1 minute read

Cyfarfod ein Tîm Cymorth Tai

Pan fyddwch yn ffonio ein rhif

0800 052 2526 gydag ymholiad ynghylch rhent neu dai, bydd aelod o’n Tîm Cymorth Tai yn ateb eich galwad.

Advertisement

Y lleisiau cyfeillgar ar ben arall y ffôn yw’r pwynt cyswllt cyntaf i breswylwyr sydd â chwestiynau am eu cartref, nad ydynt yn ymwneud â gwresogi neu waith trwsio.

Byddant yn delio â nifer o ymholiadau, gan gynnig cymorth a chyngor pan fydd Swyddogion Tai allan yn gwneud eu gwaith. Gallant gymryd taliadau rhent, trefnu Debyd Uniongyrchol neu ddelio â’r holl ymholiadau ynghylch eich cartref a’ch cymdogaeth, gan gynnwys ceisiadau i wneud newidiadau i’ch cartref neu’ch contract meddiannaeth.

Bydd eu cymorth yn cychwyn cyn i chi symud i gartref Tai Wales & West hyd yn oed. Bydd aelodau’r tîm yn sicrhau bod cyflenwadau nwy a thrydan i’r eiddo yn barod pan fyddwch yn symud i mewn. Yn ogystal, gallant helpu’r sawl sy’n ffonio ac sy’n chwilio am gartref, trwy gynnig cyngor iddynt am sut i wneud cais a’r bobl gywir y dylent gysylltu â nhw.

Yn y cefndir, maent yn gweithio’n galed i archwilio hawliadau preswylwyr am Gredyd Cynhwysol neu fudddaliadau eraill ac maent yn helpu preswylwyr i fanteisio ar gymorth ychwanegol gan ein Swyddogion

Cymorth Tenantiaeth os bydd angen iddynt ei gael ganddynt.

O bryd i’w gilydd, efallai y byddwch yn cael galwad gan y Tîm Cymorth Tai hefyd. Rydym yn awyddus i ddeall os yw’r gwasanaethau yr ydym yn eu darparu wedi bodloni eich disgwyliadau. Felly, ar ôl i chi symud i’ch cartref, efallai y byddwch yn cael galwad gan y tîm i ofyn am eich profiad a sut yr ydych chi wedi setlo i mewn. Os byddwch chi wedi profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y byddwn yn ffonio i holi sut oeddem wedi delio â’r adroddiad ar ôl i chi ei adrodd i ni. Weithiau, bydd aelodau’r tîm yn ffonio hefyd i holi sut hoffech i ni gyfathrebu gyda chi, er enghraifft, pa iaith y mae’n well gennych ein bod yn ei defnyddio neu a oes angen fersiwn print mawr neu fersiwn sain o’n cylchgrawn In Touch arnoch.

“Mae ein tîm yn gweithio gyda’r Swyddogion Tai i sicrhau bod preswylwyr yn cael atebion mewn ffordd mor gyflym ac effeithlon ag y bo modd,” dywedodd Cate Porter, Pennaeth Tai (Cymorth a Gwella), sy’n rheoli’r tîm.

“Boed hynny yn gais i wneud newidiadau i’w cartref neu fanylion eu contract, byddwn yn sicrhau y rhoddir sylw cyflym i geisiadau gan yr unigolyn cywir, er mwyn cynnig y cymorth gorau y gallwn ei gynnig i breswylwyr.”

This article is from: