Ein perfformiad Blwyddyn o berfformiad cryf yn erbyn ein hamcanion corfforaethol Ein Cynllun Gweithredol ar gyfer 2020/21 a roddodd y ffocws ar gyfer ein gwaith. Roedd ynddo 29 o dasgau allweddol, pob un a’i thargedau ei hun. Cafodd cynnydd ei fonitro gydol y flwyddyn drwy adroddiadau cynnydd chwarterol a gyflwynwyd i’r Cyngor. Buom hefyd yn cyfarfod pob chwarter â swyddogion Llywodraeth Cymru. Cwblhawyd mwy na hanner ein tasgau yn 2020/21. Ar ddiwedd y flwyddyn:
roedd
10
tasg wedi’u cwblhau’n sylweddol
roedd
17
roedd
2
o dasgau wedi’u cwblhau’n llwyddiannus
dasg heb eu cwblhau oherwydd cyfyngiadau Covid-19
Drwy gydol 2020/21, Covid-19 oedd ffocws ein sylw a’n gweithgarwch. Mae hyn yn debyg o fod yn wir hyd y gellir rhagweld wrth i gyfyngiadau gael eu llacio’n raddol ac wrth inni ddod allan o’r pandemig. O ganlyniad rydym wedi diwygio nifer o’n camau gweithredu allweddol i adlewyrchu ein hymateb i hyn a datblygiadau diweddar eraill, gan gynnwys gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020. Nodasom y darnau o waith allweddol a ddechreuasom drwy gydol y flwyddyn hon i gynorthwyo a llywio’r sector trwy’r anawsterau hyn. Ar yr un pryd, roedd angen inni sicrhau ein bod yn addasu ein sefydliad ni i weithio o dan amodau Covid-19 ac yn parhau i gefnogi ein staff.
27