwblhau’r radd hon yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich eithrio o Arholiad Rhagnodedig yr ARB yn Rhan 1, sef y cam cyntaf tuag at ddod yn bensaer cofrestredig.
“Roedd y cwrs Pensaernïaeth yn sefyll allan i mi oherwydd y potensial ar gyfer twf ac ehangu. Mae’r sgiliau dw i wedi’u datblygu wedi bod heb
eu hail, a dw i wedi graddio
gyda phortffolio proffesiynol
amrywiol ac yn barod i fentro i yrfa broffesiynol”
Elaeth James
Pensaernïaeth – BA (Anrh) a Chynorthwyydd Pensaernïol yn
Penseiri HLM
Diolch i brosiectau yn y byd go iawn, briffiau byw, profiad gwaith a lleoliadau, byddwch yn dod yn weithiwr graddedig ystwyth a galluog. Byddwch yn cwrdd â gweithwyr pensaernïol ac adeiladu proffesiynol trwy sgyrsiau a mentora yn y diwydiant, gan sicrhau bod gennych y sgiliau proffesiynol sy’n angenrheidiol i lwyddo.
Mae graddedigion y rhaglen mewn sefyllfa dda i ddilyn astudiaethau a hyfforddiant pellach tuag at gymhwyso fel penseiri neu gynorthwywyr neu yn y diwydiannau creadigol ehangach. Fel arfer, bydd graddedigion yn treulio blwyddyn neu ddwy yn gweithio fel Cynorthwywyr Pensaernïol Rhan 1, cyn dechrau ar raglen meistr.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y Cwrs: 3 blynedd llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120–128 o bwyntiau tariff UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
“Dw i’n credu bod gan benseiri rôl hanfodol i’w chwarae wrth symud tuag at ffordd fwy cynaliadwy o fyw ar y blaned a gwneud y defnydd gorau posibl o’i hadnoddau gwerthfawr. Bydd y cwrs gradd yma’n rhoi pwyslais arbennig ar sut y gellir defnyddio creadigrwydd i ddylunio
adeiladau cynaliadwy”
Fausto Sanna
Uwch Ddarlithydd mewn
Pensaernïaeth
Gwrthrychau crefft sy’n ymgorffori ysbryd ein byd.
Mae gwneuthurwyr yn artistiaid, dylunwyr, crefftwyr, arloeswyr, pobl greadigol, technolegwyr, a llawer o bethau eraill yn ogystal.
Yr hyn sy’n gwneud y cwrs hwn yn unigryw yw’r cyfuniad o sgiliau traddodiadol a thechnolegau blaengar, a’r gefnogaeth a gynigiwn ar gyfer ystod eang o ddulliau ar draws y sbectrwm celf a dylunio gan gynnwys crefftau dylunio, celf addurniadol a cherfluniau.
Byddwch yn trwytho eich hun ym maes deunyddiau, o fetelau, gwydr a cherameg i bren, tecstilau, a byd gwneuthuriad digidol. Byddwch yn pontio rhwng hen ddoethineb deunyddiau a’r technolegau diweddaraf, gan greu dulliau newydd a dyfeisgar o greu. Ochr yn ochr â’r sgiliau hyn byddwch yn eu datblygu, byddwch yn dysgu am gyd-destun a hanes arferion gwneuthuro.
Byddwch yn nodi lle mae eich gwaith wedi’i leoli o fewn paramedrau ehangach ymarfer creadigol; Ydych chi’n ddylunydd, yn artist, yn grefftwr neu’n gweithio ar draws nifer o ddisgyblaethau? Byddwch yn dysgu sut i ymchwilio a datblygu syniad yn ganlyniad materol wedi’i wireddu’n llawn, p’un a yw hwn yn gynnyrch swyddogaethol, arteffact addurniadol, gosodiad, neu waith celf mynegiannol.
Drwy gydol y radd, byddwch yn dysgu gan artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr proffesiynol sy’n ymarfer, yn rhannu eu brwdfrydedd a meithrin eu sgiliau. Mae’r cwrs wedi’i deilwra i ddatgelu dyfnderoedd gwneud, gan ddatgelu cyfleoedd i chi archwilio’r hyn rydych chi’n angerddol yn eu cylch a mireinio eich crefft.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae eich dysgu wedi’i gynllunio i gefnogi eich datblygiad tuag at ddod yn artist, dylunydd a meddyliwr cyflawn a galluog. Mae eich cwricwlwm wedi’i strwythuro gyda’ch potensial mewn golwg. Mae’r pwyslais a roddir ar eich moeseg gwaith, yn greadigol ac yn academaidd, yn cyd-fynd â ffocws sylweddol ar brofiad y byd go iawn; o gysylltiadau adeiladu ac ymgymryd â lleoliadau, i friffiau byw, arddangosfeydd a chefnogaeth i ffurfio eich busnes eich hun.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
“Mae’r cwrs Arlunydd Dylunydd: Gwneuthurwr ym Met Caerdydd wedi fy ngalluogi i archwilio ystod eclectig o brosesau technegol o fewn fy mhrofiad prifysgol, yn ogystal â’m cysylltu ag ymarferwyr eraill o’r un anian. Dan arweiniad briffiau modiwl clir a chyda chefnogaeth barhaus gan diwtoriaid ac arddangoswyr technegol, llwyddais i ddatblygu fy sgiliau i gyflawni safon uchel o waith yr wyf yn falch o’i arddangos.”
Zoe WortonArlunydd Dylunydd: Gwneuthurwr – BA (Anrh)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Teimlwch y byd drwy eich dwylo gan ymgysylltu â phŵer trawsnewidiol deunyddiau.
Mae clai yn cynnig gallu rhyfeddol ar gyfer creadigrwydd ac amrywiaeth o gyfleoedd. Mae'n un o'r ychydig ddeunyddiau sy'n gynhenid i fywydau pobl, gan gynnal ein hanghenion, cynnwys ein hatgofion, a chysylltu diwylliannau.
Bydd astudio Cerameg yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn eich helpu i ddod yn seramegydd medrus, sy'n gallu gweithio gyda'r deunyddiau hyblyg hwn. Byddwch yn archwilio dull sy'n canolbwyntio ar fodau dynol o wneud pethau, mapio deunyddiau daearyddolgymdeithasol a gallu cymdeithasol sgiliau.
Byddwch yn dysgu am darddiad ac alcemi, o brosesau traddodiadol hyd at dechnolegau newydd. Drwy weithio ochr yn ochr â mentrau lleol, orielau, marchnadoedd a chasgliadau byddwch yn nodi eich cryfderau, hunaniaeth a’ch cyfraniad chi eich hun fel seramegydd.
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn
o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Ein stiwdios a'n gweithdai fydd eich cartref drwy gydol y cwrs. Byddwch yn gweithio ar draws ystod eang o brosesau, gan archwilio potensial llawn cerameg ac ennill sgiliau uwch. Byddwch yn dysgu gan dîm o seramegwyr sy'n ymarfer ac yn cael cyfleoedd i brofi amrywiaeth o dechnegau a sgiliau gan gynnwys:
• Alcemeg – Cerameg a Gwyddor Deunydd, technoleg gwydredd, gan gwmpasu dadleuon daearyddol a chymdeithasol-hanesyddol
• Taflu – Technegau crochenwaith traddodiadol o offer domestig i ffurfiau cyfansawdd cerfluniol
• Modelu â llaw – Y ffurf ddynol mewn clai, o waith addurniadol a cherfluniol i waith cerfweddol cain
• Gwneud Mowldiau – Castio mewn mowldiau plastr, cymysg-gyfryngau (ffabrig / hylosg), mowldiau cyfansawdd, turnio
• Patrwm arwyneb – Technegau argraffu gan gynnwys trosglwyddiadau, argraffu sgrîn ac ar-wydredd
• Tanio – Trydan, nwy, raku, soda, saggar, adeiladu odynnau allanol i archwilio swyddogaeth a pherfformiad
• Gwneuthuriad digidol – Gan gynnwys meddalwedd dysgu a chymhwyso argraffu 3D, torri laser, modelu CNC
“Dw i wedi archwilio cymaint o dechnegau tanio, gwydredd a ffurfiau dw i wedi gallu eu cyfleu yn drylwyr sy’n mynegi fy natur fy hun. Mae’r tiwtoriaid wedi bod mor wych am fy helpu i feithrin fy hunaniaeth bersonol fy hun. Maen nhw wastad wedi annog fy archwiliadau creadigol. Dw i’n drist y bydd yn rhaid i mi ffarwelio â’r ystafell wydro gyflawn ar ryw adeg, yr odyn, yr odyn raku, a’r odynau trydan i gyd a’r holl olwynion –ac wrth gwrs y technegwyr a’r tiwtoriaid eithriadol o gefnogol.”
Ethan Powell Cerameg – BA (Anrh)
Eich dyfodol
Byddwch yn ymgysylltu â chyddestunau yn y byd go iawn ar friffiau byw, cystadlaethau creadigol a phrosiectau rhyngddisgyblaethol, ac yn cael eich annog i nodi ac adeiladu eich ymarfer annibynnol eich hun a gweithio tuag at eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan y radd Cerameg yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd enw da yn rhyngwladol am astudiaethau ôlraddedig a PhD mewn Cerameg. Ar ôl cwblhau eich astudiaethau israddedig, gallwch ddatblygu eich uchelgais academaidd a chreadigol ymhellach trwy'r llwybrau hyn.
*Mae'r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O'r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o'r radd hon yn Gymraeg
Dewis eich taith eich hun. Diffinio eich diddordebau, eich ymarfer, ac ymgolli mewn archwilio.
Mae’n cymryd gallu prin ac arbennig i ddod yn artist cain. Mae angen sgiliau technegol a mewnwelediad creadigol arnoch i gynhyrchu gwaith sy’n cyfleu persbectif gwreiddiol. Mae ein gradd BA Celfyddyd Gain yn rhoi’r lle, y rhyddid a’r gefnogaeth i chi fynegi eich gweledigaeth artistig yn llawn. Wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs, byddwch yn datblygu eich sgiliau technegol a chreadigol drwy waith archwilio ystod o ddeunyddiau a defnydd o gyfryngau.
Bydd eich gofod stiwdio eich hun ar gael i chi a byddwch yn gweithio gyda’r staff academaidd a thechnegol i ddiffinio a datblygu eich diddordebau. Byddwch yn gweithio ar draws disgyblaethau a galluoedd, gan gynnwys: Dysgu yn seiliedig ar ddeunydd a phrosesau, paentio, fideo, gwneud printiau, ffotograffiaeth, lluniadu, perfformiad, cerflunio, celf gyhoeddus, arferion cyfranogol a chynhwysol, gwaith coed, gwaith metel, cerameg, castio efydd, a gwnïo.
Drwy gyfuno archwilio deunydd, ymarfer ac athroniaeth, byddwch yn archwilio’r cysylltiadau cymhleth rhwng syniadau damcaniaethol a chysyniadol a bwriad artistig. Byddwch yn archwilio cyd-destunau rhyngddisgyblaethol amrywiol, yn ymgysylltu â theori feirniadol, ac yn dysgu eu cymhwyso yn eich gwaith. Byddwch yn uchelgeisiol, yn ddisgybledig ac yn llawn cymhelliant yn eich ymarfer a byddwch yn graddio gyda’r sgiliau, yr hyder a’r gallu beirniadol i barhau â’ch taith fel artist proffesiynol.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
“Mae astudio Celfyddyd Gain ym
Met Caerdydd wedi golygu popeth. Dw i wedi gallu cydweithio â
chyrsiau eraill yn yr ysgol gelf, sydd
wedi fy helpu i weld safbwyntiau
gwahanol a datblygu ffyrdd newydd
o weithio. Dw i wedi rhoi cynnig ar arddulliau, dulliau a thechnegau na fyddwn i wedi’u gwneud fel arall.”
Rhea Allwood
Celfyddyd Gain – BA (Anrh)
Mae cyfleoedd aml i ryngweithio â phartneriaid, orielau, artistiaid ac ymarferwyr creadigol allanol. Gallwch ddewis dysgu sut mae arferion proffesiynol yn gweithredu trwy leoliadau yn y diwydiant, ac archwilio beth sydd gan entrepreneuriaeth i’w gynnig i artistiaid cyfoes. Yn ogystal â dod yn artistiaid hunangyflogedig proffesiynol, gall ein graddedigion fynd ymlaen i sefydlu orielau, dod yn guraduron, gwneuthurwyr theatr/setiau, athrawon, dylunwyr ffasiwn, technegwyr neu ymgymryd ag astudiaeth bellach.
Byddwch yn treulio eich blwyddyn olaf yn cynhyrchu gwaith ar gyfer arddangosfa broffesiynol ac mae gennych gyfle i ddatblygu cynllun busnes. Mae dilyniant i astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil mewn Celfyddyd Gain yn opsiwn yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Siapio ymddygiad, llywio canfyddiad ac amharu ar naratifau.
Mae Cyfathrebu a Dylunio Graffeg yn gwneud cyfraniad hanfodol i'r diwylliannau materol a gweledol sydd o'n cwmpas. Mae’n rym anhepgor sy'n siapio ein byd, ac yn gatalydd ar gyfer newid cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol. Mae ganddo'r pŵer i ddatgan, perswadio, ac yn bwysicach – gofyn cwestiynau.
Ar y cwrs gradd yma byddwch yn archwilio tirwedd a rôl newidiol dylunio graffeg yng nghyd-destun yr 21ain ganrif, gan lywio heriau globaleiddio, cynwysoldeb a chynaliadwyedd. Byddwch yn ymgysylltu ag arferion stiwdio arloesol, yn cydweithio ar draws disgyblaethau amrywiol, yn ymchwilio'n ddwfn i fethodoleg a theori. Byddwch yn mynd i'r afael â heriau'r byd go iawn trwy friffiau byw gyda chleientiaid go iawn, ac yn cychwyn ar brosiectau dylunio hunangyfeiriedig i archwilio eich creadigrwydd.
Drwy gydol y cwrs byddwch yn archwilio pob math o ieithoedd gweledol ac yn arbrofi gyda chymaint o wahanol gyfryngau, deunyddiau a thechnolegau ag y gallwch, gan gynnwys:
• Teipograffeg
• Creu delweddau
• Naratif
• Datblygu cysyniad
• Dylunio llyfrau a golygyddol
• Brandio a strategaeth
• Dylunio cymdeithasol a gwasanaethau
• Rhyngwyneb defnyddiwr a phrofiad (UX / UI)
• Delwedd symudol
• Technolegau newydd
• Ymarfer dylunio proffesiynol Credwn fod yn rhaid i ddylunwyr
ymgorffori rolau beirniad, curadur, awdur, crefftwr, athronydd, cyfathrebwr, cydweithredwr, ac ysgogydd. Ein hymrwymiad yw meithrin eich taith tuag at ddod yn ddylunydd a meddyliwr galluog ac ystwyth, yn barod ar gyfer cydnabyddiaeth fyd-eang a chreu effaith yn rhyngwladol.
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Byddwch yn dysgu'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen arnoch i ddod yn hynod gyflogadwy. Byddwch yn adeiladu rhwydwaith o bobl yn y diwydiant dylunio – drwy siaradwyr gwadd, mentoriaid y diwydiant a briffiau byw gyda sefydliadau go iawn – bydd hynny'n amhrisiadwy i'ch llwybr gyrfa graddedig. Byddwch yn cael cyfleoedd i ddysgu o ddisgyblaethau eraill, i deithio, i gymryd rhan mewn ymchwil ac ymgymryd â lleoliadau gwaith.
Mae gan y cwrs berthynas ardderchog â chymunedau dylunio Cymru a Llundain yn ogystal â phartneriaid ymchwil a diwylliannol. Mae ein myfyrwyr wedi cael eu cydnabod o fewn briffiau cystadlaethau dylunio rhyngwladol, gan ennill gwobrau a chanmoliaeth gan Creative Conscience, D&AD, ISTD ac RSA.
Mae ein graddedigion mewn swyddi dylunio amlwg ledled y byd ac maent yn gyfrifol am allbwn dylunio graffig mewn amrywiaeth eang o gyddestunau diwylliannol, cymdeithasol, technolegol, gwleidyddol ac amgylcheddol fel Wolff Olins, Ragged Edge, Warner Brothers, DesignStudio,
UNED Studio, Y Bathdy Brenhinol, Cowshed, Brandio Clout, Golley Slater, Only Orca, Toward, Mr. President, Ustwo, Mytton Williams, Arobase Creative, Tiny Wizard ac Antler.
*Mae'r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O'r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o'r radd hon yn Gymraeg
“Dw i wedi cael tair blynedd orau fy mywyd yn astudio Dylunio Graffeg a Chyfathrebu yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd. Mae wedi gwella fy sgiliau dylunio, wedi rhoi hwb i’m hyder ac wedi fy ngwneud yn fwy ymwybodol yn gymdeithasol. Sicrheais fy swydd fel dylunydd diolch i fy arddangosfa blwyddyn olaf wrth astudio.”
Izzy Young
Cyfathrebu a Dylunio Graffeg
– BA (Anrh) a Dylunydd yn Storm+Shelter
Dod â naratifau, cysyniadau, cymeriadau ac amgylcheddau yn fyw.
Mae artistiaid gemau yn gweithio o fewn timau amlddisgyblaethol i greu bydoedd gweledigaethol o’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Maent yn gyfathrebwyr gweledol medrus, yn gweithio gyda delweddau symudol, animeiddio, celf gysyniadol, rheoli prosiectau a chreu delweddau i helpu i wireddu bydoedd ffuglennol yn brofiadau i ymgolli ynddynt yn weledol ac yn synhwyraidd.
Bydd ein gradd Celf Gemau yn eich paratoi ar gyfer maes cystadleuol iawn sy’n tyfu’n gyflym, sy’n rhychwantu’r diwydiannau adloniant, technoleg drochi, y we a’r cyfryngau. Byddwch yn gallu llywio ac arbenigo yn y cyd-destun amlddisgyblaethol amrywiol hwn drwy gyfuniad o gyfathrebu gweledol, delwedd symudol, effaith weledol, rhith-realiti, amgylcheddau trochi, adrodd straeon a naratif, a modelu 2D a 3D.
Byddwch yn datblygu sgiliau a chymwyseddau o safon y diwydiant drwy brosiectau cydweithredol a briffiau byw, gan ddatblygu eich sgiliau rheoli prosiect ac arwain. Gyda mynediad i’n cyfleusterau blaengar a stiwdios cyfrifiadurol llawn offer, technolegau ac amgylcheddau ymdrochol, byddwch yn graddio gyda’r rhyddid a’r hyder i greu eich hunaniaeth greadigol eich hun.
Byddwch yn archwilio profiadau dysgu cydweithredol a rhyngddisgyblaethol sydd wedi’u cynllunio i’ch siapio’n berson graddedig addasadwy sy’n cael ei yrru gan greadigrwydd, cyfrifoldeb cymdeithasol a meddwl entrepreneuraidd.
Byddwch yn barod i ymuno ag amrywiaeth o rolau amlddisgyblaethol yn amrywio o artist cysyniad, artist amgylcheddol, ymchwil a datblygu, cyffredinolwr 3D, modelydd, artist graffeg cynnig, neu artistiaid technegol a rhagarweiniol.
*Mae'r radd hon yn amodol ar ddilysiad. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Ailddychmygu, ailgynllunio ac ailddyfeisio gofodau’r dyfodol.
Mae Penseiri Mewnol yn siapio’r mannau rydym yn byw ynddynt, gan weithio i ddylunio amgylcheddau swyddogaethol, hygyrch, ysgogol a chynaliadwy. Wedi’ch gyrru gan ddull sy’n canolbwyntio ar bobl i ddylunio gofodau, byddwch yn gweithio i wella ansawdd, lles ac anghenion y rhai sy’n byw ac yn rhyngweithio ynddynt.
Mae’r rhaglen yn rhan o’r adran Pensaernïaeth ac Amgylcheddau Cynlluniedig, ac mae’n elwa o gydweithio parhaus gyda Phenseiri, Dylunwyr Mewnol a Thechnolegwyr Dylunio Pensaernïol. Mae Pensaernïaeth Fewnol yn elwa o ymchwil arloesol ac arferion cymhwysol mewn dylunio cynaliadwy a chynhwysol.
Byddwch yn canolbwyntio ar addasu, ailddefnyddio, ailfodelu ac ehangu lleoedd sy’n bodoli eisoes. Gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, byddwch yn archwilio dulliau o greu atebion dylunio parhaol a dros dro. Bydd cyfleusterau cynhwysfawr yn sicrhau eich bod yn datblygu iaith bensaernïol greadigol a thechnegol gyfoethog, yn amrywio o fraslunio i efelychiadau digidol trochi llawn data.
Bydd eich ymarfer yn y stiwdio yn cynnwys theori feirniadol, archwilio ac amrywiaeth o friffiau. Byddwch yn gweithio gyda’r diwydiant a’r sector ehangach i archwilio’r berthynas rhwng lleoedd a gofodau, a gwerthoedd y cymunedau sy’n eu defnyddio. Byddwch yn ymchwilio i’r defnydd cyfrifol a meddylgar o ddeunyddiau, strwythurau a gofodau, i gynnig atebion arloesol a soffistigedig i broblemau’r dyfodol. Fel rhan o’r radd hon, byddwch yn ymgymryd â phrofiadau dysgu rhyngddisgyblaethol sydd wedi’u cynllunio i’ch creu yn un o raddedigion addasadwy yr 21ain ganrif.
Ar ôl graddio, gallech ddilyn gyrfa fel Pensaer Mewnol gan greu profiadau grymus a chofiadwy yn y sector preswyl, masnachol, cyhoeddus neu breifat, megis mannau byw, bariau, bwytai, mannau arddangos, neu weithio o fewn dyfodol dylunio cynaliadwy. Mae opsiwn hefyd i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig pellach yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
*Mae’r radd hon yn amodol ar ddilysiad. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn
o’r modiwlau ac
opsiynau gyrfa
Datgloi syniadau ar gyfer deunydd darluniadol – o amrywiaeth o safbwyntiau.
Delweddau gweithredol yw darluniau; mae pwrpas iddyn nhw bob amser, gan wneud synnwyr o syniadau cymhleth. Fel darlunydd, byddwch yn gweithio i alluogi dealltwriaeth o’r bob dydd – o gyfoethogi llenyddiaeth a barddoniaeth, i ymateb i faterion cymdeithasol o wyddoniaeth a meddygaeth i wleidyddiaeth ac economeg. Yr her yw deall a defnyddio tueddiadau gweledol i ddehongli a datblygu eich dulliau unigryw eich hun wrth ystyried pŵer delweddau mewn byd gweledol tu hwnt.
Byddwch yn datblygu ymatebion dychmygus cyfoethog i adeiladu arfer unigryw sy’n cynnwys eich cynulleidfa. Gyda sgiliau craidd mewn darlunio a naratif byddwch yn archwilio ac yn arbrofi gyda deunyddiau, gan ddatblygu ystod o sgiliau technegol i ddod o hyd i’ch ieithoedd gweledol eich hun i fynd i’r afael â materion pwnc heriol. Drwy ein cwricwlwm unigryw, byddwch yn datblygu arfer a ddiffinir gan ei bwrpas, nid yn unig gan sut rydych chi’n gwneud eich gwaith, ond gan yr hyn y mae’r gwaith yn ei olygu, sut mae’n cyfathrebu a’i gyd-destun damcaniaethol a hanesyddol.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Byddwch yn profi eich darluniau mewn amrywiaeth o amgylcheddau a senarios – gan archwilio y tu hwnt i fyd uniongyrchol y darlunydd drwy, er enghraifft; animeiddio, ffilm, cyfryngau printiedig a digidol i gyd-destunoli a chyfleu eich disgyblaeth, gan gyfoethogi eich gwaith gyda gwell dealltwriaeth o’r amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo. Byddwch yn ymuno â’n Stiwdio Fertigol lle byddwch yn archwilio a datgelu’r ddisgyblaeth trwy sgyrsiau deinamig, dadleuon a chyflwyniadau, gan ddatgloi pŵer darlunio.
Mae darlunio’n ymestyn ei gyrhaeddiad yn gyson. Ar y cwrs hwn byddwch yn rhyngweithio â chleientiaid a chydweithwyr, yn awduro ac yn cyfarwyddo eich prosiectau arloesol eich hun, a byddwch yn graddio gyda chyfoeth o sgiliau hyblyg a throsglwyddadwy.
Mae ein hymrwymiad i brofiadau ymarferol, go iawn yn mynd y tu hwnt i theori. Rydym yn eich helpu i greu cysylltiadau amhrisiadwy, cymryd rhan mewn lleoliadau trochi, a ffynnu ar friffiau byw. I’r meddylwyr entrepreneuraidd hynny rydym yn darparu cymorth i’ch helpu i greu a siapio busnes.
Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i weithio fel darlunwyr llawrydd mewn cyd-destunau comisiwn ac awdurol, sefydlu eu busnes eu hunain neu ddilyn cyfleoedd eraill yn y diwydiannau creadigol. Mae astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd hefyd yn opsiwn.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
“Rydw i wedi dysgu ffyrdd newydd o arbrofi a newid sut rydw i’n defnyddio printio yn fy mhrosesau. Yn ystod fy astudiaethau, dw i wedi gweld newid yn fy iaith weledol sydd bellach yn cynnwys cyfryngau y tu allan i wneud printiau. Rydw i wedi gwthio ffiniau’r hyn roeddwn i’n ei ystyried yn arfer darlunio i mi”
Sam Darby Moorhouse Darlunio – BA (Anrh)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau er gwell, trwy ddylunio mewnol effeithiol.
Bydd eich astudiaethau’n canolbwyntio ar wrthrychau a’u perthnasoedd â gofod, yn ogystal â’r ffyrdd y maent yn creu profiad y defnyddiwr. Byddwch yn dysgu pwysigrwydd cynaliadwyedd a dylunio amgylcheddol gyfrifol; traddodiad a threftadaeth lle; estheteg a materoldeb; yn ogystal â’r effaith y mae dylunio yn ei chael ar brofiad a lles dynol.
Byddwn yn eich arfogi â dealltwriaeth feirniadol a chyfoes o ofod mewnol. Bydd y sgiliau hyn yn eich galluogi i ailfodelu’r gorffennol, creu’r presennol, a llywio’r dyfodol. Byddwch yn ymgymryd â phrosiectau cydweithredol sy’n cwmpasu amrywiaeth o gyddestunau, gwledydd a diwylliannau. Byddwch yn archwilio ac yn defnyddio ystod o dechnolegau, yn ymgysylltu’n feirniadol â briffiau byw a phryderon y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich hunaniaeth ddylunio eich hun. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfansoddi, delweddu ac efelychu amgylcheddau unigryw ac unigol, gan eich paratoi ar gyfer dyfodol ym myd diwydiant.
Bydd eich pynciau craidd o feddwl yn greadigol, darlunio, gwneud modelau, technegau dylunio stiwdio a thechnolegau CAD yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn hanfodion dylunio. Byddwch yn archwilio gwahanol dechnegau, syniadau ac ymagweddau mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys:
• Ailfodelu; cadw; adfer; adnewyddu safleoedd presennol
• Creu amgylcheddau sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr (byw; gwaith; gorffwys; chwarae)
• Dadansoddiad o ddiwylliant cleientiaid (iaith ddylunio; hwyliau; awyrgylch)
• Llunio strategaethau dylunio
• Creu lleoedd addas ar gyfer profiad
• Cynhyrchu gwybodaeth fanwl Tectonic
• Braslunio a llunio dyluniadau manwl
• Lluniadu technegol, gwneud modelau a delweddu CAD 2D a 3D
• Datblygu perthynas â chleientiaid, adeiladwyr ac arbenigwyr eraill
• Fframweithiau deddfwriaethol a rheoleiddio
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Byddwch yn ymchwilio i gymhlethdodau dylunio mewnol, gan gyfuno dyfeisgarwch creadigol, cywirdeb gwyddonol a’r meistrolaeth swyddogaethol sydd ei hangen i drawsnewid gofodau. Wrth i chi symud ymlaen trwy’r cwrs, byddwch yn ymgyfarwyddo â’r dirwedd o gyfyngiadau technegol, cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n wynebu dylunwyr mewnol.
“Mae astudio Dylunio Mewnol yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd wedi siapio’r ffordd dw i’n gweld gofodau, a’r ffordd dw i’n gweld sut rydym yn byw fel pobl.
Mae gan ein penderfyniadau dylunio
oblygiadau eang ar gyfer yr amgylchedd sy’n rhywbeth y mae’n rhaid i ni ei ddeall. Mae’n rhaid i ni wneud dewisiadau
cadarnhaol a chynaliadwy a gwthio am hynny”
David Houghton Dylunio Mewnol – BA (Anrh)
Eich dyfodol
Mae pwyslais cryf ar brofiad ymarferol, byd go iawn, sy’n cynnwys modiwlau a rennir gan adrannau, rhwydweithio ac adeiladu perthynas, interniaethau (lleoliadau), a’r potensial i gymryd rhan mewn prosiectau byw gyda chleientiaid.
Yn ystod eich blwyddyn olaf gallwch ddewis datblygu cynllun busnes a chael eich cefnogi i ffurfio eich busnes eich hun. Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i ymuno â chwmnïau dylunio mewnol, gweithio fel dylunwyr annibynnol, neu i ddilyn astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
*Mae'r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Gall eich gweledigaeth unigryw helpu i ailddiffinio’r ffordd rydyn ni’n gweld y byd o’n cwmpas.
Mae ffotograffiaeth yn iaith bwerus. Mae’n ein galluogi i gyfathrebu syniadau ac emosiynau cymhleth.
Mae’n dweud wrthym beth sy’n cael ei ystyried yn bwysig ac yn ein helpu i ddeall a chwestiynu’r gorffennol a’r presennol. Fel ffotograffydd beirniadol a chreadigol, gallwch gyfrannu at greu tirweddau gweledol y dyfodol.
Bydd y cwrs gradd yma yn datblygu eich dealltwriaeth o ddulliau technegol, creadigol a chysyniadol o ffotograffiaeth, gan dynnu ysbrydoliaeth o ddulliau artistig a golygyddol o greu delweddau ac arferion arbrofol sy’n seiliedig ar y lens. Byddwch yn dysgu gwerthuso’n feirniadol eich dulliau creadigol o arferion ffotograffig cyfoes, gan leoli’r rhain o fewn diwylliant gweledol ehangach. Byddwn yn eich annog i ddilyn eich diddordebau ffotograffig eich hun, meithrin ffordd unigryw o weld, a chreu portffolio deinamig o waith.
Byddwch yn datblygu hunaniaeth weledol unigryw a dealltwriaeth o’r ffyrdd y gellid cymhwyso eich arddull bersonol i amrywiaeth o gyddestunau o ffasiwn a chelfyddydau cain i hysbysebu a deunydd golygyddol. Byddwch yn meithrin sgiliau ffotograffiaeth ddigidol a ffilm broffesiynol ochr yn ochr â gwybodaeth am hanes ac ymarfer ffotograffig, gan gynnwys:
• Sgiliau gwneud delweddau analog a digidol
• Technegau goleuo stiwdio a lleoliad
• Genres ffotograffig
• Golygu a dilyniannu
• Iaith ffotograffiaeth
• Llif gwaith digidol ac ôl-gynhyrchu
• Datblygu portffolio
• Protocolau moesegol
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
• Cyd-destunau proffesiynol (gan gynnwys cyllidebu, prisio, hawlfraint, asiantaethau, ac ymwybyddiaeth o’r farchnad)
(Llun: Jean Chan)
Yn ystod y cwrs, byddwch yn meithrin cysylltiadau, lleoliadau cystadleuol ac yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant drwy sgyrsiau goleuedig a sesiynau mentora. Rydym yn falch o’n partneriaeth hirsefydlog gyda Ffotogallery, Asiantaeth Ffotograffiaeth Genedlaethol Cymru, sy’n agor y drysau i interniaethau â thâl a’r cyfle i arddangos eich doniau yn ystod eu gŵyl Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd.
Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i weithio fel ffotograffwyr llawrydd annibynnol, ymuno â chwmnïau cyfryngau a dylunio neu asiantaethau hysbysebu, gweithio ym maes marchnata cyfryngau cymdeithasol a rheoli digwyddiadau, neu’n cael eu cyflogi yn y diwydiannau celf a dylunio creadigol ehangach.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
“Mae’r prosiectau rhyngddisgyblaethol wedi helpu i efelychu sut olwg fydd ar fy ngyrfa fel ffotograffydd. Fe wnaethon nhw helpu mewn llu o ffyrdd, gan gynnwys meithrin fy hyder i gyflwyno cysyniadau
ac ennill profiad o’u cyflwyno mewn modd proffesiynol.”
Jean Chan Ffotograffiaeth – BA (Anrh)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Datblygu cynhyrchion sydd â’r potensial i newid bywydau.
Mae’r pethau yn ein bywydau, y gwrthrychau rydyn ni’n eu caru, yr offer rydyn ni’n eu defnyddio a’r offer rydyn ni’n dibynnu arnyn nhw oll yn dod o feddyliau gweledigaethol dylunwyr cynnyrch. Mae dylunydd cynnyrch yn gymaint o ddatryswr problemau creadigol ag y maent yn rhywun sy’n adnabod problemau. Maen nhw’n dehongli anghenion dynol mewn ymateb i heriau’r byd go iawn, gan saernïo arloesiadau cynaliadwy trwy brofion manwl er mwyn cynhyrchu atebion pendant sy’n barod i’w defnyddio.
Bydd ein gradd achrededig broffesiynol yn rhoi’r sgiliau y mae’r diwydiant sy’n symud yn gyflym yn eu disgwyl gennych. Byddwch yn archwilio syniadau dylunio arloesol, egwyddorion dylunio cynaliadwy, gwyddoniaeth a pheirianneg materol, prototeipio a gweithgynhyrchu cyflym, ac egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl.
Fel darparwr achrededig gyda’r Sefydliad Dylunwyr Peirianneg (IED) mae ein myfyrwyr yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth yn unol â’r gofynion a osodir gan ddiwydiant. Ar ôl graddio, bydd gennych y sgiliau sydd eu hangen i weithio i safon broffesiynol, yn ogystal â bod ag ymwybyddiaeth o faterion moesegol, amgylcheddol a chymdeithasol.
Llwybr BA
Byddwch yn canolbwyntio ar y sgiliau deallusol a chreadigol sydd eu hangen arnoch i ddatblygu gwrthrychau gyda phwrpas, harddwch a pherthnasedd cymdeithasol. Byddwch yn defnyddio dull o ddylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu defnyddio mewn grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd diwylliannol.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Llwybr BSc
Byddwch yn canolbwyntio ar ddylunio ar gyfer gweithgynhyrchu a chydosod –gan ganolbwyntio ar faterion technegol a pheirianneg. Byddwch yn datblygu eich sgiliau logistaidd a deallusol ac yn eu defnyddio i ddatrys problemau a datblygu cynhyrchion.
Bydd gennych ddefnydd llawn o’n cyfleusterau gweithdy helaeth a'n stiwdios dylunio arbenigol – lle byddwch yn meithrin dealltwriaeth ymarferol am amrywiaeth o ddeunyddiau ac yn datblygu sgiliau, gan gynnwys:
• Proses ddylunio: Methodolegau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr gan gynnwys meddwl dylunio a dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl
• Mewnwelediadau defnyddwyr: Ymchwil ethnograffeg, empathi fel offeryn dylunydd,
• profi gyda defnyddwyr
• Cysyniadu 2D a 3D: Braslunio, prototeipio cyflym, modelu â llaw
• Prototeipio: Arduino / electroneg, torri laser, peiriannu rhifiadol cyfrifiadurol (CNC), argraffu 3D, gwaith coed, pwytho, gwaith metel, cerameg
• Dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu: Meddalwedd CAD safonol y diwydiant, CAD / CAM, archwilio prosesau gweithgynhyrchu ac eiddo materol
• Technegau cyflwyno: Illustrator, Photoshop, InDesign, Keyshot
• Gwyddor Peirianneg (BSc): Nodweddion mecanyddol, peiriannau a mantais fecanyddol, systemau trosglwyddo pŵer, signal analog a digidol a’u prosesu, electroneg, rhaglennu cyfrifiadurol, systemau electrofecanyddol
Mae’r BA a’r BSc yn rhoi cyfleoedd hanfodol i chi brofi sut mae dylunio cynnyrch yn gweithio yn y byd go iawn. Byddwch yn cymryd rhan mewn briffiau byw, prosiectau rhyngddisgyblaethol, ac yn herio’ch creadigrwydd drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau.
