4 minute read

Datganiad y Prif Weithredwr

Gwytnwch ac adnewyddu…

Y Prif Weithredwr, Nick Capaldi, yn myfyrio ar flwyddyn hynod i’r gymdeithas a’r celfyddydau.

Am flwyddyn mae hon wedi bod. Mae Covid-19 wedi cael effaith ddigynsail ar ein heconomi, ein diwylliant a’n ffordd o fyw. Dros nos, mae’r pandemig byd-eang hwn wedi arwain at atal pob gweithgaredd cyhoeddus a chwalfa’r amgylchedd byw a gweithio i bawb.

Roedd sefydliadau, oedd yn methu â chynhyrchu incwm o docynnau ac incwm a enillir, yn wynebu brwydr i oroesi ar unwaith wrth iddynt geisio dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal eu busnesau yn wyneb bygythiad ansolfedd. Dywedodd artistiaid unigol fod gwaith wedi’i ganslo’n gyfan gwbl a gadawodd llawer faes y celfyddydau’n llwyr i chwilio am swyddi mewn meysydd eraill. Dyma drasiedi ym mhob ystyr.

Ymatebodd Cyngor y Celfyddydau’n gyflym, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddosbarthu cyllid brys. Ac ymatebodd sefydliadau i’r cyfyngiadau oherwydd Covid trwy symud gwaith ar lein lle gallent wneud hynny, a rhoi staff ar ffyrlo lle nad oedd modd gwneud hynny. Roedd maint a lefel y grantiau a roesom yn fwy o lawer nag unrhyw beth a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Gwnaethom ddosbarthu £23.9 miliwn o gymorth brys ac argyfwng i fwy na 750 o unigolion a sefydliadau – tipyn o gamp o gofio bod staff Cyngor y Celfyddydau’n gweithio gartref ar yr adeg honno.

Er gwaethaf y tarfu digynsail, cyflwynodd artistiaid a sefydliadau celfyddydol waith oedd yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu o dan amodau anodd eithriadol. Ymatebodd sefydliadau mewn modd cadarnhaol hefyd i’r angen ehangach o ran iechyd y cyhoedd, gan ddosbarthu bwyd, gwirfoddoli staff i’r gwasanaeth Profi ac Olrhain a chynnig eu cyfleusterau ar gyfer gwaith sgrinio iechyd y cyhoedd. Dangosodd y celfyddydau - unwaith eto - eu gwytnwch, eu dychymyg a’u lle yng nghanol cymunedau.

Yn awr, wrth inni ddechrau codi cyfyngiadau Covid yn ofalus, mae golwg wahanol iawn ar y byd i’r hyn oedd arno cyn y pandemig. Felly, wrth inni ystyried “beth nesaf?”, nid sôn am “fusnes fel arfer” ydym ni - yn lle hynny, rhaid inni edrych o’r newydd ar sut y gallwn

sicrhau sector celfyddydol cadarn a gwydn sy’n adlewyrchu’n gywir ddiwylliant a’r gymdeithas yn y Gymru gyfoes.

Nid digwyddiadau cyfle cyfartal yw argyfyngau iechyd cyhoeddus. Y rhai sydd wedi’u hymyleiddio mwyaf a phobl â’r manteision economaidd a chymdeithasol lleiaf sy’n dioddef yr effeithiau gwaethaf ar y cyfan, tra bo pobl gyfoethog, pobl â chysylltiadau da a phobl iach yn gallu dod drwyddi’n well fel arfer. Mae Covid-19 wedi cael effaith lem ar rannau o Gymru sy’n brwydro yn erbyn effeithiau tlodi ac anfantais economaidd hirsefydlog. Ac mae’r sylw mwy a roddwyd yn y misoedd diwethaf i brofiadau byw pobl sy’n amrywiol yn ddiwylliannol ac yn ethnig a phobl fyddar ac anabl wedi llenwi ein papurau newydd a’n sgriniau teledu. Ni all neb fod yn anymwybodol erbyn hyn o’r effaith anghymesur mae Covid wedi’i chael ar y bobl a’r cymunedau hyn.

Ond nid dim ond mater o ba mor gyflym y gall lleoliadau ailagor ac ailddechrau yw hi, ond beth fydd yn digwydd pan fyddan nhw’n gwneud.

Rydym yn gweld cwestiynu ac ail-lunio gwerthoedd yn ddwys ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Ac wrth i’r gwerthoedd hyn newid a datblygu, rhaid inni beidio â chael ein dal rhwng hiraeth am orffennol ‘cyfforddus’ a phryderon am ddyfodol ansicr.

Ni ellir dadlau bod angen newid. Ond mae’n fater o wneud dewisiadau ‘da’. Mae cymdeithas hael, deg a goddefgar yn gynhwysol yn reddfol, ac yn gwerthfawrogi a pharchu creadigrwydd ei holl ddinasyddion. Ac os ydym ni eisiau i Gymru fod yn deg, yn llewyrchus ac yn hyderus, ac yn gwella ansawdd bywyd pobl yn ei holl gymunedau, yna rhaid inni wneud y dewisiadau sy’n gwneud hyn yn bosibl. Rhaid inni ddisgwyl i’r dyfodol edrych, a theimlo, yn wahanol iawn.

I gloi, dyma f’adroddiad blynyddol olaf fel Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru. Gan edrych yn ôl dros y tair blynedd ar ddeg rwyf wedi bod yn y swydd rwy’n ei theimlo’n fraint fawr fy mod i wedi gweithio gyda chynifer o bobl arbennig ac wedi dod ar draws artistiaid a gweithwyr creadigol proffesiynol â thalentau a chyflawniadau sy’n ysbrydoli. Rwyf hefyd wedi bod yn ffodus i weithio gyda chymorth dau Gadeirydd rhagorol i’r Cyngor – Dai Smith a Phil George – ac i weithio gyda chynifer o aelodau blaenllaw ac ymroddedig o’r Cyngor. Mae fy ngeiriau olaf i’m cydweithwyr ar y staff. Mae eich ymroddiad a’ch egni yn hynod. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda chi ac rydych wedi gwneud pob un o’r tair blynedd ar ddeg yn bleser pur. Diolch yn fawr.

Nick Capaldi, Prif Weithredwr

57%

o oedolion yng Nghymru a gymerodd ran mewn gweithgaredd celfyddydol

2019/20: 49% Ffynhonnell: Arolwg Omnibws Cymru

Gwneud y celfyddydau’n ganolog i fywyd a llesiant y genedl

Ein cenhadaeth