Mae’n bleser gan Cymru Greadigol gefnogi Gwobrau BAFTA Cymru 2025.
Creative Wales is delighted to support tonight’s ceremony.
Rydyn yn falch iawn o fod wedi cefnogi nifer o’r cynyrchiadau sydd ar y rhestr fer heno, gan gynnwys Mr Burton, Lost Boys and Fairies, Until I Kill You a Cleddau.
Congratulations to all of this evening’s nominees and winners!
creative.wales
@CymruGreadigol | @CreativeWales
Mr Burton – Warren Orchard, courtesy of Icon Film Dist.
03 Croeso Welcome
06 Y Cyflwynydd
10 Gwobr Siân Phillips Siân Phillips Award
15 Yr Enwebiadau The Nominations
48 Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu Outstanding Contribution to Television
52 Portread BAFTA Cymru BAFTA Cymru Portraiture
58 Er Cof Am In Memoriam
60 Y Rheithgorau The Juries
66 Partneriaid Gwobrau Swyddogol Official Awards Partners
67 Partner Blynyddol, Cefnogwyr, a Chyllidwyr Craidd Annual Partner, Supporters, and Core Funders
68 Diolchiadau Acknowledgements
CROESO
Croeso i Wobrau BAFTA Cymru eleni, sy’n dathlu gwaith adrodd straeon eithriadol ym maes ffilm a theledu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cryfder, amrywiaeth a dychymyg creadigrwydd Cymru yn rhyfeddol, gyda chynyrchiadau a doniau o Gymru yn cyfoethogi ein diwylliant ac yn atgyfnerthu ein lle fel canolbwynt creadigol rhyngwladol bywiog.
Mae’r diwydiannau sgrin yn dal i wynebu heriau sylweddol, sy’n gwneud llwyddiannau enwebeion eleni hyd yn oed yn fwy ysbrydoledig. O enwebeion tro cyntaf i enwau sefydledig a sêr newydd, mae’r rhestr yn adlewyrchu gwydnwch, angerdd ac arloesedd Cymru.
Mae dau dderbynnydd ein Gwobr Arbennig yn ymgorffori’r rhagoriaeth sydd wrth wraidd doniau Cymru. Ers dros 30 mlynedd, mae’r newyddiadurwraig a’r cyflwynydd newyddion Bethan Rhys Roberts wedi bod yn cyflawni’r swyddogaeth hanfodol o gyfleu’r gwir gydag eglurder a hygrededd. Yn y cyfamser, mae’r awdur-gynhyrchydd
Russell T Davies OBE wedi bod yn cyfleu gwirioneddau emosiynol drwy ddramâu beiddgar sy’n archwilio’r cyflwr dynol drwy lens cyfresi teledu bythgofiadwy. Efallai bod eu crefft yn wahanol, ond maen nhw’n rhannu ymrwymiad prin – mae’r ddau yn feistri ar eu crefft, ac mae’r ddau yn parhau i ysbrydoli drwy eu hymroddiad diysgog.
Hoffem ddiolch i bawb sy’n gwneud y Gwobrau hyn yn bosib ac estyn ein llongyfarchiadau cynhesaf i’r holl enwebeion eithriadol eleni.
Lee Walters Cadeirydd BAFTA Cymru
Welcome to this year’s BAFTA Cymru Awards, celebrating exceptional storytelling in film and TV this past year. The strength, breadth, and imagination of Welsh creativity is remarkable, with productions and talent from Wales enriching our culture and reinforcing our place as a vibrant international creative hub.
The screen industries continue to face significant challenges, which makes the achievements of this year’s nominees all the more inspiring. From first-time nominees to established names and rising stars, the line-up reflects Wales’ resilience, passion, and innovation.
Our two Special Award recipients embody the excellence at the heart of Welsh talent. For more than 30 years, journalist and news presenter Bethan Rhys Roberts has upheld the vital role of communicating truth with integrity and clarity. Meanwhile, writer-producer Russell T Davies OBE has captured emotional truths through bold, unforgettable dramas that examine the human condition through the lens of unmissable TV. Their crafts may differ, but they share a rare commitment – both are masters of their art, and both continue to inspire through their unwavering dedication.
We thank everyone who makes these Awards possible and extend our warmest congratulations to all of this year’s exceptional nominees.
Lee Walters Chair of BAFTA Cymru
Sara Putt Chair of BAFTA
Mae’r cyflwynydd Owain Wyn Evans yn dychwelyd am ail flwyddyn fel cyflwynydd Gwobrau BAFTA Cymru.
Daeth Owain i amlygrwydd wrth gyflwyno’r tywydd i BBC Cymru, BBC Look North, a BBC Breakfast, cyn ehangu ei repertoire a dechrau gohebu a chyflwyno i raglenni fel The One Show a Homes Under the Hammer. Mae bellach yn cyflwyno sioe Early Breakfast ar BBC Radio 2 yn fyw o Gaerdydd bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener. Yn 2021, llwyddodd Drwmathon 24 awr Owain i dorri record am gyfanswm y rhoddion ar gyfer her elusennol 24 awr, gan godi swm anhygoel o dros £3 miliwn ar gyfer Plant mewn Angen.