Mae ein hymrwymiad i’ch twf a’ch llwyddiant yn ymestyn yn fyd-eang, gyda’r cyfle i gael lleoliadau gwerthfawr yn y diwydiant, prosiectau ymchwil a’r opsiwn i astudio dramor. Byddwn yn eich arfogi â set gynhwysfawr o brofiadau a sgiliau gan sicrhau eich parodrwydd ar gyfer byd deinamig dylunio cynnyrch.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i greu gyrfaoedd llwyddiannus mewn ystod eang o gyddestunau gyda Dyson, Panasonic, Jaguar Land Rover, Safran, DS Smith, Frontier Medical, Olympus Surgical, Haughton Designs, Bisley, Orangebox, y Bathdy Brenhinol, Kinner Dufort, PDR, Cyden, Principality a DVSA. Mae eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig gydag Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
“Dewisais astudio yma gan fod y cyfleusterau yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd heb eu hail. Mae ansawdd yr addysgu yn wych, ac yn ystod fy amser yma dw i wedi dysgu cyfoeth o sgiliau newydd. Nid yn unig sgiliau technegol a marchnata cynnyrch, ond sgiliau trosglwyddadwy fel rhoi
cyflwyniadau ac ymddygiad proffesiynol.”
Cam Shields
Dylunio Cynnyrch – BA (Anrh)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Cyfle i ddod yn wneuthurwr sy’n newid diwydiant, gan gyfuno technegau arloesol i greu cynhyrchion tecstilau unigryw a pharhaus ar gyfer y dyfodol.
Os ydych chi’n caru lliw, patrwm, lluniadu, gweadau, deunyddiau a gwneud, yna mae’r radd Dylunio Tecstilau ar eich cyfer chi. Byddwch yn datblygu’r sgiliau creadigol, proffesiynol ac ymchwil sydd eu hangen i ddod yn rhywun sy’n newid pethau ym myd diwydiant, gan gyfuno technegau a deunyddiau arloesol gyda rhagolwg dylunio cyfoes.
Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol trwy sesiynau stiwdio trochol a gweithdai ymarferol, gan gyfuno crefftau traddodiadol a thechnolegau digidol blaengar. Bydd tîm o ddylunwyr, technegwyr ac academyddion proffesiynol yn eich helpu i archwilio themâu allweddol mewn Dylunio Tecstilau megis arloesi, cynaliadwyedd, gweithgynhyrchu a diwylliant deunyddiau. Byddwch yn mireinio’ch dull o gynllunio prosesau dylunio cyfoes a byddwch yn barod ar gyfer y diwydiant tecstilau creadigol.
Bydd ein gweithdai helaeth yn eich galluogi i ddod â’ch dyluniadau yn fyw, lle byddwch yn dysgu cyfoeth o sgiliau technegol arbenigol gan gynnwys print, datblygu patrymau, brodwaith ac addurno, trin ffabrig a dulliau cyfryngau cymysg fel argraffu 3D, castio a thorri laser, prototeipio a gweithgynhyrchu cyflym, ac egwyddorion dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl.
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn
o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
“Yr hyn a’m denodd i ddechrau oedd y cyfle i archwilio technegau, dulliau a gweithdai sy’n gysylltiedig â chyrsiau eraill fel arfer. Mae stereoteip yn bodoli mai dim ond ffabrig a phatrwm yw dylunio tecstilau, ond dw i wedi cael y cyfle i archwilio metel, pren, cerameg, a llawer o ddeunyddiau, technegau a sgiliau eraill.”
Celyn Scourfield
Dylunio Tecstilau – BA (Anrh)
Mae ein cysylltiadau yn y diwydiant yn golygu y gallwn roi cyfle i chi ymgymryd â briffiau cleientiaid byw a chyfleoedd interniaeth, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae cleientiaid diweddar yn cynnwys Aston Martin, Stiwdio Daniel Heath a Trafnidiaeth Cymru. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arddangosfeydd graddedigion fel New Designers, gan eich cyflwyno i’r diwydiant yn gyffredinol.
Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio mewn ystod eang o rolau fel ymarferwyr yn Bay & Brown, Ling Design, Fairbairn & Wolf Studio, Rapture & Wright, IKEA, Tu Clothing, Phase 8, WGSN, John Lewis, Design Group ac UK Greetings.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–120 o bwyntiau UCAS ynghyd â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o'r radd hon yn Gymraeg
Mae ein labordai addysgu gwyddor biofeddygol yn fawr ac yn fodern, gyda digonedd o offer, sy’n eich galluogi i ddatblygu cymwyseddau allweddol sy’n cyd-fynd â gofynion achredu.
Byddwch yn ymgymryd ag ymarferion hanfodol mewn meysydd disgyblaeth graidd sy’n cynnwys microbioleg ac imiwnoleg, gwyddorau gwaed a chellog, bioleg foleciwlaidd, a geneteg, drwy gydol eich rhaglen astudio.
Mae sgrîn cyfryngau a gosodiad sain yn galluogi ymgysylltiad rhyngweithiol rhwng myfyrwyr a staff.
Cyrsiau
78 Gwyddor Biofeddygol – BSc (Anrh)
80 Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg) – BSc (Anrh)
82 Gwyddor Gofal Iechyd – BSc (Anrh)*
Cyrsiau Cysylltiedig
32 Sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd
*Wedi’i ariannu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG gyda hyfforddiant yn seiliedig ar waith wedi’i ymgorffori drwy gydol y rhaglen mewn labordai achrededig y GIG.
Wedi’i hachredu yn broffesiynol gan y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol a’r Gymdeithas Frenhinol Bioleg, mae’r cwrs gradd yma wedi’i gynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau gwyddonol i ymchwiliad amlddisgyblaethol clefydau ac anhwylderau dynol, megis diabetes, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd. Bydd sesiynau labordy ac addysgu yn rhoi’r wybodaeth wyddonol a’r sgiliau technegol hanfodol i chi a fydd yn eich paratoi ar gyfer blynyddoedd dau a thri.
Bydd ein gradd Gwyddor Biofeddygol yn eich galluogi i ddod o hyd i waith mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddoniaeth fforensig, fferylliaeth, iechyd a diogelwch, masnach ac addysgu. Yn ogystal, mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau uwch, gan gynnwys graddau meddygaeth a deintyddiaeth mynediad i raddedigion, a chymwysterau proffesiynol pellach.
Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol at ddiben bodloni’r gofyniad academaidd a phrofiad yn rhannol ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill dealltwriaeth o ffisioleg ddynol, biocemeg, bioleg celloedd, geneteg, microbioleg ac imiwnoleg.
Mae Gwyddor Biofeddygol a Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg) yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gallwch benderfynu pa radd i’w dilyn o flwyddyn dau ymlaen. Gall modiwlau o flwyddyn dau a thri gynnwys:
• Gwyddorau Gwaed a Chelloedd
• Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg
• Dadansoddiad Biofolecwlar
• Pynciau Cyfoes Gwyddor Biofeddygol
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
“Mae gradd Gwyddor Biofeddygol Met Caerdydd wedi bod yn ddylanwadwr allweddol wrth lunio fy nhaith fel myfyriwr Cydymaith Meddygol, gan roi sgiliau hanfodol i mi a Eich dyfodol gwybodaeth sy’n berthnasol i’m cyfrifoldebau bob dydd”
Ambrose Roberts
Gwyddor Biofeddygol – BSc (Anrh) Myfyriwr
Cydymaith Meddygol
“Mae’r radd wedi’i hachredu
ddwywaith, yn enwedig gan y Sefydliad Gwyddoniaeth
Biofeddygol (IBMS), sy’n golygu byddaf yn graddio
gyda’r wybodaeth a’r sgiliau cywir i weithio ym maes
Gwyddor Biofeddygol, ac roedd yn ymdrin â’r modiwlau
dw i wedi bod â chymaint o ddiddordeb ynddynt erioed.”
Claudia Luthra
Gwyddor Biofeddygol – BSc (Anrh)
Eich dyfodol
• Bydd graddedigion Gwyddorau Biofeddygol yn barod ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd; mae rhai yn dod yn Wyddonwyr Biofeddygol ac mae eraill yn chwilio am waith mewn labordai patholeg, labordai ymchwil, y diwydiant bwyd, gwyddoniaeth fforensig, fferyllol, iechyd a diogelwch, masnach neu addysgu.
• Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau uwch ym Met Caerdydd, yn ogystal â graddau meddygaeth a deintyddiaeth i raddedigion, hyfforddiant Cydymaith Meddygol, hyfforddiant Gwyddonydd
Thema bwysig drwy gydol y cwrs fydd ystyried yr effaith y mae ffordd o fyw yn ei chael ar iechyd. Byddwch yn dysgu sut y gall newidiadau priodol i ffordd o fyw, fel ymarfer corff a diet iach, fod yn effeithiol wrth atal clefydau fel diabetes, clefyd y galon a strôc, o safbwynt cenedlaethol a byd-eang.
Rhoddir pwyslais ar y rôl y mae ymarfer corff, hybu iechyd a maeth yn cyfrannu at hyn. Fe’ch cyflwynir i themâu sylfaenol maeth dynol, anatomeg a ffisioleg, ffisioleg ymarfer corff clinigol a lles seicolegol, gwyddorau gwaed a modiwlau craidd gwyddoniaeth biofeddygol allweddol eraill ac ymateb y corff i ymarfer corff (gan gynnwys gallu ymarfer corff i ennyn buddion iechyd trwy ei effaith ar ddatblygiad corfforol a meddyliol y corff).
Mae’r llwybr wedi’i achredu gan y Gymdeithas Bioleg Frenhinol at ddiben bodloni’r gofyniad academaidd a phrofiad yn rhannol ar gyfer Aelodaeth a Biolegydd Siartredig (CBiol).
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill dealltwriaeth o ffisioleg ddynol, biocemeg, bioleg celloedd, geneteg, microbioleg ac imiwnoleg. Mae Gwyddor Biofeddygol a Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) yn rhannu blwyddyn gyntaf gyffredin. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn gyntaf yn llwyddiannus, gallwch benderfynu pa radd i’w dilyn o flwyddyn dau ymlaen. Gall modiwlau o flwyddyn dau a thri gynnwys:
• Gwyddorau Gwaed a Chelloedd
• Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg
• Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg
• Ffisioleg Ymarfer Corff Clinigol a Lles Ffisiolegol
• Maeth mewn Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Meddygaeth Chwaraeon
Mae ein hystafell asesu iechyd yn cynnwys asesiad ffisiolegol dynol gwirfoddolwyr sy’n defnyddio amrywiaeth eang o dechnegau.
Mae rhai o’r technegau hyn yn cynnwys mesuriadau pwysedd gwaed, mesuriadau anystwythder prifwythiennol gan ddefnyddio tonometreg applanation, ocsimetreg curiad, mesuriadau uwchsain gan gynnwys asesu llif y gwaed i’r ymennydd, spirometreg, profi ymarfer corff, a chymryd a dadansoddi gwaed gwythiennol a chapilari.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
“Dyma’r radd berffaith i’r rhai sy’n gwybod pa faes o wyddoniaeth gofal iechyd yr hoffent ei astudio ond sydd hefyd eisiau cadw eu hopsiynau gyrfa yn eang. Roedd ehangder y radd yn agwedd a apeliodd ataf, gan fod y radd yn cynnig cyfle i astudio gwyddor biofeddygol o amrywiaeth o safbwyntiau.”
Toby Bray
BSc (Anrh) Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth)
• Bydd graddedigion Gwyddorau
Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maetheg) yn gallu gweithio yn y sectorau iechyd a ffitrwydd gan gynnwys y diwydiant Chwaraeon a Hamdden, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cynghorau Chwaraeon
Cenedlaethol, Cyrff Rheoli Chwaraeon
Cenedlaethol, Hyrwyddo Iechyd a Chynllun Atgyfeirio Ymarfer Cenedlaethol Cymru.
• Mae llawer o’n graddedigion wedi mynd ymlaen i astudio ar gyfer graddau uwch yn Ysgol Gwyddorau
Chwaraeon ac Iechyd Caerdydd Met Caerdydd, yn ogystal â graddau meddygaeth a deintyddiaeth
mynediad graddedigion, hyfforddiant
Cyswllt Meddyg, hyfforddiant
Gwyddonydd Clinigol, ffisiotherapi a chymhwyster proffesiynol pellach.
Gwybodaeth
bellach, rhestr lawn o’r modiwlau
Mae ffioedd dysgu ar gyfer mynediad 2025 yn cael eu talu’n llawn gan fwrsariaeth y GIG
Mae manylion llawn am fwrsariaethau a dyraniad y GIG ar gyfer mynediad 2025 i’w gweld yn: www.metcaerdydd. ac.uk/nhsbursaries
Mae Gwyddor Gofal Iechyd yn ddisgyblaeth ddeinamig sy’n esblygu’n barhaus sy’n gofyn am unigolion sydd wedi’u hyfforddi i lefel uchel i berfformio amrywiaeth o dechnegau labordy sy’n cyfrannu at ofal a lles cyffredinol cleifion.
Mae’r radd hon sydd wedi’i hachredu yn broffesiynol wedi’i chynllunio’n benodol i’ch galluogi i ddatblygu, integreiddio a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau gwyddonol i’r ymchwiliad amlddisgyblaethol i iechyd a chlefydau dynol. Gydag elfennau o hyfforddiant yn seiliedig ar waith wedi’u hymgorffori ym mhob blwyddyn o’r radd, mae wedi’i theilwra’n ofalus i baratoi graddedigion ar gyfer gyrfa yn y GIG.
Mae gan ein Hyb Iechyd Clinigol Perthynol newydd addysg ryngbroffesiynol ddilys wrth ei gwraidd. Mae’n ofod pwrpasol sy’n caniatáu i ystod o broffesiynau iechyd ddod at ei gilydd i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr mewn amgylchedd efelychu uwch-dechnoleg, ac un sy’n cynnig gwasanaethau clinigol dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer y gymuned leol.
Mae’r cyfuniad o ddulliau efelychu arloesol o addysgu a dysgu ochr yn ochr â gweithio mewn cyfleusterau clinigol go iawn ar ffurf cleifion allanol mewn timau amlddisgyblaethol, yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr arwain y sector i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr cymwys a all gynnig y gofal gorau i’w cleifion.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd llawn amser yn ddibynnol ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad:
Cynnig nodweddiadol: 112–120 o bwyntiau UCAS
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
Modiwlau nodweddiadol*
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ymdrin â biocemeg sylfaenol, bioleg celloedd a geneteg, microbioleg, imiwnoleg a ffisioleg ddynol. Byddwch yn datblygu sgiliau dadansoddol, cyfathrebu a phroffesiynol perthnasol ac yn ymgymryd â lleoliad dysgu seiliedig ar waith tair wythnos mewn labordy clinigol achrededig y GIG.
Yn ystod yr ail flwyddyn astudio, byddwch yn arbenigo mewn un o’r disgyblaethau canlynol: Gwyddorau Gwaed, Gwyddorau Cellog, Gwyddorau Genetig neu Wyddorau Heintiau. Mae’r modiwlau nodweddiadol yn yr ail flwyddyn yn cynnwys:
• Gwyddorau Gwaed a Chelloedd
• Haint ac Imiwnedd
• Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg
• Ffisioleg, Ffarmacoleg a Thocsicoleg
• Arfer Proffesiynol
• Dulliau Dadansoddol, Ymchwil a Diagnostig
Mae’r lleoliad clinigol yn yr ail flwyddyn yn rhedeg dros yr haf ac i’r flwyddyn academaidd olaf, lle byddwch yn parhau i fod ar leoliad ac yn cwblhau eich astudiaethau academaidd trwy ddysgu o bell gyda chefnogaeth lawn popeth sydd gan y Brifysgol i’w chynnig.
• Mae’r radd wedi’i chysylltu’n agos â gofynion cynllunio’r gweithlu ar gyfer GIG Cymru, ac felly’n cynnig lefel uwch o gyflogadwyedd.
• Bydd graddedigion llwyddiannus yn gymwys i wneud cais i gofrestru fel Gwyddonydd Biofeddygol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) yn syth ar ôl graddio.
• Gan fod ffioedd dysgu’n cael eu hariannu’n llawn ar gyfer y rhaglen hon, ochr yn ochr â bwrsariaeth prawf modd, mae disgwyl y byddwch yn ymrwymo i weithio yn GIG Cymru fel Gwyddonydd Biofeddygol am o leiaf ddwy flynedd ar ôl graddio.
“Rwy’n gweithio ar sail ‘Cylchdro’ sy’n golygu fy mod yn gweithio mewn amrywiaeth o labordai yng
Ngwasanaeth Gwaed Cymru sydd wedi bod yn ffordd wych o ddysgu am gydgysylltedd y Gwasanaeth, yn enwedig sut mae’r gwahanol elfennau, gyda’i gilydd, yn darparu gofal diogel i roddwyr a darpariaeth gwaed cleifion.
Fy hoff agwedd o fod yn Wyddonydd
Biofeddygol yw’r cyfle i gwrdd â gwahanol bobl a gweithio gyda nhw.”
Lowri Kadelka-Williams
Gwyddor Gofal Iechyd – BSc (Anrh) a Gwyddonydd
Biofeddygol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru
Mae ein graddau Busnes, Rheoli a Marchnata sy’n berthnasol yn broffesiynol wedi’u cynllunio ar y cyd â diwydiant, arbenigwyr academaidd a chyrff achrededig, fel y gallwch fod yn hyderus bod eich dysgu yn unol ag anghenion diwydiant ac y bydd eich gradd yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant gyrfaol.
Cyrsiau
“Mae Ysgol Reoli Caerdydd yn gymysgedd o weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant ac addysgwyr angerddol, sy’n gwneud dysgu’n ymarferol ac yn llawn gwybodaeth. Mae ffocws ar ddysgu drwy brofiad i sicrhau eich bod yn ennill sgiliau perthnasol a chyfredol.”
Muskaan Ali
Cysylltiadau Cyhoeddus a Rheoli Marchnata – BA (Anrh)
86 Rheoli Hedfan – BA (Anrh)
88 Busnes a Rheoli – BA (Anrh) gyda llwybrau
arbenigol mewn:
• Entrepreneuriaeth
• Cyllid
• Rheoli Adnoddau Dynol
• Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Rheoli Logisteg
• Marchnata
90 Systemau Gwybodaeth Busnes – BSc (Anrh)
Marchnata Digidol – BA
Cyrsiau Cysylltiedig 34 Sylfaen yn arwain at BSc (Anrh) Systemau
Gwybodaeth Busnes
Wedi’i ddatblygu gyda’r diwydiant i helpu eich gyrfa ‘esgyn fry’ yn y sector hedfan.
Dechreuwch eich taith i ddod yn rheolwr arbenigol yn y diwydiant hedfan byd-eang. Mae’r cwrs gradd Rheoli Hedfan yn gymhwyster hedfan pwrpasol, a gyflwynir ar y cyd â Phrifysgol Awyrennol Embry-Riddle – Worldwide a Maes Awyr Caerdydd, a fydd yn eich cyflwyno i wahanol agweddau ar y diwydiant hedfan. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o bob agwedd ar gyfraith hedfan, rheoli strategol awyrennau, rheoli gweithrediadau maes awyr a materion dynol sy’n ymwneud â hedfan.
Bwriad y radd hon yw sicrhau y byddwch yn derbyn hyfforddiant ac addysg o’r radd flaenaf yn y theorïau a’r systemau rheoli hedfan diweddaraf i ddod yn arbenigwr rheoli hedfan arloesol a medrus iawn gyda’r cyfuniad priodol o wybodaeth academaidd a sgiliau ymarferol i ddiwallu anghenion y diwydiant ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Mae ein perthynas agos â Maes Awyr Caerdydd yn ychwanegu at natur ymarferol y cwrs gradd a byddwch yn dod i gysylltiad â meysydd busnes a gweithredol ar draws y maes awyr drwy gydol eich astudiaethau.
Bydd profiad gwaith gorfodol yn eich ail flwyddyn, a’r flwyddyn ddewisol mewn diwydiant, yn eich galluogi i gymhwyso theori yn ymarferol ac yn rhoi cyfle i chi ddangos eich sgiliau, eich gwybodaeth a’ch doniau i gyflogwyr yn y dyfodol o fewn y sector. Byddwch yn elwa o ymweliadau â meysydd awyr a chwmnïau hedfan, yn ogystal â darlithoedd gwadd gan reolwyr profiadol yn y diwydiant hedfan, i ddarparu gwell golwg ar fyd ymarferol Rheoli yn y diwydiant Awyrennau.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
“Does
dim cyfle gwell i unrhyw fyfyriwr gael y cyfle i weithio ym Maes Awyr
Caerdydd a phrofi’r rolau o ddydd i ddydd. Gallwch ddeall a gwerthfawrogi’r hyn rydych newydd ei ddysgu yn eich
darlithoedd a’i roi ar waith.”
Stacey Andrews
Rheolwr Lolfa Maes Awyr Caerdydd
Byddwch yn astudio ystod eang o feysydd pwnc rheoli yn y diwydiant awyrennau, a ddarperir gan Ysgol Reoli Caerdydd. (80 credyd y flwyddyn) a Phrifysgol Awyrennol Embry-Riddle – Worldwide (40 credyd y flwyddyn).
Mae’r modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Arferion Busnes Moesegol a Chynaliadwy
• Cymwysiadau yn y Gyfraith Awyrofod / Hedfan
• Rheoli yn y diwydiant Awyrennau
• Byddwch wedi’ch paratoi’n dda ar gyfer amrywiaeth o swyddi yn y diwydiant hedfan fel: Rheolwr
Gweithrediadau a Chynhyrchu, Rheolwr Logisteg a Rheolwr Cyffredinol gyda chyfrifoldeb eang dros bob agwedd ar reoli awyrennau.
• Os ydych yn dymuno mynd ymlaen i astudio ymhellach, mae’r cwrs yn darparu mynediad i ystod eang o raddau meistr a addysgir a graddau meistr ymchwil yn y Brifysgol lle gall graddedigion symud ymlaen i naill ai radd MA, MSc neu MRes.
Creu arweinwyr busnes a rheolwyr y dyfodol; agor cyfleoedd ar draws diwydiannau a sectorau.
Bydd y cwrs gradd boblogaidd yma yn rhoi addysg fusnes o ansawdd uchel a pherthnasol yn broffesiynol i chi, ac fe’i cynlluniwyd i greu rheolwyr ac arweinwyr busnes y dyfodol. Byddwch yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, yr hyder a’r gwytnwch i lwyddo yn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector yn unol â’ch dyheadau gyrfaol mewn sefydliadau, neu fel entrepreneur sy’n creu eich busnes eich hun.
Llwybrau sydd ar gael:
• Entrepreneuriaeth
• Cyllid
• Rheoli Adnoddau Dynol
• Cadwyn Gyflenwi Ryngwladol a Rheoli Logisteg
• Marchnata
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae’r cwrs gradd yn caniatáu hyblygrwydd sylweddol i sicrhau eich bod yn cael eich arwain yn academaidd yn eich dewis i raddio gyda gradd Busnes a Rheoli – BA (Anrh), neu radd Busnes a Rheoli – BA (Anrh) gydag un o’r llwybrau a enwir sydd ar gael.
Byddwch yn ennill profiad gwerthfawr yn y byd go iawn drwy ddilyn modiwl lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn a bydd gennych yr opsiwn i gwblhau blwyddyn interniaeth rhwng blwyddyn dau a’r flwyddyn olaf. Mae lleoliadau’r gorffennol wedi cynnwys Deloitte, Admiral a Chanolfan Cydnerthedd Seiber Cymru. A byddwch yn elwa o’n cysylltiadau helaeth â’r diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd gan arbenigwyr busnes, teithiau maes a’r cyfle i gwblhau prosiectau trawsnewid busnes.
Mae cyfleoedd i astudio dramor, am dymor neu flwyddyn gyfan, hefyd yn cael eu cefnogi’n llawn ar y cwrs gradd yma.
Mae strwythur y cwrs yn datblygu o flwyddyn gyntaf orfodol, sy’n cynnwys chwe modiwl, i ddau fodiwl gorfodol yn unig yn y flwyddyn astudio olaf. Bydd hyn yn eich galluogi i gyfeirio eich diddordebau i lwybr arbenigol neu gyfres benodol o fodiwlau opsiynol, gan sicrhau eich bod yn derbyn dealltwriaeth gadarn a gwerthfawrogiad o fusnes a rheolaeth.
“Cymerais i flwyddyn allan mewn diwydiant yn gweithio i Deloitte. Roedd yn brofiad gwych wrth ddysgu llawer o sgiliau meddal sydd wedi cyfrannu at fy nhwf personol. Dw i’n credu y dylid trin lleoliadau diwydiannol yr un mor ddifrifol ag unrhyw rôl i raddedigion a gallant fod hyd yn oed yn fwy arwyddocaol! Maen nhw’n eich galluogi chi i greu cysylltiadau, yn eich helpu i dyfu’n bersonol ac yn broffesiynol ac ennill mwy o ddealltwriaeth o’r byd gwaith”
Kush Shine
Busnes a Rheoli – BA (Anrh) ac MSc Rheoli Adnoddau Dynol
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o’r radd hon yn Gymraeg
• Byddwch yn dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth mewn ystod eang o sefydliadau, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i Lloyds Bank, y GIG, BAE Systems, Leicester Rugby, Heddlu Gwent a Deloitte.
• Mae dilyniant i astudiaethau ôlraddedig arbenigol yn y Brifysgol hefyd ar gael.
“Y brif fantais i mi o astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yw bod y darlithoedd a’r seminarau yn fwy personol felly mae’n haws gofyn
cwestiynau ac i gael cymorth gan ein darlithwyr.”
Cai Williams
Busnes a Rheoli (Marchnata) – BA (Anrh)
Datblygu sgiliau system wybodaeth i fynd i’r afael ag anghenion busnes y byd go iawn a chreu mantais gystadleuol i fenter yn y DU a’r economi ddigidol fyd-eang.
Mae’r radd hon sydd wedi’i hachredu yn broffesiynol wedi’i chynllunio i ddatblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch arbenigedd wrth ddatblygu a chymhwyso systemau cymdeithasoldechnegol i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o arwyddocâd technoleg gwybodaeth a chyfrifiadura mewn cymdeithas.
Byddwch yn profi damcaniaethau, technolegau ac ymchwil arloesol sy’n gysylltiedig â’r diwydiant er mwyn ennill sylfaen gadarn yn agweddau damcaniaethol ac ymarferol gwybodaeth, technoleg a systemau a gymhwysir mewn amgylcheddau busnes modern. Mae graddedigion wedi’u hyfforddi i ddarparu mewnwelediad technolegol, cyfeiriad strategol ac ymgynghori wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion digidol menter a diwydiant.
Byddwch yn datblygu eich sgiliau rhaglennu sylfaenol, dylunio systemau gwybodaeth a dadansoddi data ac yn symud ymlaen i gymhwyso’r sgiliau hyn i gymwysiadau ar y we. Byddwch yn ehangu eich gwybodaeth a’ch set sgiliau drwy archwilio dyluniad systemau gwybodaeth ar gyfer busnes digidol, rheoli data a gwybodaeth, amlgyfrwng a rhyngweithio, rheolaeth strategol, seiberddiogelwch a deallusrwydd busnes.
“Roedd gan y cwrs ystod eang o fodiwlau diddorol – rheoli prosiectau technoleg, dadansoddi busnes a deallusrwydd, busnes digidol, a seiberddiogelwch i enwi ond ychydig. Llwyddais i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd technoleg gwybodaeth a chyfrifiadura mewn cymdeithas. Dw i bellach wedi graddio gydag anrhydedd dosbarth 1af ac wedi sicrhau rôl fel Swyddog Gweithredol Systemau Busnes.”
Sherin Moncy
Systemau Gwybodaeth Busnes – BSc (Anrh) Swyddog Gweithredol Systemau Busnes yn Pinnacle Response
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae BSc (Anrh) Systemau Gwybodaeth Busnes yn rhaglen a addysgir yn yr
Ysgol Dechnolegau. Gweler tudalen 98 am wybodaeth am y cyfleusterau.
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Hanfodion Systemau Gwybodaeth
• Busnes Digidol
• Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
• Technoleg a Chymdeithas
• Meddwl Cyfrifiadurol
• Y Gyfraith a Diogelwch Digidol
• Dadansoddeg Busnes a Deallusrwydd
• Technoleg Broffesiynol, Gynaliadwy a Moesegol
Bydd amrywiaeth o fodiwlau craidd ac opsiwn ar gael wrth i chi symud ymlaen drwy ail a thrydedd flwyddyn y radd.
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn drwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol neu interniaeth ddiwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau sy’n gystadleuol yn genedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
• Gall graddedigion weithredu fel datblygwyr meddalwedd gyda dealltwriaeth o bwysigrwydd hanfodol systemau gwybodaeth busnes i fasnach fyd-eang.
• Bydd cyfleoedd gyrfa ar gael ar draws y sector TG a thelathrebu traddodiadol, diwydiannau digidol/ creadigol, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, ymgynghoriaeth rheoli ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach.
• Wedi’i achredu’n broffesiynol gan BCS, y Sefydliad Siartredig TG, sy’n golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
Gradd achrededig wedi’i chynllunio i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer y dirwedd farchnata ddigidol ddeinamig.
Mae’r radd hon mewn Rheoli
Marchnata Digidol wedi’i hachredu gan, a’i datblygu ar y cyd â’r Sefydliad Marchnata Digidol (DMI) ac anghenion y diwydiant marchnata digidol. Bydd yn eich arfogi ag ystod eang o wybodaeth a thechnegau marchnata digidol arbenigol, gan eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Yn ystod eich amser gyda ni, byddwch yn datblygu dealltwriaeth hanfodol o ymddygiad prynu cwsmeriaid digidol a dealltwriaeth fanwl o’r damcaniaethau, tueddiadau a’r technegau diweddaraf wrth ddefnyddio dadansoddeg ddigidol ar draws y we ac yn symudol. Byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o farchnata digidol ar raddfa fyd-eang.
Mae gan y radd bwyslais cryf ar adeiladu eich cyflogadwyedd, ac i sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol amhrisiadwy byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn ac yn cael yr opsiwn i ymgymryd â lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant. Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr academaidd ac ymarferwyr profiadol. Mae rhwydwaith myfyrwyr y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) weithredol ar gael sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau gan ddatblygu eich sgiliau ymarferol ymhellach.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o’r modiwlau ac opsiynau gyrfa
Digidol Met Caerdydd yn cynnig modiwl marchnata dylanwadwyr sydd mor berthnasol i’r diwydiant presennol. Yn ystod fy nghwrs, cefais leoliad gwaith mis o hyd fel Cydlynydd Marchnata
Dylanwadwyr. Dw i bellach yn llysgennad brand ac yn creu cynnwys cysylltiedig ar gyfer llawer o frandiau cyffrous! Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n gorffen prifysgol fel dylanwadwr ac rydw i’n llawn cyffro i weld ble mae’r trywydd gwaith yma yn mynd â mi a sut bydda i’n parhau i dyfu yn y gymuned.”
Beth Fry
Rheoli Marchnata; BA (Anrh) a Dylanwadwr Cyfryngau Cymdeithasol
• Byddwch yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa ym maes marchnata digidol;
• gan feithrin y sgiliau ar gyfer swydd mewn rheoli cyfrifon SEO, rheoli chwilio a chyfryngau cymdeithasol, datblygu creadigol digidol a chyfathrebu marchnata ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau yn y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol.
• Mae’r radd hon hefyd yn rhoi mynediad i ystod eang o raddau meistr ac ymchwil a addysgir yn y Brifysgol.
Byddwch yn gallu dewis o blith nifer o fodiwlau dewisol yn eich ail flwyddyn a’ch blwyddyn olaf i deilwra eich dysgu gyda’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfaol mewn golwg. Mae’r modiwlau craidd nodweddiadol yn cynnwys:
• Cyfathrebu Marchnata Digidol Creadigol
• Dadansoddeg Ddigidol
• Ymddygiad Defnyddwyr Digidol
• Marchnata Chwilio
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o'r radd hon yn Gymraeg
• Marchnata Dylanwadwyr
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Graddau achrededig wedi’u datblygu i ddiwallu anghenion y diwydiant.
Wedi’u datblygu ar y cyd â chyrff proffesiynol a diwydiant, bydd ein graddau Marchnata arbenigol mewn Hysbysebu, Brand, Digidol, Cysylltiadau Cyhoeddus a Gwerthu yn eich galluogi i ennill y wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y diwydiant marchnata creadigol sy’n esblygu’n barhaus.
Mae ein graddau Rheoli Marchnata wedi ennill statws ‘Gradd Achrededig’ CIM – mae’r achrediad hwn yn rhoi cyfle i chi sicrhau eithriadau o gymwysterau Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol a Diploma mewn Marchnata Proffesiynol.
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr academaidd, ymarferwyr profiadol a siaradwyr gwadd o fyd diwydiant. Mae rhwydwaith myfyrwyr y Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) ar gael sy’n rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau.
“Mae rheoli marchnata yn gwrs mor amrywiol a diddorol a fydd yn eich galluogi i gael rhyddid creadigol. O ganlyniad i’m profiad gwaith fel Cynorthwyydd Marchnata gyda busnes bach yng
Nghymru, rwyf wedi ennill gwybodaeth sydd wedi fy helpu i sicrhau’r blociau adeiladu i ddechrau fy ngyrfa.”
Rose Turton Rheoli Marchnata – BA (Anrh)
Graddau ar gael:
• Rheoli Hysbysebu a Marchnata
– BA (Anrh)
• Rheoli Brand a Marchnata
– BA (Anrh)
• Rheoli Marchnata – BA (Anrh)**
• Rheoli Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus – BA (Anrh)
• Rheoli Gwerthu a Marchnata – BA (Anrh)
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
Mae pwyslais cryf ar gyflogadwyedd ar draws ein portffolio o gyrsiau gradd marchnata ac i sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol amhrisiadwy byddwch yn ymgymryd â lleoliad gwaith gorfodol yn yr ail flwyddyn ac yn cael yr opsiwn i ymgymryd â lleoliad blwyddyn o hyd mewn diwydiant.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau cyffredin ar draws pob gradd marchnata. Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio cymwysiadau meddalwedd safonol y diwydiant o fewn y modiwl Cyfryngau Digidol i Farchnatwyr, wrth ymgymryd â modiwlau ychwanegol sy’n gysylltiedig â’ch pwnc arbenigol. Ym mlwyddyn dau, byddwch yn parhau i ganolbwyntio ar fodiwlau craidd sy’n gysylltiedig ag Ymddygiad Defnyddwyr, Cyfathrebu Marchnata Creadigol a Dulliau Ymchwil Marchnata, ochr yn ochr â modiwlau craidd mwy penodol sy’n gysylltiedig â’ch gradd ddewisol. Mae amrywiaeth o opsiynau sy’n ymdrin â meysydd fel Marchnata Chwilio, Marchnata Symudol a Chyfryngau Cymdeithasol, yn ogystal â Marchnata Chwaraeon, Digwyddiadau a Nawdd ar gael hefyd.
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn yn dibynnu ar gymryd cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd ar gael i astudio rhan o'r radd hon yn Gymraeg
Yn eich blwyddyn olaf, mae pwyslais ar feysydd mwy strategol y pwnc o’ch dewis a meysydd marchnata eraill gan gynnwys Marchnata Rhyngwladol a Byd-eang a Rheoli Cyfrifon ar gyfer Marchnatwyr. Byddwch hefyd yn gallu dewis o blith nifer o fodiwlau dewisol.
• Mae cyn-raddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau fel Dubarry of Ireland, Confused.com a Gü; asiantaethau creadigol sy’n rheoli ymgyrchoedd hysbysebu ledled y DU, rheolwyr brand ar gyfer brandiau cartref, rolau fel rheolwyr cyfrifon mewn asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus a mwy, gydag eraill yn cychwyn eu busnesau eu hunain.
• Mae’r graddau hyn yn cynnig mynediad i ystod eang o raddau meistr a addysgir ac ymchwil yn y Brifysgol lle gallwch symud ymlaen i naill ai gradd MA, MSc neu MRes.
*Mae’r radd hon yn cael ei hadolygu’n gyfnodol yn 2024. O’r herwydd, gall modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan i gael y wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Mae ein labordai a’n cyfleusterau arbenigol wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer ein myfyrwyr Technolegau ac maent yn darparu mannau modern a hyblyg ar gyfer gweithio, dysgu a chymdeithasu.
