Julie Arkell – Ymaith

Page 1

Julie Arkell

Julie Arkell

ISBN 978-1-905865-67-3





Julie Arkell ymaith


drosodd a slight flight dearie


cynnwys 9 Rhagair Philip Hughes 13 Bywyd creadigol Sara Roberts 27 Trefn pethau Jane Audas 53 Ymaith Julie Arkell 61 Bywgraffiad 62 Cydnabyddiaethau

some do not like to go away no no! not even for a day are you out at away today?





chwith come here little bird, don’t fly away. make a nest with me

rhagair Yn 2004, agorodd arddangosfa Gartref Julie Arkell yng Nghanolfan Grefft Rhuthun, ac roedd yn lwyddiant ysgubol. Fe deithiodd yn helaeth ac ’rydym wedi ail-argraffu’r llyfr ‘Gartref’ dair gwaith. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach yn 2014 rydym yn aros am lansiad Ymaith, campwaith newydd Julie Arkell, gyda chyffro ac anesmwythder. Roedd Gartref am effemera’r bob dydd a welwyd trwy ddiwylliant darbodus; y bodloni a’r trwsio. Gwelir llawer newid yn Ymaith – mae gan Julie stiwdio ‘Ymaith’ yn ogystal â’i lle gweithio gartref. Fel mae Juli yn nodi ‘Rwy’n caru gweld bywyd bob dydd oddi ffwrdd. Mae’r pryder cyn mynd ymaith yn stori wahanol …Fodd bynnag; unwaith i’r drws ffrynt gau tu ôl i mi …mae darganfyddiadau newydd yn galw. Mae bod ymaith yn rhyddhau fy meddwl.’ Ar gyfer prif gorff yr arddangosfa hon gwnaeth Julie Arkell 100 o ‘greaduriaid’, un yr wythnos dros gyfnod o bron i ddwy flynedd, gan eu rhoi o’r neilltu yn ei stiwdio ‘Ymaith’. Mae traethawd craff Jane Audas ‘Trefn pethau’ yn adrodd hanes arddangosfa Julie Arkell gan ragdybio y bydd ‘yn un o drefn, cyfundrefn a dosbarthiad. Ni fydd yn ymddangos felly, wrth gwrs. Bydd ei gwaith yn edrych mor hudol a bywiog ag erioed!’

9

Ysgrifennodd Sara Roberts ar Julie yn y llyfr gynhyrchwyd i gydfynd â Gartref gan ailymweld â hi i Ymaith, a nodi bod ‘y syniad o fywyd creadigol yn rhan o’i hallbwn artistig a phob gweithred ganddi. Mae ei hymarfer yn cylchdroi o gwmpas ‘hanes ymgorfforol y canfod’ [ei bod] yn trysori hen bethau, eu casglu ar y dechrau, eu ddefnyddio yn ei gwaith yn nes ymlaen. Pob tamaid yn dod â hanes, defnydd blaenorol, cyfeiriad diwylliannol.’ Yn Gartref ysgrifennais am Bunners, yr haearnwerthwr bendigedig yn Nhrefaldwyn, ac ysgifennodd golygydd Selvedge, Polly Leonard, am dranc y siopau manion gwnïo. Trwy ei gwaith, arddangosfeydd a gweithdai mae Julie yn codi pwysigrwydd siopau o’r fath ac yn awr gyda ‘marchnata arbenigol’ a gwefr y rhyngrwyd gall y llanw droi i’r siopau arbenigol bach, mae Bunners dal yn ffynnu. Diolch i Jane Audas, Sara Roberts, Mary La Trobe-Bateman, y dylunydd Lisa Rostron, y ffotograffydd Dewi Tannatt Lloyd, Gregory Parsons a Douglas Bevans. Ond yn bennaf oll, i Julie Arkell ei hun am barhau i’n ymhyfrydu ni gyda’i gwaith. Philip Hughes Cyfarwyddwr, Canolfan Grefft Rhuthun