Beth wyt tiʼn edrych ymlaen ato fwyaf yn y Gwobrau eleni?
Dw i’n methu aros i weld pwy fydd yn mynd â gwobr gatre gyda nhw eleni. Mae cael cyhoeddi’r enillydd fel y cyflwynydd yn eiliad mor arbennig – rydych chi’n cael rhannu yn y llawenydd yna. Mae hi wastad yn eiliad hollol nefolaidd... Yr uchafbwynt [y llynedd] oedd Julie Gardner yn ennill y wobr am Gyfraniad Arbennig. Mae hi’n bwerdy un fenyw ac mae wedi bod yn allweddol o ran rhoi Cymru ar y map yn y byd teledu.
Beth syʼn dy gyffroi di fwyaf am y diwydiannau creadigol yng Nghymru ar hyn o bryd?
Pa mor hyblyg ydyn nhw. Rydyn ni wedi gorfod esblygu dros y blynyddoedd ac rydyn ni’n dal i wneud hynny. Mae Cymru wedi dod yn ganolbwynt mawr ar gyfer ffilm, gemau, a theledu, ac mae BAFTA Cymru wir yn dathlu’r holl bobl anhygoel sy’n rhan o hynny.
Pwy neu beth oedd yn dy ysbrydoli di pan oeddet ti’n tyfu lan?
Fe wnaeth gwylio Queer as Folk newid fy mywyd... Fel dyn ifanc hoyw oedd yn tyfu lan yn Rhydaman, o’n i ddim yn gweld neb tebyg i fi o gwmpas. Doedd y cyfryngau cymdeithasol ddim yn bodoli, felly fe agorodd Queer as Folk ffenest ar fyd arall. Yn ddiweddarach, pan o’n i’n byw ym Manceinion ac yn mynd i Canal Street, oedd hi’n teimlo fel petai’r cylch wedi cau.
Pa gyngor fyddet ti’n ei roi i bobl ifanc sydd eisiau bod yn gyflwynwyr?
Byddwch yn chi’ch hunan!... Siaradwch am y pethau sy’n eich cyffroi chi, achos fe fydd eich angerdd chi wastad yn dod drosodd ar y camera. Os byddwch chi’n onest, fe fydd pobl yn teimlo cysylltiad gyda hynny.
Fel drymiwr dawnus, pwy fyddai act dy freuddwydion i berfformio gyda nhw?
Dw i wedi cael y fraint yn barod o ddrymio i Bonnie Tyler, oedd wir yn brofiad lle o’n i’n meddwl “pinsiwch fi”. Fe fydden i wrth fy modd yn cael drymio i fwy o eiconau Cymru: Tom Jones, Stereophonics, Cerys Matthews. Dw i’n rhoi hynna mas yn y bydysawd, a falle ryw ddydd y bydd y freuddwyd yn dod yn wir.
Welsh presenter Owain Wyn Evans returns for his second year as host of the BAFTA Cymru Awards. Owain came to prominence presenting the weather for BBC Wales, BBC Look North, and BBC Breakfast, before expanding his repertoire to reporting and presenting for the likes of The One Show and Homes Under the Hammer. He now hosts the BBC Radio 2 Early Breakfast show live from Cardiff every weekday morning. In 2021, Owain’s 24-hour Drumathon hit a record level of donations for a 24-hour charity challenge, raising an incredible £3m-plus for Children in Need.
What are you most looking forward to at this year’s Awards?
I’m so excited to see who will be taking home an award this year. Announcing the winner as presenter is such a special moment – you share in that joy. It’s always a real ‘chef’s kiss’ moment... [Last year’s] highlight was Julie Gardner receiving the Outstanding Contribution award. She’s an absolute powerhouse and has been instrumental in putting Wales on the map when it comes to TV.
What excites you most about the current Welsh creative industries?
Its adaptability. We’ve had to evolve over the years and continue to do so. Wales has become such a hub for film, games, and TV, and BAFTA Cymru really celebrates all of the incredible people who are part of that.
Who or what inspired you when you were growing up?
Watching Queer as Folk was life-changing... As a young gay man growing up in Ammanford, I didn’t see anyone like me around. Social media didn’t exist, so Queer as Folk opened a window into another world. Later, when I lived in Manchester and visited Canal Street, it felt like everything had come full circle.
What advice would you give to young people who want to become presenters?
Be yourself!... Talk about things you love, because your passion will always come across on camera. If you’re being genuine, people will connect with that.
As a talented drummer, who would be your dream act to perform with?
I’ve already had the privilege of drumming for Bonnie Tyler, a real pinch-me moment. I’d love to drum for more Welsh icons: Tom Jones, Stereophonics, Cerys Matthews. I’m putting that out into the universe and maybe one day that dream will come true.
