LAN YR AFON
JULIAN McKENNY



AR EHANGDER TRAETH POPPIT WRTH GEG YR ABER LLE BYDD POBL YN CERDDED EU
CŴN GYDOL Y FLWYDDYN,YCHYDIG IAWN O BLASTIG WELAIS I. DYWEDODD LLAWER O’R


MAE LLAWER O SÔN AM BROBLEM FYD-EANG PLASTIGAU YN EIN CEFNFOROEDD
– AM DOMENNI SBWRIEL MWY NA CHYMRU YN Y MÔR TAWEL, MEWN
ERTHYGLAU’N DATGELU COST Y GWASTRAFF A ALLFORIWN NI, GYDA LLUNIAU O
DRAETHAU’N DRWCH O SBWRIEL Â LABELI GORLLEWINOL, A’R CYFAN MOR
GYFLEUS O BELL FFWRDD ... BETH YW E I NI MEWN GWIRIONEDD?
ROEDDWN I EISIAU GWELD EFFAITH LEOL PLASTIGAU – PA LYGREDD PLASTIG
SYDD YMA AC O BLE MAE’N DOD. FE SIARADAIS AG AMRYWIAETH O BOBL:
CERDDWYR CŴN, POBL AR EU GWYLIAU, CASGLWYR SBWRIEL, PYSGOTWYR,
FFERMWYR A BIOLEGWYR MÔR – OEDDEN NHW YN GWELD PLASTIG FEL
PROBLEM ARFORDIROL?
YN ÔL YR ADRODDIADAU, MAE LLAWER O’R PLASTIG YN Y MOROEDD YN DOD O’R
TIR,WEITHIAU’N FWRIADOL OND YN BENNAF OHERWYDD ARFERION RHEOLI
GWASTRAFF GWAEL, SY’N GYFRIFOL AM TUA 82% O’R LLWYTH PLASTIG YN ÔL YR
AMCANGYFRIF. MAE’R GWASTRAFF HWN YN MYND O’R TIR I’R AFONYDD, CYN
LLIFO LAWR I’R ABEROEDD A’R MÔR.
AR HYD BAE CEREDIGION, AFON TEIFI YW’R CYFRANNWR MWYAF GYDA RHYW
1000 KG O BLASTIG Y FLWYDDYN. DIM SYNDOD O GOFIO’R TREFI A’R PENTREFI
MAWR AR EI GLANNAU – CASTELLNEWYDD EMLYN, CENARTH, LLECHRYD AC
ABERTEIFI EI HUN GYDA LLANDUDOCH A GWBERT AR OCHR ARALL YR ABER.YR
AIL GYFRANNWR MWYAF YW ABERYSTWYTH. ER GWAETHA’I PHOBLOGAETH FWY
A’I DWY AFON,YSTWYTH A RHEIDOL, MAE LLAI O BOBLOGAETH YN UWCH LAN YR
AFON AC FELLY MAE’N CYFRANNU RHYW 600 KG Y FLWYDDYN.
CERDDWYR CŴN RHEOLAIDD EU BOD NHW’N CASGLU UNRHYW SBWRIEL, AM EU BOD YN
TEIMLO PERTHYNAS Â’R LLE AC AM EI WARCHOD A’I GADW’N LÂN. BYDD CYNNYDD YN Y
SBWRIEL (GAN GYNNWYS PLASTIG) YN YSTOD Y TYMOR YMWELWYR, OND MAE BINIAU
AILGYLCHU AMLWG A GEFEILIAU CASGLU SBWRIEL GER ALLANFA’R MAES PARCIO.
FE SYLWAIS I FOD Y CAFFI POBLOGAIDD YN DEFNYDDIO DEUNYDDIAU ALL GAEL EU
HAILGYLCHU. MAE’N AMLWG FOD CADW’R TRAETH YN LÂN YN FATER O FALCHDER LLEOL,
AC WRTH I’R LLANW GILIO DIM OND LLOND LLAW O DDARNAU PLASTIG WELAIS AR HYD
Y TRAETH. OEDD PWYNT I FI FOD WEDI DOD Â CHAMERA? OEDD NA BROBLEM O GWBWL?
DAETH HI’N AMLWG YN FUAN FOD YR ARGRAFF GYNTAF DDIM YN ADRODD Y STORI GYFAN.





