1 minute read

Astudiaethau Chwaraeon ac Addysg Gorfforol Dwyieithog

Next Article
discovery

discovery

Gradd BSc (Anrh)

Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich dealltwriaeth academaidd ac ymarferol o chwaraeon drwy gyfrwng dwyieithog.

Er y caiff rhan o’r cwrs ei gyflawni drwy gyfrwng y Saesneg, bydd y rhan fwyaf o’r cwrs ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae wedi’i gynllunio i foddhau’r galw cynyddol am raddedigion sydd â chymwyseddau a chymwysterau dwyieithog.

Er bod y cwrs yn cynnig ystod eang o bynciau ac agweddau disgyblaethol, eto i gyd bydd y cwricwlwm yn eich galluogi i ganolbwyntio ac i arbenigo wrth i chi symud drwy’r tair blynedd o astudio academaidd. Yn ogystal â’r fframwaith academaidd damcaniaethol ac ymarferol cynhwysfawr, cewch eich annog i adeiladu portffolio o gymwysterau hyfforddi UKCC, dysgu ar leoliad gwaith a phrofiadau yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol.

Mae Met Caerdydd yn cynnig cyfleoedd ar-gampws y gallwch gymryd rhan ynddyn nhw ac mae cysylltiadau rhagorol gan y Met â Chwaraeon Caerdydd a’r ysgolion a’r awdurdodau lleol sydd o’n cwmpas.

Mae myfyrwyr sy’n astudio y cwrs hwn yn gymwys am ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae nifer o ysgoloriaethau o £1000 a £500 y flwyddyn ar gael. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth: www.colegcymraeg.ac.uk

Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys

• Dwyieithrwydd

• Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles

• Materion mewn Chwaraeon, Cymdeithas ac Addysg

• Maeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff

• Moeseg Chwaraeon

Eich dyfodol

• Mae graddedigion AChAG wedi ennill cyflogaeth yn y meysydd canlynol: cyfryngau, addysg, chwaraeon a llywodraeth leol. Mae llawer o’n graddedigion yn parhau’n y Brifysgol ar gyrsiau ôl-raddedig (TAR, Meistr a Doethuriaeth)

• Trwy gydol eich gradd, cewch gyfloedd i ddatblygu’ch galluoedd trwy dysgu seiliedig ar broblemau, astudiaethau achos y byd go iawn, profiad gwaith ar gampws a lleoliadau gwaith oddi ar gampws

Lleoliad Astudio: Campws Cyncoed

Hyd y cwrs: Tair blynedd amser llawn neu bedair blynedd amser llawn gan gynnwys blwyddyn Sylfaen

Gofynion mynediad: Cynnig nodweddiadol: 112-120

Pwynt

UCAS

This article is from: