Hydref/Gaeaf 2015
Rhifyn 10
Maniffesto CEFNOGI TRYDYDD SECTOR CAERDYDD Yn y rhifyn hwn: • Cefnogi trefn lywodraethu dda • Helpu Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown i sicrhau cyllid • Sut mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn buddsoddi yn ei staff • ... a mwy
YN CYNNWYS ADOLYGIAD BLYNYDDOL
Cefnogi Trydydd Sector Caerdydd Mae C3SC wedi cael blwyddyn arall gadarnhaol iawn yn helpu, cynrychioli a chefnogi ein haelodau.
“Croeso i Maniffesto” Croeso i’r rhifyn hwn o Maniffesto, sy’n cynnwys adolygiad blynyddol Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (C3SC) ar gyfer 2014/15. Mae’n bleser gennym ni rannu rhai o gyflawniadau C3SC dros y flwyddyn ddiwethaf – ac, wrth gwrs, rydym mor awyddus ag erioed i glywed eich barn ar ein gwaith. Yn y rhifyn hwn mae mwy o wybodaeth hefyd am: • sut rydym ni’n cryfhau cysylltiadau gyda’n partneriaid • sut mae pobl yn cael budd o brosiectau C3SC
Ymdriniodd C3SC â thros 2,800 o geisiadau am gyngor a gwybodaeth.
Cefnogodd Swyddogion Trydydd Sector C3SC sefydliadau lleol i’w helpu i gael cyllid o dros £900,000, a dosbarthwyd dros £376,000 drwy ein cynlluniau grant a reolir.
• ein gwaith yn hyrwyddo cydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth Rydym yn croesawu adborth gan ein haelodau ar sut y gallwn eich cefnogi chi i gydweithio, i ddatblygu mewn modd cynaliadwy, i ddylanwadu ac i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i bobl Caerdydd. Cofion cynnes
Richard Edwards Cadeirydd, Cyngor Trydydd Sector Caerdydd O.N. Cewch fanylion am gyrsiau hyfforddi sydd ar y gweill – y rhan fwyaf ohonynt yn rhad ac am ddim i’n haelodau – ar dudalen 8.
O'r 429 o gynrychiolwyr a fynychodd ein cyrsiau hyfforddi, roedd dros 99% ohonynt yn gweld pob agwedd yn ‘dda’ neu’n ‘ardderchog’.
Mae C3SC wedi helpu ein haelodau i ddatblygu gwasanaethau newydd ar draws Caerdydd.
Ymdriniwyd â thros 500 o ymholiadau ar drefn lywodraethu’r trydydd sector, a chymerodd 190 o gynrychiolwyr ran yn ein digwyddiadau i hyrwyddo a chefnogi trefn lywodraethu dda.
Cefnogodd C3SC amryw o rwydweithiau polisipenodol, a hwyluso mwy na 160 o gysylltiadau gyda grwpiau cynllunio strategol a grwpiau gwaith i'n haelodau.
Derbyniwyd ac ymatebwyd i 490 o ymholiadau’n gysylltiedig â chyllid gan Swyddogion y Trydydd Sector, a chymerodd 227 o bobl ran yn ein digwyddiadau cyllido.
Ymwelwyd â'n gwefan dros 80,000 o weithiau, ac mae dros 1,300 o bobl yn derbyn ein e-gyhoeddiadau'n rheolaidd gyda manylion am gyfleoedd a gwybodaeth sy'n berthnasol i bobl, grwpiau a sefydliadau yng Nghaerdydd a'r sector elusennol ehangach.
C3SC ar LinkedIn
Dilynwch ni ar Twitter
Mae C3SC ar LinkedIn. Dilynwch ni i gael y newyddion diweddaraf a manylion am ein gwasanaethau.
Cadwch mewn cyswllt gydag @C3SC – a darganfod beth sy'n digwydd yn y trydydd sector yng Nghaerdydd. Manylion am newyddion, hyfforddiant a digwyddiadau C3SC hefyd.
Ewch i www.linkedin.com/company/ cardiff-third-sector-council
Dilynwch ni @C3SC
Ein gweledigaeth yw trydydd sector cryf, amrywiol ac egnïol yng Nghaerdydd.
Cyngor Trydydd Sector Caerdydd Llawr Daear Ty^ Brunel, 2 Heol Fitzalan, Caerdydd CF24 0EB
Rhif ffôn: (029) 2048 5722 E-bost: enquiries@c3sc.org.uk Gwefan: www.c3sc.org.uk Twitter: @C3SC LinkedIn: www.linkedin.com/company/cardiff-third-sector-council
Adolygiad Blynyddol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015 2
Elusen Gofrestredig 1068623. Cwmni Cyfyngedig drwy Warant yng Nghymru 3336421. Argraffwyd y cyhoeddiad hwn ar bapur cynaliadwy.
Wythnos ym mywyd Cymunedau'n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn Drwy gydol 2014/15, parhaodd Cymunedau’n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn â’i waith mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn cyflwyno gwasanaethau a gweithgareddau ystyrlon o ansawdd uchel. Mae’r rhain yn amrywio o ddigwyddiadau unigryw – megis dyddiau cymunedol llawn difyrrwch – i weithgareddau i gefnogi unigolion drwy gyfnod pontio, e.e. symud o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd, neu i gyflogaeth, Addysg Uwch neu hyfforddiant. yn ymwybodol o'u hopsiynau ar gyfer y dyfodol.
Ymweliad gan y Gweinidog Eleni, cawsom y pleser o groesawu ymweliad gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, a chawsom gyfle i ‘arddangos’ ein gwasanaethau. Ym mis Awst, ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Uwchradd y Dwyrain i lansio gweithgareddau Wythnos Pontio ar gyfer disgyblion newydd a disgyblion presennol a’u teuluoedd. Cafodd gyfle i gwrdd â rhai o'n partneriaid, gan gynnwys y Gwasanaeth Ieuenctid, Fforwm Tredelerch, Chwaraeon Caerdydd, Theatr Sherman, Cymdeithas Cartrefi Cymunedol Caerdydd, ymysg eraill, a gweld ein gweithgareddau - gan gynnwys cwrs undydd ar Gymorth Cyntaf, lle daeth saith o bobl yn Gymorthyddion Cyntaf cymwysedig - gwersi hunanamddiffyn, dosbarthiadau addurno teisenni, gweithdai celf a chrefft, a recriwtio ar gyfer sioe ffasiynau. Ar ôl mwynhau gêm o badminton gyda rhai o aelodau’r gymuned, ymunodd y Gweinidog â ni yng Nghanolfan
Bartneriaeth Tredelerch i gwrdd ag unigolion o grwpiau cymunedol lleol, Cymunedau'n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn, a gwirfoddolwyr eraill yn y gymuned, lle cafodd glywed am y gwaith a wneir i wella ein cymunedau lleol. Meddai’r Gweinidog: “Roedd yr ymweliad yn un hynod o werthfawr er mwyn i mi weld drosof fy hun y canlyniadau cadarnhaol sy’n cael eu cyflawni. Gwnaeth y gwaith partneriaeth a’r brwdfrydedd argraff arbennig arnaf.”
Gweithio mewn Partneriaeth Roedd ymweliad y Gweinidog yn ddechrau da i wythnos o weithgareddau yn Ysgol Uwchradd y Dwyrain; canolbwyntiwyd ar gefnogi disgyblion newydd, a chynnig cyfarwyddyd i’r disgyblion oedd yn gadael yr ysgol ar ddiwrnod canlyniadau TGAU er mwyn sicrhau eu bod
Yn ystod yr wythnos lawn o weithgaredd, cawsom gyfle i gynnal diwrnod o hwyl i’r gymuned ar y thema ‘O Dan y Don’ ar y cyd â Chymdeithas Trigolion Roundwood yn y Powerhouse. Cododd yr RNLI ymwybyddiaeth o ganlyniadau mentro i ddyfroedd peryglus . . . Taniodd Gwyddonydd Cymunedol Amgueddfa Caerdydd ddiddordeb mewn gwyddoniaeth naturiol gydag amrywiaeth o bryfetach cyffredin . . . Cynhaliodd gwirfoddolwyr Cymunedau’n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn gystadleuaeth adeiladu cychod . . . Trefnodd gwirfoddolwyr lleol stondinau crefft gan helpu plant i wneud amrywiaeth o eitemau, o emwaith i berisgopau cardbord . . . a mynychodd plant hŷn weithdai drymio a dysgu sut i chwarae drymiau bongo. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 150 o bobl yn mynychu. Rhoddodd yr wythnos o ddigwyddiadau gyfle inni godi ymwybyddiaeth o bwy ydym ni a’r hyn rydym ni'n ei wneud, a pharhau i gryfhau ein perthynas â phartneriaid lleol, gan roi cefnogaeth iddynt yn ogystal ag adnoddau ychwanegol. Am fwy o wybodaeth am waith Cymunedau'n Gyntaf Dwyrain Caerdydd, Llanedeyrn a Phentwyn, ewch i www.eclp.org.uk
Llwyddiant Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown Mae Dr Ellie Byrne, Cyd-gadeirydd Cymdeithas Gelfyddydau Adamsdown (A3), yn adrodd sut yr aethant ati i ennill cyllid gan Gronfa Partneriaeth Gymdogaeth Cyngor Caerdydd. Grŵp celfyddydau gwirfoddol bychan yw A3 yn ardal y Sblot, Tremorfa, Adamsdown a’r Rhath, Caerdydd. “Ein nod yw sicrhau gwell mynediad i bobl yr ardal at brofiadau celfyddydol o ansawdd uchel. Credwn yn gryf y gall y celfyddydau effeithio’n gadarnhaol ar gynhwysiad cymdeithasol, balchder dinesig, iechyd a lles. “Y llynedd, roeddem yn awyddus i gyflwyno cais i gynllun grantiau’r Bartneriaeth Gymdogaeth am
brosiect adrodd straeon gyda dwy ysgol gynradd leol. Cawsom lawer o help gan Thoria yn Swyddfa C3SC, a fu’n edrych dros ein ffurflen gais. Gwnaeth ambell awgrym ynglŷn â sut i wella’r cais, gan ei gysylltu’n fwy cryno â blaenoriaethau’r Cynllun Cymdogaeth a’n hannog i nodi ein bwriad yn fwy eglur.”
Llwyddiant “Buom yn gweithio gyda Michael Harvey, y storïwr a’r perfformiwr rhyngwladol, a fu’n helpu’r disgyblion i ddyfeisio, ysgrifennu a golygu eu stori eu hunain fel dosbarth. Yna daethom â’r cwmni animeiddio Turnip Starfish i weithio gyda’r disgyblion er mwyn dod â’r straeon yn fyw ac animeiddio eu ffilm eu hunain o bob stori. Casglwyd y stori a’r darluniau at ei gilydd i greu
e-lyfr, a chyflwynwyd y ffilmiau yn seremoni wobrwyo’r Arwyr Lleol yn Adamsdown ym mis Rhagfyr 2014. “Roedd y prosiect yn llwyddiannus dros ben; roedd ymateb yr athrawon yn ardderchog, a chafodd y disgyblion gyfle i weithio gydag artistiaid proffesiynol i greu rhywbeth i’w gadw am byth. Cyrhaeddodd un o’r animeiddiadau y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Ffilm Zoom Cymru 2014, hyd yn oed. Mae’r ddau animeiddiad byr a mwy o wybodaeth am A3 ar gael yn www.a3arts.co.uk/star-stories.html
Cydweithio a phartneriaeth yn y sector 3
Adolygiad Ariannol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015 “Diolch” Diolch o galon i'n holl gyllidwyr. Ni fyddai ein gwaith yn bosibl heb eich cefnogaeth.
