British Academy Cymru Awards 2013 programme

Page 15

28

NODDWR SWYDDOGOL Y DIGWYDDIAD: OFFICIAL EVENT SPONSOR: NEP CYMRU

NODDWR ALLWEDDOL Y DIGWYDDIAD: KEY EVENT SPONSOR: GORILLA

Mae ansawdd ceisiadau eleni ar gyfer gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn dyst i lwyddiannau diweddar ein diwydiant teledu a ffilm.

The quality of this year’s entries for the British Academy Cymru awards is testament to the recent successes of our television and film industry.

Bob blwyddyn, mae Gwobrau Academi Brydeinig Cymru yn cynnig cyfle i ni ddod at ein gilydd i ddathlu a myfyrio ar gyfoeth ein talent darlledu.

Every year the British Academy Cymru Awards offers us a chance to get together to celebrate and reflect on the wealth of our broadcast talent.

Rydym yn falch o weld ein cynyrchiadau cartref ar sgriniau ledled y Deyrnas Unedig , yn ogystal ag yng Nghymru. Mae pob rhan o’r diwydiant yn haeddu cymaint o gydnabyddiaeth â phosibl ar gyfer eu creadigrwydd a sgiliau. Mae’n codi proffil talent Cymru ond hefyd yn cynnig diben ymarferol iawn drwy gefnogi cwmnïau Cymreig yn ariannol, eu cynnal a’u helpu i dyfu drwy ddod ag incwm ychwanegol i’r diwydiant. Mae hyn yn creu mwy o waith a swyddi, gan gynnal rhaglenni cartref o ansawdd.

We are proud to see our homegrown productions on UK screens as well as in Wales. All parts of our industry deserve as wide a recognition for their creativity and skills as possible. It raises the profile of Welsh talent but also serves a very practical purpose - financially supporting many Welsh companies, sustaining and helping them grow and bringing additional income to our industry. This generates more work and jobs - supporting the quality domestic programming.

Wrth i ni addasu i dirwedd newidiol y cyfryngau, mae’n hanfodol bod yr amryw rannau, sy’n aml ar wasgar, yn gallu gweithio ochr wyn ochr â’i gilydd. Mae clystyru creadigrwydd yn dod â phobl, cwmnïau a sefydliadau o’r un anian at ei gilydd gan wella cynhyrchiant. Ond mae angen gofodau addas, fforddiadwy a chreadigol i ni allu gwneud hynny.

As we adapt to a changing media lansdcape, it’s imperative that the often fragmented parts of this industry can work alongside each other. Clustered creativity brings like-minded people, companies and organisations together, improving productivity. But we need suitable, affordable and creative spaces for us to do so.

Yn bendant, mae rhai heriau yn ein hwynebu, gan gynnwys adleoli ar raddfa fawr i rai cwmnïau, ond mae’r dyfodol yn ymddangos yn fwy gobeithiol.Yr allwedd i sicrhau diwydiant llwyddiannus yng Nghymru yw mwy o ymddiriedaeth a pharodrwydd i gydweithio gyda phartneriaethau rhwng darlledwyr a chyflenwyr, cwmnïau cyfryngau, ac yn hollbwysig, gyda llywodraeth ar bob lefel.

We are certainly facing challenges including a forced large scale relocation for some media companies, however the future seems rosier. The key to stable and successful Welsh industry is increasing trust and a willingness to work together with partnerships between broadcasters and suppliers, media companies and, crucially, with government at all levels.

Mae gennym y dalent, y sgiliau a’r uchelgais i dyfu ein diwydiant yn bwerdy cyfryngau i’w chwennych. Rydym yn gobeithio y bydd y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ac eraill yn parhau wrth i ni adeiladu ar y llwyddiant a welir yma heno gan unigolion a chwmnïau sy’n hyrwyddo ac yn arwain ein diwydiant.

We have the talent, the skill and the ambition to grow our industry into an enviable media powerhouse. We hope the support by the Welsh Government and others continues as we build on the success showcased here tonight by individuals and companies that promote and lead our industry.

Hoffai Gorilla Group longyfarch yn fawr holl enwebeion ac enillwyr heno.

The Gorilla Group warmly congratulates all of tonight’s nominees and winners.

Mae NEP Cymru yn falch o fod yn Noddwr y Digwyddiad ar gyfer Gwobrau Academi Brydeinig Cymru ac yn llongyfarch holl enwebeion ac enillwyr gwobrau heno.

NEP Cymru is proud to be the Event Sponsor for the British Academy Cymru Awards and congratulates all nominees and winners of tonight’s awards. Tony Cahalane Managing Director | Rheolwr Gyfarwyddwr NEP Cymru

Richard Moss Managing Director | Rheolwr Gyfarwyddwr Gorilla

29


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.