Wedi’u cynllunio i hwyluso hyfforddiant ymarferol, mae ein labordai o’r radd flaenaf yn ymdrin â phob agwedd ar dechnoleg – o raglennu gemau a thynnu gwybodaeth o ddata gan ddefnyddio AI, i brofion diogelwch a rhaglennu a datblygu rheolwyr ar gyfer Rhyngrwyd Pethau (IoT).
Byddwch yn gallu cydweithio yn ein mannau dysgu agored hyblyg a chael profiad gyda senarios tebyg i ddiwydiant mewn amgylchedd cadarnhaol.
Labordy Diogelwch Cyfrifiadurol
Mae ein Labordy Diogelwch Seiber Cisco cyflawn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu offer a thechnegau o safon y diwydiant ac ennill profiad ymarferol mewn rhwydweithio, profi treiddio, profi diogelwch ac IoT.
Gwyddor Data a Labordy AI
Mae ein Labordy Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial yn helpu myfyrwyr i fireinio eu sgiliau ymarferol gyda pheiriannau ac offer o’r radd flaenaf sy’n gallu cynnal delweddiadau data cymhleth a dysgu peirianyddol.
Dysgwch fwy am y cyfleusterau trwy sganio’r cod QR
Lab Gemau
Mae gan ein Lab Gemau yr offer a’r technolegau diweddaraf yn y diwydiant i gefnogi myfyrwyr gyda chipio symudiad, VR / AR, ac i ddarparu mynediad at becynnau datblygu symudol a chonsol gan Microsoft, Sony a Nintendo er enghraifft, gan eich galluogi i weithio ar brosiectau gêm wedi’u targedu at wahanol lwyfannau caledwedd.
Mannau Realiti Rhithwir
Mae ein bythau VR wedi’u cynllunio i chi archwilio VR o fewn gofod pwrpasol, gan ymgolli yn y byd rhithwir gan ddefnyddio ein clustffonau VR newydd sbon, sgrîn werdd a thechnolegau eraill i’ch cefnogi ar eich taith drwy’r byd rydych chi’n ei greu.
Labordai Addysgu
Mae ystod o labordai addysgu pwrpasol yn cefnogi dysgu ac addysgu ar draws y portffolio llawn o gyrsiau gradd.
Wedi’i llywio gan anghenion y diwydiant, bydd y cwrs gradd yma yn eich galluogi i ddeall, cymhwyso a gwerthuso’n feirniadol egwyddorion gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.
Mae data a gynhyrchir gan bobl a pheiriannau yn trawsnewid ein cymdeithas, ein heconomeg a’n gwleidyddiaeth. Ni fu’r gallu i ennyn dealltwriaeth, gwybodaeth a deallusrwydd ystyrlon o ddata cymhleth erioed yn bwysicach. Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau y mae galw amdanynt i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau o safon y diwydiant i fynd i’r afael â phroblemau’r byd go iawn. Mae hyn yn cwmpasu amrywiaeth o sectorau fel gofal iechyd, cyllid, manwerthu ac e-fasnach, cludiant a logisteg, ynni a chyfleustodau, marchnata cyfryngau cymdeithasol a gwyddorau amgylcheddol.
Mae ystod eang o sefydliadau’r diwydiant a llywodraeth wedi gweithio’n agos wrth ddatblygu’r radd hon, gan greu senarios ac asesiadau heriol yn seiliedig ar achosion go iawn ar gyfer eich amgylchedd dysgu.
Gan eich paratoi i ddiwallu anghenion y diwydiant, mae’r cwricwlwm yn cwmpasu technoleg Blockchain – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Bydd gennych yr opsiwn i archwilio cyfleoedd profiad gwaith ac ehangu eich persbectif rhyngwladol drwy gyfnewidfeydd myfyrwyr ac interniaethau gyda nifer o bartneriaid Ewropeaidd a rhyngwladol.
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd, sy’n cynnwys:
• Dadansoddi Data
• Delweddu Data ac Adrodd Storïau
• Gramadeg ac Idiomau Delweddu Data
• Dadansoddeg Busnes a Deallusrwydd
• Hanfodion Blockchain
• Rheoli Data a Gwybodaeth
Bydd opsiynau yn y flwyddyn olaf yn eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
“Fel darlithydd mewn Cyfrifiadureg a Chyfarwyddwr Rhaglen BSc
Cyfrifiadureg a Gwyddor Data ym Met Caerdydd, fy nod yw cael cyfuniad da o ymchwil a phrofiad ymarferol ar gyfer fy mhynciau. Fy meysydd ymchwil allweddol yw fframweithiau Technoleg Dosbarthedig Rhestrau (DLT), diogelwch, preifatrwydd ac agweddau anghyfnewidiol ar DLTs a Blockchains.”
Dr Ali ShahaabCyfarwyddwr Rhaglen Cyfrifiadureg a Data
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
Eich dyfodol
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol/interniaeth ddiwydiannol.
• Bydd gan raddedigion y sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i ddeall, cymhwyso a gwerthuso’n feirniadol egwyddorion gwyddor data sylfaenol. Yn ogystal, bydd graddedigion hefyd yn meddu ar y sgiliau i ddylunio a defnyddio systemau gwyddor data a defnyddio offer a thechnegau safonol y diwydiant wrth eu gweithredu.
• Mae galw am Wyddonwyr Data Cymwysedig, gyda chyflogau da iawn ar gael ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Archwilio a datblygu eich syniadau gêm eich hun.
Mae’r cwrs gradd yma yn cwmpasu’r technegau a ddefnyddir i greu gemau cyfrifiadurol, gan gynnwys y theori a’r ymarfer perthnasol o beirianneg gyfrifiadurol a meddalwedd. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o sut mae gemau’n cael eu dylunio a’u datblygu, yn ogystal â’r wybodaeth a’r sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu datblygu yn eich gyrfa wrth i dechnoleg gemau ddatblygu.
Bydd gennych fynediad i’r offer a’r technolegau diweddaraf a ddefnyddir yn y diwydiant gan gynnwys pecynnau datblygu consol Microsoft, Sony a Nintendo ynghyd ag offer VR o Oculus, HTC a Valve yn ogystal â mynediad i’n bythau datblygu VR sy’n darparu profiad dysgu gwirioneddol unigryw.
Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth ac yn dysgu ystod eang o sgiliau trwy weithio ar nifer o brosiectau gêm wedi’u targedu at wahanol lwyfannau caledwedd. Mae hyn yn cynnwys sut mae gemau yn cael eu cynllunio a’u gweithredu, sut mae peiriannau gêm yn gweithio, mecaneg gêm, AI, datblygu gemau symudol ac ar gyfer aml-chwaraewyr.
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
Byddwch hefyd yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol, gan ddefnyddio iaith C ++ yn bennaf. Mae hyn yn caniatáu i chi ddeall sut mae hanfodion gêm yn gweithio ac yn rhoi’r hyblygrwydd i chi wireddu eich syniadau dylunio gemau eich hun.
“Mae pob agwedd ar y cwrs yn heriol ac yn foddhaus. Rydych chi nid yn unig yn dysgu am ddylunio gemau ar y cwrs, ond hefyd yn magu dealltwriaeth sylfaenol o wybodaeth TG hanfodol a’i chymwysiadau. Dw i wedi mynd o deimlo fel y gallwn i prin ysgrifennu cod pan ddechreuais i’r cwrs, i nawr lle dw i’n creu peiriannau gemau a gemau bron bob mis.”
Mike Havard
Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol – BSc (Anrh)
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 o bwyntiau UCAS
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol, gydag ystod o opsiynau a fydd yn eich galluogi i arbenigo mewn Peiriannau Gemau, Chwarae Gemau neu Realiti Rhithwir
Mae’r modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Hanfodion Systemau Gêm
• Egwyddorion Rhaglennu:
• Dylunio a Gweithredu Mecaneg Gêm
• Cyflwyniad i Arferion y Diwydiant Gemau
• Graffeg Cyfrifiadur Amser Real
• Datblygu Peiriant Gêm
• Dylunio Lefelau a Chreu Asedau Gêm
• Bydd y radd hon yn eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn gyrfa mewn datblygu gemau neu yn y diwydiant TG ehangach. Mae graddedigion wedi cael eu cyflogi yn y sector gemau, er enghraifft Cloud Imperium, Ubisoft, PlayEmber a sectorau eraill, er enghraifft DTM Global a CGI.
• Mae cysylltiadau cryf â diwydiant yn golygu y gellir cael profiad yn y byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth trwy leoliadau dewisol ac interniaethau.
Wedi’i ddylunio mewn ymgynghoriad â diwydiant, bydd ein gradd Cyfrifiadureg achrededig broffesiynol yn eich arfogi â gwybodaeth gref o gysyniadau allweddol cyfrifiadura, meddalwedd a systemau.
Gan greu cysylltiadau rhwng theori ac ymarfer, mae’r cwrs yn ymdrin â sylfeini damcaniaethol cadarn a chysyniadau allweddol ym maes meddwl cyfrifiadurol, pensaernïaeth gyfrifiadurol a’u systemau gweithredu, dysgu peirianyddol, systemau wedi’u hymgorffori a mwy. Ond mae cyfrifiadureg yn faes ymarferol iawn, ac mae’r cwrs hwn yn cynnig digon o gyfleoedd i ennill profiad prosiect ymarferol.
Byddwch yn gweithio mewn labordai o safon y diwydiant, yn cymryd rhan mewn ymarferion ymarferol yn amrywio o raglennu cyfrifiadurol a datblygu meddalwedd i weithio gyda dyfeisiau IoT ac unedau roboteg adeiladu a rhaglennu.
Gyda chyfleoedd ychwanegol i ymuno â’n canolfannau ymchwil a’n labordai fel intern israddedig, byddwch yn gallu ennill profiad o safon y diwydiant ac arferion gorau wrth weithio ar dechnolegau arloesol.
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
“Mae Met Caerdydd yn rhoi pwyslais cryf ar ddysgu ymarferol, a dw i wedi cael y cyfle i weithio ar brosiectau’r byd go iawn sy’n cwmpasu pynciau fel algorithmau, strwythurau data, dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial. Fe wnaeth hyn fy helpu i gael swydd anhygoel ar ôl graddio fel Dadansoddwr
Cydymffurfio â Thrwyddedau mewn cwmni cyfreithiol!”
Omaima Ayzah
Cyfrifiadureg – BSc (Anrh) a Dadansoddwr
Cydymffurfio â Thrwyddedau yn CJCH Solicitors
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Egwyddorion Rhaglennu
• Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
• Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
• Cyfrifiadura Corfforol
• Dylunio System sy’n Canolbwyntio ar Wrthrych
• Seiberddiogelwch a Chryptograffeg
Bydd ehangu opsiynau ym mlwyddyn dau a thri yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd fel Deallusrwydd
Artiffisial, Roboteg a’r Rhyngrwyd Pethau.
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn drwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol neu interniaeth ddiwydiannol. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein myfyrwyr wedi llwyddo i gael lleoliadau mewn cynlluniau sy’n gystadleuol yn genedlaethol gyda Microsoft, HP, General Electric a’r Swyddfa Dywydd.
• Mae llwybrau arbenigol mewn Deallusrwydd
Artiffisial, Roboteg a’r Rhyngrwyd Pethau yn ehangu eich opsiynau gyrfa a byddwch mewn sefyllfa dda i lenwi bylchau pwysig ym marchnad swyddi’r sector technoleg sy’n tyfu ar ôl i chi raddio.
• Wedi’i achredu’n broffesiynol gan BCS, y Sefydliad Siartredig TG, sy’n golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
“Yn ystod fy astudiaethau cefais y cyfle i wneud interniaeth fel peiriannydd meddalwedd yn
Techno Brain Microsoft. O fewn mis a hanner dysgais sut i osod pecynnau meddalwedd, profi cymwysiadau a dadansoddi canlyniadau. Fe wnes i hyd yn oed ddechrau codio yn fy amser rhydd!”
Nirav Challa
Cyfrifiadureg – BSc (Anrh)
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
Bydd y radd hon sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol* yn archwilio’r technolegau a’r arferion sydd wedi’u cynllunio i ddiogelu rhwydweithiau, cyfrifiaduron a data rhag ymosodiadau, difrod neu fynediad heb awdurdod.
Drwy ddarlithoedd, tiwtorialau, labordai technegol ac astudiaethau achos yn y byd go iawn, byddwch yn dysgu sut mae ymosodiadau’n gweithio, y bygythiadau a’r gwendidau tebygol, a’r dulliau a ddefnyddir gan ymosodwyr. Bydd labordy seiberddiogelwch Cisco newydd sbon gyda’r holl offer angenrheidiol yn eich helpu i roi theori ar waith gyda phecynnau cymorth safonol y diwydiant. Byddwch yn dysgu sut i gynnal profion treiddiad a dadansoddiad bregusrwydd mewn sefydliadau busnes i ddatblygu systemau diogel.
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
Byddwch yn cael cyfle i ymuno â chymdeithasau fel Capture the Flag (CTF) a Merched mewn Seiberddiogelwch (WiCyS) lle hyrwyddir cystadlaethau, cefnogaeth a rhannu cyfleoedd perthnasol. Mae ein partneriaethau â diwydiant a’n partneriaethau proffesiynol gyda sefydliadau fel cynllun Cyber First NCSC, Canolfan Cydnerthedd Seiber Cymru, Thales (NDEC), Airbus,a Charmwood Risk Management yn cryfhau’r radd ac yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr i chi.
Mae modiwlau’r cwrs wedi’u hintegreiddio â chynnwys ardystio proffesiynol fel Cisco Networking (CCNA) a Seiberddiogelwch, Hacio Moesegol Ardystiedig (CEH) yn ogystal ag integreiddio â hyfforddiant ar gyfer Archwilio Mewnol ISO27001 i roi gwybodaeth arloesol i chi.
Y cwrs hwn oedd y radd baglor gyntaf yng Nghymru i gael ardystiad dros dro gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae Met Caerdydd hefyd yn Bartner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec), Cyber First ac academi a gymeradwywyd gan CREST.
*Ardystiad NCSC dros dro.
“Mae Met Caerdydd wedi rhoi’r hyder i mi
fynd ar drywydd llawer o gyfleoedd gan
gynnwys dod yn fyfyriwr bwrsari ym
maes technoleg fyd-eang cwmni Thales, lle cwblheais leoliad fel Peiriannydd
Diogelwch yn cynnal prawf treiddiad.”
Thomas Davies
Diogelwch Cyfrifiadurol – BSc (Anrh)
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Pensaernïaeth a Gweithrediadau Seiberddiogelwch
• Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
• Diogelwch meddalwedd
• Gwybodaeth a Risg
• Bygythiadau ac Ymosodiadau
• Rhwydweithiau a Diogelwch
• Seiberddiogelwch a Chryptograffeg
• Hacio Moesegol
• Fforenseg
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
• Fel Partner Academaidd i’r Sefydliad Siartredig Diogelwch Gwybodaeth (CIISec), bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi gymhwyso fel Aelod Myfyriwr o’r CIISec a chychwyn eich taith i statws Diogelwch Gwybodaeth Siartredig Proffesiynol.
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol/interniaeth ddiwydiannol. Mae myfyrwyr wedi cael lleoliadau gyda sefydliadau fel Heddlu De Cymru.
• Gyda galw cynyddol am raddedigion medrus mewn seiberddiogelwch/ diogelwch cyfrifiadurol, bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer gyrfa heriol a phroffidiol sydd ar flaen y gad o ran amddiffyn busnes a seilwaith cenedlaethol y DU. Mae graddedigion wedi cael eu cyflogi mewn sefydliadau cydnabyddedig fel Admiral a Chanolfan Cydnerthedd Seiber Cymru.
Pontiwch y bwlch rhwng y bydoedd technegol a chreadigol i greu atebion arloesol i broblemau hen a newydd.
Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau cyfrifiadura gyda ffocws penodol ar y cyfleoedd creadigol a dylunio sydd i’w cael yn y ddisgyblaeth.
Yn ogystal â dysgu hanfodion datblygu systemau cyfrifiadurol a systemau sy’n cael eu gyrru gan feddalwedd, cewch eich annog i ymgorffori meddwl dylunio cynnyrch modern yn eich gwaith technegol. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i egwyddorion rhyngweithio dynolcyfrifiadurol allweddol sy’n archwilio sut mae dyluniad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profiad y defnyddiwr (UX) a rhyngweithio.
“Rhoddodd fy nhaith gyda’r Ganolfan
Entrepreneuriaeth ym Met Caerdydd a Tramshed Tech yr hyder i mi ddatblygu fy musnes fy hun. Mae’r profiadau hyn wedi dangos i mi fod addysg yn ymestyn y tu hwnt i waliau’r ystafell ddosbarth ac yn yr Ysgol Dechnolegau, byddwch yn cael yr offer, y cyfleoedd a’r gefnogaeth i lwyddo.”
Bradley Bunce
Cyfrifiadura gyda Dylunio Creadigol – BSc (Anrh)
Byddwch yn profi ystod eang o dechnolegau ac offer sy’n hwyluso dylunio a chreu datrysiadau caledwedd a meddalwedd newydd, gan eich helpu i ddatblygu eich galluoedd dadansoddol wrth edrych ar brosesau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl. Bydd hyn yn eich galluogi i sefydlu’ch hun fel unigolyn hybrid, mewn sefyllfa dda i bontio’r bwlch rhwng y bydoedd technegol a chreadigol i greu atebion arloesol i broblemau hen a newydd.
Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Meddwl ym maes Dylunio
• Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
• Cyfrifiadura Corfforol
• Technolegau Gwe a Symudol
• Technoleg Gwe Uwch
• Rhyngweithio Cyfrifiadurol Dynol
• Dylunio Creadigol ac Arloesi
• UX a Chynnwys Digidol
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn fel rhan o’ch astudiaeth drwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol/interniaeth ddiwydiannol.
• Mae galw cynyddol am raddedigion sy’n cyfuno sgiliau creadigrwydd a dylunio gyda’r gallu i adeiladu meddalwedd dibynadwy a chefnogol ar draws pob sector.
• Mae cyfleoedd yn bodoli ar draws meysydd fel y celfyddydau, adloniant/ gemau, datblygu cymwysiadau symudol, amlgyfrwng, dylunio cynnyrch / gwe a systemau rhyngweithiol eraill.
• Mae’r radd hon hefyd yn rhoi mynediad i ystod eang o raddau meistr ac ymchwil a addysgir yn y Brifysgol.
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
Bydd y radd achrededig broffesiynol hon yn datblygu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno meddalwedd ar gyfer amgylcheddau a llwyfannau modern.
Byddwch yn datblygu gwerthfawrogiad o waith saernïo meddalwedd a chodio gan greu arteffactau meddalwedd defnyddiol a defnyddiadwy. Mewn cydweithrediad â’n partneriaid proffesiynol, mae problemau bywyd go iawn ac offer o safon diwydiant wrth wraidd y radd hon.
Byddwch yn ennill sgiliau rhaglennu uwch mewn amrywiaeth o ieithoedd a byddwch yn profi’r cylch cyfan o ddatblygu meddalwedd, o raglennu
i ansawdd codio, cyfathrebu mewn timau amlddisgyblaethol, profi meddalwedd a dadfygio.
Rhennir eich blwyddyn gyntaf gyda’n gradd BSc (Anrh) Cyfrifiadureg (gweler tudalen 104) ac mae’n cwmpasu cysyniadau cyfrifiadurol hanfodol.
Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn canolbwyntio ar ddylunio a datblygu meddalwedd ar gyfer cymwysiadau penodol a byddwch yn archwilio paradeimau pensaernïol fel cyfrifiadura cyfochrog a dosbarthedig.
Mae’r radd yn seiliedig ar nifer o fodiwlau gorfodol dros y tair blynedd o astudio, sy’n cynnwys:
• Rhaglennu Uwch
• Pensaernïaeth a Systemau Gweithredu
• Dylunio Gwe a Chronfeydd Data
• Dylunio System sy’n Canolbwyntio ar Wrthrych
• Technolegau Gwe a Symudol
• Datblygiad Yswyth a DevOps
• Algorithmau a strwythurau data Gwybodaeth bellach, rhestr modiwl llawn ac opsiynau gyrfa
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd amser llawn, yn dibynnu ar gymryd blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu leoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 o bwyntiau UCAS
• Gellir cael profiad o’r byd go iawn drwy gwblhau blwyddyn lleoliad dewisol neu interniaeth ddiwydiannol.
• Bydd llwybrau arbenigol yn ehangu eich opsiynau gyrfa a byddwch mewn sefyllfa dda i lenwi bylchau pwysig ym marchnad swyddi’r sector technoleg sy’n tyfu ar ôl graddio.
• Wedi’i achredu’n broffesiynol gan BCS, y Sefydliad Siartredig TG, sy’n golygu y gall graddedigion gyflawni rhan o’r meini prawf i ennill statws Proffesiynol TG Siartredig (CITP).
“O weithio ar robotiaid ym Malaysia, i gymryd lleoliad blwyddyn o hyd yn
GE Aerospace, mae astudio Peirianneg Meddalwedd ym Met Caerdydd wedi rhoi cyfleoedd i mi newid fy mywyd. Mae’r staff wedi bod yn fwy nag athrawon; maen nhw wedi bod yn fentoriaid, yn gydweithwyr ac yn ffrindiau i mi ar hyd y daith.”
Hussein Daher
Peirianneg Meddalwedd – BSc (Anrh) a Pheiriannydd Meddalwedd Intern yn GE Aerospace
“Does dim amser gwell i astudio i fod yn addysgwr, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r galw am ymarferwyr sydd yn medru cefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg yn ein hysgolion yn gryfach nag erioed. Bydd ein myfyrwyr yn mynychu darlithoedd cyfrwng Cymraeg, cael cefnogaeth tiwtor personol a mynd allan i leoliadau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol.”
Laura Dobson
Darlithydd Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog)
Met Caerdydd yw un o’r canolfannau hyfforddiant ac addysg athrawon mwyaf yn y DU. Mae gennym dros 75 mlynedd o brofiad ac enw da am ansawdd ein darpariaeth hyfforddiant ac addysg athrawon. Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella sgiliau Cymraeg ein myfyrwyr drwy ein rhaglen Cymraeg i Addysgwyr.
Cyrsiau
116 Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol
gydag SYBC – BA (Anrh)
118 Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol
Arbennig – BSc (Anrh)
120 Astudiaethau Addysg Gynradd – BA (Anrh)
122 Addysg Gynradd gyda Statws Athro
Cymwysedig – BA (Anrh)
Wedi’i gynllunio i gyfoethogi eich profiad dysgu a’ch cyflogadwyedd, mae gennym sawl gofod addysgu arbenigol ar y campws sy’n darparu cyfleoedd pwysig o ran dysgu seiliedig ar ymarfer.
Mae’r rhain yn cynnwys Canolfan Dysgu yn yr Awyr Agored ac ysgol y goedwig, labordai gwyddoniaeth a seicoleg, gweithdai celf a dylunio, stiwdio gerdd, ystafelloedd TG, a llyfrgell addysg bwrpasol.
Mae ein lleoliad arbenigol, Tŷ Froebel, yn eich galluogi i ddysgu am egwyddorion ac arferion Froebel o ran chwarae ym maes dysgu plentyndod cynnar. Mae’r tŷ yn cyfuno mannau dan do ac yn yr awyr agored sy’n cynnig profiadau ymarferol o ran chwarae â blociau, clai, gwaith coed, gwnïo a garddio.
Gallwch ddysgu mwy am y cyfleusterau drwy sganio’r cod QR
gyda Statws Ymarferydd Blynyddoedd
Cynnar BA (SYBC) (Anrh)
Gweithio gyda phlant rhwng genedigaeth ac wyth oed, a’u teuluoedd.
Mae dau lwybr astudio ar gael:
• BA (Hons) Early Years Education & Professional Practice with Early Years Practitioner Status (EYPS)
• BA (Anrh) Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gydag SYBC (Dwyieithog)*
Yn ystod y radd hon byddwch yn dod yn ymarferydd blynyddoedd cynnar medrus iawn. Byddwch yn ennill Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar (SYBC) cymwysedig, gan ennill profiad ymarferol seiliedig ar waith wedi’i gyfuno â gwybodaeth ddamcaniaethol a seiliedig ar bolisi, yn ogystal â’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer ymarfer blynyddoedd cynnar effeithiol, gan gynnwys rheoli lleoliadau blynyddoedd cynnar.
Agwedd ganolog ar y radd arloesol hon yw’r profiad seiliedig ar ymarfer a asesir y byddwch yn ei gwblhau er mwyn ennill SYBC. Mae hyn yn cynnwys lleoliad yn ystod pob blwyddyn o’ch astudiaethau mewn amrywiaeth o leoliadau perthnasol fel ystafelloedd dosbarth Cyfnod Sylfaen, meithrinfeydd preifat, canolfannau plant ac ysgolion cynradd.
Byddwch yn treulio amser yn Ysgol y Goedwig ar ein campws lle byddwch yn gallu cael profiad uniongyrchol o gyfleoedd dysgu yn yr awyr agored i blant y blynyddoedd cynnar. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau arwain hanfodol a chymhwyster Tystysgrif ILM Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli, a fydd yn fanteisiol mewn rolau arwain yn y dyfodol.
Yn ystod y radd, byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion ymchwil gweithredol ac arbenigwyr blynyddoedd cynnar gan gynnwys darlithwyr gwadd o leoliadau cysylltiedig, fel Chwarae Cymru a Tŷ Hafan, i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ychwanegol.
Ar ôl i chi gwblhau’r radd, byddwch yn cael eich gwerthfawrogi’n fawr gan ddarpar gyflogwyr o fewn y sector blynyddoedd cynnar.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
**Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025. Gallai’r modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3 blynedd yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 o Bwyntiau UCAS
*Er y bydd rhywfaint o’r radd yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, mae’r rhan fwyaf o’r cwrs dwyieithog ar gael i’w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cymorth tiwtor personol a chyfleoedd am leoliad yn Gymraeg. Efallai bod ysgoloriaethau ar gael
• Chwarae a Dysgu Cynnar
• Datblygiad y Plentyn
• Addysgeg ac Ymarfer yn y Blynyddoedd Cynnar
• Dod yn Ymchwilydd
“Mae astudio ar y cwrs wedi bod yn brofiad anhygoel. Un o’r prif fanteision yw maint y grwpiau yn y seminarau gyda’n darlithydd. Gan fod llai ohonom ni yn y grŵp Cymraeg mae’n bosib gallu esbonio’r tasgau a’r wybodaeth yn fwy manwl.”
Aaron Jones
Addysg Gynnar ac Ymarfer Proffesiynol gyda SYBC (Dwyieithog) – BA (Anrh)
• Ymarfer Cynhwysol yn y Blynyddoedd Cynnar
• Arwain a Rheoli
• Mae gyrfaoedd nodweddiadol yn cynnwys rolau mewn lleoliadau chwarae, rheoli meithrinfeydd lles addysg a bod yn berchen ar eich canolfan chwarae eich hun, yn ogystal â gyrfaoedd cysylltiedig ym maes gwaith cymorth i deuluoedd, diogelu, iechyd a gofal cymdeithasol, a therapi chwarae.
• Mae’r radd hon yn cynnig llwyfan i symud ymlaen i addysgu cynradd. Ym Met Caerdydd mae pob myfyriwr gradd yn bendant o gael cyfweliad ar gyfer TAR Cynradd yn amodol ar fodloni’r gofynion mynediad.
• Mae modd symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd a PhD pellach, gan gynnwys ein hystod o raddau meistr addysg ym Met Caerdydd.
Un radd – tri phwnc arbenigol.
Mae’r radd gymhwysol unigryw hon yn archwilio materion addysgol ac anghenion dysgu ychwanegol o safbwyntiau seicolegol. Bydd y radd yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol fanwl i chi yn ogystal â’r strategaethau ymarferol sydd eu hangen i gynorthwyo amrywiaeth o ddysgwyr, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae ffocws cryf ar seicoleg drwy gydol y radd. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddeall sut y gall seicoleg gymhwysol lywio polisi ac ymarfer addysg mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
Byddwch yn archwilio meysydd amrywiol seicoleg a sut y gallant gyfrannu at ein dealltwriaeth o bethau fel datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol, anghenion dysgu ychwanegol, ymddygiad yn yr ysgol, prosesau dysgu meddyliol a biolegol, a dylanwad hunan-barch a chymhelliant ar ddysgu a chyflawni. Mae yna hefyd bwyslais drwyddi draw ar bwysigrwydd meddwl yn feirniadol yng nghyddestun ymarfer addysgol, a datblygu sgiliau ymchwil ym maes addysg.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth o gymhwyso seicoleg i gyd-destunau addysgol, a hynny mewn addysg prif ffrwd ac addysg arbennig.
Drwy gydol y radd gyffrous hon byddwch yn ymgymryd â phrofiad gwaith mewn amrywiaeth o leoliadau addysgol, gan gynnwys ysgolion anghenion arbennig a darpariaethau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau hyfforddiant ychwanegol a chyrsiau achrededig, fel hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth, a fydd yn gwella eich cyflogadwyedd a’ch cyfleoedd gyrfa.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 o Bwyntiau UCAS
Mae modiwlau’n cyfuno agweddau ar seicoleg gydag addysg ac anghenion dysgu ychwanegol, ac mae hynny’n annog dull integredig o ymdrin â’r pynciau hyn. Mae’r modiwlau’n cynnwys:
• Anghenion Dysgu Ychwanegol ac Ymarfer Cynhwysol
• Esbonio Amrywiaeth mewn Addysg
• Ymddygiad Cymdeithasol a Chyfathrebu
• Deall Ymddygiad y Dysgwr
• Dyfodol Addysg
• Themâu sy’n dod i’r amlwg ym maes Seicoleg mewn Addysg
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025. Felly, gallai’r modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
“Mae’r cwrs yn llawn gwybodaeth ac yn ddiddorol iawn. Es i gyfleuster
anghenion addysgol arbennig ar leoliad gwaith – agorodd hyn fy llygaid i’r gwahaniaeth
rhwng addysg brif ffrwd a’r cyfleusterau arbenigol sydd ar gael.”
Romey Williamson Addysg, Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig – BSc (Anrh)
• Mae 100% o’n graddedigion mewn gwaith neu’n ymgymryd ag astudiaeth bellach o fewn 15 mis i raddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2023).
• Mae gyrfaoedd nodweddiadol yn cynnwys gweithio gydag unigolion sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol, gwasanaethau cymorth addysgol, gwaith cymdeithasol addysgol a seicoleg addysgol.
• Mae’r radd hon hefyd yn cynnig llwyfan i symud ymlaen i hyfforddiant athrawon. Ym Met Caerdydd mae pob myfyriwr gradd yn bendant o gael cyfweliad ar gyfer TAR Cynradd yn amodol ar fodloni’r gofynion mynediad.
• Mae modd symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd a PhD, gan gynnwys ein MA Addysg a MSc Seicoleg mewn Addysg a achredwyd gan BPS ym Met Caerdydd.
Astudio addysg gynradd drwy lens gyfoes.
Mae’r radd hon wedi’i gwreiddio ym maes astudiaethau addysg, ac mae’n rhoi gwybodaeth i chi am faterion sylfaenol mewn addysg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau ac amgylcheddau. Mae’r cwrs yn canolbwyntio’n benodol ar y sector cynradd a bydd yn darparu llwyfan delfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ym maes addysg gynradd, yn ogystal â gweithio ym meysydd ehangach addysg, addysgu ac iechyd.
Mae dau lwybr astudio ar gael:
• BA (Hons) Primary Education Studies
• BA (Anrh) Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog)**
Mae’r modiwlau’n cyflwyno ac yn archwilio materion a dadleuon cyfoes sy’n ymwneud â chydraddoldeb, rhywedd, globaleiddio, cynaliadwyedd a thechnolegau. Byddwch yn edrych ar amrywiaeth o gysyniadau a safbwyntiau cystadleuol sy’n dylanwadu ar brofiadau plant, ac yn effeithio arnynt, mewn cymdeithas ac addysg. Mae addysgu a dysgu yn eich annog i ymgysylltu â’r berthynas rhwng tirweddau, materion a pholisïau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Ar bob cam byddwch yn cael eich annog a’ch cefnogi i ddatblygu eich gallu i feddwl yn feirniadol ac yn greadigol.
Mae cyfleoedd ar gael yn rheolaidd am brofiad seiliedig ar waith ac ymarfer cyfredol gan ddefnyddio’r technolegau a’r strategaethau dysgu diweddaraf. Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn mynd ar leoliad y tu allan i addysg gynradd, e.e. meithrinfa breifat, grŵp chwarae cymunedol, ysgol uwchradd, ysgol ysbyty neu hyfforddiant chwaraeon. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn gweithio mewn ysgol gynradd fel cynorthwyydd addysgu ac mewn rôl arsylwi. Mae’r ddau brofiad yn cyflwyno ystod eang o lwybrau gyrfa i chi.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Byddwch yn cael eich addysgu gan academyddion ymchwil gweithredol a siaradwyr gwadd o feithrinfeydd, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion lleol. Bydd teithiau maes lleol yn gwella eich dysgu. Byddwch yn treulio amser mewn ystafelloedd dosbarth a lleoliadau amrywiol yn yr awyr agored, gan gynnwys Canolfan Dysgu Awyr Agored y Brifysgol. Hefyd, byddwch yn ystyried pwysigrwydd chwarae â blociau, gwaith coed, clai a garddio yn ein gofod adnoddau arbenigol, Tŷ Froebel. Mae’r holl arferion hyn, ynghyd â’r profiadau allgwricwlar a gynigir, yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r cwricwlwm, addysgeg ac ymarfer.
• Meysydd Dysgu a Phrofiad
• Dysgu Cynnar
• Addysg a Chydraddoldeb
• Addysg Fyd-eang a Chymharol
• Dulliau Amgen
• Dyfodol Addysg
^Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025.
Felly, gallai’r modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn gwbl gymwys i ddilyn gyrfa ym maes addysg y blynyddoedd cynnar, addysg gynradd, addysg gymunedol, iechyd a lles, y trydydd sector a mwy.
• Mae’r radd hon yn cynnig llwyfan delfrydol i symud ymlaen i addysgu cynradd ac uwchradd. Ym Met Caerdydd mae pob myfyriwr gradd yn bendant o gael cyfweliad ar gyfer TAR Cynradd yn amodol ar fodloni’r gofynion mynediad.
• Mae modd symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd ac ymchwil pellach, gan gynnwys ein hystod o raddau meistr addysg ym Met Caerdydd.
“Wrth ddewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar y cwrs, mae llawer o ddrysau wedi agor i mi, rwyf wedi creu perthnasoedd agos gyda chyd-fyfyrwyr ar y cwrs, ond hefyd ein tiwtor. Mae’r cwrs yn hyblyg iawn, felly mae digon o gyfleoedd i weithio rhan amser a chael profiadau mewn ysgolion.”
Charlotte Carter Astudiaethau Addysg Gynradd (Dwyieithog) – BA (Anrh)
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3 blynedd yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 o Bwyntiau UCAS
*Sylwch nad yw’r radd hon yn cynnig Statws Athro Cymwysedig (gweler tudalen 122)
**Er y bydd rhywfaint o’r radd yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg, mae’r rhan fwyaf o’r cwrs dwyieithog ar gael i’w astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cymorth tiwtor personol a chyfleoedd am leoliad yn Gymraeg. Efallai bod ysgoloriaethau ar gael
Hyfforddi i fod yn athro ysgol gynradd blaengar sy’n barod ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Mae'r cwrs hwn yn eich paratoi i ddod yn ymarferydd hynod fedrus, hyderus ac arloesol sy’n myfyrio’n feirniadol ac sydd wedi ymrwymo i ddysgu proffesiynol gydol oes ac addysg pobl ifanc.
Mae dau lwybr astudio ar gael sydd wedi’u hachredu gan Gyngor y Gweithlu Addysg:
• BA (Hons) Primary Education with Qualified Teacher Status
• BA (Anrh) Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig*
Mae'r radd yn cynnwys y cwricwlwm diwygiedig yng Nghymru sy'n eich galluogi i addysgu’r cwricwlwm ar draws yr ystod 3–11 oed. Mae ein hymarfer clinigol (lleoliad mewn ysgol) wedi’i seilio ar ymchwil sy'n eich galluogi i ddefnyddio theori i archwilio ymarfer ac fel arall.