Daw’r ffigurau isod o ddatganiadau gweithredol drafft heb eu harchwilio Gweithgaredd Ariannol Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Cyfyngedig drwy Warant) ar gyfer y Flwyddyn sy’n Diweddu 31 Mawrth 2015. Bydd y cyfrifon llawn, adroddiad yr archwilwyr ar y cyfrifon hyn, ac adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr, ar gael cyn y Cyfarfod Blynyddol ym mis Rhagfyr 2015. Bydd copïau ar gael gan Gyngor Trydydd Sector Caerdydd, y Llawr Isaf, Tŷ Brunel, 2 Heol Fitzalan, Caerdydd CF24 0EB.
2015
2014
2013
CYFANSWM YR ADNODDAU A DDERBYNIWYD
1,441,303
1,483,047
822,926
CYFANSWM YR ADNODDAU A WARIWYD
1,361,737
1,474,140
746,278
79,566
8,907
76,648
2015
2014
2013
25,199
6,165
8,784
ADNODDAU NET A DDERBYNIWYD
Cyngor Trydydd Sector Caerdydd (Cyfyngedig drwy Warant) Mantolen 31 Mawrth 2015 – Rhif Elusen: 1068623 Rhif Cwmni: 3336421
ASEDAU SEFYDLOG: Asedau diriaethol
ASEDAU PRESENNOL:
Gwerthfawrogiad Diolch i bob un o’n hymddiriedolwyr a fu’n ein gwasanaethu mor ffyddlon yn 2014/15… Roger Bone, Althea Collymore, Richard Edwards, Michael Flynn, Judith John, Terry Price, Gerald Puttock, Reynette Roberts a Sujatha Thaladi …ac i Rebecca Ball, Nick Corrigan a Karen Jones sydd bellach wedi ein gadael. Diolch hefyd i bob aelod o'n staff a’n gwirfoddolwyr, gan gynnwys y rhai sydd wedi ein gadael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Dyledwyr
223,468
105,334
39,551
Arian parod yn y banc
240,680
296,247
549,154
464,148
401,581
588,705
107,234
105,199
303,849
CREDYDWYR: Symiau sy'n daladwy o fewn un flwyddyn
CYFANSWM ASEDAU AR ÔL TYNNU'R RHWYMEDIGAETHAU PRESENNOL
382,113
302,547
293,639
CYLLID
382,113
302,547
293,639
ASEDAU NET
382,113
302,547
293,639
Adolygiad Blynyddol: Ebrill 2014 – Mawrth 2015 4
Cyd-greu Newid Iach – helpu pobl i ddweud eu dweud
Hwb i’r Gynghrair Mae Cynghrair Cyflyrau Tymor Hir Caerdydd a’r Fro wedi prysuro’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nod y gynghrair yw rhoi un llais i bobl sy’n byw gyda chyflwr cronig yng Nghaerdydd a’r Fro, a bod yn bwynt ymgysylltu lle gall sefydliadau a phartneriaid ddod at ei gilydd a rhannu syniadau er mwyn gwella gwasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar ddefnyddwyr eu gwasanaeth.
Digwyddiad rhwydweithio ac ymgynghori cymunedol ‘New Year, New You – Healthy Change’ Nod portffolio prosiectau Cyd-greu Newid Iach yw cefnogi pobl yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg i ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â gwasanaethau iechyd a lles, a chydgreu newid yn y modd y cyflwynir iechyd a gofal cymdeithasol i’r cyhoedd. Mae’r portffolio’n cysylltu cymunedau mwy anodd eu cyrraedd – nad yw eu llais bob amser yn cael ei glywed – â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Mae portffolio Cyd-greu Newid Iach wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf, gan adeiladu ar ei nod o ddod yn fecanwaith hanfodol o ymgysylltu â’r gymdeithas i ddarparwyr gwasanaeth a chyrff statudol. Mae effaith cynnydd y prosiect i’w gweld ar ystod eang o fuddiolwyr a rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni sengl a gefnogwyd gan Gingerbread i ddilyn hyfforddiant ffurfiol megis ‘Hyfforddi'r Hyfforddwr’, ac sydd bellach mewn sefyllfa i gyflwyno cyrsiau i rieni eraill drwy fentora cyfoedion . . . Ffoaduriaid a cheiswyr lloches a fu’n rhan o ddatblygu Fframwaith yn erbyn Troseddau Casineb, ac sydd wedi cynhyrchu ffilm ar y cyd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’u problemau a’u profiadau . . . Roedd modd i ddefnyddwyr gwasanaethau sy’n gofalu am bobl sydd ag afiechyd meddwl gael llawlyfr a gynlluniwyd gan Hafal mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ymateb cadarnhaol Digwyddiad allweddol a llwyddiannus arall oedd ‘New Year, New You – Healthy Change’, a gynhaliwyd ym mis