bywyd creadigol Mae Julie Arkell yn derbyn newid o fath penodol: o’r ffordd mae gwrthrychau yn esblygu trwy ddyddio a defnydd, gwisgo parhaus, difrod haul, sgriffiadau a gwyfynod. Mae hi’n gwisgo hen siaced i’w thad, un wedi’i theilwra – ’roedd yn ddyn bychan o gorff – mae hi wedi ei thrwsio dro ar ôl tro ac wedi ei haddurno’n hyfryd, ychwanegu dartiau ac ymylwaith arni, a’i throi yn wisg benywaidd mae’n ei charu. Mae pob un clwt arni yn stori, wedi eu gosod un ar ben y llall. Mae’r ffabrig wedi cael ei olchi’n feddal, a’r dilledyn wedi ei fowldio iddi hi a’i ffordd o fyw. Mae’r syniad o fywyd creadigol yn rhan o’i hallbwn artistig a phob gweithred ganddi. Mae ei hymarfer yn cylchdroi o gwmpas ‘hanes ymgorfforol y canfod’;1 mae hi’n trysori hen bethau, eu casglu ar y dechrau, eu ddefnyddio yn ei gwaith yn nes ymlaen. Pob tamaid yn dod â hanes, defnydd blaenorol, cyfeiriad diwylliannol. Nid yw’r ffigwr dynol yn rhan o’i repertoire fel gwneuthurwr. Canfyddodd y gallai ddweud pethau gydag anifeiliaid na allai ddweud gyda phobl, gwneud sylwadau ar fodolaeth dynol gyda chyffyrddiad ysgafn. Ymysg y cymeriadau arferai wneud roedd cwningod, neu greaduriaid â chlustiau-crwn tebyg i lygod ag iddynt wedd wag neu lesiannol, doliau â llygaid crwn llachar deniadol, pennau mawr ar gyrff main yn nodi eu gwreiddiau mewn plentyndod. Nawr mae’r brain wedi cyrraedd. Er nad ydynt yn fygythiol mewn unrhyw ffordd, mae ganddynt lygaid miniog mewn wynebau llwyd tywyll wedi’u modelu o baent a’u gwrido â phinc cynnes. Mae eu cyfrannedd yn fwy credadwy, yn rhai adar, nid anifeiliaid neu bobl. Ond mae i’r brain hyn rywbeth atgoffaol o ferched traddodiadol Cymreig, gyda’u hetiau coryn uchel a gwisgoedd brethyn plad prudd, eu haenau fel plu ac ychydig yn angladdol. 1. James, S., Jones-Williams, L., (2014) Dark Tales, Canolfan y Celfyddydau Llantarnam Grange, http://issuu.com/lgac/docs/darktales4, cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014

13

chwith siaced dad tudalen blaenorol landin gartre / stiwdio gartre


rags wool keys pegs scraps and beads. things you find to use


at home with the flock



Mae Julie yn siarad yn deimladwy am ‘weu ei hun allan o alar’ yn dilyn marwolaeth ei mham yn 2011. Mae’n nodweddiadol ei bod wedi troi at ddwysedd gweithgaredd cartrefol i ddatrys cymhlethdod o emosiynau a materion ymarferol sy’n deillio o golled newid-bywyd o’r fath. Hyd yn oed tra’n treulio’r wythnosau olaf wrth ochr ei mham, fe gynhyrchodd nifer fawr o ysgolion wedi’u gwau, ac yna wedi iddi farw, bu’n gwau siolau cymhleth – y math o beth y byddai ei mham wedi ei wneud iddi hi, pethau nad oedd hi’n ymwybodol bod y gallu ganddi i’w cynhyrchu – er mwyn dangos i’w mham beth oedd hi’n gallu ei wneud. Mae hi’n dweud fod gwaith bob amser wedi bod yn gysur iddi. Mae hi’n gwerthfawrogi defnyddio ei bysedd ac ymarfer crefft parhaus i ‘weithio rhywbeth allan’, yn emosiynol ac yn gorfforol fel ei gilydd. Wedi arfer gwisgo patrymau gwerinol llachar, tecstilau haenog wedi’u gwneud a’u gorffen â llaw ac a gasglwyd dros flynyddoedd lawer o wneud, teithio a lloffa mewn siopau ail-law, mae’n gweld ei harchwaeth am liwiau lachar yn amhriodol. Nid wyf erioed wedi clywed rhywun yn siarad mor eglur am gywirdeb gwisg galar. Fe gliriodd ei chwpwrdd dillad gan roi ffrogiau gwerthfawr i ffwrdd, llifo rhai eraill yn liwiau glas tywyll a llwyd, yn credu’n gadarn bod hwn yn drawsnewidiad parhaol ac na fyddai hi’n dymuno gwisgo ei hen steiliau eto. Yn awr, gyda iachad treigl amser, mae hi’n gresynu colli’r dillad hyn. Mae hi’n barod i ailddyfeisio ei phersona cyhoeddus ac ailafael yn rhai o’i dulliau blaenorol o fyw, ond gyda gwerthfawrogiad newydd o arliwiau tywyllach bywyd. Mewn cofnod o’i ‘dyddiadur’ o gymeriadau, wnaed un-yr-wythnos am gan wythnos, pob un yn ffigur tri-dimensiwn gyda thestun byr, am Rif 87, wythnos 17, ysgrifennodd: “Byddaf yn mynd yn flin os byddwch yn dweud fy mod yn edrych yn annwyl. Dyna sut rwy’n teimlo os bydd rhywyn yn galw fy nghreaduriaid cwningen yn annwyl: mae elfennau o annwylder iddynt oes, ond nid dyna eu stori i gyd.” Mae hwn yn ymateb cronnus i gamddealltwriaeth am ei gwaith fel rhywbeth hiraethus a hudolus, gorbwyslais sylfaenol ar ei hochr feddalach yn y ffordd y mae llawer o’i gwaith cynharach wedi ei efelychu gan artistiaid ac amaturiaid eraill, ac ei bod hi angen ymgeisio am rywbeth fwy personol, caletach, sy’n anoddach i’w gopïo.

