48
EIN CYNLLUN I AILADEILADU: Strategaeth adferiad COVID-19 Llywodraeth y DU
6. Sut gallwch chi helpu
Hyd yma, mae pobl y Deyrnas Unedig wedi addasu gyda chreadigrwydd a thrugaredd i'r gofynion mae COVID-19 wedi rhoi ar bob un ohonom. Bellach, mae'n rhaid i'r DU baratoi ar gyfer cyfnod estynedig o fyw gyda bygythiad y feirws a'i reoli; bydd hyn yn parhau i ofyn am gefnogaeth a chydymffurfiaeth gan bawb.
Ymdrech ar y cyd Mae'r bygythiad yn fygythiad a rennir; mae'r cyfrifoldeb i gadw pawb yn ddiogel yn un y mae pawb yn ei rannu. Os bydd modd i'r Llywodraeth ddechrau addasu'r cyfyngiadau cymdeithasol, bydd yn ofynnol i bawb weithredu'n ystyriol ac yn gyfrifol i gadw'r gyfradd drosglwyddo (R) i lawr, a phrin yw'r gwallau y gellir eu gwneud. Pan gaiff cyfyngiadau eu codi, os bydd pawb yn dewis gweithredu'n bwyllog ac yn unol â'r canllawiau a adolygwyd, bydd R yn parhau i fod yn isel, a bydd y gyfradd drosglwyddo'n lleihau ymhellach, a gall y Llywodraeth godi rhagor o gyfyngiadau. Fodd bynnag, rhaid i'r ymdrech hon fod yn un a rennir gan bawb; byddai nifer fach yn unig o gychwyniadau newydd yn achosi i R godi'n uwch nag un, gan arwain at ailosod rhai o'r cyfyngiadau. Wrth benderfynu pryd i addasu pob cyfyngiad, bydd y Llywodraeth yn cael ei llywio gan y dystiolaeth orau bosib a bydd, fel yn y ddogfen hon, yn dryloyw ynghylch sail y penderfyniad.
Help llaw Mae ymateb unigolion, cymunedau, elusennau a busnesau ledled y Deyrnas Unedig – wrth gamu i mewn ac estyn help llaw i gefnogi'r ymdrech genedlaethol – wedi bod yn aruthrol. Mae cyfleoedd o hyd i gefnogi'r ymdrechion sy'n ymwneud â COVID-19 mewn ffyrdd hyd yn oed yn fwy uniongyrchol. I ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli gydag elusennau neu'r GIG, gweler: https://www.gov.uk/volunteering/coronavirus-volunteering I gynnig cymorth i fusnesau, megis offer, gwasanaethau neu arbenigedd, gweler: https://www.gov.uk/coronavirus-support-from-business