Portread | Portrait: BAFTA / Matthew Eynon
Delwedd | Image: BAFTA via Getty Images / Maxine Howells
GWOBR SIÂN PHILLIPS
SIÂN PHILLIPS AWARD
BETHAN RHYS ROBERTS
Mae meddwl am newyddion a materion cyfoes Cymru heb Bethan Rhys Roberts bron yn amhosib, mor greiddiol mae hi wedi bod iʼr BBC, i S4C, ac i Radio Cymru. Fel cyflwynydd a gohebydd dwyieithog, mae wedi bod ar lawr gwlad yng nghanol rhyfeloedd, wedi cyfweld â ffigurau gwleidyddol allweddol, wedi dadansoddi llu o etholiadau yng ngwledydd Prydain a thramor, ac wedi ymdrin â rhai o ddigwyddiadau mawr y byd dros y 30 mlynedd diwethaf a mwy.
Dysgodd Bethan bwysigrwydd iaith a chyfathrebu yn gynnar iawn. A hithau’n ddim ond saith oed, creodd bapur newydd teuluol dwyieithog, The Review, i gadw cysylltiad gyda’i theulu – dim ond Saesneg oedd deheuwyr ochr ei mam yn ei siarad tra bod gogleddwyr ochr ei thad yn Gymry Cymraeg iaith gyntaf. Byrhoedlog oedd y papur – wedi’r cwbl, dim ond hyn a hyn mae arian poced yn mynd â chi – ond roedd yn arwydd pendant o yrfa i ddod.
Ar ôl astudio newyddiaduraeth, yng Nghaerdydd i ddechrau ac wedyn ym Mharis, dechreuodd gyrfa Bethan fel gohebydd llawrydd yn Ffrainc. Daeth yn ôl i Brydain i weithio i’r BBC, a bu’n ohebydd gwleidyddol yn Llundain am sawl blwyddyn, cyn symud yn ôl i’w mamwlad ac ymuno â’r rhaglen newyddion foreol Good Morning Wales (2007-2013). Yn 2013, fe’i penodwyd i’w swydd bresennol fel cyflwynydd Newyddion S4C, lle mae wedi ymdrin â straeon pwysig fel ymosodiadau Charlie Hebdo ym Mharis ac argyfwng trychinebus mudwyr Twrci, dwy stori a arweiniodd at wobrau BAFTA Cymru i’r tîm newyddion yn 2015 a 2016.
Mae angerdd Bethan dros gysylltu pobl â straeon lleol a newyddion rhyngwladol wedi bod yn rhan annatod o’i gwaith. Drwy ei chynhesrwydd awdurdodol, mae’n gwneud i’r pynciau mwyaf cymhleth deimlo’n ddealladwy, a does dim syndod ei bod hi’n un o’r cyflwynwyr benywaidd cyntaf i gael cyflwyno canlyniadau etholiad dros nos i’r BBC yn 2015.
“Mae hi’n fraint enfawr derbyn gwobr mor arbennig yn enw eicon sy’n ysbrydoli yma yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae’n anrhydedd ac yn gydnabyddiaeth o waith rhagorol y timau yr wyf wedi cael y fraint o fod yn rhan ohonyn nhw wrth ddweud straeon pobl yng Nghymru a thu hwnt. Rwy’n gobeithio y bydd y wobr yma yn ysbrydoli newyddiadurwyr ifanc – yn enwedig merched – i herio a pharhau i dyrchu am y gwir.”
It’s almost impossible to think of Welsh news and current affairs without Bethan Rhys Roberts so integral has she been to the BBC, S4C, and BBC Radio Cymru. As a bilingual reporter and presenter, she’s been on the ground in war-torn countries, interviewed key political figures, dissected a host of elections in the UK and abroad, and covered some of the biggest world events in the past 30-plus years.
Bethan learnt the importance of language and communication early on. Aged just seven, she created a bilingual family newspaper, The Review, to connect her family together –her mother’s side were English-only speakers from South Wales, while her father’s family were first-language Welsh speakers from the north. The paper may not have lasted long – pocket money only goes so far – but it was the first kernel of a future career.
After studying journalism first in Cardiff and then in Paris, Bethan’s career began as a freelance reporter based in France. She returned to the UK to work for the BBC and then became a political correspondent in London, a role she held for many years, before a move back to her birth country saw her join daily morning news programme Good Morning Wales (2007-2013). In 2013, she landed her current role as presenter of S4C’s Newyddion, where she’s covered such important stories as the Charlie Hebdo attacks in Paris and the desperate migrant crisis in Turkey, which both won BAFTA Cymru awards for the news team in 2015 and 2016 respectively.
Bethan’s passion for connecting people to local interest and international news has been a mainstay of her work. Her warm yet authoritative style makes even the most complex topics understandable and it’s no surprise she was one of the first women presenters to front the overnight election results for the BBC in 2015.