17

chwith ystafell fyw


uchod stiwdio gartre de cyntedd

Mae ei synnwyr o’r abswrd wedi’i ddatblygu’n dda, wedi’i danio gan ei chasglu cyson a rhai o’i darganfyddiadau rhyfeddach megis What the Horse Wore, ei chasgliad o ddelweddau o geffylau yn gwisgo, pantalŵ ns a chlust-dwymwyr amrywiol, o wahanol ddiwylliannau ac ar gyfer gwahanol swyddogaethau, diogelwch neu inswleiddio. Mae ei gwaith yn cynnwys cyfeiriadau parhaol at hanes celf a delweddau hanesyddol pwerus. Mae gwisgoedd ac ymarweddiad ei brain, er enghraifft, yn cael eu dylanwadu’n uniongyrchol gan ffotograff August Sander o 1914, Young Farmers on Their Way to a Dance, Westerwald lle mae’r ffigurau wedi eu trefnu mewn modd graffig, yn drwsiadus ond prudd yn eu gwisgoedd du, yn edrych yn uniongyrchol i’r camera. Dylanwadau eraill yw’r ymdriniaeth unigryw iawn i gynrychiolaeth gan y paentwyr Winifred Nicholson a Rose Wylie; trefniadau tawel Giorgio Morandi, a’r ffaith iddo gynnal oes o ymarfer gyda’r un grŵ p bychan o wrthrychau. Mae ei diddordeb yng ngrym lluniadau plant a rhai naïf hefyd yn amlwg yn y diddordeb parhaus yng ngwaith y mudiad COBRA yn Ewrop tua 1950, yn enwedig y gwaith graffeg gan Karel Appel a Asger Jorn, ac agwedd llai adnabyddus o allbwn Paul Klee, y casgliad anhygoel o bypedau wnaeth ar gyfer diddanu ei blant ei hun. Mae rhain yn apelio trwy eu symlrwydd a’u hyfdra graffig, gydag ychydig wisgoedd a nodweddion papier-mâché i awgrymu cymeriadau mewn naratif.

18



in a quiet space of time it happened… the journey began… on the way to a dance…




Mae hi’n cydnabod gwerth dyfalwch cadw llyfr braslunio i gipio eiliadau: lluniadau arsylwadol bychan mewn inc; cofnod ysgrifenedig o ymadroddion iddi eu clywed neu ddarllen ac a fydd yn cael eu hymgorffori yn ddiweddarach yn ei gwaith; darnau o ffabrig ac effemera papur, ond heb eu hymgasglu’n fwriadol i’w dangos i’r cyhoedd. Mae ei Dyddlyfrau Gwyliau, ar y llaw arall, wedi eu cynllunio’n fwy hunan-ymwybodol, yn gofnod o leoedd ac arddangosfeydd iddi ymweld â hwy a bwyd iddi fwyta, wedi eu dogfennu gyda thocynnau a darluniau. Mae pob tudalen yn gyflwyniad ystyriol hardd o amser a lle a hwyliau. Mae’r testun yn y dyddiadur wedi ei haenu mewn lliw a’i gyflwyno’n artistig. Mae Julie a’i gwr Douglas yn neilltuo amser bob dydd tra byddant ar eu gwyliau i weithio ar eu dyddlyfrau personol, ac mae’r cwestiwn os ydi’r dyddlyfr yn cofnodi’r daith neu’r daith yn esgus dros wneud y dyddlyfr yn parhau’n ddadleuol. Mae Julie yn hoffi difyru pobl, gwneud iddynt chwerthin, gydag elfen berfformiadol yn y modd y mae hi wedi dewis byw a gwisgo, ymagwedd gyfannol tuag at y materol a’r ymddygiadol sy’n rheoli pob darn o ysgrifennu, ac hyd yn oed sut mae hi’n cyflwyno bwyd yn ei chartref. Mae hi’n gwneud gwaith i gysuro ei hun yn y lle cyntaf, ac yna yn ei roi allan i’r byd i ledaenu ymdeimlad llesianol ehangach. Nid yw hyn yn ymateb i fygythiad penodol, ond yn broses o greu byd anfygythiol a di-fygwth. Mae hi’n mynd ar ôl y syniad o gysur trwy eiriau yn ogystal â gwrthrychau; mae hi’n ysgrifennu ‘rhestrau cysur’ yn ei llyfrau braslunio, sy’n gweithredu fel barddoniaeth concrid. Nid yw’r ymadroddion ysgrifenedig y defnyddia yn ei gwaith yn sloganau, megis geiriau ar grys-t cyfoes, dyweder. Maent yn cyfoethogi y cymeriadau y cawsant eu gosod arnynt, gan beri cydnabyddiaeth coeglyd o hiwmor ysgafn. Nid oes ynddynt chwedl rybuddiol; nid ydynt yn negesuon moesol. Maent yn bodoli ochr yn ochr â phennau a thread, dwylo bach a cyrff wedi’u cerflunio, yn eu hanimeiddio ymhellach, gan roi rhywbeth iddynt ddweud.