Byddwch yn ymgymryd â chyfanswm o 120 diwrnod mewn ysgol drwy fodel ymarfer clinigol fesul cam a gynlluniwyd i gefnogi eich datblygiad personol a phroffesiynol. Bydd hyn yn eich helpu i fodloni gofynion yr ystafell ddosbarth a'r gymuned addysg yn ehangach. Yn ystod y 120 diwrnod hyn, byddwch yn cael 15 diwrnod o Hyfforddiant dan Arweiniad yr Ysgol mewn Partneriaeth Arweiniol Ysgolion/
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Cynghrair, gan ddysgu gan ddarparwyr addysg a datblygiad proffesiynol blaenllaw.
Yn y flwyddyn gyntaf, caiff ymarfer clinigol ei gynnwys mewn modiwl academaidd, ac mae'n cynnwys 15 diwrnod ar leoliad heb ei asesu mewn ysgol. Byddwch yn ymgymryd â gwaith ymchwil ac ymholi ar lefelau micro a macro, a hefyd yn cyfrannu at waith cynllunio addysgu cydweithredol ac annibynnol. Yn ystod yr ail flwyddyn bydd yr asesiad ffurfiol yn erbyn y safonau proffesiynol ar gyfer SAC yn dechrau.
Mae ymarfer clinigol hefyd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwch yn cael 105 awr o waith datblygu sgiliau Cymraeg yn ystod eich gradd. Mae blwyddyn ar leoliad dramor drwy Gyfleoedd Byd-eang Met Caerdydd ar gael hefyd.
• Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
• Dyfodol Llwyddiannus
• Archwilio Chwarae a Dysgu Cynnar
• Gwrth-hiliaeth, Tegwch ac Amrywiaeth: Addysgeg ac Ymarfer i Gymru
• Ymchwilio’r Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Gynradd
• Dulliau Lleol, Byd-eang ac Arloesol ym maes Addysg
**Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2024. Felly, gallai’r achrediad a’r modiwlau a restrir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
• Ar ôl i chi gwblhau’r radd, byddwch yn hynod gyflogadwy ac yn barod i fodloni gofynion yr ystafell ddosbarth fel athro ysgol gynradd.
• Mae Statws Athro Cymwysedig yn golygu y gallwch addysgu mewn ysgolion cynradd yng Nghymru, y DU a thramor.
• Mae ein gradd yn darparu sylfaen ardderchog i chi symud ymlaen i gyrsiau addysg ôl-radd arbenigol, gan gynnwys yr amrywiaeth o raddau meistr addysg ym Met Caerdydd.
“Un o’r prif fanteision i mi gyda’r cwrs yw
maint y dosbarth ac ein bod ni’n cael y cyfle i dderbyn sesiynau gloywi iaith i ddatblygu a gwella ein safon Cymraeg.”
Katie
Atherton AddysgGynradd gyda SAC – BA (Anrh)
Partneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon
Mae hyfforddi i addysgu ym Met Caerdydd yn gyfle cyffrous i ddysgu ym Mhartneriaeth Caerdydd ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon. Mae Partneriaeth Caerdydd yn cynnwys Prifysgol Metropolitan Caerdydd a'i hysgolion cysylltiedig, gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerdydd, Consortiwm Canolbarth y De, Gwasanaeth Cyflawni Addysg, a Chyngor Dinas Caerdydd. Gyda'i gilydd, mae Partneriaeth Caerdydd yn cydweithio i sicrhau bod ein hathrawon dan hyfforddiant yn cyflawni ac yn rhagori ar y safonau proffesiynol ar gyfer SAC, drwy addysg broffesiynol o ansawdd uchel sy’n hynod ymarferol ac yn heriol o safbwynt deallusol.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar gyflawni blwyddyn ar leoliad dramor
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 115 o Bwyntiau UCAS
5 TGAU gan gynnwys Cymraeg/ Saesneg (iaith gyntaf) a Mathemateg Gradd C/4. Gwyddoniaeth gradd C/4, (neu gyfatebol).
Archwiliad gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd. Tystiolaeth o brofiad gwaith mewn ysgol gynradd prif ffrwd.
**Bydd o leiaf 60% o’r radd ar gael yn Gymraeg. Gall athrawon dan hyfforddiant cyfrwng Cymraeg wneud pob un o’u traethodau yn Gymraeg a chael sesiynau ‘Gloywi’ wedi’u targedu er mwyn meithrin hyder wrth ddefnyddio’r iaith, yn ogystal â chywirdeb sgiliau ysgrifenedig a llafar. Mae’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm yn cael ei datblygu yn ystod sesiynau penodol cyfrwng Cymraeg y brifysgol ac fel rhan o’r elfen llythrennedd yn Llythrennedd, Iaith a Chyfathrebu
Cyrsiau
126 Peirianneg Drydanol ac Electronig – BEng/MEng (Anrh)*
128 Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig – BEng/MEng (Anrh)
130 Peirianneg Roboteg – BEng/MEng (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
30 Cwrs sylfaen yn arwain at Beirianneg a Chyfrifiadureg
110 Peirianneg Meddalwedd – BSc (Anrh)
*Yn amodol ar ddilysiad
Cyfleusterau
Mae Ysgol Dechnolegau Caerdydd yn cynnig cyfleusterau arloesol a labordai arbenigol sy’n eich galluogi i gael profiad ymarferol o’r diwrnod cyntaf.
Mae ein Labordy Roboteg wedi’i integreiddio’n agos â Chanolfan Roboteg EUREKA, un o ddim ond pedair ar ddeg o ganolfannau ymchwil arbenigol mewn roboteg yn y DU. Mae’n cynnig mynediad at fwy na 30 o robotiaid arbenigol, robotiaid dynolffurf a breichiau robotig, yn ogystal ag AI uwch, AR, roboteg a meddalwedd a phecynnau argraffu 3D.
Mae ein Labordy Systemau Electronig yn cynnig profiad ymdrochol gyda meddalwedd ac offer sy’n cwmpasu’r ystod lawn o electroneg, awtomatiaeth, a thechnegau a chymwysiadau system awtonomaidd.
Dysgu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i ddilyn gyrfa lwyddiannus ym maes deinamig peirianneg drydanol ac electronig.
Bydd y radd hon yn rhoi sylfaen gadarn i chi ym meysydd allweddol peirianneg drydanol ac electronig ac yn cynnig cyfle i chi arbenigo mewn meysydd newydd. Byddwch yn rhoi theori ar waith o’r diwrnod cyntaf, gan weithio mewn cyfleusterau arloesol sy’n cynnwys dadansoddwyr mesur cylchedau electronig, pecynnau offer rhithwir, peiriannau argraffu prototeipiau PCB, offer dylunio ac efelychu cylchedau, y rhyngrwyd pethau a pheiriannau a gyriannau trydanol.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae’r cwrs yn cynnwys mathemateg peirianneg, egwyddorion rhaglennu, electroneg analog a digidol, a mecatroneg.
Mae hefyd yn mentro i feysydd mwy arbenigol fel systemau rheoli, signalau a systemau, yn ogystal ag electromagneteg a chyfrifiadura ffisegol, a fydd yn creu gweithwyr proffesiynol cyflawn sy’n fedrus mewn theori ac ymarfer.
Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs, byddwch yn edrych yn ddyfnach ar feysydd fel prosesu signalau digidol, electroneg a systemau pŵer, a pheiriannau a gyriannau trydanol. Yn ystod blynyddoedd olaf y radd mae’r cwricwlwm hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr ymgymryd â phrosiectau ymarferol, sy’n cynnig y profiad ymarferol sy’n hanfodol mewn diwydiant heddiw.
Mae’r myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i deilwra eu dysgu drwy fodiwlau dewisol mewn peirianneg drydanol ac electronig, sy’n sicrhau bod eu haddysg yn cyd-fynd â’u diddordebau personol a’u nodau gyrfa. Mae’r radd yn sicrhau bod graddedigion yn gallu bodloni gofynion y diwydiant, cyfrannu at ddatblygiadau yn y maes, a sbarduno arloesedd ym maes peirianneg drydanol ac electronig. Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol dros y pedair blynedd, sef:
• Electroneg Analog a Digidol
• Electromagneteg Peirianneg
• Cyfrifiadura Ffisegol
• Signalau a Systemau
• Electroneg a Systemau Pŵer
• Peiriannau a Gyriannau Trydanol
Bydd dewisiadau yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
• Gellir cael profiad yn y byd go iawn fel rhan o’ch astudiaethau drwy ymgymryd â lleoliad/ interniaeth ddiwydiannol dewisol.
• Mae’r radd wedi’i chynllunio i ganiatáu achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, sy’n golygu bod graddedigion ar y llwybr tuag at ddod yn Beiriannydd Siartredig.
• Y cyflog cyfartalog ar gyfer Peiriannydd Trydanol cymwysedig yn 2023 oedd £45,400 – Glassdoor.
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–6 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad:
Cynnig Nodweddiadol:
BEng: 112–120 o Bwyntiau UCAS
MEng: 120–128 o Bwyntiau UCAS
*Mae’r radd hon yn amodol ar ddilysu. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio gyda meddalwedd a chaledwedd i ddylunio systemau cyfrifiadurol ac electronig cyffrous.
Byddwch yn ennill sylfaen drylwyr mewn theori, signalau a systemau trydanol ac electronig yn ogystal ârhaglennu cyfrifiadurol. Byddwch yn edrych ar raglennu systemau sefydledig yn ogystal â rhwydweithiau a seiberddiogelwch, gan fynd i’r afael ag ystyriaethau proffesiynol a moesegol digideiddio.
Byddwch yn rhoi theori ar waith o’r diwrnod cyntaf, gan weithio mewn cyfleusterau arloesol sy’n cynnwys dadansoddwyr mesur cylchedau electronig, pecynnau offer rhithwir, peiriannau argraffu prototeipiau PCB offer dylunio ac efelychu cylchedau, y rhyngrwyd pethau a thechnoleg 4.0 y diwydiant.
Byddwch yn dysgu sut mae cyfuno meddalwedd a chaledwedd i ddylunio’r systemau cyfrifiadurol ac electronig cyffrous sy’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn byw.
Yn seiliedig ar ymchwil flaenllaw ac wedi’i chynllunio gyda mewnbwn diwydiannol cryf, mae’r radd yn rhoi gwybodaeth i chi am bynciau peirianneg craidd fel theori drydanol, electroneg a chyfrifiadurol, electroneg analog a digidol, yn ogystal â rhaglennu caledwedd lefel isel. Byddir yn defnyddio mathemateg wrth ddylunio systemau rheoli, sy’n rhoi cipolwg i chi ar defnyddio peiriannau awtomatig. Hefyd, byddwch yn edrych ar brosesu signalau digidol, y Rhyngrwyd Pethau, ac yn mynd i’r afael â materion proffesiynol a moesegol peirianneg. P’un a ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant, lansio eich cwmni eich hun, neu fentro i fyd ymchwil a datblygu, bydd y radd yn rhoi cychwyn da i chi ar gyfer gyrfa yn y sector hwn sy’n tyfu’n gyflym.
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol dros y pedair blynedd, sef:
• Electroneg Analog a Digidol
• Mathemateg Peirianneg
• Systemau Rheoli
• Signalau a Systemau Cyfathrebu
• Electroneg a Systemau Pŵer
• Prosesu Signalau Digidol
Bydd dewisiadau yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
“Mae cyrsiau peirianneg yn mynnu
llawer o waith ymarferol ac mae Ysgol
Dechnolegau Met Caerdydd wedi darparu’n ardderchog ar gyfer hynny. Roedd ein cwrs yn edrych yn benodol ar lawer o wahanol elfennau dylunio ac adeiladu cylchedau, rhaglennu a mathemateg peirianneg. Un o’r traethodau mwyaf diddorol i mi oedd rhaglennu robot fel ‘swyddog diogelwch’ ymdeimladol a oedd yn gallu sganio cardiau adnabod i gadarnhau pwy oedd rhywun!”
Matthew Fry
Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol ac Electronig – MEng (Anrh)
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–6 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad:
Cynnig Nodweddiadol: BEng: 112–120 o Bwyntiau UCAS
MEng: 120–128 o Bwyntiau UCAS
Eich dyfodol
• Gellir cael profiad yn y byd go iawn fel rhan o’ch astudiaethau drwy ymgymryd â lleoliad/ interniaeth ddiwydiannol dewisol
• Mae’r radd wedi’i chynllunio i ganiatáu achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, sy’n golygu bod
graddedigion ar y llwybr tuag at ddod yn Beiriannydd Siartredig.
Bydd y radd integredig hon mewn Peirianneg Roboteg yn cynnig cyfle i chi ddod i gysylltiad ag un o’r sectorau mwyaf deinamig ym maes technoleg sy’n tyfu’n gyflym.
Bydd dyluniad unigryw’r radd yn cynnig cyfle i chi astudio’r agweddau mwyaf cyffrous ar roboteg a’u defnyddio i ddylunio a datblygu systemau deallus ymreolaethol soffistigedig. Byddwch yn dod i gysylltiad ag ystod eang o theorïau peirianneg roboteg a chymwysiadau gwyddonol, ac yn cael cyfle i ystyried y materion moesegol sy’n gysylltiedig â’r sector.
Bydd profiad ymarferol gydag offer o safon diwydiant yn rhoi sgiliau ymarferol i chi. Mae’r radd wedi’i hintegreiddio’n agos â Labordy Roboteg EUREKA yn Ysgol Dechnolegau Caerdydd. Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod mai’r Labordy yw un o ddim ond pedair ar ddeg o ganolfannau ymchwil arbenigol mewn roboteg yn y DU, a’r unig ganolfan flaenllaw sy’n arbenigo mewn roboteg gymdeithasol a gwasanaeth.
Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arloesol a rhai o’r robotiaid mwyaf datblygedig ar y farchnad. Byddwch yn gallu gweithio gyda robotiaid dynolffurf cymdeithasol, gwasanaeth ac addysgol gyda nodweddion deallusrwydd artiffisial uwch, a breichiau robotig ar gyfer ymchwil a datblygu ym maes roboteg ddiwydiannol.
Mae’r radd yn seiliedig ar sawl modiwl gorfodol dros y pedair blynedd, sef:
• Mecatroneg
• Mathemateg Peirianneg
• Roboteg Dynolffurf Cymdeithasol
• Roboteg a Systemau Awtomeiddio
• Electroneg a Systemau Pŵer
• Deallusrwydd Artiffisial Uwch mewn Roboteg
• Rhyngrwyd Pethau
Bydd dewisiadau yn y drydedd a’r bedwaredd flwyddyn yn eich galluogi i ddatblygu eich diddordebau a’ch arbenigedd penodol.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
• Gellir cael profiad yn y byd go iawn fel rhan o’ch astudiaethau drwy ymgymryd â lleoliad/ interniaeth ddiwydiannol dewisol
• Mae’r radd wedi’i chynllunio i ganiatáu achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg, sy’n golygu bod graddedigion ar y llwybr tuag at ddod yn Beiriannydd Siartredig.
Ysgol Dechnolegau Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–6 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 30) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol:
BEng: 112–120 o Bwyntiau UCAS
MEng: 120–128 o Bwyntiau UCAS
“Rwy’n dal i gofio’r tro cyntaf i mi dreialu a defnyddio robotiaid addysgol yn y byd go iawn – a gweld hyn yn gwneud cymaint o argraff ar fyfyrwyr, rhieni, athrawon a’r cyhoedd, a oedd yn llawn cymhelliant ac yn cael hwyl yn rhyngweithio â’r robotiaid! Fe wnaeth hynny ysgogi fy niddordeb yn y rhyngweithio rhwng pobl a robotiaid ac arwain at yrfa yn ymchwilio sut mae ymgorffori dysgu, rhesymeg ac emosiwn dynol mewn peiriannau.”
Dr Esyin Chew
Adran Cyfrifiadura Cymhwysol a Pheirianneg, Sylfaenydd Labordy Roboteg EUREKA
“Rydym yn cynnig nifer o fodiwlau unigryw a blaengar. Datblygwyd ein modiwl dewisol
‘Ysgrifennu ar gyfer Lles’ i ystyried sut y gellir defnyddio darllen ac ysgrifennu i wella lles yn eich bywydau chi ac ym mywydau pobl eraill; byddwch yn archwilio posibiliadau creadigol, therapiwtig ac addysgol ysgrifennu, yn ogystal â phŵer geiriau ar gyfer gweithredaeth a hyrwyddo newid cymdeithasol.”
Dr Lucy Windridge-Floris Cyfarwyddwr Rhaglen Saesneg ac Ysgrifennu CreadigolCyrsiau
134 Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol
– BA (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
180 Y Cyfryngau a Chyfathrebu
– BA (Anrh)
BA (Anrh)
Datblygu eich llais fel awdur a beirniad.
Mae ein gradd yn mynd â chi ar daith drwy fwy na 600 mlynedd o hanes llythrennedd – o’r clasuron i ramantiaeth i lenyddiaeth hynod gyfoes. Bydd yr awduron gwych y byddwch yn eu hastudio yn eich ysbrydoli ac yn dylanwadu ar eich ysgrifennu. Yn y cyfamser, bydd datblygu eich gwaith creadigol eich hun yn ystod y radd yn arwain at ddealltwriaeth newydd o dechnegau a fydd yn mireinio eich gallu i ddadansoddi testun llenyddol. Yn ystod y seminarau byddwch yn cael eich gwahodd i ystyried y ffyrdd mae llenyddiaeth ac ysgrifennu yn fyw, gan ymgysylltu â materion cyfoes fel anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, dad-drefedigaethu, newid yn yr hinsawdd, a mwy.
Mae’r radd yn canolbwyntio ar dair elfen graidd: darllen, ysgrifennu, cysylltu. Bob blwyddyn, byddwch yn cymryd dau fodiwl o bob llinyn, felly byddwch yn archwilio llenyddiaeth Saesneg, yn ymarfer ysgrifennu creadigol ac yn cysylltu popeth rydych yn ei ddysgu mewn ffyrdd cydweithredol, rhyngddisgyblaethol ac arloesol.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau proffesiynol hanfodol ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y byd go iawn: cystadlu yn ein cystadlaethau barddoniaeth SLAM; darllen eich gwaith mewn nosweithiau meic agored; cwrdd ag awduron cyhoeddedig ac ymarferwyr creadigol; gwirfoddoli mewn digwyddiadau a gwyliau llenyddol lleol; cyflwyno eich gwaith i’n hantholeg dan arweiniad myfyrwyr; a llawer mwy. Ym mlwyddyn dau, gellir teilwra’r lleoliad gwaith i fodloni eich dyheadau o ran gyrfa.
“Roedd cystadlu yn UniSlam, sef gŵyl barddoniaeth slam flynyddol ar gyfer timau prifysgol, a pherfformio yn y rownd derfynol, yn gyfle anhygoel. Dyma un o’r profiadau gorau i mi eu cael yn y brifysgol!”
Lukas Wallis
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol – BA (Anrh)
Yn ystod y radd, byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wedi cyhoeddi barddoniaeth, ffuglen a deunydd ffeithiol, yn ogystal ag ymchwilwyr rhyngwladol blaenllaw sydd wedi ysgrifennu monograffau gyda gwasgau prifysgol, yn ogystal â chyhoeddiadau arbennig a chyfrolau golygedig sydd wedi cael cryn ganmoliaeth. Mae ein hacademyddion yn dod i’ch adnabod chi a’ch dyheadau gyrfa yn dda drwy’r dosbarthiadau addysgu bach a’r cymorth rhagorol a ddarperir i fyfyrwyr.
Drwy eich modiwlau, prosiectau a gweithgareddau allgyrsiol, byddwch yn gadael Met Caerdydd gyda phortffolio o waith sy’n dangos eich sgiliau a’ch galluoedd rhagorol a byddwch yn gwbl barod ar gyfer gyrfa yn y diwydiannau creadigol a thu hwnt.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3 blynedd yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig
Nodweddiadol: 104 o Bwyntiau UCAS
Modiwlau nodweddiadol
• Llenyddiaeth Ramantaidd a Fictoraidd (Darllen)
• Llenyddiaeth Hynod Gyfoes a’r Wobr Llyfrau (Darllen)
• Mae straeon yn bwysig: Plot, Cymeriadau a Thu Hwnt (Ysgrifennu)
• Cyhoeddi a Dyniaethau Digidol (Ysgrifennu)
• Dweud yn Uchel: Ysgrifennu ar gyfer Cynulleidfaoedd (Cysylltu)
• Bydoedd Dychmygol a Dyfodol Posibl (Cysylltu)
• Mae 100% o’n graddedigion mewn gwaith neu’n ymgymryd ag astudiaeth bellach o fewn 15 mis i raddio (Arolwg Canlyniadau Graddedigion 2023).
• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd cyffrous ym meysydd ysgrifennu, cyhoeddi, golygu, ysgrifennu copi, cynhyrchu cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, rheoli’r celfyddydau, addysgu, y gwasanaeth sifil a llawer mwy.
• Mae’r radd yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig a PhD gan gynnwys ein cyfres o gyrsiau MA Ysgrifennu Creadigol a Llenyddiaeth Saesneg ym Met Caerdydd.
“Fe ddechreuais i ddarlithio tua deng mlynedd yn ôl. Mae’n rhoi boddhad mawr i mi, ac rydw i wrth fy modd efo’r rôl. Rwy’n dal i gyfrannu at y proffesiwn, ond mewn ffordd wahanol erbyn hyn. Gallaf helpu i baratoi ein myfyrwyr ar gyfer eu rôl yn y dyfodol. Hefyd, rwy’n gallu camu’n ôl o bethau ac ymgymryd â gwaith ymchwil i helpu fy nghydweithwyr yn y diwydiant ac i wneud rhywbeth bob dydd i ofalu am iechyd y cyhoedd.”
Dr Henry Dawson Cyfarwyddwr Rhaglen Iechyd yr Amgylchedd
Cyrsiau
138 Iechyd yr Amgylchedd – BSc (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
32 Cwrs sylfaen yn arwain at BSc
Gwyddorau Iechyd
36 Cwrs sylfaen yn arwain at BA/BSc
Gwyddorau Cymdeithasol
Gydag un radd gallwch gael pum llwybr gyrfa.
Bydd ein gradd Iechyd yr Amgylchedd sydd ag achrediad triphlyg yn eich paratoi i fod yn weithiwr proffesiynol uchel ei barch mewn gyrfa a fydd yn eich galluogi i wneud rôl bwysig o ran diogelu iechyd a’r amgylchedd mewn cymdeithas.
Mae’r radd hon yn gyfle i astudio ar gyfer pum llwybr gyrfa posibl mewn un maes disgyblaeth, gan gynnwys: Diogelwch Bwyd; Tai; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Diogelu’r Amgylchedd a themâu sylfaenol Iechyd y Cyhoedd; Epidemioleg ac Asesu Risg.
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys ymarferwyr profiadol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat. Bydd eu gwybodaeth a’n harferion addysgu cynhwysol a chymhwysol yn eich galluogi i fod yn weithiwr proffesiynol cyflawn yn y maes.
Mae gennym gyfleoedd lleoliad gwaith rhagorol yn y sector preifat a chyhoeddus, a bydd cyfle i chi fynd ar deithiau maes i wella eich profiad dysgu.
“Yr elfen ymarferol oedd fy hoff ran o’r radd. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth yn fy helpu heddiw yn fy rôl fel Uwch Swyddog
Iechyd yr Amgylchedd. Mae fy swydd yn amrywiol iawn, ac mae pob diwrnod yn wahanol; o feithrin cysylltiadau i gydymffurfiaeth amgylcheddol. Fy rôl yw
sicrhau bod peryglon mawr, fel atmosffer ffrwydrol, peiriannau trwm a cherbydau mawr yn cyrraedd y safonau priodol i sicrhau nad yw’r staff mewn perygl nac yn cael eu hanafu er mwyn iddynt allu mynd adref yn ddiogel at eu teuluoedd.”
Harriet Fowler
Iechyd yr Amgylchedd – BSc (Anrh) ac Uwchgynghorydd Iechyd a Diogelwch yr Amgylchedd yn UK&I AB InBev
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
• Rheoli Diogelwch Bwyd
• Asesu a Gwella Iechyd y Boblogaeth
• Ymyriad ar gyfer Iechyd a Datblygu
Cynaliadwy
• Diogelu’r Cyhoedd ar Waith
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn y flwyddyn sylfaen (gweler tudalennau 32 a 36)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–104 o Bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
• Mae ein cyfraddau cyflogadwyedd ar gyfer graddedigion yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac annibynnol ymhlith y gorau yn y diwydiant.
• Mae ein graddedigion yn gweithio mewn meysydd fel: Adrannau Iechyd yr Amgylchedd Awdurdodau Lleol; Llywodraeth Ganolog (e.e. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru/ Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch); manwerthwyr mawr fel Tesco a Sainsbury’s; gweithgynhyrchwyr mawr; Cymdeithasau Tai a’r lluoedd arfog.
• Mae cyfleoedd ar gyfer astudiaeth bellach yn cynnwys MSc Diogelwch Galwedigaethol, Iechyd a Lles a MSc Iechyd Cyhoeddus Cymhwysol.
Graddau wedi’u hachredu’n broffesiynol sy’n cynnig lleoliadau am flwyddyn i bobl sy’n awyddus i fod yn rheolwyr yn y diwydiannau digwyddiadau, gwesty, lletygarwch a thwristiaeth deinamig. Mae ein Hystafell Lletygarwch bwrpasol ar y safle a’r ceginau diwydiant cyfagos yn eich galluogi i roi theori ar waith.
Cyrsiau
142 Rheoli Digwyddiadau – BA (Anrh)
144 Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol – BA (Anrh)
146 Rheoli Twristiaeth Ryngwladol – BA (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
34 Sylfaen yn arwain at Reoli Digwyddiadau, Lletygarwch a Thwristiaeth
Wedi’i achredu’n broffesiynol ac yn hynod ymarferol; bydd yn eich paratoi ar gyfer byd deinamig rheoli digwyddiadau.
Llwybrau sydd ar gael:
• Rheoli Digwyddiadau – BA (Anrh)
• Rheoli Digwyddiadau gydag Interniaeth – BA (Anrh)
Os ydych chi’n breuddwydio am gynllunio gwyliau, digwyddiadau chwaraeon mawr, cynadleddau, arddangosfeydd, digwyddiadau codi arian neu ddathliadau personol a chamau bywyd, gall ein gradd Rheoli Digwyddiadau gynnig y sgiliau, y profiad a’r cyfleoedd rhwydweithio sydd eu hangen arnoch i ffynnu yn y diwydiant.
Rydym wedi ein hachredu gan y Sefydliad Lletygarwch, sef y corff proffesiynol ar gyfer darpar reolwyr sy’n gweithio ac yn astudio ym maes digwyddiadau, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth; partner balch ‘The Power of Events’ ac aelod o’r Gymdeithas Addysg Rheoli Digwyddiadau (AEME).
Bydd y radd yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o gysyniadau allweddol rheoli digwyddiadau ochr yn ochr â’r cyfle i ddatblygu cyfres o sgiliau trosglwyddadwy. Byddwch yn arbenigo yn y technegau, yr arbenigeddau a’r materion sy’n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau, o agweddau creadigol ar ddylunio a chreu digwyddiadau, i lwyfannu a chynhyrchu, marchnata a hyrwyddo, rheoli prosiectau, diogelwch a thrwyddedu, gwerthuso effaith a chynaliadwyedd, rheolaeth strategol, cyllid a materion pwysig eraill yn y diwydiant.
Byddwch yn cael eich grymuso i wneud gwahaniaeth go iawn drwy ddatblygu eich gwybodaeth a’ch defnydd o arferion moesegol gan greu ffyrdd tecach a mwy cynaliadwy o weithio ac annog amrywiaeth a chynhwysiant ar bob lefel o gymdeithas.
Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau, sefydliadau a lleoliadau rheoli digwyddiadau lleol gan gynnwys ICC Cymru, Stadiwm Principality, Canolfan Mileniwm Cymru, Tŷ Hafan, SC Productions ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael cyfle i gynnal prosiectau byw gyda’r diwydiant i ennill profiad ymarferol drwy gydol eich gradd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
• Cynaliadwyedd a Moeseg mewn Digwyddiadau “Roedd astudio Rheoli Digwyddiadau ym Met Caerdydd yn dair blynedd arbennig a roddodd sylfaen gadarn i mi wrth ddechrau fy ngyrfa. Fe wnes i fwynhau byw mewn dinas newydd gyda ffrindiau newydd ac astudio pwnc roeddwn i’n frwd drosto. Yn fy rôl fel Rheolwr Prosiect Digwyddiadau yn Top Banana, rwyf wedi cael cyfle i weithio ar amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, o gyngherddau mawr gyda Years & Years, Rylan ac Ella Eyre i sioe ffasiwn breifat gyda Victoria Beckham, a phopeth yn y canol!”
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser yn dibynnu ar ddilyn cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 96–112 o Bwyntiau
UCAS
Celine Orgill
Rheoli Digwyddiadau – BA (Anrh) a Rheolwr Prosiect Digwyddiadau yn Top Banana
Byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â phrofiad gwaith yn eich ail flwyddyn a’r opsiwn i fynd ar leoliad blwyddyn o hyd. Mae gennym bartneriaethau parhaus gydag Extreme E (digwyddiadau rasio rhyngwladol), Yummy Jobs (Disney) a Greenwich Country Club (UDA) ac mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Hewlett Packard (Digwyddiadau Byd-eang), Cancer Research UK (digwyddiadau a chodi arian) ac Ironman (interniaeth digwyddiadau).
Modiwlau nodweddiadol
Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwn yn cyflwyno cysyniadau allweddol rheoli digwyddiadau a busnes. Bydd eich ail flwyddyn yn adeiladu ar eich sylfaen wybodaeth bresennol ac yn symud ymlaen i feysydd rheoli digwyddiadau mwy arbenigol; ac yn eich blwyddyn olaf gallwch deilwra eich gradd yn seiliedig ar eich diddordebau a’ch dyheadau o ran gyrfa. Mae’r modiwlau craidd cyffredin yn cynnwys:
• Profiad a Dylunio Digwyddiadau
• Cynllunio Digwyddiadau Mawr
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Eich dyfodol
• Mae’r radd hon yn cynnig rhagolygon gyrfa a chyflogaeth rhagorol ym mhob rhan o’r diwydiant digwyddiadau, gan gynnwys gwyliau, cynadleddau, arddangosfeydd, lletygarwch corfforaethol, chwaraeon, codi arian, nawdd, marchnata drwy brofiadau a mwy.
• Mae ein graddedigion wedi cael swyddi mewn amrywiaeth o sefydliadau, o leoliadau rhyngwladol a chwmnïau digwyddiadau, i gadwyni gwestai a gweithredwyr teithiau, prif noddwyr a digwyddiadau chwaraeon, i awdurdodau lleol ac elusennau mewn sefydliadau fel The Financial Times, Cancer Research UK a’r
Bathdy Brenhinol.
• Mae’r cwrs yn darparu mynediad at amrywiaeth eang o gyrsiau ôlraddedig a addysgir ac ymchwil yn y Brifysgol.
Wedi’i hachredu’n broffesiynol ac yn canolbwyntio ar yr elfen ymarferol; mae’n eich paratoi ar gyfer y diwydiant.
Llwybrau sydd ar gael:
• Rheoli Gwesty a Lletygarwch
Rhyngwladol – BA (Anrh)
• Rheoli Gwesty a Lletygarwch
Rhyngwladol gydag Interniaeth – BA (Anrh)
Mae Caerdydd yn lle delfrydol i astudio Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol. Fel prifddinas ffyniannus, gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a diwydiant gwesty a lletygarwch cadarn, bydd cyfleoedd diddiwedd i chi gael profiad gwaith yn y byd go iawn ar garreg eich drws.
Gydag achrediad proffesiynol gan y Sefydliad Lletygarwch, byddwch yn elwa ar aelodaeth am ddim gyda mynediad diderfyn at ffynonellau a fydd yn eich helpu gyda’ch astudiaethau a’ch gyrfa yn y dyfodol. Ategir eich dysgu gan ymchwil gan y Cyngor Addysg Rheoli Lletygarwch (CHME), Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR) a’n staff academaidd arbenigol.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Bydd dysgu seiliedig ar waith yn ein hystafell lletygarwch bwrpasol ar y safle a’r ceginau cyfagos yn eich paratoi ar gyfer y diwydiant i ddod yn rheolwr gwesty a lletygarwch medrus yn un o’r diwydiannau mwyaf yn fyd-eang.
Gallwch ddewis lleoliad gwaith blwyddyn o hyd yn y DU neu dramor gyda’n llwybr Rheoli Gwesty a Lletygarwch Rhyngwladol gydag Interniaeth. Mae’r lleoliadau yn y gorffennol yn cynnwys Walt Disney World yn Florida, Silverstone Grand Prix, Gwesty a Sba The Royal Crescent (Caerfaddon), Greenwich Country Club (UDA), a Thwrnamaint Golff Agored yr Alban.
Bydd cyfle i elwa ar weminarau byw, darlithwyr gwadd a chyfleoedd mentora gydag arbenigwyr yn y diwydiant. Byddwch yn ein gadael fel gweithiwr proffesiynol sy’n barod ar gyfer y diwydiant ac sy’n barod i gynnig profiadau sy’n creu atgofion ac yn cael effaith, a hynny fel uwch reolwr yn y sector gwesty a lletygarwch rhyngwladol.
Byddwch yn astudio modiwlau rheoli a lletygarwch craidd penodol, a bydd amrywiaeth o opsiynau i’ch galluogi i deilwra’r cwrs i’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfa. Bydd opsiwn hefyd i astudio iaith fel rhan o’ch gradd; Ffrangeg, Sbaeneg neu Fandarin, a gellir cario’r rhain drosodd i’r flwyddyn olaf. Mae’r modiwlau craidd cyffredin yn cynnwys:
• Gweithrediadau Gwesty a Lletygarwch Ymarferol
• Gweithrediadau Gwesty, Tactegau a Gwneud Penderfyniadau
• Rheoli Gwesty a Lletygarwch Cynaliadwy mewn Byd sy’n Newid
• Bydd y sgiliau a ddysgwch yn galluogi datblygu ar gyfer swyddi uwch reolwyr mewn cyfnod cymharol fyr, a hynny mewn amrywiaeth eang o feysydd.
• Mae’r rhain yn cynnwys cyflogaeth mewn gwestai, bwytai, clybiau, bariau, rheoli safleoedd manwerthu trwyddedig, rheoli cynadleddau a digwyddiadau, personél a marchnata ym maes lletygarwch – yn ogystal ag adrannau lletygarwch yn y lluoedd arfog, contractau, y gwasanaeth iechyd ac arlwyo lles.
• Mae’r cyrchfannau yr aeth graddedigion iddynt yn y gorffennol yn cynnwys Rheolwr Gradd yn The Manor House (rhan o’r ‘Exclusive Collection’) a Chyfarwyddwr Rheoli Refeniw yn The Peninsula, Llundain.
“I mi, roedd y cwrs yn Met Caerdydd yn allweddol i gyrraedd lle rydw i heddiw. Mae dysgu’r theori y tu ôl i’r gweithrediadau wedi chwarae rhan enfawr yn fy natblygiad fel arweinydd yn The Manor House. Roedd meddu ar ddealltwriaeth frwd o reolaeth strategol, busnes ac arferion ariannol ochr yn ochr â rheoli adnoddau dynol yn golygu bod symud i rôl rheoli yn llawer haws nag y byddai wedi bod pe na bawn wedi penderfynu dilyn cwrs gradd yn Met Caerdydd.”
Gareth Rees
Rheoli Gwesty a Lletygarwch
Rhyngwladol – BA (Anrh) ac Uwchreolwr yn The Manor House
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser yn dibynnu ar ddilyn cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–112 o Bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r radd hon sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn agor byd o gyfleoedd.
Llwybrau sydd ar gael:
• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol – BA (Anrh)
• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol gydag Interniaeth – BA (Anrh)
Mae’r ddau lwybr wedi’u hachredu’n broffesiynol gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI). Rydym hefyd yn falch o fod yn Bartner Addysgol ABTA, sef y gymdeithas arweiniol o asiantaethau teithio a gweithredwyr teithiau, ac mae hyn yn golygu eich bod yn gallu gwneud cais am Interniaeth ABTA cystadleuol.
