Adroddiad a Datganiadau Ariannol 2020-21

Page 11

Gwytnwch ac adnewyddu… Am flwyddyn mae hon wedi bod. Mae Covid-19 wedi cael effaith ddigynsail ar ein heconomi, ein diwylliant a’n ffordd o fyw. Dros nos, mae’r pandemig byd-eang hwn wedi arwain at atal pob gweithgaredd cyhoeddus a chwalfa’r amgylchedd byw a gweithio i bawb. Roedd sefydliadau, oedd yn methu â chynhyrchu incwm o docynnau ac incwm a enillir, yn wynebu brwydr i oroesi ar unwaith wrth iddynt geisio dod o hyd i ffyrdd newydd o gynnal eu busnesau yn wyneb bygythiad ansolfedd. Dywedodd artistiaid unigol fod gwaith wedi’i ganslo’n gyfan gwbl a gadawodd llawer faes y celfyddydau’n llwyr i chwilio am swyddi mewn meysydd eraill. Dyma drasiedi ym mhob ystyr.

Y Prif Weithredwr, Nick Capaldi, yn myfyrio ar flwyddyn hynod i’r gymdeithas a’r celfyddydau.

Ymatebodd Cyngor y Celfyddydau’n gyflym, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddosbarthu cyllid brys. Ac ymatebodd sefydliadau i’r cyfyngiadau oherwydd Covid trwy symud gwaith ar lein lle gallent wneud hynny, a rhoi staff ar ffyrlo lle nad oedd modd gwneud hynny. Roedd maint a lefel y grantiau a roesom yn fwy o lawer nag unrhyw beth a welwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Gwnaethom ddosbarthu £23.9 miliwn o gymorth brys ac argyfwng i fwy na 750 o unigolion a sefydliadau – tipyn o gamp o gofio bod staff Cyngor y Celfyddydau’n gweithio gartref ar yr adeg honno. Er gwaethaf y tarfu digynsail, cyflwynodd artistiaid a sefydliadau celfyddydol waith oedd yn ysbrydoli ac yn ymgysylltu o dan amodau anodd eithriadol. Ymatebodd sefydliadau mewn modd cadarnhaol hefyd i’r angen ehangach o ran iechyd y cyhoedd, gan ddosbarthu bwyd, gwirfoddoli staff i’r gwasanaeth Profi ac Olrhain a chynnig eu cyfleusterau ar gyfer gwaith sgrinio iechyd y cyhoedd. Dangosodd y celfyddydau unwaith eto - eu gwytnwch, eu dychymyg a’u lle yng nghanol cymunedau. Yn awr, wrth inni ddechrau codi cyfyngiadau Covid yn ofalus, mae golwg wahanol iawn ar y byd i’r hyn oedd arno cyn y pandemig. Felly, wrth inni ystyried “beth nesaf?”, nid sôn am “fusnes fel arfer” ydym ni - yn lle hynny, rhaid inni edrych o’r newydd ar sut y gallwn

11


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.