Sara Roberts

23

chwith rhestrau cysur


the comfort of wool




trefn pethau Mae hanes arddangosfa Julie Arkell – yr Ymaith sy’n dilyn Gartref gynhaliwyd ddeng mlynedd yn ôl – yn un o drefn, cyfundrefn a dosbarthiad. Ni fydd yn ymddangos felly, wrth gwrs. Bydd yn edrych mor hudol a bywiog ag erioed. Ond y tu ôl i’r cyfan bu proses o wneud hunanosodedig fu’n fodd i’w chynnal trwy’r brofedigaeth o golli ei mham (fu farw ddiwedd 2011) ac amlygwyd yn y galar brofodd Arkell, ar ffurf real a diriaethol. Ar gyfer crynswth yr arddangosfa hon gwnaeth Arkell 100 o ‘greaduriaid’, un yr wythnos. Gorffenwyd hwy, i’r dim, yng Ngorffennaf 2014. O’r creadur cyntaf, peth bach swil, i’r creadur olaf – un fwy cadarn ac ystyfnig yn camu i ffwrdd – maent yn gwneud casgliad naratif gwych. Roedd Arkell yn gwybod y byddai hi’n gwneud 100 o’r cychwyn. Mae ganddi rywbeth am rifau ac roedd 100 yn ymddangos yn berffaith. Byddai’n rhoi terfyn ar bethau mewn da bryd ar gyfer yr arddangosfa hefyd. Bob yn un mae i bob creadur ei stori. Roedd Arkell yn gwneud cofnod ysgrifenedig o’r straeon hyn, ar lawer achlysur yn eu nodi ddwywaith. Roedd ganddi lyfr nodiadau tra-phwysig, gyda rhestr o’r dyddiadau cafodd pob darn ei wneud a’r ‘nodyn’ fyddai’n cyd-fynd ag o. Mae rhai nodiadau wedi eu brodio ar y creaduriaid, rhai wedi eu hysgrifennu mewn pensel (pensel, bob amser) ar sgrap o bapur cysylltiedig.

27

chwith owl’s wool makes a lovely summer bonnet uchod y llyfr ‘putting things away’



Mae’r cofnod cyntaf yn y llyfr nodiadau hwn yn darllen: Gan ddechrau ym mis Medi 2012, y 36fed wythnos o’r flwyddyn, penderfynais geisio gwneud rhywbeth bob wythnos ac yna ei roi o’r neilltu. Byddwn yn atodi nodyn iddo, efallai yn ehangu ar y geiriau y tu ôl i’r darn. Ar yr un pryd byddwn yn copïo’r nodiadau hyn i’r llyfr hwn, yn galluogi i mi gofio’r pethau ‘roddwyd ymaith’. Roedd Philip Hughes, Cyfarwyddwr Rhuthun, wedi gofyn i Julie ystyried arddangosfa pen-blwydd, i ddathlu’r 10 mlynedd ers i Gartref gael ei dangos yn Rhuthun yn 2004. Awgrymodd y gellid ei galw’n Ymaith. ‘Ystyriwn os gallwn ddechrau gwneud darn bob wythnos, gan ei alw yn ‘Rhoi Pethau Ymaith’ byddai hyn yn adwy i’r prosiect.’ Ag eithrio ychydig o wythnosau gwyliau (pan oedd hi weithiau yn gwneud y darn cyn mynd), cadwodd Arkell at ei chynllun. Aeth y creaduriaid i mewn i’w blychau cardfwrdd, bob yn un, dan haenau o flancedi papur sidan. I gysgu hyd nes oedd y paratoadau ar gyfer yr arddangosfa yn golygu bod angen eu dadbacio a’u cyflwyno i’r camera am y tro cyntaf.

29

chwith raven girl uchod y llyfr ‘putting things away’


uchod the last away (manylyn) dde the perfect disguise

Heb os, mae 100 o greaduriaid yn gwneud casgliad. I Arkell, mae Ymaith am golli ei mham, am fynd i ffwrdd, pacio, bagiau, dyddiaduron gwyliau yn disgrifio bod i ffwrdd, cardiau post, cadw pethau. Defnyddiodd y gair fel rhywbeth i chwarae gydag o, i gael ei hysbrydoli ganddo, fel man cychwyn. Ac mae’r holl ysbrydoliaeth hwn yn bresennol rywle yn y 100 creadur terfynol a’u nodiadau. Fel pob un o ddarnau Arkell mae’r creaduriaid yn gweithio ar lefel uniongyrchol fel rhai bach, ciwt a hygyrch. Ond maent hefyd yn gweithio ar lefel ddyfnach, gyda neges, un sy’n ad-dalu arsylwi manwl. Dyna pan ddaw tywyllwch, hiwmor a dwyster ei gwaith i’r amlwg. Mae’r broses o wneud, fapiwyd allan ar gyfer y 100 o greaduriaid (ac y glynodd iddo dros gant o wythnosau) yn golygu, heb gynllunio bwriadol, bod y darnau wedi dod yn ryw fath o gymorth cof i’r siwrne o alaru ei mham. Ar yr wyneb mae’r creaduriaid yma yn union fel y gwaith byddwn yn ddisgwyl gan Arkell, ond edrychwch ychydig yn agosach gan ystyried yr holl rannau yn unigol, cyn camu yn ôl i ystyried y casgliad wedi ei osod yn ei gyfanrwydd o’ch blaen. Roedd 100, yn sicr, yn rhif delfrydol.