Ionawr 2015. Gweithiodd pob un o’r 10 prosiect portffolio mewn partneriaeth er mwyn codi gwell ymwybyddiaeth o ymgyrch Cyd-greu Newid Iach yn y gymuned, a dathlu ein llwyddiant gyda’r diwrnod difyr hwn. Roedd yn achlysur ardderchog i’r teulu cyfan, gyda’r plant yn mwynhau gweithgareddau bwyta’n iach a pheintio wynebau. Cafwyd ymateb gwych i’r diwrnod, gan gynnwys y neges ganlynol: “. . . Rwy’n gofalu am fy ngŵr sydd â Dementia, ac roedd y stondin clefyd Alzheimer’s a’r stondin i Ofalwyr yn hynod ddefnyddiol. Roedd pawb yn groesawgar ac yn barod i helpu. Roedd y sesiynau tylino’r corff yn hyfryd – roedd fy ngŵr yn teimlo fel dyn newydd. Diolch i bawb oedd yn rhan o'r digwyddiad.” Mewn gwerthusiad allanol o’n prosiect gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant, daethpwyd i’r casgliad fod rhwng 50% a 100% o ganlyniadau cyffredinol y portffolio wedi eu cyflawni erbyn diwedd yr ail flwyddyn. Bydd y portffolio’n edrych ar sut i adeiladu ar y llwyddiant hwn a sicrhau cyllid fel bod modd i bobl a chymunedau barhau i elwa o’r gwaith. Ewch i flog Cyd-greu Newid Iach yn co-creatinghealthychange.tumblr.com/ ac mae’r rhestr lawn o brosiectau ar gael yn http://goo.gl/OCw3m9
Nod Cyd-greu Newid Iach oedd ymgysylltu â 735 aelod o’r gymuned erbyn 2016/17. Mae dros 700 o bobl (96%) eisoes wedi bod yn rhan o’r prosiect ac wedi cynyddu eu sgiliau.
Mae aelodau’r gynghrair wedi gweithio gyda Thîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a’r Fro er mwyn cynyddu nifer y bobl a chanddynt gyflwr iechyd tymor hir, a’u gofalwyr, sy’n dewis cael brechiad rhag y ffliw. Maent wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar strategaethau megis y Cynllun Cyflwyno Niwrolegol, Siapio ein Lles yn y Dyfodol, a Fframwaith Strategol Gweithio gyda’r Trydydd Sector. Mae aelodau hefyd wedi ymateb i’r ymgynghoriad ar Fil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) ac maent yn rhan o Bartneriaeth Cymdogaeth Caerdydd. Mae yna gyffro gwirioneddol ynghylch yr hyn sy’n cael ei gyflawni.
Mae’r Gynghrair Cyflyrau Tymor Hir yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn Bydd y Gynghrair Cyflyrau Tymor Hir yn parhau i weithio gyda phartneriaid prosiect, sefydliadau a grwpiau cefnogi fel rhan o fenter Cyd-greu Newid Iach y Loteri Fawr er mwyn sicrhau bod gan bobl lais ar faterion iechyd a lles. Os yw eich sefydliad neu eich grŵp cefnogi’n gweithio gyda phobl mwy anodd eu cyrraedd, a chanddynt gyflyrau tymor hir, ffoniwch Jacqueline Jones ar (029) 2048 5722 neu e-bostio jacqueline.j@c3sc.org.uk i ddod yn rhan o Gynghrair Cyflyrau Tymor Hir Caerdydd a’r Fro.
Lleihau unigrwydd Ariennir Friendly AdvantAGE gan Gronfa’r Loteri Fawr, a bu’r prosiect yn cyflwyno amrywiaeth o weithgareddau cyfeillio er 2011. Nod pob prosiect yw lleihau unigrwydd a chynyddu hyder mewn pobl 50+ oed sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn ystod oes y prosiect, nod Friendly AdvantAGE oedd cyrraedd at 815 o fuddiolwyr. Mewn ychydig
dros 3 blynedd, mae wedi derbyn dros 1,200 o atgyfeiriadau, a chynnal gweithgareddau cyfeillio un-i-un a gweithgareddau grŵp ar gyfer dros 800 o fuddiolwyr. Dywedodd 50% o’r buddiolwyr eu bod yn llai unig ers cymryd rhan yn y prosiect, a dywedodd 64% eu bod yn fwy hyderus. Ni fyddai’r un o’r canlyniadau hyn wedi eu cyflawni heb dîm o wirfoddolwyr ymroddedig.
Cyfrannwyd 11,000 awr o amser gwirfoddolwyr, sy’n gyfystyr â thros £120,000 mewn cyfraniadau ariannol. I gael mwy o wybodaeth am Friendly AdvantAGE, anfonwch e-bost at Sandra Roberts ar sandra@gvs.wales neu ei ffonio ar (01446) 741706.
Cefnogaeth, dylanwad a chynrychiolaeth sector 5
Cefnogi trefn lywodraethu dda Gall bod yn ymddiriedolwr roi boddhad mawr. Fodd bynnag, mae straeon diweddar yn y cyfryngau wedi ein hatgoffa’n amserol o bwysigrwydd trefn lywodraethu dda, a pha mor anhepgor yw trefn o’r fath yn y gwaith o redeg sefydliad y trydydd sector yn llwyddiannus. Fel ymddiriedolwr, gallwch osod rhai rheolau syml er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio i’r eithaf ar reoli elusen, gan gefnogi eich sefydliad i fod yn iach ac yn addas i’w ddiben:
Bod yn gyfrifol am weinyddu eich sefydliad mewn modd priodol Mae hyn yn golygu sicrhau bod asedau ac adnoddau’r elusen yn cael eu defnyddio i ddiben yr elusen yn unig; a bod y sefydliad yn cael ei redeg yn unol â’i ddogfen lywodraethu, cyfraith elusennau, a rheoliadau eraill sy’n effeithio ar ei weithgareddau.