“It’s an absolute honour to be given this prestigious award in the name of such an inspirational Welsh and international icon,” Bethan says. “This is truly humbling and is recognition of the excellence of the amazing colleagues and teams I have been privileged to work with to tell people’s stories in Wales and beyond. I hope it will inspire young journalists – especially women – to challenge and to keep searching for the truth.”
Portread | Portrait: BBC / Patrick Olner
Delwedd | Image: Wedi'i ddarparu gan y derbynnydd | Provided by recipient
17 Actor
YR ENWEBIADAU THE NOMINATIONS
19 Actores | Actress
21 Cymru Torri Drwodd | Breakthrough Cymru
23 Rhaglen Blant | Children’s Programme
25 Cyfarwyddwr: Ffeithiol | Director: Factual
27 Cyfarwyddwr: Ffuglen | Director: Fiction
29 Golygu | Editing
31 Rhaglen Adloniant | Entertainment Programme
33 Cyfres Ffeithiol | Factual Series
35 Newyddion a Materion Cyfoes | News and Current Affairs
37 Ffotograffiaeth a Goleuo: Ffuglen | Photography and Lighting: Fiction
39 Cyflwynydd | Presenter
41 Ffilm Fer | Short Film
43 Rhaglen Ddogfen Sengl | Single Documentary
45 Sain | Sound
46 Drama Deledu | Television Drama
47 Awdur | Writer
DIOLCH THANK YOU
DIOLCH THANK YOU
AM WNEUD I NI CHWERTHIN, LLEFAIN, MEDDWL A RHYFEDDU.
AM WNEUD I NI CHWERTHIN, LLEFAIN, MEDDWL A RHYFEDDU.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi’u henwebu, ac i enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru.
Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi’u henwebu, ac i enillwyr Gwobrau BAFTA Cymru. -
FOR MAKING US LAUGH, CRY, THINK AND WONDER.
FOR MAKING US LAUGH, CRY, THINK AND WONDER.
Congratulations to all the BAFTA Cymru Awards nominees and winners.
Congratulations to all the BAFTA Cymru Awards nominees and winners.
Llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi eu henwebu heno a phob lwc!
Congratulations to all the nominees this evening and good luck!
Mae adnoddau Afanti yn gwmni cyfleusterau blaenllaw sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn arbenigo mewn darparu darlledu allanol a datrysiadau pŵer cynaliadwy ar gyfer chwaraeon byw, digwyddiadau cerddoriaeth, ac adloniant ffeithiol ar raddfa fawr.
Afanti Facilities are a leading Welsh facilities company based in the heart of Cardiff, specialising in providing outside broadcast and sustainable power solutions for live sport, music events, and large scale factual entertainment.
Yn falch o ddarparu adnoddau darlledu byw a stiwdio yn 2025 ar gyfer Super Rygbi Cymru (Whisper), Y Llais (Boom), Aston Villa (IMG), WFF (Colada), Tafwyl (Orchard), Jonathan, Cân i Gymru, Yr Urdd (Afanti).
Proud to provide live broadcasting and studio facilities in 2025 for Super Rygbi Cymru (Whisper), Y Llais (Boom), Aston Villa (IMG), WFF (Colada), Tafwyl (Orchard), Jonathan, Cân i Gymru and Yr Urdd (Afanti).
Llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi eu henwebu heno a phob lwc!
THE GOLDEN COBRA
Congratulations to all the nominees this evening and good luck!
Beastly Media / BBC Three
Mae adnoddau Afanti yn gwmni cyfleusterau blaenllaw sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac yn arbenigo mewn darparu darlledu allanol a datrysiadau pŵer cynaliadwy ar gyfer chwaraeon byw, digwyddiadau cerddoriaeth, ac adloniant ffeithiol ar raddfa fawr.
LLOND BOL O SBAEN
Cwmni Da / S4C
Afanti Facilities are a leading Welsh facilities company based in the heart of Cardiff, specialising in providing outside broadcast and sustainable power solutions for live sport, music events, and large scale factual entertainment.
SGWRS DAN Y LLOER: NOEL THOMAS
Teledu Tinopolis Cyf / S4C
Yn falch o ddarparu adnoddau darlledu byw a stiwdio yn 2025 ar gyfer Super Rygbi Cymru (Whisper), Y Llais (Boom), Aston Villa (IMG), WFF (Colada), Tafwyl (Orchard), Jonathan, Cân i Gymru, Yr Urdd (Afanti).
Y LLAIS
Boom Cymru / S4C
Proud to provide live broadcasting and studio facilities in 2025 for Super Rygbi Cymru (Whisper), Y Llais (Boom), Aston Villa (IMG), WFF (Colada), Tafwyl (Orchard), Jonathan, Cân i Gymru and Yr Urdd (Afanti). www.afantifacilities.tv
Our stylish all-day venue is a destination for work and play from morning latte to late night martini, settle in and make yourself at home.
AS A BAFTA MEMBER, ENJOY
A COMPLIMENTARY GLASS OF PROSECCO WHEN YOU DINE
BAFTA members are invited to enjoy exclusive use of our Snug and private dining room on the first Monday of every month from 5.30pm - 8.30pm.