30



uchod the impatient pram (manylyn) dde full of crowness drosodd stiwdio gartre

Mae’n rhywbeth teimladwy iawn i weld calon y gwneuthurwr yn cael ei ddinoethi mewn gwaith – a ‘gwaith’ ydi casgliad o 100 o greaduriaid wrth eu gweld gyda’i gilydd. Mewn rhyw fodd, ymddengys y dylid cadw’r 100 gyda’i gilydd; yn dal dwylo trosiadol, wedi eu huno am byth yn eu hamrywiaeth, hadfyd, clytwaith, dryswch, darnau canfod, unffurfiaeth a gwahaniaeth. Map gweledol o’r wythnosau yna ym mywyd Arkell. Mae anthropormorffio gweithiau crefft difywyd yn rhywbeth sy’n gwneud llawer o’r rhai sy’n ddi-hid am grefft yn anghyfforddus. Ond ar gyfer y gweddill ohonom, mae cael cip o fywyd, emosiwn neu bersonoliaeth mewn darn sy’n uniaethu â’r profiad dynol yn rhywbeth yr ydym yn ei drysori. Mae’n ein denu ni tuag at ddarn. Mae gwaith Arkell yn ymwneud, fel erioed, gyda’r profiad dynol sy’n cael ei gyfleu trwy ffigyrau dol ac iddynt ogwydd dynol. Mae pob un darn yn seiliedig ar rywbeth y bydd Arkell yn meddwl amdano neu’n deimlo, yn darllen amdano neu yn cael ei ysbrydoli ganddo. Dyma ‘gyffyrddiad y gwneuthurwr’ sydd mor hanfodol i grefft. Dyna sydd yma, yn 100 o greaduriaid, ac yn amlwg iawn trwy’r cyfan, cyffyrddiadau o brofiadau anioddefol o deimladwy Arkell rydym yn gyfrin iddynt.

32





Rhif 1. Wythnos 36 (Medi 2012) old reds blues stained white and brown Fy hoff liwiau ar hyn o bryd. Hwn oedd y cyntaf o’r 100 o greaduriaid wnaed a’u rhoi o’r neilltu. Meddai Arkell: “Yn yr haf rwyf o hyd yn awyddus i wisgo mwy o liwiau glas, gwyn a coch. Rwyf o hyd yn newid y lliwiau rwy’n eu gwisgo ‘gyda’r tymhorau’.”


Rhif 5. Wythnos 40 this time last year… Wythnos ingol iawn i mi, penblwydd fy mam, y cyntaf hebddi yma.


Rhif 9. Wythnos 44 i don’t want to write to an Elk Rhywbeth ddywedodd Douglas wnaeth i mi chwerthin. Mae’r clociau’n mynd yn ôl, meddyliau yn troi at nosweithiau’r gaeaf a’r ceirw. Am berson, nid anifail o’r enw Elk. Ond yma mae’r person hwn yn cael ei droi yn anifail.


Rhif 10. Wythnos 45 a circumstance Dwn i ddim o lle y death hwn, gorchuddiais hen flwch i fy mam fel ‘cartref’. Creadur cyfrinachol sy’n synnu braidd i weld y goleuni pan fyddwch yn agor y blwch.


Rhif 11. Wythnos 46 where did you fly too? Meddwl am fy mam, yr oeddwn i gyda hi yn gyson adeg yma llynedd. Ystum erfyniol a phenwisg Busby gwallgo. Mae’r nodyn, fodd bynnag, yn dweud y cyfan.


Rhif 14. Wythnos 49 do birds have ears? Oes? Ystyriais hyn mewn wythnos anodd. Creadur ingol hyfryd, gyda’r cwestiwn 'oes gan adar glustiau’ wedi’i frodio ar dag, i’w gofio am byth. O edrych ar greadur 14 fe grybwyllodd Arkell mor hawdd y buasai i chwilio yn Google i gael yr ateb. Roeddem ill dwy yn gytun nad oeddem am gael ateb. ‘Rwy’n hoffi meddwl am y peth fel petai’ meddai hi.


Rhif 17. Wythnos 52 i feel safe amongst the crows Het Gymreig hardd. Rwy’n caru’r lliwiau yma.


Rhif 18. Wythnos 1, 2013 to begin with I ffwrdd â 2013. Stiwdio wedi ei glanhau, ffenestri wedi eu golchi, yn barod i ddechrau. Creadur pedair-coes llawn posibiliadau. Gwnaed dros Galan 2013–14.


Rhif 35. Wythnos 17 the impatient pram Gwnes baentiad o hwn yn y stiwdio ‘ymaith’. Aeth trwy nifer o newidiadau, gyda chymorth lluniad a roddodd fwy o ysbryd y preswylwyr i mi. Roedd yn wythnos gythryblus ar y cyfan yn paratoi ar gyfer COLLECT. Yn adlewyrchu cyfnod o amlorchwylio gwallgo gan Arkell. Mae’r 3 creadur yn darllen: ‘Ar goll braidd.’ ‘Dwi ddim yn gwybod beth i’w wneud.’ ‘Poeni.’



Rhif 87. Wythnos 17 I’ll get cross if you say i look sweet Sut rwyn teimlo os bydd fy nghreaduriaid cwningen yn cael eu galw’n annwyl. Mae elfennau o anwylder ynddynt ond nid dyna’i hanes i gyd.