PROBLEM ANWELEDIG
DIM I’W WELD YMA …
DYMA FI’N SIARAD Â DAU GASGLWR SBWRIEL DIWYD, FFI A PIERS, SY’N SEICLO’N
RHEOLAIDD O LANDUDOCH I GERDDED HYD Y TRAETH YN CASGLU ANNIBENDOD. MAEN
NHW’N GWELD Y BROBLEM DRWY’R FLWYDDYN. DYMA NHW’N ESBONIO FOD Y TRAETHAU’N AML YN CAEL EU GLANHAU GAN Y MÔR SY’N CARIO’R PLASTIGAU NES BYDD UN LLANW UCHEL YN EU GADAEL YN LLINELL AR HYD Y PENLLANW.
MICROPLASTIGAU YW’R BROBLEM MEWN GWIRIONEDD MEDDEN NHW – Y GELYN
ANWELEDIG SYDD DDIM YN BIODDIRADDIO OND YN TORRI’N FERSIYNAU LLAI FYTH OHONO’I HUN. O CHWILIO’N GYFLYM AR-LEIN FE WELAIS I FOD GRWPIAU O LANHAWYR TRAETH CYDWYBODOL FEL FFI A PIERS WRTHI AR Y RHAN FWYAF O DRAETHAU SIR BENFRO A CHEREDIGION, OND DIM OND HYN A HYN Y GALLAN NHW EI WNEUD
CHWILIO AM RYWBETH ANWELEDIG.

MAE’N CALONNAU NI’N AML YN Y LLE IAWN, OND
BYDDWN NI’N YN GWNEUD PETHAU’N WAETH WRTH
GEISIO GWNEUD Y PETH CYWIR. DYWEDODD
CERDDWYR CŴN FOD BAGIAU BAW YN BROBLEM
YN Y TWYNI – BYDDAI’R GWASTRAFF NATURIOL YN
BIODDIRADDIO PETAI HEB EI LAPIO MEWN PLASTIG.
FYDD Y RHAN FWYAF O ‘BLASTIGAU
BIODDIRADDADWY’ DDIM OND YN DIRADDIO MEWN
CANOLFANNAU DWYSEDD UCHEL GOMPOSTIO
GWASTRAFF GWYRDD, LLE BYDD EIN CYNGHORAU YN MYND Â CHYNNWYS EIN BINIAU GWYRDD.


“AMCANGYFRIFIR BOD 1000 O AFONYDD YN GYFRIFOL AM BRON I
80% O ALLYRIADAU PLASTIG AFONOL BLYNYDDOL BYD-EANG I’R MÔR ...
AC AFONYDD TREFOL BACH GYDA’R GWAETHAF.
LAN YR AFON, MAE DŴR UCHEL AR ÔL STORMYDD A LLIFOGYDD YN EITHAF
CYFFREDIN. DYMA ARWYDDION WEDI’U SGUBO I FFWRDD YNG NGHENARTH, A
DROS Y DUDALEN FE WELWN NI LAPIWR BÊLS GWAIR WEDI’I DDAL MEWN
CANGHENNAU COEDEN.
MAE PYSGOTWYR LLEOL WEDI CODI PRYDERON AM Y PLASTIG LAPIO BÊLS YN
YR AFON,YN ENWEDIG TUA’R ADEG Y BYDD EOGIAID IFANC I’W CAEL.
TAITH DEINOSOR
DYCHMYGWCH AM EILIAD DAITH DEINOSOR PLASTIG BACH, FYDDAI WEDI
DISGYN AR DDAMWAIN I’R AFON YN Y LLIFOGYDD. BYDDAI’N CAEL EI DAFLU
DROS RAEADRAU CENARTH, DAN Y PONTYDD HEN A NEWYDD YN ABERTEIFI
AC YMLAEN I’R ABER A’R MÔR AGORED, CYN CYRRAEDD YN Y DIWEDD UN
O’R TRAETHAU GER TYDDEWI (LLE BYDD Y CERRYNT FEL ARFER YN GADAEL
EI GARGO) I GAEL EI GASGLU GAN LANHAWYR TRAETH LLEOL.
WNAETH Y DAITH DDECHRAU YN Y CYFNOD MESOSÖIG? OEDD HWN YN
BLANHIGYN O OES Y DEINOSORIAID GAFODD EI WEDDNEWID GAN WRES A
GWASGEDD Y JWRASIG A’R CRETASIG AC AMSER DAEAREGOL DWFN YN OLEW,
CYN EI ECHDYNNU A’I DROI’N BLASTIG I’W FFURFIO MEWN FFATRI YN
TSIEINA YN DDEINOSOR POCED PLENTYN, UN O BETHEUACH BYRHOEDLOG
MASNACH FYD-EANG?



RHAGLEN AMGYLCHEDDOL Y CENHEDLOEDD UNEDIG (UNEP)






ES I DRAW I LABORDY MOROL SEA TRUST CYMRU YN WDIG GAEL MWY O FANYLION AM EFFAITH PLASTIG AR FYWYD GWYLLT YN YR ARDAL. FE GES I SGWRS GYDA LLOYD, BIOLEGYDD MOROL SY’N RHEDEG CYNLLUN AILGYLCHU GYDA PHYSGOTWYR MÔR LLEOL SY’N CASGLU GWASTRAFF A’I ROI MEWN BINIAU PWRPASOL. MAE CWMNI WATERHAUL O GERNYW WEDYN YN CYMRYD Y DEUNYDD AC YN CYNHYRCHU SBECTOLAU HAUL A NWYDDAU ERAILL, GAN ARBED DROS 6 TUNNELL O BLASTIG HYD YN HYN. ER BOD AILGYLCHU’N BROSES WERTH CHWEIL (YN ENWEDIG DEUNYDDIAU FEL CARDFWRDD, PAPUR A METEL) Y GWIR PLAEN AM AILGYLCHU PLASTIGAU,Y PLASTIGAU FYDDWN NI’N EU DIDOLI ADREF,YW TAW DIM OND YCHYDIG BACH ALL GAEL EI AILGYLCHU MEWN GWIRIONEDD.
PISO DRYW BACH YN Y MÔR
MAE 300 MILIWN TUNNELL O BLASTIG YN CAEL EI GYNHYRCHU AR DRAWS Y BYD BOB BLWYDDYN – MOR DRWM Â PHWYSAU’R HIL DDYNOL I GYD YN ÔL Y SÔN!
YEAR, SURVEY FINDS.”
“BRITONS DISPOSE OF NEARLY 100BN PIECES OF PLASTIC PACKAGING A
DYWEDODD YR ERTHYGL HON YN Y GUARDIAN YN 2022 TAW DIM OND 12% O BLASTIG UNTRO SY’N MYND I AILGYLCHU.

MAE’R 88% ALL DDIM CAEL EI AILGYLCHU – PLASTIGAU CALED – YN MYND I DOMENNI TIRLENWI NEU’N CAEL EI LOSGI I GYNHYRCHU YNNI.
BYDD BAG PLASTIG YN CAEL EI DDEFNYDDIO AM 12 MUNUD AR GYFARTALEDD, OND YN CYMRYD 1000 O FLYNYDDOEDD I DDADELFENNU.
DIM OND PLASTIGAU CATEGORI 1 A 2 SY’N HAWDD EU HAILGYLCHU – PET A HDPE. MAE
PLASTIGAU CALED A PHLASTIGAU WEDI’U LAMINEIDDIO YN FWY TRAFFERTHUS I WAHANOL
RADDAU. MAE LLAWER YN CREDU BOD Y SYSTEM RIFO YN BROBLEM SY’N DRYSU AC YN
ANNOG CYMYSGU PLASTIG ‘DA’ A ‘DRWG’ NES BOD DIM BYD YN CAEL EI AILGYLCHU.
MAE ARCHFARCHNADOEDD WEDI BOD YN BWNC LLOSG YN DDIWEDDAR. DATGELODD
ADRODDIADAU BOD LLAWER O’R PLASTIGAU GAIFF EU DYCHWELYD YNO I’W HAILGYLCHU
YN RHY FRWNT I’W BROSESU NEU Y MATH ANGHYWIR O BLASTIG. BYDD Y RHAN FWYAF
YN CAEL EI ANFON I’W LOSGI OHERWYDD BYDDAI’R PLASTIG BRWNT YN NIWEIDIO’R
PEIRIANNAU DIDOLI.

MAE TYSTIOLAETH YN DANGOS BOD AILGYLCHU YN CAEL EI HYRWYDDO FEL ATEB GAN
DDIWYDIANT SYDD AM GREU MWY O BLASTIG.YMGAIS I BASIO’R BROBLEM I’R
DEFNYDDIWR I BOB PWRPAS. RYDYN NI’N CREU BYD SYDD DDIM YN ONEST AM AILGYLCHU
A’R HYN SY’N GALLU CAEL EI GYFLAWNI, GAN GREU AMHEUON SY’N YMDDANGOS YN DEG
WRTH GLYWED ADRODDIADAU FEL HYN.
DRWY WNEUD RHYWFAINT O AILGYLCHU, RYDYN NI’N TEIMLO’N SEICOLEGOL EIN BOD NI
WEDI GWNEUD Y ‘PETH IAWN’, AC FELLY’N GALLU PRYNU MWY O GYNNYRCH PLASTIG
NEU NWYDDAU MEWN PECYNNAU PLASTIG – YN UNION BETH MAE’R DIWYDIANT AM I NI WNEUD.

YR ATEB HIRDYMOR YW CYNHYRCHU LLAI O BLASTIG, SEF Y GWRTHWYNEB I’R HYN SY’N DIGWYDD MEWN GWIRIONEDD.
FELLY AR BEN Y FFAITH TAW YCHYDIG IAWN O BLASTIG SY’N ADDAS I’W AILGYLCHU, RYDYN
NI’N CREU PROBLEM ALLWN NI DDIM AILGYLCHU EIN FFORDD ALLAN OHONI. DYW HYN
DDIM YN GOLYGU PEIDIO AILGYLCHU LLE GALLWN NI, OND YN LLE EDRYCH AR Y
DEFNYDDIWR TERFYNOL RHAID I NI EDRYCH LAN YR AFON AT Y CYNHYRCHWYR, A LLEIHAU
Y CYNHYRCHU YN Y LLE CYNTA.
YN LLE HYN RYDYN NI’N GWTHIO SYNIADAU UNIGOL FEL GWELLT YFED. BYDDAI’N RHAID DEFNYDDIO GWELLTYN PAPUR SAWL, SAWL GWAITH DDILEU ÔL TROED CARBON UN GWELLTYN PLASTIG, FELLY MAE’R ATEBION I’R PROBLEMAU HYN MEWN GWIRIONEDD YN SEFYLLFA CATCH-22.
Y FFORDD OSGOI HYN I GYD YW PEIDIO CREU PLASTIG YN Y LLE CYNTAF.