18 The Hayes, Cardiff, CF10 1AH @thecardifftownhouse coppaclub.co.uk/the-cardiff-townhouse
T&Cs. Show your BAFTA members card to redeem. Valid until 2nd January 2026. Not valid in conjunction with any other offer. Valid for 125ml glass of Prosecco with each main course purchased.
CYFRES FFEITHIOL FACTUAL SERIES
AR BRAWF
Darlun / S4C
HUNTING MR NICE: THE CANNABIS KINGPIN
Kailash Films / Passion Pictures / BBC One Wales
MARW GYDA KRIS
Ffilmiau Twm Twm / S4C
A SPECIAL SCHOOL
Slam Media / BBC One Wales
YN FALCH O GYNRYCHIOLI ’R SECTOR
CYNHYRCHU TELEDU ANNIBYNNOL YNG
NGHYMRU ERS DROS 40 MLYNEDD
PROUD TO REPRESENT THE INDEPENDENT TELEVISION PRODUCTION SECTOR IN WALES FOR OVER 40 YEARS
NEWYDDION A MATERION CYFOES
NEWS AND CURRENT AFFAIRS
BBC WALES INVESTIGATES –UNMASKED: EXTREME FAR RIGHT
BBC Cymru Wales Current Affairs Team / BBC One Wales
BAFTA albert’s Climate Onscreen Training empowers you to create impactful stories that inspire environmental change.
Scan for more information:
RHAGLEN DDOGFEN SENGL
SINGLE DOCUMENTARY
BRIANNA: A MOTHER’S STORY
Multistory Cymru / ITV1
HELMAND: TOUR OF DUTY
Kailash Films / Passion Pictures / BBC One Wales
LEGENDS OF WELSH SPORT: LIZ JOHNSON – SWIMMING AGAINST THE TIDE
One Tribe TV / BBC One Wales
STRICTLY AMY: CANCER AND ME
Wildflame / BBC One Wales
CONGRATULATIONS TO THIS YEAR’S NOMINEES AND WINNERS.
Best of luck to all the nominees from Sunbelt Rentals, with special recognition to the fantastic teams behind Lost Boys and Fairies and Mr. Burton - we are proud to have supported these incredible projects.
Providing a comprehensive rental inventory, not only in camera and lenses but also in lighting, grip, powered access and power. Sunbelt Rentals provides customised rental packages with a personalised service built on trust.
Our unique approach allows us to mobilise a wide range of rental equipment, and our in-house teams will do whatever it takes to support your production, from prep through to wrap.
Severn Screen / S4C / UKTV / ALL3 Media International
LOST BOYS AND FAIRIES
Duck Soup Films / BBC One Wales
UNTIL I KILL YOU
World Productions / ITV1
AWDUR WRITER
ABI MORGAN
Eric
SISTER / Netflix
DAF JAMES
Lost Boys and Fairies
Duck Soup Films / BBC One Wales
NICK STEVENS
Until I Kill You
World Productions / ITV1
Nominations correct at time of press.
Prin yw’r rhai ym myd teledu sydd wedi gwneud mwy i roi Cymru ar y map nag y gwnaeth Russell T Davies. Mae pawb yn gwybod hanes yr awdur-gynhyrchyddoruwchreolwr yn arwain Doctor Who ailanedig (20052010, 2023-) i lwyddiant rhyngwladol sydyn, gan roi hwb enfawr iʼr economi, helpu i adfywio sector cynhyrchu Cymru, ac ysgogi twristiaeth ryngwladol.
Y tu hwnt i hynny, mae wedi dod â sylw diamheuol iʼr wlad aʼi phobl ar lwyfan y byd.
Yn aml, rhan fach o’r stori yw Cymru – fel cynnwys y cymeriad Colin Morris-Jones yn It’s a Sin (2021), gan arwain at ymddangosiad cyntaf Callum Scott Howells ar y sgrin. Dro arall, mae’n rhan annatod, fel yn Mine All Mine (2004), a osodwyd yn Abertawe, tref enedigol Russell, ac oedd yn llawn actorion gwych o Gymru.
“Pan oedden ni’n blant yn chwarae ar y stryd, fe fyddai fy nhad yn ein galw ni i mewn pan oedd Cymro ar y teledu,” meddai wrth BAFTA, pan oedd ar fin cael ei enwebu am Years and Years (2019). “Doeddech chi byth yn gweld Cymry ar y teledu bryd hynny.”
Does neb yn deall yn well na Russell mor bwysig yw cynrychiolaeth, ag yntau wedi dod allan fel dyn hoyw ar ddiwedd ei arddegau. Mae ei waith wedi hyrwyddo’r gymuned LHDTCRhA+ gyfan, gan helpu llawer i deimlo eu bod yn ddilys ac yn weladwy. Mae hyn yn amlwg iawn yn Queer as Folk (1999-2000), y gyfres arloesol lle cafodd Russell ei ddatgelu i’r byd fel awdur i gadw llygad arno. Ac er mor wahanol yw pob prosiect, mae rhoi lle i leisiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn thema barhaus sy’n cysylltu ei holl waith, o Bob & Rose (2001), The Second Coming (2003), a Cucumber (2015) i A Very English Scandal (2018) a’r gyfres newydd sydd ar y gweill, Tip Toe.
