Adroddiad Blynyddol 2004-05

Page 41

PERFFORMIAD YN ERBYN TARGEDAU ALLWEDDOL

Cytunodd y Cyngor ar gynllun gweithredu sydd i’w symud yn ei flaen yn 2005-06. Adolygu a gweithredu trefniadau newydd ar gyfer Monitro Ansawdd Cyrff a Gyllidir gan Refeniw. Cyflwynwyd system monitro ansawdd newydd yn ystod y flwyddyn. Mae recriwtio mwy o gynghorwyr cenedlaethol yn y tymor byr wedi ei gyflwyno i sicrhau y gellir cyflawni elfennau o’r fframwaith monitro ansawdd. Sicrhau 50 o berfformiadau gan Theatr Genedlaethol Cymru. Roedd 52 o berfformiadau yn ystod y flwyddyn: 14 o berfformiadau o Yn Debyg Iawn i Ti a Fi; chwe pherfformiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol; 17 o berfformiadau o Romeo & Juliet; a 15 perfformiad o Plas Drycin. Sicrhau cyllid o’r sector preifat i estyn y Cynllun Casglu. Ym Mai 2004 cafwyd benthyciad o £500,000 oddi wrth Gymdeithas Adeiladu’r Principality tuag at y Cynllun Casglu llwyddiannus iawn sy’n cynnig benthyciadau di-log i aelodau o’r cyhoedd brynu gweithiau celfyddyd.

Ymgynghori ar y cylchoedd cychwynnol o gyllid ychwanegol ar gyfer lleoliadau’r celfyddydau y tu allan i Gaerdydd a’u gweithredu. Yn dilyn ymgynghori helaeth, dyrannwyd £250,000 o’r rhaglen £2m hon yn ystod y flwyddyn. Cymeradwyodd Gweinidog y Cynulliad gynigion i ddosbarthu gweddill yr arian yn 2005-06 rhwng Canolfannau Celfyddydau Perfformio Rhanbarthol; cynhyrchu gwaith i deithio gydag ef; teithio i ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf gan Noson Allan; ac aelodaeth i Gymru o’r cynllun teithio traws-ffiniol. Bydd hyn yn sicrhau bod mynediad yn cael ei greu ledled Cymru i berfformiadau celfyddydau o’r radd flaenaf i gydategu gwaith Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Sicrhau cyllid ychwanegol i gleientiaid sy’n symud i breswylio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Cafodd £800,000 ei sicrhau ar gyfer cleientiaid CCC a symudodd i mewn i Ganolfan Mileniwm Cymru yn ystod y flwyddyn. Derbyn deg cleient i’r Rhaglen Beilot ar gyfer Mudiadau Celfyddydau Cynaliadwy.

cynaliadwy, sef: Marchnata Celfyddydau Caerdydd mewn partneriaeth â Marchnata Celfyddydau’r Cymoedd, CARAD (Celfyddydau Cymunedol Rhaeadr Gwy a’r Cylch) mewn partneriaeth â Chelf o Gwmpas a Chyswllt Celfyddydau, CBAT: yr Asiantaeth Celfyddydau ac Adnewyddu, Chapter, Dawns i Bawb, Theatr Gerddorol Cymru, Oriel Davies, Theatr y Sherman, Theatr Gwynedd, a Theatr Torch. Cafodd CBAT ei dderbyn i’r rhaglen yn 2003-04. Gweithredu argymhellion yr adolygiad annibynnol o strwythur uwch reolwyr CCC. Cafodd yr argymhellion eu gweithredu o fewn yr adnoddau a oedd ar gael: cafodd swydd newydd Cyfarwyddwr y Celfyddydau ei hysbysebu ac roedd trefniant ar gyfer ei chyflenwi yn ei le nes i benodiad gael ei wneud yn 2005-06. Cwblhau adolygiadau blynyddol o Gyrff a Gyllidir gan Refeniw. Cafodd pob cleient adolygiad blynyddol, ar wahân i’r rheiny ar y rhaglen gynaladwyedd a’r rhai a gafodd grant o lai nag £20,000.

Yn yr hydref 2004, cafodd naw corff a gyllidir gan refeniw eu derbyn i’r rhaglen gynaladwyedd £1m, a greuwyd i roi mudiadau celfyddydau ar sylfaen ariannol gadarnach i sicrhau eu dyfodol

CREU’R CYSYLLTIADAU

41


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.