Ysgwyddo cyfrifoldeb sylfaenol Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol am weledigaeth, cenhadaeth a rheolaeth strategol yr elusen. Er y bydd rhai tasgau’n cael eu dirprwyo fel y caniateir yn y ddogfen lywodraethu, yr ymddiriedolwyr sydd â’r cyfrifoldeb sylfaenol dros yr elusen.
Gweithredu'n rhesymol ac yn ddoeth ym mhopeth Fel ymddiriedolwr elusen, bydd yn ddyletswydd gyfreithiol arnoch “i arfer y fath ofal a sgìl ag sy’n rhesymol yn yr amgylchiadau” (y Comisiwn Elusennau). Cyn belled â bod ymddiriedolwyr yn gallu dangos eu bod yn gweithredu'n rhesymol, ac mewn ffordd sy’n hyrwyddo amcanion cyfreithiol yr elusen, mae’n annhebygol y cânt eu beirniadu dan gyfraith elusennau. Disgwylir i chi dderbyn cyngor priodol os bydd ar y Bwrdd angen dealltwriaeth neu brofiad arbennig o faterion penodol na ellir ymdrin â hwy o fewn sgiliau aelodau’r Bwrdd.
Diogelu ac amddiffyn asedau eich elusen Mae asedau elusen yn cynnwys ei fuddsoddiadau, arian parod, tir, eiddo deallusol, staff ac enw da. Argymhellir yn
Sylweddoli bod gan ymddiriedolwyr ddyletswydd i weithredu ar y cyd Caiff penderfyniadau a chyfrifoldebau eu rhannu, felly dylai pob ymddiriedolwr gymryd rhan weithredol. Fel ymddiriedolwr, byddwch yn rhannu cyfrifoldeb cyfunol dros benderfyniadau gyda’ch cyd-ymddiriedolwyr. Ar ôl gwneud penderfyniad, rhaid i bob ymddiriedolwr ei gefnogi. Bydd gan rai ymddiriedolwyr swyddogaeth benodol. Er enghraifft, bydd y trysorydd yn gyfrifol am egluro’r sefyllfa ariannol i’r ymddiriedolwyr eraill. Fodd bynnag, y Bwrdd cyfan sy’n parhau i fod â chyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau.
Gweithio er lles yr elusen Mae lles yr elusen yn hollbwysig. Fel ymddiriedolwr, bydd angen i chi arfer barn annibynnol, ac ni ddylech ganiatáu i fuddiannau na safbwyntiau personol gael blaenoriaeth dros hyn.
Osgoi unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau personol a buddiannau'r elusen
Cefnogaeth C3SC Mae C3SC yma i roi cefnogaeth a chyfarwyddyd ar drefn lywodraethu eich sefydliad. • Gellir lawrlwytho taflenni gwybodaeth yn rhad ac am ddim: ‘Cychwyn Arni’, ‘Rhedeg Eich Sefydliad’ ac ‘Ymddiriedolwyr a Llywodraethu’ yn www.c3sc.org.uk/group-support-info-sheets • Rydym ni’n cynnal cyrsiau hyfforddi rheolaidd, perthnasol ar gyfer ymddiriedolwyr. Cadwch lygad ar dudalen hyfforddiant C3SC ar www.c3sc.org.uk/training-events/c3sc-training neu ffoniwch ni i ofyn am daflen hyfforddiant. • Siaradwch ag un o’n swyddogion trydydd sector i gael cyfarwyddyd a chyngor ar lywodraethu. • Ymunwch â Rhwydwaith Ymddiriedolwyr newydd Caerdydd a’r Fro.
Newy dd Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Caerdydd a’r Fro
Disgwylir i ymddiriedolwyr ymdrin yn briodol ag unrhyw wrthdaro sy’n codi rhwng buddiannau personol a buddiannau’r elusen, a dylid rhoi gwybod i’r Prif Swyddog os cyfyd posibilrwydd o wrthdaro.
Mae C3SC a GVS yn ffurfio rhwydwaith penodol er mwyn dod ag ymddiriedolwyr ynghyd i drafod materion cyfredol a rhannu arferion da. Cadwch lygad ar ein gwefan yn www.c3sc.org.uk i gael dyddiadau a manylion am ddigwyddiadau’r rhwydwaith.
Mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol yn gysylltiedig â threfn lywodraethu, a bod yn ymddiriedolwr, i’w chael ar wefan y Comisiwn Elusennau: www.gov.uk/government/organisations/ charity-commission
Diddordeb mewn ymuno â’r rhwydwaith newydd? Anfonwch e-bost at David Poole, Rheolwr Gweithrediadau, david.p@c3sc.org.uk neu ffoniwch ef ar (029) 2048 5722.
Dan arolwg
Cwrdd â Sarah Capstick
Mae Fframwaith Strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer Gweithio gyda'r Trydydd Sector yn hyrwyddo gweithgareddau partneriaeth sy’n rhoi pwyslais ar bedair thema: hyrwyddo a gwella iechyd a lles, ymgysylltiad gyda’r trydydd sector, cyflenwi ac ailgynllunio gwasanaethau, a gwirfoddoli. Ers dechrau’r Fframwaith yn 2013, gwelwyd cynnydd ym mhob un o’r themâu, ond rydym yn sylweddoli bod mwy eto o waith i’w wneud. Mae’r fframwaith strategol yn cael ei harolygu ar hyn o bryd, gyda bwriad i’w hadnewyddu erbyn mis Ebrill 2016. Ym mis Hydref cynhaliwyd arolwg a nifer o gyfweliadau unigol, ac mae digwyddiad i randdeiliaid ar y gweill. Bydd yr adolygiad yn ystyried a yw’r themâu’n dal yn berthnasol ai peidio. Er mwyn cymryd rhan, anfonwch e-bost at sarah.c@c3sc.org.uk neu ffonio (029) 2048 5722.