Ategir eich dysgu gan ymchwil a wneir gan Ganolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru (WCTR), y Gymdeithas
Twristiaeth mewn Addysg Uwch (ATHE) a’n staff academaidd. Er mwyn eich helpu i archwilio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant amrywiol a gwydn hwn, mae ein gradd Rheoli
Twristiaeth Ryngwladol yn cynnig cyfuniad o wybodaeth graidd sy’n adlewyrchu’r cyd-destun economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ac ymarfer twristiaeth, wedi’i ategu gan theori rheoli drylwyr.
Hyd yma, mae myfyrwyr wedi mynd ar leoliadau dramor ac yn y DU. Roedd y lleoliadau tramor yn cynnwys Universal Studios, Disney, amrywiaeth o westai a chlybiau gwledig yn UDA, Camp America, cwmnïau awyrennau fel
Virgin Atlantic yn ogystal â lleoliadau Ewropeaidd gyda gweithredwyr teithiau fel TUI. Yn y DU, mae myfyrwyr wedi gweithio i amrywiaeth o sefydliadau fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Gymdeithas Hostelau Ieuenctid, Maes Awyr Caerdydd ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Er mwyn gwella cynnwys y modiwl mae’r cwrs yn defnyddio arbenigedd nifer o arbenigwyr yn y diwydiant gan gynnwys: Croeso Cymru, Maes Awyr Caerdydd a Stadiwm Principality, Arena Utilita Caerdydd, CADW, Castell Caerdydd a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn ymweliadau ag amrywiaeth o atyniadau i dwristiaid a chyrchfannau sy’n cysylltu theori â bywyd go iawn o safbwynt y DU, Ewrop ac yn rhyngwladol.
Modiwlau nodweddiadol
Byddwch yn astudio nifer o fodiwlau craidd sy’n ymwneud yn benodol â rheoli a thwristiaeth gydag amrywiaeth o opsiynau i’ch galluogi i deilwra’ch gradd i’ch diddordebau a’ch dyheadau gyrfa. Bydd opsiwn hefyd i astudio iaith fel rhan o’ch gradd; Ffrangeg, Sbaeneg neu Fandarin, a gellir cario’r rhain drosodd i’r flwyddyn olaf. Mae’r modiwlau cyffredin yn cynnwys:
• Yr Amgylchedd Twristiaeth Byd-eang
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
• Rheoli Cyrchfannau
• Twristiaeth a Heriau Byd-eang
• Mae’r diwydiant twristiaeth yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa, a byddwch mewn sefyllfa dda i sicrhau swyddi rheoli yn y DU a thramor.
• Mae cyfleoedd yn bodoli ym meysydd marchnata a chynllunio cyrchfannau, gweithrediadau meysydd awyr a chwmnïau hedfan, gweithrediadau teithio, rheoli digwyddiadau, rheoli chwaraeon a marchnata sefydliadau twristiaeth cenedlaethol a lleol, ac atyniadau i ymwelwyr.
• Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio yn TUI, Bluestone, True Travel a Hangloose Adventure (Prosiect Eden).
• Mae modd hefyd symud ymlaen i wneud astudiaethau ôl-radd arbenigol yn y Brifysgol
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser yn dibynnu ar ddilyn cwrs sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–12 o Bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
“Mae’r cwrs Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn ddiddorol iawn – rydym wedi astudio cymaint o wahanol agweddau ar y diwydiant twristiaeth; mae’n fonws fy mod hefyd yn gallu dysgu Sbaeneg ar yr un pryd, sy’n andros o ddefnyddiol! Yr hyn rwyf yn fwyaf balch ohono yw cael gweithio i’r digwyddiad rasio cynaliadwy, Extreme E, yn yr Alban lle cefais gyfle i rwydweithio a chwrdd â phobl anhygoel.”
Sophie Bowen Evans Rheoli Twristiaeth Ryngwladol – BA (Anrh)
P’un a ydych chi’n frwd dros ddylunio, neu farchnata, prynu a rheoli brand, bydd ein graddau ffasiwn yn datblygu eich sgiliau creadigol a busnes er mwyn ymuno â’r diwydiant cyffrous hwn.
O ddylunio a chreu dillad, i farchnata, rheoli brand a rhagweld tueddiadau, bydd ein cyrsiau gradd sy’n canolbwyntio ar yrfa yn eich paratoi ar gyfer dyfodol mewn ffasiwn.
Cyrsiau
150 Dylunio Ffasiwn – BA (Anrh)
152 Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh)
152 Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
94 Graddau Rheoli Marchnata
Dod yn ddylunydd cyfrifol sy’n barod i siapio’r diwydiant.
Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio eich doniau unigol drwy’r broses ddylunio broffesiynol. Fe’i cynlluniwyd i adlewyrchu arferion cyfoes ac i’ch ysbrydoli i lwyddo yn y diwydiant hwn sy’n datblygu’n barhaus. Mae’r radd yn ymgorffori gwreiddioldeb a chymryd risg yn y broses ddylunio, o’r cysyniad i’r cynnyrch terfynol, gydag ystyriaeth i hyfywedd masnachol, arbrofi a chreadigrwydd yn rhan greiddiol ohoni. Byddwch hefyd yn dod i ddeall y materion moesegol sy’n wynebu’r diwydiant ffasiwn.
Byddwch yn gweithio ar eich portffolio o’r dechrau – dyma eich ffordd i mewn i’r byd ffasiwn. Byddwch yn ei lunio, yn ei fireinio ac yn craffu arno bob blwyddyn, felly erbyn i chi raddio bydd yn barod i arddangos eich talent a’ch corff o waith.
(Cydnabyddiaeth: Benedict Das – Dylunydd Gradd – Dillad Dynion yn Burberry)
Mae’r Brifysgol yn aelod proffesiynol o Gyngor Ffasiwn Prydain a Sefydliad Ffasiwn Graddedigion sy’n cynnig cyfle i gael mynediad at rwydweithiau’r diwydiant, cystadlaethau byw a digwyddiadau cyffrous fel Wythnos Ffasiwn Graddedigion.
Byddwch yn treulio amser yn ein stiwdios ffasiwn pwrpasol ac yn ein cyfleusterau ehangach yn datblygu eich gwybodaeth mewn amrywiaeth o sgiliau ymarferol a phroffesiynol, gan gynnwys:
• Deall a chymryd rhan mewn ymchwil creadigol
• Archwilio’r broses ddylunio drwy arbrofi ac ymgymryd â datblygiadau perthnasol
• Tynnu lluniau ffasiwn, cyfathrebu a darlunio
• Torri patrymau
• Cynhyrchu dillad gan ddefnyddio offer diwydiannol arbenigol
• Cyfuno theori dylunio ag ymarfer
• Defnyddio Adobe Creative Suite, meddalwedd CAD ac adnoddau digidol eraill
• Dadansoddi a rhagweld tueddiadau’r farchnad, ffabrig a lliwiau
Wrth i chi feistroli’r sgiliau hyn, byddwch yn dechrau creu dillad ac yn dod â’ch dyluniadau’n fyw.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2024. Felly, gallai’r modiwlau a nodir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
Mae BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn
rhaglen a addysgir yn yr Ysgol Gelf a Dylunio. Gweler tudalennau 46 i 49 i gael gwybodaeth am y cyfleusterau a’r cwricwlwm rhyngddisgyblaethol.
• Byddwch yn dod yn ymarferydd ffasiwn sydd â sgiliau amrywiol, ac sy’n hyblyg, yn ddyfeisgar ac yn greadigol; bydd gennych sgiliau trosglwyddadwy a rhyngbersonol sydd wedi’u datblygu’n dda. Mae graddedigion wedi manteisio ar gyfleoedd gydag amrywiaeth eang o frandiau adnabyddus gan gynnwys Burberry, Givenchy Paris, Renli Su, Julien McDonald, Tu at Sainsbury’s Seasalt.
• Yn ogystal â rôl y dylunydd, mae arbenigeddau a llwybrau gyrfa cysylltiedig yn cynnwys: technoleg dillad, dylunio ategolion, prynu ar gyfer manwerthu, darlunio ffasiwn, marchnata, steilio ffasiwn, dylunio tecstilau, cysylltiadau cyhoeddus ffasiwn neu ysgrifennu am ffasiwn.
“Rydw i wedi dysgu cymaint diolch i’r cyfleoedd sydd ar gael wrth astudio Dylunio Ffasiwn, ac rydw i wedi datblygu nifer o gysylltiadau yn y diwydiant. Wrth astudio cefais gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai, a byddaf yn defnyddio’r
sgiliau a ddysgais gyda mi yn fy ngyrfa.”
Megan Haf Jones Dylunio Ffasiwn – BA (Anrh)
Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar gyflawni lleoliad blwyddyn o hyd
Gofynion mynediad: 96–120 o Bwyntiau UCAS yn ogystal â phortffolio a chyfweliad
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Sganiwch i wylio uchafbwyntiau o Sioe Ffasiwn
Graddedigion 2023
Rhowch hwb i’ch gyrfa yn y diwydiant ffasiwn deinamig a byd-eang.
Wedi’u datblygu ar y cyd ag anghenion y diwydiant ffasiwn, bydd ein graddau Rheoli Ffasiwn arbenigol yn cynnig cyfuniad i chi o theori academaidd a phrofiad o’r diwydiant yn y byd go iawn – bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd posibl ym myd cyffrous ffasiwn.
Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand – BA (Anrh)
Os ydych chi’n breuddwydio am ddatblygu gyrfa ym maes prynu, rhagweld tueddiadau, marchnata a rheoli brand y diwydiant ffasiwn, gallai’r radd hon fod yn berffaith i chi. Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau gyda phwyslais ar reoli brandiau a chynnyrch yn broffesiynol ar bob lefel, o werth ffasiwn, labeli annibynnol, brandiau cynaliadwy, brandiau moethus rhyngwladol, ynghyd â chyfleoedd ymchwil i greu brandiau yn y farchnad ffasiwn fyd-eang.
Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh)
Cyfuniad unigryw o ffasiwn, marchnata a rheoli ar gyfer unigolion sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y diwydiant ffasiwn byd-eang bywiog. Byddwch yn archwilio pwnc amrywiol marchnata ffasiwn gan ganolbwyntio ar ymddygiad y cwsmer, datblygu ymgyrchoedd marchnata creadigol a marchnata rhyngwladol ar gyfer y diwydiant ffasiwn sy’n canolbwyntio ar y dyfodol.
Graddau Achrededig CIM
Mae’r ddwy radd Rheoli Ffasiwn wedi cael statws ‘Gradd Achrededig’ CIM – mae’r achrediad hwn yn rhoi cyfle i chigael eich eithrio o gymwysterau Tystysgrif CIM mewn Marchnata Proffesiynol a’r Diploma mewn Marchnata Proffesiyn.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Beth am baratoi ar gyfer y diwydiant I sicrhau eich bod yn cael profiad ymarferol, byddwch yn cael eich cefnogi i ddod o hyd i leoliad gwaith perthnasol sy’n gysylltiedig â ffasiwn yn ystod yr ail flwyddyn, gan ennill profiad gwerthfawr a chyfleoedd i rwydweithio yn y diwydiant. Bydd gennych hefyd yr opsiwn i dreulio blwyddyn mewn diwydiant rhwng eich ail a thrydedd flwyddyn. Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys Dior, Very, Boohoo a Michael Kors (Shanghai).
Bydd pob myfyriwr Rheoli Ffasiwn yn dilyn blwyddyn gyntaf gyffredin lle byddwch yn cael eich cyflwyno i’r cysyniad o farchnata ffasiwn, yn ogystal ag astudio meysydd Delweddu Ffasiwn, Egwyddorion
Astudiaethau Ffasiwn a Chyfryngau Digidol ar gyfer
Marchnatwyr. Yn ystod yr ail flwyddyn a’ch blwyddyn olaf byddwch yn arbenigo yn eich arbenigedd dewisol gydag amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Mae’r modiwlau craidd cyffredin yn cynnwys:
• Cyflwyniad i Farchnata Ffasiwn
• Ymddygiad y Cwsmer Ffasiwn
• Cyfathrebu Marchnata Creadigol ar gyfer Ffasiwn
• Dulliau Ymchwil ar gyfer Marchnata
Gan fod creadigrwydd yn nodwedd werthfawr iawn yn y diwydiant ffasiwn, mae’r traethodau wedi’u cynllunio i ddatblygu eich syniadau, annog cymryd risgiau a’ch cefnogi i greu detholiadau a deunyddiau brandio o safon diwydiant.
• Ar ôl cwblhau’r radd mewn Rheoli Marchnata Ffasiwn bydd gennych y sgiliau i gael swydd ym maes marchnata ffasiwn, fel hysbysebu, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata digidol ac e-fasnach, ysgrifennu ffasiwn, marchnata ac ymchwil defnyddwyr, gwerthu a datblygu brand, dylunio profiad defnyddwyr, a rheoli busnes.
• Bydd ein gradd mewn Prynu Ffasiwn a Rheoli Brand yn datblygu eich gwybodaeth a’ch profiad er mwyn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes prynu, gwerthu, canfod, datblygu cynnyrch, ymchwil i dueddiadau, rheoli cynnyrch, marchnata, datblygu brand, busnes a rheoli a mwy.
• Mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i frandiau fel Dior, River Island, Ralph Lauren, Very, Frasers Group, QVC a mwy.
“Roedd y modiwlau’n ein hannog i archwilio gwahanol rannau o’r diwydiant ffasiwn, ac arweiniodd hynny at ddatgelu fy nghysylltiad dwfn â byd ffasiwn moethus. Roeddwn i’n gallu uniaethu â chrefftwaith manwl, treftadaeth gyfoethog, a cheinder diamheuol y sector hwn. Yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant fe wnes
i edrych ar hyn drwy gael lleoliad yn Dior, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais gyfle i ymchwilio ymhellach i’m diddordeb.”
Kayleigh Groenewald
Graddedig Rheoli Marchnata Ffasiwn – BA (Anrh) ac Intern yn Dior
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser yn dibynnu ar ddilyn cwrs
sylfaen (gweler tudalen 34) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 o Bwyntiau UCAS
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2024. Felly, gallai’r modiwlau a nodir yma newid. Edrychwch ar ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn cyflwyno cais.
Cyrsiau
Mae myfyrwyr sy’n ymgymryd â graddau Gwyddor Bwyd, Maeth a Dieteteg yn elwa ar y cysylltiad agos â’r staff yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a’r defnydd o’i chyfleusterau modern, sy’n cynnwys cyfleusterau peilot ar gyfer prosesu bwyd, ceginau datblygu a phrofi, ac ystafell gwerthuso’r synhwyrau.
Hefyd, mae’r myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau ZERO2FIVE â’r diwydiant bwyd a diod, gan ddarparu cyfleoedd ar gyfer briffiau datblygu cynnyrch newydd ac astudiaethau achos, lleoliadau diwydiannol a mynediad at swyddi gwag i raddedigion.
Cyrsiau
156 Gwyddor Bwyd a Maeth – BSc (Anrh)
158 Maethiad Dynol a Dieteteg – BSc (Anrh)*
*Wedi’i ariannu’n llawn gan fwrsari’r GIG gyda hyfforddiant seiliedig ar waith wedi’i wreiddio drwy gydol y rhaglen.
Cyrsiau cysylltiedig
32 Cwrs sylfaen yn arwain at BSc Gwyddorau Iechyd
80 Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth) – BSc (Anrh)
BSc (Anrh)
Mae BSc (Anrh) Gwyddor
Bwyd a Maeth yn radd gyffrous sy’n rhoi cyfle i chi lunio eich astudiaethau i ddarparu sylfaen gref ar gyfer yr yrfa o’ch dewis.
Chi sy’n penderfynu sut bydd eich gradd yn edrych wrth i chi ddeall mwy am y meysydd pwnc. Bydd eich dewisiadau hefyd yn adlewyrchu sut mae eich diddordebau yn datblygu, a sut mae cyflawni eich nodau gyrfa yn y ffordd fwyaf effeithiol.
Drwy gael mynediad a defnydd o’n cyfleusterau rhagorol ar y safle sy’n cynnwys ystafell synhwyraidd i ddefnyddwyr, pedwar peiriant peilot, cegin ddatblygu a chysylltiadau agos rhwng y cwrs a Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, sicrheir deialog barhaus gyda diwydiant a fydd yn gwella eich astudiaethau gyda ni.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
“Byddai’r tîm addysgu yn aml yn rhoi
gwybod i ni am gyfleoedd profiad gwaith, ac roeddwn i’n cymryd rhan ynddyn nhw gymaint â phosibl. Arweiniodd hyn at ennill profiad fel cynorthwyydd
ymchwil gwirfoddol gydag Iechyd
Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â bod yn rhan o brosiect bwyd ‘dim gwastraff’ yn y brifysgol. Erbyn hyn rwy’n gweithio
fel Maethegwr yn Holroyd Howe ac rwy’n gallu defnyddio popeth a ddysgais
ym Met Caerdydd yn fy nyletswyddau o ddydd i ddydd.”
Alice Jefferis
Gwyddor Bwyd a Maeth – BSc (Anrh) a Maethegwr yn
Holroyd Howe
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32) a/neu flwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–104 o Bwyntiau
UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r ddau lwybr yn dilyn blwyddyn astudio gyntaf gyffredin, ac ar ôl hynny byddwch yn dewis un o’r llwybrau a enwir. Mae’r flwyddyn gyntaf honno’n eich galluogi i ennill sgiliau allweddol ar gyfer gweithio mewn amrywiaeth o rolau mewn ystod o sefydliadau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall y modiwlau cyffredin yn yr ail flwyddyn gynnwys:
• Asesu a Gwella Iechyd y Boblogaeth
• Biocemeg a Ffisioleg Faethol
Gwyddor Bwyd a Maeth
Mae’r llwybr (Maeth Dynol), sydd wedi’i achredu gan y Gymdeithas Maetheg, yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i’ch helpu i ymarfer fel Maethegwr Cofrestredig yn y dyfodol. Byddai myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio fel maethegwr llawrydd neu mewn ymgymryd ag astudiaeth bellach i ddod yn ddeietegydd y GIG yn dewis modiwlau mewn seicoleg iechyd a biocemeg a ffisioleg faethol.
Mae’r llwybr Gwyddor Bwyd a Maeth (Ansawdd, Diogelwch ac Arloesi), sydd wedi’i achredu gan y Sefydliad Gwyddor Bwyd a Thechnoleg yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gefnogi agweddau technegol sefydliadau sy’n gweithredu yn y sector diwydiant bwyd yn fyd-eang. Sicrheir y cysylltiad diwydiannol mwyaf posibl i’r myfyrwyr drwy gynnwys ymweliadau diwydiannol a phrofiad gwaith diwydiannol.
• Ansawdd, Cyfansoddiad a Labelu Bwyd
• Diogelwch Microbiolegol a Dadansoddiad Cemegol o Fwyd
• Fel Gwyddonydd Bwyd, bydd gyrfa yn y diwydiant bwyd yn eich rhoi yng nghanol y gweithgarwch economaidd mwyaf a phwysicaf yn y byd; bob blwyddyn mae ein myfyrwyr wedi mynd ymlaen i wneud amrywiaeth eang o rolau ym maes gweithgynhyrchu a manwerthu bwyd.
• Fel Maethegwr mae amrywiaeth o opsiynau ar gyfer datblygu fel maethegwr cofrestredig mewn maeth Iechyd Cyhoeddus, maetheg chwaraeon, Dieteteg cofrestredig y GIG a mwy.
• Bydd y radd hon hefyd yn rhoi sylfaen gref i chi ymgymryd ag astudiaeth bellach ar lefel gradd meistr neu PhD ar ôl graddio.
Wedi’i chymeradwyo’n broffesiynol gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal a Chymdeithas Ddeieteg Prydain, mae dwy brif elfen i’r radd hon:
• Y gydran ymarfer academaidd ac efelychiadol ar y campws
• Tri lleoliad hyfforddiant clinigol ar wahân mewn lleoliadau clinigol a chymunedol yng Nghymru
Mae’r ddwy elfen yn hanfodol ar gyfer cyflawni amcanion y cwrs a dyfarnu’r radd gyda chymhwysedd i wneud cais i’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal i gofrestru fel Deietegydd.
Mae’r cwrs yn gofyn i chi gwblhau a llwyddo mewn tri lleoliad llawn amser yn y GIG:
• Lleoliad un: am 6 wythnos yn ystod yr ail flwyddyn (Mai – Mehefin)
• Lleoliad dau: am 8 wythnos ar ddechrau’r drydedd flwyddyn (Medi – Hydref)
• Lleoliad tri: am 14 wythnos yn ystod y drydedd flwyddyn (Ionawr – Ebrill)
Mae pob lleoliad yn gofyn i fyfyrwyr ddangos cymwyseddau mewn sgiliau deietegol penodol. Mae lleoliadau dau a thri yn cynnwys elfennau lefel chwech a asesir sy’n cyfrannu at ddosbarthiad y radd derfynol.
Drwy gydol eich astudiaethau bydd gennych fynediad at y cyfleusterau modern ar y campws yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE a’r Hyb Iechyd Clinigol Perthynol.
Mae’r ffioedd dysgu ar gyfer mynediad yn 2025 yn cael eu talu’n llawn drwy fwrsariaeth y GIG
Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2025 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/nhsbursaries
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Mae addysg ryngbroffesiynol ddilys wrth wraidd ein Hyb Iechyd Clinigol Perthynol newydd. Mae’n ofod pwrpasol sy’n galluogi amrywiaeth o broffesiynau iechyd i ddod at ei gilydd i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr mewn amgylchedd uwch-dechnoleg efelychiadol, ac un sy’n cynnig gwasanaethau clinigol dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer y gymuned leol.
Mae’r cyfuniad o ddulliau efelychiadol arloesol ar gyfer addysgu a dysgu ochr yn ochr â gweithio mewn cyfleusterau clinigol go iawn tebyg i rai ar gyfer cleifion allanol mewn timau amlddisgyblaethol yn cynnig cyfle sydd gyda’r gorau yn y sector i’n myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr cymwys sy’n gallu cynnig y gofal gorau posibl i’w cleifion.
• Biocemeg a Ffisioleg Ddynol
• Anatomi a Ffisioleg Ddynol
• Maeth (Macro a Microfaethynnau)
• Sgiliau Allweddol ac Egwyddorion Deieteg
• Seicoleg Iechyd a Llesiant
• Maetheg ar gyfer y Boblogaeth a Chylch Bywyd
“Mae gan y radd Maethiad Dynol a Dieteteg ym Met Caerdydd hanes
llwyddiannus a maith o hyfforddi deietegwyr ac mae hefyd yn cynnig teitl gwarchodedig cydnabyddedig ar ôl graddio sy’n eich galluogi i ymarfer yn gyfreithiol fel deietegydd proffesiynol”
Brandon Harper Maethiad Dynol a Dieteteg – BSc (Anrh)
Mae deietegwyr yn gweithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau ac mae ein graddedigion fel arfer yn dechrau eu gyrfa yn GIG Cymru. Mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach i amrywiaeth eang o leoliadau gan gynnwys swyddi clinigol uwch mewn lleoliadau cleifion mewnol a chymunedol; prosiectau iechyd y cyhoedd a chymunedol; ymchwil, y cyfryngau, practis preifat, diwydiant ac addysg.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn blwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 o Bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyrsiau
162 Technoleg Ddeintyddol – BSc (Anrh)
164 Podiatreg – BSc (Anrh)*
166 Therapi Lleferydd ac Iaith – BSc (Anrh)*
* Wedi’i ariannu’n llawn gan fwrsari’r GIG gyda hyfforddiant seiliedig ar waith wedi’i wreiddio drwy gydol y rhaglen.
Cyrsiau cysylltiedig
32 Cwrs sylfaen yn arwain at BSc
Gwyddorau Iechyd
36 Cwrs sylfaen yn arwain at BA/BSc
Gwyddorau Cymdeithasol
78 Gwyddor Biofeddygol
– BSc (Anrh)
80 Gwyddor Biofeddygol (Iechyd, Ymarfer Corff a Maeth)
– BSc (Anrh)
82 Gwyddor Gofal Iechyd
– BSc (Anrh)*
158 Maethiad Dynol a Dieteteg
– BSc (Anrh)*
Nod y radd hon yw cynhyrchu technolegwyr deintyddol
sy’n gallu saernïo llenwadau, prosthesisau a dyfeisiau deintyddol, fel corunau a phontydd unigryw, dannedd gosod neu gyfarpar
orthodontig i safon uchel.
Defnyddir dulliau ymarferol (analog) a digidol i addysgu dylunio a gweithgynhyrchu cyfarpar. Mae’r cwrs yn ceisio ehangu dealltwriaeth o feysydd technoleg ddeintyddol newydd a’r rhai sy’n datblygu, yn enwedig digideiddio. Felly, mae’r adran technoleg ddeintyddol yn cynnwys yr offer i gyd, nid yn unig ar gyfer cynhyrchu analog, ond mae ganddi hefyd ystafell ddigidol o’r radd flaenaf gyda deg cyfrifiadur sy’n darparu mynediad at feddalwedd safonol y diwydiant fel Medit, Exocad a Blender for Dental; yn ogystal ag offer argraffu 3D ar gyfer dulliau gweithgynhyrchu awtomataidd.
Mae ein labordai deintyddol yn cynnwys offer i’ch galluogi i ymgymryd ag ymarferion ymarferol ym meysydd prosthodonteg ac orthodonteg sefydlog a symudol. Bydd gennych eich mainc eich hun yn y labordy, gyda micro-fodur, cyfarpar tynnu personol, lamp golau dydd uwchben, llosgydd Bunsen a gwresogydd anwythol. Rydym yn darparu’r holl offer canolig a mawr eraill yn yr ystafell blastro gymunedol bwrpasol. Mae gennym hefyd ystafell CAD/ CAM gwbl weithredol, gyda meddalwedd CAD, sganwyr deintyddol, ac argraffwyr 3D ar gyfer technegau deintyddol modern.
Mae’r radd hon yn cael ei chynnal mewn cydweithrediad agos ag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru a fydd yn cyflwyno, yn asesu ac yn gyfrifol am draean o’r cwrs. Fel myfyriwr technoleg ddeintyddol, byddwch y gweithio gyda deintyddion ac ymgynghorwyr dan hyfforddiant yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Byddwch yn astudio modiwlau ar draws y tair blynedd sy’n cynnwys canolbwyntio ar anatomeg a ffisioleg ddeintyddol, dannedd gosod llawn a rhannol y gellir eu tynnu, llenwadau sefydlog, CAD/ CAM mewn Deintyddiaeth, deunyddiau deintyddol, a bod yn broffesiynol mewn deintyddiaeth. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau labordy deintyddol arbenigol ar y safle a byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan diwtor personol penodol.
Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn, byddwch hefyd yn ymgymryd â lleoliadau gwaith gydag Ymddiriedolaeth Ysbyty Deintyddol Prifysgol Cymru. Bydd y lleoliadau hyn yn eich galluogi i gael y profiad angenrheidiol o gynhyrchu cyfarpar, llenwadau a phrosthesisau ar gyfer cleifion.
Mae rhagolygon gyrfa ein graddedigion yn rhagorol. Cyflogir Technolegwyr Deintyddol yn y GIG, labordai masnachol, practisau preifat ac ysgolion deintyddol. O fewn y Gwasanaeth Iechyd mae strwythur gyrfa clir sy’n amrywio o raddfeydd Uwch Swyddogion, Prif Swyddogion ac Uwch Brif Swyddogion. O fewn y sector masnachol, ar ôl rhai blynyddoedd o brofiad, byddai modd dod yn berchennog neu’n rheolwr labordy masnachol.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion
mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96 o Bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
“Mae’r staff addysgu yn wych. Maen nhw mor broffesiynol, ond ar yr un pryd maen nhw’n gyfeillgar dros ben. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, fe gawsom lawer o arweiniad a chymorth gan y darlithwyr. Mae eu brwdfrydedd ynghylch y modiwlau maen nhw’n eu haddysgu, ynghyd â’u gwybodaeth, yn eich ysbrydoli ac yn creu awydd i lwyddo yn y cwrs. Maen nhw’n cyflwyno’r holl wybodaeth a thechnegau hanfodol ac yn ein goruchwylio ar bob cam.”
Urszula Lotowska Technoleg Ddeintyddol – BSc (Anrh)
Mae ein gradd sydd wedi’i hachredu’n broffesiynol yn cynnig gwrthbwysedd rhwng theori ac ymarfer sy’n ymgorffori technoleg ac ystod o ddulliau dysgu ac addysgu creadigol. I greu amrywiaeth o ddulliau ac amgylcheddau dysgu rydym yn integreiddio gweithio rhyngddisgyblaethol a chymuned sy’n dysgu; gan ymgorffori Realiti Rhithwir ac Efelychiadau.
Bydd y profiadau a gewch drwy gydol y radd yn eich galluogi i fod yn weithiwr proffesiynol hyblyg yn y sector. Byddwch yn cael profiadau mewn gwahanol sectorau gofal iechyd a byddwch hefyd yn cael cyfleoedd i archwilio eich diddordebau eich hun drwy leoliadau cenedlaethol a mewnol yn ein clinig ar y safle. Bydd y profiadau hyn i gyd yn eich paratoi i fod yn bodiatrydd yn y GIG neu yn y sector preifat.
Mae gennym leoliadau allanol ar draws Byrddau Iechyd Prifysgol y GIG yng Nghymru, yn ogystal â chyfleoedd i ymweld â phractisiau preifat sy’n canolbwyntio ar anafiadau chwaraeon a chyflyrau cyhyrysgerbydol.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Rydym yn cynnal clinigau’r GIG lle mae amrywiaeth o gleifion y GIG yn cael eu trin gan ein myfyrwyr podiatreg dan oruchwyliaeth podiatryddion y GIG. Er mwyn archwilio eich diddordebau ymhellach, byddir yn mynd ar leoliad allanol ym mhob un o dair lefel y rhaglen. Ar ddiwedd y drydedd flwyddyn, bydd cyfle i chi fynd ar leoliad gwaith arall.
Modiwlau nodweddiadol
Mae’r radd yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar achosion sy’n eich galluogi i ddatblygu sgiliau rhesymu, dadansoddi ac ymarferol gyda chymorth senarios go iawn. Mae’r pwyslais ar eich cefnogi i droi theori yn ymarfer er mwyn dod yn hyderus ac yn wybodus ym maes podiatreg. Mae’r modiwlau cyffredin yn cynnwys:
• Ymarfer Podiatrig Integredig
• Ymarfer Podiatrig Cymhwysol
• Ymarfer Podiatrig Estynedig
• Theori Ymarfer Podiatrig
Cyfleusterau Clinigol Podiatreg
Byddwch yn cael profiad clinigol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, gan gynnwys clinig newydd sbon gyda sawl cadair ar y safle, labordy cerddediad arloesol, labordy gweithgynhyrchu orthosis cyflawn, ystafell bwrpasol ar gyfer llawdriniaeth ar yr ewinedd a chlinig clwyfau arbenigol.
Mae addysg ryngbroffesiynol ddilys wrth wraidd ein Hyb Iechyd Clinigol Perthynol newydd. Mae’n ofod pwrpasol sy’n galluogi amrywiaeth o broffesiynau iechyd i ddod at ei gilydd i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr mewn amgylchedd uwch-dechnoleg efelychiadol, ac un sy’n cynnig gwasanaethau clinigol dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer y gymuned leol.
Mae’r cyfuniad o ddulliau efelychiadol arloesol ar gyfer addysgu a dysgu ochr yn ochr â gweithio mewn cyfleusterau clinigol go iawn tebyg i rai ar gyfer cleifion allanol mewn timau amlddisgyblaethol yn cynnig cyfle sydd gyda’r gorau yn y sector i’n myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr cymwys sy’n gallu cynnig y gofal gorau posibl i’w cleifion.
Mae galw am bodiatryddion yn y GIG ac yn y sector preifat.
• Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i ymarfer fel Podiatrydd (yn amodol ar gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal).
• Gall graddedigion hefyd ddewis symud ymlaen i astudiaethau ôlradd yn yr adran fel rhan o’r MSc Ymarfer Uwch (Astudiaethau Cyhyrysgerbydol).
• Mae’r ystod eang o glinigau sydd ar gael yn rhoi mynediad at ystod eang o gleifion a’r cyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau clinigol sy’n bwysig ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Mae’r ffioedd dysgu ar gyfer mynediad yn 2025 yn cael eu talu’n llawn drwy fwrsariaeth y GIG
Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2025 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/nhsbursaries
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu ar ddilyn y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–104 o bwyntiau UCAS
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r radd hon wedi’i hachredu’n broffesiynol gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac mae’n cynnig cyfle i chi ymuno â phroffesiwn cyffrous fel Therapydd Lleferydd ac Iaith.
Byddwch yn cael eich addysgu gan dîm ymroddedig o ddarlithwyr sy’n cynnwys therapyddion lleferydd ac iaith profiadol gydag ystod eang o arbenigeddau, yn ogystal ag ymchwilwyr sy’n adnabyddus ar lefel ryngwladol. Mae gennym gysylltiadau hirsefydlog â’r GIG, ac mae pob un o’n myfyrwyr yn cael profiad clinigol ymarferol gydag amrywiaeth o gleientiaid pediatrig sy’n oedolion. Mae’r cyfleoedd lleoliad gwaith yn amrywio’n fawr, o’n clinigau mewnol i ysbytai, clinigau, ysgolion a chanolfannau arbenigol. Y cwrs sy’n trefnu pob lleoliad ac maent yn cynnig amrywiaeth o brofiadau clinigol er mwyn gwella eich rhagolygon cyflogaeth. Byddwch yn datblygu eich arbenigedd mewn asesu a thrin amrywiaeth eang o grwpiau cleientiaid. Barnwyd mai’r cwrs hwn oedd y 4ydd yn y DU a’r 1af yng Nghymru a Lloegr o ran boddhad myfyrwyr yn rhestr sgoriau Therapi Lleferydd ac Iaith y Complete University Guide (2024).
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau a dewisiadau gyrfa
Hyb Iechyd Clinigol Perthynol
Mae addysg ryngbroffesiynol ddilys wrth wraidd ein Hyb Iechyd Clinigol Perthynol newydd. Mae’n ofod pwrpasol sy’n galluogi amrywiaeth o broffesiynau iechyd i ddod at ei gilydd i ddarparu profiad dysgu rhagorol i’n myfyrwyr mewn amgylchedd uwch-dechnoleg efelychiadol, ac un sy’n cynnig gwasanaethau clinigol dan arweiniad myfyrwyr ar gyfer y gymuned leol.
Mae’r cyfuniad o ddulliau efelychiadol arloesol ar gyfer addysgu a dysgu ochr yn ochr â gweithio mewn cyfleusterau clinigol go iawn tebyg i rai ar gyfer cleifion allanol mewn timau amlddisgyblaethol yn cynnig cyfle sydd gyda’r gorau yn y sector i’n myfyrwyr ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ymarferwyr cymwys sy’n gallu cynnig y gofal gorau posibl i’w cleifion.
Mae’r rhaglen hon yn dilyn cwricwlwm a gymeradwywyd gan gorff achrededig; felly, mae pob modiwl yn orfodol.
Mae’r cwrs yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn pynciau sy’n rhan annatod o’r proffesiwn therapi lleferydd ac iaith, fel ieithyddiaeth, ffoneteg, anatomeg, ffisioleg a seicoleg. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o amrywiaeth o anhwylderau iaith a lleferydd penodol mewn oedolion a phlant yn ogystal ag astudio meysydd clinigol mwy arbenigol.
Yn ein modiwl Ymarfer Clinigol ac Ymchwil byddwch yn cwblhau cyfres o ddiwrnodau achos yn ystod yr ail flwyddyn er mwyn parhau i ddatblygu eich sgiliau clinigol ochr yn ochr ag addysgu.
• Mae graddedigion y rhaglen yn gymwys i ymarfer fel Therapyddion Lleferydd ac Iaith (yn amodol ar gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal).
• Mae Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gweithio gyda phobl o bob oed sydd ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, yn ogystal ag anhwylderau llyncu. Mae cyfleoedd ar gael i therapyddion weithio mewn ysbytai, canolfannau iechyd, ysgolion ac unedau arbenigol. Mae rhai clinigwyr yn cael eu cyflogi gan gyrff elusennol neu’n ymgymryd ag ymarfer preifat. Mae cyfleoedd hefyd i weithio dramor.
• Gall graddedigion hefyd ddewis symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd a/neu ymchwil yn yr adran.