Rhif 90. Wythnos 20 yan tan tethera Yn draddodiadol, mae Yan Tan Tethera yn rhigwm cyfri defaid ddefnyddir yng Ngogledd Lloegr. Fe’i defnyddiwyd hefyd gan rai sy’n gweu i gyfri eu pwythau. Fe’i darganfyddais yn Nhŷ Cecil Sharp, cynhaliwyd digwyddiad yna yr wythnos hon i ddathlu gweu trwy gyfrwng caneuon a dawnsio gwerin. Yn aml mae pethau ynghlwm wrth greaduriaid Arkell, er nad yw bob amser yn glir pwy sy’n arwain pwy. Daethpwyd o hyd i’r sebra plastig mewn stryd yn Islington, Llundain.


Rhif 97. Wythnos 27 collecting insects Tra yn Ffrainc yr wythnos diwethaf rhoddodd Susu lรถyn byw marw mewn jar i mi. Rwyf wedi ychwanegu at y casgliad ac am wneud rhai pryfaid ar gyfer y bwrdd natur. Nid yn unig y mae jar o bryfaid marw go iawn yma, ond sgrapyn bach o ffabrig gyda phryf arno yw ffrog y creadur.


Rhif. 100. Wythnos 30 (gorffenwyd yng Ngorffennaf 2014) the last away Wel dyna ni, saith o flychau llawn o ‘ymaithrwydd’. Daeth Jane Audas i fy ngweld wythnos yma, ac fe wnaethom ni ddadbacio ychydig o ‘wythnosau’ i’w trafod. Syndod yw eu gweld nhw eto ar ôl y bwlch o’u rhoi ymaith o’r neilltu, ac i ddarllen eu straeon. Mae’r creadur disglair olaf yn ei ffrog blodau, yn cydio pelen o wlân sy’n datod a disgyn. Mae’n thema barhaol yng ngwaith Arkell, peli o wlân yn disgyn. Nid oes angen i ni wybod pam.

Jane Audas



she thought all kinds of wicked things, then tried to be good the crow bird in a black forest bonnet the crow found and made all her treasures the crow that stands alone



ymaith Rwy’n caru gweld bywyd bob dydd oddi ffwrdd. Mae’r pryder cyn mynd ymaith yn stori wahanol. Beth i fynd gyda mi, beth i’w wisgo, ydw i wedi cofio popeth? Mae’r noson cyn gadael yn dra-gofidus. Rwy’n meddwl yn aml y byddai’n well i mi gadw fy magiau ac aros gartref. Fodd bynnag, unwaith i’r drws ffrynt gau tu ôl i mi ac rwyn brasgamu i fyny’r ffordd, mae darganfyddiadau newydd yn galw. Mae bod ymaith yn rhyddhau fy meddwl. Pan fyddaf allan rwy’n casglu syniadau i’w defnyddio maes o law yn y stiwdio. Nid oes raid i mi fod ar wyliau; hyd yn oed ar y dro o’m cartref i fy stiwdio ‘ymaith’ mae cymaint i’w weld ac ailddarganfod. Mae cerdded yn newid y ffordd rwy’n meddwl. Mae teithiau trên hir yn gyfle arall i gasglu argraffiadau. Rwy’n syllu allan o’r ffenest ac yn meddwl tybed sut brofiad fyddai i fyw yn y tŷ yna yng nghanol y cae, neu’r dref yna sy’n pasio heibio? Rwy’n sgriblo geiriau i lawr, ac mae ffigurau yn ymddangos ar ymylon y ddalen. I’m teulu roedd gwyliau yn bethau pwysig wedi eu cynllunio’n dda. Byddai fy rhieni yn trafod llefydd i fynd yn Ionawr ac erbyn Chwefror byddai llythyrau wedi eu hysgrifennu at wahanol dai llety, sieciau wedi eu hanfon, ymatebion a chadarnhad wedi eu derbyn.

53

chwith Hotel d’Angleterre gyda broetshis dol yn yr ystafelloedd uchod broetshis dol


uchod Julie, ei brawd Peter a’u mham, gwersyll gwyliau Croyde Bay, 1959 Julie a’i thad, pentref Croyde, 1956 Julie a’i mham tu allan i’w caban, 1956