Ymunodd Sarah Capstick – Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol C3SC – â’r sefydliad ar ddechrau mis Gorffennaf. Bu Sarah yn gweithio yn y trydydd sector am 10 mlynedd cyn treulio cyfnod Sarah Capstick byr yn Ysgol Fusnes Caerdydd. Wedi hynny gweithiodd gyda sefydliadau partner ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg ar y Rhaglen Cefnogi Pobl. Meddai Sarah: “Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy mhrofiad a gwneud defnydd da ohono i gefnogi ein grwpiau a’n cymdeithasau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol.” Am restr lawn o staff C3SC, ewch i www.c3sc.org.uk/about/c3sc-staff
www.c3sc.org.uk 6
gryf eich bod yn gofyn cyngor arbenigol yn hyn o beth, os nad yw ar gael o fewn yr elusen.
Ein gweledigaeth yw cael trydydd sector cryf, amrywiol a pherthnasol yng Nghaerdydd
Sganiwch y cod hwn gyda darllenydd QR eich ffôn er mwyn mynd yn syth i'n gwefan.
Sut mae un o’n sefydliadau'n datblygu, cefnogi a galluogi ei staff Mae Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn falch iawn o fod wedi cyflawni statws Safon Aur Iechyd a Lles Buddsoddwyr Mewn Pobl eleni. Yma, mae Corina Churchlow, Rheolwr Gweithrediadau, yn rhannu rhai o’r arferion sydd wedi cyfrannu at lwyddiant y sefydliad. “Mae llinell gyntaf ein Datganiad o Werthoedd yn nodi: ‘Rydym ni eisiau gwneud gwahaniaeth oherwydd fod pobl yn bwysig’. Mae arnom eisiau gwneud gwahaniaeth i ddefnyddwyr ein gwasanaeth – pobl ddigartref – ond rydym hefyd yn awyddus i wneud gwahaniaeth er lles ein staff. “Ein staff yw ein buddsoddiad mwyaf, ac rydym yn awyddus i ddal ein gafael ar y tîm gorau posibl; felly, byddwn yn canolbwyntio ar dair prif ffordd o sicrhau bod hynny’n digwydd: Datblygiad Proffesiynol, Cefnogaeth a Grymuso. “Mae Datblygiad Proffesiynol yn ymwneud â’r ffordd y byddwn yn meithrin sgiliau a gwybodaeth pob aelod o staff o’r amser y byddant yn ymuno â ni. Byddwn yn dechrau trwy ddarparu proses gynhwysfawr o sefydlu cyfundrefnol ac adrannol, gydag adolygiadau ar ddiwedd cyfnodau prawf o dri a chwe mis. Caiff anghenion datblygiad a hyfforddiant eu trafod mewn sesiynau un-i-un gyda’u rheolwyr ac yn ystod eu hadolygiad gwaith blynyddol.”
Mae barn y staff yn hollbwysig Mae gennym ni fel sefydliad raglen hyfforddi sy’n cael ei llunio gan grŵp o gynrychiolwyr y staff. Hwy sy'n gyfrifol am asesu, bodloni a gwerthuso anghenion hyfforddi sefydliadol y staff bob blwyddyn. Mae barn y staff yn hollbwysig yn y gwaith o ffurfio a siapio'r rhaglen hyfforddi. “Mae gan y sefydliad ymrwymiad i ddatblygu aelodau o’r staff fel rheolwyr, a chomisiynwyd cyrsiau ILM ar gyfer yr aelodau hynny o’r staff sy’n rheolwyr newydd neu sy’n awyddus i gyrraedd statws rheolwyr. O'r 15 aelod o’r staff sydd â chyfrifoldeb rheolwyr llinell, dim ond dau a ddechreuodd yn y swydd ar y lefel honno. Mae’r 13 arall wedi eu dyrchafu i'r swydd, sy’n profi bod datblygu’r staff sydd gennym eisoes yn gwneud synnwyr busnes da. “Yn 2013, cyflwynwyd i ni Wobr Hyrwyddo Annibyniaeth Cymorth Cymru yn y categori Buddsoddi mewn Staff, a chyn i ni ennill Gwobr Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl roeddem yn falch o dderbyn Gwobr Arian Buddsoddwyr Mewn Pobl am Arweinyddiaeth a Rheolaeth.”