Mae gwaith medrus, teimladwy, a dewr Russell yn dangos ei chwilfrydedd am fywyd yn ei holl agweddau, ac mae wedi ennill clod o bob cyfeiriad ar hyd y ffordd, gan gynnwys pedair gwobr BAFTA, pum gwobr BAFTA Cymru, 16 enwebiad pellach a Gwobr Siân Phillips yn 2006, yn ogystal â gwobrau Emmy, RTS ac eraill. Wrth i wobr Cyfraniad Arbennig i’r Byd Teledu gael ei hychwanegu at y casgliad eleni, meddai Russell: “Mae hyn yn anrhydedd enfawr, yn enwedig a hithau’n dod o fy mamwlad. Cymru am byth!”
of how the writer-producer-showrunner stewarded a reborn Doctor Who (2005-2010, 2023-) to immediate international success, greatly boosting the economy, helping to rejuvenate Welsh production, and drive international tourism. Beyond that, he has given the country and its people undeniable prominence on the world stage.
Often it’s only a small part of the story – the inclusion of a Welsh character, such as It’s a Sin’s (2021) Colin Morris-Jones, which marked Callum Scott Howells’ screen debut. Other times, it’s more integral, as in Mine All Mine (2004), set in Russell’s hometown of Swansea and packed with exceptional Welsh actors.
“When I was young, my father would call us in from playing in the street if a Welsh person was on television,” he told BAFTA, on the eve of being nominated for Years and Years (2019). “You never saw a Welsh person on television back then.”
No one knows representation matters more than Russell, who came out as gay in his late teens. His work has championed the LGBTQIA+ community throughout, helping many feel validated and visible. This is clearly evident in Queer as Folk (1999-2000), the groundbreaking series that announced Russell to the world as a writer to watch. As distinct as each project has been, amplifying underrepresented voices is a running theme that connects all his work, from Bob & Rose (2001), The Second Coming (2003), and Cucumber (2015) to A Very English Scandal (2018) and upcoming new series, Tip Toe.
Russell’s deft, expressive, and fearless work demonstrates his inquisitiveness about life in all its many facets, and it’s garnered many accolades along the way, including four BAFTAs, five BAFTA Cymru wins, 16 further nominations and the Siân Phillips Award in 2006, alongside Emmys, RTS and other awards. Adding this year’s Outstanding Contribution to Television to the collection, Russell says: “This is such a very great honour, particularly coming from my homeland. Cymru am byth!”
Portread | Portrait: Ray Burmiston
Delwedd | Image: Anthony Harvey/BAFTA/Shutterstock
PORTREAD BAFTA CYMRU
B AFTA CYMRU PORTRAITURE
Detholiad o rai o bortreadau trawiadol BAFTA Cymru o'r ddwy Wobr ddiwethaf, gan y ffotograffydd Francesca Jones.
A selection of some of the beautiful BAFTA Cymru portraiture from the previous two Awards, by photographer Francesca Jones.
Darllenydd y molawd, Ffilm Fer 2023, Gabrielle Creevy
2023 Short Film citation reader, Gabrielle Creevy
Rakie Ayola, derbynnydd Gwobr Siân Phillips, gyda Siân a darllenydd y molawd Jonathan Pryce, 2023
Rakie Ayola, recipient of the Siân Phillips Award, with Siân and citation reader Jonathan Pryce, 2023
Cyflwynydd
Derbynnydd
Presenter and Outstanding Contribution to Broadcasting recipient, Hywel Gwynfryn, 2023
a
Gwobr Cyfraniad Arbennig i Fyd Darlledu, Hywel Gwynfryn, 2023
Mark Lewis Jones yn derbyn Gwobr Siân Phillips 2024 gan ei gyd-actor Nia Roberts
Mark Lewis Jones received the 2024 Siân Phillips Award from fellow actor Nia Roberts
Where great stories come to life
Proud to be the Official Screen Partner
ER COF AM IN MEMORIAM
Mae BAFTA Cymru yn anrhydeddu’r cyfraniad gwerthfawr at ddiwydiannau sgrin Cymru a wnaed gan yr unigolion hynny a fu farw yn ystod y 12 mis diwethaf.
Ewch i: www.bafta.org/in-memory-of
BAFTA Cymru honours the esteemed contribution to the Welsh screen industries by those individuals who have sadly died in the last 12 months.