“Mantais astudio’r cwrs yw bod modd astudio traean
o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ein dosbarth
Cymraeg yn llai o faint na’r prif ddosbarth sydd yn golygu bod trafodaethau dosbarth
yn gallu bod yn fwy naturiol a bod pawb yn cael cyfle i rannu syniadau”
Gwynon Williams
Therapi Lleferydd ac Iaith – BSc (Anrh)
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3 blynedd yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: ABB/128 o Bwyntiau UCAS o dri phwnc Safon Uwch (neu gyfatebol) yn ddelfrydol i gynnwys Gwyddoniaeth
Mae cyfleoedd i astudio rhan o’r radd hon drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r ffioedd dysgu ar gyfer mynediad yn 2025 yn cael eu talu’n llawn drwy fwrsariaeth y GIG
Mae manylion llawn am fwrsariaethau’r GIG a’r dyraniad ar gyfer mynediad yn 2025 ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/nhsbursaries
P’un a ydych chi’n ystyried gyrfa fel cwnstabl yr heddlu, cyfreithiwr, bargyfreithiwr, troseddegwr neu’n awyddus i weithio yn y maes cyfiawnder troseddol ehangach, mae gennym ni’r cwrs i chi ym Met Caerdydd.
Cyrsiau
170 Cyfraith Busnes a Rheoli – BA (Anrh)
171 Y Gyfraith a Throseddeg – BA (Anrh)
172 Y Gyfraith LLB – (Anrh)
174 Troseddeg – BSc (Anrh)
176 Plismona Proffesiynol – BA (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
34 Sylfaen yn arwain at y Gyfraith
36 Sylfaen yn arwain at BA/BSc Gwyddorau
Cymdeithasol
188 Seicoleg a Throseddeg – BSc (Anrh)
196 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol – BSc (Anrh)
Ehangu eich gorwelion y tu hwnt i’r proffesiynau cyfreithiol traddodiadol.
Mae’r radd hon yn cael ei chydnabod gan y Cyngor Trawsgludwyr Trwyddedig (CLC) a’r Sefydliad Ysgrifenyddion a Chynorthwywyr Personol Cyfreithiol (ILSPA) a bydd yn eich galluogi i ddatblygu set sgiliau addasadwy yn dibynnu ar eich nodau personol a’ch dyheadau gyrfa gyfreithiol arbenigol.
Ein nod yw creu amgylchedd agored, cefnogol ac ysgogol yn ddeallusol a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i’r berthynas rhwng y gyfraith a busnes. Byddwch yn rhoi theori gyfreithiol ar waith yn ein hystafell ffug lys bwrpasol ac yn datblygu eich gwybodaeth a’ch cyflogadwyedd ym meysydd busnes a rheoli.
Cewch ddewis cael profiad gwerthfawr o’r byd go iawn drwy gyflawni blwyddyn ar leoliad mewn diwydiant a byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau â diwydiant drwy ddarlithoedd gwadd gan arbenigwyr cyfreithiol.
Modiwlau nodweddiadol
Mae ein modiwlau wedi’u cynllunio yn unol ag anghenion y diwydiant, er mwyn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn busnes a’r gyfraith er mwyn gwella eich datblygiad personol.
• Diolch i’n cysylltiad â CLC, sy’n unigryw yn y DU, cewch gyfle i gyflawni modiwlau proffesiynol am bris gostyngol mewn profiant a thrawsgludo law yn llaw â’ch astudiaethau israddedig, gan gynyddu eich opsiynau cyflogaeth ar ôl i chi raddio yn sylweddol.
• Yn eich blwyddyn olaf o astudio cewch ddewis cymryd rhan ym ‘Mhrosiect Briff Amicus Curiae’ hefyd gan gyflwyno dadleuon cyfreithiol ac argymhellion mewn achos hawliau dynol cyfredol y gellid ei gyflwyno ar ôl asesu
• Rydym yn gobeithio ehangu eich gorwelion y tu hwnt i broffesiynau traddodiadol cyfreithwyr a bargyfreithwyr i gwmpasu swyddi cyfreithiol proffesiynol eraill, megis Paragyfreithiwr, Ysgrifennydd Cyfreithiol, Technegydd Trawsgludo, Trawsgludwr Trwyddedig ac Ymarferydd Profiant.
• Mae modd camu ymlaen i raglenni ôl-raddedig arbenigol yn y Brifysgol hefyd.
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud lleoliad blwyddyn a/neu flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Archwilio’r berthynas rhwng trosedd, cymdeithas a’r gyfraith.
Os ydych chi’n awyddus i wybod pam mae pobl yn torri’r gyfraith, yn rhyfeddu at benawdau ynghylch euogfarnau anghywir neu eisiau deall ymddygiad troseddol drwy lens gymdeithasol a chyfreithiol, gallai ein gradd arloesol yn y Gyfraith a Throseddeg fod yn berffaith i chi.
Cewch ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o systemau cyfreithiol a dynameg gymdeithasol trosedd. Byddwch yn meithrin meddwl beirniadol, sgiliau dadansoddi a dealltwriaeth dreiddgar o egwyddorion cyfreithiol.
Mae’r radd yn eich grymuso i ganfod llwybr drwy fframweithiau cyfreithiol cymhleth, eirioli dros gyfiawnder a chyfrannu at atal a datrys materion troseddol.
Gydol eich gradd, cewch gyfleoedd niferus i ymchwilio i brofiadau yn y byd go iawn drwy leoliadau gwaith a chysylltiadau â diwydiant. Os byddwch chi’n astudio ar y cwrs pedair blynedd, byddwch yn treulio blwyddyn i ffwrdd o’r Brifysgol ar leoliad gwaith ar ôl blwyddyn dau.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cyflawni lleoliad 15 diwrnod yn gweithio ym maes cyfiawnder troseddol i roi popeth a ddysgwyd gennych yn eich blwyddyn gyntaf ar waith.
Ysgol Reoli Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–5 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud lleoliad blwyddyn a/neu flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112 pwynt UCAS
Gallai hyn fod mewn unrhyw agwedd ar y system cyfiawnder troseddol, gan gynnwys Comisiynau, y Gwasanaeth Sifil, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Cymorth i Ddioddefwyr, Crimestoppers, y trydydd sector megis cymorth digartrefedd, cymorth anghydraddoldeb a gwahaniaethu, ac ymddiriedolaethau ardaloedd lleol, ymysg llawer o bethau eraill.
Mae’r modiwlau seiber cyfoes wedi’u datblygu i’ch diogelu at y dyfodol, gan eich paratoi ar gyfer datblygiadau cyflym a fydd yn anochel yn oes Deallusrwydd Artiffisial.
Byddwch yn ein gadael ni fel gweithiwr proffesiynol craff sy’n barod i sicrhau newid neu weithio yn y system cyfiawnder troseddol a thu hwnt.
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn astudio chwe modiwl gorfodol sy’n eich cyflwyno i Gyfraith a Chyfiawnder Troseddol, System Gyfreithiol Lloegr a phynciau sylfaenol eraill.
• Troseddeg a’r Byd Modern
• Seiberdroseddau, Rhywedd a Chasineb
• Cyfraith Droseddol
• Drwy ymdrin â’r gyfraith a sut y caiff ei defnyddio mewn ffordd feirniadol, byddwch yn meithrin ymwybyddiaeth ddyfnach o gyfiawnder a thegwch i’ch paratoi ar gyfer gyrfaoedd amrywiol yn y proffesiynau cyfiawnder troseddol a chyfreithiol, megis cyfreithiwr, swyddog prawf neu ymchwilydd twyll.
• Bydd ein gradd yn y Gyfraith a Throseddeg yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfreithiol a chyfiawnder troseddol a thu hwnt, mewn meysydd megis Diogelwch Cymunedol, Atal Troseddau, y Swyddfa Gartref neu Swyddog Prawf.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Ein nod yw eich cael chi i feddwl a gweithredu fel cyfreithiwr gyda’n Gradd yn y Gyfraith sy’n seiliedig ar sgiliau.
Mae gradd y Gyfraith LLB yn darparu’r wybodaeth gyfreithiol sylfaenol, a argymhellir gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA) a Bwrdd Safonau’r Bar (BSB), sy’n hanfodol ar gyfer gyrfa yn y gyfraith ac yn eich paratoi ar gyfer y camau nesaf yn eich hyfforddiant cyfreithiol os ydych chi’n dymuno dod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr. Mae’n cynnig dealltwriaeth fanwl bellach o’r fframwaith a’r defnydd o reolau cyfreithiol, a chyfleoedd arloesol i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy ymarferol a phroffesiynol drwy ffug dreialon, cyfweliadau â chleientiaid, chwarae rôl a gweithgareddau clinig y gyfraith.
Mae’r radd yn eich annog i ddatblygu dull chwilfrydig, rhesymegol a beirniadol, cyfathrebu’n gryno a gallu llunio dadleuon darbwyllol ac effeithiol. Byddwch yn rhoi damcaniaeth gyfreithiol ar waith yn ein hystafell ffug lys ac yn cael eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau cydweithredu, cyfathrebu effeithiol, ymchwil gyfreithiol a siarad cyhoeddus.
Cewch brofiad ymarferol gwerthfawr drwy gyflawni modiwl lleoliad gwaith gorfodol ac interniaethau digidol. Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau helaeth â diwydiant hefyd drwy ddarlithoedd gwadd a chyfleoedd rhwydweithio gyda chwmnïau cyfreithiol, arbenigwyr yn y sector cyhoeddus a sefydliadau nid-er-elw.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae ein gradd yn y Gyfraith yn cynnig yr holl fodiwlau sylfaenol sydd eu hangen i fodloni’r gofynion academaidd ar gyfer symud ymlaen i hyfforddiant
Bar i ddod yn fargyfreithiwr, yn ogystal â’r modiwlau craidd canlynol sy’n seiliedig ar sgiliau:
• Cyflogadwyedd Cyfreithiol
• Y Gyfraith ar Waith ac Arloesi Digidol (Clinig Cyfreithiol ac interniaeth ddigidol)
• Sgiliau Cymhwysol mewn Eiriolaeth
Byddwch yn gallu astudio amrywiaeth o fodiwlau dewisol mewn meysydd traddodiadol a chyfoes o’r gyfraith hefyd, gan gynnwys cyfraith fasnachol a diogelu defnyddwyr, cyfraith seiber a diogelu data, cyfraith tystiolaeth, cyfraith teulu, cyfraith amgylcheddol, cyfraith ynni, cyfraith iechyd a lles a chyfraith chwaraeon. Gallwch wneud prosiect traethawd hir ym mlwyddyn olaf y radd hefyd.
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
Ysgol Reoli Caerdydd
Lleoliad Astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112–120 pwynt UCAS
Eich dyfodol
• Os ydych chi am ddod yn gyfreithiwr neu’n fargyfreithiwr, mae’r radd hon yn ddelfrydol i chi. Mae ein gradd yn y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol sydd ei hangen i fodloni’r elfen academaidd o hyfforddiant Bar gyda Bwrdd
Safonau’r Bar (BSB) i ddod yn fargyfreithiwr. Byddwch yn datblygu gwybodaeth gyfreithiol allweddol a sgiliau ymarferol hefyd er mwyn eich paratoi ar gyfer eich Arholiadau
Cymhwyster Cyfreithwyr (SQE) i ddod yn gyfreithiwr.
“Mae astudio gradd y Gyfraith LLB wedi helpu i ddatblygu
fy hyder drwy gyfarfod
â gweithwyr cyfreithiol proffesiynol a siaradwyr
gwadd, cymryd rhan mewn lleoliadau cyfreithiol a rhyngweithio â chyd-fyfyrwyr a darlithwyr. Byddwn yn
argymell yn fawr y dylai
pawb sy’n ystyried astudio’r gyfraith yn y brifysgol ddewis
Met Caerdydd gan y byddwch chi’n fwy tebygol o lwyddo yn eich gradd a chael eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y byd go iawn.”
Nouhaila Charhabil Y Gyfraith – LLB (Anrh)
• Mae’r radd yn datblygu cymwyseddau a sgiliau trosglwyddadwy hefyd sy’n addas os ydych chi eisiau dilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd mewn meysydd polisi o fewn sefydliadau rhyngwladol, adrannau’r llywodraeth, y sector elusennol a byd busnes.
• Gallwch symud ymlaen i bob math o astudiaethau ôl-raddedig hefyd, gan gynnwys ein LLM Busnes Rhyngwladol.
Herio’ch barn am droseddu.
Ydych chi wedi meddwl erioed beth sy’n ysgogi pobl i droseddu? Ydych chi wedi ystyried sut mae cymdeithas yn llunio ein dealltwriaeth o droseddu a throseddwyr? Ydych chi wedi meddwl am y dioddefwyr a sut maen nhw’n cael eu trin yn y system cyfiawnder troseddol?
Mae’r radd gyffrous hon mewn troseddeg yn cyfuno astudiaeth ddamcaniaethol ac empirig mewn rhaglen fodern a fydd yn herio’r ffordd rydych chi’n edrych ar astudio trosedd.
Yn ogystal â dysgu am yr athroniaethau a’r damcaniaethau sylfaenol sy’n archwilio trosedd fel maes astudio academaidd, byddwch yn archwilio’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y damcaniaethau a’r athroniaethau hyn, ac o bosibl yn cyfrannu at ein dealltwriaeth ddatblygol mewn amrywiaeth o bynciau arloesol.
Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn canolbwyntio ar dair elfen allweddol sydd wedi’u plethu drwy gydol y radd: damcaniaethau troseddeg; hanfodion y system cyfiawnder troseddol; a disgyblaethau datblygol mewn troseddeg gyfoes.
Byddwch yn cael dealltwriaeth werthfawr o gyfleoedd yn y byd go iawn gan amrywiaeth o siaradwyr gwadd a theithiau maes, a byddwch yn dysgu gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gwneud ymchwil ac sydd â phrofiad cenedlaethol a rhyngwladol yn eu harbenigeddau.
Mae ein cyfleusterau pwrpasol, gan gynnwys Tŷ Trosedd, ystafell ddalfa, ystafell arsylwi a gwyliadwriaeth, ystafell gyfweld ac ystafell lys ffug, yn rhoi cyfleoedd dysgu hollbwysig i chi roi’r wybodaeth a’r sgiliau rydych chi’n eu dysgu ar waith.
Yn ystod y lleoliad yn yr ail flwyddyn, byddwch yn cael profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol, gydag un o’n sefydliadau partner. Mae’r lleoliad hwn yn cael ei asesu drwy gymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM), felly byddwch yn cyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol a fydd yn eich helpu i wneud eich marc ar ôl graddio. Yn ogystal, mae amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddol â chymorth ar gael hefyd drwy gydol eich astudiaeth.
“Mae troseddeg yn caniatáu i ni ofyn y cwestiynau lletchwith am wirioneddau
anghyfforddus cymdeithas. Mae’r radd hon yn rhoi’r gallu sydd ei angen arnoch chi i ateb rhai o’r cwestiynau mawr sy’n ein hwynebu, drwy archwilio pynciau cyfoes megis troseddau
rhyweddol, troseddeg werdd ac astudiaethau cosb cyfoes”
Dan Williams
Cyfarwyddwr Rhaglen Troseddeg
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau craidd. Ym mlynyddoedd dau a thri, gallwch ddewis un modiwl dewisol. Mae’r modiwlau’n cynnwys:
• Archwilio’r System Cyfiawnder Troseddol
• Troseddu, Rheoli ac Atal
• Seicoleg Trosedd
• Salwch Meddwl, Niwroamrywiaeth a Throsedd
• Bygythiad, Risg a Niwed neu Gymhwyso Seicoleg mewn Troseddeg (modiwlau dewisol blwyddyn dau)
• Gwrthderfysgaeth neu Seiberdroseddu a Chymdeithas (modiwlau dewisol blwyddyn tri)
• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn barod ar gyfer amrywiaeth o rolau yn y sector cyfiawnder troseddol a thu hwnt.
• Mae gyrfaoedd graddedigion yn cynnwys gweithio yn y gwasanaeth prawf a’r heddlu, llu’r ffiniau, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaeth carchardai, llysoedd y DU, Cyllid a Thollau EM, llywodraeth ganolog neu leol a mwy.
• Mae ein gradd yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i astudiaethau ôlraddedig a PhD, gan gynnwys ein gradd Meistr mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion
mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 96–112 pwynt UCAS
Un radd plismona – opsiynau gyrfa di-ri yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae plismona modern yn wynebu heriau proffesiynol newydd ac mae’r cymunedau a wasanaethir gan yr heddlu yn gynyddol amrywiol a chymhleth, gydag anghenion a blaenoriaethau gwahanol. Mae natur troseddu’n esblygu.
Mae’r radd hon wedi’i thrwyddedu gan y Coleg Plismona ac mae’n caniatáu i chi wneud cais am y llwybr mynediad Gradd Plismona Proffesiynol (PPD). Bydd y cwrs nid yn unig yn eich paratoi gyda’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen i ymuno fel Cwnstabl Heddlu, ond bydd yn eich paratoi hefyd i ddilyn gyrfa mewn rolau eraill ym maes cyfiawnder troseddol.
Ar y radd cyn-ymuno hon, byddwch yn datblygu lefelau uchel o wybodaeth a sgiliau proffesiynol ar draws amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyddestunau cymhleth a heriol, yn ogystal ag arddangos ymddygiad priodol sy’n gydnaws â phlismona rheng flaen effeithiol a phriodol.
Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gwneud ymchwil a chyn-swyddogion heddlu sydd wedi’u hachredu’n genedlaethol ac sydd â chyfoeth o brofiad, gan gynnwys unedau ymateb, cymdogaeth a CID ac unedau arbenigol diogelu’r cyhoedd.
Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu sydd â’r nod o ddarparu ar gyfer pob math o anghenion dysgu. Mae hyn yn cynnwys gweithdai, seminarau, darlithoedd ac amgylcheddau dysgu rhithwir. Byddwch yn wynebu problemau plismona cymhleth ffug hefyd sydd â’r nod o ddatblygu sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau. Byddwch yn cymryd rhan mewn senarios ffug, gan gynnwys chwiliadau tai, derbyn rhywun i’r ddalfa a chyfweliadau dioddefwr a drwgweithredwr posibl yn ein Tŷ Trosedd pwrpasol. Hefyd, mae ein ystafell lys ffug yn eich helpu i fod yn gwbl barod ar gyfer profiadau ystafell lys fel heddwas.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael i chi gyflawni profiad gwaith yn ystod y radd. Gallwn eich cynorthwyo i fod yn Gwnstabl Arbennig neu gallech weithio gyda Heddlu De Cymru ar eu rhaglen wirfoddoli i fyfyrwyr, gan gryfhau eich cyflogadwyedd ar ôl graddio.
“Fe wnes i ddewis gwirfoddoli
gyda Heddlu De Cymru gan weithio ar y bws diogelwch a helpu aelodau’r cyhoedd sy’n agored i niwed. Fe wnaeth hyn gadarnhau fy angerdd i ymuno â’r heddlu, a rhoi’r wybodaeth ychwanegol i mi gan helpu i gwblhau fy aseiniadau prifysgol a defnyddio gwybodaeth rydw i wedi’i dysgu mewn sefyllfaoedd ymarferol.”
Jack Lewis Plismona Proffesiynol – BA (Anrh)
Mae’r meysydd arbenigol allweddol y byddwch yn eu hastudio yn cyd-fynd â’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Plismona a gofynion y Coleg Plismona. Mae’r modiwlau’n cynnwys:
• Y System Cyfiawnder Troseddol
• Troseddeg
• Cynnal Ymchwiliadau
• Dull Ymatebol o Blismona
• Troseddau Arbenigol (e.e. Gwrthderfysgaeth, Cudd-wybodaeth a Diogelu’r Cyhoedd)
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025. O’r herwydd, gall y modiwlau a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
• Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn gymwys i wneud cais i unrhyw wasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr. Gallwch ddilyn gyrfa fel cwnstabl neu dditectif heddlu, yn ogystal â rolau eraill megis swyddog cymorth cymunedol a gyrfaoedd yn y system cyfiawnder troseddol.
• Gall graddedigion weithio i sefydliadau eraill gan gynnwys GCHQ, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, y gwasanaeth prawf, heddlu milwrol a’r diwydiant diogelwch preifat.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio
rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
• Mae’r radd hon yn eich paratoi ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil hefyd, gan gynnwys yr MSc mewn Troseddeg ac Ymchwiliadau Troseddol ym Met Caerdydd.
Gyda buddsoddiad diweddar yn ein cyfleusterau fideo, digidol a sain, mae gan fyfyrwyr y cyfryngau fynediad at ystafelloedd cyfryngau Mac pwrpasol a stiwdio podlediad, fodlediad a darlledu wrthsain.
Mae gan fyfyrwyr Cyfryngau Chwaraeon gantri darlledu deulawr ar y cae rygbi a Thŵr Mwnci i ddarparu safle ffilmio uwch yn ein harena chwaraeon dan do wrth ffrydio.
180 Y Cyfryngau a Chyfathrebu – BA (Anrh)
182 Cyfryngau Chwaraeon – BSc (Anrh)
34 Sylfaen yn arwain at Busnes, Rheoli a Chwaraeon
134 Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol – BA (Anrh)
Cyfle i wella eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn y cyfryngau a chyfathrebu, a chael dealltwriaeth ddyfnach o ddamcaniaethau’r cyfryngau a’u defnydd yn y byd rydym ni’n byw ynddo heddiw.
Mae’r cwrs blaengar hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddod o hyd i’ch llwybr gyrfa eich hun drwy ymdrin ag amrywiaeth o bynciau wrth wella eich sgiliau digidol ac ysgrifennu proffesiynol; gan eich galluogi i ddod yn arbenigwr yn eich maes dewisol ac agor y drws ar bob math o yrfaoedd.
Mae gan y cwrs gynllun unigryw gyda thair colofn ganolog sy’n ffurfio ei strwythur: theori’r cyfryngau; ysgrifennu yn y cyfryngau; ac ymarfer digidol creadigol.
Mae theori’r cyfryngau yn cynnig ymgysylltiad beirniadol dyfnach gyda’r cyfryngau, tra bod ysgrifennu yn y cyfryngau yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu.
Byddwch yn datblygu sgiliau ysgrifennu effeithiol ac yn gallu arbenigo mewn meysydd o ddiddordeb megis chwaraeon, teledu, ffasiwn, bwyd,
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
ffilm a gwyddoniaeth amgylcheddol. Byddwch yn ysgrifennu erthyglau newyddion, erthyglau nodwedd, datganiadau i’r wasg a chynlluniau ymgyrchu hefyd.
Yn ystod ymarfer digidol creadigol, byddwch yn datblygu sgiliau digidol y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, gan ddefnyddio Adobe Creative Cloud, gan gynnwys Photoshop, InDesign a Premiere Pro. Byddwch yn canolbwyntio ar gynhyrchu amlgyfrwng lle byddwch yn gallu dylunio, ffilmio a golygu eich gwaith creadigol eich hun, gan ymarfer eich sgiliau yn ein hystafell gyfryngau Mac a’n hystafell bodlediadau bwrpasol, gan greu ffilmiau symudol hefyd.
Ym mlwyddyn dau, mae’r modiwl lleoliad gwaith yn rhoi profiad gwerthfawr i chi o’r byd go iawn yng Nghaerdydd a thu hwnt. Mae lleoliadau blaenorol wedi cynnwys Llenyddiaeth Cymru, Eat Sleep Media, Rygbi Caerdydd, Youth Cymru a Bristol 24/7. Neu gallwch ddewis y lleoliad gwaith estynedig neu gyflawni blwyddyn ar leoliad i gael profiad ychwanegol o’r diwydiant.
Byddwch yn cael eich addysgu gan ddarlithwyr sydd wrthi’n gwneud ymchwil a siaradwyr gwadd sydd â chyfoeth o brofiad yn y sectorau cyfryngau a newyddiaduraeth, ac sy’n eich deall chi a’ch dyheadau gyrfa personol.
• Y Cyfryngau
• Ysgrifennu yn y Cyfryngau: Newyddiaduraeth
• Gwneud Ffilmiau Symudol
• Sinema Radical
• Dylunio Digidol Creadigol
• Prosiect Menter Ddigidol
“Cefais swydd yn Wales Online a nawr rwy’n gwneud gwaith sydd wrth fy modd, drwy’r dydd, bob dydd. Rydw i wedi ymdrin â phob math o straeon ac mae fy ngwaith wedi effeithio ar gymunedau ledled y DU. Ni fyddwn i wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i heb fy ngradd a’m profiadau ym Met Caerdydd.”
Aamir Mohammed Y Cyfryngau – BA (Anrh) a Newyddiadurwr
• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i bob math o yrfaoedd cyffrous yn y cyfryngau, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu, marchnata, cyfryngau digidol a mwy.
• mae llawer o raddedigion wedi mynd ati i sefydlu mentrau llwyddiannus yn seiliedig ar syniadau a gynhyrchwyd yn ystod eu gradd a thrwy gymorth ein Canolfan Entrepreneuriaeth.
• Mae’r radd yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i astudiaethau ôlraddedig a PhD, gan gynnwys ein MA Newyddiaduraeth Arbenigol ym Met Caerdydd.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud blwyddyn ar leoliad
Gofynion mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 104 pwynt UCAS
Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol a gwybodaeth broffesiynol am y diwydiant cyfryngau chwaraeon, marchnata a chyfathrebu.
Byddwch yn datblygu’r sgiliau newyddiaduraeth, cynhyrchu darlledu a digidol hanfodol sydd eu hangen i ymuno â’r amgylchedd cyfryngau chwaraeon sy’n datblygu’n gyflym. Gallai hyn gynnwys swyddi newyddiaduraeth ddarlledu gyda darlledwyr blaenllaw, rolau cynhyrchu yn creu cynnwys ar gyfer brandiau chwaraeon a phlatfformau digidol neu weithio yn swyddfa cyfryngau sefydliadau chwaraeon mawr.
Nod elfen rheoli chwaraeon y rhaglen yw rhoi dealltwriaeth sylfaenol i chi o sut mae chwaraeon proffesiynol yn cael eu hariannu a chyfle i archwilio’r meysydd lle mae cyfryngau, busnes a marchnata chwaraeon yn gorgyffwrdd. Bydd hyn yn rhoi sgiliau hanfodol i chi ar gyfer gyrfa ym maes rheoli chwaraeon.
Byddwch yn ennill dealltwriaeth sylfaenol o sut mae’r diwydiant cyfryngau chwaraeon yn cael ei drefnu, o ddarllediadau teledu i hawliau darlledu, i strwythur timau proffesiynol a thwrnameintiau.
Byddwch yn meithrin gwerthfawrogiad o’r defnyddiwr chwaraeon; gan gynnwys y defnyddiwr fel cefnogwr, yn y gêm ei hun neu ar-lein, ac fel cyfranogwr.
Ein nod yw helpu i sefydlu egwyddorion arweiniol yr hyn sydd ei angen i gael troed yn y diwydiant heddiw, a ffynnu ynddo. O fyd chwaraeon ar y cyfryngau cymdeithasol a ffrydio sy’n newid yn gyflym i gysyniadau megis moeseg, cyfraith y cyfryngau, hawliau delweddau, adrodd straeon digidol, byddwn yn eich helpu chi i archwilio pob agwedd ar gyfryngau chwaraeon.
Mae’r cyfleusterau cyfryngau rhagorol ar y safle, cyfleusterau chwaraeon ar y campws a lleoliadau o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, ynghyd â rhwydwaith o bartneriaid yn y diwydiant darlledu a chyfryngau, yn cyfuno i ddarparu rhaglen gynhwysfawr o ddysgu cysylltiedig â gwaith a dysgu seiliedig ar waith. Yn ogystal, byddwch yn cael digon o gyfleoedd i roi theori ar waith drwy weithio gyda Met Sport TV a’n timau chwaraeon ar y campws drwy gydol y radd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
• Cyfryngau Chwaraeon Digidol
• Newyddiaduraeth Chwaraeon
• Cyfathrebu Chwaraeon a Marchnata
• Moeseg Chwaraeon
• Llywodraethiant Chwaraeon yn Fyd-eang
• Mae myfyrwyr sydd wedi graddio o’r rhaglen Cyfryngau Chwaraeon yn mynd ymlaen i weithio mewn gyrfaoedd yn y diwydiannau cyfryngau chwaraeon, marchnata, cyfathrebu, cyfryngau digidol a darlledu, a thu hwnt.
• Efallai y byddwch yn dewis symud ymlaen i astudiaethau pellach drwy ein cwrs MSc Darlledu Chwaraeon, a gallech symud ymlaen i astudiaethau lefel doethurol. Gallwch fynd ymlaen i raglenni cyfryngau, darlledu, marchnata a rheoli lefel Meistr mwy cyffredinol hefyd, gan gynnwys y Meistr Gweinyddu Busnes (MBA).
“Cawsom sesiynau ymarferol, gweithdai, modiwlau marchnata a gweminarau gyda siaradwyr gwadd o’r diwydiant. Roedd y sesiynau hyn yn amhrisiadwy, gan roi cipolwg go iawn i mi ar ddiwydiant y cyfryngau, yn ogystal â sgiliau a fydd gen i yn fy ngyrfa yn y dyfodol”
Zoe Moore
Cyfryngau Chwaraeon – BSc (Anrh) a’r Cyfryngau ac Ymgyrchoedd yn Net Native
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 pwynt UCAS
Mae cyfleo i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Menter lles myfyrwyr ‘Paws on Campus’, a drefnir gan staff a myfyrwyr Seicoleg
Cyrsiau
186 Seicoleg – BSc (Anrh)
188 Seicoleg a Throseddeg – BSc (Anrh)*
Cyrsiau cysylltiedig
36 Sylfaen yn arwain at BA/BSc
Gwyddorau Cymdeithasol
118 Addysg, Seicoleg ac Anghenion
Addysgol Arbennig – BSc (Anrh)
174 Troseddeg – BSc (Anrh)
*Yn amodol ar ddilysu
Cyfleusterau
Mae ein cyfarpar seicoleg yn cael ei gaffael gyda myfyrwyr mewn golwg, i’ch galluogi i gael dealltwriaeth ymarferol o ddechrau eich astudiaethau. O’r flwyddyn gyntaf un gyda ni, byddwch yn defnyddio offer fel yr Electroenceffalogram (EEG) – prawf sy’n mesur gweithgarwch trydanol yn yr ymennydd.
Mae’r cyfleusterau seicoleg yn cynnwys; ystafelloedd addysgu unigol ar gyfer arbrofion ymddygiadol a chasgliad o offer arbenigol gan gynnwys traciwr llygaid Tobiii, EEG Biosemi a darllenydd wyneb Noldus. Mae gennym labordy addysgu hefyd sydd â chasgliad o gyfrifiaduron personol a sawl uned BIOPAC MP46 ar gyfer addysgu egwyddorion seicoffisioleg.
Gallwch arbenigo mewn maes o ddiddordeb – Addysgol, Clinigol ac Iechyd neu Seicoleg Fforensig.
Mae’r radd hon wedi’i hachredu’n broffesiynol gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, sy’n cynnig cyfle i chi astudio cwrs seicoleg wedi’i gymeradwyo gan y diwydiant ac sy’n uchel ei barch ymhlith cyflogwyr. Ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i wneud cais am Sail Raddedig ar gyfer Aelodaeth Siartredig o’r Gymdeithas.
Byddwch yn astudio meysydd craidd seicoleg, gan gynnwys seicoleg gymdeithasol, ddatblygiadol, wybyddol a biolegol, yn ogystal â dulliau ymchwil a dadansoddi data. Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, gallwch deilwra eich gradd i gyd-fynd â’ch diddordebau drwy arbenigo mewn llwybr: Addysg, Clinigol ac Iechyd neu Seicoleg Fforensig.
Yn ogystal ag archwilio seicoleg fel pwnc, byddwch yn cael eich cefnogi i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd a meddwl am sut y byddwch chi’n datblygu eich gyrfa. Bydd cyfle i chi gyflawni lleoliadau gwaith a gwirfoddoli fel rhan o fodiwlau datblygiad proffesiynol sydd wedi’u hymgorffori yn eich cwrs.
Mae lleoliadau yn y gorffennol wedi cynnwys gweithio gydag oedolion ifanc agored i niwed; gweithio fel mentor gyda phlant mewn ysgolion uwchradd; mewn lleoliadau fforensig, clinigol ac iechyd, a chysgodi gweithwyr proffesiynol mewn meysydd fel y gwasanaeth prawf ac ysbytai. Yn ogystal, mae gennym gysylltiadau diwydiant â’r City Unity College yn Athen, gan roi cyfle i chi rannu a datblygu eich sgiliau seicoleg gyda myfyrwyr o bob cwr o’r byd.
Cewch ddefnyddio casgliad o gyfleusterau a labordai, gan gynnwys traciwr llygaid Tobii ac EEG Biosemi, a chewch gymorth tîm ymroddedig o staff seicoleg sydd wrthi’n gwneud ymchwil a thiwtor personol a fydd yn eich cefnogi gydol eich amser gyda ni.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
“Fy
hoff beth am y cwrs yw ei fod yn rhoi cyfle i chi arbenigo mewn rhai meysydd seicoleg a’ch bod yn gallu dewis modiwlau eich blwyddyn olaf yn ôl eich diddordebau personol; roedd hyn yn hynod fuddiol i’m dyheadau seicoleg iechyd. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Cynorthwyydd Addysgu Seicoleg graddedig, a ddaeth hefyd gyda chynnig i gwblhau PhD yn ymwneud â newid ymddygiad”
Aleysha Caffoor
Seicoleg – BSc (Anrh) a Chynorthwyydd Addysgu Seicoleg
Modiwlau nodweddiadol
• Cynnal a Chyfathrebu Dulliau Ymchwil
• Seicoleg Fiolegol a Niwrowyddoniaeth Wybyddol
• Seicoleg Gymdeithasol a Datblygiadol Beirniadol
• Seicoleg Fforensig Gymhwysol
• Seicoleg Iechyd a Lles
• Addysg Agweddau Seicogymdeithasol
• Technegau Therapiwtig Seicolegol
Eich dyfodol
• Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i lawer o yrfaoedd llwyddiannus, gan gynnwys fel Swyddogion Ymchwil, Seicolegwyr Fforensig, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Hwyluswyr Ymyrraeth a mwy.
• Mae ein gradd seicoleg yn rhoi llwyfan i chi symud ymlaen i gyrsiau seicoleg ôl-raddedig arbenigol.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad:
Cynnig nodweddiadol: 96–112 pwynt UCAS
Mae cyfleo i astudio
rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Heriwch eich barn ar drosedd drwy gymhwyso seicoleg.
Mae’r radd hon yn cynnig sylfaen ragorol mewn dwy ddisgyblaeth eang a chysylltiedig. Gan adeiladu ar gryfder ein gradd seicoleg achrededig, mae’r rhaglen newydd hon yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae unigolion yn cael eu llywio gan fioleg a lleoliadau cymdeithasol, a byddwch yn gallu mynegi hyn yng nghyd-destun trosedd a newid cymdeithasol.
Ym maes seicoleg, byddwch yn astudio prosesau sy’n sail i feddwl, rhesymu a rhyngweithiadau cymdeithasol. Ym maes troseddeg, byddwch yn dysgu am rôl theori cyfiawnder troseddol, damcaniaethau troseddau a sut mae’r rhain yn ymwneud â pholisi ac ymarfer.
Bydd y lleoliad yn ystod yr ail flwyddyn yn gyfle gwych i chi ennill profiad gwaith amhrisiadwy mewn diwydiannau priodol a pherthnasol, yn ogystal ag amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddol sydd ar gael drwy gydol eich astudiaethau. Bydd y cymhwyster
ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli sy’n cydfynd â’r radd yn eich helpu i wneud eich marc ar ôl graddio. Yn ogystal, rydym yn cynnig cyfleoedd cyfnewid byd-eang, gan gynnwys gwirfoddoli a lleoliadau gwaith i wella eich CV a gwneud y gorau o’ch rhagolygon gyrfa.
Cewch ddefnyddio casgliad o gyfleusterau a labordai hefyd, gan gynnwys traciwr llygaid Tobii, EEG Biosemi a Thŷ Trosedd. Cewch gymorth tîm ymroddedig o staff seicoleg a throseddeg sydd wrthi’n gwneud ymchwil a thiwtor personol a fydd yn eich cefnogi gydol eich amser gyda ni.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
• Seicoleg Trosedd
• Cymhwyso Seicoleg i Droseddeg
• Hil a Rhywedd Troseddeg
• Cynnal a Chyfathrebu Ymchwil
• Seicoleg Fiolegol a Niwrowyddoniaeth Wybyddol
• Seicoleg Fforensig Gymhwysol
• Dulliau Ymchwil mewn Troseddeg a Seicoleg
Ar ôl graddio, bydd gennych amrywiaeth o opsiynau gyrfa ar gael ym maes seicoleg gymhwysol a’r system cyfiawnder troseddol.
