Welsh wrexham says hello

Page 23

Gwaith Haearn y Bers

www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

gwaith haearn a chanolfan dreftadaeth y bers Pan oedd Gwaith Haearn y Bers yn ei anterth yn y 18fed ganrif, enw’r perchennog yno oedd John ‘Yr Hurtyn Haearn’ Wilkinson. Rw ˆ an, rydyn ni’n cyfaddef ei fod efallai’n ddyn braidd yn rhyfedd, ac yn sicr yn un oedd yn colli ei limpyn yn hawdd (wedi ffraeo efo James Watt, yr oedd ei beiriannau ager yn pweru’r Chwyldro Diwydiannol efo cymorth silindrau wedi eu gwneud yn y Bers). Ond athrylith oedd o hefyd. Datblygodd broses chwyldroadol a oedd yn fodd iddo dyllu canon, efo manwl gywirdeb eithriadol, allan o fetel bwrw solet.

Yn nodweddiadol, roedd yn cyflenwi arfau i’r ddwy ochr yn Rhyfel Annibyniaeth America a chafodd canonau’r Bers eu tanio mewn llawer o ymgyrchoedd Prydain ac yn Rhyfeloedd Napoleon a’r Penrhyn. Heddiw, mae canolfan yr ymwelwyr yng ngwaith haearn y Bers yn cynnig i’r chwilfrydig y cyfle i ddysgu am un o feibion mwyaf arloesol – a hynod – Wrecsam. Dos yno i weld. A thra’r wyt ti yno, dos i weld y ganolfan dreftadaeth yn ymyl. Yno mae pob un o gasgliadau treftadaeth ddiwydiannol Wrecsam ac mae’n egluro’r modd y gwnaeth haearn, glo a phlwm weddnewid tref farchnad fach i fod yn un o bwerdai economaidd y 18fed a’r 19eg ganrif. 01978 318970 www.wrecsam.gov.uk/treftadaeth

23


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.