Visit: www.bafta.org/in-memory-of
CARL MASON
Gweithredwr Camera
Camera Operator
DAFYDD WYN DAVIES
Cyfarwyddwr | Director
DENYS GRAHAM Actor
FIZZY OPPE
Cynhyrchydd | Producer
GERAINT JARMAN
Canwr, Bardd, Cynhyrchydd Teledu
Singer, Poet, TV Producer
JOHN SUEREF
Goruchwyliwr Prif Ystafell Reoli
Master Control Room Supervisor
JULIET ACE
Awdur | Writer
LESLIE DILLEY
Dylunydd Cynhyrchu
Production Designer
LYNDA SHAHWAN
Cyflwynydd | Presenter
MARGED ESLI
Actores | Actress
RICHARD LONGSTAFF
Gweithredwr Camera
Camera Operator
WALTER VALENTON
Cyfrifydd Cynhyrchiad
Production Accountant
Y RHEITHGORAU THE JURIES
* Cadeirydd / Chair
ACTOR
David P Davis *
Charles Venn
Darragh Mortell
Karen Paullada
Llaima Cárdenas
Nikki Wilson
Rakie Ayola
Sharon Morgan
Stephen McAteer
Waj Ali
CYMRU TORRI DRWODD BREAKTHROUGH CYMRU
Paul Osbaldeston *
Ceri Barnett
Charlotte Ball
Chris Forster
Dafydd Palfrey
Emily Beynon
Emma Lucia Hands
Karen Lyons
Madeline Addy
Richard Pask
ACTORES
ACTRESS
Llinos Wynne *
Angharad Elen
Bedwyr Rees
Gareth Jewell
Lois Meleri Jones
Rhodri Meilir
Rhys Powys
Roger Evans
Ynyr Williams
RHAGLEN BLANT
CHILDREN’S PROGRAMME
Sara Sugarman *
CYFARWYDDWR: FFEITHIOL
DIRECTOR: FACTUAL
Lee Walters *
Jack Carey
Joby Newson
Lloyd Rees
Lynfa Jenkin
Michael Kendrick Williams
Nicola Hendy
Rory Jackson
Sara Gibbings
Tom Cressey
CYFARWYDDWR: FFUGLEN
DIRECTOR: FICTION
John Giwa-Amu *
Ado Yoshizaki Cassuto
Alex Lightman
Caradog James
Leonora Lonsdale
Mat Kirkby
Miranda Bowen
Nadine Luque
Olive Nwosu
GOLYGU
EDITING
Jayne Gregory *
Ben Hooton
Dan Young
Dean Smith
James Orton
Joseph Marshall
Lisa Rustage
Polly Rowe
St. John O’Rorke
Teleri Rees
RHAGLEN ADLONIANT ENTERTAINMENT PROGRAMME
Ifty Khan *
Dylan Thomas
Ian Jones
Jessie-Ann Lewis
Julia Foot
Lorna Prichard
Melanie Owen
Mererid Wigley
Phil Higginson
Rhys Padarn
NEWYDDION A MATERION CYFOES
NEWS AND CURRENT AFFAIRS
Catrin Lewis Defis *
Bethan McKernan
Daniel Wheeler
Gareth Jones
Kayley Thomas
Louise Elliott
Mai Davies
Phil Parry
Sophie Bott
CYFRES FFEITHIOL FACTUAL SERIES
Lee Walters *
Amy Davies
Anwen Rees
Eleanor Scott
Jenny Dafydd
Louise Binding
Miguela Gonzalez
Sara Allen
FFOTOGRAFFIAETH
A GOLEUO:
FFUGLEN
PHOTOGRAPHY & LIGHTING: FICTION
Gwawr Lloyd *
Abi Timmins
Andy Toovey
Jamie Walker
Laura Gallop
Mika Orasmaa
Ruth Woodside
Sam Heasman
Sam Olly
FFILM FER SHORT FILM
Non Tudur Williams *
Glen Biseker
Janis Pugh
Jo Smyth
Jody Tozer
Miranda Ballesteros
Pauline Williams
Siwan Jobbins
Tom Tennant
CYFLWYNYDD
PRESENTER
Stifyn Parri *
Adeola Dewis
Beti George
Bronwen Lewis
Jennifer Jones
Paul Davies
Rolant Prys
Shelley Rees
Sian Lloyd
RHAGLEN
DDOGFEN SENGL SINGLE
DOCUMENTARY
Sioned Wyn *
Adam Wishart
Angharad Arnold
Celyn Williams
Chris Rushton
Colin Davies
Kate Owen
Neil Grant
Nick Hartley
SAIN SOUND
Gavin Murphy *
Beth Lewis
Catherine Robinson
Cécile Janet
Curig Huws
Eleanor Russell
Freyja Elsy
Joe Malone
Robin Llwyd
Ryan Davies
AWDUR WRITER
Jenny Thompson *
Ciron Gruffydd
Lowri Rees-Owen
Manon Jones
Mari Beard
Non Eleri Hughes
Rhiannon Boyle
Robert Evans
Tim Price
Tina Walker
DRAMA DELEDU TELEVISION DRAMA
Kezia Burrows *
Aled Ellis
Dominique Parry-Parker
Jeremy Hylton Davies
Jessica Cobham-Dineen
Lucy Dews
Matt Ryan
Medyr Llewelyn
Milly Thomas
Tony Burke
PARTNERIAID GWOBRAU
SWYDDOGOL
OFFICIAL AWARDS
PARTNERS