Am saith mlynedd cyntaf fy mywyd, treuliwyd y gwyliau hyn ym Mae Croyde, gwersyll gwyliau bychan yng Ngogledd Dyfnaint. Mae hyd yn oed ysgrifennu’r geiriau yn dod ag atgofion cryf, ac rwy’n teimlo iddynt wneud argraff fawr ar y ffordd rwy’n gweithio nawr. Roedd y cabanau gwyngalch yn dawel a threfnus wrth i ni gyrraedd. Roedd gan pob un ddau wely sengl, gyda chwrlidau lliwgar wedi’u gwehyddu, cwpwrdd dillad bach, desg, cadair a ffenestri ffrâm metel. Dim ystafelloedd ymolchi en-suite, roedd y cyfleusterau yna ar ddiwedd pob bloc o gabanau. Rhwng pob caban roedd feranda, lle storwyd yr holl betheuach traeth. Roeddwn yn ymhyfrydu yn y cystadlaethau ar gyfer plant: gwasgu a threfnu blodau (mewn jariau jam), adeiladu castelli tywod, a’r llwybrau natur yn ogystal, ond yn enwedig y gweithgareddau gwneud. Ac roedd posibilrwydd o ennill taleb i’w wario yn y siop anrhegion. Gallai’r môr ar arfordir Gogledd Dyfnaint fod yn eithaf garw, ac arferid cyhoeddi amser brecwast os oedd yn ddiogel i nofio. Roedd ocheneidiau o siom pe bai yn rhy beryglus y diwrnod hwnnw. Yng nghefn y gwersyll, roedd hen giat bren yn arwain i’r twyni tywod cynnes a’u gorchudd o laswellt paith, ac ar yr ochr arall safai traeth hir ysblennydd. Trwy’r wythnos byddai ein bwrdd a’n silffoedd ffenest

54


yn annibenu gyda chregyn a thrysorau gwyliau, a’r cabanau yn grutaidd gyda thywod. Ar ddiwedd yr wythnos daeth y foment y gallwn i ‘wario’ fy nhalebau yn y siop anrhegion. Yr holl amser byddai’r oedolion wedi bod yn ymlacio tros goffi yn eu cadeiriau Lloyd Loom, byddwn i wedi bod yn syllu’n ddyheus ar yr amrywiaeth llachar o deganau, fferins, a nwyddau traeth. O’r diwedd, cawn yr hyn a fynwn, cysur i mi pan oedd y gwyliau drosodd. Roedd bob amser yn anodd gadael. Torrodd fy nghalon pan benderfynodd fy rhieni y dylem ni fynd ar wylie i rywle newydd er mwyn ‘ehangu ein gorwelion’. Fyddem ni ddim yn mynd ‘dramor’, ac eithrio taith diwrnod i St Malo o Guernsey neu efallai Jersey? Roedd Ardal y Llynnoedd, Cernyw, Swydd Efrog, Cymru a’r Alban yn gyrchfannau gwyliau dros y blynyddoedd. Dechreuodd fy nyddiaduron gwyliau ar y gwyliau teulu yna, ond daethant yn rhywbeth rwy’n eu gwneud ar bob taith i ffwrdd nawr. Rwy’n caru ymweld â dinasoedd yn y misoedd oerach a chael gwyliau glan môr yn yr haf. Cefais fy nennu yn ôl i Lydaw lawer gwaith. Mae’r arfordir garw yn fy atgoffa o Ogledd Dyfnaint, ac mae’r trefi glan môr yn rhoi oriau o stwna llawen yn yr amgueddfeydd, canolfannau gwybodaeth, siopau, marchnadoedd a chaffis lleol.

55

uchod tlysau crog defnydd tlws crog anifail Cerdyn post Croyde Bay anfonwyd gan dad Julie i’w gefnder ym 1959


uchod tudalennau braslyfr Llydaw, 2011

Mae gwneud, ysgrifennu a lluniadu yn angenrheidiau a chysuron mor sylfaenol i mi, efallai yn fodd i gludo fy stiwdio gyda mi wrth i mi deithio. Ar sawl achlysur cefais fy hun yn syllu’n hiraethus ar siop wlân yn Ffrainc a gorfod mynd i mewn i brynu gweill ac edafedd gan fy mod wedi gadael fy ngweu adre. Beth bynnag, sut y byddwn yn cofio’r holl bethau dwi wedi eu gweld, bwyta a’u clywed os nad oeddwn wedi gwneud cofnod ysgrifenedig ohonynt? Un o’m hoff bethau i wneud ydi eistedd mewn caffi yn glynu’r holl docynnau, papurau lapio siwgr a biliau amrywiol i mewn i’m dyddiadur a chofnodi fy straeon.

56


Dyma’r tro cyntaf i mi ddangos fy llyfrau gwyliau yn gyhoeddus. Fel rheol maent wedi eu storio yn fy stiwdio, yn cael eu tynnu allan ar gyfer cyfeiriadaeth neu gofio digwyddiadau, pryd bwyd, gwesty, man penodol, neu’n syml i gael cip yn ôl ar fod i ffwrdd. Mae’r rhyddid o fod ymaith yn rhoi golwg eglurach i mi i’r pethau rwyf am eu cipio yn y bob dydd.

Julie Arkell

57


caption




chwith patrwm gweu cwfl picsi wedi’i bwytho

bywgraffiad 1955

Ganwyd yn Llundain

Hyfforddiant 1977–78 Diploma mewn Tecstilau Ffasiwn, Ysgol Gelf St Martin’s, Llundain 1974–77 BA (Anrh) Tecstilau, Coleg Celf a Dylunio West Surrey