Bydd opsiynau ar gyfer astudiaethau ôl-raddedig pellach ym meysydd troseddeg a seicoleg, yn ogystal â gweithio ym meysydd gwaith cymdeithasol, gwaith ieuenctid, addysgu a thai, er enghraifft.
Byddwch yn gallu gwneud cais am gyrsiau ôl-raddedig hefyd, megis MSc Seicoleg Fforensig, yn ogystal â gweithio gyda Seicolegwyr Cynorthwyol yn y GIG. Byddwch yn gallu gweithio ym maes iechyd meddwl fforensig hefyd, yn ogystal ag yn y trydydd sector.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd/Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf a Chyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–112 pwynt UCAS
*Mae’r radd hon yn destun dilysu ar gyfer mynediad yn 2025. Gweler ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais
“Rydw i wedi mwynhau fy amser ym Met Caerdydd yn fawr iawn. Mae’r tiwtoriaid yn anhygoel, maen nhw’n barod i’ch helpu chi bob amser a’ch annog ar eich taith. Mae’r staff cynorthwyol, y cyfleusterau a’r bobl rydw i wedi cyfarfod â nhw i gyd wedi gwneud fy nhaith yn brofiad gwych.”
Isabel Melendez
Iechyd a Gofal Cymdeithasol – HND/BSc (Anrh)
Cyrsiau
192 Iechyd a Gofal Cymdeithasol – HND/BSc (Anrh)
194 Gwaith Cymdeithasol – BSc (Anrh)
196 Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol – BSc (Anrh)
198 Gwaith Ieuenctid a Chymunedol – Tystysgrif Sylfaen/BA (Anrh)
Cyrsiau cysylltiedig
36 Sylfaen yn arwain at BA/BSc
Gwyddorau Cymdeithasol
138 Iechyd yr Amgylchedd – BSc (Anrh)
174 Troseddeg – BSc (Anrh)
176 Plismona Proffesiynol – BA (Anrh)
Ennill y sgiliau i ysgogi newid yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd y radd gyffrous hon yn rhoi’r wybodaeth, y theori a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa lwyddiannus ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mewn gyrfaoedd polisi, ymchwil, arweinyddiaeth a rheoli, yn ogystal ag astudiaethau arbenigol ôl-raddedig.
Byddwch yn archwilio iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer gwahanol grwpiau ac o wahanol safbwyntiau. Byddwch yn datblygu gwybodaeth weithredol drylwyr am fframweithiau strwythurol iechyd a gofal cymdeithasol, strwythurau cyfreithiol a pholisi, sectorau amrywiol, systemau cyllido, agweddau ar gymdeithas a chyfiawnder cymdeithasol, a chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, i gyd drwy astudiaethau academaidd a gweithgarwch ymarferol. A chewch eich addysgu gan staff sydd wrthi’n gwneud ymchwil sydd ag arbenigedd sylweddol yn y diwydiant ym maes gwaith cymdeithasol, seicoleg, gwasanaethau plant a theuluoedd, gwaith cymunedol, polisi a mwy.
Byddwn yn sicrhau eich bod mewn sefyllfa dda i gael rolau cystadleuol i raddedigion, gan ganolbwyntio ar ddatblygu a dangos tystiolaeth o’ch cyflogadwyedd drwyddi draw.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cael profiad gwaith gwerthfawr yn y byd go iawn gyda chyflogwyr a darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol allweddol.
Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau partneriaeth cryf, gan gynnwys llywodraeth leol a chanolog, sefydliadau trydydd sector, y GIG, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ac Ambiwlans Sant Ioan. Byddwch yn cwblhau cymhwyster Lefel 5 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) hefyd, gan fod arweinyddiaeth yn sgil y mae galw mawr amdani yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn ystod eich blwyddyn olaf, gyda chefnogaeth ein gwasanaeth gyrfaoedd, byddwch yn datblygu cynllun ar gyfer sicrhau eich gyrfa o ddewis – ym maes rheoli, astudiaeth ôl-raddedig, dechrau eich busnes eich hun neu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae pwyslais cryf ar ddulliau ymchwil creadigol ym mhob blwyddyn. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y cysylltiad rhwng arloesi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a darganfod, ymchwil a llunio polisi. Uchafbwynt gwirioneddol yw arddangosfa posteri ymchwil academaidd ein myfyrwyr blwyddyn olaf sy’n rhoi cyfle i chi arddangos eich syniadau. Mae hyn yn arwain at y traethawd hir, lle byddwch chi, dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd â phrofiad o ymchwil, yn archwilio cwestiwn iechyd a gofal cymdeithasol sydd o ddiddordeb i chi.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 2–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud yr HND/y radd a’r flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: HND: 96 pwynt UCAS
Gradd: 104 pwynt UCAS
• Gweithio gydag Oedolion
• Safbwyntiau Beirniadol mewn Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid
• Ymchwil y Diwydiant Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Materion Byd-eang o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
• Ymchwil a Chyflogadwyedd yn y Byd Go Iawn
• I fyfyrwyr sy’n cyflawni’r HND, ar ôl cwblhau’r radd yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i drydedd flwyddyn y radd BSc (Anrh).
• Mae’r radd BSc (Anrh) yn agor amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa, gan gynnwys gweithio yn y sectorau gwirfoddol, elusennol a phreifat. Mae graddedigion wedi mynd ymlaen i gael rolau megis rheolwr yn y GIG, rheolwr cartref gofal, arweinydd tîm gwasanaeth troseddau ieuenctid, swyddog gwasanaeth sifil, swyddog polisi, rheolwr iechyd cyhoeddus, rheolwr tai a mwy.
• Caiff graddedigion e’u paratoi’n llawn hefyd ar gyfer menter gymdeithasol a sefydlu eu busnesau eu hunain.
• Mae’r radd hon yn llwyfan delfrydol hefyd i symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig neu hyfforddiant galwedigaethol pellach mewn nyrsio, bydwreigiaeth, gwaith cymdeithasol, seicoleg, therapi galwedigaethol, addysgu, astudiaethau cyfreithiol a meysydd perthynol.
“Astudio ym Met Caerdydd yw un o’r penderfyniadau gorau dwi wedi’u gwneud erioed. Roedd cyflwyno fy nhraethawd hir yn yr arddangosfa posteri yn fy mlwyddyn olaf yn uchafbwynt ar ôl goresgyn fy ofn o gyflwyno. Allwn i ddim bod wedi gwneud hyn heb gefnogaeth ac anogaeth y darlithwyr.”
Loretta Luis Iechyd a Gofal Cymdeithasol – BSc (Anrh)
Newid bywydau a chymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol cofrestredig.
Mae astudio Gwaith Cymdeithasol yn ymwneud â dull hyblyg o ddiwallu anghenion unigolion, grwpiau neu gymunedau. Mae’r radd hon yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer ymarfer Gwaith Cymdeithasol ac yn cael ei chynnig mewn partneriaeth ag asiantaethau Gwaith Cymdeithasol lleol a chynrychiolwyr unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr. Mae’n cyfuno ac yn integreiddio hyfforddiant proffesiynol mewn Gwaith Cymdeithasol gydag astudiaeth academaidd i lefel gradd. Byddwch yn archwilio darpariaeth ddeddfwriaethol gwasanaethau a phwysigrwydd deall gwaith cymdeithasol yng nghyd-destun Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae rhoi theori ar waith yn sail i’r radd hon. Gydol eich tair blynedd, byddwch yn cael eich cefnogi mewn ymarfer gan un o’n hasiantaethau a bydd yn ofynnol i chi gyflawni o leiaf 200 diwrnod o ddysgu seiliedig ar ymarfer i atgyfnerthu eich dysgu.
Mae blwyddyn un yn rhoi cyflwyniad i waith cymdeithasol. Byddwch yn cyflawni 20 diwrnod o ymarfer asesedig, a bydd rhaid i chi ddangos bod y sgiliau a’r gwerthoedd rhyngbersonol sydd eu hangen gennych chi i weithio gyda phobl ag anghenion gofal cymdeithasol a’u gofalwyr. Mae’r astudio’n canolbwyntio ar werthoedd a sgiliau craidd, yn
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
ogystal â phrosesau cymdeithasol, diwylliannol a sefydliadol ehangach sy’n fframio rôl a thasg gwaith cymdeithasol.
Ym mlynyddoedd dau a thri, byddwch yn cymhwyso ac yn datblygu eich gwybodaeth, eich sgiliau, eich gwerthoedd a’ch cymhwysedd mewn ymarfer gwaith cymdeithasol, fel y gallwch ragori. Byddwch yn cwblhau 180 diwrnod arall mewn lleoliadau dysgu ymarfer asesedig (80 diwrnod ym mlwyddyn dau a 100 diwrnod ym mlwyddyn tri), sy’n cynnwys dau leoliad ymarfer o leiaf. Mae hyn yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i chi ddangos cymhwysedd mewn perthynas â’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Cymdeithasol (2011) a’r Cod Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol (2017). Erbyn y diwedd, byddwch yn gallu cymhwyso gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd gwaith cymdeithasol, gan gynnwys canfyddiadau ymchwil i’ch ymarfer ac mewn gwaith a asesir yn academaidd.
Byddwch yn cael eich cynorthwyo i werthuso effaith anghydraddoldeb, anfantais a gormes ac i ystyried materion gwaith cymdeithasol cyfoes yn feirniadol. Ar ôl cwblhau’r radd, byddwch yn gallu dangos barn broffesiynol, ymyrraeth a myfyrio beirniadol a dadansoddol ar draws eich ymarfer i allu mynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth a bod yn Weithiwr Cymdeithasol medrus.
• Blwyddyn 1: Cyflwyniad a Sylfaen
• Blwyddyn 2: Cymhwyso Gwybodaeth, Sgiliau a Gwerthoedd
• Blwyddyn 3: Datblygu Cymhwysedd mewn Ymarfer Gwaith Cymdeithasol
*Mae’r radd hon yn destun adolygiad cyfnodol yn 2025. O’r herwydd, gall yr wybodaeth a restrir yma newid. Cyfeiriwch at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn gwneud cais.
“Mae’r radd hon yn rhoi’r sgiliau i chi i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau mewn cymdeithas a sut y gallwch chi fel gweithiwr proffesiynol wneud newid cymdeithasol. Mae fy lleoliadau wedi amrywio dros y tair blynedd. Rydw i wedi gweithio fel rhan o dîm maethu, tîm cyffuriau ac alcohol ac mewn ysbyty ar gyfer fy lleoliad olaf”
Aaron Roberts
Gwaith Cymdeithasol – BSc (Anrh)
• Mae 100% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach o fewn 15 mis i raddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2023).
• Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn gallu cofrestru fel ymarferydd gwaith cymdeithasol cymwys a gweithio yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector.
• Mae’r radd yn rhoi llwyfan i chi weithio mewn meysydd eraill hefyd megis y gwasanaeth prawf, lles addysg, troseddau ieuenctid, gwleidyddiaeth, tai a gofal cymdeithasol.
• Mae llawer o raddedigion yn parhau i astudio tuag at radd meistr ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus neu i addysgu mewn addysg bellach ac uwch.
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3 blynedd yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96 pwynt UCAS
TGAU Saesneg Iaith (neu Gymraeg Iaith Gyntaf) ar Radd C/4 neu uwch. Ystyrir cymwysterau cyfatebol – gweler y wefan
Profiad o waith dan oruchwyliaeth (cyflogedig neu ddi-dâl) mewn lleoliad gofal cymdeithasol
Mae mynediad yn ddibynnol hefyd ar gyfweliad llwyddiannus, ymarfer grŵp a phrawf ysgrifenedig a gwiriad manwl gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd
Gofal Cymdeithasol Cymru: Rhaid i bob myfyriwr gwaith cymdeithasol yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru drwy gydol eu hastudiaethau. Efallai y bydd myfyrwyr sy’n hanu o Gymru’n gymwys i gael Bwrsariaeth Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gradd gyfoes, seiliedig ar ymarfer, a fydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol craidd heddiw.
Ydych chi’n angerddol ynghylch cyfiawnder cymdeithasol ac eisiau deall materion cymdeithasol cymhleth? Ydych chi’n awyddus i gael effaith ar unigolion a chymunedau? Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a newid y byd?
Bydd y radd flaengar hon yn eich galluogi i ddeall materion cymhleth heddiw drwy ymchwilio cymdeithasegol a chreu atebion i’r materion hyn drwy eich dealltwriaeth o bolisi cymdeithasol. Drwy ymgysylltu â chysyniadau cymdeithasegol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r heriau sy’n wynebu ein byd. Drwy ddysgu am bolisi cymdeithasol, sefydliadau a diwallu anghenion pobl, byddwch yn gallu dod i ddeall ble a sut y gall newid ddigwydd.
Mae’r radd wedi’i strwythuro o amgylch tair thema gymdeithasegol allweddol: Unigolion, Cymdeithas a Grym; Hunaniaeth, Gwahaniaeth ac Anghydraddoldeb; a Gofod, Lle a Chyfiawnder.
Bydd y radd yn eich herio i ddadansoddi’r byd yn feirniadol, ynghyd â’r rhyngweithiadau rhwng unigolion ynddo a’r prosesau cymdeithasol sy’n ei lywio. Yr hyn sy’n bwysig yw y bydd yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i’w newid hefyd. Byddwch yn datblygu sgiliau craidd er mwyn cymryd rhan mewn meddwl beirniadol, cyflawni gwaith ymchwil, defnyddio tystiolaeth yn effeithiol, a chyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae cyflogadwyedd yn faes allweddol drwy gydol y radd, a byddwch yn cymhwyso eich dysgu yn ymarferol drwy gyfleoedd gwirfoddoli, yn ogystal â chwblhau dysgu seiliedig ar waith sy’n berthnasol i’r diwydiant ym mlwyddyn dau. Bydd y lleoliad allanol hwn yn canolbwyntio ar effaith – effaith i chi o ran datblygu eich sgiliau, ond hefyd effaith o ran mynd i’r afael â mater cymdeithasol rydych chi wedi ei astudio. Mae’r lleoliad yn cael ei hwyluso a’i gefnogi gan y tîm addysgu a bydd yn para am dair wythnos o leiaf.
Mae gan y tîm addysgu brofiad o ddylanwadu ar newid deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru a Lloegr, ysgogi adfywiad cymdeithasol a chorfforol cymunedau a gweithio gydag unigolion i fynd i’r afael â materion megis digartrefedd, tlodi bwyd ac allgáu cymdeithasol.
Ar ôl ei gwblhau, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn, eang ac ymarferol iawn o gysyniadau ac arferion gwyddorau cymdeithasol, yn ogystal ag amrywiaeth o brofiadau proffesiynol ac ymarferol i’ch galluogi i ddilyn gyrfa lwyddiannus mewn amrywiaeth o sectorau.
Modiwlau nodweddiadol
• Pobl, Lle a Grym
• Gwrthdaro, Newid a Gwahaniaeth
• Dulliau Ymchwil Gymdeithasol
• Tir, Bwyd a Chyfiawnder
• Rhywedd, Rhywioldeb ac Anghydraddoldeb
• Gwaith, Lles a Chynhwysiant
• Ymchwil a Chyflogadwyedd
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Llandaf
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd
yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 36)
Gofynion mynediad:
Cynnig nodweddiadol: 104 pwynt UCAS
“Mae’r radd gyffrous hon yn eich galluogi i ysgogi newid; gan ddeall y byd rydyn ni’n byw ynddo, herio hyn a’i newid. Byddwch yn astudio cysyniadau cymdeithasegol craidd ac yn dysgu ymgysylltu â dadansoddi polisi cymdeithasol, a datblygu sgiliau er mwyn cael effaith yn y byd. Mae’r ffocws hwn ar gyflogadwyedd a gwneud gwahaniaeth yn elfen gyson drwy gydol ein haddysgu ym mhob un o’r tair blynedd.”
Helen Taylor
Cyfarwyddwr Rhaglen Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
• Mae’r radd hon yn canolbwyntio ar gymdeithaseg ymarferol y byd go iawn, sy’n golygu ar ôl graddio y byddwch chi’n barod ar gyfer gyrfaoedd mewn ymchwil, polisi a’r trydydd sector, llywodraeth leol a chenedlaethol ac arweinyddiaeth a rheoli yn y sector preifat.
• Gydol y radd, byddwch yn gallu cyfarfod ag unigolion sydd â gyrfaoedd mewn meysydd sy’n gysylltiedig â chymdeithaseg a pholisi cymdeithasol, megis Swyddogion Polisi, Swyddogion Codi Arian a Chynorthwywyr Ymchwil.
• Mae’r radd yn cynnig cyfle delfrydol hefyd i barhau i astudio tuag at radd meistr, gan gynnwys MRes Polisi Cymdeithasol ym Met Caerdydd.
Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc a chymunedau.
Mae gweithwyr ieuenctid a chymunedol yn gwneud cyfraniad allweddol a chyffrous at gefnogi datblygiad personol a chymdeithasol pobl ifanc; gan eu galluogi i gyflawni eu potensial. Mae ein cyrsiau ymarferol, a gynlluniwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr a gweithwyr proffesiynol, yn eich paratoi i weithio fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol effeithiol a chymwys.
Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr hynod brofiadol sydd i gyd yn weithwyr ieuenctid a chymunedol proffesiynol a byddwch yn elwa ar ein rhwydweithiau a’n partneriaethau cryf gyda chyflogwyr o’r sectorau statudol a gwirfoddol.
Mae dau lwybr astudio ar gael
• Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
• BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
Tystysgrif Sylfaen Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Caiff y cymhwyster hwn ei gymeradwyo gan Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru ac fe’i darperir mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy.
Mae’r cwrs yn rhoi’r sgiliau, yr hyder, y profiad a’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gyflawni’r gofynion proffesiynol Lefel 3 ar gyfer gwaith ieuenctid, ac yn eich galluogi i gael y 100 awr o brofiad gwaith ieuenctid sydd ei angen i symud ymlaen i’r BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Byddwch yn cael y Dystysgrif mewn Gwaith Ieuenctid (Lefel 3) hefyd; y cymhwyster proffesiynol ar gyfer Gweithwyr Cymorth Ieuenctid.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Modiwlau nodweddiadol
• Paratoi ar gyfer Dysgu ac Ymarfer mewn Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
• Cyflwyniad i Ymarfer Gwaith Ieuenctid
• Cyd-destun Cymdeithasol Gwaith Ieuenctid a Chymunedol
• Datblygu Ymarfer Gwaith Ieuenctid
BA (Anrh) Gwaith Ieuenctid a Chymunedol Mae’r radd hon, a gymeradwyir yn broffesiynol gan ETS Cymru a’i chydnabod gan y Cydbwyllgor Negodi (JNC) ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid a Chymunedol, yn darparu dealltwriaeth ddofn o gynhwysiant cymdeithasol, grymuso a natur cymdeithas, gan roi cyfle i chi ddatblygu sgiliau a fydd yn eich galluogi i gyflawni amrywiaeth o rolau proffesiynol yn effeithiol.
Byddwch yn ymgymryd â phrofiadau gwaith allweddol mewn amrywiaeth eang o leoliadau i wella eich cyflogadwyedd. Ym mlwyddyn un, byddwch yn cwblhau 250 awr, ym mlwyddyn dau 300 awr, ac ym mlwyddyn tri 250 awr ar leoliad, gyda chymorth hwyluswyr gwaith maes a thiwtor personol.
• Gweithio gyda Phobl mewn Cyd-destun
Cymdeithasol
• Yr Hyn sy’n Ein Gwneud Ni’n Bwy Ydyn Ni
• Polisi ac Ymarfer Gwaith Ieuenctid Cyfoes
• Addysg ar gyfer Newid
• Cyd-destun Byd-eang Gwaith Ieuenctid
Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y Dystysgrif Sylfaen
Gofynion mynediad: Tystysgrif Sylfaen Cynnig Nodweddiadol: 48 pwynt UCAS
BA (Anrh)
Cynnig Nodweddiadol: 80–104 pwynt UCAS
Mae mynediad yn destun gwiriad uwch gan y gwasanaeth datgelu a gwahardd hefyd. Bydd ymgeiswyr BA (Anrh) angen profiad mewn agwedd ar waith ieuenctid a chymunedol hefyd, sy’n gyfwerth â 100 awr, i’w gwblhau cyn dechrau’r cwrs.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn bodloni gofynion cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ac yn gallu gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau gwaith ieuenctid a chymunedol proffesiynol.
• Mae 100% o’n graddedigion mewn gwaith neu astudiaeth bellach o fewn 15 mis i raddio (Arolwg Hynt Graddedigion 2023).
• Mae cyrchfannau graddedigion yn cynnwys gweithio mewn canolfannau ieuenctid, datblygu cymunedol, cyfiawnder ieuenctid, gwasanaethau troseddau ieuenctid, addysg amgen a gweithgareddau chwaraeon ac awyr agored. Yn ogystal, prosiectau cyffuriau, alcohol, digartrefedd, iechyd rhywiol, gwaith ieuenctid mewn ysgolion a rhyngwladol, mentora ac arweiniad.
• Mae llawer o fyfyrwyr yn cael gwaith cyflogedig cyn graddio gan leoliadau a chyfleoedd rhwydweithio yn ein ffair leoliadau flynyddol.
• Gall graddedigion symud ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig mewn pynciau amrywiol, yn ogystal â gwneud cais i wneud yr MA Ymarfer Ieuenctid a Chymunedol Uwch ym Met Caerdydd.
“Fe wnaeth fy lleoliad ar y Dystysgrif Sylfaen fy helpu i gael fy ngwaith ieuenctid cyntaf. Ers graddio, dwi wedi cael sawl rôl gyflogedig sy’n cynnwys gweithiwr sesiynol clwb ieuenctid, gweithiwr prosiect, uwch swyddog ieuenctid a gweithio mewn ysgol uwchradd. Dwi wrth fy modd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc.”
Esther Afari Gwaith Ieuenctid a Chymunedol – BA (Anrh)
Mae ein cyfleusterau chwaraeon ac academaidd
arbenigol yn rhoi cyfle i chi gael profiadau ymarferol i’ch paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol.
Cyfleusterau addysgu
Labordy Dadansoddi Perfformiad Mae’r cyfleuster dadansoddi perfformiad yn cynnwys pedwar labordy cyfrifiadurol sydd â chasgliad o systemau PC a Mac sydd ar gael yn fasnachol, ynghyd ag adnoddau golygu fideo pwerus. Mae gan ein campws rwydwaith camera IP awyr agored sy’n tyfu hefyd i hwyluso prosesau ipio fideo pwerus
Labordy Ffisioleg
Mae gennym ddau labordy ag amrywiaeth eang o gyfarpar ar gyfer asesiadau sy’n benodol i chwaraeon. Mae ein casgliad o offer yn cael ei ddefnyddio i wella eich dysgu a chynnig profiad ymarferol gydag offer gwyddor chwaraeon arbenigol.
Labordy Biomecaneg
Mae gan ein cyfleuster labordy pwrpasol, dwy ardal casglu data ac ystafell ddadansoddi hybrid, gan greu canolfan gyffrous ar gyfer ymchwil a chymorth gwyddor chwaraeon. Mae gennym gamerâu cyflym, cyfleuster cipio symudiad sy’n seiliedig ar farciwr a system cipio symudiad arloesol di-farciwr. Gellir integreiddio’r systemau hyn gyda’n platiau grym Kistler yn y ddaear. Mae ein labordy wedi ehangu ei alluoedd yn ddiweddar i gynnwys systemau Electromyograffeg (EMG) diwifr, gan alluogi monitro gweithgarwch cyhyrau amser real. Rydym wedi integreiddio synwyryddion grym gwisgadwy hefyd ar gyfer casglu data mewn ffordd fwy cludadwy a dynamig. Yn ogystal, mae gan ein cyfleuster Isokinetic erbyn hyn.
Campfa Cryfder a Phŵer
Mae gan y gampfa cryfder a phŵer 14 platfform codi pwysau gyda raciau sgwatio integredig, sy’n eich galluogi i ddysgu amrywiaeth o ddulliau codi allweddol a datblygu eich gwybodaeth am y broses hyfforddi.
Campfa Adsefydlu a Chyflyru
Mae gan hanner yr ardal hon gyfarpar ar gyfer datblygu cryfder y corff uchaf, gyda phedair mainc a rac codi pwysau, meinciau dymbel, meinciau tynnu wyneb i lawr a chasgliad o ddymbelau. Mae’r hanner arall yn darparu ardal agored ar gyfer cynhesu a darlithoedd ymarferol ar adfer. Mae gennym gampfa ychwanegol hefyd sydd â chyfarpar cardiofasgwlaidd, pwysau peiriant, cewyll offer adsefydlu a thair mainc dymbelau. Mae’r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau ymarferol gan hyfforddwr campfa a sesiynau adsefydlu.
Ystafelloedd Addysgu Tylino Chwaraeon
Mae’r ystafelloedd addysgu tylino chwaraeon yn llawn cyfarpar i addysgu agweddau ymarferol a damcaniaethol ar dylino chwaraeon, gan ddarparu amgylchedd dysgu ac addysgu rhagorol.
Ystafell Darlledu a Chyfryngau Chwaraeon
Mae’r cyfleuster yn cynnwys stiwdio deledu wrthsain â goleuadau, camerâu, sgrin werdd a set rithwir, oriel deledu â system weithredu TriCaster a gorsaf prif olygu, stiwdio radio wrthsain hunanweithredu â chyfarpar recordio podlediadau/sain, a gantri darlledu deulawr a Thŵr Mwnci.
Dysgwch fwy am y cyfleusterau drwy sganio’r cod QR
Ffisioleg
Gall myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf gael profiad gyda chyfarpar ffisioleg ymarfer corff mwy datblygedig yn ystod prosiectau traethawd ymchwil annibynnol.
Mae ein labordy ymchwil SCRAM yn galluogi dadansoddi perfformiad athletaidd yn fanwl. Mae caledwedd yn cynnwys platiau grym Vicon Nexus a Kistler.
• Caeau 3G (Pêl-droed a Rygbi)
• Astro Turf
• Arena Saethyddiaeth
• Stiwdio Ddawns
• Canolfan Tenis Dan Do
• Stiwdio Un a Stiwdio Troelli
• Cyrtiau Sboncen
• Campfa Syd Aaron
• Pwll Nofio
• Cyfleuster Athletau Awyr Agored
• Canolfan Athletau Dan Do Genedlaethol Cymru (NIAC)
Mae’r radd hon, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas
Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) yn canolbwyntio ar sail wyddonol perfformiad mewn chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff.
Er mwyn cyflawni gofynion BASES, byddwch yn dilyn llwybr penodol trwy gydol y tair lefel sy’n canolbwyntio ar ennill dealltwriaeth o ddisgyblaethau chwaraeon ac ymarfer corff craidd ffisioleg, biomecaneg a seicoleg, ynghyd ag archwilio agweddau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol ar wyddor chwaraeon ac ymarfer corff gyda lefel uchel o berthnasedd galwedigaethol. Gydol y cwrs, byddwch yn ennill profiadau ymarferol o weithgareddau labordy, yn ogystal â chael cyfle i arsylwi ar ymarfer cymhwysol a chymryd rhan ynddo. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol sy’n cynnwys rheoli a dadansoddi data chwaraeon ac ymarfer corff. Yn ystod eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn cael cyfle i gyflawni cymwysterau technegol mewn amrywiaeth o feysydd perthnasol i’r diwydiant, gan gynnwys hyfforddi chwaraeon, atgyfeirio i ymarfer corff, hyfforddiant ffitrwydd, diogelu a chyffuriau anghyfreithlon.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Bydd y cyfleoedd hyn yn sicrhau bod y cymwysterau a’r profiad priodol gennych i’ch paratoi ar gyfer llawer o gyfleoedd gwaith ar ôl graddio. Gallwch ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn thema astudio opsiwn ychwanegol hefyd yn seiliedig naill ai ar gryfder a chyflyru neu faetheg chwaraeon.
Mae cyfle i ennill cymwysterau galwedigaethol ychwanegol ochr yn ochr â’ch astudiaethau hefyd, yn ogystal ag yn rhai o’r modiwlau craidd, megis mewn cyfarwyddyd campfa yn ystod y modiwl datblygiad proffesiynol.
Mae’r radd hon yn seiliedig ar ddau brif nod. Yn gyntaf, sicrhau eich bod yn wybodus yn y disgyblaethau gwyddonol sylfaenol, sef ffisioleg, biomecaneg a seicoleg ac yn ail, cymhwyso’r wybodaeth hon o safbwynt ymarferol.
• Biomecaneg Symudiad Dynol
• Problemau mewn Gwyddor
Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Seicoleg Chwaraeon
• Maetheg Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Cryfder a Chyflyru ar gyfer Gwyddor
Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Ymchwil ac Ysgoloriaeth
• Mae graddedigion diweddar Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn gweithio gyda thimau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi, yn ogystal â gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon. Hefyd, mae llawer o fyfyrwyr yn gweithio mewn practisau preifat, amgylcheddau clinigol neu mewn lleoliadau yn y diwydiannau milwrol, gwasanaethau brys a ffitrwydd.
• Mae myfyrwyr eraill wedi parhau i astudio ar lefel meistr ym maes gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff neu ddisgyblaethau cysylltiedig megis maetheg chwaraeon, dadansoddi perfformiad chwaraeon, ffisiotherapi neu gryfder a chyflyru.
Mae eraill wedi symud ymlaen wedyn i astudiaethau ar lefel doethurol a gyrfaoedd fel ymchwilwyr neu academyddion.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion
mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120–128 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
“Fy hoff fodiwl oedd Ffisioleg Iechyd lle datblygais i sgiliau ymarferol allweddol, fel defnyddio ECGs i fonitro swyddogaeth y galon ac achosion ac ymyriadau clefydau cardiofasgwlaidd. Yn ystod fy holl fodiwlau, dwi wedi datblygu sgiliau ymarferol mewn perthynas â’r cynnwys damcaniaethol a gyflwynwyd”
Nia Jones Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff – BSc (Anrh)
Mae hyfforddi’n ymwneud â phobl. Bydd ein gradd Hyfforddi Chwaraeon nid yn unig yn eich addysgu am yr hyn sydd ei angen i fod yn hyfforddwr gwych ond bydd yn rhoi’r sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad i chi arwain, ysbrydoli a chymell eraill.
Nod y radd yw datblygu eich dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau dynamig a chymhleth sydd wrth wraidd hyfforddi. Drwy hyn, byddwch chi’n meithrin gwell gwerthfawrogiad o sut rydych chi’n dylanwadu ar hyfforddwyr, athletwyr ac eraill, ac yn cael eich dylanwadu ganddynt. Mae ein gradd yn canolbwyntio’n helaeth hefyd ar ddysgu, deall beth yw dysgu yng nghyd-destun hyfforddi a sut i gynorthwyo eraill i ddysgu. Mae hyn yn golygu ein bod yn ystyried pwy sy’n hyfforddi, gan ganolbwyntio arnoch chi fel hyfforddwr, eich datblygiad, yn ogystal â’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Bydd y cwrs yn rhoi amrywiaeth o amgylcheddau ac adnoddau dysgu i chi, megis sesiynau ymarferol a seminarau sy’n gweithio gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n caniatáu i’ch hyfforddiant ddod yn fwy craff, pwrpasol a beirniadol. Wrth wneud hynny, ein nod yw eich helpu i ddatblygu casgliad o alluoedd datrys problemau arloesol a fydd yn manteisio ar gynnwys craidd hyfforddiant chwaraeon, yn ogystal â chael gwybodaeth am feysydd eraill megis moeseg, cymdeithaseg, gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff, entrepreneuriaeth neu ddadansoddi perfformiad.
Yn ystod y cwrs, cewch gyfleoedd amrywiol i gaffael cymwysterau sy’n gysylltiedig â gwahanol Gyrff Llywodraethu Cenedlaethol. Byddwch yn cael cyfle hefyd i gyflawni lleoliadau gwaith i wella eich sgiliau cyflogadwyedd a’ch paratoi’n well ar gyfer eich gyrfa ar ôl graddio.
Mae’r profiadau hyn, yr wybodaeth a ddatblygir yn ystod eich cwrs a’r cymwysterau hyfforddi yn golygu bod y cwrs yn unigryw o ran cymysgu gwybodaeth a sgiliau traddodiadol gyda dulliau mwy cyfoes o hyfforddi y gellir ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Modiwlau nodweddiadol
Yn eich blwyddyn gyntaf o astudio, byddwch yn cyflawni modiwlau gorfodol lle byddwch yn datblygu eich dealltwriaeth o gysyniadau a damcaniaethau allweddol ym meysydd hyfforddi chwaraeon. Byddwch yn gwella eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a’ch defnydd ymarferol o’r cysyniadau ac amrywiaeth o sgiliau. Mae modiwlau ym mlynyddoedd dau a thri yn cynnwys:
• Addysgeg a Chyfathrebu mewn Hyfforddi Chwaraeon
• Deall Arferion Hyfforddi
• Cymhwyso a Deall Theori Hyfforddi Chwaraeon ar Waith
• Rheoli Chwaraeon Perfformiad Uchel
• Hyfforddi’r Hyfforddwr: Datblygiad Proffesiynol ac Addysg
“Yn ogystal â fy natblygu i yn broffesiynol ar y cwrs, rwy’n credu bod cael y cyfle i ryngweithio â chymaint o wahanol bobl ac mewn cymaint o sefyllfaoedd wedi fy natblygu i’n bersonol hefyd. Mae dysgu am gyfathrebu a sut i’w ddefnyddio gyda gwahanol ddemograffeg, a sut i gael eich clywed yn ogystal â’ch gweld, wedi fy helpu i gael gwaith ar ôl graddio. Dwi’n gweithio fel Hyfforddwr Sgïo erbyn hyn ac yn canolbwyntio ar hyfforddi hyfforddwyr newydd ac aelodau newydd o staff i’w datblygu nhw fel hyfforddwyr.”
Catrin Rowlands
Hyfforddiant Chwaraeon – BSc (Anrh) a Hyfforddwr Sgïo a Thechnegydd
• Mae graddedigion diweddar o Hyfforddi Chwaraeon bellach yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dilyn cyfleoedd mewn ffitrwydd a’r diwydiant hamdden.
• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i raglenni meistr fel y radd Hyfforddi Chwaraeon ac Addysgeg, TAR ac wedi symud ymlaen ymhellach i astudiaethau lefel doethurol, gan gynnwys y Ddoethuriaeth a addysgir mewn Hyfforddi
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Mae’r radd hon yn rhoi’r wybodaeth sylfaenol a’r gallu ymarferol ym meysydd cryfder a chyflyru, adfer mewn chwaraeon a thylino chwaraeon.
Byddwch yn archwilio gwybodaeth sylfaenol o ddisgyblaethau gwyddor chwaraeon sef ffisioleg, seicoleg a biomecaneg. Mae’r dull cytbwys, amlddisgyblaethol hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o hyfforddiant, ynghyd ag ymarfer corff a therapïau llaw ar gyfer gwella perfformiad ac adfer.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn elfen allweddol o’r rhaglen, i’ch galluogi i gymhwyso eich gwybodaeth o’r rhaglen mewn lleoliadau yn y byd go iawn ac ennill profiad gwerthfawr i’w ddefnyddio fel sail ar gyfer swydd yn y dyfodol.
• Anatomeg Gyhyrysgerbydol
• Sylfeini ym maes Cryfder a Chyflyru
• Egwyddorion Adsefydlu Anafiadau Chwaraeon
• Tylino Chwaraeon ac Arferion Meinwe Meddal
• Menter mewn Chwaraeon ac Iechyd
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
• Mae’r deilliannau dysgu ar gyfer modiwlau ar draws y rhaglen wedi’u cysylltu’n glir â chymwyseddau Cymdeithas Cryfder a Chyflyru’r DU (UKSCA) a fydd yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i fynd ar drywydd yr achrediad proffesiynol annibynnol hwn ar ôl graddio.
• Mae’r radd wedi’i chymeradwyo gan y Gymdeithas Cryfder a Chyflyru Genedlaethol (NSCA) hefyd fel rhan o’r Rhaglen Cydnabod Addysg, sy’n darparu sail wybodaeth i chi geisio cael ardystiad Arbenigwr Cryfder a Chyflyru Ardystiedig (CSCS).
