GWOBR ARBENNIG BAFTA AM GYFRANIAD ARBENNIG I DELEDU: BAFTA SPECIAL AWARD FOR OUTSTANDING CONTRIBUTION TO TELEVISION: 58
DEWI LLWYD
Ers i Dewi ymuno ag adran newyddion BBC Cymru ym 1980 mae wedi cyflwyno amrywiaeth eang o raglenni ar S4C ac ar Radio Cymru. Daeth yn ohebydd seneddol cyntaf y sianel, cyn iddo ddechrau cyflwyno ‘Newyddion’ ym 1986.
Since Dewi joined BBC Cymru Wales’s news department in 1980, he has presented a wide variety of programmes on S4C and Radio Cymru. He became the channel’s first parliamentary correspondent before starting to present ‘Newyddion’ in 1986.
Fel y prif gyflwynydd am dros chwarter canrif, bu Dewi’n gohebu ar rai o straeon mwyaf Cymru, Prydain a’r byd, o’r newyn yn Affrica yn yr wythdegau, yr uwch-gynadleddau rhwng yr arlywyddion Reagan a Gorbachev, hyd at ethol Nelson Mandela’n arlywydd du cyntaf De Affrica. Treuliodd Dewi gyfnod yn astudio newyddiaduraeth mewn prifysgol yn Washington D.C. ac mae wedi teithio’n ôl i ohebu’n gyson o’r Unol Daleithiau. Cafodd bleser aruthrol yn cyflwyno saith o raglenni etholiad cyffredinol, pedair rhaglen etholiad y Cynulliad heb anghofio dau refferendwm tyngedfennol. Cyflwynodd lawer o raglenni’r gyfres materion cyfoes, Taro 9, ac am ddeng mlynedd Dewi oedd cyflwynydd y rhaglen wleidyddol wythnosol, Maniffesto. Ers pymtheng mlynedd Dewi hefyd yw cadeirydd rhaglen drafod boblogaidd S4C, Pawb a’i Farn, ac mae’r fraint o gyfarfod â chynulleidfaoedd led led Cymru a thros Glawdd Offa yn rhoi boddhâd arbennig iddo. Cyflwynodd raglenni S4C o’r Eisteddfod Genedlaethol am flynyddoedd lawer, gan ail-ddechrau gwneud hynny eleni yn Ninbych. Enillodd wobr BAFTA Cymru i’r cyflwynydd gorau yn 1998, ac ers hynny mae tair rhaglen a gyflwynwyd ganddo wedi ennill gwobrau sef ‘Gwynfor’, ‘Dewi Llwyd ar Daith’, a ‘Newyddion 9/11’. Erbyn hyn Dewi yw cyflwynydd y ‘Post Prynhawn’ yn ddyddiol ar BBC Radio Cymru, yn ogystal â ‘Dewi Llwyd ar Fore Sul’, gan wneud hynny ddau ganllath o’i gartref ym Mangor.
As the main presenter for over a quarter of a century, Dewi reported on some of the biggest stories in Wales, Britain and the world, from the famine in Africa in the 1980s, and the summits between presidents Reagan and Gorbachev, to the election of Nelson Mandela as South Africa’s first black president. Dewi spent a period studying journalism at a university in Washington DC, and he has reported regularly from the United States. He took immense pleasure from presenting the coverage of seven general elections, four Assembly elections, as well as two crucial referendums. He presented many programmes in the current affairs series, ‘Taro 9’, and for ten years Dewi was the main presenter of the weekly political programme, ‘Maniffesto’. For the past fifteen years, Dewi has also chaired the popular S4C discussion programme, ‘Pawb a’i Farn’, and the privilege of meeting audiences from all parts of Wales and beyond Offa’s Dyke gives him particular satisfaction. He presented S4C’s coverage of the National Eisteddfod for many years, and returned this year at the Denbigh Eisteddfod. He won a BAFTA Cymru Wales award for Best Presenter in 1998, and three programmes that he has presented since then have also won prizes, namely ‘Gwynfor’, ‘Dewi Llwyd ar Daith’ and ‘Newyddion 9/11’. Dewi currently presents ‘Post Prynhawn’ every weekday on BBC Radio Cymru, as well as ‘Dewi Llwyd ar Fore Sul’, which are broadcast a mere two hundred yards from his home in Bangor.
59