
1 minute read
Sut yr ydym yn rhedeg ein busnes
Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, cawsom
347 galwad y dydd am waith trwsio a gwresogi a 143 galwad y dydd am gymorth tai
Advertisement
Cafodd ein Tîm Trwsio 20,817 galwad rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr. Dyna nifer uchaf y galwadau a gafwyd yn ystod y flwyddyn. Cafodd ein Tîm
Cymorth Tai 8,554 galwad yn ystod yr un cyfnod.
Yr amser prysuraf i ffonio ein Tîm Trwsio yn ystod y chwarter hwn oedd rhwng 9am a 10am. Roedd ein
Tîm Cymorth Tai fwyaf prysur rhwng 10am ac 11am. Mae’r prynhawn yn gyfnod mwy tawel yn gyffredinol er mwyn ffonio ein timau.
CWYNION
At ei gilydd, cawsom 15 CWYN
Mae hwn yn un mwy na’r un cyfnod y llynedd ac yn uwch na’r nifer a gafwyd yn ystod y tri mis blaenorol.
Yr amser aros cyfartalog i breswylwyr a oedd yn ffonio:
• ein Tîm Trwsio oedd 26 eiliad
• ein Tîm Gwasanaethu Nwy oedd 23 eiliad
• ein Tîm Cymorth Tai oedd 53 eiliad