YM MHRIFYSGOLION BANGOR AC ABERYSTWYTH MAE YMCHWILWYR YN CEISIO; CREU PLASTIGAU
GWIRIONEDDOL FIODDIRADDADWY O WYMON, DEFNYDDIO GWLYPTIROEDD HIDLO MICROBLASTIGAU
CYN CYRRAEDD Y MÔR, A DATBLYGU CYNNYRCH AR GYFER Y DIWYDIANT MOROL ALL GYMRYD LLE’R
RHWYDI A’R BAGIAU SY’N GORFFEN YN SBWRIEL AR DRAETHAU MOR AML.
NYRDLS, DDYWEDOCH CHI?
WRTH SGWRSIO YN POPPIT GYDA’R GLANHAWYR TRAETH FFI A PIERS, DYMA NHW’N SÔN AM NYRDLS. AM EILIAD ROEDDWN I’N AMAU ’MOD I WEDI CAMGLYWED, A DYMA FI’N AROS
GOFYN... NYRDLS, DDWEDOCH CHI?
CANLYNIAD Y BROSES AILGYLCHU YW NYRDLS – PELENNI BACH LLIWGAR SY’N DDEUNYDD CRAI AR GYFER CYNHYRCHION NEWYDD. MAE FIDEOS AR-LEIN YN
CAEL EU HARLLWYS HOPRAN I’W GWRESOGI A’U MOWLDIO’N GYNNYRCH NEWYDD.
BYDDAN NHW FEL ARFER YN CYRRAEDD EIN TRAETHAU PAN FYDD CYNHWYSYDD CLUDO YN DISGYN ODDI AR FWRDD LLONG. MAE LLUNIAU TORCALONNUS AR-LEIN O DRAETHAU DAN
LUWCH O BELENNI GWYN, FEL AR ÔL STORM GESAIR ARUTHROL. TASG AMHOSIB, BRON,YW CLIRIOR PELENNI MÂN HYN.




YNG NGHEG ABER AFON TEIFI MAE CRAIG Y GWBERT, BRYNGAER O’R OES HAEARN SYDD HEDDIW AR GYRION Y CWRS GOLFF, AC YN EI CHYSGOD MAE LLITHRFA NATURIOL FU’N FYNEDFA I FASNACH DROS Y MÔR ERS CYN COF. PRIN YW YR OLION HEDDIW.
UN O NODWEDDION YR OES DDAEAREGOL NEWYDD DDADLEUOL,YR ANTHROPOSEN,YW EIN GWASTRAFF PLASTIG HOLLBRESENNOL, SY’N GOSOD EI HUN YN Y COFNOD DAEAREGOL I GENEDLAETHAU’R DYFODOL (OS BYDD RHAI ...) BOENI AMDANO.







Y TEIARS YN TARO’R TARMAC
FFYNHONNELL GYFFREDIN ARALL YW TEIARS CEIR, SY’N TREULIO TUA 10-16%
O’U RWBER DROS EU HOES.
YN WDIG ROEDD Y BIOLEGWYR MOROL YN CANFOD BLEWIACH PLASTIG DU
AR Y BLAENDRAETH, A DARNAU O OLEUADAU BRÊCS CEIR YN SYNDOD O AML.
PEIRIANNAU SGUBO STRYD OEDD WEDI COLLI’R BLEW, AC ROEDD Y
PLASTIGAU A’R MICROBLASTIGAU ANWELEDIG O DEIARS CEIR,YN CAEL EU
GOLCHI I’R DRAENIAU GORLIF AC YN SYTH I’R TRAETH.
YN ÔL AMCANGYFRIF ARALL, MAE HYD AT 90% O’R MICROBLASTIGAU YN EIN
MOROEDD YN DOD O DEIARS CEIR.

MAE BYWYD MODERN YN AML YN TEIMLO FEL CYFADDAWD RHWNG GWNEUD Y PETH IAWN NEU BEIDIO.WEITHIAU BYDD CEISIO GWNEUD YN IAWN YN GWNEUD PETHAU’N WAETH!
FELLY RYDYN NI’N CEISIO TROI’R CLOC YN ÔL A ‘GLANHAU’YR AMGYLCHEDD RYDYN NI WEDI’I
NIWEIDIO MOR ESGEULUS. OND BETH OS WELWN NI FOD HYD AT 100 O RYWOGAETHAU MOROL WEDI FFURFIO PERTHYNAS FUDDIOL GYDA’R SBWRIEL? DRWY GLIRIO’R PLASTIG BYDDWN NI’N
DINISTRIO ECO-SYSTEM MAEN NHW WEDI DOD DDIBYNNU ARNI!
CYMHLETHDOD