Coleg Ceredigion Prospectus 2012-13

Page 31

31

Rheolaeth Cefn Gwlad Bydd astudio Rheolaeth Cefn Gwlad yng Ngholeg Ceredigion yn eich cyflwyno i amrywiaeth o yrfaoedd megis rheolaeth ystadau, coedwigaeth a chadwraeth. Yn ystod y cwrs gallwch ddatblygu eich gwybodaeth theori yn y dosbarth, yn ogystal â sgiliau ymarferol trwy brofiad gwaith. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymweliadau i ystod o amgylcheddau gwahanol fel rhan o’r cwrs.

Diploma CABTh Lefel 3 mewn Rheolaeth Cefn Gwlad Campws: Aberystwyth Hyd: Dwy flynedd Anghenion Mynediad: 4 TGAU graddau A*-C neu gymhwyster cyfwerth. Mae’n bosib y gall myfyrwyr sydd heb y cymwysterau hyn gael eu derbyn ar sail cyfweliad llwyddiannus. Beth fyddai’n ei astudio? Bydd pynciau yn cynnwys sgiliau ystadau, twristiaeth a hamdden cefn gwlad, hamdden coedwigaeth, ecoleg a chadwraeth. Byddwch hefyd yn astudio Sgiliau Allweddol fel rhan o’r cwrs. Cewch gyfle i gymryd rhan mewn cyfnod o brofiad gwaith a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau ymarferol. Beth fyddai’n gallu ei wneud ar ôl gorffen y cwrs yn llwyddiannus? Gallwch ddewis symud ymlaen i Addysg Uwch neu chwilio am waith yn y sector Cefn Gwlad.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.