BAFTA CYMRU
PARTNER BLYNYDDOL ANNUAL PARTNER
CEFNOGWYR BLYNYDDOL ANNUAL SUPPORTERS
ARIANWYR CRAIDD CORE FUNDERS
DIOLCHIADAU
ACKNOWLEDGEMENTS
MAE BAFTA CYMRU
YN DYMUNO DIOLCH
BAFTA CYMRU
WISHES TO THANK
I’r darlledwyr, i’r cwmnïau
cynhyrchu, ac i’r gweithwyr
llawrydd am eu cymorth amhrisiadwy |
The broadcasters, production companies, and freelancers for their invaluable assistance
CYFLWYNYDD
HOST
Owain Wyn Evans
SGRIPT
SCRIPT
Gareth Gwynn
GYDA DIOLCH
WITH THANKS
Alun Jenkins
Bad Wolf
Bright Branch Media
Cue Box
Dave Marson
ICC Wales
IJPR
Orchard
Spectrum Displays
SR Productions Services
Working Word PR
Ein holl noddwyr
a phartneriaid |
All our sponsors and partners
Ein holl hysbysebwyr |
All our advertisers
Ein holl aelodau
rheithgor |
All our jury members
Ein gwesteion arbennig a’n
darllenwyr cyhoeddiadau |
All our special guests and citation readers
DYLUNIAD TLWS
TROPHY DESIGN
Toby Petersen (yn seiliedig ar ddyluniad gan Mitzi Cunliffe | based on a design by Mitzi Cunliffe)
CYLLIDWYR CRAIDD
BAFTA CYMRU
BAFTA CYMRU
CORE FUNDERS
BBC Cymru Wales
Channel 4
S4C
Holl staff BAFTA |
All staff at BAFTA
PWYLLGOR BAFTA CYMRU
BAFTA CYMRU COMMITTEE
CADEIRYDD
CHAIR
Lee Walters
Catrin Lewis Defis
David P Davis
Gavin Murphy
Gwawr Lloyd
Ifty Khan
Jayne Gregory
Jenny Thompson
John Giwa-Amu
Kezia Burrows
Llinos Wynne
Non Tudur Williams
Paul Osbaldeston
Sara Sugarman
Sioned Wyn
Stifyn Parri
NODIADAU’R SIOE –DIOLCHIADAU
SHOW NOTES CREDITS
GOLYGYDD
ARGRAFFU
PRINT EDITOR
Toby Weidmann
GWAITH CELF
ALLWEDDOL
KEY ARTWORK
Gemma Beard
DYLUNIO DESIGN
Cowshed HYSBYSEBION
ADVERTISING
Emma Price
CYFARWYDDWR
FFOTOGRAFFIAETH PHOTOGRAPHY
DIRECTOR
Claire Rees
CYNORTHWY-YDD
FFOTOGRAFFIAETH
PHOTOGRAPHY
ASSISTANT
Ellie Elliott
Cefnogwyd gan
Getty Images |
Supported by Getty Images
ARGRAFFYDD
PRINTER
Taylor Brothers
Mae BAFTA Cymru yn defnyddio Fedrigoni
Arena Smooth, gan gefnogi rhagoriaeth mewn print. Argraffwyd ar Arena Smooth Extra White 350gsm (clawr) a 140gsm (testun). Wedi’i gyflenwi gan Fedrigoni.
BAFTA Cymru chooses
Fedrigoni Arena Smooth, supporting excellence in print. Printed on Arena Smooth Extra White 350gsm (cover) and 140gsm (text). Supplied by Fedrigoni.
Mae effaith carbon y papur hwn wedi’i fesur a’i gydbwyso drwy’r World Land Trust, elusen ecolegol.
The carbon impact of this paper has been measured and balanced through the World Land Trust, an ecological charity.
Rhif tystysgrif | Certificate no.: CBP 2240
Mae’r papurau a ddefnyddiwyd ar gyfer llyfryn eleni wedi’u hardystio gan Forest Stewardship Council®, ac mae 100% yn ailgylchadwy.
The papers used for this year’s programme are Forest Stewardship Council® certified, and are 100% recyclable.
Executive portraits: Alex Sedgmond (Lee Walters), Genevieve Stevenson (Sara Putt).
Er y gwnaed pob ymdrech i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gynhwysir yn y cyhoeddiad hwn, ni all y Cyhoeddwyr dderbyn atebolrwydd am wallau neu hepgoriadau. No chaniateir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn heb ganiatâd ysgrifenedig BAFTA.
Although every effort has been made to ensure the accuracy of the information contained in this publication, the Publishers cannot accept liability for errors or omissions. No part of this publication may be reproduced without the written permission of BAFTA.