..
26. Trafodion â phartion cysylltiedig
Staff rheoli allweddol
Cyrff cyhoeddus
Yn ystod y flwyddyn nid oedd gan staff rheoli allweddol na pherthnasau agos iddynt gysylltiadau â sefydliadau y cynhaliodd y Cyngor drafodion ariannol perthnasol â hwy.
Mae'r Cyngor yn gorff a noddir gan Lywodraeth y Cynulliad. Ystyrir Cynulliad Cenedlaethol Cymru/Llywodraeth Cynulliad Cymru yn barti cysylltiedig. Yn ystod y flwyddyn ni chynhaliodd y Cyngor drafodion perthnasol gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru/Llywodraeth Cynulliad Cymru ar wahân i'r cymorth grant a ddatgelwyd yn y Datganiad o Weithgareddau Ariannol.
Unigolion Ni chynhaliodd aelodau'r Cyngor, staff rheoli allweddol na phartïon cysylltiedig (sef perthnasau agos) unrhyw drafodion ariannol perthnasol (a restrwyd isod) gyda'r Cyngor yn ystod y flwyddyn. Cofnodir trafodion â'r Cyngor fel dosbarthwr y Loteri yn y nodyn cyfatebol i Gyfrifon Dosbarthu'r Loteri.
Aelodau'r Cyngor Roedd nifer o Aelodau'r Cyngor a/neu berthnasau agos yn aelodau o Fyrddau Rheoli (neu fyrddau cyfatebol) neu'n uwch gyflogeion mewn sefydliadau a gafodd grantiau gan y Cyngor yn 2008/09. Mewn achosion o'r fath, yn unol â Chod Arfer Gorau'r Cyngor, tynnodd yr Aelod dan sylw yn ôl o unrhyw gyfarfod pan oedd y cais yn cael ei drafod.
94