• Erbyn hyn mae graddedigion diweddar yn gweithio mewn timau chwaraeon proffesiynol, timau chwaraeon academi yn ogystal â gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol chwaraeon.
• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ym maes Ffisiotherapi neu i raglenni meistr megis yr MSc mewn Adferiad Chwaraeon neu’r MSc mewn Cryfder a Chyflyru, a rhai i astudiaethau ar lefel ddoethurol.
“Ers graddio, dwi wedi gweithio fel Hyfforddwr
Personol a CrossFit. Cefais fy nghyfleoedd mwyaf cofiadwy wrth weithio i Staff Seminar CrossFit, yn addysgu seminarau ledled y DU ac Ewrop, a gweithio gyda Help for Heroes – gan helpu cynfilwyr i adeiladu ymdeimlad o berthyn, cymuned a gwella eu meddylfryd a’u lles corfforol. Yn ddiweddar, arweiniodd fy nod o helpu pobl a gwneud iddyn nhw deimlo’n fwy positif at gymhwyso fel Hyfforddwr Perfformiad a Meddylfryd”
Ash Phillips
Cyflyru, Adferiad a Thylino Chwaraeon – BSc (Anrh) a Hyfforddwr Perfformiad a Meddylfryd
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 32)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120–128 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Mae’r radd Rheoli Chwaraeon yn eich galluogi i ddatblygu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth, yn ogystal â’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen i gyflawni rolau rheoli yn y diwydiant chwaraeon bydeang sy’n ehangu’n barhaus.
Er enghraifft, gallai hyn fod mewn swyddi â chyfrifoldeb dros y canlynol: datblygu a chyflwyno rhaglenni, systemau a strwythurau ysgol, cymuned neu chwaraeon elît; ymchwilio i faterion cyfoes a heriau sy’n gysylltiedig â chwaraeon modern; neu lywodraethu a gweinyddu chwaraeon ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Cewch eich cyflwyno i amrywiaeth o ddisgyblaethau rheoli craidd sy’n berthnasol i bob diwydiant, gan gynnwys: cynllunio busnes, rheoli strategol, rheoli adnoddau dynol, ymchwil a datblygu, rheoli gweithrediadau, rheoli digwyddiadau, marchnata a chyfathrebu. Mae damcaniaethau, cysyniadau ac arfer gorau cysylltiedig yn cael eu harchwilio drwy lens chwaraeon a gweithgarwch corfforol, i ymgysylltu a sicrhau bod gennych chi’r wybodaeth am y diwydiant i gynyddu eich cyflogadwyedd.
Mae’r radd yn defnyddio cyfleusterau rhagorol ar y safle a lleoliadau o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd a’r De-ddwyrain, ar y cyd â rhwydwaith o bartneriaid yn y diwydiant, i ddarparu profiadau dysgu cyfoethog sy’n gysylltiedig â gwaith.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae’r dull hwn yn eich galluogi i gymhwyso’r wybodaeth a gafwyd yn yr ystafell ddosbarth i leoliadau yn y byd go iawn, gan ddarparu profiadau i chi a all fod yn sail i astudiaeth bellach neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Y radd hon oedd y gyntaf yn y DU i dderbyn ardystiad gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA), gan ardystio bod y radd wedi’i mapio i’r safonau proffesiynol Rheolwr Mynediad a Rheolwr Cyffredinol a gymeradwywyd gan y Sefydliad, gan gydnabod y sgiliau, y rhinweddau a’r profiad mae’r rhaglen yn helpu i’w datblygu. I ategu a gwella’r gymeradwyaeth hon, mae byddwch yn derbyn aelodaeth myfyriwr o’r corff diwydiant hwn.
“Yr amrywiaeth eang o fodiwlau mae’r radd Rheoli Chwaraeon yn eu cynnig yw’r prif reswm y gwnaeth y cwrs apelio ataf fi. Roedd y profiad ges i ar fy lleoliad gwirfoddoli yn y diwydiant pêldroed yn ased gwych ar ôl graddio a dechrau fy rôl yng Nghymdeithas Bêldroed Cymru”
Carys Price
Rheoli Chwaraeon – BSc (Anrh) a Swyddog Digwyddiadau
Modiwlau nodweddiadol
Bydd cynnwys y modiwl yn rhoi cyfle i chi ystyried yr egwyddorion busnes sylfaenol sy’n helpu i gynnal a datblygu’r diwydiant chwaraeon ac mae ffocws cryf ar entrepreneuriaeth a meddwl strategol sy’n cynnig y potensial i chi ddiffinio a datblygu eich syniadau eich hun ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Yn sail i’r egwyddorion hyn mae theori ac arferion rheoli sy’n cael eu cymhwyso mewn pob math o leoliadau sy’n gysylltiedig â chwaraeon. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Y Diwydiant Chwaraeon Byd-eang
• Rheoli Digwyddiadau
• Marchnata a Chyfathrebu
• Rheoli Pobl
• Rheolaeth Strategol
• Dyluniad ac Ymarfer Ymchwil
• Mae’r radd Rheoli Chwaraeon yn darparu amrywiaeth o opsiynau gyrfa posibl i raddedigion yn y sectorau chwaraeon, gweithgarwch corfforol ac iechyd. Ar ben hynny, mae cael profiad o ddisgyblaethau rheoli’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ystyried opsiynau gyrfa y tu allan i chwaraeon.
• Ar hyn o bryd mae graddedigion Rheoli Chwaraeon yn gweithio mewn chwaraeon proffesiynol a lledbroffesiynol, asiantaethau cenedlaethol a Chyrff Llywodraethu chwaraeon, sefydliadau awdurdod lleol a menter gymdeithasol, sefydliadau gwirfoddol a phreifat, a sefydliadau ffitrwydd.
• Mae rhai graddedigion wedi dilyn llwybr entrepreneuraidd, gan gynnwys rhai sydd wedi sefydlu busnesau yn seiliedig ar syniadau y maent wedi’u cynhyrchu yn ystod eu hastudiaethau.
• Mae graddedigion eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau lefel uwch, gan gynnwys hyfforddiant athrawon, gradd meistr ac astudiaethau lefel doethuriaeth. Er enghraifft, gall graddedigion sy’n dymuno parhau â’u hastudiaethau ym Met Caerdydd wneud cais am yr MSc Rheoli Chwaraeon Rhyngwladol neu Feistr Gweinyddiaeth Busnes (MBA)
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 mlynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion
mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 104–112 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Mae’r radd hon yn rhaglen gwyddor chwaraeon gymhwysol sy’n canolbwyntio ar ddeall, gwella a dadansoddi perfformiad chwaraeon.
Mae’r cwricwlwm yn datblygu eich gwybodaeth yn raddol am ddadansoddi tactegau, mesur effeithiolrwydd technegol, a dadansoddi techneg benodol mewn perfformiad chwaraeon gwirioneddol gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau a thechnoleg fodern. Yn ogystal, cewch eich cyflwyno i ddadansoddiad ymddygiadol o hyfforddwyr ac athletwyr, a chymhwyso technegau olrhain athletwyr.
Cewch gyfleoedd di-ri i ddatblygu eich gwybodaeth ymarferol a chyddestunol mewn hyfforddiant, hyfforddi a pherfformio a fydd yn caniatáu i chi werthuso ac addasu eich ymarfer proffesiynol eich hun fel dadansoddwr ac ymarfer proffesiynol perfformwyr a hyfforddwyr mewn pob math o gampau. Bydd yn eich galluogi i ddatblygu’r set sgiliau galwedigaethol penodol sy'n angenrheidiol i gychwyn ar yrfa mewn dadansoddi perfformiad hefyd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae’r modiwlau craidd ym maes dadansoddi perfformiad yn cael eu hategu gan fodiwlau o feysydd perthnasol hyfforddi, addysgeg a gwyddor chwaraeon ac ymarfer corff. Mae’r elfennau hyn yn rhoi blas unigryw i’r cwrs sy’n eich galluogi i ddeall yr egwyddorion damcaniaethol a’r sgiliau proses cymhwysol sy’n sail i ddadansoddi perfformiad.
• Dysg athletwyr mewn Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon
• Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon a Rôl y Dadansoddwr
• Dadansoddi a Delweddu Data mewn Chwaraeon
• Problemau Hyfforddi Cymhwysol a Dadansoddi Perfformiad
• Mae graddedigion diweddar y radd Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon yn gweithio i’r UK Sport Institute, Chwaraeon Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Clwb Rygbi’r Scarlets, Undeb Rygbi’r Alban, Clwb pêl-droed Manchester United, Clwb Pêl-droed Abertawe, Clwb Pêl-droed Brighton & Hove Albion, Clwb Pêl-droed Rangers a thu hwnt, megis y New South Wales Institute of Sport yn Awstralia.
• Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ar lefel meistr a doethurol hefyd.
“Mae mwy i’r cwrs Dadansoddi
Perfformiad Chwaraeon ym Met Caerdydd
na’r radd ar y diwedd; mae’n ymwneud â’r cyfleoedd cyson ar hyd y ffordd. Roedd cael y cyfle i weithio i FIFA cyn graddio hyd yn oed yn rhywbeth allwn i byth fod wedi’i ragweld. Y rhan orau oedd cyfarfod a gweithio’n agos gyda 50 a mwy o’r
dadansoddwyr gorau o bob cwr o’r wlad, ac Ewrop hyd yn oed, sy’n golygu fy mod i wedi ehangu fy rhwydwaith yn sylweddol erbyn hyn”
Jonathan Aveston
Dadansoddi Perfformiad Chwaraeon – BSc (Anrh) a Dadansoddwr Technegol y Tîm Cyntaf a Phennaeth
Dadansoddi’r Academi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4
mlynedd yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 120–128 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Mae’r radd hon yn gwrs ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau yn y sector nawr ac yn y dyfodol.
Mae’r radd mewn Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn eich gwerthfawrogi ac yn eich herio mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac yn rhoi cyfle i fanteisio ar ymchwil, ei deall a’i chymhwyso er mwyn gwella arfer arloesol a deall rôl addysgwyr corfforol yn y dyfodol. Cewch elwa ar gwricwlwm cyfoes seiliedig ar ymchwil sy’n cydnabod cyfraniad chwaraeon ym maes addysg gorfforol wrth ddatblygu iechyd a lles gydol oes drwy weithgarwch corfforol.
Caiff y radd ei chyflwyno a’i rheoli gan academyddion sydd â chyfoeth o brofiad ymchwil, arloesi a chymhwysol.
Fe’i cynlluniwyd mewn ffordd ysbrydoledig a blaengar, lle mae’r cwricwlwm yn dod yn fwy penodol ac arbenigol ar draws y tair blynedd o astudio.
Law yn llaw â’r radd, byddwch yn cael cyfle i gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol a chael profiadau dysgu amrywiol pellach, sydd oll yn gwella a chyfoethogi eich amser gyda ni ym Met Caerdydd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
“Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu gan lawer o ddarlithwyr talentog, medrus a gofalgar, sydd wedi rhoi’r holl sgiliau sydd eu hangen arnaf i lwyddo’n ymarferol ac yn academaidd. Mae gan y cwrs sbectrwm mor eang o feysydd
cynnwys a dulliau asesu, gan ganiatáu i mi brofi gwahanol feysydd dysgu a fy
maes i ar yr un pryd. Mae Met Caerdydd
wedi cael yr effaith gadarnhaol fwyaf
dylanwadol ar fy mywyd i, gan fy annog i fynd ar drywydd cyfleoedd na fyddwn i wedi’u dilyn o’r blaen o reidrwydd.”
Luke Witham Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd – BSc (Anrh)Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 104–112 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Mae llawer o’n modiwlau yn gysylltiedig â’r fenter Campws Agored lle byddwch yn cymhwyso eich gwybodaeth ac yn rhoi eich dealltwriaeth o faterion cyfoes ar waith. Byddwch yn cyflawni lleoliadau ym mlynyddoedd dau a thri mewn lleoliad addysgol i adeiladu ar eich sgiliau addysgol a datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd ymhellach. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Addysg Gorfforol ac Iechyd mewn Ymarfer
• Addysgeg Chwaraeon Gymhwysol
• Problemau mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg
• Mae graddedigion diweddar yn gweithio fel athrawon Addysg Gorfforol (uwchradd), athrawon ysgolion cynradd a chynorthwywyr addysgu. Mae graddedigion y gorffennol wedi dilyn gyrfaoedd mewn addysg bellach ac uwch, clybiau chwaraeon, gwyddor chwaraeon, diwydiant hamdden a datblygu chwaraeon yn y gymuned/awdurdod lleol.
• Mae myfyrwyr eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ar lefel meistr a doethurol neu i gyflawni TAR.
“Cefais fy ysbrydoli gan amrywiaeth y pynciau sy’n rhan o’r radd. Cewch gyfleoedd i ddeall a chymhwyso ymchwil a gwybodaeth ddamcaniaethol i ddysgu seiliedig ar waith. Roedd menter y Campws Agored yn gyfle gwych i mi roi’r hyn roeddwn i wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith”
Shannie Bowen
Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd – BSc (Anrh) a Myfyriwr Addysg Gorfforol TAR Uwchradd
Mae’r radd hon yn darparu cwrs ymarferol sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau cyfredol a datblygiadau’r dyfodol yn y sector ac yn cydnabod cyfraniad chwaraeon a dawns at addysg gorfforol.
Mae’r radd hon yn eich gwerthfawrogi ac yn eich herio mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac yn rhoi cyfle i fanteisio ar ymchwil, ei deall a’i chymhwyso er mwyn gwella arfer arloesol a deall rôl addysgwyr corfforol yn y dyfodol.
Mae’r llwybr Dawns arbenigol yn y radd Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd yn canolbwyntio ar le cymhwysol Dawns fel celfyddyd greadigol a gweithgarwch corfforol ac yn archwilio ei gyfraniad at feysydd addysg, y gymuned ac iechyd a lles gyda chyfleoedd i greu, perfformio ac addysgu.
Bydd cymhwyso Dawns yn cael ei archwilio mewn amrywiaeth o gyd-destunau drwy ein cysylltiadau â diwydiant. Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith a phrofiadau lleoliad dros y tair blynedd a fydd yn cefnogi eich datblygiad i ddod yn ymarferydd dawns creadigol ac arloesol yn y dyfodol.
Law yn llaw â’r radd, cewch gyfle i gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn broffesiynol a chael profiadau dysgu amrywiol pellach, sydd oll yn cyfoethogi eich amser gyda ni ym Met Caerdydd.
Ym mlwyddyn un, byddwch yn dilyn chwe modiwl gorfodol a fydd yn sylfaen i’ch llwybr. Bydd y modiwlau hyn yn rhoi’r cyd-destun a’r cwmpas i chi ddeall agweddau sylfaenol addysg gorfforol, dawns, hyfforddi, chwaraeon ac iechyd ar wahanol grwpiau poblogaeth. Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys:
• Ymarfer Dawns Iach
• Dawns – Creu mewn Cyd-destun
• Prosiect Creadigol – Proses i Gynnyrch
• Byddwch yn barod am yrfa sy’n canolbwyntio ar ddawns, chwaraeon a gweithgaredd corfforol mewn sectorau diwydiant amrywiol fel Addysg, y Celfyddydau a Diwylliant, Twristiaeth, Chwaraeon, Hamdden ac Iechyd.
• Mae myfyrwyr eraill wedi symud ymlaen i astudiaethau pellach ar lefel meistr a doethurol neu i gyflawni Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed Hyd y cwrs: 3–4 blynedd yn llawn amser, yn dibynnu a ydych chi’n gwneud y flwyddyn sylfaen (gweler tudalen 34)
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 96–112 pwynt UCAS
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
“Dwi wedi cael cyfle i addysgu amrywiaeth o arddulliau dawns gwahanol i bobl o bob oed a gallu. Mae hyn wedi bod yn y gymuned, mewn sesiynau sgwad cystadlu ac mewn clybiau ar ôl ysgol hefyd. Mae’r sesiynau hyn wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau cynllunio gwersi a’m gallu i addasu fy nulliau i wahanol sefyllfaoedd – gan beidio â chyfyngu ar fy ngwybodaeth i addysgu mewn ysgolion cynradd yn unig. Mae rheoli ac addysgu gwahanol grwpiau a sefyllfaoedd wedi fy ngalluogi i fod yn barod i addysgu pan fyddaf yn wynebu profiad bywyd go iawn. Mae wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder hefyd; heb os, dwi’n llai nerfus yn cyflwyno gwers ddawns na phan ddechreuais i!”
Abi Phelps
Chwaraeon, Addysg Gorfforol ac Iechyd (Dawns) – BSc (Anrh) ac Athro Ysgol Gynradd
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog.
Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.
Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.
Gwybodaeth bellach, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: www.colegcymraeg.ac.uk
• Dwyieithrwydd
• Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles
• Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg
• Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff
• Moeseg Chwaraeon
• Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gyrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth).
• Trwy gydol eich gradd, cewch gyfle i ddatblygu’ch galluoedd trwy ddysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar y campws a lleoliadau gwaith oddi ar y campws.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau
Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: Tair blynedd amser llawn neu bedair blynedd amser llawn
gan gynnwys blwyddyn Sylfaen
Gofynion
mynediad: Cynnig
nodweddiadol: 96–112 Pwynt
UCAS
Dim ond i fyfyrwyr meddygol yn y DU y mae eu prifysgol eu hunain yn eu hystyried yn addas ar gyfer rhaglen gydberthynol y mae’r radd BSc Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff (Cydberthynol) hon ar gael.
Mae hyn ar ôl cyfnod astudio canolradd/ cyn-glinigol fel arfer ond gall fod amrywiadau mewn gwahanol Ysgolion Meddygol. Nid cwrs ‘atodol’ yw’r rhaglen hon.
Bydd y rhaglen hon sydd ar Lefel 6 yn unig yn cynnwys prosiect annibynnol a bydd yn caniatáu i chi ddewis modiwlau iechyd a pherfformiad ym meysydd Biomecaneg, Ffisioleg a Seicoleg er mwyn cwblhau eich gradd.
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Mae ein gradd Chwaraeon atodol yn rhoi cyfle i chi adeiladu ar eich astudiaethau blaenorol i gwblhau gradd sy’n adlewyrchu eich gofynion ac yn darparu sylfaen gref i chi adeiladu arni yn y dyfodol.
Mae’r radd wedi’i chynllunio i fod yn rhaglen hyblyg iawn. Er mai un lefel yn unig sydd ganddi, mae yna lawer o wahanol gyfuniadau o fodiwlau y gallwch eu dilyn i’ch galluogi i adeiladu ar yr hyn rydych chi’n ei wybod eisoes a datblygu sgiliau a gwybodaeth newydd sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen i gyflogaeth neu astudiaethau pellach.
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd
Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser
Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: Rhaid i ymgeiswyr fod wedi pasio pob un o’r modiwlau yng nghyfnod canolradd eu hastudiaethau meddygol, a hynny ar eu hymgais gyntaf. Rhaid i ymgeiswyr gael cymeradwyaeth eu Hysgol Feddygol gyfredol hefyd.
Mae cyfle i astudio rhan o’r radd hon yn y Gymraeg
Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd
Man astudio: Campws Cyncoed
Hyd y cwrs: Blwyddyn yn llawn amser, dwy flynedd yn rhan-amser
Rhagor o wybodaeth, rhestr lawn o fodiwlau ac opsiynau gyrfa
Gofynion mynediad: Cynnig Nodweddiadol: Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod wrthi’n cyflawni HND neu Radd Sylfaen sy'n cyfateb i lefelau 4 a 5 ar lefel Addysg Uwch y DU mewn pwnc sy'n gysylltiedig â chwaraeon, neu fod wedi cwblhau hynny eisoes.
Mae cyfle i astudio rhan o'r radd hon yn y Gymraeg
Os ydych chi’n siaradwr Cymraeg ac eisiau astudio rhan o’ch gradd drwy gyfrwng y Gymraeg, gallwn ni helpu. Mae nifer o’n graddau’n cynnig modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ym meysydd chwaraeon, iechyd, addysg, celf a dylunio a busnes.
Am restr lawn o raddau gyda’r opsiwn hwn, cyfeiriwch at y cyfeiriadur cyrsiau yn y prosbectws hwn.
Mae llawer o fanteision i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, sy'n cynnwys:
• Cyllid ychwanegol
• Cyfle i ddatblygu terminolegau arbenigol yn ddwyieithog
• Datblygu sgiliau dwyieithog a fydd yn fanteisiol wrth chwilio am gyflogaeth
Mae Met Caerdydd yn cynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy'n dewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Prif Ysgoloriaeth: £3,000 (£1,000 y flwyddyn)
Pwy sy’n gymwys: Myfyrwyr sy'n astudio o leiaf 66%/80 credyd o'u cwrs bob blwyddyn, drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ysgoloriaeth Cymhelliant: £500 y flwyddyn (£1,500 dros dair blynedd)
Pwy sy’n gymwys: Myfyrwyr sy'n astudio 33%/40 credyd o'u cwrs bob blwyddyn, drwy gyfrwng y Gymraeg mewn unrhyw bwnc.
*Mae'r ffigurau hyn yn gywir adeg argraffu (Chwefror 2024) ac wedi'u cymryd o wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i: www.colegcymraeg.ac.uk
Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Cangen Met Caerdydd yn gymdeithas o fyfyrwyr a staff sy'n awyddus i hyrwyddo addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr a staff ac mae'n gweithio'n agos gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i sicrhau hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.cardiffmetsu.co.uk
“Un o fanteision niferus
astudio’r cwrs Chwaraeon ac Addysg Gorfforol dwyieithog yw maint y grŵp blwyddyn.
Rydym yn grŵp bach o 18 myfyriwr, ac rydyn ni i gyd wedi dod yn ffrindiau mawr.
Mae’n wych cael cymdeithasu gyda chyd-fyfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg!
Mantais arall oedd y cyfle i dderbyn ysgoloriaeth drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae fy mhrofiad ym Met Caerdydd yn werth y byd ac rwy’n hyderus y bydda i’n barod i ddechrau fy ngyrfa erbyn diwedd fy astudiaethau.”
Lia Huws
Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog – BSc (Anrh)
Prifddinas ffyrdd heb eu teithio lawer. Ieithoedd heb eu dysgu eto. Pobl ymhell oddi yma, y byddwch chi’n eu hadnabod fel ffrindiau cyn bo hir. Llefydd a fydd yn addysgu cymaint i chi ag unrhyw ddarlith neu werslyfr. Prifddinas teimlo’n gartrefol, ble bynnag rydych chi yn y byd.
Dychmygwch eich hun yn camu oddi ar awyren i ddinas dramor brysur, yn ymgolli mewn diwylliant newydd bywiog ac yn barod i gychwyn ar antur a fydd yn llywio eich dyfodol. Ym Met Caerdydd, rydym yn eich gwahodd i ddatgloi byd o bosibiliadau drwy ein rhaglenni Cyfleoedd Bydeang trawsnewidiol, sydd â’r nod o gyfoethogi eich taith academaidd ac ehangu eich safbwynt byd-eang.
Sganiwch y cod QR i ymweld â’n safle blogiau a darllen mwy gan ein myfyrwyr sydd wedi ymweld â Brasil, Zambia, Sri Lanka, Yr Eidal, Groeg a mwy
Gyda’n rhwydwaith helaeth ar draws Ewrop, Gogledd America, America
Ladin, Affrica, Asia a’r Môr Tawel, mae’r byd yn eiddo i chi. P’un a ydych chi’n breuddwydio am bythefnos o drochi mewn diwylliant yn Uganda, Fiji neu Sri Lanka, cyfnewidiad academaidd semester o hyd yn Sbaen, UDA neu Seland Newydd, neu flwyddyn o archwilio Ewrop, mae’r rhaglen berffaith gennym i danio’ch chwilfrydedd ac ehangu eich gorwelion.
“Dwi’n ddiolchgar iawn ac yn ffodus iawn fy mod i wedi cael y cyfle i astudio dramor drwy gyfnewid am semester.
Dwi wedi ennill sgiliau newydd ac wedi gwella rhai agweddau arnaf i fy hun drwy senarios newydd, ac rydw i wedi
gwneud cymaint o ffrindiau newydd hefyd na fyddwn i wedi’u gwneud fel arall. Dwi’n gobeithio y bydd llawer o fyfyrwyr eraill hefyd yn gallu profi manteision astudio dramor yn yr un ffordd ag y bûm i’n ffodus i wneud”
Morgan Bebb
Darlunio – BA (Anrh)
Cyfoethogi eich taith academaidd
Mae Cyfleoedd Byd-eang yn golygu mwy na gweld y golygfeydd; mae’n golygu ymgolli mewn amgylchedd academaidd newydd, ennill dealltwriaeth ddyfnach o safbwyntiau amrywiol a herio eich ffiniau deallusol. Mae ein Cyfleoedd Byd-eang yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a phrosiectau mewn meysydd pwnc o bob math, gan sicrhau y gallwch integreiddio’ch profiad rhyngwladol yn ddi-dor i’ch maes astudio dewisol.
Gwella eich cyflogadwyedd
Ym myd rhyng-gysylltiedig heddiw, mae profiad byd-eang yn ased amhrisiadwy. Mae cyflogwyr yn chwilio am unigolion sy’n gallu ymdopi â gwahaniaethau diwylliannol, addasu i amgylcheddau newydd a chyfathrebu’n effeithiol ar draws ffiniau. Drwy astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, byddwch yn datblygu’r sgiliau rhyngddiwylliannol, y gallu i addasu a’r meddylfryd byd-eang i’ch gwneud yn wahanol i’r gystadleuaeth.
Datgloi eich twf personol
Mae cwblhau rhaglen astudio, gwaith neu wirfoddoli dramor yn daith a fydd yn eich siapio chi fel unigolyn. Byddwch yn datblygu annibyniaeth, dyfeisgarwch a dealltwriaeth newydd o’ch lle eich hun yn y byd. Byddwch yn meithrin cyfeillgarwch gydol oes ag eraill, yn adeiladu rhwydwaith byd-eang ac yn darganfod cryfderau a doniau cudd ynoch chi’ch hun.
Cychwyn ar eich antur fyd-eang
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni Cyfleoedd Byd-eang i gyd-fynd â’ch diddordebau a’ch amcanion academaidd. O ymweliadau diwylliannol tymor byr, i gyfnewidiadau semester a blwyddyn o hyd, byddwn yn eich tywys drwy’r broses ymgeisio ac yn darparu cymorth parhaus drwy gydol eich taith. Mae cyfleoedd ariannu ar gael hefyd i’ch helpu i droi eich breuddwydion byd-eang yn realiti.
Cyngor i ymgeiswyr
Er mwyn helpu i’ch tywys drwy’r camau o wneud cais i astudio gyda ni, rydym wedi llunio ein tudalennau gwe ‘Cyngor i Ymgeiswyr’ i’ch helpu i weld beth yw’r prif dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y cylch ymgeisio – cyn ac ar ôl i chi wneud eich cais UCAS.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm Derbyniadau:
Sgwrs fyw neu holwch ar-lein drwy ein tudalennau gwe
029 2041 6010
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
www.metcaerdydd.ac.uk/cyngoriymgeiswyr
Dyddiadau ymgeisio a dyddiadau cau Gallwch wneud cais o fis Medi ymlaen drwy ucas.com. Cofiwch ofyn i’r tîm Derbyniadau a oes dyddiad cau penodol ar gyfer eich cwrs chi.
Mae’r cyfarwyddiadau llawn ar-lein, ac mae cymorth ar gael yn: www.ucas.com/apply
Mae Met Caerdydd yn derbyn ceisiadau gohiriedig ar gyfer y rhan fwyaf o gyrsiau. Cysylltwch â’r tîm Derbyniadau i gadarnhau bod hyn yn wir am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi.
Datganiadau personol
Mae’r datganiad personol yn rhan hollbwysig o’ch cais UCAS; dyma’ch cyfle chi i ddweud wrthym ni beth sy’n eich cyffroi a’ch ysgogi chi, eich uchelgeisiau, eich sgiliau trosglwyddadwy, unrhyw ymchwil rydych chi wedi’i gwneud a’ch profiadau. Gofalwch mai eich datganiad personol chi yw e, ond gofynnwch i athro, ffrind neu riant ei brawfddarllen; does dim byd gwaeth na gweld camgymeriadau sillafu.
Ewch i: www.ucas.com/ personalstatement am gymorth ac arweiniad.
Sut a phryd y byddwch chi’n clywed am statws eich cais Gallwch weld statws eich cais ar-lein unrhyw bryd drwy fynd i UCAS Hub yn www.ucas.com/hub.
Hefyd, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost o’r eiliad y byddwch chi’n gwneud cais, a phob cam o’r cylch ymgeisio.
Bydd gwybodaeth, cyngor a nodiadau atgoffa defnyddiol yn cael eu hanfon atoch chi nes y byddwch chi’n dechrau’r cwrs ym mis Medi. Gofalwch eich bod yn gwirio eich e-byst yn rheolaidd ac yn ychwanegu Met Caerdydd fel anfonwr diogel er mwyn osgoi colli gwybodaeth bwysig.
Diwrnodau Ymgeiswyr
Fel rhan o’ch profiad fel ymgeisydd ac i’ch helpu i wneud penderfyniad
gwybodus am ddewis astudio gyda ni, bydd y rhan fwyaf o’n cyrsiau yn cynnal Diwrnodau Ymgeiswyr i roi blas i chi ar sut beth yw astudio gradd ym Met Caerdydd.
Fel arfer, mae Diwrnodau Ymgeiswyr yn wahanol i Ddiwrnodau Agored ac maent yn canolbwyntio ar ddarparu profiad mwy manwl ac, mewn rhai achosion, yn rhoi profiad ymarferol o’ch gradd. Byddwch yn cael manylion pellach drwy e-bost os yw hyn yn berthnasol i’r cwrs rydych chi wedi gwneud cais amdano.
Cyfweliadau
Bydd y broses ymgeisio ar gyfer nifer o’n graddau israddedig yn cynnwys cyfweliad. Gall hyn fod oherwydd gofynion proffesiynol neu’r angen i drafod eich cais yn fanylach a chyflwyno corff o waith (e.e. portffolio ar gyfer graddau celf a dylunio).
Os byddwch chi’n gwneud cais am radd sy’n gofyn am gyfweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch gwahoddiad. Bydd dyddiad ac amser eich cyfweliad ar UCAS Hub i chi hefyd. Gall cyfweliadau gael eu cynnal yn y cnawd neu ar-lein yn dibynnu ar y cwrs.
I wybod mwy, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/cyfweliadau
Gofynion mynediad
Mae gofynion mynediad yn amrywio o gwrs i gwrs. Mae’r Brifysgol yn gwerthfawrogi profiad gwaith a chymwysterau academaidd a bydd yn ystyried myfyrwyr o bob math o gefndiroedd academaidd. Bydd pob tudalen cwrs yn y prosbectws hwn yn rhoi syniad o bwyntiau tariff UCAS a dderbynnir ar gyfer pob gradd, ynghyd ag unrhyw ofynion penodol.
Polisi Derbyniadau
Mae Polisi Derbyniadau Met Caerdydd yn ceisio derbyn unrhyw un a fyddai’n elwa ar addysg uwch. Asesir ceisiadau yn ôl eu teilyngdod unigol a byddwn yn ystyried bob math o gymwysterau ffurfiol, yn ogystal ag unrhyw brofiad gwaith perthnasol. Gallwch weld y Polisi Derbyniadau yn: www.metcaerdydd.ac.uk/derbyniadau
Cyllid myfyrwyr a ffioedd dysgu
Gellir dod o hyd i ffioedd dysgu cyfredol ar gyfer eich cwrs, yn ogystal ag unrhyw gostau ychwanegol, ar ein gwefan yn: https://www. metcaerdydd.ac.uk/ffioedd
Yn ogystal, fe welwch lawer o wybodaeth ddefnyddiol am y cymorth ariannol amrywiol sydd ar gael i chi – o ffioedd dysgu a benthyciadau cynhaliaeth i grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau.
Hefyd, os ydych chi’n ystyried astudio ar un o’n graddau a ariennir gan y GIG*, gallwch weld manylion Bwrsariaeth y GIG a chymorth ychwanegol gan Met Caerdydd yn: www.metcaerdydd.ac.uk/bwrsariaethaugig
Am fanylion llawn a meini prawf cymhwysedd ar gyfer yr holl fwrsariaethau ac ysgoloriaethau presennol, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/ ysgoloriaethau
*BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (tudalen 82); BSc (Anrh) Maethiad Dynol a Dieteteg (tudalen 158); BSc (Anrh) Podiatreg (tudalen 164); BSc (Anrh) Therapi Lleferydd ac Iaith (tudalen 166).
Polisi Cyd-destunol
Mae Met Caerdydd yn defnyddio derbyniadau cyd-destunol er mwyn adeiladu darlun mwy crwn ar gyflawniadau a photensial ein hymgeiswyr. Rydym yn gweithredu cynllun cynnig cyd-destunol sy’n ystyried sawl dangosydd a byddwn yn gwneud cynnig llai pan fydd ymgeiswyr yn bodloni’r dangosyddion hyn.
Nid oes angen gwneud cais am gynnig cyd-destunol gan y byddwn yn ystyried gwybodaeth a ddarperir fel rhan o’ch cais UCAS, ond mae’n bwysig bod hyn yn cael ei gwblhau’n llawn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.metcaerdydd.ac.uk/ derbyniadau-cyd-destunol
Telerau ac amodau eich cynnig i gael rhagor o fanylion, ewch i: www.metcaerdydd.ac.uk/telerau
Mae’r cyfeiriadur hwn yn gweithredu fel canllaw byr iawn. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r graddau isod i’w gweld ar dudalen y cwrs perthnasol yn y prosbectws hwn.
LIA Hyd llawn amser mewn blynyddoedd Wedi’i achredu/ardystio/ cymeradwyo’n broffesiynol
£ Ffioedd dysgu a delir gan Fwrsariaeth y GIG
S Llwybr/blwyddyn sylfaen ar gael
BL Blwyddyn ar leoliad ar gael
C Cyfle i astudio rhan o’r radd yn y Gymraeg
* Yn amodol ar ddilysiad
ECONOMEG A CHYLLID
Gwybodaeth bwysig
Argraffwyd y prosbectws hwn ym mis Chwefror 2024. Mae’r wybodaeth yn gywir adeg argraffu ac yn cyfeirio at y rhaglenni israddedig y mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn bwriadu eu cynnig i fyfyrwyr sy’n dechrau astudio ym mis Medi 2025. Dylai darpar fyfyrwyr gyfeirio at ein gwefan am yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyrsiau a gofynion mynediad cyn gwneud cais. www.metcaerdydd.ac.uk/israddedig
Rydym yn ymdrechu i ddarparu cyrsiau fel y’u disgrifir ac, fel arfer, ni fyddwn yn gwneud newidiadau megis teitl y cwrs, cynnwys y cwrs, y dull cyflwyno a’r ddarpariaeth addysgu. Fodd bynnag, bydd sawl cwrs yn cael Adolygiad Cyfnodol fel rhan o’n hymrwymiad i welliant parhaus a gall hyn arwain at newidiadau i fodiwlau. Lle bo’n berthnasol, dangosir hyn ar dudalennau’r cwrs.
Y tu allan i’r Adolygiad Cyfnodol, efallai y bydd angen i’r Brifysgol wneud newidiadau i ddarpariaeth cyrsiau neu wasanaethau am resymau staffio, ariannol, rheoleiddiol ac academaidd dilys. Pan fydd ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Brifysgol, gan gynnwys newidiadau i ddeddfwriaeth y llywodraeth, darpariaeth effaith a/neu ffioedd, cymerir pob cam rhesymol i leihau unrhyw darfu ac i gyfathrebu newidiadau i ymgeiswyr. Mae Met Caerdydd yn cadw’r hawl i wneud amrywiadau i gynnwys neu ddulliau cyflwyno, gan gynnwys terfynu neu uno cyrsiau, os ystyrir bod camau o’r fath yn angenrheidiol. Yn ogystal, gellir cyflwyno modiwlau dewisol yn amodol ar y galw ac argaeledd. Darllenwch ein Telerau ac Amodau am wybodaeth lawn. www.metcaerdydd.ac.uk/telerau
ADDYSG, BLYNYDDOEDD CYNNAR AC ADDYSG GYNRADD
029 2041 6010
askadmissions@cardiffmet.ac.uk
metcaerdydd.ac.uk/israddedig
metcaerdydd.ac.uk
Chwilio @metcaerdydd
Prifysgol Noddfa