2007 2006

2005 Arddangosfeydd dethol 2014 Dark Tales, Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange Music Makers, Canolfan Arddangos y Bluecoat, Lerpwl 2013 Collect, Contemporary Applied Arts (CAA), Llundain 2012 I’ve Dusted the Farmyard, Canolfan y Bluecoat (sioe unigol), Lerpwl The Bolingbroke Hospital: A view backwards, CAA, Llundain Making up poems, Petite Violette, Malmo, Sweden 2011–13 Femmes Alchimistes, Automates Galerie, Brwsel Toytown: favourite toys from Whitstable and beyond, Oriel ac Amgueddfa Whitstable The Making of me, Frank, Whitstable 2010 Smile, Canolfan Grefft Rhuthun, (arddangosfa deithiol) Pour l’Amour du Fil, Nantes, Ffrainc Focus, cyflwyniad, CAA, Llundain 2009 The Creatures Show, Touchstones, Rochdale Embodiment, Llantarnam Grange 2008 Season of Tales and Stories, South Hill Park, Bracknell Making Stories, Oriel Flow, Llundain Ffenest yng Nghanolfan Arddangos y Bluecoat, Lerpwl

61

2004 Detholiad 2012–14 2010–14 2008–14 2008–14 2008–14 2008– 2005–10 2006– 2006– 2005–

The Knitting & Stitching Show, Birmingham, Palas Alexandra, Llundain a Harrogate Galleri Excentrisk, Denmarc Made, Parc Cerfluniau Swydd Efrog Folk Art and Fairy Tales, Oriel Davies, Y Drenewydd Replay, Oriel Flow, Llundain Cyflwyniad yn y CAA, Llundain Gartref, Canolfan Grefft Rhuthun (taith unigol) o weithdai hyfforddi Raystitch, Llundain Hope and Elvis, Welbeck, Nottingham Coleg West Dean, Gorllewin Sussex Loop, Camden Passage, Llundain Les Souers Anglaises, Ffrainc Coleg Catmose, Rutland Ysgol Haf Coleg Marlborough, Marlborough Textiel Plus, Yr Iseldiroedd Seattle and Summer House, Califfornia, UDA Artist and Display, Milwaukee, Wisconsin, UDA

Casgliadau 2006– Ysbyty Plant Evelina, Llundain 2006– Touchstones, Rochdale


cydnabyddiaethau dde no more schooldays for the crow drosodd a crow red daughter sister young girl crow the crow that stands alone clawr blaen holding on to threads tu mewn clawr blaen watch out! dear woods man… tudalen 2 the crow that stands alone clawr cefn long live the glorious crow

Hoffwn ddiolch i Philip Hughes am y cyfle i mi wneud Ymaith. Hefyd i Jane Gerrard, Gregory Parsons, Sioned Phillips, Dewi Tannatt Lloyd a Lisa Rostron am eu cymorth a’u cefnogaeth, wrth baratoi’r arddangosfa hon. Sara Roberts a Jane Audas am eu sgiliau ysgrifennu ac arsylwadau. Fy holl ffrindiau sy’n rhoi ysbrydoliaeth ac anogaeth i mi, ac i Douglas am wneud y silffoedd a’i gwmnïaeth, gartref ac oddi cartref. Julie Arkell, Medi 2014 Hoffai Canolfan Grefftau Rhuthun ddiolch a chydnabod cymorth y canlynol: Julie Arkell; Jane Audas; Sara Roberts; Cyngor Celfyddydau Cymru; Nia Roberts; Lisa Rostron a phawb yn Lawn Creative; Dewi Tannatt Lloyd; Gregory Parsons; Pete Goodridge ac ArtWorks. Mae Julie Arkell: Gartref yn arddangosfa deithiol Canolfan Grefft Rhuthun Staff arddangosfa Canolfan Grefft Rhuthun: Philip Hughes, Jane Gerrard, Sioned Phillips a Joe Jubb. Dylunio: Lawn Creative, Lerpwl Ffotograffi: Dewi Tannatt Lloyd Cyfieithu: Nia Roberts Argraffu: Team Impression, Leeds

Mae Jane Audas yn awdur, curadur a chynhyrchydd digidol ei liwt ei hun. Gellir gweld rhestr gyfan o’i gwaith ar www.janeaudas.com gyda neillebau mwy penodol ar www.shelfappeal.com. Mae Sara Roberts yn guradur annibynnol Cymreig yn byw a gweithio yng Nghaerwynt. Mae hi wedi gweithio ar brosiectau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer Canolfan Grefft Rhuthun, y Cyngor Crefftau, Oriel Mostyn, Oriel Caerwynt yn Ysgol Gelf Caerwynt, PACA (Asiantiaeth Comisiynau Celf Gyhoeddus) a’r Cyngor Prydeinig. Cyhoeddir gan Ganolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Testun Yr Awduron a CCRH 2014 ISBN 978-1-905865-67-3 Mae Canolfan Grefft Rhuthun yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o Gyngor Sir Ddinbych. Ni ellir atgynhyrchu’r llyfr hwn yn gyfan gwbl neu’n rhannol mewn unrhyw ffurf heb ganiatâd ysgrifenedig gan y cyhoeddwr. Mae’r llyfr hwn hefyd ar gael yn y Saesneg. Canolfan Grefft Rhuthun Y Ganolfan i’r Celfyddydau Cymhwysol Heol y Parc, Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru DU LL15 1BB Ffôn: +44 (0)1824 704774 www.canolfangrefftrhuthun.org.uk

62





Julie Arkell

Julie Arkell

ISBN 978-1-905865-67-3


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.