Sylw ar ardal Merthyr Tudful Hydref 2012

Page 8

8 | Sylw ar ardal MERTHYR TUDFUL | Y DARLUN MWY | Hydref 2012 | www.wwha.co.uk

AIL-FRANDIO Os ydych yn cael In Touch, ein cylchgrawn chwarterol i breswylwyr, fe fyddwch yn gwybod yn barod ein bod wedi ail­frandio ym mis Ebrill eleni. Rydym yn falch iawn o ddweud bod yr ymateb i’n gwedd newydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae’n helpu i ledaenu’r neges am ein strwythur grŵp newydd, gyda Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Ltd fel ein his­gwmni cyntaf. Yn ychwanegol at y rhifyn hwn o Sylw ar ardal Merthyr Tudful, rydym yn falch o anfon dolen at ein Cynllun Busnes 2012, sy’n amlinellu cyfeiriad strategol Grŵp Tai Wales & West ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Rhan arall o’r broses ail­frandio oedd creu ein his­frand newydd cyntaf, Connect24. Mae hyn yn uno ystod gynhwysfawr o wasanaethau rydym yn eu darparu, gan gynnwys ein Larwm mewn Argyfwng, gwasanaethau y tu allan i oriau, a chymorth i weithwyr unigol. O fod wedi ychwanegu nifer o gwsmeriaid corfforaethol at ein portffolio yn ystod y misoedd diweddar, rydym nawr yn gofalu am fwy na 20,000 o gartrefi ledled Cymru drwy ein canolfan gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi cael ei hachredu gan y Gymdeithas Gwasanaethau Teleofal, gan ein galluogi i wneud atgyweiriadau a helpu pobl i gael yr help maen nhw ei angen mewn argyfwng. Os hoffech siarad gyda ni am sut gallai ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid helpu sefydliadau yn eich ardal chi sydd angen cefnogaeth gan ganolfan alw, cysylltwch â Cate Dooher, Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi, ar 029 20415386.

Mrs Nancy Pilott o Gwrt Anghorfa, Pen­y­bont ar Ogwr, yn dangos ein botwm arddwrn larwm personol gan Connect24.


Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.