Cefnogi'r person cyfan “Rydym ni’n credu bod cefnogi’r person cyfan lawn cyn bwysiced â meithrin datblygiad proffesiynol. Byddwn yn darparu amrywiaeth o ddulliau cefnogi, o oruchwyliaeth a mentora i weithgareddau iach, yn ogystal â Chynllun Iechyd. “Rydym yn cynnal sesiynau misol ar gyngor ariannol, yn aelod o Undeb Gredyd Caerdydd, ac yn cynnig cynllun
Aelodau o staff Cymdeithas Dai YMCA Caerdydd yn amlwg yn mwynhau eu hunain! pensiwn anghyfrannol i aelodau staff sydd ar gyflog is. “Rydym yn annog byw bywyd iach, a lleihau straen, drwy gynnal gweithdai iechyd i staff (gweithdy chwerthin, gweithdy canu, côr, cerdded yng nghefn gwlad, ac eraill). “Bob haf, byddwn yn defnyddio arolwg straen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael syniad o lefelau straen cyffredinol y staff ac er mwyn nodi unrhyw broblemau posib. Yn 2014, cyflwynwyd i ni Wobr Arian Iechyd yn y Gwaith a Gwobr Arian Bwyta’n Iach.”
staff. Gallai hyn fod mor allweddol ag ysgrifennu ac adolygu’r polisi diswyddo, neu mor syml â chais gan staff am osod agorwr tuniau ar wal y gegin. “Byddwn hefyd yn annog staff i gynhyrchu a chyflwyno gweithdai i aelodau eraill o’r staff; er enghraifft, mae rhai o’r staff domestig yn cynnal gweithdy ar fynd i’r afael â Llau Gwely, a staff arlwyo’n cynnal gweithdy ar beryglon yn y gegin; mae aelodau o’r staff cefnogi a thai yn cynnig nifer o bynciau, gan gynnwys Asesu Risg, a Thrais ac Ymddygiad Ymosodol. Drwy wneud hyn, mae’r staff eu hunain yn gyfrifol am hyfforddi cydweithwyr a rhannu sgiliau ar draws y timau. “Er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r hyn mae ein cydweithwyr yn ei wneud, mae gennym broses o gyfnewid swyddi sy’n rhoi cyfle i aelodau o’r staff gysgodi aelod arall am y dydd. Mae staff ar bob lefel wedi cymryd rhan, hyd yn oed aelodau’r Bwrdd, ac nid oes un dim y mae aelodau o’n tîm cynnal a chadw’n edrych ymlaen ato’n fwy na'r ‘gwirfoddolwr’ nesaf sy’n gorfod dadflocio’r tŷ bach!
Staff hapus, effeithiol
“Rydym ni’n credu bod gennym dîm o staff hapus ac effeithiol. Gallwn ddefnyddio dyfyniadau o’r broses Buddsoddi Mewn Pobl, gan gynnwys: “Mae’r hyfforddiant yma’n anhygoel’ . . . ‘Rydym ni'n ymdrechu i fod yn well, ac mae pawb yn cyfrannu at hyn’ . . . ‘Rydym yn cyflwyno'r arferion gorau’
“Y trydydd cynhwysyn ar gyfer staff da, sydd yr un mor bwysig, yw grymuso.
. . . ‘Mae ein gwerthoedd craidd yn rhan o’r hyn rydym yn ei wneud – maent yn rhan o’n diwylliant’
Y staff yn mwynhau mynd am dro – er gwaethaf y tywydd gwlyb!
“Byddwn yn cynnal grŵp Gwybodaeth ac Ymgynghori Gweithwyr misol, lle mae’r Prif Swyddog Gweithredol, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau a chynrychiolydd y staff yn rhoi ystyriaeth i unrhyw fater sy’n effeithio ar gyflogaeth
. . . ‘Mae’r YMCA yn lle gwych i weithio’.” Am fwy o wybodaeth am Gymdeithas Dai Caerdydd YMCA, ewch i www.cardiffymcaha.co.uk/
LinkedIn yn www.linkedin.com/company/cardiff-third-sector-council 7
Hyfforddiant C3SC – rhoi i chi’r sgiliau mae ar eich sefydliad eu hangen Pan fyddwch yn mynychu cwrs hyfforddi C3SC, gallwch ddisgwyl: • Hyfforddiant o ansawdd uchel am bris isel • Ymarferion i’ch helpu i ymgorffori eich hyfforddiant • Adnoddau hyfforddi ymarferol a deunyddiau i fynd gyda chi • Y cyfle i rwydweithio a rhannu profiadau Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant wedi ei deilwra’n arbennig, lle byddwn yn gweithio gyda chi a’ch cefnogi mewn modd hyblyg i gwrdd â’ch anghenion penodol.
Sgiliau Cadeirio Dydd Mawrth 9 Chwefror, 9.30am – 1.30pm Swyddogaeth y Cadeirydd, a’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol ... Y paratoi a’r cynllunio sy’n angenrheidiol er mwyn llwyddo ... Elfennau sy’n sicrhau cyfarfod llwyddiannus.
Hylendid Bwyd Lefel 2 Cwrs Achrededig
Cyrsiau sydd ar y gweill
Dydd Mercher, 24 Chwefror 10am – 4pm Pwysigrwydd hylendid bwyd ... Peryglon bwyd cysylltiedig ... Sut i gynnal arferion da wrth drin, prosesu a pharatoi bwyd diogel.
Asedau ar Waith
Gweithio gyda'r Cyfryngau
Dydd Iau 14 Ionawr, 10am – 4pm Manteision ac anfanteision datblygiad sy’n seiliedig ar asedau ... Archwilio i ffynonellau ariannu a chyllid ar gyfer asedau ... a mwy.
Dydd Mercher 2 Mawrth, 10am – 4pm Beth sydd o ddiddordeb i newyddiadurwyr, a sut i’w hannog i rannu eich hanes ... Sut i ysgrifennu datganiad i’r wasg ... a mwy.
Cadw Cofnodion
Sut i Ymgorffori
Dydd Iau 21 Ionawr, 9.30am – 1.30pm Gan gynnwys pam bod angen cyfarfodydd a’r hyn sy’n gwneud cyfarfod da ... yr angen am gadw cofnodion a chywirdeb cofnodi ... awgrymiadau ymarferol a geiriau defnyddiol i’ch helpu i gynhyrchu cofnodion da.
Dydd Llun 7 Mawrth, 5.00pm – 8.00pm Edrych ar y gwahanol strwythurau corfforedig ... Bod yn ymwybodol o’r goblygiadau wrth sefydlu a rhedeg sefydliad corfforedig ... a mwy.
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
• @DiverseCymru: “Diolch i @C3SC a @FreshTies am hyfforddiant yn y cyfryngau ddoe. Rwy’n gobeithio tarfu ar ambell newyddiadurwr yn fuan iawn!”
Cwrs Achrededig Dydd Mercher 3 Chwefror, 9.15am – 4pm Swyddogaeth a chyfrifoldeb cymhorthydd cyntaf ... Sut i asesu digwyddiad ... Sut i drin rhywun sydd wedi cael anaf ... a mwy.
Cyfleoedd i Rwydweithio Mae C3SC yn rhoi cyfleoedd i aelodau rwydweithio er mwyn cefnogi partneriaeth a chydweithio yn y trydydd sector, hyrwyddo datblygiad cymunedol ac annog newid drwy gydweithredu. Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu’r rhwydweithiau trydydd sector a gefnogir gennym er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio ar y meysydd polisi a ddynodir fel blaenoriaethau sy'n hanfodol i wella ansawdd bywyd pobl yng Nghaerdydd. Y rhwydweithiau y byddwn yn eu hwyluso o fis Ionawr 2016 yw: • Rhwydwaith Cyd-gysylltwyr Gwirfoddoli Caerdydd • Rhwydwaith Iechyd a Gofal Cymdeithasol Caerdydd • Rhwydwaith Addysg Gynaliadwy Caerdydd • Rhwydwaith Cymunedau mwy Diogel a Chydlynol Caerdydd • Rhwydwaith Dysgu a Menter Trydydd Sector Caerdydd
• Ewch i www.c3sc.org.uk/training-events/ c3sc-training • E-bost training@c3sc.org.uk • Ffoniwch (029) 2048 5722
Beth yw eich anghenion hyfforddi?
Eich barn chi am hyfforddiant C3SC:
Helpwch ni i sicrhau bod ein hyfforddiant yn ateb eich anghenion drwy lenwi holiadur byr ar-lein ar http://c3sc.polldaddy.com/s/c3sc-trainingsurvey-autumn-2015. Os nad oes gennych fynediad i’r we, rhowch wybod i ni ac fe wnawn yn siŵr eich bod yn cael cyfle i ymateb.
• “Trosolwg ardderchog o sgiliau cadeirio” • “... diolch am sesiwn hyfforddi ardderchog yn swyddfa C3SC heddiw”
• Rhwydwaith Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd Caerdydd • Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Caerdydd • Rhwydwaith Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Caerdydd • Fforwm Trydydd Sector Caerdydd • Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector Caerdydd Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd rhwydwaith penodol ar themâu polisi arbennig pan fydd grwpiau a sefydliadau sy’n aelodau yn cytuno i hynny.
Cylch Gorchwyl Byddwn yn ymgynghori â’n haelodau ar Gylch Gorchwyl generig ar gyfer y rhwydweithiau a’n strategaeth gyfathrebu i sicrhau bod rhwydweithiau'n cysylltu’n effeithiol â’n Cyngor Partneriaeth Trydydd Sector. Bydd pob rhwydwaith yn rhoi cyfle i wneud y canlynol: • Recriwtio aelodau i’r rhwydwaith i sicrhau ei fod yn cynrychioli trawstoriad eang o grwpiau a sefydliadau yn y Ddinas, er mwyn adlewyrchu ei amrywiaeth. • Dysgu am waith sefydliadau eraill y trydydd sector yng Nghaerdydd, rhannu gwybodaeth ac arferion gorau, a chyfnewid syniadau gyda chydweithwyr o fewn y sector ac mewn sectorau eraill. • Datblygu cynllun blynyddol o flaenoriaethau i
Dilynwch ni ar Twitter @C3SC 8
I sicrhau eich lle ac i ddysgu mwy:
•
•
•
•
ymgyrchu drostynt a dylanwadu ar ddatblygu gwell gwasanaethau, nodi a mynd i’r afael â bylchau mewn gwasanaethau, a gweithredu ar gyfleoedd i ddylanwadu ar bolisi lleol, cenedlaethol a rhanbarthol. Dadansoddi a symud ymlaen gyda’r materion allweddol a godir gan aelodau, gan gynnwys cynrychiolwyr y trydydd sector, er mwyn gwella’r dull o lunio polisïau yn lleol fel rhan o lais cyfunol ar gyfer y trydydd sector yng Nghaerdydd. Ystyried data pellach ac adroddiadau eraill er mwyn creu sylfaen gadarn o dystiolaeth i ddylanwadu ar y gwaith o lunio polisïau lleol. Ystyried y problemau i sefydliadau’r trydydd sector a godir gan aelodau a’u dwyn i sylw Cyngor Trydydd Sector Caerdydd, fel bod modd i’r Cyngor weithredu arnynt lle bo hynny’n briodol. Comisiynu ymchwil yn ôl yr angen i ddatblygu ymatebion sector-gyfan neu sefydliadol i flaenoriaethau’r gwasanaeth a pholisi cymdeithasol.
Bydd y Cylch Gorchwyl a’r strategaethau cysylltiedig ar gael ar ein gwefan cyn bo hir: www.c3sc.org.uk/networks/ what-we-do. Anfonwch eich adborth at David Poole, Rheolwr Gweithrediadau, ar david.p@c3sc.org.uk neu ffoniwch (029) 2048 5722.